Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Dogfen Ymgynghori Ffurfiol
Ysgol Gatholig 3-16 newydd arfaethedig yn Y Rhyl
_________________________________________________________________
Fersiwn Pobl Ifanc _________________________________________________________________
Pwy ydym ni?
Cyngor Sir Ddinbych sy’n gyfrifol am ysgolion
yn Sir Ddinbych. Mae'r tîm moderneiddio
addysg yn gweithio i’r Cyngor i gefnogi a
gwella addysg mewn ysgolion.
Ein nod yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn
cael y cyfle gorau i ddysgu yn yr adeiladau
ysgol gorau. Er mwyn gwneud hyn rydym am
roi'r cyfle i bawb gael lleisio eu barn ar
benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw yn
uniongyrchol.
Beth sy’n digwydd?
Rydym yn gweithio gyda Llywodraethwyr yr
ysgol sy'n rhedeg yr ysgol, ac Esgobaeth
Wrecsam sy'n helpu i redeg ysgolion yr
Eglwys Gatholig, i greu cynllun i newid dy
ysgol. Hoffem wybod beth yw dy farn am
ein cynllun.
Beth yw'r cynllun?
Hoffem i Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair
(Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y
Bendigaid Edward Jones fod yn un ysgol. Hoffem
adeiladu ysgol newydd ar dy gyfer di, ar yr un
safle yn yr un ardal y mae dy ysgol ar hyn o bryd.
Beth fydd yn newid?
Pe bai Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair (Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid
Edward Jones yn dod yn un ysgol, byddai ysgol newydd yn cael ei hadeiladu. Byddai'r ysgol
newydd yn cael enw newydd, ac o bosibl gwisg ysgol wahanol. Un pennaeth fyddai’n gyfrifol am
yr ysgol newydd. Mae dod â'r ysgolion at ei gilydd fel ysgol 3-16 oed yn golygu y gallai pawb
ddysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu’r holl bethau da sydd eisoes ar waith yn y ddwy ysgol.
Byddai'r ysgol newydd yn dal tua 920 o ddisgyblion. Byddai hyn yn cynnwys 420 o leoedd ar gyfer
disgyblion oedran cynradd (3-11 oed) a 500 o leoedd ar gyfer disgyblion oedran uwchradd (11-16
oed).
Bydd ysgol 3-16 yn annog mwy o blant i barhau ag addysg Gatholig ac yn ei gwneud yn haws i
symud i addysg uwchradd. I rai disgyblion, gall symud i ysgolion uwchradd fod yn anodd a gall
effeithio ar eu haddysg a'u lles. Bydd aros yn yr un ysgol tan yn 16 oed yn helpu gyda'r broses hon. Er
y bydd disgyblion cynradd ac uwchradd yn cael eu dysgu yn yr un adeilad, bydd ardaloedd dysgu
Pam rydyn ni'n gofyn i ti?
Rydym am roi'r cyfle i bawb gael lleisio eu barn ar
benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw yn
uniongyrchol.
Rydym yn gofyn i dy rieni, athrawon a'r rhieni ac
athrawon mewn ysgolion eraill yn yr ardal ac,
mewn gwirionedd, llawer o bobl eraill sydd â
diddordeb yn ein hysgolion. Rydym am roi’r cyfle i
ti ddweud wrthym beth yw dy farn di, a byddwn
yn gwrando ar dy safbwyntiau.
Fel rhan o'r broses hon, byddwn yn dod i dy ysgol
ac yn cwrdd â chyngor yr ysgol. Hoffem hefyd i ti
ateb a dychwelyd yr holiadur yn y ddogfen hon.
Pam ein bod o’r farn bod angen
i bethau newid? Ein nod yw rhoi'r cyfle gorau i blant a phobl ifanc
ddysgu a datblygu. Mae gennym y cyfle i greu
ysgol newydd gydag ystafelloedd dosbarth,
cyfleusterau chwaraeon ac adnoddau dysgu
llawer gwell.
Gallwn ddarparu cyfleusterau TGCh, Celf a
Thechnoleg Dylunio cyfoes. Rydym yn credu y
bydd ysgol newydd yn lle llawer gwell i ddysgu a
datblygu sgiliau newydd.
Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn gofyn i ti am
ddyluniad a chynllun yr adeilad.
Pa mor hir fydd pethau’n cymryd?
Cael Barn Pobl 15 Chwefror - 30
Mawrth 2017
Dweud wrth bawb beth yr ydym
wedi penderfynu ei wneud
Mehefin - Gorffennaf
2017
Creu dyluniad o’r ysgol newydd Gorffennaf 2017 –
Chwefror 2018
Adeiladu’r ysgol newydd Mawrth 2018 – Awst
2019
Agor yr ysgol newydd Medi 2019
Am gael gwybod mwy?
Crynodeb o'r Ddogfen Ymgynghori Ffurfiol lawn yw hon.
Mae’r fersiwn lawn yn ogystal â llwyth o ffeithiau a ffigurau
ar gael ar ein gwefan:
www.sirddinbych.gov.uk/ymgynghoriadau
Beth yw dy farn?
Galli roi gwybod i ni beth yw dy farn drwy:
Lenwi'r holiadur ar-lein yn: https://www.surveymonkey.co.uk/r/Q76NBYD
Llenwi'r holiadur ar ddiwedd y ddogfen hon a'i phostio at:
Tîm Rhaglen Moderneiddio Addysg
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ
Os byddai'n well gen ti ddefnyddio e-bost, galli hefyd anfon dy sylwadau at:
Cofiwch ddweud wrthym:-
Pa ysgol wyt ti'n mynd iddi ar hyn o bryd?
Sut wyt ti’n teimlo am St Mary’s/ Ysgol Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Bendigaid Edward Jones yn dod yn un ysgol?
Sut wyt ti'n teimlo am gael ysgol newydd?
Sut wyt ti'n teimlo am rannu ysgol â disgyblion o oedran cynradd?
Oes unrhyw beth arall yr hoffet ti ei weld yn digwydd yn hytrach na’n cynlluniau ni?
Anfona dy sylwadau atom erbyn 30 Mawrth, 2017. Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu derbyn unrhyw beth y byddi’n ei anfon atom
ar ôl y dyddiad hwn.