Oes ganddoch chi ffrindiau boring...sôn am dadau yn y straeon hyn!) yn meddwi mewn tai tafarnau....

Preview:

Citation preview

Mae’n ddiwedd wythnos galed yn ygwaith. Rydach chi wedi trefnu cwrdd âffrind i ddathlu ei bod hi’n nos Wener. Ar ôli chi archebu gwydraid mawr o win, ganedrych mlaen at gael rhoi’r byd yn ei le,mae eich ffrind yn gofyn am baned o goffi.Sut ydach chi’n teimlo tuag at eich ffrind?

Does dim angen i chi ateb… mae gen iryw syniad yn barod! Eleni, penderfynaisosod her ychydig yn wahanol i fi fy hun. Arddechrau’r flwyddyn roedd dipyn o sôn am‘fis Ionawr sych’ ar y cyfryngaucymdeithasol. Felly dyna oedd yr hergychwynnol. Ond yn anffodus, cefais yffliw am y tro cyntaf yn fy mywyd arddiwedd Ionawr, a doedd gen i ddimawydd cyffwrdd mewn alcohol na choffitan o leiaf ddiwedd mis Chwefror. A dynapryd y penderfynais estyn yr her, agwneud 2018 yn flwyddyn ddi-alcohol. Nidfy mod i’n fy ystyried fy hun yn ddibynnolar alcohol cyn hynny (pwy sydd?!), ondroeddwn i’n sicr yn edrych ymlaen yneiddgar iawn at agor potel (neu ddwy) owin dros y penwythnos, yn enwedig osoedd hi wedi bod yn wythnos arbennig ogaled yn y gwaith.

Mae gynnon ni, Gymry, berthynasgymhleth ag alcohol. Pan oeddwn i yn ycoleg (yn Aberystwyth) ar ddechrau’r1980au, os nad oedd rhywun yn yfed,yna’r casgliad arferol oedd bod y personhwnnw’n grefyddol, yn ‘Efengýl’, mwy nathebyg. A dyna, i fod yn deg, y byddwninnau wedi ei feddwl ar y pryd. Roedd fynain, a gafodd ei geni yn 1911, yn drwmdan ddylanwad meddylfryd y mudiaddirwest – a’r unig alcohol a welais i erioed

yn ei thª hi oedd potel fach o RhubarbTincture (stwff ffiaidd at y stumog – do, fewnes i ei drio!) neu botel fach o frandi ifwydo ffrwythau sych ar gyfer gwneudcacen Nadolig. Cafodd hi ei hun ei maguar storïau am blant bach amddifad, a oeddyn gorfod eistedd ar stepen y drws tra bodeu mamau (dydw i ddim yn cofio unrhywsôn am dadau yn y straeon hyn!) ynmeddwi mewn tai tafarnau. Felly roeddalcohol a chrefydd a bod yn wraig tª waela mam esgeulus i gyd yn gydgysylltiedigiddi hi. Rydw i’n ffodus iawn bod agweddfy mam fy hun wedi bod yn llawer mwycymedrol wrth i mi dyfu fyny.

Nid oes neb eleni wedi awgrymu fy modi’n grefyddol am nad ydw i’n yfed (o leiafmae hynny wedi newid), ond mi rydw iwedi cael fy ngalw yn boring lawer gwaith.A phan oeddwn i’n cwrdd â ffrind o’r de ynddiweddar, mae’n rhaid i mi gyfaddef i mifynd â hen flwch tabledi antibiotics gyda fi,er mwyn cael esgus ‘go iawn’ dros beidioag yfed – roeddwn i’n gwybod na fyddai’rffrind honno’n fodlon fel arall! Yn sicr rydwinnau wedi ymateb fel hyn fy hun yn ygorffennol – mae rhywbeth cymdeithasolac ymlaciol iawn am gyd-fwynhau potel owin. Felly rwy’n deall y siom. Ond maemwy iddi na hynny, weithiau, a gall yrymateb ymylu ar fod yn gas. Ai euogrwyddam yfed alcohol sydd y tu ôl i hynny?

Erbyn hyn does dim ots gen i os yw poblyn fy ngalw i’n boring – mae’n eitha’diddorol trio gweithio allan pam maennhw’n dweud y fath beth! Ond yn ogystal âbod yn iachach yn gorfforol, rwy’ngobeithio y bydd her 2018 wedi fy

ngwneud i’n fwy caredig (o ran meddwl ageiriau) tuag at unrhyw ffrind y byddaf yncwrdd â hi/ef ar ôl y gwaith ar nos Wenerac sy’n archebu coffi tra ’mod innau’narchebu gwydraid anferthol o winhirddisgwyliedig!

(Trwy ganiatâd yr awdur aChapel y Morfa, Aberystwyth)

[Gol. Mewn byd pan fo gymaint ogyffuriau’n cael eu cymryd – am resymaumeddygol, yn gyfreithlon neu ynanghyfreithlon, mae’n perthynas â’r hynsydd wrth gwrs yn gyffur sy’n medru eingwneud yn ddibynnol ac yn gymhleth. Nidyw ‘cyfreithlon’; yr un peth â ‘diogel.’ Sutddylem ymagweddu tuag at Alcohol a’rdefnydd neu’r camddefnydd ohono yn eincymdeithas a’n cenhedlaeth?

Gadewch i ni wybod pa gyngor fyddechchi’n ei gynnig i Gristion ifanc heddiw ameu perthynas â’r ddiod gadarn]?

Ffydd a gwleidyddiaeth … t. 2 • O’r Silff Lyfrau … t. 8 • O’r Capeli … t. 8

yGOLEUADCYFROL CXLVI RHIF 44 DYDD GWENER, TACHWEDD 2, 2018 Pris 50c

EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

Oes ganddoch chiffrindiau boring?

Tabled y TabernaclMewn ymateb i’ch erthygl am Gofio dydabledi hoffwn dynnu’ch sylw at dabledhynafol oedd yn perthyn yn wreiddiol igapel Seion, Resolfen, a adeiladwyd ym1821. Capel unllawr 22 troedfedd x 33 troedfedd(6.7m x 10m) a dynnwyd i lawr ym 1867 iadeiladu capel mwy ydoedd. Gweithiwyd cerrig yr hen gapel i mewn iwal gefn y capel newydd, gan gynnwysy dabled. Mae’n dechrau malurio erbynhyn.

Dyma’r ysgrifen: Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dª Dduw, a bydd barotach i wrandaw nag i roi

aberth ffyliaid. Preg. V.1. W. a D. Rees

1821

Ar ôl dymchwel capel y Tabernacl ym1986 (gweler Capeli Cymru), maegennym gapel 6.7m x 10m unwaith eto,sydd â lle i 100 eistedd.

Phillip Jones, Resolfen

Recommended