Tudalen 1 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru
Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol
Mae cymharu 2010/11 â 2013/14 yn ôl sefydliad yn dangos bod salwch wedi cynyddu ar y cyfan, nad oes unrhyw sefydliad wedi llwyddo i leihau salwch, ac mai dau sefydliad yn unig sydd wedi aros ar yr un lefel.
Mae gan boblogaethau sydd â lefelau amddifadedd uchel iechyd gwaeth. Y tri Bwrdd Iechyd Prifysgol sydd â’r cyfraddau salwch uchaf yw Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf. Mae gan yr ardaloedd daearyddol hyn rai o’r sgorau amddifadedd uchaf hefyd. Mae ymchwil yn dangos lle bo sgorau ymgysylltu yn uwch, roedd sgorau iechyd a llesiant y staff hefyd yn sylweddol uwch, ac yn is ar gyfer absenoldebau staff. Yng Nghymru, mae gan y sefydliad sydd â’r lefelau ymgysylltu staff isaf y lefelau salwch uchaf, ac mae gan y ddau sefydliad sydd â sgorau ymgysylltu staff dros 60 lefelau salwch dan 5%. Mae gan Gymru un o’r cyfraddau salwch uchaf ar y cyfan (pob cyflogwr) yn y DU. Y ddau ranbarth sydd â’r cyfraddau tebycaf yw Dwyrain Canolbarth Lloegr a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Mae absenoldebau salwch yn uwch mewn bandiau tâl is (bandiau 1-3). Y grŵp staff sydd â’r amrywiaeth fwyaf rhwng Cymru a Lloegr o ran cyfraddau salwch yn y GIG yw’r adran Ystadau a Gwasanaethau Ategol (gwahaniaeth o 1.7%), o bosibl o ganlyniad i’r defnydd o gontractau allanol yn Lloegr. GIG Cymru sydd â’r ganran fwyaf o’r gweithlu yn gweithio yn yr adrannau Ystadau a Gwasanaethau Ategol, sef 9% o ganlyniad i 5% yn Lloegr. Mae’r ONS wedi darganfod bod gweithwyr 16-24 oed 46% yn fwy tebygol o gymryd absenoldeb salwch na gweithwyr rhwng 50 oed ac oedran pensiwn. Un ffactor sy’n cyfrannu at gyfraddau salwch uwch yn GIG Cymru yw proffil oedran y gweithlu. Yn y grŵp dan 29 oed, mae gan Gymru 4.3% yn llai na chymharwyr, ac yn y band oedran 50-59, mae 1.6-3.3% yn fwy o staff. Mae proffil oedran GIG Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd gwaith yr Adolygiad Gweithio’n Hirach wrth ddatblygu arferion gwaith a pholisïau ymddeol priodol er mwyn cynorthwyo gweithwyr hŷn. Band 5 yn y grŵp staff Nyrsio a Bydwreigiaeth sy’n cyfrif am ran fwyaf y dyddiau absenoldeb salwch. Er bod hwn yn grŵp mawr o staff, mae’r cyfraniad y mae’n ei wneud i gyfraddau salwch yn anghymesur, ac mae wedi cynyddu o ran y cyfraniad hwn dros y pedair blynedd ddiwethaf. Y ddau brif reswm am absenoldebau salwch yw problemau cyhyrysgerbydol (25%) a gorbryder/straen/problemau seiciatrig eraill (23%). Mae achosion anhysbys a heb eu nodi yn cyfrif am 21% o absenoldebau salwch. Er nad yw mwyafrif y grwpiau staff yn dangos unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y rhesymau dros absenoldeb salwch, bu cynnydd o 2.9% mewn salwch cyhyrysgerbydol ymysg staff Ystadau a Gwasanaethau Ategol, a chynnydd o 6% mewn gorbryder/straen/problemau seiciatrig eraill ymysg Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gweithwyr Proffesiynol Gwyddonol Ychwanegol.
Tudalen 3 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru 1. Cyflwyniad Mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar gyfraddau absenoldeb salwch yn GIG Cymru, a’u cymharu â chyfraddau absenoldebau salwch yn rhanbarthau Dwyrain Canolbarth Lloegr a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Dewiswyd y rhanbarthau hyn ar gyfer cymharu oherwydd amlygwyd bod ganddynt yr un gyfradd salwch â Chymru ar gyfer y farchnad lafur gyfan, a amlygwyd gan yr ONS [1]. Gall amrywiaeth o ffactorau ddylanwadu ar gyfradd absenoldebau salwch GIG Cymru, fel: proffil grŵp staff, lleoliad daearyddol/amddifadedd, grŵp oedran, band cyflog, ymgysylltu â staff a rhywedd. Mae’r dadansoddiad yn archwilio’r rhesymau a roddwyd am yr absenoldeb salwch h.y. salwch yn ymwneud â straen, a salwch cyhyrysgerbydol. Mae gan sefydliadau amrywiaeth o gamau yn eu lle er mwyn cynorthwyo wrth wella iechyd a llesiant, ac i leihau absenoldebau salwch. Mae hyn yn cynnwys ystod o adnoddau a grëwyd fel rhan o’r rhaglen Gweithio’n Wahanol, Gweithio Law yn Llaw. Yr adnodd diweddaraf yw Pecyn Cymorth Rhyngweithiol Iechyd a Llesiant Seicolegol Staff, a ddatblygwyd gan seicolegwyr clinigol, a gafodd ei ryddhau yn ddiweddar. Er mwyn cydnabod pwysigrwydd iechyd a llesiant staff, mae’r ffrwd waith honno wedi parhau fel ffrwd waith dros Gymru gyfan, hyd yn oed ar ôl cau’r rhaglen Gweithio’n wahanol, gweithio gyda’n gilydd, a arweinir gan un o Gyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu’r Sefydliad. Ffynonellau data: Cafwyd y graffiau a’r tablau sy’n dangos data am Loegr o iView, a chafwyd y graffiau a’r tablau sy’n dangos data am Gymru yn unig o ESR Data Warehouse (DW). Nid yw’r amrywiaeth mewn ffynonellau data yn effeithio ar y canlyniadau, gan fod y data o iView yn dod o DW. O ganlyniad i gyfyngiadau DW, nid yw’r adroddiad yn archwilio’r rhaniad rhwng absenoldebau salwch tymor hir a thymor byr, nac yn edrych ar berthynas hyd yr absenoldebau salwch.
Tudalen 4 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
2. Cyfraddau Absenoldebau Salwch Sefydliadau GIG Cymru Gellir gweld o dablau 1 a 2 bod cyfraddau absenoldebau salwch yn amrywio’n fawr trwy gydol sefydliadau GIG Cymru. Yn ystod 2013/2014, amrywiodd cyfraddau salwch rhwng 7.6% a 3.4% rhwng y sefydliadau. Tabl 1: Salwch fesul sefydliad 2013/2014
Tabl 2: Salwch fesul sefydliad 2010/2011
Sefydliad % dyddiau salwch fte
Sefydliad % dyddiau salwch fte
BILlP Abertawe Bro Morgannwg
5.9%
BILlP Abertawe Bro Morgannwg 5.3%
BILlP Aneurin Bevan 5.3%
BILlP Aneurin Bevan 5.3%
BILlP Betsi Cadwaladr 5.0%
BILlP Betsi Cadwaladr 4.6%
BILlP Caerdydd a’r Fro 5.7%
BILlP Caerdydd a’r Fro 5.2%
BILlP Cwm Taf 5.6%
BILlP Cwm Taf 5.4%
BILlP Hywel Dda 4.9%
BILlP Hywel Dda 4.9%
BILl Addysgu Powys 4.9%
BILl Addysgu Powys 4.5%
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
3.4%
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru 3.3%
Ymddiriedolaeth GIG Felindre 3.7%
Ymddiriedolaeth GIG Felindre 3.6%
Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
7.6%
Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 6.6%
GIG Cymru 5.4%
GIG Cymru 5.1%
Y gyfradd absenoldeb salwch dros 12 mis ar gyfer 2010/11 oedd 5.1%, ac erbyn 2013/14, roedd y gyfradd wedi codi 0.3 y cant i 5.4%. Mae cymharu 2010/11 â 2013/14 yn ôl sefydliad yn dangos bod salwch wedi cynyddu ar y cyfan, nad oes unrhyw sefydliad wedi llwyddo i leihau salwch, ac mai dau sefydliad yn unig sydd wedi aros ar yr un lefel. Y cynnydd mwyaf yn y ganran oedd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a gododd ei gyfradd salwch o 6.6.% i 7.6%. Nodir bod gan Ymddiriedolaethau Ambiwlans yn Lloegr gyfraddau salwch uwch na sefydliadau eraill yn y GIG, sydd â chyfartaledd 1.7% yn uwch na’r rhanbarth lle mae wedi ei leoli. Y tri Bwrdd Iechyd Prifysgol sydd â’r cyfraddau salwch uchaf yw Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf. Mae gan yr ardaloedd daearyddol hyn rai o’r sgorau amddifadedd uchaf hefyd (gweler Ffigwr 1: Diagram o Amddifadedd Cymru). Cawn ar ddeall fod gan boblogaethau â lefelau amddifadedd uchel iechyd gwaeth a lefelau uwch o gyflyrau cronig. Mae presenoldeb y boblogaeth leol yn y gweithlu yn debygol o gynyddu’r duedd ar gyfer salwch yn y gweithlu. Mae dadansoddiad gan y Comisiwn Archwilio [1] yn nodi bod gan ‘ardaloedd difreintiedig lefelau uwch o absenoldebau salwch’, a hefyd, ‘Mae amddifadedd ar ei ben ei hun yn esbonio 17 y cant o’r amrywiaeth rhwng ymddiriedolaethau a 6 y cant mewn Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol’. Mae hyn yn dangos er nad amddifadedd yw’r unig ffactor sy’n cyfrannu at salwch ar y cyfan, gall fod yn ffactor sylweddol.
Tudalen 5 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Ffigwr 1: Diagram o Amddifadedd Cymru
Mae Tabl 3 yn dangos sgorau ymgysylltu staff pob sefydliad, sydd wedi ei dynnu o Arolwg Staff GIG Cymru o 2013. Y sefydliad sydd â’r lefel isaf o ymgysylltu â staff sydd â’r gyfradd salwch uchaf, ac mae gan y ddau sefydliad sydd â sgorau ymgysylltu â staff dros 60 lefelau salwch dan 5%. Mae adnodd GIG Cymru, ‘Engaging your staff: the NHS Wales staff engagement resource [2]’ yn datgan ‘Mae ymchwil yn dangos lle bo sgorau ymgysylltu yn uwch, roedd sgorau iechyd a llesiant y staff hefyd yn sylweddol uwch, ac yn is ar gyfer absenoldebau staff’. Felly, credir y gall lefelau ymgysylltu staff fod yn ffactor sy’n cyfrannu at gyfraddau absenoldebau staff. Tabl 3: Mynegai Ymgysylltu â Staff 2013 a Salwch Staff 2013/14
Sefydliad Mynegai ymgysylltu (2013)
Salwch 2013/2014
BILl Addysgu Powys 67 4.9%
Ymddiriedolaeth GIG Felindre 61 3.7%
BILlP Abertawe Bro Morgannwg 57 5.9%
BILlP Aneurin Bevan 55 5.3%
BILlP Caerdydd a’r Fro 55 5.7%
BILlP Hywel Dda 55 4.9%
BILlP Cwm Taf 54 5.6%
BILlP Betsi Cadwaladr 52 5.0%
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru 43 7.6%
Tudalen 6 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
3. Absenoldeb salwch yn ôl grŵp staff a rhanbarth Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi creu adroddiad sy’n edrych ar absenoldebau salwch yn y farchnad lafur gyfan [3]. Mae Ffigwr 2 yn dangos cyfraddau salwch ar gyfer yr holl farchnad lafur yn ôl rhanbarth. Gellir gweld mai Cymru sydd â’r cyfraddau salwch uchaf ar y cyfan yn y DU. Y ddau ranbarth sydd â’r cyfraddau salwch tebycaf i Gymru yw Dwyrain Canolbarth Lloegr a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Felly, wrth gymharu cyfraddau absenoldebau salwch o fewn GIG Cymru, bydd y papur hwn yn cymharu GIG Cymru â Dwyrain Canolbarth Lloegr a’r Gogledd Ddwyrain yng ngweddill y papur hwn, ynghyd â GIG Lloegr ar y cyfan. Ffigwr 2: Cyfraddau salwch y farchnad lafur ledled Prydain Fawr
Isod, mae Tabl 4 yn dangos bod cyfraddau absenoldebau GIG Cymru ar y cyfan 1.5% yn uwch na GIG Lloegr. Wrth gymharu’r salwch â’r cymharwyr yn Lloegr (y Gogledd Ddwyrain, Dwyrain y Canolbarth), mae Cymru dros 1% yn uwch. Tabl 4: Grŵp Staff yn ôl Gwlad/Rhanbarth 2013/14
Cymru Lloegr Gogledd Ddwyrain
Dwyrain y Canolbarth
Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol 7.7% 6.1% 6.3% 6.1%
Ystadau a Gwasanaethau Ategol 7.2% 5.5% 5.5% 5.1%
Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig 6.0% 4.5% 4.8% 4.6%
Gweinyddol a Chlercaidd 4.3% 3.4% 3.6% 3.4%
Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd 4.3% 3.1% 3.5% 3.4%
Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol – Gwyddonol a Thechnegol 4.2% 3.3% 3.5% 3.4%
Gwyddonwyr Gofal Iechyd 3.0% 2.6% 2.9% 2.4%
Meddygol a Deintyddol 1.5% 1.2% 1.4% 1.3%
Pob grŵp staff 5.5% 4.0% 4.4% 4.2% (Mae’r celloedd wedi’u lliwio yn dangos canlyniadau sydd dros y cyfartaledd am y rhanbarth/gwlad).
Gellir gweld bod y cyfraddau salwch uchaf yn amlwg mewn grwpiau staff tebyg trwy gydol y rhanbarthau, ond, mae Cymru’n uwch na’r rhanbarthau eraill. Y grŵp staff sydd â’r amrywiaeth salwch uchaf gyda Chymru yw Ystadau a Gwasanaethau Ategol, gyda gwahaniaeth o 1.7% ar
Tudalen 7 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
gyfer Lloegr a’r Gogledd-ddwyrain a 2.1% ar gyfer Dwyrain y Canolbarth. Un rheswm posibl sydd wedi cyfrannu at yr amrywio hwn yw bod rhai rhanbarthau yn Lloegr yn defnyddio contractau allanol ar gyfer y gweithlu Ystadau a Gwasanaethau Ategol, lle nad yw GIG Cymru wedi gwneud hynny. Trwy ddefnyddio contractau allanol, ni fydd canran fawr o gyfraddau salwch Ystadau a Gwasanaethau Ategol yn ymddangos yn y dadansoddiadau ar gyfer Lloegr. Mae Graff 1 yn dangos bod gan GIG Cymru wahaniaeth sylweddol o ran canran o gymharu â rhanbarthau Lloegr. Graff 1: Canran y gweithlu sy’n gweithio yn yr adran Ystadau a Gwasanaethau Ategol yn ôl Gwlad/Rhanbarth
0% 2% 4% 6% 8% 10%
London
South Central
East of England
England
West Midlands
East Midlands
North West
North East
South East Coast
South West
Yorkshire and the Humber
Wales
Percentage of the workforce in Estates and Ancillary
Y ddau grŵp staff arall sy’n dangos mwy na 1% o amrywiaeth gyda GIG Cymru yw Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol, lle mae gan GIG Cymru gyfradd salwch 1.4% yn uwch, a Nyrsys a Bydwragedd, lle mae gan GIG Cymru gyfradd salwch 1.3% yn uwch. Mae cyfran y gweithlu yn y ddau grŵp staff yn debyg trwy gydol y rhanbarthau, felly mae’n bosibl bod ffactorau eraill yn cyfrannu at y cynnydd yng nghyfraddau salwch GIG Cymru. Caiff rhai o’r ffactorau hyn eu harchwilio mewn adrannau eraill yn yr adroddiad hwn.
Tudalen 8 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
4. Absenoldeb salwch yn ôl band cyflog a rhanbarth Mae Tabl 5 yn dangos bod absenoldebau salwch yn fwy amlwg yn y bandiau cyflog is, h.y. Bandiau 1 i 3, sy’n arwyddocaol gan fod Ystadau a Gwasanaethau Ategol a Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol yn cyfrif am y bandiau hyn yn bennaf. Byddai hyn yn helpu i esbonio proffil salwch yn nhabl 4. Nodir hefyd bod salwch yn uchel ym Mand 5, ac yn llai amlwg ym mand 4. Mae’r Comisiwn Archwilio[1] yn nodi’r un patrwm ac yn dod i’r casgliad “efallai bod ysbryd a gallu rheoli ei waith ei hun hefyd yn cyfrannu”. Ym Mand 6 ac uwch, mae cyfraddau salwch yn is ym mhob rhanbarth. Yn gyffredinol, gellir gweld bod tuedd yma – yr uchaf yw’r band, yr isaf yw’r gyfradd absenoldeb salwch, ac mae hyn i’w weld ym mhob rhanbarth. Tabl 5: Salwch yn ôl band cyflog a rhanbarth 2013/14
Cymru Lloegr Y Gogledd Ddwyrain
Dwyrain y Canolbarth
Band 1 8.1% 5.7% 6.1% 5.4%
Band 2 7.6% 5.7% 5.8% 5.7%
Band 3 6.8% 5.4% 5.8% 5.2%
Band 4 4.9% 4.2% 4.1% 4.1%
Band 5 6.1% 4.5% 4.9% 4.7%
Band 6 5.0% 3.9% 4.0% 3.8%
Band 7 4.0% 3.0% 3.4% 3.2%
Band 8a 2.7% 2.3% 2.6% 2.5%
Band 8b 2.5% 2.0% 2.2% 2.3%
Band 8c 2.1% 1.9% 2.7% 1.6%
Band 8d 2.8% 1.4% 1.6% 1.5%
Band 9 1.4% 1.1% 1.4% 2.0%
Ddim yn rhan o’r Agenda ar gyfer Newid 2.6% 3.0% 2.4% 2.7%
Meddygol a Deintyddol 1.5% 1.2% 1.4% 1.3%
Pob grŵp staff 5.5% 4.0% 4.4% 4.2% (Mae’r celloedd wedi’u lliwio yn dangos canlyniadau sydd dros y cyfartaledd ar gyfer y rhanbarth/gwlad).
Mae Graff 2 yn dangos y cydberthynas rhwng cyfraddau salwch uwch a lefel y band cyflog. Nodir hefyd bod mwyafrif y bandiau cyflog yn GIG Cymru yn dangos cyfraddau salwch uwch na’r cymharwyr yn Lloegr, a bod gan Fandiau 1 i 3 lefelau absenoldeb salwch sylweddol uwch na’r bandiau hynny yn Lloegr.
Tudalen 9 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Graff 2: Salwch yn ôl band cyflog a rhanbarth
0%
1%
2%
3%
4%
5%
6%
7%
8%
9%
Band 1 Band 2 Band 3 Band 4 Band 5 Band 6 Band 7 Band8a
Band8b
Band 8c Band8d
Band 9 NonAfC
M & D
% S
ickn
ess
Rat
e
Impact of pay band on sickness absence rate
Wales
England
North East
East Midlands
Wrth ystyried mai Bandiau 1-3 sydd â’r cyfraddau absenoldeb salwch uchaf, gwnaed dadansoddiadau ychwanegol er mwyn edrych ar y gyfran o staff ar Fandiau 1-3 yn rhanbarthau Lloegr a Chymru (Graff 3). Mae cyfran y staff sydd ar Fandiau 1-3 yn amrywio rhwng 20% a 33%, a GIG Cymru yw’r uchaf ond dau (32%). O gymharu â GIG Lloegr, mae gan GIG Cymru gyfran uwch o weithwyr Band 1-3 (3.6 pwynt canran). O bosibl, gall hyn fod yn ffactor sy’n cyfrannu at y rheswm fod gan Gymru gyfradd absenoldeb salwch uwch na GIG Lloegr. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae GIG Cymru wedi bod yn lleihau Bandiau 1-3 ac yn cynyddu’r bandiau uwch. O bosibl, yn y dyfodol, bydd gan GIG Cymru broffil band tebyg i’r cyfartaledd yn Lloegr. Graff 3: Staff mewn swyddi Band 1-3 yn ôl rhanbarth
0%
5%
10%
15%
20%
25%
30%
35%
Yorkshire& the
Humber
NorthEast
Wales SouthWest
EastMidlands
NorthWest
SouthEast
Coast
WestMidlands
England SouthCentral
East ofEngland
London
% F
TE -
Staf
f in
Post
Percentage of staff in Bands 1 to 3 by Region
Tudalen 10 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
5. Canran y diwrnodau salwch cyfwerth ag amser llawn (CALl) yn ôl grŵp staff a band cyflog
Mae’r ffigyrau yn nhabl 6 yn seiliedig ar nifer y diwrnodau absenoldebau salwch CALl yn GIG Cymru yn ôl pob grŵp staff a band cyflog, ac wedi ei droi yn ganran o’r holl ddyddiau salwch a gymerwyd. Mae nifer y staff yn y swydd yn dylanwadu’n fawr ar ganrannau salwch, felly, yn rhesymegol, mae’n dilyn mai’r mwyaf o staff sydd yn y swydd, y mwyaf o ddyddiau salwch y byddant yn eu cyfrannu. Felly, petai absenoldeb salwch yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal, teg fyddai disgwyl y canlynol: petai grŵp staff penodol yn cyfrif am 20% o’r gweithlu, byddant hefyd yn cyfrif am 20% o’r diwrnodau salwch. Mae Tabl 6 yn rhoi arwydd i ni o ble gall sefydliad droi ei sylw wrth leihau absenoldebau salwch. Y nyrsys a’r bydwragedd ar fand 5 sy’n cyfrif am y mwyaf o absenoldebau salwch. Mae hyn i’w ddisgwyl, oherwydd eu bod nhw hefyd yn cyfrif am y ganran uchaf yn y gweithlu. Mae Tabl 6 yn dangos, yn 2010/11, roedd 17% o’r holl ddyddiau absenoldeb salwch CALl yn y grŵp Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mand 5, ac yn 2013/14, cynyddodd y ganran hon i 19%. O ystyried mai canran y staff yn y swydd yn y grŵp hwn yw 15% (yr un ganran ar gyfer y ddau gyfnod), mae’r grŵp hwn yn anghymesur fwy sâl na grwpiau staff eraill, ac maent wedi cynyddu eu cyfraniad i’r dyddiau salwch dros y pedair blynedd ddiwethaf. Mae dadansoddiad ychwanegol yn adrannau dilynol yr adroddiad hwn wedi darganfod y gall hyn fod o ganlyniad i weithlu sy’n heneiddio. Dim newid ↔ Cynnydd ↑ Newydd i’r 10 uchaf ← Tabl 6: Cymharu salwch yn ôl grŵp staff (10 uchaf), bandiau’r Agenda ar gyfer Newid
Grŵp staff
Band Agenda ar gyfer newid
% o’r gweithlu 2013/14
% o salwch 2013/14
% o salwch 2010/11
Cymharu rhwng 2010/11 a 2013/14
Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig Band 5 15% 19% 17% ↑
Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol
Band 2 8% 13% 11% ↑
Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol
Band 3 7% 10% 7% ↑
Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig Band 6 9% 9% 8% ↑
Ystadau a Gwasanaethau Ategol Band 2 5% 7% 4% ↑
Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig Band 7 5% 4% ←
Gweinyddol a Chlercaidd Band 2 4% 4% 4% ↔
Gweinyddol a Chlercaidd Band 3 4% 4% ←
Gweinyddol a Chlercaidd Band 4 5% 4% ←
Ystadau a Gwasanaethau Ategol Band 1 2% 3% 3% ↔
Tudalen 11 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
6. Absenoldebau salwch yn ôl oedran Mae Graff 4 yn dangos, yn y DU ar y cyfan, yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae cyfraddau salwch wedi gostwng, ac mai gweithwyr rhwng 50 a 64 oed sydd wedi gostwng fwyaf (1.7 pwynt canran) tra bod rhai dros 65 oed wedi gweld y gostyngiad lleiaf (0.5 pwynt canran). Ar y cyfan, mae’r graff yn dangos bod absenoldebau salwch yn cynyddu wrth i’r oedran gynyddu; credir bod pobl hŷn yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd tymor hir, ac felly, mae eu cyfraddau salwch yn uwch. Hefyd, mae’r graff yn dangos bod gan bobl sy’n gweithio y tu hwnt i oedran pensiwn (ar hyn o bryd, 65+ oed) gyfradd salwch is na gweithwyr rhwng 50 a 64 oed. Gall yr anghysondeb hwn weithio'r ddwy ffordd: mae angen i bobl rhwng 50 a 64 oed barhau i weithio hyd at oedran pensiwn er bod ganddynt broblemau iechyd, ac efallai bod gweithwyr sydd dros 65 oed yn dewis gweithio oherwydd eu bod yn iach, heb gymryd llawer o ddiwrnodau salwch. Gan ddefnyddio atchweliad rhesymegol o salwch, daw'r Swyddfa Ystadegau Gwladol[3] i’r casgliad fod “Gweithwyr rhwng 16 a 24 oed 46% yn llai tebygol o fod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch na gweithiwr rhwng 50 oed ac oedran pensiwn”. Graff 4: Cyfraddau absenoldeb salwch yn ôl grwpiau oedran, 1993 a 2013, y DU.
Swyddfa Ystadegau Gwladol – ‘Sickness Absence in the Labour Market’, Chwefror 2014
Mae Graff 5 yn dangos yn glir bod absenoldebau salwch GIG Cymru yn dilyn yr un tuedd â’r DU, sef bod y gyfradd absenoldeb salwch yn cynyddu ym mhob band oedran. Mae’r graff yn dangos bod y gyfradd absenoldeb salwch yn lleihau yn y band oedran 65+ ond nad yw’r gostyngiad mor sylweddol ag yn y DU.
Tudalen 12 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Graff 5: Absenoldeb salwch yn ôl band oedran, 2013/14, GIG Cymru
3.0%3.6%
4.4%4.8%
5.1% 5.3%5.9%
6.5%
7.6% 7.5% 7.2%
Age Band
NHS Wales Sickness Absence by Age Band 2013/14
Yn adran 3 a 4, gan gymharu GIG Cymru â Lloegr a rhanbarthau Lloegr, mae tabl 4 a 5 yn dangos bod gan GIG Cymru gyfradd absenoldeb salwch sy’n gyson uwch. Un ffactor posibl yw bod proffil oedran y gweithlu’n effeithio ar gyfraddau absenoldeb salwch. Mae Graff 5 yn dangos bod salwch yn cynyddu wrth i oedran gynyddu. Mae’r graffiau canlynol (6 a 7) yn edrych ar broffil oedran Cymru o gymharu â rhanbarthau Lloegr. Graff 6: Staff mewn swyddi yn ôl band oedran, GIG Cymru a’r cymharwyr
0%
5%
10%
15%
20%
25%
30%
35%
Under 29 30 - 39 40 - 49 50 - 59 60 & over
% F
TE -
Staf
f in
Pos
t
Percentage of Staff in Post by Age band
Wales England North East East Midlands
Mae proffil oedran staff sy’n gweithio i GIG Cymru yn amlwg yn wahanol i’r Gogledd Ddwyrain, Dwyrain y Canolbarth a GIG Lloegr (Graff 6). Yn y grŵp oedran dan 29 oed, mae gan Gymru rhwng 3.3% a 4.3% yn llai o staff na’r cymharwyr, tra bod gan Gymru rhwng 1.6% a 3.3% yn fwy o staff yn y band oedran 50-59 oed na’i gymharwyr. Mae dadansoddi pellach yn datgelu (Graff 7 a Thabl 7) wrth gymharu â holl ranbarthau GIG unigol Lloegr, mae gan Gymru gyfran dipyn yn llai o staff dan 29 oed, a chyfran dipyn yn uwch o staff rhwng 50 a 59 oed.
Tudalen 13 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Graff 7: Staff mewn swyddi o dan 29 oed a rhwng 50-59 oed, GIG Cymru a rhanbarthau Lloegr
0%
5%
10%
15%
20%
25%
30%%
FTE
Sta
ff in
Pos
t
Percentage of staff age under 29 and 50-59 by Region
Under 29 50 - 59
Tabl 7: Staff mewn swyddi yn ôl band oedran a rhanbarth
Rhanbarth Dan 29 30 - 39 40 - 49 50 - 59 Dros 60
Gogledd-ddwyrain 16.4% 22.5% 29.3% 26.6% 5.2%
Gogledd-orllewin 16.2% 23.3% 28.8% 26.3% 5.4%
Swydd Efrog a Humber 17.2% 22.7% 28.6% 26.2% 5.3%
Dwyrain y Canolbarth 17.1% 23.0% 29.2% 25.5% 5.2%
Gorllewin y Canolbarth 17.6% 23.3% 29.0% 24.7% 5.5%
Dwyrain Lloegr 18.1% 23.3% 27.4% 25.0% 6.2%
Llundain 18.2% 27.9% 26.9% 21.2% 5.8%
Arfordir y De-ddwyrain 17.1% 22.9% 27.9% 25.1% 6.9%
Canol y De 20.1% 23.9% 26.5% 23.6% 5.9%
De-orllewin 17.5% 22.3% 27.8% 26.4% 6.0%
Cymru 13.1% 21.8% 30.5% 28.2% 6.5%
Lloegr 17.3% 23.8% 28.2% 24.9% 5.7%
Mae Graff 8 yn edrych ar broffil oedran GIG Cymru yn 2010 a 2014. Yn 2014, mae rhagor o staff yn y band oedran 50-59 nac yn 2010 (4%, dros 3,000 o bobl yn fwy). Mae’r cynnydd yn y band oedran hwn yn amlwg ym mhob grŵp staff. Graff 8: Staff mewn swyddi yn ôl band, 2010 a 2014, GIG Cymru
14%
23%
32%
24%
6%12%
22%
30%28%
7%
Under 29 30 - 39 40 - 49 50 - 59 60 & over
Percentage of Staff in Post by Age Band
2010 2014
Tudalen 14 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Mae Graff 9 yn dangos mai Nyrsio a Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol sydd â’r cynnydd mwyaf yn staff yn y band oedran 50-59 oed. Gall y cynnydd hwn esbonio, yn rhannol, pam fod absenoldebau salwch yn adran 5 ‘Canran y dyddiau salwch FTE yn ôl grŵp staff a band cyflog’ ar gyfer y grwpiau staff hyn wedi cynyddu dros amser. Graff 9: Staff mewn swyddi rhwng 50-59 oed yn ôl grŵp staff, 2010 a 2014, GIG Cymru
0% 10% 20% 30% 40%
Medical & Dental
Add Prof Scientific & Technical
Allied Health Professionals
Healthcare Scientists
NHS Wales
Nursing and Midwifery Registered
Additional Clinical Services
Administrative & Clerical
Estates & Ancillary
Percentage of the workforce 50-59
2014 2010
O ystyried bod gan GIG Cymru broffil oedran uwch na’r holl ranbarthau GIG yn Lloegr, a bod proffil oedran GIG Cymru wedi cynyddu dros y pedair blynedd ddiwethaf, ymddengys fod oedran yn ffactor sy’n cyfrannu at gyfradd absenoldeb salwch uwch GIG Cymru. Os nad oes ymyriad arall, mae’n debygol y bydd cyfraddau salwch yn parhau i gynyddu. Mae hyn yn rhoi cyd-destun i bwysigrwydd ffrwd gwaith Adolygiad Gweithio’n Hirach y rhaglen waith gydweithredol adran y Gweithlu a Datblygu’r Sefydliad. Arweinir y gwaith hwn gan gyflogwyr y GIG, a bydd yn ystyried y sail dystiolaeth ymchwil ynghylch gweithio’n hirach a’r arferion gwaith a’r polisïau y gellir eu sefydlu er mwyn cynorthwyo gweithwyr hŷn. Er enghraifft, mae yna dystiolaeth bod gweithwyr hŷn yn manteisio o gyfnodau gwella hirach ar ôl gwneud gwaith corfforol ac oriau gwaith hir. O ystyried proffil oedran gweithlu’r GIG, bydd yn fwyfwy pwysig fod rheolwyr yn ystyried ffactorau o’r fath wrth lunio swyddi presennol a rhai’r dyfodol.
Tudalen 15 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
7. Absenoldebau salwch yn ôl band cyflog ac oedran
O’r dadansoddiad uchod (adran 4), rydym wedi gweld bod bandiau cyflog uwch yn dueddol o weld cyfraddau absenoldebau salwch is, a bod gan fandiau oedran uwch (adran 6) gyfraddau absenoldeb salwch uwch. Mae Tabl 8 yn dangos yn glir beth yw effaith y cydberthynas rhwng band cyflog ac oedran ar gyfraddau absenoldeb salwch. Mae’r ganran uchaf o absenoldebau salwch i’w gweld ymysg y staff hynaf sydd ar y band cyflog isaf. Er bod rhai ar fand 4 yn mynd yn groes i’r duedd o ran absenoldebau salwch is na’r cyfartaledd cenedlaethol, mae absenoldebau salwch ar gyfer Band 4 yn dal i gynyddu wrth i’r band oedran gynyddu. Mae’r chwarter uchaf ar ochr dde Tabl 8 yn dangos adran y gweithlu a fydd angen y mwyaf o gymorth wrth reoli salwch yn y dyfodol.
Tabl 8: Salwch yn ôl band cyflog a band oedran (2013/14)
Band Agenda ar gyfer Newid / Meddygol a Deintyddol
Dan 25
25 - 29
30 - 34
35 - 39
40 - 44
45 - 49
50 - 54
55 - 60
Dros 60
Band 1 5.7% 7.9% 6.9% 8.0% 6.7% 7.3% 7.8% 7.9% 11.4%
Band 2 4.6% 6.4% 7.0% 7.7% 7.4% 7.3% 7.7% 8.1% 9.0%
Band 3 3.8% 5.1% 5.7% 6.9% 6.8% 6.7% 6.8% 7.2% 8.3%
Band 4 2.5% 2.8% 4.3% 4.5% 4.5% 4.3% 5.4% 6.2% 6.8%
Band 5 1.9% 3.8% 5.5% 6.0% 6.2% 6.8% 7.3% 8.3% 10.0%
Band 6 1.1% 2.3% 3.7% 4.7% 4.6% 4.9% 6.1% 6.6% 6.7%
Band 7 1.0% 1.1% 2.3% 2.9% 3.2% 3.9% 4.6% 5.3% 6.2%
Band 8a 0.0% 1.6% 1.1% 2.5% 2.5% 2.8% 3.0% 3.5% 3.4%
Band 8b 0.0% 0.2% 0.8% 0.8% 2.7% 3.4% 3.0% 2.1% 2.2%
Band 8c 0.0% 0.0% 3.7% 0.4% 1.2% 2.0% 2.3% 2.3% 4.8%
Band 8d 0.0% 0.0% 0.0% 0.0% 2.3% 4.9% 1.8% 4.4% 3.1%
Band 9 0.0% 0.0% 0.0% 0.3% 0.5% 0.6% 0.9% 2.1% 5.6%
Meddygol a Deintyddol 0.7% 0.7% 0.8% 1.0% 1.6% 1.7% 2.1% 2.9% 3.0%
Band heb fod yn yr Agenda ar gyfer Newid 1.1% 0.4% 2.1% 0.8% 2.1% 1.3% 4.2% 2.6% 3.5%
Pob band cyflog 3.0% 3.6% 4.4% 4.9% 5.1% 5.4% 6.0% 6.7% 7.9% (Mae’r celloedd wedi’u lliwio yn dangos canlyniadau sydd dros y cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef 5.4%).
8. Absenoldebau Salwch yn ôl grŵp staff ac oedran
Mae lefelau absenoldebau salwch uchel yn amlwg yn y mwyafrif o grwpiau oedran, ond mae hyn yn arbennig o wir o fewn grwpiau staff Ystadau a Gwasanaethau Ategol a Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol. Mae gan y ddau grŵp staff hwn ganran uchel o weithwyr bandiau 1-3, a chanran uwch o weithwyr hŷn (gweler graff 9) na grwpiau staff eraill. Nid yw lefelau uchel absenoldebau salwch yn y grwpiau staff hyn yn peri syndod, o ystyried y canfyddiadau bod absenoldebau salwch yn uwch wrth i’r band oedran fynd yn hŷn a’r band cyflog fynd yn is (tabl 8). Mae hyn yn awgrymu nad dyma’r math o grŵp staff sy’n effeithio ar gyfraddau absenoldebau salwch, ond yn hytrach y proffil band. Daeth y Comisiwn Archwilio [1] i’r un casgliad, gan weld “bod gan absenoldebau salwch gysylltiad agos at radd y staff. Mae gan sefydliadau sydd â chyfran uwch o staff ar fandiau cyflog is gyfraddau absenoldeb salwch uwch”.
Tudalen 16 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Mae Tabl 9 yn atgyfnerthu effaith y proffil oedran – ym mron i bob achos, yr uchaf yw’r band oedran, yr uchaf yw’r gyfradd absenoldebau salwch.
Tabl 9: Salwch yn ôl grŵp staff ac oedran (2013/14)
Grŵp staff Dan 30 30 i 39 40 i 49 50 i 59 Dros 60
Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol – Gwyddonol a Thechnegol 2.8% 3.7% 4.3% 5.2% 7.6%
Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol 5.1% 7.1% 7.6% 8.3% 10.2%
Gweinyddol a Chlerigol 3.6% 3.9% 3.9% 4.8% 5.8%
Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd 1.8% 3.5% 5.0% 5.9% 8.8%
Ystadau a Gwasanaethau Ategol 6.5% 6.7% 6.2% 7.0% 8.9%
Gwyddonwyr Gofal Iechyd 2.1% 2.9% 2.7% 3.8% 3.6%
Meddygol a Deintyddol 0.7% 0.9% 1.6% 2.5% 3.0%
Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig 3.9% 5.8% 5.7% 6.7% 8.5%
Pob grŵp staff 3.5% 4.7% 5.2% 6.3% 7.9% (Mae’r celloedd wedi’u lliwio yn dangos canlyniadau sydd dros y cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef 5.4%).
9. Absenoldebau salwch yn ôl rhywedd ac oedran
Mae adroddiad yr ONS, ‘Sickness Absence in the Labour Market’, Chwefror 2014, [3] yn nodi bod menywod 42% yn fwy tebygol o gymryd amser o’r gwaith oherwydd salwch na dynion. Mae Graff 10 yn dangos bod gan ddynion gyfradd absenoldebau salwch sy’n gyson is na menywod. Fodd bynnag, mae’r ddau ryw wedi gweld gostyngiad yn eu cyfraddau absenoldeb salwch dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. Mae ymchwil a wnaed gan y Sefydliad Gwaith (2014) yn dangos bod “Presenoliaeth yn llawer uwch mewn dynion na menywod. Maen nhw’n llawer mwy tebygol o fynd i’r gwaith pan fyddant yn sâl, sy’n gallu arwain at ganlyniadau tymor hir – efallai na fydd cyflyrau yn cael diagnosis” ac “Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn brif ofalwr, p’un a yw hynny am blentyn neu berthynas hŷn”. Felly, er y gellir cymharu salwch rhwng y rhywiau, mae’n anochel y bydd ffactorau cymdeithasol yn effeithio ar y cyfraddau. Graff 10: Cyfraddau absenoldebau salwch ar gyfer dynion a menywod, 1993 i 2013, y DU.
Swyddfa Ystadegau Gwladol – ‘Sickness Absence in the Labour Market’, Chwefror 2014
Tudalen 17 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Mae Graff 11 yn dangos bod absenoldebau salwch GIG Cymru yn cynyddu yn ôl oedran, a bod dynion yn cymryd llai o ddyddiau salwch o gymharu â menywod. Mae absenoldebau salwch ar y cyfan wedi cynyddu yn y ddau ryw yn y pedair blynedd diwethaf, 4 pwynt canran i fenywod a 2 bwynt canran i ddynion. Ar y cyfan, nid yw patrwm absenoldebau salwch wedi newid rhyw lawer dros y pedair blynedd diwethaf, ond mae cyfraddau salwch wedi cynyddu ychydig. Mae’r bwlch absenoldeb salwch mwyaf yn 2013/14 rhwng dynion a menywod yn ymddangos yn y grŵp 30-44 oed, a byddai hyn yn cyd-fynd â’r sylwadau a wnaed gan y Sefydliad Gwaith: “Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn brif ofalwr, p’un a yw hynny am blentyn neu berthynas hŷn”. Gall y ffaith nad yw’r patrymau salwch hyn wedi newid fod yn arwydd nad yw polisïau gweithio hyblyg yn cael eu gweithredu’n llawn, neu nad yw arferion cymdeithasol wedi newid o fewn sefydliadau.
Graff 11: Salwch yn ôl band oedran a rhywedd
0%
1%
2%
3%
4%
5%
6%
7%
8%
9%
Under 25 25 - 29 30 - 34 35 - 39 40 - 44 45 - 49 50 - 54 55 - 60 Over 60
% S
ickn
ess
Sickness by Age Band and Gender 2010/11 and 2013/14
Female 2010/11 Male 2010/11 Female 2013/14 Male 2013/14
Tudalen 18 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
10. Rhesymau am salwch fel canran o’r holl salwch, 2013/14 Mae’r graff isod yn dangos y rhesymau dros absenoldebau salwch. Mae’r pum rheswm uchaf yn cyfrif am 76% o’r holl absenoldenau salwch yn GIG Cymru. Fodd bynnag, mae “Rheswm arall hysbys” ac “Achosion anhysbys/heb ei nodi” yn cyfrif am 21%, sy’n gwneud dadansoddi salwch yn fanwl yn anodd. Y ddau brif reswm am absenoldebau salwch yw problemau cyhyrysgerbydol (25%) a gorbryder/straen/problemau seiciatrig eraill (23%). Gan ystyried bod y rhesymau hyn yn cyfrif am bron i 50% o’r holl salwch, mae’r tablau a’r graffiau isod yn rhoi dadansoddiad mwy manwl. Graff 12: Crynodeb o resymau salwch, 2013/14, GIG Cymru
0.0%
0.4%
0.6%
1.3%
2.2%
2.3%
2.3%
3.0%
3.7%
4.1%
4.4%
7.0%
7.6%
12.9%
23.1%
25.0%
Substance Abuse
Dental
Infectious diseases
Headache / Migraine
Heart / Circulatory
Ear, nose, throat (ENT)
Pregancy Related
Cancer
Chest / Respiratory
GUM / Gynae
Cold / Influenza
Gastrointestinal problems
Unknown Causes / Not Specified
Other Known cause
Anxiety / Stress / Other psychiatric illnesses
Musculoskeletal
% of total sickness
Reasons for sickness 2013/14
Mae rhai o’r rhesymau wedi cael eu grwpio/crynhoi. Gweler Atodiad 1: Crynodeb o resymau salwch
Tudalen 19 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
11. Proffil hanesyddol tair blynedd o absenoldebau salwch cyhyrysgerbydol Mae Graff 13 yn canolbwyntio ar absenoldebau salwch cyhyrysgerbydol yn ôl grŵp staff. Nid yw mwyafrif y grwpiau staff yn dangos unrhyw newidiadau arwyddocaol yn eu rhesymau dros absenoldeb salwch, fodd bynnag, mae Ystadau a Gwasanaethau Ategol, Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i gyd yn dangos lefelau uchel o absenoldebau salwch cyhyrysgerbydol, a bob blwyddyn, mae dros 25% o’r rhesymau salwch yn y categori hwn. Mae cymharu 2012/13 â 2013/14 yn dangos bod y lleihad mwyaf mewn absenoldebau salwch cyhyrysgerbydol yn y Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol Gwyddonol a Thechnegol, a welodd leihad o 4.5 pwynt canran, ac roedd y cynnydd mwyaf yn Ystadau a Gwasanaethau Ategol, a welodd gynnydd o 2.9 pwynt canran. (Gweler Atodiad 2: Tabl data proffil hanesyddol tair blynedd). Graff 13: Proffil salwch tair blynedd ar gyfer salwch cyhyrysgerbydol yn ôl grŵp staff
0% 5% 10% 15% 20% 25% 30% 35%
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Add Prof Scientific and Technic
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Additional Clinical Services
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Administrative and Clerical
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Allied Health Professionals
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Estates and Ancillary
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Healthcare Scientists
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Medical and Dental
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Nursing and Midwifery Registered
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
All Staff
Percentage of Musculoskeletal-related sick absence by Staff Group 2010 - 2013
Tudalen 20 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
12. Proffil hanesyddol tair blynedd o absenoldebau salwch yn ymwneud â gorbryder/straen/problemau seiciatrig eraill
Mae Graff 14 yn dangos canrannau’r salwch sy’n ymwneud â straen yn ôl pob grŵp staff dros y tair blynedd diwethaf, sef 2011/12 i 2013/14. Graff 14: Proffil salwch tair blynedd ar gyfer salwch yn ymwneud â straen yn ôl grŵp staff
0% 5% 10% 15% 20% 25% 30%
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Add Prof Scientific and Technic
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Additional Clinical Services
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Administrative and Clerical
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Allied Health Professionals
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Estates and Ancillary
2010 / 2011
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Healthcare Scientists
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Medical and Dental
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
Nursing and Midwifery Registered
2011 / 2012
2012 / 2013
2013 / 2014
All Staff
Stress related sick absence by Staff Group 2010 - 2013
Gellir gweld bod mwyafrif y grwpiau staff wedi dangos cynnydd mewn salwch yn ymwneud â straen dros y tair blynedd diwethaf. Y grwpiau staff Gweinyddol a Chlercaidd a Nyrsio a Bydwreigiaeth oedd â’r cyfraddau salwch uchaf yn y categori hwn, gan gyfrif am dros 20% o’r holl absenoldebau salwch bob blwyddyn. Yn 2013/14, y grŵp Meddygol a Deintyddol a welodd y gostyngiad mwyaf mewn salwch yn ymwneud â straen, ond gan fod y grŵp staff hwn yn dangos cyfradd salwch o 1.5% yn unig ar y cyfan, gall newidiadau bach gael effaith sylweddol. Gan gymharu’r canlyniadau dros y blynyddoedd 2012/13 i 2013/14, mae grwpiau staff Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol Gwyddonol a Thechnegol a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn dangos cynnydd o 6 pwynt canran o ran salwch yn ymwneud â straen. Mae angen archwilio’r rhesymau posibl dros y cynnydd hwn yn llawn. (Gweler Atodiad 2: Tabl data proffil hanesyddol tair blynedd).
Tudalen 21 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Atodiad
1. Crynodeb o resymau salwch Rhesymau salwch – Cofnod Staff Electronig DW Crynodeb/Grŵp
Gorbryder / straen / iselder / salwch seiciatrig arall Gorbryder / straen / salwch seiciatrig arall
Straen Gorbryder / straen / salwch seiciatrig arall
Anhwylderau meddwl eraill Gorbryder / straen / salwch seiciatrig arall
Problemau cefn Cyhyrysgerbydol
Tiwmor anfalaen a malaen, canser Canser
Cancer Canser
Problemau anadlu a’r frest Anadlu / y frest
Asthma Anadlu / y frest
Anadlu Anadlu / y frest
Annwyd, peswch, ffliw Annwyd / ffliw
Annwyd Annwyd / ffliw
Ffliw Annwyd / ffliw
Problemau â’r dannedd a’r geg Deintyddol
Y ddannoedd Deintyddol
Clust, trwyn a gwddf (CTG) Clust, trwyn a gwddf (CTG)
Clust, trwyn a gwddf Clust, trwyn a gwddf (CTG)
Problemau gastroberfeddol Problemau gastroberfeddol
Dolur rhydd / chwydu Problemau gastoberfeddol
Gastroberfeddol Problemau gastroberfeddol
Anhwylderau cenhedlol-droethol a gynaecolegol Meddygaeth genhedlol-droethol / gynaecolegol
Cenhedlol-droethol Meddygaeth genhedlol-droethol / gynaecolegol
Gynaecolegol Meddygaeth genhedlol-droethol / gynaecolegol
Cur pen / meigryn Cur pen / meigryn
Cur pen / meigryn Cur pen / meigryn Problemau cardiaidd ac yn ymwneud â’r galon a’r cylchrediad Y galon / cylchrediad
Cyflyrau cardiaidd Y galon / cylchrediad
Clefydau heintus Clefydau heintus
Heintiau Clefydau heintus
Anaf, torri asgwrn Cyhyrysgerbydol
Problemau cyhyrysgerbydol eraill Cyhyrysgerbydol
Cyhyrysgerbydol – y cefn Cyhyrysgerbydol
Cyhyrysgerbydol – cymal/aelod arall Cyhyrysgerbydol
Cyhyrysgerbydol – y gwddf Cyhyrysgerbydol Achos hysbys arall – heb ei gynnwys yn un o’r categorïau eraill Achos hysbys arall
Anhwylderau gwaed Anhwylderau gwaed
Anhwylderau system nerfol Anhwylderau system nerfol
Llosgiadau, gwenwyno, ewinrhew, hypothermia Llosgiadau, gwenwyno, ewinrhew, hypothermia
Problemau â’r llygaid Problemau â’r llygaid
Anhwylderau croen Anhwylderau croen
Problemau endocrin / chwarennol Problemau endocrin / chwarennol
Niwrolegol Niwrolegol
Seicolegol Seicolegol
Tudalen 22 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Dermatolegol Anhwylderau croen
Anhwylder gwaed Anhwylderau gwaed
Y llygaid Problemau â’r llygaid
Pwysedd gwaed uchel Pwysedd gwaed uchel
Anhwylderau yn ymwneud â beichiogrwydd Yn ymwneud â beichiogrwydd
Yn ymwneud â beichiogrwydd Yn ymwneud â beichiogrwydd
Camddefnyddio sylweddau Camddefnyddio sylweddau
Llawdriniaeth Llawdriniaeth
Achosion anhysbys / heb eu nodi Achosion anhysbys / heb eu nodi
Anhysbys Achosion anhysbys / heb eu nodi
Tudalen 23 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
2. Proffil hanesyddol tair blynedd o salwch yn ymwneud â straen a phroblemau
cyhyrysgerbydol
Salwch yn ymwneud â straen 2011 / 2012 2012 / 2013 2013 / 2014
Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol Gwyddonol a Thechnegol 18.7% 20.9% 26.8%
Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol 18.6% 18.1% 21.5%
Gweinyddol a Chlercaidd 22.3% 25.6% 26.6%
Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd 15.3% 14.4% 20.6%
Ystadau a Gwasanaethau Ategol 15.9% 16.3% 19.2%
Gwyddonwyr Gofal Iechyd 20.6% 16.3% 18.2%
Meddygol a Deintyddol 21.9% 24.5% 16.9%
Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig 21.3% 22.8% 24.7%
Yr holl staff 19.7% 20.6% 23.0%
Salwch cyhyrysgerbydol 2011 / 2012 2012 / 2013 2013 / 2014
Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol Gwyddonol a Thechnegol 21.7% 24.9% 20.5%
Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol 28.2% 28.3% 29.0%
Gweinyddol a Chlercaidd 19.6% 18.6% 20.1%
Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd 27.8% 28.2% 27.0%
Ystadau a Gwasanaethau Ategol 28.7% 27.8% 30.8%
Gwyddonwyr Gofal Iechyd 19.3% 18.6% 19.6%
Meddygol a Deintyddol 18.7% 17.0% 18.9%
Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig 22.1% 21.2% 22.9%
Yr holl staff 24.3% 23.8% 25.0%
Tudalen 24 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015
Cyfeiriadau [1] Y Comisiwn Archwilio, Managing sickness absence in the NHS Health briefing, Chwefror 2011 [2] Gweithio’n wahanol, gweithio law yn llaw, Ymgysylltu â’ch staff: adnodd ymgysylltu â staff GIG Cymru [3] Swyddfa Ystadegau Gwladol, Full Report: Sickness Absence in the Labour Market, Chwefror 2014