Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ysgolion Babanod ac Iau Mynydd Cynffig
Cynnig i gau Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig ar 31 Awst 2015 ac ymestyn ystod oedran Ysgol Iau Mynydd Cynffig o 7-11 i 3-11 er mwyn creu ysgol gynradd pob oed, yn weithredol o 1 Medi 2015.
Dogfen ymgynghori
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2015
Camau gweithredu: Ymatebion erbyn 12 Mawrth 2015
Rhif Ffôn: (01656) 642 617
E-bost: [email protected]
Ar-lein: www.bridgend.gov.uk/consultation
www.bridgend.gov.uk
26
www.bridgend.gov.uk
www.Pen-y-bont ar Ogwr.gov.uk
Cynnwys
Trosolwg3Y cynnig4Yr hyn y mae'r cynnig yn ei olygu'n ymarferol4Pam mae’r cynnig hwn yn cael ei wneud?5Corff llywodraethu6Materion staffio6Beth yw'r manteision os bydd y cynnig yn cael ei weithredu?6Cyllid8Beth yw'r anfanteision posibl os bydd y cynnig yn cael ei weithredu?8Manylion yr ysgolion yr effeithir arnynt9Tir ac adeiladau12Ystyriaethau eraill14Asesu Effaith14Asesu'r Effaith ar y Gymuned14Yr ymgynghoriad a'r broses statudol16Ffurflen18Atodiad20
Trosolwg
Cynhelir yr ymgynghoriad hwn i wahodd eich barn ar y cynnig i gau Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig o 31 Awst ac ymestyn ystod oedran Ysgol Iau Mynydd Cynffig o 7-11 i 3-11 i greu ysgol gynradd pob oed o 1 Medi 2015.
Ymgynghorir ag aelodau staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni'r ysgol, aelodau o'r gymuned leol ac unrhyw bartïon eraill â buddiant.
Sut i ymateb
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn cychwyn ar 30 Ionawr 2015 ac yn cau ar 12 Mawrth 2015.
Cewch ymateb neu ofyn cwestiynau ychwanegol yn y ffyrdd canlynol;
Rhif Ffôn: (01656) 642 617
E-bost: [email protected]
Ar-lein: Cliciwch yma neu ewch i www.bridgend.gov.uk/consultation
Post: Y Gyfarwyddiaeth Plant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Mae croeso i chi wneud cais am gopi o'r ddogfen hon mewn gwahanol fformat.
Diogelu Data
Sut y byddwn yn defnyddio'r farn a'r wybodaeth a roddwch inni.
Bydd staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n rhan o'r broses ymgynghori yn gweld pob ymateb a dderbynnir yn ei gyfanrwydd. Mae'n bosibl y bydd adrannau eraill o fewn y cyngor neu aelodau'r bwrdd gwasanaethau lleol yn gweld yr wybodaeth hefyd er mwyn cynorthwyo i wella'r gwasanaethau a ddarperir.
Gallai’r cyngor hefyd ddefnyddio'r wybodaeth a gesglir er mwyn cyhoeddi dogfennau dilynol sy'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gysylltiedig â'r ymgynghoriad hwn. Fodd bynnag ni fydd y cyngor byth yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol megis enwau a chyfeiriadau a allai olygu bod modd adnabod unigolyn penodol.
Os nad ydych chi eisiau i'ch barn gael ei chyhoeddi, nodwch hynny yn eich ymateb.
Dogfennau cysylltiedig
I gael mwy o wybodaeth am ymgynghoriadau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu sut i ymuno â'n Panel Dinasyddion.
Ewch i: www.bridgend.gov.uk/CitizensPanel
Y cynnig
Er mwyn creu ysgol pob oed, cynigir cau Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig fel sefydliad ar wahân a gwneud addasiad a reoleiddir i Ysgol Iau Mynydd Cynffig er mwyn creu ysgol gynradd i blant 3-11 oed. Y Nifer Derbyn Cyhoeddedig ar gyfer yr ysgol fyddai 47 a nifer y lleoedd meithrin fyddai 67. Capasiti’r ysgol ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 11 oed fydd 333. Byddai'r ddarpariaeth ar gyfer plant oed babanod yn parhau i weithredu ar ei safle presennol hyd nes y byddai modd cael lle iddi ar yr un safle â'r ddarpariaeth iau. Mae Ysgol Gynradd Cynffig yn un o gynlluniau Band A Rhaglen Foderneiddio Ysgolion yr awdurdod sydd wedi derbyn 'cymeradwyaeth mewn egwyddor' gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Er mwyn bwrw ymlaen â’r cynnig hwn mae angen cynnal ymgynghoriad gydag aelodau staff, rhieni, disgyblion, partïon â buddiant a'r corff llywodraethu fel cam cyntaf yn y broses statudol. Os cwblheir y broses, byddai Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig yn cau fel sefydliad ar wahân ar 31 Awst 2015 a byddai Ysgol Iau Mynydd Cynffig yn dod yn ysgol gynradd i blant 3-11 oed ar 1 Medi 2015.
Yr hyn y mae'r cynnig yn ei olygu'n ymarferol
Os derbynnir y cynllun, byddai'n golygu:
· bod yr ysgol gynradd yn gweithredu ar ddau safle gan ddefnyddio adeiladau presennol a safleoedd Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig ac Ysgol Iau Mynydd Cynffig;
· mai un pennaeth fyddai;
· mai un corff llywodraethu fyddai, sef corff llywodraethu presennol Ysgol Iau Mynydd Cynffig, ac y byddai’n cymryd cyfrifoldeb dros yr ysgol gynradd newydd;
· bod cyllideb Ysgol Iau Mynydd Cynffig yn cael ei chynyddu er mwyn ariannu costau gweithredu fel ysgol gynradd trwy ymestyn ei darpariaeth i gynnwys darpariaeth oed meithrin a babanod; yn gyffredinol byddai arian yn cael ei arbed o’i gymharu â chost gweithredu dwy ysgol ar wahân.
Pam mae’r cynnig hwn yn cael ei wneud?
Ym mis Medi 2006, mabwysiadodd y cyngor bolisi o ddarparu dilyniant addysg o 3 i 11 oed pan fo'n bosibl. Yn yr un ddogfen bolisi, sefydlwyd 5 egwyddor allweddol a fyddai’n cyfrannu at drefnu a moderneiddio ein hysgolion:
· Ymrwymiad i safonau uchel a rhagoriaeth yn y ddarpariaeth;
· Cyfle cyfartal, er mwyn i gyfleoedd dysgu o ansawdd fod ar gael i bob disgybl, pa ysgol bynnag y maent yn ei mynychu;
· Ysgolion cynhwysol, sy'n darparu ar gyfer anghenion dysgu eu disgyblion i gyd;
· Ysgolion bro, lle mae'r ysgol yn cysylltu'n weithredol â'i chymuned leol;
· Gwerth am arian.
Mae'r Fframwaith Polisi a Chynllunio'n nodi 13 maes lle y dylid rhoi'r egwyddorion ar waith. Mae'r rhai sy'n arbennig o berthnasol yng nghyd-destun y cynnig hwn yn ymwneud â maint ysgolion cynradd (er mwyn sicrhau bod holl ysgolion cynradd Pen-y-bont ar Ogwr yn ddigon mawr i sicrhau bod holl amrediad y ddarpariaeth ar gael) a gwerth am arian, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd (lleihau'r bwlch rhwng y ddarpariaeth fwyaf a lleiaf costus ar hyn o bryd).
Mae'r polisi o greu darpariaeth pob oed i blant 3 - 11 oed wedi ei weithredu'n llwyddiannus.
Mae'r cynnig hwn yn gyfle i unioni trefniadau rheoli'r ysgolion a dod â mwy o ddilyniant i'r profiad addysgol trwy greu darpariaeth pob oed dan reolaeth un pennaeth, ond ar fwy nag un safle.
Mae Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig 0.3 milltir o Ysgol Iau Mynydd Cynffig. Ym mis Medi 2014 roedd 191 o ddisgyblion ar y gofrestr yn Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig ac roedd 201 o ddisgyblion ar y gofrestr yn Ysgol Iau Mynydd Cynffig. Nifer Derbyn Cyhoeddedig yr Ysgol Fabanod yw 49 a’r nifer ar gyfer yr Ysgol Iau yw 46. Ym mis Medi 2014, roedd 57% o ddisgyblion Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig a 25.5% o ddisgyblion Ysgol Iau Mynydd Cynffig yn blant o’r tu allan i'r dalgylch.
Fel cynnig gwahanol, gallai'r Cyngor ddewis 'gwneud dim' a pheidio â sefydlu ysgol gynradd. Fodd bynnag, mae’n amlwg na fyddai manteision y ddarpariaeth gynradd pob oed (fel yr eglurir yn yr adran 'Beth yw'r manteision os bydd y cynnig yn cael ei weithredu?' isod) yn cael eu gwireddu wedyn.
Corff llywodraethu
Byddai corff llywodraethu Ysgol Iau Mynydd Cynffig yn dod yn gorff llywodraethu'r ysgol gynradd newydd.
Materion staffio
Byddai'r cynnig, pe byddai'n cael ei weithredu, yn golygu gostwng y cyflenwad staffio o un swydd pennaeth. O ran yr aelodau staff addysgu a'r aelodau nad ydynt yn staff addysgu, mae angen penderfynu ar yr angen er mwyn i'r ysgol weithredu ar fwy nag un safle. Y corff llywodraethu fyddai'n gyfrifol am y strwythur staffio. Byddai'r strwythur yn cael ei bennu gan anghenion addysgol yr ysgol a'r gyllideb sydd ar gael, yn bennaf.
Beth yw'r manteision os bydd y cynnig yn cael ei weithredu?Ansawdd a safonau mewn addysgDeilliannau (safonau a lles);
Mae Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig wedi cynnal safonau perfformiad uchel iawn dros y tair blynedd diwethaf ar y lefel gyrhaeddiad ddisgwyliedig. Ar y lefel hon mae perfformiad yr ysgol yn dda iawn o'i gymharu ag ysgolion â nifer debyg o ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim. Mae tueddiad cryf yn yr ysgol hefyd o berfformiad ar lefel uwch na'r disgwyl. Ar y lefel hon mae'r ysgol wedi bod yn uwch na chanolrif yr ysgolion â nifer debyg o ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, o ran llythrennedd, iaith a chyfathrebu a datblygiad mathemategol.
Mae presenoldeb yn cynyddu hefyd (sef y dangosydd lles allweddol) o 92.6% yn 2013 i 93.5% yn 2014.
Mae perfformiad Ysgol Iau Mynydd Cynffig yn amrywio ar y lefel gyrhaeddiad ddisgwyliedig. Mae'r ysgol yn perfformio'n dda iawn ar lefel uwch na'r disgwyl. Mae pethau’n gwella yn gyffredinol gyda pherfformiad da o'i gymharu ag ysgolion â nifer debyg o ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.
Mae presenoldeb yn cynyddu hefyd (sef y dangosydd lles allweddol) o 93.4% yn 2013 i 94.6% yn 2014.
Perfformiad y gorffennol yw'r dangosydd gorau o berfformiad y dyfodol. Felly rydym ni'n disgwyl y bydd safonau a lles yn parhau i wella yn sgil cyfuno'r Ysgol Fabanod a'r Ysgol Iau.
Darpariaeth (profiadau dysgu, addysgu, gofal, cymorth ac arweiniad, ac amgylchedd dysgu);
Mae darpariaeth yn Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig ac Ysgol Iau Mynydd Cynffig yn dda ac wedi bod yn dda am y tair blynedd ddiwethaf. Caiff hyn ei gofnodi yn adolygiad hunanarfarnu'r ysgol ac mae’r cynghorydd herio wedi ei ddilysu drwy arsylwi gwersi, cynnal cyfweliadau llais â disgyblion ac archwilio gwaith fel sylfaen dystiolaeth.
Perfformiad y gorffennol yw'r dangosydd gorau o berfformiad y dyfodol. Felly rydym ni'n disgwyl y bydd y ddarpariaeth yn parhau i wella yn sgil cyfuno'r Ysgol Fabanod a'r Ysgol Iau.
Mae’r broses o bontio'r Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2 yn debygol o wella yn sgil cyfuno Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig ac Ysgol Iau Mynydd Cynffig. Y rheswm yw y bydd yn haws i athrawon y ddau gyfnod arsylwi’r addysgu a’r dysgu, bydd y system ar gyfer olrhain cynnydd yn fwy cyson, hwylusir y prosesau asesu a safoni ar y cyd, bydd hyfforddiant ar y cyd yn golygu bod yr addysgu a'r dysgu yn fwy cyson i'r disgyblion, a bydd yr arbedion maint yn caniatáu ar gyfer defnyddio a rhannu adnoddau'n fwy effeithiol, gan gynnwys adnoddau staffio. Felly disgwylir y bydd y gallu i gyflwyno amrediad llawn y cwricwlwm yn gwella.
Arweinyddiaeth a rheolaeth (arweinyddiaeth, gwella ansawdd, gwaith partneriaeth a rheoli adnoddau);
Mae’r gallu i wella yn elfen hanfodol o arweinyddiaeth a rheolaeth, ac mae'r elfen honno’n dda yn y ddwy ysgol. Felly nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y ceir effaith negyddol yn sgil uno'r ddwy ysgol. Yn wir, mae'r dystiolaeth yn awgrymu y byddai safon arweinyddiaeth a rheolaeth yn parhau'n dda a byddem yn disgwyl i’r broses o uno’r ddwy ysgol gael ei rheoli'n dda, gan ychwanegu at ansawdd yr addysg a pharhau i godi'r safonau.
Cyllid
O ganlyniad i'r cynnig, byddai lleiafswm o £71,926 yn cael ei arbed yn flynyddol yn y Gyllideb Ddirprwyedig Ysgolion, yn amodol ar werthoedd y Cyllid Fformwla a ddyrennir ar gyfer 2015-16. Fodd bynnag, wynebir rhai costau ychwanegol tra bydd yr ysgol yn gweithredu, i bob pwrpas, ar wahanol safleoedd. Bydd angen talu'r costau hynny o'r lwfans y bydd yr ysgol yn ei dderbyn fel rhan o'i fformiwla ariannu am ei bod ar ddau safle, sef £25,000 ar hyn o bryd. Mae'n bosibl y bydd cyfle i'r ysgol arbed rhywfaint ar gostau rhedeg ond hyd nes y bydd y pennaeth a'r corff llywodraethu wedi gallu asesu'r newidiadau y mae angen eu gwneud i'r sefydliad, nid oes modd mesur y costau na'r arbedion hynny'n union.
Byddai costau sefydlu Ysgol Gynradd newydd Mynydd Cynffig ar un safle yn cael eu talu gan raglen gyfalaf y cyngor a gafodd ei chymeradwyo ym mis Chwefror 2012, a chan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Mae 'cymeradwyaeth mewn egwyddor' wedi ei rhoi i hynny. Yn ddibynnol ar ganlyniad y broses statudol, bydd yr awdurdod yn symud ymlaen â'r gweithdrefnau achos busnes angenrheidiol yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
Beth yw'r anfanteision posibl os bydd y cynnig yn cael ei weithredu?
Mae perygl y byddai'n well gan rai rhieni gael addysg i'w plant mewn ysgol fabanod ac ysgol iau ar wahân. Mae rhieni wedi arfer ymwneud â dau bennaeth a byddai hyn yn amlwg yn newid pe byddai'r cynnig yn cael ei weithredu. Fodd bynnag, dylid cofio y ceir ysgolion cynradd pob oed eraill yn yr awdurdod a bod y rhain yn gweithredu'n effeithiol iawn. Mae penaethiaid ac aelodau staff yn sicrhau bod y plant yn ddiogel ac yn hapus er mwyn gweithio hyd eithaf eu potensial drwy drefniadau rheoli mewnol a threfn dosbarthiadau mewn ysgolion o'r fath.
Manylion yr ysgolion yr effeithir arnynt
Mae'r ysgolion cymunedol cyfrwng Saesneg canlynol wedi eu henwi fel ysgolion y mae’r cynnig yn effeithio arnynt yn uniongyrchol neu’n debygol o effeithio arnynt:
Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig
Commercial StreetMynydd CynffigPen-y-bont ar OgwrCF33 6DN
Ysgol Iau Mynydd CynffigPwllygarth StreetMynydd Cynffig
Pen-y-bont ar Ogwr
CF33 6ET
Ysgol Gynradd Cefn Cribwr Cefn RoadCefn CribwrPen-y-bont ar Ogwr CF32 0AW
Ysgol Gynradd y Pîl Pyle Inn WayY PîlPen-y-bont ar Ogwr CF33 6AB
Ysgol Gynradd Afon y Felin
Heol y ParcGogledd CorneliPen-y-bont ar Ogwr CF33 4PA
Ysgol Gynradd Corneli Hall DriveGogledd CorneliPen-y-bont ar OgwrCF33 4LW
Ysgol Gyfun CynffigEast AvenueMynydd CynffigPen-y-bont ar OgwrCF33 6NP
Mae'r ysgol gymunedol cyfrwng Cymraeg ganlynol wedi ei henwi fel un y mae’r cynnig yn effeithio arni’n uniongyrchol neu’n debygol o effeithio arni:
Ysgol y Ferch o’r SgerGreenfield TerraceGogledd CorneliPen-y-bont ar OgwrCF33 4LW
Mae'r tabl canlynol yn rhoi manylion am y niferoedd ar y gofrestr ym mhob un o'r ysgolion ym mis Ionawr 2015 a'r ffigyrau a gofnodwyd yn y pedwar cyfrifiad blynyddol blaenorol.
Ion 2015
Ion 2014
Ion 2013
Ion 2012
Ion 2011
Ll/A
Rh/A
Ll/A
Rh/A
Ll/A
Rh/A
Ll/A
Rh/A
Ll/A
Rh/A
Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig
192
0
193
14
193
17
191
11
185
13
Ysgol Iau Mynydd Cynffig
202
0
198
0
176
0
187
0
179
0
Ysgol Gynradd Cefn Cribwr
152
9
161
5
149
3
138
0
140
0
Ysgol Gynradd y Pîl
225
0
229
11
238
6
232
7
249
10
Ysgol Gynradd Afon y Felin
102
0
95
0
103
0
102
0
101
0
Ysgol Gynradd Corneli
332
0
312
0
291
0
288
0
294
0
Ysgol y Ferch o’r Sger
247
0
254
2
239
0
240
0
229
0
Ysgol Gyfun Cynffig
648
0
676
0
689
0
721
0
743
0
Mae'r tabl canlynol yn rhoi manylion am y nifer ar y gofrestr yn y meithrinfeydd ym mhob un o'r ysgolion yn 2015 a'r ffigyrau a gofnodwyd gan y feithrinfa yn y pedwar cyfrifiad blynyddol blaenorol.
Ion 2015
Ion 2014
Ion 2013
Ion 2012
Ion 2011
Ll/A
Rh/A
Ll/A
Rh/A
Ll/A
Rh/A
Ll/A
Rh/A
Ll/A
Rh/A
Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig
52
0
48
14
45
17
44
11
46
13
Ysgol Gynradd Cefn Cribwr
17
7
24
5
20
3
20
0
23
0
Ysgol Gynradd y Pîl
25
0
22
11
28
6
26
7
30
10
Ysgol Gynradd Afon y Felin
14
0
22
0
19
0
21
0
15
0
Ysgol Gynradd Corneli
43
0
40
0
32
0
32
0
28
0
Ysgol y Ferch o’r Sger
33
0
42
2
30
0
30
0
33
0
Mae'r tabl canlynol yn rhoi'r rhagamcaniad diweddaraf o nifer y disgyblion yn Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig am y pum mlynedd nesaf.
Blwyddyn
M1
M2
Derbyn
B1
B2
Cyfanswm
Cyfanswm gan gynnwys Datblygiadau Tai
Ionawr
2-3 oed
3-4 oed
4-5 oed
5-6 oed
6-7 oed
2-7 oed
2-7
2016
14
46
63
55
51
229
2017
14
46
62
64
57
243
2018
14
46
59
63
57
249
2019
14
46
60
60
66
246
247
2020
14
46
60
61
63
244
245
Mae'r tabl canlynol yn rhoi'r rhagamcaniad diweddaraf o nifer y disgyblion yn Ysgol Iau Mynydd Cynffig am y pum mlynedd nesaf.
Blwyddyn
Blwyddyn 3
Blwyddyn 4
Blwyddyn 5
Blwyddyn 6
Cyfanswm
Cyfanswm gan gynnwys Datblygiadau Tai
Ion
7-8 oed
8-9 oed
9-10 oed
10-11 oed
7-11 oed
7-11
2016
51
51
60
48
210
2017
52
53
54
65
224
2018
58
54
55
58
225
2019
68
60
56
60
244
246
2020
67
70
62
61
260
262
Os bydd y cynigion yn cael eu gweithredu, mae'r wybodaeth isod yn rhoi’r rhagamcanion ar gyfer yr ysgol gynradd arfaethedig, yn seiliedig ar y polisi Blynyddoedd Cynnar presennol.
Blwyddyn
M1 ac M2
Derbyn
B1
B2
B3
B4
B5
B6
Cyfanswm
Cyfanswm gan gynnwys Datblygiadau Tai
Ion
2-4
4-5
5-6
6-7
7-8
8-9
9-10
10-11
2-11
2-11
2016
60
63
55
51
51
51
60
48
439
2017
60
62
64
57
52
53
54
65
467
2018
60
59
63
67
58
54
55
58
474
2019
60
60
60
66
68
60
56
60
490
493
2020
60
60
61
63
67
70
62
61
504
507
Mae'r tablau canlynol yn rhoi’r rhagamcanion pum mlynedd diweddaraf a gynhaliwyd gan yr awdurdod ar gyfer ysgolion sydd wedi eu henwi fel ysgolion y mae’r cynnig yn effeithio arnynt yn uniongyrchol neu’n debygol o effeithio arnynt.
Ysgol Gynradd Afon y Felin
Blwyddyn
M1
M2
Derbyn
B1
B2
B3
B4
B5
B6
Cyfanswm
Ion
2-3
3-4
4-5
5-6
6-7
7-8
8-9
9-10
10-11
2-11
2016
5
15
26
23
7
12
13
17
9
127
2017
5
15
32
27
23
7
14
12
18
153
2018
5
15
25
33
25
23
8
12
13
159
2019
5
15
27
26
31
25
25
7
13
174
2020
5
15
27
28
24
31
28
22
7
187
Ysgol Gynradd Cefn Cribwr
Blwyddyn
M1
M2
Derbyn
B1
B2
B3
B4
B5
B6
Cyfanswm
Ion
2-3
3-4
4-5
5-6
6-7
7-8
8-9
9-10
10-11
2-11
2016
2
22
22
27
21
16
23
18
25
176
2017
2
22
22
22
27
19
16
22
19
171
2018
2
22
24
22
22
23
19
15
24
173
2019
2
22
24
24
22
20
24
18
16
172
2020
2
22
24
24
24
20
20
23
20
179
Ysgol Gynradd Corneli
Blwyddyn
M2
Derbyn
B1
B2
B3
B4
B5
B6
Cyfanswm
Cyfanswm gan gynnwys Tai
Ion
3-4
4-5
5-6
6-7
7-8
8-9
9-10
10-11
2-11
2-11
2016
34
39
42
33
39
33
48
33
301
307
2017
34
47
39
41
34
41
32
46
314
320
2018
34
36
47
38
42
35
39
30
301
307
2019
34
41
36
46
39
44
34
38
312
318
2020
34
41
41
35
47
41
42
33
314
320
Ysgol Gynradd y Pîl
Blwyddyn
M1
M2
Derbyn
B1
B2
B3
B4
B5
B6
Cyfanswm
Ion
2-3
3-4
4-5
5-6
6-7
7-8
8-9
9-10
10-11
2-11
2016
8
26
28
36
30
30
24
31
32
245
2017
8
26
28
29
35
30
27
25
29
237
2018
8
26
26
29
28
35
27
29
24
232
2019
8
26
29
27
28
28
32
28
27
233
2020
8
26
29
30
26
28
25
33
27
232
Ysgol Gynradd y Ferch o’r Sger
Blwyddyn
M1
M2
Derbyn
B1
B2
B3
B4
B5
B6
Cyfanswm
Ion
2-3
3-4
4-5
5-6
6-7
7-8
8-9
9-10
10-11
2-11
2016
1
34
36
39
26
29
30
36
33
264
2017
1
34
38
33
38
26
29
30
36
265
2018
1
34
34
35
32
38
26
29
30
259
2019
1
34
38
32
34
32
38
26
29
264
2020
1
34
38
35
31
34
32
38
26
269
Ysgol Gyfun Cynffig
Blwyddyn
B7
B8
B9
B10
B11
B12
B13
Cyfanswm
Cyfanswm gan gynnwys tai
Ion
11-12
12-13
13-14
14-15
15-16
16-17
17-18
11-18
11-18
2016
115
110
108
111
123
63
39
669
675
2017
115
116
110
112
114
70
34
671
677
2018
133
116
116
114
115
65
38
697
703
2019
117
134
116
121
117
65
35
705
713
2020
117
118
134
121
123
67
35
715
723
Tir ac adeiladau
Mae'r tabl canlynol yn nodi nifer y lleoedd ac asesiad o ansawdd yr adeiladau yn ôl Cynllun Rheoli Asedau a Chynlluniau Hygyrchedd yr ysgolion a enwir fel rhai y mae’r cynnig yn effeithio arnynt yn uniongyrchol neu'n debygol o effeithio arnynt. Caiff niferoedd y lleoedd eu cyfrif yn ôl Cylchlythyr Rhif 21/2011 Llywodraeth Cymru ‘Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru’.
Ysgol
Lleoedd (4-11)
Ansawdd yr adeiladau
Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig
168
67 o leoedd meithrin
Cyflwr cyffredinol C – gwael ac yn dangos diffygion mawr a/neu ddim yn gweithredu'n unol â'r bwriad.
Y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (DDA): C – anhygyrch i raddau helaeth - ddim yn cydymffurfio â gofynion y DDA ond gallai gydymffurfio pe gwneid gwaith helaeth.
Ysgol Iau Mynydd Cynffig
165
Cyflwr cyffredinol: C– gwael ac yn dangos diffygion mawr a/neu ddim yn gweithredu'n unol â'r bwriad.
DDA: C – anhygyrch i raddau helaeth – ddim yn cydymffurfio â gofynion y DDA ond gallai gydymffurfio pe gwneid gwaith helaeth.
Ysgol Gynradd Afon y Felin
96
37 o leoedd meithrin
Cyflwr cyffredinol: B – boddhaol, gweithredu’n unol â'r bwriad ond yn dangos dirywiad bychan.
DDA: C – anhygyrch i raddau helaeth – ddim yn cydymffurfio â gofynion y DDA ond gallai gydymffurfio pe gwneid gwaith helaeth.
Ysgol Gynradd Cefn Cribwr
115
27 o leoedd meithrin
Cyflwr cyffredinol: B – boddhaol, gweithredu’n unol â'r bwriad ond yn dangos dirywiad bychan.
DDA: B – Hygyrch i raddau helaeth. Cydymffurfio i raddau helaeth â'r DDA ond rhywfaint o waith angen ei wneud o hyd.
Ysgol Gynradd Corneli
260
44 o leoedd meithrin
Cyflwr cyffredinol: B – boddhaol, gweithredu’n unol â'r bwriad ond yn dangos dirywiad bychan.
DDA: C – anhygyrch i raddau helaeth – ddim yn cydymffurfio â gofynion y DDA ond gallai gydymffurfio pe gwneid gwaith helaeth.
Ysgol Gynradd y Pîl
192
47 o leoedd meithrin
Cyflwr cyffredinol: B – boddhaol, gweithredu’n unol â'r bwriad ond yn dangos dirywiad bychan.
DDA: C – anhygyrch i raddau helaeth – ddim yn cydymffurfio â gofynion y DDA ond gallai gydymffurfio pe gwneid gwaith helaeth.
Ysgol y Ferch o’r Sger
229
23 o leoedd meithrin
Cyflwr cyffredinol: B – boddhaol, gweithredu’n unol â'r bwriad ond yn dangos dirywiad bychan.
DDA: C – anhygyrch i raddau helaeth – ddim yn cydymffurfio â gofynion y DDA ond gallai gydymffurfio pe gwneid gwaith helaeth.
Ysgol Gyfun Cynffig
1013
Cyflwr cyffredinol: B – boddhaol, gweithredu’n unol â'r bwriad ond yn dangos dirywiad bychan.
DDA: yn disgwyl arolwg
Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu, byddai adeiladau a safleoedd presennol Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig and Ysgol Iau Mynydd Cynffig yn dal i gael eu defnyddio hyd nes y gall y ddarpariaeth ddod ynghyd ar un safle. O ganlyniad, nid oes angen trosglwyddo na chael gwared ag unrhyw dir o bwys o ganlyniad i'r cynnig hwn.
Ystyriaethau eraill
Byddai'r adeiladau a'r safleoedd presennol yn parhau i weithredu yn eu mannau presennol yn sgil y cynnig hyd nes y bydd modd iddynt uno ar un safle yn ardal Mynydd Cynffig. O'r herwydd, ni ragwelir y byddai unrhyw newidiadau i drefniadau teithio'r dysgwyr nac unrhyw effaith ar hygyrchedd y ddarpariaeth pe byddai’r cynnig yn cael ei weithredu.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fyddai awdurdod derbyn ysgol gynradd arfaethedig Mynydd Cynffig. Byddai’r trefniadau derbyn yn gyson â'r hyn a nodir yn y llyfryn 'Dechrau yn yr Ysgol – Arweiniad i Bolisi a Threfniadau Derbyn Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Ysgolion'.
Rhoddir crynodebau o adroddiadau arolygu Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) sy'n ymwneud ag Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig ac Ysgol Iau Mynydd Cynffig yn atodiad A a B er gwybodaeth. Mae adroddiadau llawn yr arolygiadau ar gael ar wefan Estyn.
Asesu EffaithAsesu'r Effaith ar y Gymuned
Cynhaliwyd asesiad cychwynnol o'r effaith ar y gymuned a byddem yn croesawu eich sylwadau/barn ynglŷn â’r cynnig hwn fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, a pha un a ydych chi'n ystyried y bydd yn cael effaith gadarnhaol/negyddol.
Canlyniad yr asesiad cychwynnol oedd na fyddai'r cynnig yn cael unrhyw effaith andwyol gan y byddai'r ysgolion yn parhau i weithredu ar eu safleoedd presennol, hyd oni ddeuai amser y gallent ddod at ei gilydd yn un ysgol ar yr un safle.
Byddai'r gymuned yn parhau i elwa ar adeiladau'r ysgol; cynigir clybiau ar ôl ysgol yn y ddwy ysgol ar hyn o bryd a rhagwelir y byddai'r clybiau'n parhau.
Cynhelir dosbarthiadau i oedolion yn Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig a gobeithir y byddai'r rhain yn parhau yn ogystal.
Gweler atodiad C am fwy o wybodaeth.
Asesu'r Effaith ar Gydraddoldeb
Fel rhan o'r broses gyffredinol, mae'n ddyletswydd ar y cyngor i ystyried goblygiadau unrhyw gynnig ar bob aelod o'r gymuned leol y gellid effeithio'n annheg arnynt o ganlyniad i weithredu’r cynnig. Cynhaliwyd asesiad sgrinio cychwynnol o'r potensial y gallai anghydraddoldeb cyfle ddeillio o'r cynnig hwn, a chynhelir asesiad llawn o'r effaith ar gydraddoldeb ochr yn ochr â'r broses ymgynghori. Bydd y canlyniadau a'r camau a nodir gan yr asesiad hwn yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad i'r Cabinet ar ganlyniadau'r broses ymgynghori. Os bydd gennych chi unrhyw farn ar botensial y cynnig hwn i effeithio ar unrhyw grwpiau neu unigolion, boed hynny'n andwyol neu'n gadarnhaol, byddem yn croesawu eich sylwadau fel rhan o'r ymgynghoriad hwn.
Gweler atodiad Ch i weld yr asesiad sgrinio cychwynnol o'r Effaith ar Gydraddoldeb.
Asesu'r Effaith ar y Gymraeg
Gan y byddai'r ysgol cyfrwng Saesneg arfaethedig yn gweithredu ar ddau safle ac yn defnyddio'r adeiladau presennol, ystyrir na fyddai’r cynnig yn cael unrhyw effaith ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y mae'r disgyblion yn y ddwy ysgol yn ei derbyn ar hyn o bryd. Byddai Cymraeg yn parhau i gael ei haddysgu trwy'r cwricwlwm. Dylai’r broses bontio rhwng y cyfnod sylfaenol a chyfnod allweddol 2 wella gan y byddai cyfleoedd i'r athrawon rannu arferion da o ran addysgu Cymraeg.
Mae Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig ar hyn o bryd yn cynnig cyfleoedd i oedolion fynd i ddosbarthiadau Cymraeg yn ystod y dydd. Mae dau grŵp o oedolion sy'n cyfarfod yn wythnosol, a nod y dosbarthiadau yw cynnig cyfle i rieni ddysgu Cymraeg a chynorthwyo eu plant gyda'u haddysg. Mae'r dosbarthiadau 'Cymraeg a Chwarae' yn dibynnu ar gyllid allanol a'r gobaith yw y byddai'r ddarpariaeth hon yn parhau pe byddai’r cynnig yn cael ei weithredu.
Er bod yr asesiad cychwynnol o’r effaith ar yr iaith Gymraeg wedi ei gynnal, byddem yn croesawu eich sylwadau/barn ynglŷn â’r cynnig fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, a pha un a fyddai'n cael effaith gadarnhaol/andwyol ar yr iaith Gymraeg.
Yr ymgynghoriad a'r broses statudol
Bydd y broses ymgynghori’n cael ei chwblhau erbyn 12 Mawrth 2015 a bydd y canlyniadau (a fydd yn cael eu cynnwys yn y cynnig os bydd modd) yn cael eu rhoi mewn adroddiad i'r Cabinet. Os penderfynir peidio â symud ymlaen, dyna fydd diwedd y cynnig hwn ar gyfer y dyfodol a bydd angen llunio cynnig gwahanol.
Os penderfynir bwrw ymlaen â’r cynnig, byddai angen cyhoeddi hysbysiad statudol yn rhoi amlinelliad o'r cynigion am gyfnod o 28 diwrnod. Os na chyflwynir unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig, bydd yn symud yn ei flaen i gael cymeradwyaeth derfynol gan y Cabinet. Os cyflwynir gwrthwynebiadau yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus, rhaid cyhoeddi adroddiad ar y gwrthwynebiad. Gallai'r Cabinet benderfynu derbyn, gwrthod neu addasu'r cynnig.
Cynigir gweithredu'r cynnig o 1 Medi 2015.
Gweithgaredd
Dyddiad
Cyfnod ymgynghori - croesewir eich barn a'ch sylwadau ar y cynnig*.
30 Ionawr 2015 hyd at 12 Mawrth 2015
Adroddiad Ymgynghori i'r Cabinet ynglŷn â chanlyniadau'r ymgynghoriad.
31 Mawrth 2015
Cyhoeddi Adroddiad yr Ymgynghoriad ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd croeso i wneud cais am gopïau caled.
14 Ebrill 2015
Os bydd Cabinet Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno, bydd Hysbysiad Cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi a bydd modd cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig yn ysgrifenedig am gyfnod o 28 diwrnod.
15 Ebrill 2015 to 12 Mai 2015
Os nad oes gwrthwynebiadau caiff y Cabinet benderfynu ar unwaith a ddylid symud ymlaen ai peidio. Os oes unrhyw wrthwynebiadau, bydd Adroddiad Gwrthwynebiadau'n cael ei gyhoeddi a'i anfon at y Cabinet er mwyn iddynt gael ymgynghori a phenderfynu arno. Bydd yr adroddiad wedi'i gymeradwyo wedyn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a bydd croeso i wneud cais am gopïau caled o'r adroddiad.
Mehefin 2015
Dyddiad gweithredu posibl.
1 Medi 2015
*Sylwer na fydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu cyfrif fel gwrthwynebiadau i'r cynnig, ac mai dim ond ar ôl cyhoeddi'r Hysbysiad Cyhoeddus y ceir cofrestru gwrthwynebiadau.
Beth mae'n rhaid ichi ei ystyried nawr?
Fe'ch gwahoddir i ystyried y cynnig a mynegi a ydych chi'n cefnogi'r cynnig i gau Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig ac ymestyn ystod oedran Ysgol Iau Mynydd Cynffig er mwyn creu ysgol gynradd pob oed o 1 Medi 2015.
Sut mae mynegi eich barn?
Cynhelir cyfarfodydd ymgynghori a sesiynau galw heibio y bydd modd eu trefnu ar gyfer y gwahanol bartïon â buddiant fel yr eglurir isod.
Gwahoddir aelodau staff a llywodraethwyr i ddod i’r cyfarfod perthnasol lle cewch glywed eglurhad o'r cynnig, gofyn cwestiynau a mynegi unrhyw farn neu bryderon a allai fod gennych.
Os bydd rhieni/aelodau o'r gymuned eisiau trefnu lle mewn sesiwn galw heibio, cysylltwch ag Ellen Franks ar 01656 642617.
Lleoliad: Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig
Dyddiad
Amser
Cyfarfod gydag aelodau staff a chorff llywodraethu Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig.
9 Chwefror 2015
4.00pm
Sesiynau galw heibio i rieni a phartïon â buddiant
12 Chwefror 2015
4.00pm tan 6.00pm
Cyfarfod gyda chyngor Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig
24 Chwefror 2015
10.30am
Lleoliad: Ysgol Iau Mynydd Cynffig
Dyddiad
Amser
Cyfarfod gydag aelodau staff a chorff llywodraethu Ysgol Iau Mynydd Cynffig
10 Chwefror 2015
4.00pm
Cyfarfod gyda chyngor Ysgol Iau Mynydd Cynffig
24 Chwefror 2015
9.15am
Os bydd gennych chi fwy o gwestiynau ynglŷn â'r cynnig hwn, os hoffech chi fynegi eich barn yn ysgrifenedig, awgrymu cynigion amgen neu ofyn am gopi o adroddiad yr ymgynghoriad pan gaiff ei gyhoeddi, cysylltwch â'r canlynol (gan ddefnyddio'r ffurflen atodedig):
Post: Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Thrawsnewid Y Gyfarwyddiaeth Plant,
Y Swyddfeydd Dinesig,Stryd yr AngelPen-y-bont ar OgwrCF31 4WB
Cyfeiriwch yr amlen at sylw Ellen Franks, neu
E-bost: [email protected]
Ar-lein: Cliciwch yma Rhif ffôn: (01656) 815 253
Mae croeso ichi wneud cais am gopi o'r ddogfen hon mewn fformat gwahanol.
Rhaid inni dderbyn unrhyw sylwadau erbyn 12 Mawrth 2015 fan bellaf.
Ffurflen
Pro forma - Cynnig i gau Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig ac ymestyn ystod oedran Ysgol Iau Mynydd Cynffig er mwyn creu Ysgol Gynradd pob oed.
Enw:
Manylion cyswllt:
A ydych chi'n (ticiwch):
Llywodraethwr ysgol
Rhiant/gwarcheidwad
Disgybl ysgol
Aelod o staff ysgol
Parti arall â buddiant (nodwch os gwelwch yn dda)
Sylw/awgrymiadau/ceisiadau/cwestiynau:
Atodiad
Nodyn gan Estyn:
Mae’r raddfa pum pwynt a ddefnyddir i gynrychioli pob barn arolygu yn yr adroddiad hwn fel a ganlyn:
Gradd 1 da gyda rhai nodweddion rhagorolGradd 2 nodweddion da a dim diffygion pwysigGradd 3 nodweddion da’n gorbwyso diffygionGradd 4 rhai nodweddion da, ond diffygion mewn meysydd pwysigGradd 5 llawer o ddiffygion pwysig
Mae’r rhain a chyhoeddiadau eraill Estyn ar gael ar wefan ESTYN: www.estyn.gov.uk
Atodiad A
Crynodeb o arolygiad Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, o Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig.
Adroddiad ar Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig.16 Tachwedd 2009
Crynodeb
Mae Ysgol Fabanod Mynydd Cynffig yn ysgol dda gyda rhai nodweddion rhagorol. Mae disgyblion o bob oed yn datblygu’n dda o ran eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau. Maent yn dysgu â hyder ac yn dangos lefelau annibyniaeth da iawn yn eu dysgu.
Mae’r pennaeth, y llywodraethwyr, yr athrawon a’r staff cynorthwyo yn gweithio’n eithriadol o dda fel tîm er mwyn darparu cwricwlwm amrywiol ac ysgogol sy’n cwmpasu athroniaethau’r Cyfnod Sylfaen.
Tabl o’r graddau a ddyfarnwyd
Cwestiwn Allweddol
Gradd arolygu
Pa mor dda yw cyflawniadau’r dysgwyr?
Gradd 2
Pa mor effeithiol yw’r broses addysgu, hyfforddi ac asesu?
Gradd 2
Pa mor I ba raddau y mae’r profiadau dysgu’n diwallu anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach?
Gradd 2
Pa mor dda yw’r arweiniad a’r cymorth a ddarperir i ddysgwyr?
Gradd 1
Pa mor effeithiol yw arweinyddiaeth a rheolaeth strategol?
Gradd 1
Pa mor dda y mae arweinwyr a’r rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau?
Gradd 2
Pa mor effeithlon y mae arweinwyr a rheolwyr yn defnyddio adnoddau?
Gradd 1
Mae’r ffigyrau llinell sylfaen yn awgrymu mai gallu cymysg sydd gan y plant pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol, gyda thueddiad ar i lawr mewn iaith a rhifedd yn y blynyddoedd diweddar. Er hyn, ers yr arolygiad diwethaf mae cynnydd wedi bod yn nifer y plant y mae angen prydau ysgol am ddim arnynt.
Mae ansawdd cyffredinol y ddarpariaeth addysgol ar gyfer plant dan bump oed yn briodol i’w hanghenion ac mae’r plant yn datblygu’n dda tuag at ddeilliannau’r Cyfnod Sylfaen. Mae mwy o ddisgyblion yn dod i’r ysgol ag anghenion cymorth o ran eu hiaith.
Yng nghanlyniadau asesiadau athrawon y cwricwlwm cenedlaethol mae’r ysgol yn gyson uwchben y cyfartaledd lleol a chenedlaethol ar gyfer y pynciau craidd sef Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. O’i chymharu ag ysgolion â nifer debyg o blant sy’n cael prydau ysgol am ddim, mae’r tueddiadau wedi dangos bod yr ysgol yn gyson yn y 50% uchaf o ysgolion yng Nghymru am lefelau gallu yn Saesneg a mathemateg ac yn y 25% uchaf o ysgolion tebyg mewn gwyddoniaeth. Mae perfformiad bechgyn yn gyson yn is na pherfformiad merched. Mae’r ysgol wedi cydnabod hyn ac wedi cyflwyno rhaglen ddarllen ychwanegol i ennyn mwy o ddiddordeb mewn darllen ymhlith y disgyblion.
Atodiad B
Crynodeb o arolygiad Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, o Ysgol Iau Mynydd Cynffig.
Adroddiad ar Ysgol Iau Mynydd Cynffig.5 Hydref 2009
Crynodeb
Mae hon yn ysgol dda gyda llawer o nodweddion rhagorol.
Mae’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth effeithiol iawn a ddarperir gan y pennaeth, y llywodraethwyr a staff yr ysgol yn ffactorau allweddol o ran sicrhau safonau uchel yng nghyflawniad y disgyblion a gwelliannau parhaus i’r ysgol.
Mae cynnydd da wedi ei wneud o ran ymdrin â’r materion allweddol a nodwyd yn arolygiad 2003.
Tabl o’r graddau a ddyfarnwyd
Cwestiwn Allweddol
Gradd arolygu
Pa mor dda yw cyflawniadau’r dysgwyr?
Gradd 1
Pa mor effeithiol yw’r broses addysgu, hyfforddi ac asesu?
Gradd 1
Pa mor I ba raddau y mae’r profiadau dysgu’n diwallu anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach?
Gradd 1
Pa mor dda yw’r arweiniad a’r cymorth a ddarperir i ddysgwyr?
Gradd 1
Pa mor effeithiol yw arweinyddiaeth a rheolaeth strategol?
Gradd 1
Pa mor dda y mae arweinwyr a’r rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau?
Gradd 1
Pa mor effeithlon y mae arweinwyr a rheolwyr yn defnyddio adnoddau?
Gradd 1
Safonau a chynnydd
Mae cyrhaeddiad ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 yn dda gyda rhai nodweddion rhagorol. Yn 2009, roedd nifer y disgyblion sy’n cyrraedd Lefel 4 neu uwch mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ar ddiwedd y cyfnod allweddol yn sylweddol uwch na pherfformiad cenedlaethol 2008. Mae perfformiad yr ysgol ar Lefel 5 hefyd yn sylweddol uwch na ffigyrau lleol a chenedlaethol.
Mae tueddiadau perfformiad yn ystod y tair blynedd diwethaf yn dangos gwelliannau parhaus ym mhob un o’r tri phwnc craidd, ac mae canran y disgyblion sy’n cyrraedd Lefel 4 neu uwch yn gyson dros naw deg y cant. Gydag ychydig iawn o eithriadau, mae cyrhaeddiad yn 2008 a 2009 wedi bod ymhlith y 25 y cant gorau o’r ysgolion sydd â chanran debyg o ddisgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Mae’r rhain yn nodweddion rhagorol.
Trwy gydol y cyfnod allweddol, mae bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd rhagorol mewn sgiliau allweddol iaith a chyfathrebu, a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh). Maent yn gwneud cynnydd da o ran eu gallu i ddefnyddio a chymhwyso eu sgiliau mathemateg wrth gyflawni tasgau ymarferol ac ymchwiliol.
Mae bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd rhagorol yn eu sgiliau datrys problemau a sgiliau meddwl, sydd o ganlyniad yn galluogi disgyblion i ymdrin â gweithgareddau datrys problemau mewn modd hyderus a systematig.
Atodiad C
Asesiadau o’r Effaith ar y Gymuned.
Proses sgrinio gychwynnol.
Cynhelir asesiad llawn ar ôl cyhoeddi adroddiad llawn yr ymgynghoriad.
Atodiad Ch
Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.
Proses sgrinio gychwynnol
Cynhelir asesiad llawn ar ôl cyhoeddi adroddiad llawn yr ymgynghoriad.