1
Dogfen Ymgynghori Ffurfiol
Cynnig i gau Ysgol Rhewl o 31 Awst, 2017 gyda’r
disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu
Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor adeiladau ysgol
newydd.
Chwefror 2015
2
Cynnwys
Rhif Disgrifiad Rhif Tudalen
1. Cyflwyniad 3
2. Crynodeb o’r Cynnig 4
3. Proses Ymgynghori 4-5
4. Rhannu Eich Barn 6-7
5. Pŵer i Wneud Penderfyniad 8
6. Cefndir y Cynnig 8-10
7. Y Ddarpariaeth Gyfredol: Ysgol Rhewl 10-16
8. Categori iaith: Ysgol Rhewl 16-18
9. Darpariaeth Amgen 18-26
10. Darpariaeth Anghenion Dysgu Atodol 26
11. Darpariaeth Uwchradd 26
12. Y Cynnig yn Fanwl: Disgrifiad a Rhesymeg 27-30
13. Digonolrwydd cyfleusterau a safle'r ysgol 30-34
14. Beth yw’r Opsiwn a Gynigir? 34-35
15. Opsiynau Eraill 35-38
16. Trefniadau Derbyn 38
17. Goblygiadau Cludiant 39
18. Goblygiadau Staffio 39-40
19. Beth yw'r Goblygiadau Ariannol? 40-41
20. Beth yw anfanteision a risgiau’r cynnig? 41
21. Effaith Gymunedol, ar yr Iaith Gymraeg ac ar Gydraddoldeb 42-43
22. Esboniad o'r Broses Statudol 44
Ffurflen Ymateb Ymgynghoriad Ffurfiol 44-49
Atodiad 1- Gwybodaeth Ychwanegol
3
1. Cyflwyniad
1.1. Dechreuodd yr adolygiad o ddarpariaeth addysgol yn ardal Rhuthun yn 2013.
Cafodd 11 o ysgolion eu cynnwys yn yr adolygiad, oherwydd cymhlethdodau a'r cyd-
ddibyniaethau, cafodd yr adolygiad ei gynnal yn raddol.
1.2. Mae ardal Rhuthun yn wynebu nifer o heriau gwahanol, gan gynnwys;
Lleoedd Gwag;
Cyflwr ac addasrwydd safleoedd ysgol;
Darpariaeth ystafelloedd dosbarth symudol;
Effeithlonrwydd ystâd ysgolion a chynaliadwyedd.
1.3. Amcanion yr adolygiad yw mynd i'r afael â'r heriau hyn a sicrhau bod safon uchel y
ddarpariaeth yn cael ei gynnal a'i gryfhau ar gyfer y dyfodol. Mae'r Cyngor wedi bod
yn glir ers dechrau’r adolygiad nad yw'n gysylltiedig â safonau a chyrhaeddiad
addysgol, gan fod lefelau addysg ar draws ardal Rhuthun yn dda. Mae'r adolygiad a’r
argymhellion dilynol yn ceisio cynnal a chryfhau'r ddarpariaeth hon.
1.4. Mae cyfres o argymhellion wedi cael eu gwneud i Gabinet Sir Ddinbych ers mis
Mehefin 2013. Mae'r cam hwn o'r adolygiad yn canolbwyntio ar ysgolion tref Ysgol
Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras, gan gynnwys Ysgol Rhewl oherwydd pa mor agos
ydyw at y dref.
1.5. Cytunodd y Cabinet ym Mehefin 2013 na ddylid gwneud unrhyw gynigion ffurfiol
ynghylch Ysgol Stryd y Rhos, Ysgol Pen Barras ac Ysgol Rhewl hyd nes y bydd cyfnod
pellach o ddichonoldeb wedi cael ei gynnal. Mae’r cyfnod dichonoldeb hwn, i asesu
opsiynau ar gyfer pob ysgol, wedi digwydd yn ystod tymor yr Hydref 2014.
1.6. Cynigir y bydd Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn cael eu symud o’u safleoedd
presennol i gyfleusterau newydd, pwrpasol ar safle Glasdir.
1.7. Gellir gweld trosolwg manwl o'r opsiynau a archwiliwyd ar gyfer Ysgol Rhewl yn
adran 15 y ddogfen hon.
4
2. Crynodeb o'r cynnig
2.1. Cynigir y bydd Ysgol Rhewl yn cau ar 31 Awst, 2017 gyda’r disgyblion yn trosglwyddo i
un ai Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor adeiladau’r ysgol
newydd. Bydd adeiladau’r ysgol newydd yn cael ei lleoli ar safle Glasdir i'r Gogledd o
Ruthun.
2.2. Mae cynaliadwyedd hirdymor Ysgol Rhewl wedi cael ei ystyried fel rhan o'r ardal tref
ehangach fel rhan o Adolygiad Ardal Rhuthun. Prif gymhellion y cynigion ar gyfer ardal
tref Rhuthun yw addasrwydd a chyflwr safleoedd ysgolion a lleoedd dros ben o fewn y
dref. Credir bod y cymhellion hyn yn effeithio ar gynaliadwyedd tymor hir Ysgol Rhewl.
2.3. Wrth ystyried amrywiaeth o opsiynau ar gyfer safle Glasdir, roedd angen asesu effaith
y cyfleusterau newydd ar Ysgol Rhewl oherwydd pa mor agos ydoedd i'r ysgol, tua 1.1
milltir, o safle Glasdir. O ystyried nifer y disgyblion a'r angen tymor hir i fuddsoddi yn
yr adeilad, credir mai cau'r ysgol a throsglwyddo’r disgyblion i naill ai Ysgol Pen Barras
neu Ysgol Stryd y Rhos yw'r opsiwn mwyaf cynaliadwy ar gyfer yr ardal ehangach tref
Rhuthun.
3. Proses Ymgynghori
3.1. Cymeradwywyd ymgynghoriad ffurfiol gan Gabinet Sir Ddinbych ar 13eg Ionawr, 2015
ar y cynnig i gau Ysgol Rhewl. Mae’r ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal i sicrhau
bod gan yr holl bartïon perthnasol gyfle i gyfrannu at y pwnc pwysig hwn.
3.2. Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal o 10fed Chwefror 2015 tan 23ain o
Fawrth 2015.
3.3. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y rhain yn
cael eu trefnu mewn fformat ‘noson rieni’ pan fydd mynychwyr yn gallu trafod gyda
swyddogion ar ffurf un i un. Mae manylion y cyfarfodydd wedi eu cynnwys yn y llythyr
sydd wedi ei rannu.
3.4. Mae'r ddogfen ymgynghori ffurfiol hon wedi cael ei hanfon at amrywiaeth eang o
ymgynghorwyr gan gynnwys yr ymgynghorwyr statudol canlynol:
a. Rhieni, athrawon a staff cynorthwyol Ysgol Rhewl;
b. Cadeirydd y Llywodraethwyr a Chyngor Ysgol yr ysgolion canlynol:
i. Ysgol Rhewl;
ii. Ysgol Pen Barras;
iii. Ysgol Stryd y Rhos;
5
iv. Ysgol Borthyn;
v. Ysgol Carreg Emlyn;
vi. Ysgol Gellifor;
vii. Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd;
viii. Ysgol Bro Cinmeirch.
c. Esgobaeth Llanelwy yr Eglwys yng Nghymru ac Esgobaeth Gatholig Rufeinig
Wrecsam;
d. Penaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr pob Ysgol yn Sir Ddinbych
e. Cyngor Sir y Fflint;
f. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;
g. Darparwyr meithrinfeydd annibynnol yn ardal Rhuthun;
h. Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych a Phartneriaethau Datblygiad
Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
i. Pob un o Aelodau Cyngor Sir Ddinbych;
j. Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli’r ardaloedd a gaiff
eu heffeithio gan y cynnig;
k. Cyngor Cymuned Llanynys;
l. Cyngor Tref Rhuthun;
m. Gweinidogion Llywodraeth Cymru;
n. Estyn;
o. Undebau llafur athrawon a staff perthnasol
p. Taith;
q. Gwasanaeth Effeithiolrwydd Ysgolion (GwE)
r. Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
3.5. Mae fersiwn atodol o'r ddogfen ymgynghori ffurfiol hon wedi cael ei llunio ar gyfer
plant a phobl ifanc sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y cynnig. Bydd y ddogfen hon
ar gael yn yr ysgolion a enwir o fewn y cynnig hwn. Ysgrifennwyd y ddogfen plant a
phobl ifanc yn arbennig i alluogi plant a phobl ifanc i ddeall y broses ymgynghori a
chymryd rhan ynddi.
3.6. Bydd digwyddiadau ymgynghori hefyd yn cael eu cynnal gyda disgyblion Ysgol Rhewl,
Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos.
3.7. Mae'r ddogfen hon, y ddogfen plant a phobl ifanc a dogfennau ategol perthnasol wedi
cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych a gellir eu gweld drwy ddilyn y ddolen
hon;
www.denbighshire.gov.uk/modernisingeducation
6
4. Rhannu eich barn
4.1. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi rannu eich barn gyda ni. Amlinellir y rhain isod
gyda manylion perthnasol ar gyfer cyflwyno eich barn.
Mewn person
Mae'r dyddiadau ac amseroedd y cyfarfodydd ymgynghori wedi cael eu cynnwys yn y
llythyr eglurhaol. Cynhelir cyfarfodydd gyda staff, rhieni, disgyblion a'r Corff
Llywodraethol.
Bydd y cyfarfod rhieni yn cael ei gynnal mewn fformat noson rieni. Mae hyn yn caniatáu i
fynychwyr siarad â swyddogion ar sail 1-i-1. Er mwyn sicrhau bod pob mynychwr yn cael
y cyfle i leisio eu barn mae angen cadw lle yn y cyfarfod.
I archebu lle anfonwch e-bost [email protected] neu ffoniwch
01824 706127. Bydd e-bost cadarnhau yn cael ei anfon atoch i gadarnhau eich amser.
Yn Ysgrifenedig
Gallwch lenwi'r ffurflen yn electronig drwy ddilyn y ddolen hon;
https://www.surveymonkey.com/r/YsgolRhewlCymraeg
Os ydych yn dymuno gwneud ymateb ysgrifenedig pellach cyflwynwch eich barn
trwy ddefnyddio'r manylion isod;
Mae ffurflen ymateb wedi ei hatodi i'r ddogfen hon, gallwch lenwi a chyflwyno
hon drwy'r post i;
I sylw’r Tîm Moderneiddio Addysg, Cyngor Sir Ddinbych, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay,
Rhuthun, LL15 1YN
Neu gallwch ei sganio at;
Plant a phobl ifanc
Bydd digwyddiad ymgynghori yn cael ei gynnal gydag aelodau o Gyngor yr Ysgol.
Bydd hwn yn cael ei hwyluso gan swyddog o Sir Ddinbych, a’u rôl yw ymgysylltu
ac ymgynghori a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc.
7
4.2. Gwnewch yn siŵr bod pob barn yn cael ei gyflwyno erbyn 23/03/2015. Ni fydd
unrhyw gyflwyniadau hwyr yn cael eu cynnwys o fewn dadansoddiad ar gyfer yr
adroddiad ymgynghori ffurfiol.
4.3. Yn ogystal, efallai na fydd unrhyw farn neu ymateb a gyflwynwyd drwy unrhyw
gyfeiriad post neu e-bost arall yn cael eu cynnwys o fewn dadansoddiad ar gyfer yr
adroddiad ymgynghori ffurfiol.
4.4. Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ffurfiol, cesglir yr holl sylwadau a'u hystyried cyn
gwneud unrhyw argymhelliad i symud ymlaen i'r cam nesaf.
4.5. Noder na fydd ymatebion sydd yn cael eu cyflwyno yn ystod yr Ymgynghoriad
Ffurfiol yn cael eu cyfri fel gwrthwynebiadau i’r cynnig. Dim ond os fydd Rhybudd
Statudol yn cael ei gyhoeddi y gall gwrthwynebiadau gael eu cyflwyno a’u cofrestru.
4.6. Bydd adroddiad ymgynghori ffurfiol, a phob ymateb, yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet
yn Mai 2015. Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnwys argymhelliad gan swyddogion.
4.7. Y Cabinet fydd yn gwneud penderfyniad a ddylid symud ymlaen i'r cam nesaf a
chyhoeddi hysbysiad statudol.
Proses Cynnig Trefniadaeth Ysgolion
Argymhelliad: Gwneir argymhelliad i Gabinet Sir Ddinbych i ymgynghori’n ffurfiol-
Ionawr 2015.
Ymgynghori Ffurfiol: Bydd cyfnod o ymgynghori ffurfiol yn digwydd rhwng
10/02/2015 a 23/03/2015. Yn ystod y cyfnod hwn gall partïon â diddordeb fynegi eu
barn ynghylch y cynnig.
Adroddiad Ymgynghori Ffurfiol: Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ffurfiol bydd
ymatebion yn cael eu coladu a'u cyflwyno i'r Cabinet ar ffurf Adroddiad Ymgynghori
Ffurfiol, gan gynnwys argymhelliad gan swyddogion. Bydd hyn yn cael ei gyhoeddi ar
wefan Sir Ddinbych.
Hysbysiad Statudol: Os mai’r argymhelliad yw i symud i gam nesaf y broses, bydd
angen i’r Cabinet gytuno i hynny. Os bydd hyn yn cael ei gytuno, bydd hysbysiad
statudol yn cael ei gyhoeddi. Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fod am 28
diwrnod. Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr
ysgol.
Adroddiad Gwrthwynebiad: Pe bai hysbysiad statudol gael ei gyhoeddi ac y ceir
gwrthwynebiadau, bydd y gwrthwynebiadau hyn yn cael eu coladu i ffurfio
adroddiad gwrthwynebiad. Bydd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o bob
gwrthwynebiad a wnaed ac ymateb yr awdurdod. Bydd yn ofynnol i'r adroddiad gael
ei gyhoeddi cyn diwedd 7 niwrnod sy’n dechrau ar ddiwrnod unrhyw benderfyniad
ar y cynnig.
8
5. Pŵer i wneud penderfyniad
5.1. Mae hawl gan Gyngor Sir Ddinbych i gyhoeddi cynigion i sefydlu ysgol ardal newydd
yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2103i. Yn unol â hynny,
gall y Cyngor gyhoeddi’n ffurfiol fod ysgol yn cau ar ôl dilyn y drefn statudol gywir.
Mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolionii yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn.
6. Cefndir y cynnig
6.1. Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych y Fframwaith Polisi Moderneiddio
Addysgiii ym mis Ionawr 2009 i ddarparu llwyfan sy'n sail i adolygu'r ddarpariaeth
ysgol bresennol.
6.2. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu addysg o'r radd flaenaf i holl blant a phobl
ifanc y sir. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae'r Cyngor wedi cytuno bod
‘moderneiddio'r ddarpariaeth addysg’ yn flaenoriaeth gan ein bod yn cydnabod
pwysigrwydd cael adeiladau ysgol, amgylcheddau dysgu ac adnoddau sy'n diwallu
anghenion Cymru yn yr 21ain ganrif.
6.3. Gwyddom fod yn rhaid i ni newid a moderneiddio darpariaeth addysg ledled y Sir,
gan na ellir parhau i gynnal gwelliannau mewn addysg heb wneud newidiadau i'r
ffordd y darperir addysg. Mae angen i ysgolion allu darparu'r profiad dysgu gorau
posibl er mwyn i blant a phobl ifanc Sir Ddinbych gael y cyfleoedd ehangaf sydd ar
gael iddynt fel bod modd iddynt wireddu eu llawn botensial
6.4. Yn mis Tachwedd 2012, bu i Gabinet Cyngor Sir Ddinbych gymeradwyo dechrau
ymgynghoriad anffurfiol ar ddyfodol addysg gynradd yn ardal Rhuthun. Roedd y
ddogfen ymgynghoriad anffurfiol yn amlygu nifer o faterion a oedd angen
ymgymryd â hwy er mwyn sicrhau cynnaldwyedd tymor hir. Roedd y rhain yn
cynnwys:
Cynnaldwyedd Ysgolion a Darpariaeth Safon Uchel;
Lleoedd Gwag;
Cyflwr ac addasrwydd adeiladau ysgolion (gan gynnwys defnydd o gabannau);
Recriwtio Penaethiaid;
Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg;
6.5. Daeth yr ymgynghoriad anffurfiol i ben ar y 22ain o Fawrth 2013 ac ystyriwyd y
materion a godwyd yn ystod y cyfnod yn fanwl gan Gyngor Sir Ddinbych. Cafwyd 63
llythyr ac ebost gan fudd-ddeiliaid ynghyd a 195 holiadur wedi eu cwblhau gan rieni.
9
Mae canfyddiadau’r ymgynghoriad anffurfiol wedi eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor
fel rhan o’r broses ymgynghori.
6.6. Cafodd ei argymell i'r Cabinet ym Mehefin 2013 na fydd unrhyw gynigion ffurfiol ar
gyfer ysgolion y dref yn cael eu datblygu hyd nes bod cyfnod o astudiaeth
dichonoldeb manwl wedi ei gynnal. Gwnaethpwyd y gwaith dichonoldeb yn nhymor
yr hydref 2014. Roedd y gwaith dichonoldeb hefyd yn gallu darparu dadansoddiad
mwy manwl o 3 safle, sef safle Ysgol Rhewl, y safle a rennir ar hyn o bryd ar gyfer
Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras a safle Glasdir.
6.7. Yr opsiwn a ffafrir yw adleoli Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras i gyfleusterau
newydd, pwrpasol ar safle Glasdir.
6.8. Mae’r Cyngor yn wrth ddod ar cynnig yma ymlaen o’r farn y bydd y newidiadau a
gyflwynir o fudd tymor hir i blant a phobl ifanc o fewn ardal cymuned Rhewl. Mae’r
ddogfen ymgynghori yma o fewn adran 7 yn darparu gwybodaeth ynglŷn â safonau
addysgol yn Ysgol Rhewl. Mae adran 13 y ddogfen yn darparu sylwebaeth ar
ddigonolrwydd adeiladau a chyfleusterau cyfredol. Yn ystyried yr elfennau hyn,
mae’r Cyngor o’r farn bod y ddarpariaeth gyfredol yn Ysgol Rhewl yn darparu
safonau da, gyda’r mwyafrif o’r addysgu drwy gyfrwng y Saesneg. Ond mae pryder
am hyfywdra tymor hir, gyda phryder y gall maint yr ysgol effeithio ar allu’r ysgol i
ymateb i gynnydd mewn galw’r cwricwlwm. Mae digonolrwydd cyfredol yr adeilad
hefyd yn rhwystr i gynnal y ddarpariaeth yn y tymor hir.
6.9. Wrth ddatblygu’r cynnig mae’r Awdurdod Lleol wedi ystyried yn ofalus effaith
tebygol y cynnig ar ddeilliannau, darpariaeth a rheolaeth ac arweinyddiaeth. Mae
o’r farn bod y buddion disgwyliedig yn gorbwyso’r anfanteision gan gymharu ar
presennol. Mae adran 12 yn darparu sylwebaeth ynglŷn ag effaith y cynnig ar yr
ardaloedd pwysig yma ac yn amlygu nifer o fanteision gyda’r gallu i gynnig mwy o
ddosbarthiadau addas i’r oedran, y cyfle i gael mynediad at gwricwlwm mwy manwl
o ganlyniad i fwy o arbennigedd staff ac i ddarparu strwythur tim arweinyddiaeth
datblygedig i oruchwylio darpariaeth addysg. Mae’r buddsoddiad a gynnigir mewn
adeilad newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos sydd y ddarpariaeth
amgen a enwir yn galluogi disgyblion drosglwyddo o Ysgol Rhewl i gael eu haddysgu
mewn adeilad modern pwrpasol. Yn adran 20 mae’r ddogfen yn amlygu
anfanteision posib o’r cynnig ac mae’r rhain yn cael eu datblygu’n bellach o fewn
Asesiad Effaith Cymunedol. Er hyn mae Cyngor Sir Ddinbych wrth ddatblygu’r cynnig
hyn o’r farn bod y manteision yn gorbwyso’r anfanteision wrth ystyried anghenion
tymor hir disgybl o gymuned Rhewl a hefyd y budd addysgiadol i holl ddisgyblion yr
ardal.
10
6.10. Mae'r cynnig hwn yn rhan o gynllun ad-drefnu ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun,
ac mae’r cynnig hwn yn symud ymlaen ar yr un pryd ag:
i. Y cynnig ar gyfer ysgol ardal newydd yn lle Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac
Ysgol Pentrecelyn;
ii. Adeilad ysgol ardal newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, sydd ar hyn o bryd
yn gweithredu ar ddau safle yng Nghlocaenog a Chyffylliog.
iii. Cyfleuster addysgol newydd pwrpasol a fydd yn galluogi adleoli Ysgol Pen
Barras ac Ysgol Stryd y Rhos.
7. Y Ddarpariaeth Bresennol: Ysgol Rhewl
7.1. Mae'r adran hon yn rhoi manylion am y ddarpariaeth bresennol yn Ysgol Rhewl.
7.2. Mae Ysgol Rhewl wedi ei leoli yng nghanol pentref Rhewl gyda ffin orllewinol y safle
yn ffinio â'r A525. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ystod oedran o 3-11 oed. Mae'r ysgol
wedi cael ei nodi fel ysgol gynradd Categori 2- Dwy Ffrwd. Dyma le mae dau fath o
ddarpariaeth yn bodoli ochr yn ochr (Cymraeg a Saesneg) gyda rhieni/disgyblion yn
dewis naill ai darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn bennaf neu gyfrwng Saesneg yn
bennaf.
7.3. Yng nghyfrifiad ysgolion (CYBLD) Medi 2014 roedd 53 o ddisgyblion llawn amser a 3
disgybl rhan-amser (meithrin) yn mynychu Ysgol Rhewl. Mae'r siart isod yn dangos y
nifer disgyblion llawn amser a rhan amser dros gyfnod o ddeng mlynedd;
28 33
41 38
34 41
34 34 37
55 50
2
8 6
3 10
9
6 4 8
5 4
2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014
Ysgol Rhewl NOR 2004-2014*
Full Time Part Time
11
7.4. Mae 38.5% o’r disgyblion cyfredol yn dod o bentref Rhewl a'r ardal gyfagos. Mae
61.5% o'r disgyblion yn byw tu allan i'r pentref. Mae'r map isod yn dangos y dalgylch
ar gyfer blwyddyn academaidd 2014-2015;
7.5. Mae capasiti llawn amser adeilad yr ysgol wedi ei gyfrifo yn 82 disgybl. Yn mis Medi
2014 roedd 53 disgybl llawn amser a 3 disgybl rhan amser yn yr ysgol. Mae gwarged
o 29 lle llawn amser, sydd yn cyfateb i 35.4%. Y rhif derbyn ar gyfer yr ysgol ydi 11.
7.6. Mae gan yr ysgol ddwy ystafell ddosbarth mawr ac mae ganddi grwpiau blwyddyn
cymysg. Mae’r dosbarthiadau meithrin a Chyfnod Sylfaen wedi eu lleoli o fewn
Dosbarth 1 ac mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 wedi'u lleoli yn Nosbarth 2. Gellir
rhannu’r ystafelloedd dosbarth mawr yn ardaloedd addysgu llai. Mae'r tabl isod yn
dangos y dadansoddiad o ddisgyblion yn ôl grŵp blwyddyn;
Meithrin Derbyn Bl. 1 Bl. 2 Bl. 3 Bl. 4 Bl. 5 Bl. 6
3 5 6 9 8 5 9 11
23 (3 RhA/ 20 LlA) 33
7.7. Y gymhareb disgybl-athro ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiwethaf oedd 15.
12
7.8. Pob gwanwyn mae Sir Ddinbych yn cyfrifo rhagamcanion o niferoedd disgyblion gan
ddefnyddio data cyfredol. Mae’r rhagamcaniad hyn yn awgrymu gostyngiad yn nifer
o ddisgyblion ar y gofrestr dros y 5 mlynedd nesaf. Mae’r rhagamcaniad nifer
disgyblion llawn amser isod;
Ysgol 2015 2016 2017 2018 2019
Ysgol Rhewl 50 46 42 41 39
7.9 Roedd dyddiad cau ceisiadau derbyn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf (2015/16)
ar ddiwedd mis Tachwedd 2014. Hyd ddechrau mis Chwefror mae 3 cais ar gyfer
dosbarth derbyn ac un cais ar gyfer dosbarth meithrin wedi ei gyflwyno.
7.10 Mae’r tabl isod yn dangos lefel cyrhaeddiad a chyflawniad Ysgol Rhewl ar ddiwedd
Cyfnod Sylfaen dros y 5 mlynedd diwethaf ochr yn ochr â chyfartaledd lleol a
cenedlaethol;
DPC* DDCS*
2010 2011 2012 2013 2014
Ysgol Rhewl 100% 100% 66.7% 83.3% 85.7%
Cyfartaledd Lleol 82.4% 79.8% 86.4% 84.9% 86.1%
Cyfartaledd Cenedlaethol 81.6% 82.7% 80.5% 83% 85.2% *2010-2011 yn cyrraedd Dangosydd Pwnc Craidd - DPC. Cafodd y DPC ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 ei ddisodli
gan Ddangosydd Deilliant Cyfnod Sylfaen – DDCS.
7.11 Mae’r tabl isod yn darparu data meincnodi ynglŷn â’r deilliannau disgwyliedig ar
ddiwedd y Cyfnod Sylfaen. Mae’r meincnodi yn cymharu perfformiad teulu o
ysgolion sydd â nifer tebyg o hawlio Cinio Ysgol am Ddim;
% of Ddisgyblion yn cyrraedd y deilliant disgwyliedig
2012 2013 2014
Rhewl 66.7% 83.3% 85.7%
Uchaf 100.0% 100.0% 100.0%
Chwartel Uchaf 89.8% 90.0% 95.1%
Canolrif 82.7% 83.2% 90.0%
Chwartel Isaf 72.7% 75.1% 83.3%
Isaf 33.3% 28.6% 0.0%
7.12 Mae’r tabl isod yn dangos lefel cyrhaeddiad a chyflawniad ar ddiwedd Cyfnod
Allweddol 2 ar gyfer Ysgol Rhewl dros y 5 mlynnedd diwethaf;
% yn cyflawni Lefel 4+ DPC yng Nghyfnod Allweddol 2*
2010 2011 2012 2013 2014
Ysgol Rhewl 100% 100% 100% 100% 75%
13
Cyfartaledd Lleol 78.1% 82.3% 83.5% 86% 86.6%
Cyfartaledd Cenedlaethol 78.2% 80% 82.6% 84.3% 86.1%
Cyfartaledd Teulu 73.7% 74.9% 80.9% 84.1% 84.2%
*DPC- Dangosydd Pwnc Craidd
7.13 Mae’n bwysig nodi bod y nifer sydd yn cael eu hasesu ymhob blwyddyn yn gymharol
isel, ac felly nid yw cymhariaeth gyda cyfartaledd lleol a cenedlaethol ddim o hyd yn
bosib.
7.14 Mae cyfartaledd Anghenion Addysgol Ychwanegol yr ysgol dros y 5 mlynedd
diwethaf wedi ei dangos yn y tabl isod ochr yn ochr â chyfartaledd lleol a
cenedlaethol;
2010 2011 2012 2013 2014 Rhewl – Gweithred Ysgol
N/A* N/A 18.8% N/A N/A
Cyfartaledd Awdurdod Lleol – Gweithred Ysgol
12.2% 12.9% 12.8% 12.5% 12.5%
Cyfartaledd Cymru – Gweithred Ysgol
15.5% 15.2% 15.6% 15.2% 15.1%
Rhewl – Gweithred Ysgol Mwy
N/A* N/A N/A 15.6% N/A
Cyfartaledd Awdurod Lleol – Gweithred Ysgol Mwy
11.5% 10.6% 11.8% 12.2% 12.8%
Cyfartaledd Cymru – Gweithred Ysgol 8.5% 8.7% 8.9% 9.2% 8.8%
Rhewl – Gyda Datganiad N/A* N/A N/A N/A N/A Cyfartaledd Awdurdod Lleol – Gyda Datganiad
1.4% 1.4% 1.1% 0.9% 1.1%
Cyfartaledd Cymru – Gyda Datganiad 2.0% 1.9% 1.8% 1.7% 1.7%
* Mae’r Data yn gyfrinachol o ganlyniad i nifer fach o ddisgyblion yn y flwyddyn. Gall datgelu’r data
arwain at ddatgelu’r disgyblion unigol..
7.15 Mae mwy o wybodaeth ynglŷn ag Anghenion Addysgol Ychwanegol ac effaith y
cynnig ar ddisgyblion gydag Anghenion Addysgol Ychwanegol yn rhan 10 o’r ddogfen.
7.16 Mae cyfartaledd Cinio Ysgol am Ddim yr ysgol dros y 5 mlynnedd diwethaf yn cael eu
dangos ochr yn ochr gyda chyfartaledd lleol a cenedlaethol yn y tabl isod;
2010 2011 2012 2013 2014
Ysgol Rhewl
20.5% 20.7% 21.6% 16.8% 10.7%
Cyfartaledd Lleol
18.4% 20.0% 20.9% 21.3% 21.2%
Cyfartaledd Cymru
18.9% 20.0% 20.6% 20.8% 20.5%
14
7.17 Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â chyrhaeddiad, meincnodi a gwybodaeth gyd-destunol
yr ysgol ar gael ar wefan Fy Ysgol Leoliv.
7.18 Roedd arolwg Estyn diwethaf yr ysgol yn Mai 2011, roedd y sylwadau isod wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad;
Cyd-destun
Mae Ysgol Gynradd y Rhewl ym mhentref bach Rhewl ger Rhuthun yn Sir Ddinbych. Mae’n
darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng tair ac 11 mlwydd oed. Mae nifer y disgyblion a
dderbynnir yn cynrychioli’r ystod gallu llawn.
Daw pob un o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg fel y brif iaith. Nid oes unrhyw
ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Caiff disgyblion eu haddysgu trwy gyfrwng y
Saesneg yn bennaf, ac maent yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Fodd bynnag, ysgol ddynodedig
ddwyieithog yw hi, sy’n darparu ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd, yn
unol â’r galw.
Mae 34 o ddisgyblion amser llawn ar y gofrestr ac mae pedwar plentyn arall yn mynychu’r
feithrinfa ar sail ran-amser. Ers adleoli cylch chwarae’r pentref, mae’r ysgol hefyd yn derbyn
plant cyn oedran meithrin. Caiff y ddarpariaeth hon, ‘Pili Pala’, ei chyflwyno yn ystafell
ddosbarth y Cyfnod Sylfaen ac mae’n cynnwys plant o ardaloedd eraill yn lleol lle nad yw’r
ddarpariaeth hon ar gael.
Bu cynnydd yn nifer y disgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim dros y tair blynedd
diwethaf. Y ffigur presennol yw tua 26% o ddisgyblion, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru
gyfan, sef ychydig llai na 20% ar gyfer ysgolion cynradd.
Mae’r ysgol wedi nodi bod gan draean o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Nid oes
gan unrhyw ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.
Mae’r pennaeth presennol wedi bod yn ei swydd er Medi 2007.
Yn 2010-2011, y gyllideb ysgol unigol fesul disgybl ar gyfer Ysgol Gynradd y Rhewl yw
£4,574, sy’n cymharu ag uchafswm o £18,610 ac isafswm o £2,626 ar gyfer ysgolion
cynradd yn Sir Ddinbych. Yr ysgol sydd â’r 14eg cyllideb uchaf fesul disgybl o’r 53 ysgol
gynradd yn Sir Ddinbych.
Crynodeb
Perfformiad presennol yr ysgol Da
Rhagolygon gwella’r ysgol Da
Cwestiwn Allweddol Barn
Pa mor dda yw’r deilliannau? Da
Pa mor dda yw’r ddarpariaeth? Da
Pa mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth? Da
15
Perfformiad presennol Rhagolygon Gwella
Argymhellion
Mae perfformiad cyffredinol yn dda oherwydd:
ethos cynhwysol yr ysgol a chymuned dwymgalon a chyfeillgar yr ysgol;
safonau cyflawniad da’r disgyblion a’u gallu i ddefnyddio medrau yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm;
ystod dda o weithgareddau dysgu sy’n ennyn ac yn cynnal diddordeb y disgyblion;
lefelau uchel o bresenoldeb ac ymddygiad, gyda disgyblion yn bwrw ymlaen â’r dysgu’n dda;
y ffordd y mae’r ysgol yn hyrwyddo lles disgyblion yn llwyddiannus; a’r
gweithdrefnau effeithiol ar gyfer olrhain cynnydd disgyblion ac ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, yn enwedig mewn llythrennedd
Mae’r rhagolygon gwella yn dda oherwydd:
hanes da yn sicrhau deilliannau gwell i ddisgyblion;
yr ymrwymiad amlwg i welliant parhaus mewn darpariaeth a deilliannau;
dealltwriaeth glir o’r agweddau ar y ddarpariaeth y mae angen eu datblygu ymhellach a’r parodrwydd i ystyried safbwyntiau llywodraethwyr, rhieni a disgyblion;
cynllun datblygu ysgol strwythuredig sy’n nodi cynigion clir a phriodol ar gyfer datblygu’r ysgol;
y ffordd y mae corff llywodraethol yr ysgol yn gweithredu fel ffrind beirniadol; ac
ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion lleol eraill fel cymuned ddysgu broffesiynol.
Er mwyn gwella, mae angen i’r ysgol: A1 sicrhau bod gweithgareddau dysgu yn ymestyn disgyblion o bob gallu mewn dosbarthiadau prif ffrwd, yn enwedig disgyblion uwch eu gallu yng nghyfnod allweddol 2; A2 gwella dealltwriaeth disgyblion o beth i’w wneud i wella ansawdd eu gwaith, yn enwedig ansawdd y marcio ac ymglymiad disgyblion mewn hunanasesu ac asesu cyfoedion; A3 datblygu cynllunio a gweithredu’r ddarpariaeth ar gyfer medrau ymhellach, i sicrhau parhad a dilyniant mewn datblygiad medrau disgyblion; a A4 gwella rôl uwch reolwyr mewn arfarnu parhad a dilyniant yn y ddarpariaeth ac yng nghyflawniadau disgyblion ar draws yr ysgol.
Allwedd Diffiniadau Barn Estyn
Cwestiynau Allweddol Fframwaith
Pa mor dda yw’r deilliannau?
Pa mor dda yw’r ddarpariaeth?
Pa mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth?
Barn
Rhagorol - Llawer o gryfderau, gan gynnwys enghreifftiau arwyddocaol o arfer sy’n arwain y sector
Da - Llawer o gryfderau a dim meysydd pwysig sydd angen eu gwella’n sylweddol
Digonol - Mae cryfderau’n gorbwyso’r meysydd i’w gwella
16
Anfoddhaol - Mae cryfderau’n gorbwyso’r meysydd i’w gwella
7.19 Mae’r cylch chwarae 'Pili Pala' wedi ei leoli yn yr ysgol; mae gan y cylch chwarae dwy
sesiwn y dydd (bore a phrynhawn) ar gyfer plant rhwng 2 flwydd a hanner a throsodd.
Mae'r cylch chwarae yn meddiannu gofod o fewn y Feithrinfa a'r dosbarth Cyfnod
Sylfaen. Yn yr arolwg diwethaf o’r cylch chwarae yn 2013 roedd 5 o blant wedi'u
cofrestru, 2 ohonynt yn cael nawdd blynyddoedd cynnar.
7.20 Mae'r ddarpariaeth amgen arfaethedig yn cynnig gofal ar ffurf grwpiau chwarae,
clybiau brecwast a chyfleusterau ar ôl ysgol. Canfu Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant
Sir Ddinbych 2014 bod digon o leoedd gofal plant ar gael o fewn ardal Rhuthun gyda
nifer o leoedd dros ben. Nid yw’n debygol y bydd y cynnig yn cael effaith negyddol ar
fynediad i ofal plant gan fod yna ddigon leoedd dros ben ar gael, gan gynnwys lleoedd
wedi eu cyllido ar gyfer blynnyddoedd cynnar.
8. Categori Iaith
8.1. Mae Ysgol Rhewl yn ysgol Categori 2. Caiff ysgolion Categori 2 eu diffinio fel ysgolion
cynradd dwy ffrwd. Mae'r diffiniad canlynol wedi cael ei gymryd o'r ddogfen
wybodaeth 'Diffinio Ysgolion yn ôl y Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg' a gyhoeddwyd
gan Lywodraeth Cymruv;
Diffiniad o Ysgol Gynradd Dwy Ffrwd
Y Cwricwlwm: Mae dwy fath o ddarpariaeth yn bodoli ochr yn ochr yn yr ysgolion
hyn. Mae rhieni/disgyblion yn dewis naill ai'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn
bennaf neu gyfrwng Saesneg yn bennaf sydd, fel arfer, yn cael ei ddarparu fel yng
nghategorïau 1 a 5 yn y drefn honno.
Iaith yr Ysgol: Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg yng ngweithrediad yr ysgol o ddydd i
ddydd. Pennir iaith cyfathrebu gyda'r disgyblion gan natur darpariaeth y cwricwlwm,
ond mewn rhai ysgolion rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg drwy gydol
yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith.
Canlyniadau: Ar gyfer disgyblion yn y ffrwd Gymraeg, disgwylir y byddant yng
Nghategori 1. Ar gyfer disgyblion yn y ffrwd Saesneg, disgwylir y byddant yng
nghategori 5.
8.2. Mae categoreiddio ieithyddol yr ysgolion yn Sir Ddinbych yn cael ei archwilio ar hyn
o bryd gan y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg. Disgwylir y bydd adroddiad ar y
17
canfyddiadau gydag argymhellion yn cael ei gyflwyno i bwyllgorau archwilio Cyngor
Sir Ddinbych yng ngwanwyn 2015.
8.3. Yn yr arolwg diweddaraf Estyn Ysgol Rhewl (Mai 2011) disgrifiwyd darpariaeth iaith
yr ysgol fel yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg gyda Chymraeg yn cael ei ddysgu fel
ail iaith.
8.4. Mae’r tabl isod yn dangos gwybodaeth ynglyn a’r rhuglder disgyblion yn yr iaith
Gymraeg;
Nifer y disgyblion ar y cofrestr (CYBLD Ionawr 2014)*
Rhugl yn y Gymraeg Gallu siarad Cymraeg ond nid yn rhugl.
Ddim yn gallu siarad Cymraeg
Ysgol Rhewl 0 49 1
*CYBLD – Cyfrifiad blynyddol Ysgolion
8.5. Mae’r tabl isod yn dangos iaith gartref disgyblion yr ysgol;
Disgyblion Llawn Amser (CYBLD Ionawr 2014)*
Cartrefi sy’n siarad Cymraeg
Cartrefi sy’n siarad Saesneg
Dwyieithog
Ysgol Rhewl 13 37 0
8.6. Am y cyfnod 2010-2014 ni aseswyd unrhyw ddisgyblion yn yr ysgol fel Cymraeg iaith
gyntaf ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Mae'r tabl isod yn dangos canran y
disgyblion sy'n ennill Lefel 4 ac uwch mewn Cymraeg ail iaith ar ddiwedd Cyfnod
Allweddol
2010 2011 2012 2013 2014
Amh. 50% 100% 100% 50%
8.7. Mae'r tabl isod yn dangos niferoedd y disgyblion sydd wedi eu hasesu naill ai drwy
gyfrwng y Saesneg neu'r Gymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 ers 2007;
Iaith 2007/2008 2008/2009 2009/2010 2010/2011 2011/2012 2012/2013 2013/2014
Saesneg 4 5 1 2 3 7 4
Cymraeg 1 1 1 0 0 0 0
Cyfanswm Disgyblion
5 6 2 2 3 7 4
8.8. Mae mwyafrif y disgyblion yn trosglwyddo o Ysgol Rhewl i Ysgol Brynhyfryd ar gyfer
addysg uwchradd. Mae Ysgol Brynhyfryd yn rhoi darpariaeth ddwyieithog gan
gynnig Ffrwd Gymraeg, Ffrwd Saesneg a Ffrwd Ddwyieithog. Mae’r holl ddisgyblion
o Ysgol Rhewl, bron yn ddieithriad, yn trosglwyddo i Ysgol Brynhyfryd ar gyfer eu
18
haddysg uwchradd. Mae'r tabl isod yn dangos y cyfrwng iaith y caiff disgyblion o
Ysgol Rhewl eu haddysgu;
Blwyddyn Cymraeg Iaith 1af Cymraeg 2il Iaith Cyfanswm
2009 1 5 6
2010 0 2 2
2011 0 2 2
2012 0 3 3
2013 0 7 7
2014 0 4 4
Cyfanswm 1 23 24
Mae’r tabl isod yn dangos deilliant Saesneg, Cymraeg Iaith Gyntaf a Chymraeg ail
iaith ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiwethaf;
Saesneg Cymraeg Iaith Gyntaf Cymraeg Ail Iaith
Ysgol Rhewl* 100% N/A 50%
Ysgol Pen Barras 93.1% 93.1% N/A
Ysgol Stryd Y Rhos 100% N/A 73.1%
Sir Ddinbych 89.2% 85.1% 74%
Cymru 88.4% 88.1% 73.1% * Mae nifer y disgyblion ymhob blwyddyn yn gymharol isel, ac felly nid yw cymhariaeth a chyfartaledd lleol a
chyfartaledd cenedlaethol bob tro yn bosibl.
9. Darpariaeth amgen
9.1. Pe bai’r cynnig presennol yn mynd yn ei flaen, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi
cynnig y gallai disgyblion drosglwyddo i naill ai Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y
Rhos i gyd-fynd ag agor y cyfleusterau newydd, yn amodol ar ddewis y rhieni, er
mwyn sicrhau eu bod yn parhau i dderbyn addysg i safon uchel cyson. Mae hi’n
bosibl y bydd rhai rhieni yn dymuno cael darpariaeth amgen ar gyfer eu
plentyn/plant. Mae’r ddarpariaeth amgen posibl wedi eu hadnabod gan ddefnyddio
data cyfredol ar ddewis iaith a lleoliad cartrefi disgyblion presennol.
Ysgol Math Disgyblion
Llawn Amser*
Disgyblion Rhan
Amser*
Lleoedd Llawn Amser
Lleoedd Rhan Amser
Pellter o Ysgol Rhewl
Ysgol Pen Barras, Rhuthun LL15 1DY
Cyfrwng Cymraeg Categori 1, Cymunedol
223 36 252 36 Tua. 2.5 milltir**
Ysgol Stryd y Rhos, Rhuthun LL15 1DY
Cyfrwng Saesneg Categori 5, Cymunedol
151 14 189 23 Tua 2.5 milltir**
*Fel ag CYBLD Medi 2014. **I’r safle presennol, tua 1.1milltir i’r safle arfaethedig datblygiad Glasdir.
19
9.2. Mae’r Cyngor yn cynnig darparu cyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras ac
Ysgol Stryd y Rhos ar safle Glasdir yn Rhuthun. Cynigir y bydd capasiti y ddwy ysgol
oddeutu 270 disgybl llawn amser (Ysgol Pen Barras) ac 180 disgybl llawn amser
(Ysgol Stryd y Rhos). Y nifer derbyn yn seiliedig ar y capasiti uchod fyddai 35 a 25 yn
ol eu trefn. Disgwylir y capasiti ar gyfer darpariaeth meithrin fyddai 35 a 25 yn ol eu
trefn.
9.3. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi adnabod ysgol eraill yn yr ardal a all gael eu
heffeithio os bydd rhieni yn dewis darpariaeth amgen. Mae’n ystyrlon tybio, yn
seiliedig ar y dewis o iaith a lleoliad cartrefi, y bydd yr ysgolion canlynol yn cael ei
effeithio os bydd y cynnig yn cael ei weithredu;
Ysgol Math Disgyblion Llawn
Amser*
Disgyblion Rhan
Amser*
Lleoedd Llawn Amser
Lleoedd Rhan
Amser
Pellter (o Ysgol Rhewl)
Ysgol Borthyn, Rhuthun
Cyfrwng Saesneg Categori 5, VC Eglwys Yng Nghymru
142 20 142 20 Tua 1.3 milltir
Ysgol Gellifor, Gellifor
Cyfrwng Saesneg Categori 5, Cymunedol
87 7 91 10 Tua 1.4 millltir
* Fel ag Medi 2014- CYBLD. 9.4. Mae math gwahanol o ddarpariaeth hefyd ar gael ar ffin dalgylch, sydd yn cynnwys;
Ysgol Math Disgyblion Llawn
Amser*
Disgyblion Rhan
Amser*
Lleoedd Llawn Amser
Lleoedd Rhan
Amser
Pellter (o Ysgol
Rhewl) Ysgol Llanbedr, Llanbedr
Cyfrwng Saesneg Categori 5, VC Eglwys Yng Nghymru
22 22 54 11 Tua 3.2 milltir
Ysgol Llanfair DC**, Llanfair DC
Dwy Ffrwd Categori 2, VC Eglwys Yng Nhymru
92 14 113 14 Tua 4.3 milltir
Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog/ Cyffylliog (Ysgol dau safle tan 2017)
Cyfrwng Cymraeg Categori 1, Cymunedol
60 14 80 11 Tua 4.3 milltir (Cyffylliog) Tua 6 milltir (Clocaenog)
Ysgol Bro Cinmeirch,
Cyfrwng Cymraeg
69 17 80 11 Tua. 2.9 milltir
20
Llanrhaeadr Categori 1, Cymunedol
**Mae Ysgol Llanfair DC yn rhan o gynnig adrefnu ysgolion ychwanegol. Cynigir y bydd Ysgol Llanfair DC yn
cau i ffurfio ysgol ardal newydd yn ardal Ysgol Llanfair DC ar gyfer disgyblion Ysgol Llanfair DC ac Ysgol
Pentrecelyn.
9.5. Rhaid nodi bod rhai disgyblion yn teithio i Ysgol Rhewl tu hwnt i ‘ddalgylch naturiol’
yr ysgol er hyn mae niferoedd y disgyblion yn fach ac wedi eu gwasgaru yn
ddaearyddol felly bydd yr effaith ar ysgolion yn yr ardaloedd hynny yn isel.
9.6. Mae gwybodaeth bellach yn cael ei ddarparu yn Atodiad 1, sydd yn cymharu Ysgol
Rhewl, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras gyda darpariaeth amgen rhesymol
arall. Mae’r wybodaeth sydd yn atodiad 1 yn ystyried;
Cyrhaeddiad Addysgol (Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2);
Cinio Ysgol am ddim;
Data Anghenion Addysgol Ychwanegol;
Nifer y disgyblion cyfredol llawn amser (CYBLD Medi 2014);
Nifer y disgyblion cyfredol meithrin rhan amser (CYBLD Medi 2014);
Nifer y disgyblion am y 5 mlynedd diwethaf;
Rhagamcanion niferoedd disgyblion am y 5 mlynedd nesaf;
Crynodeb o adroddiadau Estyn ar gyfer pob ysgol (sydd heb eu cynnwys yn y
brif ddogfen);
Gwybodaeth ynglyn ac addasrwydd a chyflwr adeiladau a safleoedd
ysgolion.
9.7. Mae’r wybodaeth sydd yn atodiad 1 yn awgrymu y bydd holl ddarpariaeth amgen
yn o leiaf cynnal y safon o ddarpariaeth addysg ar gyfer disgyblion Ysgol Rhewl.
Mae lleoedd dros ben ymhob ysgol amgen ac yn gallu parhau i ddarparu
cwricwlwm llawn yng Nghyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.
9.8. Mae’r rhan yma yn canolbwyntio ar ddarpariaeth addysg yn yr ysgolion sydd wedi
enwi yn y ddogfen, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras. Mae gwybodaeth am
ddeilliannau addysg a darpariaeth yn cael ei gynnwys yn atodiad 1 i bwrpas
cymharu.
9.9. Mae’r tabl sydd yn dilyn yn dangos deilliant Cyfnod Sylfaen ar gyfer Ysgol Rhewl,
Ysgol Stryd yn Rhos ac Ysgol Pen Barras, ac yn rhoi cyfle i rieni gymharu;
21
DPC* DDCS*
2010 2011 2012 2013 2014
Ysgol Rhewl 100% 100% 66.7% 83.3% 85.7%
Ysgol Stryd y Rhos 88.9% 90% 95.2% 100% 100%
Ysgol Pen Barras 100% 97.1% 95.5% 94.7% 93.5%
Cyfartaledd Sir Ddinbych 82.4% 79.8% 86.4% 84.9% 86.1%
Cyfartaledd Cymru 81.6% 82.7% 80.5% 83% 85.2% *2010-2011 yn cyrraedd Dangosydd Pwnc Craidd - DPC. Cafodd y DPC ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 ei
ddisodli gan Ddangosydd Deilliant Cyfnod Sylfaen – DDCS.
9.10. Mae’r tabl isod yn dangos deilliannau Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer Ysgol Rhewl,
Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras, ac yn rhoi cyfle i rieni gymharu;
% yn cyflawni Lefel 4+ DPC yng Nghyfnod Allweddol 2*
2010 2011 2012 2013 2014
Ysgol Rhewl 100% 100% 100% 100% 75%
Rhos Street School 93.5% 93.3% 96.6% 92.6% 100%
Ysgol Pen Barras 97.1% 90% 96.8% 94.3% 89.7%
Cyfartaledd Sir Ddinbych 78.1% 82.3% 83.5% 86% 86.6%
Cyfartaledd Cymru 77% 80% 82.6% 84.3% 86.1%
* Dangosydd Pwnc Craidd
9.11. Mae’r gymhareb disgybl i athro yn Ysgol Stryd y Rhos, Ysgol Pen Barras ac Ysgol
Rhewl ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol yn cael eu harddangos isod;
Ysgol Cymhareb Disgybl / Athro
Ysgol Stryd y Rhos 18.5
Ysgol Pen Barras 19.2
Ysgol Rhewl 15
9.12. Mae cyfartaledd 3 blynedd hawl am Ginio Ysgol am Ddim ar gyfer Ysgol Stryd y
Rhos, Ysgol Pen Barras ac Ysgol Rhewl yn cael ei gynnwys yn y tabl isod i ddiben
cymharu;
2010 2011 2012 2013 2014
Ysgol Stryd y Rhos
6.3% 8.9% 11.3% 11.1% 12%
Pen Barras
0.7% 1.3% 1.3% 1.3% 1.6%
Ysgol Rhewl
20.5% 20.7% 21.6% 16.8% 10.7%
Cyfartaledd Lleol
18.4% 20.0% 20.9% 21.3% 21.2%
Cyfartaledd Cymru
18.9% 20.0% 20.6% 20.8% 20.5%
22
9.13. Cynhaliwyd arolwg Estyn diweddaraf Ysgol Stryd y Rhos ym Mawrth 2013. Roedd
yr adroddiad yn cynnwys y sylwadau canlynol;
Cyd-destun
Mae Ysgol Gymunedol Stryd y Rhos wedi ei lleoli yn Rhuthun ac yn rhannu ei safle ac Ysgol
gynradd cyfrwng Cymraeg. Daw disgyblion o gefndiroedd gwahanol a maent yn byw yn y
dref ar pentrefi o amgylch.
Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng oedran 3 a 11. Ar hyn o bryd mae 169
disgybl yn mynychu’r ysgol, gan gynnwys 13 sydd yn mynychu dosbarth meithrin yn rhan
amser. Mae niferoedd disgyblion wedi disgyn ers yr arolwg diwethaf. Mae’r ysgol wedi ei
threfnu i wyth dosbarth oedran unigol. Nid oes unrhyw disgybl yn siarad Cymraeg fel iaith
gyntaf ac ychydig iawn o ddisgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth ar gyfer Saesneg fel iaith
ychwanegol. Daw pedwar ar ddeg y cant o ddisgyblion o gymuned ethnig leiafrifol.
Mae wyth y cant o ddisgyblion ar hawl i ginio ysgol am ddim, sydd yn is na cyfartaledd yr
awdurdod lleol a Chymru. Mae’r ysgol wedi adnabod 9% o ddisgyblion ac anghenion
addysgol ychwanegol ac ychydig o ddisgyblion gyda datganiad.
Mae’r ysgol yn rhannu nifer o adnoddau gyda’r ysgol cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys
ystafell gyfrifiaduron, neuadd, ffreutur ar cae. Mae disgyblion blwyddyn 5 a blwyddyn 6 yn
cael eu haddysgu mewn adeilad arwahan i’r prif adeilad ysgol yn ymyl y cae chwarae.
Mae’r pennaeth yn ei swydd ers Ebrill 2009 a bu i’r ysgol gael ei arolygu ddiwethaf yn Medi
2007.
Mae cyllideb unigol Ysgol Stryd y Rhos fesul disgybl ar gyfer 2012-2013 yn £3,810 y disgybl.
Y mwyafswm fesul disgybl yn Sir Ddinbych yw £9,659 ar lleiafswm ydi £3,064. Mae Ysgol
Stryd y Rhos 36 allan o 52 ysgol gynradd yn Sir Ddinbych o safbwynt y gyllideb ysgol fesul
disgybl.
Crynodeb
Perfformiad presennol yr ysgol Da
Rhagolygon gwella’r ysgol Rhagorol
Cwestiwn Hanfodol Barn
Pa mor dda yw’r deilliannau? Da
Pa mor dda yw’r ddarpariaeth? Da
Pa mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth? Da
23
Perfformiad presennol Rhagolygon gwella Argymhellion
Mae perfformiad presennol yn dda gan;
Mae bron i bob disgybl yn llwyddo i gyrraedd safon da mewn nifer o agweddau o’i gwaith a mae nifer o ddisgyblion sydd yn fwy abl yn llwyddo’n dda;
Mae’r addysgu yn herio ac yn ymgysylltu a disgyblion;
Bod disgyblion yn ymddwyn yn dda, hyderus ac yn awyddus i ddysgu; ac
Mae’r ysgol yn darparu gofal da a cefnogaeth i ddisgyblion gan gynnwys disgyblion gyda anghenion ychwanegol.
Mae rhagolygon ar gyfer gwella yn rhagorol gan;
Fod yr uwch reolwyr ar llywodraethwyr a gweledigaeth glir ar gyfer yr ysgol, sydd wedi ei seilio gan gynllunio at wella eithradol o effeithiol;
Mae’r pennaeth yn darparu arweinyddiaeth cryf iawn ac yn cael ei gefnogi gan dim o uwch arweinyddion effeithiol;
Mae’r ysgol yn parhau i adolygu effaith mentrau newydd drwy fonitro trwyadl;
Mae’r ffocws glir ar wella yn cael effaith bositif iawn ar y safonau y mae disgyblion yn cyflawni; ac
Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd da iawn ers yr ymweliad diwethaf.
Er mwyn gwella mae’r ysgol angen; A1: Gwella safon ysgrifennu’r bechgyn. A2: Sicrhau bod disgyblion yn defnyddio eu gwybodaeth or Iaith Gymraeg yn ystod diwrnod yr ysgol. A3: Gwella presenoldeb
disgyblion.
9.14. Cynhaliwyd arolwg Estyn diweddaraf Ysgol Pen Barras ym Mawrth 2013. Roedd yr
adroddiad yn cynnwys y sylwadau canlynol;
Cyd-destun
Ysgol Gynradd Sirol benodedig Gymraeg yw Ysgol Pen Barras, sy’n gwasanaethu tref
Rhuthun a’r cyffiniau. Mae’r ardal yn weddol ffyniannus, gyda’r disgyblion, ar y
cyfan, yn dod o gefndiroedd cymdeithasol eithaf breintiedig. Mae dros 2% o’r
disgyblion yn rhai â hawl i dderbyn prydau ysgol di-dâl, sy’n sylweddol is na’r
cyfartaledd ar gyfer y sir a Chymru gyfan.
Ar hyn o bryd, mae 216 o ddisgyblion llawn amser 4 i 11 oed ar y gofrestr ac mae 32
o ddisgyblion oed meithrin yn mynychu’n rhan amser naill ai yn y bore neu yn y
prynhawn. Mae 18 o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion addysgol arbennig, gan
gynnwys un disgybl sy’n destun datganiad o anghenion addysgol arbennig. Daw tua
24
84% o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir y Gymraeg. Daw llai nac 1% o’r disgyblion o
gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gymysg.
Mae’r ysgol yn rhedeg ei meithrinfa ei hunan yn ddyddiol, sef Clwb Ffrindiau Bach.
Mae hefyd yn cynnal clwb brecwast bob bore a chlwb ar ôl ysgol.
Lleolir dosbarthiadau’r Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 1 ym mhrif adeilad yr
ysgol, gyda’r dosbarth Meithrin a dosbarthiadau cyfnod allweddol 2 mewn
cabanau. Rhennir y safle gydag ysgol gynradd arall, sef Ysgol Stryd y Rhos.
Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf yn 2005. Mae’r pennaeth mewn gofal yn ei swydd ers
yr hydref, 2010. Penodwyd pennaeth parhaol i gychwyn ym Medi, 2011.
Y gyllideb ysgol unigol yn 2010-2011 fesul disgybl ar gyfer Ysgol Pen Barras yw
£3323 sy’n cymharu gydag uchafswm o £18610 ac isafswm o £2626 ar gyfer
ysgolion cynradd yn Sir Ddinbych. Hon yw’r ysgol sydd â’r gyllideb fesul disgybl
45ain uchaf o'r 53 ysgol gynradd yn Sir Ddinbych.
Crynodeb
Perfformiad presennol yr ysgol Da
Rhagolygon gwella’r ysgol Da
Cwestiwn Allweddol Barn
Pa mor dda yw’r deilliannau? Da
Pa mor dda yw’r ddarpariaeth? Da
Pa mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth? Da
Perfformiad presennol Rhagolygon Gwella
Argymhellion
Mae perfformiad presennol yr ysgol yn dda oherwydd:
bod y disgyblion ar draws yr ysgol yn cyflawni safonau da;
bod yr addysgu o ansawdd da;
bod y disgyblion yn elwa o brofiadau dysgu diddorol ac amrywiol;
bod y disgyblion yn mwynhau’r ysgol, yn ymddwyn yn dda iawn ac yn frwdfrydig wrth
Mae’r rhagolygon ar gyfer gwella yn dda oherwydd:
bod yr athrawon a’r staff ategol yn dangos ymroddiad sylweddol i gynnal a gwella safonau;
bod y prosesau hunan arfarnu y mae’r holl staff a’r llywodraethwyr wedi bod â rhan ynddynt dros y flwyddyn ddiwethaf wedi arwain at welliannau, er bod lle i’w datblygu ymhellach;
Er mwyn gwella, mae angen i’r ysgol: A1: anelu at safonau rhagorol; A2: wella cynllunio dilyniant a datblygiad sgiliau TGCh yng nghyfnod allweddol 2; A3: wella’r trefniadau asesu ac olrhain cynnydd disgyblion a rhoi rhan mwy weithredol i’r disgyblion wrth wella eu gwaith eu hunain; A4: barhau i ddatblygu rolau arwain yr ysgol a datblygu ymhellach rôl y Corff
25
ddysgu;
bod cysylltiadau da rhwng yr ysgol a’r rhieni a’r gymuned leol.
bod yr ysgol yn cydweithio gydag ystod dda o bartneriaid, a
bod y tîm arolygu o’r farn y bydd yr ysgol yn gweithredu argymhellion yr arolygiad ac yn sicrhau cydweithio effeithiol rhwng y staff proffesiynol, y Corff Llywodraethol a’r awdurdod lleol (ALl).
Llywodraethol; A5: mireinio ymhellach y systemau ar gyfer hunan arfarnu; A6: gydweithio gyda’r ALl i wella cyfyngiadau’r safle.
9.15. Gellir gweld adroddiadau arolygon Estyn ar gyfer pob ysgol yn llawn ar wefan
Estynvi.
9.16. Mae system Gategoreiddio Cenedlaethol Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru yn
darparu system categoreiddio ar gyfer holl ysgolion cynradd Cymru. Hefyd caiff pob
ysgol eu gosod mewn categori ar gyfer cefnogaeth.
9.17. Mae 4 categori cefnogaeth sydd yn defnyddio system ‘goleuadau traffic’, wedi eu
diffinio isod;
Categori cefnogaeth gwyrdd – Mae’r ysgolion yn y categori gwyrdd yn
ysgolion effeithiol iawn sy’n cael eu rhedeg yn dda, sydd ag arweinyddiaeth
gadarn ac sy’n gwbl glir ynghylch eu blaenoriaethau ar gyfer gwella.
Categori cefnogaeth melyn – Mae’r ysgolion yn y categori melyn yn ysgolion
effeithiol sydd eisoes yn perfformio’n dda ac sy’n ymwybodol o’r meysydd y
mae angen iddynt eu gwella
Categori cefnogaeth oren – Mae’r ysgolion yn y categori oren yn ysgolion y
mae angen eu gwella. Mae arnynt angen cymorth i nodi’r camau y mae
angen eu cymryd i wella neu sicrhau bod newidiadau’n digwydd yn
gyflymach
Categori cefnogaeth coch – Yr ysgolion yn y categori coch yw’r ysgolion y
mae angen eu gwella fwyaf a byddant yn derbyn cefnogaeth ddwys ar
unwaith.
9.18. Mae’r tabl isod yn dangos y categori cefnogaeth ynghyd a’r ‘Band’ ar gyfer Ysgol
Rhewl, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras (Mae gwybodaeth ynglyn a
darpariaeth arall yn atodiad 1);
Ysgol Categori Cefnogaeth ‘Band’
Ysgol Rhewl Oren 3 (Oren)
Ysgol Stryd y Rhos Gwyrdd 1 (Gwyrdd)
26
Ysgol Pen Barras Melyn 2 (Melyn)
9.19. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglyn ar System Gategoreiddio
Cenedlaethol yn y llawlyfr i rieni sydd wedi ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth
Cymruvii.
10. Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol
10.1. Os bydd y cynnig presennol yn symud ymlaen, bydd yn arwain at newid yn yr
amgylchedd dysgu ar gyfer pob disgybl. Mae'r awdurdod yn cydnabod er y bydd yr
holl ddisgyblion yn profi’r newid fe allai fod yn fwy o her ar gyfer disgyblion ag
anghenion addysgol arbennig. Bydd y Cyngor yn cymryd pob cam ymarferol i leihau
aflonyddu a chynorthwyo disgyblion gydag unrhyw drosglwyddiad.
10.2. O'r garfan ddisgyblion gyfredol, mae 16.9% o ddisgyblion wedi’u cofrestru fel
disgyblion ADY yn Ysgol Rhewl. Cyfartaledd Sir Ddinbych yw 20.5%. Bydd unrhyw
ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sydd ar hyn o bryd yn mynychu Ysgol
Rhewl yn parhau i dderbyn yr un gefnogaeth addysg sydd ei hangen. Trosglwyddir y
trefniadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd ar gyfer disgyblion, fel cefnogaeth un i un
penodol, a caiff ei ailadrodd yn ei amgylchedd dysgu newydd.
10.3. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn darparu cymorth a chefnogaeth briodol ar gyfer
disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Os bydd gan rieni sydd â
disgyblion sydd wedi eu cofrestru’n ADY unrhyw gwestiynau am y gefnogaeth y
gallai'r Cyngor gynnig, bydd cyfle iddynt siarad â'r Swyddogion Addysg ADY
perthnasol.
10.4. Bydd y cyfleusterau newydd ar safle Glasdir yn cael eu dylunio mewn ymgynghoriad
â Swyddogion Addysg ADY Cyngor Sir Ddinbych, a’r staff a'r disgyblion dan sylw.
Rhagwelir y bydd y dull hwn yn creu gwell amodau ac amgylcheddau dysgu ar gyfer
disgyblion ag ADY, yn benodol mewn perthynas ag ardaloedd un i un, adnoddau,
hygyrchedd ac acwsteg.
11. Darpariaeth uwchradd
11.1. Ni ddisgwylir i’r cynnig gael unrhyw effaith sylweddol ar ddarpariaeth uwchradd yn
yr ardal. Mae Ysgol Rhewl, a phob ysgol amgen a chyfagos arfaethedig hefyd yn
porthi Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun. Ni ddisgwylir y bydd unrhyw amrywiad sylweddol
yn y disgyblion sy’n defnyddio’r ffrydiau Saesneg, Cymraeg neu ddwyieithog.
27
12. Manylion y cynnig: Disgrifiad a rhesymeg
12.1. Mae cyfrifoldeb ar Gyngor Sir Ddinbych i gynnig y ddarpariaeth addysgol orau
bosibl i blant a phobl ifanc. Datblygwyd y cynnig hwn yn unol ag:
a. Ymrwymiad y Cyngor i’r ‘Rhaglen Moderneiddio Addysg’;
b. Nod y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion o alluogi pob plentyn a pherson
ifanc i ddatblygu eu potensial llawn.
12.2. Mae yna nifer o heriau yn wynebu Ysgol Rhewl a allai effeithio ar y gallu i gynnal
safonau a phrofiadau addysgol yn y dyfodol. Mae crynodeb o’r meysydd hyn isod.
Yr Achos Addysgol dros Newid
12.3. Wrth ystyried y cynnig yn ofalus mae sylw manwl wedi ei roi i effaith tebygol y
cynnig ar safon deilliannau, darpariaeth ac arweinyddiaeth a rheolaeth. Yn fyr, mae
Cyngor Sir Ddinbych fel y cynnigydd, yn credu y byddai’r cynnig yn o leiaf cynnal
darpariaeth am y rhesymau canlynol:
I. Deilliannau – safonnau a lles – mae’r cynnig yn debygol i o leiaf cynnal y
deilliannau presennol ar gyfer disgyblion Ysgol Rhewl. Mae disgwyl y bydd yr
ysgolion a enwir, Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras, yn sicrhau bod disgyblion yn
derbyn cwricwlwm llawn, eang a cytbwys ar gyfer darparu’r Cyfnod Sylfaen a
Chyfnod Allweddol 2. Mae disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau
un oedran yn Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras a fydd yn cyfrannu’n bositif
ar gyfer datblygiad disgyblion.
II. Darpariaeth – profiadau dysgu, addysgu, gofal ac arweiniad, amgylchedd
dysgu – Byddai disgyblion presennol Ysgol Rhewl yn profi newid yn eu
hamgylchedd dysgu. Bydd eu hamgylchedd addysgu newydd, yn ysgol wedi ei
adeiladu’n bwrpasol ar gyfer darparu cwricwlwm modern a chynnig cyfle i
ddisgyblion gael mynediad at ystod eang o gyfleon. Byddai unrhyw gefnogaeth
unigol y mae disgybl yn derbyn yn trosglwyddo gyda hwy ai ailadrodd yn ei
hamgylchedd dysgu newydd. Bydd yr ysgol newydd a capasiti addysgu
ychwanegol ar gyfer grwpiau o ddisgyblion sydd angen cefnogaeth ychwanegol
ac ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog.
III. Arweinyddiaeth a Rheolaeth - arweinyddiaeth, gwella safonnau, cydweithio a
rheoli adnoddau- Mae’r cynnig yn cynnig darpariaeth amgen sydd o leiaf yn
gyfwerth i arweinyddiaeth a rheolaeth Ysgol Rhewl. Byddai’r cynnig yn arwain
28
at well sefydlogrwydd ac effeithlonrwydd ynglŷn â rheoli adnoddau ac arwain
tuag at ddarbodion maint. Byddai hefyd yn darparu cyfle ar gyfer mwy o
arweinwyr cwricwlwm o fewn y staff addysgu a tim arweinyddiaeth cryfach na y
disgwylir yn Ysgol Rhewl. Byddai’r datblygiad newydd yn golygu bod Ysgol Stryd
y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn rhannu safle (fel y mae rwan) a gall ddarparu cyfle
ar gyfer cydweithio rhwng y ddwy ysgol. Bydd disgyblion yn cael mynediad at
ystod eang o staff addysgu gydag arbennigedd mewn nifer o feysydd
cwricwlaidd neu allgyrsiol.
Effaith y Cynnig ar Ddeilliannau a Darpariaeth Cwricwlwm
12.4. Os bydd disgyblion presennol Ysgol Rhewl yn trosglwyddo i unai Ysgol Stryd y Rhos
Street neu Ysgol Pen Barras nid yw’n debygol y bydd y niferoedd o ddisgyblion yn
trosglwyddo yn cael effaith negyddol ar allu naill ysgol neu’r llall i ddarparu’r
cwricwlwm yn y Cyfnod Sylfaen neu Cyfnod Allweddol 2. Mae lleoedd gwag yn y
ddwy ysgol ac maent yn gallu derbyn disgyblion o Ysgol Rhewl. Mae hyn yn wir ar
gyfer yr ysgolion eraill sydd wedi eu hadnabod gan yr awdurdod a lleoedd gwag.
12.5. Yn bresennol mae disgyblion Ysgol Rhewl yn cael eu haddysgu mewn grwpiau
addysgu yn cynnwys hyd at 4 blwyddyn. Os bydd y cynnig presennol yn cael ei
weithredu a disgyblion yn trosglwyddo i unai Ysgol Stryd y Rhos neu Ysgol Pen
Barras byddant yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau priodol i’w oed. Mae
maint dosbarthiadau yn y ddwy ysgol amgen yn is na’r uchafswm o 30. Mae
cymhareb disgybl athro’r 3 ysgol wedi ei gynnwys yn rhan 9 o’r ddogfen ac yn
awgrymu gwahaniaeth bach rhwng y 3 ysgol.
12.6. Yn seiliedig ar y data mwyaf diweddar cyrhaeddiad a chyflawniad yn y 3 ysgol,
mae’n debygol y bydd y cynnig yn o leiaf cynnal safonau cyfredol o addysg. Mae
arolygon mwyaf diweddar y 3 ysgol yn dangos eu bod yn dda yn y mwyafrif o
ardaloedd ac yn rhagorol mewn eraill. Nid oes gwendidau sylweddol yn unrhyw un
or ddarpariaeth amgen a gynnigir.
12.7. Mae rhagolwg disgyblion Ysgol Rhewl, Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras wedi eu
cynnwys isod i ddangos na fyddai’r cynnig wrth gael ei weithredu yn cael effaith
negyddol ar allu’r ysgolion i dderbyn disgyblion o Ysgol Rhewl o fewn ei strwythurau
dosbarth cyfredol;
Ysgol 2015 2016 2017 2018 2019
Ysgol Rhewl 50 46 42 41 39
Ysgol Stryd y Rhos
143 139 134 122 113
Ysgol Pen 221 216 224 218 218
29
Barras
Cyfanswm 414 401 400 381 370
12.8. Capasiti newydd Ysgol Stryd y Rhos fyddai 180 disgybl llawn amser a byddai Ysgol
Pen Barras a capasiti llawn amser o 270. Byddai’r safle a lle ar gyfer 450 disgybl
llawn amser.
12.9. Mae’r ysgolion amgen eraill o fewn yr ardal a lleoedd dros ben. Mae mwy o
fanylder ar ragolygon disgyblion ar gyfer darpariaeth amgen yn atodiad 1.
Effaith y Cynnig ar Ddarpariaeth
12.10. Barn yr awdurdod yw byddai darpariaeth bresennol y mae disgyblion Ysgol Rhewl
yn ei dderbyn yn o leiaf cael eu cynnal os bydd y cynnig presennol yn cael ei
weithredu. Yn unol ar arolygon Estyn diweddaraf nid oes gwendidau yn yr addysgu,
cefnogaeth neu arweiniad yn un o’r ysgolion amgen.
12.11. Mae ysgolion mwy yn gallu cynnig darpariaeth cwricwlwm eang a chyfleusterau
allgyrsiol. Cyhoeddwyd adroddiad thematig gan Estyn yn Rhagfyr 2013 ynglŷn â
Effeithiolrwydd a Maint Ysgolion a dywed;
“Mae darpariaeth cwricwlwm yn well mewn ysgolion mwy. Mewn Ysgolion bach, mae gwendidau yn narpariaeth pynciau sylfaenol yng nghyfnod allweddol 2. Mae’r gwendidau yn amrywio o ysgol i ysgol, ond yn aml yn gysylltiedig i fylchau mewn arbennigedd staff.”viii
12.12. Yn gyfredol mae’r amgylchedd addysgu yn y ddwy ysgol amgen yn caniatau
darpariaeth cwricwlwm yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 2, er hyn
mae gwendidau sylfaenol gyda’r safle a all effeithio ar y gallu i weithredu
cwricwlwm llawn yn y dyfodol.
12.13. Fodd bynnag bydd yr ysgolion amgen. Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras, yn
cael eu symud i adeiladau a chyfleusterau newydd erbyn Medi 2017. Bydd hyn yn
darparu pob disgybl gyda mynediad at amgylched 21ain ganrif, addas i bwrpas wedi
ei dylunio i gwrdd ag anghenion cwricwlwm blaengar 21ain ganrif Cymraeg. Os bydd
y cynnig presennol yn cael ei weithredu bydd disgyblion Ysgol Rhewl hefyd yn cael
mynediad at y cyfleusterau newydd hyn.
12.14. Mae’r ddarpariaeth amgen a gynnigir, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn
cynnig gofal yn ffurf grwpiau chwarae, clwb brecwast a chyfleusterau ar ol ysgol. Yn
2014 darganfuwyd Asesiad Digonedd Gofal Plant Sir Ddinbychix bod digon o leoedd
30
gofal plant ar gael yn ardal Rhuthun gyda lleoedd dros ben. Nid yw’n debygol y bydd
y cynnig yn cael effaith negyddol ar ofal plant gan fod digon o leoedd ar gael, gan
gynnwys lleoedd blynnyddoedd cynnar wedi eu cyllido.
Effaith y Cynnig ar Arweinyddiaeth a Rheolaeth
12.15. Bu i Arweinyddiaeth a Rheolaeth Ysgol Rhewl gael ei ddyfarnnu’n dda yn yr
arolwg Estyn diwethaf. Mae Arweinyddiaeth a Rheolaeth Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol
Pen Barras hefyd wedi ei dyfarnnu yn dda yn eu harolygon priodol diwethaf.
12.16. Mae ysgolion bach, o ganlyniad i gyfyngiad cyllidol, yn cael hi’n anodd gweithredu
strwythur arwain sydd yn cwrdd â gofynion tâl ac amodau athrawon. Gan fod
niferoedd disgyblion Ysgol Rhewl yn gymharol fach, mae’r Pennaeth ac y tim
arweinyddol ac ymrwymiad dysgu sylweddol. Caiff y mater eang hwn ei nodi yn
adroddiad thematic diweddar Estyn ar Effeithiolrwydd a Maint Ysgolion, Rhagfyr
2013 sydd yn dweud;
“Mae arweinyddiaeth a phrosesau i wella ansawdd fel arfer wedi’u datblygu’n well
mewn ysgolion cynradd mawr. Mewn ysgolion cynradd bach, mae gan lawer o
benaethiaid gyfrifoldeb addysgu sylweddol sy’n cyfyngu ar yr amser y gallant ei
neilltuo i arwain a rheoli ac fe gânt lai o gyfleoedd i arfarnu safonau ac ysgogi
gwelliant.”x
12.17. Barn yr awdurdod y’w y dylai’r disgyblion drosglwyddo i unai Ysgol Stryd y Rhos
neu Ysgol Pen Barras ni fyddai yn cael effaith negyddol ar strwythur cyfredol
arweinyddol a rheolaeth yn Ysgol Rhewl. Byddai’n debygol y bydd yr effaith yn
bositif ar ddisgyblion os byddant yn derbyn mynediad at fwy o athrawon yn cynnig
arbennigedd mwy eang mewn nifer o feysydd cwricwlwm.
13. Digonolrwydd cyfleusterau a safle'r ysgol
13.1. Er bod y cyfleusterau cyfredol yn Ysgol Rhewl yn caniatau darpariaeth yr hawl
cwricwlwm sylfaenol, mae’r amgylchedd presennol yn cyfyngu ar y potensial i
ddarparu cwricwlwm arloesol sydd yn ofynnol ar gyfer dysgu yn y 21ain ganrif.
Mae’r ardal grynswth yr adeilad yn cwrdd â safonau cyfredol Bwletin Adeiladu 99 ar
gyfer maint ysgolion (Capasiti Llawn amser o 82).
13.2. Dyfarnwyd cyflwr Ysgol Rhewl fel categori B (Digonol) mewn arolwg a gynhaliwyd
gan EC Harris yn Rhagfyr 2009. Cynhaliwyd yr arolwg i ddarparu data i Lywodraeth
Cymru i’r pwrpas o gasglu data ar gyfer Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif. Mae arolwg
31
o’r adeilad yn cael ei gynnal bob blwyddyn gan Gyngor Sir Ddinbych i ddarparu data
ar gyfer Llywodraeth Cymru. Darganfuwyd yn arolwg Mehefin 2014 bod
addasrwydd a chyflwr yr adeilad yn B – digonol. Mae’r graddau a beth maent yn ei
ddangos yn cael ei arddangos isod;
Categori Cyflwr
Golygai
A (Da) Yn perfformio yn ôl y bwriad ac yn gweithio’n effeithlon. B (Digonol) Yn perfformio yn ôl y bwriad ond yn dangos dirywiad bach. C (Gwael) Yn dangos diffygion sylweddol ac / neu ddim yn gweithio yn ol y
bwriad.
D (Drwg) Diwedd oes ac / neu risg agos o fethiant.
13.3. Mae’r cyfleusterau a cynnwys cyfredol Ysgol Rhewl wedi ei amlinellu yn y tabl
isod;
Ystafell Dosbarth
Cabannau Neuadd / Ffreutur
Llyfrgell Ardal TG
Maes Chwarae
Caled
Cae Chwarae
2* X
X
13.4. Mae’r darlun isod yn dangos cynllun llawr cyfredol yr ysgol;
32
13.5. Yn 2010 cynhaliwyd arolwg o gyflwr ysgolion yng Nghymru gan gwmni EC Harris
fel rhan o raglen ysgolion 21ain ganrif Llywodraeth Cymru. Mae categori cyflwr
Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos wedi eu darparu fel rhan o arolwg 2009
Llywodraeth Cymru ac maent yn cael eu darparu yn tabl isod;
Ysgol Cyflwr
Ysgol Stryd y Rhos B
Ysgol Pen Barras C
Ysgol Rhewl B
13.6. Mae categori cyflwr ac addasrwydd sydd wedi eu cynhyrchu gan Sir Ddinbych ym
Mehefin 2014 ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras isod;
Ysgol Cyflwr Addasrwydd
Ysgol Rhewl B B
Ysgol Stryd y Rhos A B
Ysgol Pen Barras B C
13.7. Mae gwybodaeth am ôl groniad cynnal a chadw cyfredol ar gyfer Ysgol Rhewl,
Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn cael ei ddarparu isod;
Ysgol Ôl groniad cynnal a chadw
Ysgol Rhewl £127,182
Rhos Street School ac Ysgol Pen Barras (Safle yn cael ei rannu)
£567,902
Total £695,084
13.8. Fel rhan o gamau dechreuol adolygiad ardal Rhuthun cynhaliwyd astudiaeth
dichonolrwydd ar bob ysgol o fewn ardal Rhuthun. Mae’r canfyddiadau’r gwaith
dichonolrwydd ar gyfer Ysgol Rhewl wedi ei grynhoi isod;
Nid yw’r ysgol yn sylweddol ac mae o natur dros dro. Ond mae gwaith wedi
ei wneud yn fewnol ac allanol i greu amgylchedd symbylol ar gyfer
disgyblion.
Yn fewnol, mae’r adeilad wedi ei osod allan yn rhesymol gyda dosbarthiadau
ac chylchrediad digonol, er hyn gall yr ystafelloedd dosbarth gael eu gwella o
gynnwys technoleg lleddfu sain i wella yr amgylchedd dysgu.
Mae cyfyngiad i’r ddarpariaeth Addysg Gorfforol ar y safle gyda peth
defnydd or ffreutur ond caiff y pafiliwn ar faes chwarae y gymuned ei
ddefnyddio hefyd. Nid oes cae chwarae ar dir yr ysgol ond mae cae y
gymuned ar gael i’w ddefnyddio gan y gymuned.
Nid oes maes parcio na man codi a gollwng ar y safle er bwriedir darparu
rhai lleoedd parcio ar gyfer yr ysgol o fewn datblygiad tai cyfagos.
33
Mae rhai materion mynediad ar y safle gan nad oes mynediad gwastad ir
fynedfa a dim mynediad i doiled ar gyfer yr anabl.
13.9. Yn ystod yr astudiaeth dichonolrwydd a gynhaliwyd yn Hydref 2014, bu
swyddogion o’r Cyngor gwrdd a cynrychiolwyr o’r ysgol yn ystod ymweliad ar safle.
Ystyriwyd opsiynau ar gyfer yr ysgol gan gynnwys gwaith ailwampio, estyniad i’r
adeilad ac ysgol newydd i ymdrin ag addasrwydd adeilad yr ysgol ar safle. Er hyn nid
oedd y safle yn cyrraedd gofynion maint BB99 ar gyfer ysgol safonol 105 lle. Byddai
gwaith ymestyn pellach yn cyfyngu ymhellach ar y lle tu allan.
13.10. Mae cost y gwaith ailwampio i ddod ar ysgol i safon ysgol 21ain ganrif wedi ei
gyfrifio’n £541,696.
Effaith y Cynnig ar Ddigonolrwydd Adeiladau Ysgol a Chyfleusterau
13.11. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dyranu cyllid cyfalaf o £8.9miliwn i fuddsoddi
mewn adeiladau a chyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen
Barras.
13.12. Ar hyn o bryd mae’r ysgolion yn rhannu safle o fewn tref Rhuthun a cynnigir y
bydd yr ysgolion yn symud i ddatblygiad newydd yng Nglasdir gyda rhai ardaloedd
yn cael eu rhannu (fel cae chwarae, ardal gemau aml bwrpas, maes parcio a
cyfleusterau codi a gollwng penodol). Mae’r briff ar gyfer dylunio yr ysgol yn
seiliedig ar anghenion bwletin adeiladu (Building Bulletin) sydd yn argymell maint
ardaloedd gan wahaniaethu ardaloedd addysgu ac ardaloedd cefnogol. Bydd y
cyfleusterau newydd yn cwrdd a safon ysgolion 21in ganrif. Pan fydd y datblygiad
Glasdir wedi ei gwblhau byddai disgwyl i’r ddau adeilad ysgol i fod o radd ‘A’ ar gyfer
cyflwr ac addasrwydd.
13.13. Byddai’r cyfleuster arfaethiedig yn cynnwys;
Ardaloedd addysgu – meithrin/derbyn, cyfnod sylfaen a cyfnod allweddol 2;
Ardaloedd arbennigol ymarferol;
Neuaddau;
Canolfan adnoddau dysgu;
Ystafelloedd grwp bach;
Ystafell weinyddol;
Swyddfa Pennaeth ac ystafell gyfarfod;
Ystafell Staff;
Swyddfa Gyffredinnol;
34
Ystafell i rai sydd yn sal;
Ystafell Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig / Ystafell aml-asiantaeth;
Storfa;
Cegin ac ardal gweini;
Toiledau gan gynnwys toiledau hygyrch;
Ardal chwarae meddal a caled.
13.14. Bydd y cyfleusterau newydd yn cael eu lleoli ar safle Glasdir sydd tua 1.1 milltir o
Ysgol Rhewl. Mae’r map isod yn dangos lleoliad Ysgol Rhewl a safle Glasdir;
14. Beth yw’r Opsiwn a Gynigir?
14.1. Yr opsiwn a gynigir ydi cau Ysgol Rhewl o 31 Awst, 2017 gyda’r disgyblion yn
trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor adeiladau
ysgol newydd.
14.2. Bydd y cyfleusterau newydd yn barod i'w defnyddio o’r 1af o Fedi 2017 gan alluogi
adleoli Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos i safle Glasdir.
35
14.3. Mae Cabinet Sir Ddinbych wedi argymell i'r Cyngor i gymeradwyo buddsoddiad o
£8.9 miliwn ar gyfer adeiladau ysgol newydd a chyfleusterau ar gyfer y ddwy ysgol.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried cymeradwyo'r buddsoddiad ym mis Chwefror
2014. Bydd y buddsoddiad hwn darparu’r ddwy ysgol ag adeiladau a chyfleusterau
sy'n bodloni safon ysgolion yr 21ain ganrif.
14.4. Bydd y broses ddylunio ar gyfer yr ysgol newydd yn dechrau yn ystod 2015. O ran y
briff dylunio cyffredinol, bydd y Cyngor yn seilio cynlluniau ar gyfer ysgol newydd ar
y safonau adeiladu cyfredol ar gyfer ysgolion newydd. Byddai hyn fel arfer yn
golygu adeiladu ystafelloedd dosbarth i safon maint modern ochr yn ochr â darparu
cyfleusterau megis neuaddau pwrpasol, mannau bwyta, (... ..)
14.5. Bydd y dyluniad ar gyfer yr ysgol newydd yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth
ag Ysgol Penbarras a Stryd y Rhos a bydd cynrychiolwyr Ysgol Rhewl yn cael eu
hannog i gymryd rhan yn y broses hon. Mae'r llinell amser dangosol yn awgrymu y
byddai'r broses ddylunio yn para tan fis Tachwedd 2015 gyda’r ysgol newydd yn
dechrau cael ei hadeiladu ym mis Mawrth 2016. Rhagwelir cwblhau ar gyfer haf
2017 a fyddai'n galluogi disgyblion sy'n mynychu Ysgol Rhewl ar hyn o bryd i
drosglwyddo i'r cyfleusterau newydd ym Medi 2017, yn amodol ar ddewis y rhieni.
15. Opsiynau eraill
15.1. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi ystyriaeth ofalus i ystod o opsiynau eraill fel
rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynnig presennol. Wrth ystyried yr opsiynau hyn,
gwnaed cyfeiriad at brif amcanion buddsoddi Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y
Cyngor sydd fel a ganlyn:
a. Amgylcheddau dysgu ar gyfer plant a phobl ifanc o 3 i 19 oed a fydd yn
galluogi gweithrediad llwyddiannus strategaethau ar gyfer gwella ysgolion a
deilliannau addysgol gwell;
b. Rhagor o economi drwy wneud gwell defnydd o adnoddau i wella
effeithlonrwydd a chost-effeithiolrwydd y stad addysg a darpariaeth
gyhoeddus; a
c. System addysg gynaliadwy gyda phob ysgol yn cwrdd â Safon Ysgolion yr
21ain Ganrif, a lleihau costau rheolaidd a’r ôl troed carbon.
36
15.2. Dyma’r prif opsiynau sydd wedi cael eu hystyried:
Opsiwn 1: Cynnal y Status Quo
Opsiwn 2: Gwneud y Lleiafswm - Gwneud Atgyweiriadau Adferol
Opsiwn 3: Gwneud y Canolradd - Gwneud Gwaith Adnewyddu ac Ymestyn
Opsiwn 4: Gwneud yr Uchafswm - Darparu Adeiladau Newydd
Opsiwn 5: Cau
15.3. Mae prif fanteision ac anfanteision pob opsiwn, gan gynnwys y cynnig presennol,
yn cael eu hamlinellu isod;
Opsiwn 1: Cynnal y Status Quo
Manteision Anfanteision
Nid oes angen gwariant cyfalaf Ni fyddai’n darparu cyfleusterau ysgolion yr 21ain Ganrif nac yn arwain at unrhyw welliant yn yr amgylchedd dysgu
Byddai diffygion yn parhau ac yn debygol o waethygu yn y tymor byr i ganolig, yn ei dro yn cael effaith negyddol ar y gallu i gyflwyno'r cwricwlwm.
Ni fyddai'n arwain at ostyngiad mewn lleoedd dros ben.
Ni fyddai'n arwain at fwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr ystâd ysgolion.
Opsiwn 2: Gwneud Atgyweiriadau Adferol
Manteision Anfanteision
Gwariant cyfalaf isafswm Byddai hyn yn arwain at rywfaint o welliant yn yr amgylchedd dysgu ond ni fyddai'n bodloni safonau ysgolion yr 21ain ganrif. Byddai hwn yn ymarfer ymladd tân i atgyweirio’r problemau cyfredol.
Ni fyddai'n arwain at ostyngiad mewn lleoedd dros ben.
Ni fyddai'n arwain at fwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr ystâd ysgolion.
37
Opsiwn 3: Gwneud y Canolradd - Gwneud Gwaith Adnewyddu ac Ymestyn
Manteision Anfanteision
Byddai’n arwain at rywfaint o welliant yn yr amgylcheddau dysgu ac yn mynd i'r afael â'r diffygion a’r problemau cyfredol.
Mae maint y safle ei hun yn gymharol gyfyngedig, byddai estyniad y dwyn rhai ardaloedd allanol.
Byddai angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol o £1,005,996.
Ni fyddai'r opsiwn hwn yn arwain at ostyngiad yn y lleoedd dros ben ac oherwydd y gwaith ymestyn gallai arwain at gynnydd mewn lleoedd dros ben.
Ni fyddai'r opsiwn hwn yn arwain at fwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr ystâd ysgolion.
Opsiwn 4: Gwneud yr Uchafswm - Darparu Adeiladau Newydd
Manteision Anfanteision
Byddai’n darparu cyfleusterau ysgolion yr 21ain ganrif.
Byddai angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol.
Problemau o ran maint y safle presennol, ni allai'r safle gymryd adeilad model 105 safonol o dan reoliadau BB99.
Gallai safleoedd eraill olygu’r angen i brynu tir yn y pentref, gan gynyddu gwariant cyfalaf ymhellach.
Ni fyddai'n lleihau lleoedd dros ben a byddai'n debygol o arwain at gynnydd yn y lleoedd dros ben.
Opsiwn 5: Cau
Manteision Anfanteision
Byddai disgyblion presennol yn cael mynediad i adeiladau a chyfleusterau ysgolion yr 21ain ganrif.
Byddai'n lleihau lleoedd dros ben. Byddai arbediad net o £150k yn cael
ei wneud y gellid ei ail-fuddsoddi yn ôl i mewn i Raglen Moderneiddio Ysgolion Sir Ddinbych.
Gallai cael gwared ar y safle yn y dyfodol arwain at dderbyniad cyfalaf a allai hefyd gael ei ail-fuddsoddi yn ôl i'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Sir Ddinbych.
Byddai darpariaeth addysgol o fewn pentref Rhewl yn dod i ben.
Byddai defnydd cymunedol o'r ysgol hefyd yn dod i ben, fodd bynnag mae darpariaeth amgen ar gael ym mhafiliwn y gymuned.
Byddai staff yn yr ysgol yn cael eu hadleoli, neu o bosibl yn cael eu diswyddo, fodd bynnag, byddai tîm AD CSDd yn gweithio gyda staff ar sail unigol.
38
15.4. Mae'r tabl isod yn rhoi dadansoddiad o'r opsiynau uchod mewn perthynas ag
amcanion buddsoddi a ffactorau llwyddiant critigol;
16. Trefniadau derbyn
16.1. Caiff trefniadau derbyn i ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol eu gweinyddu gan
Wasanaeth Derbyn Ysgolion Cyngor Sir Ddinbych. Pe bai’r cynnig presennol yn cael
ei weithredu byddai'r gwasanaeth derbyn yn ysgrifennu at yr holl rieni i amlinellu'r
opsiynau sydd ar gael. Os bydd y cynnig cyfredol yn cael ei weithredu bydd y
gwasaneth derbyniadau yn ysgrifennu at holl rieni yn amlygu yr opsiynau sydd ar
gael.
Opsiwn 1
Status Quo
Opsiwn 2
Gwneud yr
Isafswm
Opsiwn 3
Gwneud y
Canolradd
Opsiwn 4
Gwneud yr
Uchafswm
Opsiwn 5
Cau
1 Gwell Amgylchedd
Dysgu
x x
2. Gwell Economi
Goblygiadau -
Refeniw
x x x x
2. Gwell Economi -
Cyfalaf
x x x x
3 System Addysg
Gynaliadwy
x x x x
CSF1 Gwell
cyrhaeddiad a
pherfformiad
x
x
CSF2 Ysgol mewn
cyflwr gwell ac yn
fwy addas
x
x
CSF3 Gostyngiad
mewn lleoedd dros
ben
x
x x x
CSF4 Gwell
effeithlonrwydd ac
effeithiolrwydd.
x
x x x
Crynodeb Diystyrwyd Diystyrwyd Posibl Diystyrwyd Ffafrir
39
17. Goblygiadau Cludiant
17.1. Am y flwyddyn academaidd gyfredol y costau cludiant ar gyfer Ysgol Rhewl yw £121
y dydd. Dros flwyddyn ysgol (191 diwrnod) mae hyn yn cyfateb i £23,111.
17.2. Ar hyn o bryd mae 12 o ddisgyblion, neu 22.6% o'r 53 disgybl llawn amser yn
defnyddio cludiant o’r cartref i’r ysgol am ddim. Mae'r tabl isod yn dangos
lleoliadau’r dalgylch ar gyfer Ysgol Rhewl;
Lleoliad Rhif
Rhewl 20
Rhuthun (tref) 14
Cyffylliog 9
Dinbych 3
Pentrecelyn 2
Pwllglas 2
Bryn Saith Marchog 2
17.3. Disgwylir y bydd y cynnig yn cael effaith niwtral ar gostau cludiant cyfredol, gyda
llawer o ddisgyblion presennol yn teithio i Ysgol Rhewl yn byw yn nes at safle
Glasdir nag Ysgol Rhewl fel y dangosir y tabl uchod.
17.4. Mae llwybr beicio presennol oddi ar y ffordd o bentref Rhewl i safle newydd
Glasdir, sydd oddeutu 1.1 milltir. Mae llwybr cerdded diogel o'r pentref i safle
Glasdir hefyd. Bydd argymhellion priffyrdd ychwanegol, megis signalau a phatrolau
croesfannau ysgol priodol, hefyd yn cael eu harchwilio yn ystod camau dylunio’r
datblygiad Glasdir newydd.
17.5. Byddai cludiant yn cael ei ddarparu i naill ai Ysgol Stryd y Rhos neu Ysgol Pen Barras
yn unol â Pholisi Cludiant Cyngor Sir Ddinbychxi sy'n datgan bod cludiant am ddim
yn cael ei ddarparu i ddisgyblion sy'n byw dros 2 filltir o’r ysgol addas agosaf neu os
yw rhan o’r llwybr yn cael ei ystyried yn beryglus.
18. Goblygiadau Staffio
18.1. Pe bai’r cynnig presennol yn cael ei weithredu byddai’r awdurdod yn gweithio
gyda'r aelod staff presennol yn Ysgol Rhewl, gan gynnwys staff addysgu ac ategol,
pe baent yn chwilio am gyfleoedd adleoli.
40
18.2. Fel rhan o’r broses ymgynghori ffurfiol, bydd ymgynghoriad llawn gyda’r holl staff
a'r undebau addysgu priodol. Bydd cyfarfod staff yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod
ymgynghori a bydd cynrychiolydd o wasanaeth AD Cyngor Sir Ddinbych yn
bresennol i roi cyngor i staff.
18.3. Ni ragwelir effaith sylweddol ar staff yr ysgolion sydd wedi ei enwi yn y ddogfen am
y rhesymau ac amlygir hyn yn rhan yr achos addysgol dros newis y ddogfen.
19. Beth yw’r goblygiadau ariannol?
19.1. Cost y ddarpariaeth yn seiliedig ar gyfran gyllideb 2014/2015 yw £5,977 fesul
disgybl yn Ysgol Rhewl. Cyfartaledd CSDd yw £3,931
19.2. Y gost staffio cyfredol ar gyfer Ysgol Rhewl ydi £267,364 (Blwyddyn Academaidd
Gyfredol).
19.3. Mae'r sefyllfa ariannol gyfredol yr ysgol ac am y 3 blynedd a ragwelir fel a ganlyn;
Ysgol Gwir Falans 2014
Balans a ragwelir 2015
Balans a ragwelir 2016
Balans a ragwelir 2017
Ysgol Rhewl 19,603 6,870 (13,345) (66,686) * Yn seiliedig ar y cynllun 3 blynedd presennol
19.4. Am flwyddyn academaidd 2014/2015 cyllideb Ysgol Rhewl yw £311k. Yn seiliedig ar
y sefyllfa gyllidebol gyfredol amcangyfrifir y byddai arbediad heb gael ei arwain gan
ddisgyblion o £150k pe bai’r cynnig presennol yn cael ei weithredu. Byddai hyn yn
cael ei dynnu o gwantwm cyllideb yr ysgol. Amcangyfrif cyllid o £161k a arweinir
gan ddisgyblion, ac felly byddai’n aros ar y cwantwm cyllideb ysgolion i ddilyn y
disgyblion i ysgol maent yn trosglwyddo iddi.
19.5. Byddai'r arbediad heb gael ei arwain gan ddisgyblion (£150k) yn cael ei ail-
fuddsoddi yng nghynllun corfforaethol y Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau gan
gynnwys buddsoddi mewn adeiladau ysgolion. Brasamcan gwerth y safle ydi
£165,000.
19.6. Pe bai’r cynnig ysgol yn cael ei weithredu byddai safle’r ysgol yn cael ei ddatgan fel
safle dros ben a byddai'n cael ei waredu yn unol â'r polisi presennol ar waredu
safleoedd ysgolion. Byddai’r derbyniad cyfalaf yn cael ei ailfuddsoddi o fewn cynllun
corfforaethol y Cyngor i ddarparu ei flaenioraethau gan gynnwys buddsoddiad
mewn adeiladau ysgolion.
41
19.7. Dangosir sefyllfa ariannol cyfredol ac y rhagolwg 3 blynnedd ar gyfer Ysgol Stryd y
Rhos ac Ysgol Pen Barras isod;
Ysgol Gwir Falans 2014
Rhagfynegiad Balans 2015
Rhagfynegiad Balans 2016
Rhagfynegiad Balans 2017
Rhos Street 80,643 56,950 (7,572) (65,873)
Pen Barras 76,810 67,613 51,251 (9,296)
19.8. Y gyllideb ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014/15 ydi
£592,745 ac ar gyfer Ysgol Pen Barras ydi £834,592. Costau staffio cyfredol Ysgol
Stryd y Rhos ydi £523,810 a costau staffio Ysgol Pen Berras ydi £737,848.
19.9. Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu bydd y cyllid cyfalaf ar gyfer adeiladau ysgol
a cyfleusterau newydd yn cael ei cyllido gan Gyngor Sir Ddinbych. Byddai yn yn cael
ei greu o gymysgedd o fenthyca darbodus, arian wrth gefn a derbyniadau cyfalaf. Ar
y cam yma o’r cynnig nid oes dibynniaeth ar gyllid allanol.
20. Beth yw anfanteision a risgiau y cynnig?
20.1. Os bydd y cynnig cyfredol yn mynd yn ei flaen, bydd darpariaeth addysg gynradd yn
dod i ben ym mhentref Rhewl.
20.2. Ar ôl cau'r ysgol, disgwylir y byddai angen i rai plant deithio ymhellach i'r ysgol, yn
amodol ar ddewis y rhieni am ddarpariaeth amgen. Oherwydd agosrwydd (tua.
1.1m) o'r cyfleusterau newydd ar Glasdir, byddai hwn yn dod yn opsiwn nes i rai o'r
disgyblion presennol sy’n mynychu Ysgol Rhewl ar hyn o bryd. Dim ond yn unol â
pholisi cludiant Sir Ddinbych y byddai cludiant yn cael ei ddarparu a ni fydd rhai
disgyblion yn gymwys.
20.3. Bydd gweithredu y cynnig presennol ar gyfer Ysgol Rhewl yn cael ei symud ymlaen
yn unol a’r buddsoddiad arfaethedig yn natblygiad Glasdir ar gyfer Ysgol Pen Barras
ac Ysgol Stryd y Rhos. Os bydd oedi sylweddol yn natblygiad Glasdir byddai amserlen
gweithredu’r cynnig presennol yn cael ei newid yn unol a hynny. Byddai pob risg yn
ymwneud ar cynnig yn cael ei fonitro o fewn cofrestr risg y rhaglen ac o fewn
cofrestr risg unigol y prosiect.
42
21. Effaith Gymunedol, ar yr Iaith Gymraeg ac asesiad o effaith ar Gydraddoldeb 21.1. Gan y bydd y Cynnig Presennol, os caiff ei weithredu, yn arwain at ysgol, cynhaliwyd
asesiadau effaith Cydraddoldeb, y Gymraeg a Chymunedol ac mae ar gael yn llawn ar ein gwefan o dan yr adran ymgynghoriad cyfredolxii. Crynodeb o’r Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg
21.2. Rhaid nodi bod ymgeisio i fesur effaith posib ad-drefnu ysgolion ar yr iaith Gymraeg yn waith anodd.
21.3. Y prif ddeilliannau positif yn deillio o’r asesiad effaith ydi’r effaith ar ddarpariaeth addysgol a mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg o fewn pellter cyfagos. Mae’r cynnig yn gyfle i wella a chryfhau addysg yn yr ardal.
21.4. Dyfarnir effaith y Cynnig Presennol yn niwtral yn nhermau’r effaith ar yr iaith Gymraeg. Er y bydd y cynnig yn lleihau’r ddarpariaeth dwy ffrwd mae’n parhau mynediad a hawl y rhiant i ddewis cyfrwng iaith. Bydd disgyblion sydd yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn ddwyieithog yn eu defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg wrth adael ysgol gynradd ac efo gwerthfawrogiad o dreftadaeth diwylliannol Cymru. Bydd disgyblion sy’n dewis cyfrwng Saesneg a dysgu Cymraeg fel ail iaith (fel ydi’r drefn presennol yn Ysgol Rhewl) bydd y cynnig presennol yn cael ei gynnal. Mae disgwyl i ysgolion gryfhau a chynyddu eu natur ddwyieithog eu hysgolion dros amser gan symud ar hyd llwybr y continwwm fel y bydd mwy o ddisgyblion ar cyfle i fod yn gwbl ddwyieithog. Ni fydd y cynnig yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg gyda canran uchel o siaradwyr Cymraeg yn y gymuned a canran uchel o’r rhai hynny a mwy nac un sgil yn y Gymraeg. Dangosir hyn yn nalgylch naturiol Ysgol Rhewl yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg cyfagos.
Crynodeb o’r Asesiad Effaith ar y Gymuned
21.5. Rhaid nodi bod ymgeisio i fesur effaith posib ad-drefnu ysgolion ar deuluoedd ar
gymuned leol yn anodd. Y prif ddeilliant positif sydd yn dod o’r asesiad effaith ydi’r effaith ar ddisgyblion drwy wella darpariaeth addysgol.
21.6. Mae’r asesiad effaith wedi amlygu nifer o ardaloedd posib lle gall y cynnig gael effaith negyddol ar deuluoedd lleol ac ar y gymuned leol. Mae disgwyl i ddisgyblion drosglwyddo i unai Ysgol Stryd y Rhos neu Ysgol Pen Barras yn Rhuthun. Mae mesurau a all gael eu gweithredu dros amser i leihau’r effaith gan ddatblygu cysylltiadau rhwng y gymuned ac y ddwy ysgol, er hyn bydd datblygu y cysylltiadau yma yn cymryd amser a bydd yr effaith cychwynnol yn negyddol.
21.7. Bydd colli ysgol yn cael effaith ar weithgaredd cymunedol sydd yn cymryd lle ac y cyfleusterau cymunedol yn Ysgol Rhewl. Mae cyfle i nifer o weithgareddau sydd ar hyn o bryd yn cymryd lle yn yr ysgol i symud ir pafiliwn cymunedol a mae’r Cyngor a
43
polisi ynglyn a cadw safle ysgol dros ben o fewn y gymuned a all leihau’r effaith negyddol gan o bosib greu deilliant bositif i’r gymuned.
21.8. Byddai’r cynnig yn cael effaith bositif ar rieni a disgyblion gan wella’r ddarpariaeth addysgol ar gyfer plant. Er hyn mae’r cynnig a potensial i gael effaith negyddol ar rieni o Rhewl a cymuned ehangach Rhewl.
21.9. Mae’n bwysig nodi y gall rhai effeithiau neyddol sydd yn deillio o’r cynnig gael eu lleihau gan yr Awdurdod Lleol gan fabwysiadu nifer o fesurau i sicrhau bod cymuned Rhewl yn parhau i ffynnu.
21.10. Mae presenoldeb cyfleusterau arwahan yn y pafiliwn sy’n cynnal nifer o weithgareddau ar hyn o bryd ac a allgynnal nifer o weithgareddau sydd yn cymryd lle yn yr ysgol i ddarparu canolbwynt i’r gymuned a fyddai’n parhau ar ol i’r ysgol gau. Gall cynnydd mewn gweithgaredd yn y pafiliwn yn dilyn cau’r ysgol wella cynnaladwyedd tymor hir y cyfleustyr cymunedol.
21.11. Mae’r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i weithio gyda cymuned leol ac efo gwasanaeth cynghori cyllid allanol sydd yn rhoi cymorth i gymunedau ddod o hyd i gyllid ar gyfer prosiectau cymunedol.
21.12. Mae’r Cyngor yn ymwybodol o gynlluniau ar gyfer tai yn y pentref. Nid yw yn cael ei ystyried bod y nifer o ddisgyblion cynradd a fyddai’n cael eu creu gan y datblygiad yn cynnyddu’r nifer o ddisgyblion yn yr ysgolion yn sylweddol.
21.13. Yn ystod yr Ymgynghoriad Ffurfiol, bydd trafodaethau yn cael eu cynnal gyda
Pennaeth yr ysgol i sicrhau bod gwell dealltwriaeth o’r gweithgaredd cymunedol yn yr ysgol.
21.14. Yn ystod y cyfnod dylunio ar gyfer cyfleusterau newydd bydd ymgynghoriad yn cymryd lle gyda’r gymuned ehangach o Ysgol Rhewl.
21.15. Mae 30 annedd wedi eu dyrannu i Rhewl fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol, ac mae 4 annedd ychwanegol wedi ei dyrannu ar gyfer ardal ehangach Llanynys. Yn seiliedig ar fformiwla a ddefnyddir i ragamcan y nifer o balnt cynradd y cynhyrchir gan ddatblygiadau tai (0.24 x nifer o anneddau) rhagwelir y byddai 34 annedd yn creu 8 disgybl ychwanegol. Yn seileidg ar tuedd disgyblion yn yr ardal ar hyn o bryd mae’n deg rhesymu na fyddai pob disgybl yn mynychu Ysgol Rhewl o ganlyniad i ddewis rhieni am ddarpariaeth eraill.
44
22. Esboniad o'r broses statudol 22.1. Er mwyn gweithredu'r cynnig presennol, mae'n rhaid i Gyngor Sir Ddinbych ddilyn
gweithdrefn a nodir gan gyfuniad o Ddeddf Llywodraeth Cymru a chod statudol.
22.2. Dyma’r gofynion:
a. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda phobl y mae’r Cynnig yn debygol o effeithio arnynt;
b. Bydd adroddiad ymgynghori yn nodi manylion yr Ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi ar wefan y cyngor;
c. Cyhoeddir y cynnig cyfredol (a elwir hefyd yn ‘hysbysiad statudol’) gyda manylion fel y dyddiad gweithredu a gynlluniwyd, sut i gael copi o'r adroddiad ymgynghori a sut i wrthwynebu:
i. Ar wefan y Cyngor; ii. Wedi’i osod ar neu ger prif fynedfa’r ysgol; ac
iii. Drwy ddarparu copïau i’r ysgolion yr effeithir arnynt i’w dosbarth i rieni.
d. Cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi yn caniatáu unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu'r Cynnig Presennol i wneud hynny;
e. Penderfyniad gan y cyngor (dyma pryd, yn amodol ar y broses uchod, y gellid cymeradwyo’r penderfyniad i weithredu'r Cynnig Cyfredol);
f. Y Cyngor yn cyhoeddi unrhyw wrthwynebiadau a'i ymateb iddynt (o fewn 7 diwrnod i ddyddiad pennu’r Cynnig Presennol).
22.3. Nodwch na fydd unrhyw ymateb a roddir i'r ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei ystyried fel gwrthwynebiad i'r Cynnig Presennol. Mae hyn oherwydd y gall y Cynnig Presennol newid mewn ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol. Os hoffech chi wrthwynebu’r Cynnig Presennol, arhoswch nes ei fod wedi cael ei gyhoeddi yna dilynwch y drefn a amlinellir ar yr hysbysiad statudol.
23. Ffurflen Ymateb 23.1. Mae ffurflen ymateb ar gyfer sylwadau, gan gynnwys cyfle i rai a ymgynghorir â
nhw gofrestru eu dymuniad i gael gwybod am gyhoeddi'r adroddiad ymgynghori ffurfiol, yn ymddangos ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori hon.
23.2. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn ar y Cynnig
Presennol yn y digwyddiadau a amlinellwyd yn y llythyr cyflwyno neu nodi eich barn yn ysgrifenedig. Dylid anfon ymatebion at Dîm y Rhaglen Foderneiddio Addysg, Cyngor Sir Ddinbych, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, LL15 1YN neu drwy e-bost at [email protected] ddim hwyrach na 23 Mawrth 2015.
i Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 - http://wales.gov.uk/legislation/programme/assemblybills/schoolstandards/?lang=en
45
ii Y Cod Trefniadaeth Ysgolion (Cymru)-
http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/school-organisation-code/?lang=en iii Fframwaith Moderneiddio Addysg - ar gael i’w darllen ar gais i swyddfeydd CSDd yn Rhuthun neu trwy
ymweld â’r wefan yn yr adran Trefniadaeth a Moderneiddio Ysgolion - https://www.denbighshire.gov.uk/en/your-council/strategies-plans-and-policies/education-and-schools/reviewing-our-schools.aspx iv MyLocalSchool Website, http://mylocalschool.wales.gov.uk/
v Diffinio Ysgolion yn ôl Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg -
http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/definingschools?lang=en vi Gwybodaeth Adroddiad Arolwg Estyn- http://www.estyn.gov.uk/english/inspection/inspection-reports/
vii National Schools Categorisation System Parents
Guidehttp://wales.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/raisingstandards/schoolbanding/?lang=en viii
School Size and Effectiveness- December 2013, http://www.estyn.gov.uk/english/docViewer/295686.3/school-size-and-educational-effectiveness-december-2013/?navmap=30,163, ix Denbighshire Childcare Sufficiency 2014, https://www.denbighshire.gov.uk/en/your-council/strategies-plans-
and-policies/childcare-sufficiency-assessment.aspx x School Size and Effectiveness- December 2013,
http://www.estyn.gov.uk/english/docViewer/295686.3/school-size-and-educational-effectiveness-december-2013/?navmap=30,163, xi Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol Am Ddim Sir Ddinbych -
https://www.denbighshire.gov.uk/en/resident/education/grants-and-funding/free-school-transport.aspx xii
Ymgynghoriadau cyfredol - https://www.denbighshire.gov.uk/en/your-council/consultations/current-consultations.aspx
46
Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cynnig cau Ysgol Rhewl o 31 Awst, 2017 gyda’r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor adeiladau ysgol newydd. Hoffem dderbyn eich sylwadau ar y cynigion. Gallwch rannu eich sylwadau â ni drwy’r dulliau canlynol:
Os ydych yn darllen y ffurflen hon ar-lein, cliciwch yma i gwblhau’r arolwg ar-lein;
Os ydych wedi derbyn copi caled o’r ffurflen ymateb, gallwch ei chwblhau a’i dychwelyd at y Tîm Rhaglen Moderneiddio Addysg, Cyngor Sir Ddinbych, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, LL15 1YN;
Ymwelwch â’n gwefan yn www.sirddinbych.gov.uk/moderneiddioaddysg a dilynwch ddolen yr arolwg drwy’r ddolen ymgynghoriadau bresennol;
Fel arall gallwch gwblhau’r ffurflen hon, ei sganio a’i e-bostio atom yn [email protected] ; neu
Os nad oes modd i chi ddefnyddio sganiwr, anfonwch e-bost at y cyfeiriad uchod yn nodi eich ymatebion, yn nhrefn yr un rhifau a ddefnyddir ar gyfer y cwestiynau isod.
A allwch chi ymateb erbyn Dydd Llun Mawrth 23 2015. Os ydych eisiau i ni gydnabod derbyn eich
ymateb a allwch chi ddarparu eich enw a chyfeiriad.
1. A ydych o blaid y cynnig presennol?
Ydw
Nac ydw
2. Rhowch wybod i ni p’un a ydych yn ymateb fel:
Disgybl Rhiant Aelod o staff Aelod o’r Gymuned
Arall
Arall (Manylwch isod):
47
3. Gyda pha Ysgol y mae gennych y cysylltiad mwyaf?
Ysgol Rhewl
Ysgol Stryd y Rhos
Ysgol Pen Barras
4. Gadewch i ni wybod os ydi un o’r canlynol wedi dylanwadu ar eich penderfyniad
Effaith ar addysg
Effaith ar y gymuned leol
Arall:-
(Defnyddiwch dudalen ychwanegol os oes angen)
5. Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu, a fyddech yn gyrru eich plentyn i Ysgol Pen Barras neu
Ysgol Stryd y Rhos?
Ysgol Stryd y Rhos
Ysgol Pen Barras
Ysgol arall:
(Defnyddiwch dudalen ychwanegol os oes angen)
48
6.Rhowch eich sylwadau neu eich barn, positif neu negyddol, am y cynnig yma:
(Defnyddiwch dudalen ychwanegol os oes angen)
49
7. A hoffech i ni gydnabod derbyn eich ymateb?
Hoffwn
Na hoffwn
8. A hoffech dderbyn dolen gyswllt drwy e-bost ar gyfer adroddiad yr ymgynghoriad pan gaiff ei
gyhoeddi ar wefan CSDd?
Hoffwn
Na hoffwn
9.Os ydych wedi ateb ‘hoffwn’ i un neu’r ddau gwestiwn blaenorol, nodwch eich cyfeiriad e-bost,
neu os nad oes modd i chi ddefnyddio e-bost, rhowch eich cyfeiriad post isod:
10. O dan amodau Deddf Diogelu Data 1998 rhaid i ni eich hysbysu am y canlynol :
Mae Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn ceisio eich barn i helpu i lywio’r penderfyniad ar y cynigion.
Defnyddir y wybodaeth a ddarparwyd gennych i’r pwrpas hwn yn unig, ac fe’i rhannir â’r Esgobaeth
sydd hefyd yn rhan o’r ymgynghoriad, er mwyn hysbysu y rhai fydd yn gwneud y penderfyniad o
eich barn ac i fynd i’r afael ag unrhyw faterion a godir gennych. Os nad ydych yn dymuno darparu
manylion personol, bydd eich barn yn dal i gael eu hystyried, ond ni allwn gydnabod derbyn eich
ymateb yn bersonol.
CSDd yw’r Rheolwr Data at ddibenion Deddf Diogelu Data 1998. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn
cael ei phrosesu yn unol â’r Ddeddf honno ac fe’i cesglir at y dibenion a nodir uchod yn unig, ac fe’i
rhennir â’r Esgobaeth ond nid ag unrhyw barti arall. Cedwir eich gwybodaeth am ddim mwy na 2
flynedd cyn ei dinistrio’n ddiogel. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch hyn drwy
Diolch yn fawr i chi am ymateb.