THEATR I ADDYSGU
Bwriad Brecht oedd agor llygaid ei gynulleidfa i gyflwr dyn a
phobl o dan argyfwng ac amgylchiadau anodd y byd.
BRECHT
VERFREMDUNGSEFFEKT
Y gynulleidfa yn ymwybodol eu bod yn gwylio actorion, edrych yn wrthrychol, peidio ag ymgolli yn yr
emosiwn; h.y. dieithro.
BRECHT
TRAETHYDD
Actor sy’n egluro sefyllfaoedd ac yn gyrru’r stori yn ei blaen. Rhoi barn ar ddigwyddiad a chynnig
dewis i’r gynulleidfa.
BRECHT
ACTIO’N WRTHRYCHOL
Yr actor yn osgoi ymgolli yn y cymeriad. Defnyddio actio i fynegi safbwynt neu farn.
BRECHT
PLACARDIAU
Gwybodaeth ar bapur neu arwydd sy’n gyrru’r stori yn ei blaen, neu yn
dweud wrth y gynulleidfa sut i ymddwyn.
BRECHT
GESTUS Ymddygiad y cymeriad sy’n
adlewyrchu agwedd gymdeithasol. Yr actor yn ‘dangos’ agwedd ar y cymeriad trwy symudiad neu air.
BRECHT
HERIO’R GYNULLEIDFA
Rhoi sefyllfaoedd o flaen y gynulleidfa fydd yn eu gorfodi nhw
i holi a chwestiynu eu hunain ynglyn â digwyddiad politicaidd.
BRECHT
YR OCHR DECHNEGOL YN WELADWY.
Torri’r pedwerydd wal. Y gynulleidfa yn gweld y goleuadau,
a’r actorion yn creu’r sain yn fyw ac yn eistedd ac yn newid ar y
llwyfan.
BRECHT
DEFNYDDIO COMEDI A CHANEUON
Cyfleu materion politicaidd i’r gynulleidfa drwy gân neu hwyl cyn eu taro gyda ffeithiau caled.
BRECHT
MONTAGE
Cyfres o ddarluniau llonydd sy’n mynegi bwriadau’r cymeriadau. Cyfres o fframiau mewn ffilm.
BRECHT
TRIBIWNLYS Prif amcan ei theatr oedd gosod
argyfwng cymdeithasol gerbron ei gynulleidfa. Gosod tystiolaeth ar
ffurf ddramatig gerbron y gwylwyr mewn tribiwnlys.
BRECHT