30
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Adroddiad y Cadeirydd Snowdonia National Park Authority Chairman’s Report 2018 -19

Snowdonia National Park Authority Chairman’s Report 19 … · Adroddiad y Cadeirydd 2017 --2018 Chairman’s Report SMS Afon Eden Afon Eden SMS The Snowdonia National Park Authority

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

    Adroddiad y Cadeirydd

    Snowdonia National Park Authority

    Chairman’s Report

    2018 -19

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Ar ôl nifer o flynyddoedd heriol mae’n braf gweld yr Awdurdod yn parhau i gyflawni ei amcanion o warchod a hyrwyddo Eryri.

    Rwy’n croesawu’r staff newydd sydd wedi ymuno â ni dros y flwyddyn ddiwethaf sy’n paratoi cychwyn prosiectau cyffrous ac yn edrych ymlaen i’w gweld yn blodeuo.

    Rydym wedi derbyn newyddion cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi gwrthdroi’r penderfyniad i leihau cyllideb y tri Parc Cenedlaethol Cymreig gan addo cefnogaeth ychwanegol ar amrywiaeth o brosiectau megis gwella mynediad i’r awyr agored, hyrwyddo cadwraeth ac adfywio rhai o’r ardaloedd mwyaf bregus.

    Nid yw’r ffordd o’n blaenau yn glir eto gan fod goblygiadau Brexit yn mynd i gael effaith ar Eryri pa bynnag drywydd y byddwn yn gymryd. Mae’n rhaid i ni fod yn barod i wireddu’n dyletswyddau i warchod y rhan anhygoel yma o’r byd ble mae pobl yn mwynhau byw, gweithio ac ymweld.

    After a number of challenging years, it is a pleasure to report that the Authority continues to fulfil its objectives in conserving and promoting Snowdonia.

    I welcome all the new staff who have joined us over the past year who have embarked on exciting new projects and we look forward to seeing them all flourishing over the next few years.

    We have received good news from the Welsh Government who has reversed its decision to cut the budgets of the country’s three National Parks and have also promised support on a wide range of projects including improving access to the outdoors, promoting conservation and regenerating some of Wales’ most fragile areas.

    We are not out of the woods yet however as Brexit will have implications on Snowdonia no matter which course we take. We must be prepared to fulfil our responsibilities to protect this wonderful part of the world that people love to live in, work and visit.

    IntroductionCyflwyniad

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20184

    Mae swydd Swyddog Awyr Dywyll wedi ei chreu mewn partneriaeth ac AHNE Llŷn, Ynys Môn a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, i wella dealltwriaeth a photensial y dynodiad o fewn ein cymunedau. Dim ond tri ar ddeg o Warchodfeydd Awyr Dywyll sydd yn y byd ac mae Eryri yn un ohonyn nhw, rydym yn edrych ymlaen gweld y prosiect yma’n datblygu.

    Cadwraeth

    Awyr Dywyll

    Conservation

    Dark SkiesA Dark Skies Officer post has been created in partnership with the Llyn, Anglesey and Clwydian Range AONB, to improve understanding of and the use of designations in our communities. Snowdonia is only one of thirteen designated Dark Sky Reserves in the world and we look forward to seeing this project progress.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Mae arddangosfa yn dathlu a hyrwyddo treftadaeth arbennig mawndiroedd Meirionnydd i’w gweld yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd fel rhan o brosiect “Cyfoeth ein Corsydd”.

    Bu mawndiroedd a chorsydd yn rhan annatod o fywyd gwledig Meirionnydd am ganrifoedd, ac mae’r traddodiadau a’r hanes ynghlwm â hwy’r un mor rhyfeddol â’r mawn ei hun. Dros y ddwy flynedd diwethaf mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn arwain ar brosiect “Cyfoeth ein Corsydd”, oedd â’r nod o gasglu a chofnodi’r cyfoeth o wybodaeth a hanesion lleol yn ymwneud â chorsydd.

    Cyfoeth ein Corsydd Cyfoeth ein Corsydd

    An exhibition celebrating and raising awareness of Meirionnydd’s extraordinary peatland heritage is being held at Yr Ysgwrn, Trawsfynydd as part of the “Cyfoeth ein Corsydd” project.

    Peatland and marshes have formed an integral part of Meirionnydd’s rural way of life for centuries, and the traditions and histories that grew from them are just as fascinating as the peat itself. Over the past two years the Snowdonia National Park Authority has been leading on the “Cyfoeth ein Corsydd” (The Wealth of our Bogs) project to gather and record the wealth of information and local recollections of the marshes.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Yn ogystal â sicrhau bod yr hanesion yma’n cael eu rhoi ar gof a chadw, yr oedd hefyd yn gyfle i feithrin gwerthfawrogiad a balchder ymhlith y cymunedau lleol, y tô iau yn arbennig, yn eu treftadaeth leol. Dros gyfnod y prosiect datblygwyd perthynas dda gydag ysgolion a chymunedau lleol, a chynhaliwyd sawl gweithgaredd yn ymwneud â thraddodiadau’r gors a’r mawndir - o dorri a phentyrru mawn a lliwio gwlân gyda phlanhigion o’r gors, i baratoi canhwyllau brwyn mewn noson babwyra yn yr Ysgwrn.

    Nod yr arddangosfa yw ysgogi a meithrin diddordeb pobl yn eu hamgylchedd naturiol, gan godi’r awydd i’w warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

    Yn yr arddangosfa daw hanes y mawndiroedd a’r traddodiadau ynghlwm â hwy yn fyw trwy gyfrwng ffilm, clipiau sain a hen greiriau a ddefnyddiwyd i dorri mawn. Bydd ambell drysorau a ganfuwyd wedi eu claddu yn y mawn am ganrifoedd yn cael eu datgelu hefyd!

    As well as ensuring that these recollections are not consigned to the dustbin of history, it was also an opportunity to nurture an appreciation and pride amongst the local community, in particular the younger generation, in their local heritage. During the course of the project a close relationship was formed between local communities and schools, and many bog and peatland based activities were held – from cutting and stacking peat and dyeing wool using plants from the bog, to a rush candle making evening at Yr Ysgwrn.

    The aim of the exhibition is to spark and encourage an interest in our natural environment and generate a will to protect it for future generations.

    In the exhibition, the peatlands’ history and traditions are brought to life through the medium of film, audio clips and old equipment that were used for peat cutting. Some treasures found buried deep in bogs are also on show!

    ©G

    wyn

    eth

    Jone

    s

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Hyfforddiant Walio Cerrig Sych

    Dry Stone Walling TrainingThe Snowdonia National Park Authority are keen to encourage traditional countryside skills and the restoration of habitats. During October and November opportunities were held for individuals to dry stone wall on Yr Ysgwrn’s historic farm under the supervision of two experienced local craftsmen.

    Dry stone walls are very common in Snowdonia’s uplands and is a craft that dates back centuries. The same basic techniques are used today that were used centuries ago and the craft of choosing and placing the stones is a very special skill.

    Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn awyddus i annog y gwaith o adfer cynefinoedd a datblygu traddodiadau cefn gwlad. Bu cyfle i griw o unigolion gael blas ar godi waliau cerrig sych ar fferm hanesyddol Yr Ysgwrn yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd dan ofal dau grefftwr lleol profiadol.

    Mae waliau cerrig sych yn gyffredin iawn yn ucheldir Eryri, ac mae’r grefft o’u codi yn dyddio nol ganrifoedd. Defnyddir yr un technegau sylfaenol heddiw ac a ddefnyddiwyd ganrifoedd yn ôl, ac mae’r grefft o ddethol a gosod y cerrig yn sgil arbennig.

    ©Mark Anderson

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    SMS Afon Eden Afon Eden SMSThe Snowdonia National Park Authority has secured a better future for Afon Eden. The Afon Eden project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

    Afon Eden flows from Llyn Trawsfynydd down to Ganllwyd through marshy and woodland landscape alongside the A470. Although it seems to be a deserted area, due to its ecological importance, a large proportion of it has been designated as a special area of conservation.

    One of the most important features of the area is the presence of freshwater pearl mussels (Margaritadera margaritifera), which are extremely important in the river due to their filtering features which improves the quality of the water and the river’s ecosystem. But the number of these distinctive mussels has declined over the years, which indicates that the current management of the catchment is unsustainable. The area is also notable for a rare water plant, the floating water-plantain (Luronium natans), as well as salmon, otters and the rich habitats of the blanket bogs.

    Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi sicrhau gwell dyfodol i’r Afon Eden. Mae prosiect Afon Eden wedi derbyn cyllid trwy raglen Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 – 2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.

    Rhed yr Afon Eden o Lyn Trawsfynydd i lawr i Ganllwyd gan redeg yn gyfochrog â’r A470 drwy dir corsiog a choediog. Er ei fod yn ymddangos yn ardal anial, mae cyfran fawr ohoni wedi ei dynodi yn ardal gadwraeth arbennig oherwydd ei phwysigrwydd ecolegol.

    Un o nodweddion pwysicaf yr ardal yw presenoldeb y misglod perlau dŵr croyw (y Margaritadera margaritifera), sy’n hynod o bwysig yn yr afon oherwydd eu nodweddion hidlo sydd yn ei dro yn gwella ansawdd dŵr yr afon. Ond mae nifer y misglod arbennig hyn wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf sy’n arwydd fod rheolaeth o ddalgylch yr afon yn anghynaladwy. Mae’r ardal hefyd yn nodedig am Lyriad-y-dŵr arnofiol (Luronium natans) sy’n blanhigyn dŵr prin, yn ogystal ag eogiaid, dyfrgwn a chynefinoedd cyfoethog y gyforgors

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE

    LIFE Celtic RainforestsThanks to European and Welsh Government funding, the past autumn marked the start of a new chapter for Wales’ Celtic rainforests which are currently in an unfavourable condition. Through the eradication of invasive alien plant species and the implementation of proactive management the aim is to bring these woodlands back to their former fertile state.

    Celtic rainforests, which are mainly found in the UK, are considered of European importance owing to their open structure, and the mild and humid conditions within them that provide a perfect habitat for a wealth of vegetation.

    The project’s main aim is to improve the habitat of lower plant assemblage such as mosses and liverworts within these woodlands by tackling the issue of invasive species, especially the Rhododendron ponticum, that threaten the conservation status of the woodlands. The project will also develop active management of the woodland including demonstrating active grazing and woodland restoration techniques which in turn will improve habitat condition, demonstrate best practice, increase resilience and enhance the woodlands’ ecosystem function.

    Diolch i nawdd Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, yr hydref diwethaf dechreuodd pennod newydd yn hanes coedwigoedd glaw Celtaidd Cymru sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr cadwraethol anffafriol. Trwy ganolbwyntio ar waredu rhywogaethau planhigion estron a rheolaeth effeithiol y bwriad yw dod â’r coedwigoedd yn ôl i’w cyflwr ffrwythlon blaenorol.

    Mae coedwigoedd glaw Celtaidd, sydd i’w cael yn y DU yn bennaf, yn cael eu hystyried o bwysigrwydd Ewropeaidd oherwydd eu strwythur agored, a’r amodau mwyn a llaith oddi mewn iddynt sy’n gynefin i gyfoeth o lystyfiant.

    Prif nod y prosiect yw gwella’r cynefin o blanhigion isel fel mwsoglau a llysiau’r afu o fewn y coedwigoedd hyn trwy fynd i’r afael â’r rhywogaethau ymledol, yn enwedig y Rhododendron ponticum, sy’n bygwth statws cadwraethol y coedlannau. Bydd y cynllun hefyd yn datblygu rheolaeth actif o goedwigoedd yn ogystal ag arddangos pori gweithredol a thechnegau adfer coedwig fydd yn eu tro yn gwella cyflwr cynefin, arddangos arfer da, yn cynyddu gwydnwch a gwella gweithrediad ecosystem y coedwigoedd.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -201810

    Cymuned Community

    Cynllun Datblygu Lleol Local Development PlanThe Authority received the Inspectors Report in to the Examination of the Local Development Plan. The Inspectors Report outlined that the Revised Local Development Plan was sound, could be adopted and become the current Local Development Plan and that weight could be given to the policies contained within the Local Development Plan when making decisions on Planning Applications.

    The Revised Local Development Plan 2016 -2031, along with the Inspectors Report, was presented to Authority on 6th February for formal adoption. The Plan was adopted and became the Plan which will guide decisions on planning applications for all future developments to 2031.

    Derbyniodd yr Awdurdod Adroddiad yr Arolygwr i Archwiliad o’r Cynllun Datblygu Lleol. Amlinellodd yr Arolygwr fod y Cynllun Datblygu Lleol yn gadarn, y gall ei fabwysiadu i fod yn Gynllun Datblygu Lleol cyfredol a gellir rhoi pwysau i’r polisiau yn y Cynllun wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

    Cyflwynwyd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2016-2031, ynghyd ag Adroddiad yr Arolygwr i’r Awdurdod ar 6ed o Chwefror i’w fabwysiadu’n ffurfiol. Mabwysiadwyd y Cynllun a daeth yn Gynllun fydd yn arwain penderfyniadau ar gewisiadau cynllunio ar gyfer pob datblygiad yn y dyfodol hyd at 2031.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -201811

    Gwirfoddoli VolunteeringThe Llyn Tegid wardens have been working closely over the summer with volunteers from ‘Sykes Cottages’. On two separate occasions the volunteers came to Llyn Tegid and assisted the wardens in maintenance of the picnic tables on the Llyn Tegid foreshore, and the opening up of a lakeside path towards Llanycil, which involved some much needed vegetation clearance. The volunteering team from Sykes Cottages thoroughly enjoyed their time with the wardens, so much so that they’re keen to come back next year to volunteer on other projects.

    Snowdonia Society volunteers have also been assisting the wardens with a beach clean project on Morfa Dyffryn – these projects are a great way to get people out into some fresh air and to enjoy the sea breeze while contributing to the essential preservation of Snowdonia’s beaches.

    Mae wardeniaid Llyn Tegid wedi bod yn gweithio’n agos dros yr haf gyda gwirfoddolwyr o ‘Sykes Cottages’. Ar ddau achlysur, daeth y gwirfoddolwyr i Lyn Tegid i gynorthwyro’r wardeiniaid i atgyweirio’r byrddau picnic ar flaendraeth Llyn Tegid, ac agor llwybr y llyn tuag at Lanycil, a oedd yn yn cynnwys clirio llystyfiant. Fe wnaeth y tîm gwirfoddoli o ‘Sykes Cottages’ fwynhau eu hamser yn fawr gyda’r wardeiniaid, cymaint fel eu bod yn awyddus i ddod yn ôl y flwyddyn nesaf i wirfoddoli ar brosiectau eraill.

    Mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri wedi bod yn cynorthwyo’r wardeiniaid gyda phrosiect traeth glân ar Forfa Dyffryn - mae’r prosiectau hyn yn ffordd wych o gael pobl allan i’r awyr agored ac i fwynhau awel y môr tra’n cyfrannu at gadwraeth traethau Eryri.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -201812

    Buont hefyd yn brysur dros fisoedd y gaeaf i wneud gwaith atgyweirio pwysig ar Yr Wyddfa ac ar Lwybr y Fawddach. Roedd y gwirfoddolwyr yn cael eu goruchwylio gan wardeniaid ardal a gweithiwr stâd oedd yn gallu rhannu eu gwybodaeth a’u profiad o reoli cefn gwlad gyda’r unigolion brwdfrydig. Yn dilyn nifer o ddiwrnodau llwyddiannus o wirfoddoli, rydym bellach yn y broses o geisio sefydlu cytundeb mwy ffurfiol gyda Chymdeithas Eryri mewn perthynas â diwrnodau gwirfoddoli. Bydd y cytundeb hwn yn debyg i’r cytundeb gweithio presennol ar Yr Wyddfa a Lôn Gwyrfai.

    Mae sgyrsiau yn datblygu gydag Ymddiriedolaeth yr Outward Bound, ynghylch y posibilrwydd o drefnu grŵp gwirfoddol ‘Cader Idris’. Mae posibilrwydd i’r grŵp gwirfoddol hwn gynnwys cannoedd o bobl ifanc sy’n ymweld â’r ganolfan Outward Bound yn Aberdyfi bob blwyddyn. Fefydd y gwaith yn unol a’r cytundeb yn waith cynnal a chadw yn rheolaidd ar Gader Idris dan oruchwyliaeth Tiwtoriaid Ymddiriedolaeth yr Bound Outward a wardeniaid APCE. Bydd y gwaith cynnal a chadw arferol yn cynnwys arferion rheoli cefn gwlad sylfaenol ond hanfodol, fel casglu sbwriel, clirio draeniau ochr a chylfatiau, rhesymoli carneddau cerrig ac arsylwi a chynnal y Côd Cefn Gwlad.

    Volunteers from Snowdonia Society have been utilised on several occasions over the winter months to carry out important repairs on Snowdon and to the Mawddach Trail. The volunteers were supervised by the area wardens and estate workers, who were able to share their knowledge and experience of countryside management to the keen individuals. Following several successful volunteer days we are now in the process of trying to establish a more formal agreement with Snowdonia Society in regards to volunteer days. This agreement will be similar to the existing working agreement on Snowdon and Lôn Gwyrfai.

    Talks are at an advanced stage with the Outward Bound Trust, in regards to the possibility of organising a ‘Cader Idris volunteer group’. This volunteer group has the possibility to consist of hundreds of teenagers who visit the Outward Bound centre in Aberdyfi annually, who in accordance with the agreement will be carrying out routine maintenance work on a regular basis on Cader Idris, under the supervision of the Outward Bound Trust tutors and SNPA wardens. The routine maintenance will consist of basic but essential countryside management practices, such as litter picks, side drain and culvert clearance, stone cairn rationalization and the observation and carrying out of the Countryside Code.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -201813

    Wythnos y Parciau Cenedlaethol

    National Parks WeekWe held a variety of different events for National Parks Week last summer. The aim of the week is to encourage more people to make use of our National Parks. Snowdonia attracts thousands of annual visitors to roam our trails and peaks but National Parks Week provides an opportunity to learn more about Snowdonia’s special qualities and the diversity we have to offer.

    Events such as guided walks, nature and craft clubs proved to be a great success.

    Cynheliwyd nifer o ddigwyddiadau amrywiol ar gyfer Wythnos y Parciau Cenedlaethol yr haf diwethaf. Bwriad yr wythnos yw annog mwy o bobl i wneud defnydd o’n Parciau Cenedlaethol. Bydd Eryri’n denu miloedd o ymwelwyr yn flynyddoedd i grwydro’i llwybrau a’i chopaon ond bydd Wythnos y Parciau yn rhoi cyfle i bawb ddysgu mwy am rinweddau unigryw Eryri a’r amrywiaeth sydd gennym i’w gynnig.

    Cynheliwyd digwyddiadau megis teithiau tywys a chlybiau natur a chrefft a brofodd i fod yn lwyddiant mawr.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -201814

    Plas Tan y Bwlch Plas Tan y BwlchYn dilyn holiadur cyhoeddus mae Plas Tan y Bwlch wedi ehangu rhaglen cyrsiau cyhoeddus er mwyn gwasanaethu’r galw trwy gynnig cyfleoedd newydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

    Mae Cymdeithas Gwenynwyr Meirionnydd wedi profi blwyddyn hynod lwyddiannus trwy gynhyrchu cyfaint sylweddol o fêl gafodd ei werthu yn y Plas. Mae’r wenynfa yn adnodd addysgiadol gwerthfawr i hyfforddi gwenynwyr newydd.

    Mae staff yn cydweithio ar gais i Plas fod yn Ganolfan archrededig ar gyfer hyfforddiant Lantra. Byddwn yn symud ymlaen i ddatblygu cyrsiau i gefnogi Prosiect Mawn ac hyfforddiant proffesiynaol eraill.Mae Plas Tan y Bwlch yn rhan o bartneriaeth arweinir gan Gyngor Gwynedd i roi achrediad Safle Treftadaeth y Byd Unesco i ardaloedd hanesyddol diwydiant llechi’r ardal. Rydym wedi cynnal nifer o’r cyfarfodydd swyddogol yma.

    Mae proffil y ganolfan wedi codi’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i sêr meysydd perfformio a chwaraeon aros gyda ni. Mi arhosodd artistiaid oedd yn perfformio yng Ngwyl Rhif 6 a beicwyr mynydd oedd yn cystadlu ar gwrs Red Bull Dinas Mawddwy gyda ni yn ystod eu digwyddiadau.

    Following a public survey Plas Tan y Bwlch have expanded their public courses programme to serve the demand offering new opportunities for the forthcoming year.

    The Meirionnydd Beekeeping apiary at the grounds produced a significant amount of honey this year which was sold at Plas. The apiary is a valuable educational resource for potential beekeepers.

    Plas staff are working with colleagues on an application to become an accredited Centre for Lantra training courses to be in a position to develop courses to support the Peatland project and other professional training activities.

    Plas Tan y Bwlch are part of a partnership led by Gwynedd Council to give the historical slate industry sites an Unesco World Heritage status. We have hosted some of the official meetings here.

    The centre’s profile has raised significantly over the last year by hosting international sporting and music stars performing in the local area. Artists performing at Festival Number 6 and mountain bike riders racing at Dinas Mawddwy’s Red Bull course all stayed at Plas during their respective events.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    O Lwyd i Liw O Lwyd i Liw

    Yr Ysgwrn

    An unique event that marked the end of the First World War and the hope for peace was performed at Capel Moreia, Trawsfynydd in November organised by Siwan Llynor and Mari Pritchard.Combining memories, poetry, folk songs and the history of two young men from the Trawsfynydd area who returned from war. Among the performers were Lleuwen Steffan, Gwilym Bowen Rhys, the actor Emlyn Gomer, Ysgol Bro Hedd Wyn, Côr Meibion Prysor, Côr Lliaws Cain and Côr Eisteddfod Môn and a crew of young people from Trawsfynydd.

    Yr Ysgwrn

    Cynhaliwyd digwyddiad unigryw i nodi diwedd y Rhyfel Byd 1af a’r dyhead am heddwch yng Nghapel Moreia, Trawsfynydd ym mis Tachwedd wedi ei drefnu gan Siwan Llynor a Mari Pritchard.

    Bu’n blethiad o atgofion, barddoniaeth, alawon gwerin a hanes dau fechgen o ardal Trawsfynydd ddaeth adref o’r rhyfel. Ymysg y rhai fu’n perfformio oedd Lleuwen Steffan, Gwilym Bowen Rhys, yr actor Emlyn Gomer, Ysgol Bro Hedd Wyn, Côr Meibion Prysor, Côr Lliaws Cain a Chôr Eisteddfod Môn a chriw o bobl ifanc Trawsfynydd.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Bertsolari

    Gweithdy Dementia

    Bertsolari

    Dementia Workshop

    Yn ystod Gŵyl Hanes Cymru i Blant, bu’r Ysgwrn yn cydweithio â’r Ŵyl a Chyngor Llyfrau Cymru i gynnig profiadau llenyddol tu allan i’r dosbarth i ddisgyblion ysgolion uwchradd Gwynedd.

    Daeth disgyblion blynyddoedd 7 ac 8 o bedair ysgol uwchradd i fynychu gweithdai gan y bardd a’r awdur, Myrddin ap Dafydd ar ei nofel ddiweddar, Mae’r Lleuad yn Goch. Yn gynharach eleni, enillodd y nofel, sy’n ymdrin â themâu’r Tân yn Llŷn yn 1936 a llosgi pentref Gernika yng Ngwlad y Basg yn 1937, wobr Tir Na n-Og yn y categori uwchradd.

    Yn ystod y gweithdai, daeth disgyblion i nabod hanes Cymru drwy’r digwyddiadau yn Llŷn yn ogystal â hanes Gwlad y Basg ac effaith themâu oesol rhyfel, heddwch a chyfeillgarwch ar bobl heddiw. Ystyriodd y disgyblion y cysylltiadau hyn â’r Ysgwrn a hanes Hedd Wyn, cyn cymryd rhan mewn Bertsolaritza, sef math o ymryson â’i wreiddiau yng Ngwlad y Basg.

    Mewn gweithdy pum niwrnod yn Yr Ysgwrn ym mis Mai, bu criw o bobl iau sy’n byw gyda dementia yn brysur yn creu diorama personol gyda’r artist Luned Rhys Parri.

    Gan ddefnyddio ffotograff oedd yn bwysig iddyn nhw fel cefndir, aethpwyd ati i greu’r darnau celf gan ddefnyddio gwifren, papur, glud a phaent. Yn ogystal â bod yn gyfle i’r cyfranogwyr ddatblygu sgiliau a diddordeb newydd, roedd hefyd yn gyfle iddynt gael ymlacio mewn awyrgylch gartrefol yng nghwmni eraill sy’n byw gyda dementia.

    Yn dilyn cyfnod yn Ysbyty Alltwen, symudodd y gwaith celf ymlaen i’r Ysgwrn, ac yna Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, cyn cymryd eu lle terfynol yng nghartrefi’r unigolion y’u crëwyd.

    During the Welsh History Festival for Children, Yr Ysgwrn collaborated with the Festival and Welsh Books Council to provide literary experiences outside the classroom for the secondary school pupils of Gwynedd.

    Pupils from years 7 and 8 from four secondary schools attended workshops by the poet and author, Myrddin ap Dafydd, on his recent novel, Mae’r Lleuad yn Goch (The Moon is Red). The novel, which deals with the themes of the fire in Llŷn in 1936 and the burning of the village of Gernika in the Basque Country in 1937, won the Tir Na n-Og prize in the secondary school category.

    During the workshops, pupils learned about the history of Wales through the events in Llŷn and the Basque Country and the impact of the timeless themes of war, peace and friendship on the people of today. Pupils related these connections to Yr Ysgwrn and the story of Hedd Wyn, before participating in a Bertsolaritza, a kind of poetry challenge that has its roots in the Basque Country.

    At a five day workshop held at Yr Ysgwrn, a group of younger people living with dementia were busy creating personal dioramas with the artist Luned Rhys Parri.

    Using a photograph that was important to them as a background, the artworks were created using wire, paper, glue and paint. As well as giving the participants an opportunity to develop a new skill and interest, it also provided an opportunity for them to relax in a homely atmosphere with others living with dementia.

    Following a period at Ysbyty Alltwen, the artworks moved on to Yr Ysgwrn and then Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, before taking their final place in the homes of the individuals who created them.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -201817

    Corfforaethol CorporateMeysydd Parcio Car ParksBellach mae 11 peiriant yn ein meysydd parcio yn derbyn taliadau cerdyn wedi cysylltu safle Rhyd Ddu, ac mae llif incwm cyson wedi bod trwy’r tymor a thros gyfnod y gaeaf trwy daliadau cerdyn. Derbyniwyd barn yr Aelodau ar bwyntiau gwefru ceir yn ogystal, a chafwyd cefnogaeth i’r argymhelliad y dylid sefydlu system o godi tâl am y trydan a ddefnyddir yn ogystal a’r llecyn parcio pan fyddwn yn sefydlu rhwydwaith o bwyntiau gwefru cerbydau trydanol.

    There are now 11 machines in our car parks receiving card payments following the connection of the Rhyd Ddu site. There has been a steady income stream during the season and over the winter period through card payments. Members’ views were also received on car charging points and support was given to the recommendation that a system of charging for the electricity used as well as the parking space should be established when we set up a network of electrical vehicle charging points.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Digwyddiad Ymgysylltu Cydraddoldeb

    TAIS

    Equality Engagement Event

    TAIS

    Ar y 24ain o Fai 2018 cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu cydraddoldeb yng Nghanolfan Fusnes Conwy yng Nghyffordd Llandudno. Trefnwyd y digwyddiad yma ar y cyd gyda 11 o awdurdodau cyhoeddus eraill ar draws Gogledd Cymru, gyda’r Awdurdod yn arwain ar y trefniadau gweinyddu. Trwy weithio mewn partneriaeth a rhannu arbenigedd ac adnoddau fel hyn, mae’n ein galluogi i gydymffurfio ac anghenion y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mewn ffordd cost effeithiol iawn. Roedd dros 50 o bobl yn bresennol, yn cynrychioli grwpiau eang o bobl gyda nodweddion a ddiogelir.

    Llwyddodd ceisiadau i gronfa TAIS (arian Ewropeaidd a weinyddir gan Croeso Cymru) ar gyfer gwellianau i safle Dôl Idris, Nant Peris a dehongli yn Ogwen. Bydd y gwaith yma yn cael ei gynllunio a’i gwblhau dros y 12 mis nesaf. Mae’r £60K o arian cyfatebol gan yr Awdurdod yn cael ei ariannu gan incwm meysydd parcio’r flwyddyn bresennol. Fel rhan o’r prosiectau bwriedir uwchraddio toiledau Dôl Idris a Nant Peris, gosod pwyntiau gwefru trydan yn y 3 safle a chael peiriant talu am barcio Dôl Idris i dderbyn taliadau cerdyn.

    On the 24th of May 2018, an equality engagement event was held at the Conwy Business Centre in Llandudno Junction. This was a joint event organised with 11 other public authorities across North Wales with the authority leading on administrating the event. By working in partnership like this to share expertise and resources, we are able to conform to the requirements of the Equality Act 2010 in a cost effective way. Over 50 people attended, representing wide-ranging groups of people with protected characteristics.

    Applications to the TAIS (European money administered by Visit Wales) fund were successful for improvements to the Dôl Idris and Nant Peris sites and for interpretative work at Ogwen. The work will be planned and completed over the coming 12 months. Match funding from the Authority is funded by the current year’s car park income. As part of the project it is proposed to upgrade Dôl Idris and Nant Peris toilets, install electrical charging points at the 3 sites to improve visitor facilities and get the car parking payment machines at Dôl Idris to accept card payments.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Cynllun Eryri Cynllun EryriDaeth yr ymgynghoriad cychwynol ar gyfer Cynllun Eryri i ben ym mis Medi, ac mae’r ymateb wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Mae adroddiad ar yr ymgynghoriad wedi’i gwblhau ac yn y broses o gael ei ddosbarthu i’r rhai a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad yn ogystal â rhestr ehangach o randdeiliaid. Yn ystod misoedd y gaeaf, cynhalwyd chwe gweithdy ar wahanol bynciau gyda rhanddeiliaid allweddol o’r holl sefydliadau a fydd yn rhan o gyflawni’r Cynllun. Nod y gweithdai oedd mireinio’r cynllun gweithredu yn sylweddol a dechrau pennu cyfrifoldebau o ran pwy fydd yn arwain ar ba brosiectau.

    Ar yr un pryd mae Asesiad Amgylcheddol Strategol wedi ei baratoi ynghyd a’r Arfarniad Cynaladwyedd yn ogystal a dechrau drafftio adrannau rhagarweiniol y Cynllun drafft ei hun.

    The initial consultation for Cynllun Eryri came to an end in September, and the response has exceeded our expectations. A report on the consultation has been completed, and has been disseminated to those who took part in the consultation and our wider list of stakeholders.

    Over the winter months six workshops were held on the different topics with key decision makers from all the organisations that will be part of delivering the Plan. The aim of the workshops was to refine the action plan and to begin to assign responsibilities i.e. who will lead on what project.

    At the same time the Partnerships Manager is preparing the Strategic Environmental Assessment and Sustainability Appraisal, as well as beginning to draft the introductory sections of the draft Plan itself.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Wardeinio & Mynediad

    Warden & Access

    Trwyddedau Llyn Tegid Llyn Tegid PermitsRydym yn arbrofi gyda system newydd o werthu trwyddedau i bobl sy’n dymuno cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr (gan gynnwys canŵio / hwylio / pysgota) ar Lyn Tegid. Am flynyddoedd, mae’r wardeiniaid wedi bod yn ymweld â’r ddau wersyll a leolir ar lan Llyn Tegid gyda’r nôd o werthu trwyddedau porthladdoedd i’w noddwyr. Fodd bynnag, oherwydd amserlen gwaith brysur y warden, dim ond ar adegau penodol o’r dydd mae posib ymweld â’r gwersylloedd hyn, a dim ond am gyfnod penodol.

    Fodd bynnag, eleni, rydym wedi sefydlu cynllun peilot ar y cyd â gwersyll Pant yr Onnen, lle bydd wardeiniaid y gwersyll yn gwerthu’r trwyddedau ar ein rhan ar gyfer comisiwn. Nid yn unig y dylai hyn weld ein refeniw yn cynyddu o’r peilot, ond hefyd golygai bod y wardeiniaid wedi rhyddhau rhan o’u hamser i gyflawni dyletswyddau pwysig eraill.

    We are experimenting with a new system of selling permits to people who wish to participate in watersports (including canoeing / sailing / fishing) on Llyn Tegid. For years the wardens have been visiting the two campsites located on the Llyn Tegid foreshore with the aim of selling watersport permits to their patrons. However due to the warden’s busy work schedule they are only able to visit these campsites at certain times of the day, and only for a certain duration.

    This year we have set up a pilot scheme in collaboration with Pant yr Onnen campsite, where the campsite wardens will be selling the permits on our behalf for a small commission. This should not only see our revenue increasing from the pilot, but also means that the wardens have freed up a portion of their time to carry out other important duties.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Llwybr beicio Llyn Tegid

    Moel Offrwm

    Llyn Tegid Cycle Track

    Moel Offrwm

    Mae gwaith wedi ei gyflawni er mwyn adeiladu llwybr beicio sy’n cysylltu Llanuwchllyn a Chanolfan Awyr Agored yr Urdd yn Glanllyn. Cafodd y gwaith ei wneud mewn partneriaeth gan un o’n timau mynediad a chanolfan Urdd Glanllyn. Ar ôl ei gwblhau, dim ond un rhan o’r llwybr fydd angen ei gwblhau i gysylltu tref y Bala a phentref Llanuwchllyn - ond mae’n bosib y mai’r rhan olaf fydd yr anoddaf!

    Y nôd hirdymor yw creu llwybr beicio Bala i Lanuwchllyn ar ochr orllewinol Llyn Tegid, a fyddai’n golygu bydd posib seiclo llwybr cylch Llyn Tegid gan ddefnyddio ffordd Llangower sydd lawer tawelach ar ochr ddwyreiniol y llyn.

    Mae gwaith llwybr cylch Moel Offrwm bellach bron â’i gwblhau. Mae’r llwybr newydd yn caniatáu i’r cyhoedd gerdded o amgylch Moel Offrwm, gyda golygfeydd o Gader Idris, Rhobell, Llanfachreth a Choed y Brenin mae’r llwybr hwn yn sicr o fod yn hynod boblogaidd gyda cherddwyr, yn enwedig o ystyried ei agosrwydd at Saithgroesffordd, maes parcio’r Awdurdod.

    Work has been completed in constructing a cycle track linking the new cycle track outside of Llanuwchllyn to the Urdd Outdoor Centre at Glanllyn. The work was carried out in partnership between one of our access teams, and the Urdd Glanllyn centre. There is now only one section missing that will link the town of Bala and the village of Llanuwchllyn – but it’s possible that the final section could prove to be the most difficult!

    The long term aim is to create a Bala to Llanuwchllyn cycle route on the west side of Llyn Tegid, which would mean that cyclists could cycle a Llyn Tegid circular path using the much quieter Llangower road on the Eastern side of the lake.

    Works to the Moel Offrwm circular route are now nearing completion. The new path with vistas of Cader Idris, Rhobell, Llanfachreth and Coed y Brenin this path is sure to be extremely popular with walkers, especially considering its close proximity to the Authority’s Saithgroesffordd car park.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Llwybr Watkin Watkin Path Diolch i arian a godwyd trwy ymgyrch cyllido torfol Adfer ein Mynyddoedd yn ôl yn 2016, mae cymal cyntaf y gwaith o adeiladu llwybr ar ran uchaf Llwybr Watkin i gopa’r Wyddfa wedi ei gwblhau.

    Llwybr Watkin yw un o’r llwybrau mwyaf heriol i gopa’r Wyddfa, nid yn unig oherwydd fod y llwybr â’r esgyniad mwyaf, ond oherwydd bod rhan uchaf y llwybr yn croesi llethr sgri rhydd a serth oedd yn anodd ei fordwyo. Gyda bron i 25,000 o gerddwyr yn troedio’r sgri bob blwyddyn roedd craith erydiad drwg wedi datblygu ar y rhan yma o’r llwybr.

    Galluogodd arian a gasglwyd trwy ymgyrch gyllido torfol Cyngor Mynydda Prydeinig. ‘Adfer ein Mynyddoedd’ yn 2016, ynghyd â chyfraniad gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdod y Parc, i gontractiwr lleol ymgymryd â’r dasg lafurus o adeiladu 160 metr o lwybr carreg ar draws y sgri. Bum mis a 140 tunnell o gerrig yn ddiweddarach mae’r gwaith wedi ei gwblhau.

    Mi fydd y llwybr newydd yn gwella profiad cerddwyr trwy wneud y llwybr yn haws i’w ddilyn gan leihau’r peryg o anaf neu ddamwain, ond hefyd yn gwarchod y mynydd rhag effaith y miloedd o bobl sy’n cerdded y llwybr bob blwyddyn.

    Thanks to funds raised through a crowdfunding campaign back in 2016, the first phase of footpath construction work on the upper section of the Watkin Path has been completed.

    The Watkin path is one of the most challenging routes to the summit of Snowdon, not only because it is the route with the greatest ascent, but because the upper section of the path crosses a steep and loose scree slope which is difficult to navigate. With almost 25,000 walkers trampling over the scree each year an unsightly erosion scar had developed on this part of the path.

    Funds raised through the British Mountaineering Council led crowdfunding campaign, Mend our Mountains back in 2016, as well as contributions by the National Trust and the Authority, enabled the employment of a local contractor to undertake the arduous task of constructing a 160 metre length of stone pitched path across the scree. Five months and 140 tonnes of stone later the work was complete.

    This new path will improve walkers’ experience by making it easier to navigate and thereby reducing the risk of an accident or sustaining an injury, but also protects the mountain from the damage caused by the thousands of people that walk the path each year.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Fan Dehongli

    Dôl Idris

    Interpretation Van

    Dôl Idris

    Cafodd fan dehongli’r Wardeiniaid ei defnyddio am y tro cyntaf yn nigwyddiad Ras Yr Wyddfa. Cafodd ei defnyddio hefyd dros yr haf ar ddechrau prif lwybrau ar odre’r mynydd. Mi fydd gwaith creu paneli dehongli newydd ar gyfer mwy o ardaloedd Eryri yn cymryd lle dros y flwyddyn nesaf.

    Mae gwaith adfer gwyneb llwybr Dôl Idris wedi ei gwblhau gan Dîm Mynediad APCE. Mae’r llwybr poblogaidd unwaith eto yn hygyrch at ddefnydd cadeiriau olwyn ac yn cynnig cyfle i bawb fwynhau’r profiad mae’r tirwedd yma yn ei gynnig.

    The Wardens’ interpretation van was first used at the Snowdon race event. It was also used over the summer at the beginning of the main routes up Snowdon. Work to develop new interpretation panels to cover more areas of Snowdonia will take place over the coming year.

    Dôl Idris path resurface works have now been completed by the Snowdonia National Park Access Team. This popular path is once again fully wheelchair accessible, providing the opportunity for everyone to experience this wonderful parkland.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    HeritageTreftadaethCarneddau CarneddauGyda chymorth grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri mae partneriaeth o sefydliadau yn datblygu prosiect i helpu pobl i ddarganfod, cofnodi, gwarchod a dathlu’r Carneddau. Bydd yn gwneud hyn trwy gynnig ffyrdd newydd o ddysgu am yr ardal, darparu gwell gwybodaeth, digwyddiadau a gweithgareddau, creu adnoddau i ysgolion a phobl ifanc, hyfforddiant sgiliau, gwella mynediad a grantiau ar gyfer gwaith cadwraeth tirwedd.

    Mae amaeth yn ran annatod bwysig o’r Carneddau. Mae tirwedd yr ardal wedi ei siapio gan filoedd o flynyddoedd o ffermio o wahanol fathau ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn nhreftadaeth ddiwylliannol yr enwau lleoedd y traddodiadau a’r hanesion.

    Bydd y cynllun yn cofnodi a dathlu y dreftadaeth ddiwylliannol yma, ond hefyd yn cyfrannu at gadwraeth rhai o nodweddion mwyaf yr ardal, fel y corlanau, waliau ffin mynydd/ffridd a gwrychoedd. Bydd cronfa grant ar gael ar gyfer yr elfennau yma ac ar gyfer menterau eraill gan gynnwys gwella coridorau cyrsiau dŵr, cynefinoedd ffridd, weirgloddiau, planu coed ar raddfa fechan, atgyweirio mawndiroedd wedi erydu a gwaredu rhywogaethau ymledol fel y rhododendron.

    A partnership of organisations is developing a project to help people discover, record, care for and celebrate the Carneddau with the help of a grant from the Heritage Lottery Fund. It will do this by providing new ways of learning about the area, better information, events and activities, resources for schools and young people, skills training, access improvements and grants for landscape conservation works.

    Agriculture is a very important aspect of the Carneddau. The landscape of the area has been shaped by thousands of years of farming of different kinds and this is reflected in its cultural heritage of place names, traditions and stories.

    The scheme will not only record and celebrate this cultural heritage, but also help with the conservation of some of the area’s most characteristic features, such as multicellular sheepfolds, mountain/ffridd boundary walls and hedgerows. There will be a grant fund for these elements and for other initiatives including improving riverside corridors, ffridd habitats, meadows, small-scale tree planting, repairs to eroded peatland and removal of invasive species such as rhododendron.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Gwaith Maes Dysynni

    Caer-Gai

    Dysynni Field Work

    Caer-Gai

    Mae timau astudio o Brifysgol Sheffield wedi bod yn astudio yn nyffryn Dysynni ers 2014 bellach ac o ganlyniad mae gwaith o safon uchel wedi ei gynhyrchu sydd wedi gwella ein deallusrwydd o olion archeolegol llefydd megis Bryncrug, Llanegryn ac Abertrinant.

    Mae’r gwaith yn cynnwys elfennau o arolygon geoffisegol, topograffeg a samplau craidd, er enghraifft edrych ar batrymau caeau a lefel y môr yn y gorffennol ac arsylwi ar newidiadau strwythur pentrefi’r ardal. Mae hyn yn gyfraniad gwerthfawr at ein astudiaethau newid hinsawdd ac yn magu ein dealltwriaeth o’n treftadaeth.

    Yn dilyn proses dendro yn mis Rhagfyr a Ionawr, mae gwaith walio ar gaer Rhufeinig Caer-Gai wedi dechrau. Unwaith fydd y gwaith wedi’i gwblhau, rydym yn gobeithio cynnal gweithgareddau i ddathlu cwblhau’r prosiect ac hefyd i godi ymwybyddiaeth o’r safle.

    Research teams from Sheffield University have been studying the Dysynni valley since 2014 and as a consequence the standard of work produced here has been very high which improves our understanding of archaeological traits in places such as Bryncrug, Llanegryn and Abertrinant.

    The work includes elements of core sampling, topography and geophysical surveys, for example looking at past field patterns and sea levels and observation of structure change in local villages. This is a highly valuable contribution towards the understanding of our heritage and our climate change studies.

    Following a tendering process in December and January the walling element of the work has started at the grade II listed Roman Fort of Caer-Gai. Once the work is completed, we hope to hold events to celebrate the completion of the project and to raise awareness of the site.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Treftadaeth Treflun Dolgellau

    Dolgellau Townscape Heritage

    Cwblhawyd y gwaith allanol ar Beechwood House, adeilad amlwg iawn wrth gyrraedd y dref dros y Bont Fawr, ac mae’r gwaith mewnol o drosi’r ddau lawr uchaf yn bedair fflat yn mynd rhagddo. Cynigiwyd grant i Siop Newydd ar y Stryd Fawr a bydd tendrau yn cael eu gwadd ar nifer o brosiectau adfer adeiladau eraill.

    Lansiwyd taflen Tro Tref ar ei newydd wedd, ffrwyth gwaith myfyrwyr lleol Coleg Meirion Dwyfor ar y cyd a Phartneriaeth Dolgellau. Bu trafodaethau rhwng y Swyddog Prosiect, y Coleg, a’r Bartneriaeth ynglŷn â phrosiect murlun o hanes y dref. Paratowyd drafft cyntaf trydedd gyfrol o hanes y dref, yn canolbwyntio ar yr hen ddiwydiannau, mewn cydweithrediad a Partneriaeth Dolgellau.

    External work has been completed on Beechwood House, a prominent building on entering the town over Bont Fawr. Work is now underway on converting the two upper floors into four flats. Grant funding was offered to Siop Newydd on the High Street and tenders will be invited on a number of other building restoration projects. A newly designed town leaflet was launched. The leaflet was the joint work of Coleg Meirion Dwyfor students and the Dolgellau Partnership. Discussions have been held between the Project Officer, the College and the Partnership regarding a mural project of the town’s history. The first draft of the third volume of the history of the town has been prepared focussing on the old industries of the town.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

    Cwm Ciprwth Cwm CiprwthMae’r rhan fwyaf o waith gwella mynediad i safle chwarel gopr hanesyddol Cwm Ciprwth wedi ei gwblhau gan gynnwys gosod pont newydd ar y safle a ffensio siafftiau peryglus i ddiogelu ymwelwyr. Ar hyn o bryd mae rhaglen waith ar gyfer 2019-20 yn cael ei chyllunio ac mi fydd hyn yn cynnwys gwaith cynnal a chadw a dehongli ar gyfer y safle.

    Most of the access improvement works has been completed at the historical Cwm Ciprwth copper mine including installing a new bridge on site and fencing off dangerous shafts to ensure visitor safety. The work programme for 2019-20 is currently being planned which will include maintenance work and interpretation of the site.

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -201828

    Casgliad Conclusion2018-19 has been a very productive and busy year for the Snowdonia National Park Authority and it’s a good opportunity to reflect on the hard work our staff, volunteers and partners have produced over the last year. We look forward to another exciting year in 2019-20 seeing our projects flourishing whilst continuing to conserve and celebrate the special qualities of Snowdonia.

    Bu 2018-19 yn flwyddyn hynod gynhyrchiol a phrysur i Awdurod Parc Cenedlaethol Eryri a dyma gyfle i adlewyrchu ar waith caled ein staff, gwirfoddolwyr a’n partneriaid dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar am flwyddyn gyffrous arall yn 2019-20 wrth weld ffrwyth ein llafur yn blodeuo tra’n parhau i warchod a dathlu rhinweddau arbennig Eryri.

    Owain WynCadeirydd, Awdurdod Parc Cenedlaethol EryriChairman, Snowdonia National Park Authority

  • Adroddiad y Cadeirydd Chairman’s Report2017 -20182017 -2018

  • AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL ERYRISNOWDONIA NATIONAL PARK AUTHORITY

    Penrhyndeudraeth • Gwynedd • LL48 6LFFfôn/Tel 01766 770274 Ffacs/Fax: 01766 771211

    [email protected]