Nodyn i’r athro / athrawes : Argraffwch y cardiau canlynol gefn-wrth-gefn

Preview:

DESCRIPTION

Nodyn i’r athro / athrawes : Argraffwch y cardiau canlynol gefn-wrth-gefn . Rhowch un cerdyn i bob disgybl . Bydd disgybl A yn darllen y frawddeg . Yna bydd disgybl B yn nodi’r camgymeriad , y cywiriad a’r rheswm gyda disgybl A yn ei wirio . - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Nodyn i’r athro/athrawes:

Argraffwch y cardiau canlynol gefn-wrth-gefn.

Rhowch un cerdyn i bob disgybl.

Bydd disgybl A yn darllen y frawddeg. Yna bydd disgybl B yn nodi’r camgymeriad, y cywiriad a’r rheswm gyda disgybl A yn ei wirio.

Bydd y dasg yn cael ei hail-adrodd gyda disgybl B yn holi y tro hwn.

Cyfnewid cardiau a mynd at bartner gwahanol.

Roedd e’n gwrthod â mynd am eu bod wedi lledaenu

storïau amdano ef.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmgwrthod â gwrthod Does dim angen yr

arddodiad ‘â’ ar ôl ‘gwrthod’.

Roedd e’n gwrthod â mynd am eu bod wedi lledaenu storïau amdano ef.

Roedd e’n gwrthod mynd am eu bod wedi lledaenu storïau

am ef.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmam ef amdano ef Nid yw’r

arddodiad wedi cael ei redeg.

Mae angen rhedeg yr

arddodiad ‘am’ i’r ffurf trydydd person unigol.

Roedd e’n gwrthod mynd am eu bod wedi lledaenu storïau am ef.

Carwn fod ar ben fy hun heddiw gan nad yw hi wedi cysylltu â mi.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmar ben ar fy mhen Mae angen

defnyddio’r rhagenw

dibynnol blaen, person cyntaf

unigol ‘fy’.

Carwn fod ar ben fy hun heddiw gan nad yw hi wedi cysylltu â mi.

Carwn fod ar fy mhen fy hun heddiw gan nad yw hi wedi cysylltu i fi.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmcysylltu i cysylltu â Mae’r arddodiad

anghywir wedi cael ei ddefnyddio.

Carwn fod ar fy mhen fy hun heddiw gan nad yw hi wedi cysylltu i fi.

Mae’r bachgen yn dangos ei theimladau iddyn nhw’n amlwg iawn ar y cae rygbi.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmei

theimladauei deimladau Ceir treiglad

meddal ar ôl y rhagenw dibynnol

blaen, trydydd unigol,

gwrywaidd.

/ Mae’r rhagenw yn cyfeirio at

fachgen, felly mae angen treiglad

meddal.

Mae’r bachgen yn dangos ei theimladau iddyn nhw’n amlwg iawn ar y cae rygbi

Mae’r bachgen yn dangos ei deimladau i nhw’n amlwg iawn ar y cae rygbi.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmi nhw iddyn nhw Mae angen

rhedeg yr arddodiad ‘i’.

Mae’r bachgen yn dangos ei deimladau i nhw’n amlwg iawn ar y cae rygbi.

Does gan hi ddim rheswm dros fyw heblaw i wneud bywyd ei merch yn uffern.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmgan hi ganddi hi Mae angen

rhedeg yr arddodiad ‘gan’ – dylid ei redeg

i’r trydydd unigol

benywaidd.

Does gan hi ddim rheswm dros fyw heblaw i wneud bywyd ei merch yn uffern.

Does ganddi hi ddim rheswm dros fyw heblaw am wneud bywyd ei merch yn uffern.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmam wneud i wneud Mae’r arddodiad

anghywir wedi cael ei

ddefnyddio. Mae angen yr

arddodiad ‘i’ cyn y berfenw ‘gwneud’

Does ganddi hi ddim rheswm dros fyw heblaw am wneud bywyd ei merch yn uffern.

’Rwy’n mynd i’r meddyg.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmmynd i mynd at Yr arddodiad

anghywir wedi cael ei ddefnyddio – mynd at berson,

mynd i le.

’Rwy’n mynd i’r meddyg.

Cyn penderfynu bydd hi’n siarad i’w thad.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmsiarad i’w siarad

â’i/gyda’iMae’r arddodiad

anghywir wedi cael ei ddefnyddio.

Cyn penderfynu bydd hi’n siarad i’w thad.

Gwêl y bardd lawer o’u gerddi mewn cylchgronau.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmo’u gerddi o’i gerddi Mae angen y

rhagenw dibynnol blaen trydydd unigol gwrywaidd yma yn

hytrach na’r trydydd lluosog.

Gwêl y bardd lawer o’u gerddi mewn cylchgronau.

Cyflwynodd yr awdur nifer o fobl ddifyr yn ei nofel.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmo fobl o bobl Camdreiglo. Ceir

treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘o’.

Cyflwynodd yr awdur nifer o fobl ddifyr yn ei nofel.

Gwn fod llawer o drysorau yn yr amgueddfa y mae pobl leol yn

ymddiddori yn.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmymddiddori

ynymddiddori

ynddyntMae angen rhedeg yr

arddodiad ‘yn’ i’r trydydd person

lluosog.

Gwn fod llawer o drysorau yn yr amgueddfa y mae pobl leol yn ymddiddori yn.

Clywais ddydd Mercher fod nifer o gyngherddau yn cael ei gohirio.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmei gohirio eu gohirio Mae angen

defnyddio’r rhagenw dibynnol blaen

lluosog oherwydd fod ‘cyngherddau’ yn

enw lluosog.

Clywais ddydd Mercher fod nifer o gyngherddau yn cael ei gohirio.

Ai hon yw’r gân y byddwch chi’n ei chanu mewn pob eisteddfod leol?

Camgymeriad Cywiriad Rheswmmewn pob ym mhob Defnyddiwyd yr

arddodiad anghywir.

Ai hon yw’r gân y byddwch chi’n ei chanu mewn pob eisteddfod leol?

Ceir sawl siop yn Bangor.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmyn Bangor ym Mangor Ceir treiglad trwynol

ar ôl yr arddodiad ‘yn’.

Ceir sawl siop yn Bangor

Gyda ti mae bywyd yn wych.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmgyda ti gyda thi Ceir treiglad llaes ar

ôl yr arddodiad ‘gyda’.

Gyda ti mae bywyd yn wych.

O Môn y daw Twm.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmo Môn o Fôn Ceir treiglad

meddal ar ô yr arddodiad ‘o’.

O Môn y daw Twm.

Roedd y ferch yn llawn gwenwyn tuag at pawb.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmat pawb at bawb Ceir treiglad meddal

ar ôl yr arddodiad ‘at’.

Roedd y ferch yn llawn gwenwyn tuag at pawb.

Dw i wedi dysgu fy treigladau yn ardderchog!

Camgymeriad Cywiriad Rheswmfy treigladau fy nhreigladau Ceir treiglad trwynol

ar ôl y rhagenw dibynnol blaen,

cyntaf unigol ‘fy’.

Dw i wedi dysgu fy treigladau yn ardderchog!

Ceir dewis helaeth o lyfrau yn y lyfrgell.

Camgymeriad Cywiriad Rheswmy lyfrgell y llyfrgell Nid yw ‘ll’ yn treiglo

ar ôl y fannod.

Ceir dewis helaeth o lyfrau yn y lyfrgell

Recommended