16
TRIPIAU YSGOL Y FRO NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

TRIPIAU YSGOL Y FRO

NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO

2019

www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

Page 2: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

2 NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

Defnyddio’r brandRydym yn annog pawb sy’n darparu tripiau ysgol ym Mro Morgannwg i groesawu’r brand, defnyddio’r logo, y lliw a’r templedi fel y bo’n briodol i’ch busnes neu’ch sefydliad.

Trwy ddefnydd helaeth o’r brand gan bob darparwr, gobeithiwn greu brand sy’n gyfystyr â’r Fro, sy’n dyrchafu rhinweddau tripiau ysgol yn y Fro megis ystod o brofiadau o ansawdd sy’n darparu ar gyfer pob plentyn oed ysgol, pob cyfnod allweddol a phob pwnc ar y Cwricwlwm Cenedlaethol. Rydym yn gobeithio y bydd y brand yn dod yn symbol o ansawdd. Gellir lawrlwytho’r logos a’r eiconau o: www.visitthevale.com/SchoolTemplates

Defnyddio’r templedi a’r adnoddauMae’r templedi a’r adnoddau am ddim i’w defnyddio ar gyfer darparwyr tripiau ysgol y Fro, nid yw’n orfodol i’r darparwyr eu defnyddio, hyd yn oed os byddwch yn dewis cymryd rhan yn y marchnata ar y cyd a chael eich rhestru ar y wefan. Mae’r templedi’n arbennig o ddefnyddiol i sefydliadau bach, neu fusnesau sy’n darparu ar gyfer tripiau ysgol am y tro cyntaf, a heb gyllidebau mawr na llawer o amser i ddatblygu adnoddau o’r newydd, fodd bynnag gellir golygu pob un o’r templedi i fod yn unigryw i’ch trip ysgol chi. Gellir lawrlwytho’r templedi o: www.visitthevale.com/SchoolTemplates

NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO

Beth ydyw?Datblygwyd brand a thempledi Tripiau Ysgol y Fro ar gyfer darparwyr tripiau ysgol ym Mro Morgannwg i’w defnyddio’n rhydd. Nod y brand yw cael hunaniaeth glir ar gyfer tripiau ysgol yn y Fro fel bod modd marchnata’r ardal yn hawdd i ysgolion o fewn y Fro a thu hwnt. Caiff gwefan ganolog i dynnu sylw at bopeth sydd ar gael yn y Fro ei hategu gan ymgyrch farchnata barhaus dan arweiniad tîm twristiaeth Cyngor Bro Morgannwg. www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

I gael rhagor o wybodaeth am ddarparu Trip Ysgol, ewch i’r Pecyn Cymorth Darparu Tripiau Ysgol.

Page 3: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

3NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

Page 4: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

4 NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

Y LOGO

Y logoPwrpas y logo yw darparu tripiau ysgol y Fro gyda hunaniaeth a phresenoldeb cryf y gellir eu hadnabod yn hawdd. Bwriedir ei ddefnyddio ar bob deunydd cyhoeddusrwydd, a ddefnyddir yn fewnol ac yn allanol.

Gofod clir a argymhellirMae’n ofynnol i rondel y logo gel rywfaint o ‘ofod clir’ o’i amgylch – hynny yw, gofod lle nad oes unrhyw gynnwys arall yn ymddangos ynddo (megis testun, delweddau, ac ati).

Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y logo yn cadw’r effaith fwyaf ac yn osgoi mynd yn ‘orlawn’, yn enwedig pan gaiff ei arddangos ar ddogfennau prysur neu wrth ochr logos eraill.

Mae’r union swm o ofod clir yn ôl disgresiwn y dylunydd, ond rhaid cael o leiaf cymaint o ofod clir a ddangosir yma. Mae’r man gofod clir yn deillio o led y cylch allanol (lliw glas) sy’n cael ei ddefnyddio yn y logo. Y pellter hwn (fel y dangosir) yw’r gofod lleiaf sydd ei angen y tu allan i rowndel y logo cyn y gall unrhyw gynnwys arall ymddangos (a ddangosir ar y chwith gan y blwch ffinio lliw magenta wedi’i chwilfriw).

Page 5: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

5NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

C90 M55 Y45 K25

R28 G84 B102 # 1c5466

C43 M70 Y95 K20

R140 G82 B38 # 8c5226

C0 M40 Y100 K0

R247 G166 B0 # f7a600

C25 M60 Y85 K10

R183 G111 B52 # b76f34

C80 M10 Y45 K0

R18 G161 B154 # 12a19a

C15 M45 Y75 K0

R219 G152 B79 # db984f

C0 M65 Y100 K0

R238 G114 B2 # ee7202

C35 M79 Y79 K20

R151 G69 B53 # 974535

Meintiau atgynhyrchu a argymhellirEr mwyn clirder, argymhellir bod y logo’n cael ei ddefnyddio heb fod yn llai na 22mm ar draws y lled pan gaiff ei argraffu a dim llai na 100px o led pan gaiff ei arddangos ar y sgrin.

Byddai maint optimwm pan gaiff ei argraffu (a lle mae gofod yn caniatáu) yn 40mm neu fwy. Mae hyn yn sicrhau bod modd darllen y logo dwyieithog yn hawdd.

22mm / 100px

Nid yw’n ddisgwyliedig y bydd pawb sy’n cynnal tripiau ysgol yn dymuno datblygu adnoddau newydd o’r newydd, ond i’r rhai sydd am wneud hyn, ac er mwyn i dîm Ymweld â’r Fro allu cyfeirio ato yn y dyfodol, gellir rhannu’r data technegol canlynol sy’n ymwneud ag rhinweddau lliw â dylunwyr proffesiynol fel y gellir gwneud adnoddau newydd yn unol â brand Tripiau Ysgol y Fro.

Gwybodaeth dechnegol ar gyfer dylunwyr proffesiynol

Gwerthoedd a ddangosir ar gyfer...PRINT: Canran o inc (Cyan, Magenta, Yellow & BlacK)SGRIN: (Red, Green, Blue) & Hecsadegol #

Page 6: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

6 NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

CYFEIRIADAU LLIW A SET EICONAU

Paletau lliw a chyfeirnodauMae lliwiau brand Tripiau Ysgol y Fro yn deillio o’r lliwiau craidd a ddefnyddir yn y logo. Mae’r ‘palet sylfaenol’ yn cynnwys y lliwiau hyn.

Gellir defnyddio ‘palet eilaidd’ o liwiau ar y cyd â’r ‘palet sylfaenol’. Mae’r rhain yn deillio o’r Eiconau Math o Ddarparwr Gweithgareddau a ddatblygwyd yn ystod y prosiect hefyd (ac a ddangosir ar y dudalen gyferbyn).

Gellir defnyddio ‘palet trydyddol’ ymhellach gyda’r rhain – hwn yw palet gwreiddiol Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Mae cyfeiriadau at y rhain i’w gweld yn Atodiad B o Ganllawiau Brandio Arfordir a Chefn Gwlad Treftadaeth Gwlad Bro Morgannwg.

Palet sylfaenol – manylion lliwiau

C90 M55 Y45 K25

R28 G84 B102 # 1c5466

C43 M70 Y95 K20

R140 G82 B38 # 8c5226

C0 M40 Y100 K0

R247 G166 B0 # f7a600

C25 M60 Y85 K10

R183 G111 B52 # b76f34

C80 M10 Y45 K0

R18 G161 B154 # 12a19a

C15 M45 Y75 K0

R219 G152 B79 # db984f

C0 M65 Y100 K0

R238 G114 B2 # ee7202

C35 M79 Y79 K20

R151 G69 B53 # 974535

Copyright Vale of Glamorgan Council 2013

Appendix BVale of Glamorgan Heritage Coast and CountrysideBranding Guidelines

Created by:

October 2013

Gill Sans - Headline

Gill Sans - Sub Heading

Body Copy - Lorem ipsum dolores sit amet consecroit dolores sit amet lorem sipsum dolores sit amet consecrit dretaert attrium ertals ast. Lorem ipsum dolores sit amet consecroit dolores sit amet lorem sipsum dolores sit amet consecrit dretaert attrium ertals ast.

Coastal Colour Palette

Colour Palette Typefaces Imagery

Coast and Countryside Colour Palette

Gill sans matches existing design, is contemporary, clean, easily legible and doesn’t date easily.

Powerful and dramatic photography

Pantone 2975 C

Pantone 314 C

Pantone 7448 C

Pantone 676 C

Pantone 397 C

Pantone 405 C

Page 7: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

7NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

Math o Ddarparwr Gweithgaredd – set eiconauMae cyfres o eiconau sy’n dynodi themâu amrywiol gweithgareddau y gall trefnwyr eu darparu hefyd wedi’u datblygu. Mae’r rhain yn dilyn yr un arddull graffig a ddefnyddiwyd i gyfleu camau allweddol set eiconau’r cwricwlwm (sydd i’w gweld ar dudalen 9 yn y pecyn Darparu Tripiau Ysgol).

Palet eilraidd – manylion lliwiauCELFYDDYDAU A DIW

YLLIANT

CESTYLL, EGLWYSI

A THREFTADAETH

ARFORDIROEDD

PARCIAU GWLEDIG

A MANNAU GW

YRDD

FFERMIO A BW

YD

CHWARAEON

AC ANTUR

ARALL

C10 M100 Y50 K0

R214 G11 B82 # d60b52

C10 M50 Y80 K20

R192 G125 B56 # c07d38

C20 M100 Y60 K35

R147 G18 B52 # 931234

C0 M40 Y100 K0

R247 G166 B0 # f7a600

C80 M25 Y15 K0

R28 G148 B191 # 1c94bf

C35 M35 Y35 K0

R181 G165 B160 # b5a5a0

C35 M15 Y100 K0

R186 G187 B16 # babb10

Gwerthoedd a ddangosir ar gyfer...PRINT: Canran o inc (Cyan, Magenta, Yellow & BlacK)SGRIN: (Red, Green, Blue) & Hecsadegol #

Page 8: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

8 NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

CRYNODEB O ADNODDAU

ENW ADNODD CYNNWYS DEFNYDD

Pecyn Cymorth Darparu Tripiau Ysgol

Canllaw yw’r pecyn cymorth ar gyfer darparu tripiau ysgol ac mae’n ymdrin â’r canlynol:

• Cynllunio Sesiwn a Chynllunio Adnoddau • Cyfnodau Allweddol a’r Cwricwlwm • Cynllunio Busnesau • Iechyd a Diogelwch • Marchnata • Achredu • Cyngor i Ysgolion • Clybiau Brecwast, Ar ôl Ysgol a Gwyliau • Cysylltiadau Defnyddiol

P’un a ydych yn ystyried darparu trip ysgol am y tro cyntaf, neu os ydych yn ddarparwr profiadol, mae’r pecyn cymorth tripiau ysgol yn ganllaw hanfodol ar gyfer datblygu eich cynnig.

Mae’r pecyn cymorth yn cynnig llawer o gyngor ymarferol a dolenni i adnoddau a chysylltiadau defnyddiol.

Taflen(ni) Gweithgareddau

• Dalen glawr• Canfod a chofnodi – Atebion Ysgrifenedig

(Tudalen dempled Cwestiynau ag Atebion – testun rhydd)

• Canfod a Chofnodi – Atebion Gweledol (Tudalen dempled Cwestiynau ag Atebion – gofod ar gyfer arsylwadau/atebion darluniedig)

• Templed Cwestiwn ag Ateb Amlddewis• Taflen Waith – Templed tasg agored, gofod

ar gyfer gosod y dasg a dalen wag fawr ar gyfer ymateb

• Dywedwch wrthym am eich hoff ddarganfyddiad heddiw – delwedd llyfr i ysgrifennu ateb arno

• Tynnwch lun o’ch hoff ddarganfyddiad – delwedd o esel i lunio’r ateb arno

• Lluniwch gymeriad rhywun a fyddai’n... – ffrâm llun i lunio portread ynddo

• Dewiswch eich hoff fan a thynnwch lun o’r olygfa - y ddelwedd esel i lunio’r ateb arno

• Ysgrifennu cerdyn post yn disgrifio eich ymweliad – delwedd cerdyn post i ysgrifennu ateb arno

• Gwnewch fap – map

Gall y darparwr gwblhau’r ddalen glawr a dyma eich cyfle i nodi pa gyfnod allweddol a thema’r cwricwlwm y mae’r tasgau yn briodol ar eu cyfer.

Fel darparwr, gallwch ddewis pa rai o’r templedi dalenni gweithgaredd sy’n addas i’r dasg yr ydych am ei osod, a gellir addasu pob templed i greu gweithgaredd unigryw.

Efallai y byddwch yn dewis defnyddio’r holl dempledi fel bod gan yr ysgolion ystod o ddewisiadau, neu ychydig yn unig i weddu eich anghenion.

Gall sawl set o daflenni gweithgareddau gael eu golygu gan y darparwr i gyd-fynd ag amrywiaeth o gyfnodau allweddol a phynciau.

Mae’n ddefnyddiol rhestru’r holl adnoddau rydych wedi’u datblygu ar y Daflen Grynhoi fel y gallwch rannu hyn yn hawdd ag ysgolion sy’n ymweld.

Page 9: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

9NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

ENW ADNODD CYNNWYS DEFNYDD

Asesiad(au) Risg Mae dau dempled Asesiadau Risg.1. Darparwr i’w gwblhau2. Ysgol i’w gwblhau

Cynnwys y ddau i’w gwblhau: • Dalen glawr • Categorïau peryglus • Is-benawdau categorïau • Tebygolrwydd o niwed • Mesurau rheoli

Dylai’r Darparwyr gwblhau eu hasesiad risg eu hunain ac ystyried y risgiau i staff, eiddo, cyfarpar, arteffactau, da byw, tir ac ati. Dylai’r templedi eich helpu i ystyried yr holl gategorïau.

Mae’r ysgol sy’n ymweld yn gyfrifol am gwblhau ei hasesiad risg ei hun ar gyfer eu hymweliad, ond gallwch ddewis eu helpu drwy gwblhau rhai risgiau penodol i’r safle ar eu templed i’w hystyried.

Cynllun Sesiwn Mae cynllun y sesiwn yn eich helpu i fapio’ch diwrnod, meddyliwch amdano fel agenda, mae’n cynnwys: • Dalen glawr • Crynodeb, i blotio’r diwrnod mewn amser,

gweithgareddau ac adnoddau. • Nodiadau athrawon

Defnyddiwch y Cynllun Sesiwn fel agenda, rhannwch ef gyda’ch staff fel bod pawb yn glir beth sydd angen iddynt ei wneud, neu beth sy’n mynd ymlaen o’u cwmpas.

Mae’n debyg y bydd o ddefnydd i chi ei rannu gydag arweinydd y trip ysgol cyn eu hymweliad hefyd, mae tudalen wag yn y cefn i athrawon ychwanegu eu nodiadau eu hunain.

Papur a phennawd Templed llythyr gwag gyda logos Defnyddiwch y papur a phennawd hwn ar gyfer unrhyw ohebiaeth ysgrifenedig/drwy’r post gyda’r ysgol.

Ffurflen Archebu Un ddalen i nodi’r holl wybodaeth hanfodol wrth drefnu cadw lle i ysgol

Llenwch, ychwanegwch y manylion at eich dyddiadur cadw lle, a’i anfon i’r ysgol fel cadarnhad o’u harcheb.

Ffurflen Adborth Ffurflen ar ffurf tabl byr i arweinwyr ysgolion ei chwblhau ar ôl eu hymweliad

Mae bob amser yn dda cael adborth gan eich ysgolion sy’n ymweld fel y gallwch wella eich cynnig yn barhaus. Anfonwch y ffurflen hon drwy e-bost neu drwy’r post at arweinydd yr ysgol ar ôl eu hymweliad. Mae’n ffordd braf o gadw mewn cysylltiad ac yn dangos eich bod yn gwerthfawrogi eu cwsmeriaeth.

Gall y sylwadau sydd wedi’u llenwi hefyd roi tystebau cadarnhaol i chi y gallwch eu defnyddio ar eich gwefan, cyfryngau cymdeithasu neu ymgyrchoedd marchnata yn y dyfodol.

Page 10: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

10 NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

ENW ADNODD CYNNWYS DEFNYDD

Poster ‘Oeddech chi’n gwybod ein bod yn gallu darparu ar gyfer tripiau ysgol yma?’

Poster i’w arddangos yn eich sefydliad i ymwelwyr ei weld.

Ar gael hefyd mewn fformatau cyfryngau cymdeithasol.

Logo Tripiau Ysgol y Fro Logo Tripiau Ysgol y Fro ddwyieithog Mae’r logo’n ymddangos ar yr holl dempledi a’r adnoddau marchnata, ond gellir ei ddefnyddio hefyd ar wefannau a deunyddiau marchnata’r darparwyr i hyrwyddo eich cynnig tripiau ysgol.

Baneri hyrwyddo Logo a baner ar lein wedi’i frandio Ychwanegwch y rhain at eich gwefan i ddangos eich bod yn gallu darparu ar gyfer tripiau ysgol.

Hysbysebiadau Cyfres o hysbysebion i’w defnyddio yn y wasg brintiedig ac ar-lein

I raddau helaeth bydd y rhain yn cael eu defnyddio gan dîm twristiaeth Cyngor Bro Morgannwg i hyrwyddo’r Fro fel cyrchfan trip ysgol, ond fel darparwyr tripiau ysgol dylech ystyried ymgorffori’r rhain yn eich ymgyrchoedd marchnata eich hun, a chadw llygad ar sianeli cyfryngau gymdeithasol Ymweld â’r Fro a rhannu’r holl bostiadau Trip Ysgol y Fro.

Taflen Taflen i hyrwyddo tripiau ysgol y Fro i ysgolion Bydd hwn yn cael ei ddosbarthu i amrywiaeth o ysgolion yn y rhanbarth gan dîm twristiaeth Cyngor Bro Morgannwg, ond dylai’r rhain hefyd gael eu harddangos yn eich lleoliadau i ymwelwyr eu gasglu a hyrwyddo i’w hysgolion.

CRYNODEB O ADNODDAU

Page 11: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

11NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

NODIADAU...

Page 12: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

12 NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

NODIADAU CANLLAW CAM WRTH GAM I DDEFNYDDIO’R TEMPLEDI PDF

Mae cyfres o dempledi PDF wedi’u creu i’ch helpu i ddarparu ar gyfer trip ysgol hwyliog a llwyddiannus. Mae’r canllaw hwn yn dangos yr arfer gorau wrth eu defnyddio ac unrhyw wybodaeth dechnegol y bydd angen i chi ei wybod wrth eu llenwi, eu cadw a’u hargraffu.

Mae’r canllaw cam wrth gam hwn yn canolbwyntio ar y dempled PDF Taflen Weithgareddau, ond mae hefyd yn amlinellu nodweddion ychwanegol yn fras o dempledi eraill (tudalen 15).

VSTactivitySheetFull.pdf

*  Cliciwch ar yr eicon ffeil PDF hwn i lawrlwytho’r templed yn uniongyrchol o wefan Ymweld â’r Fro

VSTactivitySheetFull-YourName.pdf

CAM 1

⊲ Lawrlwythwch ffeil PDF y templed Taflen Weithgaredd o: www.visitthevale.com/SchoolTemplates

⊲ A’i arbed i’ch cyfrifiadur.

CAM 2

⊲ Copïwch y ffeil PDF ar eich cyfrifiadur a’i hail-enwi i gyd-fynd â’ch enw darparwr, gweithgaredd neu drip ysgol penodol.

Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych yn rhagweld cynnal tripiau ysgol eraill yn y dyfodol gyda lleoliadau neu weithgareddau gwahanol yn targedu amryw gwricwlwm neu faes llafur. Drwy wneud hynny, bydd gennych y templed gwag wrth law bob amser, yn barod i’w lenwi eto.

CAM 3

⊲ Agorwch eich ffeil PDF wedi’i hail-enwi gan ddefnyddio Adobe Acrobat Reader. Os nad oes gennych chi’r hyn wedi’i osod ar eich cyfrifiadur yn barod, gallwch ei lawrlwytho am ddim o: https://get.adobe.com/uk/reader/otherversions/

Wrth ddefnyddio’r ffeiliau templed, y ffordd orau o wneud yw i ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Acrobat Reader (ar gael ar gyfer eich cyfrifiadur neu Mac).

Page 13: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

13NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

CAM 4

⊲ Wrth agor y ffeil PDF, bydd y dudalen neu’r ddalen gyntaf (o gyfanswm o 12) yn ymddangos.

Y dudalen gyntaf hon yw’r daflen “crynodeb” lle gallwch ychwanegu gwybodaeth ddarparu cyffredinol yn ymwneud â’ch lleoliad a’ch gweithgareddau.

⊲ Byddwch yn sylwi ar gyfres o feysydd testun gwag i gofnodi eich gwybodaeth berthnasol – caiff y rhain eu dynodi gan yr ardaloedd lliw glas golau y tynnir sylw atynt (peidiwch â phoeni na fydd yr ardaloedd hyn yn ymddangos mewn unrhyw ddeunydd wedi’i brintio terfynol, fodd bynnag, bydd y testun y byddwch yn teipio ynddo yn ymddangos). Ffigwr A

⊲ Teipiwch eich ‘manylion cyswllt’ (yn y maes testun chwith uchaf) drwy glicio ac amlygu’r testun yn y man lliw glas golau. Ffigwr B

Pan fyddwch wedi gorffen teipio, cliciwch allan i ardal o’r PDF heb faes testun neu symudwch yn syth i’r un nesaf, drwy glicio i mewn i faes testun arall.

⊲ Bydd teipio eich ‘Enw darparwr’ (yn y maes testun dde uchaf) yn dyblygu ac yn rhoi’r un wybodaeth hon yn awtomatig i’r 11 tudalen neu ddalen sy’n weddill yn y PDF – felly byddwch yn falch o glywed mai dim ond unwaith y bydd angen i chi lenwi hwn! Ffigwr C

⊲ Teipiwch yr wybodaeth arall sydd ei hangen yn y meysydd testun sy’n weddill.

⊲ Mae hwn yn cwblhau’r daflen “crynodeb”. Mae’n syniad da i gadw cynnydd eich ffeil PDF nawr. I wneud hyn, rhaid i chi yn gyntaf glicio allan o’r maes testun rydych newydd ei lenwi. Byddwch wedyn yn gweld yr eicon disg llwyd yn y bar yn newid i gryfder llawn...

Ar Mac: gallwch glicio hyn (neu ddefnyddio Command+S neu “Save” o’r gwymplen “File” o Acrobat Reader a bydd yn ysgrifennu yn awtomatig at y ffeil rydych chi wedi bod yn gweithio arni.

Ar PC: bydd angen i chi “Save as” – pan ofynnir i chi, dod o hyd i’r ffeil bresennol (rydych chi wedi bod yn gweithio arni) a’i throsysgrifo i’r un lleoliad.

Ffigwr A

Ffigwr B

Ffigwr C

Page 14: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

14 NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

NODIADAU CANLLAW CAM WRTH GAM I DDEFNYDDIO’R TEMPLEDI PDF

CAM 5

⊲ Sgroliwch neu bwyswch page down i’r ddalen nesaf yn y PDF (tudalen 2).

Dyma’r daflen weithgaredd “Canfod a Chofnodi Atebion Ysgrifenedig”.

Unwaith eto, teipiwch y wybodaeth berthnasol yn y meysydd testun lliw glas golau wedi’u uwcholeuo ar gyfer pob ‘Rhif Tasg’ a hefyd y maes testun gwag oddi tano, a ddefnyddir i ddisgrifio pob tasg. Ffigwr D

Mae’r rhan a gaiff ei dyfarnu ar ochr dde’r ddalen i lenwi ar ôl i’r ddalen gael ei hargraffu.

⊲ Y ddalen nesaf yn y PDF (tudalen 3) yw’r ddogfen “Canfod a Chofnodi Atebion Gweledol” ac mae’n gweithio yn yr union ffordd uchod.

Y tro hwn, mae’r maes gwag ar ochr dde’r ddalen i dynnu llun ynddo ar ôl i’r ddalen gael ei hargraffu.

CAM 6

⊲ Y ddalen nesaf yn y PDF (Tudalen 4) yw’r “Cwis Amlddewis”.

Yma mae angen i chi deipio ym mhob ‘Rhif cwestiwn’, pob cwestiwn (yn y maes testun gwag oddi tano) a chyfres o 4 ateb posib yn y meysydd testun a farciwyd ‘A, B, C, a D’. Ffigwr E

Yna bydd y myfyrwyr yn ticio pa ateb maen nhw’n meddwl yw’r un cywir unwaith y bydd y ddalen wedi’i hargraffu.

⊲ Nid oes angen llenwi ar daflenni 6–12 cyn eu hargraffu a’u trosglwyddo i’ch myfyrwyr. Mae’r rhain yn cynnwys cyfres o fylchau ac elfennau cefndir iddynt ysgrifennu a gwneud lluniau ynddynt.

Ffigwr D

Ffigwr E

COFIWCH GADW EICH PDF YN BARHAUS WRTH I CHI SYMUD YMLAEN A DIM OND ARGRAFFU’R TAFLENNI RYDYCH CHI’N MYND I’W DEFNYDDIO

Page 15: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

15NODIADAU CANLLAW A THEMPLEDI AR GYFER YSGOLION Y FRO 2019 ♦ www.ymweldarfro.com/teithiauysgol

Taflen Weithgareddau – YCHWANEGIADAU⊲ Mae templed y daflen weithgareddau hefyd wedi cael ei

rannu’n ffeiliau PDF unigol un tudalen – ar gyfer achlysuron pryd y gallech fod yn dymuno cynnwys gweithgareddau dethol yn unig neu wneud mwy nag un o’r un gweithgaredd.

Dangosir enwau ffeil y ffeiliau PDF unigol o’r Daflen Weithgareddau 12 tudalen lawn gyferbyn, gan groesgyfeirio at ba dudalen y maent yn ymddangos yn y ffeil: VSTactivitySheetFull.pdf

Nodweddion a ddefnyddir yn y ffeiliau templed PDF eraillMae rhai nodweddion eraill wedi’u defnyddio mewn ffeiliau’r templed PDF eraill sydd ar gael. Ceir esboniad cryno o’r rhain isod:

⊲ Cwymplenni:

Yma gallwch ddewis un opsiwn YN UNIG o’r gwymplen. Dewiswch yr un sy’n disgrifio eich ateb orau. Ffigwr F

⊲ Blychau Ticio:

Er y gallwch ddewis nifer o flychau i’w ticio (ar yr un rhes) – argymhellir eich bod yn trin hwn fel dewis lluosog a dim ond yn dewis un sy’n disgrifio eich ateb orau. Ffigwr G

Ffigwr F

Ffigwr G

VSTactivitySheetSummary.pdf Page 1

VSTactivitySheetWritten.pdf Page 2

VSTactivitySheetVisual.pdf Page 3

VSTactivitySheetMultiple.pdf Page 4

VSTactivitySheetGeneral.pdf Page 5

VSTactivitySheetOutcome.pdf Page 6

VSTactivitySheetDrawing.pdf Page 7

VSTactivitySheetNoteBook.pdf Page 8

VSTactivitySheetPortrait.pdf Page 9

VSTactivitySheetLandscape.pdf Page 10

VSTactivitySheetPostCard.pdf Page 11

VSTactivitySheetMap.pdf Page 12

Page 16: TRIPIAU YSGOL Y FRO - Vale of Glamorgan...ARFORDIROEDD PARCIAU GWLEDIG A MANNAU GWYRDD FFERMIO A BWYD CHWARAEON AC ANTUR ARALL C10 M100 Y50 K0 R214 G11 B82 # d60b52 C10 M50 Y80 K20

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gyngor Bro Morgannwg a Rhaglen Ddatblygu Wledig Cymru 2014–2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

www.ymweldarfro.com/teithiauysgol