20
Cynllun Strategol Strategic Plan 2016-2019

Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

CynllunStrategolStrategicPlan

2016-2019

Page 2: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Ein Gweledigaeth, Cenhadaeth, a DibenOur Vision, Mission, and PurposeEin Gweledigaeth:Gwella bywydau oedolion, gan ganolbwyntio ar y rhai

mwyaf difreintiedig, trwy greu cyfleoedd dysgu perthnasol

a gyflwynir ym mhob cymuned yng Nghymru.

Ein Cenhadaeth:Darparu gobaith a meithrin uchelgais fel y prif ddarparwr rhaglenni

dysgu cymunedol, gan alluogi pob oedolyn i gyflawni eu potensial.

Ein Diben: Darparu cyfleoedd dysgu hygyrch i oedolion ym mhob rhan o

Gymru er mwyn iddynt ddatblygu i fod yn:

• Ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydoleu bywydau ac i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith, yngNghymru a thrwy’r byd

• Unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodaugwerthfawr o gymdeithas

Ein Blaenoriaethau Craidd:• Sicrhau bod y safonau ansawdd uchaf yn cael eu cyflawni a’u cynnal

ym mhopeth a wnawn• Darparu cwricwlwm dwyieithog eglur ac amrywiol sy’n cefnogi tegwch,

cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol gyda llwybrau dilyniant ar gyfer pob oedolyn ble bynnag y maent wedi’u lleoli yng Nghymru

• Annog addysgu a dysgu creadigol ac arloesol er mwyn cynyddu ymgysylltiad,dilyniant, hyder a gwerthoedd cymdeithasol i’r eithaf

• Bod yn lle gwych i weithio fel cyflogwr o ddewis• Sicrhau bod ein holl weithgareddau’n gynaliadwy yn ariannol

Our Vision:Improve the lives of adults with a focus on the most disadvantaged

through the creation of relevant learning opportunities,

delivered throughout every community in Wales.

Our Mission:To provide hope and foster ambition as the lead provider of community

learning programmes, enabling all adults to achieve their potential.

Our Purpose: To provide accessible learning opportunities for adults everywhere

in Wales to develop as:

• Ambitious and informed learners, ready to learn throughout their

lives and to play a full part in life and work in Wales and the world

• Healthy and confident individuals, ready to lead fulfilling lives as

valued citizens of society

Our Core Priorities:• Ensure highest standards of quality are achieved and maintained in

everything we do• Provide a clear and varied bilingual curriculum that supports equity,

equality and social justice with pathways for progression for all adults wherever they are based in Wales

• Encourage creative and innovative teaching and learning tomaximise engagement, progression, confidence and social values

• Be a great place to work as an employer of choice• Ensure financial sustainability in all our activities

Page 3: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

[�]

CynnwysContents

Rhagair | ForewordJohn Graystone

Cadeirydd y Llywodraethwyr | Chair of Governors

Ein Gwerthoedd ac Ymddygiadau | Our Values and Behaviours

Ein Nodau Strategol ac Ein Dangosyddion Perfformiad Allweddol | Our Strategic Aims and Our Key Performance Indicators

Cyflawni Ein Nodau Strategol | Delivering Our Strategic Aims

1

4

5

9

Page 4: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

RhagairForeword

John GraystoneCadeirydd y LlywodraethwyrChair of Governors

Rydym ni bellach mewn sefyllfa newydd a nodweddir gan dirwasgiad economaidd, cyfyngiadau ar wariant cyhoeddus ac ansicrwydd ynghylch cyllido yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod pwysau ychwanegol ar ein hadnoddau. Mae’r farchnad lafur yn newid yn gyflym yng Nghymru ac mae angen i bobl ddysgu sgiliau newydd, yn enwedig y rhai hynny sy’n gysylltiedig â thechnolegau digidol.

Mae’r cyd-destun economaidd sy’n newid yn cyflwyno nifer o heriau arwyddocaol i Gymru, ac i addysg oedolion yn arbennig. O blith y 2 filiwn o oedolion sy’n byw yng Nghymru, mae 100,000 yn ddi-waith, mae 200,000 heb gymwysterau, ac mae 700,000 yn byw mewn tlodi. Mae Arolwg Sgiliau Cyflogwyr UKCES (2013) yn rhagfynegi y bydd 600,000 o fylchau sgiliau ym marchnad lafur Cymru erbyn 2022 gyda 300,000 yn unig yn gadael yr ysgol a’r coleg i lenwi’r bylchau hyn mewn sgiliau. Yn ogystal â’r problemau sy’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio, datblygiadau cyflym mewn technoleg a phatrymau cyflogaeth sy’n newid, mae’r adferiad economaidd yn araf o safbwynt y sector preifat. O fewn yr amgylchedd economaidd heriol hwn, mae mwy o angen fyth am ffyrdd mwy cost-effeithiol ac arloesol o weithio o fewn cyllidebau llai.

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales mewn sefyllfa dda i ychwanegu at etifeddiaeth ei sefydliadau rhagflaenol a bydd yn hyrwyddo addysg ryddfrydig eang sy’n gwella cyfiawnder cymdeithasol ac ymgysylltiad cymunedol, ochr yn ochr â chynnig gwasanaethau addysg a hyfforddiant sydd â phwyslais penodol ar gyfer cyflogadwyedd, menter a datblygu sgiliau. Yn bwysicaf oll, bydd datblygu addysg, sgiliau a ffyniant ar gyfer pobl Cymru yn gofyn am ymrwymiad i ddinasyddiaeth ddemocrataidd, cynwysoldeb, cyfoethogi diwylliannol, iechyd a lles, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

We now find ourselves in a new landscape that is characterised by economic recession, constraints on public spending and uncertainty about future funding. This means that there is additional pressure on our resources. The labour market is changing fast in Wales and there is a need for people to learn new skills, particularly those associated with digital technologies.

The changing economic context presents a number of significant challenges for Wales, and for adult learning in particular. Of the 2 million adults living in Wales, 100,000 are unemployed, 200,000 have no qualifications, and 700,000 are living in poverty. The UKCES (2013) Employer Skills Survey predicts 600,000 skills gaps in the Welsh labour market by 2022 with only 300,000 leaving school and college to meet these skills gaps. In addition to the problems associated with an ageing population, rapid advances in technology and changing employment patterns, the private sector is experiencing a slow economic recovery. Set within this challenging economic environment, there is an increased need for more cost effective and more innovative ways of working with reduced budget availability.

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales is well placed to build on the legacy of its founding organisations and will promote a broad liberal education which improves social justice and community engagement, alongside offering highly focused education and training services for employability, enterprise and skills development. The provision of learning, skills and prosperity for the people of Wales will, most importantly, require a commitment to democratic citizenship, inclusiveness, cultural enrichment, health and wellbeing, equalities and social justice.

1

Page 5: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Ffurfiwyd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn sgil cyfuno WEA Cymru a Choleg Cymunedol YMCA Cymru ym mis Awst 2015 i greu’r darparwr a’r mudiad addysg oedolion gwirfoddol mwyaf ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n dwyn ynghyd ddau sefydliad adnabyddus a llwyddiannus sydd â phroffil cenedlaethol. Y llynedd, ymgysylltodd y sefydliad ag oddeutu 17,000 o ddysgwyr, yr oedd 55% ohonynt yn y pedwar degradd uchaf o ran amddifadedd (yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru).

Mae’r sefydliad yn darparu mynediad at addysg o unedau lefel mynediad i gymwysterau sgiliau sylfaenol yn ogystal â chymwysterau ar lefelau dau a thri y CQFW (Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru) i oedolion o bob cefndir, ond gyda phwyslais penodol ar y rhai hynny a gollodd y cyfle i ddysgu neu y mae angen ail gyfle arnynt. Mae’r sefydliad yn arbenigo mewn darparu cyfleoedd dysgu yn y gymuned ac yn y gweithle, ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â chyrff lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn y sector statudol, y sector preifat a’r trydydd sector. Felly, mae Cynllun Strategol Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi’i ddatblygu gan gyfeirio at lwyddiannau’r ddau sefydliad yn y gorffennol a’r heriau a’r cyfleoedd y bydd y sefydliad unigol newydd yn eu hwynebu yn y dyfodol.

Mae’n hollbwysig meithrin sgiliau dysgu gydol oes er mwyn sicrhau gweithluoedd a chymunedau gwybodus, hyblyg, deallus ac iach. Bydd datblygu cymdeithas dysgu gydol oes go iawn yng Nghymru yn arwain at fanteision economaidd, cymdeithasol a dinesig sylweddol, gan alluogi cymunedau cydnerth, economi sy’n gallu addasu i amgylchiadau newidiol, a ffyniant ein democratiaeth.

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn hyderus yn ei gapasiti a’i allu i ymateb yn effeithiol i’r heriau hyn.

- Tachwedd 2016

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales is the result of a merger between WEA Cymru and YMCA Wales Community College in August 2015 to form the largest all-Wales provider of, and voluntary movement for, adult learning. It brings together two high profile and high performing institutions with a national outlook. Last year, the organisation engaged with approximately 17,000 learners, 55% of whom were in the top four deciles of deprivation (according to the Welsh Index of Multiple Deprivation).

The organisation provides access to education from entry level units to basic skills qualifications as well as qualifications at CQFW (Credit and Qualification Framework for Wales) levels two and three for adults from all backgrounds, but with a particular focus on those who have missed out on learning or for those who need a second chance. Specialising in providing learning opportunities in the community and in the workplace, the organisation works in partnership with local, regional and national bodies in the statutory, private and third sectors. This Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales Strategic Plan has therefore been developed with reference to the past successes of both organisations and the future challenges and opportunities the new single organisation will face in the future.

It is crucial to nurture the skill of learning over a lifetime to secure informed, flexible, intelligent and healthy workforces and communities. The economic, social and civic advantages of developing a truly lifelong learning society in Wales will be profound; giving us the cutting edge that we need for our communities to be resilient, for our economy to adapt to changing circumstances and for our democracy to thrive.

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales is confident in its capacity and capability to respond effectively to these challenges.

- November 2016�

Page 6: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Page 7: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Ein Gwerthoedd:

• Egwyddorion moesegol yn deillio o gymunedau• Cyfle cyfartal• Rhagoriaeth Dysgu• Cynwysoldeb• Gonestrwydd gydag Uniondeb

Ein Hymddygiadau:

• Bod yn greadigol ac annog creadigrwydd yn ein dysgwyr • Dangos tosturi, gofal a pharch• Ennyn ymddiriedaeth trwy ddefnyddio arferion gwaith agored a thryloyw • Hyrwyddo cyfranogiad a gwneud penderfyniadau ar y cyd• Rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn i ysbrydoli ein dysgwyr i gyflawni rhagoriaeth• Balchder yn yr hyn a wnawn• Rhoi’r dysgwr wrth wraidd popeth a wnawn

Our Values:

• Community-led ethical principles• Equality of opportunity • Learning Excellence • Inclusivity • Honesty with Integrity

Our Behaviours:

• Creative and encouraging creativity in our learners• Compassionate, caring and respectful• Trusted, through using open and transparent working practices• Participatory and collective decision making• Excellence in all we do to inspire our learners to achieve excellence• Pride in what we do• Putting the learner at the centre of everything we do

Ein Gwerthoedd ac YmddygiadauOur Values and Behaviours

4

Page 8: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Ein Gweledigaeth, Cenhadaeth, Diben a Blaenoriaethau CraiddEin Nodau Strategol ac Ein Dangosyddion Perfformiad Allweddol Our Strategic Aims and Our Key Performance Indicators

Nod Strategol 1Bod yn brif ddarparwr addysg oedolion yng Nghymru.

Amcanion:1. Ffurfio polisi, a dylanwadu arno, i gyflawni amcanion strategol tymor hwy 2. Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a

rhwydweithiau dysgu ehangach3. Cydweithio â phartneriaid strategol i ymgysylltu â mwy o dysgwyr a chynyddu

dilyniant4. Codi proffil y sefydliad, a chynyddu ei gyrhaeddiad5. Bod yn eiriolwr ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion ac yn llais ar gyfer dysgu oedolion6. Cymryd rhan mewn ymchwil gymhwysol sy’n llywio cyflwyno a chyfeiriad polisi dysgu

oedolion yng Nghymru yn y dyfodol7. Sicrhau sefydlogrwydd ariannol.

DPA - Nod Strategol 11. Bodlonwyd holl amcanion y cynllun gweithredol blynyddol i gyflwyno’r cynllun

strategol2. Bodlonwyd holl amcanion y cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid3. Bodlonwyd holl dargedau matrics y Partneriaethau Strategol4. Cwblhawyd dadansoddiad gwaelodlin er mwyn gosod dilyniant ar gyfer y dyfodol5. 2% o gynnydd mewn cofrestriadau dysgwyr mewn meysydd blaenoriaeth allweddol6. Bodlonwyd yr holl amcanion cydraddoldeb blynyddol7. Bodlonwyd yr holl amcanion diogelu blynyddol8. Cafodd canfyddiadau eu diffinio a’u lledaenu’n glir9. Prosiect ymchwil Doethuriaeth ar waith erbyn 201810. Gwarged diwedd blwyddyn o 0.5% o leiaf yn 2017-1811. Gwarged diwedd blwyddyn o hyd at 2% yn y tymor canol12. Adfer costau llawn a chyfleoedd cyd-fuddsoddi13. Dibyniaeth ar gyllid LlC islaw 80% flwyddyn ar ôl blwyddyn erbyn 2020-21.

Strategic Aim 1Be the lead provider of adult learning in Wales.

Objectives:1. Influence and shape policy to achieve longer term strategic objectives2. Engage effectively with Welsh Government (WG), key stakeholders and wider

learning networks3. Collaborate with strategic partners to engage with more learners and increase

progression 4. Raise the profile and increase the reach of the organisation5. Be an advocate for adult learners and a voice for adult learning6. Participate in applied research which informs the future delivery and policy

direction of adult learning in Wales7. Ensure financial stability.

KPIs - Strategic Aim 11. All annual operational plan objectives met to deliver the strategic plan2. All stakeholder engagement plan objectives met3. All Strategic Partnerships matrix targets met4. Baseline analysis completed in order to set future progression5. 2% increase in learner enrolments in priority areas6. All annual equality objectives met 7. All annual safeguarding objectives met8. Findings clearly defined and disseminated9. PhD research project in place by 2018 10. An end of year surplus of at least 0.5% in 2017-18 11. An end of year surplus of up to 2% in the medium term12. Full cost recovery and Co-investment opportunities13. Reliance on WG funding below 80% year on year by 2020-21.

5

Page 9: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Nod Strategol 2Cyflwyno dysgu o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar anghenion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Amcanion:1. Cynnig dysgu sydd wedi’i seilio ar wybodaeth drylwyr am y farchnad lafur, gan

adeiladu ar ddata partneriaeth rhanbarthol2. Cynllunio’r cwricwlwm wedi ei lywio gan anghenion a dyheadau arweinwyr,

partneriaid a chyflogwyr3. Darparu addysgu rhagorol sy’n ategu profiad y dysgwr ac yn datblygu sgiliau dysgu

arbrofol a throsglwyddadwy4. Rhoi prosesau a safonau ar waith sy’n hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu 5. Cynyddu’r ddarpariaeth o ESOL a Sgiliau Hanfodol Dysgu 6. Cynyddu’r ddarpariaeth dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog7. Defnyddio technoleg i gyflwyno ymagweddau arloesol at ddysgu.

DPA - Nod Strategol 21. 85%+ targedau llwyddiant dysgwyr2. 85%+ boddhad dysgwyr a rhanddeiliaid3. 85%+ o broffiliau arsylwi tiwtoriaid “yn rhagorol/yn dda”4. Arolygiad Estyn / deilliannau ymweliad cyswllt blynyddol wedi’u gweithredu5. Cwblhawyd dadansoddiad gwaelodlin er mwyn gosod targedau i gynyddu darpariaeth

cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y dyfodol6. 80%+ defnydd “da”/ “rhagorol” o dechnoleg lle bo’n briodol ym mhroffiliau arsylwi

tiwtoriaid7. Bodlonwyd yr holl amcanion blynyddol Technoleg Gwybodaeth (TG) a sicrhawyd

grantiau digonol gan LlC ar gyfer Offer Cyfalaf TG.

Strategic Aim 2Deliver high quality learning focused on local, regional and national needs.

Objectives:1. Offer learning based on robust labour market intelligence, building upon regional

partnership data2. Conduct curriculum planning informed by learners, partners and employers’

needs and aspirations3. Provide excellent teaching that underpins learner experience and develops

experiential learning and transferable skills4. Implement processes and standards that promote excellence in teaching and

learning5. Increase the provision of ESOL and Essential Skills Learning6. Increase the provision of Welsh medium and bilingual learning 7. Use technology to deliver innovative approaches to learning.

KPIs - Strategic Aim 21. 85%+ learner success targets2. 85%+ learner and stakeholder satisfaction3. 85%+ “good”/ “excellent” tutor observation profiles4. Estyn Inspection / annual link visit outcomes acted upon5. Baseline analysis completed in order to set future targets to increase Welsh

medium and bilingual provision6. 80%+ “good”/ “excellent” use of technology in tutor observation profiles7. All Information Technology (IT) annual objectives met and sufficient WG grants

secured for IT Capital Equipment.

Page 10: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Ein Gweledigaeth, Cenhadaeth, Diben a Blaenoriaethau CraiddEin Nodau Strategol ac Ein Dangosyddion Perfformiad Allweddol Our Strategic Aims and Our Key Performance Indicators

Nod Strategol 3Meithrin diwylliant o ragoriaeth sefydliadol ar sail gwerthoedd ac ymddygiadau craidd.

Amcanion:1. Annog diwylliant sefydliadol bywiog sy’n ysbrydoli, cefnogi, grymuso a herio staff i

gyflawni eu potensial2. Recriwtio, cadw a hyfforddi’r staff gorau posibl3. Asesu ein hunain yn rheolaidd yn erbyn modelau strategol a gweithredol amgen4. Sefydlu ein hunain fel sefydliad Dwyieithog Cenedlaethol.

DPA - Nod Strategol 31. 80%+ boddhad staff 2. 97%+ presenoldeb staff3. 100% gwerthusiadau staff cymorth craidd4. 90%+ cadw staff5. 70%+ cyfranogiad mewn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)6. Cyflawniad Safon Iechyd Corfforaethol Llywodraeth Cymru7. Monitro a diweddaru’r gofrestr risg yn rheolaidd8. Bodlonwyd holl amcanion blynyddol yr iaith Gymraeg wrth gynlunio a darparu

gwasanaethau Cymraeg trwy gynnig ‘gweithredol.

Strategic Aim 3Build a culture of organisational excellence upon core values and behaviours.

Objectives:1. Encourage a vibrant organisational culture which inspires, supports, empowers

and challenges staff to achieve their potential2. Recruit, retain and train the very best staff3. Assess ourselves regularly against alternative strategic and operational models4. Establish ourselves as a National Bilingual organisation.

KPIs - Strategic Aim 3

1. 80%+ staff satisfaction 2. 97%+ staff attendance3. 100% core support staff appraisals4. 90%+ staff retention5. 70%+ participation in Continuing Professional Development (CPD)6. Achievement of the Welsh Government Corporate Health Standard7. Regular monitoring and updating of the risk register8. All annual Welsh language objectives met by planning and delivering services

through an ‘active’ offer.

Page 11: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Nod Strategol 4Creu strwythur sefydliadol effeithiol ar gyfer llywodraethu a staff.

Amcanion:1. Llywodraethwyr a Rheolwyr Uwch yn arwain yn effeithiol er mwyn cynyddu proffil

cenedlaethol y sefydliad2. Ffurfio strwythur llywodraethu sy’n arwain y ffordd yn y sector3. Datblygu sgiliau a gwybodaeth staff a llywodraethwyr drwy ddatblygiad proffesiynol

parhaus4. Sicrhau bod staff a llywodraethwyr yn ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol5. Darparu fframwaith ar gyfer cyfranogi sy’n ehangu democratiaeth trwy aelodaeth

gynyddol a gweithredol.

DPA - Nod Strategol 41. “Da”/ “rhagorol” Arolygiad Estyn / deilliannau ymweliad cyswllt blynyddol ar gyfer

CwA3 “Arweinyddiaeth”2. 80%+ boddhad staff3. Mae strwythur llywodraethu sy’n arwain y sector ar waith4. Bodlonwyd yr holl amcanion ailstrwythuro sefydliadol5. Bodlonwyd yr holl amcanion DPP arfaethedig6. Bodlonwyd holl amcanion y cynllun cyfathrebu7. Cyflawnwyd y fframwaith cyfranogi a 5+% o gynnydd mewn aelodaeth.

Strategic Aim 4Create an effective organisational structure for governance and staff.

Objectives:1. Governors and Senior Managers to lead effectively so as to build the national profile of the organisation2. Establish a governance structure that is sector-leading3. Develop the skills and knowledge of staff and governors through continuous professional

development4. Ensure staff and governors engage and communicate effectively5. Provide a framework for participation that broadens democracy through an increased and active membership.

KPIs - Strategic Aim 41. “Good”/ “excellent” Estyn Inspection / annual link visit outcomes for KQ3 “Leadership” 2. 80%+ staff satisfaction 3. Sector-leading governance structure in place4. All organisational re-structure objectives met5. All planned CPD objectives met 6. All communication plan objectives met7. Participation framework achieved and 5+% increase in membership.

Page 12: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Ein Gweledigaeth, Cenhadaeth, Diben a Blaenoriaethau CraiddCyflawni Ein Nodau Strategol | Delivering Our Strategic AimsMae’r cynllun gweithredol blynyddol hwn yn amlinellu amcanion, camau gweithredu a mesurau llwyddiant ac mae ar waith i gefnogi cyflwyno cynllun strategol Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales 2016-19. Yr uwch dîm rheoli sydd â chyfrifoldeb am yr amcanion hyn. Bydd strwythurau pwyllgor perthnasol yn destun monitro a chraffu rheolaidd, o dan gyfarwyddyd y Cyngor.

Dyma grynodeb:

Ffurfio polisi, a dylanwadu arno, i gyflawni amcanion strategol tymor hwy

• Adolygu a monitro cyfeiriad strategol y sefydliad trwy ymgynghori â’r Cyngor• Datblygu a gweithredu ymagweddau cyson at gynllunio a gweithredu strategol a gweithredol, gan

hwyluso gweithio effeithiol ar draws y sefydliad i gyflawni nodau’r sefydliad• Monitro datblygiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i lywio amcanion y cynllun

gweithredol yn y dyfodol• Gwella ymgorffori dwyieithrwydd a’r cynnig gweithredol mewn cynllunio strategol a gweithredol

Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiaudysgu ehangach

• Datblygu a chryfhau partneriaethau a chynghreiriau cefnogol ledled Cymru gyda dysgwyr, rhanddeiliaid, darparwyr addysg eraill, cyflogwyr, Estyn, cyrff proffesiynol ac Adrannau priodol Llywodraeth Cymru (LlC) a Llywodraeth y DU.

• Cyfrannu at y cynllun rhanddeiliaid ac ymgysylltu’n rhagweithiol â LlC, rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach perthnasol

Cydweithio â phartneriaid strategol i ymgysylltu â dysgwyr chynyddu dilyniant

• Datblygu a rhoi matrics partneriaeth strategol ar waith i ddangos cydweithio clir• Gwella cynllunio’r cwricwlwm i sicrhau bod llwybrau dilyniant clir o gyfleoedd dysgu anachrededig i

lefelau uwch o ddysgu achrededig• Gwella systemau ar gyfer olrhain data dilyniant dysgwyr

The organisational annual operational plan sets out the objectives, actions and measurement of success and is in place to support the delivery of the Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales strategic plan 2016-19. These objectives are the responsibility of the senior management team, where regular monitoring and scrutiny is undertaken by relevant committee structures, under the direction of the Council.

A summary of our operational objectives are provided here:

�nfluence and shape policy to achieve longer term strategic objectives

• Review and monitor the strategic direction of the organisation in consultation with the Council• Develop and implement consistent approaches to strategic and operational planning

and implementation, facilitating effective cross-organisational working to achieve the organisation’s goals

• Monitor the development of the Well-being and Future Generations (Wales) Act 2015 to inform future operational plan objectives

• Improve the embedding of bilingualism and the active offer in strategic and operational planning

Engage effectively with Welsh Government, key stakeholders and wider learning networks

• Develop and strengthen supportive partnerships and alliances across Wales with learners, stakeholders, other education providers, employers, Estyn, professional bodies and appropriate Welsh Governemnt (WG) and UK Government Departments• Contribute to the stakeholder plan and proactively engage with WG, key stakeholders and relevant wider learning networks

Collaborate with strategic partners to engage with more learners and increase progression

• Develop and implement a strategic partnership matrix to demonstrate clear collaboration• Improve curriculum planning to ensure that there are clear progression pathways from non- accredited learning opportunities to higher levels of accredited learning• Improve systems for tracking learner progression data

Cyflawni Ein Nodau Strategol - Crynodeb Delivering Our Strategic Aims - Summary9

Page 13: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Codi proffil y sefydliad, a chynyddu ei gyrhaeddiad

• Arwain ar ddatblygu’r logo newydd (gan gynnwys enw) a brandio • Datblygu canllawiau brandio marchnata, a’u rhoi ar waith• Nodi a datblygu deunyddiau hyrwyddo• Datblygu cynnig/cynigion ar gyfer y wefan i ymgorffori brandio newydd• Cynllunio a chydlynu lansiad y sefydliad• Datblygu’r strategaeth farchnata a gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus i hyrwyddo’r sefydliad

fel darparwr dysgu o ansawdd da trwy gysylltiadau cryf â’r wasg, digwyddiadau ymwybyddiaeth, cyfryngau cymdeithasol ac arloesedd marchnata

• Datblygu cynnig cwricwlwm sy’n cefnogi cofrestriadau dysgwyr mewn meysydd blaenoriaeth

Bod yn eiriolwr ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion ac yn llais ar gyfer dysgu oedolion

• Datblygu a chryfhau partneriaethau a chynghreiriau cefnogol ledled Cymru gyda dysgwyr, rhanddeiliaid, darparwyr addysg eraill, cyflogwyr, Estyn, cyrff proffesiynol ac Adrannau priodol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

• Arwain y sefydliad mewn datblygu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl weithgareddau • Datblygu polisi diogelu sy’n bodloni anghenion dysgwyr a gofynion deddfwriaethol

Cymryd rhan mewn ymchwil gymhwysol sy’n llywio cyflwyno a chyfeiriad polisi dysgu oedolion yng Nghymru yn y dyfodol

• Lledaenu canfyddiadau ymchwil gydweithredol ddiweddar i gyfranogiad rhieni mewn dysgu oedolion a chyrhaeddiad eu plant

• Sicrhau prosiectau ymchwil gydweithredol yn y dyfodol

Sicrhau sefydlogrwydd ariannol

• Datblygu fframwaith ariannol effeithiol i alluogi’r sefydliad i gyflawni ei nodau a’i amcanion strategol • Gwella diogelwch ariannol y sefydliad trwy osod a monitro cyllideb gadarn• Parhau i ddatblygu partneriaethau strategol sydd â’r potensial i ddenu cyllid/contractau• Sefydlu strwythurau prisio clir ar draws y sefydliad ar y cyd trwy ymgynghori â’r holl randdeiliaid sydd

â buddiant

O ganlyniad i’r amcanion hyn, bydd ein sefydliad yn codi proffil dysgu oedolion, yn llywio polisi ac yn gweithio tuag at gael ei sefydlu fel y prif ddarparwr dysgu oedolion yng Nghymru fel y bydd dysgwyr mewn meysydd blaenoriaeth yn elwa ar dderbyn darpariaeth o ansawdd da.

Raise the profile and increase the reach of the organisation

• Lead on the development of the new logo (including name) and branding • Develop and implement marketing branding guidelines• Identify and develop promotional materials• Develop website proposal(s) to incorporate new branding• Plan and co-ordinate launch of the organisation• Develop the marketing strategy and public relations activities to promote the organisation as a quality

learning provider through strong press relations, awareness events, social media and marketing innovation

• Develop a curriculum offer which supports learner enrolments in priority areas

Be an advocate for adult learners and a voice for adult learning

• Develop and strengthen supportive partnerships and alliances across Wales with learners, stakeholders, other education providers, employers, Estyn, professional bodies and appropriate Welsh and UK Government Departments

• Lead the organisation in advancing equality and diversity in all its activities • Develop a safeguarding policy which meets learner needs and legislative requirements

Participate in applied research which informs the future delivery and policy direction of adult learning in Wales

• Disseminate the findings of the recent collaborative research into parents’ participation in adult learning and their children’s attainment

• Secure future collaborative research projects

Ensure financial stability

• Develop an effective financial framework to enable the organisation to meet its strategic aims and objectives

• Improve the financial security of the organisation through robust budget setting and monitoring• Continue to develop strategic partnerships which have the potential to attract funding/contracts• Establish clear pricing structures across the organisation in consultation with all interested stakeholders

As a result of these objectives, our organisation will raise the profile of adult learning, inform policy and work towards being established as the leading provider of adult learning in Wales so that learners in priority areas will benefit from receiving quality provision.

Cyflawni Ein Nodau Strategol - Crynodeb Delivering Our Strategic Aims - Summary10

Page 14: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Cynnig dysgu sydd wedi’i seilio ar wybodaeth drylwyr am y farchnad lafur, gan adeiladu ar ddata partneriaeth rhanbarthol

• Darparu cynnig cwricwlwm wedi ei ganolbwyntio, trwy adolygu’r holl gwricwlwm a gyflwynir gyda rheolwyr rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â blaenoriaethau gweinidogaethol a sefydliadol

• Dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur a data partneriaethau rhanbarthol i lywio cynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm

• Gwella deilliannau cwblhau ar gyfer dysgu anachrededig

Cynllunio’r cwricwlwm wedi ei lywio gan anghenion a dyheadau arweinwyr, partneriaid a chyflogwyr

• Rhoi Cynllun Cwricwlwm ar waith sy’n adlewyrchu’r nodau a’r amcanion strategol sefydliadol• Cynnal arolygon o foddhad dysgwyr a rhanddeiliaid i lywio cynllunio’r cwricwlwm yn y dyfodol• Gwella ymgorffori themâu trawsbynciol mewn addysgu a dysgu• Arwain swyddogaeth effeithiol o ran systemau gwybodaeth reoli (MIS) a gweithio gyda thimau staff i

sicrhau bod prosesau data MIS yn effeithlon a symlach

Darparu addysgu rhagorol sy’n ategu profiad y dysgwr ac yn datblygu sgiliau dysgu arbrofol a throsglwyddadwy

• Cynnal arsylwadau gan diwtoriaid a darparu adborth, cymorth a datblygiad adeiladol i lywio gwelliannau mewn dysgu ac addysgu yn y dyfodol

• Sicrhau bod Cynlluniau Dysgu Unigol (CDUau) yn cael eu defnyddio a’u hadolygu’n gyson yn yr holl weithgareddau dysgu i gynllunio ar gyfer profiad y dysgwr, a’i wella

• Gwella’r defnydd o asesiad cychwynnol Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) ar gyrsiau dros 40 o oriau dysgu dan arweiniad (GLH) i sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau angenrheidiol i lwyddo ar y rhaglen ddysgu o’u dewis nhw

• Gwella monitro cynlluniau gwaith ac adroddiadau arsylwi gwersi i sicrhau bod sgiliau trosglwyddadwy, yn enwedig llythrennedd a rhifedd, yn cael eu hymgorffori mewn rhaglenni dysgu ar bob lefel

Rhoi prosesau a safonau ar waith sy’n hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu

• Cyflwyno’r cynllun datblygu ansawdd i lywio’r Adroddiad Hunan Asesu (AHA)• Llunio AHA sefydliadol a darparu mesurau monitro a gwella ansawdd clir i lywio’r Cynllun Datblygu

Ansawdd (CDA)• Cael gwared ar gynifer o rwystrau ag y bo modd trwy FCF a chronfeydd cymorth eraill• Rhoi adolygiad parhaus gweithdrefnau adrodd y Cwricwlwm ar waith trwy gydol y flwyddyn academaidd • Gwella lledaenu gwybodaeth am wasanaethau i ddysgwyr • Darparu ymateb cyson ac amserol i geisiadau ar gyfer anghenion cymorth ychwanegol i ddysgwyr

Offer learning based on robust labour market intelligence, building upon regional partnership data

• Provide a focussed curriculum offer by reviewing all curriculum delivered with regional and national managers to ensure its alignment with ministerial and organisation priorities

• Analyse Labour Market Information (LMI) and regional partnership data to inform curriculum planning and delivery

• Improve completion outcomes for non-accredited learning

Conduct curriculum planning informed by learners, partners and employers’ needsand aspirations

• Implement a Curriculum Plan that reflects the organisation’s strategic aims and objectives• Conduct learner and stakeholder satisfaction surveys to inform future curriculum planning• Improve the embedding of cross cutting themes in teaching and learning• Lead an effective Management Information System (MIS) function and work with staff teams to

ensure MIS data processes are efficient and streamlined

Provide excellent teaching that underpins learner experience and develops experiential learning and transferable skills

• Undertake tutor observations and provide constructive feedback support and development to inform future improvements in learning and teaching

• Ensure consistent use and review of Individual Learning Plans (ILPs) or equivalent in all learning activities to plan for and improve the learner experience

• Improve the use of the Wales Essential Skills Toolkit (WEST) initial assessment on courses over 40 Guided Learning Hours (GLH) to ensure learners have the skills necessary to succeed on their chosen programme of learning

• Improve the monitoring of schemes of work and lesson observation reports to ensure transferable skills, particularly literacy and numeracy, are embedded into learning programmes at all levels

�mplement processes and standards that promote excellence in teaching and learning

• Deliver the quality improvement plan to inform the Self-Assessment Report (SAR)• Produce an organisational SAR and provide clear monitoring and quality improvement measures

to inform the Quality Development Plan (QDP)• Remove as many barriers as possible through Financial Contingency Fund (FCF) and other support funds• Implement continual review throughout the academic year of curriculum reporting procedures• Improve the dissemination of learner services information • Provide a consistent, timely response to requests for additional learner support needs

Cyflawni Ein Nodau Strategol - Crynodeb Delivering Our Strategic Aims - Summary11

Page 15: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Cynyddu’r ddarpariaeth o ESOL a Sgiliau Hanfodol Dysgu Cynyddu’r ddarpariaeth dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog

• Asesu lefelau sgiliau Cymraeg tiwtoriaid • Darparu hyfforddiant Ymwybyddiaeth o’r Iaith Gymraeg ar gyfer tiwtoriaid• Datblygu pecyn canllawiau dwyieithrwydd ar gyfer tiwtoriaid • Sefydlu gwaelodlin o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y strwythur sefydliadol newydd er mwyn

gosod targedau ar gyfer cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a bodloni gofynion safonau’r Gymraeg yn y dyfodol.

• Sefydlu partneriaeth strategol â’r Mentrau Iaith ac eraill

Defnyddio technoleg i gyflwyno ymagweddau arloesol at ddysgu

• Arwain a darparu cyfeiriad strategol ar ddefnyddio technoleg a sicrhau bod grantiau LlC yn cael eu sicrhau yn y rownd bresennol

• Arwain a rheoli o ran cael adnoddau corfforol a thechnegol• Sefydlu llwyfan dysgu a sicrhau’r defnydd gorau o dechnoleg ddigidol • Gweithio gyda’r tîm staff i sicrhau bod prosesau data MIS yn effeithlon a symlach

O ganlyniad i’r amcanion hyn, bydd ein sefydliad yn gweithio tuag at gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ac adborth gwybodus gan ddysgwyr, byddwn yn cyflwyno dulliau dysgu ac addysgu arloesol i wella ansawdd.

Annog diwylliant sefydliadol bywiog sy’n ysbrydoli, cefnogi, grymuso a herio staff i gyflawni eu potensial

• Rhoi strategaeth ddatblygu sefydliadol ar waith i annog diwylliant sefydliadol bywiog • Datblygu strategaeth ymgysylltu â chyflogeion, a’i rhoi ar waith• Datrys materion cytuno a rhoi contractau cyflogaeth newydd ar waith• Rhoi system rheoli perfformiad ddiwygiedig ar waith• Arbrofi â chontractau cyflog ar gyfer tiwtoriaid• Rhoi adolygiad gwerthuso swyddi a strwythur cyflogau ar waith

Recriwtio, cadw a hyfforddi’r staff gorau posibl

• Recriwtio i’r swyddi sy’n weddill a datrys problemau staffio sydd heb eu datrys• Datblygu calendr sefydliadol o weithgareddau DPP ar gyfer yr holl staff addysgu i godi safonau

mewn addysgu a dysgu ar lefel genedlaethol

�ncrease the provision of ESOL and Essential Skills Learning �ncrease the provision of Welsh medium and bilingual learning

• Assess tutors’ Welsh language skills levels • Provide Welsh Language Awareness training for tutors• Develop a bilingualism toolkit for tutors • Establish a base line of Welsh-medium provision in the new organisational structure in order to

set future targets for increasing Welsh-medium provision and meet the requirements of the Welsh language standards

• Establish a strategic partnership with Mentrau Iaith and others

Use technology to deliver innovative approaches to learning

• Lead and provide strategic direction on use of technology and ensure WG grants are secured in the current round

• Lead and manage on obtaining physical & technical resources• Establish a learning platform and ensure best use of digital technology • Work with staff team to ensure MIS data processes are efficient and streamlined

As a result of these objectives, our organisation will work towards increasing Welsh medium and bilingual provision. Using the latest technology and informative learner feedback, we will deliver innovative learning and teaching methods to improve quality.

Encourage a vibrant organisational culture which inspires, supports, empowers and challenges staff to achieve their potential

• Implement an organisational development strategy to encourage a vibrant organisational culture• Develop and implement an employee engagement strategy• Resolve harmonisation issues and implement new contracts of employment• Implement a revised performance management system• Pilot salaried contracts for tutors• Implement a job evaluation and salary structure review

Recruit, retain and train the very best staff

• Recruit to remaining posts and resolve outstanding staffing issues• Develop an organisational calendar of CPD activities for all teaching staff to raise standards in teaching

and learning at national level

Cyflawni Ein Nodau Strategol - Crynodeb Delivering Our Strategic Aims - Summary1�

Page 16: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Asesu ein hunain yn rheolaidd yn erbyn modelau strategol a gweithredol amgen

• Adolygu’r system rheoli iechyd, diogelwch ac amgylcheddol i sicrhau amgylchedd dysgu a gweithio diogel• Datblygu ac ymgorffori strategaeth rheoli risg trwy bob lefel o’r sefydliad

Sefydlu ein hunain fel sefydliad Dwyieithog Cenedlaethol.

• Cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer pob un o’r staff yn y strwythur newydd.

• Rhoi Strategaeth Sgiliau Cymraeg ar waith• Cynnal dadansoddiad o’r bylchau yn erbyn rheoliadau safonau’r Gymraeg, llunio cynllun gweithredu

sefydliadol a chysylltu â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg trwy’r broses cydymffurfio deddfwriaethol • Datblygu a gweithredu ystod o gyfleoedd ac adnoddau dysgu Cymraeg ar gyfer staff• Cefnogi datblygiad partneriaeth strategol/Memorandwm Dealltwriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu

Cymraeg Genedlaethol

O ganlyniad i’r amcanion hyn, bydd ein sefydliad yn gweithio tuag at fod yn “Gyflogwr Dewisol”, ac yn datblygu staff i gyflawni eu potensial a chroesawu sgiliau a doniau gweithlu bywiog mewn lleoliad dwyieithog naturiol.

Llywodraethwyr a Rheolwyr Uwch yn arwain yn effeithiol er mwyn cynyddu proffil cenedlaethol y sefydliad

• Rhoi rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar waith ar gyfer yr uwch dîm rheoli• Rhoi rhaglen datblygu rheolwyr ar waith ar gyfer y tîm rheoli• Sicrhau diweddariadau arweinyddiaeth rheolaidd i staff, gan ddangos gweledigaeth a strategaeth glir

Ffurfio strwythur llywodraethu sy’n arwain y ffordd yn y sector

• Adolygu trefniadau llywodraethu a chyflwyno strwythur llywodraethu newydd yn unol ag arfer sy’n arwain y sector

Assess ourselves regularly against alternative strategic and operational models

• Review the health, safety and environmental (HSE) management system to ensure a safe learning and working environment• Develop and embed a risk management strategy through all levels of the organisation

Establish ourselves as a national bilingual organisation

• Complete provision of Welsh language awareness training for all staff in the new structure • Implement a Welsh Language Skills Strategy• Carry out a gap analysis against Welsh language standards regulations, produce an organisational

action plan and liaise with the Welsh Language Commissioner’s Office through the legislative compliance process

• Develop and implement a range of Welsh language learning opportunities and resources for staff• Support the development of a strategic partnership / Memorandum of Understanding (MoU) with the

National Centre for Learning Welsh

As a result of these objectives, our organisation will work towards becoming an “Employer of Choice”, developing staff to meet their potential and embrace the skills and talents of a vibrant workforce in a natural bilingual setting.

Governors andSenior Managers to lead effectively so as to build the national profile of the organisation

• Implement a leadership development programme for the senior management team• Implement a management development programme for the management team• Ensure regular leadership updates to staff, demonstrating clear vision and strategy Establish a governance structure that is sector-leading

• Review governance arrangements and introduce a new governance structure in line with sector-leading practice

Cyflawni Ein Nodau Strategol - Crynodeb Delivering Our Strategic Aims - Summary1�

Page 17: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Datblygu sgiliau a gwybodaeth staff a llywodraethwyr drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus

• Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r Gymraeg i staff a llywodraethwyr nad ydynt wedi mynychu eto • Adolygu a datblygu’r rhaglen ymsefydlu ar gyfer llywodraethwyr • Adolygu’r broses ymsefydlu tiwtoriaid a chytuno arni

Sicrhau bod staff a llywodraethwyr yn ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol

• Arwain datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu integredig sy’n sicrhau cyfathrebu sydd wedi’i dargedu’n briodol yn fewnol ac yn allanol

Darparu fframwaith ar gyfer cyfranogi sy’n ehangu democratiaeth trwy aelodaeth gynyddol a gweithredol

• Datblygu fframwaith cyfranogi a strategaeth aelodaeth i gynyddu nifer yr aelodau gweithredol (dysgwyr/aelodau unigol/sefydliadau partner) o fewn y sefydliad

O ganlyniad i’r amcanion hyn, bydd ein sefydliad yn arwain yn effeithiol i godi ein proffil a chyflawni ein hamcanion o dan drefniadau llywodraethu sy’n arwain y sector.

Develop the skills and knowledge of staff and governors through continuous professional development

• Provide Welsh language awareness training to staff and governors yet to attend • Review and develop the induction programme for governors • Review and harmonise the tutor induction process

Ensure staff and governors engage and communicate effectively

• Lead the development and implementation of an integrated communications strategy which ensures appropriately targeted communications, both internally and externally

Provide a framework for participation that broadens democracy through an increased andactive membership

• Develop a Client Relationship Management (CRM) system and participation framework and increase the number of active members (learners/Individual members/partner organisations) within the organisation

As a result of these objectives, our organisation will lead effectively to raise our profile and deliver our objectives under sector leading governance arrangements.

Cyflawni Ein Nodau Strategol - Crynodeb Delivering Our Strategic Aims - Summary14

Page 18: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

© 201 , Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales

Page 19: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid
Page 20: Cynllun 2016-2019 Strategol Strategic Plan · Ymgysylltu’n effeithiol â Llywodraeth Cymru (LlC), rhanddeiliaid allweddol a rhwydweithiau dysgu ehangach 3. Cydweithio â phartneriaid

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Walesesa elwid gynt yn: formerly known as: