24
Tudalen 1 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru

Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 1 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru

Page 2: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Mae cymharu 2010/11 â 2013/14 yn ôl sefydliad yn dangos bod salwch wedi cynyddu ar y cyfan, nad oes unrhyw sefydliad wedi llwyddo i leihau salwch, ac mai dau sefydliad yn unig sydd wedi aros ar yr un lefel.

Mae gan boblogaethau sydd â lefelau amddifadedd uchel iechyd gwaeth. Y tri Bwrdd Iechyd Prifysgol sydd â’r cyfraddau salwch uchaf yw Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf. Mae gan yr ardaloedd daearyddol hyn rai o’r sgorau amddifadedd uchaf hefyd. Mae ymchwil yn dangos lle bo sgorau ymgysylltu yn uwch, roedd sgorau iechyd a llesiant y staff hefyd yn sylweddol uwch, ac yn is ar gyfer absenoldebau staff. Yng Nghymru, mae gan y sefydliad sydd â’r lefelau ymgysylltu staff isaf y lefelau salwch uchaf, ac mae gan y ddau sefydliad sydd â sgorau ymgysylltu staff dros 60 lefelau salwch dan 5%. Mae gan Gymru un o’r cyfraddau salwch uchaf ar y cyfan (pob cyflogwr) yn y DU. Y ddau ranbarth sydd â’r cyfraddau tebycaf yw Dwyrain Canolbarth Lloegr a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Mae absenoldebau salwch yn uwch mewn bandiau tâl is (bandiau 1-3). Y grŵp staff sydd â’r amrywiaeth fwyaf rhwng Cymru a Lloegr o ran cyfraddau salwch yn y GIG yw’r adran Ystadau a Gwasanaethau Ategol (gwahaniaeth o 1.7%), o bosibl o ganlyniad i’r defnydd o gontractau allanol yn Lloegr. GIG Cymru sydd â’r ganran fwyaf o’r gweithlu yn gweithio yn yr adrannau Ystadau a Gwasanaethau Ategol, sef 9% o ganlyniad i 5% yn Lloegr. Mae’r ONS wedi darganfod bod gweithwyr 16-24 oed 46% yn fwy tebygol o gymryd absenoldeb salwch na gweithwyr rhwng 50 oed ac oedran pensiwn. Un ffactor sy’n cyfrannu at gyfraddau salwch uwch yn GIG Cymru yw proffil oedran y gweithlu. Yn y grŵp dan 29 oed, mae gan Gymru 4.3% yn llai na chymharwyr, ac yn y band oedran 50-59, mae 1.6-3.3% yn fwy o staff. Mae proffil oedran GIG Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd gwaith yr Adolygiad Gweithio’n Hirach wrth ddatblygu arferion gwaith a pholisïau ymddeol priodol er mwyn cynorthwyo gweithwyr hŷn. Band 5 yn y grŵp staff Nyrsio a Bydwreigiaeth sy’n cyfrif am ran fwyaf y dyddiau absenoldeb salwch. Er bod hwn yn grŵp mawr o staff, mae’r cyfraniad y mae’n ei wneud i gyfraddau salwch yn anghymesur, ac mae wedi cynyddu o ran y cyfraniad hwn dros y pedair blynedd ddiwethaf. Y ddau brif reswm am absenoldebau salwch yw problemau cyhyrysgerbydol (25%) a gorbryder/straen/problemau seiciatrig eraill (23%). Mae achosion anhysbys a heb eu nodi yn cyfrif am 21% o absenoldebau salwch. Er nad yw mwyafrif y grwpiau staff yn dangos unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y rhesymau dros absenoldeb salwch, bu cynnydd o 2.9% mewn salwch cyhyrysgerbydol ymysg staff Ystadau a Gwasanaethau Ategol, a chynnydd o 6% mewn gorbryder/straen/problemau seiciatrig eraill ymysg Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gweithwyr Proffesiynol Gwyddonol Ychwanegol.

Page 3: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 3 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru 1. Cyflwyniad Mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar gyfraddau absenoldeb salwch yn GIG Cymru, a’u cymharu â chyfraddau absenoldebau salwch yn rhanbarthau Dwyrain Canolbarth Lloegr a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Dewiswyd y rhanbarthau hyn ar gyfer cymharu oherwydd amlygwyd bod ganddynt yr un gyfradd salwch â Chymru ar gyfer y farchnad lafur gyfan, a amlygwyd gan yr ONS [1]. Gall amrywiaeth o ffactorau ddylanwadu ar gyfradd absenoldebau salwch GIG Cymru, fel: proffil grŵp staff, lleoliad daearyddol/amddifadedd, grŵp oedran, band cyflog, ymgysylltu â staff a rhywedd. Mae’r dadansoddiad yn archwilio’r rhesymau a roddwyd am yr absenoldeb salwch h.y. salwch yn ymwneud â straen, a salwch cyhyrysgerbydol. Mae gan sefydliadau amrywiaeth o gamau yn eu lle er mwyn cynorthwyo wrth wella iechyd a llesiant, ac i leihau absenoldebau salwch. Mae hyn yn cynnwys ystod o adnoddau a grëwyd fel rhan o’r rhaglen Gweithio’n Wahanol, Gweithio Law yn Llaw. Yr adnodd diweddaraf yw Pecyn Cymorth Rhyngweithiol Iechyd a Llesiant Seicolegol Staff, a ddatblygwyd gan seicolegwyr clinigol, a gafodd ei ryddhau yn ddiweddar. Er mwyn cydnabod pwysigrwydd iechyd a llesiant staff, mae’r ffrwd waith honno wedi parhau fel ffrwd waith dros Gymru gyfan, hyd yn oed ar ôl cau’r rhaglen Gweithio’n wahanol, gweithio gyda’n gilydd, a arweinir gan un o Gyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu’r Sefydliad. Ffynonellau data: Cafwyd y graffiau a’r tablau sy’n dangos data am Loegr o iView, a chafwyd y graffiau a’r tablau sy’n dangos data am Gymru yn unig o ESR Data Warehouse (DW). Nid yw’r amrywiaeth mewn ffynonellau data yn effeithio ar y canlyniadau, gan fod y data o iView yn dod o DW. O ganlyniad i gyfyngiadau DW, nid yw’r adroddiad yn archwilio’r rhaniad rhwng absenoldebau salwch tymor hir a thymor byr, nac yn edrych ar berthynas hyd yr absenoldebau salwch.

Page 4: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 4 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

2. Cyfraddau Absenoldebau Salwch Sefydliadau GIG Cymru Gellir gweld o dablau 1 a 2 bod cyfraddau absenoldebau salwch yn amrywio’n fawr trwy gydol sefydliadau GIG Cymru. Yn ystod 2013/2014, amrywiodd cyfraddau salwch rhwng 7.6% a 3.4% rhwng y sefydliadau. Tabl 1: Salwch fesul sefydliad 2013/2014

Tabl 2: Salwch fesul sefydliad 2010/2011

Sefydliad % dyddiau salwch fte

Sefydliad % dyddiau salwch fte

BILlP Abertawe Bro Morgannwg

5.9%

BILlP Abertawe Bro Morgannwg 5.3%

BILlP Aneurin Bevan 5.3%

BILlP Aneurin Bevan 5.3%

BILlP Betsi Cadwaladr 5.0%

BILlP Betsi Cadwaladr 4.6%

BILlP Caerdydd a’r Fro 5.7%

BILlP Caerdydd a’r Fro 5.2%

BILlP Cwm Taf 5.6%

BILlP Cwm Taf 5.4%

BILlP Hywel Dda 4.9%

BILlP Hywel Dda 4.9%

BILl Addysgu Powys 4.9%

BILl Addysgu Powys 4.5%

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

3.4%

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru 3.3%

Ymddiriedolaeth GIG Felindre 3.7%

Ymddiriedolaeth GIG Felindre 3.6%

Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

7.6%

Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 6.6%

GIG Cymru 5.4%

GIG Cymru 5.1%

Y gyfradd absenoldeb salwch dros 12 mis ar gyfer 2010/11 oedd 5.1%, ac erbyn 2013/14, roedd y gyfradd wedi codi 0.3 y cant i 5.4%. Mae cymharu 2010/11 â 2013/14 yn ôl sefydliad yn dangos bod salwch wedi cynyddu ar y cyfan, nad oes unrhyw sefydliad wedi llwyddo i leihau salwch, ac mai dau sefydliad yn unig sydd wedi aros ar yr un lefel. Y cynnydd mwyaf yn y ganran oedd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a gododd ei gyfradd salwch o 6.6.% i 7.6%. Nodir bod gan Ymddiriedolaethau Ambiwlans yn Lloegr gyfraddau salwch uwch na sefydliadau eraill yn y GIG, sydd â chyfartaledd 1.7% yn uwch na’r rhanbarth lle mae wedi ei leoli. Y tri Bwrdd Iechyd Prifysgol sydd â’r cyfraddau salwch uchaf yw Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf. Mae gan yr ardaloedd daearyddol hyn rai o’r sgorau amddifadedd uchaf hefyd (gweler Ffigwr 1: Diagram o Amddifadedd Cymru). Cawn ar ddeall fod gan boblogaethau â lefelau amddifadedd uchel iechyd gwaeth a lefelau uwch o gyflyrau cronig. Mae presenoldeb y boblogaeth leol yn y gweithlu yn debygol o gynyddu’r duedd ar gyfer salwch yn y gweithlu. Mae dadansoddiad gan y Comisiwn Archwilio [1] yn nodi bod gan ‘ardaloedd difreintiedig lefelau uwch o absenoldebau salwch’, a hefyd, ‘Mae amddifadedd ar ei ben ei hun yn esbonio 17 y cant o’r amrywiaeth rhwng ymddiriedolaethau a 6 y cant mewn Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol’. Mae hyn yn dangos er nad amddifadedd yw’r unig ffactor sy’n cyfrannu at salwch ar y cyfan, gall fod yn ffactor sylweddol.

Page 5: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 5 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Ffigwr 1: Diagram o Amddifadedd Cymru

Mae Tabl 3 yn dangos sgorau ymgysylltu staff pob sefydliad, sydd wedi ei dynnu o Arolwg Staff GIG Cymru o 2013. Y sefydliad sydd â’r lefel isaf o ymgysylltu â staff sydd â’r gyfradd salwch uchaf, ac mae gan y ddau sefydliad sydd â sgorau ymgysylltu â staff dros 60 lefelau salwch dan 5%. Mae adnodd GIG Cymru, ‘Engaging your staff: the NHS Wales staff engagement resource [2]’ yn datgan ‘Mae ymchwil yn dangos lle bo sgorau ymgysylltu yn uwch, roedd sgorau iechyd a llesiant y staff hefyd yn sylweddol uwch, ac yn is ar gyfer absenoldebau staff’. Felly, credir y gall lefelau ymgysylltu staff fod yn ffactor sy’n cyfrannu at gyfraddau absenoldebau staff. Tabl 3: Mynegai Ymgysylltu â Staff 2013 a Salwch Staff 2013/14

Sefydliad Mynegai ymgysylltu (2013)

Salwch 2013/2014

BILl Addysgu Powys 67 4.9%

Ymddiriedolaeth GIG Felindre 61 3.7%

BILlP Abertawe Bro Morgannwg 57 5.9%

BILlP Aneurin Bevan 55 5.3%

BILlP Caerdydd a’r Fro 55 5.7%

BILlP Hywel Dda 55 4.9%

BILlP Cwm Taf 54 5.6%

BILlP Betsi Cadwaladr 52 5.0%

Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru 43 7.6%

Page 6: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 6 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

3. Absenoldeb salwch yn ôl grŵp staff a rhanbarth Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi creu adroddiad sy’n edrych ar absenoldebau salwch yn y farchnad lafur gyfan [3]. Mae Ffigwr 2 yn dangos cyfraddau salwch ar gyfer yr holl farchnad lafur yn ôl rhanbarth. Gellir gweld mai Cymru sydd â’r cyfraddau salwch uchaf ar y cyfan yn y DU. Y ddau ranbarth sydd â’r cyfraddau salwch tebycaf i Gymru yw Dwyrain Canolbarth Lloegr a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Felly, wrth gymharu cyfraddau absenoldebau salwch o fewn GIG Cymru, bydd y papur hwn yn cymharu GIG Cymru â Dwyrain Canolbarth Lloegr a’r Gogledd Ddwyrain yng ngweddill y papur hwn, ynghyd â GIG Lloegr ar y cyfan. Ffigwr 2: Cyfraddau salwch y farchnad lafur ledled Prydain Fawr

Isod, mae Tabl 4 yn dangos bod cyfraddau absenoldebau GIG Cymru ar y cyfan 1.5% yn uwch na GIG Lloegr. Wrth gymharu’r salwch â’r cymharwyr yn Lloegr (y Gogledd Ddwyrain, Dwyrain y Canolbarth), mae Cymru dros 1% yn uwch. Tabl 4: Grŵp Staff yn ôl Gwlad/Rhanbarth 2013/14

Cymru Lloegr Gogledd Ddwyrain

Dwyrain y Canolbarth

Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol 7.7% 6.1% 6.3% 6.1%

Ystadau a Gwasanaethau Ategol 7.2% 5.5% 5.5% 5.1%

Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig 6.0% 4.5% 4.8% 4.6%

Gweinyddol a Chlercaidd 4.3% 3.4% 3.6% 3.4%

Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd 4.3% 3.1% 3.5% 3.4%

Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol – Gwyddonol a Thechnegol 4.2% 3.3% 3.5% 3.4%

Gwyddonwyr Gofal Iechyd 3.0% 2.6% 2.9% 2.4%

Meddygol a Deintyddol 1.5% 1.2% 1.4% 1.3%

Pob grŵp staff 5.5% 4.0% 4.4% 4.2% (Mae’r celloedd wedi’u lliwio yn dangos canlyniadau sydd dros y cyfartaledd am y rhanbarth/gwlad).

Gellir gweld bod y cyfraddau salwch uchaf yn amlwg mewn grwpiau staff tebyg trwy gydol y rhanbarthau, ond, mae Cymru’n uwch na’r rhanbarthau eraill. Y grŵp staff sydd â’r amrywiaeth salwch uchaf gyda Chymru yw Ystadau a Gwasanaethau Ategol, gyda gwahaniaeth o 1.7% ar

Page 7: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 7 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

gyfer Lloegr a’r Gogledd-ddwyrain a 2.1% ar gyfer Dwyrain y Canolbarth. Un rheswm posibl sydd wedi cyfrannu at yr amrywio hwn yw bod rhai rhanbarthau yn Lloegr yn defnyddio contractau allanol ar gyfer y gweithlu Ystadau a Gwasanaethau Ategol, lle nad yw GIG Cymru wedi gwneud hynny. Trwy ddefnyddio contractau allanol, ni fydd canran fawr o gyfraddau salwch Ystadau a Gwasanaethau Ategol yn ymddangos yn y dadansoddiadau ar gyfer Lloegr. Mae Graff 1 yn dangos bod gan GIG Cymru wahaniaeth sylweddol o ran canran o gymharu â rhanbarthau Lloegr. Graff 1: Canran y gweithlu sy’n gweithio yn yr adran Ystadau a Gwasanaethau Ategol yn ôl Gwlad/Rhanbarth

0% 2% 4% 6% 8% 10%

London

South Central

East of England

England

West Midlands

East Midlands

North West

North East

South East Coast

South West

Yorkshire and the Humber

Wales

Percentage of the workforce in Estates and Ancillary

Y ddau grŵp staff arall sy’n dangos mwy na 1% o amrywiaeth gyda GIG Cymru yw Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol, lle mae gan GIG Cymru gyfradd salwch 1.4% yn uwch, a Nyrsys a Bydwragedd, lle mae gan GIG Cymru gyfradd salwch 1.3% yn uwch. Mae cyfran y gweithlu yn y ddau grŵp staff yn debyg trwy gydol y rhanbarthau, felly mae’n bosibl bod ffactorau eraill yn cyfrannu at y cynnydd yng nghyfraddau salwch GIG Cymru. Caiff rhai o’r ffactorau hyn eu harchwilio mewn adrannau eraill yn yr adroddiad hwn.

Page 8: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 8 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

4. Absenoldeb salwch yn ôl band cyflog a rhanbarth Mae Tabl 5 yn dangos bod absenoldebau salwch yn fwy amlwg yn y bandiau cyflog is, h.y. Bandiau 1 i 3, sy’n arwyddocaol gan fod Ystadau a Gwasanaethau Ategol a Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol yn cyfrif am y bandiau hyn yn bennaf. Byddai hyn yn helpu i esbonio proffil salwch yn nhabl 4. Nodir hefyd bod salwch yn uchel ym Mand 5, ac yn llai amlwg ym mand 4. Mae’r Comisiwn Archwilio[1] yn nodi’r un patrwm ac yn dod i’r casgliad “efallai bod ysbryd a gallu rheoli ei waith ei hun hefyd yn cyfrannu”. Ym Mand 6 ac uwch, mae cyfraddau salwch yn is ym mhob rhanbarth. Yn gyffredinol, gellir gweld bod tuedd yma – yr uchaf yw’r band, yr isaf yw’r gyfradd absenoldeb salwch, ac mae hyn i’w weld ym mhob rhanbarth. Tabl 5: Salwch yn ôl band cyflog a rhanbarth 2013/14

Cymru Lloegr Y Gogledd Ddwyrain

Dwyrain y Canolbarth

Band 1 8.1% 5.7% 6.1% 5.4%

Band 2 7.6% 5.7% 5.8% 5.7%

Band 3 6.8% 5.4% 5.8% 5.2%

Band 4 4.9% 4.2% 4.1% 4.1%

Band 5 6.1% 4.5% 4.9% 4.7%

Band 6 5.0% 3.9% 4.0% 3.8%

Band 7 4.0% 3.0% 3.4% 3.2%

Band 8a 2.7% 2.3% 2.6% 2.5%

Band 8b 2.5% 2.0% 2.2% 2.3%

Band 8c 2.1% 1.9% 2.7% 1.6%

Band 8d 2.8% 1.4% 1.6% 1.5%

Band 9 1.4% 1.1% 1.4% 2.0%

Ddim yn rhan o’r Agenda ar gyfer Newid 2.6% 3.0% 2.4% 2.7%

Meddygol a Deintyddol 1.5% 1.2% 1.4% 1.3%

Pob grŵp staff 5.5% 4.0% 4.4% 4.2% (Mae’r celloedd wedi’u lliwio yn dangos canlyniadau sydd dros y cyfartaledd ar gyfer y rhanbarth/gwlad).

Mae Graff 2 yn dangos y cydberthynas rhwng cyfraddau salwch uwch a lefel y band cyflog. Nodir hefyd bod mwyafrif y bandiau cyflog yn GIG Cymru yn dangos cyfraddau salwch uwch na’r cymharwyr yn Lloegr, a bod gan Fandiau 1 i 3 lefelau absenoldeb salwch sylweddol uwch na’r bandiau hynny yn Lloegr.

Page 9: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 9 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Graff 2: Salwch yn ôl band cyflog a rhanbarth

0%

1%

2%

3%

4%

5%

6%

7%

8%

9%

Band 1 Band 2 Band 3 Band 4 Band 5 Band 6 Band 7 Band8a

Band8b

Band 8c Band8d

Band 9 NonAfC

M & D

% S

ickn

ess

Rat

e

Impact of pay band on sickness absence rate

Wales

England

North East

East Midlands

Wrth ystyried mai Bandiau 1-3 sydd â’r cyfraddau absenoldeb salwch uchaf, gwnaed dadansoddiadau ychwanegol er mwyn edrych ar y gyfran o staff ar Fandiau 1-3 yn rhanbarthau Lloegr a Chymru (Graff 3). Mae cyfran y staff sydd ar Fandiau 1-3 yn amrywio rhwng 20% a 33%, a GIG Cymru yw’r uchaf ond dau (32%). O gymharu â GIG Lloegr, mae gan GIG Cymru gyfran uwch o weithwyr Band 1-3 (3.6 pwynt canran). O bosibl, gall hyn fod yn ffactor sy’n cyfrannu at y rheswm fod gan Gymru gyfradd absenoldeb salwch uwch na GIG Lloegr. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae GIG Cymru wedi bod yn lleihau Bandiau 1-3 ac yn cynyddu’r bandiau uwch. O bosibl, yn y dyfodol, bydd gan GIG Cymru broffil band tebyg i’r cyfartaledd yn Lloegr. Graff 3: Staff mewn swyddi Band 1-3 yn ôl rhanbarth

0%

5%

10%

15%

20%

25%

30%

35%

Yorkshire& the

Humber

NorthEast

Wales SouthWest

EastMidlands

NorthWest

SouthEast

Coast

WestMidlands

England SouthCentral

East ofEngland

London

% F

TE -

Staf

f in

Post

Percentage of staff in Bands 1 to 3 by Region

Page 10: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 10 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

5. Canran y diwrnodau salwch cyfwerth ag amser llawn (CALl) yn ôl grŵp staff a band cyflog

Mae’r ffigyrau yn nhabl 6 yn seiliedig ar nifer y diwrnodau absenoldebau salwch CALl yn GIG Cymru yn ôl pob grŵp staff a band cyflog, ac wedi ei droi yn ganran o’r holl ddyddiau salwch a gymerwyd. Mae nifer y staff yn y swydd yn dylanwadu’n fawr ar ganrannau salwch, felly, yn rhesymegol, mae’n dilyn mai’r mwyaf o staff sydd yn y swydd, y mwyaf o ddyddiau salwch y byddant yn eu cyfrannu. Felly, petai absenoldeb salwch yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal, teg fyddai disgwyl y canlynol: petai grŵp staff penodol yn cyfrif am 20% o’r gweithlu, byddant hefyd yn cyfrif am 20% o’r diwrnodau salwch. Mae Tabl 6 yn rhoi arwydd i ni o ble gall sefydliad droi ei sylw wrth leihau absenoldebau salwch. Y nyrsys a’r bydwragedd ar fand 5 sy’n cyfrif am y mwyaf o absenoldebau salwch. Mae hyn i’w ddisgwyl, oherwydd eu bod nhw hefyd yn cyfrif am y ganran uchaf yn y gweithlu. Mae Tabl 6 yn dangos, yn 2010/11, roedd 17% o’r holl ddyddiau absenoldeb salwch CALl yn y grŵp Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mand 5, ac yn 2013/14, cynyddodd y ganran hon i 19%. O ystyried mai canran y staff yn y swydd yn y grŵp hwn yw 15% (yr un ganran ar gyfer y ddau gyfnod), mae’r grŵp hwn yn anghymesur fwy sâl na grwpiau staff eraill, ac maent wedi cynyddu eu cyfraniad i’r dyddiau salwch dros y pedair blynedd ddiwethaf. Mae dadansoddiad ychwanegol yn adrannau dilynol yr adroddiad hwn wedi darganfod y gall hyn fod o ganlyniad i weithlu sy’n heneiddio. Dim newid ↔ Cynnydd ↑ Newydd i’r 10 uchaf ← Tabl 6: Cymharu salwch yn ôl grŵp staff (10 uchaf), bandiau’r Agenda ar gyfer Newid

Grŵp staff

Band Agenda ar gyfer newid

% o’r gweithlu 2013/14

% o salwch 2013/14

% o salwch 2010/11

Cymharu rhwng 2010/11 a 2013/14

Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig Band 5 15% 19% 17% ↑

Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol

Band 2 8% 13% 11% ↑

Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol

Band 3 7% 10% 7% ↑

Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig Band 6 9% 9% 8% ↑

Ystadau a Gwasanaethau Ategol Band 2 5% 7% 4% ↑

Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig Band 7 5% 4% ←

Gweinyddol a Chlercaidd Band 2 4% 4% 4% ↔

Gweinyddol a Chlercaidd Band 3 4% 4% ←

Gweinyddol a Chlercaidd Band 4 5% 4% ←

Ystadau a Gwasanaethau Ategol Band 1 2% 3% 3% ↔

Page 11: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 11 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

6. Absenoldebau salwch yn ôl oedran Mae Graff 4 yn dangos, yn y DU ar y cyfan, yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae cyfraddau salwch wedi gostwng, ac mai gweithwyr rhwng 50 a 64 oed sydd wedi gostwng fwyaf (1.7 pwynt canran) tra bod rhai dros 65 oed wedi gweld y gostyngiad lleiaf (0.5 pwynt canran). Ar y cyfan, mae’r graff yn dangos bod absenoldebau salwch yn cynyddu wrth i’r oedran gynyddu; credir bod pobl hŷn yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd tymor hir, ac felly, mae eu cyfraddau salwch yn uwch. Hefyd, mae’r graff yn dangos bod gan bobl sy’n gweithio y tu hwnt i oedran pensiwn (ar hyn o bryd, 65+ oed) gyfradd salwch is na gweithwyr rhwng 50 a 64 oed. Gall yr anghysondeb hwn weithio'r ddwy ffordd: mae angen i bobl rhwng 50 a 64 oed barhau i weithio hyd at oedran pensiwn er bod ganddynt broblemau iechyd, ac efallai bod gweithwyr sydd dros 65 oed yn dewis gweithio oherwydd eu bod yn iach, heb gymryd llawer o ddiwrnodau salwch. Gan ddefnyddio atchweliad rhesymegol o salwch, daw'r Swyddfa Ystadegau Gwladol[3] i’r casgliad fod “Gweithwyr rhwng 16 a 24 oed 46% yn llai tebygol o fod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch na gweithiwr rhwng 50 oed ac oedran pensiwn”. Graff 4: Cyfraddau absenoldeb salwch yn ôl grwpiau oedran, 1993 a 2013, y DU.

Swyddfa Ystadegau Gwladol – ‘Sickness Absence in the Labour Market’, Chwefror 2014

Mae Graff 5 yn dangos yn glir bod absenoldebau salwch GIG Cymru yn dilyn yr un tuedd â’r DU, sef bod y gyfradd absenoldeb salwch yn cynyddu ym mhob band oedran. Mae’r graff yn dangos bod y gyfradd absenoldeb salwch yn lleihau yn y band oedran 65+ ond nad yw’r gostyngiad mor sylweddol ag yn y DU.

Page 12: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 12 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Graff 5: Absenoldeb salwch yn ôl band oedran, 2013/14, GIG Cymru

3.0%3.6%

4.4%4.8%

5.1% 5.3%5.9%

6.5%

7.6% 7.5% 7.2%

Age Band

NHS Wales Sickness Absence by Age Band 2013/14

Yn adran 3 a 4, gan gymharu GIG Cymru â Lloegr a rhanbarthau Lloegr, mae tabl 4 a 5 yn dangos bod gan GIG Cymru gyfradd absenoldeb salwch sy’n gyson uwch. Un ffactor posibl yw bod proffil oedran y gweithlu’n effeithio ar gyfraddau absenoldeb salwch. Mae Graff 5 yn dangos bod salwch yn cynyddu wrth i oedran gynyddu. Mae’r graffiau canlynol (6 a 7) yn edrych ar broffil oedran Cymru o gymharu â rhanbarthau Lloegr. Graff 6: Staff mewn swyddi yn ôl band oedran, GIG Cymru a’r cymharwyr

0%

5%

10%

15%

20%

25%

30%

35%

Under 29 30 - 39 40 - 49 50 - 59 60 & over

% F

TE -

Staf

f in

Pos

t

Percentage of Staff in Post by Age band

Wales England North East East Midlands

Mae proffil oedran staff sy’n gweithio i GIG Cymru yn amlwg yn wahanol i’r Gogledd Ddwyrain, Dwyrain y Canolbarth a GIG Lloegr (Graff 6). Yn y grŵp oedran dan 29 oed, mae gan Gymru rhwng 3.3% a 4.3% yn llai o staff na’r cymharwyr, tra bod gan Gymru rhwng 1.6% a 3.3% yn fwy o staff yn y band oedran 50-59 oed na’i gymharwyr. Mae dadansoddi pellach yn datgelu (Graff 7 a Thabl 7) wrth gymharu â holl ranbarthau GIG unigol Lloegr, mae gan Gymru gyfran dipyn yn llai o staff dan 29 oed, a chyfran dipyn yn uwch o staff rhwng 50 a 59 oed.

Page 13: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 13 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Graff 7: Staff mewn swyddi o dan 29 oed a rhwng 50-59 oed, GIG Cymru a rhanbarthau Lloegr

0%

5%

10%

15%

20%

25%

30%%

FTE

Sta

ff in

Pos

t

Percentage of staff age under 29 and 50-59 by Region

Under 29 50 - 59

Tabl 7: Staff mewn swyddi yn ôl band oedran a rhanbarth

Rhanbarth Dan 29 30 - 39 40 - 49 50 - 59 Dros 60

Gogledd-ddwyrain 16.4% 22.5% 29.3% 26.6% 5.2%

Gogledd-orllewin 16.2% 23.3% 28.8% 26.3% 5.4%

Swydd Efrog a Humber 17.2% 22.7% 28.6% 26.2% 5.3%

Dwyrain y Canolbarth 17.1% 23.0% 29.2% 25.5% 5.2%

Gorllewin y Canolbarth 17.6% 23.3% 29.0% 24.7% 5.5%

Dwyrain Lloegr 18.1% 23.3% 27.4% 25.0% 6.2%

Llundain 18.2% 27.9% 26.9% 21.2% 5.8%

Arfordir y De-ddwyrain 17.1% 22.9% 27.9% 25.1% 6.9%

Canol y De 20.1% 23.9% 26.5% 23.6% 5.9%

De-orllewin 17.5% 22.3% 27.8% 26.4% 6.0%

Cymru 13.1% 21.8% 30.5% 28.2% 6.5%

Lloegr 17.3% 23.8% 28.2% 24.9% 5.7%

Mae Graff 8 yn edrych ar broffil oedran GIG Cymru yn 2010 a 2014. Yn 2014, mae rhagor o staff yn y band oedran 50-59 nac yn 2010 (4%, dros 3,000 o bobl yn fwy). Mae’r cynnydd yn y band oedran hwn yn amlwg ym mhob grŵp staff. Graff 8: Staff mewn swyddi yn ôl band, 2010 a 2014, GIG Cymru

14%

23%

32%

24%

6%12%

22%

30%28%

7%

Under 29 30 - 39 40 - 49 50 - 59 60 & over

Percentage of Staff in Post by Age Band

2010 2014

Page 14: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 14 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Mae Graff 9 yn dangos mai Nyrsio a Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol sydd â’r cynnydd mwyaf yn staff yn y band oedran 50-59 oed. Gall y cynnydd hwn esbonio, yn rhannol, pam fod absenoldebau salwch yn adran 5 ‘Canran y dyddiau salwch FTE yn ôl grŵp staff a band cyflog’ ar gyfer y grwpiau staff hyn wedi cynyddu dros amser. Graff 9: Staff mewn swyddi rhwng 50-59 oed yn ôl grŵp staff, 2010 a 2014, GIG Cymru

0% 10% 20% 30% 40%

Medical & Dental

Add Prof Scientific & Technical

Allied Health Professionals

Healthcare Scientists

NHS Wales

Nursing and Midwifery Registered

Additional Clinical Services

Administrative & Clerical

Estates & Ancillary

Percentage of the workforce 50-59

2014 2010

O ystyried bod gan GIG Cymru broffil oedran uwch na’r holl ranbarthau GIG yn Lloegr, a bod proffil oedran GIG Cymru wedi cynyddu dros y pedair blynedd ddiwethaf, ymddengys fod oedran yn ffactor sy’n cyfrannu at gyfradd absenoldeb salwch uwch GIG Cymru. Os nad oes ymyriad arall, mae’n debygol y bydd cyfraddau salwch yn parhau i gynyddu. Mae hyn yn rhoi cyd-destun i bwysigrwydd ffrwd gwaith Adolygiad Gweithio’n Hirach y rhaglen waith gydweithredol adran y Gweithlu a Datblygu’r Sefydliad. Arweinir y gwaith hwn gan gyflogwyr y GIG, a bydd yn ystyried y sail dystiolaeth ymchwil ynghylch gweithio’n hirach a’r arferion gwaith a’r polisïau y gellir eu sefydlu er mwyn cynorthwyo gweithwyr hŷn. Er enghraifft, mae yna dystiolaeth bod gweithwyr hŷn yn manteisio o gyfnodau gwella hirach ar ôl gwneud gwaith corfforol ac oriau gwaith hir. O ystyried proffil oedran gweithlu’r GIG, bydd yn fwyfwy pwysig fod rheolwyr yn ystyried ffactorau o’r fath wrth lunio swyddi presennol a rhai’r dyfodol.

Page 15: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 15 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

7. Absenoldebau salwch yn ôl band cyflog ac oedran

O’r dadansoddiad uchod (adran 4), rydym wedi gweld bod bandiau cyflog uwch yn dueddol o weld cyfraddau absenoldebau salwch is, a bod gan fandiau oedran uwch (adran 6) gyfraddau absenoldeb salwch uwch. Mae Tabl 8 yn dangos yn glir beth yw effaith y cydberthynas rhwng band cyflog ac oedran ar gyfraddau absenoldeb salwch. Mae’r ganran uchaf o absenoldebau salwch i’w gweld ymysg y staff hynaf sydd ar y band cyflog isaf. Er bod rhai ar fand 4 yn mynd yn groes i’r duedd o ran absenoldebau salwch is na’r cyfartaledd cenedlaethol, mae absenoldebau salwch ar gyfer Band 4 yn dal i gynyddu wrth i’r band oedran gynyddu. Mae’r chwarter uchaf ar ochr dde Tabl 8 yn dangos adran y gweithlu a fydd angen y mwyaf o gymorth wrth reoli salwch yn y dyfodol.

Tabl 8: Salwch yn ôl band cyflog a band oedran (2013/14)

Band Agenda ar gyfer Newid / Meddygol a Deintyddol

Dan 25

25 - 29

30 - 34

35 - 39

40 - 44

45 - 49

50 - 54

55 - 60

Dros 60

Band 1 5.7% 7.9% 6.9% 8.0% 6.7% 7.3% 7.8% 7.9% 11.4%

Band 2 4.6% 6.4% 7.0% 7.7% 7.4% 7.3% 7.7% 8.1% 9.0%

Band 3 3.8% 5.1% 5.7% 6.9% 6.8% 6.7% 6.8% 7.2% 8.3%

Band 4 2.5% 2.8% 4.3% 4.5% 4.5% 4.3% 5.4% 6.2% 6.8%

Band 5 1.9% 3.8% 5.5% 6.0% 6.2% 6.8% 7.3% 8.3% 10.0%

Band 6 1.1% 2.3% 3.7% 4.7% 4.6% 4.9% 6.1% 6.6% 6.7%

Band 7 1.0% 1.1% 2.3% 2.9% 3.2% 3.9% 4.6% 5.3% 6.2%

Band 8a 0.0% 1.6% 1.1% 2.5% 2.5% 2.8% 3.0% 3.5% 3.4%

Band 8b 0.0% 0.2% 0.8% 0.8% 2.7% 3.4% 3.0% 2.1% 2.2%

Band 8c 0.0% 0.0% 3.7% 0.4% 1.2% 2.0% 2.3% 2.3% 4.8%

Band 8d 0.0% 0.0% 0.0% 0.0% 2.3% 4.9% 1.8% 4.4% 3.1%

Band 9 0.0% 0.0% 0.0% 0.3% 0.5% 0.6% 0.9% 2.1% 5.6%

Meddygol a Deintyddol 0.7% 0.7% 0.8% 1.0% 1.6% 1.7% 2.1% 2.9% 3.0%

Band heb fod yn yr Agenda ar gyfer Newid 1.1% 0.4% 2.1% 0.8% 2.1% 1.3% 4.2% 2.6% 3.5%

Pob band cyflog 3.0% 3.6% 4.4% 4.9% 5.1% 5.4% 6.0% 6.7% 7.9% (Mae’r celloedd wedi’u lliwio yn dangos canlyniadau sydd dros y cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef 5.4%).

8. Absenoldebau Salwch yn ôl grŵp staff ac oedran

Mae lefelau absenoldebau salwch uchel yn amlwg yn y mwyafrif o grwpiau oedran, ond mae hyn yn arbennig o wir o fewn grwpiau staff Ystadau a Gwasanaethau Ategol a Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol. Mae gan y ddau grŵp staff hwn ganran uchel o weithwyr bandiau 1-3, a chanran uwch o weithwyr hŷn (gweler graff 9) na grwpiau staff eraill. Nid yw lefelau uchel absenoldebau salwch yn y grwpiau staff hyn yn peri syndod, o ystyried y canfyddiadau bod absenoldebau salwch yn uwch wrth i’r band oedran fynd yn hŷn a’r band cyflog fynd yn is (tabl 8). Mae hyn yn awgrymu nad dyma’r math o grŵp staff sy’n effeithio ar gyfraddau absenoldebau salwch, ond yn hytrach y proffil band. Daeth y Comisiwn Archwilio [1] i’r un casgliad, gan weld “bod gan absenoldebau salwch gysylltiad agos at radd y staff. Mae gan sefydliadau sydd â chyfran uwch o staff ar fandiau cyflog is gyfraddau absenoldeb salwch uwch”.

Page 16: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 16 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Mae Tabl 9 yn atgyfnerthu effaith y proffil oedran – ym mron i bob achos, yr uchaf yw’r band oedran, yr uchaf yw’r gyfradd absenoldebau salwch.

Tabl 9: Salwch yn ôl grŵp staff ac oedran (2013/14)

Grŵp staff Dan 30 30 i 39 40 i 49 50 i 59 Dros 60

Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol – Gwyddonol a Thechnegol 2.8% 3.7% 4.3% 5.2% 7.6%

Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol 5.1% 7.1% 7.6% 8.3% 10.2%

Gweinyddol a Chlerigol 3.6% 3.9% 3.9% 4.8% 5.8%

Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd 1.8% 3.5% 5.0% 5.9% 8.8%

Ystadau a Gwasanaethau Ategol 6.5% 6.7% 6.2% 7.0% 8.9%

Gwyddonwyr Gofal Iechyd 2.1% 2.9% 2.7% 3.8% 3.6%

Meddygol a Deintyddol 0.7% 0.9% 1.6% 2.5% 3.0%

Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig 3.9% 5.8% 5.7% 6.7% 8.5%

Pob grŵp staff 3.5% 4.7% 5.2% 6.3% 7.9% (Mae’r celloedd wedi’u lliwio yn dangos canlyniadau sydd dros y cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef 5.4%).

9. Absenoldebau salwch yn ôl rhywedd ac oedran

Mae adroddiad yr ONS, ‘Sickness Absence in the Labour Market’, Chwefror 2014, [3] yn nodi bod menywod 42% yn fwy tebygol o gymryd amser o’r gwaith oherwydd salwch na dynion. Mae Graff 10 yn dangos bod gan ddynion gyfradd absenoldebau salwch sy’n gyson is na menywod. Fodd bynnag, mae’r ddau ryw wedi gweld gostyngiad yn eu cyfraddau absenoldeb salwch dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. Mae ymchwil a wnaed gan y Sefydliad Gwaith (2014) yn dangos bod “Presenoliaeth yn llawer uwch mewn dynion na menywod. Maen nhw’n llawer mwy tebygol o fynd i’r gwaith pan fyddant yn sâl, sy’n gallu arwain at ganlyniadau tymor hir – efallai na fydd cyflyrau yn cael diagnosis” ac “Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn brif ofalwr, p’un a yw hynny am blentyn neu berthynas hŷn”. Felly, er y gellir cymharu salwch rhwng y rhywiau, mae’n anochel y bydd ffactorau cymdeithasol yn effeithio ar y cyfraddau. Graff 10: Cyfraddau absenoldebau salwch ar gyfer dynion a menywod, 1993 i 2013, y DU.

Swyddfa Ystadegau Gwladol – ‘Sickness Absence in the Labour Market’, Chwefror 2014

Page 17: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 17 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Mae Graff 11 yn dangos bod absenoldebau salwch GIG Cymru yn cynyddu yn ôl oedran, a bod dynion yn cymryd llai o ddyddiau salwch o gymharu â menywod. Mae absenoldebau salwch ar y cyfan wedi cynyddu yn y ddau ryw yn y pedair blynedd diwethaf, 4 pwynt canran i fenywod a 2 bwynt canran i ddynion. Ar y cyfan, nid yw patrwm absenoldebau salwch wedi newid rhyw lawer dros y pedair blynedd diwethaf, ond mae cyfraddau salwch wedi cynyddu ychydig. Mae’r bwlch absenoldeb salwch mwyaf yn 2013/14 rhwng dynion a menywod yn ymddangos yn y grŵp 30-44 oed, a byddai hyn yn cyd-fynd â’r sylwadau a wnaed gan y Sefydliad Gwaith: “Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn brif ofalwr, p’un a yw hynny am blentyn neu berthynas hŷn”. Gall y ffaith nad yw’r patrymau salwch hyn wedi newid fod yn arwydd nad yw polisïau gweithio hyblyg yn cael eu gweithredu’n llawn, neu nad yw arferion cymdeithasol wedi newid o fewn sefydliadau.

Graff 11: Salwch yn ôl band oedran a rhywedd

0%

1%

2%

3%

4%

5%

6%

7%

8%

9%

Under 25 25 - 29 30 - 34 35 - 39 40 - 44 45 - 49 50 - 54 55 - 60 Over 60

% S

ickn

ess

Sickness by Age Band and Gender 2010/11 and 2013/14

Female 2010/11 Male 2010/11 Female 2013/14 Male 2013/14

Page 18: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 18 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

10. Rhesymau am salwch fel canran o’r holl salwch, 2013/14 Mae’r graff isod yn dangos y rhesymau dros absenoldebau salwch. Mae’r pum rheswm uchaf yn cyfrif am 76% o’r holl absenoldenau salwch yn GIG Cymru. Fodd bynnag, mae “Rheswm arall hysbys” ac “Achosion anhysbys/heb ei nodi” yn cyfrif am 21%, sy’n gwneud dadansoddi salwch yn fanwl yn anodd. Y ddau brif reswm am absenoldebau salwch yw problemau cyhyrysgerbydol (25%) a gorbryder/straen/problemau seiciatrig eraill (23%). Gan ystyried bod y rhesymau hyn yn cyfrif am bron i 50% o’r holl salwch, mae’r tablau a’r graffiau isod yn rhoi dadansoddiad mwy manwl. Graff 12: Crynodeb o resymau salwch, 2013/14, GIG Cymru

0.0%

0.4%

0.6%

1.3%

2.2%

2.3%

2.3%

3.0%

3.7%

4.1%

4.4%

7.0%

7.6%

12.9%

23.1%

25.0%

Substance Abuse

Dental

Infectious diseases

Headache / Migraine

Heart / Circulatory

Ear, nose, throat (ENT)

Pregancy Related

Cancer

Chest / Respiratory

GUM / Gynae

Cold / Influenza

Gastrointestinal problems

Unknown Causes / Not Specified

Other Known cause

Anxiety / Stress / Other psychiatric illnesses

Musculoskeletal

% of total sickness

Reasons for sickness 2013/14

Mae rhai o’r rhesymau wedi cael eu grwpio/crynhoi. Gweler Atodiad 1: Crynodeb o resymau salwch

Page 19: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 19 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

11. Proffil hanesyddol tair blynedd o absenoldebau salwch cyhyrysgerbydol Mae Graff 13 yn canolbwyntio ar absenoldebau salwch cyhyrysgerbydol yn ôl grŵp staff. Nid yw mwyafrif y grwpiau staff yn dangos unrhyw newidiadau arwyddocaol yn eu rhesymau dros absenoldeb salwch, fodd bynnag, mae Ystadau a Gwasanaethau Ategol, Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i gyd yn dangos lefelau uchel o absenoldebau salwch cyhyrysgerbydol, a bob blwyddyn, mae dros 25% o’r rhesymau salwch yn y categori hwn. Mae cymharu 2012/13 â 2013/14 yn dangos bod y lleihad mwyaf mewn absenoldebau salwch cyhyrysgerbydol yn y Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol Gwyddonol a Thechnegol, a welodd leihad o 4.5 pwynt canran, ac roedd y cynnydd mwyaf yn Ystadau a Gwasanaethau Ategol, a welodd gynnydd o 2.9 pwynt canran. (Gweler Atodiad 2: Tabl data proffil hanesyddol tair blynedd). Graff 13: Proffil salwch tair blynedd ar gyfer salwch cyhyrysgerbydol yn ôl grŵp staff

0% 5% 10% 15% 20% 25% 30% 35%

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Add Prof Scientific and Technic

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Additional Clinical Services

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Administrative and Clerical

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Allied Health Professionals

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Estates and Ancillary

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Healthcare Scientists

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Medical and Dental

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Nursing and Midwifery Registered

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

All Staff

Percentage of Musculoskeletal-related sick absence by Staff Group 2010 - 2013

Page 20: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 20 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

12. Proffil hanesyddol tair blynedd o absenoldebau salwch yn ymwneud â gorbryder/straen/problemau seiciatrig eraill

Mae Graff 14 yn dangos canrannau’r salwch sy’n ymwneud â straen yn ôl pob grŵp staff dros y tair blynedd diwethaf, sef 2011/12 i 2013/14. Graff 14: Proffil salwch tair blynedd ar gyfer salwch yn ymwneud â straen yn ôl grŵp staff

0% 5% 10% 15% 20% 25% 30%

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Add Prof Scientific and Technic

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Additional Clinical Services

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Administrative and Clerical

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Allied Health Professionals

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Estates and Ancillary

2010 / 2011

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Healthcare Scientists

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Medical and Dental

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

Nursing and Midwifery Registered

2011 / 2012

2012 / 2013

2013 / 2014

All Staff

Stress related sick absence by Staff Group 2010 - 2013

Gellir gweld bod mwyafrif y grwpiau staff wedi dangos cynnydd mewn salwch yn ymwneud â straen dros y tair blynedd diwethaf. Y grwpiau staff Gweinyddol a Chlercaidd a Nyrsio a Bydwreigiaeth oedd â’r cyfraddau salwch uchaf yn y categori hwn, gan gyfrif am dros 20% o’r holl absenoldebau salwch bob blwyddyn. Yn 2013/14, y grŵp Meddygol a Deintyddol a welodd y gostyngiad mwyaf mewn salwch yn ymwneud â straen, ond gan fod y grŵp staff hwn yn dangos cyfradd salwch o 1.5% yn unig ar y cyfan, gall newidiadau bach gael effaith sylweddol. Gan gymharu’r canlyniadau dros y blynyddoedd 2012/13 i 2013/14, mae grwpiau staff Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol Gwyddonol a Thechnegol a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn dangos cynnydd o 6 pwynt canran o ran salwch yn ymwneud â straen. Mae angen archwilio’r rhesymau posibl dros y cynnydd hwn yn llawn. (Gweler Atodiad 2: Tabl data proffil hanesyddol tair blynedd).

Page 21: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 21 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Atodiad

1. Crynodeb o resymau salwch Rhesymau salwch – Cofnod Staff Electronig DW Crynodeb/Grŵp

Gorbryder / straen / iselder / salwch seiciatrig arall Gorbryder / straen / salwch seiciatrig arall

Straen Gorbryder / straen / salwch seiciatrig arall

Anhwylderau meddwl eraill Gorbryder / straen / salwch seiciatrig arall

Problemau cefn Cyhyrysgerbydol

Tiwmor anfalaen a malaen, canser Canser

Cancer Canser

Problemau anadlu a’r frest Anadlu / y frest

Asthma Anadlu / y frest

Anadlu Anadlu / y frest

Annwyd, peswch, ffliw Annwyd / ffliw

Annwyd Annwyd / ffliw

Ffliw Annwyd / ffliw

Problemau â’r dannedd a’r geg Deintyddol

Y ddannoedd Deintyddol

Clust, trwyn a gwddf (CTG) Clust, trwyn a gwddf (CTG)

Clust, trwyn a gwddf Clust, trwyn a gwddf (CTG)

Problemau gastroberfeddol Problemau gastroberfeddol

Dolur rhydd / chwydu Problemau gastoberfeddol

Gastroberfeddol Problemau gastroberfeddol

Anhwylderau cenhedlol-droethol a gynaecolegol Meddygaeth genhedlol-droethol / gynaecolegol

Cenhedlol-droethol Meddygaeth genhedlol-droethol / gynaecolegol

Gynaecolegol Meddygaeth genhedlol-droethol / gynaecolegol

Cur pen / meigryn Cur pen / meigryn

Cur pen / meigryn Cur pen / meigryn Problemau cardiaidd ac yn ymwneud â’r galon a’r cylchrediad Y galon / cylchrediad

Cyflyrau cardiaidd Y galon / cylchrediad

Clefydau heintus Clefydau heintus

Heintiau Clefydau heintus

Anaf, torri asgwrn Cyhyrysgerbydol

Problemau cyhyrysgerbydol eraill Cyhyrysgerbydol

Cyhyrysgerbydol – y cefn Cyhyrysgerbydol

Cyhyrysgerbydol – cymal/aelod arall Cyhyrysgerbydol

Cyhyrysgerbydol – y gwddf Cyhyrysgerbydol Achos hysbys arall – heb ei gynnwys yn un o’r categorïau eraill Achos hysbys arall

Anhwylderau gwaed Anhwylderau gwaed

Anhwylderau system nerfol Anhwylderau system nerfol

Llosgiadau, gwenwyno, ewinrhew, hypothermia Llosgiadau, gwenwyno, ewinrhew, hypothermia

Problemau â’r llygaid Problemau â’r llygaid

Anhwylderau croen Anhwylderau croen

Problemau endocrin / chwarennol Problemau endocrin / chwarennol

Niwrolegol Niwrolegol

Seicolegol Seicolegol

Page 22: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 22 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Dermatolegol Anhwylderau croen

Anhwylder gwaed Anhwylderau gwaed

Y llygaid Problemau â’r llygaid

Pwysedd gwaed uchel Pwysedd gwaed uchel

Anhwylderau yn ymwneud â beichiogrwydd Yn ymwneud â beichiogrwydd

Yn ymwneud â beichiogrwydd Yn ymwneud â beichiogrwydd

Camddefnyddio sylweddau Camddefnyddio sylweddau

Llawdriniaeth Llawdriniaeth

Achosion anhysbys / heb eu nodi Achosion anhysbys / heb eu nodi

Anhysbys Achosion anhysbys / heb eu nodi

Page 23: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 23 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

2. Proffil hanesyddol tair blynedd o salwch yn ymwneud â straen a phroblemau

cyhyrysgerbydol

Salwch yn ymwneud â straen 2011 / 2012 2012 / 2013 2013 / 2014

Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol Gwyddonol a Thechnegol 18.7% 20.9% 26.8%

Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol 18.6% 18.1% 21.5%

Gweinyddol a Chlercaidd 22.3% 25.6% 26.6%

Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd 15.3% 14.4% 20.6%

Ystadau a Gwasanaethau Ategol 15.9% 16.3% 19.2%

Gwyddonwyr Gofal Iechyd 20.6% 16.3% 18.2%

Meddygol a Deintyddol 21.9% 24.5% 16.9%

Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig 21.3% 22.8% 24.7%

Yr holl staff 19.7% 20.6% 23.0%

Salwch cyhyrysgerbydol 2011 / 2012 2012 / 2013 2013 / 2014

Gweithwyr Proffesiynol Ychwanegol Gwyddonol a Thechnegol 21.7% 24.9% 20.5%

Gwasanaethau Clinigol Ychwanegol 28.2% 28.3% 29.0%

Gweinyddol a Chlercaidd 19.6% 18.6% 20.1%

Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd 27.8% 28.2% 27.0%

Ystadau a Gwasanaethau Ategol 28.7% 27.8% 30.8%

Gwyddonwyr Gofal Iechyd 19.3% 18.6% 19.6%

Meddygol a Deintyddol 18.7% 17.0% 18.9%

Nyrsys a Bydwragedd Cofrestredig 22.1% 21.2% 22.9%

Yr holl staff 24.3% 23.8% 25.0%

Page 24: Ffocws ar Dueddiadau Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru · 2019-06-06 · Tudalen 2 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015 Ffocws ar Absenoldebau Salwch yn GIG Cymru Crynodeb Gweithredol

Tudalen 24 GGAD, y Cydwasanaethau: Ionawr 2015

Cyfeiriadau [1] Y Comisiwn Archwilio, Managing sickness absence in the NHS Health briefing, Chwefror 2011 [2] Gweithio’n wahanol, gweithio law yn llaw, Ymgysylltu â’ch staff: adnodd ymgysylltu â staff GIG Cymru [3] Swyddfa Ystadegau Gwladol, Full Report: Sickness Absence in the Labour Market, Chwefror 2014