Upload
ngoduong
View
219
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
YMARFERWYR
OS NAD YDYCH YN GWYBOD YR ATEB –
GALWCH FFRIND!
SET MINIMALISTAIDD
Set sy’n galluogi digon o gyfle i waith corfforol.
BERKOFF
VERFREMDUNGSEFFEKT
Y gynulleidfa yn ymwybodol eu bod yn gwylio actorion, edrych yn wrthrychol, peidio ag ymgolli yn yr
emosiwn. Dieithro.
BRECHT
AMCAN (OBJECTIVE)
Rhaid i’r actor ddod o hyd i’r broblem sydd ym mhob uned.
STANISLAVSKI
GWISGOEDD DU A GWYN
Gwisg un lliw sy’n caniatáu i’r actor symud yn rhwydd.
BERKOFF
‘MOSCOW ART THEATRE’ 1898
Sefydlu ysgol ddrama a chyd-weithio gyda Chekov.
STANISLAVSKI
TAITH EMOSIYNOL I’R GYNULLEIDFA
Mynd â’r gynulleidfa ar yr un daith emosiynol â’r actorion.
ARTAUD
STEVEN BERKOFF
Actor, cyfarwyddwr, dramodydd a llenor.
BERKOFF
SYSTEM ACTIO ‘THE METHOD’
Hyfforddiant penodol i actorion. Cyfres o ymarferion a thechnegau
ar gyfer yr actor i ddod i adnabod y cymeriad o’r ddrama.
STANISLAVSKI
THEATR GORFFOROL
Dehongliad corfforol o emosiwn, ystyr a stori.
BERKOFF
FFILM, SLOGANAU A CHANEUON
Defnyddio pob dyfais posib er mwyn cyfleu neges y ddrama.
BRECHT
LLINELL WEITHREDOL ‘THROUGH LINE OF ACTION’
Un digwyddiad yn arwain i’r llall.
STANISLAVSKI
YR OCHR DECHNEGOL YN WELADWY.
Torri’r bedwaredd wal.
BRECHT
‘TEMPO RHYTHM’
Mae gan bob digwyddiad, emosiwn a chymeriad ei bwls ei hun.
STANISLAVSKI
‘MULTI-ROLING’
Chwarae nifer o rannau ac actio yn y trydydd person.
BERKOFF
SEICOGORFFOROL
Cyswllt seicolegol i bob symudiad.
STANISLAVSKI
THEATR DDEFODOL
Creu rhythmau a symudiadau rhythmig.
ARTAUD
BERTOLT BRECHT
Dramodydd, cyfarwyddwr a bardd.
BRECHT
CYLCH CANOLBWYNTIO
Yr actor yn canolbwyntio’n llwyr ar eitem, person neu ddigwyddiad.
STANISLAVSKI
THEATR EPIG
Cyfres o olygfeydd mewn episodau.
Cadwyn o ddigwyddiadau.
BRECHT
LONDON THEATRE GROUP
Sefydlu cwmni perfformio yn 1968.
BERKOFF
THEATR I ADDYSGU
Bwriad Brecht oedd agor llygaid ei gynulleidfa i gyflwr dyn a
phobl mewn argyfwng ac o dan amgylchiadau anodd y byd.
BRECHT
CYNULLEIDFA GANOLOG TOTAL THEATRE
Y gynulleidfa yn rhan o’r perfformiad ac yn cael eu heffeithio yn emosiynol.
Theatr fel rhan o fywyd.
ARTAUD
ENSEMBLE
Yr actorion yn cyd-weithio a chyd-chwarae.
STANISLAVSKI
GWREIDDIAU DYN
Mynd yn ôl at wreiddiau sŵn, iaith a delweddau. Peidio dibynnu ar
eiriau yn unig.
ARTAUD
KARL MARX
Dylanwad mawr ar Brecht a’i ffordd o feddwl.
BRECHT
Y ‘PETAI’ HUDOL
Emosiwn o fywyd neu brofiad yr actor a fydd yn ei gynorthwyo i
greu emosiwn tebyg yn y ddrama.
STANISLAVSKI
TRAETHYDD
Actor sy’n egluro sefyllfaoedd ac yn gyrru’r stori yn ei blaen. Rhoi barn ar ddigwyddiad a chynnig
dewis i’r gynulleidfa.
BRECHT
1937
Blwyddyn geni Berkoff.
BERKOFF
GESTUS Ymddygiad y cymeriad sy’n
adlewyrchu agwedd gymdeithasol. Yr actor yn ‘dangos’ un agwedd o’r
cymeriad trwy symudiad neu air.
BRECHT
PRIF AMCAN SUPER OBJECTIVE
Yr hyn y mae’r actor yn gobeithio ei gyflawni yn y ddrama.
STANISLAVSKI
HERIO’R GYNULLEIDFA
Rhoi sefyllfaoedd o flaen y gynulleidfa fydd yn eu cymell i holi
a chwestiynu eu hunain am ddigwyddiad gwleidyddol.
BRECHT
1896 - 1948
Blwyddyn geni a marw Artaud.
ARTAUD
CAMU ALLAN O GYMERIAD
Yr actor yn siarad yn uniongyrchol â’r
gynulleidfa. BRECHT
PROFIAD THEATRIG
Y gynulleidfa yn cael profiad trwy pob un o’u synhwyrau ac nid drwy’r ymennydd yn unig.
ARTAUD
SET SYML A GWAG
Dim llwyfannu naturiolaidd, na setiau
ysblennydd.
BRECHT
UNEDAU
Torri’r sgript i fyny i ddarnau sy’n rhwydd i’w ymarfer.
STANISLAVSKI
DEFNYDDIO COMEDI A CHANEUON
Cyfleu materion politicaidd drwy gosi’r gynulleidfa a’u taro
gyda ffeithiau caled.
BRECHT
GWAITH CORWS
Gweithio’n greadigol ar destun a’i ddehongli’n gorfforol ac
egnïol fel grŵp. BERKOFF
MONTAGE
Cyfres o ddarluniau llonydd sy’n mynegi bwriadau’r cymeriadau. Cyfres o fframiau mewn ffilm.
BRECHT
YR AMGYLCHIADAU GOSODEDIG
GIVEN CIRCUMSTANCES
Yr actor yn holi cwestiynau am y cymeriad a’i orffennol er mwyn
dod i’w adnabod yn dda.
STANISLAVSKI
TRIBIWNLYS
Prif amcan ei theatr oedd gosod argyfwng cymdeithasol gerbron ei
chynulleidfa. Gosod tystiolaeth ar ffurf ddramatig gerbron y gwylwyr mewn
tribiwnlys.
BRECHT
Y COF EMOSIYNOL
Yr actor yn chwilio am y rheswm tu ôl i bob emosiwn. Ail-fyw atgofion
o’i orffennol.
STANISLAVSKI
DEHONGLI TESTUN YN GREADIGOL
Creu perfformiad lle mae’r testun yn cael ei ddehongli drwy
symudiadau clir a synau.
BERKOFF
‘YR WYLAN’
Cynhyrchiad naturiolaidd cyntaf o’r ddrama yn 1898.
STANISLAVSKI
‘EAST’ - 1975
Dyddiad a theitl ei ddrama gyntaf.
BERKOFF
ACTIO’N WRTHRYCHOL
Yr actor yn osgoi ymgolli yn y cymeriad. Defnyddio actio i fynegi safbwynt neu farn.
BRECHT
CONSTANTIN STANISLAVSKI
Actor, Cyfarwyddwr ac Ymarferwr o Rwsia.
STANISLAVSKI
GWAITH MEIM
Creu symudiadau symbolaidd, grotesg i gyfleu ystyr.
BERKOFF
IAITH DDIRIAETHOL
Iaith a symbolau gweledol sy’n gallu cael eu deall ar lefel emosiynol gan gynulleidfaoedd ym mhobman
yn y byd.
ARTAUD
COLUR
Creu wyneb gwyn, gwisgo mwstash. Elfennau tebyg i
glown.
BERKOFF
COMIWNYDDIAETH
Mudiad sy’n credu mewn cymdeithas ddiddosbarth a
chydberchnogaeth.
BRECHT
1863 - 1938
Blwyddyn geni a marw Stanislavski.
STANISLAVSKI
BLOCIO CLIR
Rhaid i’r symudiadau fod yn glir a chadarn.
BERKOFF
ANTONIN ARTAUD
Actor, cyfarwyddwr a damcaniaethwr.
ARTAUD
Y FONOLOG FEWNOL
Yr is-destun: yr hyn nad yw’n cael ei ddweud ar ffurf gair.
STANISLAVSKI
THEATR CREULONDEB
Gwneud i bobl wynebu eu hofnau a’r erchyllterau sy’n digwydd yn y
byd.
ARTAUD
PLACARDIAU
Gwybodaeth ar bapur neu arwydd sy’n gyrru’r stori yn ei blaen, neu
sy’n dweud wrth y gynulleidfa sut i ymddwyn.
BRECHT
IAITH GORFFOROL
Creu delweddau gweledol. Cysylltu iaith gyda dulliau eraill
o fynegi – yn gorfforol.
ARTAUD
1898 - 1956
Blwyddyn geni a marw Brecht.
BRECHT
TEIMLO YN HYTRACH NA MEDDWL
Rhaid i bob unigolyn ddioddef yn bersonol. Rhaid teimlo ac nid siarad
amdano yn unig.
ARTAUD
DA IAWN CHI!