Upload
pembrokeshire-college
View
250
Download
8
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Arolwg Blynyddol
Citation preview
Pembrokeshire COLLEGECOLEG Sir Benfro
LLWYDDIANT Arolwg Blynyddol 2010/11
EICH
LLWYDDIANT
Cwrdd â rhai o’r tîmChwith – Y DdeTim Lambert: Technoleg CerddoriaethJulia Rees: Ffasiwn a ThecstilauVaughan Edwards: PeiriannegPowell Strong: Gwyddor yr AmgylcheddDr Helen Coomer: Cemeg a MathemategKate Bassett-Jones: Bioleg
LLWYDDIANT
Cystadleuaeth Olympiad BiolegCymerodd deg o fyfyrwyr Lefel A Bioleg Coleg Sir Benfro ran yng nghystadleuaeth Olympiad Bioleg
cynrychioli’r DU yn y gystadleuaeth Olympiad Bioleg Rhyngwladol a gynhelir yn Tsieina.
Bu’r gystadleuaeth yn fodd i roi her a symbylu myfyrwyr dawnus sydd â diddordeb mewn Bioleg, ac ehangu ac ymestyn eu doniau. Fe wnaeth y gys-tadleuaeth ddenu 2,850 o fyfyrwyr awyddus o 337 o ysgolion ar draws y DU. Perfformiodd myfyrwyr y Coleg yn dda gyda Stefan Merrix yn ennill yr Arian, Andrew Barrett yn ennill Canmoliaeth Uchel, Nabila Ali Syeda yn ennill yr Efydd ac Aaron McManamon, David Havard a Genevieve Gyseman i gyd yn cael eu cymeradwyo.
Weldwyr y Coleg yn serennu Enillodd y Weldwyr dan Hyfforddiant yng Ngholeg Sir Benfro y cyfan yn Rowndiau Terfynol Rhanbarthol BOC a gynhelwyd ym MITEC gan sicrhau’r cyntaf, ail, trydydd a’r pedwerydd. Daeth weldwyr ifanc o golegau ar draws De Cymru at ei gilydd i gystadlu am le ym Mhencampwriaeth Derfynol Cymru.
Aeth y wobr gyntaf i Ian Harries, 20 oed o Hwlffordd, aeth yr ail wobr i Neil Brace, 20 oed o Ddoc Penfro,
wobr i Stephen White, 21 oed o Aberdaugleddau a’r pedwerydd i Jamie Stanley, 23 oed o Benfro. Fe wnaeth llwyddiant Ian sicrhau lle iddo yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Cymru.
tudalen 4-5
Llwyddiant yn y Pencampwriaethau Coginio RhyngwladolEnillodd dau fyfyriwr Coleg Sir Benfro medalau yn ystod y Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol a gynhelwyd yng Ngholeg Llandrillo. Enillodd Christopher Walker, 21 oed, o Solfach Fedal Aur a’r ‘Gorau yn y Dosbarth’ am ei bryd pysgodyn ac Efydd am ei brif gwrs yn cynnwys cig oen Cymru.
Enillodd Regina-Mariola Sagan, 46 oed o Neyland, ddwy Fedal Arian am ei prydau llysieuol a phasta. Mae’r ddau yn fyfyrwyr blwyddyn gyntaf ar y cwrs coginio proffesiynol lefel 3. Dywedodd eu tiwtor Mark James: “Mae’r ddau fyfyriwr yma wedi gwneud eu hunain, Coleg Sir Benfro a’r sir yn browd iawn o’u llwyddiant. Roedd llawer o golegau ac arweinwyr busnes o Gymru a Lloegr yn cystadlu yn y digwyddiad mawreddog hwn. Mae dal baner Sir Benfro yn uchel ymhlith cystadleuaeth o’r fath yn ein rhoi yn gadarn ar y map coginio. “
Cystadleuaeth Cogydd Ifanc y Flwyddyn yn poethiBrwydrodd pedwar myfyriwr arlwyo blwyddyn gyntaf, 17 oed neu iau, am le yn y gystadleuaeth Cogydd Ifanc y Flwyddyn Clwb Rotari Dinbych y Pysgod a gynhaliwyd gan y Coleg. Y cystadleuwyr yn y rownd
Owen a Catrin Thomas. Bwriad y gystadleuaeth oedd dewis cynrychiolydd y Coleg ar gyfer rownd derfynol rhanbarthol y Clwb Rotari a gynhelwyd ym mis Chwefror yn y Coleg a Catrin fu’n fuddugol.
Myfyriwr Celf Ewinedd yn Ennill yr AurEnillodd Oksana Cooper, myfyrwraig Coleg Sir Benfro gystadleuaeth genedlaethol celf ewinedd Cymdeithas Trin Gwallt a Therapi (AHT) mewn digwyddiad amlwg yn Blackpool. Daeth Oksana, 36 oed, technegydd ewi-nedd NVQ Lefel 2 ar y cwrs Gwasanaethau Ewinedd ar ôl gwneud cwrs ‘CAMU i mewn i’r Coleg’. Aeth Oksana ymlaen i ennill y brif wobr yn y rownd derfynol rhwng 14 technegydd ewinedd o bob cwr o’r DU.
Seiri coed gyda’r ‘X-Factor’Cynhaliodd Coleg Sir Benfro ‘wersyll’ gwaith saer lefel uchel ar gyfer, yn ddadleuadwy, tri o brif seiri’r wlad. Mewn cystadleuaeth math ‘X-Factor’, brwydrodd 12 o enillwyr rhanbarthol ‘WorldSkills’ - a oedd wedi ennill
wlad - am le yn y garfan o chwech – a chafodd hynny ei gwtogi i dri i’w hyfforddi i gynrychioli’r DU mewn sgiliau ‘Olympaidd’ a gynhaliwyd yn Llundain ym mis Hydref 2011.
Treuliodd y tri buddugol wythnos yn hyfforddi yng gweithdy gwaith saer y Coleg yn y Ganolfan Adeiladu arobryn yn Hwlffordd. Fe wnaethon nhw baratoi ar gyfer amodau cystadleuaeth drwy wneud darn prawf gwaith coed o gynlluniau a ddatgelwyd iddyn nhw ar ddechrau’r wythnos hyfforddiant.
Car clasurol i ‘Huwmacher’Roedd myfyrwyr chwaraeon moduro Coleg Sir Benfro wrth eu boddau i weld y car roedden nhw wedi paratoi ac wedi gofalu amdano yn ystod y digwyddiad, gan ennill am y drydedd waith yn olynol ar gwrs rhiw clasurol Llysyfran. Cafodd y car rasio Van Diemen 1600cc ei ailadeiladu’n helaeth yn ystod
darlithwyr cwrs Rob Gay, Alex Edwards a Huw Jones. Cafodd ‘Huwmacher’ Jones hefyd y gwaith o yrru’r car yn ystod y digwyddiad.
Daeth cystadleuwyr o bob cwr o’r wlad ag amrywiaeth eang o geir i daclo’r cwrs 1,040 metr technegol heriol. Ychwanegodd cyfraniad cyn-bencampwr rali Prydain, Dai Llewellyn a hynny ddwy waith, ac yntau o Sir Benfro, at y diddordeb. Fodd bynnag, profodd y cwrs gwlyb a llithrig i fod yn her i’r gyrwyr, gyda llawer yn methu aros ar y rhuban cul o darmac.
tudalen 6-7
Y ‘Scary Guy’ yn y ColegParhaodd y ‘Scary Guy’ ei genhadaeth fyd-eang i gael gwared â dicter, casineb, trais a marwolaeth gyda thri anerchiad yng Ngholeg Sir Benfro. Yn gymeriad hynod fawr, yn 6 troedfedd o daldra ac yn pwyso 20 stôn, gyda’i ddannedd aur, tlws-dyllau wyneb a thatws ar y corff i gyd, mae’r ‘Scary Guy’ yn unrhyw beth ond yn gymeriad confensiynol. Yn gyn-artist tatw, newidiodd ‘Y Scary Guy’ ei enw’n gyfreithiol yn 1998 a dechreuodd ar ei genhadaeth fyd-eang i gael gwared â chasineb a rhagfarn ar ôl i artist tatw cystadleuol redeg hysbyseb tudalen lawn mewn papur lleol yn gofyn, “Ydych chi wedi blino ar ddelio â dynion brawychus â tatws wyneb paent rhyfel?”
cymdeithasol y byd, mae’r ‘Scary Guy’ yn defnyddio’i
ymgysylltu â’r gynulleidfa. Trwy dystiolaeth bersonol, cyfranogiad y gynulleidfa a thactegau sioc, mae Scary yn mynnu sylw pawb yn yr ystafell. Dywedodd Kira Hardy, 16 oed, o Ddinbych y Pysgod, “Roedd Scary yn wirioneddol ysbrydoledig ac fe lwyddodd i gael ei neges drosodd yn glir iawn. Tu ôl i’r hiwmor roedd
barnu pobl nes ein bod yn dod i’w hadnabod.”
Canlyniadau Lefel A yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol
ganlyniadau arholiadau rhagorol yn 2010/11. Roedd cyfradd llwyddo cyffredinol y Coleg ar gyfer myfyr-wyr llawn-amser yn 99%, gyda 27% yn radd A* neu
- dwywaith y cyfartaledd cenedlaethol. Dywedodd y Pennaeth Cynorthwyol Dr Barry Walters, “Mae’r Coleg yn falch iawn o’r canlyniadau Lefel A rhagorol ar gyfer 2010/11 a’r ffaith bod cyfradd llwyddo eleni unwaith eto yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchiad o ymdrechion
addysgu Lefel A”.
Technoleg Symudol i Helpu DysgwyrYm mis Ionawr 2011 lansiwyd y Prosiect mCymuned arloesol, a arweinir gan Goleg Sir Benfro mewn cydweithrediad â Choleg Gwyr Abertawe a TSSG (Telecommunications Software and Solutions Group) wedi’i leoli yn Athrofa Technoleg, Iwerddon. Nod y prosiect yw ymgysylltu oedolion nad ydynt mewn
technoleg symudol i’w helpu i sefydlu rhwydweithiau cymdeithasol cadarnhaol. Mae mCymuned hefyd yn gweithio gyda busnesau bach i beilota sut y gall technoleg wella eu heffeithiolrwydd busnes. Bydd y
drwy dechnoleg symudol.
Diwrnod Graddio i Fyfyrwyr GraddCynhelwyd Seremoni Raddio Coleg Sir Benfro ar 2 Gorffennaf yn awyrgylch urddasol Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Am y tro cyntaf i’r Coleg, cafodd dwy Brifysgol eu cynrychioli yn y digwyddiad - Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd newydd ei chreu y mae Coleg Sir Benfro nawr yn bartner â nhw. Dywedodd y Cyfarwyddwr Marchnata, Sgiliau a Datblygiad Dr Geoff Elliott,
eleni o safon uchel ac yn dyst i ymroddiad y staff a’r myfyrwyr. Mae’r seremoni raddio heddiw yn dangos bod astudio ar gyfer gradd yn lleol mewn gwirionedd yn gallu bod yn opsiwn dichonadwy ar gyfer graddedigion uchelgeisiol. “
Steilwyr gwallt yn Creu TonnauFe wnaeth steilwyr uchelgeisiol yng Ngholeg Sir Benfro greu mwy na dim ond tonnau pan wnaethon nhw lwyfannu eu Cystadleuaeth Trin Gwallt AHT y DU blynyddol. Cafodd y myfyrwyr eu hannog i adael eu dychymyg redeg yn rhydd a chafwyd rhai arddulliau dramatig a thrawiadol i’r beirniaid proffesiynol weld. Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys nifer o themâu ac roedd rhaid i’r myfyrwyr eu dehongli o dorri a sychu i ‘haute couture’ a noson yn y theatr. Yn y gystadleuaeth ‘haute couture’, a enillwyd gan Juliette Graham, 18 oed o Neyland, gwelwyd ei model, Hannah Snape, wedi’i thrawsnewid gan olwg yn syth o’r brigdrawst neu’r ‘catwalk’.
cyfan’, yn seiliedig ar noson yn y theatr, gan Melissa Watts, 16 oed o Hwlffordd, Kelly Matthews, 16 oed o Neyland a Genna Woodford, 17 oed o Johnston, ac fe wnaethon nhw ail-greu’r Lion King yn hynod drawiadol.
tudalen 8-9
Y Prifysgolion Gorau i Fyfyrwyr RhyngwladolMae myfyrwyr rhyngwladol Coleg Sir Benfro yn ennill canlyniadau Lefel A uchel a hynny’n gyson, gan eu helpu i sicrhau lle yn rhai o brifysgolion gorau’r DU. Roedd y prifysgolion eleni yn cynnwys Coleg Imperial Llundain, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caergrawnt. Graddiodd y cyn-fyfyriwr Riu Ku o Tsieina, yn ddiweddar o Gaergrawnt gyda gradd Peirianneg Gemegol a dychwelodd i’r Coleg gyda’i rieni a’i ddarpar-wraig (hefyd yn gyn-fyfyriwr) i ddangos iddynt ble dechreuodd eu taith hapus. Dywedodd tad Rui, “Rydym yn credu bod Coleg Sir Benfro a’i athrawon yn rhagorol. Llwyddodd ein mab, rydyn ni mor falch ohono, fynd i mewn i Gaergrawnt o ganlyniad i’w hymroddiad nhw.”
“Ardderchog - llawer o gryfderau, yn cynnwys enghreifftiau sylweddol o arfer sy’n arwain.”
““Mae gan yr holl athrawon wybodaeth dda o’r pynciau maent
yn addysgu.”
“Mae gan y Coleg strategaeth iechyd a lles gynhwysfawr.”
“Mae llawer o ddysgwyr yn cyfrannu at ystod eang o weithgareddau cymunedol a drefnir gan y Coleg, gan gynnwys codi arian ar gyfer elusennau, gweithio gyda
swyddogion y Parc Cenedlaethol a chyfrannu at wyliau bwyd lleol.”
“Mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn iach yn y Coleg ac yn mwynhau eu dysgu.”
“Mae’r Coleg yn darparu adnoddau dysgu rhagorol i gefnogi addysgu a dysgu effeithiol.”
“Mae lles yn rhagorol”
“Mae dysgwyr yn ymddwyn yn dda yn y dosbarth ac yn siarad yn frwdfrydig am
“Mae gweithgareddau Pwyllgor Llais y Dysgwr y Coleg yn ardderchog.”
“Mae gan feysydd galwedigaethol
adlewyrchu gofynion diwydiant ar hyn o bryd.”
“Mae’r Coleg yn cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn dda
iawn.”
Beth ddwedodd Arolygwyr Ei Mawrhydi ...Ffynhonnell: Adroddiad Estyn Chwefror 2011
Gwobrau Busnes i’r Myfyrwyr GorauCafodd dwy wobr i hyrwyddo astudiaethau mewn busnes a pheirianneg yng Ngholeg Sir Benfro eu noddi gan gangen Sir Benfro Ffederasiwn Busnesau Bach. Cafodd gwobr ariannol ei dyfarnu i fyfyrwyr rhagorol
Andrew Phillips, Rheolwr Gyfarwyddwr Carreg Construction, yn ystod y seremoni raddio a gynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Enillydd y wobr Busnes, Hamdden a Teithio oedd Zoe Codd. Dywedodd y tiwtor Julia Miles, “Fe wnes i enwebu Zoe ar gyfer y wobr am ei bod wedi gweithio’n gyson dros
mewn Astudiaethau Busnes a Chymhwyster Bagloriaeth Cymru a fydd yn ei galluogi i barhau â’i haddysg mewn Busnes a’r Gyfraith ym Mhrifysgol Morgannwg ym mis Medi 2011.”
Myfyrwyr yn Gosod eu Bryd ar BorneoBydd myfyrwyr brwdfrydig o Goleg Sir Benfro yn teithio i ynys gyhydeddol Borneo cyn bo hir, ym Môr De Tsieina, i ymgymryd â gweithgareddau amgylcheddol a bywyd gwyllt a chael blas ar fywyd mewn fforest law drofannol. Gyda’r daith wedi’i threfnu ar gyfer haf 2012, mae’r myfyrwyr ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau codi arian i dalu am eu taith. Cafodd pob myfyriwr oedd wedi cofrestru yn y Coleg ac
daith, yn treulio amser yn codi arian i dalu am eu lle a helpu i drefnu’r daith wych hon i ben draw’r byd.
Prosiect Newydd yn y Sector YnniGyda diolch i fenter ar y cyd rhwng Coleg Sir Benfro, ‘Future Works’ yng Nghyngor Sir Penfro a’r Ganolfan Byd Gwaith,
(PECS), y gobaith oedd y byddai cynnydd yn y nifer o weithwyr adeiladu peirianneg medrus sydd ar gael i weithio mewn gorsafoedd pwer a phurfeydd y sir. Gyda chyllid wedi’i sicrhau drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru, cafodd y prosiect ei lan-
tudalen 10-11
“Wellbeing is excellent”
Income 2010/11 2009/10
£’000 £’000
Welsh Government grants 13,957 13,783
Tuition fees and education contracts 2,477 2,618
Other income 2,116 1,760
Endowment and investment income 24 17
Total income 18,574 18,178
Expenditure 2010/11 2009/10
£’000 £’000
Staff costs 12,982 12,251
Other operating expenses 4,317 4,199
Depreciation 1,101 1,168
164 250
Total expenditure 18,564 17,868
operations after depreciation of tangible
taxation
10 310
6 12
operations after depreciation of tangible
asset, before and after taxation
16 322
STUDENT NUMBERS
Further Education 2010/11 2009/10
Full-time 1997 1963
Part-time 6239 5904
Total 7867
Higher Education 2010/11 2009/10
Full-time 159 153
Part-time 312 317
Total 471 470
Totals 2010/11 2009/10
Full-time 2156 2116
Part-time 6551 6221
Total 8707 8337
Notes - The income and expenditure account is in respect of the continuing activities of Pembrokeshire College.
Notes - Source: EBS (Central Student database), 11 January 2011Year *10/11 09/10 08/09 07/08Attainment 94% 88% 87% 85%Completion 88% 91% 90% 88%Successful completion 83% 80% 78% 75%
Datganiad AriannolY Flwyddyn yn gorffen 31 Gorffennaf 2011
Incwm 2010/11 2009/10
£’000 £’000
Grantiau Llywodraeth Cynulliad Cymru 13,957 13,783
addysg2,477 2,618
Incwm arall 2,116 1,760
Gwaddoliad ac incwm o fuddsoddiadau 24 17
Cyfanswm incwm 18,574 18,178
Gwariant 2010/11 2009/10
£’000 £’000
Costau staff 12,982 12,251
Treuliau gweithredu eraill 4,317 4,199
Dibrisiad 1,101 1,168
Llog a chostau ariannol eraill 164 250
Cyfanswm y gwariant 18,564 17,868
(Diffyg) / Gwarged ar weithgareddau parhaus ar ôl dibrisio asedau sefydlog diriaethol ar brisiad a chyn treth
10 310
(Colled) / Elw ar waredu asedau 6 12
(Diffyg) / Gwarged ar weithgareddau parhaus ar ôl dibrisio asedau sefydlog diriaethol ar brisiad a gwerthu asedau a chyn ar ac ôl trethiant
16 322
RHIFAU MYFYRWYR
Addysg Bellach 2010/11 2009/10Llawn-amser 1997 1963Rhan-amser 6239 5904
Cyfanswm 7867
Addysg Uwch 2010/11 2009/10
Llawn-amser 159 153Rhan-amser 312 317
Cyfanswm 471 470
Cyfanswm 2010/11 2009/10Llawn-amser 2156 2116Rhan-amser 6551 6221
Cyfanswm 8707 8337
Nodiadau - Mae’r cyfrif incwm a gwariant mewn perthynas â gweithgareddau parhaus Coleg Sir Benfro.Dangosyddion ariannol allweddol
Ffynhonnell Nodiadau: EBS 11 Ionawr 2011.Blwyddyn *10/11 09/10 08/09 07/08Cyrhaeddiad 94% 88% 87% 85%Cwblhau 88% 91% 90% 88%Cwblhau’n llwyddiannus 83% 80% 78% 75%