17

Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

  • Upload
    others

  • View
    4

  • Download
    1

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles
Page 2: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Tim ArTisTigDyfeisiwyd y cynhyrchiad gan: Iola Ynyr Leisa Mererid Iwan Charles Luned Rhys Parri

Cyfarwyddwr: Iola Ynyr

Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri

Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies

Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Rheolwr Llwyfan: Ema Wynne Williams

Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol: Morgan Huw Evans

Adnoddau: Iola Ynyr Luned Rhys Parri Owain Gethin Davies Carl Russell Owen

Lluniau: Keith Morris

Cwmni’r Frân Wen

Cyfarwyddwr Artistig: Iola Ynyr

Rheolwr Gweithredu: Nia Jones

Swyddog Marchnata ac Ymgysylltu: Malan Wilkinson

Cysylltiadau Cyhoeddus: Cambrensis

Cymhorthydd Gweinyddol: Olwen Mai Williams

Diolchiadau: Staff a disgybYsgol Morfa Nefyn Ysgol Abercaseg Cainc Llywela Parri Iwan Fôn Huw Ynyr

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad CyflwyniAd

Mae dyfeisio cynhyrchiad o’r newydd yn gosod her arbennig ac yn gofyn am greadigrwydd ar ei orau. Rhaid bod yn barod i arbrofi yn barhaus a gollwng syniadau nad ydynt yn gweithio. Mae’n gallu bod yn broses rhwystredig dros ben ond y gamp yw parhau i fentro nes y daw llinyn cysylltiol y stori i’r amlwg.

Yn ffodus, mi gawson ni gymorth disgyblion Ysgol Abercaseg ac Ysgol Babanod Morfa Nefyn i’n symbylu ni ar hyd y daith. Roedd posibliadau di-bendraw eu dychymyg i greu cymeriadau ac i fyrfyfyrio yn ysbrydoledig. Rhai o’r cymeriadau mwyaf cofiadwy oedd artist o Abersoch a gyfarfu ffarmwr o Llangwnadl yn mynd am baned i Draeth Coch a gwyddonwyr o Fethesda oedd yn gallu teithio i ganol y byd ac ail-greu deinasoriaid!

Un linell gofiadwy gan ferch o Morfa Nefyn oedd ei heglurhâd pam bod cymeriad yn flin hefo’i gŵr. Roedd hi wedi ei yrru i nôl sosejys ac mi ddoth nôl hefo ‘fish’! Roedd hiwmor naturiol y disgyblion yn rywbeth roeddem ni’n awyddus iawn i’w gynnwys yn y perfformiad.

Ein tasg ni fel tîm creadigol oedd ceisio plethu’r cymeriadau, emosiynau a lleoliadau i fyd ‘Cwpwrdd Dillad’. Yn raddol bach, daeth cymeriadau Frank a Ceinwen i’r amlwg ac rhaid oedd gweithio ar lwybr eu bywyd. Roedd treigl amser yn amlygu ei hun drosodd a throsodd a sut y gall atgofion gyfoethogi profiadau bywyd.

Roedd y cwpwrdd dillad ei hun a phrops Luned Rhys Parri yn ffordd o ysbrydoli golygfeydd. Roedd natur afreal y propiau yn fodd o gyflwyno hiwmor ac yn amlygu themâu megis yr esgidiau i nodi gwahanol gyfnodau mewn bywyd.

Death y cwpwrdd ei hun yn fyrdd o bosibliadau e.e. tŷ cyntaf Frank a Ceinwen, gwely ac awgrym o arch i Frank.

Ein gobaith gyda ‘Cwpwrdd Dillad’ oedd creu cynhyrchiad sy’n dathlu creadigrwydd ac sy’n rhoi rhyddid i’r gynulleidfa ddehongli yn ôl eu profiadau nhw o fywyd.

Iola YnyrCyfarwyddwr Artistig Cwmni’r Frân WenChwefror 2014

Pecyn Adnoddau Creadigol C

wpw

rdd Dillad

Page 3: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

dod i AdnAbod...

Enw: Iwan CharlesRôl : Actor

Sut fyddet ti’n disgrifio cynhyrchiad Cwpwrdd Dillad mewn 3 gair?

Diddorol, gonest a difyr.

Sut brofiad oedd dyfeisio Cwpwrdd Dillad?

Cyffrous!

D’weda rhywbeth wrthym am dy gymeriad...

Mae Ffranc yn ddyn annwyl a bodlon. Mae’n ŵr i Ceinwen ac yn dad i Bili.

Y peth gorau am fod ynghlwm â’r cynhyrchiad?

Cael gweithio gyda Leisa a Chwmni’r Frân Wen a dyfeisio sioe o’r newydd.

Ym mha ffordd mae Cwpwrdd Dillad yn wahanol i gynyrchiadau eraill rwyt ti wedi bod yn rhan ohonyn nhw?

Does dim sgript. Mae’n neis cael gweithio ar fy sgiliau meim!

Oes gen ti hoff ddilledyn? Os oes, beth a pham?

Crys Rygbi Cymru - ffan mawr! Hen siwmper sy’n llawn tyllau erbyn hyn a hen het bobble, gwlanog, gynnes!

Beth wyt ti’n hoffi wneud yn dy amser hamdden pan nad wyt ti’n actio ar lwyfannau ledled y wlad?

Chwarae a chwerthin efo Arthur Emlyn, fy mab bach.

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad Pecyn Adnoddau C

readigol Cw

pwrdd Dillad

Enw: Leisa MereridRôl : Actor

Sut fyddet ti’n disgrifio cynhyrchiad Cwpwrdd Dillad mewn 3 gair?

Collage, llon a lleddf.

Sut brofiad oedd dyfeisio Cwpwrdd Dillad?

Cyffrous gyda llawer o chwarae gyda props, gwisgoedd a chymeriadau. Weithiau roedden ni’n cymryd dau gam yn ôl cym camu mlaen. Dewr!

D’weda rhywbeth wrthym am dy gymeriad...

Gofalus dros eraill. Llawn bywyd ond yn ffwndro wrth fynd yn hŷn.

Y peth gorau am fod ynghlwm â’r cynhyrchiad?

Cael ‘llechen lân’ i ddechrau a’r cyfle i gyd-greu, chwarae a chymryd risg.

Ym mha ffordd mae Cwpwrdd Dillad yn wahanol i gynyrchiadau eraill rwyt ti wedi bod yn rhan ohonyn nhw?

Mae cael cast o ddau yn unig yn rhywbeth newydd i mi a chael gweithio gydag artist fel Luned.

Oes gen ti hoff ddilledyn? Os oes, beth a pham?

Het a gefais ym Mharis flynyddoedd yn ôl. Dw i heb eto gael yr achlysur iawn i’w gwisgo.

Beth wyt ti’n hoffi wneud yn dy amser hamdden pan nad wyt ti’n actio ar lwyfannau ledled y wlad?

Teithio, cerdded, mynd i’r sinema, theatr, dawnsio, gigs a yoga.

Page 4: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

dod i AdnAbod...

Enw: Owain Gethin DaviesRôl : Cerddoriaeth

Sut fyddet ti’n disgrifio cynhyrchiad Cwpwrdd Dillad mewn 3 gair?

Taith. Creadigol. Atgofion.

Sut brofiad oedd creu cerddoriaeth ar gyfer Cwpwrdd Dillad?

Mi roedd yn brofiad cael cydweithio gyda thîm mor brofiadol - actorion brwdfrydig a chyfarwyddwr artistig mor greadigol. Yn sicr mi roedd y dasg yn un heriol, y sialens fwyaf oedd sicrhau bod y gerddoriaeth yn cyfleu neges a theimladau’r cymeriadau a’r stori. Nid oes deialog llafar o gwbl rhwng yr actorion felly mae’r gerddoriaeth yn cyfleu emosiwn ac empathi’r cymeriadau ac yn rhan bwysig o gynnal momentwn y golygfeydd. Mi roedd yn broses bwysig wrth ddewis a dethol y gerddoriaeth er mwyn sicrhau bod arddull y gwahanol ddarnau yn cyd fynd gyda’r golygfeydd gwahanol.

D’weda rhywbeth wrthym am y broses o greu cerddoriaeth ar gyfer y cynhyrchiad?

Roedd yn broses araf ar y cychwyn wrth ddethol y gerddoriaeth gan fy mod wedi gorfod eistedd i mewn yn yr ymarferion yn gwylio‘r actorion yn perfformio er mwyn dod yn gyfarwydd â’r cynhyrchiad. Yna roedd yn rhaid i mi gydweithio yn agos gyda’r actorion a’r cyfarwyddwr yn trafod fy syniadau cychwynnol gan bod eu hadborth yn holl bwysig.

Trwy gydol y broses roeddwn yn ysgrifennu nodiadau am yr hyn yr oeddwn yn ei weld a’i deimlo. Yna buaswn yn mynd ati i ddethol darnau o gerddoriaeth addas yr oeddwn yn gyfarwydd â hwy a weithiau yn cyfansoddi rhai darnau fy hun. Buaswn weithiau yn dethol rhai darnau ond yn newid fy meddwl neu yn dod i gasgliad bod y gerddoriaeth ddim yn gweddu i neges ambell olytgfa. Yn dilyn dethol a chyfansoddi roedd gweddill y broses yn eithaf cyflym gan fy mod yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol er mwyn uno darnau o gerddoriaeth neu eu gosod mewn haenau ar ben ei gilydd.

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad Pecyn Adnoddau C

readigol Cw

pwrdd Dillad

Y peth gorau am fod ynghlwm â’r cynhyrchiad?

Cael cydweithio gyda thîm a oedd yn llawn syniadau creadigol ac arbrofol.

Ym mha ffordd mae Cwpwrdd Dillad yn wahanol i gynyrchiadau eraill rwyt ti wedi bod yn rhan ohonyn nhw?

Gan amlaf byddaf yn gweithio ar gynhyrchiadau sydd gyda cast llawer mwy ac yn trefnu caneuon – gan mai dramâu cerdd yr wyf yn bennaf yn eu cyfarwyddo o ran yr ochr gerddorol. Ond er mai cast bychan iawn sydd yn Cwpwrdd Dillad a dim sôn am ganeuon i’w canu mae’r cynhyrchiad wedi bod yn wahanol am sawl rheswm arall.

Ond yr hyn sydd wedi gwneud Cwpwrdd Dillad yn wahanol ydi ei fod wedi datblygu ac wedi newid wrth i’r broses ddyfeisio ddatblygu. Yn wreiddiol roeddwn wedi cyfansoddi darn o gerddoriaeth arswydus ar gyfer dechrau’r cynhyrchiad ond wrth i syniadau cael eu datblygu roedd y cynhyrchiad yn dechrau gyda golygfa llawer fwy hwyliog. Mi roedd felly rhaid bod yn barod i addasu a mynd gyda thrywydd y cynhyrchiad a’r tîm!

Oes gen ti hoff ddilledyn? Os oes, beth a pham?

Dim hoff ddilledyn ond yr esgidiau sydd yn cael eu defnyddio ar gyfer yr olygfa pin-cio a dawnsio ar ddechrau’r cynhyrchiad! Pam – dwi’n hoff o esgidau smart!

Beth wyt ti’n hoffi wneud yn dy amser hamdden?

‘Rwyf yn hoff iawn o fynd a fy nghŵn sef Nel a Pwdin am dro er mwyn ymlacio!

Er bod cerddoriaeth yn rhan o fy ngwaith dyddiol mae’n rhaid i mi gyfaddef mai cerddoriaeth sydd yn cymryd rhan blaenllaw yn fy amser hamdden. Yr wyf yn hoff o gyfeilio i unawdwyr a chorau mewn cyngherddau a digwyddiadau cyhoeddus a threfnu cerddoriaeth i leisiau.

Page 5: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

dod i AdnAbod...

Enw: Luned Rhys ParriRôl : Set a Gwisgoedd

Sut fyddet ti’n disgrifio cynhyrchiad Cwpwrdd Dillad mewn 3 gair?

Hwyliog, bywiog a thrawiadol.

Sut brofiad oedd creu’r set a gwisgoedd ar gyfer Cwpwrdd Dillad?

Gwych! Llawer o hwyl. Grêt cael rhannu syniadau gyda thîm o bobl.

D’weda rhywbeth wrthym am y broses o greu’r set a’r props ar gyfer y cynhyrchiad?

Wedi ceisio defnyddio’r hyn nes i ffendio yn y gweithdy a’r storfa! Llawer o hen lyfrau wedi melynu, papur aur a choffi fel paent!

Y peth gorau am fod ynghlwm â’r cynhyrchiad?

Rhyddid i greu gwrthrychau yn fy steil i fel artist.

Ym mha ffordd mae Cwpwrdd Dillad yn wahanol i gynyrchiadau eraill rwyt ti wedi bod yn rhan ohonyn nhw?

‘Dw i wedi cael cyfle i weithio am gyfnod llawer hirach na’r arferol a chael canolbwyntio ar un peth ar y tro.

Oes gen ti hoff ddilledyn? Os oes, beth a pham?

Dw i’n meddwl mod i’n hoffi sbectol/mwstash wnes i i’r cymeriad Frank

Beth wyt ti’n hoffi wneud yn dy amser hamdden? Cerdded gyda’r ci!

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad

Page 6: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad Pecyn Adnoddau C

readigol Cw

pwrdd Dillad

meysydd dysgu

CYFAthReBu Di-eiRiAu

Roedd Ceinwen a Frank yn cyfathrebu yn ddi-eiriau yn ‘Cwpwrdd Dillad’. Dyma ystyriaethau wrth ddatblygu actio di-eiriau:

Ystumiau – codi llaw wrth i Frank a Ceinwen gydnabod ei gilydd am y tro cyntaf.

Cyflymder symudiad – Frank yn estyn bwyd yn sydyn i Ceinwen yn ystod y picnic i ddangos ei hoffter ohoni.

Mynegiant wyneb – Ceinwen yn dangos ei hanfodlonrwydd wrth i Frank ei rhwystro rhag derbyn y rhosyn.

Pellter oddi wrth cymeriad arall – Frank a Ceinwen wrth gyfarfod ar y dechrau yn dangos swildod wrth gadw pellter oddi wrth ei gilydd.

efelychu – Frank yn dynwared symudiadau Ceinwen i geisio codi ei chalon.

Defnydd o wrthrychau – Ceinwen yn gafael yn dyner yn y rhosyn i ddangos ei bod wedi ymgolli yn ei hatgofion.

Symud a llonyddwch – Frank a Ceinwen yn sefyll yn llonydd ar ôl cadw’r cesys ar ben y cwpwrdd dillad ac yn sylweddoli treigl amser.

Lefel y corff – Frank yn symud trwy’r dillad wrth gofio ei brofiadau yn y rhyfel i ddangos erchylldra ei atgofion.

Statws - Cyfathrebu drwy’r esgidiau – Ceinwen yn arwain a Frank yn efelychu i ddangos mai hi oedd fwyaf dylanwadol yn yr olygfa.

1. DatblygiadPersonol a

Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth

Ddiwylliannol

YMAteB i ‘CWPWRDD DiLLAD’

Roedd Frank a Ceinwen yn profi ystod o emosiynau yn ystod y perfformiad. Gellir defnyddio lluniau o’r golygfeydd i gysylltu a gwahanol emosiynau e.e. tristwch, cynnwrf, chwilfrydedd, hiraeth, balchder.

CReu DeiALOG

Nid oedd Ceinwen a Frank yn siarad dim yn ystod ‘Cwpwrdd Dillad’. Sut sgwrs fydden nhw wedi ei gael yn y golygfeydd canlynol?

• Picnic• Ffeindio’r babi• Billy (Mab Frank a Ceinwen) a Ceinwen ar lan y môr• Pacio’r cesys

DeLWeDDAu’R LLAWR/PROPS

Mae pob llun/prop yn atgoffa Ceinwen a Frank o’u hatgofion. Allwch chi ddychmygu beth yw arwyddocad pob delwedd?

Beth am greu golygfeydd wedi eu selio ar y delweddau/props?

• Bag ysgol• Tebot• Chwyddwydr• Cregyn• Padell ffrio• Goriad• Stol• Rhosyn

2. Sgiliau Iaith, Llythrennedd a

Chyfathrebu

PERTHNASEDD Y CYNHYRCHIAD I FEYSYDD DYSGU Y CYFnOD SYLFAen.

Page 7: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad meysydd dysgu

AMSeR

Roedd oriawr boced Frank yn werthfawr iawn iddo. Gall y disgyblion gynllunio diwrnod dychmygol Frank fesul awr.

Y Lein DDiLLAD

Gall y disgyblion osod lein ddillad yn yr ystafell ddosbarth i osod posau mathemategol e.e.sawl hosan , gêm gofio beth oedd ar y lein wrth gau llygaid

3. Datblygiad Mathemategol

Pecyn Adnoddau Creadigol C

wpw

rdd Dillad

LLineLL AMSeR FRAnk A CeinWen

Roedd ‘Cwpwrdd Dillad’ yn neidio nôl a mlaen drwy amser. Gall y disgyblion roi trefn gronolegol i fywyd y ddau gymeriad trwy ddefnyddio lluniau o’r golygfeydd e.e. profiadau Frank o ymladd yn y rhyfel,cyfarfod cyntaf Frank a Ceinwen, picnic, priodi, symud i’w cartref newydd, genedigaeth Billy, mynd i lan y môr hefo Billy, heneiddio, Ceinwen yn gadael y cartref a theulu newydd yn symud i mewn.

4. Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r

byd

Page 8: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Pecyn Adnoddau Creadigol C

wpw

rdd Dillad

ADeiLADu ‘BYD’ i GYMeRiAD

Casglwch nifer o bropiau diddorol sydd heb gyswllt amlwg. Anogwch y disgyblion i osod y propiau mewn modd difyr sy’n creu chwilfrydedd. Wedi creu ‘ byd’, gallwch greu cymeriad sy’n byw ynddo.

• Lle mae’r gwrthrychau yn bodoli e.e. ystafell yn y cartref?• Beth sydd i’w weld drwy’r ffenestr?• Sut berson sy’n byw yn y lleoliad?• Pwy oedd y person olaf i alw?• Beth sydd i’w glywed yn yr ystafell?• Pa arogleuon sydd yn yr ystafell?• Beth yw tymheredd yr ystafell?

Wedi creu ‘byd’, gallwch greu cymeriad sy’n byw ynddo.

Gallwch ddefnyddio’r cwestiynau isod i sbarduno’r disgyblion i ymchwilio’n ddyfnach i’w cymeriad.

5. Datblygu’r Gymraeg

• Beth ydi enw’r cymeriad?• Lle mae’n byw?• Sut gartref sydd ganddo?• Lle gafodd ei fagu?• Pwy ydi teulu’r cymeriad?• Faint yw ei oed?• Pwy yw ei ffrind gorau?• Beth yw atgof cyntaf y cymeriad?• Beth yw gobaith mwyaf y cymeriad?• Beth sy’n ei ddychryn?

• Beth yw ei drysor?• Yn lle mae’r cymeriad hapusaf?• Beth ydi ei hoff liw a pham?• Beth fyddai diwrnod delfrydol y cymeriad?• Beth ydi hoff bryd bwyd y cymeriad?• Beth ydi hoff dywydd y cymeriad?• Beth ydi hoff gerddoriaeth y cymeriad?

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad meysydd dysgu

CReu CYMeRiADAu

Dyma restr o ystyriaethau a defnyddir yn yr ystafell ymarfer wrth ddatblygu cymeriadau newydd:

LLenWi BYD FRAnk A CeRiDWen

Roedd casglu lluniau o fydoedd Frank a Ceinwen yn fodd o symbylu golygfeydd a chreu awyrgylch. Yn yr un modd, roedd gwaith celf o gymeriadau yn help i gychwyn gwaith byrfyfyrio.

Awgrymwch bod y disgyblion yn mynd i’r lleoliadau ac yn defnyddio eu synhwyrau i ddod a’r lle yn fyw.

Gall y disgyblion ffurfio siâp y cymeriadau yn y lluniau a dychmygu symud yn ôl neu ymlaen mewn amser yn araf. Gellir defnyddio cerddoriaeth i greu awyrgylch neu holi ar ffurf ‘hot seating’ i ddod i adnabod y cymeriad e.e.

• Sut wyt ti’n teimlo ar hyn o bryd?• Beth wyt ti’n ei weld?• Ers faint o amser wyt ti yma?• Beth ges di i’w fwyta ddiwethaf?• Pwy fydd yn dod atat ti i dy weld?• Pa adeg o’r flwyddyn ydi hi?

Page 9: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

SYMuD CReADiGOL

Cuddio’r cesys.

Roedd dylanwad y gerddoriaeth, ‘Maple Leaf Rag’, yn amlwg ar symudiadau Frank a Ceinwen. Llwyddwyd i greu cyfres o symudiadau yn ail-adrodd gyda ymateb yr actorion yn cynyddu wrth i bob cês ddiflannu. Dilynwyd yr yn llwybr a siapiau.

Gellir annog y disgyblion i greu patrymau gyda phropiau syml gan ddilyn yr un syniad o’u cuddio.

6. DatblygiadCorfforol

meysydd dysguPe

cyn

Adno

ddau

Cre

adig

ol C

wpw

rdd

Dilla

d

Page 10: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Pecyn Adnoddau Creadigol C

wpw

rdd Dillad

Cyfansoddi

Yn dilyn gwneud tasg 1, creu cyfansoddiad syml mewn grŵp ar gyfer golygfa penodol o’r cynhyrchiad.

• Lan y Môr• Priodas• Cyngerdd• Plentyndod

Canu

Canu ystod o ganeuon gyda’r dosbarth sydd yn berthnasol i achlysuron gwahanol.Plentyndod – Hwiangerddi ac alawon gwerin syml, Penblwydd – Penblwydd Hapus, Priodas a ffarwelio.

Gwrando

Cyfle i wrando ar wahanol ddarnau o gerddoriaeth er mwyn trafod, yn bennaf, teimladau – adnabod a disgrifio’r seiniau (enwau offerynnau, teimladau (hapus, trist, ofn),

Cyfle i wahaniaethu yn fras rhwng yr elfennau cerddorol wrth wrando ar y gerddoriaeth:

• Elfennau cerddorol syml • Traw (Uchel / Isel), • Cyflymder (Araf / Cyflym), • Dynameg (Cryf a Tawel),• Distawrwydd (dim sain / bylchau mewn sain)• Hyd (Hir a Byr)• Gwead (Trwchus a Tenau)

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad

ChWARAe CReADiGOL

Creu pen y babi

Roedd Frank a Ceinwen yn trio ffeindio pen addas i’r babi. Yn y diwedd, roedd eu dychymyg yn fodd o greu babi cyflawn.

Gellir chwarae gêm lle caiff gwrthrych ei basio rownd cylch o ddisgyblion gyda’r disgybl yn newid defnydd o’r gwrthrych trwy ‘ddangos’ ei ddefnydd e.e. crib gwallt yn cael ei ddefnyddio fel brwsh dannedd yna’n troi yn feicraffon…

Symbolau i gyfleu treigl amser

Roedd yr esgidiau yn cynrychioli gwahanol gyfnodau ym mywyd Frank a Ceinwen. Gellir meddwl am symbolau newydd e.e. mesen, derwen yn blaguro a choeden yn y gaeaf i gyfleu treigl amser.

CeRDDORiAeth

Creu seiniau

Archwilio ystod o ffynonellau sain drwy ddefnyddio offerynnau’r dosbarth / neu gwrthrychau pob dydd. Arbrofi â gwahanol ffyrdd o drefnu’r seiniau yn fyw neu drwy eu recordio er mwyn creu seiniau ar gyfer golygfa penodol o’r cynhyrchiad.

• Lan y Môr• Priodas• Cyngerdd• Plentyndod

7. Datblygiad Creadigol

meysydd dysguMaple Leaf Raghttp://youtu.be/3Ym1JIKmm4o

Mountain Mama - MC Caslin Llanrwst - Gareth Glyn

Caneuon heb eiriau - CD iwan Llewelyn-Jones

nos Da Pawb

Acoustique CD Cyfnos

Clair de Lune - Debussy

Arabeque - Debussyhttp://youtu.be/28Qi4jL

Catrin Finchhttp://youtu.be/dcQqjKpPgQwAr lan y môr - traddodiadol

Caneuon heb eiriau - CD iwan Llewelyn-Jones

Cavalleria Rusticana - intermezzo, Pietro Mascagnihttp://youtu.be/9MqTvfXIzugtigc

Requiem Mozart – Lacrimosahttp://youtu.be/JE2muDZksP4

Rhestr cerddoriath Cwpwrdd Dillad

N

z

C

Page 11: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad Pecyn Adnoddau C

readigol Cw

pwrdd Dillad

Page 12: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad Pecyn Adnoddau C

readigol Cw

pwrdd Dillad

Page 13: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad Pecyn Adnoddau C

readigol Cw

pwrdd Dillad

Page 14: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad Pecyn Adnoddau C

readigol Cw

pwrdd Dillad

Page 15: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad Pecyn Adnoddau C

readigol Cw

pwrdd Dillad

Page 16: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Dyma restr o egwyddorion sy’n cael eu defnyddio yn yr ystafell ymarfer i hyrwyddo creadigrwydd:

• Newid trefn arferol• Tynnu llun heb synnwyr• Gwneud pethau heb reswm• Byrfyfyrio• Dysgu sgil newydd• Creu pethau newydd nid ail-adrodd• Ymchwilio• Gwneud camgymeriadau• Bod yn agored i syniadau pobl eraill• Gwrthod creu awrygylch o ofn• Rhyddid i fynegi barn• Goddefgarwch• Chwarae gyda syniadau• Meithrin chwilfrydedd• Cymryd risg• Creu cynnwrf ac ysbrydoli• Sicrhau llefydd i’r meddwl grwydro yn ymenyddol a chorfforol• Gwarchod y broses greadigol

Pecy

n Ad

nodd

au C

read

igol

Cw

pwrd

d Di

llad

dATblyguCreAdigrwydd

“I have not failed, I have just found 10,000 ways that don’t work…genius is one percent inspiration and 99% perspiration.”

Thomas Edison

“The beauty of a woman is not in the clothes she wears, the figure that she carries, or the way she combs her hair. The beauty of a woman is seen in her eyes, because that is the doorway to her heart, the place where love resides. True beauty in a woman is reflected in her soul. It’s the caring that she lovingly gives, the passion that she shows & the beauty of a woman only grows with passing years.”

Audrey hepburn

Americans rely on clothing as an economic and social indicator because there aren’t official marks of rank such as a caste system or aristocracy, says Dr. Baumgartner.

“When you don’t have a specific system, people come up with their own,” she explains. It’s what “helps you figure out where you fit in. Especially now, with the economy, with people losing status, maintaining a sense of who we are becomes even more important. Our clothes help place us where we think we want to be.

“The worst clothing is the kind that tries to undo, ignore, or hide where or who you are, or the kind that shows you didn’t pay attention to your body, age, situation . . . Any clothes that prohibit you from doing your job well send the wrong message.”

Enclothed cognition gives scientific proof to the idea that you should dress not how you feel, but how you want to feel. Which clothes make you feel powerful?

dyfyniAdAu Pecyn Adnoddau Creadigol C

wpw

rdd Dillad

Page 17: Tim ArTisTig€¦ · Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Rhys Parri Cyfarwyddwr Cerdd: Owain Gethin Davies Actorion: Leisa Mererid Iwan Charles

Mae’r Pecyn Adnoddau yn rhoi mewnwelediad i chi i’r broses o gynhyrchu Cwpwrdd Dillad. Mae’n cynnig gwybodaeth gefndirol ychwanegol a syniadau am weithgareddau dilynol.

Byddwn yn gwerthfawrogi’n fawr derbyn copi o unrhyw waith sy’n digwydd yn y dosbarth yn deillio o’r perfformiad.

Mae croeso i chi gysylltu â ni am ragor o wybodaeth ynglyn â chynyrchiadau, gweithdai, sesiynau meistr a rhaglenni hyfforddi yr ydym yn eu darparu.

Dilynwch ni ar Facebook/ Follow us on Facebookwww.facebook.com/cwmnifranwentwitter/trydar: @cwmnifranwen

Cwmni’r Frân WenYr Hen Ysgol Gynradd

PorthaethwyYnys MônLL59 5HS

Ffôn: (01248) 715048Ffacs: (01248) 715225

[email protected]