Upload
keisha
View
79
Download
0
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Yr Argyfwng Ynni. Mae ein cyflenwadau ynni’n dod i ben. Rhaid i ni feddwl sut i wneud ynni yn y dyfodol. Mae pob un ohonom yn defnyddio ynni drwy’r dydd, bob dydd!. Daw’r rhan fwyaf o’n ynni drwy losgi tanwydd ffosiledig, megis glo, nwy ac olew. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Yr Argyfwng YnniMae ein cyflenwadau ynni’n dod i ben.
Rhaid i ni feddwl sut i wneud ynni yn y dyfodol.
Mae pob un ohonom yn defnyddio ynni drwy’r
dydd, bob dydd!
Daw’r rhan fwyaf o’n ynni drwy losgi tanwydd
ffosiledig, megis glo, nwy ac olew.
Mae tanwydd ffosiledig yn dod i ben ac yn llygru ein byd.Byddwn angen bron i 60% yn fwy o ynni mewn 30 mlynedd.
Mae arbenigwyr olew yn amcangyfrif y byddwn yn defnyddio ein olew i gyd o fewn y 40 mlynedd nesaf!
Dychmygwch mai chi sy’n rhedeg y wlad. Pa fathau o
ynni fyddech chi’n ei ddefnyddio?
Gwynt, môr, niwclear, haul, glo? Edrychwch ar y gwahanol fathau o
ynni, wedyn trafodwch eich dewisiadau.
Glo, nwy ac olew.
Manteision Anfanteision•Yn gymharol rhad i’w gynhyrchu ond mae prisiau yn codi.
• Mae’r adnoddau yn dod i ben. • Cred y mwyafrif o wyddonwyr eu bod yn cynhesu ein planed. • Maent yn llygru’r awyr yr ydym yn ei anadlu ac yn cynhyrchu glaw asid sydd yn niweidio adeiladau a chnydau.
Mae arbenigwyr olew yn amcangyfrif y byddwn yn
defnyddio ein olew i gyd o fewn y 40 mlynedd nesaf!
Dywed eraill y byddwn yn dod o hyd i fwy.
Ynni gwynt
Gall ynni gwynt ar y tir ddarparu incwm gwerthfawr i gefn gwlad Cymru, yn arbennig i gymunedau ffermio mewn ardaloedd o dir uchel.
Manteision
Anfanteision
•Cynaliadwy. •Ddim yn llygru. •Technoleg wedi ei hen brofi.
• Nid yw’n cynhyrchu pŵer pan nad yw’r gwynt yn chwythu.• Mae trigolion lleol yn aml yn gwrthwynebu’r datblygiadau gan ei fod yn newid y tirwedd lleol.
Ynni môrMae gan y môr o amgylch arfordir Cymru botensial i gynhyrchu digonedd o drydan drwy harnesu pŵer y llanw, cerrynt a thonnau. Mae gan Gymru gerhyntau cryfion yn y môr a rhai o’r amrediadau llanw uchaf yn y byd.
Manteision
Anfanteision
•Cynaliadwy. •Ddim yn llygru.
•Technoleg newydd. Mae trigolion lleol yn aml yn gwrthwynebu’r datblygiadau gan ei fod yn newid y tirwedd lleol.
Mae cynlluniau yn cael eu trafod ar gyfer Bae Abertawe, Moryd Hafren a Bae Lerpwl.
Ynni niwclear
Manteision Anfanteision•Cymharol rhad i’w gynhyrchu.
•Nid yw’n cyfrannu at yr effaith tŷ gwydr.
Mae’n cynhyrchu symiau enfawr o egni allan o symiau bychan o danwydd.
•Mae pŵer niwclear yn cynhyrchu gwastraff ymbelydrol gwenwynig a fydd yn aros am ddegau a miloedd o flynyddoedd.
•Gall pwerdai niwclear a’r trenau, loriau a llongau sy’n cludo gwastraff niwclear fod yn darged rhwydd a thrychinebus i derfysgwyr.
Mae 16 pwerdy niwclear ym Mhrydain ar hyn o bryd – bydd bob un yn cau erbyn 2023.
Y syniad yw y bydd ffynonellau ynni adnewyddol eraill yn cymryd lle pŵer niwclear ac yn esmwythau dibyniaeth Prydain ar danwydd ffosiledig. Er hynny, mae’r llywodraeth ar hyn o bryd yn cael eu cynghori i adeiladu mwy o bwerdai niwclear os ydynt i gwrdd â thargedau rhyddhad nwyon tŷ gwydr.
Dengys y llun hwn bwerdy niwclear Trawsfynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Cafodd ei gau yn 1993. Cedwir yr adweithyddion niwclear o fewn yr adeilad o hyd.
Gwahanol fath o NiwclearMae pŵer niwclear heddiw yn cael ei greu drwy hollti atomau (ymholltiad niwclear). Mae gwyddonwyr yn datblygu math newydd o bŵer niwclear sydd yn ddiogel iawn ac yn cyfuno atomau (ymasiad niwclear).
Bydd angen 30 mlynedd arall i ddatblygu ymasiad
niwclear.
Ymasiad sy’n rhoi egni i’r HaulMae digon o danwydd ymasiad ar gael ac nid yw’n cynhyrchu gollyngiad tŷ gwydr pan yw’n cael ei “losgi”.
Mae yn ddiogel oherwydd ei fod yn diffodd os yw’n camweithio; ac er bod deunyddiau ymbelydrol yn cael eu cynhyrchu, nid ydynt o lefel uchel nac yn para am flynyddoedd maith.
Ynni Solar
Manteision Anfanteision
•Technoleg sydd wedi ei hen brofi. •Addas iawn i ddarparu ynni mewn cartrefi neu adeiladau sengl.
•Maent yn ddrud i’w prynu.•Defnyddir llawer o ynni i’w creu.
Mae teils to solar yn defnyddio golau’r haul i greu trydan neu ddŵr poeth.
Gall tai sydd â llawer o deils gynhyrchu mwy o drydan nag y maent yn ei ddefnyddio – gellid gwerthu hyn yn ôl i gwmniau trydan lleol.
Tiwbiau HaulMae tiwbiau haul yn adlewyrchu golau ddydd naturiol lawr drwy diwb i mewn i gartref neu swyddfa. Maent yn ffordd dda o arbed ynni yn ystod y dydd.
Golau naturiol‘Tŷ Gwyrdd’ Sain Ffagan
Mae wyneb ddeheuol y tŷ yn wydrog er mwyn manteisio’n llawn ar ynni solar.