5
Newyddion Tai Cymunedol Calon Ein gweledigaeth yw darparu cartrefi a gwasanaethau ardderchog y bydd ein cymunedau’n ymfalchio ynddynt Byw mewn cartref SATC Tudalen 2 Cychwyn o’r cychwyn Tudalen 3 Pwy sy’n gwneud beth Tudalen 6 Cysylltu â ni Tudalen 8 Cychwyn o’r cychwyn Croeso i Dai Cymunedol Calon Gweler y cefn ar gyfer eich anrheg croeso Haf 2010 Rhifyn 1 Rhowch enw i’r cylchlythyr hwn ac ennill £50 o dalebau siopa

Tai Cymunedol Calon Newyddion · 2019. 11. 18. · 6 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 7 Mae Calon Tai bellach yn

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Tai Cymunedol Calon Newyddion · 2019. 11. 18. · 6 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 7 Mae Calon Tai bellach yn

Newyddion Tai Cymunedol Calon

Ein gweledigaeth yw darparu cartrefi a gwasanaethau ardderchog y bydd ein cymunedau’n ymfalchio ynddynt

Byw mewn cartref SATC

Tudalen 2

Cychwyn o’r cychwyn

Tudalen 3

Pwy sy’n gwneud beth

Tudalen 6

Cysylltu â ni

Tudalen 8

Cychwyn o’r cychwynCroeso i Dai Cymunedol Calon

Gweler y cefn ar gyfer eich

anrheg croeso

Haf 2010 Rhifyn 1

Rhowch enw i’r cylchlythyr hwn ac ennill £50 o dalebau siopa

Page 2: Tai Cymunedol Calon Newyddion · 2019. 11. 18. · 6 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 7 Mae Calon Tai bellach yn

Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 www.taicalon.org2 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 www.taicalon.org 3

Pan gafodd Jayne Powell gynnig cartref gan Gyngor Blaenau Gwent, nid oedd byth yn dychmygu y byddai’n gartref a ddygwyd i fyny i Safon Ansawdd Tai Cymru i’w ddefnyddio fel cartref dangos yn ystod yr ymgynghoriad trosglwyddo.

Mae Jayne yn byw yn Cripps Avenue, Cefn Golau, gyda’i mab 14-mlwydd-oed ac mae’n falch iawn ag ansawdd ei chartref.

“Mae’n dŷ hyfryd ac mae’r gwaith arno o safonau uchel iawn. Mae gyda fi gegin fawr sy’n un o fy hoff rannau o’r tŷ, ac mae’r ffitiadau yn yr ystafell ymolchi yn dda iawn.

“Mae ansawdd y ffitiadau drwy’r tŷ yn eithriadol.

“Nid yn unig y tu mewn i’r lle dwi’n ei garu, ond y tu allan hefyd. Ro’n i’n gwybod fy mod am symud i mewn i’r tŷ cyn gynted ag y gwelais y tu allan - doedd gyda fi ddim amheuon.

“Mae fy mab wrth ei fodd y tŷ. Mae ganddo ystafell wely lawer mwy nag yr oedd o’r blaen. “

Fe wnaeth y cwpl Wayne Jefferies a’i wraig Melanie, sydd wrth eu bodd, symud i mewn i’r eiddo yng Nglanystruth, Y Blaenau, fis Medi diwethaf

Mae’r ddau wedi bod yn byw yn yr ardal erioed. Roedd rhieni Melanie’n byw ar Lanystruth ac mae ei brawd bellach yn byw yno

Fe wnaeth y cwpl symud i’r cartref dwy ystafell wely o’u cartref yn Lakeside ôl i Mr Jefferies gael ei gorfodi i roi’r gorau i weithio oherwydd afiechyd.

Dywedodd Mr Jefferies: “Fyddai hi ddim yn ddigon i ddweud ein bod yn falch iawn gyda’r tŷ, Mae’n arswydus o dda.

“Mae’n anodd dweud beth yw ein hoff ran o’r tŷ oherwydd ei fod wedi’i orffen i safon mor uchel. Mae pob un o’r gosodiadau yn wych ac mae’r plastro ar y waliau a’r nenfwd yn berffaith.

“Mae’r tŷ yn well na’r tŷ ‘nethon ni ddod ohono. Does dim modd dod o hyd i fai.

“Mae’r system wresogi yn wych o’i chymharu i’r hen dŷ - hyd yn oed yn y gaeaf rhewllyd.”

Sut beth yw byw mewn cartref SATC? Rydym yn cwrdd â thenantiaid sy’n gwybod

CYCHWYN O’R CYCHWYNCroeso i Dai Cymunedol CalonNeges gan Philip Crozier, Cadeirydd y Bwrdd a Jen Barfoot, Prif Weithredwr“Croeso i Dai Calon ac i ddechrau newydd ar gyfer ein cartrefi ledled Blaenau Gwent.

Mae’r trosglwyddo 6,200 o gartrefi y Cyngor yn golygu mai Tai Calon yn swyddogol yw’ch landlord newydd. Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddweud diolch i’n tenantiaid am ymddiried ynom ac am pleidleisio o blaid trosglwyddo.

Ni fyddwn yn eich gadael chi i lawr.

Rydym eisoes yn dechrau gweithredu ar yr addewidion yr ydym wedi eu gwneud i chi, gan brofi anrhyddedu’ch ymddiriedaeth ynomBydd gwaith yn dechrau ar wella eich cartrefi o heddiw, ac rydym bob amser yn sicrhau bod eich cynrychiolwyr tenantiaid yn cymryd rhan yn y penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar eich cartrefi a’ch gwasanaethau.

Rydym yn awyddus i ddiolch i’n staff ac i Fwrdd Tai Calon am eu

hymroddiad, gan eu bod wedi gweithio’n ddiflino i gael popeth yn eu lle i sicrhau

trosglwyddiad llyfn i Tai Calon.

Mae Trosglwyddo yn ddechrau cyfnod newydd ar gyfer ein tai, ar gyfer tenantiaid a staff, wrth i Dai Calon fuddsoddi yn ei gartrefi, ei gymunedau a’i wasanaethau.

Nid yw Tai Calon dim ond yn ymwneud â’ch cartrefi a’ch gwasanaethau - yr ydym yn gofalu am y gymuned ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi adfywio Blaenau Gwent drwy ddefnyddio cyflenwyr lleol lle bynnag y bo’n bosibl a chreu swyddi a phrentisiaethau.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous. Gallwn eich sicrhau bod Tai Calon yn barod i ymgymryd â’r her o greu dyfodol mwy llewyrchus.”

Tai Calon yw’r enwDewiswyd enw Tai Cymunedol Calon gan denantiaid a chynrychiolwyr y Cyngor yn gweithio gyda’i gilydd.

Cafodd yr enw ei awgrymu ar y sail mai yn y cartref mae’r galon.

Mae Tai Calon wedi ymrwymo i roi ei galon i mewn i ddarparu cartrefi fforddiadwy a gwasanaethau cryf i’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Page 3: Tai Cymunedol Calon Newyddion · 2019. 11. 18. · 6 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 7 Mae Calon Tai bellach yn

Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 www.taicalon.org4 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 www.taicalon.org 5

Eich cytundeb tenantiaeth newyddYn yr ychydig wythnosau nesaf, byddwch yn derbyn eich copi o’ch Cytundeb Tenantiaeth Sicredig newydd. Mae hwn yn gosod allan rhwymedigaethau Tai Cymunedol Calon, eich rhwymedigaethau chi, diogelwch eich daliadaeth a’ch hawliau. Bydd angen i bob tenant yn yr eiddo lofnodi dau gopi o’r cytundeb newydd a byddwch yn cadw copi; felly hefyd y bydd Tai Calon. Bydd amlen rhadbost i ddychwelyd copi yn ôl i ni. Bydd cyfarwyddiadau llawn yn cael eu cynnwys yn y pecyn.

Tai Calon dod o hyd i gartref!Bydd pencadlys Tai Cymunedol Calon yn Solis Un, Ystad Ddiwydiannol y Rising Sun, Y Blaenau.

Bydd tîm cyfan Tai Calon wedi eu lleoli yma, er y bydd llawer o’r tîm allan ledled y sir y rhan fwyaf o’r amser.

Cyllidwyr yn eu lle ar gyfer trosglwyddoMae Tai Calon wedi dewis Barclays a RBS fel partneriaid ariannu ar gyfer y trosglwyddo.

Cafodd y banciau eu dewis yn sgil proses cyfweld pan gafodd nifer o fanciau a chymdeithasau adeiladu eu cyfweld gan y Bwrdd a’i ymgynghorwyr ariannol.

Bydd Barclays a RBS yn darparu hyd at £125 miliwn o gyllid i Tai Calon ar gyfer ei raglen barhaus o waith atgyweirio, gwelliannau a gwasanaethau.

Meddai Cadeirydd y Bwrdd, Philip Crozier: “fe wnaeth Barclays a RBS gynnig yr hyblygrwydd roeddem yn chwilio amdano gan ein benthycwyr.Rydym yn credu ein bod wedi sicrhau bargen dda iawn ar gyfer Tai Calon a’n tenantiaid. “

Rydym wedi’n cofrestru â Llywodraeth Cynulliad CymruRydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn awr wedi ein llwyr gofrestru gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau bod Calon bydd Tai yn cadw ei addewidion i denantiaid, lesddeiliaid a staff fel ei gilydd.Bydd yn derbyn gwybodaeth am berfformiad yn rheolaidd oddi wrthym ac yn ymweld â ni yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.

Dechrau Newydd - Gwedd newyddNawr bod Tai Calon yn rheoli’ch cartrefi, byddwch yn dechrau gweld rhai newidiadau - rhan o greu golwg newydd ar gyfer ein sefydliad newydd.

SwyddfeyddMae arwyddion newydd Tai Calon wedi eu codi yn ein swyddfeydd yn Ystad Ddiwydiannol Rising Sun Ystad ac mae ystod o wybodaeth am Tai Calon ar gael y tu mewn.

Tîm AtgyweiriadauMae’r Timau Atgyweirio wedi cael gwisgoedd newydd. Mae eu crysau-T newydd yn ddu ac maent yn cario logo Tai Calon unwaith eto yn rhan bwysig o greu delwedd drwsiadus newydd ar gyfer Tai Calon. Byddwch yn eu gweld nhw o amgylch yr ardal, yn eu faniau newydd.

Cardiau IDMae ein holl staff bellach yn cario cerdyn adnabod Tai Calon newydd, gan gynnwys eu llun. Cofiwch, os byddwch byth yn ansicr, ffoniwch ni ar 0300 303 1717 a byddwn yn gwirio pwy yw’r aelod staff cyn i chi eu gadael i mewn i’ch cartref.

Page 4: Tai Cymunedol Calon Newyddion · 2019. 11. 18. · 6 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 7 Mae Calon Tai bellach yn

Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 www.taicalon.org6 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 www.taicalon.org 7

Mae Calon Tai bellach yn berchen ar ac yn rheoli 6,200 o gartrefi ac mae’n gyfrifol am:• Casglu rhenti.

• Dyrannu cartrefi drwy Gofrestr Tai Gyffredin sydd wedi ei rhannu gyda’r Cyngor a Chymdeithasau Tai eraill.

• Gwaith Trwsio Dydd i ddydd

• Gwelliannau i gartrefi a stadau.

• Rheoli Ystadau

• Cynnwys Tenantiaid

Er mai Tai Calon sydd yn berchen ar ac yn rheoli cartrefi tenantiaid - bydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent rôl a chyfrifoldebau penodol ar gyfer tai.

Bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Thai Calon a bydd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i siarad am sut mae’r addewidion a wnaed i chi gan y Cyngor ar ran Tai Calon yn cael eu cadw.

Bydd y Cyngor yn parhau i fod yn rhan o’r ffordd y mae Tai Calon yn cael ei redeg trwy y pump o bobl a enwebwyd gan y Cyngor ar Fwrdd Tai Calon.

Bydd y Cyngor yn:• yn gyfrifol am y gofrestr tai a bydd

yn gweithio gyda Thai Calon a phartneriaid eraill sy’n Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac eraill i ddatblygu polisi tai.

• Cadw cyfrifoldeb am sicrhau llety i bobl ddigartref.

• Bod yn gyfrifol am Fudd-dâl Tai.

• Bod yn gyfrifol am y strategaeth tai ar gyfer yr ardal, gan weithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a datblygwyr preifat ar ddatblygiadau newydd a chynlluniau adfywio.

Nawr bod trosglwyddo wedi digwydd yn swyddogol, Tai Calon yn awr yn eich landlord newydd.

Dros y 18 mis diwethaf rydym wedi’ch cadw yn gwbl gyfoes o ran trosglwyddo i Tai Cymunedol Calon mewn materion yn ein cylchlythyr, ‘Eich Cartref yn eich dwylo’.

Nawr bod trosglwyddo wedi digwydd, bydd angen enw newydd ar gyfer ein cylchlythyr tenantiaid – ac rydym eisiau i chi ein helpu i’w enwi.

Anfonwch eich awgrym am enw, ynghyd â’ch enw, cyfeiriad a rhif ffôn at: Hayley Selway yn Solis Un, Ystad Ddiwydiannol Y Rising Sun, Y Blaenau NP13 3JW.

Bydd panel yn cynnwys tenantiaid a staff yn dewis yr enw buddugol. Bydd yr enillydd yn gweld eu henw arfaethedig yn cael ei fabwysiadu fel pennawd ar gyfer cylchlythyr Tai Calon a bydd hefyd yn cael £50 o dalebau siopa.

Pwy sy’n gyfrifol am beth? Talu eich rhent

Mae gyda ni newyddion i chi!Rhowch enw i’r cylchlythyr hwn ac ennill £50 o dalebau siopa

Gallwch dal i wneud taliadau rhent drwy arian parod i gasglwr rhent os ydych ar hyn o bryd yn defnyddio’r gwasanaeth hwn neu drwy siec neu archeb post i’w anfon i swyddfeydd Tai Calon yn Solis Un, Ystad Ddiwydiannol y Rising Sun, Y Blaenau.

Gallwch hefyd dalu drwy:

• ddebyd uniongyrchol gan eich banc neu gymdeithas adeiladu

• archeb sefydlog

• talu dros y ffôn awtomataidd drwy gerdyn debyd neu gredyd y rhyngrwyd

• Talwch yn Swyddfa’r Ariannwr, y Ganolfan Ddinesig, Glyn Ebwy

• Taliad Paypoint mewn unrhyw le Paypoint neu Swyddfa’r Post

• didyniad o’ch cyflog os ydych yn cael eu cyflogi gan Tai Calon.

Cystadleuaeth

Page 5: Tai Cymunedol Calon Newyddion · 2019. 11. 18. · 6 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 7 Mae Calon Tai bellach yn

Ar gyfer popeth Tai Calon, ffoniwch 0300 303 1717 www.taicalon.org8

Yma yn Tai Calon, rydym yn awyddus i ddod i adnabod ein tenantiaid, ac i gydnabod eich digwyddiadau cymunedol, cyflawniadau, neu straeon diddorol am eich bywyd a phrofiadau fel tenant i’r cyngor pan oeddech yn iau a sut mae amseroedd wedi newid!

Neu efallai eich bod chi, eich cymydog neu aelod o’ch teulu wedi cyflawni rhywbeth arbennig yn ystod eu cyfnod fel tenant ac mae stori i’w dweud mae modd inni ei chynnwys yn y cylchlythyr hwn.

Os felly, rydym yn awyddus i glywed oddi wrthych!

Ffoniwch ni ar 0300 303 1717 i siarad â Natasha Jones.

Oes gennych chi stori i’w hadrodd?

Dymuniadau gorau am ddyfodol llwyddiannususNeges oddi wrth y Cynghorydd John Mason

Gallwch gysylltu â Tai Calon ar ein rhif newydd sbon 0300 303 1717.Rydym yn dewis defnyddio rhif 0300 fel nad yw ein defnyddwyr ffôn symudol yn cael codi gymaint ag y mae’n eu galw rhif 0800.

Neu, gallwch:

Ysgrifennwch at, neu ymweld â ni yn:Solis Un, Ystad Ddiwydiannol Rising Sun, Y Blaenau NP13 3JW

Ebostiwch ni: [email protected]

Mewngofnodi i: www.taicalon.org

Rhoi gwybod am waith trwsioGallwch roi gwybod am waith atgyweirio trwy ffonio 0300 303 1717 neu drwy ymweld neu ysgrifennu at ein swyddfa.

Siarad ag aelod o dîm Tai Calon.

Cadwch y cylchlythyr hwn fel bod gyda chi fanylion Calon Tai ar gael yn hawdd. Yn ystod y misoedd i ddod, byddwch yn derbyn Llawlyfr Tenantiaid a fydd yn cynnwys yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen am Tai Calon, ond yn y cyfamser cadwch y ddogfen hon wrth law.

“Rwy’n falch o heddiw, y bydd Tai Calon yn dechrau cyflawni holl addewidion y Cyngor i denantiaid, i ddod â chartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru, i wella gwasanaethau, creu swyddi a phrentisiaethau, ac, yn bwysig iawn, yn cefnogi adfywio Blaenau Gwent.

“Mae’r ffordd i Drosglwyddo wedi bod yn ffordd hir. Mae’r Cyngor, wrth wynebu penderfyniadau anodd, yn teimlo ei bod yn bryd i adael i denantiaid benderfynu beth y maent eisiau ar gyfer dyfodol eu cartrefi ac fe wnaethant benderfynu y byddai Tai Calon darparu cartrefi a gwasanaethau y maent am ei weld.

“Mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Thai Calon i barhau i wneud Blaenau Gwent yn lle pobl eisiau byw a gweithio ynddo a bydd yn gweithio i ddatblygu cyfleoedd i wneud i hynny ddigwydd.

“Hoffwn ddymuno i Dai Calon y gorau ar gyfer dyfodol llwyddiannus.”