Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
CAAGCC CYFRES ARWEINLYFR SGILIAU: LLLYTHRENNEDD – CYMRAEG
Llythrennedd
(Cymraeg)
Arweinlyfr ar gyfer
cyrsiau HAGA
CAAGC
Ein gweledigaeth:
Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i ddod yn athrawon rhagorol a chreadigol, fydd yn ysbrydoli a galluogi dysgwr i gyflawni eu potensial.
Cynnwys
Cyflwyniad
2
Crynodeb o’r gofynion sgiliau llythrennedd personol a chymhwyso llythrennedd yn y dosbarth
4
Darpariaeth CAAGCC ar gyfer sgiliau llythrennedd personol hyfforddeion
TAR Uwchradd
TAR Cynradd
BA(SAC) a BSc
5
6
7
Asesiadau allweddol safon llythrennedd sgiliau llythrennedd personol a chymhwyso llythrennedd
TAR Uwchradd
TAR Cynradd
BA(SAC) a BSc
8-10
Llythrennedd Personol(Cymraeg) Arweinlyfr Profiad Ysgol
11
Sgiliau llythrennedd yn y dosbarth:
Asesu gallu hyfforddeion i ddatblygu sgiliau llythrennedd dysgwyr yn y dosbarth
Enghreifftiau o sylwadau, graddau a thargedau
12
13
Graddio safon llythrennedd personol hyfforddeion ar brofiad ysgol
Esiamplau o sylwadau wrth ymateb i safon llythrennedd personol
Pwyntiau data llythrennedd ar brofiad ysgol
14
15
Cynllunio ar gyfer llythrennedd:
Cynlluniau gwersi enghreifftiol
16
· Cyfnod Sylfaen: Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd a llythrennedd
17
· Cyfnod allweddol 2: Celf a llythrennedd
21
· Uwchraddd: Hanes a llythrennedd
24
· Dylunio a thechnoleg uwchradd a llythrennedd
27
Cyferiadaeth a llyfryddiaeth
29
Cydnabyddiaethau
31
Atodiad 1a: Traciwr llythrennedd personol a chymhwyso llythrennedd TAR Uwchradd
Atodiad1b: Traciwr llythrennedd personol a chymhwyso llythrennedd BA(SAC) BSc
Atodiad 2: Meini prawf safon llythrennedd personol a chymhwyso llythrennedd TCA
33
34
36
CYFLWYNIAD
Nod y gyfres arweinlyfrau sgiliau yw sicrhau bod darpariaeth a threfniadau'r Ganolfan yn gyson mewn perthynas â'r holl sgiliau allweddol. Cynlluniwyd yr arweinlyfr Sgiliau Rhifedd i'w ddefnyddio gan hyfforddeion, tiwtoriaid a mentoriaid er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a dealltwriaeth yn cael eu rhannu ar draws y ganolfan (y prifysgolion a'r ysgolion) ac yn y cyrsiau HCA mewn perthynas â sgiliau llythrennedd. Y pedwar cwrs yn y ganolfan yw:
BA (SAC) Prifysgol Bangor
BSc (SAC) Prifysgol Bangor
TAR (Cynradd) Prifysgol Bangor
TAR (Uwchradd) Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth
Llawlyfr Llythrennedd ar gyfer yr holl gyrsiau SAC
Mae'r llawlyfr hwn yn mynd i'r afael â dwy agwedd ar lythrennedd o fewn cyrsiau HCA a ddarperir gan Ganolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru:
· datblygu ac asesu sgiliau llythrennedd personol hyfforddeion a disgyblion;
· datblygu ac asesu gallu hyfforddeion a disgyblion i gymhwyso eu gwybodaeth am y fframwaith llythrennedd i wella ac ymestyn sgiliau dysgwyr ar lawr y dosbarth.
Bydd y llawlyfr hefyd yn cynnwys:
· enghreifftiau o gynlluniau gwers sgiliau trawsgwricwlaidd ar draws yr holl gyfnodau i ddangos cynllunio effeithiol a fydd yn rhoi man cychwyn hefyd ar gyfer trafod a dadansoddi
· yn ystod sesiynau briffio sgiliau profiad ysgol
· yn ystod diwrnodau hyfforddi mentoriaid a thiwtoriaid
· ac fel canolbwynt posib y cyfarfodydd wythnosol gyda'r mentor a'r tiwtor
· llenyddiaeth gyffredinol, dogfennau a gwefannau i ddarparu syniadau, cyfeiriadau beirniadol a gweithgareddau ymarferol wrth gymhwyso rhifedd ar lawr y dosbarth.
Crynodeb o’r gofynion o ran sgiliau llythrennedd personol a chymhwyso llythrennedd yn y dosbarth
Sgiliau llythrennedd personol
Bydd yr holl gyrsiau'n sicrhau bod yr holl hyfforddeion yn cael eu hasesu fel rhai â sgiliau personol gweithredol mewn llythrennedd y gellir eu defnyddio mewn cyd-destun addysgu proffesiynol, mewn modd sy'n addas i'r cyfnod a'r pwnc astudio. Bydd yr holl gyrsiau'n sicrhau hefyd bod sgiliau personol yr holl hyfforddeion mewn llythrennedd yn cael eu hasesu'n rheolaidd ac yn fanwl gywir trwy gydol eu hyfforddiant a phan fydd hyfforddeion yn cael eu hasesu yn erbyn y Safonau SAC wrth ymadael (fel y nodir yn nogfen LlC rhif 127/2013, "Gofynion ar gyfer cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru"). Bydd yr holl raddau'n cydymffurfio â'r canllawiau a amlinellir yn y llawlyfr "Graddio'n Gywir yn Gyson” sy’n cynnwys lle bo’n berthnasol i hyfforddai a chwrs, feini prawf Tystysgrif Cymhwyso Iaith Athrawon (TCA) a Chynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg (CGCC).
Llythrennedd yn y dosbarth - cymhwyso llythrennedd
Bydd yr holl gyrsiau'n datblygu gallu hyfforddeion i gynllunio'n effeithiol ar gyfer dysgu llythrennedd ac ateb anghenion dysgwyr mewn ffordd sy'n addas i'r cyfnod/cyfnod allweddol a'r pwnc a'r maes pwnc. Daw hyfforddeion yn gyfarwydd â'r sgiliau y disgwylir y bydd dysgwyr yn eu datblygu yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Byddant yn dod i allu adnabod cyfleoedd i gymhwyso llythrennedd mewn cyd-destun o fewn eu gwersi a byddant yn defnyddio'r Fframwaith Llythrennedd i gynllunio ac asesu cynnydd dysgwyr (fel y nodir hynny yn nogfen LlC rhif 120,2013) Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. I gefnogi ysgolion i gyflwyno'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol .)
Bydd yr holl gyrsiau'n asesu gallu hyfforddeion i gynllunio a chyflwyno gwersi sy'n rhoi'r fframwaith llythrennedd ar waith; bydd yr asesiad hwn yn cyfrannu at raddio hyfforddeion yn erbyn y safonau SAC yn ystod eu profiad ysgol a phan fyddant yn ymadael. Bydd yr holl raddau'n cydymffurfio â'r canllawiau a amlinellir yn y llawlyfr "Graddio'n Gywir yn Gyson” sy’n cynnwys lle bo’n berthnasol i hyfforddai a chwrs feini prawf Tystysgrif Cymhwyso Iaith Athrawon (TCA) a Chynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg (CGCC).
Darpariaeth CAAGCC ar gyfer sgiliau llythrennedd personol hyfforddeion
TAR Uwchradd - Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg (CGCC) a Thystysgrif Cymhwysedd ar gyfer Athrawon (TCA)
Disgwylir i hyfforddeion sy’n dilyn cwrs TAR Uwchradd CAAGCC trwy gyfrwng y Gymraeg ddilyn y Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg. Pwrpas y Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg, a noddir gan Lywodraeth Cymru, yw denu darpar athrawon i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bwriedir y cwrs hwn felly ar gyfer darpar athrawon sy’n dymuno addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd penodol Gymraeg neu ddwyieithog neu mewn ysgolion cyfun eraill sy’n defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu.
Nid yw’r Cynllun hwn a noddir gan Llywodraeth Cymru ar gael i ddarpar athrawon Cymraeg iaith-gyntaf sydd wedi astudio’r Gymraeg fel prif bwnc. Cynhwysir darpar athrawon sydd am ddysgu Saesneg ac Ieithoedd Modern yn y sector uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Lle bo hynny’n ymarferol hefyd, fe fydd disgwyl iddynt ddilyn eu cyrsiau pwnc dewisol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Amcanion y Cynllun:
1) gwella ansawdd Cymraeg llafar ac ysgrifenedig darpar athrawon a thrwy hynny greu hyder yn eu gallu i gwrdd â gofynion y Gymraeg yn y sector uwchradd;
2) sicrhau cyfleoedd i weithio mewn grwpiau i drafod cysyniadau a ffeithiau pynciol penodol gan ymgyfarwyddo â therminoleg bynciol drwy gyfrwng y Gymraeg;
3) meithrin ymwybyddiaeth yr hyfforddeion o’r angen i gymryd cyfrifoldeb o gywiro eu gwaith eu hunain gan feistroli rheolau gramadeg;
4) hybu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd datblygiad iaith fel sylfaen i’r broses addysgol gan gyflwyno strategaethau addysgu a dysgu i hyrwyddo llythrennedd yn y dosbarth;
5) bydd cyfle i hyfforddeion ymgeisio am Dystysgrif Cymhwysedd ar gyfer Athrawon (TCA). Prif nod y dystysgrif hon yw cydnabod lefel sgiliau ieithyddol (llafar ac ysgrifenedig) hyfforddeion HCA a dangos eu gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hyderus ac mewn modd proffesiynol yng nghyd-destun dysgu ac addysgu.
Bydd dwy ran i'r dystysgrif, sef (1) asesiad o sgiliau Cymraeg ysgrifenedig yr hyfforddeion a (2) asesiad o’u gallu i addysgu’n ymarferol trwy gyfrwng y Gymraeg. I fod yn deilwng o'r dystysgrif, rhaid pasio'r ddwy ran. Bydd cyfle i bob hyfforddai drafod ei addasrwydd ar gyfer y Dystysgrif hon gyda’i diwtor iaith yn y sefydliad. Mae’r Dystysgrif ar Lefel 6 yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. ‘Llwyddo’ neu ‘Methu’ fydd y dyfarniad terfynol yn ystod cyfnod Peilot TCA 2016-17.
Ni fydd methu’r dystysgrif yn golygu methu gofynion SAC, Statws Athro Cymwys.
Disgwyliadau’r Cynllun yn unol ag amodau Llywodraeth Cymru:
· llenwi’r Ffurflen Gofrestru ac arwyddo’r cytundeb Datganiad gan Fyfyrwyr;
· derbyn o leiaf ugain awr o seminarau yn y Gymraeg;
· cwblhau cyfnod o ymarfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg;
· mynychu dau gwrs undydd yn Aberystwyth: Hydref 22ain 2016, Ionawr 14eg 2017;
· cwblhau asesiadau llafar ac ysgrifenedig a dau aseiniad;
· gweithredu’r cynlluniau iaith unigol yn y Llyfryn Rhaglen Iaith Unigol sy’n cynnwys targedau gwelliant er sicrhau cynnydd;
· mynychu sesiynau iaith yn yr ysgolion fel rhan o’r Cynllun Mentora
Bydd cyrhaeddiad hyfforddai ar y Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg yn bwydo i’r Proffil Dechrau Gyrfa fel bo modd parhau a datblygu eu sgiliau iaith mewn Cymraeg yn ystod y flwyddyn gyntaf fel athrawon newydd gymhwyso.
TAR CYNRADD- LLYTHRENNEDD PERSONOL A THYSTYSGRIF CYMHWYSEDD AR GYFER ATHRAWON (TCA)
Bydd hyfforddeion TAR Cynradd yn mynychu sesiynau llythrennedd personol a thystysgrif cymhwysedd ar gyfer athrawon (TCA). Darperir 25 awr cyswllt yn unol â’r gofynion cenedlaethol ar gyfer TCA Cynradd. O fewn y ddarpariaeth byddir yn cynnig sesiynau teilwredig ar gyfer gofynion llythrennedd personol penodol hyfforddeion a gwaith hunanastudio.
Amcanion:
· cydnabod lefel sgiliau ieithyddol (llafar ac ysgrifenedig) hyfforddeion HCA a dangos eu gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hyderus ac mewn modd proffesiynol yng nghyd-destun dysgu ac Addysgu;
· meithrin ymwybyddiaeth hyfforddeion o’r angen i gymryd cyfrifoldeb o gywiro eu gwaith eu hunain gan feistroli rheolau gramadeg;
· arwain hyfforddeion i gyfarfod â’r safonau cwrs hyfforddi athrawon cychwynnol trwy sicrhau bod yr hyfforddeion yn cael eu hasesu i fod â sgiliau llythrennedd (a rhifedd) personol gweithredol sy’n gymwys mewn cyd-destun addysgu proffesiynol, ac sy’n addas i’r cyfnod a’r pwnc astudio (Dogfen wybodaeth rhif:127/ 2013 - Gofynion ar gyfer cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol mewn sefydliadau uwch);
· cyfarfod â’r safonau cwrs hyfforddi athrawon cychwynnol trwy ymgyfarwyddo’r hyfforddeion â’r elfen ‘Ysgrifennu’n gywir’ o fewn y llinyn Ysgrifennu ar draws y cwricwlwm yn y Fframwaith Llythrennedd i allu adnabod ac ymateb i lithriadau cyffredin ieithyddol plant yn ysgrifenedig ac ar lafar;
· cyflwyo addysgeg effeithiol wrth gyflwyno llythrennedd ar lawr dosbarth yn drawsgwricwlaidd.
Gofynion Asesu TCA :
Bydd dwy ran i'r dystysgrif,
· Asesiad o Sgiliau Cymraeg Ysgrifenedig : ARHOLIAD ysgrifenedig cenedlaethol – 40%
· Asesiad o allu ymgeisydd i Addysgu’n Ymarferol Trwy Gyfrwng y Gymraeg .
Rhaid pasio’r ddwy ran i deilyngu’r dystysgrif.
Mae’r Dystysgrif ar Lefel 6 yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. ‘Llwyddo’ neu ‘Methu’ fydd y dyfarniad terfynol yn ystod y cyfnod Peilot.
Ni fydd methu’r dystysgrif yn golygu methu gofynion SAC, Statws Athro Cymwys
BA (SAC) cynradd a BSc uwchradd – llythrennedd personol
Bydd hyfforddeion BA Cynradd a BSc Uwchradd yn dilyn sesiynau llythrennedd personol yn wythnosol yn ystod cyfnodau yn y coleg. Yr un yw amcanion y sesiynau hyn â’r amcanion a nodir uchod ar gyfer TAR Cynradd. Ni fydd hyfforddeion BA (SAC) na BSc Uwchradd yn dilyn gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Athrawon gan nad yw’r llywodraeth yn cynnig y dystysgrif i is-raddedigion na chyrsiau hyfforddi 3 mlynedd.
Tracio sgiliau llythrennedd personol a chymhwyso llythrennedd hyfforddeion
Ceir tair agwedd ar dracio safon llythrennedd personol a chymhwyso llythrennedd hyfforddeion
· Awdit
· Ymateb i awdits
· Graddau safon llythrennedd personol hyfforddeion
Ar gyfweliad:
Bydd sgiliau llythrennedd Cymraeg yn cael ei asesu yn ystod y cyfweliad. Wedi eu derbyn ar y cwrs rhaid sefyll awdit cychwynnol deiagnostig addas ar gyfer hyfforddeion uwchradd (Awdit CGCC) neu awdit cychwynnol deiagnostig cynradd. Bydd y prawf hwn yn adnabod anghenion llythrennedd personol yr hyfforddeion
Asesiadau allweddol safon llythrennedd personol a chymhwyso llythrennedd CAAGCC
TAR Uwchradd: CGCC/TCA
Gweithgaredd
Pryd
Asesiad
Awdit dechrau cwrs
Medi
Tiwtor CGCC
Asesiad (au) Llafar ac ysgrifenedig
Hyfforddai
Tiwtor CGCC
Mynychu cwrs undydd yn Aberystwyth
22 Hydref 2016
14 Ionawr 2017
Cofrestr Tiwtor CGCC
Gweithredu Cynllun iaith unigol yn y Llyfryn Rhaglen Iaith Unigol
Parhaus
Monitro cynnydd gan Fentor a Tiwtor Iaith CGCC
Aseiniad 1
Hyfforddai
Tiwtor CGCC
Aseiniad 2
Hyfforddai
Tiwtor CGCC
Gradd PY1 – Gradd a marc interim Safon llythrennedd personol
Gradd a marc cymhwyso llythrennedd
Gradd PY1 - Gradd a marc crynodol Safon llythrennedd personol
Gradd a marc cymhwyso llythrennedd
Interim yn ystod ymweliad tiwtor uwchradd CGCC
Tiwtor CGCC a mentor iaith
Gradd PY2 – Gradd a marc interim Safon llythrennedd personol
Gradd a marc cymhwyso llythrennedd
Gradd PY2 - Gradd a marc crynodol Safon llythrennedd personol
Gradd a marc cymhwyso llythrennedd
Interim yn ystod ymweliad tiwtor uwchradd CGCC
Tiwtor CGCC, a mentor iaith
Dewisol TCA:
Asesiad ysgrifenedig
8 Mai, 2017
Arholwr allanol TCA
Dewisol TCA:
Cyfnod Cymedroli Asesiad Llafar (Addysgu ymarferol)
15-26 Mai, 2017
Arolwr allanol TCA
TAR Cynradd: Safon llythrennedd personol /TCA
Gweithgaredd
Pryd
Asesiad/gwiriwr
Awdit dechrau cwrs
Medi
Tiwtoriaid coleg
Hunan ymateb i’r awdit cychwynnol ar y Traciwr Llythrennedd Personol a’i gadw yn y Ffeil Cofnod Cynnydd Personol (CCP)
Hyfforddai
Tiwtor personol
Gradd PY1 – Gradd a marc interim Safon llythrennedd personol
Gradd a marc cymhwyso llythrennedd
Gradd PY1 - Gradd a marc crynodol Safon llythrennedd personol
Gradd a marc cymhwyso llythrennedd
Interim yn ystod ymweliad tiwtor cyswllt
Tiwtor cyswllt PY a mentor PY1
Interim – arholiad ffug TCA.
Hunan ymateb i’r arholiad ffug ar y Traciwr Llythrennedd Personol a’i gadw yn y Ffeil Cofnod Cynnydd Personol (CCP)
Ionawr
Tiwtor Cymraeg
Hyfforddai
Gradd PY2 – Gradd a marc interim Safon llythrennedd personol
Gradd a marc cymhwyso llythrennedd
Gradd PY2 - Gradd a marc crynodol Safon llythrennedd personol
Gradd a marc cymhwyso llythrennedd
Interim yn ystod ymweliad tiwtor cyswllt
Tiwtor cyswllt PY a mentor PY2
TCA:
Asesiad ysgrifenedig
Chwefror, 2017
(I’w gadarnhau yn genedlaethol)
Arholwr allanol TCA
TCA:
Cyfnod Cymedroli Asesiad Llafar (Addysgu ymarferol)
Mai, 2017
(I’w gadarnhau yn genedlaethol)
Arolwr allanol TCA
Awdit Diwedd Cwrs
Mai, 2017
Tiwtoriaid coleg
Hunan ymateb i’r radd llythrennedd personol PY2 ac awdit diwedd cwrs ar y Traciwr Llythrennedd Personol a’i gadw yn y Ffeil Cofnod Cynnydd Personol (CCP) Bydd yn bwydo i’r Proffil Dechrau Gyrfa
Mehefin,2017
Tiwtor cyswllt ac hyfforddai
Traciwr llythrennedd personol (Atodiad 1a)
BA(SAC) Cynradd: Safon llythrennedd personol /TCA a BSc
Gweithgaredd
Pryd
Asesiad/gwiriwr
Awdit dechrau cwrs
Medi
Tiwtor
Hunan ymateb i’r awdit cychwynnol ar y Traciwr Llythrennedd Personol a’i gadw yn y Ffeil Cofnod Cynnydd Personol (CCP)
Hyfforddai
Tiwtor Cymraeg
Hyfforddai
Gradd PY1 – Gradd a marc interim Safon llythrennedd personol
Gradd a marc cymhwyso llythrennedd
Gradd PY1 - Gradd a marc crynodol Safon llythrennedd personol
Gradd a marc cymhwyso llythrennedd
Interim yn ystod ymweliad tiwtor cyswllt
Tiwtor cyswllt PY a mentor PY1
Awdit Interim
Dechrau Blwyddyn 2
Tiwtor Cymraeg
Hunan ymateb i’r awdit cychwynnol ar y Traciwr Llythrennedd Personol a’i gadw yn y Ffeil Cofnod Cynnydd Personol (CCP)
Dechrau Blwyddyn 2
Tiwtor Cymraeg
Hyfforddai
Gradd PY2 – Gradd a marc interim Safon llythrennedd personol
Gradd a marc cymhwyso llythrennedd
Gradd PY2 - Gradd a marc crynodol Safon llythrennedd personol
Gradd a marc cymhwyso llythrennedd
Interim yn ystod ymweliad tiwtor cyswllt
Tiwtor cyswllt PY a mentor PY2
Awdit Diwedd Cwrs
Diwedd cyfnod coleg blwyddyn 3
Tiwtoriaid coleg
Gradd PY3 – Gradd a marc interim Safon llythrennedd personol
(Gradd a marc cymhwyso llythrennedd)
Gradd PY3 - Gradd a marc crynodol Safon llythrennedd personol
Tiwtor cyswllt a mentor PY3
Hunan ymateb i’r radd llythrennedd personol PY3 ac awdit diwedd cwrs ar y Traciwr Llythrennedd Personol a’i gadw yn y Ffeil Cofnod Cynnydd Personol (CCP). Bydd yn bwydo i’r Proffil Dechrau Gyrfa
Mehefin
Tiwtor cyswllt ac hyfforddai
Traciwr llythrennedd personol (atodiad 1b)
CAAGCC CYFRES ARWEINLYFR SGILIAU: LLLYTHRENNEDD – CYMRAEG
Llythrennedd
(Cymraeg)
Arweinlyfr
Profiad Ysgol HAGA
CAAGC
Sgiliau llythrennedd yn y dosbarth
Ein gweledigaeth:
Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i ddod yn athrawon rhagorol a chreadigol, fydd yn ysbrydoli a galluogi dysgwr i gyflawni eu potensial.
Asesu gallu hyfforddeion i ddatblygu sgiliau llythrennedd dysgwyr yn y dosbarth
Lle bo'n briodol, dylai hyfforddeion fod yn datblygu sgiliau llythrennedd dysgwyr gan gyfeirio at y fframwaith llythrennedd, gan gynllunio amcanion dysgu eglur a meini prawf llwyddiant a defnyddio pedagogeg wedi ei seilio ar theori gadarn ac ymarfer da cydnabyddedig. Dylid cefnogi'r gwaith cynllunio a gweithredu trwy asesu cyrhaeddiad disgyblion mewn llythrennedd yn effeithiol gan ddefnyddio cwestiynau priodol.
Disgwylir i’r hyfforddai gymhwyso llythrennedd yn y mwyafrif o’r gwersi gan sicrhau bod yr agweddau ar lythrennedd a dargedir yn addas i’r cyfnod allweddol a’r pwnc yn ogystal ag i’r deilliannau dysgu ddynodwyd ar gyfer y dysgwyr yn y wers.
Wrth raddio gallu hyfforddeion i gymhwyso llythrennedd yn y dosbarth dylid asesu i ba raddau mae’r hyfforddai’n gallu:
· adnabod cyfleoedd i gynllunio a manteisio ar gyfleoedd sy’n codi yn y dosbarth ar gyfer datblygu agweddau ar lafaredd (siarad a gwrando), darllen ac ysgrifennu;
· defnyddio termau llythrennedd penodol yn gywir ac arddangos dealltwriaeth dda wrth ddewis, cyfansoddi a dadansoddi nodweddion cynnwys ac iaith ffurfiau ysgrifennu/testunau darllen mewn cyd-destunau trawsgwricwlaidd;
· defnyddio amrediad o strategaethau addysgu a dysgu, cymorthion gweledol, adnoddau a TGCh yn berthnasol o fewn eu cynlluniau gwersi er mwyn datblygu dealltwriaeth a sgiliau llythrennedd dysgwyr;
· adnabod disgwyliadau llythrennedd addas o ran oed a gallu blaenorol y dysgwyr a chynllunio tasgau realistig a chwestiynau gwahaniaethol priodol ar eu cyfer;
· ymateb i gamdybiaethau a chamgymeriadau dysgwyr;
· asesu dealltwriaeth dysgwyr o lythrennedd trwy strategaethau asesu ar gyfer dysgu addas a chwestiynu sgilgar yn seiliedig ar asesiad blaenorol.
Wrth asesu llythrennedd dylai’r arsylwr asesu a yw’r elfennau uchod: yn eithriadol; yn dda; angen peth gwelliant; angen llawer o welliant; yn anfoddhaol.
Fe ddylai’r radd a roddwyd i lythrennedd fod yn hafal neu un yn llai na’r radd a ddyfarnwyd ar gyfer S3.3. Dangosir isod y sylw cyfatebol hefyd. Er enghraifft, yn y wers isod, rhoddwyd 2 (da) ar gyfer S3.3. ond dim ond 3+ ar gyfer cymhwyso llythrennedd.
Enghreifftiau o sylwadau, graddau a thargedau
Sylw: Defnydd cyfyngedig o adnoddau a thasgau rhyngweithiol yn defnyddio ipad/chromebooks i gyflwyno cyflwyniadau llafar mewn grŵp – mae angen llawer o welliant yn eich defnydd o adnoddau i gefnogi’r dysgu. Gellir defnyddio’r dechnoleg wedyn i asesu’r dysgu gyda’r dysgwyr.
Gradd:3
Targed: Sicrhewch bod gennych adnoddau addas i gefnogi’r dysgu ( e.e.e.e.gwefannau/testunau darllen/youtube/cyflwyniadau trwy boster)
Sylw: Cyfuniad da o gwestiynu ac ymateb i gamgymeriadau mwyafrif y dysgwyr arweiniodd
iddynt wneud cynnydd da yn y maes.
Gradd 2
Targed: Ystyriwch eich bod yn defnyddio cwestiynau penodol Taxonomy Bloom ar gyfer y dysgwyr MATh er mwyn herio a chynyddu’u dysgu.
Sylw: Nifer o gyfleoedd trawsgwricwlaidd wedi’u colli i ddefnyddio terminoleg atalnodi a sut y dylid eu defnyddio’n gywir i gyfleu ystyr yn arbennig o gofio mai dyma’r agwedd ar lythrennedd y ffocyswyd arno yr wythnos diwethaf (e.e. wrth fonitro dysgwyr ar eu tasg darllen mewn grŵp yn y wers hanes ddydd Mawrth.)
Gradd 4
Targed: Cofiwch yr angen i gymhwyso’r sgiliau llythennedd yn drawsgwricwlaidd. Dyma egwyddor sylfaenol y Fframwaith Llythrennedd. Chwiliwch am y cyfleodd hyn yn gyson.
Sylw: Mae eich defnydd o amrywiaeth o ffynonellau i grwpiau sydd wedi eu gwahaniaethu yn caniatáu dysgwyr i archwilio nodweddion ar lefel briodol.
Gradd1
Targed: Ystyriwch sut y gallwch gefnogi'r disgyblion mwy abl i ddatblygu eu dealltwriaeth o iaith o'r wers hon.
Gweler y ddogfen Graddio’n Gywir yn Gyson neu atodiad 2 yn y ddogfen hon sy’n dynodi’r meini prawf wrth raddio safon cymhwyso llythrennedd yr hyfforddeion. Defnyddir meini prawf cenedlaethol Tystysgrif Cymhwyso Iaith Cymraeg i Athrawon (TCA) ar gyfer hyn.
Graddio safon llythrennedd personol hyfforddeion ar brofiad ysgol
Asesir safon llythrennedd personol (Saesneg/Cymraeg) ddwywaith yn ystod profiad ysgol – yn rhan o’r asesiad interim a’r asesiad crynodol. Dylid nodi graddau a sylwadau ar y ffurflen ‘Adroddiad Interim ar gynnydd yr hyfforddai a graddau targed’ a’r graddau a’r sylwadau crynodol ar y ffurflen grynodol berthnasol (Adroddiad crynodol diwedd lleoliad profiad ysgol )
Wrth ddiffinio safon llythrennedd personol hyfforddai mae’r prif bwyslais ar sgiliau llafaredd ac ysgrifennu wrth addysgu dysgwyr ac wrth gyflawni gofynion lletach y cwrs ar brofiad ysgol (e.e. gofynion y Ffeil Cynllunio Gwersi, cofnodi cyfarfodydd proffesiynol, cadw log arsylwi, ysgrifennu sylwadau ar y bwrdd gwyn ac ar lyfrau’r dysgwyr) Disgwylir i’r hyfforddeion gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn rhugl, yn gywir ac yn ddarbwyllol.
Sylwer nad oes meini prawf ar gyfer gradd 3 wrth raddio safon llythrennedd personol er mwyn alinio a chyfatebu gyda meini prawf Tystysgrif Cymhwyso Iaith Cymraeg i Athrawon (TCA) sy’n ofyniad ar ffurf peilot statudol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddeion TAR cyfrwng Cymraeg yn unig.
Gweler y ddogfen Graddio’n Gywir yn Gyson neu atodiad 2 yn y ddogfen hon sy’n dynodi’r meini prawf wrth raddio safon llythrennedd personol yr hyfforddeion. Defnyddir meini prawf cenedlaethol Tystysgrif Cymhwyso Iaith Cymraeg i Athrawon (TCA) ar gyfer hyn.
Esiamplau o sylwadau wrth ymateb i safon llythrennedd personol hyfforddeion.
Sylw: Gofalwch fod y geiriau rydych wedi eu hysgrifennu ar sleidiau powerpoint/prezi neu adnoddau wedi cael eu sillafu'n gywir.
Mae modelu gyda'r plant sut i ddefnyddio geiriadur i wirio gair nad ydynt yn sicr sut i'w sillafu yn arfer dda. Defnyddiwch amrywiaeth o strategaethau ac adnoddau i helpu dysgwyr i sillafu geirfa cyfarwydd ac anghyfarwydd a geiriau pwnc-benodol yn gywir.
Sylw : Defnyddiwch iaith safonol gyda phlant ar lafar. Osgowch iaith fratiog a dylanwad cystrawen Saesneg ar eich iaith lafar e.e. Rho dy gôt ar… (Gwisga dy gôt! sy’n gywir) Mae i gyd o’r llyfrau ar y bwrdd…(Mae’r llyfrau i gyd ar y bwrdd)
Sylw: Cofiwch bwysigrwydd ymateb i lithriadau treiglo plant ar lafar yn sensitif. Ail adroddwch y treiglad yn gywir a naturiol wrth ymateb. Cofiwch yr angen i fwydo treigladau ar lafar yn gyson.
Sylw: Cefnogi dysgwyr i ddefnyddio Cysgair yn effeithiol. Mae rhai yn dibynnu gormod ar y feddalwedd ac yn derbyn y gair cyntaf ar y rhestr waeth beth yw'r ystyr.
Pwyntiau data llythrennedd ar brofiad ysgol
Ar gyfer pob lleoliad ysgol, dylai mentoriaid raddio gallu'r hyfforddeion i gymhwyso llythrennedd a safon llythrennedd personol ar lawr y dosbarth yn y dogfennau canlynol:
· Yr adroddiad interim ar gynnydd yr hyfforddeion a graddau targed
· Adroddiad Diwedd Profiad Ysgol.
Cynllunio ar gyfer llythrennedd
Mae sgiliau llythrennedd yn rhan annatod o bob gwers. Yn ystod unrhyw wers, gall dysgwyr ymateb i gwestiynau, defnyddio strategaeth ddarllen benodol ac egluro syniadau yn ysgrifenedig. Fodd bynnag, wrth gynllunio ar gyfer llythrennedd, mae'n rhaid cael ffocws clir yn hytrach na nodi pob agwedd ar y wers.
Mae'n bwysig canolbwyntio ar y datganiadau mwyaf perthnasol sy'n gysylltiedig â'r dasg ac ar yr anghenion hysbys a/neu ddeilliannau disgwyliedig cysylltiedig ag oed eich disgyblion.
Asesu
Mae hefyd yn bwysig eich bod yn cofnodi'r cyfle a gafodd y disgyblion a'u cyrhaeddiad yn yr elfen honno. Dylech ddilyn polisi eich ysgol am asesu cynnydd disgyblion yn erbyn y Fframwaith Dysgu.
Dylech fod yn gofyn cwestiynau ac yn promtio dysgwyr trwy gydol y wers. Mae'r enghreifftiau yn dangos y math o gwestiynau a phromtiau y dylent fod yn eu cynllunio ond nid ydynt yn gynhwysfawr. Yn bwysicach, ni allwch baratoi ar gyfer ymatebion yr holl ddisgyblion; mae sut yr ydych yn ymateb i gamsyniadau, camddealltwriaeth a digwyddiadau annisgwyl yn rhan o gyflwyno gwersi ardderchog.
Yn olaf, wrth werthuso'r wers dylai hyfforddeion wrando'n feirniadol ar ymatebion llafar disgyblion, nodi sut maent yn gweithio a siarad gyda'i gilydd a gwerthuso'r arteffactau wedi eu cwblhau/y problemau/y gwaith ysgrifenedig. Gellir cysylltu'r rhain â'r meini prawf llwyddiant a chyfrannu at yr asesiad cyffredinol o sgiliau llythrennedd eich dysgwyr.
Cynlluniau gwersi enghreifftiol
Yn y tudalennau nesaf manylir ar y cynlluniau gwersi mewn pedwar cyd-destun gwahanol:
· Cyfnod Sylfaen – Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd
· Cyfnod Allweddol 2 - Celf a llythrennedd
· Uwchradd - Hanes a llythrennedd
· Uwchradd - Dylunio a Thechnoleg a llythrennedd
Wrth gynllunio ar gyfer llythrennedd dylai fod cysylltiadau clir rhwng yr elfen o'r fframwaith, yr amcanion dysgu, y meini prawf llwyddiant a'r cwestiynau a gynllunnir gan yr hyfforddai. Yn ddelfrydol dylai'r amcanion dysgu fod wedi eu seilio ar sgiliau meddwl uwch, sef dealltwriaeth, cymhwyso, dadansoddi, gwerthuso a chreu, tra dylai'r Meini Prawf Llwyddiant fod yn dystiolaeth weladwy neu glywadwy o ddysgu’r dysgwyr.
PROFFORMA CYNLLUNIO
Cyfnod Sylfaen: Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd a sgiliau llythrennedd
Enw:
DosbarthDerbyn
Dyddiad 15-19 :10:16
Pwnc/Cyd-destun GDB/I,LlaCh
TARGEDAU SGILIAU ADDYSGU’R HYFFORDDAI
Amseru – sicrhau nad yw fy nghyflwyniadau yn rhy hir ar gyfer lefel datblygiadol y plant.
Defnyddio strategaethau amrywiol i gyflwyno (peidio bod yn ddibynnol ar Bwynt Pŵer)
TARGEDAU DYSGU’R DYSGWYR
· Ymgyfarwyddo gyda’u partner trafod newydd.
· Cadw adnoddau yn annibynnol yn dilyn ysgwyd y tamborin.
· CT i ddefnyddio ei amserlen weledol. Miss Tomos i’w wobrwyo trwy fynd ag o allan i chwarae pêl yn dilyn cyflawniad cerdyn ar yr amserlen weledol.
DATBLYGIAD SGILIAU
Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
· Ymchwilio i ffynonellau a materion
· Didoli a grwpio gwybodaeth.
Iaith,Llythrennedd a Chyfathrebu
Llafaredd
· Defnyddio ystod gynyddol o eirfa addas wrth chwarae ac mewn gweithgareddau strwythuredig
· Dechrau ateb cwestiynau gan ddefnyddio ffurfiau cywir
· Siarad yn glywadwy
Dat Math
· Trosglwyddo sgiliau mathemategol i weithgareddau chwarae a’r ystafell ddosbarth.
· Didoli a dsosbarthu gwrthrychau drwy ddefnyddio un (neu fwy nac un ) maen prawf .
Allwedd :
Datganiad FfLlRh
Sgil estynedig Δ
Sgil Maes Dysgu
Cymhwysedd Digidol :
. Defnyddio sioe sleidiau gyda lluniau neu ffotograffau ar lechen/dyfais
AMCANION DYSGU
· AD1 – adnabod y nodweddion naturiol a’r nodweddion a grewyd gan ddyn
· AD2- setio yn ôl nodweddion
· AD3- negyddu brawddeg yn gywir
· AD4- Defnyddio iMovie i gofnodi canfyddiadau
MEINI PRAWF LLWYDDIANT
Bydd y gwaith yn dda os y byddaf wedi cofio……
· ffilmio tri pheth gwahanol wrth fynd am dro
· defnyddio botwm recordio i roi llais ar dri llun
· esbonio os yw’r llun yn rhywbeth naturiol neu wedi ei wneud gan ddyn
· yn cofio defnyddio’r patrwm “ mae o yn …. oherwydd” neu “tydi o ddim …… oherwydd”
Gwahaniaethu mpll:
Growth mindset: “oes yna rhywun eisiau mwy o her?”
Dewiswch feini prawf Tsilis Poeth
· Ffilmio 5 peth gwahanol
· Gohebu yn fyw
· Esbonio os yw’r llun yn rhywbeth naturiol neu wedi ei wneud gan ddyn
· yn cofio defnyddio’r patrwm “ mae o yn …. oherwydd” neu “tydi o ddim …… oherwydd”
“ Oes rhywun eisiau mwy o gymorth i ddeall y gwaith yn iawn?”
Tsili gwyrdd :
· Dewiswch ap Book Creator.
· Tynnwch lun tri pheth gwahanol wrth fynd am dro.
· Defnyddiwch y botwm recordio i roi llais ar dri llun.
· Esboniwch os yw’r llun yn rhywbeth naturiol neu wedi ei wneud gan ddyn.
· Cofio defnyddio’r patrwm “ mae o yn …. oherwydd” neu “tydi o ddim …… oherwydd” (mae cardiau trafod yn y blwch tsili gwyrdd)
ASESU AR GYFER DYSGU
· Cofnodi ar slip dysgu (defnyddio “gallu am gyflawniad ac ‘yn dysgu” pan fo angen ail ymweld)
‘Mae Bob yn ………. gwahaniaethu rhwng adnoddau dynol ffisegol.’
‘Mae Bob yn ………. negyddu brawddeg.’
· Arsylwi ar y plant yn didoli yn annibynnol
· Gwrando ar eu rhesymu
· Herio ymhellach trwy gwestiynu….
Beth am sgarff Barti?
Ydy hwnnw yn ddynol a ffisegol?
Strwythur y wers a chynllun manwl o’r gweithgareddau
DATBLYGIAD SGILIAU Sgiliau Meddwl, ABCH, ADCDF
Amser
Gweithgareddau gwersi
Clo/AagD
10.45-11.00
11-11.30
11.30-11.45
11.45-
11.55
CYFLWYNIAD: (Mae’r plant yn gyfarwydd â stori Sgarff Barti)
CYFLWYNIAD FFOCWS:
Creu Byd Bach fferm Barti ar y cyd gyda’r plant gan ddefnyddio pridd, gwair, ffens bren fach ffyn lolipop, tractor, defaid, ac ati gan roi profiadau amlsynhwyrol i’r plant wrth iddynt drîn a thrafod y gwrthrychau.
Rhannu bwriad y dysgu a’i arddangos:
Rydym ni’n dysgu am y nodweddion naturiol a nodweddion pethau a grewyd gan ddyn.
Edrych yn fanwl ar fferm Barti yn y Byd Bach gan drafod a ddidoli adnoddau’r fferm mewn hwpiau hwla gan eu setio yn ôl nodweddion. Esbonio a rhesymu eu dewis gan roi ffocws ar negyddu brawddeg- Does ganddo ddim /Tydio ddim yn (tyfu). Cyflwyno geirfa naturiol a crewyd gan ddyn wrth ddidoli.
TASG FFOCWS:
Mynd ar daith gerdded yn yr ardal leol gan ffilmo a gohebu iMovie sydd yn edrych ar nodweddion naturiol o’n cwmpas.
Rhannu’r m.p.ll. a sicrhau eu bod yn weledol.
Modelu iaith yn barhaus- labelu nodweddion yn yr amgylchfyd. Tynnu sylw parhaus i ffurf negyddol y frawddeg yn ogystal â’r geiriau naturiol a grëwyd gan ddyn.
CLO:
Edrych a gwerthuso iMovie yn unol â’r mpll.
Chwarae gêm Headbandz – penwisg a chardiau (wedi’u darparu) e.e. coeden-
Un plentyn yn y benwisg i wisgo cerdyn cudd ar ei ben a gofyn cwestiynau-
“Oes ganddo glustiau? “
“ Na, does ganddo ddim clustiau”
Hyrwyddo’r cwestiwn “ Ydy o’n naturiol/ wedi ei greu gan ddyn?”
Amser cadw sesiwn bore
Golchi dwylo cyn cinio
Dod â’r hŵps i’r cylch. Dewis plant amrywiol i grwpio gwrthrychau gan esbonio eu maen prawf.
Arsylwi ar y plant yn didoli yn annibynnol
Gwrando ar eu rhesymu wrth ddidoli/setio. Annog iddynt feddwl am amodau wrth ddidoli. Be sy’n debyg?
Cwestiynu cyson gydag andoddau’r byd bach ac wrth fynd ar y daith gerdded.
‘Oes ...?’
‘Ydi …yn ..?’
Cyfoethogi’r byd bach am wythnos gyda’r hŵps i roi cyfle i’r plant gymhwyso ac ymarfer eu sgil.
Gwerthuso’n gilydd – arwain y cwestiynu.
Pam wnaethoch chi ddewis tynnu llun..?
‘Ydio…’
‘Ydi hwn yn naturiol neu wedi’i greu gan ddyn?’
‘Sut wnest ti recordio? Fedri di ddangos?’
‘Mae gen i’
‘Toes gen i ddim...’
Gadael y gêm Headbandz yn y gornel ddarllen ynghŷd a chardiau llafar er mwyn hybu ymarfer annibynnol o’r cwestiynau.
CYMRAEG bob dydd
Ydi...yn ? Mae…. yn…
Na, tydy … ddim yn…
GEIRFA/TERMAU ALLWEDDOL
Dynol, ffisegol, caled, ffatri, tyfu, naturiol
Crëwyd gan ddyn
ADNODDAU
Hŵps, ipads
IECHYD A DIOGELWCH
Yn unol a pholisi Pnawn cymuned yr ysgol
RÔL STAFF CEFNOGI
Modelu geirfa/ patrwm brawddeg, procio’r plant i resymu, atgoffa’r plant o’r meini prawf.
Gwerthuso gwers
AMCANION DYSGU (o dudalen 1)
· AD1 – adnabod y nodweddion naturiol a’r nodweddion a grewyd gan ddyn
· AD2- setio yn ôl nodweddion
· AD3- negyddu brawddeg yn gywir
· AD4- defnyddio iMovie i gofnodi canfyddiadau
GWERTHUSO DYSGU (yn erbyn AD)
AD1a Bu i bron bob un plentyn adnabod y nodweddion naturiol a ffisegol yn yr amgylchedd leol.
Bu i bob bachgen gael ei gymell yn arbennig o dda trwy ddefnydd yr iPad a bod yn yr awyr agored.
Roedd pawb o’r grŵp MATh wedi dangos dealltwriaeth dda o AD1
AD2- Bu i bob un plentyn setio adnoddau’r byd bach yn ôl maen prawf. Bu i’r grŵp MATH bennu eu hamodau setio eu hunain ac esblygu’r setiau o ddau set i ddiagram VENN.
AD3- Gwelwyd bod mwyafrif yn negyddu brawddeg yn gywir erbyn diwedd y sesiwn. Roedd y gêm wedi ei chyflwyno i ddefnyddio ffrâm llafar i hybu cywirdeb felly efallai nad oes gwir ddibynadwyedd i hyn . Bwriedir parhau i asesu ac arsylwi ymhellach gan gynnig cyfleoedd pellach i gaffael y sgil.
AD4- Defnyddiodd bron pob un yr app iMovie ar yr iPad i gwblhau eu gwaith. Defnyddiodd CT a ER app book creator am eu bod yn teimlo yn fwy hyderus. Bu i bawb recordio eu llais ar eu canfyddiadau yn llwyddiannus.
TARGEDAU’R DYSGWYR (gariwyd ymlaen at y wers nesaf)
· Negyddu brawddeg yn gywir ar lafar yn naturiol ac yn annibynnol gyda’r gêm yn ystod yr wythnos ac mewn cyd-destunau newydd.
· Cynyddu mewn hyder wrth ddefnyddio iMovie- mewnfudo cerddoriaeth.
· Edrych ar ‘Sgarff Barti’ – gwlân yn naturiol ond y sgarff wedi ei greu gan ddyn. Herio’r cysyniad.
PROFFORMA CYNLLUNIO
Enw
Dosbarth Blwyddyn 3
Dyddiad
Pwnc/Cyd-destun: Celf a Dylunio/Cwricwlwm Cymreig – Eleri Mills
TARGEDAU SGILIAU ADDYSGU'R HYFFORDDAI
· S3.3.3 gwneud yr amcanion dysgu yn glir i ddysgwyr
· S3.1.3 Cymhorthion gweledol. Rwyf wedi paratoi cardiau fflachio laminedig, lluniau o waith Jackson Pollock i ail-edrych arnynt a lluniau o waith Eleri Mills ar gyfer y wers
· S3.3.6 Maent yn rhoi ystyriaeth i diddordebau, profiadau a chyflawniadau amrywiol y rhai maent yn eu haddysgu er mwyn helpu dysgwyr i wneud cynnydd da.
TARGEDAU DYSGU'R DYSGWYR
· Y dosbarth cyfan i fod yn ymwybodol o iechyd a diogelwch bob amser
· Grŵp y tasg ffocws i ddysgu’r sgil o wnïo fel y gallant ei fodelu i grŵp arall
· ST a GD ar gyfrifiadur (wrth fy ymyl) fel y gallant gwblhau'r dasg heb darfu
Datblygu sgiliau
Celf a Dylunio
Dealltwriaeth
Arbrofi ac archwilio'r dulliau a ddefnyddiwyd gan artistiaid eraill
Ymchwilio
Dethol a chofnodi wrth arsylwi
Gwneud
Archwilio, arbrofi a chymhwyso elfen weledol llinell
Llythrennedd
Egluro gwybodaeth a syniadau gan ddefnyddio geirfa berthnasol
Blwyddyn 2
Mynegi barn, rhoi rhesymau, a chynnig atebion priodol i’r cwestiynau
Blwyddyn 4
egluro gwybodaeth a syniadau gan ddefnyddio adnoddau cefnogol, e.e. deunyddiau ar sgrin ac ar y we
Fframwaith Cymhwysedd Digidol (drafft)
Cynllunio - chwilio a chael hyd i ffynonellau
Blwyddyn 3
Datblygu strategaethau i gael hyd i wybodaeth
Amcanion dysgu
AD1
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o linell fel elfen weledol trwy ddefnyddio llythrennedd
AD2
Ystyried iechyd a diogelwch
AD3
Cofnodi wrth arsylwi ac egluro gwybodaeth a syniadau trwy ddarnau ymchwiliol o waith celf
Meini Prawf Llwyddiant
MP1
Gallaf ddefnyddio gwahanol ansoddeiriau i ddisgrifio llinellau yng ngwaith Eleri Mills
MP2
· Gallaf roi edau mewn nodwydd a'i defnyddio'n ddiogel
· Gallaf ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel
MP3
Gallaf luniadu/gwnïo'r llinellau a welaf yng ngwaith Eleri Mills
Asesu ar gyfer dysgu
Partneriaid trafod - gallu cymysg o fewn dau grŵp i sicrhau y gall dysgwyr ddisgwyl gwahanol brofiadau. Defnyddio post-its 'partner trafod' i gofnodi eu meddyliau ar eu partneriaid.
Asesu cyfoedion - gwerthuso ymdrechion ei gilydd a beth sy'n dda ac 'awgrym da i'r dyfodol'
Cyfnod Allwedol 2: Celf a sgiliau lythrennedd
STRWYTHUR Y WERS A CHYNLLUN GWEITHGAREDDAU MANWL
DATBLYGU SGILIAU Sgiliau Meddwl, ABCH, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
Gofynnwch gwestiynau sy'n berthnasol i'r cyd-destun a gwrandewch cyn gofyn rhagor o gwestiynau
Amser
Gweithgareddau'r wers
Clo/ Asesu ar gyfer Dysgu
5 munud
5 munud
5 munud
5 munud
30 munud
10 munud
Cyflwyniad:
Eu hatgoffa am elfen weledol celf - llinellau a'r paentiad wnaethom ei drafod yn y sesiwn ddiwethaf 'Autumn Rhythm' gan Jackson Pollock. Y partneriaid trafod i ystyried beth mae nhw'n ei feddwl am eu hunain fel artistiaid a beth fyddai'n rhoi rhagor o hyder iddynt. Nodi'r atebion ar nodiadau Post-it.
Gwylio'r fideo 'The Dot'. Datblygu dysgu annibynnol
Rhannu amcanion dysgu - beth mae'r fideo yn ei ddweud wrthym?
Dysgwyr i fynd â llinell am dro mewn ymateb i ‘No Americano’. Dewis gwahanol ansoddeiriau i ddisgrifio eu llinellau. Ailadrodd y gweithgarwch gyda ’Arrival of the Birds’. Cymharu ansoddeiriau a gofyn cwestiynau i'w gilydd ynglŷn â beth oedd yn debyg/yn wahanol yn y ddwy set o gerddoriaeth. Cymryd tro i siarad. Oedi am ennyd a chlo.
Gweithgaredd 1, Tasg ffocws - gallu cymysg.
Dysgwyr i edrych ar waith Eleri Mills mewn perthynas ag elfen weledol llinell (delwedd gyda chroeslinellu) a thrafod gwahanol ansoddeiriau i ddisgrifio'r llinellau. Athro i fodelu geiriau ar fyrddau gwyn. Cwestiwn: Beth mae'r llinellau yn eu hawgrymu? Caniatáu amser i'r dysgwyr egluro gwybodaeth a syniadau gan ddefnyddio ansoddeiriau perthnasol. Dysgwyr i drafod y paentiad a sut y gall y pellter rhwng y llinellau newid y paentiad. Dysgwyr i ddefnyddio llyfrau braslunio i wneud marciau a chofnodi ac enwi gwahanol linellau a thynnu llinellau croeslinellu. Dysgwyr i ddefnyddio darn o binka i ymarfer pwyth rhedeg a chroeslinellu.
Gweithgaredd 2 TGCh (plant â chyrhaeddiad uwch)
Dysgwyr i agor ffeil (a baratowyd gan yr athro) ar ddelweddau gan Eleri Mills. Dysgwyr i ddewis eu hoff ddelwedd gyda'u partner trafod. Dysgwyr i ddefnyddio clip bwrdd a phapur A4 i dynnu'r llinellau gallant eu gweld yn y gwaith celf ac enwi'r llinellau. Yn y sesiwn gloi bydd y dysgwyr yn nodi pam eu bod wedi dewis y gwaith celf yn ogystal â'r mathau o linellau roeddent wedi cael hyd iddynt. Dysgwyr i ddefnyddio ‘Cymraeg bob dydd’.
Gweithgaredd 3 (plant â chyraeddiadau is)
Edrych ar waith celf gan Eleri Mills a'i drafod. Pa fathau o linellau allwch eu weld yn ei gwaith celf? Defnyddiwch eich bys i olrhain y llinellau. Tynnwch lun y llinellau ar y bwrdd gwyn a'u disgrifio (Cymraeg bob dydd). Gallwch efelychu'r llinellau gan ddefnyddio pen ffelt ar ddarn o hesian e.e. llinell hir, byr ac igam ogam. Y cynorthwyydd dysgu i fodelu sut i roi edau mewn nodwydd a gwneud pwyth rhedeg. Dysgwyr i ddefnyddio nodwydd ac edau brodwaith lliw i wnïo dros y llinell. Atgoffa dysgwyr am ystyriaethau iechyd a diogelwch drwy'r amser.
Clo
Rhaid cyfeirio at y Meini Prawf Llwyddiant wrth i'r dosbarth symud o un grŵp i'r llall i werthuso tasg.
Cwestiynau Allweddol
(gosod mewn parau a dewis ar hap) Trafodwch y llinellau yn 'Autumn Rhythm' gan Jackson Pollock. Defnyddiwch ansoddeiriau i atgoffa eich hunain am y mathau o linellau sy'n amlwg yn ei waith. Eglurwch sut y defnyddioch ei ddull yn y dosbarth i greu murlun mawr ar lawr y dosbarth. Adolygu'r term 'impasto' a gwead llinellau.
Mewn ymateb i'r fideo, pa elfen weledol y gallwn ni fod yn edrych arni heddiw?
Partneriaid trafod a ffyn loli
Trafodwch gymeriad Vashni ar ddechrau'r fideo ac ar y diwedd. Cymharwch eich ymatebion ar y nodiadau Post-it.
Parau/grwpiau yn y sesiwn gloi:
Rydym ni wedi trafod/creu ...
Rydym wedi dysgu...
Gofynnwch gwestiynau i'r dysgwyr:
Beth allwn ni ei wneud y tro nesaf? Nodwch yr atebion ar gerdyn mawr ar gyfer y sesiwn nesaf.
CYMRAEG bob dydd
Rydw i yn creu llinellau.....
Rydw i’n gweld…..
Rydw i’n meddwl........
GEIRIAU ALLWEDDOL/TERMINOLEG
(Dwyieithog)
Llinellau tonnog / wavy lines,
syth/straight,
byr / short,
pigog/ spiky
igam ogam / zig zag
crwm /curved
croeslinellu/crosshatching
ADNODDAU
iPads, cardiau geiriau laminedig, nodiadau Post it
hesian, edau brodwaith, sisyrnau a nodwyddau mawr.
Taflenni gwaith gwahaniaethol. Lluniau o waith gan Eleri Mills a Jackson Pollock. Caneuon o'r rhyngrwyd, papur A4.
IECHYD A DIOGELWCH
Gosod rheolau iechyd a diogelwch mewn perthynas â defnyddio nodwydd gwnïo (Gweithgaredd 1 a 3) / defnyddio'r rhyngrwyd (Gweithgaredd 3)
SWYDDOGAETH STAFF CEFNOGI
Cefnogi gweithgaredd 3. Gofyn cwestiynau'n ofalus i sicrhau bod pawb yn deall y dasg mewn llaw. Defnyddio cardiau geiriau. Cynorthwyydd Dysgu i adrodd nôl i'r athro mewn perthynas ag asesu
GWERTHUSO GWERS
Amcanion dysgu (o dudalen 1)
AD1
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o linell fel elfen weledol trwy ddefnyddio llythrennedd
AD2
Ystyried iechyd a diogelwch
AD3
Cofnodi wrth arsylwi ac egluro gwybodaeth a syniadau trwy ddarnau ymchwiliol o waith celf
Gwerthuso dysgu (yn erbyn Amcanion Dysgu)
Gweithiodd y rhan fwyaf o'r dysgwyr yn dda ar y dasg ac wedi sylwi'n ddiwyd ar y gwahanol linellau sydd i'w gweld yng ngwaith celf Eleri Mills. Roedd y dysgwyr yn awyddus i ddefnyddio'r geiriau newydd a ddysgwyd a theimlir y byddant yn gallu casglu rhagor o eirfa gysylltiedig â chelf yn y sesiwn nesaf.
Roedd yn ymddangos bod y rhan fwyaf o'r dysgwyr yn cadw at y dasg ac yn ymwybodol o iechyd a diogelwch trwy gydol y sesiwn. Ond roedd ymddygiad lleiafrif bychan (CD a SA) yn tarfu'n fawr iawn ar adegau ac roeddent yn risg i'w hunain ac eraill. Bydd angen eu goruchwylio'n ofalus os byddant yn defnyddio nodwydd a siswrn yn y dyfodol.
Roedd y rhan fwyaf o'r dysgwyr yn gallu rhoi adborth da ar lafar yn y sesiwn gloi ac yn gweithio'n dda fel grwpiau. Ond roedd y Grŵp Glas yn siarad ar draws ei gilydd.
Bydd rhaid eu hatgoffa yn y sesiwn nesaf bod rhaid iddynt gymryd tro i siarad ac i fynegi eu penderfyniadau'n well.
Targedau dysgwyr (i'w cario ymlaen i'r wers nesaf)
Caiff geirfa newydd a therminoleg celf a dylunio ac ansoddeiriau priodol eu cyflwyno yn ystod y sesiwn nesaf fel y gallant siarad am gelf yn briodol a thrafod gweithiau celf am bobl/anifeiliaid gan Quentin Blake a sut y gall llinellau gyfleu mynegiant.
Bydd CD a SA yn cael eu hannog i geisio gweithio ar eu pen eu hunain ac ystyried iechyd a diogelwch bob amser
Caiff y Grŵp Glas eu hannog i roi rhesymau clir am benderfynu ar eu dewisiadau ac i gymryd eu tro wrth siarad.
AD/MP
Llythrennedd
Rhifedd
Cymhwysedd Digidol
Gwahaniaethu
Gwaith cartref
Cymraeg
Cwricwlwm Cymreig
/
/
/
/
/
/
23
PRO FFORMA CYNLLUNIO
Enw xxx
Dosbarth8 2l
Dyddiad
Pwnc/Cyd-destunHarri'r VIII a'r mynachlogydd
TARGEDAU SGILIAU ADDYSGU’R HYFFORDDAI
•Gosod meini prawf llwyddiant addas i ddysgwyr fel y gall dysgwyr eu deall yn glir a gwirio eu bob wedi eu cyflawni. S3.1.1
•Darparu adnoddau effeithiol i ddysgwyr fel y gallant eu defnyddio'n annibynnol yn ystod y gwersi. S3.1.3
TARGEDAU DYSGU’R DYSGWYR
•Datblygu dulliau darllen ac ymateb i'r hyn sydd wedi ei ddarllen, trwy ymateb a dadansoddi testunau nad ydynt wedi eu gweld o'r blaen a chyfuno a chrynhoi testunau. 8.RA3
•Parhau i ddatblygu sgiliau Ymholiad Hanesyddol trwy gofnodi a gwerthuso gwybodaeth a ddysgir a dod i gasgliadau rhesymol.
DATBLYGIAD SGILIAU
Fframwaith Llythrennedd
Darllen
cael hyd i wybodaeth a thystiolaeth gefnogol o wahanol ffynonellau gan eu dethol a'u dewis i'w defnyddio i ddangos pa un o reolau Sant Bened gafodd ei thorri. 8.RC3
Llafaredd
ymateb i farn pobl eraill yn gadarnhaol ac yn briodol pan gânt eu herio. 8.OS4
Gwrando: Ymateb yn gadarnhaol ac yn feddylgar i syniadau newydd a gwahanol safbwyntiau. 8.OL1
Y Cwricwlwm Cenedlaethol: Ymholiad Hanesyddol: Bydd dysgwyr yn defnyddio ffynonellau yn annibynnol, yn dethol a dewis a chrynhoi gwybodaeth ohonynt i lenwi grid, gan ddangos pa rai o reolau Sant Bened gafodd eu torri
AMCANION DYSGU
•Gallu defnyddio ffynonellau'n annibynnol a dethol a dewis a chrynhoi'r wybodaeth. AD1
•Trafod pwysigrwydd cymharol gwahanol ffeithiau a safbwyntiau, gwrando ac ymateb yn gadarnhaol i farn pobl eraill.AD2
MEINI PRAWF LLWYDDIANT
•Rwy'n deall beth yw mynachlog a pha waith roeddent yn eu gwneud yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. MP1
•Darllenais ffynonellau gwahanol o adroddiadau’r mynachlogydd a llenwi grid yn amlinellu'r rheolau a dorrwyd ganddynt. MP2
· Llwyddais i gyfiawnhau fy mhwyntiau gyda rhesymau dilys.
· Gwrandawais ac ymatebais i farn pobl eraill yn gadarnhaol ac yn briodol mewn trafodaeth yn y dosbarth ynglŷn â beth oedd y rheswm pwysicaf pam bod Harri'r VIII wedi cau'r mynachlogydd. MP3
ASESU AR GYFER DYSGU
•Cwestiynau ar daflen ragarweiniol i annog meddwl gan ddefnyddio'r dychymyg.
•Adalw a dehongli gwybodaeth ar y cyd ac adborth yr athro.
•Dosbarthu ffynonellau i lenwi'r grid ac adborth yr athro.
•Dysgwyr yn creu cwestiynau mewn trafodaeth
Cyfnod Allweddol 3: Hanes a llythrennedd
LO/SCLiteracyNumeracyDigital CompetencyDifferentiationHomeworkCymraeg pob dyddCwricwlwm Cymreig
n/an/an/a Hi A ydych wedi ystyried rhain yn eich cynllun?
AD/MP
Llythrennedd
Rhifedd
Cymhwysedd Digidol
Gwahaniaethu
Gwaith cartref
Cymraeg bob dydd
Cwricwlwm Cymreig
·
·
n/a
n/a
·
n/a
·
·
stor Have you considered these in your plan?
LO/SC
Literacy
Numeracy
Digital Competency
Differentiation
Homework
Cymraeg pob dydd
Cwricwlwm Cymreig
·
·
n/a
n/a
·
n/a
·
·
Have you considered these in your plan?
LO/SC
Literacy
Numeracy
Digital Competency
Differentiation
Homework
Cymraeg pob dydd
Cwricwlwm Cymreig
·
·
n/a
n/a
·
n/a
·
·
y and literacy
skills Have you considered these in your plan?
LO/SC
Literacy
Numeracy
Digital Competency
Differentiation
Homework
Cymraeg pob dydd
Cwricwlwm Cymreig
·
·
n/a
n/a
·
n/a
·
·
Ein gweledigaeth
Addysgu, cefnogi a chymell myfyrwyr i fod yn athrawon rhagorol a chreadigol, a fydd yn ysbrydoli a grymuso pob dysgwr i gyflawni eu potensial
Strwythur y wers a chynllun manwl o’w gweithgareddau
DATBLYGIAD SGILIAU Sgiliau Meddwl, ABCH, ADCDF
Diffinio mynachlog a nodi pwy sy'n gyfrifol heddiw am wneud y gwaith a wnaed gan fynachlogydd yr unfed ganrif ar bymtheg.
Dadansoddi ffynonellau'r adroddiadau a phenderfynu pa un o reolau Sant Bened gafodd ei thorri.
Penderfynu a ydynt yn cytuno gyda'r datganiad a thrafod y prif reswm pam y penderfynodd Harri'r VIII gau'r mynachlogydd a chyfiawnhau eu hatebion
Amser
Gweithgareddau gwersi
Clo/AagD
11:50-12:00
12:00-12:20
12:20-12:30
12:30-12:40
Tawelu'r dosbarth a chymryd y gofrestr.
Trafod meini prawf llwyddiant gyda'r dosbarth.
Gwirio dealltwriaeth y dysgwyr o beth yw mynachlog ac egluro unrhyw gamsyniadau.
Bydd dysgwyr yn trafod pwysigrwydd mynachlogydd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. MP1[Rhannwch y dysgwyr i grwpiau i ddefnyddio ffynonellau wedi'u gwahaniaethu o adroddiadau'r mynachlogydd:
A – Dysgwyr A, B, C a D (sgiliau llythrennedd gwan: adnoddau wedi eu gwahaniaethu; rhestr o eiriau allweddol)
B – Grŵp gallu cymysg x4 (B.B. a R.S. - problemau ymddygiad: monitro ymddygiad)
C – Grŵp gallu cymysg x 4 (J.S. - problemau ymddygiad: monitro ymddygiad)
D- dysgwyr mwy abl a thalentog x 3 (CD, KS, a MJ – adnoddau heriol – monitro cydweithio.)
Bydd dysgwyr yn darllen y ffynonellau yn eu grwpiau ac yn penderfynu pa un o reolau Sant Bened gafodd ei thorri.
Byddant yn dyfynnu o'r ffynhonnell i roi tystiolaeth o'r rheol yn cael ei thorri, gan nodi'r wybodaeth yn y gridiau.
SC2, LO1, 8.RC3, NC – ymholiad hanesyddol.
Gan ddefnyddio BGRh bydd dysgwyr yn didoli'r ffynonellau i gategorïau o dan reolau Sant Bened. Grŵp 1 i ddechrau ac yna gall y grwpiau eraill gytuno/anghytuno a symud y ffynonellau o gwmpas. AD1
Oedi am ennyd: sicrhau bod yr holl ddysgwyr ar y trywydd iawn ac annog defnyddio geiriau allweddol. Cwis cyflym i gyfateb y termau Cymraeg a Saesneg â’i gilydd a defnyddio geiriau rhesymu sylfaenol Cymraeg yn ystod y dasg didoli.
Yn eu grwpiau, bydd dysgwyr yn trafod y rhesymau eraill pam yr oedd Harri'r VIII eisiau cau'r mynachlogydd. Bydd gan bob grŵp gerdyn fflachio yn nodi rheswm pam yr oedd Harri eisiau eu cau, yna byddant yn cylchdroi rhain o amgylch y dosbarth yn rhannu eu syniadau. AD1
Eglurwch yn glir y bydd dysgwyr yn trafod "Prif reswm Harri am ddiddymu'r mynachlogydd oedd i gael gafael ar eu cyfoeth mawr. Dim ond esgus oedd ymddygiad y mynachod a'r lleianod" (T) Cyflwynwch fatiau iaith - iaith cyfiawnhau er mwyn datblygu geirfa rhesymu pan fo angen.
Bydd dysgwyr yn cyfrannu i'r drafodaeth yn eu tro, gan roi ystyriaeth gyfartal i bob ochr o'r ddadl. Byddant yn penderfynu pa reswm sydd fwyaf pwysig yn eu barn nhw ac yn cyfiawnhau eu hateb. SC3 LO1/LO2 Llythrennedd, siarad a gwrando 8.OS4/OL1
Wrth gymryd y gofrestr, bydd dysgwyr yn llenwi taflen sy'n cysylltu'r gwaith a wnaed yn y mynachlogydd gyda gwaith heddiw. MP1
Trafodaeth dosbarth - monitro cyfraniadau.
Monitro cydweithio ar adalw a dehongli ffynonellau (ymatebion priodol i farn pobl eraill 8.OS4) MP2
Dysgwyr yn rhannu a didoli syniadau am wahanol fathau o ffynonellau. AD
Dysgwyr yn llunio cwestiynau ar gyfer dadl. Monitro bod dysgwyr yn ymateb yn gadarnhaol i safbwyntiau gwahanol. 8.OL1
Annog defnyddio'r termau yn ddwyieithog.
Adfyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd.
Cyfeirio yn ôl i'r meini prawf llwyddiant.
Annog dysgwyr i ofyn cwestiynau yn seiliedig ar y meini prawf llwyddiant yn ystod y drafodaeth.
Targedu dysgwyr canolradd i roi un frawddeg yn Gymraeg.
CYMRAEG Pob Dydd
Targedu newydd ddyfodiaid i ymateb i arferion y dosbarth: Cofrestru, cyfarchion, teimladau.
Yma, ddim yma, shwmae, diolch, da iawn, hwyl
Dysgwyr canolradd: Defnyddio ‘anghytuno’ a ‘cytuno’ yn ystod y dasg didoli BGRh
GEIRFA / TERMAU ALLWEDDOL
(Dwyieithog)
king – brenin
Tudor – Tudur
monk – mynach
monastery – mynachlog
reasond, rhesymau
ADNODDAU
Taflen ar waith y mynachlogydd. X15
Taflenni ffynonellau. X15
Cardiau fflachio. X4
Taflenni grid. X15
IECHYD A DIOGELWCH
Bagiau o dan y byrddau.
Cotiau ar gefn y cadeiriau
RÔL STAFF CEFNOGI
Amherthnasol
GWERTHUSO GWERS
Amcanion dysgu (o dudalen 1)
· Gallu defnyddio ffynonellau yn annibynnol a dethol a dewis a chrynhoi'r wybodaeth s. AD1
· Trafod pwysigrwydd cymharol gwahanol resymau am gau'r mynachlogydd.AD2
Gwerthuso'r Dysgu (yn erbyn amcanion dysgu)
AD1 Roedd y dysgwyr yn y wers hon yn cymryd rhan weithredol mewn datblygu eu sgiliau ymholi hanesyddol, trwy ddefnyddio ffynonellau yn annibynnol yn eu grwpiau, dewis a dethol a chrynhoi gwybodaeth ohonynt i ddeall y rhesymau pam wnaeth Harri'r VIII gau'r mynachlogydd. Llwyddodd y dysgwyr i nodi'n gywir pa rai o reolau Sant Bened a dorrwyd.
AD2 Roedd y dysgwyr yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaeth ar ddiwedd y wers. Roedd y rhan fwyaf o'r dysgwyr yn gwrando ac yn ymateb yn ddeallus er bod rhai dysgwyr yn eithaf oddefol ( LW, IC, OJ a TR) ar ddiwedd y wers ac mae angen i mi barhau i weithio'n effeithiol i ennyn eu diddordeb. Gofynnodd rhai o'r dysgwyr gwestiynau heriol ac atebodd rhai y cwestiynau yn fanwl.
Targedau dysgwyr (i'w cario ymlaen i'r wers nesaf)
· Datblygu dulliau darllen yn ymateb i'r hyn a ddarllenwyd, trwy ymateb a dadansoddi testunau nad ydynt wedi eu gweld o'r blaen a chyfuno a chrynhoi testunau. 8.RA3
· Targed LW, IC, OJ a TR i ddisgrifio a chrynhoi'r trafodaeth fel sesiwn sbardun.
· Datblygu sgiliau Ymholiad Hanesyddol trwy gofnodi a gwerthuso gwybodaeth a ddysgir a dod i gasgliadau rhesymol, gan gysylltu â gwybodaeth o wersi blaenorol.
A ydych wedi ystyried rhain yn eich cynllun?
AD/MP
Llythrennedd
Rhifedd
Cymhwysedd Digidol
Gwahaniaethu
Gwaith cartref
Cymraeg bob dydd
Cwricwlwm Cymreig
·
·
n/a
n/a
·
n/a
·
·
KS3: Dylunio a thechnoleg a llythrennedd
LO/SCLiteracyNumeracyDigital CompetencyDifferentiationHomeworkCymraeg pob dyddCwricwlwm Cymreig
n/an/an/a Hi Have you considered these in your plan?
LO/SC
Literacy
Numeracy
Digital Competency
Differentiation
Homework
Cymraeg pob dydd
Cwricwlwm Cymreig
·
·
n/a
n/a
·
n/a
·
·
stor Have you considered these in your plan?
LO/SC
Literacy
Numeracy
Digital Competency
Differentiation
Homework
Cymraeg pob dydd
Cwricwlwm Cymreig
·
·
n/a
n/a
·
n/a
·
·
Have you considered these in your plan?
LO/SC
Literacy
Numeracy
Digital Competency
Differentiation
Homework
Cymraeg pob dydd
Cwricwlwm Cymreig
·
·
n/a
n/a
·
n/a
·
·
y and literacy
skills Have you considered these in your plan?
LO/SC
Literacy
Numeracy
Digital Competency
Differentiation
Homework
Cymraeg pob dydd
Cwricwlwm Cymreig
·
·
n/a
n/a
·
n/a
·
·
PROFFORMA CYNLLUNIO
Enw
Dosbarth: bl 7
Dyddiad
Pwnc Proses ffurfio gwactod
TARGEDAU SGILIAU ADDYSGU'R HYFFORDDAI
TARGEDAU DYSGU'R DYSGWYR
Deall proses gweithgynhyrchu yn ddigon da i roi cyfarwyddyd i ddysgwyr eraill.
Datblygu sgiliau
NC - Sgiliau
DYLUNIO
4. Canfod a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch technoleg, cynaliadwyedd a materion iechyd a diogelwch i ddatblygu syniadau ar gyfer cynhyrchion sydd o fewn cyrraedd y disgyblion.
GWNEUD
1. Datblygu'r sgiliau i ddethol a dewis a gweithio gydag ystod o ddeunydd a chynhwysion i wneud cynhyrchion mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
2. Defnyddio erfyn/offer llaw a pheiriannau, ac ystod o gyfarpar a phrosesau, i gymysgu, siapio, ffurfio ac ymuno deunyddiau a chynhwysion
DEUNYDDIAU A THECSTILAU GWRTHIANNOL
10. Dysgu am briodweddau a nodweddion deunyddiau a defnyddio'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth hon wrth ddylunio a gwneud cynhyrchion.
11. Profi deunyddiau, i weld a ydynt yn addas i'r defnydd a fwriadwyd.
LLAFAREDD - GWRANDO
Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniannau neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau mewn trefn.
Dadlau achos sy'n argyhoeddi gan ddefnyddio gwybodaeth am y pwnc yn effeithiol 'Cyflwyno pynciau a syniadau'
Amcanion dysgu
Bydd dysgwyr yn gallu:
1. gweithredu'r VFM (Peiriant ffurfio â gwactod) yn llwyddiannus
· rhoi'r swits ymlaen, rhoi'r gwresogydd ymlaen, clampio'r deunydd; gweithredu'r pwmp gwactod; tynnu'r gwaith.
2. Enwi ac adalw prif bartiau'r Peiriant ffurfio â gwactod
· Elfen wresogi, platen, lifer y platen, clampiau togl, swits y pwmp gwactod.
3. Disgrifiwch ac eglurwch nodweddion angenrheidiol mowld i'w ddefnyddio yn y Peiriant ffurfio â gwactod.
· Onglau drafft (5ᵒ - 10ᵒ); dim tandoriadau; tyllau aer posibl, corneli ac ymylon crwn; uchder ddim yn fwy na lled y gwaelod; defnydd posibl o gyfrwng rhyddhau.
4. Eglurwch pam y gellir defnyddio polystyren anhyblyg mewn VFM. (Nodweddion thermoblastig sy'n ei wneud yn addas h.y. posibl ei ailsiapio gan ddefnyddio gwres, ar gael mewn amrywiaeth o liwiau, mae'n eithaf rhad.
5. Creu cyfarwyddiadau i ddisgyblion ddefnyddio'r Peiriant ffurfio â gwactod yn llwyddiannus
Meini prawf llwyddiant
· Gallaf switsio'r Peiriant ffurfio â gwactod ymlaen a'r elfen wresogi.
· Gallaf nodi prif rannau'r Peiriant ffurfio â gwactod (elfen wresogi, platen, lifer, clampiau togl, swits pwmp gwactod)
· Gallaf osod mowld a chysylltu dalen o bolystyren yn y Peiriant ffurfio â gwactod.
· Gallaf wresogi'r polystyren i'r tymheredd cywir a defnyddio'r pwmp gwactod i anffurfio'r deunydd.
· Gallaf dynnu'r plastig a ffurfiwyd o'r peiriant, a thynnu'r mowld oddi wrth y plastig.
· Gallaf egluro'r nodweddion dylunio angenrheidiol er mwyn i fowld fod yn llwyddiannus.
Ar gyfer cyfarwyddiadau
· Y camau mewn trefn
· Defnyddio delweddau os yw'n ychwanegu at yr eglurder
· Defnyddio system termau neu labelu
Asesu ar gyfer dysgu
· Dysgwyr i ddangos ac adalw gwybodaeth a nodir yn y meini prawf llwyddiant;
· Dysgwyr i egluro a dangos i'w gilydd sut i ddefnyddio'r peiriant yn ddiogel ac yn gywir;
· Dysgwyr i nodi mowldiau o amrywiaeth ohonynt, a fyddai'n llwyddiannus ar gyfer ffurfio gwactod, ac egluro eu penderfyniadau;
· Dysgwyr i werthuso'n feirniadol 'dogfennau cyfarwyddyd' presennol a chreu meini prawf llwyddiant i'w gwaith eu hunain.
STRWYTHUR Y WERS A CHYNLLUN GWEITHGAREDDAU MANWL
DATBLYGU SGILIAU Sgiliau Meddwl, ABCH, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
MEDDWL
Pennu meini prawf llwyddiant
Meddwl am achos ac effaith a dod i gasgliadau
Meddwl yn rhesymegol a chwilio am batrymau
Adolygu canlyniadau a meini prawf llwyddiant
Amser
Gweithgareddau'r wers
Clo/ Asesu ar gyfer Dysgu
5 munud
10 munud
15 munud
15 munud
10 munud
5 munud
Sbardun
Dangos fideo o broses ffurfio gwactod mewn cyd-destun diwydiannol.
Dysgwyr i gofnodi sylwadau ac atebion posibl i'r canlynol
· Disgrifiwch yr hyn a welwch o ran
· prosesau a ddefnyddir - pam caiff y prosesau hyn eu defnyddio
· beth sy'n digwydd i'r deunydd yn ystod y broses
· Pa gynhyrchion eraill gellir eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio'r un broses?
Gweithgaredd 1 - Defnyddio peiriant
Arddangosiad ymarferol am sut i ddefnyddio Peiriant ffurfio â gwactod
Tynnu sylw at ofynion iechyd a diogelwch (gwelwch RA)
Defnyddio dysgwr/dysgwyr yn yr arddangosiad i ddilyn cyfarwyddiadau'r athro.
Dysgwyr i wneud nodiadau o'r camau a ddilynir.
Egluro beth sy'n gwneud 'mowld da' ar gyfer ffurfio gwactod.
Bydd dysgwyr mewn grwpiau o 3 a ddynodwyd gan yr athro.
Gweithgaredd 2 - Datblygu mowld
Astudio dewis o fowldiau.
Nodi nodweddion mowld sy'n gwneud y mowld yn addas neu'n anaddas i ffurfio gwactod.
Cofnodi'r casgliadau ar daflen waith
Awgrymu gwelliannau i fowldiau anaddas.
Profi'r mowld a ddewisir yn y peiriant
Gweithgaredd 3 – Cyfarwyddiadau "Sut i .. . ."
Astudio amrywiaeth o enghreifftiau am sut i roi cyfarwyddiadau. (Dim ond lluniau, geiriau syml, disgrifiad manwl o bob cam).
Creu meini prawf llwyddiant am beth sy'n gwneud cyfarwyddiadau da.
Ysgrifennu cyfarwyddiadau am sut i ddefnyddio Peiriant ffurfio â gwactod, sy'n addas i ddisgyblion eraill yn y dosbarth i'w dilyn.
Dylai'r cyfarwyddiadau fod yn glir, yn gryno a defnyddio termau allweddol a nodir.
Gwahaniaethu - Cardiau cam wrth gam gyda lluniau a chyfarwyddiadau sylfaenol o'r camau i'w gosod yn y drefn gywir
Clo
Dewis un grŵp i ddarllen eu set o gyfarwyddiadau.
Bydd grŵp arall yn dilyn a gwrando ar y cyfarwyddiadau a roddir.
Athro i gasglu pwyntiau adborth oddi wrth y grwpiau sy'n dilyn y cyfarwyddiadau
Dysgwyr i ystyried a thrafod sut bydd y wybodaeth a gafwyd yn y wers gwneud mowld yn cael ei defnyddio i'w dyluniad eu hunain.
Gofyn cwestiynau i'r dysgwyr ar ddiwedd y fideo.
Defnyddio amser i feddwl, a pholisi o beidio â rhoi llaw i fyny
Dylai atebion gynnwys
· Defnyddio gwres i anffurfio plastig
· Mae'r plastig yn mynd yn hyblyg ac yn anffurfio
· Mae'r plastig yn cymryd ffurf y mowld
· Defnyddir gwactod i anffurfio'r plastig
· Manteision ac anfanteision y broses
Sylwadau i gynnwys
· Dim tandoriadau;
· Corneli ac ymylon crwn;
· Yr uchder ddim yn fwy na'r lled;
· Defnyddio tyllau aer pan fo angen;
· Onglau drafft ( 5ᵒ - 10ᵒ);
Profi tybiaethau yn y peiriant a gwerthuso
Dylai'r cyfarwyddiadau
· Fod yn y drefn gywir
· Cynnwys delweddau (os oes angen/os dymunir)
· Clir a chryno
· Defnyddio termau allweddol yn gywir
Athro i ofyn PAM y gwneir pob cam i bwyso a mesur dealltwriaeth o'r broses.
CYMRAEG bob dydd
Beth yw . . ? …ydi..
Ble mae . . ? Mae yn…
Eglurwch . . ?
Yn gyntaf, yn ail, yn drydydd. wedyn, achos,
GEIRIAU ALLWEDDOL/TERMINOLEG
(Dwyieithog)
Vacuum Pump Machine – Peiriant ffurfio â gwactod
Heating element – Elfen wresogi
Platen - Platen,
Lever - Lifer,
Toggle clamps – Clamp togl,
Vacuum pump switch – Swits pwmp gwactod
ADNODDAU
Peiriant ffurfio â gwactod
Nifer o fowldiau ar gyfer Peiriant ffurfio â gwactod - rhai sy'n dda, rhai'n anaddas
Taflen Wybodaeth am ffurfio gwactod
Enghreifftiau o gyfarwyddiadau
IECHYD A DIOGELWCH
Gweler yr asesiad risg ar gyfer Peiriant ffurfio â gwactod
ROL STAFF CEFNOGI
Staff cefnogi i gael sesiwn wybodaeth cyn y wers am ddull gweithgynhyrchu.
Staff cefnogi i gael copi o'r drefn o gamau a ddymunir i allu cefnogi'r dysgwyr.
GWERTHUSO GWERS
Amcanion dysgu (o dudalen 1)
Bydd dysgwyr yn gallu:
1. Gweithredu'r Peiriant ffurfio â gwactod yn llwyddiannus
· Rhoi'r swits ymlaen, rhoi'r gwresogydd ymlaen, clampio'r deunydd; gweithredu'r pwmp gwactod; tynnu'r gwaith.
2. Enwi ac adalw prif bartiau'r Peiriant ffurfio â gwactod
· Elfen wresogi, platen, lifer platen, clampiau togl, swits y pwmp gwactod.
3. Disgrifiwch ac eglurwch nodweddion angenrheidiol mowld i'w ddefnyddio yn y Peiriant ffurfio â gwactod.
· Onglau drafft (5ᵒ - 10ᵒ); dim tandoriadau; tyllau aer posibl, corneli ac ymylon crwn; uchder ddim yn fwy na lled y gwaelod; defnydd posibl o gyfrwng rhyddhau.
4. Egluro pam y gellir defnyddio polystyren anhyblyg mewn peiriant ffurfio â gwactod. (Nodweddion thermoblastig sy'n ei wneud yn addas h.y. posibl ei ailsiapio gan ddefnyddio gwres, ar gael mewn amrywiaeth o liwiau, mae'n eithaf rhad.
5. Creu cyfarwyddiadau i ddisgyblion ddefnyddio'r Peiriant ffurfio â gwactod yn llwyddiannus
Gwerthuso dysgu (yn erbyn Amcanion Dysgu)
1. Roedd y rhan fwyaf o'r dysgwyr yn gallu dangos yn eithaf hyderus sut i ddefnyddio'r peiriant ffurfio â gwactod. Roedd rhai o'r dysgwyr yn deall y broses a'r theori ond heb ddigon o hyder i ddefnyddio'r peiriant. Ystyried ffyrdd i ddatblygu'r hyder hwn.
2. Roedd y rhan fwyaf o'r dysgwyr yn gallu adalw enwau rhannau o'r peiriant ar lafar
3. Roedd gwerthusiad o daflenni gwaith y dysgwyr yn dangos bod y rhan fwyaf o'r dysgwyr yn gallu nodi beth oedd ei angen mewn mowld llwyddiannus, ond nid oedd defnyddio'r wybodaeth hon mewn ffordd ymarferol wrth asesu'r mowldiau oedd ar gael mor llwyddiannus. Mae arnaf angen ddarparu ac annog yr angen i ddefnyddio offer i wirio a gwerthuso mowldiau.
4. Gallai dysgwyr egluro ar lafar, pan ofynnwyd iddynt pam bod polystyren anhyblyg yn addas i'w ddefnyddio yn y peiriant ffurfio â gwactod.
5. Roedd yr holl ddysgwyr (rhai gyda chefnogaeth dysgwyr eraill yn eu grŵp) yn gallu nodi meini prawf llwyddiant o'r enghraifft a roddwyd. Rhoddwyd y cardiau cefnogi i dri dysgwr, a gyda chymorth y staff cefnogi roeddent yn gallu gosod y camau yn y drefn gywir. Ond cymerodd hyn lawer mwy o amser nag a ragwelwyd. Bydd angen adolygu’r gwaith yn y wers nesaf er mwyn lleihau'r baich gwaith ar y dysgwyr hyn. Roedd rhai termau allweddol ar goll, ac roedd y termau allweddol wedi eu camsillafu yn rhai o gyfarwyddiadau ysgrifenedig y dysgwyr. Mae angen datblygu gweithgareddau er mwyn i'r dysgwyr asesu gwaith ei gilydd yn ogystal â darparu rhagor o dasgau gwrando e.e. gwrando ar gyfarwyddiadau gan ddysgwyr eraill.
Targedau dysgwyr (i'w cario ymlaen i'r wers nesaf)
1. Mae angen i rai dysgwyr ddatblygu eu hyder personol i ddefnyddio peiriannau gweithgynhyrchu, yn ogystal â gallu dangos i ddysgwyr eraill sut i ddefnyddio'r peiriannau yn gywir
2. Siarad am y deunyddiau maent yn eu defnyddio o ran eu nodweddion ac addasrwydd i'r defnydd o'r cynnyrch terfynol a'r broses a ddefnyddir.
A ydych wedi ystyried rhain yn eich cynllun?
AD/MP
Llythrennedd
Rhifedd
Cymhwysedd Digidol
Gwahaniaethu
Gwaith cartref
Cymraeg bob dydd
Cwricwlwm Cymreig
·
·
·
·
32
Cyfeiriadaeth
Canllawiau statudol Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, Gwefan Dysgu Cymru
http://learning.gov.wales/resources/browse-all/nlnf/?lang=cy
LLCC (2010). Canllawiau ar addysgu sgiliau ysgrifennu, Caerdydd.
LLCC (2010). Canllawiau ar addysgu uwch sgiliau darllen, Caerdydd.
LLC (2013) Asesu ar gyfer dysgu a’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
LLC (2014) Asesu, cofnodi ac adrodd - Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
PISA. (2013). The Draft PISA Reading Framework for 2015.
National Literacy Trust:
http://www.literacytrust.org.uk/
LLC (2013) Asesu ar gyfer dysgu a’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
LLC (2014) Asesu, cofnodi ac adrodd - Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
Llyfryddiaeth Safon llythrennedd personol
Ap Emlyn, N. (2007) Golwg ar Iaith. Aberystwyth: Canolfan Astudiaethau Addysg.
Clement, B. Lloyd, Ll. (2011) Bachu Iaith. Caerfyrddin: Canolfan Peniarth.
Can Canllaw 1 a 2. Caerfyrddin: Canolfan Peniarth.
Ebbsworth, M. (2009) Sbardun 1 a 2 (Gweithgareddau llythrennedd cynnar yng Nghyfnod Allweddol 2) Aberystwyth: CAA.
Ebbsworth, M. (2009 ) Sgil-iau! Ffeil athro. Aberystwyth: CAA.
Eynon, D. (2004) Cyfres Llyfrau Sgerbwd ar gyfer testunau ffeithiol. Grŵp TTS Cyf. Huthwaite.
Griffith, E. (2009) O Gam i Gam (Cymraeg i ddisgyblion dyslecsig i wella sgiliau darllen a sillafu)
Hughes, J.E. (2011) Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu. Llandysul: Gwasg Gomer.
Ifans, Rh. (2012 adargraffiad) Y Golygiadur. Llandysul: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion/ Gwasg Gomer.
Lewis, D.G. (2012) Ar flaen fy Nhafod, Casgliad o Ymadroddion Cymraeg. Llandysul: Gwasg Gomer.
Lewis, D.G. (2011) Pa arddodiad? Llandysul : Gwasg Gomer.
Lewis, D.G. (2011) Y Treigladur. Llandysul : Gwasg Gomer.
Lewis, D.G.(2009) Geiriau Lletchwith. Llandysul: Gwasg Gomer.
Lewis, D.G.(2005) y Llyfr Ansoddeiriau Llandysul: Gwasg Gomer.
Aberystwyth: CAA
Meek, E. Jenkins K. (2009) Cardiau Iaith. Llandysul: Gomer.
Pritchard, Elfyn, (2002) Cynllun Y Porth. Caerdydd: CBAC.
Siôn,Manon Wyn; gol. (2013) Gair yn Gymorth, Llawlyfr i ddarpar athrawon cyfrwng Cymraeg.Aberystwyth, CAA.
Thomas, G.; (2012) Ymarfer Ysgrifennu Cymraeg: Tal y Bont: Y Lolfa.
Gwefannau/Adnoddau:
Apgeiriaduron
https://itunes.apple.com/gb/app/ap-geiriaduron/id570171569?mt=8
Canolfan Sgiliau Astudio Prifysgol Bangor
http://studyskills.bangor.ac.uk
Canolfan Bedwyr – Cysgliad
http://www.cysgliad.com
CBAC
Llythrennedd Cywirdeb Iaith
http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=67
Hwb
https://hwb.wales.gov.uk/
Cymorth/Cyrsiau ar-lein
Sglein ar lein – ymarferion iaith rhyngweithiol
http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=559
Gramadeg 1 a 2 – adnoddau rhannau ymadrodd a rheolau iaith (Cymraeg uwch gyfrannol)
http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2009-10/welsh/irf09-30/index.html
Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg
http://sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk/cy/hafan/
Y Porth: Llwyfan e-ddysgu y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ymarferion gloywi iaith
https://llyfrgell.porth.ac.uk/library/addysg
Llawlyfrau TCA:
Llawlyfr TCA
Llawlyfr TCA Hyfforddai
Llawlyfr TCA –Pecyn Sefydliadol
Cydnabyddiaeth:
Lluniwyd yr Arweinlyfr llythrennedd HAGA gan y tîm sgiliau mewn cydweithrediad â hyfforddeion, tiwtoriaid a mentoriaid o fewn ysgolion partneriaeth CAAGCC.
34
Atodiad 1a Traciwr Llythrennedd TAR Cynradd
TRACIO CYNNYDD SAFON LLYTHRENNEDD PERSONOL TAR CYNRADD-CYMRAEG
ENW: Traciwr i’w gadw yn y Ffeil Cofnod Cynnydd Personol
Agwedd ar lythrennedd personol
Marc
Awdit
Hunanwerthusiad
Lefel o arbenigedd a hyder mewn perthynas â’r agweddau
1. Dealltwriaeth lawn
2. Dealltwriaeth rannol
3. Dealltwriaeth annigonol
Nodwch y dulliau hunanastudio gyflawnwyd gennych i dargedu’r agweddau (e.e. cyrsiau ar-lein, ymarferion iaith ar-lein, ymarferion mewn gwerslyfrau, gwaith darllen pellach)
Marc
Interim
Arholiad
Ffug TCA
Gradd Safon llythrennedd personol PY1/sylwadau mentor y dylid eu hannerch
Gwaith adolygu ar gyfer arholiad TCA.
Marc Awdit
terfynol
Gradd Safon Llythrennedd Personol PY2
1
2
3
Termau Iaith/Rhannau Ymadrodd
Gwallau cyffredin
Priod ddulliau ac ysgrifennu idiomatig /cystrawen Gymraeg
Sillafu
Treigladau
Atalnodi
Berfau
Ar sail canlyniad awdit terfynol, gwaith TCA a gradd safon llythrennedd personol PY1 a PY2 nodwch:
Pa agweddau ar iaith rydych wedi gwneud cynnydd ynddynt o safbwynt eich safon llythrennedd personol:
Pa agweddau ar iaith y byddwch yn chwilio am hyfforddiant pellach ynddynt er mwyn cynyddu eich gwybodaeth a’ch safon llythrennedd personol:
Bwydwch eich sylwadau i’r Proffil Dechrau Gyrfa.
LLOFNOD TIWTOR :LLOFNOD HYFFORDDAI:
Dyddiad:
Atodiad 1b: Traciwr Llythrennedd BA (BSc)
TRACIO CYNNYDD SAFON LLYTHRENNEDD PERSONOL BA/BSc
ENW:
ENW:
Bl. 1
Bl.2
Bl.3
Cadwch yn eich Ffeil Cofnod Cynnydd Personol
Agwedd ar lythrennedd personol
Marc
Awdit
Hunanwerthusiad
Lefel o arbenigedd a hyder mewn perthynas â’r agweddau
1. Dealltwriaeth lawn
2. Dealltwriaeth rannol
3. Dealltwriaeth annigonol
Nodwch y dulliau hunanastudio gyflawnwyd gennych i dargedu’r agweddau (e.e. cyrsiau ar-lein, ymarferion iaith ar-lein, ymarferion mewn gwerslyfrau, gwaith darllen pellach)
Interim Bl1
Gradd Safon llythrennedd personol PY1a sylwadau mentor y dylid eu hannerch.
Bl.2
PY2
Awdit Diwedd Cwrs Bl.3
PY3
1
2
3
Termau Iaith/Rhannau Ymadrodd
Gwallau cyffredin
Priod ddulliau ac ysgrifennu idiomatig /cystrawen Gymraeg
Sillafu
Treigladau
Atalnodi
Berfau
Ar sail canlyniad awdit terfynol a gradd safon llythrennedd personol PY3 nodwch yr agweddau ar iaith rydych wedi gwneud cynnydd ynddynt o safbwynt eich safon llythrennedd personol:
Pa agweddau ar iaith y byddwch yn chwilio am hyfforddiant pellach ynddynt er mwyn cynyddu eich gwybodaeth a’ch safon llythrennedd personol:
Bwydwch eich sylwadau i’r Proffil Dechrau Gyrfa.
LLOFNOD TIWTOR :LLOFNOD HYFFORDDAI:
Dyddiad:
Atodiad 2
MEINI PRAWF SAFON LLYTHRENNEDD PERSONOL A CHYMHWYSO LLYTHRENNEDD (BA SAC)
TCA: ADDYSGU YMARFEROL TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG-
SAFON LLYTHRENNEDD PERSONOL A CHYMHWYSO LLYTHRENNEDD (TAR)
Disgwylir i fentor a thiwtor cyswllt gyd-drafod y meini prawf isod wrth gyd-asesu rhan 1 a rhan 2.
Dylid llenwi’r asesiadau rhan 1 a 2 DDWYWAITH un fel asesiad interim ac yna ar ddiwedd lleoliad fel asesiad crynodol.
Dylid cyflwyno copi o’r asesiad interim a’r crynodol i’r tiwtor. Yn achos TAR dylai’r tiwtor uwchlwytho’r asesiadau ar u-drive yr Ysgol Addysg.
Enw’r myfyriwr:________________________ Cwrs TAR BA (SAC) Ysgol:_______________________
RHAN 1: MEINI PRAWF SAFON LLYTHRENNEDD PERSONOL MYFYRWYR (30%-TCA)
GRADD
Lled aml
Yn Aml
Yn gyson
RHAGOROL
GRADD 1
(Marc 70+)
Dangosir lefel uchel o sgiliau llythrennedd personol gweithredol sy’n gymwys i’r cyd-destun addysgol a manteisir ar wybodaeth a dealltwriaeth y myfyriwr er mwyn cymell ac ysbrydoli dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd eu hunain.
Adnoddau iaith cyfoethog ac ymestynnol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Gafael gadarn a chywir ar eirfa, termau a sillafu geiriau cyffredin aml-ddefnydd.
Gafael gadarn a chywir ar dreigladau.
Gafael gadarn a chywir ar atalnodi.
Gafael gadarn a chywir ar frawddegau, paragraffau a defnydd o ferfau.
Amrywio tôn y llais a chyflymder y cyflwyno’n rhagorol.
DA
GRADD 2
(Marc 60-69)
Dangosir sgiliau llythrennedd personol gweithredol da sy'n gymwys i'r cyd-destun addysgol a defnyddir gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyriwr er mwyn datblygu sgiliau llythrennedd y dysgwyr.
Adnoddau iaith da ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Gafael dda a chywir ar eirfa, termau a sillafu geiriau cyffredin aml-ddefnydd.
Gafael dda ar dreigladau.
Gafael dda ar atalnodi.
Gafael dda ar frawddegau, paragraffau a defnydd o ferfau.
Amrywio tôn y llais a chyflymder y cyflwyno’n dda.
DIGONOL
GRADD 3+
(Marc 50-59)
Dangosir sgiliau llythrennedd personol gweithredol boddhaol sy'n gymwys i'r cyd-destun addysgol ac mae gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyriwr yn ddigon cadarn i gefnogi sgiliau llythrennedd y dysgwyr.
Adnoddau iaith boddhaol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Gafael foddhaol a lled-gywir ar eirfa, termau a sillafu geiriau cyffredin aml-ddefnydd.
Gafael ddigonol-foddhaol ar dreigladau.
Gafael ddigonol-foddhaol ar atalnodi.
Gafael ddigonol-foddhaol ar frawddegau, paragraffau a defnydd o ferfau.
Amrywio tôn y llais a chyflymder y cyflwyno’n ddigonol.
ANFODDHAOL
GRADD 4
(Marc llai na 50)
Dylid gosod targed sy’n nodi bod angen i’r myfyriwr ddilyn sesiynau iaith ychwanegol yn ystod y cwrs coleg.
Ni roddir sylw digonol i sgiliau llythrennedd personol gweithredol sy’n gymwys i’r cyd-destun addysgol, sy’n effeithio ar ddatblygiad sgiliau llythrennedd y dysgwyr.
Adnoddau iaith cyfyngedig ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Gafael gyfyngedig ar eirfa, termau a llithriadau amlwg wrth sillafu geiriau cyffredin aml-ddefnydd.
Gafael gyfyngedig ar dreigladau.
Gafael gyfyngedig ar atalnodi.
Gafael gyfyngedig ar frawddegau, paragraffau a defnydd o ferfau.
Heb fod yn amrywio tôn y llais a chyflymder y cyflwyno’n foddhaol.
Rhan 1: Safon Llythrennedd personol (30%)
Nodwch unrhyw sylwadau cefnogol (os yn berthnasol)
HYFFORDDEION TAR
Asesiad Rhan 1 TCA
TAR Adrodd ar farc a gradd:
Gradd: Marc (Allan o 100):
HYFFORDDEION BA(SAC) Is-raddedigion
BA Adrodd ar radd yn unig:
RHAN 2: GALLU MYFYRWYR I GYMHWYSO A DATBLYGU SGILIAU LLYTHRENNEDD DYSGWYR (30% - TCA)
GRADD
Lled aml
Yn Aml
Yn gyson
RHAGOROL
GRADD 1
(Marc 70+)
Manteisir ar wybodaeth a dealltwriaeth y myfyriwr er mwyn cymell ac ysbrydoli dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd eu hunain.
Gafael a dealltwriaeth gadarn wrth gymhwyso ac adnabod cyfleoedd i gefnogi a datblygu agweddau am lafaredd (siarad a gwrando), darllen ac ysgrifennu ar y lefel gywir yn drawsgwricwlaidd.
Dealltwriaeth ragorol a defnydd hyderus wrth ddewis, cyfansoddi a dadansoddi nodweddion cynnwys ac iaith ffurfiau ysgrifennu /darnau darllen mewn cyd-destunau trawsgwricwlaidd.
Y sgiliau llythrennedd a gaffaelir/ddefnyddir gan y dysgwyr yn uchel ar yr agenda cynllunio ac addysgu, gan roi ystyriaeth i amrediad o arddulliau addysgu a dysgu ac adnoddau addas diddorol ac ysgogol.
Gallu rhagorol i gyfleu disgwyliadau, gyda'r tasgau a bennir yn realistig, yn bwrpasol, yn wahaniaethol ac yn annog dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd. Gallu ymateb yn dda iawn i gamsyniadau dysgwyr.
Manteisir ar gyfleoedd annisgwyl i ddatblygu sgiliau llythrennedd.
Gwneir defnydd effeithiol o strategaethau asesu ar gyfer dysgu er mwyn llywio'r broses o ddatblygu llythrennedd ac mae cynllun y wers yn adeiladu ar asesiadau blaenorol o sgiliau llythrennedd dysgwyr.
DA
GRADD 2
(Marc 60-69)
Defnyddir gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyriwr er mwyn datblygu sgiliau llythrennedd y dysgwyr.
Gafael a dealltwriaeth dda wrth gymhwyso ac adnabod cyfleoedd i gefnogi a datblygu agweddau am lafaredd (siarad a gwrando), darllen ac ysgrifennu ar y lefel gywir yn drawsgwricwlaidd.
Dealltwriaeth dda wrth ddewis, cyfansoddi a dadansoddi nodweddion cynnwys ac iaith ffurfiau ysgrifenedig mewn cyd-destunau trawsgwricwlaidd.
Rhoddir ystyriaeth ofalus i waith cynllunio ac addysgu er mwyn datblygu'r sgiliau a'r cysyniadau llythrennedd a gaffaelir a/neu a ddefnyddir gan y dysgwyr, gan wneud defnydd o amrediad o arddulliau addysgu a dysgu ac adnoddau da.
Gallu da i gyfleu disgwyliadau, gan bennu tasgau i ddatblygu sgiliau llythrennedd mewn ffordd bwrpasol a gwahaniaethol. Gallu ymateb yn dda i gamsyniadau dysgwyr.
Defnydd da o strategaethau asesu ar gyfer dysgu er mwyn llywio'r broses o ddatblygu sgiliau llythrennedd a chaiff cynllun y wers ei lywio gan asesiadau blaenorol o lythrennedd.
DIGONOL
GRADD 3+
(Marc 50-59)
Mae gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyriwr yn ddigon cadarn i gefnogi sgiliau llythrennedd y dysgwyr.
Gafael a dealltwriaeth foddhaol wrth gymhwyso ac adnabod cyfleoedd i gefnogi a datblygu agweddau am lafaredd (siarad a gwrando), darllen ac ysgrifennu ar y lefel gywir yn drawsgwricwlaidd.
Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth foddhaol wrth ddewis, cyfansoddi a dadansoddi nodweddion cynnwys ac iaith ffurfiau ysgrifenedig/darnau darllen mewn cyd-destunau trawsgwricwlaidd.
Y gwaith cynllunio ac addysgu yn galluogi dysgwyr i gaffael a/neu ddefnyddio sgiliau a chysyniadau llythrennedd sy'n briodol i'w cam datblygu, gyda pheth ystyriaeth i amrediad o arddulliau addysgu a dysgu ac adnoddau addas.
Gallu digonol i gyfleu disgwyliadau wrth bennu tasgau i ddatblygu sgiliau llythrennedd y dysgwyr mewn ffordd wahaniaethol. Gallu ymateb yn dda iawn i gamsyniadau dysgwyr.
Gallu i nodi'r prif gryfderau a'r meysydd i'w datblygu o ran llythrennedd dysgwyr a defnyddio asesiadau er mwyn llywio gwaith cynllunio.
GRADD
Lled aml
Yn Aml
Yn gyson
ANFODDHAOL
GRADD 4
(Marc llai na 50)
Ni roddir sylw digonol i sgiliau llythrennedd personol gweithredol sy’n gymwys i’r cyd-destun addysgol, sy’n effeithio ar ddatblygiad sgiliau llythrennedd y dysgwyr.
Gafael a dealltwriaeth gyfyngedig wrth gymhwyso ac adnabod cyfleoedd i gefnogi a datblygu agweddau am lafaredd (siarad a gwrando), darllen ac ysgrifennu ar y lefel gywir yn drawsgwricwlaidd.
Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gyfyngedig wrth ddewis, cyfansoddi a dadansoddi nodweddion cynnwys ac iaith ffurfiau ysgrifenedig /darnau darllen mewn cyd-destunau trawsgwricwlaidd.
Sylw annigonol i ddatblygu sgiliau llythrennedd dysgwyr wrth gynllunio ac addysgu ac wrth ystyried amrediad o strategaethau addysgu a dysgu ac adnoddau. Yn aml mae’r gallu i ymateb i gamsyniadau’r dysgwyr yn annigonol
Diffyg gallu i gyfleu disgwyliadau a phennu tasgau sy’n datblygu sgiliau llythrennedd y dysgwyr mewn ffordd wahaniaethol.
Ni chaiff llythrennedd ei ystyried wrth asesu a monitro'r dysgu.
Rhan 2: Y gallu i gymhwyso a datblygu llythrennedd dysgwyr (TCA Deilliannau dysgu i-vi) (30%)
Nodwch unrhyw sylwadau cefnogol (os yn berthnasol)
HYFFORDDEION TAR
Asesiad Rhan 2
Fe ddylai’r radd a roddwyd i gymhwyso llythrennedd fod yn hafal neu un yn llai na’r radd a ddyfarnwyd ar gyfer S3.3.
TAR Adrodd ar farc a gradd:
Gradd: Marc (allan o 100)
HYFFORDDEION BA
Fe ddylai’r radd a roddwyd i gymhwyso llythrennedd fod yn hafal neu un yn llai na’r radd a ddyfarnwyd ar gyfer S3.3.
BA Adrodd ar radd yn unig:
Llofnod y Mentor: _______________________________Dyddiad: _____________________Llofnod y Tiwtor: ______________________________Dyddiad:_______________________________
43