6
Cymru Mae’r rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau yn chwarae rhan hollbwysig wrth gysylltu pobl, busnesau a chymunedau er mwyn cefnogi twf economaidd rhanbarthol a chenedlaethol. Rydym yn rhedeg y rheilffyrdd mwyaf diogel yn Ewrop, ac wedi ymrwymo i gael pawb adref yn ddiogel pob dydd. Yn ein rôl fel sefydliad gwasanaeth rheoli asedau, mae Network Rail yn berchen ar seilwaith Cymru a’r Gororau, ac yn ei weithredu, ei gynnal a’i gadw a, lle caiff ei ariannu i wneud, yn ei wella. Mae’n bleser gennyf gyflwyno ein Cynllun Busnes Strategol arfaethedig ar gyfer Cyfnod Rheoli 6 2019-2024. Mae’r Cynllun wedi cael ei gyflwyno i’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd i gael ei ystyried. Mae’n adeiladu ar y trawsnewidiad y dechreuodd Network Rail arno yng Nghyfnod Rheoli 5 oedd yn cynnwys datganoli’r Llwybr. Yn ystod Cyfnod Rheoli 5 mae £900 miliwn wedi cael eu buddsoddi ar draws y llwybr. Gellir lawrlwytho’r Cynllun Busnes Strategol llawn yma www.networkrail.co.uk/ strategicbusinessplan. Mae’r Cynllun yn cefnogi ein cenhadaeth sef rhedeg rheilffyrdd diogel, dibynadwy a fforddiadwy sy’n tyfu, sy’n diwallu anghenion ein cwsmeriaid yn well ac sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian i drethdalwyr a’n cyllidwyr. Mae’n cynrychioli cyfanswm buddsoddiad arfaethedig o £1.34 biliwn ar draws Cymru a’r Gororau, gyda nifer sylweddol o gynlluniau amrywiol sydd wedi’u bwriadu i sicrhau gwelliannau yn lleol ac i fod o fudd i gynifer o ddefnyddwyr y rheilffyrdd ag sy’n bosibl ar draws y Llwybr. Mae’r Cynllun yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ganlyniad i waith ymgysylltu rheolaidd rhwng Network Rail, Trafnidiaeth Cymru, cwsmeriaid a theithwyr. Rydym wedi gwrando’n astud ar ein rhanddeiliaid er mwyn deall eu barn ac mae ein cynigion wedi’u bwriadu i gyflawni ein cyd-amcanion ar gyfer y rheilffyrdd, gyda’r cyllid sydd ar gael. Andy Thomas Rheolwr Gyfarwyddwr Llwybr Cymru “Edrychwn ymlaen at gydweithio i sicrhau yr achubwn ar bob cyfle i ddarparu gwelliannau mewn modd effeithlon er mwyn cyflawni buddion o ran capasiti, amser teithio a dibynadwyedd i deithwyr.” Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Llywodraeth Cymru “Rydym eisiau i’r gwasanaeth rheilffordd nesaf arwain at welliant sylweddol ym marn pobl am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a’u profiad ohoni, ac mae cydweithio’n agos â’n partneriaid yn allweddol i gyflawni hyn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Network Rail i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cwsmeriaid, gan gynnwys, yn bwysig iawn, trwy wella capasiti a dibynadwyedd.” James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru

Cymru · Caerdydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol mewn perfformiad ac yn datgloi capasiti seilwaith. Mae cynllun Caerdydd wedi hybu perfformiad yn sylweddol ac yn gyson ar Linellau’r

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Cymru · Caerdydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol mewn perfformiad ac yn datgloi capasiti seilwaith. Mae cynllun Caerdydd wedi hybu perfformiad yn sylweddol ac yn gyson ar Linellau’r

CymruMae’r rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau yn chwarae rhan hollbwysig wrth gysylltu pobl, busnesau a chymunedau er mwyn cefnogi twf economaidd rhanbarthol a chenedlaethol. Rydym yn rhedeg y rheilffyrdd mwyaf diogel yn Ewrop, ac wedi ymrwymo i gael pawb adref yn ddiogel pob dydd. Yn ein rôl fel sefydliad gwasanaeth rheoli asedau, mae Network Rail yn berchen ar seilwaith Cymru a’r Gororau, ac yn ei weithredu, ei gynnal a’i gadw a, lle caiff ei ariannu i wneud, yn ei wella.

Mae’n bleser gennyf gyflwyno ein Cynllun Busnes Strategol arfaethedig ar gyfer Cyfnod Rheoli 6 2019-2024. Mae’r Cynllun wedi cael ei gyflwyno i’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd i gael ei ystyried. Mae’n adeiladu ar y trawsnewidiad y dechreuodd Network Rail arno yng Nghyfnod Rheoli 5 oedd yn cynnwys datganoli’r Llwybr. Yn ystod Cyfnod Rheoli 5 mae £900 miliwn wedi cael eu buddsoddi ar draws y llwybr. Gellir lawrlwytho’r Cynllun Busnes Strategol llawn yma www.networkrail.co.uk/strategicbusinessplan.

Mae’r Cynllun yn cefnogi ein cenhadaeth sef rhedeg rheilffyrdd diogel, dibynadwy a fforddiadwy sy’n tyfu, sy’n diwallu anghenion ein cwsmeriaid yn well ac sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian i drethdalwyr a’n cyllidwyr. Mae’n cynrychioli cyfanswm buddsoddiad arfaethedig o £1.34 biliwn ar draws Cymru a’r Gororau, gyda nifer sylweddol o gynlluniau amrywiol sydd wedi’u bwriadu i sicrhau gwelliannau yn lleol ac i fod o fudd i gynifer o ddefnyddwyr y rheilffyrdd ag sy’n bosibl ar draws y Llwybr.

Mae’r Cynllun yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ganlyniad i waith ymgysylltu rheolaidd rhwng Network Rail, Trafnidiaeth Cymru, cwsmeriaid a theithwyr. Rydym wedi gwrando’n astud ar ein rhanddeiliaid er mwyn deall eu barn ac mae ein cynigion wedi’u bwriadu i gyflawni ein cyd-amcanion ar gyfer y rheilffyrdd, gyda’r cyllid sydd ar gael.

Andy ThomasRheolwr Gyfarwyddwr Llwybr

Cymru“Edrychwn ymlaen at gydweithio i sicrhau yr achubwn ar bob cyfle i ddarparu gwelliannau mewn modd effeithlon er mwyn cyflawni buddion o ran capasiti, amser teithio a dibynadwyedd i deithwyr.”Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Llywodraeth Cymru

“Rydym eisiau i’r gwasanaeth rheilffordd nesaf arwain at welliant sylweddol ym marn pobl am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a’u profiad ohoni, ac mae cydweithio’n agos â’n partneriaid yn allweddol i gyflawni hyn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Network Rail i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cwsmeriaid, gan gynnwys, yn bwysig iawn, trwy wella capasiti a dibynadwyedd.”James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru

Page 2: Cymru · Caerdydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol mewn perfformiad ac yn datgloi capasiti seilwaith. Mae cynllun Caerdydd wedi hybu perfformiad yn sylweddol ac yn gyson ar Linellau’r

Darparu rheilffyrdd diogel, dibynadwy a fforddiadwy sy’n tyfu

DiogelMae gennym eisoes hanes cryf o ran diogelwch ac rydym mewn sefyllfa dda yng Nghyfnod Rheoli 6 i sicrhau record diogelwch o’r radd flaenaf a fydd yn gyson â’r rheiny a gyflawnir mewn sectorau megis adeiladu, olew a nwy.

Gostyngodd cyfradd amlder anafiadau colli amser ein gweithlu 35% yng Nghyfnod Rheoli 5. Ein dyhead yng Nghyfnod Rheoli 6 yw gostwng y gyfradd hon 59% gyda ffocws ar dechnoleg ac arloesi, arweinyddiaeth y rheng flaen a newid ymddygiad.

Rydym wedi helpu i greu rheilffyrdd mwy diogel i gymunedau trwy gau 18 croesfan wastad yn llwyr. Byddwn yn lleihau’r risg i’r cyhoedd o groesfannau gwastad yn fwy byth, gan ddefnyddio egwyddorion Mor Isel ag sy’n Rhesymol Ymarferol i dargedu gwaith lleihau risg yn y ffordd fwyaf effeithlon. Byddwn yn parhau i leihau tresmasu ar y rheilffyrdd ac atal hunanladdiadau, gan weithio gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a’r Samariaid.

Byddwn yn lleihau risg damwain trên trwy reoli asedau’n well ac yn parhau i ganolbwyntio ar fygythiadau i ddiogelwch gan gynnwys seiberddiogelwch.

DibynadwyMae cynlluniau amlwg fel gosod signalau newydd ar hyd arfordir Gogledd Cymru a chynllun adnewyddu signalau ardal Caerdydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol mewn perfformiad ac yn datgloi capasiti seilwaith. Mae cynllun Caerdydd wedi hybu perfformiad yn sylweddol ac yn gyson ar Linellau’r Cymoedd mae mwy na 95% o drenau’n cyrraedd o fewn pum munud i’r amser cynlluniedig. Ein prif gwmni trên oedd y cwmni mwyaf dibynadwy o ran prydlondeb yn 2017, gan gyflawni cyfartaledd prydlondeb blynyddol o 82.8% o’i drenau’n cyrraedd eu gorsaf olaf yn gynnar neu o fewn 59 eiliad i’r amser cynlluniedig.

Mae dibynadwyedd gwasanaethau trên yn bryder o bwys i deithwyr a rhanddeiliaid ehangach. Mae maint ac oed y fflyd trenau’n effeithio ar ddibynadwyedd ac edrychwn ymlaen at y gwelliannau mewn capasiti y disgwylir iddynt gael eu darparu gan y cwmni trên a gaiff y fasnachfraint gan Drafnidiaeth Cymru.

Gan weithio mewn partneriaeth gyda’n cwmnïau trên a threnau nwyddau, byddwn yn sicrhau gostyngiad pellach yn nifer y methiannau sy’n effeithio ar wasanaethau yng Nghyfnod Rheoli 6, gan adeiladu ar y 25% o ostyngiad yn y methiannau hyn dros y pum mlynedd ddiwethaf. Ein nod hefyd yw darparu rheilffyrdd mwy cydnerth a dibynadwy trwy: gwell strategaethau cynnal a chadw; mwy o ddefnydd o fonitro cyflwr o bell; a dull gweithredu ‘rhagweld ac atal’.

Mae ein buddsoddiadau arfaethedig yn cynnwys adnewyddu’r bont bren eiconig yn Abermaw, sy’n strwythur Rhestredig Gradd II ac sy’n darparu cysylltiad hanfodol i bobl sy’n teithio ar draws gogledd-orllewin Cymru. Rydym hefyd yn bwriadu cyflawni Cam 2 o’r cynllun gosod systemau signalau newydd yn ardal Port Talbot.

At a glance

246 o orsafoedd

29.3m miliwn o deithiau teithwyr pob blwyddyn

2,923 o bontydd

1,487 o filltiroedd o drac

1,340 o wasanaethau pob dydd

Gwario £33 miliwn y flwyddyn gyda chadwyn gyflenwi Cymru

5 partneriaeth rheilffyrdd gymunedol a 26 cynllun rheilffyrdd cymunedol

1,150 o groesfannau gwastad

Mwy na 1,600 o gyflogeion

Buddsoddi £300 miliwn ym mhrosiect adnewyddu signalau ardal Caerdydd

Mwy na 15 miliwn o deithwyr yn teithio trwy orsafoedd Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol y Frenhines pob blwyddyn

Buddsoddi £50 miliwn ym mhrosiect Uwchraddio Rheilffyrdd Gogledd Cymru

Page 3: Cymru · Caerdydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol mewn perfformiad ac yn datgloi capasiti seilwaith. Mae cynllun Caerdydd wedi hybu perfformiad yn sylweddol ac yn gyson ar Linellau’r

FforddiadwyYng Nghyfnod Rheoli 6 byddwn yn sicrhau 6.6% arall o welliant trwy weithio callach, gwell cynllunio, defnydd mwy effeithlon o’r rheilffyrdd a gwell technoleg.

Byddwn yn defnyddio technegau rheoli asedau IS0 55000 i sicrhau y cyflawnir y cydbwysedd gorau o ran costau oes rhwng cynnal a chadw ac adnewyddu.

Byddwn yn cyflwyno elfen o gystadleuaeth trwy fod ‘Ar Agor am Fusnes’ a thrwy ein hymrwymiad i’w gwneud yn haws i fusnesau weithio gyda ni. Bydd yr ymagwedd hon yn hybu cyfraniad gan drydydd partïon yn y gwaith o gyflawni a/neu gyllido gweithgareddau ac yn creu her i’w chroesawu i safonau peirianyddol Network Rail.

Rheilffordd sy’n tyfuMae teithwyr yn mynd ar bron 50% yn fwy o deithiau i ac o Gymru a’r tu mewn i’r wlad na deng mlynedd yn ôl.

Rhwng heddiw a 2023 rydym yn rhagweld:• Twf yn nifer y cymudwyr fydd yn teithio i

Gaerdydd ac yn nifer y cwsmeriaid fydd yn teithio ar hyd llinell Arfordir Gogledd Cymru i ogledd-orllewin Lloegr

• Twf yn y marchnadoedd pellter hir o ganolfannau mawr ar draws Cymru i Lundain.

Rhagwelwn berfformiad sylweddol gwell o ran gwasanaethau teithwyr yn y fasnachfraint newydd a chapasiti ychwanegol i ganiatáu ar gyfer y twf hirdymor parhaus a ddisgwylir yn y galw am wasanaethau rheilffyrdd.

Cymru a’r Gororau mewn fframwaith cenedlaethol Mae ein Cynllun ar gyfer Cyfnod Rheoli 6 yn adeiladu ar y newidiadau sylfaenol i’r ffordd mae Network Rail yn gweithredu, gyda Chymru a’r Gororau’n gweithredu fel busnes Llwybr o fewn fframwaith cenedlaethol.Yn ystod Cyfnod Rheoli 5 gwelwyd cyrff y traciau a’r trenau’n cydweithio’n agosach ar draws y Llwybr. Gweithredydd y System, rhan wahanol ond cysylltiedig o Network Rail, sy’n gyfrifol am gynllunio newidiadau i’r system rheilffyrdd ym Mhrydain fel y caiff anghenion teithwyr a chwsmeriaid trenau nwyddau eu cydbwyso er mwyn cefnogi twf economaidd. Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid yn y tîm Prosiectau Seilwaith i gyflawni amrywiaeth o gynlluniau allweddol a manteisio ar gontractau fframwaith cenedlaethol er mwyn sicrhau gwerth am arian i’r trethdalwr. Mae Gwasanaethau Llwybrau yn cyflenwi ystod gynhwysfawr o adnoddau arbenigol a chymorth y tu ôl i’r llenni i Lwybr Cymru. Mae’r ymagwedd hon yn galluogi cydgysylltu cenedlaethol ac yn caniatáu inni gael budd o arbedion maint ac arbedion effeithlonrwydd mwy.

Page 4: Cymru · Caerdydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol mewn perfformiad ac yn datgloi capasiti seilwaith. Mae cynllun Caerdydd wedi hybu perfformiad yn sylweddol ac yn gyson ar Linellau’r

Gweithlu ar gyfer y dyfodol Nod Network Rail yw bod yn un o’r cyflogwyr gorau ym Mhrydain trwy ddenu, datblygu a chadw pobl wych. Rydym hefyd yn dyheu am greu amgylchedd ar y Llwybr a fydd yn caniatáu i bawb gyflawni ei botensial llawn ac yn cefnogi ymrwymiad Network Rail i greu rheilffyrdd mwy amrywiol a chynhwysol. Byddwn yn diwygio cyfleusterau lles i’n staff rheng flaen ac yn mynd i’r afael ag iechyd meddwl a lles meddyliol.

Mae gennym dîm arwain datganoledig â Cherdyn Sgorio yn ganolog i fframwaith rheoleiddiol y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd. Rydym wedi sefydlu cyd-fyrddau sy’n ymdrin â gweithrediadau, mynediad a chynllunio, cyfathrebu, ac eiddo, er mwyn sicrhau bod y bartneriaeth fwyaf effeithiol gyda chwmnïau trên a gafwyd erioed ar y Llwybr yn bodoli. Mae ein Bwrdd Goruchwylio, sydd â chadeirydd annibynnol, yn sicrhau ein bod yn adeiladu ar yr ymagwedd bartneriaethol hon, gan ddal y diwydiant ehangach i gyfrif ar draws y Llwybr.

Cenhadaeth glir, tîm llwyddiannus Mae hon yn adeg gyffrous i Network Rail yng Nghymru a’r Gororau. Mae gennym genhadaeth glir a thîm llwyddiannus o weithwyr ymroddedig. Mae ein Cynllun yn nodi sut y byddwn yn darparu rheilffyrdd diogel, dibynadwy a fforddiadwy sy’n tyfu, ac rwy’n hyderus y byddwn, gyda chefnogaeth barhaus ein rhanddeiliaid, yn darparu gwell rhanbarth Cymru a’r Gororau y gallwn i gyd fod yn falch ohono.

Partneriaid Rheoleiddwyr a Chyllidwyr Teithwyr, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill

• Trafnidiaeth Cymru • Trenau Arriva Cymru• Great Western Railway• Virgin Trains• Cross Country Trains• West Midlands Trains • DB Cargo• Freightliner• Colas, DRS, GBRF• Rail Delivery Group• Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig• Y gadwyn gyflenwi

• Yr Adran Drafnidiaeth• Llywodraeth Cymru• Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd• Trafnidiaeth Cymru• ASau ac ACau• Busnesau a datblygwyr• Awdurdodau lleol• Cyfoeth Naturiol Cymru• Environment Agency • Natural England

• Transport Focus• Cymdogion ar hyd ein llinellau• Grwpiau defnyddwyr rheilffyrdd lleol• Grwpiau rheilffyrdd cymunedol• Cymunedau lleol• Cynigwyr am fasnachfraint rheilffyrdd

Cymru a’r Gororau

Ein rhanddeiliaidCyfarfuom ag amrywiaeth fawr o randdeiliaid yn ystod y gwaith o ddatblygu ein Cynllun gan gynnwys cynrychiolwyr o lawer o’n partneriaid, rheoleiddwyr a chyllidwyr, teithwyr a’r cyhoedd, a restrir isod.

Andy ThomasRheolwr Gyfarwyddwr Llwybr Cymru

Dywedodd ein rhanddeiliaid eu bod eisiau gweld gwelliannau mewn nifer o feysydd gan gynnwys:

Nodir ein dull o sicrhau’r gwelliannau hyn yn y Cynllun Busnes Strategol llawn.

‘Gwell cynlluniau wrth gefn’

‘Mwy o allu i gyflawni ein

cynlluniau â llai o darfu’

‘Ymgysylltu’n well â’n cadwyn

gyflenwi’

‘Gwell cynllunio er mwyn defnyddio mynediad

yn well ac alinio gwaith gwella gyda’n gwaith

cynnal a chadw ac adnewyddu’

‘Ymagwedd fwy cydgysylltiedig

gyda’n cwsmeriaid’

‘Mwy o dryloywder

wrth gynllunio a chyflawni

gwaith’

‘Gwell darpariaeth i deithwyr a chymdogion

ar hyd y llinellau’

Page 5: Cymru · Caerdydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol mewn perfformiad ac yn datgloi capasiti seilwaith. Mae cynllun Caerdydd wedi hybu perfformiad yn sylweddol ac yn gyson ar Linellau’r

Cydweithredu a meithrin perthnasoedd cryfach • Parhau â’n llwyddiant wrth ennill cyllid gan drydydd partïon i welliannau i’r rheilffyrdd• Mynd ati i ymgysylltu â’r holl randdeiliaid ar draws Cymru a’r Gororau er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw’n rheolaidd am ein

cynnydd• Gwella ymhellach ein cydweithredu gyda chwmnïau trên a threnau nwyddau• Sicrhau’r buddion mwyaf posibl o’n Llwybr datganoledig

Ein cynlluniau Gwella effeithlonrwydd, cydnerthedd a dibynadwyedd

Gwarchod ein hamgylchedd a’n treftadaeth

Datblygu ein pobl a’n diwylliant

• Cyflawni Cam 2 o gynllun gosod systemau signalau newydd yn ardal Port Talbot.

• Gwella ein strategaeth cynnal a chadw gan ganolbwyntio’n fwy ar fod yn rhagweithiol a dull gweithredu ‘rhagweld ac atal’

• Defnyddio technoleg a gwaith cynllunio cydgysylltiedig cynnar i sicrhau effeithiolrwydd mwyaf posibl meddiannaeth, gan leihau tarfu a chostau cymaint ag sy’n bosibl

• Defnyddio egwyddorion rheoli asedau i amserlennu gweithgareddau yng Nghyfnod Rheoli 6 yn y drefn gywir er mwyn mynd i’r afael â chynlluniau aml-ased

• Adnewyddu’r bont bren eiconig yn Abermaw• Gweithredu System Rheoli Amgylcheddol sydd wedi’i

halinio ag ISO 14001 er mwyn rheoli risg a chyfleoedd amgylcheddol yn rhagweithiol, gan ganolbwyntio ar ynni a charbon, yn ogystal â rheoli adnoddau ac ecoleg

• Cyllid ychwanegol ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni

• Sicrhau bod gennym sefydliad sy’n addas ar gyfer Cyfnod Rheoli 6 trwy fod â’r bobl iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn gyda’r sgiliau iawn

• Denu a chadw ein gweithlu er mwyn gwella perfformiad • Datblygu a gwella sgiliau ein gweithlu• Atgyfnerthu ein rhaglenni i brentisiaid a graddedigion

trwy ymgysylltu’n gynnar ag ysgolion a cholegau• Adeiladu ar sgôr ein Llwybr am ymgysylltu â phobl,

sef 68% (Rhagfyr 2017), sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol a sgôr gyffredinol Network Rail sef 53%. Mae’r arolwg yn mesur pa mor ymroddedig mae cyflogeion yn teimlo a pha mor debygol ydyn nhw o ddweud pethau da am Network Rail

• Gwneud ein gweithlu’n fwy amrywiol er mwyn adlewyrchu’n well y cymunedau a wasanaethwn ar draws Cymru a’r Gororau

“Mae Torfaen yn chwarae rhan bwysig yng nghadwyn gyflenwi Network Rail. Mae’n darparu swyddi o ansawdd da i bobl, yn cefnogi’r

economi leol a chreu cysylltiadau ag ysgolion.”Lynne Neagle, Aelod Cynulliad dros Dorfaen

Mae gweithio mewn modd cydweithredol a mynd ati i ymgysylltu â rhanddeiliaid gydag ‘Un Llais’ cyfun yn profi’n llwyddiannus. Canfu Arolwg Boddhad blynyddol Aelodau Cynulliad Cymru (ACau) ym mis Ionawr 2018, am y tro cyntaf ers deng mlynedd, fod mwy na 90% o ACau yn gyfarwydd â Network Rail, a bod pumed o’r rhai a holwyd yn cytuno bod datganoli Network Rail yng Nghymru’n gwella perfformiad y rhwydwaith. Gwelodd ein prif gwmni trên hefyd welliant yn ei fesuriad boddhad net.

Page 6: Cymru · Caerdydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol mewn perfformiad ac yn datgloi capasiti seilwaith. Mae cynllun Caerdydd wedi hybu perfformiad yn sylweddol ac yn gyson ar Linellau’r

Cairnryan

Ilkeston

ABERGWAUN

AMWYTHIG

HOLYHEAD

ABERTAWE

CAERDYDD

CASNEWYDD

HENFFORDD

Fishguard & Goodwick

Llinell Arfordir Gogledd Cymru Llinell Dyffryn Conwy Llinell Wrecsam – Bidston Llinell y Cambrian Llinell Calon Cymru Prif Linell De Cymru Caerdydd a’r Cymoedd Llinell y Gororau Llinell Amwythig – Caer