Transcript
Page 1: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

MERTHYR TUDFULRHIFYN 5 | GWANWYN 2013

SYLW AR ARDAL

Goroesi’r newid ifudd­daliadau

Mynd ar­lein, ffynnu ar­lein

Ein datblygiadau diweddaraf yn eichardal

Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24

Page 2: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

2 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Yn gyntaf oll, yn dilyn ein Harolwg diweddaraf oFodlonrwydd Preswylwyr, rwy’n falch iawn oddweud wrthych fod 88% o’n preswylwyr wedidweud wrthym eu bod nhw’n fodlon gyda’rgwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan WWH.Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg awnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7%ar y canlyniadau a gawsom yn 2007.

Datblygiad sylweddol arall ers ein rhifyn diwethaf oSylw ar ardal Merthyr Tudful yw ein buddsoddiadmewn saith swydd arloesol, sef y SwyddogionCefnogi Tenantiaeth newydd. Ar ôl ymarfer recriwtio llwyddiannus, mae ein Swyddogionnewydd wrthi’n dechrau ar eu gwaith newydd y foment hon ledled Cymru, ac fe fyddan nhw’n cymryd camau rhagweithiol ac ymarferol i helpu einpreswylwyr i oroesi storm y newid i fudd­daliadau.

Ledled y busnes, rydym yn parhau i archwilio a buddsoddi mewn technoleg newydd, ac mae ein rhaglen cynhwysiant digidol yn parhau i ffynnu, acyn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith ohelpu ein preswylwyr i ddelio â newidiadau sydd arddod i fudd­daliadau.

Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedicael swm sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu cartrefifforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledledCymru, yn gydnabyddiaeth o’n gallu fel cymdeithassy’n datblygu. Pan anfonom ein Cynllun Busnesatoch ddiwedd yr hydref llynedd, dywedomwrthych y byddem yn darparu 800 o gartrefinewydd dros y pum mlynedd nesaf. Diolch i’r buddsoddiad newydd hwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000 o gartrefi newydd yn ypedair blynedd nesaf.

Serch hynny, dim ondrhan yn unig o’r hynrydym yn ei wneud ywdatblygu cartrefinewydd, ac felly isicrhau ein bod ynparhau i ganolbwyntioar gwsmeriaid, ac ynatebol am yr hyn awnawn, rydym yn ymgymryd â’n proses hunanasesu reolaidd. Rydw i a’m cyd­gyfarwyddwyr wedi bod yn cynnal ein sioeauteithio blynyddol i staff, a hyd yn hyn rydym wedisiarad â thros dri chwarter ein holl staff ledledCymru, nifer ohonyn nhw’n byw yn y cymunedau llemaen nhw’n gweithio, gan gael cipolwg amhrisiadwy ar eu byd ac adborth ganddyn nhw.

Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf ddweud wrthychfod rhestr cwmnïau gorau’r Sunday Times yn dangos mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorau Cymruam yr ail flwyddyn yn olynol ­ ac rydym yn y 7fedsafle yn rhestr y Deyrnas Unedig. Fe wnaethom nidyn unig godi un lle o’r 8fed safle a gawsom yn 2012,ond llwyddom hefyd i ddal gafael yn ein safon aurTair Seren mawr ei bri. Rwy’n siŵr y cytunwch fodhwn yn ganlyniad boddhaus arall, ac yn glod i waithcaled ac ymroddiad ein staff gwych. I gloi, rwy’ngobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn fodd oroi gwybod i chi am y diweddaraf am lawer o’ngwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal âdarlun ehangach byd WWH. Peidiwch ag oedi cyncysylltu unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadauynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith.

Yn gywirAnne Hinchey, Prif Weithredwr.

CYFLWYNIAD ANNECroeso i rifyn gwanwyn 2013 Sylw ar ardal Merthyr Tudful, sy’nrhoi’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardalchi. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ein cymysgedd arferol onewyddion ynghylch rhai o’n prosiectau cyfredol yn benodol i’rsir, ynghyd â’r diweddaraf am faterion perthnasol drwy’r sefydliad cyfan.

Page 3: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

3 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Drwy weithio’n effeithlon â thîm Budd­daliadau Tai Merthyr Tudful, rydym wedigallu nodi’r 66 o aelwydydd WWH yn y sir afydd yn cael eu heffeithio gan y newid.

Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyra gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau,trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydda gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy.

Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’npreswylwyr wedi dweud wrthym eu bodnhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol,er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’rarian sydd ei angen yn lle’r budd­dal a gollir.

Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyrangen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau,rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewndarparu cymorth parhaus drwy greu saithswydd gwbl newydd – y Swyddogion CefnogiTenantiaeth.

Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gydani yn awr ledled Cymru, gyda phedwar (NatalieDavies, Amanda Collins, Stuart Lock a SharonJones) yn y De, un (Donna Steven) yn y Canolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey)yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddannhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpunhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudd­daliadau, gan gynnwyscyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaithiddyn nhw allu goroesi’r storm.

Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhaio’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefiteuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaitheto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phobpartner priodol arall, i sicrhau fod y boblbriodol sydd angen tai yn cael mynediad at ycartrefi fforddiadwy hyn.

GOROESI’R NEWID I FUDD-DALIADAU

Mae’r newidiadau i fudd­daliadau wedi bod yn nodwedd amlwgar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith y‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a ddaeth i rym ar 1 Ebrill.

Page 4: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

4 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

YMUNWCH Â’R SGWRS

Mae gennym dros 1,300 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn.Ymunwch â’r sgwrs a dilynwch ni @wwha. Rydym yn trydar bobdydd am newyddion, swyddi, digwyddiadau cyfagos, cyfleoeddhyfforddi, mentrau codi arian elusennol, ffotograffau a llawer mwy.

Gallwch hefyd ein gwylio ni ar ein sianel YouTubewwhahomesforwales.

Page 5: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

5 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falchiawn o roi gwybod i chi fod 88% (pedwar obob pum preswyliwr) yn fodlon gyda’rgwasanaeth cyffredinol y mae WWH yn eiddarparu. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’igymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, acyn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadaua gawsom yn 2007.

Gwasanaethau cwsmeriaid Mae ein sgoriauar gyfer safon y gwasanaethau cwsmeriaidpan oedd pobl yn cysylltu â ni yn dda iawn.Yn neilltuol felly, rhoddodd dros hanner yraelwydydd (52%) sgôr berffaith o 10 i ni amnatur gymwynasgar y staff, gyda’r sgôr gyfartalog yn cyrraedd 8.65 allan o 10. Ynogystal, bu cynnydd sylweddol yn lefelau bodlonrwydd â chael ymateb prydlon (7.99oedd y cyfartaledd, o’i gymharu â sgôr o 7.70yn flaenorol).

Y cartref Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr ynfodlon gyda’u cartref, gyda sgôr gyfartalog o7.99 allan o 10, gan gynnwys sgôr o 10 gan32% o’r sampl. Yn gyffredinol, mae sgoriau cyfartalog pob nodwedd yn y cartref yr unfath (ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn uwch)na’r sgoriau a nodwyd yn 2011.

Canlyniadau penodol i Ferthyr Tudful Yn gyffredinol, mae barn pobl am eu cymdogaeth fel arfer yn ffactor bwysig ynlefel eu bodlonrwydd â’u llety a’u landlord.Felly, mae’n galonogol gweld fod ymatebwyrym Merthyr Tudful wedi rhoi sgôr gyfartalog o

8.3 allan o 10 am eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth – diolch i’r ffaith fod bron euhanner (46%) wedi rhoi sgôr o 10. Ymysg yrhesymau pennaf a nodwyd dros eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth, nododd droschwarter ohonyn nhw fod ganddyn nhw‘gymdogion da’ (38%).

Fe wnaethom hefyd ofyn i breswylwyr am eubarn ar ein blaenoriaethau er gwella amrywiaeth o feysydd gwaith dros y blynyddoedd a ddaw. Mae’r canlyniadau yndangos yn glir ein bod yn bwriadu gwella’rmodd rydym yn darparu gwasanaethau sy’n berthnasol i’n preswylwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi ganddyn nhw. Y tair eitem amlycaf a nodwyd gan ein preswylwyr ymMerthyr Tudful yw:

• adolygu’r gwasanaethau i gefnogi preswylwyr hŷn a’u helpu i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi

• gwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni

• helpu preswylwyr sy’n cael eu heffeithio gan newidiadau i Fudd­daliadau Tai i symud i gartrefi y gallan nhw eu fforddio.

Felly, beth nesaf? Rydym nawr yn archwiliocanlyniadau’r arolwg hwn yn fwy trylwyr, gangraffu ar sylwadau penodol y preswylwyr.Bydd y rhain yn amhrisiadwy i ni wrth symudymlaen a gwella ein gwasanaethau ymhellach.

AROLWG BODLONRWYDDPRESWYLWYR – MERTHYR

Rydym yn cynnal ein Harolwg blynyddol o FodlonrwyddPreswylwyr ymhlith traean o’n haelwydydd (tua 2,700) bobblwyddyn. Fe wnaethom gynnal ein hail arolwg blynyddol,a’r un mwyaf diweddar, yn ystod tymor yr hydref 2012.Dyma rai o’r prif ganlyniadau ynghyd â chipolwg ar yr hynsy’n bwysig i’n preswylwyr ym Merthyr Tudful.

Page 6: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

6 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Bydd Sharon a Natalie helpu ein preswylwyr iddelio â heriau niferus y newidiadau i fudd­daliadau, ynghyd â darparu cefnogaetha chyngor ar gyllidebu’n effeithiol a gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Yn y lle cyntaf, bydd y ddwy yncanolbwyntio eu hymdrechion ar helpu’rpreswylwyr hynny sydd eisoes wedi cael eunodi fel rhai sydd mewn perygl o wynebucaledi ariannol, neu fynd i ddyled, o ganlyniadi newidiadau yn sgil y ‘dreth ar ystafelloeddgwely’ a newidiadau arfaethedig eraill i fudd­daliadau.

CEFNOGAETH Â THENANTIAETHRydym yn falch iawn o allu cyflwyno Sharon Jones a NatalieDavies, ein Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth newydd ar gyferardal Merthyr Tudful.

Yn ychwanegol at ei ganghennau, MaeMoneyline hefyd eisiau cynnig gwasanaethffôn i bobl o rannau eraill o Gymru, a phoblnad ydyn nhw’n gallu cyrraedd euswyddfeydd. Felly, maen nhw nawr yn gweithredu o’n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd am gyfnod prawf. Aeth ygwasanaeth yn fyw ym mis Chwefror, acmae’r tîm o dri wrthi’n ateb galwadau drosben gan ganghennau presennol MoneylineCymru.

MONEYLINE CYMRUNAWR YN GWEITHREDU O’N CANOLFAN GWASANAETHAU CWSMERIAID

Mae Moneyline Cymru yn gweithredu mewn nifer o ganghennau, yn bennaf yn Ne Cymru, gan gynnwys y swyddfanewydd yn Nhŷ Picton, Swan Street, Merthyr Tudful, a agorwyd gan yr Aelod Cynulliad Huw Lewis. Rydym yn siŵr ybydd hwn o fudd mawr i’r gymuned, ac fel un o’r aelodau a sefydlodd Moneyline Cymru, rydym wrth ein bodd yn gweld ygwasanaeth hanfodol hwn yn cael ei ymestyn.

Sharon Jones Natalie Davies

Page 7: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

7 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

DATBLYGU CARTREFI NEWYDDYM MERTHYR TUDFUL

Vulcan House: Mae disgwyl i ni gwblhau 15rhandy newydd ar rent fforddiadwy ym misMai wrth i’r gwaith o drosi’r adeiladrhestredig Gradd 2 hwn ddod i ben. Gan weithio mewn partneriaeth â ChyngorBwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, mae disgwyli Wates Living Space gwblhau’r prosiect hwn(sy’n werth £1.8 miliwn) yn brydlon, ac maennhw wedi bod yn gweithio gyda ni ac YsgolIau Cyfarthfa i gofnodi hanes yr adeiladhanesyddol hwn. Mae Gill Foley, cyn ddirprwybennaeth yr ysgol, wedi bod yn gweithio gydaphlant o flynyddoedd 5 a 6 i gofnodi hanes ysafle ar ffurf cerddi, storïau a lluniau, dros 10sesiwn wythnosol. Mae’r pynciau wedi cynnwys cysylltiadau’r adeilad â’r ffowndri acyn ddiweddarach â’r bragdy a safai ar y tir, eigysylltiadau â mudiad y Siartwyr a’i ddefnyddfel swyddfeydd Cyngor. Unwaith y bydd yrholl wybodaeth wedi cael ei gasglu ynghydgan y plant, bydd yn cael ei gadw ar wefan, llegall cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol fyndato.

Mynwent y Crynwyr: Rydym yn gweithio’nagos â Chyngor Bwrdeistref Sirol MerthyrTudful a Greenhill Construction i ailddatblygusafle’r hen ysgol yn Roderick Terrace.

Canol tref Merthyr: Unwaith eto, rydymwrthi’n adolygu potensial ailddatblyguehangach y Gyfnewidfa Lafur a’r ardal gyfagosym Mhontmorlais – unwaith eto gan weithio’n agos â Chyngor Bwrdeistref SirolMerthyr Tudful.

Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd ynein galluogi i ddarparu mwy na 1,000 ounedau yn ystod y pedair blynedd nesaf ardraws yr holl ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu. Mae darparu digon o gartrefifforddiadwy o safon uchel yn parhau i fod ynfater o bwys yng Nghymru.

Serch hynny, rydym yn parhau’n hyderus o’ngallu i gwrdd ag amrywiaeth o anghenion.Rydym mewn sefyllfa gref yn ariannol, a diolch i hyn rydym nid yn unig yn galluadeiladu rhagor o gartrefi newydd, ondrhagor o’r math priodol sy’n cwrdd â’r galwlleol. Drwy ddarparu cartrefi am brisiau gwahanol, rydym yn cynnig dewisiadau oddifrif i ni, ac yn bennaf oll, i’n cwsmeriaidcyfredol ac arfaethedig hefyd.

Page 8: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

8 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CEFNOGI’R GYMUNED

CYMUNEDAU YN GYNTAF WARD CYFARTHFA Cafodd Alison Chaplin, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau WWH, sy’n gweithio ynardal Merthyr Tudful, dystysgrif gwerthfawrogiad am weithio mewn partneriaeth – gwneud gwahaniaeth, amgyfraniad eithriadol ac aelodaeth o Fwrdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Cyfarthfa

yn noson Gwobrau Grŵp Sylfaen Gellideg ar 7Rhagfyr 2012. Dyfarnwyd y dystysgrif i Alison anifer o breswylwyr lleol eraill gan Faer MerthyrTudful, y Cynghorydd Lisa Mytten. Mae Alisonwedi cynrychioli WWH ar Fwrdd y Bartneriaethers nifer o flynyddoedd. Mae hi hefyd yn bywyn Ward Cyfarthfa.

Alison Chaplin ac aelodau eraill o fwrdd partneriaeth Ward Cyfarthfa yn cael eu cydnabod am y gwaith a’r ymroddiad a ddangoswyd yn ystod y flwyddyn er budd y gymuned.

Page 9: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

9 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Gan gofio am yr angen i nifer o breswylwyrsymud i gartrefi llai o faint o ganlyniad i’rdreth ar ystafelloedd gwely, rydym wediymuno â Chymdeithasau Tai Cadwyn a Linc igefnogi creu prosiect House Swap Wales arFacebook. Yn ei hanfod, ceir cyfres o grwpiau Facebook fesul sir – e.e. HouseSwap Cardiff, House Swap Wrexham ac ati –ac mae House Swap Wales wedi ei anelu atdenantiaid tai cymdeithasol sydd angensymud o ganlyniad i newidiadau i fudd­daliadau, gan gynnwys y dreth arystafelloedd wely, neu sydd eisiau symudam resymau eraill. Mae’n darparu llwyfan

parod a syml ar­lein i breswylwyr hysbysebueu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim,chwilio am gartrefi posibl y gallen nhwsymud iddyn nhw, a hwyluso’r gwaith osymud eu hunain.

Rhagor o wybodaethwww.facebook.com/HouseSwapWales a dilynwch ni ar Twitter@HouseSwapWales

CEFNOGI HOUSE SWAP WALES

Page 10: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

10 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Felly, rydym yn parhau i annog ein preswylwyri fynd ar­lein, a gwneud yn fawr o’r cyfle i fodar­lein, drwy amrywiaeth o fentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru.

Ein bwriad yw:• helpu pobl i wneud yn fawr o’u hincwm a

delio â newidiadau i fudd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol

• mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol drwy alluogi preswylwyr i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau a thu hwnt

• cynorthwyo preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gyrraedd gwybodaeth a phrynu nwyddau ar­lein

• annog preswylwyr i fanteisio ar yr holl fuddiannau addysgol – a hwyl – bod ar­lein.

Yn ne Cymru, mae ein cynllun peilot mynediadfforddiadwy at fand eang Wi­Fi yn Nhŷ

Pontrhun ym Merthyr Tudful yn sylfaen wych ini ymestyn y fenter hon ymhellach, lle bynnagy bydd hynny’n bosibl, ledled Cymru.

Ac yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi galluogi Wi­Fi mewn lolfa gymunol yn Nant yMôr, ein cynllun gofal ychwanegol ymMhrestatyn. Mae gwaith yn cael ei gynnal i alluogi Wi­Fi mewn lolfeydd cymunol yn nifero’n cynlluniau er ymddeol yng ngogledd a deCymru.

Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’gyda phreswylwyr, fel rhan o brosiect ‘TakeCtrl’, rydym yn ei gynnal ar ran Fforwm GalluAriannol Gogledd Cymru. Hyd yn hyn, maeTake Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr ifynd ar­lein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr. Mae Jen Bailey, un o’n swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, yn canolbwyntio’n benodol ar y galw hwn.

MYND AR-LEINFFYNNU AR-LEIN

Mae technoleg yn rhyddhau, yn grymuso ac yn galluogi. Maemwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at fudd­daliadau, ar gael drwy’r rhyngrwyd yn unig, ac eto nid ywmwyafrif ein preswylwyr wedi cysylltu â’r we.

Page 11: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

11 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CONNECT24 GWASANAETHAUFFÔN A THELEOFAL YN WWH

Pam Connect? Gan mai’r bwriad yw cysylltupobl â’r gwasanaethau maen nhw eu hangeni’w galluogi i fyw’n annibynnol a diogel yn eucartrefi.

A 24? Gan ein bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn.

Ar hyn o bryd, rydym yn darparugwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal Connect24 i dros 4,000 o aelwydyddledled Cymru, ac mae gennym gontractaugyda:

• Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen­y­bont ar Ogwr

• Grŵp Tai Pennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru

• Cymdeithas Tai Newydd yn ne a chanolbarth Cymru

Rydym hefyd yn monitro larymau ar gyferunigolion mewn llety ar rent ynghyd âpherchen­feddianwyr annibynnol. Mae system monitro larwm syml, gan gynnwys ycyfarpar, yn costio cyn lleied â £2.50 yr wythnos. Mae hyn yn helpu i roi tawelwchmeddwl i bobl hŷn a phobl agored i niwed feleu bod nhw’n gallu parhau i fyw’n annibynnolyn eu cartref eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i’w teuluoedd hefyd – y cyfan am bris fforddiadwy.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn24/7 y tu allan i oriau, ac mae gennymgontractau â’r cymdeithasau tai a ganlyn, sy’ngolygu ein bod yn darparu gwasanaethau y tuallan i oriau i 27,000 o aelwydydd ledledCymru:

• Hafan Cymru ledled Cymru• Grŵp Gwalia ledled Cymru• Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen

Am ragor o wybodaeth ynghylch Connect24,ewch i’n gwefan www.connect­24.co.uk neucysylltwch â Jackie Edwards, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, neuCate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth, ar 0800 052 2526.

Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau ffôn a theleofal ersdros 10 mlynedd, a chymaint yw’r bri ar y rhan hwn o’n gwaithfel ein bod wedi rhoi enw penodol ar y gwasanaeth, Connect24.

Page 12: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

12 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Wedi ei mabwysiadu fel ein prif elusen bartnerym mis Ionawr eleni, rydym yn barod wedi codidros £10,000 at yr achos da. Mae digwyddiadauyn cynnwys diwrnodau gwisg anffurfiol rheolaidd i staff, cymryd rhan yn ras hwyl DyddGŵyl Dewi, ac yn fwyaf diweddar, awyrblymionoddedig.

Cafodd arweinydd tîm elusennol WWH, DiBarnes, gwmni’r swyddog gweinyddol VerityKimpton a’r Prif Weithredwr Anne Hinchey ynyr awyren, a neidiodd y tair o 13,000 troedfedduwchlaw maes awyr Abertawe ddydd Sadwrn 6Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb a’u cefnogodd nhw yn y fenter arswydus hon. Ceir

Y DIWEDDARAF AM ELUSENNAUAr ôl dwy flynedd wych, pan gododd staff a phreswylwyr£25,000 tuag at Help for Heroes, ein helusen bartner gorfforaethol rhwng Ionawr 2013 a Rhagfyr 2015 yw Cymdeithas Strôc Cymru.

rhagor o fanylion am ddigwyddiadau elusennola chodi arian sydd ar ddod ar ein gwefan ac arTwitter @wwha.

Mae elusennau eraill sydd wedi elwa yn sgilgwaith codi arian gan y staff, yn cynnwys Diwrnod trwynau coch Comic Relief a BanciauBwyd Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghaerdydd,Merthyr Tudful, Wrecsam, Bro Morgannwg aPhen­y­bont ar Ogwr.

Di Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey – tîm awyrblymio dewr WWH.

Page 13: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

13 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013:

Mae Les Cooper wedi cael ei enwebu yn dilynei farwolaeth i gael y wobr i Gydweithiwr Ysbrydoledig. Bu farw Les yn annisgwyl fis diwethaf, ac roedd yn Swyddog Cyngor arArian i ni a oedd yn gweithio yn ein swyddfa yny Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelodgweithgar o Fforwm Gallu Ariannol GogleddCymru, ac roedd yn hynod ddylanwadol ac ynuchel iawn ei barch yn y sector. Cafodd effaithgadarnhaol iawn ar fywydau pawb a fu mewncysylltiad ag ef.

Mae’r garddwyr medrus ‘Ecoryfelwyr WesternCourt’ o’n cynllun er ymddeol Western Courtym Mhen­y­bont ar Ogwr wedi cael lle ar restrfer Gwobr Gwella’r Amgylchedd.

Gwobrau Arwyr Tai CIH:

Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar y rhestr feryng nghategori hynod boblogaidd CydweithiwrYsbrydoledig.

Gwobrau Rhagoriaeth mewn AdnoddauDynol:

Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedicael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwrsy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y sectorElusennol / Nid­er­elw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Anne wedi cael lle arrestr fer y wobr hon.

CRYNODEB GWOBRAUPan aed i’r wasg, roedd nifer o staff a phreswylwyr wedi cael llear restr fer sawl gwobr fawreddog. Maen nhw’n cynnwys:

Les Cooper Helen Jones Anne Hinchey

Ecoryfelwyr Western Court

Page 14: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

14 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | STAFF LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Pob ardal: O’r chwith i’r dde: Tony Wilson (Cyfarwyddwr Cyllid)Shayne Hembrow (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol) Anne Hinchey (Prif Weithredwr) Steve Porter (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)

Pob ardal: Lynnette Glover, Pennaeth TaiNikki Cole, Pennaeth DatblyguAlex Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo

Merthyr Tudful

Rheolwr Tai: Bridget Garrod (Anghenion cyffredinol)Rheolwr Tai: Jackie Bloxham (Tai er ymddeol)Rheolwr Masnachol: Robin Alldred (Atgyweiriadau)Rheolwr Masnachol: Mike Wellock (Cynnal a chadw wedi’i gynllunio)Rheolwr Datblygu: Swydd wag (i’w benodi/i’w phenodi)

Swyddogion Tai: Anghenion Cyffredinol Tai er ymddeolAlex Bevan­Morris Marcelle MackayLiz Daniels (Cynorthwyydd Tai)

Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget GarrodAlison Chaplin (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau)Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr)

Swyddogion Rheoli Asedau: Ian WilliamsJohn HarrisonMartin Lambert

Yr Amgylchedd: Owen Jones

Swyddog Cefnogi Tenantiaeth: Sharon Jones

Natalie Davies

Ffôn: 0800 052 2526E­bost: [email protected]: www.wwha.co.uk

STAFF LLEOL

Page 15: WWH Spotlight on Merthyr Tydfil Spring 2013 (Welsh)

Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD.

acUned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN.

Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205E­bost: [email protected] Gwefan: www.wwha.co.uk

@wwhawwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Ebrill 2013


Recommended