Upload
carys-moseley
View
147
Download
1
Embed Size (px)
Citation preview
Ydy credu mewn Duw yn cael dylanwad ar fywydau pobl? Golwg ar dystiolaeth arolygon barn
Dr. Carys Moseley. Eisteddfod y Fenni. 4 Awst 2016
Ymddiried mewn gwahanol broffesiynau
Tystiolaeth am agweddau pobl yn ôl eu crefydd ynglŷn â faint maen nhw’n ymddiried mewn sefydliadau a phroffesiynau gwahanol
Tystiolaeth am agweddau pobl sy’n ystyried eu hunain yn Gymry am y pynciau hyn
Nifer o bobl yn honni fod argyfwng mewn ymddiriedaeth (‘crisis of trust’) yng ngwledydd y gorllewin, a fod hyn yn gysylltiedig â dirywiad Cristnogaeth a’r eglwysi. Ydy’r ddamcaniaeth hon yn dal dŵr?
Faint mae pobl yn ymddiried mewn sefydliadau Ffynhonell: British Social Attitudes Survey, 2014 (www.BritSocAt.com, wedi ei
ddatblygu gan y ‘Centre for European Comparative Survey Data’)
Y Gwasanaeth Sifil Does dim gwahaniaeth
arwyddocaol rhwng pobl sy’n honni cysylltiad gyda chrefydd a phobl digrefydd o ran faint maen nhw’n ymddiried yn y gwasanaeth sifil.
Does dim perthynas rhwng pa mor aml mae rhywun yn mynychu addoliad crefyddol a faint maen nhw’n ymddiried yn y gwasanaeth sifil.
Swyddfa’r Ystadegydd Gwladol
Mae pobl o enwadau ymneilltuol a phobl digrefydd yn fwy tebygol o ymddiried yn y SYG na phobl sy’n Anglicaniaid, Catholigion neu aelodau o grefyddau eraill (mewn enw)
Does dim perthynas rhwng pa mor aml mae rhywun yn addoli a faint maen nhw’n ymddiried yn y SYG
Dywedwch i ba raddau rydych chi’n ymddiried yn Swyddfa’r Ystadegydd Gwladol (Office of National Statistics) Ffynhonell: British Social Attitudes Survey, 2014 (www.BritSocAt.com, wedi ei ddatblygu gan y ‘Centre for European Comparative Survey Data’)
Anglican Catholig Rhufeinig
Enwad Cristnogol arall
Crefydd arall
Dim crefydd
Cyfanswm yn ymddiried
65.9% 59.3% 69.3% 54.3% 71.4%
Llawer 8.1% 8.4% 8.3% 7.1% 9.1%Tipyn 57.8% 50.9% 61% 47.2% 62.3%Tueddi peidio
9.2% 8.8% 7% 9.4% 7.4%
Ddim o gwbl
1.5% 2.2% 1.8% 0% 1.7%
Ansicr 23.3% 29.7% 21.9% 36.3% 19.6%
Faint mae pobl yn ymddiried mewn sefydliadauFfynhonell: British Social Attitudes Survey, 2014 (www.BritSocAt.com, wedi ei ddatblygu gan y
‘Centre for European Comparative Survey Data’)
Y Llysoedd Mae pobl o bob oedran yn
ymddiried yn y llysoedd. Nid oes gwahaniaeth o ran
crefydd faint mae pobl yn ymddiried yn y llysoedd.
Y Cyfryngau Does dim perthynas rhwng pa
mor aml mae pobl yn addoli a faint maen nhw’n ymddiried yn y cyfryngau
Dyw’r mwyafrif o bobl ddim wir yn ymddiried yn y cyfryngau (82% o bobl Cymru a 74% o Gymry).
Ymddiried mewn pobl yn gyffredinol Ffynhonell: British Social Attitudes Survey, 2004 (www.BritSocAt.com, wedi ei ddatblygu gan y ‘Centre
for European Comparative Survey Data’)
Roedd pobl oedd yn addoli’n wythnosol llawer mwy tebygol o ymddiried mewn pobl yn gyffredinol (60%) na phobl digrefydd(42%)
Roedd 58% o bobl digrefydd yn credu na allech chi fod yn rhy ofalus gyda phobl, tra fod 40% o addolwyr wythnosol yn credu hyn
Gan fod pobl digrefydd yn tueddi i fod yn ifancach, rhaid tynnu’r casgliad fod nifer helaeth o bobl ifancach yn fwyfwy gwyliadwrus o bobl eraill ac yn cael trafferth ymddiried mewn pobl eraill ar lefel bersonol
Agweddau tuag at awdurdodFfynhonell: British Social Attitudes, (www.BritSocAt.com, wedi ei ddatblygu gan y
‘Centre for European Comparative Survey Data’)
Pobl sy’n dweud eu bod yn perthyn i grefydd ychydig yn fwy tebygol o gytuno y dylsai ysgolion ddysgu plant i barchu awdurdod, ond mae’r mwyafrif o bobl o blaid
Mae pobl digrefydd wedi dod yn fwy parod i ddweud y dylid ufuddhau i ddeddf hyd yn oed os mae’n anghyfiawn.
1991 – 31% o anffyddwyr a 41% o theistiaid yn cytuno 2008 – 43% o anffyddwyr a 45% o theistiaid yn cytuno Ydy hyn yn golygu fod pobl ddigrefydd yn llai hyderus ac yn methu
cyfiawnhau anufudd-dod sifil? A oes argyfwng awdurdod seciwlar i’w gael?
Ydy’r wladwriaeth les wedi disodli Duw?
Credai Bertrand Russell y byddai’r wladwriaeth les a’i hathroniaeth sosialaidd yn disodli ffydd yn Nuw ym meddyliau pobl, gan y byddai’r wladwriaeth yn darparu ar gyfer anghenion pobl yn y ffordd yr arferai elusennau ac eglwysi wneud
Poblogrwydd y ddadl hon ymhlith cymdeithasegwyr ac economegwyr crefydd – y syniad fod y farchnad rydd a chyfundrefn iechyd yn seiliedig ar yswiriant yn rhoi arwyddion cliriach i bobl o’u sefyllfa foesol
Tystiolaeth gymysg o’r Deyrnas Unedig o’i chymharu â gwledydd gydag hanes Comiwnyddiaeth fel yr hen Undeb Sofietaidd
BSA 1991-2008 – mae pobl o’r dosbarthiadau cymdeithasol is yn fwy tebygol o gredu yn Nuw na pheidio, ac yn llai tebygol o fod yn anffyddwyr na phobl o ddosbarth I. Ac eto, pobl o’r dosbarthiadau is sy’n fwy tebygol o dderbyn budd-daliadau ac felly ymelwa o’r wladwriaeth les.
BSA 2008 oedd yr unig flwyddyn yn y BSA oedd yn mesur cred yn Nuw a ‘welfarism’. Pobl dosbarth I oedd yn gryf o blaid lles oedd y mwyaf tebygol o fod yn anffyddwyr, ond hefyd o gredu yn Nuw. Yna roedd pobl oedd yn eithafol o elyniaethus i’r wladwriaeth les yn fwy tebygol o beidio credu yn Nuw.
Mae’n ymddangos fod yr agwedd o ‘welfarism’ cryf i raddau yn disodli cred yn Nuw, sy’n ddealladwy o ystyried hanes Comiwinyddiaeth. Ond mae cred eithafol yn y farchnad rydd hefyd yn gallu gwneud hyn.
Dechreuwyd y raddfa les (‘welfarism scale’) yn 2001, felly dim ond yn 2008 y mesurwyd ef yn erbyn cred mewn Duw, a fesurwyd ers 1991. Bu dirywiad mewn cred mewn ‘welfare’ ers 2001, ac hefyd dirywiad mewn cred mewn Duw. Yn y ddau achos roedd gwahaniaeth o tua 5%.
Dengys data 2004 a 2009 ar faint mae pobl yn ymarfer eu crefydd (‘religiosity’) a’r raddfa les for pobl sy’n addoli’n gyson yn sefyll allan fel y lleiaf tebygol i fod yn wrthwynebus i ‘welfare’ ac ychydig yn fwy cefnogol tuag ato. Pobl digrefydd yw’r mwyaf gwrthwynebus.
Mae hyn i gyd yn awgrymu fod twf anffyddiaeth wedi esgor ar elyniaeth tuag at y wladwriaeth les a’r syniad ei bod hi’n cyflawni dyletswydd tuag at y tlawd a’r anghenus
Dirywiad mewn pleidleisio: a oes esboniad crefyddol? Ers Etholiad Cyffredinol 1945 mae canran yr etholwyr
yn sy’n pleidleisio mewn etholiadau cyffredinol wedi disgyn o 73.8% yn y DU a 73.4% yng Nghymru i 66.1% a 65.7% yn 2015 (http://www.ukpolitical.info/Turnout45.htm)
Mae tystiolaeth glir dros amser fod pobl digrefydd ac anffyddwyr yn llai tebygol o bleidleisio
Mae tystiolaeth dros amser fod pobl sy’n arddel crefydd ac sy’n credu yn Nuw yn fwy tebygol o gredu fod dyletswydd i bleidleisio
‘Mewn etholiad cyffredinol...mae’n ddyletswydd ar bawb i bleidleisio’. (In a general election...it's everyone's duty to vote.)Tabl yn seiliedig ar data o British Social Attitudes Survey 1991-2013 (www.BritSocAt.com, wedi ei ddatblygu gan y ‘Centre for European Comparative Survey Data’)
1991 1994 1996 1998 2000 2001 2004 2005 2008 2009 2010 2011 20130%10%20%30%40%50%60%70%80%90%
Anglicaniaid CatholigionCristnogion eraill Crefyddau eraillPobl digrefydd
‘Mewn etholiad cyffredinol...mae’n ddyletswydd ar bawb i bleidleisio’. (In a general election...it's everyone's duty to vote.)Tabl yn seiliedig ar data o British Social Attitudes Survey 1991-2013.(www.BritSocAt.com, wedi ei ddatblygu gan y ‘Centre for European Comparative Survey Data’)
19982008
0% 10% 20% 30% 40% 50% 60% 70% 80%
Dyletswydd i bleidleisio mewn perthynas gyda graddfa credu yn Nuw neu beidio
Sicr fod Duw yn bodoli Amau ond creduCredu weithiau Pwer uwchDdim yn gwybod os oes'na Dduw Dim Duw
‘Mewn etholiad cyffredinol...mae’n ddyletswydd ar bawb i bleidleisio’. (In a general election...it's everyone's duty to vote.)Tabl yn seiliedig ar data o British Social Attitudes Survey 1991-2013(www.BritSocAt.com, wedi ei ddatblygu gan y ‘Centre for European Comparative Survey Data’)
1996 1998 2001 2004 2005 2008 2009 2010 2011 20130%10%20%30%40%50%60%70%80%90%
Cymry Poblogaeth Cymru Cyfartaledd y DU
Credu mewn dyletswydd i bleidleisio mewn perthynas gyda chredu gyda’r gosodiad ‘dylsai pobl sydd am gael plant briodi’ (‘people who want to have children ought to get married’) Tabl yn seiliedig ar data o British Social Attitudes Survey 1991-2013(www.BritSocAt.com, wedi ei ddatblygu gan y ‘Centre for European Comparative Survey Data’)
2000
2010
0% 10% 20% 30% 40% 50% 60% 70% 80%Anghytuno'n gryf AnghytunoDdim yn cytuno nac yn anghytuno CytunoCytuno'n gryf
Pleidleisiau’r ‘dde eithafol’: pleidlais grefyddol neu ddigrefydd?
O dro i dro mae pleidiau dde eithafol Prydeinig wedi ceisio defnyddio rhethreg Gristnogol (‘Britain is a Christian country’) er mwyn ennill cefnogaeth
Mae’r dystiolaeth hir-dymor yn awgrymu fod cefnogwyr y dde eithafol yn llai tebygol o ystyried eu hunain yn Gristnogion a mwy tebygol o fod yn ddigrefydd yn 2005, ond erbyn 2009 wedi attynnu nifer o gefnogwyr oedd yn perthyn i grefydd (Cristnogaeth yn bennaf) mewn enw yn unig
Roedd y BNP yn fwy cysylltiedig gyda phobl digrefydd a UKIP yn fwy cysylltiedig gyda phobl sy’n addoli’n achlysurol
Dim ond hen bobl sy’n closio at y syniad fod rhaid i bobl fod yn ‘Gristnogion’ i gael eu hystyried yn Brydeinwyr go iawn. I bobl ifanc mae ‘Britishness’ yn golygu ‘secularism’.
‘Some people say the following things are important for being truly British. Other say they are not important. How important do you think it is ... to be a Christian?’Gwybodaeth o British Social Attitudes Survey, 1995, 2003, 2013(www.BritSocAt.com, wedi ei ddatblygu gan y ‘Centre for European Comparative Survey Data’)
Yn 1995 roedd 60% o bobl oedd yn addoli’n wythnosol yn cytuno. Yn 2003 roedd 70% yn cytuno. Yn 2013 roedd 50% yn cytuno. Ym mhob blwyddyn roedd perthynas glir rhwng addoli’n fwy aml a
chredu fod angen bod yn Gristion i fod yn ‘wirioneddol Brydeinig’.
Pleidleisio yn Refferendwm Ewrop
Roedd yna ddimensiynau crefyddol i’r pleidleisio am aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd
Dangosodd rhai arolygon fod pobl sy’n ‘Gristnogion’ mewn enw (fel y’i cyfrifir yn y Cyfrifiad) fwy o blaid Gadael nac Aros
Dangosodd arolwg Ashcroft taw Moslemiaid a Hindwiaid oedd fwyaf o blaid Aros. Roedd Iddewon a Siciaid o blaid Gadael
Dangosodd arolwg Christian Research ym Mawrth 2016 o bobl sy’n mynychu eglwys yn rheolaidd fod 50% o blaid Aros tra bod 20% yn bwriadu pleidleisio dros Adael.
Cafwyd hollt grefyddol ddofn rhwng Cristnogion o argyhoeddiad sy’n addoli’n rheolaidd, a Christnogion ‘mewn enw’ yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig
Sut bleidleisiodd pobl oedd yn honni ymlyniad i’r gwahanol grefyddau yn Refferendwm Ewrop, 2016.
Graff yn seiliedig ar Lord Ashcroft Polls, Mehefin 2016lordashcroftpolls.com/2016/06/how-the-united-kingdom-voted-and-why
Aros
Gadael
0% 10% 20% 30% 40% 50% 60% 70% 80%Digrefydd Arall Bwdaid SiciaidIddewon Hindwiaid Moslemiaid Cristnogion
Pleidlais Brexit, Pleidlais symbolaidd
Dangosodd arolwg Ashcroft fod pleidleiswyr dros Aros yn gryf o blaid y canlynol, tra bod pleidleiswyr dros Adael yn eu herbyn: aml-ddiwylliannedd rhyddfrydiaeth gymdeithasol ffeministiaeth y mudiad gwyrdd globaleiddio y rhyngrwyd mewnfudoRoedd y ddwy ochr wedi eu rhannu lawr y canol am bwnc cyfalafiaeth
Y raddfa ‘Welsh-British’: ‘Cristnogol’ – digrefydd/seciwlar? Ceir peth tystiolaeth fod ystyried eich hun yn Gymry yn ei gwneud hi’n
fwy tebygol eich bod yn ystyried eich hun yn Gristion mewn enw, o ran ‘perthyn’ i enwad, ond mae hyn yn prysur ddirywio
Dengys tystiolaeth ddiweddaraf y ‘British Election Study’ (Post-election wave 2015; www.britishelectionstudy.com) fod Cymry Cymraeg dipyn llai tebygol o ddisgrifio eu hunain fel pobl ddi-enwad na phobl nad sy’n hyderus eu Cymraeg neu’r di-Gymraeg, ond bron yr un mor debygol o ddweud nad ydynt yn perthyn i unrhyw grefydd
Canran pobl Cymru yn ôl sgiliau iaith Gymraeg sy’n ddi-enwad a digrefyddBritish Election Study Wave 6 of 2014-2017 BES Internet Panel (post-election wave). Mai 2015
Ddim yn perthyn i unrhyw grefydd
Ddim yn perthyn i unrhyw enwad
0.00% 20.00% 40.00% 60.00%Di-Gymraeg Ddim yn rhuglRhugl yn y Gymraeg