10
MEWN CYDWEITHREDIAD Â

Yn wirioneddol wych. Anodd credu i ddramodwr ifanc lunio sgript … · 2015. 8. 5. · sydyn.” Drych - Llyr Titus wyt ti erioed wedi teimlo ar goll ... 8 hydref 2015 - 1pm & 7.30pm

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Yn wirioneddol wych. Anodd credu i ddramodwr ifanc lunio sgript … · 2015. 8. 5. · sydyn.” Drych - Llyr Titus wyt ti erioed wedi teimlo ar goll ... 8 hydref 2015 - 1pm & 7.30pm

MEWN CYDWEITHREDIAD Â

Page 2: Yn wirioneddol wych. Anodd credu i ddramodwr ifanc lunio sgript … · 2015. 8. 5. · sydyn.” Drych - Llyr Titus wyt ti erioed wedi teimlo ar goll ... 8 hydref 2015 - 1pm & 7.30pm

Yn wirioneddol wych. Anodd credu i ddramodwr ifanc lunio sgript a syniadau mor aeddfed.

Dwi isio gweld hwn eto.”

“Cwmni’r Frân Wen

MEDI 2015

Page 3: Yn wirioneddol wych. Anodd credu i ddramodwr ifanc lunio sgript … · 2015. 8. 5. · sydyn.” Drych - Llyr Titus wyt ti erioed wedi teimlo ar goll ... 8 hydref 2015 - 1pm & 7.30pm

CYnhYrChIAD gwrEIDDIol, MEntrus A swrEAl

“Ma’ pobol yn d’eud tydyn, pobol cerddad a ballu, ma’ nhw’n d’eud eu bod nhw wrth eu bodda hefo mynyddoedd a llefydd felly am mai llefydd anghysbell ydyn nhw. Unigrwydd saff ydi hwnna, unigrwydd y medri di ddod yn ôl ohono fo. Mi fasa’i hannar nhw’n ei cholli hi tasa nhw mewn stafall a’i llond hi o bobol ac yn teimlo fel ma’ nhw ar ben mynydd mwya’ sydyn.” Drych - Llyr Titus

wyt ti erioed wedi teimlo ar goll? Fel bod bywyd ar loop? Yn ailadrodd ei hun yn dragywydd? wyt ti erioed wedi gofyn wrtho ti dy hun pwy wyt ti go iawn? Dyma ddrama gymraeg rymus am ddau unigolyn sy’n sgwrsio’n ddiwyd am ryfeddodau a chymhlethdodau bywyd a hynny ar ddarn o dir anial yng nghanol nunlle. Maen nhw’n sôn am y petha maen nhw’n eu cario y tu mewn iddyn nhw ac am ddrycha’ a bloda’ a chathod.

o’r cwestiynau tywyllaf am fodolaeth dyn i eiliadau o chwerthin a hiwmor - drwy Drych cawn adlewyrchiad o daith dau sy’n ysu i ddeall mwy am eu bodolaeth drwy drafod y dwys a’r doniol, y materol a’r ysbrydol.

MAE DRYCH YN TEITHIO THEATRAU CYMRU YM MIS MEDI 2015.

Cwmni’r Frân Wen

MEDI 2015

Page 4: Yn wirioneddol wych. Anodd credu i ddramodwr ifanc lunio sgript … · 2015. 8. 5. · sydyn.” Drych - Llyr Titus wyt ti erioed wedi teimlo ar goll ... 8 hydref 2015 - 1pm & 7.30pm

CAst A ChrIw

Cwmni’r Frân Wen

Actorion: Bryn Fôn a gwenno hodgkinssgript: llyr titusDramodwr Cyswllt: Aled Jones williamsCyfarwyddwr: Ffion hafCynllunydd set a gwisgoedd: gwyn EiddiorCynllunydd goleuo: Elanor higginsCyfansoddwr: osian gwyneddFfilm: Mathew owen

MEDI 2015

Page 5: Yn wirioneddol wych. Anodd credu i ddramodwr ifanc lunio sgript … · 2015. 8. 5. · sydyn.” Drych - Llyr Titus wyt ti erioed wedi teimlo ar goll ... 8 hydref 2015 - 1pm & 7.30pm

sut MAE DrYCh Yn CEFnogI’r CwrICwlwM?

Cwmni’r Frân Wen

• Cyfle i werthuso ac adolygu cynhyrchiad theatr byw gydag o leiaf 2 actor.

• Aled Jones Williams, awdur un o ddramâu gosod Blwyddyn 13 lefel A (lysh), yw dramodydd cyswllt y ddrama.

• Cyfle i astudio arddull theatr wahanol - mae Drych yn ymylu ar theatr yr Absẃrd.

• Bydd Cwmni’r Frân wen yn cynnig gweithdai ‘sgwennu creadigol ac/neu adolygu perfformiad byw (gweler tudalen nesaf ).

• Cyfle i brynu cyhoeddiad o’r ddrama i’w ddefnyddio ymhellach ar lawr y dosbarth.

• Pecyn Creadigol ac adnoddau yn cynnwys mewnwelediad i’r broses greadigol, perthnasedd i’r cwricwlwm, cyfweliadau gyda’r tîm artistig ac arweiniad ar weithgareddau dilynol.

• Meithrin agweddau cadarnhaol at yr iaith Gymraeg, y dreftadaeth lenyddol a’r diwylliant cyfoes aml-gyfrwng.

• Datblygu diddordeb a brwdfrydedd yn y gymraeg a’u harfogi i gyfrannu at gymdeithas ddwyieithog yn yr unfed ganrif ar hugain.

• Cyfle i ddilyn datblygiad y cynhyrchiad yn ystod y misoedd nesaf ar www.franwen.com

• Cyfleoedd ar gyfer dulliau addysgu hyblyg.

MEDI 2015

Page 6: Yn wirioneddol wych. Anodd credu i ddramodwr ifanc lunio sgript … · 2015. 8. 5. · sydyn.” Drych - Llyr Titus wyt ti erioed wedi teimlo ar goll ... 8 hydref 2015 - 1pm & 7.30pm

gwEIthDAI CrEADIgol

Cwmni’r Frân Wen

Mae Frân wen wedi datblygu rhaglen hyfforddi greadigol sy’n cyd-fynd a chyfoethogi rhaglen artistig y cwmni.

Mae’r gweithdai a gynigir i gyd-fynd â’r cynhyrchiad Drych wedi eu cynllunio i gefnogi’r cwricwlwm cenedlaethol. Maent yn ogystal yn rhoi mewnwelediad i’r broses o greu ac yn ehangu dealltwriaeth o theatr fel cyfrwng.

Ysgrifennu Creadigol gyda Aled Jones Williams (2 awr) £100 (am ddim i ysgolion/colegau Môn, Gwynedd a Chonwy) Mae Aled yn cael ei ystyried fel un o awduron a dramodwyr gorau Cymru. Ymhlith ei ddramâu enwocaf mae Anweledig, Pridd, lysh a Iesu!

Adolygu Theatr gyda Paul Griffiths (2 awr) £100 (am ddim i ysgolion/colegau Môn, Gwynedd a Chonwy) Mae Paul yn wyneb a llais cyfarwydd ar s4C a BBC radio Cymru fel beirniad ac adolygydd theatr. Ym 1995, enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod genedlaethol yr urdd Bro Preseli, ac aeth ymlaen i ennill y Fedal dair blynedd yn olynol. Fel awdur, cyfrannodd at gyfresi teledu poblogaidd fel ‘Pengelli’ a ‘tipyn o stad’ ac, ers mis Mai 2006, bu’n cyfrannu colofn adolygu theatr wythnosol i’r Cymro.

Cysylltwch ag olwen ([email protected] / 01248 715048) erbyn diwedd tymor (17eg gorffennaf ) i drafod eich anghenion penodol o ran y gweithdai (cyfyngir nifer disgyblion). Cynhelir y gweithdai yn dilyn ymweliad eich ysgol/coleg â’r theatr, ac ar ddyddiad ac amser cyfleus i chi â’r arweinwyr.

*Cynigir gweithdy yn rhad ac am ddim i ysgolion/colegau Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy sy’n prynu isafswm o 20 tocyn.

MEDI 2015

*AM DDIM

i ysgolion/colegau Môn, gwynedd a

Chonwy

Page 7: Yn wirioneddol wych. Anodd credu i ddramodwr ifanc lunio sgript … · 2015. 8. 5. · sydyn.” Drych - Llyr Titus wyt ti erioed wedi teimlo ar goll ... 8 hydref 2015 - 1pm & 7.30pm

MAnYlIon Y DAIth A toCYnnAu

DYDDIAD / AMSER LLEOLIAD RHIF FFôN ARCHEbU WEFAN PRIS TOCYNNAU

TOCYNNAU AM DDIM I ATHRAWON

GOSTYNGIAD

15 Medi 2015 - 7.30pm 16 Medi 2015 - 1pm

neuadd Dwyfor, Pwllheli 01758 704088 www.gwynedd.gov.uk/neuadd-dwyfor (dim posib archebu tocynnau ar y wefan)

£8 / £6 Athrawon am ddim 15 tocyn – 10% i ffwrdd

17 Medi 2015 - 1pm & 7.30pm neuadd ogwen, Bethesda 01248 208485 tocynnau ar gael o www.neuaddogwen.com a siop ogwen

£8 / £6 Athrawon am ddim £5 i blant ysgol os criw o 10 neu fwy – cysylltu i logi lle i grwpiau [email protected]

18 Medi 2015 - 7.30pm theatr Colwyn, Bae Colwyn

01492 577888 / 872000 www.theatrcolwyn.co.uk £8.50 / £6.50 1 athro i bob 10 plentyn £6.50 i blant ysgol

21 Medi 2015 - 7.30pm Ysgol Y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog

01766 830435 £8 / £4 1 athro i bob 10 plentyn £4 i blant ysgol

22 Medi 2015 - 7.30pm galeri, Caernarfon 01286 685222 www.galericaernarfon.com £8 / £6 1 athro i bob 10 plentyn Am archeb o 50+, cysylltwch â 01286 685 211 neu [email protected] i drafod pecynnau arbennig.

23 Medi 2015 - 7.30pm neuadd Buddug, Y Bala 01758 704088 www.gwynedd.gov.uk/neuadd-buddug (dim posib archebu tocynnau ar y wefan)

£8 / £6 Athrawon am ddim £6 i blant ysgol

24 Medi 2015 1pm & 7.30pm Ysgol uwchradd Bodedern 01407 741000 £8 / £5 Athrawon am ddim £5 i blant ysgol

25 Medi 2015 - 7.30pm 26 Medi 2015 - 7.30pm

sherman, Caerdydd 029 2064 6900 www.shermancymru.co.uk £15 / £13 / £7.50 dan 25 oed

Athrawon am ddim £7.50 o dan 25 oed

28 Medi 2015 - 7.30pm theatr Mwldan, Aberteifi 01239 621200 www.mwldan.co.uk £10 / £9 Am ddim (dim llai na 1 athro i bob 10 plentyn)

£8 i blant ysgol

29 Medi 2015 - 7.30pm Y llwyfan, Caerfyrddin 01239 712934 www.mentergorllewinsirgar.cymru £8 / £6 1 athro i bob 10 plentyn £5 i blant ysgol os criw o 10 neu fwy

30 Medi 2015 - 1pm & 7.30pm Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth

01970 62 32 32 www.aberystwythartscentre.co.uk £8.50 / £7.50 nifer cyfyngedig o athrawon am ddim

£5 i griw o 8 neu fwy

1 hydref 2015 - 7.30pm theatr twm o’r nant, Dinbych gaynor Morgan rees 01745 812349

www.theatr-twm-or-nant.org.uk £8 / £6 tocynnau yr un pris a’r plant £5 os oes criw o 10 neu fwy

3 hydref 2015 - 7.30pm theatr harlech 01766 780667 www.theatrharlech.com £9 / £7 Athrawon am ddim £4 i fyny at 21 oed

6 hydref 2015 - 7.30pm Canolfan Catrin Finch, wresam 01978 293293 www.glyndwr.ac.uk/events £8 / £6 1 athro i bob 10 plentyn £5 i blant ysgol

8 hydref 2015 - 1pm & 7.30pm Canolfan gartholwg, Pontypridd 01443 219589 www.gartholwg.org £9 / £8 Athrawon am ddim gostyngiadau ar gael ar gyfer grwpiau. Cysylltu i drafod – 01443 219589

9 hydref 2015 - 7.30pm Canolfan Celfyddydau Pontardawe 01792 863722 www.nptartsandents.co.uk £10 / £8 1 athro i bob 10 plentyn £5 i blant ysgol. grwpiau i gysylltu â rachel thomas – [email protected]

Page 8: Yn wirioneddol wych. Anodd credu i ddramodwr ifanc lunio sgript … · 2015. 8. 5. · sydyn.” Drych - Llyr Titus wyt ti erioed wedi teimlo ar goll ... 8 hydref 2015 - 1pm & 7.30pm

o sgrIPt I lwYFAn

Cwmni’r Frân Wen

Pwy yw Llyr Titus?

Ym Mai 2013 lansiodd Cwmni’r Frân wen gynllun i adnabod a datblygu 5 ysgrifennwr ifanc disglair Cymraeg dan arweiniad y dramodydd Aled Jones williams. un o’r rhai a ddewiswyd oedd llyr titus - sgriptiwr ifanc o sarn, Pwllheli oedd eisoes wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr urdd Eryri 2012 .

rhoddodd o sgript i lwyfan y cyfle i’r ysgrifenwyr weithio gyda Chwmni’r Frân wen i ddatblygu gwaith newydd dan gyfarwyddyd Aled Jones williams, cyfarwyddwyr profiadol ac actorion. Pen llanw’r cynllun oedd darlleniadau o’r gwaith gan actorion proffesiynol yn galeri Caernarfon.

roedd ymateb y gynulleidfa i waith llyr yn syfrdanol - wedi’u swyno ac wedi ymgolli yn y stori, gadawodd y gynulleidfa eisiau clywed mwy gan y dramodydd naturiol dawnus yma.

Yn dilyn yr adborth i’r darlleniadau hyn, comisiynwyd llyr gan Cwmni’r Frân wen i ysgrifennu drama lwyfan sydd yn teithio theatrau Cymru ym Medi 2015.

Drama wych sydd yn aros yn y cof. hoff o’r cynildeb wrth i wallgofrwydd neidio o un cymeriad i’r llall.”“

MEDI 2015

Page 9: Yn wirioneddol wych. Anodd credu i ddramodwr ifanc lunio sgript … · 2015. 8. 5. · sydyn.” Drych - Llyr Titus wyt ti erioed wedi teimlo ar goll ... 8 hydref 2015 - 1pm & 7.30pm

AMDAnoM nI

Cwmni’r Frân Wen

MEDI 2015

nYthCreu’r amgylchedd gorau posib er mwyn sicrhau ffyniant ein creadigrwydd.

CrEADIgrwYDD MEwn ADDYsgEhangu dysg ein rhandeiliaid trwy greadigrwydd.

YMChwIl A DAtBlYguBuddsoddi mewn ymchwil a datblygu a gweithredu fel ffwrnais greadigol i arbrofi, cymryd risg a bod yn flaengar.

CYFrAnogICreu cyfleoedd cyfranogi cynhyrfus, uchelgeisiol a chynhwysol sy’n meithrin talentau newydd yn y diwydiannau creadigol.

CYnYrChIADAuCreu a chyflwyno theatr o’r safon uchaf sy’n cyffroi, herio ac ysbrydoli ein cynulleidfaoedd.

Ein Gweledigaeth

Creu celfyddyd sy’n ysbrydoli’r dychymyg, y meddwl a’r galon ac sy’n dathlu rhyfeddod y byd.

I archebu neu am ragor o wybodaeth: Cyffredinol: olwen williams / [email protected] / 01248 715048Marchnata: Carl russell owen / [email protected] / 01248 715048

Page 10: Yn wirioneddol wych. Anodd credu i ddramodwr ifanc lunio sgript … · 2015. 8. 5. · sydyn.” Drych - Llyr Titus wyt ti erioed wedi teimlo ar goll ... 8 hydref 2015 - 1pm & 7.30pm

Yr hen Ysgol gynradd, Porthaethwy, Ynys Môn, ll59 5hsFfôn: (01248) 715048 | Ffacs: (01248) 715225

www.franwen.com | [email protected]

Cwmni’r Frân wen