6
Locsyn Y Gath Cerdd Gymunedol Cymru Rhifyn y Gaeaf ‘12 Croeso i rhifyn arbennig Nadolig o ‘Locsyn y Gath’ Croeso i rifyn arbennig Nadoligaidd o ‘Blewyn y Gath’! Rydyn ni wedi cael blwyddyn hynod o brysur yma yn CGC ac mae wedi bod yn un wych. Rydyn ni wedi cael nifer o uchafbwyntiau yn cynnwys ein prosiect ‘Stats in Sound’ yn ystod yr haf a’r prosiectau Porth Ymgysylltu gafodd eu cynnal yn gynharach eleni fel rhan o gynllun a ddatblygwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Un o’n ffefrynnau ni oedd y gweithdai Iwcalili gwych gafodd eu cynnal yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru. Mae Ciwdod wedi bod yn parhau â’i berthynas â rhaglen C2 Radio Cymru gan ddarparu gweithdai cerddoriaeth roc mewn ysgolion ar draws Cymru. Wrth gwrs roedden ni’n teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn â’r ymweliad oddi wrth Damon Albarn ac Africa Express. Gallwch ddarllen yr hanes i gyd gyferbyn. Rydyn ni wedi cael ychwanegiadau i’n swyddfeydd yn y Tyllgoed. Rydyn ni nawr yn rhannu’r adeilad gyda’r sefydliad Menter Gymdeithasol Spice a’r Cynllunydd Ffasiwn Luna Amani- Downing. Fe hoffwn i estyn gwahoddiad cynnes i bawb, rydyn ni wedi bod yn mwynhau’r cwmni’n fawr iawn! Mae ganddon ni nifer o brosiectau gwych wedi eu trefnu ar gyfer 2013 ac rydw i wir yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, cadwch yn gynnes, a mwynhewch eich gwyliau gaeaf yn fawr iawn. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda! HANNAH JENKINS Cyfarwyddwr Yn gynharach eleni, daeth Africa Express, y grŵp cydweithredol o gerddorion o Affrica a’r Gorllewin, ar ymweliad â Cherdd Gymunedol Cymru ar gyfer gweithdy a gig byrfyfyr. Yn cael eu cyfrif y dylanwad mwyaf chwyldroadol mewn cerddoriaeth boblogaidd ers dwy ddegawd, mae Africa Express yn tynnu at ei gilydd gerddorion o wahanol ddiwylliannau, genres a chenedlaethau i chwalu ffiniau a chynnig golwg newydd o Affrica a’i cherddoriaeth. Llenwodd y grŵp cydweithredol drên gyda dwsinau o artistiaid gwadd gan gychwyn ar eu ffordd i chwarae nifer o sioeau ar draws Prydain yn ystod Mis Medi. Yn ogystal â chyngherddau sydd wedi eu trefnu yn Middlesbrough, Glasgow, Manceinion, Caerdydd a Bryste, mae’r cerddorion wedi bod yn cynnal perfformiadau byrfyfyr mewn gorsafoedd rheilffordd, ysgolion, swyddfeydd, canolfannau siopa a clybiau lleol. Roedd CGC yn hynod o falch o gael croesawu’r cerddorion oedd yn cynnwys Damon Albarn, Afel Bocoum, Kelly Mamadou a Pedro Sankaré. Yn ymuno â CGC ar gyfer y gig roedd cyfranogwyr o Ganolfan Ieuenctid Howardian, Diverse Cymru, 3Gs, Prifysgol Morgannwg, Vision 21,Ysgol Gynradd Mooreland ac Ysgol Ashgrove, pobl sydd i gyd wedi gweithio gyda CGC yn y gorffennol. Dywedodd Damon Albarn, cerddor a chyd- sylfaenydd Africa Express, mai hwn oedd un o uchafbwyntiau’r daith, gan ddweud ei bod yn braf gwneud rhywbeth â seiniau mor goeth a chyfathrebu gyda phobl ar sail llawer mwy personol, un i un. Mae’n ymwneud â chyfathrebu’r syniad bod cerddoriaeth yn iaith gynhwysol.” Mae Africa Express yn arbennig o gyffrous i CGC gan ein bod wedi bod yn cynnal gweithdai drymio Affricanaidd ac offerynnau taro dros yr 20 mlynedd diwethaf ac roedd y cyfle am ddosbarth meistr yn un rhy dda i’w golli. Mae’r math yma o weithdai’n hynod o effeithiol gan eu bod yn rhoi cyfle i grwpiau o wahanol sgiliau chwarae gyda’i gilydd – fel a welwyd yn sesiwn heddiw gyda’r cerddorion byd-enwog yn chwarae ochr yn ochr â disgyblion ysgolion lleol, pobl ifanc, grwpiau ag anableddau ac hyd yn oed staff CGC – ac roedd yn swnio’n wych! Dywedodd Ian Birell, cyd-sylfaenydd Africa Expres: “Pob lwc gyda’ch gwaith ysbrydoledig. Fel rhiant i blentyn ag anableddau, rydw i’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd cerddoriaeth i blant o’r fath. Hoffwn i weld mwy o ganolfannau a phrosiectau o’r math yma ar hyd a lled y wlad.” Africa Express yn galw ar Cerdd Gymunedol Cymru! 5 5 5 5 5 5 5 5 5 5 5 5 5 CYFROL ARBENNIG GYDA CHALENDR 2013! Y Y Y Y Y Y Y Y Y Y Y Y 5 x

Y Locsyn Y Gath - Community Music Wales€¦ · Cafodd ei hudo gan y profiad yn syth ac aeth ymlaen i gymryd rhan mewn nifer o brosiectau CGC. Bu Andrew’n sôn wrthon ni am ei brofiadau:

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Y Locsyn Y Gath - Community Music Wales€¦ · Cafodd ei hudo gan y profiad yn syth ac aeth ymlaen i gymryd rhan mewn nifer o brosiectau CGC. Bu Andrew’n sôn wrthon ni am ei brofiadau:

Locsyn Y GathCerdd Gymunedol Cymru Rhifyn y Gaeaf ‘12

Croesoi rhifyn arbennig Nadolig o

‘Locsyn y Gath’Croeso i rifyn arbennig Nadoligaidd o ‘Blewyn y Gath’! Rydyn ni wedi cael blwyddyn hynod o brysur yma yn CGC ac mae wedibod yn un wych. Rydyn ni wedi cael nifer o uchafbwyntiau yn cynnwys ein prosiect ‘Stats in Sound’ yn ystod yr haf a’r prosiectau Porth Ymgysylltu gafodd eu cynnal yn gynharach eleni fel rhan o gynllun a ddatblygwyd gan SwyddfaCyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Un o’n ffefrynnau ni oedd y gweithdai Iwcalili gwych gafodd eu cynnal yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru. Mae Ciwdod wedi bod yn parhau â’i berthynas â rhaglen C2 Radio Cymru gan ddarparu gweithdai cerddoriaeth roc mewn ysgolion ar draws Cymru. Wrth gwrs roedden ni’n teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn â’r ymweliad oddi wrth Damon Albarn ac Africa Express. Gallwch ddarllen yr hanes i gyd gyferbyn. Rydyn ni wedi cael ychwanegiadau i’n swyddfeydd yn y Tyllgoed. Rydyn ni nawr yn rhannu’r adeilad gyda’r sefydliad Menter Gymdeithasol Spice a’r Cynllunydd Ffasiwn Luna Amani-Downing. Fe hoffwn i estyn gwahoddiad cynnes i bawb, rydyn ni wedi bod yn mwynhau’r cwmni’n fawr iawn!Mae ganddon ni nifer o brosiectau gwych wedi eu trefnu ar gyfer 2013 ac rydw i wir yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, cadwch yn gynnes, a mwynhewch eich gwyliau gaeaf yn fawr iawn. Nadolig Llawen a BlwyddynNewydd Dda!HANNAH JENKINSCyfarwyddwr

Yn gynharach eleni, daeth Africa Express, y grŵp cydweithredol o gerddorion o Affrica a’r Gorllewin, ar ymweliad â Cherdd Gymunedol Cymru ar gyfer gweithdy a gig byrfyfyr. Yn cael eu cyfrif y dylanwad mwyaf chwyldroadol mewn cerddoriaeth boblogaidd ers dwy ddegawd, mae Africa Express yn tynnu at ei gilydd gerddorion o wahanol ddiwylliannau, genres a chenedlaethau i chwalu ffiniau a chynnig golwg newydd o Affrica a’i cherddoriaeth. Llenwodd y grŵp cydweithredol drên gyda dwsinau o artistiaid gwadd gan gychwyn ar eu ffordd i chwarae nifer o sioeau ar draws Prydain yn ystod Mis Medi. Yn ogystal â chyngherddau sydd wedi eu trefnu yn Middlesbrough, Glasgow, Manceinion, Caerdydd a Bryste, mae’r cerddorion wedi bod yn cynnal perfformiadau byrfyfyr mewn gorsafoedd rheilffordd, ysgolion, swyddfeydd, canolfannau siopa a clybiau lleol. Roedd CGC yn hynod o falch o gael croesawu’r cerddorion oedd yn cynnwys Damon Albarn, Afel Bocoum, Kelly Mamadou a Pedro Sankaré. Yn ymuno â CGC ar gyfer y gig roedd cyfranogwyr o Ganolfan Ieuenctid Howardian, Diverse Cymru, 3Gs, Prifysgol Morgannwg, Vision 21,Ysgol Gynradd Mooreland ac Ysgol Ashgrove, pobl sydd i

gyd wedi gweithio gyda CGC yn y gorffennol. Dywedodd Damon Albarn, cerddor a chyd-sylfaenydd Africa Express, mai hwn oedd un o uchafbwyntiau’r daith, gan ddweud ei bod yn braf gwneud rhywbeth â seiniau mor goeth a chyfathrebu gyda phobl ar sail llawer mwy personol, un i un. Mae’n ymwneud â chyfathrebu’r syniad bod cerddoriaeth yn iaith gynhwysol.”Mae Africa Express yn arbennig o gyffrous i CGC gan ein bod wedi bod yn cynnal gweithdai drymio Affricanaidd ac offerynnau taro dros yr 20 mlynedd diwethaf ac roedd y cyfle am ddosbarth meistr yn un rhy dda i’w golli. Mae’r math yma o weithdai’n hynod o effeithiol gan eu bod yn rhoi cyfle i grwpiau o wahanol sgiliau chwarae gyda’i gilydd – fel a welwyd yn sesiwn heddiw gyda’r cerddorion byd-enwog yn chwarae ochr yn ochr â disgyblion ysgolion lleol, pobl ifanc, grwpiau ag anableddau ac hyd yn oed staff CGC – ac roedd yn swnio’n wych! Dywedodd Ian Birell, cyd-sylfaenydd Africa Expres: “Pob lwc gyda’ch gwaith ysbrydoledig. Fel rhiant i blentyn ag anableddau, rydw i’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd cerddoriaeth i blant o’r fath. Hoffwn i weld mwy o ganolfannau a phrosiectau o’r math yma ar hyd a lled y wlad.”

Africa Express yn galw ar Cerdd Gymunedol Cymru!

5 5 5 5 5 5 5 5 5 5 5 5 5

CYFROL ARBENNIG GYDA CHALENDR 2013!

YYY

YY

YYYY

YY

Y

5

x

Page 2: Y Locsyn Y Gath - Community Music Wales€¦ · Cafodd ei hudo gan y profiad yn syth ac aeth ymlaen i gymryd rhan mewn nifer o brosiectau CGC. Bu Andrew’n sôn wrthon ni am ei brofiadau:

Darlithoedd y Diwydiant Cerdd Cyfoes yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro

Ym Mis Tachwedd, rhoddodd Swyddog Prosiect CGC, Adam Williams, ddarlith ar Eiddo Deallusol i fyfyrwyr Cerddoriaeth Boblogaidd Coleg Caerdydd a’r Fro, Campws Trowbridge. Eglurodd Adam i’r myfyrwyr yn union beth yw Eiddo Deallusol a’i bwysigrwydd oddi fewn i’r diwydiannau creadigol. Hefyd bu’n trafod y mecanweithiau cyfreithiol sydd yn eu lle i amddiffyn Eiddo Deallusol, megis Hawlfraint, gan fanylu ar Wasg Argraffu Gutenburg a sut y gwnaeth newid y busnes cyhoeddi a ‘Statud Anne’, y gyfraith gyntaf i ddiogelu Eiddo Deallusol. Roedd y ddarlith hefyd yn edrych ar ddewisiadau amgen Hawlfraint, gan roi ystyriaeth i’r oes ddigidol, a bu’n archwilio sut mae diwydiant a thechnoleg dros y blynyddoedd wedi effeithio ar ddeddfwriaeth Eiddo Deallusol a’n diwylliant creadigol a’n heconomi. Mae adborth oddi wrth y staff a’r myfyrwyr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi bod yn gadarnhaol a gofynnwyd i Adam ddod yn ôl i roi mwy o ddarlithoedd yno ar Fenter oddi fewn i’r diwydiant Cerdd Gyfoes. Dywedodd Adam: “Roedd yn wych gweld y myfyrwyr yn cymryd cymaint o ddiddordeb mewn pwnc sydd yn newydd i rai ohonyn nhw, gan eu bod ddim ond yn cychwyn ar eu gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol. Rydw i’n edrych ymlaen at ein gwaith pellach gyda Choleg Caerdydd a’r Fro.”

Mae Andrew Brown yn gerddor sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n chwarae gitâr fas yn ei frand ei hun, sef Afro Cluster, ac hefyd i Zervas & Pepper, sydd ar hyn o bryd yn cael eu hyrwyddo gan amrywiaeth eang o DJs o Lauren Laverne a Radcliffe & Maconie, i Terry Wogan a Janice Long. Cyn hyn bu’n chwarae gyda Melo Park, band sy’n cynnwys Sian Evans (Kosheen) a Simon Kingman, fu’n chwarae’n rhyngwladol ac yn recordio yn y stiwdio byd enwog - Rockfield Studios. Cafodd Andrew ei cyfle cyntaf i chwarae cerddoriaeth mewn gweithdy CGC. Cafodd ei hudo gan y profiad yn syth ac aeth ymlaen i gymryd rhan mewn nifer o brosiectau CGC. Bu Andrew’n sôn wrthon ni am ei brofiadau: “Rydw i’n cofio’n dda y tro cyntaf i mi eisiau chwarae cerddoriaeth. Mae’n rhaid ‘mod i tua 12 neu 13 oed ac roedd fy ysgol uwchradd yn cychwyn ‘Clwb Band’ bob Dydd Iau ar ôl ysgol. Roedd y sesiynau’n cael eu cynnal gan CGC a dyma fy mhrofiad cyntaf o weld beth mae CGC yn ei wneud. Fe gwrddais â’r tiwtoriaid i gyd yno, a gan nad oeddwn yn gwybod pa offeryn roeddwn yn mynd i’w chwarae fe roddwyd gitâr fas yn fy llaw, ac o hynny ymlaen roeddwn wedi fy argyhoeddi mod i am chwarae gitâr fas. Fe es i i MusicMix (yr ysgol roc flynyddol gaiff ei chynnal gan CGC gyda Chyngor Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant) ddau haf yn olynol pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd. Fe ges i brofiadau ac atgofion gwych. Roedd yn ffordd wych o ymarfer gyda band drwy’r dydd, bob dydd o’r wythnos, ac fe roddodd flas i mi o’r hyn y gall bywyd cerddor amser llawn ei olygu. Roedd y tiwtoriaid yn hawdd iawn dod ymlaen â nhw ac fe roddon nhw help mawr i mi gyda fy mherfformio. Yn gyffredinol roedd y sesiynau MusicMix yma’n brofiadau gwych. Fe gefais i gwrdd â cherddorion gwahanol a gweithio gyda mentoriaid arbennig iawn. Rydw i’n cofio’n dda y tiwtoriaid fu’n fy mentora trwy’r ysgol uwchradd ac mae gen i atgofion melys ohonyn nhw i gyd. Ron Macauley, Neil White a Gareth Giles oedd y rhai o’r Clwb Band, yna roedd Lyndon Pettican a Cat Southall yn gweithio gyda Music Mix. Bu Ron o help mawr i mi gan ei fod yn ddrymiwr ac felly roedd yn gallu dangos i mi sut roedd y ddau offeryn (gitâr fas a drymiau) yn gweithio gyda’i gilydd. Mae gen i atgofion byw iawn o blagio Neil yn barhaus am linellau bas newydd, roedd yn wych fel yna, ef oedd y person cyntaf i ddysgu gwahanol

linellau bas i mi... bob wythnos fe fyddwn yn cael rhywbeth newydd ganddo. Rydw i’n dal i gofio hyd heddiw ychydig o’r llinellau bas a ddysgodd i mi! Roedd Gareth hefyd yn wych – fe ddysgodd ymarferion a graddfeydd i mi rydw i’n dal i’w gwneud heddiw. Rydw i’n cofio ei fod yn ddilynwr brwd o’r Smiths hefyd! Llwyddodd y rhaglen Music-Mix gadarnhau i mi mod i eisiau/angen gwneud cerddoriaeth yn llawn amser. Roedd yr holl brofiad o godi’n gynnar bob dydd am wythnos a mynd i ymarfer gyda’ch band yn wych. Dyna’r profiad sydd wedi fy symbylu i wneud hyn yn llawn amser. Pan adewais i’r ysgol fe astudiais i gerddoriaeth yn y Brifysgol, gan raddio y llynedd gyda gradd BA Anrhydedd mewn Cerddoriaeth Bop. Rydw i ynghanol gwneud TAR ym Mhrifysgol Caerdydd ac rydw i’n gobeithio gweithio fel athro yn y dyfodol fel y gallaf ysbrydoli pobl ifanc, fel y gwnaeth tiwtoriaid CGC i mi. Wrth gwrs rydw i’n dal i chwarae cerddoriaeth, rydw i ar hyn o bryd yn chwarae o leiaf dair gwaith yr wythnos ar gyfer prosiectau a bandiau mewn gweithgareddau o gwmpas Caerdydd. Mae CGC wedi bod yn hollol allweddol wrth rhoi cyfle i mi, i fy

ysbrydoli i gymryd at y gitâr fas, cadw i ymarfer a gwneud bywoliaeth trwy gerddoriaeth. HIR Y PARHAO!!!”

Astudiaethau Achos CGC:Andrew Brown, cyn gyfranogwr

---------------------------------------------------------------------------------------------------------Am y Newyddion Diweddara a Wybodaeth Prosiectau: www.communitymusicwales.co.uk---------------------------------------------------------------------------------------------------------

Page 3: Y Locsyn Y Gath - Community Music Wales€¦ · Cafodd ei hudo gan y profiad yn syth ac aeth ymlaen i gymryd rhan mewn nifer o brosiectau CGC. Bu Andrew’n sôn wrthon ni am ei brofiadau:

Mo Ho Ho!Mae adroddiadau’n ein cyrraedd o bob cwr

o Gaerdydd bod Harry wedi cael ei weld gyda mwstas mawr blewog.

Roedd Harry, neu ‘Mo Bro’, wedi bod yn tyfu’r mwstas ym Mis Tachwedd er budd menter

‘Movember’ - sy’n golygu bod dynion ar draws y byd yn tyfu mwstas gyda’r amcan o godi arian hanfodol a chodi ymwybyddiaeth o iechyd dynion, yn benodol canser y prostad a chanser y ceilliau, Dywedodd: “Does gen i ddim prinder gwallt felly mae wedi tyfu’n dda, rydw i wedi dod braidd yn hoff ohono. Fe fydda i’n ei gadw dros y Nadolig, gan y galla i gadw fy mins peis yna i’w bwyta’n nes ymlaen ac mae mantais arall - mae’n

cadw fy wyneb yn gynhesach.”

Doedd Chris Evans ddim ar gael i wneud sylw.

Proffil Staff: Simon Groves

Bwrdd Ymddiriedolwyr: Cadeirydd-----------------Simon yw Rheolwr Profiadau Atradius - cwmni yswiriant credyd a rheoli wedi lleoli ym Mae Caerdydd. Mae hefyd yn ymglymedig i gerddoriaeth yn ei amser sbâr gan chwarae gigs ar draws y wlad gyda’i band Roosevelt.-----------------Petai’n rhaid i chi fod yn sownd mewn lifft gydag unrhyw un pwy fyddech chi’n ddewis?Er mwyn i mi beidio â mynd i banig (diffyg ocsigen, diffyg bwyd ac ati) byddai’n well iddo fod yn rhywun fyddai’n fy niddanu. Beth am y digrifwr Milton Jones? Dyma un o’i straeon: ‘Fe ffoniais arweinydd ysbrydol Tibet y diwrnod o’r blaen. Fe anfonodd e afr gyda gwddf hir iawn i mi. Roeddwn i wedi llwyddo i ffonio ‘Dial a Llama’Hoff ffilm?Mae’n dibynnu pa ddiwrnod o’r wythnos yw hi. Weithiau yr ateb yw ‘The Godfather’, weithiau ‘Some like it hot’, weithiau ‘Crash’P’run oedd yr albwm olaf i chi ei phrynu?Ron Sexsmith ‘Long Player Late Bloomer’. Cyfansoddwr gwych o Ganada. Mae weithiau’n swnio fel Jackson Brown (da iawn), weithiau Paul McCartney (ddim cystal)Beth yw’ch ofn mwyaf? Unrhyw beth gwael yn digwydd i fy ngwraig a’n plant.Pa berson ydych chi’n ei edmygu fwyaf a pham?George Harrison. Tyner. Diymhongar. Creodd gerddoriaeth newydd wych trwy gydol ei fywyd. Ac fe ysgrifennodd nifer o ganeuon gorau’r Beatles hefyd. ‘While my guitar gently weeps’ – Oes angen dweud mwy? Pa gig oedd y gyntaf i chi fynd iddi?Rolling Stones, Capitol Caerdydd, Mis Medi 1965. Ond y gig ORAU i mi fynd iddi erioed oedd Jimi Hendrix, Gerddi Sophia Caerdydd 1967. Cath neu gi?Ci. Ond nid un sy’n cyfarth llawer. Byddai daeargi Rwsiaidd yn neis, ond anymarferol. Arwydd Sidydd?Gemini. Dwi’n gwybod mai nonsens yw’r cyfan ond dwi’n hoffi darbwyllo fy hun mod i’n un nodweddiadol...smart, doniol, hwyliog, creadigol. Ddwedes i mai nonsens yw’r cyfan. Petaech chi’n gallu cael g yrfa arall beth fyddech chi?Drymiwr gyda Tom Petty and the Heartbreakers.Beth ydych chi’n hoffi ei wneud pan nad ydych yn y gwaith?Drymio gyda fy mand Roosvelt (tebyg i Tom Petty). Gwylio cyfresi diddiwedd o raglenni teledu cyffrous Americanaidd a Daneg. Bwyta.

Y MixMae CGC yn parhau â’n cysylltiad hir gyda Celf ar y Blaen trwy gynnal cyfres o weithdai ar gyfer pobl ifanc ar draws De Cymru. Mae’r gweithdai’n cael eu cynnal fel rhan o brosiect Cyrraedd y Nod ‘Y Mix’ ac maen nhw’n canolbwyntio ar dechnoleg cerddoriaeth yn cynnwys popeth o grefft DJ i gynhyrchu cerddoriaeth. Mae’r gweithdai yma hefyd yn pwysleisio cynhwysedd ddigidol a defnyddio cyfryngau cymdeithasol oddi fewn i’r diwydiant cerddoriaeth. Mae’r gweithdai, gaiff eu hachredu trwy Agored Cymru, yn cynnwys gwaith DJ yng Nghanolfan Galw Heibio Senghennydd, technoleg cerddoriaeth yng Ngholeg y Rhymni a sesiynau DJ ‘pontio â byd gwaith’ yn Aberfan. Mae yna hefyd weithdai wythnosol yn Ysgol St Martins yng Nghaerffili lle mae pobl ifanc yn cael eu dysgu sut mae creu seiniau canu ar gyfer eu ffonau symudol! Mae gan CGC dros 20 mlynedd o brofiad o gynnal gweithgareddau cerdd cyfranogol ac mae ganddon ni arbenigedd mewn cynllunio a darparu prosiectau cerdd o ansawdd uchel mewn lleoliadau cymunedol. Gallwn deilwra prosiectau cerdd yn ôl y galw, gan gymhwyso unrhyw anghenion arbennig a darparu cynllunio gweithdai strategol arbenigol ar gyfer eich cyllideb benodol. Am fwy o wybodaeth am ein gweithdai pwrpasol ewch i www.communitymusicwales.co.uk

Sessiynnau DJ yng nghanolfan

Page 4: Y Locsyn Y Gath - Community Music Wales€¦ · Cafodd ei hudo gan y profiad yn syth ac aeth ymlaen i gymryd rhan mewn nifer o brosiectau CGC. Bu Andrew’n sôn wrthon ni am ei brofiadau:

-----------------------------------------------------------------------Mae CGC yn Elusen gofrestredig ac mae’n dibynnu ar grantiau a chyfraniadau i oroesi. Am fwy o wybodaeth am gyfrannu ewch i:

www.communitymusicwales.co.uk get-involved/donate-----------------------------------------------------------------------

Hyfforddi Tiwtoriaid Cerdd Gymunedol yn dod yn ôl! Mae CGC yn falch o gyhoeddi, yn dilyn llwyddiant ein cwrs yn 2011 fe fyddwn yn cynnal y Cwrs 15 wythnos i Hyfforddi Tiwtoriaid Cerdd Gymunedol unwaith eto yn 2013.

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys amrywiaeth o theori a gwaith ymarferol mewn cerdd gymunedol gyda gweithdai ymarferol gyda hyfforddwyr cerdd gymunedol proffesiynol. Mae’r gweithdai’n cynnwys sgiliau gwaith grŵp, pendantrwydd, dyfeisio ac addasu defnyddiau gweithdy, hwyluso dysgu a thwf cleientiaid, gweithio gyda deilliannau meddal a sgiliau trosglwyddadwy, ymwybyddiaeth o amddiffyn plant, yswiriant, asesu sgiliau sylfaenol, iechyd a diogelwch, cyfleon cyfartal ac arfer gorau.

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal o Ddydd Iau 11 Ebrill hyd 11 Gorffennaf

ac fe fydd yn golygu un diwrnod llawn o hyfforddiant bob wythnos. Fe fydd yna sesiynau dysgu a lleoliadau. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ond mae’n agored i bawb sy’n byw yn Ne Cymru.

Mae’n cyrsiau wedi eu hachredu gan Agored Cymru. Mae hyfforddiant yn cael ei gynllunio gyda strwythur, dull ac ethos, sy’n adlewyrchu gwaith tiwtor cerdd gymunedol h.y. mae’r cwrs yn ymarferiad gwerthfawr ar gyfer y swydd ei hun. Mae hyfforddiant wedi ei seilio’n rhannol ar hunanasesiad – mae hyfforddeion yn asesu eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain, Trwy brofiad personol o fod mewn grŵp mewn amgylchedd dysgu, bydd pob hyfforddai’n ennill gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o ddeinameg grŵp a phrosesau grŵp.

Mae CGC wedi cael llwyddiant sylweddol yn ei hyfforddiant, gyda dros 500 o bobl yn mynd trwy’n cyrsiau. Mae tiwtoriaid CGC yn gerddorion dawnus sydd, trwy’r rhaglen hyfforddi, wedi trosi ei sgiliau i botensial gwaith credadwy a real. Mae’r tiwtoriaid yn amrywio o ran oed a chefndir, ond maen nhw i gyd yn ymroddedig i ddefnyddio cerddoriaeth fel modd o gysylltu â phobl i wneud gwir wahaniaeth.

Nid yn unig mae’r cwrs hwn wedi bod o fudd i bobl yng Nghymru mae hefyd yn uchel ei barch yn rhyngwladol. Gyda CGC yn cynnal cyrsiau yn Latvia, Yr Almaen, Cuba, Israel, Canada a Bolivia dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Dywedodd Bethan Nia, un a gymrodd ran ar gwrs 2011: “Fe fyddwn yn argymell y cwrs hwn yn uchel iawn i unrhyw un sy’n meddwl gweithio ym myd Cerdd Gymunedol. Yn sicr fe roddodd y cyfarpar, strwythur a hyder i mi ymestyn fy nghyfleon gwaith a sefydlu fy mhrosiectau fy hun,”

Bydd gwybodaeth bellach a phecynnau cais ar gael o Ionawr 2013. Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 029 2083 8060.

Newyddion Hyfforddi

Cyfranogwr CGC yn sefydlu menter newydd!

Mae CGC yn falch o roi gwybod am lwyddiant un o’n cyfranogwyr. Yn wreiddiol roedd Louis Milne o Maesgeirchen, Bangor, yn cymryd rhan yn un o’n prosiectau Porth Ymgysylltu gafodd eu cynnal yn gynharach eleni fel rhan o gynllun a ddatblygwyd fel menter gydweithredol gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Ar ôl cwblhau’r cynllun Porth Ymgysylltu, cafodd Louis ei leoli ar un arall o gynlluniau mentora CGC, Complete Control Music (CCM). Mae CCM yn gweithio gyda rhai rhwng 14-19 oed sy’n ymwneud â chreu cerddoriaeth. Mae’n gynllun mentora sy’n rhoi cyngor ymarferol ar y diwydiant cerddoriaeth ynghyd â chyfleon i hyrwyddo a datblygu gwaith pobl ifanc, gan gynnig cyfleon recordio, y posibilrwydd o ryddhau gwaith, gigs, cefnogaeth a chyngor. Tra roedd ar y cynllun mynegodd ddiddordeb mewn bod yn diwtor gitâr. Helpodd ei Fentor a Thiwtor CGC , Marcus Peachy, i’w baratoi ar gyfer hyn trwy roi cynghorion theori a dysgu cerddoriaeth iddo. Mynychodd Louis gwrs 2 ddiwrnod CGC i hyfforddi tiwtoriaid Cerdd Gymunedol yn y Gweithle’, lle llwyddodd i gael achrediad Lefel 3 trwy Agored Cymru, yn ogystal â nifer o sgiliau ymarferol gwerthfawr.

Yna trefnodd CGC bod Louis yn dod i gysylltiad â Menter a Busnes sy’n rhoi grantiau i helpu unigolion i gychwyn busnes. Gwnaeth Louis gais er mwyn ei helpu i sefydlu ei brosiect dysgu gitâr.Hefyd trefnodd CGC bod Louis hefyd yn dod i gysylltiad â Chlwb Ieuenctid Maesgeirchen lle rydyn ni wedi bod yn cynnal nifer o weithdai dros y 3 blynedd ddiwethaf fel rhan o’r cynllun. Mae Louis nawr yn gwirfoddoli fel athro gitâr i rai o’r bobl ifanc sydd ddim yn gymwys i gymryd rhan yn CCM. Ers gadael CCM mae Louis wedi ymuno â band newydd fel gitarydd, ac mae wedi sefydlu ei fand ei hun. Mae hefyd yn un o aelodau gwreiddiol BYGS, y grŵp ieuenctid ym Mangor sydd wedi ei sefydlu i roi i bobl ifanc yr ardal rywle i gwrdd, a chyfnewid syniadau er mwyn ceisio lleihau unrhyw effeithiau negyddol mae’r cyrffyw diweddar wedi ei gael ar bobl ifanc. Bu Louis mewn cysylltiad â ni’n ddiweddar i roi gwybod i ni bod ei gais am grant Menter a Busnes wedi bod yn llwyddiannus a’i fod nawr ynghanol y broses o sefydlu ei fusnes ei hun.Pob lwc Louis!

Hyfforddi Tiwtoriaid 2011

Page 5: Y Locsyn Y Gath - Community Music Wales€¦ · Cafodd ei hudo gan y profiad yn syth ac aeth ymlaen i gymryd rhan mewn nifer o brosiectau CGC. Bu Andrew’n sôn wrthon ni am ei brofiadau:

M A N Y L I O N C Y S W L LT

Uned 8, 24 Heol Norbury, Tyllgoed, Caerdydd, CF5 3AU

Ffon : 02920 838060Ffacs: 02920 566573

E-bost: [email protected]

Gwe: www.communitymusicwales.co.uk

-----------------------------------

TWITTERwww.twitter.com/CMW_CGC -----------------------------------

FACEBOOKEwch i ein tudalen:

Community Music Wales/Cerdd Gymunedol Cymru

---------------------------------------RHIF ELUSEN

GOFRESTREDIG1009867

-----------------------------------CWMNI CYFYNGEDIG DAN

WARANT COFRESTRWYD YNG NGHYMRU RHIF 2695368-----------------------------------Cerdd Gymunedol Cymru

Yn dod a Chymunedau ynghyd trwy Gerddoriaeth

-----------------------------------

Dyddiadur DigwyddiadauWWWWWWWWWWWWWWWWWWWWCyrraedd y Nod – y MixLleoliadau a Dyddiadau amrywiolMae Cerdd Gymunedol Cymru yn ddiweddar wedi cael eu comisiynu gan Celf ar y Blaen fel rhan o’u prosiect Cyrraedd y Nod ‘Y Mix’ i ddarparu gweithdai cerdd yn cynnwys sesiynau ar waith DJ, a thechnoleg cerddoriaeth ar gyfer pobl ifanc mewn nifer o sefydliadau ar hyd a lled de Cymru. Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys Cymdeithas Tai Calon yn Nhredegar, y cynllun ‘pontio i gyflogaeth’ yn Aberfan, canolfan galw heibio Senghennydd a Choleg Rhymni. Mae’r cyrsiau i gyd wedi eu hachredu gan Agored Cymru. ----------------------------------------------------------------------------------------

Gweithdai Cyfranogol yn Nhŷ PenrhosTy Penrhos, Caerffili:Dydd Mercher 10am-12pmYn dilyn llwyddiant parhaus ein gweithdai cerdd cyfranogol gyda’r Gynghrair Pobl Anabl yn y ‘Laurels and Briary’ yn Nhrelái, Caerdydd, mae CGC wedi cael eu comisiynu i gynnal 10 gweithdy ychwanegol mewn cartref preswyl newydd, Tŷ Penrhos yng Nghaerffili. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â phawb yno a chael hwyl yn creu cerddoriaeth! ----------------------------------------------------------------------------------------

Dewisiadau CreadigolChapter Arts Centre, Caerdydd:Dydd Mawrth 21 Awst - 18 Rhagfyr10.00am - 12.00pmMae Cerdd Gymunedol Cymru’n gweithio gyda Vision 21 yng Nghaerdydd i ddarparu gweithdai drymio, canu a chyfranogol ar gyfer oedolion ag anawsterau dysgu. Dyw’r gweithdai hyn ddim ar agor i’r cyhoedd.----------------------------------------------------------------------------------------

Uned Cyfeirio Ganolog ConwyUned Cyfeirio Ganolog Conwy:Dydd Mercher a Dydd Gwener o 7 Tachwedd- 19 Rhagfyr10.00am – 11.00amMae Cerdd Gymunedol Cymru wedi derbyn arian oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru trwy brosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop – Cyrraedd y Nod, i gynnal cyfres o weithdai ar gyfer pobl ifanc yn Uned Cyfeirio Ganolog Conwy. Mae’r gweithdai hwyliog a deniadol yma’n amcanu i helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i fagu hyder, hunanhyder ac amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r Prosiect yn amcanu i achredu pob un sy’n cymryd rhan gydag achrediad Agored Cymru lefel 1.Dyw’r gweithdai hyn ddim ar agor i’r cyhoedd.----------------------------------------------------------------------------------------

Ysgol Syr Hugh OwenYsgol Syr Hugh Owen, Bethel Road, Caernarfon, Gwynedd:Dydd Llun, 1:50pm - 3:30pm a Dydd Iau, 9:00am - 11:00amYn cychwyn ar y 12 a 15 TachweddMae Cerdd Gymunedol Cymru wedi derbyn arian oddi arth Gyngor Celfyddydau Cymru trwy brosiect Cyrraedd y Nod Crinfa Gymdeithasol Ewrop i gynnal cyfres o weithdai ar gyfer pobl ifanc yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, Gwynedd. Bydd y gweithdai’n rhoi cyfle i’r cyfranogwyr gymryd rhan mewn cyfansoddi grŵp a recordio gyda’r bwriad o gynyddu eu hyder a’u sgiliau trosglwyddadwy. Bydd y cwrs yn cael ei achredu gan Agored Cymru.Dyw’r gweithdai hyn ddim ar agor i’r cyhoedd.----------------------------------------------------------------------------------------

Theatr GymunedolMae Cerdd Gymunedol Cymru wedi cael eu comisiynu gan Celf ar y Blaen, i ddarparu cefnogaeth canu corawl ar gyfer cynhyrchiad mwy yn cynnwys tair ysgol gynradd ym Merthyr.Yr Ysgolion Cynradd yw:Ysgol Gynradd Gatholig St Aloysious, Ysgol Gynradd Gwaunfarren ac Ysgol Gynradd Goetre20, 27 Tachwedd a 4, 5 Rhagfyr 9.15am – 3.00pmDyw’r gweithdai hyn ddim ar agor i’r cyhoedd.

WWWWWWWWWWWWWWWWWWWW

Page 6: Y Locsyn Y Gath - Community Music Wales€¦ · Cafodd ei hudo gan y profiad yn syth ac aeth ymlaen i gymryd rhan mewn nifer o brosiectau CGC. Bu Andrew’n sôn wrthon ni am ei brofiadau:

2013