7
Manteision yn

Manteision yn

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Manteision yn. Pwy ydym ni?. Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ein nod ni yw cael pob plentyn wedi gwirioni ar chwaraeon am oes yng Nghymru a chreu cenedl o bencampwyr. - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Manteision yn

Pwy ydym ni?

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ein nod ni yw cael pob plentyn wedi gwirioni ar chwaraeon am oes yng Nghymru a chreu cenedl o bencampwyr.

Yn Chwaraeon Cymru, ein hased pennaf ni yw ein staff. Er mwyn recriwtio, cadw a chynnwys y bobl orau un, rydym wedi datblygu pecyn buddion a manteision atyniadol sy’n adlewyrchu statws Chwaraeon Cymru fel cyflogwr o ddewis. Rydym yn credu mewn adolygu’r hyn sydd gennym i’w gynnig yn barhaus, er mwyn darparu manteision sydd wir yn werthfawr i’n gweithwyr ni.

Beth gall Chwaraeon Cymru ei gynnig i chi?

Cyflog cystadleuol

Mae gan Chwaraeon Cymru raddfeydd cyflog cynnyddrannol ac, wedi i chi dreulio blwyddyn gron gyda ni, byddwch yn symud i bwynt nesaf y raddfa gyflog, os bydd eich perfformiad wedi bod yn foddhaol. Hefyd, lle bo hynny’n bosib, gall cynnydd costau byw fod yn daladwy o 1 Ebrill bob blwyddyn. Hefyd, darperir lwfansau shifft ac oriau anghymdeithasol perthnasol os yw patrymau gwaith afreolaidd yn rhan ofynnol o’r swydd. Cynllun pensiwn cyflog terfynol Gallwch ddewis ymuno â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Caerdydd a Bro Morgannwg. Bydd eich cyfraniadau’n amrywio o 5.5% i 7.2%, yn unol â lefel eich cyflog ac, yn ychwanegol at eich cyfraniadau, bydd Chwaraeon Cymru hefyd yn cyfrannu 21.5% o’ch cyflog pensiynadwy tuag at y cynllun.

Parhad…

Hawl i wyliau Byddwch yn cael 28 diwrnod pan fyddwch yn ymuno a bydd yn codi i 33 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus, ynghyd â'r holl wyliau banc statudol. Hefyd, ar ôl blwyddyn o wasanaeth, gall gweithwyr brynu hyd at 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol.

Parcio am ddim ar y safle Mae gan Chwaraeon Cymru feysydd parcio ym mhob un o’i leoliadau, gyda’r defnydd ohonynt am ddim i staff. Defnyddio cyfleusterau

Mae’r staff yn cael defnyddio cyfleusterau ffitrwydd Chwaraeon Cymru am ddim, gan gynnwys y gampfa a’r cyrtiau. Hefyd, byddwch yn elwa o brisiau is am ddosbarthiadau ffitrwydd (ee Aerobics a Chylchedau) yn y Ganolfan Genedlaethol, a phrisiau is am gyrsiau yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai.

Hyfforddiant a datblygiad Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn hyfforddi a datblygu ei weithwyr, er mwyn sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau sy’n ofynnol i gyflawni eu dyletswyddau i safon uchel ac ychwanegu gwerth at y sefydliad. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithredu rhaglen Arwain a Rheoli achrededig CMI ar gyfer ein gweithwyr i gyd ac mae gennym gynllun hyfforddi tymor hir a gellir gwneud taliadau drwy aberthu cyflog i gynnig rhyddhad treth. Gostyngiadau ar lety a phrydau

Mae llety yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru neu yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai ar gael i staff am brisiau is, a hefyd prydau bwyd a diodydd, sydd ar gael yn y ddau leoliad yma.

Lwfans ffonau symudol Os bydd rhaid i weithiwr weithio y tu allan i’r swyddfa yn ei rôl yn gwneud gwaith Chwaraeon Cymru, bydd offer cyfrifiadurol addas ar gael iddo i weithio o bell. I wneud iawn i weithwyr a fydd yn gorfod defnyddio eu ffôn symudol eu hunain efallai at bwrpas busnes, bydd Chwaraeon Cymru yn darparu lwfans o £25.00 y pen y mis.

Manteision Iechyd a Lles

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Gwasanaeth cyfrinachol am ddim drwy gyfrwng PPC , gan gynnig cyngor arbenigol, gwybodaeth werthfawr, a gwasanaeth cwnsela a chefnogi arbenigol. Mae cefnogaeth dros y ffôn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac mae gwasanaeth gwybodaeth ar-lein yn cynnig taflenni ffeithiol hawdd eu defnyddio, cysylltiadau defnyddiol a rhaglenni wedi’u cynllunio i’ch helpu chi i baratoi ar gyfer digwyddiadau bywyd ac ymdopi â nhw.

Cymdeithas Ysbytai Cymru (www.whahealthcare.co.uk)

Mae CYC yn gymdeithas ddi-elw sy’n cynnig 11 o fanteision iechyd rhad a gallwch dalu cyn lleied â £1.45 yr wythnos. Ymhlith y manteision mae gofal optegol, triniaeth ddeintyddol, ffisiotherapi, osteopatheg a mamolaeth, budd-daliadau ariannol am amser a dreulir yn yr ysbyty fel claf mewnol ac am fynychu ysbyty fel claf allanol. Mae plant dan 18 oed wedi’u hyswirio hefyd am rai o’r manteision, heb unrhyw gost ychwanegol. Gall Chwaraeon Cymru drefnu i dynnu taliadau o’ch cyflog misol. Gofal Iechyd Benenden (www.benenden.org.uk) Sefydliad di-elw yw Benenden ac mae’n cynnig amrywiaeth o gymorth meddygol. Am gyfraniad yn dechrau ar ddim ond £1.50 y pen, mae ei wasanaethau ar gael i chi a’ch teulu. Ymhlith y gwasanaethau mae cefnogaeth canser a’r diciau, ffisiotherapi, triniaeth a llawdriniaethau, ymgynghoriad diagnostig, mân-driniaethau i gleifion allanol ac amrywiaeth o wasanaethau gwybodaeth ac ymgynghorol.

Manteision Cyfreithiol ac Ariannol

Arbedion Drwy Waith (cynllun siopa)

Mae’r wefan Arbedion Drwy Waith yn cynnig bargeinion rhagorol ac mae’r rhain ar gael i holl weithwyr Chwaraeon Cymru a’u teuluoedd. Mae gostyngiadau gwych i’w cael ar wyliau, nwyddau groser, petrol, teclynnau arbennig, ffasiwn a moduro, gyda brandiau ac adwerthwyr adnabyddus fel Asda, Sainsbury’s, Alton Towers, B&Q, M&S, Next a Boots i enwi dim ond rhai. Hefyd mae cynigion newydd sbon yn cael eu hychwanegu drwy’r adeg.

Undeb Credyd Caerdydd (www.cardiffcu.com) Mae Undeb Credyd Caerdydd yn cynnig cynilion a benthyciadau hyblyg heb unrhyw gostau na ffioedd cudd. Byddwch yn derbyn llog blynyddol ar eich cynilion a chyfradd llog isel ar fenthyciadau. Gall Chwaraeon Cymru drefnu i dynnu’r taliadau o’ch cyflog misol. Y Will Group (www.willgroupwales.com)

Y Will Group yw’r prif arbenigwyr ar lunio ewyllysiau yng Nghymru ac mae’n cynnig gwasanaeth ysgifennu ewyllys proffesiynol sy’n uniongyrchol, yn hawdd ei gwblhau ac yn fforddiadwy iawn. Cynllun Cleient Ffafriol Cyfreithwyr Loosemores

Fel darparwr gwasanaethau cyfreithiol i Chwaraeon Cymru, mae Cyfreithwyr Loosemore yn gallu cynnig ystod o wasanaethau cyfreithiol i weithwyr Chwaraeon Cymru, gan gynnwys gwneud ewyllys, prynu, gwerthu ac ailgodi morgais ar eich eiddo, a chyngor wedi i chi gael damwain. Bydd y pris am y cyngor hwn yn is na’u cyfraddau marchnad arferol a bydd y cyfweliad 30 munud cyntaf am unrhyw fater cyfreithiol (ac eithrio cyflogaeth) AM DDIM.

Manteision i Deuluoedd

Talebau Gofal Plant Menter dreth yw talebau gofal plant a’i nod yw helpu rhieni sy’n gweithio i arbed arian ar eu costau gofal plant cofrestredig. Gwneir hyn drwy leihau’r cyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol rydych chi’n gorfod eu talu o’ch cyflog gros, a gall helpu i arbed hyd at £933 y rhiant ar gyfer trethdalwyr sy’n talu’r gyfradd sylfaenol.

Cynllun Gwyliau

Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i chi ategu eich hawl bresennol i wyliau blynyddol. Mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod y gofynion cynyddol y mae gweithwyr yn eu hwynebu er mwyn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Gellir prynu uchafswm o 5 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata i weithwyr rhan amser) a’u defnyddio ym mhob blwyddyn wyliau flynyddol (o fis Ebrill i fis Mawrth).

CSMA (www.csma.uk.com)

CSMA yw’r gymdeithas breifat fwyaf yn y DU ar gyfer tai, moduro a hamdden, yn darparu mwy na 50 o fanteision i’w haelodau, gan gynnwys Siop Geir a Siop Deithio CSMA, Cerdyn Credyd CSMA, yswiriant Britannia Rescue rhag torri i lawr yn y car, ac yswiriant tŷ, car a theithio.

Siop Geir CSMA Gall helpu i leihau cost moduro drwy gynnig yswiriant car am bris is, a gwasanaethu ceir, darnau a theiars, a hyd yn oed arbed arian ar brynu ceir newydd neu ail law.

Cynllun Beiciau Mae Cynllun Trafnidiaeth Werdd y Llywodraeth yn galluogi i chi gael beic a thalu Dim Treth Incwm, Dim Yswiriant Gwladol a Dim TAW. Rydych chi’n gallu gwario hyd at £1,000 ar y cynllun, gan gynnwys prynu ategolion ac offer angenrheidiol i sicrhau eich bod yn ddiogel wrth feicio i’r gwaith. Sylwer nad yw Chwaraeon Cymru yn gweithredu’r cynllun hwn ar hyn o bryd.

Rhoddion Elusennol Mae Rhoddion Elusennol yn ffordd hawdd a threth-effeithlon i weithwyr gyfrannu at eu hoff elusennau. Mae eich rhoddion yn cael eu tynnu’n uniongyrchol o’ch cyflog gros, fel eich bod yn cael rhyddhad treth yn syth. Er enghraifft, bydd rhodd misol o £5 yn costio £3.90 i chi gan fod yr elusen yn derbyn £1.10 ychwanegol mewn treth, a fyddai wedi cael ei thalu i’r Trysorlys, a bydd eich hoff elusennau’n derbyn incwm rheolaidd, digyfyngiad.

Manteision Ffordd o Fyw