Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol
Adroddiad gan Regeneris Consulting ac Uned Ymchwil i Economi Cymru, Ysgol Fusnes
Caerdydd
RenewableUK Cymru
Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y
Dyfodol
Ionawr 2013
Regeneris Consulting Ltd
Faulkner House
Faulkner Street
Manchester
M1 4DY
0161 234 9910
www.regeneris.co.uk
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Cynnwys
Crynodeb Gweithredol 1
1. Cyflwyniad 10
2. Trosolwg o'r Dull Asesu 12
3. Y Sector Ynni Gwynt ar y Tir yng Nghymru 20
4. Cyfleoedd Economaidd i Gymru 35
5. Buddiannau Economaidd Lleol 50
6. Casgliadau ac Argymhellion 66
Atodiad A Methodoleg Effaith Economaidd A-1
Atodiad B Holiadur yr Arolwg B-1
Atodiad C Ymgynghoreion C-1
Atodiad D Astudiaethau Achos D-1
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Ynglŷn â'r Awduron
Cwmni ymgynghori economaidd annibynnol sy'n arbenigo mewn datblygu economaidd yw
Regeneris Consulting. Rydym yn gwmni blaenllaw ym maes asesu effeithiau economaidd-gymdeithasol sydd wedi cynnal llawer o astudiaethau mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys ynni, tai, band eang, twristiaeth a hamdden, tir ac eiddo, fferylliaeth, y diwydiant moduro ac awyrofod, ac eraill. Rydym yn arbenigo mewn defnyddio technegau dadansoddi er mwyn nodi effeithiau economaidd-gymdeithasol amrywiol sectorau, cwmnïau, prosiectau buddsoddi ac ergydion economaidd.
Lleolir Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU) o fewn Ysgol Fusnes Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae ganddi gryn brofiad o ddarparu gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori i sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Un o themâu pwysig ymchwil ddiweddar WERU fu asesiadau economaidd ac adroddiadau ar sectorau diwydiant (cyfryngau, treftadaeth a diwylliant, twristiaeth, dur a glo, a mathau eraill o ynni). Mae WERU wedi llunio tablau Mewnbwn-Allbwn ar gyfer Cymru. Mae'r tablau hyn yn rhoi'r darlun mwyaf cynhwysfawr a chadarn sydd ar gael o economi Cymru, gan nodi llif nwyddau a gwasanaethau rhwng diwydiannau, defnyddwyr a llywodraeth a thynnu sylw at y rhyng-gydberthnasau agos rhwng diwydiannau o fewn economi gyfoes Cymru.
Ynglŷn â’r Adroddiad
Mae’r adroddiad yma yn cael ei ariannu gyda chyfraniadau oddi wrth:
Amegni
Llywodraeth Cymru
Pennant Walters
RenewableUK Cymru
RES
RWE npower renewables
ScottishPower Renewables
SSE Renewables
Tegni Cymru Cyf
Vattenfall
West Coast Energy
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
1
Crynodeb Gweithredol
Diben a Chwmpas yr Adroddiad
i. Cafodd Regeneris Consulting ei benodi gan Renewable UK Cymru, Llywodraeth Cymru a grŵp
o ddatblygwyr ffermydd gwynt i gynnal asesiad o gyfleoedd economaidd datblygiadau gwynt
ar y tir i Gymru. Mae'r astudiaeth wedi cael ei chynnal ar y cyd ag Uned Ymchwil i Economi
Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd, gyda chyngor gan PMSS Ltd., cwmni ymgynghori ar ynni
adnewyddadwy.
ii. Mae'r asesiad yn cwmpasu cyfanswm y buddsoddiad gan gwmnïau Cymreig a chwmnïau
eraill o'r ffynonellau canlynol:
Gwariant uniongyrchol yng Nghymru drwy weithgynhyrchu cydrannau tyrbinau
gwynt; gwaith cynllunio a datblygu; adeiladu'r safle a'r fferm wynt; gweithrediadau a
chynnal a chadw; a datgomisiynu/ailbweru
Gwariant anuniongyrchol drwy gydrannau cadwyn gyflenwi a ddaw o Gymru a
buddsoddi mewn seilwaith grid
Buddsoddiad wedi'i ysgogi a wneir gan gyflogeion a gefnogir drwy effeithiau
uniongyrchol ac anuniongyrchol
Taliadau buddiannau cymunedol.
iii. Mae'r ffocws gofodol ar Gymru yn ei chyfanrwydd, gydag arwydd o leoliad daearyddol posibl
effeithiau ar bob cam o gylch oes y fferm wynt.
iv. Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar gyfleoedd economaidd craidd a fyddai'n cael eu creu yn
sgil datblygu'r sector yn y dyfodol. Nid yw'n asesu'r effeithiau amgylcheddol neu
gymdeithasol ehangach.
v. Cynhaliwyd yr astudiaeth gan ddefnyddio'r canlynol:
Adolygiad o'r llenyddiaeth
Dadansoddiad o Gronfa Ddata ffermydd gwynt Renewable UK
Arolwg o ddatblygwyr a gweithredwyr ffermydd gwynt yng Nghymru
Ymgynghoriadau â'r diwydiant, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a
rhanddeiliaid eraill
Gwaith modelu Mewnbwn-Allbwn
Astudiaethau achos.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
2
Trosolwg o'r Sector Ynni Gwynt ar y Tir yng Nghymru
Cyd-destun Polisi
vi. Mae polisi Cymru o ran y sector ynni gwynt ar y tir wedi esblygu dros y blynyddoedd
diwethaf. Rhydd canllawiau cynllunio TAN 8, a gyhoeddwyd yn 2005, ganllawiau ar leoliad
ffermydd gwynt mewn Ardaloedd Chwilio Strategol. Disgwylir mai'r lleoliadau hyn a fydd yn
gartref i'r rhan fwyaf o ffermydd gwynt yn y blynyddoedd i ddod.
vii. Mae'r canllawiau cynllunio diweddaraf yn cyfeirio at y nod i gyflawni cyfanswm o 2,000 MW
o ffermydd gwynt ar y tir erbyn 2025, gyda chryn dipyn o'r gwaith yn cael ei gyflawni erbyn
2020. Dylid nodi mai Arolygiaeth Gynllunio'r DU sy'n penderfynu ar brosiectau uwchlaw 50
MW.
viii. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod buddiannau economaidd-gymdeithasol posibl
datblygu'r sector, a'i phrif nodau yw cyflawni'r buddiannau economaidd hirdymor hyn i'r
graddau mwyaf posibl a sicrhau bod cymunedau lleol yn cael budd o ddatblygiadau seilwaith
ynni.
Datblygu'r Sector: Profiad Blaenorol a Rhagolygon
ix. Ystyriwyd bod TAN 8 wedi ysgogi'r gwaith o ddatblygu'r sector, er mai rhywbeth byrdymor fu
hyn. Dim ond tua chwarter o darged TAN 8 ar gyfer 2010 a gyflawnwyd.
x. Yn ôl cronfa ddata RenewableUK o ffermydd gwynt, mae digon o adnoddau ar y gweill i
gyflawni'r nod o 2,000 MW erbyn 2025: yn ogystal â'r 420 MW sydd eisoes ar waith, mae tua
1,800 MW wedi cael caniatâd neu yn y system gynllunio. Fodd bynnag, mae'n amlwg na
chaiff yr holl brosiectau hyn eu cymeradwyo ac mae rhai, yn wir, yn annibynnol ar ei gilydd.
xi. Rydym wedi ystyried tair sefyllfa ddatblygu ar gyfer y dyfodol (gweler Atodiad A am ragor o
fanylion)
2,000 MW: er mwyn cyflawni'r nod hwn erbyn 2025 byddai angen tua 120 MW arall
bob blwyddyn hyd hynny.
Tueddiadau Hanesyddol: parhau â thueddiadau 2001-11, gan awgrymu y bydd
angen 27 MW arall bob blwyddyn, a chyfanswm o 800 MW erbyn 2025
Tueddiadau Diweddar: parhau â thueddiadau cydsynio mwy diweddar, gan
awgrymu y bydd angen 86 MW arall bob blwyddyn, a chyfanswm o 1,560 MW erbyn
2025.
xii. Modelwn effaith economaidd y sefyllfaoedd hyn yn Adran 4.
Barn y Diwydiant
xiii. Ar y cyfan, mae datblygwyr yn gadarnhaol ynghylch presenoldeb cyflenwyr Cymreig ym
meysydd peirianneg sifil, gwasanaethau amgylcheddol ac ymgynghoriaeth amgylcheddol, ac
mae'r rhan fwyaf yn ymwybodol o'r gwaith gweithgynhyrchu tyrau a geir yng Nghymru (h.y.
Mabey Bridge).
xiv. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn gallu gweld rhywfaint o botensial o leiaf i gynyddu eu
defnydd o gwmnïau ar y camau datblygu ac adeiladu dros y tair blynedd nesaf, gyda thraean
yn nodi cryn botensial. Roedd cyfran lai - ond mwyafrif sylweddol serch hynny - o'r farn y
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
3
gellid cynyddu'r defnydd o gwmnïau ym maes gweithrediadau a chynnal a chadw. Roedd
bron hanner yn gweld llawer o botensial.
xv. Nododd datblygwyr amrywiaeth o rwystrau polisi ac economaidd i dyfu'r gadwyn gyflenwi
yng Nghymru, gan gynnwys risgiau ac ansicrwydd sylweddol ynghylch cael caniatâd cynllunio
a chanfyddiad bod diffyg perchenogaeth o ddyheadau cenedlaethol ar lefel leol. Roedd
cyfyngiadau o ran seilwaith (ar y ffyrdd a'r grid) hefyd yn rhwystrau cyffredin.
xvi. Ar y cyfan, mae 40% o'r datblygwyr a arolygwyd o'r farn bod Cymru yn lle eithaf ffafriol neu
ffafriol iawn i fuddsoddi ynddo. Dim ond lleiafrif bach o ymatebwyr sy'n ystyried bod Cymru
yn lle ffafriol iawn (7%). Nododd tua thraean o’r datblygwyr fod Cymru yn lle eithaf anffafriol
neu anffafriol iawn.
xvii. Gan edrych o dan y datganiadau hyn, nid oedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr o'r farn bod y
sylfaen sgiliau yn gyfyngiad ac roedd y rhan fwyaf yn gadarnhaol neu'n niwtral ynghylch
polisi cynllunio Cymru (h.y. TAN 8). Roedd cytundeb clir bod polisïau ac arferion cynllunio
lleol ynghyd â seilwaith grid a ffyrdd yn ffactorau negyddol wrth ystyried Cymru fel lleoliad i
fuddsoddi ynddo o ran prosiectau gwynt ar y tir.
Effeithiau Economaidd i Gymru
Datblygu ac Adeiladu
xviii. Amcangyfrifwn mai £1.13m yw cyfanswm y costau adeiladu cyfartalog fesul MW o gapasiti
wedi'i osod, a chyfanswm y costau datblygu yw £0.12m, ar sail prisiau 2012.
xix. Mae ein hamcangyfrifon yn awgrymu bod disgwyl i 35% o'r holl wariant ar y cam adeiladu
aros yng Nghymru ar gyfartaledd, ynghyd â 71% o'r gwariant cynllunio a datblygu. Ar
gyfartaledd, mae datblygwyr yn disgwyl i ryw dri chwarter y gofyniad am dyrau tyrbinau
ddod o Gymru, gyda Mabey Bridge a chyflenwyr eraill o bosibl yn cyflenwi'r tyrau dur. Er bod
Mabey Bridge mewn sefyllfa i fodloni'r gofyniad hwn, er mwyn sicrhau darbodusrwydd ac
adlewyrchu'r risgiau negyddol o ran y disgwyliad hwn, rydym wedi lleihau'r dybiaeth brynu
hon i 50% at ddibenion modelu. Mae gan Gymru nifer fawr o ddarpar gyflenwyr ym maes
peirianneg sifil hefyd, ynghyd â choedwigaeth a gwasanaethau amgylcheddol.
xx. Gan nad oes gweithgynhyrchydd tyrbinau yng Nghymru, mae'r holl wariant ar dyrbinau
gwynt yn digwydd y tu allan i Gymru. Ni ddisgwyliwn allu denu gweithgynhyrchydd tyrbinau i
Gymru, o ystyried yr adnoddau presennol a geir yn Ewrop a'r arbedion maint a fyddai'n
ofynnol er mwyn llywio'r fath fuddsoddiad.
xxi. Amcangyfrifwn, yn 2005-11, i'r gwaith o gynllunio ac adeiladu prosiectau gwynt ar y tir yng
Nghymru gyfrannu £7.8m mewn GYC a 335 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (CALl) bob
blwyddyn ar gyfartaledd. Mae'r effeithiau economaidd o dan ein sefyllfaoedd ar gyfer y
dyfodol fel a ganlyn:
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
4
Effeithiau Economaidd y Camau Cynllunio, Datblygu ac Adeiladu i Gymru (cyfartaledd y flwyddyn)
Sefyllfa 2,000 MW Senario Tueddiadau
Hanesyddol
Senario Tueddiadau
Diweddar
2012-24 2025-50 2012-24 2025-50 2012-24 2025-50
GYC (£m) 38 20 12 6 23 11
Cyflogaeth (CALl) 1,610 820 500 240 810 410
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o
ffermydd gwynt.
Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012. Mae'r amcangyfrifon yn cynnwys effeithiau
datgomisiynu/ailbweru.
Gweithrediadau a chynnal a chadw
xxii. Disgwylir i 76% o'r holl wariant yn y cylch cyntaf aros yng Nghymru, gyda'r gwariant hwn
yn cyfateb i £38,600 fesul MW y flwyddyn.
xxiii. Ymhlith yr eitemau mwyaf o wariant mae rhenti tir a thaliadau mynediad, a delir i'r
Comisiwn Coedwigaeth/Llywodraeth Cymru a thirfeddianwyr lleol. Cyfanswm y costau
cyflogaeth uniongyrchol yr eir iddynt gan ddatblygwyr yw £9,800 fesul MW gyda'r rhan
fwyaf yn aros yn economi Cymru. Mae taliadau Buddiannau Cymunedol yn rhan bwysig o
wariant gweithredol i gymunedau lleol a leolir gerllaw ffermydd gwynt a chaiff yr arian ei
wario yn yr ardal leol ar y cyfan.
xxiv. Amcangyfrifwn, rhwng 2005 a 2011, i weithgarwch gweithrediadau a chynnal a chadw
gefnogi £6m o GYC a 210 o swyddi CALl bob blwyddyn ar gyfartaledd. Mae'r effeithiau
economaidd o dan ein sefyllfaoedd ar gyfer y dyfodol fel a ganlyn:
Effeithiau Economaidd y Cam Gweithrediadau a Chynnal a Chadw i Gymru (cyfartaledd y flwyddyn)
Senario 2,000 MW Senario Tueddiadau Hanesyddol
Senario Tueddiadau Diweddar
2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050
GYC (£m) 22 37 11 15 14 23
Cyflogaeth (CALl) 720 1,260 370 500 470 770
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o
ffermydd gwynt. Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012.
Effeithiau Economaidd a Ragwelir
xxv. Dros y cyfnod asesu llawn, sef 2012-2050, gallai Cymru sicrhau cyfanswm o £2.3bn mewn
GYC, ar yr amod bod 2,000 MW o gapasiti wedi'i osod yn cael ei gyflawni erbyn 2025.
Byddai hyn yn cyfateb i:
£1.4bn yn fwy mewn GYC na phetai tueddiadau hanesyddol yn parhau
£0.9bn yn fwy mewn GYC na phetai cyfraddau cydsynio mwy diweddar yn parhau.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
5
Effeithiau Economaidd y Camau Datblygu, Adeiladu a Gweithrediadau a Chynnal a Chadw i Gymru (cyfartaledd y flwyddyn)
Senario 2,000 MW Senario Tueddiadau Hanesyddol
Senario Tueddiadau Diweddar
2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050
GYC (£m) 60 57 23 21 36 34
Cyflogaeth (CALl) 2,330 2,080 870 740 1,280 1,180
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o ffermydd gwynt. Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012. Mae'r amcangyfrifon yn cynnwys effeithiau datgomisiynu/ailbweru.
xxvi. Byddai'r rhan fwyaf o'r effaith hon yn y senario 2,000 MW i'w gweld mewn gweithgareddau
adeiladu, gyda gweithgynhyrchu (yn arbennig dur) hefyd ar ei ennill. Amcangyfrifir y bydd
nifer y swyddi mewn gwasanaethau preifat yn cynyddu bron 300 o swyddi CALl y flwyddyn
hyd at 2025 a bron 400 ar ôl hynny, tra y bydd gwasanaethau proffesiynol ac ariannol (sy'n
canolbwyntio ar weithgareddau cynllunio a pheirianneg yma) yn cynyddu tua 300 o swyddi
bob blwyddyn hyd at 2050.
xxvii. Byddai'r buddsoddiad mewn Seilwaith Grid a fyddai'n ofynnol er mwyn cefnogi'r gwaith o
leoli tyrbinau gwynt yn y Canolbarth hefyd o fudd economaidd. Yn dibynnu ar y datrysiad
terfynol (uwchben neu dan ddaear), amcangyfrifwn y byddai'r buddsoddiad hwn yn cefnogi
rhwng £11m a £57m mewn GYC a 360-1,950 o flynyddoedd gwaith pobl yng Nghymru.
Cwmpas i Sicrhau'r Buddiannau Mwyaf i Gymru
xxviii. Yn seiliedig ar asesiad o adnoddau presennol ar yr ochr gyflenwi a buddiannau economaidd
ymylol newidiadau mewn systemau prynu, gallai camau i gadw mwy o wariant yng Nghymru
ar gyfer amrywiaeth o sectorau arwain at £7.3m ychwanegol o GYC a 250 ychwanegol o
swyddi CALl y flwyddyn yn y senario 2,000 MW rhwng 2012 a 2024 - gweler y tabl isod. I'r
gwrthwyneb, mae'r tabl hefyd yn dangos effaith sefyllfa lle byddai llai o brynu o Gymru na'r
disgwyl.
xxix. Mae'n bosibl mai ym meysydd rheoli gwaith adeiladu, gwaith sifil, gwaith trydanol a
chysylltiadau grid y gellid sicrhau'r 'enillion' mwyaf o brynu mwy o Gymru. Byddai cynnydd o
10 pwynt canran mewn lefelau prynu yng Nghymru yn y sector cyfunol hwn yn creu
amcangyfrif o £3.7m yn ychwanegol o GYC a 140 o swyddi CALl y flwyddyn yn y cyfnod 2012-
24 yn y senario 2,000 MW.
xxx. Byddai cynnydd tebyg mewn lefelau prynu yng Nghymru ym maes cynllunio, gwasanaethau
proffesiynol a rheoli prosiectau yn creu £1.6m mewn GYC a 50 o swyddi CALl y flwyddyn.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
6
Effeithiau Economaidd Prynu Mwy o Gymru
% a gaiff ei phrynu o
Gymru ar hyn o bryd
Cynnydd o 10 pwynt canran mewn Lefelau Prynu Lleol
Fesul MW Effaith Flynyddol Ychwanegol yn y
Senario 2,000 MW; 2012-24
GYC Swyddi CALl
GYC Swyddi CALl
Cynllunio, Gwasanaethau Proffesiynol a Rheoli Prosiectau
71% £10,100 0.3 1.6 50
Adeiladu, Gwaith ar y Tir a Pheirianneg Drydanol
61% £23,300 0.9 3.7 140
Gweithgynhyrchu 50% £7,000 0.2 1.1 30
Trafnidiaeth, coedwigaeth ac Arall 67% £5,700 0.2 0.9 30
Cynnydd 10 pwynt canran mewn lefelau prynu lleol ar draws pob mewnbwn
£46,100 1.5 7.3 250
Ffynhonnell: Dadansoddiad WERU
Buddiannau Economaidd Lleol
xxxi. Ni fyddai'r cyfleoedd economaidd a amlinellir yn Adran 4 yn cael eu rhannu'n gyfartal ledled
Cymru a byddai rhai o'r buddiannau i'w gweld y tu hwnt i ardal gyfagos y ffermydd gwynt.
Serch hynny, mae cyfleoedd i ardaloedd lleol lle ceir ffermydd gwynt fanteisio ar y
datblygiadau, gan gynnwys:
contractau a enillir gan gwmnïau lleol ar y camau cynllunio, datblygu, adeiladu a
gweithrediadau
cyflogaeth i drigolion lleol drwy'r camau hyn, naill ai'n uniongyrchol neu drwy
gadwyni cyflenwi
gwariant lleol yn y sector manwerthu a'r sector lletygarwch wrth i'r gweithwyr sy'n
ymwneud â'r camau hyn wario eu hincwm yn yr economi leol
y buddiannau economaidd ehangach i gymunedau lleol, gan gynnwys buddsoddi
mewn seilwaith ffisegol, economaidd a chymunedol lleol a budd ariannol i grwpiau
penodol fel tirfeddianwyr.
xxxii. Gan ddefnyddio astudiaethau achos, mae'r adran hon yn edrych ar y buddiannau hyn a'r hyn
sy'n sail iddynt.
Datblygu ac Adeiladu
xxxiii. Mae gan economïau lleol sydd â nifer dda o gwmnïau adeiladu a gweithgynhyrchu well
siawns o gyfrannu at y gadwyn gyflenwi a chadw gwariant personol gweithwyr adeiladu nad
ydynt yn lleol. Mae ffermydd gwynt sy'n agos at ganolfannau trefol yn debygol o weld mwy o
fudd uniongyrchol a chadwyn gyflenwi. Er enghraifft:
Yng Nghefn Croes, roedd mewnbynnau lleol yn gyfyngedig oherwydd natur wledig yr
ardal a'r ffaith nad oedd contractwyr addas ar gyfer y mathau o fewnbynnau
adeiladu a oedd yn ofynnol.
I'r gwrthwyneb, roedd tua 13% o werth adeiladu cyffredinol fferm wynt Ffynnon
Oer, a leolir yng Nghastell-nedd Port Talbot, o fewn ardal o 30 milltir, gan gynnwys
agregau a gwaith sifil cysylltiedig.
xxxiv. Fodd bynnag, bydd ardaloedd gwledig yn aml mewn sefyllfa dda iawn i gyflenwi rhai mathau
o nwyddau a gwasanaethau, oherwydd bod yr economïau sy'n gysylltiedig â phrynu'r
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
7
mewnbynnau hyn o fudd i gyflenwyr lleol a bod sail gyflenwi dda ar gael yn lleol. Mae'r
enghreifftiau yn cynnwys agregau, gwaith sifil anarbenigol, gwasanaethau coedwigaeth a
thirlunio.
xxxv. Mae contractau adeiladu mwy o faint a gweithgareddau mwy arbenigol yn aml yn gofyn i'r
sawl sy'n cyflwyno tendr gyrraedd safonau penodol a chaiff cwmnïau mwy o faint, sydd â'r
profiad, y gweithdrefnau rheoli a'r arbedion maint angenrheidiol, eu ffafrio. Felly, caiff llawer
o'r prif gontractau ac is-gontractau haen gyntaf mawr eu rhoi i gwmnïau y tu allan i Gymru.
Mae'r rhan fwyaf o'r gwerth a sicrheir gan gwmnïau o Gymru yn dueddol o fod yn haenau is
y gadwyn gyflenwi (ail haen ac is).
xxxvi. Mae'r cam adeiladu o fudd i economïau lleol gwledig sy'n seiliedig ar wasanaethau gan eu
bod yn darparu gwasanaethau i'r contractwyr a gaiff eu lleoli yno dros dro, megis
lletygarwch a manwerthu. Er enghraifft, yng Nghefn Croes, roedd llawer o weithwyr
adeiladu, yn cynnwys Jones Brothers, wedi'u lleoli ar y safle am flwyddyn gyfan bron.
xxxvii. Mae gallu economïau lleol i gael budd o'r gwariant personol hwn a gaiff ei ysgogi yn dibynnu
ar natur anghysbell y safle adeiladu, argaeledd llety a lletygarwch a siopau cysylltiedig, hyd y
cyfnod adeiladu ac o ba wlad y daw'r prif gyflenwyr cydrannau.
xxxviii. Dywed datblygwyr fod llawer o'r sgiliau sydd eu hangen ym maes adeiladu ffermydd gwynt
(ymchwilwyr safleoedd, peirianwyr sifil, gweithredwyr cyfarpar, gweithgynhyrchwyr
gosodiadau a ffitiadau metal) ar gael yng Nghymru. Serch hynny, mae argaeledd y sgiliau hyn
a'r farchnad lafur yn amrywio o un lleoliad i'r llall yng Nghymru.
xxxix. Os yw sgiliau'n brin ar hyn o bryd, gellir mynd i'r afael â hyn drwy wneud ymdrech briodol i
uwchsgilio gweithwyr, a bod digon o amser i gynllunio ar gyfer hynny. Er enghraifft, mae
Vattenfall wedi sefydlu partneriaeth â busnes peirianneg lleol (ISO Feb Ltd) er mwyn
cyflwyno cynllun prentisiaeth tair blynedd i hyfforddi technegwyr tyrbinau gwynt ar gyfer
Pen-y-Cymoedd.
xl. O ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae llawer mwy o weithwyr ar gael yn
gyffredinol nag ar adegau mwy ffyniannus i fodloni unrhyw gynnydd mewn galw, gan olygu y
bydd cyfraddau dadleoli yn isel iawn yn nodweddiadol.
xli. Gall y datblygwr ddylanwadu ar y prif gontractwr i wneud cymaint o ddefnydd â phosibl o
gyflenwyr lleol yn ei gadwyn gyflenwi. Er enghraifft, cynhaliwyd digwyddiadau Cwrdd â'r
Prynwr ar gyfer contractau Pen-y-Cymoedd gyda darpar brif gontractwyr a darpar is-
gontractwyr lleol yn bresennol ill dau, gan olygu eu bod yn gallu trafod â'i gilydd er mwyn
deall gofynion y naill a'r llall. Hefyd, defnyddiodd Vattenfall gyflenwyr lleol fel maen prawf
wrth gaffael prif gontractwyr, ynghyd â monitro'r defnydd o gwmnïau lleol gan y contractwyr
hyn bob mis.
xlii. Yn dilyn hynny, datblygodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot becyn cymorth
cadwyn gyflenwi, a ariannwyd ganddo ef ei hun a Llywodraeth Cymru. Defnyddiwyd yr arian
i helpu busnesau lleol i ddatblygu ymhellach y sgiliau a'r adnoddau angenrheidiol er mwyn
gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy, o hyfforddiant a gweithdai i gymorth un i un
uniongyrchol a fydd yn galluogi busnesau lleol i baratoi ar gyfer y prosiect.
xliii. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r fath gamau yn debygol o fod wedi dod yn fwyfwy
cyffredin.
Gweithrediadau a chynnal a chadw
xliv. Gall ardaloedd gwledig gael mwy o fudd o gyfleoedd ar y cam Gweithrediadau a Chynnal a
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
8
Chadw. Mae cynlluniau mwy o faint yn dueddol o fod angen mwy o weithwyr ar lawr gwlad
yn barhaol. Er enghraifft, dim ond dwy neu dair wythnos o gynnal a chadw y flwyddyn sydd
ei angen ar Wern Ddu, sef fferm wynt 9.2 MW. I'r gwrthwyneb, mae angen pedwar
gweithiwr gweithrediadau a chynnal a chadw CALl ar Gefn Croes a disgwylir y bydd angen 12
o weithwyr CALl ar Ben-y-Cymoedd, gyda 90% o'r rhain yn weithwyr lleol.
xlv. Mae'r gwaith o gynnal a chadw ffermydd gwynt yn aml yn rhan o gontract gweithgynhyrchu
tyrbinau am gyfnod gwarant penodol. Gan fod contractau tyrbinau fel arfer yn cael eu rhoi i
gwmnïau tramor, caiff y gwaith cynnal a chadw ei gyflawni gan gwmnïau y tu allan i'r DU yn
aml. Mae'r graddau y gall cwmnïau a chyflogeion lleol gael budd o'r gwaith hwn yn dibynnu
ar y cydbwysedd rhwng defnydd gweithgynhyrchwyr o dimau lleol a'u defnydd o'u
gweithwyr eu hunain.
xlvi. Lle y caiff gweithgareddau eu gosod ar gontract allanol ar ôl i'r warant ddod i ben, gwneir
hyn weithiau drwy gontract unigol sy'n cwmpasu'r holl weithgareddau Gweithrediadau a
Chynnal a Chadw, sy'n cynnig cyfleoedd posibl i gwmnïau lleol gael budd drwy ddefnyddio
cytundeb fframwaith contractwyr lleol y gall y prif gontractwr Gweithrediadau a Chynnal a
Chadw ei ddefnyddio lle y bo angen. Cyflawnwyd hyn o amgylch safleoedd ffermydd gwynt
amrywiol yng Nghymru drwy gynnal diwrnodau agored i gwmnïau lleol er mwyn tynnu sylw
at y cyfleoedd posibl yn y gadwyn gyflenwi a helpu cyflenwyr lleol i gael eu hachredu ar gyfer
y fferm wynt.
xlvii. Pan fydd datblygwyr yn dewis cyflawni'r gwaith cynnal a chadw'n fewnol, mae cyfleoedd
lleol yn rhannol ddibynnol ar ddull y datblygwr o reoli ei bortffolio o gynlluniau ffermydd
gwynt ledled Cymru. Efallai y bydd gan ddatblygwyr mwy o faint bortffolio o ffermydd gwynt
yng Nghymru ac y byddant yn dewis canoli gweithrediadau a chynnal a chadw'r ffermydd
gwynt hyn a rhannu cyfrifoldeb ymhlith staff presennol, yn arbennig ar gyfer cynlluniau llai o
faint.
xlviii. Mae cyfran gymharol fach o gyfarpar a darnau sbâr yn dueddol o ddod o Gymru, gan fod
hyn, ar y cyfan, yn cysylltu â'r man lle y caiff tyrbinau a chydrannau eu gweithgynhyrchu.
Fodd bynnag, mae llawer mwy o gwmpas i wasanaethau amgylcheddol a choedwigaeth
ddod o ardaloedd lleol o ystyried presenoldeb y sgiliau hyn, yn arbennig mewn ardaloedd
gwledig. Mae lle hefyd i fuddiannau sydd wedi'u hysgogi gael eu sicrhau'n lleol o fewn y
sector lletygarwch lle mae angen i staff cynnal a chadw aros yn lleol.
Buddiannau Ehangach
xlix. Mae Cronfeydd Buddiannau Cymunedol yn cynnig cryn botensial i sicrhau effeithiau
cadarnhaol i gymunedau lleol. Yn wir, y cronfeydd hyn yw prif ffynhonnell buddiannau lleol
tymor hwy i gymunedau yn sgil ffermydd gwynt.
l. Mae cysylltiad agos rhwng maint taliadau a maint y fferm wynt. Ar gyfer cynlluniau mwy o
faint, mae hyn yn golygu bod buddiannau parhaus sylweddol yn bosibl. O blith yr
astudiaethau achos, roedd lefel flynyddol y taliad buddiannau cymunedol yn amrywio o
£10,000 ar gyfer Wern Ddu (cynllun 9.2 MW) i £1.8 miliwn disgwyliedig ar gyfer Pen-y-
Cymoedd (cynllun 256 MW).
li. Fel rheol, mae datblygwyr yn awyddus iawn i sicrhau bod cymunedau lleol yn chwarae rhan
lawn yn y broses o gynllunio, cyflawni a rheoli'r Cronfeydd gan ei bod yn bwysig eu bod yn
perchenogi'r arian. Yn gyffredinol, bydd datblygwyr yn dirprwyo'r cyfrifoldeb am y Cronfeydd
Buddiannau Cymunedol, er y gallant gynnig cyngor ar faterion gweinyddol.
lii. Yn achos Pen-y-Cymoedd, er enghraifft, mae'r gronfa arfaethedig sy'n werth £1.8m y
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
9
flwyddyn yn amlwg yn fawr iawn a gallai fod o fudd economaidd-gymdeithasol sylweddol yn
lleol.
liii. Mae rhai datblygiadau mwy o faint hefyd yn cynnwys cronfa datblygu economaidd
benodedig ochr yn ochr â'r gronfa buddiannau cymunedol. Er enghraifft, mae RWE npower
renewables yn cynnig gwneud hyn ar gyfer ei ffermydd gwynt arfaethedig ym Mrechfa a
Chlocaenog. Ar gyfer Clocaenog, cynigir cronfa Datblygu Economaidd £3,000 fesul MW ochr
yn ochr â'r gronfa buddiannau cymunedol £5,000 fesul MW (gyda'r ddwy yn gysylltiedig â
mynegeion).
liv. Mae datblygiadau ffermydd gwynt yn aml yn cynnwys buddsoddiadau mewn gwelliannau
amgylcheddol fel rhan o'r pecyn gwaith seilwaith. Er enghraifft, yn Ffynnon Oer mae'r
datblygwr wedi noddi gwelliannau i Lwybrau Beicio Mynydd Afan, sy'n atyniad pwysig i
dwristiaid yng Nghwm Afan.
lv. Un o’r buddiannau pwysig i economïau gwledig lleol sy’n gartref i ffermydd gwynt yw’r
taliadau a wneir i dirfeddianwyr lleol lle mae’r ffermydd gwynt wedi eu lleoli. Yng Nghymru,
mae ffermydd gwynt naill ai wedi'u lleoli ar dir Comisiwn Coedwigaeth Cymru, tir fferm
preifat neu dir comin ar adegau. Fel rheol, bydd datblygwyr yn negodi taliad rhent blynyddol
am gael mynediad i'r tir. Mae'r taliad a gaiff ei negodi yn amrywio wrth gwrs yn dibynnu ar
faint o dir sydd dan sylw a'r gwerth a negodir. Mae ein harolwg yn awgrymu £12,000 fesul
MW y flwyddyn ar gyfartaledd ar gyfer pob ymatebydd.
Casgliadau
lvi. Mae ein dadansoddiad wedi tanlinellu'r ffaith bod buddiannau economaidd sylweddol a
chyson yn bosibl i Gymru yn sgil datblygu a gweithredu ffermydd gwynt ar y tir. Petai 2,000
MW wedi'i ddatblygu erbyn 2025 a phetai Cymru yn llwyddo i sicrhau ei chyfran
ddisgwyliedig o fuddsoddiad ac wedi ymbaratoi ar gyfer hynny, gellid sicrhau £2.3 biliwn o
GYC rhwng 2012 a 2050 ynghyd â thros 2,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn y flwyddyn
ar gyfartaledd yn yr un cyfnod. Er y gallai’r sector adeiladu a'r sector gweithgynhyrchu gael
budd penodol yn sgil y gweithgarwch hwn, byddai'r buddiannau yn gallu cael eu rhannu gan
amrywiaeth o sectorau, o ganlyniad i effeithiau'r gadwyn gyflenwi a gwariant defnyddwyr
cyflogeion y cefnogir eu swyddi gan y sector.
lvii. Mae risgiau negyddol i gyflawni'r buddiannau hyn.
Petai'r gwaith datblygu yn arafu, byddai llai o fuddsoddiad yng Nghymru ac, o
ganlyniad, lai o swyddi a llai o GYC. Byddai parhau â thueddiadau hanesyddol yn
gweld GVA o tua £1.4 biliwn yn llai na phetai 2,000 MW yn cael ei ddatblygu, a dim
ond tua thraean o'r swyddi. Gallai parhau â thueddiadau mwy diweddar olygu bod
£0.9 biliwn yn llai o GYC a thua 1,000 yn llai o swyddi bob blwyddyn. Mae ein
hymchwil wedi tynnu sylw at nifer o rwystrau i gyflawni gwaith datblygu, gan
gynnwys materion cynllunio lleol a chyfyngiadau o ran seilwaith grid a ffyrdd.
At hynny, petai 2,000 MW yn cael ei gyflawni, byddai dal angen bod yn rhagweithiol
o hyd er mwyn sicrhau bod y buddiannau posibl a amlinellwyd uchod yn cael eu
gwireddu. Mae'r dadansoddiad yn adran 4 wedi nodi'r canlyniadau petai'r
buddsoddiad yng Nghymru islaw disgwyliadau.
lviii. Mae ein hargymhellion yn Adran 6 yn ystyried rhai o’r opsiynau sydd ar gael o ran sicrhau’r
buddiannau mwyaf posibl, canolbwyntio ar y system gynllunio, ei gwneud yn bosibl i
ddatblygu seilwaith, y gadwyn gyflenwi a’r sector, taliadau buddiannau cymunedol a
buddiannau lleol.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
10
1. Cyflwyniad
1.1 Cafodd Regeneris Consulting ei benodi gan Renewable UK Cymru, Llywodraeth Cymru a grŵp
o ddatblygwyr ffermydd gwynt i gynnal asesiad o gyfleoedd economaidd datblygiadau gwynt
ar y tir i Gymru yn y dyfodol. Mae'r astudiaeth wedi cael ei chynnal ar y cyd ag Uned Ymchwil
i Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd, gyda chyngor gan PMSS Ltd, cwmni cynghori ar
ynni adnewyddadwy.
1.2 Prif ddiben yr adroddiad yw mesur effaith economaidd buddsoddi mewn ynni gwynt ar y tir
ar yr economi yng Nghymru, ar sail lefelau gweithgarwch economaidd presennol a phosibl ar
wahanol gamau cylch oes prosiect gwynt.
1.3 O fewn y nod cyffredinol hwn, mae cwmpas y gwaith dadansoddi fel a ganlyn:
Mae'r dadansoddiad yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2005 a 2050, gan ddefnyddio
ffigurau sylfaenol fel y'u darparwyd gan y diwydiant, a senarios ar gyfer capasiti
wedi'i osod yng Nghymru y cytunwyd arnynt gan y diwydiant a Llywodraeth Cymru.
Dewiswyd 2050 yn ben llanw am ei fod yn cwmpasu cylch oes gweithredol
disgwyliedig tyrbinau a ffermydd gwynt sydd ar waith ar hyn o bryd neu sydd yn yr
arfaeth.
Mae'r asesiad yn cwmpasu cyfanswm y buddsoddiad gan gwmnïau Cymreig a
chwmnïau eraill o'r ffynonellau canlynol:
Gwariant uniongyrchol yng Nghymru drwy weithgynhyrchu cydrannau
tyrbinau gwynt; gwaith cynllunio a datblygu; adeiladu'r safle a'r fferm wynt;
gweithrediadau a chynnal a chadw; a datgomisiynu/ailbweru
Gwariant anuniongyrchol drwy gydrannau cadwyn gyflenwi a ddaw o Gymru
a buddsoddi mewn seilwaith grid
Buddsoddiad wedi'i ysgogi a wneir gan gyflogeion a gefnogir drwy effeithiau
uniongyrchol ac anuniongyrchol
Taliadau Buddiannau Cymunedol.
Mae ffocws gofodol yr asesiad ar Gymru yn ei chyfanrwydd, gydag arwydd o leoliad
daearyddol posibl effeithiau ar bob cam o gylch oes y fferm wynt.
Y dangosyddion allweddol a ddefnyddir o ran effaith yw Gwerth Ychwanegol
Crynswth a Swyddi Cyfwerth ag Amser Llawn (CALl).
1.4 Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar gyfleoedd economaidd craidd a fyddai'n cael eu creu yn
sgil datblygu'r sector yn y dyfodol. Nid yw'n asesu'r effeithiau amgylcheddol neu
gymdeithasol ehangach.
1.5 Caiff gweddill yr adroddiad ei strwythuro fel a ganlyn:
Adran 2: gwybodaeth fanwl am y dull asesu, gan gynnwys y fframwaith effaith
economaidd a'r dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
11
Adran 3: trosolwg o'r sector ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, gan gynnwys y cyd-
destun polisi, datblygiad y sector hyd yma, a chanfyddiadau'r diwydiant o Gymru fel
lleoliad ar gyfer datblygu gwynt ar y tir
Adran 4: canlyniadau'r gwaith modelu effaith economaidd
Adran 5: trafodaeth am effeithiau economaidd lleol posibl ffermydd gwynt ar y tir
yng Nghymru
Adran 6: ein casgliadau a'n hargymhellion.
Atodiad A - manylion y fethodoleg a ddefnyddiwyd
Atodiad B - holiadur yr arolwg a anfonwyd at ddatblygwyr a gweithredwyr ffermydd
gwynt ar y tir yng Nghymru
Atodiad C - crynhoi'r sefydliadau yr ymgynghorwyd â hwy fel rhan o'r astudiaeth.
Atodiad D - pedair astudiaeth achos ffermydd gwynt yng Nghymru.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
12
2. Trosolwg o'r Dull Asesu
2.1 Yn yr adran hon, nodwn yn fanwl y dull a ddefnyddiwyd i fesur y cyfleoedd economaidd sy'n
deillio o ddatblygu gwynt ar y tir. Cwmpesir y fframwaith effaith economaidd a'r ymchwil a
ddefnyddiwyd.
Fframwaith Effaith Economaidd
2.2 Wrth wraidd yr asesiad, mae model economaidd sy'n anelu at nodi effeithiau economaidd
tebygol datblygu gwynt ar y tir yng Nghymru, wedi'i lywio gan senarios ar gyfer cyfraddau
datblygu a chadw'r gwariant cysylltiedig yng Nghymru.
Ffynonellau Effaith
2.3 Mae'r broses o ddatblygu a gweithredu fferm wynt ar y tir yn un gymhleth a hir yn aml sy'n
cynnwys sawl cam penodol. Mae'r holl gamau hyn yn esgor ar weithgarwch economaidd
drwy fuddsoddiadau cyfalaf a gwariant gweithredol:
1) Adeiladu a gosod y fferm wynt ynghyd â gweithgarwch cadwyn gyflenwi
cysylltiedig. Mae'r buddsoddiad a wneir yn y gwaith cynllunio a datblygu, paratoi'r
safle, gweithgynhyrchu a gosod, a chomisiynu tyrbinau gwynt o fudd uniongyrchol i'r
busnesau sy'n cyflawni'r gweithgarwch hwn yn ogystal â'u cyflenwyr gan fod y
gweithgarwch economaidd ychwanegol yn bwydo drwy'r gadwyn gyflenwi. Mae'r
asesiad yn ystyried graddau posibl buddiannau ar y cam adeiladu yn sgil maint a
lleoliad daearyddol disgwyliedig cadwyn gyflenwi'r datblygiad, y potensial i gwmnïau
lleol (neu gwmnïau â gweithrediadau lleol) ennill y prif gontractau neu ymuno â
chadwyn gyflenwi'r sawl sy'n gwneud hynny.
2) Gweithrediadau a chynnal a chadw parhaus. Mae'r staff sydd eu hangen i
weithredu a chynnal a chadw'r fferm wynt (gan gynnwys y rheini mewn rolau
gweinyddol a chymorth) a'r gwariant sydd ei angen ar gyfer gorbenion eraill (e.e.
cost cydrannau sbâr, cysylltu â'r grid a gwasanaethau ac ymrwymiadau cymorth
eraill) yn cynnig ffynhonnell effaith economaidd ychwanegol a thymor hwy. Unwaith
eto, mae'r budd posibl yn gysylltiedig â graddau'r buddsoddiad, o ble y daw
nwyddau a gwasanaethau, lleoliad unrhyw swyddi newydd a gaiff eu creu a'r
cwmpas i recriwtio staff lleol. Nid yw'r asesiad o effaith gweithrediadau a chynnal a
chadw yn cynnwys yr effaith economaidd sy'n gysylltiedig â thrawsyrru a gwerthu'r
trydan a gaiff ei gynhyrchu gan y cynllun.
3) Effaith taliadau buddiannau cymunedol. Gall datblygwyr ddewis gwneud
cyfraniadau blynyddol gwirfoddol i gymunedau lleol yn ystod cylch oes fferm wynt.
Gall cymunedau lleol ddefnyddio'r arian hwn mewn sawl ffordd felly gall y math o
fuddiannau a'u graddau amrywio'n sylweddol. Mae'r asesiad yn ystyried effeithiau
posibl y taliadau hyn.
4) Effaith datgomisiynu neu ailbweru. Mae cost datgomisiynu neu ddisodli cydrannau
er mwyn ailbweru'r fferm wynt ar ddiwedd ei chyfnod gweithredol yn esgor ar
effeithiau economaidd pellach mewn ffyrdd tebyg i'r buddsoddiad adeiladu
cychwynnol, drwy roi refeniw i'r cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi a chefnogi swyddi.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
13
2.4 Mae pob fferm wynt ar y tir a gaiff ei datblygu yng Nghymru yn cynnig yr effeithiau
economaidd hyn ac, felly, hwb i economi Cymru. At hynny, er mwyn cyflwyno graddau'r
datblygiadau gwynt ar y tir a seilwaith ynni adnewyddadwy arall a ragwelir ar gyfer Cymru,
bydd angen gwneud buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith grid yn y Canolbarth. Byddai'r
fath ddatblygu seilwaith yn esgor ar amrywiaeth o effeithiau economaidd i Gymru o
ganlyniad i'r gwaith cynllunio, datblygu, adeiladu a chynnal a chadw a fyddai'n ofynnol.
Ystyrir hyn yn effaith economaidd ar wahân, sy'n berthnasol i bob senario.
2.5 Mae'n werth nodi y gallai diwydiant Cymru hefyd ennill busnes mewn marchnadoedd gwynt
ar y tir ehangach sy'n deillio o ddatblygu'r diwydiant yng ngweddill y DU ac yn wir dramor.
Nid yw'r effeithiau posibl hyn yn rhan o'r astudiaeth hon. Y prif reswm dros hyn yw'r ffaith ei
bod hi'n anodd rhoi amcangyfrif pendant o raddau'r marchnadoedd hyn dros amser a'r
gyfran o'r farchnad y gallai cwmnïau Cymreig ei sicrhau. At hynny, daw'r hwb mwyaf i
ddatblygu'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru o ddatblygu'r sector yn y farchnad ddomestig.
Mathau o Effaith
2.6 Mae'r asesiad yn ystyried y buddiannau economaidd craidd sy'n gysylltiedig â mwy o
weithgarwch economaidd yn yr ardal yn ogystal â'r buddiannau economaidd-gymdeithasol
ehangach a allai ddeillio o ddatblygu fferm wynt. Mae'r buddiannau economaidd craidd wedi
cael eu hasesu'n feintiol drwy fodel effaith economaidd sy'n amcangyfrif y canlynol:
Effeithiau Uniongyrchol. Mae'r mesur hwn yn nodi'r gweithgarwch economaidd a
gaiff ei gefnogi'n uniongyrchol drwy adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw'r fferm
wynt. Mae'n cwmpasu staff uniongyrchol a gyflogir ar y safle a'r holl wariant cadwyn
gyflenwi haen gyntaf sy'n ymwneud ag adeiladu'r fferm wynt.
Effeithiau Anuniongyrchol. Mae'r mesur hwn yn nodi effaith cadwyn gyflenwi'r
allbwn ychwanegol a gaiff ei greu gan gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sy'n cefnogi
cyflenwyr haen un.1 Caiff y gweithgarwch economaidd ychwanegol o fewn y
cwmnïau hyn ei fwydo i lawr eu cadwyni cyflenwi ac mae'n esgor ar fuddiannau
anuniongyrchol, ychwanegol i lawer o gwmnïau eraill.
Wedi'u Hysgogi. Mae'r mesur hwn yn nodi'r buddiannau dilynol a welir yn sgil y
swyddi ychwanegol a gefnogir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn yr economi
wrth i gyflogau, a gaiff eu hennill gan y sawl a gyflogir mewn swyddi ychwanegol,
gael eu gwario ar nwyddau a gwasanaethau mewn rhannau eraill o'r economi.
2.7 Mae buddiannau economaidd ehangach yn gysylltiedig â datblygu'r diwydiant yng Nghymru,
gan gynnwys:
Incwm i dirfeddianwyr. Mae ffermydd gwynt ar y tir yn dueddol o gael eu lleoli ar dir
y Comisiwn Coedwigaeth neu ar dir fferm preifat. Caiff y tirfeddianwyr hyn daliadau
cyfalaf a/neu daliadau rhent gan ddatblygwyr/gweithredwyr ffermydd gwynt yn
gyfnewid am gael mynediad i'r tir hwn.
1 Mae cyflenwyr Haen Un ar frig y gadwyn gyflenwi ac maent yn cyflenwi'n uniongyrchol i'r Prif Gontractwr.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
14
Ardrethi Busnes. Mae datblygwyr a gweithredwyr ffermydd gwynt yn talu ardrethi
busnes, sydd yna'n cael eu talu i mewn i Gronfa Ardrethi Annomestig Llywodraeth
Cymru a'u hailddosbarthu ymhlith awdurdodau lleol (ar sail pro-rata i'r boblogaeth
oedolion) fel rhan o setliad refeniw llywodraeth leol bob blwyddyn.
2.8 Ystyriwn y buddiannau hyn ochr yn ochr â'r effeithiau economaidd craidd.
2.9 Y tu hwnt i'r buddiannau economaidd meintiol hyn, mae gan ddatblygiadau gwynt ar y tir y
potensial i gyflawni amrywiaeth o fuddiannau economaidd-gymdeithasol ehangach, gan
gynnwys:
Rhoi hwb i sectorau ynni adnewyddadwy lleol a chenedlaethol. Gallai'r cyfle
cynyddol sy'n gysylltiedig â phrosiectau ynni gwynt ar y tir arfaethedig yng Nghymru
yn y tymor canolig fod o fudd parhaol drwy ysgogi mwy o adnoddau yn y sector (e.e.
wrth i gwmnïau newydd gael eu sefydlu neu wrth i gwmnïau arallgyfeirio a chyflawni
gweithgareddau ynni adnewyddadwy eraill er mwyn achub ar gyfleoedd newydd) a
sicrhau bod cwmnïau lleol mewn sefyllfa i achub ar gyfleoedd yn y sector yn y
dyfodol.
Y cwmpas ar gyfer effeithiau marchnad lafur sy'n gysylltiedig â'r cyfleoedd gwaith
newydd. Gellid cyflawni gweithgarwch meithrin sgiliau, er enghraifft, o ganlyniad i'r
cynllun fel bod modd i bobl gael eu hyfforddi er mwyn eu helpu i achub ar gyfleoedd
sy'n deillio o'r datblygiad. Byddai'r adnoddau ychwanegol a ddatblygwyd o fewn
darparwyr hyfforddiant lleol o ganlyniad i hyn yn ategu gweithgarwch meithrin
sgiliau pellach.
2.10 Ystyrir yr effeithiau o ran economïau lleol ar wahân yn Adran 5 o'r adroddiad.
Mesur Effaith
2.11 Mae'r asesiad yn defnyddio dau fesur allweddol er mwyn mesur natur a graddau effeithiau
economaidd datblygiadau gwynt ar y tir:
Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC). GYC yw'r mesur cyffredin o ran creu cyfoeth ar
gyfer economi. Dyma'r hyn sydd ar ôl o allbwn crynswth unwaith y telir am nwyddau
a gwasanaethau a brynwyd. Mae'r allbwn hwn sy'n weddill yna ar gael i'w
ddosbarthu fel elw, tâl a chyflogau a chostau buddsoddi cyfalaf.
Cyflogaeth. Dyma nifer y swyddi a gaiff eu creu yng Nghymru. Fe'u mynegir fel
swyddi Cyfwerth ag Amser Llawn, sy'n trosi swyddi rhan-amser a llawn-amser yn
fesur cyffredin (lle mae un swydd ran-amser yn cyfateb i hanner swydd lawn-amser),
ac, ar gyfer effeithiau adeiladu dros dro, fel blynyddoedd gwaith pobl.
Cyfnod Amser
2.12 Mae'r asesiad yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2005 a 2050. Mae rhesymeg glir dros ddewis y
cyfnod hwn: mae'n cwmpasu cylch oes gweithredol y rhan fwyaf o gynlluniau sydd naill ai ar
waith ar hyn o bryd neu yn yr arfaeth (ym maes adeiladu, wedi cael cydsyniad ac wedi'u
cyflwyno i'r awdurdod cynllunio perthnasol). Bydd y rhan fwyaf o'r ffermydd gwynt sydd yn
yr arfaeth, os cânt eu cymeradwyo, ar waith erbyn 2025, ac mae fferm wynt fel arfer yn
weithredol am hyd at 25 mlynedd.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
15
2.13 O fewn y cyfnod hwn, canolbwyntiwn yn arbennig ar ddatblygiad posibl y diwydiant hyd at
2025 fel cyfnod polisi. Mae hyn yn cyfateb i amserlenni dyhead Llywodraeth Cymru i
ddatblygu ffermydd gwynt ar y tir, yn ogystal â thargedau ehangach yr UE. Ystyriwn y
cyfnodau canlynol:
2005-11;
2012-24;
2025-50
Ffocws Gofodol
2.14 Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar yr effeithiau i Gymru gyfan. Mae'r astudiaeth hefyd yn
dadansoddi'r effeithiau i ranbarthau Cymru (Gogledd, Canolbarth, De-ddwyrain a De-
orllewin).
2.15 Rydym hefyd yn ystyried y cwmpas i'r ardaloedd lleol lle lleolir y datblygiadau hyn, neu lle
maent yn debygol o gael eu lleoli, gan ganolbwyntio'n arbennig ar gyfleoedd yn y gadwyn
gyflenwi ac o ran swyddi.
Tybiaethau Ategol
2.16 Mae'r model yn defnyddio tybiaethau ar sail y canlynol:
Costau: mae costau nodweddiadol datblygu a gweithredu fferm wynt yn ffactor
allweddol o ran natur a graddau'r effaith economaidd gysylltiedig. Mae'r rhain wedi
cael eu hamcangyfrif drwy arolwg o holl ddatblygwyr a gweithredwyr ffermydd
gwynt ar y tir yng Nghymru (gweler Llinellau ac Adnoddau Ymchwil isod),
ymgynghoriad â'r diwydiant ac adolygiad o asesiadau eraill. Amcangyfrifwyd costau
tebygol seilwaith grid mewn ymgynghoriad â'r Grid Cenedlaethol.
Prynu: mae'r graddau y mae Cymru yn cael budd o'r gwariant hwn yn dibynnu ar
faint o wariant sy'n aros yng Nghymru drwy gwmnïau yng Nghymru sy'n cyflenwi
nwyddau a gwasanaethau fel rhan o'r gadwyn gyflenwi. Amcangyfrifir y lefelau
tebygol o wariant sy'n aros yng Nghymru ar gyfer pob rhan o'r gadwyn gyflenwi gan
ddefnyddio tystiolaeth o'n harolwg o ddatblygwyr ac maent yn destun profion
sensitifrwydd. Amcangyfrifir effeithiau lluosi yn Haen 2 o'r gadwyn gyflenwi ac islaw
hynny gan ddefnyddio tablau Mewnbwn-Allbwn Cymru (gweler Atodiad A am ragor
o fanylion).
Defnydd o Senarios
2.17 Mae'n ddefnyddiol defnyddio senarios er mwyn profi sut y gall effeithiau economaidd newid
mewn ymateb i newidiadau mewn amrywiolion allweddol penodol. Mae ein gwaith modelu
yn profi senarios mewn dwy ffordd:
Datblygu capasiti wedi'i osod. Mae ein model yn defnyddio amcanestyniadau ar
gyfer ffermydd gwynt ar y tir hyd at 2025. Er bod gennym ddarlun cynhwysfawr o'r
adnoddau sydd yn yr arfaeth, mae cryn dipyn o hyn yn y system gynllunio ar hyn o
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
16
bryd ac felly nid oes sicrwydd ynghylch pa gynlluniau allai ddatblygu nac ar ba
gyflymdra. Felly, defnyddiwn dri senario ar gyfer datblygu capasiti wedi'i osod:
2,000 MW: cyflawni'r nod o 2,000 MW o gapasiti wedi'i osod erbyn 2025
Tueddiadau Hanesyddol: parhau â thueddiadau'r degawd diwethaf
Tueddiadau Diweddar: Parhau â thueddiadau cydsynio mwy diweddar
Nodir sail y senarios hyn yn fanylach yn Adran 3 ac Atodiad A.
Dod o hyd i gyflenwyr. Defnyddir y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygwyr yng
Nghymru er mwyn pennu amcangyfrifon ar gyfer cadw gwariant yng Nghymru yn ein
model. Gall cyfran y gwariant a gedwir yng Nghymru fod yn fwy neu'n llai na'r lefel
sylfaenol hon, mewn rhai rhannau o'r gadwyn gyflenwi. Profwn hyn yn yr asesiad
effaith.
2.18 Rhoddir crynodeb o'r fframwaith effaith economaidd yn y diagram isod.
Ffigur 2‑1: Fframwaith Effaith Economaidd
Llinellau ac Adnoddau Ymchwil
2.19 Mae'r ymchwil wedi cael ei chynllunio er mwyn rhoi asesiad annibynnol a chadarn o
effeithiau economaidd ynni gwynt ar y tir hyd at 2050. Fel y cyfryw, dilynwyd nifer o linellau
ymchwil er mwyn creu darlun cynhwysfawr a chywir o'r canlynol:
Senarios posibl o ran datblygu capasiti wedi'i osod y sector yn y dyfodol, yn seiliedig
ar brofiad diweddar a dyheadau Llywodraeth Cymru.
Lefelau tebygol o fuddsoddiad yn gysylltiedig â'r senarios datblygu hyn ar bob cam o
gylch oes y prosiect (cynllunio a datblygu, adeiladu, gweithrediadau a chynnal a
chadw ac ailbweru/datgomisiynu), gan gynnwys seilwaith grid cysylltiedig, yn
seiliedig ar brofiad gwirioneddol hyd yma.
Lefelau realistig o wariant sy'n debygol o aros yng Nghymru a'r ardaloedd lle mae
• Adolygu targedau Cymru
• Cronfa ddata Renewable UK
• Dadansoddiad economaidd rhanbarthol gan gynnwys cymysgedd
sectoraidd • Adolygiad o
dystiolaeth effaith
• Arolwg o ddatblygwyr a gweithredwyr
• Tablau mewnbwn - allbwn
• Profion a mireinio
Cam Datblygu ac Adeiladu
Cronfeydd Buddiannau Cymunedol
Datgomisiynu / ailbweru
Gweithrediadau a Chynnal a Chadw
Buddiannau Economaidd Craidd
• Uniongyrchol • Anuniongyrchol • Wedi’u Cymell
Buddiannau Datblygu Economaidd/ Adfywio
Ardaloedd yr effeithir arnynt
• Cymru • Rhanbarthau Cymru
Economaidd • Swyddi CALI • GYC
Ehangach • Incwm i
dirfeddianwyr • Gwelliannau i
Seilwaith Lleol
• Sgiliau • Cyflogaeth • Bywiogrwydd y
gymuned
Ffactor Ysgogi Budd Mathau o Fuddiannau Mesurau
Buddiannau Datblygu - gymdeithasol ehangach
Ardaloedd yr Effeithir
Arnynt Tybiaethau Ategol
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
17
potensial i gadw mwy o wariant, yn seiliedig ar brofiad gwirioneddol hyd yma ac
asesiad o gapasiti economi Cymru.
Effeithiau lluosogi i Gymru, yn deillio o gylchoedd dilynol o wariant cadwyn gyflenwi
(effeithiau anuniongyrchol) a gwariant defnyddwyr fesul cyflogai (effeithiau wedi'u
cymell).
Effeithiau tebygol ar gymunedau lleol, yn seiliedig ar brofiad hyd yma, a nodi'r
ffactorau allweddol sy'n rhwystro ac yn annog budd economaidd lleol.
Cyfyngiadau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â sicrhau bod y sector yn cael cymaint o
effaith economaidd ar Gymru â phosibl, yn seiliedig ar farn diwydiant a llywodraeth
a dadansoddiad o economi Cymru.
2.20 Yr egwyddor a ddilynwyd fu triongli'r canfyddiadau drwy ddefnyddio ffynonellau data sydd
ar gael a dwyn ynghyd ddata a barn sylfaenol y diwydiant, Llywodraeth Cymru a
rhanddeiliaid lleol. Dengys y tabl isod yr adnoddau ymchwil a ddefnyddiwyd i lywio pob
elfen o'r astudiaeth. Yna, trafodwn yr adnoddau ymchwil yn fanylach isod.
Crynodeb o Elfennau'r Astudiaeth ac Ymchwil
Elfen o'r Astudiaeth Ymchwil/ffynonellau
Senarios ar gyfer
datblygiadau yn y
dyfodol
Rhydd cronfa ddata RenewableUK fanylion am yr holl ffermydd gwynt yn y DU sydd ar waith, sy'n cael eu hadeiladu, sydd wedi cael caniatâd, ac sydd yn y system gynllunio, gan gynnwys dyddiadau, capasiti wedi'i osod a lleoliad.
Ymgynghoriad â datblygwyr ffermydd gwynt a Llywodraeth Cymru.
Buddsoddiad fesul
cylch oes y prosiect
Arolwg o holl ddatblygwyr a gweithredwyr pob fferm wynt yng Nghymru sydd ar waith, sy'n cael ei hadeiladu, sydd wedi cael caniatâd, ac sydd yn y system gynllunio.
Astudiaethau effaith economaidd-gymdeithasol bresennol o ffermydd gwynt ar y tir.
2
Buddsoddiad yng
Nghymru fesul sector
Arolwg o ddatblygwyr a gweithredwyr
Astudiaethau effaith economaidd-gymdeithasol bresennol o ffermydd gwynt ar y tir.
Effeithiau lluosogi ar
gyfer Cymru a'i
rhanbarthau
Gan ddefnyddio'r data ar fuddsoddiadau uchod, defnyddio tablau Mewnbwn-Allbwn ar gyfer Cymru er mwyn amcangyfrif effeithiau anuniongyrchol ac effeithiau wedi'u cymell.
Effeithiau ar
gymunedau lleol
Pedair astudiaeth achos ar ffermydd gwynt ar y tir sydd eisoes yn bodoli ac sydd yn yr arfaeth
Wedi'u llywio gan ymgynghoriadau â datblygwyr, gweithredwyr ac awdurdodau lleol ac adolygu dogfennaeth, a phrofiad y tîm.
Cyfyngiadau a
chyfleoedd
Arolwg o ddatblygwyr ffermydd gwynt
Ymgynghoriad â datblygwyr, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr llywodraeth leol.
Adolygu Llenyddiaeth
2.21 Gwnaethom adolygu'r llenyddiaeth ar yr agweddau economaidd ar ynni gwynt ar y tir, gan
gynnwys dogfennau polisi perthnasol ac asesiad economaidd-gymdeithasol bresennol o
2 Er enghraifft, Onshore Wind Direct and Wider Economic Impacts, BiGGAR Economics ar ran RenewableUK a'r Adran Ynni a
Newid yn yr Hinsawdd (DECC), Mai 2012.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
18
ddatblygiadau gwynt ar y tir. Fe'i defnyddiwyd i greu darlun cyfredol o'r cyd-destun polisi a'n
tybiaethau ynghylch gwariant a sail y gwaith modelu economaidd.
Dadansoddiad o Gronfa Ddata RenewableUK
2.22 Mae gan RenewableUK gronfa ddata o'r holl ffermydd gwynt ar y tir yn y DU sydd naill ai ar
waith, yn cael eu hadeiladu, wedi cael caniatâd neu yn y system gynllunio. Rhydd wybodaeth
am nifer o agweddau gan gynnwys:
Y dyddiad y dechreuodd y fferm wynt weithredu neu gael ei hadeiladu, pan roddwyd
caniatâd neu pan ymunodd â'r system gynllunio
Lleoliad
Capasiti wedi'i osod, mewn MW
Datblygwr a gweithredwr.
2.23 Defnyddiwyd y gronfa ddata hon i ddadansoddi tueddiadau o ran capasiti wedi'i osod dros y
blynyddoedd diwethaf a deall yr hyn sydd yn yr arfaeth. Ar sail y data hwn, cafodd tri senario
ar gyfer datblygu'r sector yn y dyfodol eu llunio.
2.24 Trafodir y senarios hyn yn fanylach yn Atodiad A.
Arolwg o Ddatblygwyr a Gweithredwyr
2.25 Un o brif adnoddau ymchwil yr astudiaeth oedd arolwg o holl ddatblygwyr a gweithredwyr
ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru. Cynhaliwyd yr arolwg o ddatblygwyr ym mis Hydref a
mis Tachwedd 2012 a chafwyd gwybodaeth am y canlynol:
y rhan a chwaraeir ganddynt yn y sector ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, gan
gynnwys manylion ffermydd gwynt sydd eisoes yn bodoli neu sydd yn yr arfaeth a'u
barn ar gryfder cadwyni cyflenwi ynni gwynt yng Nghymru, ac ar Gymru fel lle i
fuddsoddi ynddo
cynlluniau ynni gwynt ar y tir sy'n cael eu datblygu yng Nghymru, gan gynnwys
costau ac amserlenni datblygu disgwyliedig, a'r tebygolrwydd o brynu nwyddau a
gwasanaethau o Gymru
cynlluniau ynni gwynt ar y tir sydd ar waith yng Nghymru, gan gynnwys pryd y
cawsant eu datblygu, costau gweithredol blynyddol, cyfran y nwyddau a
gwasanaethau a brynwyd o Gymru, nifer y swyddi a grëwyd, y cronfeydd
buddiannau cymunedol a ddarparwyd a disgwyliadau ynghylch datgomisiynu neu
ailbweru ar ddiwedd cylch oes y ffermydd gwynt.
2.26 Roedd yr ymateb a gafwyd yn cwmpasu 66% o'r holl gapasiti presennol ac arfaethedig yng
Nghymru. Darperir holiadur yr arolwg yn Atodiad B.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
19
Ymgynghoriadau
2.27 Rydym wedi ymgynghori â datblygwyr, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid
eraill yn ystod yr astudiaeth hon. Diben yr ymgynghoriadau oedd dwyn ynghyd safbwyntiau
cyfredol ar ddatblygu'r sector a'i ragolygon, er mwyn llywio tybiaethau ynghylch gallu
economi Cymru i gael budd o'r buddsoddiad a'r gwariant cysylltiedig, a llywio ein hasesiad
o'r cyfyngiadau, rhwystrau a chyfleoedd sy'n wynebu'r sector yn y dyfodol.
Astudiaethau Achos
2.28 Er bod gwaith modelu economaidd manwl gywir yn creu darlun cadarn o'r effeithiau
economaidd posibl i Gymru, dim ond drwy ddefnyddio astudiaethau achos y gellir asesu'r
effaith ar lefel leol iawn. Felly, gwnaethom gynnal astudiaethau achos o ffermydd gwynt a
oedd ar waith ac a oedd wedi cael caniatâd o feintiau gwahanol ledled Cymru er mwyn deall
y ffactorau sy'n hyrwyddo neu'n cyfyngu ar y ffordd y mae busnesau, gweithwyr a'r gymuned
leol yn cael budd o'r gweithgarwch economaidd sy'n deillio o ddatblygu ffermydd gwynt ar y
tir yng Nghymru.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
20
3. Y Sector Ynni Gwynt ar y Tir yng Nghymru Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol
Mae polisi Cymru o ran y sector ynni gwynt ar y tir wedi esblygu dros y blynyddoedd
diwethaf. Rhydd canllawiau cynllunio TAN 8, a gyhoeddwyd yn 2005, ganllawiau ar
leoliad ffermydd gwynt mewn Ardaloedd Chwilio Strategol. Disgwylir mai'r lleoliadau
hyn a fydd yn gartref i'r rhan fwyaf o ffermydd gwynt yn y blynyddoedd i ddod.
Mae'r canllawiau cynllunio diweddaraf yn cynnwys y nod i gyflawni 2,000 MW o
ffermydd gwynt ar y tir erbyn 2025. Disgwylir i gryn dipyn o hyn gael ei gyflawni
erbyn 2020.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod buddiannau economaidd-gymdeithasol posibl
datblygu'r sector. Mae'n anelu at sicrhau bod y buddiannau economaidd hirdymor
hyn yn cael cymaint o effaith â phosibl a bod cymunedau lleol yn cael budd o
ddatblygu seilwaith ynni.
Ystyriwyd bod cyhoeddi TAN 8 wedi ysgogi'r gwaith o ddatblygu'r sector, er mai
rhywbeth byrdymor fu hyn. Ar ôl rhai ychwanegiadau at gapasiti yn 2005 a 2006, ni
chafwyd mwy o dwf yn 2007 a dim ond dwy fferm wynt newydd a welwyd yn 2008.
Dim ond tua chwarter o darged TAN 8 ar gyfer 2010 a gyflawnwyd.
Mae digon o gapasiti yn yr arfaeth i gyflawni'r nod o 2,000 MW erbyn 2025: mae tua
2,200 MW ar waith, wedi cael caniatâd neu yn y system gynllunio.
Ar y cyfan, mae datblygwyr yn gadarnhaol ynghylch presenoldeb cyflenwyr Cymreig
ym meysydd peirianneg sifil, gwasanaethau amgylcheddol ac ymgynghoriaeth
amgylcheddol, ac mae'r rhan fwyaf yn ymwybodol o'r gwaith gweithgynhyrchu tyrau
a geir yng Nghymru (h.y. Mabey Bridge).
Mae'r rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn gallu gweld rhywfaint o botensial i gynyddu eu
defnydd o gwmnïau ar y camau datblygu ac adeiladu dros y tair blynedd nesaf, gyda
thraean yn nodi cryn botensial. Mae cyfran lai o'r farn y gellid cynyddu'r defnydd o
gwmnïau ym maes gweithrediadau a chynnal a chadw.
Mae datblygwyr yn nodi amrywiaeth o rwystrau polisi ac economaidd i dyfu'r
gadwyn gyflenwi yng Nghymru, gan gynnwys risgiau ac ansicrwydd sylweddol
ynghylch cael caniatâd cynllunio a chanfyddiad bod diffyg perchenogaeth o
ddyheadau cenedlaethol ar lefel leol. Mae cyfyngiadau o ran seilwaith (ar y ffyrdd a'r
grid) hefyd yn rhwystrau cyffredin.
Mae 40% o'r datblygwyr a arolygwyd o'r farn bod Cymru yn lle eithaf ffafriol neu
ffafriol iawn i fuddsoddi ynddo. Dim ond lleiafrif bach o ymatebwyr sy'n ystyried bod
Cymru yn lle ffafriol iawn (7%). Dywed tua thraean o’r datblygwyr fod Cymru yn lle
eithaf anffafriol neu anffafriol iawn.
Gan edrych o dan y datganiadau hyn, nid yw'r rhan fwyaf o’r ymatebwyr o'r farn bod
y sylfaen sgiliau yn gyfyngiad. Roedd y rhan fwyaf yn gadarnhaol neu'n niwtral
ynghylch polisi cynllunio cenedlaethol.
Fodd bynnag, roedd cytundeb clir bod polisïau ac arferion cynllunio lleol ynghyd â
seilwaith grid a ffyrdd yn ffactorau negyddol wrth ystyried Cymru fel lleoliad i
fuddsoddi ynddo o ran prosiectau gwynt ar y tir.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
21
Cyflwyniad
3.1 Mae'r adran hon yn trafod y sector ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, gan gynnwys:
y cyd-destun polisi sydd wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r sector, sectorau
cysylltiedig a'r seilwaith cymorth yng Nghymru
datblygiad y sector yng Nghymru hyd yma a senarios posibl ar gyfer ei ddatblygu yn y
dyfodol
canfyddiadau rhanddeiliaid diwydiant o Gymru fel lleoliad i ddatblygu ffermydd
gwynt ar y tir.
Cyd-destun Polisi
3.2 Mae ystod eang o bolisïau ar lefel yr UE, y DU a Chymru yn dylanwadu ar y diwydiant ynni
gwynt ar y tir yng Nghymru. Yma, canolbwyntiwn ar esblygiad polisi Cymru hyd yn hyn, er y
dylid nodi mai Arolygiaeth Gynllunio'r DU sy'n penderfynu ar brosiectau dros 50MW (y
Comisiwn Cynllunio Seilwaith oedd yn arfer bod yn gyfrifol am hyn, ond fe'i diddymwyd ym
mis Ebrill 2012).
3.3 Yn erbyn cefndir llu o ffactorau rheoliadol a statudol, ar lefel y DU, y prif adnodd polisi sy'n
ategu'r gwaith o ddatblygu ynni gwynt ar y tir yw'r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, y
bwriedir iddi gynyddu'r defnydd o dechnolegau ynni adnewyddadwy er mwyn gwella
sicrwydd ynni a chyfrannu at gyflawni targedau a rhwymedigaethau allyriadau carbon
ehangach.
3.4 Mae symud i gynhyrchu ynni carbon isel ac achub ar y cyfleoedd economaidd sy'n deillio o'r
newid carbon isel wedi bod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn. O
ystyried manteision naturiol Cymru ym maes ynni gwynt, mae datblygu ffermydd gwynt ar y
tir yn rhan bwysig o'r ymateb hwn. Yr uchelgais sydd wedi'i nodi yn y Rhaglen Lywodraethu
bresennol (2011-2016) yw creu economi carbon isel, gynaliadwy ar gyfer Cymru.
3.5 Mae polisi Cymru o ran ynni adnewyddadwy yn gyffredinol, ac ynni gwynt ar y tir yn
benodol, wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf.
Polisi Cynllunio 2005
3.6 Yn 2005, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd Ddatganiad Polisi Cynllunio
Interim y Gweinidog3 a bennodd darged ar gyfer cynhyrchu trydan o'r holl dechnolegau
adnewyddadwy i 4TWh erbyn 2010, gyda'r nod o gynyddu hyn i 7TWh erbyn 2020. O fewn y
targed cyffredinol hwn, pennwyd targed a oedd yn ymwneud â thechnoleg yn benodol ar
3 Datganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog 01/2005 Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy, Gorffennaf 2005. Noder bod y datganiad Polisi Cynllunio diweddaraf wedi'i gynnwys yn Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 5 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Tachwedd 2012. Gweler
isod am gyfeiriad at hyn.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
22
gyfer 800 MW ychwanegol o gapasiti ynni gwynt ar y tir erbyn 2010 (h.y. yn ychwanegol at y
233 MW a oedd eisoes ar waith ar yr adeg honno). Cydnabuwyd bod gan Gymru fanteision
naturiol ym maes ynni gwynt ar y tir. Nodwyd bod hyn yn seiliedig ar adnoddau gwynt ar y tir
niferus Cymru a'r ffaith mai ynni gwynt ar y tir yw'r dechnoleg fasnachol
Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8
3.7 Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganllawiau cynllunio newydd sef
TAN 8. Ynddynt, nodwyd dull strategol o sicrhau bod y targed o 800MW yn cael ei gyflawni.
Elfen allweddol o hyn oedd sefydlu Ardaloedd Chwilio Strategol lle'r oedd bwriad i leoli
ffermydd gwynt mawr. Rhoddwyd targed dangosol i bob Ardal a oedd yn creu cyfanswm o
1,120 MW rhwng y saith ohonynt; pennwyd ffigur uwch er mwyn caniatáu hyblygrwydd wrth
gyflawni'r targed o 800 MW. Mae troednodyn hefyd yn egluro y gallai capasiti yn yr
Ardaloedd hyn gael ei gynyddu er mwyn rhoi uchafswm capasiti o tua 1700 MW yn
gyffredinol ar gyfer yr holl Ardaloedd.
Y Trywydd Ynni Adnewyddadwy
3.8 Ar y cyd â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill, cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru ei Thrywydd Ynni Adnewyddadwy4 yn 2008 ar ffurf dogfen ymgynghori.
Awgrymodd y dylai'r targed ar gyfer 7TWh erbyn 2020 gael ei gynyddu'n sylweddol i 33 TWh
erbyn 2025. Goblygiad hyn o ran ynni gwynt ar y tir yw y byddai'r capasiti hyd at 2500 MW
posibl, neu hyd at 6.5 TWh o ynni trydanol.
Chwyldro Carbon Isel (2010) a Llythyr Gweinidogol Gorffennaf 2011
3.9 Atgyfnerthwyd y pwyslais cynyddol ar dargedau ynni adnewyddadwy pan gyhoeddwyd
Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth Cymru sef Chwyldro Carbon Isel yn 2010.5 Neidiodd y
targed cyffredinol ar gyfer trydan adnewyddadwy i 48TWh. I'w roi mewn cyd-destun, mae
hyn yn cyfateb i ddwywaith y trydan y mae Cymru yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd o bob
ffynhonnell ynni. Fodd bynnag, cafodd y potensial o ynni gwynt ar y tir erbyn 2025 ei leihau
o'r ymgynghoriad Trywydd i 2,000 MW. Ers hynny, fe'i hailddatganwyd yn Nogfen Polisi
Cynllunio ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.6
3.10 Yn y cyfamser, nid oedd y targedau a fodolai ar gyfer ynni gwynt ar y tir yn cael eu cyflawni.
Dim ond 146 MW a ddatblygwyd erbyn 2010 yn erbyn targed o 800MW - gan olygu bod
Cymru dros 80% ar ei hôl hi (gweler isod am drafodaeth fanylach ar ddatblygu capasiti hyd
yma). Mewn llythyr Gweinidogol ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, eglurodd y
Llywodraeth y sefyllfa o ran ynni gwynt ar y tir, gan nodi ffigurau lefel uwch Garran Hassan
(1700 MW) fel cyfanswm capasiti Ardaloedd Chwilio Strategol. Byddai'r 300 MW a oedd yn
weddill er mwyn cyflawni'r targed o 2,000 MW yn cwmpasu ffermydd gwynt presennol a
phrosiectau preifat a chymunedol arfaethedig llai o faint a oedd y tu allan i'r ardaloedd hyn.
4 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Trywydd Ynni Adnewyddadwy Cymru, Ymgynghoriad ar y ffordd ymlaen i Gymru lanach,
wyrddach a llai gwastraffus, Chwefror 2008.
5 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Chwyldro Carbon Isel, Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth Cynulliad Cymru, Mawrth 2010.
6 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 5, Tachwedd 2012.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
23
Polisi Datblygu Economaidd Cysylltiedig
3.11 Mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn cydnabod y gall buddiannau economaidd pwysig
iawn ddeillio o ddatblygu ynni gwynt ar y tir ac maent yn awyddus i sicrhau bod Cymru ar ei
hennill i'r graddau mwyaf posibl. Cafodd hyn ei gydnabod yn y Datganiad Polisi Ynni a
nodwyd uchod a'r Strategaeth Swyddi Gwyrdd (2009). Yn fwy diweddar, mae ymrwymiad y
Llywodraeth i sicrhau'r buddiannau economaidd hyn wedi'u hailddatgan yn Ynni Cymru:
Newid Carbon Isel (Mawrth 2012). Y ddau brif nod yw:
sicrhau'r buddiannau economaidd hirdymor mwyaf posibl i Gymru, yn enwedig o ran
creu swyddi, ar bob cam datblygu.
sicrhau bod cymunedau'n cael budd o ddatblygiadau seilwaith ynni.
3.12 Cydnabyddir, er nad yw polisi ynni fel y cyfryw yn fater datganoledig, mae gan Gymru y pŵer
i achub ar y cyfleoedd a mwynhau'r buddiannau sy'n deillio o symud i gynhyrchu ynni
adnewyddadwy. Y nod, felly, yw sicrhau bod effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu trydan yn
cefnogi swyddi drwy'r gadwyn gyflenwi gyfan dros gylch oes datblygiadau - o
weithgynhyrchu i osod, ac o adeiladu i weithredu a datgomisiynu. Mae'r Llywodraeth wedi
ymrwymo'n arbennig i:
sicrhau bod pob datblygiad ynni mawr yn dod â'r manteision economaidd mwyaf i
Gymru drwy ymyriadau wedi'u targedu ym meysydd datblygu'r gadwyn gyflenwi,
cefnogi busnesau, sgiliau a hyfforddiant, caffael, arloesi, ac ymchwil a datblygu.
targedu'r cymorth a gynigir i fusnesau er mwyn helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi
cystadleuol yng Nghymru - mewn sectorau ynni sy'n cynnig y potensial mwyaf ac yng
nghyd-destun datblygiadau ynni penodol sy'n mynd rhagddynt neu a ddisgwylir yng
Nghymru - cefnogi ac annog cwmnïau yng Nghymru i ymwneud â'r broses gaffael.
sicrhau bod ymarferion caffael sy'n ymwneud ag ynni wedi'u cynllunio i ysgogi'r galw
am lafur, cynhyrchion a gwasanaethau lleol a galluogi busnesau yng Nghymru i
gystadlu'n deg ac yn effeithiol.
sicrhau cymaint o werth hirdymor â phosibl i economi Cymru drwy ddatblygu
gweithlu'r dyfodol er mwyn diwallu anghenion y diwydiant.
3.13 Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru am weld cymunedau lleol yn cael budd o ddatblygiadau.
Y nod yw mynd ymhellach na'r safonau cronfa buddiannau cymunedol a bennwyd yn Lloegr
(lleiafswm o £1,000 y flwyddyn dros gylch oes fferm wynt, fesul MW o ynni gwynt wedi'i
osod). Mae'r ymrwymiadau mwyaf perthnasol fel a ganlyn:
gweithio mewn partneriaeth â byd busnes er mwyn cytuno ar ddisgwyliadau ar gyfer
buddiannau economaidd a chymunedol datblygu ynni.
gweithio gyda chymunedau a phartneriaid er mwyn sicrhau bod y cyfoeth a grëir yn
sgil datblygu ynni yng Nghymru o fudd i gymunedau.
sefydlu adnodd i nodi lefel a natur y buddiannau sy'n gysylltiedig â datblygu ynni yng
Nghymru.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
24
3.14 Mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn mynd ar drywydd nifer o fentrau penodol i
gefnogi'r sector ynni gwynt ar y tir, gan gynnwys:
Helpu busnesau yng Nghymru i gystadlu am gontractau sector cyhoeddus a sector
preifat mawr a'u hennill
Cefnogi'r agenda meithrin sgiliau drwy ariannu darparwyr hyfforddiant addysg uwch
ac addysg bellach. Un enghraifft ddiweddar yw'r cymorth a roddwyd i Goleg
Llandrillo er mwyn cynnig prentisiaethau ar gyfer RWE a Vattenfall.
Gweithio gyda'r Academi Sgiliau Genedlaethol (Ynni) ac EU Skills ar ymchwilio i
raglen sgiliau a chymwysterau, ei dylunio a'i chyflwyno ar gyfer y sector ynni
adnewyddadwy cyfan.
Datblygu'r Sector: Profiad Blaenorol a Rhagolygon
Profiad Hyd Yma
3.15 Mae Ffigur 3-1 yn nodi'r duedd o ran y lefel o gapasiti gweithredol wedi'i osod (MW) dros y
degawd diwethaf. Ar ddechrau'r 2000au, arhosodd capasiti wedi'i osod ar lefel eithaf
cymedrol sef tua 150MW. Yn ystod y cyfnod hwn, dim ond nifer fechan o ffermydd gwynt
cymharol fach a ddatblygwyd, gyda'r un fwyaf yng Nghemaes ym Mhowys (15 MW).
Dechreuodd capasiti gynyddu'n fwy amlwg yn 2005 a 2006, gan gynnwys:
Tir Mostyn, Fferm Wynt 21 MW yn Sir Ddinbych a ddaeth yn weithredol ym mis
Hydref 2005
Cefn Croes, fferm wynt 59 MW yng Ngheredigion a ddaeth ar-lein ym mis Mehefin
2005
Ffynnon Oer, fferm wynt 32 MW yng Nghastell-nedd Port Talbot a ddaeth yn
weithredol ym mis Mehefin 2006.
3.16 Mae ein hymgynghoriadau yn awgrymu bod TAN 8 wedi cael effaith fawr i ddechrau o ran
caniatâu a gosod capasiti newydd, yn ogystal â denu cwmnïau i gefnogi'r twf hwn. Er
enghraifft, sefydlodd y cwmni cyfreithwyr Eversheds swyddfa yng Nghaerdydd ar sail y
disgwyliad y byddai twf sylweddol yn y diwydiant i gefnogi prosiectau ynni gwynt ar y tir. O
ystyried y graddau y datblygwyd capasiti newydd, roedd yn rhesymol tybio ar y pryd fod
cynnydd digonol yn cael ei wneud tuag at gyflawni'r targed o 800 MW ar gyfer 2010 (er bod
y fath gapasiti ychydig yn is na'r hyn a fyddai'n angenrheidiol bob mis ar gyfartaledd). Fodd
bynnag, gwastatáu a wnaeth capasiti yn y blynyddoedd wedyn, heb unrhyw ychwanegiadau
yn 2007 a dim ond dwy fferm wynt newydd yn 2008, gyda chyfanswm o 15.6 MW o gapasiti
ychwanegol yn cael ei roi ar waith. Felly, daeth yn amlwg, oni bai bod newid sylweddol, na
fyddai targed 2010 yn cael ei gyflawni.
3.17 Dyma a ddigwyddodd, gyda nifer fach o ffermydd gwynt cymharol fach yn cael eu datblygu
yn 2009 a 2010. Dim ond tua chwarter o darged TAN 8 ar gyfer 2010 a gyflawnwyd hyd yma.
Nodir datblygiad capasiti gweithredol cronnol wedi'i osod - a'r graddau y methwyd targed
2010 - yn Ffigur 3-1.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
25
Ffigur 3-1: Capasiti Gweithredol Cronnol wedi'i Osod yng Nghymru, 2000-12
Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK
3.18 Ar hyn o bryd, ceir 423 MW o gapasiti ynni gwynt ar y tir wedi'i osod ledled Cymru. Nodir
ymhle ar y map isod.
0
100
200
300
400
500
600
700
800
900
1,000
2000 2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012
Installe d Operational Capa city (MW)
Targed 2010
Tir Mostyn
Fynnon Oer
Cefn Croes Carno
Alltwalis
Cap
asit
i Gw
eith
red
ol w
edi’i
Oso
d (
MW
)
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
26
Ffigur 3-2: Ffermydd Gwynt Gweithredol yng Nghymru, ym mis Rhagfyr 2012
Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK
Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
3.19 Mae RenewableUK yn cadw cofnod o bob fferm wynt sy'n cael ei hadeiladu, sydd wedi cael
caniatâd neu sydd yn y system gynllunio. Mae'r tabl isod yn crynhoi'r capasiti gweithredol
presennol a'r capasiti arfaethedig yn y system gynllunio a datblygu. Fel y gwelir,
caiff 111MW o gapasiti ei adeiladu ar hyn o bryd (35 MW yn dechrau yn 2011 a 77
MW yn 2012) ac felly mae'n debygol o gael ei gyflwyno erbyn 2014 fan bellaf
mae 15 o ffermydd gwynt - cyfanswm o 449 MW o gapasiti - wedi'u cymeradwyo
ond nid yw'r gwaith adeiladu wedi dechrau eto
mae 37 o ffermydd gwynt eraill yn y system gynllunio. Gallai'r rhain gyflwyno 1,200
MW arall o gapasiti. Fodd bynnag, mae'n annhebygol iawn y caiff pob un ei
chymeradwyo ac mae rhai, yn wir, yn annibynnol ar ei gilydd.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
27
Tabl 3-1: Capasiti wedi'i Osod mewn Ffermydd Gwynt ar y Tir yng Nghymru: Ar Waith ac Yn Yr Arfaeth
Ffermydd Gwynt
Tyrbinau Capasiti MW
Ar Waith 38 540 423
Cymeradwywyd ond nis adeiladwyd 15 145 449
Wrthi'n cael eu hadeiladu 5 44 111
Yn disgwyl penderfyniad 37 490 1,204
Cyfanswm Cyfredol y Capasiti Posibl 95 1,219 2,187
Ffynhonnell: Cronfa ddata RenewableUK, Hydref 2012
3.20 Mae hyn felly'n awgrymu, o ystyried y gwaith sydd yn yr arfaeth ar hyn o bryd, ei bod yn
dechnegol ymarferol cyflawni targed dyheadol Llywodraeth Cymru sef 2,000 MW o gapasiti
ynni gwynt ar y tir yn gynt. Mae hefyd yn debygol y bydd cynlluniau sydd ar y cam cyn
cynllunio ar hyn o bryd yn ymuno â'r system gynllunio yn y blynyddoedd i ddod.
3.21 Mae'r map isod yn dangos lleoliad yr holl ffermydd gwynt sydd yn yr arfaeth, yn ogystal â'r
rhai sydd ar waith. Fel y gwelir, caiff prosiectau sydd ar waith ac sydd yn yr arfaeth eu
clystyru yn y Canolbarth, ac i raddau llai yn Ne-orllewin Cymru.
Ffigur 3-3: Ffermydd Gwynt ar y Tir yng Nghymru (Ar Waith ac Yn Yr Arfaeth), Rhagfyr 2012
Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
28
Senarios Datblygu
3.22 Mae'n ddefnyddiol defnyddio'r hyn rydym yn ei wybod am raddau'r cynnydd dros y
blynyddoedd diwethaf er mwyn blaengynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Dengys y
newid mewn cynnydd a fydd yn angenrheidiol yn y dyfodol er mwyn cyflawni dyheadau.
3.23 Rhwng 2001 a 2011, daeth cyfanswm o 270 MW o gapasiti gwynt ar y tir yn weithredol
(cyfartaledd blynyddol o 27 MW). Os bydd y duedd hon yn parhau, byddai cyfanswm
capasiti wedi'i osod o tua 800MW yng Nghymru erbyn 2025 - sy'n amlwg yn ddiffyg
sylweddol (60%) o gymharu â'r dyhead o 2,000MW.
Ffigur 3-4: Amcanestyniad ar Sail Tuedd Hanesyddol (2001-11)
Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK
3.24 Yn sail i'r senario hon, mae'r potensial y gallai'r gyfradd ddatblygu a'r capasiti newydd a
ddaw'n weithredol yn y dyfodol arafu y tu hwnt i'r gyfradd ganiatáu bresennol (gweler
senario tri), o bosibl o ganlyniad i fethiant cyffredinol cynlluniau i gael caniatâd a'r ffaith y
gallai buddsoddiadau symud i leoliadau neu dechnolegau buddsoddi eraill.
3.25 Yn ogystal â'r duedd hirdymor hon, mae cronfa ddata RenewableUK yn ein helpu i ddeall y
duedd fwy diweddar o roi caniatâd ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru. Fel y
nodwyd uchod, mae'r gronfa ddata yn dynodi bod 493 MW o gapasiti wrthi'n cael ei
adeiladu neu wedi cael caniatâd cyn ei adeiladu. Gan gyfuno ein gwybodaeth am pryd y
cafodd y ffermydd gwynt hyn ganiatâd a thystiolaeth o'n harolwg o ddatblygwyr ynghylch y
dyddiad tebygol y byddant yn dod yn weithredol, mae'n debygol y daw'r rhan fwyaf o'r
capasiti hwn sydd yn yr arfaeth yn weithredol erbyn 2016. Mae hyn yn cyfateb i gyfartaledd
blynyddol o 124MW y.f. o gapasiti ychwanegol yn ystod y cyfnod. Gan dybio y bydd y
gyfradd hon yn parhau hyd at 2025, byddai hyn yn fwy na digon i fodloni'r dyhead o
2,000MW. Fodd bynnag, mae cynllun mawr iawn yn cael dylanwad mawr ar y cynlluniau a
gymeradwywyd yn ddiweddar: cynllun Pen-y-Cymoedd (256 MW). Fe'i cymeradwywyd ym
mis Mai 2012 a hwn yw'r cynllun arfaethedig mwyaf yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd. Nid
oes unrhyw gynlluniau eraill o faint tebyg yn y system gynllunio ar hyn o bryd (Carnedd Wen
yw'r cynllun mwyaf). Felly, nid yw'n realistig bwrw ati i lunio rhagamcanion ar gyfer y dyfodol
0
200
400
600
800
1,000
1,200
1,400
1,600
1,800
2,000
2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014 2015 2016 2017 2018 2019 2020 2021 2022 2023 2024 2025
Operati onal Capa city
Capasiti gwirioneddol wedi’i osod Amcanestyniad
2,000 MW erbyn 2025
Diffyg o 6o%
27 MW y.fl. o gapasiti ychwanegol ar gyfartaledd
Cap
asit
i Gw
eith
red
ol
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
29
ar sail y gyfradd ddatblygu hon gan gynnwys Pen-y-Cymoedd.
3.26 Heb gynnwys Pen-y-Cymoedd yn y cynlluniau a gafodd ganiatâd yn ddiweddar, ceir capasiti
ychwanegol blynyddol cyfartalog o 49MW y flwyddyn. Byddai bwrw ati i lunio rhagamcanion
ar gyfer y dyfodol ar y sail hon hefyd yn amheus gan ein bod yn gwybod bod Pen-y-Cymoedd
wedi cael caniatâd. Felly rydym wedi defnyddio canolbwynt rhwng 124MW a 49MW y
flwyddyn: sef 86MW y flwyddyn. Byddai bwrw ati i lunio rhagamcanion ar y sail hon yn
golygu 1,560MW o gapasiti wedi'i osod erbyn 2025 - diffyg o 22% ar 2,000 MW erbyn 2025.
Nodir hyn yn Ffigur 3-5 isod.
Ffigur 3-5: Amcanestyniad ar Sail Cyfraddau Cydsynio Diweddar (ffermydd gwynt sy'n cael eu hadeiladu ac sydd wedi cael caniatâd)
Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK
3.27 Mae'r blaenamcanestyniadau hyn yn cael eu defnyddio fel y sail ar gyfer y senarios datblygu
a brofir gennym yn ein gwaith modelu economaidd (gweler adran 4). Profwn dri senario:
Senario Dyhead: 2,000MW erbyn 2025
Senario Tueddiadau Hanesyddol: parhau â thueddiadau 2001-11
Senario Tueddiadau Diweddar: parhau â thueddiadau cydsynio mwy diweddar
3.28 Rhoddir esboniad llawn o sail y senarios hyn yn Atodiad A.
Canfyddiadau'r Diwydiant o Gymru fel lleoliad i fuddsoddi ynddo
3.29 Drwy ein hymgynghoriadau a'n harolwg o ddatblygwyr a gweithredwyr (gweler Atodiad A
am ragor o fanylion am yr arolwg ac Atodiad B am holiadur yr arolwg), rydym wedi casglu
barn y diwydiant ar Gymru fel lleoliad i ddatblygu prosiectau ynni gwynt ar y tir.
3.30 Trafodir y canfyddiadau allweddol isod.
0
200
400
600
800
1,000
1,200
1,400
1,600
1,800
2,000
2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014 2015 2016 2017 2018 2019 2020 2021 2022 2023 2024 2025
Operati onal Capa city
Capasiti gwirioneddol wedi’i osod
Amcanestyniad
2,000 MW erbyn 2025
Diffyg o 22%
86 MW y.fl. ar sail caniatâd diweddar
Cap
asit
i Gw
eith
red
ol
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
30
Y Gadwyn Gyflenwi
3.31 Gwnaethom ofyn i ddatblygwyr a gweithredwyr i ba raddau y credant y gallant brynu
nwyddau a gwasanaethau o'r ansawdd cywir am y pris cywir, a sut roedd hyn yn amrywio yn
ôl y mathau o nwyddau a gwasanaethau sydd eu hangen i adeiladu a gweithredu ffermydd
gwynt. Nodir cyfran y datblygwyr sy'n credu bod dewis da, neu rywfaint o ddewis, o
gyflenwyr yng Nghymru isod, wedi'i rhannu yn ôl elfen gyffredinol o'r gadwyn gyflenwi.
Ffigur 3-6: Y gallu i brynu nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr a leolir yng Nghymru
Ffynhonnell: Arolwg o Ddatblygwyr a Gweithredwyr (Medi-Tachwedd 2012) n = 15
I ba raddau y gallwch brynu'r amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau, am gost ac o ansawdd priodol, a ddefnyddir
i adeiladu a gweithredu eich cynlluniau ynni gwynt ar y tir gan gyflenwyr wedi'u lleoli yng Nghymru?
3.32 O ran datblygu ac adeiladu, mae'r pwyntiau allweddol fel a ganlyn:
Nododd ychydig dros hanner yr ymatebwyr fod dewis da o gwmnïau peirianneg sifil
yng Nghymru, gyda 33% arall yn nodi bod rhai cyflenwyr yn y maes hwn yng
Nghymru. Cafodd hyn ei gadarnhau yn ein cyfweliadau manylach â datblygwyr a
rhanddeiliaid, a dynnodd sylw at bresenoldeb cryf cwmnïau gwaith sifil. Ymhlith yr
enghreifftiau mae Jones Brothers, a leolir yn Sir Ddinbych ac Abertawe, a Raymond
Brown, ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nododd cyfran lai fod cwmnïau peirianneg
trydanol ar gael (roedd 27% o'r farn bod dewis da ac roedd 40% arall o'r farn bod
rhywfaint o ddewis yng Nghymru).
Nodwyd bod rhai gwasanaethau amgylcheddol ac ymgynghori i'w cael yng Nghymru
hefyd, gyda 93% ac 87% o ymatebwyr yn y drefn honno o'r farn bod dewis da neu
rywfaint o ddewis o gyflenwyr yng Nghymru. Tynnodd ein hymgynghoriadau sylw at
y ffaith bod sawl ymgynghorydd yng Nghymru a allai gynnal Asesiad o’r Effaith
Amgylcheddol. Fodd bynnag, weithiau mae tueddiad i ddatblygwyr benodi cwmnïau
mwy o faint sydd ag enw da am ei bod hi'n fwy tebygol y cynhelir ymchwiliad
cyhoeddus yng Nghymru na Lloegr a'r Alban. Codwyd y pryder nad oes digon o
gwmnïau o faint addas nac â'r profiad addas i gael dyfynbris am brosiect gan
gwmnïau a leolir yng Nghymru yn unig (nid yw llawer o'r cwmnïau mawr a
ddefnyddir yn dod o Gymru oherwydd arbedion maint y DU). Ar y cyfan, credwyd
bod cwmnïau gwasanaethau proffesiynol eraill (cyfreithiol ac ariannol) i'w cael yng
Nghymru (roedd dwy ran o dair o'r farn bod rhywfaint ar gael o leiaf) ond dim ond
0% 10% 20% 30% 40% 50% 60% 70% 80%
% of Developers
Datblygu ac Adeiladu
Dewis da o gyflenwyr yng Nghymru Rhai cyflenwyr yng Nghymru
0% 10% 20% 30% 40% 50% 60% 70% 80% 90%
% of Developers
Gweithrediadau a Chynnal a Chadw
% y
Dat
bly
gwyr
% y
Dat
bly
gwyr
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
31
7% a oedd yn credu bod dewis da o gyflenwyr. Mae Eversheds, a leolir yng
Nghaerdydd, yn enghraifft o gwmni o'r fath.
Roedd tri chwarter yn credu bod rhai cyflenwyr tyrbinau gwynt yng Nghymru, ond
nid oedd unrhyw ddatblygwr o'r farn bod dewis da. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith
mai dim ond un cyflenwr tyrau a geir yng Nghymru ar hyn o bryd (Mabey Bridge, a
leolir yng Nghas-gwent).
3.33 O ran gweithrediadau a chynnal a chadw: mae'r safbwyntiau ynghylch presenoldeb cwmnïau
gwasanaethau amgylcheddol ar gyfer gweithrediadau a chynnal a chadw yn adlewyrchu'r
rhai ar gyfer datblygu ac adeiladu. Ar y cyfan, ni chredwyd bod dewis da o yswirwyr
arbenigol yng Nghymru.
"Er bod angen i rai darnau o dyrbinau ddod o rannau o Ewrop o hyd, nid yw'r sgiliau a'r gwasanaethau sydd eu hangen i adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw ffermydd gwynt yn arbenigol. Maent eisoes i'w cael yn lleol ac o fewn Cymru - o beirianneg sifil i weithredwyr safleoedd, ymchwil i safleoedd i gynhyrchu ffitiadau a gosodiadau dur ac alwminiwm.
3.34 Gofynnodd yr arolwg i ymatebwyr nodi i ba raddau roeddent yn gweld potensial i gynyddu
faint o nwyddau a gwasanaethau a ddarparwyd gan gwmnïau yng Nghymru. Roedd y rhan
fwyaf o ymatebwyr yn gallu gweld rhywfaint o botensial o leiaf i gynyddu eu defnydd o
gwmnïau ar y camau datblygu ac adeiladu dros y tair blynedd nesaf, gyda thraean yn nodi
cryn botensial. Roedd cyfran lai - ond mwyafrif sylweddol serch hynny - o'r farn y gellid
cynyddu'r defnydd o gwmnïau ym maes gweithrediadau a chynnal a chadw%). Roedd bron
hanner yn gweld llawer o botensial.
Ffigur 3-7: Cwmpas i'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu prynu gan gwmnïau yng Nghymru yn debygol o gynyddu yn ystod y tair blynedd nesaf
Ffynhonnell: Arolwg o Ddatblygwyr a Gweithredwyr (Medi-Tachwedd 2012) n = 15
I ba raddau y mae'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu prynu gan gwmnïau yng
Nghymru yn debygol o gynyddu yn ystod y tair blynedd nesaf?
33%
47%
60%
33%
0%
10%
20%
30%
40%
50%
60%
70%
Cwmniau Datblygu ac Adeiladu
Cwmnïau Gweithrediadau
a Chynnal a Chadw
% of Developers
Llawer
Ychydig
% y
Dat
bly
gwyr
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
32
Rhwystrau i Ddatblygu Ymhellach
3.35 Er mwyn dadansoddi'r sefyllfa ymhellach, ceisiodd yr arolwg bennu'r prif rwystr a oedd, ym
marn datblygwyr, yn eu rhwystro rhag defnyddio mwy o nwyddau a gwasanaethau o Gymru
wrth adeiladu a gweithredu cynlluniau ynni gwynt ar y tir. Tynnwyd sylw at amrywiaeth o
faterion, o rwystrau'n ymwneud â materion polisi i natur gystadleuol sylfaen fusnes
bresennol Cymru mewn sectorau perthnasol. Nodir y rhai mwyaf cyffredin isod.
3.36 Mae cryn gytundeb bod y diffyg cydsynio presennol sydd yn yr arfaeth, ynghyd ag
ansicrwydd mwy cyffredinol, yn rhwystr i ddatblygu ymhellach. Ystyrir bod yr ansicrwydd
hwn ynghylch graddau cyfleoedd yn y dyfodol yn llesteirio penderfyniadau buddsoddi'r
gadwyn gyflenwi. Nodwyd yn aml, er mwyn gweld twf yn y gadwyn gyflenwi, fod angen
sicrhau bod digon o waith posibl yn yr arfaeth a bod elfen o sicrwydd ynghlwm wrth hynny.
Rhagolygon cadarn sy'n sail i fuddsoddi mewn capasiti a sgiliau. Nodwyd bod mannau eraill
ledled y byd lle mae graddau'r gwaith arfaethedig yn fwy rhagweladwy ac yn fwy o faint: yn y
cyd-destun hwn, mae llai o achos busnes i fuddsoddi yng Nghymru.
3.37 Aeth rhai o'r ymatebwyr ymhellach, gan nodi'r hyn a oedd, yn eu barn hwy, yn rhesymau
sylfaenol dros yr ansicrwydd hwn, gan gynnwys ansicrwydd ac oedi o ran cael caniatâd
cynllunio. Rhannodd nifer ohonynt eu profiadau eu hunain a phrofiadau datblygwyr eraill o
ran profi oedi wrth geisio cael caniatâd cynllunio ar gyfer ffermydd gwynt a oedd yn rhwystr
pwysig. Cafodd oedi o bum mlynedd neu fwy ei grybwyll.
3.38 Soniodd datblygwyr hefyd am eu canfyddiad o'r diffyg cymorth lleol ar gyfer gwaith
datblygu, a diffyg cydnabyddiaeth o'r buddiannau cysylltiedig. Cyfeiriodd rhai at ddiffyg
arweinyddiaeth strategol a dull gweithredu unedig Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol
sy'n angenrheidiol er mwyn llwyddo o fewn y system gynllunio.
“Mae'r diffyg safleoedd sydd wedi cael caniatâd, a'r diffyg sicrwydd o ran amserlen, yn ei
gwneud hi'n anodd datblygu'r gadwyn gyflenwi gan fod cyfleoedd yn y dyfodol yn ansicr."
“Petai mwy o sicrwydd o ran cael caniatâd cynllunio a phetai mwy o berchenogaeth leol o
dargedau ynni adnewyddadwy Cymru a chydnabyddiaeth o'r buddiannau cysylltiedig, byddai
gan y diwydiant fwy o hyder i fuddsoddi mwy o amser ac arian eto wrth helpu i ddatblygu'r
broses o gyflenwi nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru a'r sylfaen sgiliau berthnasol sydd
ei hangen."
"Ystyrir bod Cymru yn lle ffafriol i ddatblygu ynddo oherwydd y cyflymder gwynt da a'r
adnoddau naturiol sydd gan y wlad i'w cynnig. Yn gyffredinol, o safbwynt cynllunio a'r risg
ddatblygu gyffredinol sy'n gysylltiedig â chael caniatâd cynllunio yng Nghymru, nid ystyrir
bod Cymru yn lle ffafriol i ddatblygu ynddo o gwbl."
3.39 Nododd nifer o ddatblygwyr hefyd fod y diffyg capasiti cymharol a'r diffyg cystadleurwydd o
fewn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru yn rhwystr ynddo'i hun i ddatblygu ymhellach. Mae
cwmpas agweddau ar gadwyni cyflenwi yn fyd-eang yn aml. Gan fod lleoliadau eraill wedi
gwneud mwy o gynnydd yn barod o ran datblygu seilwaith ynni adnewyddadwy, mae eu
cadwyni cyflenwi cysylltiedig wedi tyfu mewn capasiti a phrofiad. O ganlyniad, maent yn aml
mewn gwell sefyllfa i gystadlu am fusnes ynni gwynt ar y tir mewn lleoedd fel Cymru, o ran
ansawdd (oherwydd eu profiad a'u henw da) ac o ran pris (oherwydd dysgu sefydliadol ac
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
33
arbedion maint). Nodwyd hefyd, gan fod llawer o gyflenwyr yng Nghymru yn gymharol fach,
nad oes ganddynt y systemau Sicrhau Ansawdd sydd eu hangen i gystadlu am brosiectau
mawr.
3.40 Yn olaf, ymhlith y materion eraill a nodwyd yn aml roedd cyfyngiadau o ran seilwaith, yn
bennaf diffyg mynediad a seilwaith grid addas a diffyg seilwaith priffyrdd sy'n angenrheidiol
er mwyn hwyluso'r broses adeiladu ac osgoi baich ychwanegol o ran costau i ddatblygwyr.
Mae hyn yn broblem benodol yn y Canolbarth, lle mae angen uwchraddio'r seilwaith grid er
mwyn cysylltu â'r seilwaith ynni adnewyddadwy disgwyliedig. Mae rhai hefyd o'r farn bod
seilwaith ffyrdd yn broblem yn y Canolbarth, gan fod llawer o ffyrdd 'A' yn gul a dan eu sang
oherwydd traffig ymwelwyr a thraffig busnes ar rai adegau o'r flwyddyn. Dywedwyd nad
oedd rheoleiddwyr na Chynghorwyr yn rhagweithiol mewn perthynas â materion
trafnidiaeth, er mwyn lleddfu pryderon buddsoddwyr.
"Mae diffyg seilwaith a rhwydwaith ffyrdd addas, felly disgwylir i'r datblygwr fuddsoddi
amser ac arian er mwyn datrys problemau trafnidiaeth, a buddsoddi yn y gwaith o
atgyfnerthu'r rhwydwaith grid"
Cymru fel lleoliad i fuddsoddi ynddo
3.41 Gwnaethom ofyn i ddatblygwyr i ba raddau roeddent yn ystyried Cymru yn lleoliad ffafriol i
fuddsoddi ynddo o ran prosiectau ynni gwynt ar y tir. Cymysg iawn fu’r ymateb. Ar y cyfan,
mae 40% o ymatebwyr o'r farn bod Cymru yn lle eithaf ffafriol neu ffafriol iawn i fuddsoddi
ynddo. Dim ond lleiafrif bach o ymatebwyr sy'n ystyried bod Cymru yn lle ffafriol iawn (7%).
Nododd tua thraean o ddatblygwyr fod Cymru yn lle eithaf anffafriol neu anffafriol iawn.
Roedd y gweddill yn niwtral.
Ffigur 3-8: Barn ar Gymru fel Lleoliad i Fuddsoddi Ynddo o ran Prosiectau Ynni Gwynt ar y Tir
Ffynhonnell: Arolwg o Ddatblygwyr a Gweithredwyr (Medi-Tachwedd 2012)
3.42 Er mwyn dadansoddi'r ffactorau penodol sy'n sail i'r canfyddiadau cyffredinol hyn,
7%
33%
20% 20%
13%
0%
5%
10%
15%
20%
25%
30%
35%
Ffafriol iawn Eithaf Ffafriol
Niwtral Eithaf
Anffafriol
Anffafriol
iawn
% of response s
% o
’r h
oll
ymat
ebw
yr
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
34
gwnaethom ofyn i ddatblygwyr raddio ffactorau amrywiol yn gadarnhaol, niwtral neu
negyddol o ran eu cyfraniad at Gymru fel lleoliad i fuddsoddi ynddo. Er mai ymateb cymysg a
gafwyd, mae nifer o bwyntiau'n sefyll allan:
Mae'r ymatebion yn awgrymu nad yw'r sylfaen sgiliau'n gyfyngiad yng Nghymru:
roedd 86% o ymatebion yn gadarnhaol neu'n niwtral ynghylch argaeledd gweithwyr
medrus.
Ar y cyfan, ystyrir polisi cynllunio ar lefel Cymru (h.y. TAN 8) yn gadarnhaol neu'n
niwtral. Rhannwyd ymatebwyr o ran eglurder dewis leoliadau datblygu. Fodd
bynnag, mae cytundeb clir bod polisïau ac arferion cynllunio lleol yn ffactor negyddol
o ran y canfyddiad o Gymru fel lle i fuddsoddi ynddo ar gyfer prosiectau ynni gwynt
ar y tir. Mae'r gyfradd gydsynio leol yng Nghymru yn dueddol o fod yn is nag yn
Lloegr a'r Alban; mae hyn yn effeithio ar hyder buddsoddwyr. Mae oedi, diffyg
penderfyniad a gwrthod cais oll yn arwain at gostau busnes uwch.
"Mae polisi cynllunio Cymru yn gefnogol, ond ni cheir perchenogaeth wleidyddol yn lleol"
Ystyrir seilwaith - seilwaith grid a mathau eraill o seilwaith megis y rhwydwaith
ffyrdd - yn ffactorau negyddol hefyd.
Roedd ymatebwyr hefyd wedi'u rhannu ynghylch cymorth datblygu economaidd a
chymunedol. Roedd lleiafrif bach o'r farn eu bod yn gadarnhaol, tra roedd tua
thraean o'r farn eu bod yn negyddol.
Tabl 3‑2: Cyfraniad Ffactorau at Gymru fel Lle i Fuddsoddi Ynddo o ran Ynni Gwynt ar y Tir
Ffactor Cadarnhaol Niwtral Negyddol
Argaeledd Gweithwyr Medrus 43% 43% 7%
Polisi Cynllunio Cymru 33% 47% 20%
Eglurder ynghylch Lleoliadau Datblygu Dewisol 33% 33% 33%
Cymorth Cymunedol 13% 40% 33%
Cymorth Datblygu Economaidd i'r Sector 13% 33% 27%
Argaeledd Seilwaith Arall (ee ffyrdd) 0% 20% 73%
Argaeledd Seilwaith Grid 0% 13% 80%
Polisïau ac Arfer Cynllunio Lleol 0% 20% 80%
Ffynhonnell: Arolwg o Ddatblygwyr a Gweithredwyr (Medi-Tachwedd 2012)
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
35
4. Cyfleoedd Economaidd i Gymru
Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol
Amcangyfrifwn mai £1.13m yw cyfanswm y costau adeiladu cyfartalog fesul MW o
gapasiti a osodwyd, a chyfanswm y costau datblygu yw £0.12m, ar sail prisiau 2012.
Amcangyfrifir bod disgwyl i 35% o'r holl wariant ar y cam adeiladu aros yng
Nghymru, ynghyd â 71% o'r gwariant cynllunio a datblygu.
Caiff £40k fesul MW y flwyddyn ei wario ar weithrediadau a chynnal a chadw, gyda
disgwyl i fwy o wariant aros yng Nghymru nag ar gyfer gwaith adeiladu (76%).
O ran gwaith adeiladu, disgwylir i tua 76% o wariant ar dyrau tyrbinau aros yng
Nghymru, gyda Mabey Bridge a chyflenwyr eraill o bosibl yn cyflenwi'r tyrau dur.
Mae gan Gymru nifer fawr o ddarpar gyflenwyr ym maes peirianneg sifil hefyd,
ynghyd â gwasanaethau coedwigaeth ac amgylcheddol. At ddibenion modelu rydym
wedi gostwng hyn i 50% am resymau darbodus ac er mwyn adlewyrchu'r risgiau
negyddol sydd ynghlwm wrth y disgwyliad hwn.
O ran gweithrediadau a chynnal a chadw, mae'r eitemau mwyaf yn cynnwys rhenti
tir a thaliadau mynediad, a delir i'r Comisiwn Coedwigaeth/Llywodraeth Cymru a
thirfeddianwyr lleol. Mae costau cyflogaeth uniongyrchol yn £9,800 fesul MW wedi'i
osod. Cedwir cryn dipyn o hyn o fewn economi Cymru. Mae taliadau Buddiannau
Cymunedol yn rhan bwysig o wariant gweithredol i gymunedau lleol a leolir a chaiff
yr arian ei wario yn yr ardal leol ar y cyfan.
Nodir yr effeithiau economaidd ar bob cam o gylch oes fferm wynt yn Tabl 4‑6. Dros
y cyfnod asesu llawn, sef 2012-2050, gallai Cymru sicrhau cyfanswm o £2.3bn mewn
GYC, gyda thros 2,300 o swyddi CALl y flwyddyn rhwng 2012 a 2024 a 2,100 o swyddi
CALl rhwng 2025 a 2050. Byddai hyn yn cyfateb i:
£1.4bn o GYC ychwanegol na phetai tueddiadau hanesyddol yn parhau
£0.9bn o GYC ychwanegol na phetai cyfraddau cydsynio mwy diweddar yn
parhau.
Adeiladu a gweithgynhyrchu a ddylai gael y budd mwyaf, ond byddai'r effeithiau i'w
gweld drwy economi gyfan Cymru - gweler Tabl 4‑7.
Mae'n bwysig cydnabod bod hyn yn dangos y budd economaidd posibl i Gymru,
petai'r sector yn datblygu yn unol â'r senarios a phetai'r gadwyn gyflenwi yng
Nghymru yn gallu bodloni'r galw hwn yn ôl y disgwyl. Yn adran 6 edrychwn ar ffyrdd
o sicrhau bod y cyfleoedd sydd ar gael yn cael eu cymryd.
Yn seiliedig ar asesiad o adnoddau presennol ar yr ochr gyflenwi a buddiannau
economaidd ymylol newidiadau mewn systemau prynu, gallai camau i gadw mwy o
wariant yng Nghymru ar gyfer amrywiaeth o sectorau arwain at £7.3m ychwanegol o
GYC a 250 ychwanegol o swyddi cyfwerth ag amser llawn y flwyddyn yn y sefyllfa
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
36
2,000 MW rhwng 2012 a 2024 - gweler Tabl 4‑10. Mae'r tabl hwn hefyd yn dangos
yr effeithiau posibl a fyddai'n cael eu colli petai cyfraddau prynu yn is na'r disgwyl.
Byddai'r 'enillion' mwyaf i'w cael o bosibl o gynyddu lefelau prynu rheoli gwaith
adeiladu, gwaith sifil, gwaith trydanol a chysylltu â'r grid yng Nghymru. Byddai
cynnydd 10 pwynt canran mewn lefelau prynu yng Nghymru yn y sector cyfunol hwn
yn creu amcangyfrif o £3.7m yn ychwanegol o GYC a 140 o swyddi CALl fesul
blwyddyn yn y cyfnod 2012-24 yn y senario 2,000 MW.
Cyflwyniad
4.1 Rhydd yr adran hon amcangyfrifon o effeithiau economaidd datblygu ynni gwynt ar y tir yn y
dyfodol ar Gymru. Fe'i rhennir fel a ganlyn:
Yn gyntaf, aseswn yr effeithiau economaidd a gefnogir gan gamau cynllunio,
datblygu ac adeiladu ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru.
Yn ail, amcangyfrifwn yr effeithiau economaidd ar y cam gweithredol.
Yn olaf, ystyriwn ble mae'r capasiti a'r cyfle i ehangu prynu nwyddau a
gwasanaethau lleol, o ystyried natur yr ochr gyflenwi yng Nghymru, a'r buddiannau
economaidd ychwanegol posibl y gellid eu sicrhau.
4.2 Drwy gydol hyn, profwn y tri senario datblygu ar gyfer y sector a nodwyd yn Adran 3 ac
Atodiad A. Rhoddir cyfrif am agweddau sensitif sy'n dangos sut y gallai newidiadau yng
nghyfran y nwyddau a'r gwasanaethau a brynir yng Nghymru ddylanwadu ar raddau'r
canlyniadau economaidd yn y dyfodol.
4.3 Rhoddir disgrifiad manwl o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd, a'r materion sylfaenol i'w goresgyn
wrth fodelu canlyniadau economaidd datblygu ynni gwynt ar y tir yn Atodiad A.
Cam Datblygu ac Adeiladu
Gweithgareddau
4.4 Caiff cryn dipyn o gostau prosiectau ynni gwynt ar y tir eu talu ymlaen llaw. Cyn i'r gwaith
adeiladu ddechrau ar y safle, caiff symiau mawr o arian eu gwario ar gynllunio'r safle
arfaethedig yn ffisegol, ceisio caniatâd cynllunio, a chyflawni gwaith datblygu cysylltiedig
asesiadau effaith amrywiol er mwyn helpu i gynllunio'r broses. I rai datblygwyr mae hyn yn
cynnwys costau datblygu tendrau ar safleoedd y Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru (TAN
8). Mae'r rhan fwyaf o'r gwariant hwn ar risg y datblygwr ei hun. Po fwyaf y risg o ganlyniad
anffafriol, y mwyaf y tebygolrwydd y bydd datblygwyr yn chwilio am leoedd eraill i fuddsoddi
ynddynt.
4.5 Mae prosiect mwy o faint nodweddiadol yn gofyn am waith peirianneg sifil helaeth o ran
mynediad i'r safle a pharatoi'r safle. Mae llawer o'r safleoedd ffermydd gwynt mwyaf (sydd
eisoes ar waith ac sydd yn yr arfaeth) mewn lleoliadau mwy gwledig ac felly mae angen
datblygu mynediad ffyrdd i leoliadau ochr mynydd yn ofalus. Y prif gydrannau cyfalaf yw'r
tyrbin gwynt ei hun a'r tŵr. Mae maint y cydrannau yn golygu bod cludiant a gwaith gosod
yn broses arbenigol sy'n debyg i beirianneg adeiladu. Unwaith y maent yn eu lle, mae angen
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
37
cynnal cyfres o waith peirianneg trydanol a chysylltu â'r grid pellach cyn dechrau
gweithredu. Gall y cam datblygu cychwynnol hefyd gynnwys gwaith i adfer cynefinoedd neu
ddatblygu cynlluniau rheoli cynefinoedd.
Gwariant a Phrynu
4.6 Dangosir y meincnodau gwariant adeiladu a datblygu a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon
yn Tabl 4‑1. Caiff y rhain eu llywio gan ein harolwg o ddatblygwyr, wedi'u meincnodi yn
erbyn ffynonellau cyhoeddedig eraill a'u profi gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant.
Amcangyfrifwn mai £1.13m yw cyfanswm y costau adeiladu cyfartalog fesul MW o gapasiti
wedi'i osod, a chyfanswm y costau datblygu yw £0.12m, ar sail prisiau 2012.7 Felly, mae
cyfanswm y gwariant adeiladu a datblygu yn £1.25m fesul MW wedi'i osod o gapasiti ar y
tir.
4.7 Mae ein hamcangyfrifon yn awgrymu bod disgwyl i 4.7% o'r holl wariant ar y cam adeiladu
aros yng Nghymru ar gyfartaledd, ynghyd â 35% o'r gwariant cynllunio a datblygu. Fel y
dengys y tabl, mae cryn amrywiad o ran y prif ffigurau hyn rhwng y categorïau o wariant.
Mae hyn yn gysylltiedig â phresenoldeb cyflenwyr addas yng Nghymru a chystadleuaeth gan
gyflenwyr a leolir dramor lle mae ynni gwynt ar y tir yn sector mwy aeddfed:
Nasél, rotor a llafnau tyrbinau gwynt yw'r eitem unigol fwyaf o bell ffordd, sy'n
cyfrif am 47% o'r gwariant adeiladu fesul MW o gapasiti wedi'i osod. Fodd bynnag,
lleolir y rhan fwyaf o gyflenwyr dramor, er enghraifft yn Nenmarc (e.e. Vestas), yr UD
(e.e. GE Energy) a'r Almaen (e.e. Enercon). Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw
weithgynhyrchwyr tyrbinau gwynt yng Nghymru nac yng ngweddill y DU. Felly, mae
holl wariant y cylch cyntaf yn gadael economi Cymru. Caiff y senarios eu datblygu ar
sail y dybiaeth nad yw'r capasiti arbenigol hwn yn debygol o gael ei ddatblygu yng
Nghymru.
Mae i ddatblygu a chynllunio - sy'n cynrychioli tua 10% o'r holl wariant ar ddatblygu
ac adeiladu - gynnwys Cymreig cryf (71% amcangyfrifedig). Yn rhan o hyn mae
arolygon, dylunio, astudiaethau grid ac adnoddau, a gwasanaethau cyfreithiol a
phroffesiynol.
Mae tyrau tyrbinau hefyd yn cynrychioli tua 10% o'r holl wariant a disgwylir i 76%
o'r gofyniad gael ei brynu yng Nghymru yn y dyfodol. Mae gan Gymru un prif
gyflenwr Tyrau: Mabey Bridge, a leolir yng Nghas-gwent. Fodd bynnag, mae
cwmnïau gweithgynhyrchu a pheirianneg adeiladu eraill yng Nghymru o bosibl sydd
â'r gallu i gynhyrchu tyrau dur, er enghraifft, sgiliau peirianneg a phrosesau dethol
yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru sy'n gwasanaethu'r prif burfeydd olew. Mae'n
well gan y datblygwyr mawr (e.e. RWE, Vattenfall) brynu'n lleol ac, os yn bosibl, gael
tyrau gan Mabey Bridge ac maent wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r cyflenwr (mae
gan RWE gytundeb fframwaith gyda hwy). Er bod capasiti i fodloni'r gofyniad
disgwyliedig hwn yng Nghymru8, at ddibenion modelu rydym wedi lleihau'r dybiaeth
7 Noder bod yr holl werthoedd yn cael eu mynegi ar sail prisiau 2012. Mae hyn yn ein galluogi i fynegi gwerthoedd mewn
mesur cyffredin, sydd wedi'i addasu ar gyfer chwyddiant.
8 Noder bod y galw blynyddol am dyrau a awgrymir yn ein senario 2,000 MW a chan ddefnyddio tybiaeth brynu o 76% yn
cynrychioli tua 15% o gapasiti presennol Mabey Bridge.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
38
brynu o 76% i 50%, am resymau darbodus ac er mwyn adlewyrchu'r risgiau negyddol
sydd ynghlwm wrth y disgwyliad hwn. Mae lefelau prynu lleol ar gyfer y tyrau a
ddisgrifiwyd yn yr arolwg hwn yn uwch na lefelau hanesyddol, ac maent yn deillio o
gydberthynas fasnachol benodol rhwng yr unig gynhyrchydd tyrau yng Nghymru a
nifer o ddatblygwyr mawr. Felly, mae amcangyfrifon hanesyddol yr effaith
economaidd (2005-11 isod) wedi cael eu diwygio er mwyn cynrychioli gwerthiannau
blaenorol gwirioneddol gan Mabey Bridge i ddatblygiadau yng Nghymru.
Mae gan Gymru nifer fawr o ddarpar gyflenwyr ym maes peirianneg sifil hefyd, sy'n
cyfrif am 12% o'r holl wariant. Mae hyn yn cynnwys cyflenwyr i adeiladu ffyrdd
mynediad ac esgeiriau, sylfeini a lleiniau caled, ffensys ac ati. O ran cysylltu â'r grid,
byddai hyn yn cynnwys gwasanaethau peirianneg, adeiladu a chydrannau.
Mae gwasanaethau coedwigaeth ac amgylcheddol megis cwympo coed, tirlunio a
gwaith amgylcheddol arall fel arfer yn gyfran gymharol isel o'r holl wariant, er bod y
rhan helaeth o'r gwasanaethau hyn fel arfer yn cael eu darparu gan gwmnïau
Cymreig a Mentrau Coedwigaeth.
4.8 At hynny, fel rhan o'r holl waith modelu a dadansoddi cadwyni cyflenwi o hyn ymlaen rydym
wedi lleihau'r dybiaeth prynu lleol i 50% er mwyn adlewyrchu'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r
crynhoad cyflenwi hwn. Unwaith y bydd ffermydd gwynt yn cyrraedd diwedd eu hoes
weithredol, cânt eu datgomisiynu neu eu hailbweru. Mae angen gwariant cyfalaf er mwyn
cyflawni'r ddau.
Tabl 4‑1: Gwariant Cyfartalog fesul MW o Gapasiti wedi'i Osod ar gyfer y Cam Datblygu ac
Adeiladu a'r Gyfradd Brynu Ddisgwyliedig o Gymru
£ fesul MW (cyfanswm)
% a gaiff ei phrynu o
Gymru
£ fesul MW (Cymru)
Datblygu a chynllunio 120,000 71% 85,000
Adeiladu
Rheoli Prosiectau ym maes Adeiladu 58,000 82% 47,000
Nasél, Rotor a Llafnau Tyrbinau Gwynt 528,000 0% -
Tyrau Tyrbinau Gwynt 140,000 76%* 106,000
Cludo, Cydosod a Gosod Tyrbinau Gwynt 67,000 61% 41,000
Gwaith Peirianneg Sifil 147,000 76% 112,000
Gwaith Peirianneg Drydanol 85,000 28% 24,000
Cysylltu â'r Grid a Gwaith Cysylltiedig 90,000 55% 49,000
Gwasanaethau Coedwigaeth a'r Amgylchedd (gan gynnwys rheoli cynefinoedd)
18,000 92% 17,000
Cyfanswm Adeiladu (heb gynnwys cynllunio) 1,133,000 35% 396,000
Ffynhonnell: Arolwg o Ddatblygwyr a Gweithredwyr Noder: Efallai na fydd y ffigurau'n crynhoi oherwydd talgrynnu * Noder er bod hyn yn cynrychioli bwriad datblygwyr, yn y gwaith modelu rydym wedi lleihau hyn i 50%, er mwyn bod yn geidwadol.
Effeithiau Economaidd i Gymru
4.9 Mae Tabl 4-2 yn dangos effaith economaidd capasiti wedi'i osod sy'n deillio o gamau
datblygu ac adeiladu rhwng 2005 a 2011. Amcangyfrifwn, unwaith y rhoddir cyfrif am
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
39
effeithiau economaidd uniongyrchol, anuniongyrchol ac wedi'u cymell yng Nghymru, y caiff
£0.3m o GYC a thua 12 o swyddi CALl eu cefnogi fesul MW o gapasiti wedi'i osod. Gan
ganiatáu ar gyfer y capasiti cyfartalog blynyddol sydd wedi'i osod yn ystod y cyfnod hwn,
amcangyfrifwn £7.8m o GYC a 335 o swyddi CALl y flwyddyn yng Nghymru (cyfanswm o
£54.6m o GYC yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod).9
Tabl 4‑2: Effeithiau Economaidd Datblygu ac Adeiladu Ffermydd Gwynt ar y Tir yng Nghymru, 2005-
11
Cyfartaledd blynyddol Cyfanswm yn ystod y cyfnod
GYC (£m) Swyddi CALl GYC (£m) CALl Blynyddoedd
Pobl
Cynllunio, datblygu ac
adeiladu 7.8 335 £54.6 2,345
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o
ffermydd gwynt.
Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012.
4.10 Mae Tabl 4-3 yn defnyddio'r llinell sylfaen a ddisgrifiwyd uchod er mwyn pennu'r effeithiau
economaidd a welir yn y dyfodol ar gyfer ein tri senario.
4.11 Mae'r canlyniadau o ran effaith economaidd ar gyfer y senario 2,000MW fel a ganlyn:
Rhwng 2012 a 2024 amcangyfrifwn y byddai effeithiau blynyddol cyfartalog
datblygiadau newydd yn cyfateb i £38m o GYC a 1,610 o swyddi CALl. O ystyried yr
hyn a wyddom am brosiectau sydd yn yr arfaeth, mae'n debygol y byddai mwy o'r
effaith hon yn cael ei theimlo hyd at 2020, gan fod llawer o'r prosiectau yn y system
gynllunio yn debygol o gael eu cyflwyno yn ystod y cyfnod hwn.
Rhwng 2025 a 2050 amcangyfrifwn y byddai £20m o GYC ac 820 o swyddi CALl y
flwyddyn ar gyfartaledd, yn sgil y gwaith cynllunio ac adeiladu angenrheidiol er
mwyn ailbweru ffermydd gwynt wrth iddynt gyrraedd diwedd eu hoes weithredol.
4.12 Mae hyn yn awgrymu, rhwng 2012 a 2024, y byddai tua £500m o GYC yn cael ei gefnogi yng
Nghymru, a £500m ychwanegol o GYC rhwng 2025 a 2050.
4.13 Wrth ddehongli'r ffigurau hyn, mae'n bwysig nodi bod y swyddi a gaiff eu cefnogi yn
gymysgedd o wahanol rai, y mae llawer ohonynt dros dro ar y cam adeiladu, tra bod eraill yn
swyddi tymor hwy (e.e. gweithgynhyrchu tyrau a gefnogir yn barhaus gan y gwaith datblygu
sydd yn yr arfaeth). Felly, gellir mynegi'r swyddi hyn yn nhermau "blynyddoedd pobl" o ran
gwaith. Rhwng 2012 a 2024 byddai hyn yn cyfateb i dros 20,000 o flynyddoedd gwaith pobl.
4.14 Gan droi at y senarios eraill:
9 Dylid nodi mai amcangyfrifon yw'r rhain ac y gallai newidiadau bach yng ngwerth y contractau a enillir gan gwmnïau o
Gymru newid yr effaith ar gyflogaeth. Hefyd, dim ond cyfran o'r effaith hon o ran swyddi a GYC a welir gerllaw ffermydd gwynt a ddatblygwyd. Fodd bynnag, mae'r fath weithgarwch yn dal i gynrychioli effeithiau a groesewir ar yr economi leol, yn enwedig lle gwelwyd datblygiadau mewn rhannau mwy gwledig o Gymru lle mae cyfleoedd economaidd yn fwy prin. Edrychwn yn fanylach ar effeithiau economaidd lleol yn adran 5.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
40
Petai tueddiadau hanesyddol yn parhau, rhwng 2012 a 2024 byddai £12m o GYC y
flwyddyn ar gyfartaledd, gan gefnogi 500 o swyddi CALl y flwyddyn. Rhwng 2025 a
2050, byddai £6m o GYC a 240 o swyddi CALl ar gyfartaledd y flwyddyn, oherwydd,
dan y senario hwn, caiff llawer llai o gapasiti ei ddatblygu ac felly mae angen llai o
ailbweru. Unwaith eto, byddai'r senario twf arafach hwn yn gweld cyfanswm o bron
£155m o GYC yn cael ei gefnogi rhwng 2012 a 2014, a £148m arall rhwng 2025 a
2050.
O dan y Senario Tueddiadau Diweddar, rhwng 2012 a 2024 byddai £23m o GYC y
flwyddyn ar gyfartaledd yn cael ei gefnogi, ynghyd â 810 o swyddi CALl y flwyddyn.
Rhwng 2025 a 2050 byddai £11m o GYC a 410 o swyddi CALl yn cael eu cefnogi bob
blwyddyn ar gyfartaledd. Byddai hyn yn cyfateb i gyfanswm o £290m o GYC yn cael
ei gefnogi rhwng 2012 a 2014, a £290m arall rhwng 2025 a 2050.
Tabl 4‑3: Effeithiau Economaidd y Camau Cynllunio, Datblygu ac Adeiladu i Gymru
(cyfartaledd y flwyddyn)
Senario 2,000 MW Senario Tueddiadau
Hanesyddol
Senario Tueddiadau
Diweddar
2012-24 2025-50 2012-24 2025-50 2012-24 2025-50
GYC (£m) 38 20 12 6 23 11
Cyflogaeth (CALl) 1,610 820 500 240 810 410
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o
ffermydd gwynt.
Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012. Mae'r amcangyfrifon yn tybio cyfradd brynu o
50% ar gyfer tyrau ac maent yn cynnwys effeithiau datgomisiynu/ailbweru.
4.15 Byddai hyd yn oed y senario tueddiadau hanesyddol yn cyflawni tua 6,000 o flynyddoedd
gwaith pobl, yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni. Dylid nodi nad yw'r
amcangyfrifon a gyflwynwyd yn rhoi unrhyw gyfrif am ddadleoli gweithgarwch arall yn ystod
y cyfnod. Fodd bynnag, mae'n rhesymol tybio y bydd cryn dipyn o'r effaith economaidd hon
yn ychwanegiad net i Gymru, o ystyried y capasiti sbâr sylweddol yn y sector adeiladu yn yr
hinsawdd economaidd sydd ohoni.
4.16 Mae'r dadansoddiad hefyd yn tynnu sylw at ganlyniadau economaidd methu â chyflawni'r
senario 2,000 MW:
Rhwng 2012 a 2024 byddai'r 2,000 MW yn cyflawni £26m o GYC blynyddol a 1,100 o
swyddi CALl ychwanegol y flwyddyn o gymharu â'r senario Tueddiadau Hanesyddol.
Yn ystod y cyfnod hwn, byddai hyn yn cyfateb i wahaniaeth o fwy na £340 miliwn
mewn GYC i Gymru a 14,400 o flynyddoedd gwaith pobl.
Rhwng 2025 a 2050, byddai hyn yn cyfateb i wahaniaeth o £360m a 15,100 o
flynyddoedd gwaith pobl.
4.17 Byddai'r prif effeithiau o dan y senario 2,000 MW i'w gweld ar y camau datblygu a
chynllunio, adeiladu tyrau a gwaith peirianneg sifil. Ar gyfer pob un o'r rhain, disgwylir i'r
defnydd o gyflenwyr Cymreig fod yn gymharol uchel, ac mae lle i gynyddu hyn ymhellach, yn
enwedig ym meysydd datblygu a chynllunio a pheirianneg sifil. Mae darparwyr
gwasanaethau peirianneg sifil dethol o Gymru eisoes wedi datblygu'r arbenigedd a'r capasiti
i wasanaethu contractau mewn rhannau eraill o'r DU. Byddai hefyd effeithiau economaidd
cryf yn gysylltiedig â gwario tâl a chyflogau yng Nghymru, gan fod o fudd i sectorau sy'n
ymwneud â defnyddwyr.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
41
Cam Gweithredol
Gwariant a Phrynu
4.18 Mae patrymau gwariant ar y cam gweithredol a chynnal a chadw yn wahanol iawn i'r rheini a
welir ar y cam adeiladu, sef lefelau prynu lleol uwch ar y cam gweithredol a chynnal a chadw
o gymharu â'r cam datblygu ac adeiladu, heb gynnwys cyfarpar a darnau sbâr Tabl 4‑4).
Disgwylir i 76% o'r holl wariant yn y cylch cyntaf aros yng Nghymru.
4.19 Amcangyfrifwn y bydd y costau gweithredol cyfartalog fesul MW o gapasiti wedi'i osod (heb
gynnwys darpariaethau buddiannau cymunedol) yn £38,600 y flwyddyn. Mae hyn yn llawer
llai na'r camau datblygu ac adeiladu: ar gyfartaledd, am bob £1 fesul MW ar y cam
gweithrediadau gwelir tua £33 ar y camau datblygu ac adeiladu.
Tabl 4‑4: Gwariant Cyfartalog fesul MW o Gapasiti wedi'i Osod ar gyfer y Cam Gweithrediadau a Chynnal a Chadw a'r % a gaiff ei Phrynu o Gymru
£ fesul MW (cyfanswm)
% yng Nghymru
Cymru £ fesul MW
Costau Cyflogaeth:
- Gweithredu a Rheoli Ffermydd Gwynt 3,600 79% 2,800
- Cynnal a Chadw Tyrbinau 5,700 89% 5,000
- Gweithgareddau Eraill 500 75% 400
Costau Allanol/Prynu i Mewn
Cyfarpar a Darnau Sbâr 8,400 22% 1,800
Coedwigaeth a'r Amgylchedd (gan gynnwys rheoli cynefinoedd)
600 97% 500
Yswiriant 1,500 28% 400
Rhenti Tir/Taliadau Mynediad 12,000 100% 12,000
Ardrethi Busnes 6,400 100% 6,400
Cyfanswm y Gwariant Gweithredol 38,600 76% 29,400
Ffynhonnell: Arolwg o Ddatblygwyr a Gweithredwyr Noder: Efallai na fydd y ffigurau'n crynhoi oherwydd talgrynnu
4.20 Yr eitem fwyaf o wariant yw rhenti tir a thaliadau mynediad, a delir i'r Comisiwn
Coedwigaeth (ac yn y pen draw i Lywodraeth Cymru) neu i dirfeddianwyr preifat, yn dibynnu
ar leoliad y cynllun. Yn amlwg, mae effaith economaidd lawn y gwariant hwn yn amrywio yn
dibynnu ar sut y defnyddir yr incwm yn y pen draw gan y sawl sy'n cael budd.10 Mae'r un
peth yn gymwys i ardrethi a delir i awdurdodau lleol. Yn y ddau achos, disgwylir i'r holl
wariant hwn aros yng Nghymru (er efallai na fydd y sawl sy'n cael budd megis tirfeddianwyr
preifat yn gwario'r holl arian hwn yng Nghymru).
4.21 Cyfanswm y costau cyflogaeth yr eir iddynt gan ddatblygwyr yw £4.21 fesul MW gyda'r rhan
fwyaf yn aros yn economi Cymru. Yn ymarferol, mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar y
10
Mae'r derbynebau ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno i'r Trysorlys canolog a chânt eu defnyddio i ariannu ystod eang iawn o weithgareddau. Felly, nid oes modd bod yn benodol ynghylch y ffordd y caiff yr arian hwn ei wario.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
42
graddau y caiff gweithgareddau eu his-gontractio neu eu cyflawni'n fewnol. Yn naturiol,
mae'r swyddi a gaiff eu creu'n uniongyrchol ar gam gweithredol prosiect ynni gwynt ar y tir
yn llai nag ar y cam adeiladu. Fodd bynnag, lle mae'r swyddi a gaiff eu creu mewn rolau
cynnal a chadw cymhleth sydd ag enillion uwch, byddai'r cyfleoedd medrus a ddarparwyd yn
unol ag anghenion economaidd-gymdeithasol ardaloedd gwledig yn arbennig, sy'n gartref i
rai o'r ffermydd gwynt mwyaf.
4.22 Mae taliadau Budd Cymunedol yn rhan bwysig o wariant gweithredol i gymunedau lleol a
leolir gerllaw ffermydd gwynt a chaiff yr arian ei wario yn yr ardal leol ar y cyfan. Ymhlith
nodweddion cyffredin cynlluniau buddiannau cymunedol mae:
llifau buddiannau ariannol i gymunedau lleol e.e. cronfa gymunedol i gyflawni
amcanion cymunedol a diwallu anghenion cymunedol; ynni â chymhorthdal ac ati
cyfraniadau mewn da at asedau a chyfleusterau lleol h.y. mesurau gwella
amgylcheddol, yng nghyd-destun ffactorau allanol ffermydd gwynt; datblygu
cyfleusterau ymwelwyr, rhaglenni addysg.
4.23 Ar gyfer y taliadau hyn, mae gwariant yn cael ei gyfrifo'n aml fel swm sefydlog fesul MW o
gapasiti wedi'i osod. Yn bwysig ddigon, mae'r gwariant sy'n gysylltiedig â chynlluniau
buddiannau cymunedol yn lleol yn bennaf am eu bod yn cael eu rheoli'n aml gan sefydliadau
cymunedol, yn aml gyda chyfranogiad cynghorau cymuned a phersonél datblygwyr. Mae
ymchwil flaenorol wedi dangos bod cronfeydd yn amrywio o ran cynlluniau yng Nghymru ac
maent wedi bod yn cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf (Cowell et al., 2011). Bellach, nid
yw cronfeydd o £5,000 fesul MW yn anarferol. Ein tybiaeth ganolog ar gyfer y gwaith modelu
economaidd yw £3,000 ar gyfartaledd fesul MW wedi'i osod. Cydnabyddir bod gwaith
pellach yn debygol o fod yn angenrheidiol yn y blynyddoedd i ddod er mwyn mesur effaith
lawn taliadau buddiannau cymunedol, o ystyried graddau'r cyllid a'r ffocws daearyddol.
Effeithiau Economaidd
4.24 Amcangyfrifwn, dros y cyfnod hwn, i weithgarwch gefnogi £6m o GYC a 210 o swyddi CALl
bob blwyddyn ar gyfartaledd. Mae Tabl 4-5 yn crynhoi'r canfyddiadau o'r asesiad effaith
economaidd ar gyfer y cam gweithrediadau a chynnal a chadw. Mae'r prif bwyntiau i'w nodi
fel a ganlyn:
O dan y Senario 2,000 MW, amcangyfrifwn y caiff £22m o GYC ei gefnogi bob
blwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2012 a 2024, ynghyd â 720 o swyddi CALl y flwyddyn.
O ystyried y cynnydd mewn capasiti, mae hyn yn cynyddu i £37m o GYC y flwyddyn
ar gyfartaledd rhwng 2025 a 2050, ynghyd â 1,260 o swyddi CALl cysylltiedig y
flwyddyn. Mewn termau cyffredinol iawn, rhwng 2012 a 2024 o dan y senario 2,000
MW, byddai gweithgarwch datblygu ac adeiladu yn cefnogi bron ddwywaith y GYC y
flwyddyn o gymharu â gweithgarwch gweithredol.
O dan y senario Tueddiadau Hanesyddol, rhwng 2012 a 2024 byddai £11m o GYC y
flwyddyn a 370 o swyddi CALl y flwyddyn. Byddai gweithgarwch gweithredol yn
cefnogi £15m o GYC a 500 o swyddi CALl y flwyddyn rhwng 2025 a 2050 (h.y. llai na
hanner yr hyn a fyddai'n cael ei sicrhau o dan y senario 2,000 MW).
Byddai'r senario Tueddiadau Diweddar yn cyflawni £13m o GYC a 470 o swyddi CALl
y flwyddyn rhwng 2012 a 2024, a £23m o GYC a 770 o swyddi CALl y flwyddyn rhwng
2025 a 2050.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
43
4.25 Os cymharir y senarios 2,000 MW a Thueddiadau Hanesyddol, gwelir gwahaniaeth o tua
£11m o GYC y flwyddyn rhwng 2012 a 2024 a thua 350 o swyddi CALl y flwyddyn. Yn ystod y
cyfnod hwn, byddai hyn yn cyfateb i wahaniaeth o dros £130 miliwn mewn GYC i Gymru.
4.26 O ystyried proffil presennol gwariant gweithredol, mae cryn dipyn o'r effaith economaidd ar
y cam gweithredol yn deillio o wario tâl a chyflogau'r rheini sy'n cyflawni gweithrediadau
arferol, ac yna'r defnydd a wneir o daliadau rhent ac ardrethi.
Tabl 4‑5: Effeithiau Economaidd y Cam Gweithrediadau a Chynnal a Chadw i Gymru (cyfartaledd y
flwyddyn)
Sefyllfa 2,000 MW Senario Tueddiadau Hanesyddol
Senario Tueddiadau Diweddar
2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050
GYC (£m) 22 37 11 15 14 23
Cyflogaeth (CALl) 720 1,260 370 500 470 770
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o
ffermydd gwynt. Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012.
Effeithiau Economaidd a Ragwelir
4.27 Mae Tabl 4-6 yn dangos yr effeithiau economaidd cyffredinol i Gymru ar bob cam o gylch oes
fferm wynt o dan ein senarios, rhwng 2005 a 2050.11 Mae'r effeithiau GYC cyfartalog y
flwyddyn rhwng 2012 a 2024 rhwng £60m o dan y senario 2,000 MW a £23m o dan y senario
tueddiadau hanesyddol. Yn ystod yr un cyfnod, byddai cyfanswm yr effeithiau o ran
cyflogaeth yn amrywio rhwng 870 o swyddi CALl a 2,330 o swyddi CALl y flwyddyn.
4.28 Mae hyn yn awgrymu, yn ystod y cyfnod asesu llawn, sef 2012-2050, y gallai Cymru sicrhau
cyfanswm o £2050bn mewn GYC, ar yr amod bod 2.3 MW o gapasiti a osodwyd yn cael ei
gyflawni erbyn 2,000. Byddai hyn yn cyfateb i:
£1.4bn o GYC ychwanegol na phetai tueddiadau hanesyddol yn parhau
£0.9bn o GYC ychwanegol na phetai cyfraddau cydsynio mwy diweddar yn parhau.
Tabl 4‑6: Effeithiau Economaidd Cyffredinol y Camau Datblygu, Adeiladu a Gweithrediadau a Chynnal a Chadw
Sefyllfa 2,000 MW Senario Tueddiadau Hanesyddol
Senario Tueddiadau Diweddar
2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050
GYC (£m) 60 57 23 21 36 34
Cyflogaeth (CALl) 2,330 2,080 870 740 1,280 1,180
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o ffermydd gwynt. Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012. Mae'r amcangyfrifon yn tybio cyfradd brynu o 50% ar gyfer tyrau.
11
Mae'n bwysig cydnabod nad yw ein hamcangyfrifon drwy gydol y bennod hon yn rhoi unrhyw gyfrif am leihau nifer y swyddi a GYC yn y dyfodol yn ôl i werthoedd 2012 'presennol’. Yna, cydnabyddwn fod £m o GYC a gynhyrchir yn 2025 yn werth llai na £m o GYC a gynhyrchir yn 2012.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
44
4.29 Mae ein gwaith modelu yn rhoi syniad o'r ffordd y caiff yr effeithiau economaidd hyn eu
rhannu ar draws sectorau. Rhydd Tabl 4-7 effaith sectoraidd swyddi ar gyfer y senario 2,000
MW:
Ym maes adeiladu y gwelir yr effeithiau CALl mwyaf, gydag ymhell dros hanner (58%)
o'r holl swyddi ar y cam Adeiladu a Datblygu. Mae hyn yn creu cyfanswm o bron
1,000 o swyddi CALl ym maes adeiladu bob blwyddyn hyd at 2024. Y maes adeiladu
sydd hefyd yn cyfrif am y gyfran fwyaf o swyddi ar y cam gweithrediadau a chynnal a
chadw, er mai dim ond tua 40% o'r holl swyddi yw hynny. Gallai'r diwydiant adeiladu
gyflenwi 1,220 o gyflogeion CALl bob blwyddyn yn y cyfnod hyd at 2025 a 960 o
gyflogeion CALl bob blwyddyn ar ôl hynny er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a
gweithredu ffermydd gwynt.
Mae gweithgynhyrchu hefyd yn cael budd, yn enwedig y diwydiannau metalau. O
ystyried y ffaith bod lefelau cyfalaf yn uwch, mae'r buddsoddiad yn cefnogi llai o
swyddi - tua 250 hyd at 2025 a thua 150 ar ôl hynny.
Rhennir yr effeithiau ar draws economi gyfan Cymru. Amcangyfrifir y bydd
gwasanaethau preifat yn cynyddu nifer y swyddi bron 300 o swyddi CALl y flwyddyn
hyd at 2025 a bron 400 ar ôl hynny, tra y bydd gwasanaethau proffesiynol ac
ariannol (sy'n canolbwyntio ar weithgareddau cynllunio a pheirianneg yma) yn
cynyddu tua 300 o swyddi bob blwyddyn hyd at 2050.
Tabl 4‑7: Effeithiau Swyddi CALl blynyddol fesul Sector o'r Diwydiant: Sefyllfa 2,000 MW
2012 – 2024 2025-2050
Datblygu ac Adeiladu
Gweithrediadau a Chynnal a
Chadw
Datblygu ac Adeiladu
Gweithrediadau a Chynnal a
Chadw
Sylfaenol a mwynau
190 20 100 40
Gweithgynhyrchu ac Ynni
230 20 120 40
Adeiladu 930 290 460 500
Gwasanaethau preifat a thrafnidiaeth
110 180 60 320
Gwasanaethau Proffesiynol ac Ariannol
130 70 70 120
Arall 20 140 10 240
Cyfanswm 1,610 720 820 1,260
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o ffermydd gwynt.
Dosbarthiad Gofodol
4.30 Mae'r dadansoddiad uchod wedi canolbwyntio ar effeithiau economaidd ar lefel Cymru
gyfan. Mae'n fwy anodd pennu ymhle y gwelir effeithiau economaidd yng Nghymru. O dan y
senario datblygu 2,000 MW disgwylir i ardaloedd yn y Canolbarth (Powys a Cheredigion) a
De-orllewin Cymru fod yn gartref i ryw 80% o'r capasiti wedi'i osod, a chyda chryn dipyn o'r
categorïau gwahanol o wariant ynghlwm wrth ddatblygiadau disgwyledig yn yr un ardaloedd
hyn.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
45
4.31 Fodd bynnag, nid yw'r effeithiau economaidd yn debygol o ddilyn patrwm gofodol datblygu
gyda thimau adeiladu'n symudol a'r ochr gyflenwi yn y Canolbarth yn arbennig yn gyfyngedig
iawn o ran categorïau gwariant datblygu ac adeiladu. Er enghraifft, roedd Sir Gaerfyrddin,
Powys, Ceredigion, Abertawe a Sir Benfro gyda'i gilydd yn rhoi cyfrif am tua 22% o economi
Cymru o ran y cyfraniad at GYC yn 2010. Yn wir, dadleuodd Munday et al (2011) fod yr ochr
gyflenwi gyfyngedig o amgylch y ffermydd gwynt mwyaf yn y Canolbarth hyd at 2007 yn
darparu cyd-destun allweddol o ran esblygiad y buddiannau cymunedol a ddarparwyd gan
ddatblygwyr.
4.32 Down i'r casgliad fod dosbarthiad gofodol effeithiau economaidd uniongyrchol,
anuniongyrchol ac wedi'u cymell o ynni gwynt ar y tir yn debygol o ddilyn patrwm dosbarthu
presennol gweithgarwch economaidd yng Nghymru h.y. tua 60% o'r effeithiau uniongyrchol,
anuniongyrchol ac wedi'u cymell i'w gweld yn Ne-ddwyrain Cymru, a thua un rhan o bump
yn y Canolbarth a De-orllewin Cymru. Byddai'r gweddill yn y Gogledd.
Seilwaith Grid
4.33 Mae'r datblygiadau tyrbinau gwynt sydd wedi'u cymeradwyo ac sydd yn y system gynllunio
ar hyn o bryd yn ei gwneud yn ofynnol i uwchraddio cysylltiadau grid (gan y Grid
Cenedlaethol) o Ddwyrain Canolbarth Cymru i Swydd Amwythig i ganolfannau poblogaeth.
Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn esgor ar effeithiau economaidd, i Gymru a Swydd
Amwythig yn ogystal â thu hwnt.
4.34 Prin yw'r wybodaeth sydd ar gael am natur economaidd y datblygiad hwn, er bod y
penderfyniad ar y llwybr(au) dymunol wedi'i drafod yn helaeth yn nogfennaeth y Grid
Cenedlaethol12. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi costau cyfalaf ac oes cyffredinol ar gyfer nifer
o lwybrau penodol gan isorsafoedd arfaethedig naill ai yng Nghefn Coch neu Aber-miwl.
Ymhob achos, cânt eu darparu ar gyfer cysylltiadau sy'n gyfangwbl uwchben neu dan y
ddaear.
4.35 Nid oedd y Grid Cenedlaethol yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth am y dadansoddiad o wariant
disgwyliedig ar sail daearyddol na nwyddau. Serch hynny, rydym wedi ceisio amcangyfrif (er
dim ond mewn termau dangosol) graddau tebygol yr effaith economaidd yng Nghymru yn
dilyn y gwaith hwn. Rhestrir y tybiaethau modelu blaenorol yn Atodiad A.
4.36 Rhydd Tabl 4-8 effaith economaidd amcangyfrifedig y gwelliannau grid yn y Canolbarth ar
Gymru. O'r gwariant o £130m sy'n gysylltiedig â'r opsiwn uwchben, amcangyfrifwn fod
Cymru yn gweld tua £22m, sy'n ymwneud â thros £10m o GYC yng Nghymru. Mae'r
gweithgarwch economaidd ychwanegol hwn yn gysylltiedig â thua 360 o flynyddoedd gwaith
pobl.
4.37 Yn amlwg, mae'r opsiwn tanddaearol yn ddrutach ac felly gwelir mwy o effaith economaidd.
O'r £0.5 biliwn bron mewn gwariant, amcangyfrifir bod Cymru yn gweld £83.2m a bod hyn
wedyn yn arwain at £56.5m mewn GYC ychwanegol. Mae'r senario hwn yn arwain at 1,950 o
flynyddoedd gwaith pobl ychwanegol yng Nghymru yn ystod cylch oes y seilwaith.
12
http://www.nationalgrid.com/NR/rdonlyres/DC97DCAA-A978-4292-B7E7-61827F57AB4D/55369/MidWalesStatementofPreferenceDraftJuly2012.pdf
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
46
Tabl 4‑8: Effaith Economaidd Amcangyfrifedig Datblygu Seilwaith Grid yn y Canolbarth
Uwchben Dan ddaear
Gwariant Gros (Costau cylch oes) (£m) 130 495
Gwariant amcangyfrifedig yng Nghymru (£m) 21.7 83.2
Effaith Economaidd (Cymru):
GYC (£m) 10.6 56.5
Swyddi CALl/Blynyddoedd pobl 360 1,950
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU gan ddefnyddio data a gyhoeddwyd gan y Grid Cenedlaethol Noder: nid yw'r cyfnod adeiladu yn hysbys, felly caiff effeithiau ar swyddi eu mynegi fel blynyddoedd pobl.
Cwmpas i Sicrhau'r Buddiannau Mwyaf i Gymru
Goblygiadau Patrymau Prynu Disgwyliedig
4.38 Mae'n bwysig nodi bod ein dadansoddiad yn dynodi graddau posibl yr effeithiau
economaidd, petai'r gwaith datblygu yn parhau yn unol â'r senarios a phetai'r gadwyn
gyflenwi yng Nghymru yn gallu ymateb i'r galw dilynol am nwyddau a gwasanaethau.
4.39 Un o ffactorau allweddol lefel yr effeithiau economaidd ar Gymru yw'r graddau y mae modd
prynu'r nwyddau a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bob cam o gylch oes fferm wynt o
Gymru. Yn amlwg mae cyfyngiadau o ran yr hyn y gall economi fechan fel un Cymru ei
darparu o ran nwyddau a gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion datblygwyr ffermydd
gwynt.
4.40 Er enghraifft, mae'r arbedion maint sydd eu hangen wrth gynhyrchu tyrbinau, rotorau a
llafnau yn golygu mai dim ond nifer fach o safleoedd ledled Ewrop a fyddai'n ddichonadwy.
O ystyried patrwm daearyddol ffermydd gwynt hyd yma, mae gweithgynhyrchwyr tyrbinau
wedi datblygu mewn rhannau amrywiol o gyfandir Ewrop. Ar hyn o bryd, dim ond un
gweithgynhyrchydd o'r fath sy'n debygol o fod wedi'i leoli yn y DU (ffatri Siemens yn Hull).
Ar yr un pryd, datgelodd ein harolwg o ddatblygwyr, mewn rhai achosion, fod y graddau y
prynwyd nwyddau a gwasanaethau dethol o Gymru eisoes yn uchel.
4.41 Mae hefyd yn werth nodi y gallai'r cynnydd mewn gweithgarwch a ddisgrifiwyd o dan y
senario 2,000 MW beri newid sylfaenol o ran ochr gyflenwi'r economi. Er enghraifft, gallai
newid o ran y galw gan ddatblygwyr leihau costau fesul MW wedi'i osod wrth i'r graddau
gynyddu. At hynny, gallai'r twf mawr mewn galw o dan y senario hwn arwain at gyflwyno
cryn dipyn o gapasiti newydd ar ochr gyflenwi'r sector a allai hefyd gael effaith fach ar
brisiau.
4.42 Mae Tabl 4-9 yn ailystyried gwybodaeth yr arolwg ar gyfer categorïau gwariant dethol ar y
cam gweithredol a'r cam datblygu. Mae'r drydedd golofn yn nodi'r disgwyliadau ym maes
prynu yng Nghymru, tra bod y bumed golofn yn dangos amcangyfrif o'r holl wariant a gollir i
Gymru fesul MW o gapasiti wedi'i osod oherwydd y patrymau prynu hyn. Er enghraifft:
mae 71% o'r gwariant ym maes datblygu a chynllunio o fewn Cymru a chaiff yr hyn
sy'n weddill (sy'n cyfateb i £3,500 fesul MW) ei brynu o'r tu allan i Gymru
caiff 76% o waith peirianneg sifil ei brynu o Gymru; unwaith eto, collir tua £35,000
fesul MW wedi'i osod drwy allforion
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
47
mae mewnforion yn cynyddu i bron £62,000 fesul MW ar gyfer gwaith peirianneg
sifil a thros £0.5m fesul MW ar gyfer nasél, rotor a llafnau tyrbinau.
Cwmpas i Brynu Mwy o Gymru
4.43 Mae hyn felly'n awgrymu'r meysydd lle y byddai gwelliannau o ran prynu o Gymru yn cael yr
effaith fwyaf uniongyrchol o ran gwariant. Yn seiliedig ar y gwariant posibl a allai gael ei golli
i Gymru fesul MW o gapasiti wedi'i osod, ac yn dibynnu ar p'un a oes ochr gyflenwi eisoes yn
bodoli o fewn economi Cymru yn y categori, mae'r bumed golofn yn nodi'r potensial i
gynyddu gwariant yng Nghymru gan ddefnyddio lliwiau.
4.44 Mae'r dyfarniadau ynghylch y sectorau â'r potensial mwyaf i wella cyfraddau prynu lleol yn
rhannol seiliedig ar nifer y swyddi presennol o fewn sectorau yng Nghymru sy'n gysylltiedig
â'r categorïau o wariant. Er enghraifft:
Yn 2011, roedd dros 6,800 o swyddi ym maes gweithgynhyrchu tiwbiau, pibellau,
strwythurau metal a phrosiectau metal eraill yng Nghymru.13 Er nad oes fawr ddim
o'r swyddi hyn yn gysylltiedig ag adeiladu tyrbinau gwynt ar hyn o bryd, credwn fod y
lefel hon o gyflogaeth yn arwydd o'r sgiliau a'r prosesau sydd ar gael i gynhyrchu
strwythurau metal mawr perthnasol. At hynny, credwn y gallai rhannau o'r ochr
gyflenwi yng Nghymru sy'n gwasanaethu'r purfeydd olew (Valero a Murco yn
Aberdaugleddau), gorsafoedd ynni presennol, a chwmnïau megis Tata Steel ym
Mhort Talbot fod â'r potensial i wasanaethu'r diwydiant ynni gwynt ar y tir petai
cynnydd mawr mewn galw. Mae hyn heb y potensial i fewnfuddsoddiad newydd
fodloni'r galw hwn.
Mae'r sector adeiladu yng Nghymru yn amrywio ond cyflogwyd bron 10,200 o bobl
yng Nghymru yn 2011 fel rhan o brosiectau adeiladu ffyrdd neu beirianneg sifil .14
Cafodd nifer debyg o weithwyr eu cyflogi ym maes gosodiadau trydanol. At hynny,
disgwyliwn i duedd datblygwyr i fewnforio gofynion gwasanaeth ar y cam datblygu a
chynllunio fod yn gysylltiedig â chydberthnasau presennol â chwmnïau, yn hytrach
na diffyg capasiti yng Nghymru i ddarparu'r gwasanaethau perthnasol. Er enghraifft,
roedd dros 10,000 o swyddi ymgynghori mewn meysydd pensaernïol, peirianneg a
thechnegol eraill yn 2011 yng Nghymru.15
4.45 Er bod hyn yn canolbwyntio ar y potensial i wella'r gyfradd brynu o Gymru yn y categorïau,
mae hefyd yn rhoi awgrym o'r hyn a fyddai'n digwydd petai datblygwyr yn gwario llai yn lleol
o fewn rhai o'r categorïau. Gallai hyn ddigwydd petai cyflenwyr lleol yn methu â bod yn
gystadleuol neu'n syml yn methu ag ymateb i'r cynnydd mewn galw a ddisgwylir dros y
degawd nesaf.
13
Ffynhonnell: SYG, Arolwg Cofrestr Busnes a Chyflogaeth (BRES), SIC 2420, 2511, 2599
14 Ffynhonnell: SYG, (BRES).
15 Ffynhonnell: SYG, (BRES)
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
48
Tabl 4‑9: Tuedd i Brynu Nwyddau a Gwasanaethau o Gymru a Chyfleoedd i Gynyddu'r Lefelau Hynny
£ fesul MW (cyfanswm)
% a gaiff ei phrynu o
Gymru
£ fesul MW Cymru
£ fesul MW a gaiff ei
golli i Gymru
Cyfleoedd
Datblygu a chynllunio 119,700 71% 85,078 34,700 Uchel
Adeiladu
Rheoli Prosiectau ym maes Adeiladu 58,000 82% 47,000 10,400 Uchel
Nasél, Rotor a Llafnau Tyrbinau Gwynt 528,000 0% - 528,400 Isel
Tyrau Tyrbinau Gwynt 140,000 50%* 106,000 70,000 Uchel
Cludo, Cydosod a Gosod Tyrbinau Gwynt
67,000 61% 41,000 26,000 Uchel
Gwaith Peirianneg Sifil 147,000 76% 112,000 35,000 Uchel
Gwaith Peirianneg Drydanol 85,000 28% 24,000 61,600 Uchel
Cysylltu â'r Grid a Gwaith Cysylltiedig 90,000 55% 49,000 40,800 Uchel
Gwasanaethau Coedwigaeth a'r Amgylchedd
18,000 92% 17,000 1,500 Uchel
Gweithrediadau
Costau Cyflogaeth Gweithrediadau 9,800 85% 8,300 1,500 Isel
Cyfarpar a Darnau Sbâr 8,400 22% 1,800 6,600 Isel
Yswiriant 1,500 28% 430 1,000 Isel
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o ffermydd gwynt. *Noder ein bod wedi lleihau'r dybiaeth brynu ar gyfer tyrau o 76% a 50% am resymau yn ymwneud â darbodusrwydd ac er mwyn adlewyrchu'r risgiau negyddol.
4.46 Goblygiad cyffredinol y dadansoddiad hwn yw y gellid datblygu nifer o sectorau yng
Nghymru er mwyn cynyddu swm y gwariant a gedwir ar ffermydd gwynt ar y tir. O ystyried
graddau'r effaith bosibl y gellid ei sicrhau, maent oll yn ymwneud â'r cam cynllunio, datblygu
ac adeiladu.
Effeithiau economaidd yn deillio o Newidiadau Prynu
4.47 Gan ddefnyddio Tabl 4‑9 fel man cychwyn, rydym yn datblygu'r dadansoddiad ymhellach
drwy ystyried beth fyddai'n digwydd pe ceid cynnydd prynu o 10 pwynt canran yn y canlynol:
Cynllunio, gwasanaethau proffesiynol a rheoli prosiectau
Elfennau adeiladu gan gynnwys rheoli gwaith adeiladu, gwaith sifil, gwaith trydanol a
chysylltu â'r grid ac ati.
Tyrau tyrbin
Cludo, cydosod a gosod tyrbinau, gwasanaethau coedwigaeth a'r amgylchedd.
4.48 Mae Tabl 4-10 yn dangos y gwariant bras fesul MW ymhob un o'r categorïau hyn,16 a'r
gwariant cyfartalog yn y pedwar categori o fewn economi Cymru fel canran o'r cyfanswm.
16
Noder bod dau o'r categorïau hyn yn cyfuno sectorau a nodwyd yn gynharach
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
49
4.49 Mae'r bedwaredd a'r pumed golofn yn dangos effaith economaidd cynnydd o 10 pwynt
canran mewn lefelau prynu o Gymru. Er enghraifft, byddai cynnydd o 10 pwynt canran ym
maes Cynllunio, gwasanaethau proffesiynol ac ati, yn cynyddu'r gwariant canrannol yng
Nghymru o 71% i 81%. Byddai hyn yn arwain at amcangyfrif o £10,100 ychwanegol mewn
GYC fesul MW a 0.3 o swyddi CALl ychwanegol fesul MW (gan gynnwys effeithiau
anuniongyrchol ac effeithiau wedi'u hysgogi).
4.50 Yng ngholofnau olaf y tabl, caiff y newidiadau fesul MW hyn eu troi'n effaith flynyddol
ychwanegol amcangyfrifedig ar gyfer 2012-24 ar gyfer y Senario 2,000 MW. Dengys fod
cynyddu pob un o'r categorïau o 10 pwynt canran yn arwain at £7.3m yn ychwanegol o GYC
a 250 o swyddi CALl fesul blwyddyn yn seiliedig ar y senario 2,000 MW rhwng 2012 a 2024.
Byddai'r 'enillion' mwyaf i'w cael o bosibl o gynyddu lefelau prynu rheoli gwaith adeiladu,
gwaith sifil, gwaith trydanol a chysylltu â'r grid ac ati yng Nghymru. Yn wir, dangosodd ein
dadansoddiad yn gynharach ym maes cysylltu â'r grid a pheirianneg drydanol, yr
amcangyfrifwyd mai dim ond 55% a 28% oedd canran y mewnbynnau a brynwyd yng
Nghymru, yn y drefn honno. Fel y dengys Tabl 4‑9 :
Byddai cynnydd o 10 pwynt canran mewn lefelau prynu yng Nghymru yn y sector
cyfunol hwn yn creu amcangyfrif o £3.7m yn ychwanegol o GYC a 140 o swyddi CALl
y flwyddyn yn y cyfnod 2012-24 yn y senario 2,000 MW.
Byddai cynnydd tebyg mewn lefelau prynu yng Nghymru ym maes cynllunio,
gwasanaethau proffesiynol a rheoli prosiectau yn creu £1.6m mewn GYC a 50 o
swyddi CALl y flwyddyn.
4.51 Yn amlwg, mae'r dadansoddiad hwn hefyd yn rhoi syniad o'r hyn a allai ddigwydd pe byddai
tueddiadau prynu lleol yn y categorïau gwariant hyn yn gostwng 10 pwynt canran. Mae'n
bosibl y gallai'r lefel capasiti newydd a amlygwyd yn y senario 2,000 MW ddenu mwy o
gwmnïau o leoliadau ymhellach i ffwrdd i gyflwyno tendrau am weithgareddau (e.e. gwaith
peirianneg sifil). Fodd bynnag, mae dadansoddiadau blaenorol o beirianneg adeiladu yng
Nghymru wedi datgelu ar brosiectau strategol, hyd yn oed lle caiff prosiectau eu hennill yn
rheolaidd gan gontractwyr rheoli o'r tu allan i Gymru (neu'r DU), bod lefel sylweddol o
weithgaredd yn cael ei chefnogi o hyd yng Nghymru gan fod gwaith yn cael ei ddychwelyd i
Gymru ar ffurf isgontractau (Rhagoriaeth Adeiladu yng Nghymru, 2012).
Tabl 4‑10: Effaith Economaidd Cynyddu Lefelau Prynu Lleol - Cam Datblygu ac Adeiladu
£ fesul MW
% yng Nghymru
Cynnydd o 10 pwynt canran mewn Lefelau Prynu Lleol
Fesul MW Effaith Flynyddol Ychwanegol yn y
Senario 2,000 MW; 2012-24
GYC Swyddi CALl
GYC Swyddi CALl
Cynllunio, Gwasanaethau Proffesiynol a Rheoli Prosiectau
120,000 71% £10,100 0.3 1.6 50
Adeiladu, Gwaith ar y Tir a Pheirianneg Drydanol
380,000 61% £23,300 0.9 3.7 140
Gweithgynhyrchu 140,000 50% £7,000 0.2 1.1 30
Trafnidiaeth, coedwigaeth ac Arall 85,000 67% £5,700 0.2 0.9 30
Cynnydd o 10 pwynt canran mewn lefelau prynu lleol ar draws pob mewnbwn
£46,100 1.5 7.3 250
Ffynhonnell: Dadansoddiad WERU
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
50
5. Buddiannau Economaidd Lleol Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol
Ni chaiff y cyfleoedd economaidd a amlinellir yn Adran 4 eu rhannu’n gyfartal ledled
Cymru, a bydd crynodiad o'r buddiannau y tu allan i'r ardal sy'n uniongyrchol o
amgylch datblygiadau ffermydd gwynt gan fod sectorau perthnasol yn amlycach ac
oherwydd dwysedd busnesau addas.
Serch hynny, ceir cyfleoedd economaidd pwysig i ardaloedd lleol lle ceir ffermydd
gwynt i fanteisio ar y datblygiadau mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Bydd ardaloedd gwledig yn aml mewn sefyllfa dda iawn i gyflenwi rhai mathau o
nwyddau a gwasanaethau, oherwydd bod yr economïau sy'n gysylltiedig â phrynu'r
mewnbynnau hyn o fudd i gyflenwyr lleol a bod sail gyflenwi dda ar gael yn lleol.
Mae'r enghreifftiau yn cynnwys agregau, gwaith sifil anarbenigol a gwasanaethau
coedwigaeth a'r amgylchedd.
Mae'r cam adeiladu hefyd yn aml o fudd i economïau lleol gwledig sy'n seiliedig ar
wasanaethau gan eu bod yn darparu gwasanaethau i'r contractwyr a gaiff eu lleoli
yno dros dro, megis lletygarwch a manwerthu.
Dengys tystiolaeth o'n hastudiaethau achos bod enghreifftiau o waith da sy'n mynd
rhagddo i ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi mewn ardaloedd lleol, er mwyn cysylltu
prif gontractwyr â chyflenwyr lleol, yn ogystal â helpu darpar gyflenwyr i gyflwyno
tendrau ar gyfer cyfleoedd.
Yn aml mae ardaloedd gwledig hefyd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd ym
maes gweithrediadau a gweithgaredd cynnal a chadw. Mae hyn yn arbennig o wir ar
gyfer cynlluniau mawr lle mae angen cymorth cynnal a chadw lleol.
Bydd pob cymuned leol lle ceir ffermydd gwynt yn cael budd hirdymor o Daliadau
Buddiannau Cymunedol. Mewn rhai achosion, gall y taliadau hyn fod yn uchel iawn
ac arwain o bosibl at fuddiannau economaidd a chymunedol cadarnhaol sylweddol.
Er enghraifft, bydd y gronfa buddiannau cymunedol ar gyfer Pen-y-Cymoedd yn
werth tua £1.8 miliwn y flwyddyn. Mae rhai datblygiadau mwy o faint hefyd yn
cynnwys cronfa datblygu economaidd benodedig ochr yn ochr â'r gronfa buddiannau
cymunedol. Er enghraifft, mae RWE npower renewables yn cynnig cronfa datblygu
economaidd £3,000 fesul MW ochr yn ochr â'r gronfa buddiannau cymunedol
£5,000 fesul MW (gyda'r ddwy yn gysylltiedig â mynegeion) ar gyfer fferm wynt
Clocaenog.
Mae datblygiadau ffermydd gwynt yn aml yn cynnwys buddsoddiadau mewn
gwelliannau amgylcheddol fel rhan o'r pecyn gwaith seilwaith, gan gynnwys adfer
cynefinoedd pwysig.
Budd arall gwerthfawr i economïau gwledig yw'r incwm a gaiff ei greu i
dirfeddianwyr lleol sy'n cael taliadau cyfalaf a/neu rent yn gyfnewid am gael lleoli
ffermydd gwynt ar eu tir. Gan ddibynnu ar y tirfeddiannwr, bydd y taliadau hyn naill
ai'n mynd i ffermwyr lleol, tirfeddianwyr eraill neu'r Comisiwn
Coedwigaeth/Llywodraeth Cymru. Mae'r incwm hwn yn rhoi budd o ran
buddsoddiad ychwanegol mewn busnesau gwledig.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
51
Cyflwyniad
5.1 Mae'r bennod hon yn ystyried i ba raddau y gall yr effeithiau economaidd a amlinellir yn
Adran 4 arwain at fuddiannau economaidd i'r cymunedau lleol lle y caiff y datblygiadau eu
lleoli. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth am y dulliau gweithredu a gaiff eu mabwysiadu gan
ddatblygwyr a gweithredwyr i hyrwyddo'r buddiannau hyn, yn ogystal â nifer o astudiaethau
achos o gymysgedd o ffermydd gwynt sy'n bodoli eisoes a ffermydd gwynt sydd yn yr
arfaeth. Mae'r adran hefyd yn ystyried y potensial i sicrhau mwy o fudd economaidd yn lleol
wrth i gapasiti ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru gynyddu hyd at 2025.
5.2 Caiff yr asesiad ei gyfyngu i'r buddiannau economaidd sy'n deillio o'r gwariant sy'n
gysylltiedig â'r gwaith o adeiladu'r ffermydd gwynt a pharhau i'w gweithredu. Nid yw'n
ystyried yr effeithiau economaidd eraill a allai godi'n lleol o ganlyniad i bresenoldeb y
datblygiadau hyn nawr neu yn y dyfodol.
Ffynonellau o Effaith Leol
5.3 At ddibenion yr asesiad, rydym wedi diffinio 'lleol' fel yr economi y mae'r ffermydd gwynt,
boed yn ffermydd gwynt sy'n bodoli eisoes neu'n ffermydd gwynt sydd yn yr arfaeth, wedi'u
lleoli o'i mewn. Yn amlwg, bydd natur yr economïau lleol hyn, o ran eu cymeriad trefol-
gwledig, maint a chymysgedd y sectorau o'u mewn, a sgiliau ac ardaloedd teithio i'r gwaith,
yn amrywio'n sylweddol rhwng ffermydd gwynt. Fel yr amlinellir isod, mae'r gwahaniaethau
hyn o ran cymeriad economaidd a daearyddiaeth yn ffactorau pwysig sy'n egluro'r ffordd y
gall y datblygiadau fod o fudd i'r ardaloedd lleol.
5.4 Gall y broses o ddatblygu a gweithredu fferm wynt ar y tir fod o fudd i'r economi leol lle y
caiff ei lleoli mewn nifer o ffyrdd – mae'r prif ffyrdd fel a ganlyn:
Y contractau a gaiff eu hennill gan gwmnïau lleol fel rhan o'r camau cynllunio,
datblygu, adeiladu a gweithredol - sef y gadwyn gyflenwi
Cyflogaeth i drigolion lleol drwy'r camau hyn, naill ai'n uniongyrchol neu drwy'r
cadwyni cyflenwi
Y gwawriant lleol yn y sector manwerthu a'r sector lletygarwch wrth i'r gweithwyr
sy'n ymwneud â'r camau hyn wario eu hincwm yn yr economi leol
Y buddiannau economaidd ehangach i gymunedau lleol, gan gynnwys buddsoddi
mewn seilwaith ffisegol, economaidd a chymunedol lleol a budd ariannol i grwpiau
penodol fel tirfeddianwyr.
5.5 Er bod natur a graddau'r buddiannau economaidd craidd hyn yn amrywio rhwng ffermydd
gwynt, mae nifer o ffactorau cyffredin a fydd yn dylanwadu ar eu natur a'u graddau yn lleol.
Ymhlith y rhain mae:
Maint y fferm wynt
Hyd y rhaglen adeiladu, i ba raddau y gwneir y gwaith adeiladu ar y safle neu oddi ar
y safle, a tharddiad y gweithwyr sy'n gweithio ar y safle
Y dull caffael a fabwysiedir gan y datblygwr/gweithredwr
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
52
Natur a chapasiti'r busnes lleol a'r sail sgiliau
I ba raddau y bydd y datblygwr ac asiantaethau lleol yn cymryd camau rhagweithiol i
ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi leol a'r gweithlu lleol.
5.6 Yn ymarferol, mae'r ffactorau hyn yn gymhleth ac wedi'u rhyng-gysylltu. Er mwyn deall sut
mae'r effeithiau hyn yn dod i'r amlwg yn ymarferol, rydym wedi defnyddio pedair astudiaeth
achos o ffermydd gwynt ar y tir ledled Cymru, yn ogystal â'r ymgynghoriadau ehangach a
gynhaliwyd gennym. Y diben oedd cael barn y datblygwyr, y gweithredwyr a'r rhanddeiliaid
lleol am natur a graddau'r effeithiau hyn, a beth sy'n eu hysgogi. Y rhesymeg dros eu dewis
oedd cael amrywiaeth o gynlluniau o ran lleoliad, maint, datblygwr ac oedran. Cynhaliwyd yr
astudiaethau achos canlynol:
Ffynnon Oer, cynllun 32 MW yng Nghastell-nedd Port Talbot a fu'n weithredol ers
2006
Cefn Croes, cynllun 59 MW yng Ngheredigion, a fu'n weithredol ers 2005
Wern Ddu, cynllun 9.2 MW yn Sir Ddinbych, a gymeradwywyd yn dilyn apêl ym mis
Mehefin 2007 ac a ddaeth yn weithredol ym mis Mawrth 2010
Pen-y-Cymoedd, cynllun 256MW yng Nghastell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon
Taf, a gymeradwywyd ym mis Mai 2012 ac y disgwylir iddo fod yn weithredol erbyn
2016.
5.7 Wrth ddehongli'r dystiolaeth yn yr adran hon, mae'n bwysig nodi bod ansawdd a chwmpas y
dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'r astudiaethau achos yn amrywiol. Nid oedd y datblygwyr
mewn rhai achosion yn cadw cofnodion a fyddai'n galluogi i ni ymchwilio i natur a graddau'r
buddiannau economaidd lleol. Roedd hyn yn arbennig o wir lle roedd cryn amser wedi mynd
heibio ers adeiladu'r ffermydd gwynt. Fodd bynnag, cafwyd digon o dystiolaeth ar draws pob
un o feysydd ymchwil yr astudiaeth i'n helpu i nodi'r ffactorau allweddol sy'n nodweddiadol
yn llywio effeithiau economaidd lleol.
Y Cyd-destun Lleol ar gyfer Ffermydd Gwynt sy'n Bodoli Eisoes a Ffermydd Gwynt sydd yn yr Arfaeth
5.8 Mae Ffigur 5-1 yn dangos lleoliadau ffermydd gwynt sy'n bodoli eisoes a ffermydd gwynt
sydd yn yr arfaeth yng Nghymru, gydag isocrom o 10km o amgylch pob un, a haen waelodol
yn nodi'r cyd-destun trefol. Diben hyn yw dangos cyd-destun gwledig llawer o'r ffermydd
gwynt yn enwedig yng Nghanolbarth a De-ddwyrain Cymru. Mae'r ffermydd gwynt hynny yn
Ne-ddwyrain Cymru yn agosach at ganolfannau trefol.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
53
Ffigur 5-1: Ffermydd Gwynt Gweithredol, Ffermydd Gwynt y Rhoddwyd Caniatâd ar eu Cyfer a Ffermydd Gwynt sydd yn yr Arfaeth yng Nghymru
Ffynhonnell: Cronfa ddata RenewableUK
Dulliau Gweithredu mewn perthynas â'r Budd Economaidd Lleol
5.9 Ystyriodd yr arolwg o ddatblygwyr a gweithredwyr i ba raddau yr oeddent yn rhoi amrywiol
gamau gweithredu ar waith er mwyn helpu i sicrhau buddiannau economaidd a chymunedol
lleol o ganlyniad i'w ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru. Ffigur 5-2 ceir crynodeb o'r
canlyniadau, ac mae'r pwyntiau mwyaf nodedig fel a ganlyn:
Noda pob datblygwr/gweithredwr a ymatebodd i'r arolwg eu bod yn darparu taliad
buddiannau cymunedol a noda'r mwyafrif helaeth eu bod yn gweithio gyda
chymunedau lleol i'w helpu i sicrhau'r buddiannau mwyaf o'r taliadau hyn.
Noda tua dwy ran o dair o'r ymatebwyr eu bod yn gweithio gydag ysgolion a
cholegau lleol ar bynciau sy'n ymwneud ag ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd
ynni.
Ychydig yn llai na hanner yr ymatebwyr (tua 46%) sy'n cynnal unrhyw ddigwyddiadau
i gyflenwyr neu fentrau hyfforddi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, drwy ymchwilio
ymhellach, gwelir bod y datblygwyr mwy o faint - sy'n cyflenwi neu y disgwylir iddynt
gyflenwi cryn dipyn o'r capasiti a oedd ar waith ac a oedd yn yr arfaeth - yn
nodweddiadol yn fwy gweithgar yn hyn o beth.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
54
Roedd yr ymatebwyr wedi'u rhannu'n gyfartal o ran y tebygolrwydd y byddent yn
buddsoddi mewn gwelliannau i gyfleusterau i ymwelwyr a chyfleusterau hamdden
lleol. Mae'r ffactorau sy'n ysgogi'r mathau hyn o gamau gweithredu yn dueddol o
fod yn gysylltiedig â chynlluniau penodol i raddau helaeth ac maent yn dibynnu ar
anghenion lleol a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r datblygiad.
Mae tua 40% o'r ymatebwyr yn annog contractwyr i fabwysiadu mentrau hyfforddi
lleol.
5.10 Wrth ddehongli'r canlyniadau hyn, mae angen bod yn ofalus o ystyried y bydd i ba raddau y
mae'r datblygwyr yn ein sampl yn weithgar yn y meysydd hyn yn dibynnu'n rhannol ar gam
eu datblygiadau.
Ffigur 5-2: I ba Raddau y mae Datblygwyr yn Cymryd Camau i Sicrhau Buddiannau Economaidd a Chymunedol yng Nghymru
Arolwg o Ddatblygwyr a Gweithredwyr (Medi-Tachwedd 2012); n = 15
I ba raddau rydych yn cymryd y camau canlynol er mwyn sicrhau buddiannau cymdeithasol ac economaidd
ynni gwynt ar y tir yng Nghymru?
Canfyddiadau o'r Astudiaethau Achos
Effeithiau Datblygu ac Adeiladu
5.11 Mae sawl ffactor sy'n egluro i ba raddau y mae'r broses o ddatblygu ac adeiladu ffermydd
gwynt o fudd i economïau lleol. Cânt eu hystyried isod.
Maint y Cynllun a'r Cyfnod ar y Safle
5.12 Yn amlwg, mae cysylltiad agos rhwng graddau'r budd economaidd lleol posibl a ddaw yn sgîl
0%
10%
20%
30%
40%
50%
60%
70%
80%
90%
Cynnal digwyddiadau i gyflenwyr neu fentrau tebyg er mwyn helpu
cwmnïau yng Nghymru i fanteisio ar gyfleoedd
yn y gadwyn gyflenwi.
Cynnal eich mentrau hyfforddi lleol eich hun (ee darparu
hyfforddiant/ lleoliadau gwaith i
drigolion lleol)
Annog contractwyr i
fabwysiadu mentrau
Darpatu taliadau budd cymunedol
Gweithio gyda chymunedau lleol i roi help rhagweithiol
i’r eithaf ar y buddiannau sy’n gysylltiedig â
defnyddio’r taliadau budd cymunedol hyn
Buddsoddi mewn gwelliannau i gyfleusterau i
ymwelwyr a chyfleusterau
Gweithio gydag ysgolion a cholegau
lleol ar bynciau sy’n cynnwys ynni
adnewyddadwy ac effeithlonrwydd
ynni
% of all respondents
I Raddau Helaeth
I Ryw Raddau
Ddim yn gwneud
Ddim yn gwybod
hyfforddi lleol hamddem lleol
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
55
fferm wynt â maint y cynllun. Bydd gan gynlluniau mwy (o ran nifer y tyrbinau a lefel y
capasiti wedi'i osod) gost gyfalaf uwch ac yn nodweddiadol, bydd angen mwy o fewnbwn
llafur ar y safle adeiladu neu gerllaw'r safle. Ar gyfer y cynlluniau hyn, bydd maint a hyd
cyfanswm y gwariant y bydd ei angen ac felly'r effaith economaidd bosibl yn uwch. Er
enghraifft, disgwylir y bydd cynllun 256 MW Pen y Cymoedd yn cymryd bron i dair blynedd
i'w adeiladu, ond dim ond 5 mis a gymerodd cynllun 9 MW Wern Ddu.
5.13 Lle nad yw cwmnïau lleol yn ddigon mawr i gystadlu am y prif gontract neu isgontractau
mwy o faint neu i ennill y contractau hynny, gall cynlluniau mwy o faint â chyfnod adeiladu
hwy fod o fudd sylweddol i'r economi leol o hyd gan y bydd mwy o weithwyr adeiladu yn yr
ardal leol am gyfnod hwy. Bydd hyn o fudd i'r economi leol gan y bydd y gweithwyr hyn yn
gwario ar nwyddau manwerthu lleol ac ar lety ac ati.
Daearyddiaeth Economaidd
5.14 O blith yr holl ffactorau sy'n dylanwadu ar y graddau y gall ffermydd gwynt ar y tir fod o fudd
i economïau lleol, mae ystyriaethau o ran lleoliad ac ystyriaethau economaidd lleol ymhlith y
pwysicaf. Mae sawl dimensiwn i hyn, ac maent wedi'u rhyng-gysylltu i ryw raddau.
Natur a Maint y Sail Busnes
5.15 Mae gallu ardal leol i sicrhau budd o'r contractau sy'n cael eu cynnig yn ystod y cam adeiladu
yn dibynnu ar gapasiti'r ochr gyflenwi. Mae gan economïau lleol sydd â nifer ddigonol o
gwmnïau adeiladu a gweithgynhyrchu addas well siawns o gyfrannu at y gadwyn gyflenwi a
chadw gwariant personol gweithwyr adeiladu nad ydynt yn lleol.
5.16 O ganlyniad, mae ffermydd gwynt sy'n agos at ganolfannau trefol, gyda mwy o gwmnïau a
gweithwyr y gellir eu defnyddio fel rhan o'r gadwyn gyflenwi, yn debygol o gael mwy o fudd.
Bydd y potensial i sicrhau budd lleol yn sylweddol is lle bydd ffermydd gwynt yn cael eu
hadeiladu yn ardaloedd mwy ymylol Cymru, gyda dwysedd isel yn y farchnad economaidd a'r
farchnad lafur.
5.17 Er enghraifft, er bod Cefn Croes yn gynllun cymharol fawr (59MW), roedd y mewnbwn a
ddefnyddiwyd o'r ardal leol yn ystod y rhaglen adeiladu yn gyfyngedig o ganlyniad i'w leoliad
gwledig (gweler Ffigur 5-3) a'r ffaith nad oedd contractwyr addas ar gael ar gyfer y mathau o
waith adeiladu y gellir yn ymarferol eu cael yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd prif
gontractwyr addas ar gael mewn rhannau eraill o Gymru, fel y gwelir gan lwyddiant Jones
Brothers o Ruthun, Sir Ddinbych17, i sicrhau'r contract ar gyfer Gweddill y Safle a oedd yn
werth £6.3 miliwn (tua 13% o gyfanswm gwerth y gwaith adeiladu).
17
Roedd hyn yn cynnwys adeiladu ffyrdd mynediad, sylfeini tyrbinau, sylfeini craeniau a'r gwaith gosod ceblau 33kV.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
56
Ffigur 5-3: Fferm Wynt Cefn Croes yn ei Chyd-destun
Ffynhonnell: Renewable UK
5.18 I'r gwrthwyneb, daeth tua 13% o werth adeiladu cyffredinol fferm wynt Ffynnon Oer, a leolir
yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn agos at ganolfannau trefol (gweler Ffigur 5-4), o fewn
ardal o 30 milltir (gweler y tabl isod). Llwyddodd y prif gontractwyr i brynu amrywiaeth o
wasanaethau wedi'u hisgontractio yn lleol gan gynnwys o Gastell-nedd, Abertawe a Phen-y-
bont ar Ogwr, yn amrywio o agregau a gwaith sifil cysylltiedig i wasanaethau amgylcheddol
arbenigol.
Tabl 5-1: Nwyddau a Gwasanaethau a Brynwyd gan Gwmnïau Lleol mewn perthynas â Safle Fferm Wynt Ffynnon Oer
Pellter Bras o'r Safle
Ardal Cyfanswm Gwerth yr Is Gontractau
Math o Nwyddau a Gwasanaethau
Llai na 10 milltir Castell-nedd £99,300 Agregau, deunyddiau adeiladu, llogi offer
Llansawel £18,000 Gwasanaethau diogelwch
Rhwng 10 ac 20 milltir
Aberdâr £725,700 Concrid ar gyfer sylfeini, gwaith ceblo, deunyddiau adeiladu, llogi sgipiau
Abertawe £63,500 Llogi offer, profi dyfeisiau
Rhwng 20 a 30 milltir
Pen-y-bont ar Ogwr
£202,300 Gwaith drilio ymchwiliol / ymgynghoriaeth pridd, llogi offer
Ffynhonnell: RWE npower renewables
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
57
Ffigur 5-4: Fferm Wynt Ffynnon Oer yn ei Chyd-destun
Ffynhonnell: Renewable UK
5.19 Mae dwysedd economaidd lleol hefyd yn ffactor pwysig o ran gallu ardal o amgylch
datblygiad fferm wynt i sicrhau effeithiau lluosogi dilynol yn y gadwyn gyflenwi. Po fwyaf
yw'r economi leol, y mwyaf yw'r tebygolrwydd y bydd yn gallu cyflenwi'r nwyddau a'r
gwasanaethau sydd eu hangen o haenau is y gadwyn gyflenwi, gan greu effeithiau lluosogi
anuniongyrchol. I'r gwrthwyneb, mae economi â dwysedd is yn fwy tebygol o weld y
gwariant hwn ar haenau is y gadwyn gyflenwi yn gollwng allan o'r ardal leol.
5.20 Fodd bynnag, bydd ardaloedd gwledig yn aml mewn sefyllfa dda iawn i gyflenwi rhai mathau
o nwyddau a gwasanaethau, oherwydd bod yr economïau sy'n gysylltiedig â phrynu'r
mewnbynnau hyn o fudd i gyflenwyr lleol a bod sail gyflenwi dda ar gael yn lleol. Mae'r
enghreifftiau yn cynnwys agregau, gwaith sifil anarbenigol, gwasanaethau coedwigaeth a
thirlunio.
5.21 Er bod presenoldeb sectorau addas yn yr ardal leol yn amlwg yn amod angenrheidiol ar gyfer
ennill unrhyw is-gontractau a ddaw i'r amlwg, nid yw, wrth gwrs, yn ddigonol. Er mwyn i
gwmnïau ennill yr is-gontractau hyn, mae angen iddynt feddu ar y capasiti i'w gweithredu. O
ystyried maint y contractau a gynigir yn gyffredinol, gall maint a chystadleurwydd y busnesau
yn yr economi leol felly fod yn ffactor pwysig. Yn aml, mae contractau adeiladu mwy a
gweithgareddau mwy arbenigol yn golygu bod yn rhaid i gwmnïau sy'n cyflwyno tendr
gyrraedd rhai safonau ansawdd penodol, er mwyn dangos arbedion a chynnig gwarantau.
Mae hyn yn gweithio o blaid cwmnïau mwy sydd â'r profiad, y systemau rheoli a gweithredu
a'r arbedion maint i gyflawni'r gofynion hyn.
5.22 O ystyried y gofynion sy'n gysylltiedig â chontractau mawr o'r fath, caiff llawer o'r prif
gontractau ac is-gontractau haen gyntaf mawr yn ystod y cam adeiladu eu rhoi i gwmnïau y
tu allan i Gymru. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer gyfyngedig o gwmnïau yng
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
58
Nghymru sydd â'r gallu i wneud cais uniongyrchol am y contractau mawr hyn. Mae'r rhan
fwyaf o'r gwerth a sicrheir gan gwmnïau o Gymru yn dueddol o fod yn haenau is y gadwyn
gyflenwi (ail haen ac is). Fodd bynnag, gall mentrau penodol yn y gadwyn gyflenwi leol a'r
broses gaffael ddylanwadu ar hyn i raddau. Er enghraifft, mae Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot, mewn cydweithrediad â'r datblygwr, Vattenfall, yn cynnal menter er mwyn
helpu i ddatblygu'r gadwyn gyflenwi leol er mwyn sicrhau ei bod yn barod i gystadlu am
gyfleoedd am gontractau drwy ddatblygiad Pen-y-Cymoedd. Mae hyn yn cynnwys
ymdrechion i greu cwmnïau Cyd-Fenter y gall fod ganddynt y gallu a'r adnoddau i gystadlu
am yr is-gontractau haen un a dau mwy.
5.23 Er y bydd economïau lleol gwledig sydd wedi'u seilio'n bennaf yn y sector gwasanaeth yn ei
chael hi'n anodd diwallu llawer o anghenion uniongyrchol y gadwyn gyflenwi adeiladu ar
unwaith, gall y cam adeiladu fod o fudd i'r economïau lleol hyn, ac mae o fudd iddynt, drwy
ddarparu gwasanaethau i'r contractwyr sydd wedi'u lleoli yno dros dro, megis lletygarwch a
manwerthu. Mae tystiolaeth anecdotaidd o sawl astudiaeth achos yn cyfeirio at fuddiannau i
westai, llety gwely a brecwast, tafarnwyr lleol a'r sector manwerthu yn arbennig wrth i
gannoedd o weithwyr adeiladu aros yn yr ardal dros gyfnod y gwaith adeiladu. Mae hyn yn
cynnwys Cefn Croes, er enghraifft, lle roedd llawer o weithwyr adeiladu, yn cynnwys Jones
Brothers, wedi'u lleoli ar y safle am flwyddyn gyfan bron.
5.24 Mae'r astudiaethau achos yn cyfeirio at nifer o ffactorau sy'n dylanwadu ar allu'r economïau
lleol lle y lleolir y datblygiad i gael budd o'r gwariant personol ysgogol hwn:
Pellenigrwydd y safle adeiladu - po fwyaf pellennig yw'r safle, y mwyaf fydd yr angen
am gontractwyr nad ydynt yn lleol ac felly y mwyaf fydd y galw am lety;
Argaeledd llety - ardaloedd lleol a all ddarparu digon o lety i weithwyr fydd yn y
sefyllfa orau i sicrhau'r buddiannau cysylltiedig.
Argaeledd lletygarwch a gwasanaethau manwerthu cysylltiedig - felly hefyd, po
fwyaf fydd presenoldeb y gwasanaethau eraill y bydd eu hangen ar weithwyr
adeiladu, y mwyaf fydd gallu'r ardal leol i gael budd o'r gwariant hwn.
Hyd y cyfnod adeiladu - po hwyaf fydd y cyfnod adeiladu, y mwyaf fydd hyd y
buddiannau hyn gan y bydd gweithwyr yn bresennol yn yr ardal leol.
O ba wlad y daw prif gyflenwyr y cydrannau a'u contractwyr o ran cyflenwyr sydd
wedi'u lleoli y tu allan i Gymru a'r DU ac sy'n dod â'u gweithlu presennol gyda hwy
am gyfnod dros dro, mae'n bosibl y bydd cryn alw am lety a gwasanaethau
cysylltiedig.
Y Farchnad Lafur
5.25 Ffactor perthnasol arall sy'n gysylltiedig â lleoliad fferm wynt yw'r graddau y bydd cyflenwyr
a chontractwyr sydd wedi'u lleoli ar safle neu gerllaw safle, yn dod â'u gweithluoedd gyda
hwy neu'n recriwtio'n lleol. Caiff hyn ei ysgogi'n nodweddiadol gan dri phrif ffactor:
Hyd y gweithgarwch adeiladu ar y safle;
Faint o arbenigedd sgiliau sydd ei angen ar y safle a sut y bydd yr arbenigedd hwn yn
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
59
amrywio yn ystod y camau adeiladu;
Dwysedd a natur y farchnad lafur ar gyfer y sgiliau hyn, gan gynnwys yr ardaloedd
teithio i'r gwaith.
5.26 Mae adborth gan ddatblygwyr yn awgrymu er bod cydrannau tyrbinau a'r gwaith cydosod
cysylltiedig yn dod o ardaloedd eraill yn Ewrop ar y cyfan, bod llawer o'r sgiliau sydd eu
hangen ym maes adeiladu ffermydd gwynt (ymchwilwyr safleoedd, peirianwyr sifil,
gweithredwyr cyfarpar, gweithgynhyrchwyr gosodiadau a ffitiadau metal) ar gael yng
Nghymru.
5.27 Serch hynny, mae argaeledd y sgiliau hyn a'r farchnad lafur yn amrywio o un lleoliad i'r llall
yng Nghymru. Mae nifer sylweddol o gwmnïau ymgynghori, peirianneg sifil a pheirianneg
drydanol a'u gweithluoedd wedi'u lleoli yn Ne-ddwyrain Cymru yn arbennig, yn ogystal â rhai
clystyrau eraill yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a De-orllewin Cymru (e.e. ardaloedd Port
Talbot ac Abertawe).
5.28 Mae'r astudiaethau achos a'r gwaith ymchwil cysylltiedig yn awgrymu nad yw'n anghyffredin
i lawer o'r swyddi ar y safle gael eu llenwi gan weithwyr o rannau eraill o Gymru, y DU neu
Ewrop. Mae tarddiad y contractwyr a natur y gwaith yn golygu y gall y cyfleoedd i
recriwtio'n lleol ar hyn o bryd fod yn gyfyngedig, hyd yn oed pe bai'r sgiliau ar gael yn lleol.
Er bod gan Gymru gryfderau pendant mewn rhai agweddau ar y gadwyn gyflenwi, nid yw'r
cwmnïau hyn wedi'u lleoli yn yr ardaloedd lle y lleolir y datblygiadau newydd.
5.29 Er enghraifft, ym Mhowys, mae dros 900 MW o gapasiti yn y system gynllunio ar hyn o bryd
(17 o gynlluniau) y disgwylir penderfyniad arnynt yn ystod y blynyddoedd nesaf. Er na chaiff
pob un o'r cynlluniau o reidrwydd ei adeiladu, bydd y capasiti a gaiff ei gyflwyno yn darparu
cyfleoedd pwysig i gwmnïau a gweithwyr lleol. Fodd bynnag, bydd y cyfleoedd i'r cwmnïau
hyn a'u gweithluoedd elwa wedi'u cyfyngu gan ddiffyg sgiliau addas ar lefel ddigonol.
5.30 Os yw sgiliau'n brin ar hyn o bryd, gellir mynd i'r afael â hyn drwy wneud ymdrech briodol i
uwchsgilio gweithwyr, a bod digon o amser i gynllunio ar gyfer hynny. Mae hyn yn ategu
pwysigrwydd sicrhau bod busnesau lleol yn ymwybodol o gyfleoedd yn y dyfodol a rhoi
cymorth iddynt fanteisio arnynt. Yn aml, mae busnesau yn nodi diffyg ymwybyddiaeth a
digon o amser gweithredu i ymateb yn briodol fel ffactorau allweddol sy'n eu hatal rhag
ymuno â'r gadwyn gyflenwi. Gellir mynd i'r afael â hyn drwy ddigwyddiadau cadwyn gyflenwi
ac mae digwyddiadau o'r fath yn cael eu hintegreiddio'n gynyddol i brosesau caffael (e.e. gan
RWE a Vattenfall). Er enghraifft, mae'r datblygwr Vattenfall wedi sefydlu partneriaeth â
busnes peirianneg lleol (ISO Fab Ltd) er mwyn cyflwyno cynllun prentisiaeth tair blynedd i
hyfforddi technegwyr tyrbinau gwynt ar gyfer Pen-y-Cymoedd.
5.31 Mae'n werth pwysleisio ar hyn o bryd, o ystyried cyflwr yr economi, yn gyffredinol bod
llawer mwy o gapasiti sbâr yn y farchnad lafur nag a fyddai yn ystod cyfnod mwy llewyrchus i
amsugno unrhyw gynnydd o ran galw. O ganlyniad, mae dadleoliad yn y farchnad ffactorau
(e.e. cwmnïau yn denu gweithwyr o gwmnïau eraill) ac yn y farchnad cynhyrchion (h.y.
cwmnïau yn mynd â chyfran y farchnad oddi wrth ei gilydd) yn debygol o fod yn isel.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
60
Dull Caffael
5.32 Neges gryf sy'n deillio o'r astudiaethau achos yw'r ffaith hyd yn oed os bydd llawer o'r
ffactorau a nodir uchod yn ffafriol, yn y pen draw y gall y dull caffael a ddefnyddir gan y
datblygwyr fod yn bwysig iawn o ran llywio lefel y budd economaidd lleol a geir yn y pen
draw. At hynny, gall y camau gweithredu a gymerir gan y datblygwr ynddynt eu hunain lywio
rhai o'r ffactorau eraill hyn.
5.33 Er nad oes gan gwmnïau yng Nghymru, mewn rhai achosion, y maint a'r profiad sydd eu
hangen i gystadlu am y prif gontract/contractau haen gyntaf, gall y datblygwr ddylanwadu ar
y prif gontractwr i sicrhau y gwneir y defnydd mwyaf posibl o gyflenwyr lleol yn ei gadwyn
gyflenwi. Mae'r dull caffael a ddefnyddir ar gyfer Pen-y-Cymoedd yn cynnwys rhai gwersi da
yn hyn o beth. O ystyried maint y cynllun, cydnabu'r awdurdod lleol bod cryn botensial i
sicrhau buddiannau economaidd i'r gymuned. Yn unol â hynny, bu'r awdurdod lleol yn
gweithio'n agos â'r datblygwr o gam cynnar yn y broses i sicrhau bod cadwyn gyflenwi leol
Castell-nedd Port Talbot/Rhondda Cynon Taf yn ymwybodol o'r cyfleoedd. Cynhaliwyd
digwyddiad briffio busnesau ym mis Mawrth 2011 a daeth tua 140 o bobl o ranbarth De-
orllewin Cymru i'r digwyddiad hwnnw. Diben y digwyddiad oedd rhoi manylion i'r gymuned
fusnes leol am y prosiect ac ymgynghori ar y broses gaffael fwriadedig.
5.34 Cafwyd adborth cryf bod angen cynnal digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr cyn gosod y prif
gontractau er mwyn sicrhau bod cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gael i gwmnïau lleol. Yn
unol â hynny, cynhaliwyd y digwyddiadau hyn gyda darpar brif gontractwyr a darpar is-
gontractwyr lleol yn bresennol ill dau, gan olygu eu bod yn gallu trafod â'i gilydd er mwyn
deall gofynion y naill a'r llall. At hynny, defnyddiodd Vattenfall ofyniad i ddefnyddio
cyflenwyr lleol fel maen prawf wrth gaffael prif gontractwyr, ac mae wedi ei gwneud yn
ofynnol i'w gontractwyr gyflwyno adroddiadau misol ar y defnydd o gwmnïau o'r gadwyn
gyflenwi leol.
5.35 Yn dilyn hynny, datblygodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot becyn cymorth
cadwyn gyflenwi, a ariannwyd ganddo ef ei hun a Llywodraeth Cymru. Defnyddiwyd yr arian
i helpu busnesau lleol i ddatblygu ymhellach y sgiliau a'r adnoddau angenrheidiol er mwyn
gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy, o hyfforddiant a gweithdai i gymorth un i un
uniongyrchol a fydd yn galluogi busnesau lleol i baratoi ar gyfer y prosiect.
5.36 Er nad yw'r dull gweithredu hwn yn arfer cyffredin a bod yr awdurdod lleol yn ystyried ei fod
yn rhoi esiampl, mae'n debygol bod y defnydd o'r dulliau hyn wedi gwella dros amser
ymhlith datblygwyr eraill, yn enwedig yn y blynyddoedd ers TAN 8. Er enghraifft, bu RWE yn
cynnal digwyddiadau rheolaidd i gyflenwyr yn yr ardaloedd lle y lleolir ei ddatblygiadau ar
gyfer ei gynlluniau arfaethedig. Ym mis Mai 2012, cynhaliodd RWE Ddigwyddiad Cadwyn
Gyflenwi mawr yn Ne Cymru yn Stadiwm Liberty yn Abertawe. Nod y digwyddiad oedd
gwella ymwybyddiaeth o'r mathau o gyfleoedd a allai fodoli yn y sector a phortffolio RWE o
brosiectau sy'n datblygu, sut mae prosesau caffael yn gweithio, a pha fath o gymwysterau y
gellid eu disgwyl gan ddarpar gadwyn gyflenwi'r sector. Dengys y map isod grynodeb o
leoliad y cyflenwyr a ddaeth i'r digwyddiad.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
61
Ffigur 5-5: Lleoliad y Cyflenwyr a Ddaeth i Ddigwyddiad Cadwyn Gyflenwi RWE (a gynhaliwyd yn Abertawe)
Ffynhonnell: RWE, 2012
Effeithiau Gweithredol
5.37 Fel yr eglurir yn y dadansoddiad yn Adran 4, mae'r effeithiau gweithredol sy'n gysylltiedig â
ffermydd gwynt ar y tir yn llawer is na'r rheini sy'n gysylltiedig â'r gwaith adeiladu, er eu bod
yn para'n llawer hwy ac ar gyfartaledd bod cyfran uwch o'r gwariant cysylltiedig yn cael ei
chadw yng Nghymru. Mae sawl ffactor yn dylanwadu ar lefel y budd y gellir ei sicrhau yn
ystod y cam gweithrediadau a chynnal a chadw, gyda rhai ohonynt yn debyg i fuddiannau'r
cam adeiladu.
Maint y Cynllun
5.38 Mae maint y cynllun unwaith eto yn ffactor gan ei fod yn dylanwadu ar i ba raddau y mae
angen staff gweithredol ar y safle. Er bod swyddi staff sy'n gysylltiedig â swyddogaethau
rheoli craidd i ryw raddau yn swyddi sefydlog, mae elfennau eraill yn amrywio gan ddibynnu
ar faint y fferm wynt, gan gynnwys lefel y gwaith cynnal a chadw sydd ei angen. Ar gyfer
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
62
cynlluniau llai, mae'n aml yn bosibl i'r datblygwr/gweithredwr gyflawni'r gofynion cynnal a
chadw yn ganolog, gan ddefnyddio staff sydd wedi'u lleoli mewn lleoliadau eraill yng
Nghymru neu'r tu allan i Gymru. Mae cynlluniau mwy o faint yn dueddol o fod angen mwy o
weithwyr ar lawr gwlad yn barhaol. Er enghraifft, dim ond dwy neu dair wythnos o gynnal a
chadw'r flwyddyn sydd ei angen ar Wern Ddu, fferm wynt 9.2 MW. I'r gwrthwyneb, mae
angen pedwar gweithiwr gweithrediadau a chynnal a chadw CALl ar Gefn Croes a disgwylir y
bydd angen 12 o weithwyr CALl ar Ben-y-Cymoedd, gyda 90% o'r rhain yn weithwyr lleol.
Cynnal a chadw
5.39 Mae'r gwaith o gynnal a chadw ffermydd gwynt yn aml yn rhan o gontract gweithgynhyrchu
tyrbinau am gyfnod gwarant penodol. Felly, gan fod contractau tyrbinau fel arfer yn cael eu
rhoi i gwmnïau tramor, caiff y gwaith cynnal a chadw ei gyflawni gan gwmnïau y tu allan i'r
DU yn aml. Mae'r graddau y gall cwmnïau a chyflogeion lleol gael budd o'r gwaith hwn yn
dibynnu ar y cydbwysedd rhwng defnydd gweithgynhyrchwyr o dimau lleol a'u defnydd o'u
gweithwyr eu hunain.
5.40 Yn Ffynnon Oer, mae'r contractwr a gafodd y contract o'r dechrau i'r diwedd, REpower, yn
cyflawni'r gwaith cynnal a chadw hwn fel rhan o gytundeb gwarant. Er gwaethaf hyn,
cynhyrchir rhywfaint o gyfleoedd swyddi uniongyrchol ar y safle i ymdrin â gwaith cynnal a
chadw cyffredinol ac archwilio'r tyrbinau (er enghraifft, ymdrin â newidiadau olew a
chydrannau cyffredinol). Caiff dau dechnegydd eu cyflogi'n uniongyrchol gan RWE ar y safle
yn llawn amser. Cyn eu cyflogi ar y safle, nid oedd gan y technegwyr hyn brofiad o gynnal a
chadw ffermydd gwynt felly cawsant eu hyfforddi drwy gwrs dwys chwe wythnos o hyd yn yr
Almaen (ym mhencadlys REpower) i ddarparu'r sgiliau tyrbin gofynnol ar gyfer eu rôl
Gweithrediadau a Chynnal a Chadw.
5.41 Y contractwr a gafodd y contract o'r dechrau i'r diwedd yng Nghefn Croes – GE Energy - sydd
hefyd yn cyflawni'r gwaith cynnal a chadw yng Nghefn Croes. Mae GE Energy yn cyflogi
pedwar aelod o staff ym maes Gweithrediadau a Chynnal a Chadw ffermydd gwynt. Er na
recriwtiwyd o'r gweithlu lleol i bob un o'r swyddi, mae'r pedair swydd ar hyn o bryd wedi'u
lleoli o fewn ardal o tua 20km i'r fferm wynt.
5.42 Ar ôl i'r warant ddod i ben, mae'n bosibl y bydd y datblygwr yn parhau i osod y gwaith cynnal
a chadw allan ar gontract neu y caiff ei reoli'n fewnol. Mae tystiolaeth o'n harolwg a'n
hastudiaethau achos yn dangos y caiff y ddau ddull eu defnyddio. Pan gaiff gweithgareddau
eu gosod allan ar gontract, gwneir hyn weithiau drwy un contract unigol sy'n cwmpasu'r holl
weithgareddau Gweithrediadau a Chynnal a Chadw. Gall hyn fod o fudd i gwmnïau lleol drwy
ddefnyddio fframwaith cytundeb o gontractwyr lleol y gall y prif gontractwr Gweithrediadau
a Chynnal a Chadw eu defnyddio lle y bo angen. Cyflawnwyd hyn o amgylch ffermydd gwynt
amrywiol yng Nghymru drwy gynnal diwrnodau agored i gwmnïau lleol er mwyn tynnu sylw
at y cyfleoedd posibl yn y gadwyn gyflenwi a helpu cyflenwyr lleol i gael eu hachredu ar gyfer
y fferm wynt.
5.43 Pan fydd datblygwyr yn dewis cyflawni'r gwaith cynnal a chadw'n fewnol, mae faint o
gyfleoedd fydd ar gael yn lleol yn dibynnu'n rhannol ar ddull y datblygwr o reoli ei bortffolio
o gynlluniau ffermydd gwynt ledled Cymru (yn berthnasol iawn yn achos datblygwyr mwy o
faint):
Efallai y bydd gan ddatblygwyr mwy o faint bortffolio o ffermydd gwynt yng
Nghymru ac y byddant yn dewis canoli gweithrediadau a chynnal a chadw'r ffermydd
gwynt hyn a rhannu cyfrifoldeb ymhlith staff presennol, yn arbennig ar gyfer
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
63
cynlluniau llai o faint.
Mae hefyd yn bosibl pan fydd gan ddatblygwr/gweithredwr/cyflenwr tyrbinau sawl
safle yn gymharol agos at ei gilydd, y caiff canolfannau lleol eu sefydlu at ddiben rhoi
cymorth cydgysylltiedig ar draws y safleoedd. Byddai hyn yn digwydd lle ceir effaith
glystyru ddigonol sy'n creu'r mas critigol ar gyfer cyflawni arbedion maint.
Nwyddau a Gwasanaethau Eraill a gaiff eu Prynu i Mewn
5.44 Fel y nodais yn adran 4, mae amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau eraill a gaiff eu prynu i
mewn yn ystod y cam gweithrediadau a chynnal a chadw, gan gynnwys coedwigaeth a'r
amgylchedd (£600 fesul MW o gapasiti wedi'i osod), cyfarpar a darnau sbâr (£8,400 fesul
MW) ac yswiriant (£1,500 fesul MW). Fel y dangosodd y dadansoddiad yn adran 4 uchod,
mae cyfran gymharol fach o gyfarpar a darnau sbâr yn dueddol o ddod o Gymru, gan fod
hyn, ar y cyfan, yn cysylltu â'r man lle y caiff tyrbinau a chydrannau eu gweithgynhyrchu.
5.45 Fodd bynnag, mae llawer mwy o gwmpas i wasanaethau amgylcheddol a choedwigaeth
ddod o ardaloedd lleol o ystyried presenoldeb y sgiliau hyn, yn arbennig mewn ardaloedd
gwledig. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau fel rheoli a monitro cynefinoedd,
coedwigaeth ac ati. Mae lle hefyd i fuddiannau sydd wedi'u hysgogi gael eu sicrhau'n lleol o
fewn y sector lletygarwch lle mae angen i staff cynnal a chadw aros yn lleol.
Effeithiau Ehangach
Taliadau Buddiannau Cymunedol
5.46 Mae cynnwys y Cronfeydd Buddiannau Cymunedol fel rhan o ddatblygiadau ffermydd gwynt
yn cynnig cryn botensial i sicrhau effeithiau cadarnhaol i gymunedau lleol. Yn wir, y
cronfeydd hyn yw prif ffynhonnell buddiannau lleol tymor hwy i gymunedau yn sgil ffermydd
gwynt. Canfu adroddiad diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree y gall y Cronfeydd
Buddiannau Cymunedol sicrhau budd drwy rannu buddiannau datblygiadau â'r cymunedau
cartref, cysylltu adnoddau lleol ag economïau lleol a sicrhau cefnogaeth y gymuned leol.
5.47 Mae astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar18 yn mapio graddau a natur Cronfeydd
Buddiannau Cymunedol ledled Cymru ar hyn o bryd. Canfu'r astudiaeth mapio hon fod nifer
o wahanol systemau yn cael eu defnyddio i wneud taliadau Cronfeydd Buddiannau
Cymunedol. O'r 32 o gronfeydd a archwiliwyd, y system a ddefnyddiwyd amlaf oedd taliad
blynyddol sefydlog (24), wedi'i ddilyn gan daliadau fesul MW o gapasiti wedi'i osod (6),
cyfran ecwiti (1) a thaliadau mewn nwyddau (1). Mae RenewableUK wedi cynnig isafswm
taliad o £1,000 fesul MW o gapasiti wedi'i osod (wedi'i gysylltu â'r Mynegai Prisiau
Manwerthu ar gyfer cynlluniau dros 5 MW) fel rhan o'i brotocol buddiannau cymunedol ar
gyfer Lloegr. Serch hynny, daeth taliadau o £5,000 fesul MW yn fwy cyffredin yn ystod y
blynyddoedd diwethaf.
5.48 Mae cyswllt agos rhwng maint taliadau a maint y fferm wynt (yn enwedig os cânt eu pennu
fesul MW). Ar gyfer cynlluniau mwy, rhydd hyn botensial ar gyfer sicrhau buddiannau
parhaus sylweddol o gronfeydd buddiannau cymunedol os cânt eu gwario ar weithgareddau
sy'n diwallu anghenion lleol ac a all gael effaith leol. O'r astudiaethau achos a ystyriwyd
gennym, roedd lefel flynyddol y taliad buddiannau cymunedol yn amrywio o £10,000 ar gyfer
18
RenewableUK, Mwynhau'r Manteision: Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol Ffermydd Gwynt ar y Tir i Gymru, 2012
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
64
Wern Ddu (cynllun 9.2 MW) i ragamcan o £1.8 miliwn ar gyfer Pen-y-Cymoedd (cynllun 256
MW). Gan ddefnyddio rhagdybiaeth ganolog o £3,000 fesul MW, noda ein gwaith modelu yn
y senario 2,000 MW y byddai hyn yn arwain at daliadau blynyddol o £6m (£150m dros y
cyfnod 2025-50).19 Mae'n werth nodi bod maint y taliad yn amrywio'n sylweddol fesul MW,
gyda rhai datblygwyr yn cynnig dros £5,000 fesul MW.
5.49 Yn nodweddiadol, mae datblygwyr yn awyddus iawn i sicrhau y caiff cymunedau lleol eu
cynnwys yn llawn yn y broses o gynllunio, gweithredu a rheoli'r Cronfeydd gan ei bod yn
bwysig iddynt deimlo perchenogaeth dros y Cronfeydd. Yn gyffredinol, bydd datblygwyr yn
dirprwyo'r cyfrifoldeb am y Cronfeydd Buddiannau Cymunedol, er y gallant gynnig cyngor ar
faterion gweinyddol. Wedyn caiff y Cronfeydd Buddiannau Cymunedol eu gweithredu gan
Ymddiriedolaethau Cymunedol (e.e. Cefn Croes), Cynghorau Tref/Cymuned (e.e. Wern Ddu),
elusennau lleol a chyrff eraill. Gall naill ai sefydliad unigol neu gyrff lluosog weithredu
Cronfeydd Buddiannau Cymunedol (e.e. yn Ffynnon Oer caiff y gronfa ei gweithredu ar y cyd
gan elusen a chwmni cyfyngedig). Mae'r berchenogaeth gymunedol hon dros Gronfeydd
Buddiannau Cymunedol yn golygu y cânt eu gwario ar weithgareddau yr ystyrir eu bod yn
flaenoriaeth i gymunedau unigol - nid oes un model unigol ar gyfer sut y dylid gwario'r
cronfeydd. O ystyried y dull gweithredu wedi'i ddatganoli mewn perthynas â Chronfeydd
Buddiannau Cymunedol, prin yw'r dystiolaeth ar effeithiau lleol y cronfeydd. Fodd bynnag,
mae gennym syniad o'r mathau o weithgareddau a ariannwyd:
Cefn Croes: mae'r gronfa £1,000 fesul MW (yn gysylltiedig â mynegeion) hyd yn hyn
wedi talu am offer ar gyfer grwpiau cymunedol, mân atgyweiriadau a gwelliannau i
adeiladau ar gyfer y gymuned, digwyddiadau, gwyliau a theithiau cymunedol,
hyfforddiant a chyrsiau addysgol ac ati. Mae'r rhestr o sefydliadau a gefnogir yn
cynnwys cynghorau cymuned, ysgolion, eglwysi a chapeli, neuaddau pentref,
cynlluniau trafnidiaeth gymunedol, grŵp celf, clwb garddio, ymddiriedolaeth
treftadaeth a grŵp ieuenctid, gan adlewyrchu trawsdoriad eang o grwpiau a
gweithgareddau cymunedol lleol.
Ffynnon Oer: Rhoddwyd grantiau i amrywiaeth o sefydliadau lleol gan gynnwys
clybiau ieuenctid a chwaraeon, grwpiau a sefydlwyd i helpu pensiynwyr a rhieni.
Gwnaed taliadau hefyd i Amgueddfa Glowyr De Cymru. Er bod y grantiau a roddir, ar
y cyfan, yn gymharol fach o ran gwerth, maent yn aml yn ymwneud â phrynu offer a
deunyddiau sydd eu hangen i sefydlu gwasanaethau mwy parhaol (e.e. boreau coffi i
drigolion oedrannus, offer ar gyfer clybiau chwaraeon ac ati).
5.50 Yn achos Pen-y-Cymoedd, mae'r gronfa buddiannau cymunedol arfaethedig o £1.8m fesul
blwyddyn yn amlwg yn fawr iawn a gallai gyflawni buddiannau cymdeithasol-economaidd
sylweddol yn lleol. Yn unol â hynny, mae'r datblygwyr yn rhoi'r broses o gynllunio'r gronfa ar
waith drwy gomisiynu gwaith ymchwil cymdeithasol-economaidd i lywio'r broses o asesu
anghenion a blaenoriaethau lleol, cronfeydd eraill a allai o bosibl ategu'r gronfa buddiannau
cymunedol a gwersi o ymyriadau blaenorol o ran yr hyn a fu'n llwyddiannus yn y gorffennol.
5.51 Mae rhai datblygiadau mwy o faint hefyd yn cynnwys cronfa datblygu economaidd
benodedig ochr yn ochr â'r gronfa buddiannau cymunedol. Caiff hyn ei lywio gan ofynion y
Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer ffermydd gwynt a gaiff eu lleoli ar ei ystâd. Er enghraifft,
19
Caiff y rhain eu mynegi ym mhrisiau 2012 – i lawer o gynlluniau, mae'r taliad yn gysylltiedig â mynegeion felly byddai'n cynyddu yn unol â chwyddiant.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
65
mae RWE npower renewables yn cynnig gwneud hyn ar gyfer ei ffermydd gwynt arfaethedig
ym Mrechfa a Chlocaenog. Ar gyfer Clocaenog, cynigir cronfa Datblygu Economaidd £3,000
fesul MW ochr yn ochr â'r gronfa buddiannau cymunedol £5,000 fesul MW (gyda'r ddwy yn
gysylltiedig â mynegeion). Er y byddai ffocws buddsoddi pob un o'r cronfeydd yn cael ei
bennu gan gymunedau lleol, mae'r ffaith bod dwy gronfa ar wahân ar gael yn golygu bod
cyfle i'w buddsoddi gyda'r ddwy yn canolbwyntio ar wahanol fathau o weithgareddau. Er
enghraifft, gellir defnyddio'r gronfa buddiannau cymunedol i ddatblygu cyfleusterau neu
wasanaethau cymunedol at ddefnydd trigolion lleol, a gellid buddsoddi'r gronfa datblygu
economaidd mewn gweithgareddau sy'n diwallu anghenion y sail fusnes leol.
Effeithiau Seilwaith Lleol
5.52 Mae datblygiadau ffermydd gwynt yn aml yn cynnwys buddsoddiadau mewn gwelliannau
amgylcheddol fel rhan o'r pecyn o waith seilwaith. Weithiau caiff y rhain eu cynnwys er
mwyn lliniaru effeithiau adeiladu'r datblygiad, neu cânt eu cynnwys fel rhan o'r broses
negodi gyda chymunedau lleol. Ymhlith yr enghreifftiau mae:
Cefn Croes: mae'r datblygwr wedi cyfrannu £10,000 y flwyddyn i brosiect parhaus i
wella'r amgylchedd o amgylch safle'r fferm wynt. Mae hyn yn ategu cynllun rheoli'r
amgylchedd a chaiff ei oruchwylio gan bwyllgor o randdeiliaid lleol gan gynnwys y
datblygwr, yr awdurdod lleol, y tirfeddiannwr, Llywodraeth Cymru a phartneriaid
eraill.
Ym Mhen-y-Cymoedd, caiff cynllun Rheoli Cynefinoedd ei roi ar waith, a fydd yn
werth £3m dros 25 mlynedd. Y nod fydd adfer, gwarchod, gwella a rheoli
cynefinoedd mawndir lleol.
Yn Ffynnon Oer, mae'r datblygwr wedi noddi gwelliannau i Lwybrau Beicio Mynydd
Afan, sy'n atyniad pwysig i dwristiaid yng Nghwm Afan. Mae'r llwybr wedi'i wella yn
agos at fferm wynt Ffynnon Oer, drwy Barc Coedwig Afan gerllaw. Mae'r
gwelliannau yn cynnwys uwchraddio adrannau allweddol o'r llwybrau yn ogystal â
darparu arwyddion newydd a gwybodaeth gysylltiedig i helpu o ran mordwyo.
Disgrifir Parc Coedwig Afan fel parc o'r radd flaenaf ar ei wefan a bydd y gwaith
uwchraddio hwn wedi cyfrannu i ryw raddau at yr hyn a gynigir.
Incwm i Dirfeddianwyr
5.53 Un o'r buddiannau pwysig i economïau gwledig lleol lle y ceir ffermydd gwynt yw'r taliadau a
wneir i dirfeddianwyr lleol lle lleolir y ffermydd gwynt. Yng Nghymru, mae ffermydd gwynt
naill ai wedi'u lleoli ar dir Comisiwn Coedwigaeth Cymru, tir fferm preifat neu dir comin ar
adegau. Fel rheol, bydd datblygwyr yn negodi taliad rhent blynyddol am gael mynediad i'r tir.
Mae'r taliad a gaiff ei negodi yn amrywio wrth gwrs yn dibynnu ar faint o dir sydd dan sylw
a'r gwerth a negodir. Mae ein harolwg yn awgrymu £12,000 fesul MW ar gyfartaledd ar gyfer
pob ymatebydd.
5.52 Gall hyn gynhyrchu incwm sylweddol i dirfeddianwyr, y caiff llawer ohono ei ailfuddsoddi
mewn busnesau lleol rywffordd. Er enghraifft, os yw ein cyfartaledd ar gyfer yr arolwg yn
gymharol gynrychioliadol, byddai hyn yn awgrymu taliadau o fwy na £3m y flwyddyn ym
Mhen-y-Cymoedd.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
66
6. Casgliadau ac Argymhellion
Casgliadau
6.1 Mae ein dadansoddiad wedi tanlinellu'r ffaith bod buddiannau economaidd sylweddol a
chyson yn bosibl i Gymru yn sgil datblygu a gweithredu capasiti ynni gwynt ychwanegol ar y
tir yn y dyfodol. Yn seiliedig ar y safbwyntiau a'r wybodaeth ddiweddaraf gan y diwydiant,
ystyriodd yr astudiaeth lefel debygol y buddsoddiad a'r gwariant a allai lifo i Gymru o dan
amrywiol senarios ar gyfer datblygu'r diwydiant, pa sectorau y bydd hyn o fudd iddynt, a
beth y gallai hyn ei olygu o ran Gwerth Ychwanegol Crynswth a chyflogaeth yng Nghymru.
6.2 Dangosodd y dadansoddiad hwn petai 2,000 MW wedi'i ddatblygu erbyn 2025 a phetai
Cymru yn gallu ac yn barod i sicrhau ei chyfran ddisgwyliedig o fuddsoddiad, y gellid sicrhau
£2.3 biliwn o GYC i Gymru rhwng 2012 a 2050, gyda thros 2,300 o swyddi CALl y flwyddyn yn
ystod yr un cyfnod. Er y gallai'r sector adeiladu a'r sector gweithgynhyrchu gael budd
penodol yn sgil y gweithgarwch hwn, gallai'r buddiannau gael eu rhannu ar draws
amrywiaeth o sectorau ledled Cymru, o ganlyniad i effeithiau'r gadwyn gyflenwi a gwariant
defnyddwyr cyflogeion.
6.3 Mae risgiau negyddol i gyflawni'r buddiannau hyn:
Petai'r gwaith datblygu yn arafu, byddai llai o fuddsoddiad yng Nghymru ac, o
ganlyniad, ni fyddai cyfleoedd ar gyfer cymaint o swyddi na GYC. Byddai parhau â
thueddiadau hanesyddol o ran cyfraddau datblygu yn arwain at GYC o tua £1.4
biliwn yn llai na phetai 2,000 MW yn cael ei ddatblygu, a dim ond tua thraean o'r
swyddi y gellid eu cefnogi. Gallai parhau â thueddiadau mwy diweddar olygu bod
£0.9 biliwn yn llai o GYC a thua 1,000 yn llai o swyddi ar gyfartaledd bob blwyddyn.
Mae ein hymchwil wedi tynnu sylw at nifer o rwystrau i gyflawni gwaith datblygu,
gan gynnwys materion cynllunio lleol ac, i raddau llai, cyfyngiadau o ran seilwaith
grid a ffyrdd.
At hynny, petai 2,000 MW yn cael ei gyflawni, byddai'n dal angen bod yn
rhagweithiol er mwyn sicrhau bod y buddiannau posibl a amlinellwyd uchod yn cael
eu gwireddu. Mae'r dadansoddiad yn adran 4 wedi nodi'r canlyniadau petai'r
buddsoddiad yng Nghymru islaw disgwyliadau. Yn ein hargymhellion isod, rydym yn
ystyried rhai o'r opsiynau sydd ar gael o ran sicrhau'r buddiannau mwyaf posibl.
6.4 Ni châi'r cyfleoedd economaidd a amlinellir yn Adran 4 eu dosbarthu'n gyson drwy'r wlad a,
chan adlewyrchu daearyddiaeth economaidd Cymru, byddai llawer o'r buddiannau o ran y
gadwyn gyflenwi wedi'u crynhoi yn yr ardaloedd trefol mwy o faint. Serch hynny, mae
cyfleoedd i'r ardaloedd lleol fanteisio ar y datblygiadau:
Gall yr ardaloedd hynny sy'n agos at ganolfannau trefol fanteisio ar gyfleoedd yn y
gadwyn gyflenwi, o gofio bod y sectorau perthnasol yn amlycach a bod mwy o
fusnesau addas yn yr ardaloedd hynny.
Bydd ardaloedd gwledig yn aml mewn sefyllfa dda iawn i gyflenwi rhai mathau o
nwyddau a gwasanaethau, oherwydd bod yr economïau sy'n gysylltiedig â phrynu'r
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
67
mewnbynnau hyn o fudd i gyflenwyr lleol a bod sail gyflenwi dda ar gael yn lleol.
Mae'r enghreifftiau yn cynnwys agregau, peirianneg sifil anarbenigol, coedwigaeth a
gwaith arall i wella'r amgylchedd / cynefinoedd.
Mae'r cam adeiladu hefyd o fudd i economïau lleol gwledig sy'n seiliedig ar
wasanaethau gan eu bod yn darparu gwasanaethau i'r contractwyr a gaiff eu lleoli
yno dros dro, megis lletygarwch a manwerthu.
Dengys tystiolaeth o'n hastudiaethau achos bod enghreifftiau o waith da sy'n mynd
rhagddo i ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi mewn ardaloedd lleol ac i gysylltu prif
gontractwyr â darpar gyflenwyr lleol.
Bydd rhywfaint o gyfleoedd i ardaloedd gwledig fanteisio ar gyfleoedd ym maes
Gweithrediadau a Chynnal a Chadw. Gall hyn fod yn wir ar gyfer cynlluniau mwy o
faint a chynlluniau mewn ardaloedd mwy anghysbell lle y mae'n gwneud mwy o
synnwyr economaidd dod o hyd i wasanaethau cynnal a chadw yn lleol. Fodd bynnag, lle
bydd gan ddatblygwyr nifer o ffermydd gwynt ledled yr ardaloedd hyn, mae'n bosibl
y byddant yn dewis canolbwyntio'r gweithgareddau hyn mewn canolfannau yn y prif
drefi yng nghanolbarth Cymru.
Bydd y rhan fwyaf o gymunedau lleol lle ceir ffermydd gwynt yn cael budd hirdymor
o Daliadau Budd Cymunedol. Mewn rhai achosion, gall y taliadau hyn fod yn uchel
iawn ac arwain o bosibl at fuddiannau economaidd a chymunedol cadarnhaol
sylweddol i gymunedau lleol.
Mae datblygiadau ffermydd gwynt yn aml yn cynnwys buddsoddiadau i wella / adfer
yr amgylchedd fel rhan o'r pecyn o waith seilwaith. Gall y rhain helpu i ymdrin â
phryderon sy'n bodoli eisoes yn ogystal ag ariannu gwelliannau i gyfleusterau i
ymwelwyr, er enghraifft. Mae rhai o'r cynlluniau mwy yn cynnwys cynlluniau
cynhwysfawr i adfer cynefinoedd.
Mae tirfeddianwyr yn cael taliadau cyfalaf a/neu rent yn gyfnewid am leoli ffermydd
gwynt ar eu tir. Gan ddibynnu ar y tirfeddiannwr, bydd yr incwm hwn naill ai'n mynd
i ffermwyr lleol, tirfeddianwyr eraill neu'r Comisiwn Coedwigaeth/Llywodraeth
Cymru. Caiff y lefelau incwm sylweddol hyn eu defnyddio'n aml i gefnogi
buddsoddiadau mewn busnesau ar y tir a busnesau gwledig cysylltiedig.
Argymhellion
6.5 Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag ynni gwynt ar y tir yng
Nghymru, bydd angen ymdrechion rhagweithiol, cydlyniad a phartneriaeth yn ystod y
blynyddoedd nesaf. Nodwn feysydd posibl i roi sylw iddynt isod.
Y System Gynllunio
6.6 Mae fframwaith cynllunio clir ar gyfer datblygu ynni gwynt ar y tir ledled Cymru. Fodd
bynnag, mae ein gwaith ymchwil wedi amlygu problemau o ran rhoi'r fframwaith
cenedlaethol hwn ar waith ar lefel leol. Bu'r cyfraddau cymeradwyo yng Nghymru yn is na
gweddill y DU (ac yn arbennig yr Alban), a bu achosion o oedi yn fwy cyffredin ac yn hirach.
Er mwyn gwireddu'r dyheadau cenedlaethol ar gyfer datblygu'r sector, mae angen cymryd
camau i sicrhau bod gan fuddsoddwyr a datblygwyr hyder y caiff datblygiadau eu rhoi ar
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
68
waith. Fel arall, o ystyried y buddsoddiad cychwynnol sylweddol sydd ei angen, mae perygl y
bydd y risgiau cynllunio yn atal buddsoddwyr ac y bydd datblygwyr yn chwilio am leoliadau
amgen yn y DU a thramor. Mae cyfle hefyd i ddatblygwyr ymgysylltu â chymunedau mor
gynnar â phosibl yn y broses gynllunio ac i fuddsoddi adnoddau i gyfleu buddiannau eu
cynlluniau i'r gymuned leol. Mae'r adolygiad presennol o'r system gynllunio yn rhoi cyfle i
sicrhau bod y system yn addas at y diben ac i ymdrin â rhwystrau penodol.
Argymhelliad 1: Dylai Llywodraeth Cymru a datblygwyr gydweithio i sicrhau y caiff pryderon
am gyfyngiadau cynllunio eu hystyried fel rhan o'r adolygiad presennol o'r system gynllunio,
a fydd, yn ei dro, yn llywio'r Papur Gwyn arfaethedig ar Gynllunio y disgwylir iddo gael ei
gyhoeddi yn 2013.
Argymhelliad 2: Dylai datblygwyr ymgysylltu â chymunedau o gam cynnar yn y broses
gynllunio a sicrhau y caiff buddiannau (ac anfanteision) y cynllun i'r gymuned leol eu cyfleu
mewn ffordd glir ac effeithiol.
Sicrhau Seilwaith
6.7 Mae'n amlwg o'n gwaith ymchwil y cydnabyddir yn eang bod diffyg seilwaith grid - yn
arbennig yng nghanolbarth Cymru - yn ffactor sy'n cyfyngu ar ddatblygu ynni gwynt ar y tir.
Ar gyfer lleoliadau penodol, mae rhai buddsoddwyr a datblygwyr o'r farn bod y seilwaith
ffyrdd yn gyfyngiad. Gall awdurdodau lleol helpu i liniaru'r pwysau hyn ar ffyrdd sy'n bodoli
eisoes drwy reoli symudiadau llwythi mawr yn ofalus a rhoi gwybod i bobl leol pryd y bydd y
gwaith hwn yn digwydd. Gallai awdurdodau lleol hefyd ystyried gwneud ffyrdd llai o faint yn
ffyrdd un ffordd yn unig, gyda gwyriadau addas ac arwyddion clir ar eu cyfer ar ddiwrnodau
symud llwythi. Defnyddiwyd y dull gweithredu hwn mewn lleoliadau yn yr Alban a gellid ei
fabwysiadu er mwyn lleihau effaith cynlluniau sydd yn yr arfaeth ym Mhowys.
6.8 Mae angen camau gweithredu cydgysylltiedig rhwng datblygwyr, Llywodraeth Cymru ac
awdurdodau cynllunio lleol er mwyn sicrhau y caiff y seilwaith sydd ei angen i gyflawni'r
dyheadau cenedlaethol ar gyfer datblygu ynni gwynt ar y tir ei ddarparu a'i fod yn barod
mewn pryd i hwyluso'r broses o weithredu capasiti ynni gwynt ar y tir. Unwaith eto, oni
ddigwydd hyn, mae perygl y ceir oedi, y ceir effaith andwyol ar hyder buddsoddwyr ac na
lwyddir i gyflawni'r dyheadau cenedlaethol.
Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru, gan weithio ar y cyd â datblygwyr ac awdurdodau
cynllunio lleol perthnasol, fwrw ati ar y cyd i nodi ffactorau sy'n atal y seilwaith grid
angenrheidiol rhag cael ei ddatblygu, cyfyngiadau allweddol o ran y seilwaith ffyrdd ac
atebion effeithiol.
Y gadwyn gyflenwi a datblygu'r sector
6.9 Mae'r astudiaeth hon wedi casglu'r prif ddata ar natur a maint y gadwyn gyflenwi yng
Nghymru ar gyfer ynni gwynt ar y tir, ond gellid cynnal ymarfer mwy cynhwysfawr i fapio'r
ochr gyflenwi yn fanwl, er mwyn deall meysydd o gryfder yn well, nodi cyflenwyr cyfredol a
darpar gyflenwyr allweddol, y lleoliadau lle ceir y presenoldeb cryfaf, lefelau ymwybyddiaeth
presennol o'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag ynni gwynt ar y tir, yn ogystal â bylchau allweddol
yn yr ochr gyflenwi yng Nghymru a'r potensial i ymdrin â hwy.
Argymhelliad 4: Dylai RenewableUK, Llywodraeth Cymru a datblygwyr ystyried cynnal
astudiaeth mapio o'r gadwyn gyflenwi ar gyfer ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, er mwyn:
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
69
llenwi'r bylchau o ran ymwybyddiaeth datblygwyr o'r gadwyn gyflenwi a'r prif
gontractwyr
deall lefelau ymwybyddiaeth presennol o gyfleoedd ym maes ynni gwynt ar y tir o
fewn y gadwyn gyflenwi. Byddai angen targedu'r gwaith hwn at wahanol haenau o'r
gadwyn gyflenwi gan ddibynnu ar y rhan benodol o'r gadwyn gyflenwi (e.e. ar gyfer
haen 1 ar gyfer gwasanaethau'r amgylchedd; haenau is ar gyfer gweithgynhyrchu)
deall unrhyw fylchau allweddol sy'n bodoli yn y gadwyn gyflenwi y gellid eu
targedu'n realistig o ran hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi
deall i ba raddau y gallai fod gan gadwyni cyflenwi sy'n bodoli eisoes ar gyfer
diwydiannau eraill (e.e. metelau a pheirianneg ar gyfer archwilio dur ac olew) y
setiau sgiliau a'r offer cyfalaf angenrheidiol i ymuno â'r cadwyni cyflenwi ar gyfer y
sector ynni gwynt ar y tir, a pha gymorth sydd ei angen arnynt er mwyn gwneud hyn
llywio camau gweithredu yn y dyfodol er mwyn ymdrin â'r anghenion cymorth eraill
a nodwyd (e.e. cymorth gyda gwaith cynllunio busnes strategol, cyngor ar gyflwyno
tendrau, y gallu i gael gafael ar gyllid, datblygu sgiliau).
6.10 Er y gellid gwella'r wybodaeth sydd ar gael am y gadwyn gyflenwi a'i hanghenion cymorth,
ceir enghreifftiau eisoes o arfer da yng ngwaith datblygwyr i ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi
ac awdurdodau lleol i wella ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd ac i helpu cyflenwyr lleol i gystadlu
am gontractau. Mae'n bwysig tynnu sylw penodol at yr arfer da hwn a'i ddefnyddio i lywio
cynlluniau ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, lle y bo'n briodol.
Argymhelliad 5: Dylai RenewableUK Cymru a datblygwyr rannu arfer da o ran dulliau o
ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi, gyda'r bwriad o greu cronfa gwybodaeth a sail dystiolaeth
ar ddulliau gweithredu a'u heffeithiolrwydd.
Taliadau Budd Cymunedol
6.11 Mae Taliadau Budd Cymunedol sy'n gysylltiedig â ffermydd gwynt ar y tir yn adnodd
sylweddol, gan roi cyfleoedd i gymunedau lleol gael budd hir dymor gwirioneddol os cânt eu
gwario'n briodol. Gwneir ymdrechion i fapio'r defnyddiau presennol o gronfeydd budd
cymunedol ledled Cymru20, a gwnaed argymhellion ar gyfer creu cofrestr o gronfeydd
buddiannau cymunedol o ffermydd gwynt gweithredol neu sydd wedi'u cymeradwyo, ac i
helpu cymunedau i ddatblygu'r gronfa budd cymunedol orau i ddiwallu eu hanghenion. Ceir
potensial i adeiladu ar hyn ac i ddeall sut y caiff yr arian ei wario a pha fuddiannau y mae hyn
yn esgor arnynt.
Argymhelliad 6: Parhau â'r gwaith sy'n mynd rhagddo gan RenewableUK Cymru, gyda'r
bwriad o ddeall sut y caiff cronfeydd budd cymunedol eu defnyddio ledled Cymru a gweddill y
DU, y buddiannau sy'n gysylltiedig â hwy ac arfer da.
6.12 Yn gyffredinol, caiff cronfeydd budd cymunedol eu trosglwyddo i gyrff cymunedol lleol i'w
defnyddio fel y gwelant yn addas ar brosiectau cymunedol lleol. Er bod hyn o fudd i'r
20
E.e. Gwerth Cronfeydd Budd Cymunedol ffermydd gwynt ar y tir i Gymru, RenewableUK Cymru, 2012 a
Phrifysgol Caerdydd (2008) Datblygu Ffermydd Gwynt yng Nghymru: Asesu'r Buddiannau Cymunedol.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
70
cymunedau lleol hyn, o ystyried maint y cronfeydd budd cymunedol sy'n cael eu cyflwyno a'r
heriau cymdeithasol-economaidd sylweddol sy'n wynebu llawer o'r cymunedau lle ceir
ffermydd gwynt, mae cyfle i ddefnyddio'r cronfeydd budd cymunedol mewn ffordd fwy
strategol er mwyn ymdrin â heriau cymdeithasol-economaidd yn yr ardaloedd hynny. Gellid
gwneud hyn drwy gyfuno rhai o'r cronfeydd budd cymunedol sydd yn yr arfaeth i greu cronfa
digon mawr i sicrhau buddiannau datblygu economaidd, ac i'w cyfateb ag adnoddau
datblygu economaidd sy'n bodoli eisoes.
Argymhelliad 7: Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ddichonoldeb cyfuno a brigdorri cyfran
o'r cronfeydd budd cymunedol yn y dyfodol, i greu cronfa i'w defnyddio gan Lywodraeth
Cymru ac Awdurdodau Lleol i ymdrin â materion cymdeithasol-economaidd mewn
cymunedau lleol, gan ddefnyddio arian cyfatebol o gronfeydd datblygu economaidd eraill
(megis y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a'r Rhaglen Datblygu Gwledig).
Buddiannau Lleol
6.13 Mae ein gwaith ar yr astudiaethau achos wedi datgelu enghreifftiau o arfer da wrth
ddefnyddio mentrau â ffocws lleol i fanteisio i'r eithaf ar fuddiannau lleol datblygiadau
ffermydd gwynt (er enghraifft, ym Mhen-y-Cymoedd). Rydym wedi argymell y dylid rhannu a
dysgu o'r arfer gorau hwn. Gan ddatblygu ar hyn, dylid prif-ffrydio'r enghreifftiau hyn o arfer
da lle y bo'n bosibl.
Argymhelliad 8: Ar gyfer datblygiadau digon mawr, dylai fod yn arfer safonol i ddatblygwyr
weithio gydag awdurdodau lleol ar gam cynnar i godi ymwybyddiaeth ymhlith y sail
busnesau lleol o'r amrywiaeth o gyfleoedd a allai fod ar gael iddynt drwy gydol pob cam o'r
broses o ddatblygu'r fferm wynt. Dylid gwneud hyn drwy ddigwyddiadau ac amrywiaeth o
sianelau marchnata (ar-lein, print a'r cyfryngau darlledu fel y bo'n briodol).
Argymhelliad 9: Dylid cynnal digwyddiadau i Ddatblygwyr a digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr,
lle y bo'n bosibl, cyn gosod y prif gontractau. Dylai'r rhain ddod â darpar brif gontractwyr a
darpar is-gontractwyr lleol ynghyd er mwyn iddynt allu deall gofynion ei gilydd ar gam
cynnar.
Argymhelliad 10: Mewn ffyrdd ymarferol, dylid annog y prif gontractwyr i ddefnyddio
cyflenwyr lleol drwy'r broses gaffael (ac, yn eu tro, dylid eu hannog hwy i ddefnyddio is-
gontractwyr lleol) gyda'r broses o fonitro cyflawniadau yn cael ei chynnwys o fewn
gweithdrefnau rheoli contractau.
Argymhelliad 11: Lle ceir digon o gyfleoedd mewn ardal leol (e.e. o glystyrau o ddatblygiadau ym Mhowys), byddai'n werth i'r datblygwyr hyn ystyried dichonoldeb cynlluniau hyfforddi a recriwtio ar y cyd ar gyfer galwedigaethau perthnasol wedi'u targedu at drigolion lleol
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen A-1
Atodiad A Methodoleg Effaith Economaidd
1. Yma ceir manylion am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i lunio'r amcangyfrifon o'r effaith
economaidd a nodwyd yn Adran 4. Disgrifiwn y canlynol
Y mewnbynnau i'r model a'r tybiaethau allweddol
Y broses fodelu
Mewnbynnau i'r Model
2. Mae dau fewnbwn allweddol mewn perthynas â'r model:
1) Proffil datblygu a gweithredu - senarios ar gyfer cynyddu'r capasiti gweithredol dros
amser
2) Gwariant a phrynu - rhagdybiaethau ar lefelau gwariant cyfalaf a gweithredol
cyfartalog nodweddiadol fesul MW o gapasiti wedi'i osod.
1. Proffil datblygu a gweithredu
Y biblinell bresennol
3. Mae'r tabl isod yn crynhoi'r capasiti gweithredol presennol a'r capasiti arfaethedig yn y
system gynllunio a datblygu. Fel y gwelir, bydd yn bosibl cyrraedd y targed (gan dybio y caiff
y rhan fwyaf o'r capasiti arfaethedig ei weithredu). O gofio bod 13 mlynedd tan 2025,
byddai'n dechnegol bosibl i hyn ddigwydd o fewn terfyn amser 2025, er y byddai hyn yn
heriol o ystyried y gyfradd ddatblygu dros y degawd diwethaf a'r oedi y mae cynlluniau yng
Nghymru yn ei wynebu ar hyn o bryd.
Capasiti wedi'i Osod mewn Ffermydd Gwynt ar y Tir yng Nghymru: Ar Waith ac Yn Yr Arfaeth
Ffermydd Gwynt
Tyrbinau Capasiti MW
Ar Waith 38 540 423
Cymeradwywyd ond nis adeiladwyd
15 145 449
Wrthi'n cael eu hadeiladu 5 44 111
Yn Disgwyl Penderfyniad 37 490 1,204
Cyfanswm Cyfredol y Capasiti Posibl
95 1,219 2,187
Ffynhonnell: Cronfa ddata RenewableUK
4. Wrth gwrs, nid yw'r dadansoddiad hwn yn ystyried unrhyw gynlluniau sydd yn y cam cyn-
cynllunio ac y gellid eu datblygu yn ystod y terfyn amser hwn. O ystyried y diffyg gwybodaeth
a'r ansicrwydd o ran y cynlluniau hyn, mae'r rhain y tu allan i gwmpas y gwaith modelu.
Senario 1: 2,000 MW o Gapasiti wedi'i Osod erbyn 2025
5. Prif ddiben yr asesiad o'r effaith amgylcheddol yw modelu'r effeithiau economaidd posibl y
gellid eu sicrhau i Gymru pe cyflawnwyd dyheadau datganedig presennol Llywodraeth
Cymru ar gyfer datblygu'r sector. Mae datganiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru (Y
Chwyldro Carbon Isel a'r Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd yn Haf 2011) wedi egluro
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen A-2
mai'r dyhead cyffredinol yw cyflwyno cyfanswm o 2,000MW o gapasiti gwynt ar y tir yng
Nghymru erbyn 2025. Felly mae'r senario hwn yn ystyried faint o gapasiti ychwanegol sydd ei
angen er mwyn cyflawni hyn.
6. Caiff y prif ddarlun mewn perthynas â'r targed hwn ei gymhlethu rhywfaint gan y ffaith bod
disgwyl i rywfaint o'r capasiti gweithredol hwn sydd eisoes wedi'i osod gyrraedd diwedd ei
oes weithredol cyn 2025. Felly os caiff rhywfaint o'r capasiti hwn ei ddatgomisiynu yn ystod y
cyfnod hwn, yna bydd angen cyflwyno lefel gyfatebol o gapasiti ychwanegol er mwyn
cyrraedd y targed. Yn amlwg, po fwyaf o'r capasiti hwn a gaiff ei ailbweru, y lleiaf fydd y
capasiti ychwanegol y bydd angen ei gyflwyno er mwyn cyflawni hyn.
7. O ystyried hyn, mae angen i'r model dybio cyfradd synhwyrol o ailbweru yn ogystal â
datgomisiynu capasiti sy'n bodoli eisoes. Ar ôl ymgynghori â datblygwyr, o'r capasiti MW sy'n
bodoli ar hyn o bryd y disgwylir iddo gyrraedd diwedd ei oes weithredol rhwng 2012 a 2025,
rydym yn tybio y caiff 75% ei ailbweru ac y caiff 25% ei ddatgomisiynu. At hynny, tybir y bydd
capasiti'r ffermydd gwynt hynny a fydd yn ailbweru yn cynyddu 50%.
8. O ystyried y dybiaeth hon, bydd angen cyfanswm o ychydig dros 1,500MW o gapasiti
ychwanegol erbyn 2025 (sy'n cyfateb i gyfartaledd blynyddol o 120MW y.f).
Senario 2: Parhau â chyfradd 2001-11
9. Mae'n ddefnyddiol llunio senario sy'n ystyried faint o gapasiti a gâi ei ddatblygu pe byddai
tueddiadau'r degawd diwethaf yn parhau. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth cyfanswm o
270MW o gapasiti gwynt ar y tir yn weithredol (cyfartaledd blynyddol o 27MW y.f.). Os bydd
y duedd hon yn parhau, byddai cyfanswm capasiti wedi'i osod o tua 800MW yng Nghymru
erbyn 2025 - sy'n amlwg yn ddiffyg sylweddol o gymharu â'r dyhead o 2,000MW.
10. Yn sail i'r senario hon, mae'r potensial y gallai'r gyfradd ddatblygu a'r capasiti newydd a
ddaw'n weithredol yn y dyfodol arafu y tu hwnt i'r gyfradd ganiatáu bresennol (gweler
senario tri), o bosibl o ganlyniad i fethiant cyffredinol cynlluniau i gael caniatâd a'r ffaith y
gallai buddsoddiadau symud i leoliadau neu dechnolegau buddsoddi eraill.
Senario 3: Cyfraddau Caniatáu Diweddar
11. Mae ein senario olaf yn ystyried y duedd fwy diweddar o ran caniatáu ffermydd gwynt yng
Nghymru.
12. Noda cronfa ddata RenewableUK fod 493MW o gapasiti wrthi'n cael ei adeiladu neu wedi
cael caniatâd ar hyn o bryd:
mae 111MW wrthi'n cael ei adeiladu: dechreuodd 35MW yn 2011; dechreuodd
77MW yn 2012. Gellir tybio'n ddiogel y daw'r capasiti hwn yn weithredol yn ystod y
blynyddoedd nesaf.
cymeradwywyd 382MW ond ni ddechreuwyd ar y gwaith adeiladu eto. Mae'r gronfa
ddata yn nodi pryd y cafodd pob un o'r ffermydd gwynt hyn ganiatâd ac mae
gennym rywfaint o dystiolaeth o arolygon gan ddatblygwyr a ymatebodd, sy'n nodi'r
dyddiad dechrau tebygol ar gyfer gweithrediadau.
13. Gan ddod â hyn oll ynghyd, mae'n debygol y daw'r rhan fwyaf o'r capasiti arfaethedig hwn
yn weithredol erbyn 2016. Mae hyn yn cyfateb i gyfartaledd blynyddol o 124MW y.f. o
gapasiti ychwanegol yn ystod y cyfnod. Gan dybio y bydd y gyfradd hon yn parhau hyd at
2025, byddai hyn yn fwy na digon i fodloni'r lefel o 2,000MW. Fodd bynnag, mae cynllun
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen A-3
Pen-y-Cymoedd (256MW) yn cael dylanwad mawr ar y lefel gymeradwyo ddiweddar. Nid oes
unrhyw gynlluniau eraill o faint tebyg yn y system gynllunio ar hyn o bryd (Carnedd Wen yw'r
cynllun mwyaf). Felly nid yw'n realistig i fwrw ati i lunio rhagamcanion ar gyfer y dyfodol ar y
sail hon.
14. Heb gynnwys Pen-y-Cymoedd yn y cynlluniau a gafodd ganiatâd yn ddiweddar, ceir
cyfartaledd blynyddol o 49MW y flwyddyn. Byddai bwrw ati i lunio rhagamcanion ar gyfer y
dyfodol ar y sail hon hefyd yn amheus gan ein bod yn gwybod bod Pen-y-Cymoedd wedi cael
caniatâd. Felly rydym wedi defnyddio canolbwynt rhwng 124MW a 49MW y flwyddyn: sef
86MW y flwyddyn. Byddai bwrw ati i lunio rhagamcanion ar y sail hon yn golygu 1,560MW o
gapasiti wedi'i osod erbyn 2025.
Trosolwg o'r Senarios
15. Ceir crynodeb o'r proffiliau ar gyfer capasiti wedi'i osod erbyn 2025 ar gyfer pob un o'r
senarios isod.
Capasiti Gweithredol, yn ôl Senario
Llunio'r Proffil Datblygu Llawn
Wedyn gellir troi pob un o'r senarios hyn ar gyfer capasiti newydd yn broffiliau ar gyfer
cynllunio a datblygu, adeiladu, gweithrediadau a chynnal a chadw a datgomisiynu ac
ailbweru o 2005 i 2025, ac yna hyd at 2050. Gwnaed hyn gan ddefnyddio'r rhagdybiaethau
canlynol, yn seiliedig ar dystiolaeth o'n harolygon a gwaith arall a gyhoeddwyd:
Cynllunio a datblygu: cyfartaledd o bedair blynedd cyn dyddiad dechrau'r gwaith
adeiladu
Adeiladu: cyfartaledd o ddwy flynedd ar gyfer adeiladu capasiti newydd cyn y daw'n
weithredol
Gweithrediadau a gwaith cynnal a chadw: mae gan bob fferm wynt newydd oes
0
200
400
600
800
1,000
1,200
1,400
1,600
1,800
2,000
2015 2020 2025 2030 2035 2040 2045 2050
Operati onal Capa city Senario 1: 2,000MW erbyn 2025
Senario 2: Tuedd 2001-11 yn parhau
Senario 3: Cyfraddau caniatáu diweddar
2012
Cap
asit
i Gw
eith
red
ol
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen A-4
weithredol o 25 mlynedd
Datgomisiynu/ailbweru: fel y nodwyd yn gynharach, caiff 25% o'r capasiti sy'n bodoli
ar hyn o bryd a ddaw at ddiwedd ei oes hyd at 2025 ei ddatgomisiynu, a chaiff 75%
ei ailbweru. Wedi hynny, mae'r model yn tybio proffil capasiti gweithredol cyson,
gan asesu'r effaith economaidd sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad cyfalaf a'r gwariant
gweithredol parhaus sydd eu hangen i'w gynnal.
2. Gwariant a phrynu
16. Er mwyn modelu effaith economaidd y senarios hyn, mae angen troi'r proffiliau hyn ar gyfer
cynllunio, datblygu, adeiladu, gweithrediadau a chynnal a chadw a datgomisiynu ac ailbweru
yn broffiliau ar gyfer y buddsoddiad / gwariant sy'n gysylltiedig â phob cam.
17. Er mwyn gwneud hyn, mae angen rhagdybiaethau hyddysg a realistig o ran y canlynol:
1) Cyfanswm lefel y buddsoddiad/gwariant fesul MW ar gyfer pob cam
2) Cyfrannau nodweddiadol cyfanswm y buddsoddiad/gwariant hwn sy'n digwydd yng
Nghymru.
18. Er mwyn sicrhau ffigurau cadarn, defnyddiwyd arolwg o ddatblygwyr a gweithredwyr
ffermydd gwynt yng Nghymru fel yr adnodd ymchwil allweddol i lywio'r gwaith.
Diben a Chynnwys yr Arolwg
19. Gwahoddwyd pob datblygwr fferm wynt ar y tir â chynlluniau wrthi'n cael eu cynllunio neu
ar waith yng Nghymru i gwblhau arolwg ysgrifenedig yn rhoi gwybodaeth i hwyluso ein
gwaith modelu economaidd mewn perthynas ag effeithiau'r sector ar Gymru.
20. Gofynnodd yr arolwg i ddatblygwyr roi gwybodaeth am y canlynol:
Y rhan a chwaraeir ganddynt yn y sector ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, gan
gynnwys manylion ffermydd gwynt sydd eisoes yn bodoli neu sydd yn yr arfaeth a'u
barn ar gryfder cadwyni cyflenwi ynni gwynt yng Nghymru, ac ar Gymru fel lleoliad i
fuddsoddi ynddo
Eu cynlluniau ynni gwynt ar y tir sy'n cael eu datblygu yng Nghymru, gan gynnwys
costau ac amserlenni datblygu disgwyliedig, a'r tebygolrwydd o brynu nwyddau a
gwasanaethau o Gymru
Eu cynlluniau ynni gwynt ar y tir sy'n weithredol yng Nghymru, gan gynnwys pryd y
cawsant eu datblygu, costau gweithredol blynyddol, cyfran y nwyddau a
gwasanaethau a brynwyd o Gymru, nifer y swyddi a grëwyd, y cronfeydd
buddiannau cymunedol a ddarparwyd a disgwyliadau ynghylch datgomisiynu neu
ailbweru ar ddiwedd cylch oes y ffermydd gwynt.
21. Darperir holiadur yr arolwg yn Atodiad B.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen A-5
Dull Gweithredu ac Amseriad yr Arolwg
22. Dosbarthwyd yr arolwg i bob datblygwr cynlluniau ffermydd gwynt ar y tir a nodwyd ar
gronfa ddata ffermydd gwynt gynhwysfawr RenewableUK, yr oedd manylion cyswllt ar gael
ar eu cyfer.
23. Anfonwyd yr arolwg atynt ym mis Hydref 2012 a chafwyd ymatebion drwy gydol mis Hydref
a mis Tachwedd 2012. Mae'r siart isod yn nodi'r gyfradd ymateb gyffredinol ar gyfer yr
arolwg.
Crynodeb o Faint y Sampl a'r Cyfraddau Ymateb
24. O'r 43 o ddatblygwyr cynlluniau ffermydd gwynt ar y tir sy'n bodoli eisoes ac sydd yn yr
arfaeth a nodwyd ar gronfa ddata RenewableUK, cafwyd cyfanswm o 15 o ymatebion (35%).
Fodd bynnag, roedd y grŵp hwn yn cynrychioli'r rhan fwyaf o'r datblygwyr mwy o faint, gan
olygu y cafwyd ymatebion a oedd yn berthnasol i 36 o'r 81 o ffermydd gwynt sy'n bodoli
eisoes ac sydd yn yr arfaeth (44%). Mae'r ffermydd gwynt hyn yn cynnwys 66% o'r holl
gapasiti sydd ar waith ac sydd yn yr arfaeth.
25. Mae'r ffaith bod yr ymatebion i'r arolwg yn berthnasol i 66% o'r holl gapasiti sy'n bodoli
eisoes ac sydd yn yr arfaeth yn rhoi lefel gymharol uchel o hyder i ni yn y ffigurau dilynol
mewn perthynas â buddsoddi a phrynu.
Y Broses Fodelu
26. Wrth ddadansoddi arwyddocâd economaidd unrhyw weithgaredd diwydiannol (boed yn
wirioneddol neu yn yr arfaeth), mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng effeithiau economaidd
uniongyrchol, anuniongyrchol (ac yna wedi'u hysgogi). Mae'r effeithiau uniongyrchol yn
gysylltiedig â'r gweithgaredd ei hun. Yma gellid dehongli effeithiau uniongyrchol yn
nhermau'r gwariant cychwynnol yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r gwaith o ddatblygu ynni
gwynt ar y tir.
27. Fodd bynnag, er mwyn gwerthfawrogi'r effeithiau economaidd yn llawn, roedd angen i'r
gwaith ymchwil gynnal asesiad o'r buddiannau economaidd i Gymru yn deillio o brosesau
caffael lleol yn ystod y broses o ddatblygu a gweithredu ynni gwynt ar y tir. Er enghraifft,
mae'r tair senario datblygu a ddatblygwyd gennym, wedi'u cyfuno â chanfyddiadau ein
43 36 45 2,130
36 31 41 2,000
15 13
23
1,410
0% 10% 20%
30% 40% 50% 60%
70% 80%
90% 100%
Nifer y Datblygwyr
Nifer y Ffermydd Gwynt
Gweithredol
Nifer y Ffermydd Gwynt sydd yn yr arfaeth
Cyfanswm Capasiti’r Ffermydd Gwynt
Gweithredol a’r Ffermydd Gwynt sydd
Cyfanswm Cwmpas Enghreifftiol Ymateb gan y sampl yn yr Arfaeth
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen A-6
harolwg o ddatblygwyr, yn ddefnyddiol iawn o ran rhoi gwybodaeth am wariant
uniongyrchol datblygwyr a gweithredwyr ar yr amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau
gofynnol yn ystod y camau datblygu, gweithrediadau a chynnal a chadw a darparu
amcangyfrifon o'u taliadau llafur posibl. Mae hwn yn gam pwysig o ran symud ymlaen i
ystyried effeithiau ehangach y gwariant hwn ar y gadwyn gyflenwi. Er enghraifft, mae
gwariant y datblygwyr ynni gwynt ar y tir yn cefnogi cyfleoedd economaidd i gyflenwyr lleol
a chyflenwyr yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r un cyflenwyr hefyd yn gwario arian yn yr
economi leol sy'n ategu allbwn economaidd pellach ac yn creu mwy o swyddi. At hynny, mae
cyflogeion y datblygwyr a'u cyflenwyr hefyd yn gwario arian yn yr economi leol sy'n ategu
allbwn economaidd pellach a swyddi. Gelwir yr effeithiau hyn drwy'r gadwyn gyflenwi a'r
sector cartrefi yn effeithiau anuniongyrchol ac effeithiau wedi'u hysgogi.
28. Caiff graddau'r effeithiau anuniongyrchol eu pennu i raddau helaeth gan y graddau y mae
datblygwyr ynni gwynt a'u cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau yn prynu nwyddau a
gwasanaethau yng Nghymru yn hytrach nag o'r tu allan i Gymru. Mae dadleuon tebyg yn
berthnasol i gyflogeion y datblygwyr. Mae angen bod yn ofalus wrth ystyried y dadansoddiad
hwn. Er enghraifft, gall cyflogai datblygwr fferm wynt wario mewn siopau a bwytai lleol ac
ati, ond gallai'r rhan fwyaf o'r cynhyrchion fod wedi cael eu gwneud y tu allan i'r ardal leol.
Os felly, byddai'r 'elw' manwerthu yn cyfateb i wariant lleol ond byddai'r gwariant sy'n
ymwneud â'r cynnyrch ei hun yn 'gollwng' i weddill y DU neu dramor. Yn yr un modd, gall
cwmnïau adeiladu brynu cyfeintiau mawr o ddiesel yng Nghymru, ond caiff llawer o'r
pryniant hwn ei ollwng i'r tu allan i Gymru o ran trethi i Lywodraeth y DU.
29. O ganlyniad, unwaith y daw amcangyfrifon o wariant uniongyrchol ar gyfer datblygu a
gweithredu ynni gwynt ar y tir i law, mae angen didynnu'r gwariant sy'n debygol o ddigwydd
y tu allan i Gymru, gan roi'r effaith ar wariant uniongyrchol yng Nghymru. Mae'r gwariant
hwn, yn ôl eitem, wedyn yn cael ei gynnwys o fewn proses fodelu sy'n golygu y gellir
amcangyfrif yr effeithiau anuniongyrchol a'r effeithiau wedi'u hysgogi (lluosogyddion). Mae
ychwanegu'r gwariant uniongyrchol at yr effeithiau lluosogi hyn yn rhoi amcangyfrif o
gyfanswm effaith economaidd datblygu a gweithredu ffermydd gwynt nawr ac yn y dyfodol
ar economi Cymru.
30. Er mwyn amcangyfrif y canlyniadau anuniongyrchol neu lluosogi hyn, mae darlun o'r
economi leol sy'n dynodi sut y mae'r amrywiol sectorau diwydiant yng Nghymru yn
'cydblethu' o ran eu cydberthnasau masnachu yn ofyniad allweddol. Mae hyn wedyn yn
caniatáu i effeithiau gwariant a gweithgaredd cyflogaeth sy'n gysylltiedig ag ynni gwynt ar y
tir gael eu holrhain drwy economi gyfan Cymru.
31. Ceir darlun cynhwysfawr o'r fath o economi Cymru ar ffurf tabl Mewnbwn-Allbwn, sef,
mewn gwirionedd, taenlen sy'n nodi'r trafodion rhwng gwahanol sectorau economi Cymru a
thu hwnt. Yn ogystal â'r ffaith eu bod yn adnodd disgrifiadol pwysig, gellir defnyddio'r tablau
Mewnbwn-Allbwn ar gyfer gwaith modelu economaidd ac i asesu effeithiau. Caiff Tablau
Mewnbwn-Allbwn i Gymru eu llunio gan brosiect ymchwil parhaus yn Uned Ymchwil i
Economi Cymru i ddatblygu darlun cynhwysfawr o economi Cymru, a'r ffordd y mae'n newid
dros amser (gweler Bryan et al, 2004).
32. Mae Ffigur 1 yn amlinellu'r broses modelu economaidd a fabwysiadwyd.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen A-7
Ffigur 1: Crynodeb o'r dull methodolegol
Seilwaith Grid
33. Fel y nodir yn Adran 4, prin yw'r wybodaeth sydd ar gael am natur economaidd y
buddsoddiad sydd ei angen yn y seilwaith grid ar gyfer Canolbarth Cymru, er bod y
penderfyniad ar y llwybr(au) dymunol wedi'i drafod yn helaeth yn nogfennaeth y Grid
Cenedlaethol21. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi costau cyfalaf ac oes cyffredinol ar gyfer nifer
o lwybrau penodol gan isorsafoedd arfaethedig naill ai yng Nghefn Coch neu Aber-miwl.
Ymhob achos, cânt eu darparu ar gyfer cysylltiadau sy'n gyfangwbl uwchben neu dan y
ddaear.
34. Rydym wedi gwneud y rhagdybiaethau modelu canlynol wrth asesu effaith y gwariant hwn:
Prif wariant ar nwyddau ym maes adeiladu, peirianneg drydanol ac (ar gyfer
opsiynau uwchben) deunyddiau strwythurol (metel a phren)
Heb gynnwys achos arbennig tyrau22, mae'r duedd i brynu'n lleol ar gyfer pob
nwydd/gwasanaeth yn dilyn y rheini a sefydlwyd o'r arolwg o ddatblygwyr ffermydd
gwynt ar gyfer y gyfran o'r llwybr sydd yng Nghymru (tua hanner). Caiff cyfran Lloegr
ei gwario'n gyfan gwbl y tu allan i Gymru
Rydym yn modelu'r is-orsaf a'r llwybr dymunol - sef Cefn Coch a Red North – ar gyfer
opsiynau uwchben a than y ddaear
21
http://www.nationalgrid.com/NR/rdonlyres/DC97DCAA-A978-4292-B7E7-61827F57AB4D/55369/MidWalesStatementofPreferenceDraftJuly2012.pdf
22 Yma rydym yn tybio bod 33% yn cael ei brynu yng Nghymru yn hytrach na'r arolwg (76%).
Cyfanswm y gwariant adeiladu neu’r gwariant
gweithredol fesul gwariant ar eitemau
Gwariant yng
Nghymru fesul
eitem (effaith uniongyrchol)
Model Mewnbwn
-Allbwn i
Gymru
Effeithiau
cyflenwyr
Effeithiau incwm
wedi’u
hysgogi
Cyfanswm
economaidd
ar economi
Cymru
Effeithiau lluosogi
Trethi ac allforion
(gollyngiadau)
Didynnu’r gwariant y tu allan i Gymru
yr effaith
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen A-8
Caiff costau cylch oes cyfan eu modelu wedyn i gynnwys gweithrediadau a chynnal a
chadw
Caiff effeithiau eu modelu gan ddefnyddio'r gyfradd ddisgownt o 3.5% a gymhwysir
gan y Grid Cenedlaethol ac felly ar sail wahanol i'r effaith ffermydd gwynt (£
presennol)
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen B-1
Atodiad B Holiadur yr Arolwg
1. Ceir copi o holiadur yr arolwg a anfonwyd at ddatblygwyr a gweithredwyr ffermydd gwynt
yng Nghymru isod.
Datblygwr / Gweithredwr:
Cyflwyniad
Mae RenewableUK Cymru a Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Regeneris Consulting i asesu
effeithiau economaidd blynyddol y sector ynni gwynt ar y tir yng Nghymru hyd at 2050.
Bydd y canfyddiadau yn darparu gwybodaeth bwysig i wneuthurwyr polisi, rhanddeiliaid y
sector a chymunedau, gan ddangos buddiannau economaidd cyffredinol y sector ynni gwynt
ar y tir i economi Cymru.
Er mwyn sicrhau bod tystiolaeth gadarn ar gyfer yr astudiaeth, mae'n bwysig i ni gasglu
gwybodaeth gan ddatblygwyr a gweithredwyr cynlluniau ynni gwynt ar y tir presennol a
chynlluniau sydd yn yr arfaeth yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi bod eich amser yn
brin, ac felly byddwn yn gwerthfawrogi eich cyfraniad ar gyfer y gwaith ymchwil pwysig hwn.
Wrth gwblhau'r arolwg hwn, dylech ystyried y canlynol:
Caiff yr holl wybodaeth a ddarperir ei thrin yn gyfrinachol, a dim ond fel gwybodaeth
gyfunol y caiff unrhyw wybodaeth ariannol a ddarperir gennych ei chyflwyno. Ni
fydd yr adroddiad yn datgelu unrhyw wybodaeth a ddarperir ar gyfer unrhyw fferm
wynt unigol.
Rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd rhoi ateb manwl gywir mewn perthynas â
rhywfaint o'r wybodaeth y gofynnir amdani. Os felly, darparwch eich amcangyfrif
gorau.
Er mwyn cwblhau'r holiadur, mae'n bosibl y bydd angen cyfraniadau gan nifer o
wahanol bobl yn eich sefydliad neu o sefydliadau eraill. Dylech roi gwybod i ni os
bydd hyn yn achosi oedi o ran cwblhau'r holiadur neu yn eich atal rhag cwblhau
unrhyw agweddau ar yr holiadur.
Mae'r arolwg wedi'i rannu yn adrannau fel a ganlyn:
Rhan A - casglu gwybodaeth gyffredinol am eich cyfranogiad yn y sector ynni gwynt
ar y tir yng Nghymru;
Rhan B - gofyn am wybodaeth am y cynlluniau ynni gwynt ar y tir rydych yn eu
datblygu yng Nghymru;
Rhan C - gofyn am wybodaeth am y cynlluniau ynni gwynt ar y tir sy'n weithredol
gennych yng Nghymru.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen B-2
Rhan A - Cyfranogiad yn y Sector Ynni Gwynt ar y Tir yng Nghymru
Bydd y cwestiynau yn yr adran hon yn ein helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o'r ffordd y
gellir cadw effeithiau economaidd datblygiadau ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru, drwy'r
dulliau gweithredu rydych chi a rhanddeiliaid eraill yn eu defnyddio wrth ddatblygu a
gweithredu.
Eich Gweithgaredd Buddsoddi a'ch Gweithgaredd Gweithredol yng Nghymru
3) Beth yw'r buddsoddiad cyfalaf amcangyfrifedig y mae eich cwmni wedi'i wneud wrth
ddatblygu capasiti ynni gwynt ar y tir yng Nghymru yn ystod y tair blynedd
diwethaf?
Nodwch y buddsoddiad amcangyfrifedig yn y blwch isod. Os nad yw'n bosibl nodi
swm manwl gywir, nodwch amrediad.
£ ____(miliynau)
4) Beth yw'r buddsoddiad cyfalaf disgwyliedig y mae eich cwmni yn bwriadu ei wneud
mewn capasiti ynni gwynt ar y tir yng Nghymru yn ystod y tair blynedd nesaf?
Nodwch y buddsoddiad amcangyfrifedig yn y blwch isod. Os nad yw'n bosibl nodi
swm manwl gywir, nodwch amrediad.
£ ____(miliynau)
5) Nodwch faint eich gweithgareddau presennol neu weithgareddau arfaethedig o ran
cynhyrchu ynni gwynt ar y tir yng Nghymru?
Nifer y Ffermydd Gwynt
Capasiti wedi'i Osod (MW)
Capasiti ynni gwynt ar y tir sy'n weithredol
Capasiti ynni gwynt ar y tir sydd wrthi'n cael ei adeiladu
Capasiti ynni gwynt ar y tir y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer ond nas adeiladwyd eto
Capasiti ynni gwynt ar y tir sydd wrthi'n cael ei ddatblygu neu ei gynllunio
6) Pwy sy'n berchen ar y tir lle y caiff eich cynlluniau ynni gwynt gweithredol a'ch
cynlluniau sydd yn yr arfaeth eu lleoli?
Ticiwch y math(au) perthnasol o berchennog ar gyfer pob fferm wynt a restrir yn y tabl isod.
Ychwanegwch unrhyw gynlluniau y mae eich cwmni yn gyfrifol amdanynt. Yn eiddo
i'r datblygwr
Ffermwr Lleol
Comisiwn Coedwigaeth
Tirfeddiannwr arall yng Nghymru
Tirfeddiannwr arall y tu allan i Gymru
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen B-3
Cadwyni Cyflenwi Ynni Gwynt ar y Tir
7) I ba raddau y gallwch brynu'r amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau, am gost ac o
ansawdd priodol, a ddefnyddir i adeiladu a gweithredu eich cynlluniau ynni gwynt ar
y tir gan gyflenwyr wedi'u lleoli yng Nghymru?
Dylech ystyried nwyddau a weithgynhyrchwyd y tu allan i Gymru ond a gaiff eu
cyfanwerthu gan gwmnïau yng Nghymru fel nwyddau a gaiff eu prynu o'r tu allan i'r
wlad.
Ticiwch fel y bo'n briodol
Categori Nwydd neu Wasanaeth Bras: Dewis Da o Gyflenwyr
yng Nghymru
Rhai Cyflenwy
r yng Nghymru
Dim Cyflenwyr
yng Nghymru ar Hyn o Bryd
Ddim yn Gwybod/ Ddim yn
Siwr
Categori Datblygu ac Adeiladu:
Cynllunio a Gwasanaethau Ymgynghori Amgylcheddol
Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol
Nasél, Rotor a Llafnau Tyrbinau Gwynt
Tyrau Tyrbinau Gwynt
Cludo, Cydosod a Gosod Tyrbinau Gwynt
Gwaith Peirianneg Sifil
Gwaith Peirianneg Drydanol
Cysylltu â'r Grid a Gwaith Cysylltiedig
Gwasanaethau Coedwigaeth ac Amgylcheddol (gan gynnwys rheoli cynefinoedd)
Categori Gweithredol
Rheoli Gweithrediadau Ffermydd Gwynt
Cynnal a Chadw Tyrbinau
Gwasanaethau Coedwigaeth a'r Amgylchedd
Cyfarpar Gweithredol a Darnau Sbâr
Yswiriant
8) I ba raddau y mae'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu prynu gan
gwmnïau yng Nghymru yn debygol o gynyddu yn ystod y tair blynedd nesaf?
Yn Debygol o Gynyddu
Cryn Dipyn
Yn Debygol o Gynyddu
Ychydig
Ddim yn Debygol o Gynyddu
Ddim yn Gwybod/ Ddim
yn Siwr
Nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu defnyddio wrth ddatblygu ac adeiladu
Nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu defnyddio wrth weithredu a chynnal a chadw
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen B-4
9) Beth yw'r prif rwystrau sy'n atal twf y cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau a
ddefnyddir i adeiladu a gweithredu eich cynlluniau ynni gwynt ar y tir gan gyflenwyr
wedi'u lleoli yng Nghymru? Ysgrifennwch eich ymateb yn y blwch isod
Sicrhau'r Buddiannau Cymdeithasol ac Economaidd Mwyaf Posibl mewn perthynas ag Ynni Gwynt ar y Tir yng Nghymru
10) I ba raddau rydych yn cymryd y camau canlynol er mwyn sicrhau buddiannau
cymdeithasol ac economaidd ynni gwynt ar y tir yng Nghymru?
Camau Gweithredu Posibl: Pwysigrwydd y camau gweithredu hyn:
I Raddau Helaeth
I Ryw
Raddau
Nid
Ydym
Ddim yn Gwybod/
Ddim yn Siwr
Cynnal digwyddiadau i gyflenwyr neu fentrau tebyg i helpu cwmnïau yng Nghymru i fanteisio ar gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi
Cynnal eich mentrau hyfforddi lleol eich hun (ee darparu hyfforddiant/lleoliadau gwaith i drigolion lleol)
Annog contractwyr i fabwysiadu mentrau hyfforddi lleol
Darparu taliadau buddiannau cymunedol
Gweithio gyda chymunedau lleol i roi help rhagweithiol iddynt fanteisio i’r eithaf ar y buddiannau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r taliadau buddiannau cymunedol hyn
Buddsoddi mewn gwelliannau i gyfleusterau i ymwelwyr a chyfleusterau hamdden lleol
Gweithio gydag ysgolion a cholegau lleol ar bynciau sy’n cynnwys ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni
Arall (nodwch)
11) A ydych o'r farn bod unrhyw rai o'ch dulliau neu'ch camau gweithredu yn y maes
hwn yn cynrychioli arfer da neu arfer gorau?
Ticiwch fel y bo'n briodol
Ydw
Nac ydw
Ddim yn gwybod/ddim yn siwr
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen B-5
Os ydych, amlinellwch natur yr arfer da hwn yn y blwch isod
Cymru fel Lleoliad i Fuddsoddi Ynddo
12) Yn gyffredinol, beth yw eich barn am Gymru fel lleoliad i fuddsoddi mewn cynlluniau
ynni gwynt ar y tir? Ticiwch y blwch perthnasol fel y bo'n briodol.
Ticiwch Fel y Bo'n Briodol
Lleoliad Ffafriol Iawn
Lleoliad Cymharol Ffafriol
Lleoliad Niwtral
Lleoliad Cymharol Anffafriol
Lleoliad Anffafriol Iawn
Ddim yn Gwybod / Ddim yn Siwr
13) Nodwch pa un a yw'r ffactorau canlynol yn gwneud cyfraniad cadarnhaol neu
negyddol i Gymru fel lleoliad buddsoddi ar gyfer ynni gwynt ar y tir?
Ffactorau Cadarnhaol Niwtral Negyddol Ddim yn Gwybod/ Ddim yn Siwr
Polisi Cynllunio Cymru
Polisïau ac Arfer Cynllunio Lleol
Eglurder ynghylch Lleoliadau Datblygu Dewisol
Argaeledd Seilwaith Grid
Argaeledd Seilwaith Arall (ee ffyrdd)
Cymorth Datblygu Economaidd i'r Sector
Cymorth Cymunedol
Argaeledd Cyflenwyr
Argaeledd Gweithwyr Medrus
Os byddwch am wneud hynny, gallwch ymhelaethu ar unrhyw rai o'r ffactorau hyn
neu ffactorau cysylltiedig sy'n arbennig o bwysig yn eich barn chi yn y blwch isod.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen B-6
Rhan B - Capasiti Ynni Gwynt ar y Tir sydd wrthi'n cael ei Ddatblygu yng Nghymru
Er mwyn deall effeithiau economaidd datblygu ynni gwynt ar y tir yng Nghymru yn y dyfodol,
mae angen i ni ddeall natur y cynlluniau ynni sydd yn yr arfaeth, eu costau a'r potensial i
gwmnïau yng Nghymru gyfrannu. Bydd y cwestiynau canlynol yn ein helpu i feithrin y
ddealltwriaeth hon.
Dylech seilio eich atebion ar eich profiad o ran cynlluniau ynni gwynt ar y tir sy'n weithredol
gennych neu rydych wrthi'n eu datblygu yng Nghymru, yn ogystal â'ch gwybodaeth
ehangach am y sector a'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru (ac mewn mannau eraill fel y bo'n
berthnasol).
Os nad ydych yn cynnig nac yn datblygu unrhyw gynlluniau ynni gwynt ar y tir newydd ar hyn
o bryd yng Nghymru, ewch i Ran C.
Rhagolygon, Terfynau Amser a Chostau Datblygu
14) Beth yw statws presennol pob un o'r cynlluniau ynni gwynt ar y tir rydych wrthi'n eu
datblygu yng Nghymru?
Ticiwch y cam datblygu perthnasol ar gyfer pob fferm wynt a restrir yn y tabl isod.
Ychwanegwch unrhyw gynlluniau y mae eich cwmni yn gyfrifol amdanynt.
Cyn gwneud cais
Archwilio a Phenderfynu
Rhoddwyd Caniatâd ond nid yw'n cael ei Adeiladu eto
Adeiladu/ Comisiynu
15) Ar gyfer pob un o'r cynlluniau ynni gwynt ar y tir sydd yn yr arfaeth gennych ar hyn o
bryd yng Nghymru, darparwch y wybodaeth ganlynol yn y tabl isod:
(A) Y flwyddyn y disgwylir i bob cynllun ddechrau adeiladu, dechrau
gweithrediadau a hyd ei oes weithredol.
(B) Amcangyfrif o gyfanswm cost cyfalaf disgwyliedig cam datblygu ac
adeiladu pob cynllun ynni gwynt23. Nodwch y costau ar sail prisiau 2012.
Nodwch eich ymatebion yn y tabl isod, ar gyfer pob fferm wynt a restrir sydd wrthi'n
cael ei datblygu. Os nad yw'n bosibl nodi cost manwl gywir, nodwch amrediad.
(A): Terfynau Amser Disgwyliedig (B): Costau Adeiladu
Y flwyddyn y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau/y dechreuodd y gwaith adeiladu
Y flwyddyn y daw'r fferm wynt yn weithredol
Oes weithredol y fferm wynt (blynyddoedd)
Costau Datblygu ac Adeiladu Amcangyfrifedig (£m)
£
£
23
Gwariant Cyfalaf i gynnwys yr holl gostau datblygu a chynllunio, cyflenwi tyrbinau, cyflenwi gweddill yr offer, cludo, cydosod, gosod a chomisiynu pob rhan o'r fferm wynt.
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen B-7
16) Darparwch syniad o gostau datblygu ac adeiladu'r cynlluniau ynni gwynt ar y tir yn ôl
categori gwariant bras. Gallwch ddarparu'r wybodaeth hon naill ai fel (i) y ganran o
gyfanswm y gost y mae pob categori yn gyfrifol amdani neu (ii) cost fesul MW. Wrth
ateb y cwestiwn hwn, efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
Rydym yn gwerthfawrogi y bydd y costau adeiladu yn amrywio gan ddibynnu
ar leoliad, nodweddion y safle a maint (ymhlith ffactorau eraill hefyd). Gan
gofio hyn, os oes gennych fwy nag un cynllun datblygu yn yr arfaeth,
darparwch ddadansoddiad cyfartalog o'r costau ar draws y cynlluniau hyn.
Os byddwch yn cyflwyno'r data ar ffurf £oedd fesul MW, gwnewch hynny ar
sail prisiau 2012. Os nad yw hyn yn bosibl, nodwch y sail prisiau amgen a
ddefnyddiwyd gennych.
Rydym wedi cynnwys y categorïau cost safonol - ychwanegwch gategorïau eraill os
byddwch yn teimlo eu bod yn berthnasol. Os nad yw'n bosibl nodi swm manwl gywir,
nodwch amrediad.
Categorïau Gwariant: % Cyfanswm y Costau
Fformat amgen: £oedd fesul MW
Datblygu (gan gynnwys costau cynllunio, cyfreithiol ac
ariannu) % £
Rheoli Prosiectau ym maes Adeiladu % £
Nasél, Rotor a Llafnau Tyrbinau Gwynt % £
Tyrau Tyrbinau Gwynt % £
Cludo, Cydosod a Gosod Tyrbinau Gwynt % £
Gwaith Peirianneg Sifil % £
Gwaith Peirianneg Drydanol % £
Cysylltu â'r Grid a Gwaith Cysylltiedig % £
Gwasanaethau Coedwigaeth a'r Amgylchedd (gan gynnwys rheoli cynefinoedd)
% £
Arall (nodwch fanylion) % £
Arall (nodwch fanylion) % £
Cyfanswm 100% £
Gwariant Adeiladu yng Nghymru
17) Er mwyn amcangyfrif effaith economaidd y datblygiadau ynni gwynt ar y tir sydd yn
yr arfaeth, mae'n bwysig deall y cyfleoedd ar gyfer gwariant datblygu ac adeiladu
cysylltiedig y gall cwmnïau yng Nghymru fanteisio arnynt.
Gan ystyried pob un o'ch cynlluniau presennol sydd yn yr arfaeth, darparwch
amcangyfrif gorau o'r gyfran gyfartalog debygol o wariant ymhob categori cost y
gallai cwmnïau yng Nghymru fanteisio arnynt. Ystyriwch y canlynol wrth ymateb i'r
cwestiwn hwn.
Rydym yn gwerthfawrogi y bydd i ba raddau y caiff mewnbynnau eu prynu
gan gwmnïau yng Nghymru, neu rannau penodol o Gymru, yn dibynnu ar
● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tudalen B-8
amrywiol ffactorau ac y gall amrywio rhwng gwahanol ffermydd gwynt. Gan
gofio hyn, darparwch amcangyfrif gorau o'r gyfran gyfartalog y byddech yn
disgwyl ei gwario gyda chwmnïau yng Nghymru.
Dylai'r amcangyfrif hwn fod yn seiliedig ar eich cyflenwyr presennol a'ch
gwybodaeth am y gadwyn cyflenwi sy'n gysylltiedig â ffermydd gwynt ar y tir
yng Nghymru.
Dim ond y prif gontractau a'r is-gontractau a osodwyd gyda chyflenwyr yng
Nghymru y dylid eu cynnwys yn yr amcangyfrif - ni ddylai gynnwys gwariant
a allai lifo i haenau is y gadwyn gyflenwi yng Nghymru (cwmnïau haen dau a
thri yn nodweddiadol).
Os nad yw'n bosibl nodi swm manwl gywir, nodwch amrediad.
Categorïau Gwariant: % y Gwariant Adeiladu y Disgwylir ei Gwario gyda Chwmnïau yng Nghymru
Datblygu (gan gynnwys costau cynllunio, cyfreithiol ac ariannu) %
Rheoli Prosiectau ym maes Adeiladu %
Nasél, Rotor a Llafnau Tyrbinau Gwynt %
Tyrau Tyrbinau Gwynt %
Cludo, Cydosod a Gosod Tyrbinau Gwynt %
Gwaith Peirianneg Sifil %
Gwaith Peirianneg Drydanol %
Cysylltu â'r Grid a Gwaith Cysylltiedig %
Gwasanaethau Coedwigaeth a'r Amgylchedd (gan gynnwys rheoli cynefinoedd)
%
Arall (nodwch fanylion) %
Arall (nodwch fanylion) %
Noder: mae'r canrannau yn cyfateb i'r gyfran gwariant amcangyfrifedig ar gyfer pob categori y gellid ei
gwario gyda chwmnïau yng Nghymru. Felly, ni fydd y categorïau o reidrwydd yn dod i gyfanswm o
100%.
● Error! Reference source not found. ●
Tudalen B-9
Rhan C - Gweithredu Cynlluniau Ynni Gwynt ar y Tir yng Nghymru
Mae'r cwestiynau yn yr adran hon yn ceisio dod o hyd i wybodaeth am wariant a chadwyni
cyflenwi ar gyfer y ffermydd gwynt rydych yn eu gweithredu ar hyn o bryd yng Nghymru.
Bydd hyn yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth o gyfraniad economaidd capasiti ynni gwynt ar
y tir gweithredol i economi Cymru.
Os nad ydych yn gweithredu unrhyw gynlluniau ynni gwynt ar y tir ar hyn o bryd yng
Nghymru, ewch i ddiwedd yr holiadur.
Gwybodaeth Gefndir
18) Ar gyfer pob un o'r cynlluniau ynni gwynt ar y tir sy'n weithredol gennych ar hyn o
bryd yng Nghymru, darparwch y wybodaeth ganlynol yn y tabl isod:
(A) Y flwyddyn y dechreuodd pob cynllun weithredu a hyd disgwyliedig ei
oes weithredol.
(B) Amcangyfrif o gostau gweithredol blynyddol pob cynllun ynni gwynt24.
Nodwch y costau ar sail prisiau 2012.
Nodwch eich ymatebion yn y tabl isod ar gyfer pob un o'r ffermydd gwynt a restrir.
Os ydych yn gweithredu ffermydd gwynt eraill nas cynhwysir, dylech eu cynnwys
hefyd. Os nad yw'n bosibl nodi cost manwl gywir, nodwch amrediad.
(A): Terfynau amser (B): Costau Gweithredol
Y Flwyddyn y Dechreuodd Weithredu
Oes weithredol y fferm wynt (blynyddoedd)
Amcangyfrif o'r Costau Gweithredol Blynyddol (£m)
£
£
£
Costau Gweithredol
19) Darparwch amcangyfrif gorau o'r dadansoddiad cymesur cyfartalog o ran costau
gweithredol ar gyfer eich cynlluniau ynni gwynt ar y tir yng Nghymru yn ôl categorïau
gwariant bras. Gallwch ddarparu'r wybodaeth hon naill ai fel (i) y ganran o gyfanswm
y gost flynyddol y mae pob categori yn gyfrifol amdani neu (ii) cost fesul MW. Wrth
ateb y cwestiwn hwn, efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
Rydym yn gwerthfawrogi y bydd y costau gweithredol yn amrywio gan
ddibynnu ar faint, lleoliad a nodweddion y safle (ymhlith ffactorau eraill
hefyd). Gan gofio hyn, os ydych yn gweithredu mwy nag un cynllun,
darparwch ddadansoddiad cyfartalog o'r costau ar draws y cynlluniau hyn.
24
Gwariant Gweithredol i gynnwys costau gweithredwyr y gellir eu priodoli i'r fferm wynt, gan gynnwys swyddi staff uniongyrchol ym maes rheoli a chynnal a chadw (ond heb gynnwys gorbenion corfforaethol), cyfarpar a darnau sbâr, gwelliannau cysylltiedig i'r amgylchedd, taliadau grid, trethi busnes, yswiriant, rhentu tir/taliadau mynediad a thaliadau buddiannau cymunedol. Peidiwch â chynnwys taliadau ariannu.
● Error! Reference source not found. ●
Tudalen B-10
Hefyd, os nad yw'n bosibl nodi swm manwl gywir, nodwch amrediad.
Os byddwch yn cyflwyno'r data ar ffurf £oedd fesul MW, gwnewch hynny ar
sail prisiau 2012. Os nad yw hyn yn bosibl, nodwch y sail prisiau amgen a
ddefnyddiwyd gennych.
Rydym wedi cynnwys categorïau cost safonol - ychwanegwch gategorïau
eraill os byddwch yn teimlo eu bod yn berthnasol i chi.
Categorïau Gwariant Gweithredol % Costau Gweithredol
Fformat amgen: £oedd fesul MW
Costau Cyflogaeth
- Gweithrediadau a Threfniadau Rheoli Ffermydd Gwynt
% £
- Cynnal a Chadw Tyrbinau % £
- Gweithgareddau Eraill % £
Cyfarpar a Darnau Sbâr % £
Coedwigaeth a'r Amgylchedd (gan gynnwys rheoli cynefinoedd)
% £
Yswiriant % £
Eiddo a Chyfleustodau % £
Rhenti Tir/Taliadau Mynediad % £
Ardrethi Busnes % £
Taliadau Buddiannau Cymunedol % £
Arall (nodwch fanylion) % £
Arall (nodwch fanylion) % £
Cyfanswm y Gwariant Gweithredol 100% £
20) Er mwyn amcangyfrif effaith economaidd y cynlluniau ynni gwynt ar y tir sy'n
gweithredu yng Nghymru, mae'n bwysig deall y cyfleoedd mewn perthynas â phrynu
nwyddau a gwasanaethau i mewn25 gan gwmnïau yng Nghymru.
Gan ystyried pob un o'ch cynlluniau gweithredol, darparwch amcangyfrif gorau o'r
gyfran gyfartalog debygol o wariant ymhob categori cost y gallai cwmnïau yng
Nghymru fanteisio arnynt.
Rydym yn gwerthfawrogi y bydd i ba raddau y caiff nwyddau a gwasanaethau eu
prynu gan gwmnïau yng Nghymru yn dibynnu ar amrywiol ffactorau ac y gall
amrywio rhwng gwahanol ffermydd gwynt. Gan gofio hyn, darparwch amcangyfrif
gorau o'r gyfran gyfartalog y byddech yn disgwyl ei gwario gyda chwmnïau yng
Nghymru.
Os nad yw'n bosibl nodi swm manwl gywir, nodwch amrediad.
25
Nwyddau a gwasanaethau a brynir i mewn yw'r nwyddau a'r gwasanaethau rydych yn eu prynu oddi wrth eich cyflenwyr. Gallai hyn gynnwys nwyddau a gwasanaethau rydych yn eu prynu oddi wrth is-gwmnïau ar brisiau marchnad.
● Error! Reference source not found. ●
Tudalen B-11
Categorïau Gwariant: % y Gwariant Gweithredol a gaiff ei Gwario ar Nwyddau a Gwasanaethau a Wariwyd gyda Chwmnïau yng Nghymru
Gwasanaethau Cynnal a Chadw %
Cyfarpar a Darnau Sbâr %
Gwasanaethau Coedwigaeth a'r Amgylchedd (gan gynnwys rheoli cynefinoedd)
%
Gwasanaethau Eiddo (gan gynnwys rhentu adeiladau a thir) %
Cyfleustodau %
Yswiriant %
Arall (nodwch fanylion) %
Arall (nodwch fanylion) %
Noder: mae'r canrannau yn cyfateb i'r gyfran gwariant amcangyfrifedig ar gyfer pob categori y gellid ei
gwario gyda chwmnïau yng Nghymru. Felly, ni fydd y categorïau o reidrwydd yn dod i gyfanswm o 100%.
Swyddi a Chostau Cyflogau
21) Darparwch amcangyfrif gorau o nifer y staff a'r costau cyflog cysylltiedig sy'n deillio o
drefniadau gweithredu a chynnal a chadw parhaus y cynlluniau ynni gwynt ar y tir
rydych yn gyfrifol amdanynt. Darparwch hefyd amcangyfrif gorau o ran y graddau y
mae'r swyddi hyn yn debygol o gael eu llenwi gan weithwyr sy'n lleol i'r cynlluniau
ynni gwynt ar y tir26.
Ystyriwch y nodiadau canlynol wrth ddarparu'r wybodaeth hon:
Gallai hyn gynnwys eich cyflogeion eich hun ond hefyd cyfraniad staff cynnal
a chadw a gaiff eu cyflogi gan y gweithgynhyrchwyr tyrbinau a ddarperir fel
rhan o gytundeb gwarant.
Dylid darparu gwybodaeth am gyflogaeth fel ffigurau cyfwerth ag amser
llawn (dylech drin cyflogaeth ran-amser fel 0.6 o swydd lawn amser).
Dylech ystyried bod gweithwyr lleol yn byw o fewn 20km i'r fferm wynt.
Cyfanswm Costau Cyflog Cyflogeion Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Uniongyrchol (£oedd)
Nifer y Swyddi Uniongyrchol Cyfwerth ag Amser Llawn ym maes Gweithrediadau a Chynnal a Chadw
Amcangyfrif Gorau o Nifer y Swyddi Gweithrediadau a Chynnal a Chadw a Ddelir gan Drigolion Lleol (hy o fewn 20km)
26
This could be workers local to the wind farm itself or a control centre
● Error! Reference source not found. ●
Tudalen B-12
Buddiannau Cymunedol
22) Rydym yn awyddus i gael gwybod mwy am lefel a natur y pecynnau Buddiannau
Cymunedol y cytunwyd arnynt gyda chymunedau lleol. Darparwch y wybodaeth
ganlynol:
Beth yw gwerth blynyddol presennol y pecyn Buddiannau Cymunedol (£oedd
fesul MW) rydych yn ei gynnig i gymunedau lleol ar gyfer pob un o'ch
cynlluniau ynni gwynt ar y tir yng Nghymru?
Hyd eithaf eich gwybodaeth, pa fathau o weithgareddau y mae'r cymunedau
lleol yn defnyddio'r taliadau hyn ar eu cyfer?
Gwerth
Blynyddol y
Pecyn
Buddiannau
Cymunedol
(£oedd fesul
MW)
Mathau o Weithgaredd y mae Cymunedau yn Ymgymryd â Hwy
(ticiwch bob un sy'n berthnasol)
Gwasanaet
hau
Cymunedol
Cyfleustera
u
Cymunedol
Effeithlonr
wydd Ynni
Cynhyrchu
Ynni
Addysg Sgiliau a
Swyddi
Menter Arall
Datgomisiynu ac Ailbweru
23) Ar gyfer y cynlluniau ynni gwynt ar y tir rydych yn eu gweithredu ar hyn o bryd yng
Nghymru, darparwch y wybodaeth ganlynol:
Y flwyddyn y disgwylir i bob fferm wynt gyrraedd diwedd ei hoes weithredol;
Pa un a ydych yn disgwyl ar hyn o bryd y byddwch yn datgomisiynu'r cynllun
neu'n gofyn am ganiatâd i'w ailbweru? Os mai ailbweru a nodwyd gennych,
nodwch gyfanswm capasiti MW disgwyliedig y cynllun unwaith y caiff ei
ailbweru.
Fel y bo'n briodol, costau amcangyfrifedig datgomisiynu neu ailbweru'r fferm
wynt (darparwch amcangyfrif yn seiliedig ar £m fesul MW). Os nad yw'n
bosibl nodi swm manwl gywir, nodwch amrediad.
Diwedd Oes Weithredol Disgwyliedig (blwyddyn)
Cynlluniau Cyfredol: Datgomisiynu neu Ailbweru? (nodwch)
Amcangyfrif o Gostau Datgomisiynu / Ailbweru (£m fesul MW)
● Error! Reference source not found. ●
Tudalen C-1
Atodiad C Ymgynghoreion
2. Ymgynghorwyd yn fanwl â'r sefydliadau canlynol fel rhan o'r gwaith ymchwil (yn ogystal â'r
arolwg o ddatblygwyr).
Llywodraeth Cymru (BETS, Dyfodol Cynaliadwy, Ynni Cymru)
RenewableUK
RWE npower renewables
Vattenfall
West Coast Energy
Falck Renewables Wind Limited
Tegni
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Sir Ddinbych/Mabey Bridge
Tudalen D-1
Atodiad D Astudiaethau Achos
1. Nodir isod ganfyddiadau pedair astudiaeth achos o ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru.
Wern Ddu (Craig Lelo)
2. Datblygwyd ac adeiladwyd y fferm wynt gan y datblygwr ffermydd gwynt o Gymru, Tegni
Cymru. Gwnaed y gwaith o gynllunio a datblygu'r fferm wynt gan Tegni, gyda chyfanswm
costau datblygu o tua £250k. Roedd cyfanswm y costau adeiladu tua £10 miliwn ar gyfer y
pedwar tyrbin.
Trosolwg o Wybodaeth Gefndir yr Astudiaeth Achos
Datblygwr a Gweithrediadau Technegol
Tegni
Perchennog Triodos Renewables
Lleoliad yr Awdurdod Lleol Sir Ddinbych
Nifer y Tyrbinau 4 (9.2 MW o gapasiti wedi'i osod)
Dyddiad y Cafwyd Caniatâd Mehefin 2007
Cyfnod Adeiladu 6 mis
Dyddiad y Daeth y Fferm Wynt yn Weithredol
Mawrth 2010
Oes Weithredol Ddisgwyliedig Hyd at 2035 (25 mlynedd)
Disgwyliad o ran Datgomisiynu / Ailbweru
Anhysbys
Effeithiau yn ystod y Cam Adeiladu
3. Mae dull Tegni o adeiladu ffermydd gwynt yn pwysleisio pwysigrwydd cynnwys cwmnïau
lleol yn y gadwyn gyflenwi lle bynnag y bo'n bosibl a lle y mae cwmnïau lleol yn gystadleuol.
Fodd bynnag, gan nad oes gweithgynhyrchwr tyrbinau yng Nghymru na'r DU, dim ond gan
gwmnïau tramor y gellir caffael yr elfen hon o'r gadwyn gyflenwi ar hyn o bryd.
4. Dyfarnwyd contract i gwmni o'r Almaen (Enercon) gyflenwi'r tyrbinau. Mae'n bolisi gan
Enercon gaffael ei waith sylfeini ei hun. Yn yr achos hwn, defnyddiodd Enercon wasanaeth is-
gontractwr a oedd wedi'i leoli yn Ne Cymru. O ganlyniad, roedd y contract ar gyfer cyflenwi'r
tyrbinau hefyd yn cynnwys cyfran o weddill gweithgarwch y safle. Felly contractiwyd y rhan
fwyaf o'r gost adeiladu yn uniongyrchol i Enercon. Fodd bynnag, cadwyd rhywfaint o'r
buddsoddiad yn y DU:
Tegni oedd y prif gontractwr.
PowerSystems UK Ltd o Fryste a gontractiwyd i ddarparu'r rhan fwyaf o'r gwaith
trydanol. Er nad oedd y cwmni wedi'i leoli'n lleol, defnyddiwyd rhywfaint o lafur lleol
yn ystod y cam adeiladu. Caffaelodd Powersystems y rhan fwyaf o'r offer trydanol o
ffynonellau yn y DU.
Natural Power a oruchwyliodd y gwaith peirianneg sifil a thrydanol ar ran Triodos
Renewables.
Tudalen D-2
5. Daeth Enercon â'i lafur ei hun gydag ef. Yn ystod y gwaith o godi'r tyrbinau, byddai tua 50 o
bobl wedi bod ar y safle. Ar y pryd, byddai 50% o'r bobl hynny wedi bod yn bobl leol (gyda'r
gweddill yn aelodau o staff Enercon ei hun).
6. Caffaelwyd gweddill y rhaglen adeiladu (a oedd yn gyfrifol am tua 10% o'r costau adeiladu)
yn uniongyrchol gan Tegni. Caffaelwyd y rhan fwyaf ohoni yn lleol. Roedd y prif is-
gontractau yn cynnwys:
Defnyddiwyd contractwr peirianneg sifil lleol (wedi'i leoli o fewn 20km i'r safle) ar
gyfer gwaith adeiladu ar y ffordd fynediad, cloddio'r sylfeini, adeiladu sylfeini cadarn
ar gyfer craeniau a gwaith gosod ceblau.
Defnyddiwyd contractwr adeiladu lleol, a ddefnyddiodd lafur lleol a chyflenwyr
deunyddiau lleol, i adeiladu'r ystafell switsys trydanol.
Prynwyd y concrid ar gyfer y tyrbin yn lleol.
Defnyddiwyd craeniau o'r DU.
7. Er bod y datblygwyr, lle bynnag y bo'n bosibl, yn ceisio prynu nwyddau a gwasanaethau ar
gyfer y gwaith adeiladu yn lleol, roedd nifer o ffactorau ehangach yn dylanwadu ar y graddau
yr oedd hyn yn ymarferol, gan gynnwys:
Capasiti o fewn y sail busnes lleol. Mae'r ardaloedd sy'n union o amgylch y fferm
wynt yn wledig eu natur ac felly, mae'r dwysedd busnesau yn llawer is. Lle ceir
cyflenwyr priodol, nid ydynt bob amser yn meddu ar gapasiti digonol i gyflawni
gofynion o fewn terfyn amser y gwaith adeiladu.
Dull gweithredu'r gweithgynhyrchwr tyrbinau. Gellir tybio bod gan Enercon bolisi o
gadw rheolaeth dros sylfeini tyrbinau er mwyn sicrhau bod y strwythur ategol yn
bodloni ei fanylebau ac na fydd yn achosi problemau yn ddiweddarach. Er bod hyn
yn gwneud synnwyr o safbwynt Enercon, gall gyfyngu ar yr effeithiau lleol. Er bod
Enercon wedi is-gontractio'r gwaith ar gyfer sylfeini'r tyrbinau i gwmnïau yn y DU,
nid oedd yr un ohonynt yn lleol (er i'r contractwr trydanol ddefnyddio rhywfaint o
lafur lleol).
Cystadleurwydd yw'r brif ystyriaeth ond mae a wnelo hyn â mwy na phris yn unig.
Mae sicrwydd y gwneir y gwaith i safon dda yn bwysig i'r cwmni ac mae ansawdd
staff yr un mor bwysig.
8. Gan mai datblygwr annibynnol, llai o faint yw Tegni, gall y sefydliad gaffael mewn ffordd fwy
hyblyg na datblygwyr mwy o faint. Mae maint llai Tegni yn golygu bod llai o rwystrau
strwythurol o ran cynnwys cwmnïau llai o faint yn y gadwyn gyflenwi (e.e. mae prosesau
caffael yn syml, nid oes angen gwarantau mawr). Er bod angen i bob cyflenwr fod yn
gystadleuol, wrth ystyried cystadleurwydd, mae Tegni yn cyfeirio at fwy na'r pris yn unig.
Mae'r gallu i gynnal cydberthynas â chontractwr yn elfen bwysig yn hyn o beth. Yn yr un
modd, mae'n well gan Tegni weithio gyda sefydliadau bach a chanolig gan ei fod o'r farn y
caiff eu contractau flaenoriaeth yn hytrach na sefydliadau mwy lle nad yw'r gwaith yn
gyffredinol mor bwysig.
Tudalen D-3
Effeithiau yn ystod y Cam Gweithrediadau a Chynnal a Chadw
9. Er mai Triodos Renewables sydd bellach yn berchen ar y datblygiad ac yn ei weithredu,
contractiwyd Tegni i ddarparu cymorth gweithrediadau a chynnal a chadw parhaus. Tegni
sy'n gyfrifol am y gwaith o gynnal a chadw'r tyrbinau o ddydd i ddydd. Mae gan Enercon
(gweithgynhyrchwyr y tyrbinau) gontract i ddarparu gwaith cynnal a chadw a gwasanaethu
cyffredinol am gyfnod o 15 mlynedd.
10. Gan fod swyddfa Tegni o fewn 30 munud i'r safle, gall ddarparu ymateb cyflym i unrhyw
broblemau sy'n atal y tyrbinau rhag cynhyrchu neu'n lleihau eu heffeithlonrwydd
gweithredu. Gwneir yr holl weithgarwch hwn yn fewnol gan Tegni er bod graddau'r
gweithgarwch yn isel ar hyn o bryd, o ystyried mai fferm wynt fach ydyw a bod y tyrbinau o
dan warant o hyd.
11. Mae Tegni yn amcangyfrif, drwy gydol y flwyddyn, y byddai'r gweithgarwch yn ddigon i
gynnal rhwng pythefnos a thair wythnos o waith llawn amser, er bod angen cadw golwg
ddyddiol ar y safle.
Effeithiau a Gaiff eu Creu gan y Gronfa Buddiannau Cymunedol
12. Caiff y gronfa buddiannau cymunedol o £10,000 y flwyddyn ei rhannu rhwng tair cymuned
yn ardal y safle:
Gwyddelwern
Betws Gwerfil Goch
Derwen
13. Mae'r gronfa yn rhoi grantiau ar sail y nod o hyrwyddo ysbryd cymunedol a dod â phobl at ei
gilydd, gwella ansawdd bywyd a hyrwyddo lles pobl, meithrin cymunedau bywiog a
chynaliadwy. Gellir dyfarnu grantiau i unigolion, grwpiau cyfansoddedig ac anffurfiol neu
gonsortia o sefydliadau.
14. Mae'r ymddiriedolwyr yn awyddus i weld arian cyfatebol o ffynonellau eraill yn cael ei
ddefnyddio hefyd i sicrhau y caiff y gronfa yr effaith fwyaf posibl ac yn annog defnydd mwy
strategol ohoni. Mewn gwirionedd, bu mwyafrif y buddsoddiadau yn fach, gan gynnwys
cynnal a chadw adeiladau lleol, cyfleusterau cymunedol newydd, offer chwarae a chymorth i
dimau chwaraeon lleol (e.e. i ddarparu citiau newydd).
15. Mae rhai enghreifftiau o fuddsoddiadau mwy strategol yn cael eu gwneud, a allai gyflwyno
buddiannau ehangach i'r gymuned leol. Er enghraifft, rhoddwyd grant tuag at waith
uwchraddio i safle carafanau yn yr ardal.
Buddiannau Ehangach y Cynllun
16. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn awyddus i sicrhau'r buddiannau gorau posibl o ddatblygiadau
ffermydd gwynt yn y sir er nad oes unrhyw raglenni penodol ar waith i alluogi neu i helpu
busnesau lleol i ymuno â'r gadwyn gyflenwi.
Tudalen D-4
Cefn Croes
17. Ar yr adeg gomisiynu, Cefn Croes oedd y fferm wynt fwyaf yn y DU. Ceir trosolwg o'r fferm
wynt yn y tabl isod.
Trosolwg o'r Astudiaeth Achos - Gwybodaeth Gefndir
Datblygwr RDC
Gweithredwr Cambrian Wind Energy (un o is-gwmnïau Falck Renewables)
Tirfeddiannwr Comisiwn Coedwigaeth
Lleoliad yr Awdurdod Lleol
Ceredigion
Capasiti wedi'i Osod 58.5 MW
Nifer y Tyrbinau 39
Dyddiad y Cafwyd Caniatâd Cynllunio
Mai 2002
Cyfnod Adeiladu 2004-05
Dyddiad y Daeth y Fferm Wynt yn Weithredol
Ebrill 2005
Oes Weithredol Ddisgwyliedig
20 mlynedd
Effeithiau yn ystod y Cam Adeiladu
18. Roedd gwaith ar gyfer adeiladu Cefn Croes o’r dechrau i’r diwedd yn gontract gwerth £50m
ac fe'i henillwyd gan GE Energy, wedi'i arwain yn bennaf o'i swyddfa yn yr Almaen.
19. Er bod y datblygwr yn awyddus i annog penderfyniadau i benodi cwmnïau o Gymru, roedd y
dyhead hwn yn anodd i’w wireddu gan nad oedd cwmnïau â'r galluoedd priodol i helpu yn
ystod y cam adeiladu ar gael (yn fwyaf amlwg, nid oedd cyflenwyr tyrbinau gwynt yng
Nghymru).
20. Yr is-gontract adeiladu mwyaf sylweddol a ddyfarnwyd i gwmni yng Nghymru oedd y
contract ar gyfer 'gweddill y safle' a oedd yn werth £6.3m (tua 13% o gyfanswm gwerth y
gwaith adeiladu) i Jones Brothers o Ruthun, Sir Ddinbych. Roedd hyn yn cynnwys adeiladu
ffyrdd mynediad, sylfeini tyrbinau, sylfeini craeniau a'r gwaith gosod ceblau 33kV.
21. Yn ystod y cyfnod adeiladu naw mis, gweithiodd tua 100 o gyflogeion ar y safle adeiladu, yr
gyda chyfran fawr ohonynt o gwmni Jones Brothers. Daeth y gweithwyr adeiladu ar y safle
yn ystod y cyfnod adeiladu hwn â buddiannau ychwanegol i'r ardal leol, gan gynnwys
gwariant ychwanegol mewn siopau lleol yn ogystal â gwasanaethau bwyd a llety lleol.
Effeithiau yn ystod y Cam Gweithredu a Chynnal a Chadw
22. Bu Cefn Croes yn weithredol ers 2005 a disgwylir iddo barhau i weithredu tan 2025. Ar hyn o
bryd, gwariant gweithredol blynyddol y cynllun yw tua £4m. Ar lefel leol, mae'r
gweithgaredd hwn wedi:
Creu pedair swydd ym maes gweithredu a chynnal a chadw ffermydd gwynt, gan
weithio i GE Energy sy'n parhau i feddu ar y contract cynnal a chadw ar gyfer y fferm
wynt. Er na recriwtiwyd o'r gweithlu lleol i bob un o'r swyddi, mae'r pedair swydd ar
Tudalen D-5
hyn o bryd wedi'u lleoli o fewn ardal o tua 20km i'r fferm wynt.
Buddsoddi amcangyfrif o £500,000 i'r economi leol bob blwyddyn, drwy daliadau i
dirfeddianwyr (i'r Comisiwn Coedwigaeth), trethi busnes (i'r awdurdod lleol) a
nwyddau a gwasanaethau eraill (gan gyflenwyr lleol).
Cyfrannu at brosiect parhaus i wella'r amgylchedd o amgylch safle'r fferm wynt.
Mae'r arian blynyddol hwn, sef £10,000, yn ategu cynllun rheoli'r amgylchedd a
chaiff ei oruchwylio gan bwyllgor o randdeiliaid lleol gan gynnwys y datblygwr, yr
awdurdod lleol, y tirfeddiannwr, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
Effeithiau a Gaiff eu Creu gan y Gronfa Buddiannau Cymunedol
23. Ymrwymodd Cambrian Wind Energy i ddarparu £1,000 fesul MW o gapasiti wedi'i osod, fesul
blwyddyn i Gronfa Buddiannau Cymunedol leol. Ymrwymodd hefyd i gynyddu hyn bob
blwyddyn yn unol â'r cynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu. Felly dechreuodd y gronfa
ar lefel ychydig islaw £60,000 y flwyddyn, ond mae bellach yn werth bron i £75,000 y
flwyddyn.
24. Caiff y gronfa ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Gymunedol a sefydlwyd yn benodol at ddiben
gweinyddu'r gronfa buddiannau cymunedol, ac mae hefyd yn elusen gofrestredig. Yn ogystal
â chynrychiolydd o Cambrian Wind Energy, mae gan yr ymddiriedolaeth bedwar
ymddiriedolwr a benodwyd yn lleol, gan gynnwys dau yr un o gymunedau Blaenrheidol a
Phontarfynach - sy'n cwmpasu'r ardal leol o amgylch y fferm wynt.
25. Mae'r ymddiriedolwyr yn goruchwylio proses ffurfiol lle y gellir cyflwyno ceisiadau
ddwywaith y flwyddyn ym mis Ebrill a mis Hydref a chânt eu hasesu gan yr ymddiriedolwyr
sydd hefyd yn dyrannu cyllid iddynt. Mae'r canllawiau ar gyfer y gronfa yn cynnwys y
canlynol:
Mae'r gronfa ar gael i sefydliadau cymunedol bach a grwpiau nid-er-elw
Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy'n cefnogi cymunedau Blaenrheidol a
Phontarfynach, ac wedyn i ardal ehangach Ceredigion
Rhaid i weithgareddau prosiect ddarparu rhyw fath o fudd economaidd,
amgylcheddol, addysgol, cymdeithasol neu ddiwylliannol i'r bobl sy'n byw yn yr ardal
Gall unrhyw sefydliad unigol wneud cais am hyd at £25,000 gan y gronfa yn ystod un
flwyddyn ariannol. Rhaid gwario'r arian o fewn blwyddyn o'i ddyrannu, neu ei
ddychwelyd.
Ac eithrio prosiectau llai, disgwylir i brosiectau ddarparu o leiaf 25% o arian
cyfatebol ar gyfer eu prosiectau (h.y. dim ond gofyn am 75% gan y gronfa)
Mae'r mathau o weithgareddau y gellid eu cefnogi yn cynnwys:
offer ar gyfer grwpiau cymunedol
mân atgyweiriadau a gwelliannau i adeiladau ar gyfer y gymuned
digwyddiadau, gwyliau a theithiau cymunedol
Tudalen D-6
cynlluniau amgylcheddol yn seiliedig ar weithgareddau
papurau newydd a gaiff eu rhedeg gan y gymuned
hyfforddiant a chyrsiau addysgol.
26. Rhestrir pob prosiect a gefnogir ar-lein er mwyn sicrhau tryloywder llawn. Mae'r rhestr o
sefydliadau a gefnogir yn cynnwys cynghorau cymuned, ysgolion, eglwysi a chapeli,
neuaddau pentref, cynlluniau trafnidiaeth gymunedol, grŵp celf, clwb garddio,
ymddiriedolaeth treftadaeth a grŵp ieuenctid, gan adlewyrchu trawsdoriad eang o grwpiau
a gweithgareddau cymunedol lleol.
27. Ymhob achos, rhaid i'r prosiectau adrodd yn ôl a gwahodd yr ymddiriedolwyr i weld sut y
caiff yr arian ei wario, er mwyn sicrhau bod y gronfa hon yn cael ei defnyddio'n briodol ac at
y dibenion gorau.
Buddiannau Ehangach y Cynllun
28. Yn ogystal â'r holl effeithiau a nodir uchod, mae'r cynllun wedi cael budd ehangach
cadarnhaol ar nifer o faterion lleol eraill:
Mae'r swyddi parhaol lleol ym maes cynnal a chadw'r tyrbinau a grewyd gan GE
Energy hefyd wedi arwain at uwchsgilio'r gweithlu lleol, drwy ddarparu datblygiad
parhaus i'r aelodau hyn o staff, â'r budd cyffredinol o wella lefelau sgiliau y
boblogaeth leol.
Mae'r safle yn croesawu ymweliadau gan ysgolion a cholegau at ddibenion addysgol
ac ar hyn o bryd, mae un coleg yn ymweld bob blwyddyn, gan ddod â myfyrwyr sy'n
astudio rheoli'r amgylchedd, gan wella eu profiad addysgol.
Fferm Wynt Ffynnon Oer
29. Datblygiad canolig (32 MW) yng Nghastell-nedd Port Talbot yw Fferm Wynt Ffynnon Oer.
Mae safle'r fferm wynt yn cwmpasu arwynebedd tir o tua 150 ha ar ucheldir pori garw
rhwng Resolfen a Chroeserw. Y Comisiwn Coedwigaeth sy'n berchen ar y tir.
30. Y wardiau sy'n cynnwys safle fferm wynt Ffynnon Oer neu'n sy'n cydffinio â'r safle yw
Resolfen, Cymer, Glyncorrwg a Phelenna gyda'r tri cyntaf yn cynnwys aneddiadau yn agos at
y safle.
Trosolwg o Wybodaeth Gefndir yr Astudiaeth Achos
Datblygwr RWE npower renewables
Gweithredwr
Lleoliad yr Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot
Tir Preifat neu Gyhoeddus Cyhoeddus (Comisiwn
Coedwigaeth)
Nifer y Tyrbinau 16 (32 MW o gapasiti
wedi'i osod)
Dyddiad y Cafwyd Caniatâd Mai 2003
Cyfnod Adeiladu 7 mis
Dyddiad y Daeth y Fferm Wynt yn Weithredol
2007/8
Oes Weithredol Ddisgwyliedig Hyd at 2031
Disgwyliad o ran Datgomisiynu / Ailbweru Anhysbys ar hyn o bryd
Tudalen D-7
Effeithiau yn ystod y Cam Adeiladu
31. Roedd cyfanswm cost cynllunio, datblygu ac adeiladu Fferm Wynt Ffynnon Oer tua £16
miliwn. Ar yr adeg adeiladu, penderfynodd RWE osod nifer fach o gontractau ar gyfer y
gwaith o'r dechrau i'r diwedd yn hytrach na chaffael pob elfen o'r rhaglen ar wahân. O
ganlyniad, dim ond gyda dau gwmni y trefnodd y datblygwr gontractau uniongyrchol:
REpower UK. Trefnodd RWE gontract uniongyrchol gyda REpower UK (un o is-
gwmnïau REpower Systems o'r Almaen yn y DU) ar gyfer cyflenwi, dosbarthu,
cydosod a chomisiynu'r tyrbinau. Is-gontractodd REpower UK elfennau peirianneg
sifil y gwaith hwn i McNicholas Construction Services ltd (cwmni o swydd Hertford).
Western Power Distribution. Fel gweithredwr rhwydwaith dosbarthu trydan De
Cymru a De-orllewin Lloegr, trefnwyd contract uniongyrchol gyda Western Power
Distribution ar gyfer elfennau cysylltu â'r grid y rhaglen adeiladu. Trefnodd REpower
UK hefyd is-gontract ar gyfer yr holl agweddau eraill ar y gwaith gosod trydanol gyda
Western Power Distribution. Nid yw'n glir pa un a gyflawnodd Western Power
Distribution y gwaith hwn yn fewnol neu a is-gontractiodd y gwaith hwn.
32. Roedd cost a manyleb y gwasanaethau a gynigiwyd gan y contractwyr yn amlwg yn ffactor
pwysig wrth wneud penderfyniadau caffael. Gan mai contractau ar gyfer cyflawni'r gwaith
o'r dechrau i'r diwedd a ddefnyddiwyd, roedd angen sicrhau bod rheoli'r risgiau a oedd yn
gysylltiedig ag is-gontractio wrth wraidd y broses. O ganlyniad, roedd y gwarantau roedd y
contractwyr yn gallu eu rhoi mewn perthynas â'u perfformiad a'u gallu i gyflawni manylebau
technegol y prosiect yn ystyriaethau allweddol.
33. O ganlyniad i'r pwyslais ar reoli risg o fewn y broses gaffael, yn ogystal â maint a gwerth y
contractau o'r dechrau i'r diwedd, ni fu'n bosibl cynnwys cwmnïau lleol yn haenau uchaf y
gadwyn gyflenwi. Mae'r ardal leol o amgylch Ffynnon Oer yn wledig iawn ac felly nid oes sail
gadarn o fusnesau digon mawr i gystadlu am gontractau adeiladu haen uchaf ac ennill y
contractau hynny.
34. O ganlyniad, strategaeth gaffael REpower (prif gontractwr RWE) oedd y ffactor arweiniol
wrth gyflawni effaith economaidd leol. Nid oes unrhyw wybodaeth ar gael am y dull caffael
cyffredinol a ddefnyddiwyd gan REpower ar y pryd, ond noda data monitro RWE fod
nwyddau a gwasanaethau gwerth £1.1 miliwn wedi'u caffael gan gwmnïau a oedd wedi'u
lleoli o fewn 30km i'r safle. Mae hyn yn cyfateb i tua 7% o gyfanswm costau adeiladu'r
datblygiad.
Tabl 6-1: Nwyddau a Gwasanaethau a Brynwyd gan Gwmnïau Lleol mewn perthynas â Safle Fferm Wynt Ffynnon Oer
Pellter Bras o'r Safle
Ardal
Cyfanswm Gwerth yr
Is Gontractau
Math o Nwyddau a Gwasanaethau
Llai na 10 milltir
Castell-nedd
£99,300 Agregau, deunyddiau adeiladu, llogi offer
Llansawel £18,000 Gwasanaethau diogelwch
Rhwng 10 ac 20 milltir
Aberdâr £725,700 Concrid ar gyfer sylfeini, gwaith ceblo, deunyddiau adeiladu, llogi sgipiau,
Abertawe £63,500 Llogi offer, profi dyfeisiau
Rhwng 20 a 30 milltir
Pen-y-bont ar Ogwr
£202,300 Gwaith drilio ymchwiliol / ymgynghoriaeth pridd, llogi offer
Tudalen D-8
35. Fel y dengys Tabl 5-1 , roedd y contractau a gaffaelwyd yn lleol yn gymharol fach ar y cyfan o
ran eu maint ac wedi'u cyfyngu'n bennaf i haenau is y gadwyn gyflenwi. Gan fod sawl cam
rhwng y nwyddau a'r gwasanaethau a gaffaelwyd yn lleol a RWE, nid yw'n bosibl darparu
unrhyw wybodaeth fanwl am y ffordd y cafodd cyflenwyr lleol wybod am gontractau. Byddai
natur y nwyddau a'r gwasanaethau a gaffaelwyd yn awgrymu, gan fwyaf, y byddai wedi bod
gan gyflenwyr lleol fantais leoliadol yn yr ystyr bod y nwyddau a'r gwasanaethau a
gaffaelwyd yn dueddol o ddenu costau cludo uchel. Er enghraifft, prynwyd cerrig o safle
Mwyngloddio Agored presennol Bwlch Ffos yng Nghwmgwrach, sydd llai na phum milltir o'r
safle.
36. Er bod llawer o'r gwariant a oedd yn gysylltiedig ag adeiladu'r fferm wynt wedi'i wario gyda
chwmnïau y tu allan i'r ardal leol, gall hyn arwain at effeithiau lleol os bydd cwmnïau o'r tu
allan i'r ardal yn defnyddio llafur lleol. Er na chaiff y graddau y cafodd gweithwyr lleol eu
recriwtio gan fusnesau cyflenwyr yn ystod y cyfnod adeiladu eu monitro na'u cofnodi gan y
datblygwr, ceir tystiolaeth anecdotaidd y gwnaed rhywfaint o recriwtio lleol, er nad llawer.
Er enghraifft, recriwtiwyd peiriannwr safle ar gyfer y cam adeiladu gan ddefnyddio asiant
recriwtio o Gaerdydd (er nad oes unrhyw wybodaeth ar gael mewn perthynas â pha un a
oedd y peiriannwr yn byw yn lleol).
37. Mae uned Datblygu Economaidd cyngor Castell-nedd Port Talbot yn weithgar iawn o ran
helpu cwmnïau lleol. Er na fu'n ymwneud yn uniongyrchol â'r datblygwr wrth ddatblygu
rhaglenni cadwyn gyflenwi lleol ar gyfer cynllun Ffynnon Oer, maent ers hynny wedi dechrau
gweithio ochr yn ochr â datblygwyr i roi rhaglenni ar waith sy'n helpu i sicrhau bod busnesau
yn ymwybodol o'r cyfleoedd ac yn barod i gyflenwi.
Effeithiau yn ystod y Cam Gweithrediadau a Chynnal a Chadw
38. Daeth gwarant gweithgynhyrchwr y tyrbinau i ben yn 2011 ond rhoddwyd estyniad hyd
2013. Mae hyn yn cwmpasu'r gwaith cyffredinol o wasanaethu'r tyrbinau ac adnewyddu
unrhyw gydrannau o bwys y gallai fod angen eu hadnewyddu. Yn ystod cyfnod y warant, prin
yw'r cyfleoedd ar gyfer gwariant sylweddol gyda chyflenwyr lleol.
39. Gall RWE gyflogi cyflenwyr ychwanegol i gynnal unrhyw weithgaredd cynnal a chadw nas
cynhwysir o fewn cytundeb y warant. Byddai natur y gwaith gofynnol yn pennu pa un a
wnaed y gwaith hwn yn uniongyrchol drwy sail Gweithrediadau a Chynnal a Chadw RWE (yng
Nghanolbarth Cymru) neu gan gontractwyr eraill. Er na fu unrhyw enghreifftiau o'r natur hon
eto, mae cwmnïau lleol a gâi eu hystyried fel cyflenwyr (er enghraifft, mae contractwyr
trydanol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, llai na 10 milltir o'r safle sydd wedi darparu
gwasanaethau i RWE yn y gorffennol).
40. Er gwaethaf y ffaith mai gweithgynhyrchwr gwreiddiol yr offer sy'n cynnal gweithgarwch
gweithrediadau a chynnal a chadw wedi'i drefnu a'r gwaith o adnewyddu cydrannau,
cynhyrchir rhywfaint o gyfleoedd swyddi uniongyrchol ar y safle i ymdrin â gwaith cynnal a
chadw cyffredinol ac archwilio'r tyrbinau (er enghraifft, ymdrin â newidiadau olew a
chydrannau cyffredinol ac ati). Caiff dau dechnegydd eu cyflogi'n uniongyrchol gan
REpower, OEM ac maent wedi'u lleoli ar y safle yn llawn amser. Cyn eu cyflogi ar y safle, nid
oedd gan y technegwyr hyn brofiad o gynnal a chadw ffermydd gwynt felly cawsant eu
hyfforddi drwy gwrs dwys chwe wythnos o hyd yn yr Almaen (ym mhencadlys REpower) i
ddarparu'r sgiliau tyrbin gofynnol ar gyfer eu rôl Gweithrediadau a Chynnal a Chadw.
41. Unwaith y daw cyfnod y warant ar gyfer y tyrbinau i ben, bydd mwy o gyfleoedd i gwmnïau
lleol ymuno â'r gadwyn gyflenwi Gweithrediadau a Chynnal a Chadw. Disgwylir y byddai
Tudalen D-9
contract Gweithrediadau a Chynnal a Chadw unigol yn cwmpasu prif gydrannau'r tyrbin yn
cael ei osod. Ochr yn ochr â hyn, byddai contractau eraill ar gyfer peirianneg sifil, gwaith
trydanol, arolygiadau diogelwch, craeniau a diogelwch yn cael eu gosod. Er nad yw'n bosibl
nodi ar hyn o bryd pa gwmnïau allai fanteisio o bosibl ar y cyfleoedd hyn, mae RWE yn
hyderus y gall busnesau lleol gyflawni gofynion Gweithrediadau a Chynnal a Chadw'r fferm
wynt mewn perthynas â pheirianneg sifil, gwaith trydanol a chraeniau.
42. Byddai'r graddau y bydd y buddiannau hyn yn digwydd yn lleol yn dibynnu ar ddull
gweithredu RWE. Er enghraifft, fel gyda'r cam adeiladu, gellid gwneud penderfyniad i benodi
un cyflenwr unigol ar gyfer yr holl weithgareddau Gweithrediadau a Chynnal a Chadw, yn
hytrach na chaffael yr elfennau'n unigol. Os dewisir yr opsiwn contractwr unigol, mae RWE
yn disgwyl y gellid llunio cytundeb fframwaith o gontractwyr lleol y gall y prif gontractwr
Gweithrediadau a Chynnal a Chadw eu defnyddio lle y bo angen. Cyflawnwyd hyn o amgylch
safleoedd ffermydd gwynt eraill mewn mannau eraill yng Nghymru drwy gynnal diwrnodau
agored i gwmnïau lleol er mwyn tynnu sylw at y cyfleoedd posibl yn y gadwyn gyflenwi a
helpu cyflenwyr lleol i gael eu cymeradwyo fel cyflenwyr ar gyfer y fferm wynt.
Effeithiau a Gaiff eu Creu gan y Gronfa Buddiannau Cymunedol
43. Gwnaed y penderfyniad o ran ffurf y Taliadau Buddiannau Cymunedol drwy gytundeb â
chynrychiolwyr o'r cymunedau lleol yn ardal Ffynnon Oer. Cytunwyd y byddai taliad
blynyddol yn cael ei wneud, ond yn ogystal ystyriwyd dichonoldeb sicrhau arian i'r
sefydliadau cymunedol lleol brynu un o'r 16 o dyrbinau. Y disgwyl oedd y byddai hyn yn
caniatáu i'r gymuned ennill yr holl refeniw a gynhyrchwyd gan y tyrbin (rhwng £120-140k y
flwyddyn) ond ni lwyddwyd i ddod o hyd i arian ar gyfer y prosiect.
44. Mae RWE yn darparu cyfanswm o tua £31,000 o daliadau buddiannau cymunedol bob
blwyddyn. Mae'r bryniau lle adeiladwyd y fferm wynt yn gweithredu fel rhwystr ffisegol
rhwng y cymunedau o amgylch y fferm wynt. Er mwyn adlewyrchu hyn, cytunwyd y câi'r
arian ei dalu i ddau sefydliad cymunedol:
Y Sefydliad Cymunedol: Mae'r elusen gofrestredig yn cael £9090 y flwyddyn (wedi'i
gysylltu â mynegeion 2006) ac mae'n buddsoddi ar ran trigolion Resolfen, Clun a
Melincwrt.
Fforwm Afan Uchaf: Mae'r cwmni cyfyngedig yn cael £22,000 y flwyddyn (wedi'i
gysylltu â mynegeion 2006) ac mae'n buddsoddi ar ran ardaloedd Glyncorrwg a'r
Cymer.
45. Mae'r ddau sefydliad yn llwyr gyfrifol am reoli'r cronfeydd cymunedol a'u buddsoddi yn eu
hardal ac maent wedi penodi grwpiau llywio sy'n cynnwys aelodau o'r cynghorau cymuned
sy'n gysylltiedig â'r grwpiau. Mae RWE yn rhoi cyngor ac arweiniad i helpu â'r gwaith parhaus
o weinyddu a hyrwyddo'r gronfa ond nid oes ganddo unrhyw bŵer i wneud penderfyniadau
o ran sut y caiff y cronfeydd eu buddsoddi.
46. Yn y ddwy ardal, mae'r corff rheoli yn hyrwyddo'r ffaith bod y cronfeydd ar gael i sefydliadau
lleol ac yn gwahodd ceisiadau am arian. Yn y cytundeb ariannu buddiannau cymunedol,
nodir yn benodol y dylid buddsoddi'r cronfeydd mewn prosiectau â dibenion elusennol,
addysgol, amgylcheddol neu gymunedol. Fodd bynnag, ac eithrio'r cylch gwaith eang hwn,
nid oes ffocws manylach na chynllun strategol wedi'i nodi ar gyfer buddsoddi'r cronfeydd.
Tudalen D-10
47. Rhoddwyd grantiau i amrywiaeth o sefydliadau lleol gan gynnwys clybiau ieuenctid a
chwaraeon, grwpiau a sefydlwyd i helpu pensiynwyr a rhieni. Gwnaed taliadau hefyd i
Amgueddfa Glowyr De Cymru. Er bod y grantiau a roddir, ar y cyfan, yn gymharol fach o ran
gwerth, maent yn aml yn ymwneud â phrynu offer a deunyddiau sydd eu hangen i sefydlu
gwasanaethau mwy parhaol (e.e. boreau coffi i drigolion oedrannus, offer ar gyfer clybiau
chwaraeon ac offer ar gyfer cynlluniau chwarae ar ôl ysgol). Defnyddiwyd grantiau cyfalaf i
wella cyfleusterau cymunedol fel helpu i adnewyddu canolfannau cymunedol a defnyddiwyd
grantiau refeniw i ddatblygu digwyddiadau lleol gan gynnwys cynnal Gŵyl Dyfrffyrdd gyntaf
Cymru.
Buddiannau Ehangach y Cynllun
48. Mae'r buddiannau ehangach sy'n gysylltiedig â'r cynllun yn cynnwys:
Mae RWE wedi noddi gwelliannau i Lwybrau Beicio Mynydd Afan, sy'n atyniad
pwysig i dwristiaid yng Nghwm Afan. Mae'r llwybr wedi'i wella yn rhedeg yn agos at
Fferm Wynt Ffynnon Oer, drwy Barc Coedwig Afan gerllaw. Mae'r gwelliannau yn
cynnwys uwchraddio adrannau allweddol o'r llwybrau yn ogystal â darparu
arwyddion newydd a chanllawiau newydd i helpu o ran mordwyo.
Gan fod safle adeiladu Ffynnon Oer yn bwysig o ran cadwraeth lleol, gofynnwyd i
RWE lunio Cynllun Rheoli Cynefinoedd ar gyfer yr ardal o amgylch y fferm wynt fel
un o amodau'r caniatâd cynllunio a roddwyd gan gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Gweledigaeth hirdymor y safle ar ôl datblygu a gweithredu'r Cynllun Rheoli
Cynefinoedd yw cynyddu gwerth bioamrywiaeth y safle drwy wella cynefinoedd a
chreu cynefinoedd. Mae gweithgareddau yn canolbwyntio ar greu pyllau ac adeiladu
waliau (er mwyn annog adar a bywyd gwyllt i nythu) yn ogystal â gwella gorgorsydd
a gweithgareddau i adfywio gweundiroedd.
Astudiaeth Achos Fferm Wynt Pen-y-Cymoedd
49. Pen-y-Cymoedd yw'r cynnig mwyaf ar gyfer fferm wynt ar y tir yn y DU ar hyn o bryd. Ceir
trosolwg o'r fferm wynt yn y tabl isod.
Datblygwr Vattenfall
Gweithredwr Fferm Wynt Pen-y-Cymoedd Cyfyngedig
Tirfeddiannwr Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru
Lleoliad yr Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot/Rhondda Cynon Taf
Capasiti wedi'i Osod Tua 256MW
Nifer y Tyrbinau 76
Dyddiad y Cafwyd Caniatâd Cynllunio
8fed
Mai 2012
Cyfnod Adeiladu Ch1 2014- 2017
Dyddiad y Daeth y Fferm Wynt yn Weithredol
Disgwylir iddi fod yn weithredol o Ch4 2016
Oes Weithredol Ddisgwyliedig 25 mlynedd
Effeithiau yn ystod y Cam Cynllunio ac Adeiladu
50. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ym Mhen-y-Cymoedd yn 2014. O ystyried maint y
fferm wynt, bu'r broses gynllunio a datblygu yn helaeth. Dechreuodd ym mis Ebrill 2008 pan
ddewiswyd Vattenfall (Nuon Renewables ar y pryd) gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar
ran Llywodraeth Cymru i ystyried datblygu prosiect fferm wynt ar ei Ystâd yn SSA F yn yr
Tudalen D-11
ardal. Yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf am gostau gan Vattenfall, cyfanswm cost
cynllunio a datblygu'r fferm wynt fydd £16.8 miliwn gan gynnwys ffioedd opsiynau.
Amcangyfrifir y bydd 90% o'r gwariant hwn wedi digwydd yng Nghymru, gan gynnwys
gwariant ar wasanaethau gan gynnwys arolygon, gwasanaethau dylunio, gwasanaethau
cyfreithiol a phroffesiynol yn ogystal â thaliadau opsiynau tir. Ymhlith yr enghreifftiau o'r
cwmnïau sydd wedi gweithio ar y prosiect mae Natural Power Consultants (Aberystwyth),
Ecology Matters (Talybont), Nitelite (Castell-nedd Port Talbot), Wardell Armstrong
(Caerdydd), IsoFab ltd, Treherbert.
51. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ym Mhen-y-Cymoedd yn 2014. Mae'r amcangyfrifon
diweddaraf yn nodi mai cyfanswm gwerth y contractau adeiladu fydd £334 miliwn. Mae
Vattenfall yn ymrwymedig i sicrhau y defnyddir cymaint o gynnwys lleol â phosibl yn ystod y
cam adeiladu. Cydnabyddir bod gan brosiect mawr o'r fath gryn botensial i fod o fudd i
gwmnïau lleol ac, yn unol â hynny, mae'r datblygwr wedi cynllunio'r dull caffael gan
ymgynghori â'r gymuned fusnes leol. Dechreuodd y broses hon ym mis Mawrth 2011 pan
gynhaliwyd digwyddiad briffio busnesau yn Ne-orllewin Cymru gyda thros 140 o unigolion yn
bresennol. Y diben oedd:
Rhoi manylion am y prosiect i'r gymuned fusnes leol
Disgrifio'r broses gaffael fwriadedig a chael barn ar y broses hon
Egluro gofynion y prosiect a'r contractau a fyddai'n cael eu cynnig.
52. Roedd yr adborth o'r digwyddiad yn gadarnhaol ac amlygodd mai'r prif rwystr a oedd yn atal
cwmnïau lleol rhag cynnig am gontractau oedd diffyg gwybodaeth gynnar i gynllunio ar gyfer
y cyfle a strwythur y broses gaffael a fyddai'n cael ei rhoi ar waith. O ganlyniad, gwnaeth
Vattenfall nifer o newidiadau i'r broses gaffael a gynigiwyd:
Rhoddwyd gwybodaeth fanwl am y meini prawf/gofynion o ran gweithio yn y
gadwyn gyflenwi ar gyfer y prosiect
Cafodd y defnydd o gadwyn gyflenwi leol ei nodi fel maen prawf asesu allweddol o
fewn y contractau.
Mae Vattenfall wedi ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr gyflwyno adroddiadau
misol ar y defnydd o gwmnïau o'r gadwyn gyflenwi leol.
53. Yn dilyn hynny, gweithiodd Vattenfall gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port
Talbot i ddatblygu pecyn cymorth cadwyn gyflenwi. Defnyddiwyd yr arian i helpu busnesau
lleol i ddatblygu'r sgiliau a'r adnoddau angenrheidiol ymhellach er mwyn gweithio yn y
sector ynni adnewyddadwy, o hyfforddiant a gweithdai i gymorth un i un uniongyrchol a
fydd yn galluogi busnesau lleol i baratoi ar gyfer y prosiect.
54. Y prif elfennau y mae Vattenfall yn disgwyl y gellir eu prynu o Gymru yn ystod y cam adeiladu
yw'r gwaith peirianneg sifil a'r tyrau. Caiff deunyddiau ar y safle fel cerrig eu prynu'n lleol
hefyd. Caiff offer ei logi'n lleol neu o Gymru ble bynnag y bo'n bosibl.
55. Yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiad deuddydd o hyd 'Cwrdd â'r Contractwr' er mwyn rhoi
cyfleoedd i ddarpar is-gontractwyr ymgysylltu â'r cwmnïau ar y rhestr fer ar gyfer y prif
gontractau cyn penodi'r prif gontractwyr ar gyfer yr amrywiol becynnau gwaith.
Cadarnhaodd trafodaethau a gafwyd ar y diwrnod a thrafodaethau a gafwyd wedi hynny fod
y digwyddiad wedi rhoi cyfle cynharach i'r prif gontractwyr a'r is-gontractwyr ddeall gofynion
a gweithdrefnau ei gilydd cyn y broses ddethol. Roedd tua dwy ran o dair o'r busnesau lleol a
ddaeth i'r digwyddiad mewn sefyllfa i gystadlu am gontractau.
Tudalen D-12
Effeithiau yn ystod y Cam Gweithredu a Chynnal a Chadw
56. Disgwylir i Ben-y-Cymoedd ddod yn weithredol yn 2016 a pharhau i weithredu tan 2042.
Disgwylir y bydd angen cyflogi o leiaf 12 aelod o staff ychwanegol yn uniongyrchol o fewn
Vattenfall er mwyn gweithredu a rheoli'r cynllun. Sefydlodd Vattenfall swyddfa yng
Nghaerdydd er mwyn gwasanaethu'r prosiectau sy'n cael eu datblygu ganddo yng Nghymru
ar hyn o bryd, gan gynnwys Pen-y-Cymoedd, ac ar hyn o bryd, mae'n cyflogi saith o bobl yn y
swyddfa. Mae'r datblygwr yn cydnabod y byddai o fudd i'r busnes sicrhau bod ganddo bobl
ar lawr gwlad a bydd yn ceisio cyflogi pobl leol fel y bo'n briodol. Bydd cyfleoedd ar gyfer is-
gontractio anuniongyrchol hefyd.
Y Gronfa Budd Cymunedol
57. Mae Vattenfall wedi ymrwymo i ddarparu Cronfa Budd Cymunedol sy'n werth £1.8m y
flwyddyn ar hyn o bryd, sy'n cyfateb i £6,000 fesul MW o gapasiti wedi'i osod. Bydd y gwerth
yn gysylltiedig â mynegeion felly bydd yn parhau ar yr un lefel mewn termau real (h.y. ar ôl
chwyddiant) dros oes y fferm wynt.
58. Caiff y Gronfa ei chynllunio yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac mae Vattenfall wrthi'n
comisiynu gwaith ymchwil cymdeithasol-economaidd i lywio'r broses o asesu'r heriau a'r
cyfleoedd i'r gymuned leol a'r gwersi o ymyriadau blaenorol. Y cam nesaf fydd ymgysylltu â
rhanddeiliaid o'r gymuned leol, a gwnaed ymrwymiad i sicrhau bod y broses hon yn
gynhwysol ac yn drylwyr. O ystyried maint y Gronfa, mae Vattenfall yn awyddus i annog dull
gweithredu hyblyg sy'n mynd y tu hwnt i'r defnydd traddodiadol o Gronfeydd a welwyd ar
ffermydd gwynt eraill ar y tir - teimlir nad yw'r rhain o faint tebyg ac felly nad ydynt yn
darparu pwynt cyfeirio addas.
59. Cydnabyddir y bydd angen rhoi prosesau monitro a rheoli cadarn ar waith er mwyn sicrhau y
caiff y Gronfa ei rheoli'n effeithiol.
Buddiannau Ehangach y Cynllun
60. Bydd effeithiau cadarnhaol eraill ar y gymuned leol yn sgîl y cynllun, gan gynnwys:
Buddiannau i fywyd gwyllt drwy Gynllun Rheoli Cynefinoedd, gwerth £3 miliwn dros
25 mlynedd. Nod y cynllun yw adfer, gwarchod, gwella a rheoli cynefinoedd
mawndir lleol.
Gwell mynediad a gwell amwynderau cyhoeddus drwy lwybrau beicio mynydd ac
arwyddion newydd.
Ymgysylltu ag ysgolion a phobl ifanc, a fydd yn ymwneud â'r gronfa gymunedol er
mwyn sicrhau y cânt eu cynrychioli. Mae Vattenfall hefyd yn ystyried cyflwyno
cynllun profiad gwaith "mewn swydd" gydag ysgolion lleol er mwyn rhoi cyfle iddynt
ddysgu am y cyfleoedd a allai fod ar gael iddynt yn y sector ynni adnewyddadwy.
Twristiaeth. Mae Vattenfall wedi ymrwymo i weithio gyda'r gymuned leol i greu
cysyniad twristiaeth sy'n gysylltiedig â'r prosiect. Caiff hyn ei ddatblygu maes o law.
Regeneris Consulting Ltd
Swyddfa Manceinion 4th Floor Faulkner House Faulkner Street, Manchester M1 4DY Ffôn: 0161 234 9910 E-bost: [email protected]
Swyddfa Llundain 70 Cowcross Street London, EC1M 6EJ Ffôn: 0207 608 7200 E-bost: [email protected]
www.regeneris.co.uk