Gwers 3 – Mae Cymorth wrth Law

Preview:

DESCRIPTION

Gwers 3 – Mae Cymorth wrth Law. Deall beth yw’r RNLI a beth y mae’n ei wneud Deall trefniadau achub yr RNLI a phwy sy’n gwneud beth Deall pwysigrwydd gweithio fel tîm a pha rinweddau sydd eu hangen ar aelodau o dîm. Ffocws. Beth yw’r RNLI? Beth mae’r RNLI yn ei wneud?. Yr RNLI. - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Gwers 3 – Mae Cymorth wrth Law

• Deall beth yw’r RNLI a beth y mae’n ei

wneud

• Deall trefniadau achub yr RNLI a phwy

sy’n gwneud beth

• Deall pwysigrwydd gweithio fel tîm a pha

rinweddau sydd eu hangen ar aelodau o

dîm

Ffocws

• Beth yw’r RNLI?

• Beth mae’r RNLI yn ei wneud?

• Ydych chi wedi gweld y ddelwedd

hon o’r blaen?

Yr RNLI

• Elusen sy’n darparu gwasanaeth chwilio ac achub

24 awr â badau achub o gwmpas arfordir y DU a

Gweriniaeth Iwerddon yw’r RNLI

• Mae’n darparu gwasanaeth achubwyr tymhorol ar

draethau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon

a Jersey hefyd

• Ers sefydlu’r RNLI ym 1824, mae ei fadau achub,

a’i achubwyr ers 2001, wedi achub mwy na

139,000 o fywydau

• Mae’r RNLI yn annibynnol i’r Llywodraeth ac yn

dibynnu ar gyfraniadau gwirfoddol a

chymynroddion ar gyfer ei incwm

Beth yw’r RNLI?

• Pryd byddai angen cymorth yr RNLI

ar rywun?

• Sut mae mynd ati i gael cymorth gan

yr RNLI?

Yr RNLI

Y broses achub

Disgrifiwch broses achub yr RNLI o’r

alwad brys i ddychwelyd i’r orsaf

Torrwch y cardiau allan a’u gosod yn y drefn gywir i ddangos beth

sy’n digwydd mewn argyfwng lle mae angen cymorth yr RNLI

Yr alwad brys

Gwyliwch Ffilm 4 i weld sut

mae criwiau achub yn gorfod

gweithio fel tîm er mwyn

achub bywydau ar y môr

Cliciwch yma i wylio

• Pa rinweddau sydd eu hangen ar bobl i fod yn aelodau

effeithiol o dîm?

Gwaith tîm

?

• A allwch chi eich gosod eich hun

mewn trefn heb dorri gair?

• Nawr ceisiwch eich gosod eich hunain

mewn trefn eto, y tro hwn cewch

siarad â’ch gilydd

• Ydy cael siarad yn gwneud

gwahaniaeth?

A allwch chi gyfathrebu?

• Deall beth yw’r RNLI a beth y mae’n ei

wneud

• Deall trefniadau achub yr RNLI a phwy

sy’n gwneud beth

• Deall pwysigrwydd gweithio fel tîm a

pha rinweddau sydd eu hangen ar

aelodau o dîm

Adolygu

• A allwch chi feddwl am dri pheth rydych chi wedi eu dysgu am yr RNLI? – Beth ydyn nhw?

1)

2)

3)

• A allwch chi feddwl am dair rhinwedd sydd eu hangen i fod yn aelod da o griw’r RNLI? – Beth ydyn nhw?

1)

2)

3)

Adolygu

Recommended