12
250319_01 Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019

Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 · 2019. 4. 15. · Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019 Diweddariad mis Mawrth 2019 Rydym nawr wedi cwblhau blwyddyn gyfan

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • 2503

    19_0

    1

    Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023Diweddariad mis 2019

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019

    Cynnwys Diweddariad mis Mawrth 2019 ➌Pwy ydym ni ❻ Gweledigaeth a Gwerthoedd ➐ Yr hyn rydym eisiau ei gyflawni ➒Y Bwrdd ➓Grŵp Arwain ⓫Amcanestyniadau ariannol ⓬

    Os ydych angen yr wybodaeth yn y cynllun busnes hwn mewn print mawr, Braille, ar CD, neu wedi ei hesbonio yn eich iaith eich hun, cysylltwch â ni ar 01495 745910.

    Mae fersiwn Saesneg o’r cynllun hwn i’w weld ar ein gwefan: www.melinhomes.co.uk/publications. Mae copïau wedi eu hargraffu ar gael o wneud cais.

    BUSNES CYNALIADWY Y FLWYDDYN 2015

    100 CWMNI DIELW UCHAF2015–2019

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019 ➌

    Diweddariad mis Mawrth 2019

    Rydym nawr wedi cwblhau blwyddyn gyfan gyntaf ein Strategaeth Gorfforaethol bum mlynedd 2018-2023. Mae ein gweledigaeth yn seiliedig ar gred ein bod yn bodoli i greu cyfleoedd i bobl a chymunedau i ffynnu ac mae ein strategaeth, dros y 12 mis diwethaf, wedi ein cefnogi o ran cyflenwi’r cyfleoedd hynny.

    Mae 2018 wedi bod y flwyddyn gyffrous, heriol a llwyddiannus i ni ac mae’r diweddariad hwn yn amlygu rhai o’r ffyrdd rydym wedi cael cynnydd o gymharu â’n targedau corfforaethol.

    Rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i wrando ar a siarad gyda’n trigolion a’r cymunedau lle maent yn byw a gweithio er eu budd nhw. Rydym yn cydnabod nad ydym, weithiau, yn effeithiol wrth ymgysylltu ac rydym wedi bod yn gweithio gyda thrigolion i ystyried datblygu ein hagwedd. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys ymgyrch i gael adborth gan amrywiaeth ehangach o drigolion. Fel rhan o hyn, lansiwyd 100 Voices: ymgais i gael o leiaf 100 o drigolion yn gweithio gyda ni drwy lwyfannau digidol.

    Rydym yn parhau i fod yn fusnes annibynnol, moesegol a chynaliadwy sy’n cyflenwi twf yn ein hardal weithredu. Rydym yn parhau i fod yn landlord cymdeithasol yn y bôn, gan reoli a chynnal a chadw tai fforddiadwy a chefnogi pobl i gadw eu tenantiaethau. Rydym wedi canolbwyntio ar fuddsoddi yn ein busnes craidd a chynyddu ein maint trwy adeiladu cartrefi cynaliadwy newydd, gyda 124 o dai wedi eu cwblhau a 314 yn dechrau cael eu hadeiladu yn ystod 2018/19.

    Er mwyn gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael i gyflenwi mwy o gartrefi fforddiadwy a chyflenwi gwasanaethau craidd, mae gennym is-gwmni masnachol. Cafodd hwn ei ail-frandio yn ystod y flwyddyn, ac mae Candleston nawr ar y safle yn cyflenwi ein cartrefi cyntaf i’w gwerthu ar y farchnad yng Nghoed Glas yn Y Fenni. Wrth gyflwyno cartrefi i’w gwerthu mae gennym ddealltwriaeth glir o’n blas am risg, ein capasiti ariannol a’r angen i amddiffyn ein busnes craidd.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019

    Diweddariad mis Mawrth 2019

    Rydym wedi bod yn gweithio i ddyfnhau a chryfhau ein perthnasau strategol presennol. Gan weithio mewn partneriaeth rydym wedi lansio prosiect newydd gyda’r nod o helpu’r sawl sy’n byw gyda salwch cronig y mae eu hiechyd yn cael ei waethygu o bosibl oherwydd effeithlonrwydd ynni gwael a thlodi tanwydd. Mae prosiect Well@home Cymru yn bartneriaeth rhwng Melin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen.

    Rydym yn parhau i geisio bod yn gyfundrefn hyblyg, gyda’r gallu i ymateb i sefyllfaoedd economaidd a gwleidyddol niweidiol ac anghenion ein trigolion. Mae llymder wedi bod yn heriol i’n trigolion ac rydym wedi ceisio cael effaith bositif ar eu bywydau drwy eu cefnogi i gael gwaith; helpu i dorri biliau ynni a lleihau taliadau gwasanaeth; datblygu perthnasau gydag ysgolion lleol a datblygu cyfleoedd dysgu a gwaith drwy ein cwmni partneriaeth Y Prentis.

    Rydym wedi, ac yn parhau i gryfhau sut rydym yn cael ein llywodraethu er mwyn medru cyflenwi ein pwrpas a byw ein gwerthoedd a chanolbwyntio ar ragoriaeth weithredol ar draws y gyfundrefn gyfan. Roedd hyn yn cynnwys cynyddu amrywiaeth ein Bwrdd, ymgymryd ag arfarniad o’r Bwrdd cyfan a gwella ein swyddogaethau Ysgrifennydd Cwmni a llywodraethu.

    Rydym yn ymroddedig i fod yn gyflogwr da bob amser ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein pobl a chreu amgylchedd a diwylliant gwaith positif. I arwain y gwaith hwn rydym yn cymryd rhan yn y rhaglen achredu Cwmnïau Gorau ac roeddem wrth ein boddau pan gawson dair seren a rhif 11 ar restr y Sunday Times o’r 100 Cwmni Dielw Gorau i Weithio Iddyn Nhw o ganlyniad i adborth gan ein staff.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019 ➎

    Diweddariad mis Mawrth 2019

    I gefnogi ein diwylliant, rydym wedi ceisio gwella ein hagwedd tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth gan arwain atom yn cael achrediad QED Tai Pawb, y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i gael hyn. Mae mwy o ymwybyddiaeth ac ymroddiad nawr tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth ym Melin ymhlith staff, y Bwrdd a thrigolion sy’n cymryd rhan. Cefnogodd y broses achrediad QED ni i wella ein harferion, herio ymddygiad, ac yn y pen draw sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu blaenoriaethu fel rhan allweddol o’n diwylliant a’n harferion gwaith.

    Fel cyfundrefn, rydym yn parhau i edrych at y dyfodol, i gwrdd â’r heriau y byddwn yn eu hwynebu gyda brwdfrydedd, penderfyniad a dychymyg, ac i adrodd yn ôl ar ein taith tuag at ddarparu’r cartrefi a’r gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’r bobl a’r cymunedau a wasanaethir gennym.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019

    Pwy ydym ni

    Ffigwr 1: Map yn dangos y pum ardal awdurdod lleol lle mae Melin yn berchen ar ac yn rheoli cartrefi.

    Tabl 1: Dadansoddiad o’r cartrefi yn ôl ardal awdurdod lleol

    Awdurdod lleol Cartrefi ar rent

    Perchno-gaeth tai cost isel

    Achub Morgais

    Arall** Cyfan-swm

    Blaenau Gwent 352 35 2 29 418 Sir Fynwy 834 133 12 149 1,128Casnewydd 596 9 0 60 666 Powys 86 33 0 6 125 Torfaen 1,420 286 30 131 1,867 Awdurdod lleol arall* – 15 – – 15Cyfanswm 3,288 511 44 375 4,219

    Ffigwr 2: Stoc dai (Ffigurau 31ain Mawrth bob blwyddyn.)

    2,7202007

    2,8042008

    2,9652009

    3,0202010

    3,1792011

    3,5112012

    3,7322013

    * cartrefi perchnogaeth a rennir yng Nghaerdydd, Caerffili, Rhondda Cynon Taf a Dyffryn Morgannwg.

    ** yn cynnwys lesddaliad, prydlesu digartref, rhenti canolraddol ac unedau masnachol.

    3,8612014

    3,9252015

    3,9752016

    4,0202017

    4,1472018

    4,2192019

    Powys

    Sir Fynwy

    Torfaen

    Blaenau Gwent

    CasnewyddAwdurdod lleol arall*

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019

    Gweledigaeth a Gwerthoedd

    GweledigaethGyda gweithlu chwim, gofalgar a hyblyg sydd wedi ein helpu i ddod yn un o’r 10 cwmni gorau i weithio iddynt, byddwn yn creu cymunedau ffyniannus yn ne-ddwyrain Cymru. Byddwn yn adeiladu o leiaf 1,000 o gartrefi fforddiadwy yn y cymunedau hyn a chynhyrchu o leiaf £5m o ffynonellau masnachol a thrwy arbedion a geir o’r ymgyrch i gael rhagoriaeth weithredol sy’n canolbwyntio ar drigolion y byddwn yn ei ail-fuddsoddi yn ein gwasanaethau craidd.

    GwerthoeddGyda’n gilydd, medrwn:

    l Wneud y peth iawn

    l Cael hyd i ffordd

    l Gwneud i bethau ddigwydd

    l Gwneud gwahaniaeth

    l Mwynhau’r daith

    Mae ein gweledigaeth yn disgrifio’r hyn rydym eisiau ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf. Mae’n canolbwyntio ein sylw ar yr hyn sy’n bwysig yn y tymor canol ac yn bwydo gwybodaeth i’r blaenoriaethau rydym yn gweithredu arnynt..

    Mae ein gwerthoedd yn disgrifio’r dull y byddwn yn ei gymryd wrth redeg ein busnes a bydd yn arwain ymddygiad ein pobl wrth iddynt geisio cyflenwi ein gweledigaeth.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019 ➑

    Beth rydym eisiau ei gyflawni

    Diwylliant gwychMeysydd ffocws a thargedau i’w cyflawni:

    l Cwmni gorau – yn y 10 uchaf o fewn pum mlynedd;

    l Rhaglen graddedigion – pum swyddog graddedig mewn pum mlynedd;

    l Cydraddoldeb rhyw mewn adeiladu – 25% o weithiwyr wedi eu recriwtio i’r tîm yn ferched;

    l Adeilad gwaith sy’n cefnogi’r diwylliant – astudiaeth ddichonolrwydd i ddeall sut swyddfa fyddai’n adlewyrchu ein diwylliant a’n gwneud yn falch.

    Incwm o gyfleoedd galluogi craiddMeysydd ffocws a thargedau i’w cyflawni:

    l Cartrefi newydd ar werth – 50 o gartrefi i’w gwerthu ar y farchnad bob blwyddyn;

    l Rhentu preifat – 150 eiddo mewn pum mlynedd;

    l Gwaith a chyngor ar ynni – contract Arbed 3 yn cael ei gyflawni a chyfrannu tuag at warged masnachol cyffredinol dros bum mlynedd.

    I gefnogi cyflenwad ein gweledigaeth, rydym wedi datblygu pedwar o bileri strategol: diwylliant gwych; rhagoriaeth weithredol sy’n canolbwyntio ar drigolion; cymunedau sy’n ffynnu ac incwm a gynhyrchir o’r cyfleoedd galluogi craidd.

    Dan bob un o’r pileri hyn rydym wedi cytuno meysydd ffocws ac yna rydym yn pennu targedau y mae angen i ni eu cyflawni er mwyn gyrru cyflenwad trefniadol.

    Bydd y meysydd ffocws a’r targedau hyn yn gyrru cynnwys ein cynlluniau gweithredu busnes manwl a’n cyllidebau. Byddant hefyd yn ffurfio asgwrn cefn ein fframwaith rheoli perfformiad ac yn ein helpu i olrhain cynnydd yn erbyn y canlyniadau strategol disgwyliedig.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019 ➒

    Beth rydym eisiau ei gyflawni

    Rhagoriaeth weithredol sy’n canolbwyntio ar drigolionMeysydd ffocws a thargedau i’w cyflawni:

    l MOT atgyweiriadau – bydd pob eiddo’n cael MOT blynyddol ymhen pum mlynedd;

    l Mynediad estynedig at wasanaeth ar adegau ac mewn ffyrdd sy’n addas i’r trigolion – dim rhwystrau i weithio pan fo cwsmeriaid eisiau gwasanaethau – o fewn dwy flynedd;

    l Gweithio chwim/hyblyg – dymchwel holl rwystrau i weithio chwim a hyblyg o fewn dwy flynedd;

    l Pobl uchelgeisiol a gwydn – rhaglen datblygu gweithlu strategol a manwl o fewn dwy flynedd;

    l Taliadau gwasanaeth mor isel ag y bo modd – holl daliadau gwasanaeth heb fod yn hanfodol wedi eu dylunio allan ar gynlluniau newydd o fewn tair blynedd a holl daliadau gwasanaeth presennol wedi eu gostwng 25% o fewn pum mlynedd;

    l Trigolion a gynhwysir yn ddigidol – 75% o’r holl gyswllt gan drigolion yn digwydd arlein o fewn pum mlynedd.

    Cymunedau sy’n ffynnuMeysydd ffocws a thargedau i’w cyflawni:

    l Cartrefi fforddiadwy newydd – 1,000 o gartrefi newydd mewn pum mlynedd;

    l Costau rhedeg fforddiadwy – ni ddylai unrhyw aelwyd wario mwy na 10% o’i hincwm ar holl danwydd a chynhesu’r cartref i safon ddigonol o fewn pum mlynedd;

    l Gofal trwy bartneriaethau strategol – sefydlu partneriaeth gofal strategol o fewn pum mlynedd;

    l Darpariaeth dai arbenigol – 30 uned ychwanegol o dai arbenigol i’w darparu 9ac eithrio cartrefi i bobl hŷn);

    l Rhaglen ysgolion – datblygu perthynas gyda 25 o ysgolion ym mhob lleoliad allweddol o fewn pum mlynedd;

    l Cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy i drigolion – 50 o drigolion y flwyddyn yn symud i gyflogaeth gynaliadwy;

    l Cymorth i gadw tenantiaeth – gostwng methiannau tenantiaeth un flwyddyn i 5% o fewn pum mlynedd.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019 ➓

    Y Bwrdd Chris Edmondson CADEIRYDDMSc Tystysgrif. AddysgYmchwiliwr rheoli, cynghorydd a golygydd ar ei liwt ei hun.

    Julie Thomas IS-GADEIRYDDRNMH, Dip. Nyrsio, MScCyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Rhanbarthol wedi ymddeol, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

    Tracey BlockwellCyfarwyddwr Cwmni ac ymddiriedolwr gyda Phrosiect Cyngor ar Anabledd.

    Wendy BowlerMSc (Iechyd)Aseswr a chyfryngwr datrys anghydfod Cymru Iach ar Waith.

    Anthony HearnMSc Rheoli (Arloesi mewn Menter Gymdeithasol), BA (Anrh) Cymdeithaseg a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Tai) Cymdeithas Dai Valleys to Coast

    Lisa HowellsCyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata ar gyfer y Curo Group gydag 20 mlynedd o brofiad yn y sector tai; aelod o Ffederasiwn Adeiladwyr Tai a’r Ffederasiwn Dai Genedlaethol.

    Clifford Lloyd JonesACIB, Cert PFS (MS)Banciwr wedi ymddeol, Cynghorydd Ariannol a Chyfarwyddwr Perthynas ar gyfer y Sector Tai Cymdeithasol, Addysg ac Awdurdodau Lleol ar gyfer Barclays yng Nghymru.

    Lorraine MorganRN, RM, RCNT, PGDipN (Lon), M.Sc (Econ) Wales, FHEANyrs Academaidd wedi ymddeol a Gerontolegydd Cymdeithasol a Gweithio fel Ymgynghorydd Annibynnol ar Heneiddio. Cynghorwr Gweinidogol Cymru ar Heneiddio.

    Sarah Bees MSc Mae gan Sarah gefndir iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae ar hyn o bryd yn Swyddog Polisi a Phrosiect ar gyfer Tîm Partneriaeth Rhanbarthol Gwent.

    John JacksonGyda mwy nag ugain mlynedd o brofiad arloesi a marchnata, mae John wedi bod yn rhedeg ei fusnes ei hun am dair blynedd.

    Gareth ThomasCychwynnodd Gareth ei yrfa fel saer gyda Chyngor Powys gan weithio ei ffordd i fyny i HNC mewn Adeiladu. Symudodd yn ddiweddar i Alliance Homes yn Lloegr fel Rheolwr Technegol, ac roedd eisiau parhau i fod yn rhan o’r maes tai yng Nghymru felly ymunodd â’n bwrdd.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019

    Grŵp Arwain

    Paula KennedyPrif Weithredwr

    Mae Paula wedi bod mewn swyddi arwain am fwy nag 20 mlynedd o’i gyrfa. Cyn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai Brunelcare.

    Peter Crockett FMATT, FCCA

    Dirprwy Brif Weithredwr Twf a Datblygu Busnes

    Wedi bod â swyddi yn y sector cymdeithasau tai ers 1995, lle mae wedi cael profiad sylweddol o bob agwedd ar gyllid strategol, gan gynnwys cyllid benthyciadau ynghyd â holl wasanaethau cymorth eraill.

    Adrian HuckinFCIH, BA (Anrh)

    Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesi, Diwylliant a Gwella

    Ymunodd Adrian â Chartrefi Melin ym mis Medi 2010 ar ôl bod â swyddi uwch yn y sectorau cyhoeddus a chymdeithasau tai. Mae’n Gyfarwyddwr Cwmni Y Prentis.

    Dave CookMCIH, MBA, MSc

    Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Cartrefi a Chymunedau

    Mae Dave wedi bod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid ers 2009. Mae’n gyfrifol am wasanaethau Tai a Rheoli Asedau a’r Gweithlu Uniongyrchol. Mae’n Gyfarwyddwr Cwmni Y Prentis.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 Diweddariad mis 2019 ⓬

    Amcan-estyniadau ariannol

    Mantolen Cyllideb 2020

    2021 Amcanestyniadau

    2022 Amcanestyniadau

    2023 Amcanestyniadau

    2024 Amcanestyniadau

    £ 000s £ 000s £ 000s £ 000s £ 000s

    Asedau sefydlog 294,659 316,350 338,660 344,734 380,873

    Asedau presennol 15,087 15,451 15,805 16,166 18,119

    Cyfanswm asedau 309,747 331,801 354,465 360,900 398,992

    Arian ym meddiant Melin 292,737 314,378 336,321 341,362 372,196

    Cronfeydd wrth gefn 17,010 17,423 18,143 19,538 26,796

    Gerio (Cost hanesyddol) 38.75% 41.18% 43.23% 41.21% 41.12%

    Amcanestyniadau Cyfrif Incwm a Gwariant

    Cyllideb 2020

    2021 Amcanestyniadau

    2022 Amcanestyniadau

    2023 Amcanestyniadau

    2024 Amcanestyniadau

    £ 000s £ 000s £ 000s £ 000s £ 000s

    Incwm 21,175 22,682 24,295 25,986 27,045

    Gwariant 17,505 18,233 18,808 19,481 20,068

    Gwarged gweithredol 3,670 4,449 5,487 6,505 6,977

    Llogau sy’n daladwy a gweithgareddau eraill

    –3,600

    –4,035

    –4,767

    –5,110

    –5,521

    Gwarged 70 414 720 1,395 1,457

    Sicrwydd llogau 1.23 1.33 1.37 1.49 1.48