12
O’r Galon Gwanwyn 2011 Rhifyn 3 Pontio Bwlch y Cenedlaethau Pobl ifanc o Brynfarm a Gurnos, Brynmawr yn adeiladu Tenantiaid yn dewis ceginau newydd Angen gwirfoddolwyr yn Waunheulog

Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

O’r GalonGwanwyn 2011 Rhifyn 3

Pontio Bwlch yCenedlaethau

Pobl ifanc o Brynfarm a Gurnos,Brynmawr yn adeiladu

Tenantiaid yn dewis ceginau newydd

Angen gwirfoddolwyr ynWaunheulog

Page 2: Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

Mae llawer o denantiaidTai Calon yn cymrydbalchder mawr mewn cadweu hystadau’n lân ac yndaclus. Un o’r ffyrdd syddgan Tai Calon o gefnogi hynyw’r rhaglen ‘Taith Gerdd yStâd’ i ganfod problemau.

Mae Tai Calon a’i bartneriaid yndechrau gwneud llawer mwyerbyn hyn i dalu sylw i bryderontenantiaid. Mae Cyngor BlaenauGwent yn ariannu tîm owardeiniaid ysbwriel ledledBlaenau Gwent. Un o’r rhain ywTerry Briggs ar ystâd Waundeg.

Er bod Terry wedi ymddeol sawlblwyddyn yn ôl, roedd yn ysu amrywbeth gwerth chweil i’w wneudyn ei amser sbâr - rhywbeth afyddai’n ei gadw’n brysur ac yngwneud gwahaniaeth i bobl eraill.

Felly, erbyn hyn, mae’n treulio awrneu ddwy bob bore yn clirioysbwriel ar yr ystâd a chael sgwrsgyda thenantiaid a thrigolion yrardal yr un pryd.

Mae tenantiaid lleol ChristineMorgan a Diane Bennett yn canuclodydd Terry, “Mae’r ystâdgymaint glanach. Mae’n wych, acyn gwneud gwaith penigamp ibawb ohonon ni ffordd hyn”meddai Christine Morgan. “Dyw eddim yn hapus iawn ‘da’r rhai ifancyn ein cymuned ond mae’nwirioneddol fwynhau ei waith”.

Ac meddai Diane “Mae wedigwella cymaint ar yr ystâd. Nid yn

2 | Calon y Mater

Cadw Waundeg yn Daclus

Does dim amheuaeth nadyw Tai Calon yn cymrydproblemau ymddygiadgwrthgymdeithasol ynhynod o ddifrif ac yn gofalueu bod yn cael eu datrysmor gyflym â phosibl. MaeTai Calon eisiau gwneud ynsiwr fod tenantiaid ynddiogel yn eu cartrefi ac yndiogelu ansawdd bywyd ynei gymunedau.

Enghraifft o hyn oedd y camaucyflym a gymerwyd i gaelgwaharddeb ymddygiadgwrthgymdeithasol yn ôl ym misChwefror. Cafwyd y waharddebyn erbyn dyn o’r Blaenau a oedd âhanes o drais yn erbyn ei gynbartner, sy’n denant i Dai Calon.

Wrth i drais gynyddu mewn uncartref, aeth Tai Cymunedol TaiCalon, mewn partneriaeth âGwasanaeth Trais yn y CartrefBlaenau Gwent a’r Heddlu, i’r llysi ofyn am waharddeb.

Roedd Tai Calon yn gwybod fodyna hanes o drais yn y cartrefhwnnw ac roedd nifer ogymdogion wedi cwyno am sawldigwyddiad, gan gynnwys maluffenestri a bygwth niwed corfforol.

Heb oedi, cyflwynodd y tîmcymdogol gais am waharddeb‘heb rybudd’. Rhoddodd y llyswaharddeb dros dro yn gwaharddy dyn, nad yw’n denant Tai Calon,rhag mynd o fewn 50 metr o’r lle.Cafodd ei wahardd hefyd rhagcysylltu â’r dioddefwr mewnunrhyw ffordd, o dan bŵer eiarestio, tan 2013.

Llwyddo i Gael GwaharddebYmddygiad Gwrthgymdeithasol

www.taicalon.org

unig mae e’n cadw’r strydoedd a’rgerddi’n lân ac yn daclus, mae ehefyd yn gwneud yn siŵr nad oesysbwriel ar y maes pêl-droed y tuôl i’r ganolfan gymdeithasol i’rplant. Mae’n ased enfawr i bawbsy’n byw yma. Rwy’n meddwl eifod yn mwynhau sgwrsio ‘daphawb ar ei rownd. Dyw e bythyn mynd heibio heb air o gyfarch!”

Terry Briggs

Page 3: Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

Gwaharddeb YmddygiadGwrthgymdeithasol 2

Cadw Waundeg yn Daclus 2

Newyddion Cryno 4

Tenantiaid yn siarad â thenantiaid 5

Cyfarfod cyntaf y PanelCydraddoldeb 6

Ymuno â Tai Calon 7

Cyfrifoldeb Perchnogion Cwn 7

Mwynhau bywyd unwaith eto 8

Parth Pobl IfancAdeiladu Pontydd 9

Lansio Mannau Gwyrdd 10

Tai Calon ar Facebook a Twitter 12

CynnwysOs hoffech chi gysylltu âThai Calon, gallwch einffonio ar 0300 303 1717

Os ydych eisiau rhoigwybod i ni ynghylchtrwsio, holi am eich rhentneu drafod rhywbeth agaelod o staff Tai Calon,ffoniwch ni ar0300 303 1717.

Neu gallwch:Ysgrifennu atom neuymweld â ni yn:Solis One, Ystâd DdiwydianolRising Sun, BlaenauNP13 3JW

Ebostiwch [email protected]

Cysylltwch â ni

Ychydig cyn y Nadolig,bu llawer ohonoch, yngaredig iawn, yn llenwiein holiadur i denantiaid‘Helpwch ni i Sicrhau fodein Gwasanaethau’nCyfarfod â’chAnghenion’.

Enillydd yRaffl...

(Phil Crozier, Cadeirydd, Tai Calongyda’r holiadur buddugol)

Cafodd y mwy na 3000 oholiaduron a ddaeth yn ôl eurhoi mewn Raffl Fawr i ennillgwerth £50 o docynnau siopa,yn cael ei thynnu gan einCadeirydd Phil Crozier.

Llongyfarchiadau i’r enillyddlwcus, Dale Williams of Sirhywi,Tredegar. Fe ddewisodd, fel eiwobr, werth £50 o docynnauArgos.

Calon y Mater | 3

www.taicalon.org

Page 4: Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

Oes gennych chisyniadau sut i wella eichystâd? Dewch gyda ni arein taith gerdd y stâd!Mae’r teithiau cerdded yn caeleu cynnal yng nghymoeddEbwy Fawr, Sirhowi andEbwy Fach. Maen nhw’ngyfle i denantiaid a thrigolionweithio gyda swyddogion TaiCalon i ganfod sut i wella euhystadau a’u cymunedau.Rhai o’r materion a godwyd ardeithiau o’r blaen oeddamddiffyn mannau gwyrdd arystadau, parcio, ysbwriel agraffiti. Bydd swyddogion TaiCalon yn gwneud yn siwr body rhain yn derbyn sylw.

Os hoffech chi ymuno â ni,mae manylion ein taithgerdded nesaf ar yr amserlensy’n cael ei ddangos yma.

Gallwch gael rhagor owybodaeth gan aelodo’r tîm CyfranogaethGymunedol ar0300 303 1717.

4 | Calon y Mater

Newyddion Cryno…Cynhaliodd Pwyllgor CraffuAelodau Tai Calon ei gyfarfodcyntaf ar 28 Ebrill. Gwaith ygrŵp hwn yw craffu ar waithBwrdd ac Uwch Reolwyr TaiCalon ar ran Aelodau Tai Calon.Mae’r Pwyllgor Craffu yngwneud yn siŵr fod yraddewidion a wneir i denantiaidyn cael eu cadw.

Mae'n bwysig i Tai Calon fodgennych chi rywun y gallwchalw arnyn nhw pan fyddcontractwyr yn gweithio yn eichcartref. Erbyn hyn, mae TaiCalon wedi penodi tîm llawn oSwyddogion Cyswllt Tenantiaid ifod yn gefn i denantiaid sy’ncael gwella eu ceginau a’uhystafelloedd ymolchi, ac yncael toeau newydd a systemaugwres canolog newydd yn eucartrefi. Bydd Emma Ridout,Fernando Greco and CathGriffiths yn gyfrifol am ofalu ybydd tenantiaid yn cael gwybody cyfan am y gwaith sydd i'wwneud, nhw fydd yn rhoi dewiso geginau i denantiaid a nhwhefyd a fydd yn rhoi help iunrhyw un a fydd ei angen. Oshoffech chi siarad ag un o’n tîmCyswllt Tenantiaid neu gaelrhagor o wybodaeth, gallwchgysylltu â ni ar 0300 303 1717.

Bydd tenantiaid a staff yndechrau gweithio cyn bo hir arystafell Adnoddau Tenantiaidbwrpasol yn Solis One,pencadlys Tai Calon. Byddtenantiaid yn cael cyfle iawgrymu’r defnydd gorau o’u

www.taicalon.org

hystafell. Un syniadyw ei throi’n swyddfa idenantiaid gydachyfrifiadur a llungopïwr.

Ebr Mai Meh

Cwm Sirhywi

Georgetown 24Sirhywi - Isaf 17 28Cefn Golau 5 31Ashvale 10 21Canol y Dref 19Ysguborwen 12 7Nantybwcha Tafarnaubach

3 14

Dukestown 26

Cwm Ebwy Fawr

Beaufort 5Garnlydan 17Rassau - Uchaf 19 7Hilltop - Uchaf 10 28Hilltop - Isaf 26 14Briery Hill 31Newtown 3 21Glyncoed 24Cwm 12

Cwm Ebwy Fychan

Twyncynghordy 5Ystâd y Gurnos 12Brynfarm 19 7Winchestown 3Coed Cae 10 28Ffoesmaen 17Cwmcelyn 14Roseheyworth 24Cwmtillery 26Brynithel 31Swffrwyd 21

Page 5: Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

Mae gwirfoddolwyr odenantiaid, Mike ac AngelaRoberts, Jen Griffiths, DavidGrainger-Jones, Emlyn Jenkinsand Ann Street wedi bod ynhelpu Tai Calon i gasglugwybodaeth werthfawr gandenantiaid eraill i’w helpu iwella gwasanaeth.

Yn garedig iawn, maen nhw’ngwirfoddoli eu hamser bobwythnos ac yn chwarae rhanallweddol wrth gynnal arolygon arba mor fodlon yw tenantiaid gydagwaith thrwsio. Mae hyn yngolygu ffonio tenantiaid eraill i’wholi am eu profiad o’r broses syddgan Tai Calon ar gyfer trwsio tai.

Mae llawer o’r tenantiaid wedi bodyn gweithio gyda Thai Calon erspeth amser ac, ar ôl trosglwyddofis Gorffennaf 2010, wedi cymryd

rhan mewn llawer o grwpiauymgynghori eraill â thenantiaid.

Meddai Jen Griffiths, “Drwy fod argymaint o wahanol grwpiauymgynghori â thenantiaid, a thrwydrafod â thenantiaid wrth lenwiholiaduron trwsio, rwy’n gallugweld y ddwy ochr. Nid yn unigrydych chi’n dod i adnabod y staffyn llawer gwell, ond mae’n fforddwych o adeiladu perthynas ac oddod i adnabod ac i ymddiriedmewn tenantiaid.

Mae Angela Roberts yn cytuno.Meddai, “Pan ‘wy ar y ffôn ynsiarad â thenantiaid eraill, rwy’ngallu dweud wrthyn nhw pa morwerthfawr yw’r wybodaeth y maennhw’n ei roi i ni a bod Tai Calon ynei ddefnyddio i wella ei wasanaethtrwsio, a bod hynny, yn y pendraw, er eu lles nhw. Rwy hefydyn meddwl fod tenantiaid eraill ynllawer mwy cyfforddus yn siarad â

ni, fel cyd denantiaid, gan ein bodni’n dilyn yr un broses drwsio ânhw.”

Mae’r arolwg bodlonrwyddtenantiaid â’r broses drwsio wedi’irhannu’n ddwy ran: mae’r cyntafyn trafod yn broses o ‘ofyn amgael trwsio’ a’r ail y broses odrwsio ei hunan, o’r adeg panmae staff trwsio’n curo ar y drwsi’r adeg pan maen nhw’n gadaelyr eiddo.

Y nod yw cynnal o leiaf 1000 oarolygon bodlonrwydd bobblwyddyn, ac mae’r grŵp, hydyma, ar darged.

Os hoffech chi ddod ynwirfoddolwr sy’n cynnal arolygonbodlonrwydd tenantiaid,cysylltwch â Louise Burgwin neuAndy MacDougall ar 0300 3031717 ac fe gewch ragor ofanylion.

www.taicalon.org

Tenantiaid yn siarad â thenantiaid

Calon y Mater | 5

Jen Griffiths

Page 6: Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

Ddydd Llun 14 Chwefror2011 oedd cyfarfod cyntafPanel Cydraddoldeb newyddTai Calon, a hynny yn yGanolfan AdnoddauTenantiaid yn swyddfeyddTai Calon yn y Blaenau.

Bydd y Panel, sy’n cynnwys80% o denantiaid a 20% o staff,yn gyfrifol am ofalu fodegwyddorion cydraddoldeb athegwch wrth galon Tai Calon a’ifod yn darparu gwasanaethauheb wahaniaethu ac mewnffordd sy’n sensitif i wahanolanghenion ei holl denantiaid.

“Mae gan y Panel gynllungweithredu uchelgeisiol” meddaiAnn Ingram, un o gynrychiolwyrtenantiaid ar y Panel. “Ry’n ni’nbenderfynol nad siop siarad fyddy grŵp ond y bydd yn arwain atwella gwasanaethau i denantiaidTai Calon a’u cymunedau”.

Ac meddai Alan Burkitt,Ymgynghorydd CydraddoldebCyngor Blaenau Gwent, a oeddhefyd yn y cyfarfod cyntaf,“Rwy’n hynod falch fod cymaintyn y cyfarfod cyntaf a hefyd bodunigolion yno a allai fod yn caeleu heffeithio gan broblemaucydraddoldeb.

Roedd yno bobl heddiw oedd ynwan eu golwg, yn drwm eu clywneu’n anabl.

Bydd cyfarfod nesaf y Panel ar11 Ebrill 2011. Bydd Ann Ingramyn cyfrannu’n rheolaidd o hynymlaen i ‘Calon y Mater’ ar ran yPanel.

Os hoffech chi ymuno â’r Panelneu gael rhagor o wybodaeth,cysylltwch ag Andy MacDougallneu Louise Burgwin ar 0300303 1717.

6 | Calon y Mater

www.taicalon.org

Cyfarfod cyntaf yPanel Cydraddoldeb

Page 7: Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

Calon y Mater | 7

CyfrifoldebPerchnogion Cwn achwn yn baedduDangosodd arolwg cenedlaethol gan Cadwch Gymru’nDaclus fod 80% o’r bobl a holwyd yn ‘pryderu’n fawram faw cwn”.

Mae baw cŵn wedi bod ynbroblem y mae nifer odenantiaid wedi’i chodi yn ystodteithiau cerdded ystadau TaiCalon eleni. Er mwyn ceisiodysgu perchnogion cŵn a chaelgwared â’r niwsans o’rgymdogaeth, mae timaucymdogaethau Tai Calon yngweithio gyda thenantiaid athrigolion i sicrhau eu bodnhw’n deall eu cyfrifoldebau apha mor beryglus yw baw cŵn iiechyd.

Beth ddylai perchnogioncwn cyfrifol ei wneud?Wel, o dan Ddeddf Cŵn(Baeddu Tir) 1996, mae’n rhaidi bawb sy’n berchen cŵnlanhau ar ôl iddyn nhw faeddu.Mae peidio â gwneud hynny’ndrosedd a gallai arwain atRybudd Cosb Benodol o £75neu hyd yn oed ddirwy o hyd at£1000.

Ymunwchâ Tai Calon

Ydych chi eisiau chwaraerhan allweddol mewnrhedeg Tai Calon a chaeldweud eich dweudynghylch y gwasanaethaurydych yn eu derbyn?

Os ydych, pam na ddewchchi’n aelod o Tai Calon?

Sefydliad cydfuddiannolcymunedol yw Tai Calon –math o gwmni cydweithredol.Drwy ddod yn aelod, byddcyfle i denantiaid aphrydleswyr ffurfio Tai Calon adylanwadu ar wasanaethau.

Fel aelod, gallwch:• Bleidleisio yng Nghyfarfodydd

Cyffredinol Blynyddol TaiCalon

• Cymeradwyo penodi aelodauannibynnol o’r Bwrdd

• Ethol Pwyllgor Craffu i ddalBwrdd Tai Calon i gyfrif ar ranei aelodau

• Derbyn tystysgrif cyfranddaliadswyddogol a chael cymrydrhan mewn raffl reolaidd

• Mynychu digwyddiadauhyfforddi a chynadleddau TaiCalon.

Does dim rhaid i chi daludim i ddod yn aelod oTai Calon a does dim rhaidmynd i gyfarfodydd - y cyfany byddai’n rhaid i chi ei wneudyw llenwi ffurflen syml aphenderfynu faint o ranhoffech chi ei gymryd.

www.taicalon.org

I ddod yn aelod, neu igael rhagor o wybodaeth,cysylltwch â’r TîmCyfranogaeth a Buddsoddiar 0300 303 1717 neuebostiwch [email protected]

Dylai perchnogion cŵn ofalufod ganddyn nhw fag i ddal bawcŵn a chael gwared ohono yn ybiniau coch arbennig ar eigyfer.

Os nad oes biniau fel hyn argael, ewch â’r bag gartref neuei waredu mewn bin cyffredin.

Os gwelwch chi berchenci’n yn gadael i’w gi faeddumewn man cyhoeddus a hebglirio ar ei ôl, gallwch eiriportio i Gyngor BlaenauGwent ar (01495) 311556, afydd yn ymchwilio i’r materar eich rhan. Wrth gwrs,bydd yn rhaid i chi fod âchymaint o wybodaeth ag ygallwch, megis pryd acymhle.

Page 8: Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

8 | Calon y Mater

Josie’n mwynhau bywydunwaith eto!

Ychydig yn ôl, roedd Josie Poultney’n byw mewn ardallle’r oedd ieuenctid yr ardal yn codi ofn arni.

Bu Josie’n son wrthyn ni amsut y mae ei bywyd wedigwella ers iddi symud i dycysgodol yn Glanffrwyd Court.

Meddai “Roeddwn i’n fwy ac ynfwy anhapus yn fy hen gartref,yn enwedig ar ôl i’m gwr, fymhriod ers 50 mlynedd, farw.Roedd bywyd hebddo’n galed acyn ddychrynllyd, yn enwedig panoedd pobl ifanc yr ardal ynymddwyn mor wael.”

Yna eglurodd Josie sut ynewidiodd ei bywyd. Bron iflwyddyn yn ôl, symudodd iGlanffrwd Court yng Nglyn Ebwy,

un o dai gwarchod Tai Calon, acmae wrth ei bodd yno.

Mae Josie’n teimlo’n llawerhapusach yno ac yn mwynhauymuno yn yr holl weithgareddausy’n cael eu trefnu – Bingo arddydd Iau, cardiau ar ddyddMawrth a nôl chips ddwywaith yrwythnos!

“Rwy wrth fy modd yn perthyn i’rgymdeithas fechan yma – rydynni i gyd yn gofalu am ein gilyddac mae yna wastad rywun i gaelsgwrs”.

Mae gan Josie ei fflat stiwdio eihunan gyda chegin / lolfa /ystafell wely. Mae’n son sut y

mae’n mwynhau eistedd agwylio’r olygfa ac ychydig ar yteledu, a sut y gall teulu affrindiau ddod i ymweld fel ymynnon nhw.

Meddai Josie “Rwy wrth fy moddyma!” Mae pawb mor glên acmae yna wastad ddigon i’wwneud!”

“Ar hyn o bryd, rwy’n cyfri’rdyddiau tan fis Ebrill pan fyddai’n mynd ar drip unwaith mewnoes ar fordaith o amgylch Môr yCanoldir gyda’m teulu. Un o’ruchafbwyntiau i mi fydd ymweldâ bedd fy nhad a gafodd ei laddadeg y rhyfel, rhywbeth rwywastad wedi eisiau’i wneud”.

www.taicalon.org

Page 9: Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

Roedd y cwrs yn unllwyddiannus iawn, gymaintfelly fel y bod cais yn caelei wneud am arian i’wgynnal yn y dyfodol ledledardaloedd Tredegar a GlynEbwy.

Dyma oedd gan ChloeWilliams, SwyddogCyfranogaeth Gymunedola Buddsoddi TaiCalon i’wddweud am yprosiect, “Rydynni’n hynod oawyddus i roicyfle i’r myfyrwyrsymud ymlaenat bethau mwy agwell ar ôlgorffen y cwrs.”

“GydachefnogaethTai Calon a’rYmddiriedolaethAdeiladuIeuenctid,byddwn yngweithio gyda’rbob ifanc a fyddyn cymryd rhan iganfodcyfleoedd ihyfforddi a chaelgwaith yn ydyfodol.”

Ydych chi erioed wedi bod eisiau adeiladu blwch adar,cafnau plannu ar gyfer yr ardd neu hyd yn oedfainc i’r parc?

Wel, dyma’r cyfle y mae saith obobl ifanc o ystadau Brynfarm aGurnos, Brynmawr, wedi ei gael.Cafodd y prosiect ‘AdeiladuPontydd’ ei drefnu gan Tai Calonar y cyd â’r YmddiriedolaethAdeiladu Ieuenctid.

Roedd y cwrs, sy’n cael eianelu at rai 14 – 25 oed, yn rhoiblas unigryw, am bum wythnos,o sgiliau sylfaenol adeiladu agwaith saer. Roedd yn gyfle i’rrhai oedd ar y cwrs ddatblygueu sgiliau i geisio symudymlaen i addysg bellach neugael gwaith. Roedd y cwrs yncael ei redeg ym mhencadlysTai Calon yn y Blaenau gydolmisoedd Chwefror a Mawrth.

Roedd cinio a chludiant amddim ar gael gydol y cwrs.Doedd dim rhaid i’r myfyrwyrwneud dim ond bod yngreadigol!!

Meddai Anna Norris, un o’r rhaioedd yn cymryd rhan,“Roeddwn i eisiau datblygusgiliau i gael hyfforddiantpellach. Mae’n braf bod wedicymryd rhan”.

Roedd Jamie Griffiths, un arallo’r myfyrwyr, yn cytuno, “Maehyn yn brofiad gwych i ddysgusgiliau newydd.”

Adeiladu Pontydd…

Calon y Mater | 9

www.taicalon.org

Page 10: Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

Roedd pobl ifanc o FforwmIeuenctid Cheeky Dragons aswyddogion Tai Calon, CadwCymru’n Daclus, British Trustfor Conservation Volunteers aChymunedau’n Gyntaf yncydweithio i gael gwared arysbwriel o’r ardal.

Dim ond un o nifer o syniadauoedd casglu ysbwriel gandenantiaid a phobl ifancWaunheulog mewn ‘diwrnodsyniadau’ a gynhaliwyd ynNeuadd GymunedolWinchestown ar 12 Ionawr.

Roedd syniadau eraill yncynnwys plannu coed, codiffensys newydd, adeiladullwybrau a chreu man picnic wrthwella mannau gwyrdd. Ar 25Chwefror, plannodd tenantiaid aphobl ifanc ar yr ystâd 100 o goedyn yr ardal.

Meddai Samantha Woodward,17 oed a Chadeirydd FforwmIeuenctid Cheeky Dragons,“Mae llawer o bobl ifanc yn ygymuned hon â diddordebmawr yn yr hyn sy’n digwydd.Fe hoffen ni wella’r ardal lle’rydyn ni’n byw a hefyd wellabywydau pawb sy’n byw yma –yn enwedig o safbwynt personifanc.”

“Mae gennyn ni syniadau sut yrhoffen ni weld ein mannaugwyrdd agored yn cael eudefnyddio ac i wneud i bethauddigwydd go iawn.

Cafodd y cynllun ei ariannu felpartneriaeth rhwng Tai Calon,Banc Barclays a BTCV.

Elusen yw BTCV gyda hanes olwyddiant mewn gwirfoddoliamgylcheddol ledled y DU a’rbyd.

Mae’n gweithiogyda Tai Calon isefydlu rhaglen ogymwysterau ynseiliedig arwirfoddoli ar yrystâd.

Os hoffechgymryd rhanym mhrosiectWaunheulog, os

10 | Calon y Mater

Ieuenctid Waunheulog yn lansioprosiect glanhau ‘mannau gwyrdd’.

Gwisgodd criw o bobl ifanc eu ffedogau, cydio yn eu ffyn pigog a ffwrdd â nhw ilansio prosiect gwella mannau gwyrdd yn Waunheulog ar 22 Chwefror.

www.taicalon.org

oes gennych chi syniadau argyfer gwella mannau gwyrddeich ardal neu eisiau rhagor owybodaeth ar waith Tai Calonmewn cymunedau, cysylltwch âNatasha Jones, Kelsey Watkinsneu Chloe Williams ar0300 303 1717.

I gael rhagor o wybodaethynghylch BTCV a’i raglenwirfoddoli (y Fenter CyflogaethTeulu) cysylltwch â JohnSingleton ar 01685 844556.

Page 11: Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

Calon y Mater | 11

Tenantiaid yn dewiseu hoff geginauDaeth mwy na 500 odenantiaid i ddigwyddiad‘galw heibio’ ymmhencadlys Tai Calon yn yBlaenau ddydd Mercher16 Mawrth 2011.

Roedd tenantiaid o bob rhan oFlaenau Gwent yn dewis pagynhyrchwyr ceginau oedd ynwell ganddyn nhw ac yn dewispa orffeniad yr hoffen nhw eigael ar eu ceginau.

Meddai Paula Robbins, StGeorges Court, Tredegar,“Mae’r ceginau’n fendigedig,roeddwn i wedi’n synnu gan yrholl ddewis. Maen nhw oansawdd mor dda, o gymharuâ’r rhai sydd gennyn ni ar hyn obryd. Mae mor braf cael dewis”.

Meddai Jennifer a Barry Lewis,sydd wedi byw yn eu cartref ymMrynmawr ers wyth mlynedd,“Yr un gegin sydd gennyn ni ersi ni symud yma. Rydyn ni’nedrych ymlaen yn fawr iawn atgael cegin newydd, fodern.Mae’n wych cael dewis, doeddgennyn ni ddim dewis o’r blaen,ac maen nhw’n ardderchog”.

Mae’r rhaglen geginau’n rhan oymrwymiad pum mlynedd TaiCalon i’w denantiaid. Maeceginau ac ystafelloedd ymolchieisoes wedi’u gwella ynWinchestown yn Nantyglo,Waundeg yn Nhredegar aNewtown yng Nglyn Ebwy.

Mae’r amserlen ar gyfer y rhannesaf o’r gwaith yn cael eidatblygu ar hyn o bryd, gyda’r

DYSGU GWERSIMae’r rhaglen beilot o adnewyddu(ceginau ac ystafelloedd ymolchinewydd, ailweirio) bron ar ben.

Cafodd y digwyddiadau‘Dysgu Gwersi’ eu trefnu ermwyn i denantiaid allu rhoi eusylwadau ar sut brofiad oeddbod yn rhan o’r holl raglen oadnewyddu.

Roedden ni’n gofyn am eubarn ar bethau megis…• Beth oeddech chi’n eu hoffi a

ddim yn ei hoffi am y broses?• Ydych chi’n fodlon gyda’ch

cegin/ystafell ymolchi newydd?• Beth allen ni ei wneud yn well

y tro nesaf?

Bydd yr wybodaeth rydyn niwedi’i gasglu yn cael eiddefnyddio wrth i ni baratoirhan nesaf y rhaglenadnewyddu.Mae’r rhaglen beilot o

adnewyddu bron wedi’igorffen ac mae Tai Calonwedi bod yn brysur yntrefnu cyfres oddigwyddiadau ‘DysguGwersi’ i denantiaid agafodd geginau acystafelloedd ymolchinewydd neu sydd â’ucartrefi wedi’u hailweirio.

www.taicalon.org

rhai ‘fwyaf mewn angen’ yn dodgyntaf.

Meddai Jen Barfoot, PrifWeithredwr Tai Calon “Roeddenni’n rhyfeddu fod cymaint odenantiaid wedi dod yma.Nawr, fe allwn ni gynnigceginau rydyn ni’n gwybod fodein tenantiaid eu heisiau. Byddy dewisiadau mwyaf poblogaiddyn rhan o’r dewis a fydd yn caelei gynnig i denantiaid pan fyddeu cartrefi’n cael eu gwella.

Page 12: Gwanwyn2011 Rhifyn 3 O’r Galon - Tai Calon

12 | Calon y Mater

Erbyn hyn, mae Tai Calon yndefnyddio Facebook a Twitter ihysbysebu ei ddigwyddiadau.Mae Facebook and Twitter ynffordd ffantastig o rwydweithio’ngymdeithasol ac mae’n galluein helpu i roi gwybod i bawbam bob math o bethau. Gall

unrhyw un sydd eisiau cymrydrhan gyda Tai Calon, neu eisiaugwybod rhagor am ydigwyddiadau sydd ar droed, gaelcip ar yr wybodaeth ddiweddarafar Facebook a Twitter.

Tai Calon arFacebook a Twitter!Mae Tai Calon wedi plymio i’r cyfryngau ar-lein acwedi lansio tudalen newydd ar Facebook a Twitter.

Cymerwch gip

Rydyn ni'nedrych ymlaenat weithio gydachi!

www.taicalon.org