View
236
Download
9
Category
Preview:
DESCRIPTION
Â
Citation preview
Y Cynllun Busnes 2015 i 2019
Ein gweledigaeth yw:
“cyflawni twf cryf a
chynaliadwy i wneud
gwahaniaeth i fywydau,
cartrefi a chymunedau pobl.”
Mae gan ein cynllun busnes yr un thema â'r un a oedd gennym yn
1965. Erbyn hyn mae gennym ychydig yn rhagor o themâu - chwech
ohonyn nhw, mewn gwirionedd. Chwe ffordd y byddwn yn parhau i
dyfu mewn modd cynaliadwy i wneud gwahaniaeth i fywydau,
cartrefi a chymunedau pobl.
Rhagor – cartrefi i bobl eu rhentu a’u prynu
Buddsoddi – gwneud ein tai yn gynnes ac yn fforddiadwy
Tyfu – cynhyrchu cyfleoedd o ddifrif i breswylwyr weithio
Technoleg – staff a phreswylwyr yn manteisio i’r eithafar dechnoleg newydd
Gofal – dod yn ddarparwr gofal a chefnogaeth rhagorol
Bywydau – cefnogi preswylwyr i fanteisio i’r eithaf ar eutenantiaethau
Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 1
Yn union fel mae mes yn tyfu'n goed derw nerthol, pan
ddechreuom yn 1965 ein bwriad oedd darparu tai y
gallai pobl leol eu fforddio. O’r 'fesen' honno o syniad,
rydym erbyn hyn yn berchen ar ac yn rheoli dros 9,500
o gartrefi ledled Cymru.
1 –Maer Wrecsam, y Cynghorydd David Bithell, yn ymweld â’n datblygiad newydd yn Hightown ar
Kingsmills Road
2 – Plant yn Barracksfield, Wrecsam, yn gofalu am eu gwelyau plannu wedi’u codi
3 – Preswylwyr yn Nant y Môr wrth eu bodd yn eu mannau agored
4 – Chris Ruane AS yn agor yn swyddogol yr ardd gymunol newydd yn Buxton Court yn y Rhyl, Sir
Ddinbych
5 - Carl Sargeant AC, y cyn Weinidog Tai ac Adfywio, yn ymweld â Llys Jasmine, datblygiad gofal ych-
wanegol / gofal dementia o’r radd flaenaf yn Sir y Fflint
6 - Tharniya Sivakumar, Mia Coates a Sujan Sivakumar yng Ngŵyl y Cenhedloedd yng Nghanolfan
Adnoddau Cymunedol Hightown, Wrecsam
"O'n ddechreuadau bychan yng Nghaerdydd, fel mesenrydym ninnau wedi tyfu. Yn fy nghyfnod ar Fwrdd Tai Wales& West rwyf wedi gweld y sefydliad hwn yn ffynnu ac ynehangu. Fel y dderwen nerthol, daw’r cryfder o fod â gwreiddiau da mewn cymunedau lleol, a bod yn sefydliad ygall pobl dibynnu arno. Mae ein cynllun yn ymwneud â'rnifer o ffyrdd y byddwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydauein preswylwyr. Yn Tai Wales & West rydym yn gwneud yrhyn rydym yn ei ddweud y byddwn yn ei wneud. Rydym ynmalio am yr hyn rydym yn ei wneud, a dyna pam ein bod yncyflawni'r hyn a wnawn."
Kathy Smart, Cadeirydd WWH
2 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West
O’n dechreuadaubychan…
O’r chwith i’r dde: Huw Lewis, Aelod Cynulliad Merthyr Tudful a Rhymni, Kathy Smart, Cadeirydd
WWH, un o’r preswylwyr, Pauline Protheroe, yn ei chartref newydd yn Vulcan Court ym Merthyr
Tudful, a’r Cynghorydd Brendan Toomey, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 3
Mae gwneud y peth iawn wedi dod yn fantra i ni, ac mae'r cynllunhwn ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn amlinellu'r hyn a wnawn iwneud yn siŵr ein bod yn parhau i wneud gwahaniaeth i gymaint obobl ag y gallwn.
Ein huchelgais yw i bawb gael cartref y gallan nhw fod yn falchohono, mewn lle maen nhw’n dymuno byw.
Mae cartref yn llawer mwy na dim ond brics a morter - cartref ywlle’r ydym yn teimlo'n ddiogel ac yn rhan o gymuned. Dyma lle'rydym yn perthyn, yn lle y gallwn dyfu ac aeddfedu. Yn syml, cartrefyw'r sylfaen y bydd pawb ohonom yn adeiladu ein bywydau arno.
Rydym yn fusnes cymdeithasol sy'n gwrando ar ein preswylwyr ermwyn i ni gyflawni'r hyn sydd o bwys iddyn nhw. Rydym yn fusnescyfrifol sy'n gwneud y peth iawn yn y ffordd rydym yn trin einpreswylwyr, ein staff a'n partneriaid. Mae ein cryfder yn dod o fod ynfusnes 'cymdeithasol' a 'chyfrifol'.
Rydym yn hyderus am y dyfodol, ac eisiau rhannu’r teimlad hwnnwgyda’n preswylwyr hefyd. Bydd y camau gweithredu yn y cynllunhwn yn helpu i gyflawni hynny.
Anne, Shayne, Steve a Tony
Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y cynllun hwn, rhowch ganiad ini ar 02920 415335 neu e-bostiwch business.plan@wwha.co.uk
Yn hyderus am ydyfodol…
4 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West
O’r chwith i’r dde: Shayne Hembrow, y Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol, Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, Steve Porter,
y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, a Tony Wilson, y Cyfarwyddwr Cyllid.
Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 5
6Rhagor
Buddsoddi
Tyfu
Technoleg
Gofal
Bywydau
6 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West
thema
Carl Sargeant AC, y cyn Weinidog Tai ac Adfywio, yn agor yn
swyddogol ein datblygiad newydd Gofal Ychwanegol / Gofal
Dementia gwobredig, sef Llys Jasmine, yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Ein
Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 7
8 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West
Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 9
Ein bwriad yn ystod y pum mlynedd nesaf yw adeiladu dros 1,000 o
gartrefi fforddiadwy newydd. Mae'r rhain yn cynnwys:
- 870 o gartrefi teuluol fforddiadwy newydd o ansawdd uchel
- 38 o dai arbenigol o’r radd flaenaf ar gyfer pobl sy'n agored i
niwed, fel y gallan nhw fyw bywydau gwell, llawnach a mwy
annibynnol
- 92 o fflatiau wedi’u cynllunio’n dda i bobl hŷn fod yn berchen
arnyn nhw neu eu rhentu
- 100 o gartrefi ar gyfer pobl sydd eisiau bod yn berchen ar eu
cartref eu hunain
Rydym hefyd yn bwriadu:
- Prynu rhydd-ddaliad 400 o unedau lle mai ni yw'r lesddeiliad
presennol
- Lansio ein llyfr patrwm o gartrefi wedi’u cynllunio'n dda, sy’n
gost effeithlon ac yn defnyddio ynni’n effeithlon, i'w prynu a'u
rhentu
RHAGORRydym eisiau parhau i adeiladu cymaint o gartrefi
newydd ag y gallwn ei fforddio. Drwy wneud ein hunain
yn fwy effeithlon a chael gwell gwerth am arian, rydym
wedi gallu buddsoddi £54 miliwn mewn tai newydd yn y
3 blynedd diwethaf.
Symone Davies, ei mab, Ethan, a’i merch, Ffion, yn edrych ymlaen at symud i mewn i’w cartref
newydd ar Town Mill Road yn y Bont-faen, Bro Morgannwg
10 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West
Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 11
- Dylunio pecynnau effeithlonrwydd ynni ôl-osod pwrpasol ar
gyfer pob un o'n cartrefi lle gallwn wneud hynny o fewn
rheswm
- Datblygu ymhellach ein cynlluniau buddsoddi i:
- Greu gerddi a lleiniau llysiau cymunol
- Ailfodelu tai hŷn i ddiwallu anghenion preswylwyr yn well
- Cynnal Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer ein holl gartrefi
BUDDSODDITeimlwn yn gryf na ddylai unrhyw un fethu â fforddio
cynhesu eu cartref, a’n bwriad yw gwneud popeth o
fewn ein gallu i ddileu tlodi tanwydd. Rydym am wneud
ein tai yn rhai o'r cynhesaf a mwyaf fforddiadwy i’w
rhedeg yng Nghymru. Byddwn yn:
Un o’n preswylwyr, Daisy Jones, gyda’i harddangosiadau blodeuol hyfryd yn Buxton Court yn y Rhyl,
Sir Ddinbych
12 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West
Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 13
- Gwneud defnydd llawn o Wasanaethau Cynnal a Chadw
Cambria a Castell Ventures i greu cyfleoedd cyflogaeth a
hyfforddiant, gan ddechrau gyda Castell Catering
- Gweithio gyda phreswylwyr i'w helpu i gael yr hyfforddiant
sydd ei angen arnyn nhw, naill ai gan WWH neu gan
bartneriaid
- Defnyddio ein tîm menter gymdeithasol a chyflogaeth i gynnig
pecynnau o gefnogaeth wedi ei deilwra i helpu i gael pobl i
weithio neu i wirfoddoli
TYFU‘Creu cyfleoedd gwaith o ddifrif’ ar gyfer ein
preswylwyr drwy ein hadnoddau ein hunain yn ogystal
â’n rhwydwaith o bartneriaid yw ein pedwaredd
thema. Rydym eisiau i'n preswylwyr wneud y defnydd
gorau o'r sgiliau a'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.
Yn y blynyddoedd a ddaw, byddwn yn:
(Uchod) Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn gosod canolfan newydd Banc Bwyd Caerdydd
Mae Flynn (ar y chwith) yn edrych ymlaen at helpu i arddio yn Ysgol Fabanod Ton Pentre, y Rhondda,
diolch i’n cyfraniad o gyfarpar garddio
Pa un ai a ydym yn ei hoffi neu’n ei gasáu, mae technoleg
yma i aros a bydd yn parhau i drawsnewid y ffordd rydym
yn gweithio ac yn byw. Rydym ni wrth ein bodd gydag ef,
ac rydym eisiau i bawb sy'n gweithio i ni ac sy’n byw yn
ein cartrefi i gael y gorau o'r hyn sydd ar gael. Mae
gennym lawer o gynlluniau, ac mae'r rhain yn cynnwys:
14 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West
- Parhau i gyflwyno WiFi am ddim i breswylwyr
- Asesu’r posibilrwydd o ehangu teleofal a gwasanaethau
technoleg gynorthwyol eraill a gynigir gan Connect 24
- Ehangu'r amrywiaeth o offer ac apiau sydd ar gael ar gyfer
staff fel y gallan nhw wneud mwy i breswylwyr pan fyddan
nhw yn y maes
- Gwella sgiliau staff a phreswylwyr i wneud defnydd llawn o'r
rhyngrwyd
- Creu rhwydwaith o hyrwyddwyr digidol i hyrwyddo manteision
bod ar-lein i breswylwyr
TECHNOLEG
(Uchod) Myfyriwr o’r enw Jacob Durbin ac un o’n preswylwyr, Anne Halliday, yn mynd i’r afael â
Facebook a Twitter yng nghynllun er ymddeol Oldwell Court, Caerdydd
(Dde) Myfyriwr o’r enw Luke Moore yn helpu un o’n preswylwyr, Fred Austin, i ganfod ei ffordd o
gwmpas y rhyngrwyd
Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 15
16 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West
Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 17
- Gwella sgiliau ein holl staff i gynnal amrywiaeth ehangach o
bobl sy'n agored i niwed mewn ffordd well
- Gwella mynediad, arwyddion a dyluniad ein holl stoc i'w
gwneud yn wirioneddol ystyriol o bobl â dementia, pobl â nam
ar y golwg a phobl anabl
- Cynyddu nifer ac amrywiaeth y cynlluniau tai â chymorth ar
gyfer pobl ag anghenion cymhleth
GOFALRydym yn gweld galw cynyddol gan ein preswylwyr ac
eraill yn y gymuned am help gyda gwasanaethau gofal a
chymorth. Rydym yn awyddus i ehangu amrywiaeth a
graddfa ein gwasanaethau, ac felly byddwn yn:
(Uchod) Un o’n preswylwyr, Norma Thomas, yn mwynhau dosbarth ymarfer corff ysgafn, tra mae
Jaclyn Bolton yn mwynhau ychydig o faldod gan y steilydd gwallt Denise yng nghynllun Gofal
Ychwanegol Nant y Môr ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych
(Chwith) y preswylwyr Idwal Roberts a Walter McCleod yn ymlacio yng nghynllun Gofal Ychwanegol
Llys Jasmine, yr Wyddgrug, Sir y Fflint
BYWYDAUMae cefnogi ein preswylwyr i wneud y gorau o'u
tenantiaeth, a'u galluogi i barhau i fyw yn ein heiddo am
gyhyd ag y dymunan nhw, yn bwysig iawn i ni. Rydym yn
gwybod bod rhai o'n preswylwyr angen ychydig o help
ychwanegol i wneud eu tŷ yn gartref. Yn y blynyddoedd
nesaf byddwn yn:
18 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West
- Parhau i helpu preswylwyr i ennill mwy, cyllidebu’n well a
pheidio â mynd i ddyled
- Archwilio mathau eraill o gymorth y gall pobl fod ei angen
pan fyddan nhw’n dechrau eu tenantiaeth, fel cael gafael ar y
tariffau tanwydd gorau, dodrefn a nwyddau gwyn ar eu cyfer
eu hunain.
(Uchod) Un o’n preswylwyr, Viv Ellis, yn mwynhau cinio gyda’r Rheolwr Arlwyo Christine
Wolstenholme yng nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Jasmine, yr Wyddgrug, Sir y Fflint
(dde) Carl Sargeant AC, y cyn Weinidog Tai ac Adfywio, yn sgwrsio gyda dau o’n preswylwyr, Brian a
Joyce Bibb, am eu system wresogi adnewyddadwy yn Hywi, Powys
Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 19
Sut rydym yn rhedeg WWHMae sut rydym yn rhedeg y busnes yn cael effaith fawr ar ein preswylwyr, ein
staff, yr amgylchedd a'n partneriaid. Mae bod yn gyfrifol yn gymdeithasol yn
bwysig iawn i ni, ac yn syml iawn, dyna’r peth iawn i'w wneud.
20 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West
Wrth gyflawni ein chwe thema, mae rhai egwyddorion sy’n bwysig iawn i ni
- Byddwn yn byw ein gwerthoedd a bod yn deg, yn agored, yn gyfrifol, yn gefnogol ac
yn effeithlon
- Byddwn yn defnyddio ein hegwyddorion gweithredu er mwyn sicrhau bod preswylwyr
wrth wraidd yr hyn a wnawn, a bod ein gwasanaethau yn cyflwyno'r hyn sy'n bwysig
iddyn nhw
- Byddwn yn buddsoddi’n ddoeth, yn foesegol ac yn rhedeg ein busnes i sicrhau'r
gwerth gorau posibl i breswylwyr
- Byddwn yn ceisio lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd
Os hoffech ragor o wybodaeth am sut rydym yn rhedeg WWH, gan gynnwys manylion
am ein Bwrdd, ewch i www.wwha.co.uk
Swyddog Tai Gogledd Cymru, Cath Marland, yn ymweld â’i phreswylwyr
Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 21
Conwy
233 Denbighshire
394
Flintshire
776
Wrexham
800
Powys
821
Swansea
96 Bridgend
1,301Vale of Glamorgan
423
Cardiff
3,168
Rhondda Cynon Taf
312
Caerphilly
461
Merthyr Tydfil
471
Total Stock
9,256Cyfanswm
Stoc
9,623
Cyfanswm ar y safle
yn awr
576
Anghenion cyffredinol
36
Er ymddeol
204
Anghenion cyffredinol
249
Gofal ychwanegol
58
Er ymddeol
58Anghenion cyffredinol
606 Er ymddeol
137
Anghenion cyffredinol
774
Er ymddeol
88
Anghenion cyffredinol
632
Er ymddeol
158Tai â Chymorth
49
Tai â Chymorth
38
Perchnogaeth cartref
12
Anghenion cyffredinol
65
Anghenion cyffredinol
64
Er ymddeol
245
Er ymddeol
149Tai â
Chymorth
5 Anghenion cyffredinol
92
Er ymddeol
106
Tai â Chymorth
33
Er ymddeol
128
Tai â Chymorth
19
Perchnogaeth cartref
34
General Needs
988
Er ymddeol
305
Perchnogaeth cartref
33Tai â
Chymorth
26 Anghenion cyffredinol
247Perchnogaeth
cartref
166
Er ymddeol
682
Perchnogaeth cartref
627
Anghenion cyffredinol
243
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Wrecsam
Powys
Abertawe
Pen-y
-bont
ar Ogw
r
Bro Morgannwg
Caerdydd
Rhondda Cynon
TafCaerffili
Perchnogaeth cartref
31
Perchnogaeth cartref
31
Perchnogaeth cartref
1
Merthyr Tudful
Perchnogaeth cartref
2
Tai â Chymorth
12
Perchnogaeth cartref
23
wrthi'n datblygu
47
wrthi'n datblygu
40
wrthi'n datblygu
57
wrthi'n datblygu
64
Iwrthi'n datblygu
71
wrthi'n datblygu
32wrthi'n datblygu
137
wrthi'n datblygu
104
wrthi'n datblygu
24
Gofal ychwanegol
63
Perchnogaeth cartref
1
Anghenion cyffredinol
2,103
Lle’r ydym yn gweithredu
Ffigurau fel yr oedden
nhw yn Awst 2014
22 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West
Cryfder ariannolMae ein cryfder ariannol yn ein galluogi i wneud y peth iawn ar yr
adeg iawn ar gyfer ein preswylwyr a'n heiddo, ac amsugno'r
ergydion a ddaw yn sgil Diwygio Lles. Rydym yn disgwyl parhad
gwargedau iach a byddwn yn ail-fuddsoddi hynny yn ein stoc tai
presennol, gan sicrhau eu bod yn bodloni Safon Ansawdd Tai
Cymru bob amser. Rydym hefyd yn gallu benthyg am gyfnodau hir
ar gyfraddau llog isel a chael gafael ar gyllid grant, ac rydym yn
rhagweld y bydd yn ein galluogi i dyfu ein stoc dai 12% ymhellach
erbyn 2019. Bydd cyfanswm ein gwariant dros y pum mlynedd
nesaf, sef dros £300 miliwn, hefyd yn rhoi hwb economaidd
sylweddol yn y cymunedau lle mae ein preswylwyr yn byw.
Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | 23
Lesley Griffiths AC yn agor yn swyddogol Ganolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, ynghyd â Phrif Weithredwr Tai Wales & West, Anne
Hinchey, y Maer, y Cynghorydd David Bithell, Ian Lucas AS a disgyblion o Ysgol Bodhyfryd ac Ysgol Gynradd San Silyn
24 | Y Cynllun Busnes 2015 - 2019 | Tai Wales & West
(Isod) ein datblygiad newydd yn Hightown, Wrecsam
(Dde) Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Jasmine.
CYFRIF INCWM A GWARIANT
ar gyfer y blynyddoedd yn
diweddu 31 Rhagfyr 2015 2016 2017 2018 2019 2015 -
£m £m £m £m £m 2019 £m
Incwm 44.9 48.0 50.3 52.9 55.1 251.2
Costau gweithredu (33.2) (36.2) (37.6) (39.1) (40.1) (186.2)
Gwarged gweithredu 11.7 11.8 12.7 13.8 15.0 65.0
Llog taladwy (6.0) (6.5) (7.4) (8.0) (8.9) (36.8)
Gwarged net 5.7 5.3 5.3 5.8 6.1 28.2
MANTOLEN
fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2015 2016 2017 2018 2019
£m £m £m £m £m
Cost eiddo gros 529.1 549.0 571.7 602.5 640.1
Grant tai (281.9) (285.8) (294.4) (303.8) (314.2)
Dibrisiant (48.6) (54.8) (61.1) (68.0) (75.2)
Cost net eiddo 198.6 208.4 216.2 230.7 250.7
Benthyciadau (162.6) (170.1) (172.2) (178.3) (191.7)
Asedau net eraill 20.3 23.4 22.9 20.3 19.9
Asedau a chronfeydd wrth gefn net 56.3 61.7 66.9 72.7 78.9
Cymhareb gerio (gwerth net) 48.1% 49.0% 47.6% 47.4% 48.8%
Cymhareb gerio (cost eiddo gros) 30.7% 31.0% 30.1% 29.6% 29.9%
Wales & West Housing | The Business Plan 2015 to 2019 | 25
LLIF ARIAN
ar gyfer y blynyddoedd yn
diweddu 31 Rhagfyr 2015 2016 2017 2018 2019 2015 -
£m £m £m £m £m 2019 £m
Llif arian net o weithrediadau 17.6 18.4 19.8 21.3 23.0 100.1
Taliadau llog net (5.8) (6.5) (7.4) (8.3) (9.0) (37.0)
Gwariant amnewid cyfalaf (3.5) (0.6) (0.6) (0.6) (0.7) (6.0)
Amnewid cydrannau (8.3) (7.2) (6.0) (4.8) (6.8) (33.1)
Mewnlif arian parod rhydd 0.0 4.1 5.8 7.6 6.5 24.0
Gwariant ar ddatblygu (29.8) (12.7) (16.9) (25.9) (30.8) (116.1)
Grantiau 6.1 4.4 9.0 9.8 10.9 40.2
All-lif arian net cyn cyllido (23.7) (4.2) (2.1) (8.5) (13.4) (51.9)
Prif ddadansoddiad y benthyciadau -
cyfleuster hysbys 5.0 5.5 0.0 0.0 0.0 10.5
- Gofyniad cyfleusterau ychwanegol 20.0 4.2 4.9 23.9 16.2 69.2
Prif fenthyciadau ad-daliadau (2.0) (2.2) (2.8) (17.8) (2.8) (27.6)
Cynnydd / (gostyngiad)
net mewn arian parod (0.7) 3.3 0.0 (2.4) 0.0 0.2
TYBIAETHAU
ar gyfer y blynyddoedd yn
diweddu 31 Rhagfyr 2015 2016 2017 2018 2019
Cynllun Cynllun Cynllun Cynllun Cynllun
Chwyddiant
Rhent 3.50% 3.50% 3.50% 3.50% 3.00%
Cyflogau 3.25% 3.25% 3.25% 3.25% 3.25%
Costau cynnal a chadw 3.50% 3.50% 3.50% 3.50% 3.50%
CPI 2.00% 2.00% 2.00% 2.00% 2.00%
Cyllido
Cyfradd benthyciadau newydd 4.82% 5.14% 5.54% 5.84% 6.04%
Cyfradd grant 58% 58% 58% 58% 58%
Cwblhau tai 278 183 130 160 240
Tai Wales & West
3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD.
ac
Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN.
Ffoniwch 0800 052 2526
E-bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk
@wwha
wwhahomesforwales
Cyhoeddwyd ym Medi 2014
Recommended