10
Yn y rhifyn hwn... Newyddion Rhanbarthol Newyddion Prosiectau Diweddariad ar Brosiectau Gweithgareddau’r Gwanwyn ...a mwy! Y Bont Cwmni Cyfyngedig drwy Warrant 4296436 Elusen Gofrestredig 1093260 Yn gweithio mewn partneriaeth â: Gwanwyn 2019 Rhifyn 69 ISSN 1464-4282 www.clybiauplantcymru.org * * * * Mae’n bryd ymaelodi am 2O19/2O2O!

2019 Gwanwyn - Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ybont spring … · Gwaith Chwarae yng Nghymru, fel y cyfeirir atynt yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: 2019 Gwanwyn - Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ybont spring … · Gwaith Chwarae yng Nghymru, fel y cyfeirir atynt yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Yn y rhifyn hwn... Newyddion Rhanbarthol Newyddion Prosiectau Diweddariad ar Brosiectau Gweithgareddau’r Gwanwyn ...a mwy!

Y Bont

Cwmni Cyfyngedig drwy Warrant 4296436

Elusen Gofrestredig 1093260 Yn gweithio mewn partneriaeth â:

Gw

anw

yn 2

019

Rhifyn 69ISSN 1464-4282

www.clybiauplantcymru.org

****

Mae’n brydymaelodi am 2O19/2O2O!

Page 2: 2019 Gwanwyn - Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ybont spring … · Gwaith Chwarae yng Nghymru, fel y cyfeirir atynt yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Busnesau Gofal Plant ar hyd a lled Cymru. Fe welwch o’r dudalen prosiectau yn nes ymlaen yn y newyddlen y pethau rhagorol a wnaed gan y staff a fu’n gweithio ar y prosiect, a’r gefnogaeth y maent wedi ei rhoi i Glybiau Gofal Plant Allysgol. Diolchwn i Sefydliad Moondance am y rhodd hon; rydym yn chwilio am arian i barhau â hyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae gennym nifer o brosiectau cyffrous i ddod yn 2019, ac fe welwch eu manylion ar y tudalennau i ddod. Byddem yn hynod falch petaech yn parhau yn eich ymwneud â ni ac yn rhannu â ni unrhyw newyddion da neu wybodaeth gyffredinol a fydd o ddefnydd i’r sector gofal plant a chwarae. Neu, rhowch wybod i ni pa bethau yr hoffech i ni ysgrifennu amdanynt; gallwch gysylltu â ni drwy ein gwefan: https://www.clybiauplantcymru.org/contact-us.asp.

Jane O’ToolePrif Swyddog Gweithredol

Rhifyn 69 Gwanwyn 2019

Yn y rhifyn hwn...

Croeso i 2019 a’n newyddlen Wanwyn; bydd fy nghyflwyniad y chwarter hwn yn un cryno iawn gan fod cymaint wedi ei gynnwys yn y rhifyn yma.

Gwelodd ddiwedd 2018 derfyn ein prosiect a ariannwyd gan Sefydliad Moondance, a’n galluogodd i gael Swyddogion Datblygu

Y Bont 3

Pam dod yn aelod?Bydd Aelodaeth hyd at 31.03.2020 yn arbed y canlynol i chi:• £20.00 yn achos pob person unigol a fydd yn bwcio’u lle ar gyrsiau hyfforddi (codir ffi o £20.00 y person ar rai nad ydynt yn aelodau)• £50.00 os ydych yn archebu gweithdy clwb• Gostyngiad o hyd at 15% ar eich yswiriant gyda Morton Michel • Gostyngiad o hyd at 5% ar eich Gwiriadau’r GDG (ffioedd prosesu) gydag uCheck• 10% oddi ar bris teganau ac offer o Stepping Stones• 10% oddi ar bris teganau ac offer gydag EYP Direct

Bydd aelodau yn ogystal yn elwa o:• Hysbysebu am ddim i’ch clwb ar www.clybiauplantcymru.org – fel y gall rhieni/gofalwyr ddod o hyd i’ch lleoliad• Hysbysebion recriwtio ar www.clybiauplantcymru.org yn ddi-dâl• E-Newyddion Ariannu misol am ddim• Newyddlen chwarterol yn cynnwys syniadau am weithgareddau a chodi arian, am ddim• Cyhoeddiadau, yn cynnwys Camu Allan (yn llawn samplau o bolisïau a gweithdrefnau i’ch helpu i fodloni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol) yn ddi-dâl• Arweiniad arbenigol ar gynllunio busnesau, ehangu, cofrestru, sicrwydd ansawdd a phob agwedd arall ar yr hyn a ddarperir gan Glybiau Gofal Plant All-Ysgol, am ddim gan dîm o Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant. • Cymorth gan eich swyddfa ranbarthol, sy’n rhoi arweiniad ar faterion gofal plant a busnes.• Cyfle i fod yn rhan o’n Bwrdd Ymddiriedolwyr a llunio dyfodol Gofal Plant All-ysgol yng Nghymru

Gwelir isod gost aelodaeth am 2O19-2O:Y gost Clwb All-ysgol unigol: £48.00Y gost i aml-ddarparwr (hyd at 5 clwb): £75.00Y gost i aml-ddarparwr mawr (hyd at 20 clwb): £165.00Aelod Cysylltiol: Grŵp Gofal Plant Arall / Chwarae Mynediad-agored £70.00Aelod Cysylltiol: Awdurdod Lleol / Rhwydwaith £325.00

Mae’n brydymaelodi am 2O19/2O2O!

Erbyn hyn, dylech fod wedi derbyn llythyr i’ch atgoffa i adnewyddu eich aelodaeth (neu ymuno â ni). Cofiwch ddychwelyd y ffurflen adnewyddu cyn gynted ag y byddwch yn ei derbyn er mwyn gallu dal i gyrchu’r gefnogaeth bwrpasol a’r mantesion a gewch o ymaelodi.

Os oes arnoch angen copi o’ch ffurflen adnewyddu, neu ffurflen aelodaeth newydd, anfonwch e-bost i [email protected] neu ffoniwch 029 2074 1000.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus!

Ebrill 2019Ebrill 2ail Dydd Rhyngwladol Llyfrau PlantEbrill 6ed Pythefnos Darganfod y Parciau CenedlaetholEbrill 29ain Diwrnod Rhyngwladol DawnsEbrill 29ain Wythnos Genedlaethol Garddio

Mai 2019Mai 1af Mis Cerdded CenedlaetholMai 1af Mis Cenedlaethol Rhannwch StoriMai 12fed Diwrnod Plant CenedlaetholMai 13eg Wythnos Ymwybyddiaeth o’r HaulMai 13eg Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddyliol

Dyddiadau i’w dathlu yn 2019Mehefin 2019Mehefin 1af Diwrnod Rhyngwladol PlantMehefin 3ydd Wythnos Diogelwch PlantMehefin 8fed Diwrnod Rhyngwladol CefnforoeddMehefin 8fed Wythnos Gelf PlantMehefin10fed Wythnos Bwyta’n Iach, sefydliad maeth Prydain (BNF)

A fyddwch chi’n cymryd rhan yn unrhyw un o’r digwyddiadau hyn?

Os felly, cofiwch rannu gyda ni unrhyw storïau neu ffotograffau! Gallwch eu he-bostio atom yn [email protected]

Annwyl Aelod o Glwb Gofal Plant All-Ysgol

Llythyr gan y Prif Swyddog Gweithredol.........2

Aelodaeth..........................3

Ffocws ar Orllewin Cymru...4 & 5

Ffocws ar Ogledd Cymru....6 & 7

Ffocws ar Dde Ddwyrain Cymru.................................8 & 9

Hyfforddiant........................10

Syniadau Codi Arian...............11

Diweddariad Cyflogwyr..12 & 13

Prosiectau............................14

Ffocws ar Gyflogaeth..............15

Cymraeg...........................16 & 17

Gweithgareddaur Gwanwyn....18Ymwadiad:Gwneir pob ymdrech gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i sicrhau bod cynnwys ein newyddlen yn gywir Dylech nodi nad yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn cymeradwyo unrhyw un o’r gwasanaethau, clybiau, gweithgareddau nac erthyglau, ac ni fydd yn gyfrifol am unrhyw weithred ar ran unrhyw berson neu grŵp o bobl sy’n darllen y newyddlen. Er gwybodaeth yn unig y dosberthir y newyddlen; heb gyfrifoldeb na rhwymedigaeth gyfreithiol.

Cwmni cyfyngedig drwy warant 4296436 Elusen Gofrestredig 1093260

Swyddfa Gofrestredig: Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs,

Tŷ’r Bont, Ffordd yr Orsaf, Llanisien,Caerdydd. CF14 5UW Ffôn: 029 2074 1000 Ffacs: 029 2074 1047

E-bost: [email protected] We: www.clybiauplantcymru.org

Page 3: 2019 Gwanwyn - Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ybont spring … · Gwaith Chwarae yng Nghymru, fel y cyfeirir atynt yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Gorllewin Cymru

Y Bont 5 4 Y Bont

Y Cynnig Gofal Plant ar fin ei weithredu’n

llawn yn Sir GârMae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth agos â Chyngor Sir Ceredigion dros yr ychydig fisoedd diwethaf i baratoi am roi ar waith yn llawn y Cynnig Gofal Plant o Ionawr 7fed 2019 ymlaen, gan gyd-fynd â dechrau tymor academaidd newydd y Gwanwyn.

Bydd rhieni cymwys sy’n gweithio yn derbyn cyfanswm cyfunol o 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yn ystod y tymor. Bydd yr addysg gynnar bresennol di-dâl a ddarperir gan y Cyfnod Sylfaen yn dod yn rhan o’r cynnig hwn. Am 9 wythnos y flwyddyn, y tu allan i adegau’r tymor, bydd rhieni’n derbyn 30 awr yr wythnos o ofal plant.

Cynhaliodd y ddau Awdurdod Lleol sesiwn briffio llwyddiannus i ddarparwyr gofal plant ganol Hydref 2018 yng Nghanolfan Halliwell, Caerfyrddin. Roedd nifer dda, yn cynnwys dros 110 o ddarparwyr gofal plant, yn bresennol. Rhoddwyd i ddarparwyr gofal plant y cynnig i ddod i wybod mwy am y cynnig, y broses o gofrestru ac ymgeisio, a rhoddwyd iddynt hefyd wybodaeth am y grantiau a’r gefnogaeth a oedd ar gael i roi cyfleoedd i ehangu. Mae

Ffocws ar

Confensiwn y Cenhedloedd unedig ar Hawliau’r Plentyn Erthygl 24

Dywed Erthygl 24 fod gan bob plentyn yr hawl i fod mor iach â phosibl, â mynediad i ofal iechyd da ac o ansawdd, dŵr glân a bwyd maethlon.

Mae gan ymarferwyr y blynyddoedd cynnar a chwarae y potensial i wneud cyfraniad enfawr i iechyd a llesiant y plant yn eu gofal. Mae deiet iach yn ffactor allweddol o ran eu hiechyd yn nes ymlaen yn eu hoes, a gellir sefydlu arferion bwyta cadarnhaol yn gynnar mewn bywyd,

Dylid rhoi cyfle i blant ifanc brofi amrediad eang o fwydydd maethlon, a dylid rhoi cyfleoedd iddynt ddysgu am fwyd a’i fwynhau o oedran cynnar.

Daw’r holl ddysgwyr o 5 Clwb Gofal Plant Allysgol yn Abertawe. Mae’r cymhwyster yn darparu ar gyfer rhai sydd am gymryd rôl o natur fwy rheolaethol yn ogystal â Gweithwyr Chwarae newydd sydd wedi bod yn gweithio yn y sector am nifer o flynyddoedd. Mae’r garfan frwdfrydig hon o Brentisiaid newydd yn awyddus i wella neu adnewyddu eu gwybodaeth ac ennill sgiliau.

Mae sawl mantais i ymgymryd â Phrentisiaeth. Fel y dywedodd un dysgwr newydd: “Mae wedi ei lleoli yn eich ardal chi, heb lawer o deithio, gydag amserau penodedig a chyfleus, a daw’r asesydd atoch chi, sy’n gweithio’n well i glybiau prysur!” Gyda Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs bydd gan y Prentisiaid hyfforddwr ac asesydd dynodedig, sesiynau wythnosol gyda’r hyfforddwr, deunydd cwrs, y damcaniaethau Gwaith Chwarae diweddaraf ac ymweliadau misol â’r gweithle. A saif ein cyfradd gyrhaeddiad ar 86%, sy’n uwch na’r meincnod cenedlaethol.

Gweithdy Ffocws ar FwydAngen help gyda syniadau am fyrbrydau creadigol ac iach? Beth am brynu ein gweithdy Ffocws ar Fwyd? Angen help i gael syniadau am fyrbrydau creadigol ac iach? Pan na phrynwch eich gweithdy Ffocws ar Fwyd? Gall Swyddog Hyfforddi profiadol ddod i’ch lleoliad a rhannu â’r Gweithwyr Chwarae a’r plant doreth o syniadau am fyrbrydau hwyliog ac iach er mwyn annog ffyrdd iach o fyw a hyrwyddo arferion bwyta cadarnhaol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’ch Swyddfa Ranbarthol.

Canllawiau Bwyd ac IechydYdych chi wedi darllen ‘Bwyd a Maeth i Leoliadau Gofal Plant’, sef canllaw newydd a mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru ar arferion gorau ynghyd ag enghreifftiau o fwydlenni a ryseitiau eto?

Ewch at <https://gov.wales/childcarefood> <https://llyw.cymru/maethgofalplant> i gael syniadau newydd gwych am ryseitiau i’ch lleoliad.

Wythnos Bwyta’n IachA wyddech chi ei bod yn Wythnos Bwyta’n Iach y sefydliad maeth Brydenig (British Nutrition Foundation) o Fehefin 10fed i Fehefin 14eg 2019. A fyddwch chi’n cymryd rhan? Rhowch wybod i ni pa arferion bwyta’n iach sydd gan eich lleoliad, a gallwn eu rhannu yn rhifynnau’r dyfodol o’r Bont.

Mae Clwb Cofleidiol ac Ôl-ysgol Penclawdd yn Abertawe wedi rhannu ambell i syniad am ryseitiau y mae’r plant sy’n mynychu’u lleoliad wedi’u mwynhau yn ddiweddar. Wedi llwyddo i ennill Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur y llynedd maent wedi bod yn gweithio’n galed i wneud yn sicr eu bod yn darparu bwyd iach a maethlon.

mwyafrif helaeth darparwyr/lleoliadau gofal plant cofrestredig Sir Gaerfyrddin bellach wedi cofrestru ac wedi llofnodi contractau gyda Chyngor Sir Ceredigion i gyflenwi’r cynnig gofal plant i rieni cymwys.

Hyd yma mae Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn dros 200 o geisiadau wedi’u derbyn oddi wrth rieni a gofalwyr Sir Gaerfyrddin, a thros 150 o’r rhain wedi eu prosesu’n llwyddiannus. Bydd hyn yn dod â budd sylweddol i nifer o

deuluoedd sy’n gweithio ac sydd wedi bod yn ei chael hi’n anodd talu am ofal plant ffurfiol.

Am wybodaeth bellach ar y cynnig gofal plant, yn cynnwys cefnogaeth i gefnogi os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, cysylltwch â Thîm Gofal Plant a Chwarae, Gwybodaeth i Deuluoedd (GID) Sir Gaerfyrddin ar 01267 246555 neu ewch i wefan GID Sir Gaerfyrddin: http://fis.carmarthenshire.gov.wales/childcare/providing-childcare/talk-childcare-offer-wales/

Bydd Gweithwyr Chwarae sy’n ennill y cymhwyster hwn yn ateb y cymwysterau a nodir yn benodol yn rhestr SkillsActive o’r cymwysterau gofynnol i weithio yn y Sector Gwaith Chwarae yng Nghymru, fel y cyfeirir atynt yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir yn achos plant hyd at 12 mlwydd oed. Mae chwarae’n hawl (Erthygl 31 confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau’r plentyn (UNCRC) a dywed Egwyddor Gwaith Chwarae 1 wrthym, ‘Mae pob plentyn a pherson ifanc angen chwarae. Mae’r awydd i chwarae’n un greddfol. Mae chwarae’n anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae’n hanfodol i ddatblygiad iach a lles unigolyn a chymunedau’. Bydd y cymhwyster hwn yn paratoi oedolion sy’n gweithio gyda phlant yn well i ddeall, cefnogi ac amddiffyn eu hawliau.

Os hoffech fwy o wybodaeth am Ddiploma Lefel 3 CACHE mewn Gwaith Chwarae cysylltwch â’n Tîm yng Ngorllewin Cymru ar 01269 831010

Carfan Newydd o Brentisiaid Gweithwyr Chwarae

yn Abertawe!

Ydy’ch clwb chi’n annog bwyta’n iach?

Salad Pasta LliwgarByddwch angen:Pasta½ Winwn cochIndia-cornMoronen wedi’i gratioPuprynnauTomatosPupur neu arlleg i flasu

Cyfarwyddiadau• Coginiwch y pasta yn ôl y cyfarwyddiadau. Draeniwch a gadewch i oeri.• Tra bo’r pasta’n coginio, torrwch y llysiau’n ddarnau.• Cyfunwch y pasta a’r llysiau mewn powlen fawr.• Ychwanegwch bupur am flas.• Gweinwch a mwynhewch!

Cawl LlysiauByddwch angen:1 x Ciwb gwlych llysiauDŵr (digon i orchuddio’r llysiau)MoronPannasWinwnsTatwsSwêdsPupur

Cyfarwyddiadau:• Ychwanegwch y darnau llysiau a’r ciwb gwlych i sosban o ddŵr.• Mudferwch am 15-20 munud neu hyd nes y bo’r llysiau wedi meddalu• Ychwanegwch bupur am flas• Gweinwch gyda darn o fara ffres!

Diolch am y syniadau rhyfeddol, Penclawdd!

Os oes gan eich clwb unrhyw hoff ryseitiau blasus ac iachus hoffech rannu gyda ni,

ebostwch nhw at [email protected]

Gallwch arbrofi drwy ddefnyddio cymaint o lysiau ag yr hoffech. Ystyriwch ychwanegu pwmpen ar adeg Calan Gaea’ neu gennin ar Ddydd Gŵyl Dewi

Angen cysylltu â ni?Cewch gysylltu â Thîm Gorllewin Cymru

drwy ffonio: 01269 831010,drwy ebost: [email protected]’r post: Uned 2, Clos Gelliwerdd, Parc Busnes Cross Hands, Cross Hands, Sir

Gaerfyrddin. SA14 6RX

Ers yr Hydref rydym wedi bod yn brysur yn recriwtio ein carfan newydd o 10 Prentis Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae, gan gynnal ein sesiwn grŵp cyntaf yn Ionawr yng Ngorseinon. Croeso!

Page 4: 2019 Gwanwyn - Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ybont spring … · Gwaith Chwarae yng Nghymru, fel y cyfeirir atynt yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Gogledd Cymru

6 Y Bont Y Bont 7

Prosiect Dyfodol DisglairRydym yn hynod falch ein bod wedi sicrhau ein prosiect newydd, cyffrous, Dyfodol Disglair, drwy ffrwd ariannu Gwynt y Môr, ac rydym bellach wedi llenwi’r holl leoedd yng Nghlybiau Gofal Plant Allysgol a Reolir yn Wirfoddol yn siroedd Conwy, Dinbych a Fflint, a oedd ar gael i fanteisio ar ein gweithdai di-dâl. Bydd Clybiau Gofal Plant Allysgol yn nalgylch Gwynt y Môr wedi cael e-bost yn eu gwahodd i gymryd rhan yn ein prosiect.

Mae’r prosiect yn gyfuniad o 3 gweithdy clwb • Adeiladu Deniau – Gweithdy clwb i gyflwyno plant, pobl ifanc a Gweithwyr Chwarae i’r hwyl sydd i’w gael wrth wneud deniau. • Chwarae Allan gyda’r Elfennau - Gweithdy clwb, sydd wedi ei seilio ar brofiadau hwyl a gweithgareddau, y cyfan yn ymwneud â’r amgylchedd awyr-agored, gan ddefnyddio’r elfennau, aer, tân, daear a dŵr.• Gweithdy clwb, sydd wedi ei seilio ar brofiadau a gweithgareddau hwyl, bob un ynglŷn â’r amgylchedd awyr-agored, gan ddefnyddio’r elfennau, aer, tân, daear a dŵr.• Chwarae’n Adnewyddadwy - Gweithdy clwb, wedi ei seilio ar ein pecyn parth gwyddoniaeth, sy’n ymwneud yn llwyr â chwilota i fyd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg drwy brofiadau hwyliog a heriol.

Nod y prosiect yw cyflwyno plant i bynciau a syniadau newydd, a’u helpu i wella’u sgiliau ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phob clwb sydd wedi gwirfoddoli i’n helpu i redeg ein prosiect!

Cymwysterau mewn Trawsnewid i Ogledd Cymru

Fel y byddech mae’n siŵr yn gwybod erbyn hyn, mae newidiadau ar eu ffordd i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol o fis Medi 2021, parthed staff sy’n gweithio mewn lleoliadau Gofal Plant Allysgol. Bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd angen cymhwyster mewn Gwaith Chwarae ar staff er mwyn bod yn gymwys i weithio mewn lleoliadau Gofal Plant Allysgol. Yn unol â’r newidiadau hyn, bydd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn cynnal Dyfarniadau Lefel 3 mewn Trawsnewid i Waith Chwarae yng Nghonwy, Ynys Môn a Gwynedd.

Os ydych wedi’ch cymhwyso hyd at Lefel 3 yn y Blynyddoedd Cynnar, yn gweithio mewn lleoliad chwarae yng Ngogledd Cymru, ac â diddordeb yn yr hyfforddiant hwn, cysylltwch â Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant eich sir, neu Swyddog Hyfforddi Gogledd Cymru, Tracey Bargh, i wirio a ydych yn gymwys i gofnodi’ch diddordeb.

Tesco, Groundwork, Bagiau Cymru

Gyda chefnogaeth pawb a ddefnyddiodd eu talebau glas i bleidleisio dros ein prosiectau, llwyddodd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i dderbyn dyfarniad o arian i gyflenwi dau brosiect.

1. Menter Healthy Kids Mae’r prosiect hwn yn anelu at weithio gyda phedwar Clwb Gofal Plant Allysgol yn ardal Cyffordd Llandudno, gan gyflenwi gweithdai clwb ‘Ffocws ar Fwyd’, ‘Bydïo’ ac ‘Yn Gyforiog o Gemau’ mewn gweithdai clwb i alluogi pob clwb i fynd ati i gefnogi a mynd i’r afael â gordewdra ymysg plant a helpu cymunedau i gyflenwi pecynnau hyfforddi plant iach.

2. Dowch Allan i ChwaraeMae’r prosiect hwn yn anelu at ddangos i blant yr hwyl y gellir ei gael drwy chwarae yn yr awyr

Prosiectau Di-riBûm yn llwyddiannus yn sicrhau tipyn go lew o ariannu ar gyfer gweithdai a phrosiectau yng Ngogledd Cymru eleni; mae ein Swyddogion Hyfforddi, Tracey Bargh a Catherine Smith, yn edrych ymlaen at gyflenwi’r prosiectau cyffrous

Newidiadau mewn staff yng Ngogledd Cymru

Hyfforddi Conwy’n troi’n arferMae rhaglen hyfforddi Conwy yn mynd rhagddi ers tipyn ac mae nifer fawr o weithwyr chwarae Clybiau Ôl-ysgol Sir Conwy yn eu mynychu. Mae un clwb, Clwb Ôl-ysgol Craig y Don wedi esbonio faint y mae’r plant wedi

mwynhau’r gweithgareddau crefft a balchder y mae’r plant wedi ei deimlo o ganlyniad i arddangos eu gwaith yn y clwb.

“’Tasen ni heb fyn i’r Gweithdy Chwarae Crefftus, fyddem ni ddim wedi gallu gwneud unrhyw grefft Nadolig gyda’r plant yn y clwb eleni; fe wnaethom ei fwynhau’n fawr.”- Anti Angela ac Anti Sharon.

Os hoffech archebu lle ar unrhyw un o’r cyrsiau sy’n dal ar gael, ewch i’n gwefan os gwelwch yn dda, sef https://www.clybiauplantcymru.org/training-events.asp, ac archebu’ch lle. Os hoffech archebu ein hyfforddwr i gyflenwi gweithdy yn eich clwb, cysylltwch â Swyddfa Ranbarthol Gogledd Cymru, [email protected] 01492 536318.

Cronfa Gymunedol

y Co-op Eleni dewiswyd Menter Healthy Kids’ i fanteisio o Gronfa Gymunedol Leol y Co-op. Ar adeg pan fydd yn anoddach cael hyd i arian i sefydliadau elusennol, rydym yn hynod ddiolchgar am y cyfle hwn i wneud gwir wahaniaeth yn ardal Conwy. Rydym yn codi arian i Fenter Healthy Kids’.

Mae’r prosiect y bwriadu cyflenwi 6 Gweithdy mewn 3 Chlwb Allysgol yng Nghonwy, yn cynnwys 2 weithdy clwb ‘Bydïo’ a 2 weithdy clwb ‘Yn Gyforiog o Gemau’. Bydd y gweithdai’n addysgu’r plant a fydd yno ar bwysigrwydd cadw’n iach a chwarae gemau.

Drwy addysgu’r plant a’r Gweithwyr Chwarae ar bwysigrwydd cadw’n iach er mwyn byw’n hirach, mae’r prosiect yn anelu at leihau’r achosion o ordewdra ymysg plant.

I’n helpu i godi arian sy’n gwbl angenrheidiol, byddwn yn dibynnu ar siopwyr y Co-op. Bob tro y byddant yn prynu cynnyrch brand y Co-op byddant yn cael gwobr gwerth 5% i’w hunain, a bydd 1% pellach yn mynd i achosion lleol fel ein

hachos ni. Gall aelodau’r Co-op benderfynu pa grŵp lleol yr hoffent ei gefnogi drwy fynd ar lein www.coop.co.uk/membership. Rydym yn gwir obeithio y bydd pobl yn ymweld â’r wefan ac yn dewis ein cefnogi.

Os nad ydych yn aelod ac yn awyddus i’n cefnogi, gallwch ymuno yn eich siop leol neu ar-lein ar www.coop.co.uk.

Pan ddaw cymuned ynghyd gallwn gyflawni pethau mawr, felly gobeithiwn y gallwch helpu i hyrwyddo’n prosiect.

Cronfa Estyniad Cymunedol Burbo Bank

Dyfarnwyd ariannu i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ar gyfer prosiect newydd, cyffrous. Bydd dau gam i’r prosiect hwn:

• Y cam cyntaf fydd cyflenwi’n gweithdy ar Ynni Adnewyddol i 3 Chlwb Gofal Plant Allysgol yn ardaloedd cymwys Burbo Bank. Bydd y plant sy’n mynychu’r gweithdai’n cael eu gwahodd i ofyn cwestiynau, a gwahoddir pob un i ddatblygu gweithgareddau/arbrofion newydd.• Yn yr ail gam caiff y gweithgareddau a fydd newydd eu datblygu eu treialu yn Clybiau Gofal Plant Allysgol gan y plant a ofynnodd y cwestiynau.

Os hoffech fod yn rhan o’r prosiect newydd, cyffrous hwn, ac wedi’ch lleoli yn yr ardaloedd cymwys, gwyliwch eich blychau e-bost am daflen yn eich gwahodd i gymryd rhan.

Prosiect Ynni Adnewyddadwy

a D

atbl

ygu

Rene

wab

le E

nerg

y and Development Project

agored a’r manteision a ddaw i’w hiechyd a’u llesiant drwy gyflenwi 4 gweithdy awyr-agored mewn 4 Clwb Gofal Plant Allysgol yn ardal Treffynnon o Sir Fflint. Bydd pob un o’r Clwb yn cael y gweithdai canlynol:

• Chwarae Allan gyda’r Elfennau sy’n cyflwyno plant i’r elfennau, daear, aer, tân a dŵr, fel ysgogwyr chwarae plant• Adeiladu Deniau, sef cyflwyno Adeiladu Deniau fel ysgogydd chwarae plant a’i hyrwyddo fel gweithgaredd cyffredinol dan do ac yn yr awyr agored• Mae Yn Gyforiog o Gemau yn darparu llu o syniadau ar gyfer hyrwyddo gemau mewn clybiau gofal plant allysgol ac yn hyrwyddo manteision Gweithgaredd Corfforol, cyfathrebu a meithrin tîm. • Mae Parth Natur yn rhoi syniadau i leoliadau am weithgareddau chwarae ymarferol dan do ac yn yr awyr agored, sy’n gwella ymwybyddiaeth amgylcheddol ac arferion yn eu clybiau sy’n gydnaws â’r amgylchedd.

MoondanceDaeth prosiect Moondance i ben yn Rhagfyr 2018; fe wnaethom fwynhau’r amserau y buom allan yn eich gweld a’ch cefnogi drwy gydol y flwyddyn.

Hoffem gymryd y cyfle hwn i ffarwelio ag Andi Loveday, Gweinyddydd. Hoffem ddymuno’r gorau i Andi ar gyfer y dyfodol; byddwn yn gweld dy eisiau yn swyddfa Gogledd Cymru.

Angen cysylltu â ni?Cewch gysylltu â Thîm Gogledd Cymru drwy

ffonio: 01492 536318,drwy ebost: [email protected]

trwy’r post: 19, Princes Drive,Bae Colwyn. LL29 8HT

Page 5: 2019 Gwanwyn - Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ybont spring … · Gwaith Chwarae yng Nghymru, fel y cyfeirir atynt yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Enw: Ailsa Bines

Teitl y swydd: Gweinyddydd

Ers faint ydych chi wedi bod yn gweithio i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs? Naw mlynedd

Beth yw’ch hoff atgof o’ch plentyndod? Noswyl Nadolig, yn disgwyl Santa a Dydd Nadolig

Beth ydych chi’n hoffi ei wneud yn eich amser sbâr? Coginio, darllen, treulio amser gyda’m hwyrion. Mae hefyd gen i ddiddordeb mewn Astroleg a’r goruwchnaturiol.

Pe gallech gael arch-bŵer, beth fyddai a pham?Teithio mewn amser i newid y pethau erchyll sy’n digwydd i bobl.

Beth yw’ch hoff ffilm a pham? Ffilm nad oes llawer o bobl yn qwybod amdano, sef ‘About Time’; mae elfen ffantasïol iddi, ond yn y bôn mae ynglŷn â bywyd a bywyd serch dyn ifanc a’i deulu hyfryd ond honco bost!

Oes gennych unrhyw ffobias? Beth ydyn nhw?Ofn corynnod

Enw: Bev Williams

Teitl eich Swydd: Swyddog Hyffroddi

Ers faint ydych chi wedi bod yn gweithio i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs? Ers Tachwedd 2018

Beth yw’ch hoff atgof o’ch plentyndod? Chwarae i fyny ar y mynydd yn yr haf ar siglenni rhaff, sleidio i lawr mewn bocsys cardfwrdd a chwarae yn y pyllau brogaod bach gyda’m brawd a’m ffrindiau i gyd.

Beth ydych chi’n hoffi ei wneud yn eich amser sbâr? Chware gyda’r wyrion.

Pe gallech gael arch-bŵer, beth fyddai a pham?Y gallu i deledeithio – gan mod i’n casáu aros mewn ciwiau!

Beth fyddai’n syndod i bobl wybod amdanoch? Bues i’n gwarchod plentyn ‘H’ o Steps, ac yn chwarae pêl-droed dros Gymru – ro’n i mewn siâp arbennig bryd hynny...nawr dwi fwy fel siâp y bêl :)

Oes gennych chi unrhyw ffobias? Beth ydyn nhw?Mae nadroedd yn fy mharlysu i ag ofn, alla i ddim hyd yn oed edrych ar un heb oranadlu; ac alla i ddim dioddef siarcod.

Enw: Dawn Bunn

Teitl y Swydd: Rheolwr Hyfforddiant Cenedlaethol

Ers faint ydych chi wedi bod yn gweithio i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs? Ers Tachwedd 2018

Beth yw eich hoff atgof o’ch plentyndod? Chwarae ar gwch y teulu.

Beth ydych chi’n hoff o’i wneud yn eich amser sbâr? Crefft, tipyn bach o bob peth a dweud y gwir, o emwaith i gwiltiau.

Beth yw’ch hoff raglen deledu? Big Bang Theory

Beth fyddai pobl yn synnu o’i glywed amdanoch?Fe wnes i shafio mhen dros achos da.

Beth yw’ch hoff ffilm a pham? Jumping Jack Flash (mae’n retro ac yn ddoniol tu hwnt)

Fe wnaeth y Gweithwyr Chwarae a fu’n bresennol yn hyfforddiant Ffrindiau Iach yn ôl ym mis Medi, a oedd wedi eu hariannu drwy Ymddiriedolaeth Blackwood Engineering, gynnwys eu henwau mewn lotri wobrau i ennill Gweithdy Ffocws ar Fwyd i’w lleoliad. Y ddau enillydd oedd Mrs Puddleducks Plus sydd wedi ei lleoli yn Rasa, a Big Stars sydd wedi eu lleoli yng Nglyn Ebwy.

De Ddwyrain Cymru

Y Bont 98 Y Bont

Mae’r Cynnig Gofal Plant yn dod i

Ben-y-bont ar Ogwr Caiff y Cynnig Gofal Plant ei roi ar waith mewn ardaloedd o sir Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod 2019. Bydd modd i Ddarparwyr Gofal Plant ar draws Pen-y-bont cyfan, sydd wedi eu cofrestru ag AGC, gynnig y Cynnig Gofal Plant i deuluoedd sydd â phlant o oed cymwys.

Mae’n bosibl y bydd y Cynnig Gofal Plant cynyddu’r galw am ddarpariaethau Gofal Plant Allysgol, yn enwedig yn ystod gwyliau’r ysgol. Os ydych yn ystyried cofrestru gydag AGC i alluogi’ch lleoliad i ddarparu’r Cynnig, ymestyn eich clwb presennol neu ddatblygu gwasanaeth newydd fel Clwb Gwyliau, cysylltwch â’ch Tîm yn Ne Ddwyrain Cymru ar 02920 741000 am arweiniad, neu gallwch gysylltu â Thîm Gofal Plant Pen-y-bont yn Y Ganolfan Integredig i Blant, Corneli.

Newidiadau mewn staff yng Nghasnewydd!

Gan fod y cyn Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant yng Nghasnewydd, Bethan Moss, wedi cymryd cyfle newydd am swydd gyda Chymdeithas MS Cymru, mae Georgie Larkins wedi ymuno â Jane Weale a Heidi Mehta yn rhan o dîm Casnewydd. Gynt bu Georgie’n cefnogi clybiau Port Talbot fel rhan o Brosiect Moondance. Bydd yn awry n rhannu’r rôl o Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant yng Nghasnewydd gyda Jane Weale yn ogystal â chefnogi ein Prosiect Cymraeg Gwaith. Mae Georgie’n edych ymlaen at Gefnogi’r Clybiau Gofal Plant Allysgol yng Nghasnewydd!.

Clybiau Newydd yn ymddangos

Pan ddaw hi’n fater o ofal plant ym Merthyr, ychydig o glybiau newydd sydd yno.

Fe wnaeth Stephens and George, sydd â’u lleoliad yng Nghanolfan Gymunedol Dowlais, agor ei ddrysau dros hanner tymor mis Hydref y llynedd, gan gynnig Gwasanaeth Gwyliau diwrnod llawn. Mae’r broses o gofrestru gydag AGC yn dal i fynd yn ei flaen, ond wedi cofrestru bydd y lleoliad yn cynnig Clwb Gwyliau cofrestredig, parhaol, yn ogystal â gwasanaeth codi o ysgolion lleol i fynd i’r Clwb Ôl-ysgol.

Mae Meithrinfa Ddydd Pili Pala wedi bod yn gweithio gyda Chlwb Gwyliau Soar ac Ysgol Santes Tudful i ymestyn y ddarpariaeth yn yr iaith Gymraeg ym Merthyr. Bydd y clwb yn agor yn barhaol ym mis Mai, a bod graddfeydd amser AGC yn caniatáu hynny.

Bydd Kidz Den yn Nhreharris yn treialu Clwb Brecwast ar eu safle o Chwefror ymlaen. Mae hwn yn ganlyniad agor Clwb Brecwast ar eu safle ym mis Chwefror. Mae hwn yn ganlyniad y Fenter brecwast-am-ddim leol.

Mae clwb cyn-ysgol Building Blocks yn Heolgerrig hefyd yn treialu Clwb Gwyliau newydd yn y gymdogaeth. Bydd ar agor dros hanner tymor mis Chwefror i blant oed 2-8, gyda’r nod o ymestyn i blant hŷn unwaith y bydd y galw wedi ei sefydlu.

Mae’r holl ddatblygiadau newydd hyn yn cael eu hariannu gan Grant Allysgol a Chwarae yr Awdurdod Lleol - felly diolch, Merthyr Tudful, am barhau i fuddsoddi yn eich Clybiau Gofal Plant Allysgol.

Sbort a Sbri Casnewydd ar ei newydd wedd

Mae Sbort a Sbri Casnewydd wedi bod yn rhedeg ers Medi 2016 ac wedi ei leoli yn Ysgol Gymraeg Casnewydd. Yn Rhagfyr 2018 roedd modd ailwampio ystafell y clwb ac mae’r canlyniadau, fel y gwelwch, yn wych.

“Mae’r plant mor hapus â’r olwg newydd fel eu bod yn ymdrechu’n gyson i’w gadw’n dwt ac yn deidi”-Francesca, Arweinydd y Clwb. Bendigedig!

Pawb yn Paffio yn Ffynnon Taf! Cafodd plant Clwb Ôl-ysgol Ffynnon Taf brofiad hynod gyffrous pan ddaeth hyfforddwr i mewn i un sesiwn i roi dosbarth Cogio-Bocsio iddyn nhw! Dyma’r holl blant yn rhoi eu menig amdanynt ac yn dysgu am yr holl wahanol safiadau a thechnegau, a chawsant lawer o hwyl yn rhoi cynnig ar ambell i gêm newydd! Roedd y plant mor hoff o’r sesiwn nes eu bod yn gofyn pa bryd fyddai’r nesa cyn gynted ag y gwnaeth orffen. Cafodd yr holl rieni argraff dda iawn o’r gweithgaredd ac roeddent yn eiddgar i archebu lle i’w plant ar y sesiwn nesaf. Mae hyn yn swnio’n llwyddiant campus!

Llwyddo i Gofrestru!Llongyfarchiadau i Glwb Allysgol Victoria ar gael eu cofrestru gydag AGC yn Nhachwedd 2018. Ers hynny maent wedi gweld eu niferoedd yn cynyddu o ganlyniad i oriau agor hwy, a’r rhieni’n gallu talu am ofal plant drwy gredydau treth a thalebau gofal plant. “Rydym yn hynod falch o’r adborth a gawsom gan rieni ar ein safon o wasanaeth sydd o ansawdd uchel. Edrychwn ymlaen at ddatblygu ein clwb ymhellach yn 2019.

Sioe Dalent Oscars

“Mae Clwb Allysgol Oscars Lodge Hill wedi ei leoli yn Ysgol Gynradd Lodge Hill, Caerllion. Hyd at fis Tachwedd 2018 roedd Ysgol Gynradd Lodge Hill wedi ei lleoli ar 2 safle ac wedi eu gwahanu gan gae mawr. Ond bellach mae adeilad golau, modern, cyfun, newydd sbon, yn cynnwys y cyfleusterau addysgol diweddaraf, wedi ei gwblhau. Yn ystod Ionawr a Chwefror 2019 mae ardal y parc, nesaf at yr ysgol yn ogystal yn cael ei ailddatblygu, a bydd yn

darparu cymaint mwy o le allanol i’r plant.

Mae Clwb Allysgol Oscars Lodge Hill mor lwcus i fod â chartref newydd lle mae gan y plant le golau, modern i chwilota a chael hwyl. Y brif ardal lle mae’r plant yn treulio’u hamser yw o fewn y silffoedd llyfrau symudol; gan nad yw’r rhain yn sefydlog mae llawer mwy o le o’u cwmpas i alluogi’r plant i wneud mwy o weithgareddau. Un gweithgaredd o’r fath yw’r sioe newydd, “Oscars Got Talent”, lle mae’r plant wedi dyfeisio eu sioe eu hunain ac yn cyflwyno perfformiadau i’w cyfoedion. Efallai y bydd sêr y dyfodol yma ar ein sgriniau teledu cyn hir!

Rydym mor lwcus i fod â’r lle yma: mae gennym gymaint yn fwy o le nag o’r blaen i gael yr holl gemau a gweithgareddau allan. Rydym wedi sylwi bod y plant eisiau ymarfer eu darllen llawer yn fwy yn awr ein bod yn gallu defnyddio’r holl lyfrau hyn, a’r mannau i’w darllen”. - Shorna, Goruchwyliwr Clwb Ôl-ysgol.

Gweithdai Ffocws ar Fwyd ym Mlaenau GwentAnogwyd y plant i helpu i baratoi eu byrbrydau amser-te gan ddefnyddio cynhwysion iach ac amrywiol. Gan ddilyn y cardiau rysáit, creodd y plant fyrbrydau yn cynnwys parseli caws a ham, guacamole, raita cucumber a hwmws. Cefnogwyd y plant gan y staff a’r tiwtor; ond y plant a wnaeth yr holl dorri a chyfuno eu hunain. Roedd hwn yn gyfle iddynt ennill sgiliau newydd am oes ac yn ychwanegiad at eu mwynhad! Wedi i’r holl fwyd gael ei baratoi eisteddodd y plant i lawr a bwyta

gyda’i gilydd. Cafodd y plant eu hannog i roi cynnig ar y bwydydd newydd, a chan mai nhw a baratôdd y bwyd yr oedden nhw’n fwy parod i’w flasu.

Fe wnaeth y plant a’r Gweithwyr Chwarae fwynhau’r gweithdai, a staff yn dweud y byddent, yn bendant, yn gwneud y math hwn o weithdy eto, ac yn dal i ddefnyddio ac ymestyn y syniadau yn eu clybiau.

Cwrdd â’r TÎm!

Angen cysylltu â ni?Cewch gysylltu â Thîm De Ddwyrain Cymru

drwy ffonio: 029 2074 1000,drwy ebost: [email protected]’r post: Tŷ’r Bont, Ffordd yr Orsaf,

Llanisien, Caerdydd. CF14 5UW

a i

Page 6: 2019 Gwanwyn - Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ybont spring … · Gwaith Chwarae yng Nghymru, fel y cyfeirir atynt yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Y Bont 1110 Y Bont

Hyfforddiant Y Gornel Lyfrau Erthygl ar ‘Chwarae sy’n Peri Risg’ gan BarnardosMae hon yn erthygl ardderchog, sy’n cynnwys cyfraniadau gan sawl prif ddamcaniaethwr ac ymarferydd ar holl agweddau ‘Chwarae sy’n Peri Risg’. Mae’n annog y darllenydd i edrych ar yr hyn y maent yn ei feddwl, ac ar eu canfyddiadau o ‘Chwarae sy’n Peri Risg’ ac yn ymbil arnom i ystyried a ydym yn dal yn ôl y rhan fuddiol hon o reddf naturiol plentyn, pam ein bod yn gwneud hyn a beth a allwn ei wneud i’w gywiro.Hyfforddiant Staff

Yn ein digwyddiad Cymru-gyfan ym mis Rhagfyr treuliodd y tîm y bore yn cymryd rhan mewn gemau llawn hwyl, a fyddai’n meithrin tîm, yn ogystal â thrafod manteision chwarae a’n rôl fel gweithwyr chwarae. Fe wnaethom drafod sut y mae chwarae’n hanfodol i iechyd meddyliol a chorfforol, a llesiant, pawb; hefyd sut y gall chwarae fod yn fynegiant, yn therapi, yn hwyl, yn fodd i greu, yn heriol ac yn cynnwys risg. Fe wnaethom siarad am bwysigrwydd plant yn cymryd risg wrth chwarae, yn gwneud camgymeriadau ac yn rheoli eu chwarae, a sut y mae hyn yn meithrin gwytnwch, perthnasoedd, hyder, dychymyg, sgiliau datrys-problemau ac annibyniaeth. Fe wnaethom, bob un, gytuno fod ‘CHWARAE’ yn wych ac mai ein rôl fel gweithiwr chwarae yw cefnogi plant a phobl ifanc i brofi amgylchedd cyfoethog, sydd o ansawdd ac yn heriol, ac yn cefnogi’r chwarae a ddewisir yn rhydd ac a hunan-gyfarwyddir gan y plant a’r bobl ifanc. Ein rôl fel gweithiwr chwarae yw hwyluso a bod yn eiriolwr dros chware, i arsylwi ac adlewyrchu ar yr hyn yr ydym yn ei weld, i gael gwared ar rwystrau a allent atal plant rhag chwarae’n rhydd. Rydym yno i GYNLLUNIO AR GYFER CHWARAE, NID CYNLLUNIO’R CHWARAE, a phob math o chwarae, y da, y drwg a’r hyll.

Esblygiad Chwarae IYn y rhifyn diwethaf o’r Bont fe wnaethom ddechrau edrych i mewn i dirwedd newidiol chwarae ac edrych ar atgofion chwarae tîm Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. Felly a yw chwarae wedi newid? Neu a ydym ond yn gweld chwarae yn wahanol fel oedolion i’r hyn a arferem ei weld fel plant? A yw chwarae’n esblygu’n naturiol dros amser? Byddwn yn y rhifyn hwn yn dal i edrych ar esblygiad chwarae, ond o lygaid plentyn.

Yn ddiweddar fe wnaethom gynnal sesiynau byr ar hawl plant i chwarae ym Merthyr, gan ofyn i’r plant a’r bobl ifanc dynnu llun o’u hoff beth i’w chwarae. O’r 120 o blant a fynychodd, roedd cymaint o wahanol hoff bethau i’w chwarae, o chwarae ar y traeth, chwarae gyda ffrindiau, chwarae yn y glaw, dringo coed, chwarae pêl-droed, chwarae rygbi, yn ogystal â chwarae ar eu ‘Xbox’ , ac yn arbennig, Fortnite.

Mynnwch gipolwg ar fideo’r Gymdeithas

Mae Ellen Beate Hansen Sandseter yn tynnu sylw at fanteision ‘Chwarae sy’n Peri Risg’ i blant, a greddf naturiol plant i chwilio am hwyl, cyfro a pherygl. Mae Ellen yn canolbwyntio am ychydig ar yr heriau y mae ymarferwyr Gwaith Chwarae yn eu hwynebu o ganlyniad i ddeddfwriaeth, a sut y mae hyn wedi effeithio ar chwarae, eu hamgylcheddau nhw, a’u hagweddau. Mae Marie Willoughby yn parhau yn yr erthygl i roi arweiniad i reoli a chynllunio ar gyfer ‘Chwarae sy’n Peri Risg’, gan ganolbwyntio ar yr agwedd ar chwarae sy’n dadansoddi Risg a Budd, ac atgoffa ymarferwyr i ystyried oed, gallu ac anghenion y plant. Mae Liz O’Rourke o Ganolfan Ofal-Plant Cairdeas yn rhoi rhyw syniad o’r asesiadau priodol, y polisïau’r gweithdrefnau sy’n ateb y materion a godwyd gan y cyfranwyr blaenorol.

Mae Marc Armitage a Sara Knight yn tyrchu i’r arafer a’r athroniaeth ynglŷn â’r profiad o Ysgol Goedwig sydd â gweithgareddau’n cynnwys tân; hyn eto’n cwestiynu’r agwedd negyddol sydd gan lawer tuag at ‘Chwarae sy’n Peri Risg’.

Mae’r erthygl hon, mewn ffordd sy’n syml

ond eto’n gynhwysfawr, yn edrych ar y negyddoldeb sydd wedi bod, dros y blynyddoedd diweddar, ar ‘Chwarae sy’n Peri Risg’ a pham y dylem ni, fel ymarferwyr, rhieni, athrawon a gofalwyr, fod yn edrych tuag at newid y stigma sydd wedi ei osod arno. Y mae’n amlygu’r budd a gaiff ar blant, nid yn gorfforol yn unig, ond hefyd yn seicolegol, emosiynol a chymdeithasol. Mae’n argymell y dylem, yn sicr, fod yn darparu ar gyfer cymryd ‘risg’ mewn amgylchedd sydd ‘mor ddiogel ag sydd yn rhaid iddo fod’, gan y bydd plant yn mynd ati i geisio’r chwarae egnïol, cyffrous, a hyd yn oed peryglus, hwn yn rhan o’u natur gynhenid.

Mae’r erthygl yma’n arwain at y cwestiwn, ‘Pam Ddim?. Mae ffyrdd o gyflwyno’r elfen hon yn ddiogel. A ydym yn cymryd ymaith rhan bwysig o ddysgu plentyn ddim ond i ni fel oedolion osgoi cael ein beio, bod yn gyfrifol, neu wynebu canlyniadau negyddol yn codi o ambell i ddigwyddiad bychan? A ddylem, mewn gwirionedd, fod yn argymell yr angen am hyn yn fwy, fel nad oes beio’n digwydd, a bod y plant yn rhydd i chwilota, turio a chymryd y camau heriol hynny?

Chwarae Ryngwladol, This is Me: Erthygl 31 a hawl plant i chwarae - ‘Children’s Right to Play’.

Roedd chwarae gyda ffrindiau’n rhan o’r mwyafrif o’r lluniau a dynnwyd; hyd yn oed pan oedden nhw’n chwarae’r ‘Xbox’ roedden nhw’n chwarae ar-lein gyda’u ffrindiau, a phan fyddwn yn cymharu sut y byddai tîm Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn chwarae â’r plant y gwnaethom eu holi, yr unig wahaniaeth amlwg yw’r defnydd o gemau electronig fel dull o chwarae.

Gan adlewyrchu ar hyn a damcaniaeth Bob Hughes ar y Mathau o Chwarae, tybed a oes angen i ni ystyried ychwanegu at, ac efallai gyfuno, rhai o’r 16 mathau o chwarae yr ydym yn eu hadnabod ar hyn o bryd ym maes Gwaith Chwarae? A allem ychwanegu e-chwarae, neu hyd yn oed ffad-chwarae? Edrychwn ymhellach ar hyn yn y rhifyn nesaf.

Diwrnod ym mywyd Rhan Rydd - Ffeil Fodrwy Nid yw Ffeil Fodrwy’n eitem y byddai’r mwyafrif o oedolion yn ei hystyried yn Rhan Rydd - onid i storio ffeiliau yn unig y defnyddir y rhain? Nid felly yn ein Cynllun Chwarae ni ...

Fe wnes i ddilyn y Ffeil Fodrwy (Plastig Hydrin) o gwmpas am ychydig ddyddiau. I ddechrau roedd yn cael ei ddefnyddio i storio tudalennau lliwio, pan yn wag roedd yn cael ei ddefnyddio i/fel · Llyfr Stori – eisteddodd un ferch fach 5 mlwydd oed i lawr yn ‘darllen’ i ferch fach arall· Gliniadur - roedd bachgen bach 7 mlwydd oed yn defnyddio’r Ffeil Fodrwy i ysgrifennu e-bost· Cofrestr - fe wnaeth plentyn 6 blwydd oed gopïo’r gweithiwr chwarae a oedd yn cymryd y gofrestr· Fel clustog · Ffan - roedd merch 13 blwydd oed yn ffanio’i hun â’r Ffeil Fodrwy· Defnyddiodd un plentyn y ffeil fodrwy fel ffon fesur i dynnu llinell syth· Het/cap - fe wnaeth ychydig o’r plant godi’r ffeil fodrwy a’i rhoi (wedi’i hagor) ar eu pennau· Fe wnaeth plant a oedd yn adeiladu den ddefnyddio’r ffeil fodrwy fel ffenest – ac ar ddiwrnod arall cafodd ei ddefnyddio ar dden fel fflap cath! · Tarian mewn brwydr gleddyfau· Fel telesgop· Fel plaster – cogio bod braich wedi’i thorri· Fel cyfrifiannell ffug · Bwrdd clip

Mae’r gwrthrych bob-dydd yma’n profi gwerth ac aml-ddefnydd Rhannau Rhydd, a sut y maent yn cefnogi’r broses chwarae ac yn sbarduno dyfeisgarwch, dychymyg a chreadigrwydd plant a phobl ifanc.

Marathonau Cerdded/Rhedeg/Beicio. Dewiswch eich camp ac i

ffwrdd â chi!Ffordd dda o gael y plant yn eich clwb i fod yn egnïol a gwneud yn siŵr fod pawb yn cymryd rhan. Casglwch ynghyd noddwyr cyn y digwyddiad i godi arian i’ch lleoliad chi. Cofiwch dynnu lluniau i’w dangos i’r noddwyr wedi i chi orffen. Mae sticeri a medalau’n llai tebygol o gael derbyniad da, ac efallai y gallech drefnu gwobr fechan i’r plentyn sy’n codi’r mwyaf o arian.

Sêl Glirio WanwynolGofynnwch i’r plant a’r rhieni roddi eitemau tuag at eich ‘sêl garej’, rhai y byddent fel arfer yn eu rhoi am ddim neu’u gwerthu. Trefnwch ddyddiad a gwahoddwch yr holl rieni i’ch sêl. Mae te, coffi a chacenni bob tro’n gwerthu’n dda, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnig tameidiau i’w bwyta wrth iddynt bori drwy’r stondinau.

Helfa Wyau PasgSefydlwch eich helfa wyau yn eich clwb a chodwch ffi gofrestru fechan. Gwerthwch docynnau mewn da bryd i wneud yn siŵr fod gennych ddigon o gyflenwadau i bob plentyn sy’n cymryd rhan.fechan

Sêl BlanhigionYn y gwanwyn, mae garddwyr yn paratoi i osod eu planhigion yn y ddaear. Mae llawer o bobl yn plannu hadau y tu mewn yn y misoedd oeraf er mwyn iddynt fod yn barod i’w trosglwyddo i’r pridd pan gynhesa’r tir. Caiff planhigion tomato a phuprynnau yn aml eu dechrau dan do ym mis Mawrth, a gall sawl math o lysiau wrthsefyll barrug y gwanwyn.

Gweithiwch ar y cyd â ffermwyr lleol neu arddwyr i gynnal sêl blanhigion o’r-iard-i’r-bwrdd. Postiwch daflenni o gwmpas y gymdogaeth ac e-bostiwch eich etholwyr yn eu hysbysu y byddwch yn gwerthu llysiau ffres ac yn croesawu rhoddion.

Cystadleuaeth adeiladu tŷ adarMae adar yn trydar o’n cwmpas ym mhobman yn y gwanwyn, ac mae pobl yn adeiladu ac yn chwilio am dai a hadau i’w iardiau cefn. Beth am fod yn greadigol a rhoi cynnig ar y syniad hwn i godi arian a chynnal cystadleuaeth

gwaith coed. Trefnwch fod gan bob un sy ‘n cofrestru dudalen codi-arian rhwng

cyfoedion a gofynnwch iddynt sicrhau “pleidleisiau” i’w tŷ ar ffurf rhoddion.

Trefniadau Blodau Sul y MamauTrefnwch stondin ac arno flodau newydd eu torri i’r plant ddewis ohonynt, a gwnewch duswau mawr o flodau’n barod ar gyfer Sul y mamau i’w rhoi i aelodau o’r teulu. Clymwch nhw â llinyn neu ruban. Bydd yn hoff iawn gan y plant ddewis blodau i’w rhoi i ’w rhieni / gwarcheidwaid ac yn mwynhau eu gwneud yn y clwb.

DisgoDisgo diwedd tymor. Codwch am fynediad, ac am ddiod a thamaid. Bydd plant wrth eu bodd â’r syniad yma, felly beth am gynnwys paentio wynebau yn ogystal?

Sawl Siocled yn y jar?Ffordd syml o godi arian yw llenwi jar fawr â siocledi, a chodi ffi fechan am ddyfalu sawl siocled sydd yn y jar. Mae’r enillydd yn cymryd y jar adref.

Raffl FalwnauMae raffl falwnau yn syniad hwyliog a rhad o godi arian. Y cyfan sydd eu hangen arnoch i roi cychwyn arni yw balwnau, tocynnau raffl a gwobr. Gosodwch docyn raffl y tu mewn i bob balŵn a chodwch am bob un. Bydd pawb yn popio’r balwnau y maent yn eu prynu i brynu eu tocyn raffl. Y sawl sydd â’r tocyn buddugol fydd yn ennill y wobr.

Sêl pobi a gwerthu Gofynnwch i bob rhiant gyfrannu pethau da ar fore’ch sêl gacennau. Yna trefnwch stondin i werthu’r cacenni. Os ydych wedi’ch lleoli ar dir ysgol, beth am ofyn caniatâd i werthu’r cacennau ar yr adeg y bydd y rhieni’n casglu’u plant o’r ysgol.

Codi Hwyl wrth Godi Arian

Cefnogwch Ni wrth inni’ch Cefnogi Chi! Nid yw siopa ar-lein drwy www.easyfundraising.org.uk/clybiauplantcymrukidsclubs yn costio ceiniog yn ychwanegol, ond y mae’n caniatáu i ni dderbyn hyd at 15% o bob pryniant a wnaed o’r 400+ o siopau a restrir, gan olygu y bydd gennym fwy o arian i barhau i gefnogi clybiau megis eich clwb chi.

e-newyddionFel aelod-glwb cewch afael ar ôl-rifynnau ein bwletinau e-newyddion yn ardal aelodau ein gwefan, sef www.clybiauplantcymru.org ac os oes gennym gyfeiriad ebost ar eich cyfer, anfonir rhifynnau o’r Bont i’r dyfodol atoch yn uniongyrchol. Anfonwch eich manylion ebost [email protected] er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich copi electronig.

Atgofion Chwarae Merthyr

Page 7: 2019 Gwanwyn - Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ybont spring … · Gwaith Chwarae yng Nghymru, fel y cyfeirir atynt yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Diweddariad i Gyflogwyr

12 Y Bont

Arolygiaeth Gofal Cymru – Hysbysiadau o

Ddigwyddiadau Arwyddocaol

Gwyliau Blynyddol a Thâl GwyliauMae gan bron bob cyflogai yr hawl i 5.6 wythnos (28 diwrnod) o wyliau blynyddol â thâl bob blwyddyn; y mae’n ofynnol gan y gyfraith. (Does ond 2 fath o swydd lle nad oes gennych hawl i hyn; y naill yn achos pobl hunangyflogedig, a’r llall yn achos aelodau o’r fyddin.)

Nid yw staff sydd wedi eu cyflogi yn y sector gofal plant yn syrthio i’r categori hwn; mae ganddynt felly hawl i dâl gwyliau. Mae’r hawliau staff sy’n gweithio mewn clybiau ôl-ysgol a chlybiau gwyliau yn rhai yn-ôl-y-gyfradd, yn seiliedig ar y nifer o wythnosau, o’r 52 mewn blwyddyn, y mae pob un yn gweithio.

Mae’r hawl i wyliau blynyddol yn cronni o ddiwrnod cyntaf cyflogaeth - hyd yn oed yn ystod cyfnod prawf, cyfnodau o salwch, absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiad.

Clybiau ôl-ysgol Mae clybiau ôl-ysgol yn weithredol am 39 wythnos o’r flwyddyn, felly rhoddir hawl i 4.2 wythnos (21 diwrnod) o wyliau.

Clybiau gwyliau Mae clybiau gwyliau’n weithredol am hyd at 13 wythnos o’r flwyddyn, ac felly rhoddir hawl i 1.4 wythnos (7 diwrnod) o wyliau.

Gall cyflogwyr osod amodau ar yr adegau y gellir cymryd gwyliau, a chaiff hyn ei osod mewn contract o gyflogaeth; gall hyn hefyd ddatgan pa bryd y telir tâl gwyliau.

Bydd y mwyafrif o aelodau staff ag oriau wythnosol wedi eu contractio, ond mae’n bosibl y bydd nifer fechan yn gweithio gwahanol oriau bob wythnos. Mae gan staff yr hawl i dâl wythnos am bob wythnos o wyliau y byddant yn eu cymryd. Cyfrifir tâl wythnos yn ôl yr oriau a weithiwyd a chyfradd dâl yr oriau. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr llawn-amser, rhan-amser a gweithwyr achlysurol.

I staff sydd ag oriau penodedig wedi eu contractio bydd y tâl gwyliau wythnosol yr un fath â’r tâl wythnosol arferol.

Oriau wythnosol a gontractir x cyfradd dâl fesul awr = tâl gwyliau am wythnos

I staff heb oriau penodedig (h.y. gwaith achlysurol) y tâl gwyliau wythnosol yw’r tâl cyfartalog a dalwyd i aelod o’r staff dros y 12 wythnos flaenorol (y cawsant eu talu).

Cyfanswm yr oriau a weithiwyd mewn 12 wythnos x cyfradd dâl fesul awr = tâl gwyliau am 12 wythnos Ceir gwybodaeth bellach o wefan Gov.uk: https://www.gov.uk/holiday-entitlement-rights sy’n cynnwys cyfrifwr hawl i wyliau https://www.gov.uk/calculate-your-holiday-entitlement

Straen yn y GwaithP’un a yw cyflogwr yn fusnes bychan neu’n gorfforaeth fawr, mae’n ofynnol gan y gyfraith fod pob cyflogwr yn asesu’r risg sy’n gysylltiedig â straen gwaith-berthynol a rhoi camau yn eu lle i daclo’r risgiau hynny.

Mae Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi datblygu deunydd cefnogi er mwyn mynd i’r afael â straen yn y gweithle. Ewch i http://www.hse.gov.uk/gohomehealthy/assets/docs/StressTalkingToolkit.pdf i lawrlwytho’ch copi.

Cestyll bowns: cyngor diogelwch gan yr Awdurdod GweithredolGall y rhagofalon syml hyn eich helpu ac osgoi damweiniau difrifol, p’un a ydych yn cyflenwi cestyll bowns ac offer chwyth, neu’n hurio un i’ch digwyddiad.

Prynu neu hurioP’un a ydych yn prynu neu’n hurio offer chwyth i’w ddefnyddio’n breifat neu’n gyhoeddus dylech wneud yn siŵr fod ganddo naill ai tag PIPA â rhif arno neu ddatganiad cydymffurfiad ADiP, sef (DoC).

Dylai hefyd fod â:• dogfennaeth ysgrifenedig gan gorff archwilio cymwys i ddangos ei fod yn cydymffurfio â British Standard BS EN 14960• Cyfarwyddiadau ar sut i’w weithio’n ddiogel

Gallwch wirio bod y profion diogelwch wedi eu gwneud ac i wybod beth i’w wneud os nad oes

Mae aelodau Uwch Dîm Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi bod yn ddiweddar i ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â’u symud at systemau cofrestru a hysbysu ar-lein. Cyn y newid hwn, fe wnaethom benderfynu y byddai’n ddefnyddiol i gynnwys atgoffiad am y digwyddiadau a’r newidiadau y mae’n rheidrwydd ar leoliadau gofal plant sydd wedi’u cofrestru ag AGC i roi gwybod i AGC amdanynt.

Yn ystod eu harchwiliadau, mae AGC yn dal i nodi nifer o leoliadau gofal plant sydd heb eu hysbysu o newidiadau i’w gwasanaeth a digwyddiadau arwyddocaol. Fel yr amlinellir yn Safon 21 y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (a Rheoliad 31, Atodlen 4 o’r Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd), rhaid i AGC gael eu hysbysu o’r newidiadau i:• Y math o ofal a ddarperir, neu’r oriau y darperir y gofal.• Enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad cartref a chyn enwau neu enwau eraill y Person Cofrestredig, yr Unigolyn Cyfrifol, Aelod o’r Pwyllgor, Person â Gofal, unrhyw un sy’n gweithio ar y safle ar yr un pryd ag y gofelir am blant, ac unrhyw un sy’n byw ar y safle.• Enw neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu’r brif swyddfa, lle bo’r person cofrestredig yn sefydliad.

• Y cyfleusterau sydd i’w defnyddio ar y safle perthnasol, yn cynnwys newidiadau yn y nifer o ystafelloedd, eu swyddogaethau, nifer y toiledau a’r basynau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân i weithwyr sy’n oedolion a mynediad i’r safle i geir.• Pan fydd unrhyw anhwylder heintus yn dechrau ymledu ar y safle perthnasol, un a fyddai, ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy’n trin plentyn neu berson arall ar y safle, yn ddigon difrifol i hysbysu yn y modd hwn amdano, neu am unrhyw anaf difrifol, neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall ar y safle.• Unrhyw honiadau o niwed difrifol i blentyn a wnaed gan unrhyw berson yn gofalu am y plant perthnasol ar y safle, neu gan unrhyw berson sy’n byw, yn gweithio, neu’n cael ei gyflogi ar y safle; neu unrhyw gamdriniaeth yr honnir iddi ddigwydd ar y safle.• Unrhyw ddigwyddiad arall sy’n debygol o effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant, neu addasrwydd unrhyw berson sy’n byw, gweithio, neu sy’n gyflogedig ar y safle, i fod mewn cyswllt rheolaidd â phlant (yn cynnwys camweddau troseddol).• Unrhyw ddigwyddiad arall sy’n debygol o effeithio ar les unrhyw blentyn ar y safle.• Newidiadau i’ch Datganiad o Bwrpas neu Bolisi Rheoli Ymddygiad.

Er bod y mwyafrif o leoliadau gofal plant yn hysbysu AGC o newidiadau i’r math o ofal a ddarperir neu’r oriau gweithredu, mae rhai newidiadau (er enghraifft, newidiadau i staffio)

lle yr hysbysir AGC yn llai rheolaidd amdanynt. Gall methiant i hysbysu AGC am newidiadau neu ddigwyddiadau arwyddocaol arwain at raddfeydd archwilio gwael o ran rheolaeth y gwasanaeth; hysbysiadau diffyg-cydymffurfio yn cael eu rhoi yn ystod archwiliadau, neu mewn rhai achosion gwasanaethau’n gorfod atal eu gwasanaeth dros dro hyd nes y dilynir y weithdrefn gywir. Hefyd, mewn achosion lle bydd lleoliad gofal plant yn cau, heb hysbysu AGC o hyn, a lle nad yw’n ymateb i ohebiaeth gan yr Arolygiaeth, gall y Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol gael ei wahardd rhag gwneud ceisiadau yn y dyfodol i ddarparu gofal plant cofrestredig. Ar hyn o bryd mae ffurflen ar gael ar wefan AGC, y gall Personau Cofrestredig/Unigolion cyfrifol ei defnyddio i hysbysu’r Arolygiaeth o newidiadau/digwyddiadau arwyddocaol (Ffurflen Hysbysu o Newidiadau: Gwarchodwr Plant/ Gofal Dydd). Ond unwaith y bydd eu system ar-lein ar waith, bydd yn bosibl hysbysu o hyn ar ffurflen syml, ar-lein y gellir ei llenwi ar gyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn. Byddwn yn diweddaru aelodau’n rheolaidd ar e-bost ynghylch symudiad AGC i systemau ar-lein.

tag ar yr offer ar wefan PIPA neu ‘no DoC’ ar wefan ADiP.

Cyn i unrhyw un ei ddefnyddioPan fydd wedi ei chwythu i fyny a chyn i chi ei ddefnyddio, gwnewch wiriadau diogelwch, a fydd yn cynnwys y canlynol:• Pan fyddwch yn ei ddefnyddio yn yr awyr agored, rhaid defnyddio’r holl bwyntiau angor, â pholion metal o leiaf 380mm o hyd a 16mm o led yn y ddaear, yn crymu ar y pen uchaf. Dylent fod â chylch ‘O’ neu ‘D’ wedi ei weldio a’i osod ar y pen.• Rhaid i bob offer chwyth fod ag o leiaf 6 pwynt angor. Cewch wybod o’r llawlyfr defnyddiwr sawl un a ddylai fod - gwnewch y n siŵr eu bod yn dal yn eu lle a heb eu symud oddi yno.• Os na ellir defnyddio polion tir oherwydd yr arwynebedd (e.e. tarmac) yna defnyddiwch falast yn pwyso o leiaf 163kg a gosodiadau addas i atodi’r rhaffau gosod. Dylai’r offer chwyth bod wedi ei atodi’n ddiogel i’r ddaear fel na all y gwynt fynd oddi tano a’i godi.• Os yw offer chwyth yn cael ei ddefnyddio dan do, cewch wybod o lawlyfr y defnyddiwr pa fath o angora sydd ei angen i gadw siâp y ddyfais ac arbed iddi droi drosodd.• Ni ddylid defnyddio unrhyw offer chwyth mewn gwyntoedd dros 24 m.y.a., sef Grym 5 ar Raddfa Beaufort (pan fydd coed bychain deiliog yn dechrau gwegian) • Mae’n bosibl y bydd gan rai offer chwyth lefel is o gyflymder uchaf gwynt er mwyn i’r offer

wei th redu ’n ddiogel.• Defnyddiwch a n e m o m e t r i fesur c y f l y m d e r y gwynt yn rheolaidd. Os nad oes un o’r rhain ar gael, ni ddylid gweithio’r offer chwyth.• Gwiriwch nad oes tyllau na rhwygiadau.• Bod yr holl gyfarpar arall yn ddiogel, yn cynnwys y chwythydd.

Defnydd diogel a goruchwyliaethDylai’r un sy’n ei weithio ddilyn y cyfarwyddiadau, yn cynnwys gwneud yn siŵr fod:• defnyddwyr bob tro’n cael eu goruchwylio• nad yw nifer y defnyddwyr dros yr uchafswm a nodir yn y cyfarwyddiadau• y gall pobl fynd arno ac oddi arno yn ddiogel, a bod matiau wrth y mynediad• eu bod yn gwirio’r pwyntiau bod y pwyntiau angor yn dal yn gadarn• eu bod yn defnyddio anemometr i fesur cyflwr y gwyntoedd yn rheolaidd• bod yr offer yn cael ei ddadchwythu’n ddiogel pe bai’r tywydd yn troi’n anaddas

Diweddariadau Iechyd a Diogelwch.......

Llywodraethiad mewn Clybiau Gofal Plant Allysgol

Yn ein rhifyn Gaeaf o’r Bont eglurodd ein herthygl ar lywodraethiad mewn Clybiau Allysgol nad yw aelodau pwyllgor wedi’u diogelu’n ddigonol rhag cyfrifoldeb personol mewn achosion o golled ariannol mewn nifer o glybiau sy’n cael eu rhedeg gan bwyllgorau gwirfoddol. Argymhellir strwythur cyfreithiol ffurfiol sy’n cyfyngu cyfrifoldeb ei aelodau yn achos unrhyw gyfrifoldebau a berthyn i’r sefydliad.

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn gallu cynnig gwybodaeth i glybiau a redir yn wirfoddol i’w helpu i adolygu eu model rheoli a phenderfynu a yw’n dal yn addas wrth symud ymlaen gan ddefnyddio ein hadnodd ‘Ei Chael Hi’n Iawn yn Gyfreithiol’ (GIRL) ar gyfer y sector chwarae a gofal plant.

Un opsiwn yw dod yn Sefydliad Elusennol Corfforedig (SEC), lle mae unrhyw gyfrifoldebau sy’n codi o e.e. cyflogi staff, rhentu adeiladau, yn syrthio ar y sefydliad ei hun yn hytrach nag ar aelodau unigol o’r pwyllgor.

Y camau sylfaenol:1. Drafftio cyfansoddiad (set o reolau) ar gyfer y cwmni newydd.2. Cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau.3. Trosglwyddo busnes yr hen grŵp gwirfoddol i’r cwmni newydd (y SEC). 4. Cau’r hen grŵp gwirfoddol.

Hefyd, mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi diweddaru ei harweiniad ar gofrestru ag AGC wrth drosglwyddo i strwythur SEC (ewch i [email protected])

Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant neu’ch swyddfa ranbarthol os hoffech ragor o wybodaeth ar ei Ei Chael Hi’n Iawn yn Gyfreithiol, sy’n amlinellu manteision ac anfanteision amrediad o fodelau rheoli ar gyfer y sector gofal plant a chwarae.

Out of SchoolYswiriant ALL-YSGOL i glybiau all-ysgol

Mae yswiriant All-Ysgol wedi ei gynllunio’n arbennig i glybiau al-ysgol sy’n darparu gweithgareddau cyn ac ar ôl oriau ysgol.

Am fwy o wybodaeth ewch iwww.mortonmichel.com/outofschool

e-bostiwch [email protected]

neu ffoniwch020 8603 0943

Awdurdodir a Rheoleiddir Morton Michel Cyf (‘Morton Michel‘) gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol

Gostyngiad o tua 15% i aelodauClybiau PlantCymru Kids’

Page 8: 2019 Gwanwyn - Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ybont spring … · Gwaith Chwarae yng Nghymru, fel y cyfeirir atynt yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

14 Y Bont Y Bont 15

Prosiectau Tyfu’chGwledd

eich HunMae gennym brosiect ‘tyfu i fwyta’ newydd ac adnoddau i helpu plant i dyfu, cynaeafu a choginio bwyd allan yn yr awyr agored, diolch i grant gan Ymddiriedolaeth Ernest Cook.

Ein gobaith yw y bydd yr adnoddau’n helpu plant i gysylltu â’r amgylchedd a chefn gwlad a deall pwysigrwydd cynhyrchu a bwyta bwyd iach mewn ffordd sy’n gynaliadwy, ac nid yn niweidiol i’r blaned yr ydym yn ei rhannu. Bydd y gweithgareddau hefyd yn rhoi i blant sgiliau awyr-agored, ymarferol, newydd a fydd hefyd yn rhoi hwb i iechyd a lles meddyliol. Gwyliwch y gwagle yma wrth i ni gynnwys ffotograffau a syniadau i chi roi cynnig arnynt.

Yn yr hydref 2017 rhoddwyd dyfarniad hael i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs gan Sefydliad Moondance i’n galluogi i gyflogi Swyddogion Datblygu busnesau Gofal Plant ym mhob sir ar hyd a lled Cymru lle nad ydym yn cael ein hariannu gan yr Awdurdod Lleol. Dros ystod y prosiect rydym wedi gallu darparu hyd at un diwrnod yr wythnos o gefnogaeth ym Mlaenau Gwent Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam. Mae’r gefnogaeth hon wedi cynnwys bod yn bresennol yng nghyfarfodydd strategol Awdurdodau Lleol er mwyn bwydo’n ôl wybodaeth a gafwyd ar lawr gwlad, gan ymweld â Chlybiau Gofal Plant Allysgol ar draws pob sir, a chyflwyno toreth o sgiliau busnes.

Mae’r gefnogaeth bwrpasol a roddwyd i Glybiau Gofal Plant Allysgol wedi cynnwys cymorth i gael

Diogelu Data a’r Rheoliadau Cyffredinol

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (yr ICO) wedi cyhoeddi canllaw i ddiogelu data, sy’n cwmpasu Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data fel y maentt yn gymwys yn y DU. Mae’r canllaw’n cyfuno canllawiau presennol yr ICO i’r Rheoliadau Cyffredinol a Phrosesu Gorfodi’r Gyfraith, ynghyd â thudalennau newydd ar brosesu’r gwasanaethau cudd-wybodaeth a themâu casglu-data allweddol.

Am fwy o wybodaeth ewch i <https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/>

Y Cynllun Gwaith DaCyhoeddodd y Llywodraeth y Cynllun Gwaith Da yn Rhagfyr 2018. Mae’r cynllun hwn yn gosod y weledigaeth ar gyfer dyfodol marchnad lafur y DU. Lawrlwythwch gopi o https://www.gov.uk/government/publications/good-work-plan

Y Cynllun Gwaith Da – Gwyliau BlynyddolMae’r ‘Cynllun Gwaith Da’ a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2018 yn ymrwymo i wella trefniadau tâl gwyliau i weithwyr tymhorol, sy’n dueddol o fod ar eu colled oherwydd y ffordd y caiff ei gyfrifo ar hyn o bryd.

I gywiro hyn, mae’r llywodraeth yn ymestyn y cyfnod cyfeirio ar gyfer penderfynu tâl cyfartalog wythnosol o 12 wythnos i 52 wythnos o 6 Ebrill 2020 - gwelwch Reoliadau Hawliau Cyflogaeth (Manylion Cyflogaeth a Gwyliau Blynyddol â Thâl) (Diwygiwyd) 2018.

Y Cynllun Gwaith Da – Datganiad o’r TelerauO dan y ‘Cynllun Gwaith Da’ a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2018, ymestynnir yr hawl i ddatganiad o ‘fanylion ysgrifenedig’ (telerau ac amodau sylfaenol cyflogaeth) i gynnwys gweithwyr yn ogystal â chyflogeion (gweler Rhan 2 Y Rheoliadau ar Hawliau Cyflogaeth (Amryfal Ddiwygiadau) 2019. Bydd hon hefyd yn hawl o’r diwrnod cyntaf. Ar hyn o bryd mae gan gyflogwyr hyd at ddau fis i ryddhau’r datganiad i unrhyw gyflogai sy’n wedi bod yn gweithio iddynt ers dros fis.

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i godi o Ebrill 2019

Cyhoeddodd y Canghellor Philip Hammond yng Nghyllideb 2018 y byddai’r Isafswm Cyflog/Cyflog Byw Cenedlaethol newydd o 1 Ebrill 2019 fel a ganlyn:• Gweithwyr 25 mlwydd oed a throsodd - £8.21 yr awr (Cyflog Byw Cenedlaethol)• Gweithwyr 21-24 blwydd oed - £7.70 yr awr• Cyfradd ddatblygu gweithwyr 18-20 mlwydd oed - £6.15 yr awr• Cyfradd gweithwyr ifanc 16-17 blwydd oed - £4.35 yr awr• Cyfradd prentisiaid (gweithwyr dan 19 blwydd oed neu ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth) - £3.90 yr awr.

Ceir mwy o wybodaeth ar wefan GOV.UK

Newidiadau i Slipiau Tâl o Ebrill 2019

Bydd dau newid pwysig i Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, sy’n effeithio ar y wybodaeth a roddir ar slipiau tâl yn dod i rym ar Ebrill 6:• Rhaid i gyflogwyr gynnwys cyfanswm yr oriau a weithiwyd lle bo’r tâl yn amrywio yn ôl yr oriau a weithir, er enghraifft yn achos oriau amrywiol neu gontractau dim oriau.• Rhaid rhoi slipiau tâl i ‘weithwyr’, nid yn unig i gyflogeion.

Mae hanner gweithwyr y DU yn credu mai cael gweithwyr

â’r sgiliau priodol fydd y gofid mwyaf yn wynebu’u gweithle yn y

flwyddyn i ddodMae ymchwil newydd a wnaed gan arbenigwyr y gweithle, Acas, wedi datgelu bod dros hanner nifer y gweithwyr (53%) yn credu mai cael hyd i bobl â’r sgiliau priodol fydd y gofid mwyaf yn wynebu eu gweithle yn y flwyddyn o’u blaenau.

Comisiynodd Acas YouGov i ddarganfod pa rai oedd y materion pwysicaf i gyflogeion yn y DU yn y flwyddyn i ddod. Y ddau brif fater oedd newid technolegol (36%) a chynhyrchiant (36%).

Yn ôl Prif Weithredwr Acas, Susan Clewes:“Mae cyflogeion yn teimlo y bydd cael gweithwyr â’r sgiliau iawn yn brif fater gofid yn y flwyddyn i ddod. Gall mai ansicrwydd ynghylch ein perthynas â’r UE ar hyn o bryd sy’n gyfrifol am hyn, neu bryderon cyffredinol ynghylch prinder sgiliau.

“Mae newid technolegol yn ogystal ar feddyliau pobl, ac rydym wedi canfod y gall hyn achosi straen ac effeithio ar berthnasoedd mewn gweithle oni chaiff ei reoli’n dda.

“Nid yw’n syndod bod cynhyrchiant yn dal i fod yn brif bryder mewn gweithleoedd yn y DU. Credwn y gall gweithle sy’n cael ei reoli’n dda, ac sy’n arloesol, helpu i godi lefel isel cynhyrchiant yn y DU a gwneud y gorau o sgiliau pobl”.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Acas, www.acas.org.uk

Ymchwil newydd yn taflu goleuni ar agweddau tuag at riportio

aflonyddu rhywiol yn y gwaith flwyddyn ymlaen o #MeToo

Mae ymchwil gan arbenigwyr y gweithle, Acas, ar aflonyddu rhywiol wedi datgelu mai dim ond un o bob pedwar o weithwyr sy’n credu bod y sylw gan y cyfryngau rhyngwladol wedi helpu i wella diwylliant eu gweithle.

Comisiynodd Acas YouGov i gynnal astudiaeth i ganfod a oedd adroddiadau’r cyfryngau ar #MeToo ac achosion enwogion amlwg wedi cael unrhyw effaith ar weithleoedd ym Mhrydain.

Canfu’r pôl:• mai pedwar o bob deg o weithwyr (38%) a ddywedodd y byddent yn “debygol iawn” o riportio aflonyddu rhywiol petaent yn ei brofi’n bersonol yn eu gweithle;• mai chwech o bob deg (58%) o weithwyr a oedd yn credu bod eu cyflogwr presennol yn gwneud yn fras yr hyn y dylid ei wneud i leihau aflonyddu rhywiol yn ei gweithle, ac• mai 46% o weithwyr sy’n credu y byddai ‘gwneud newidiadau i ddiwylliant ehangach y cwmni’ yn effeithiol wrth geisio rhwystro aflonyddu rhywiol’.

Roedd y mesurau penodol a nodwyd gan yr ymatebwyr i’r pôl, fel rhai a fyddai â’r effaith o leihau aflonyddu rhywiol yn y gwaith, yn cynnwys:• Gwell hyfforddiant ar y pwnc i’r holl staff (60%);• Diweddaru’r polisïau a’r gweithdrefnau presennol ar ymdrin ag aflonyddu rhywiol (44%)• Creu polisïau a gweithdrefnau newydd (38%); a• Newidiadau i’r dulliau diogelu cyfreithiol (35%).

Mae casgliadau cyflawn papur polisi Acas ar aflonyddu yn y gweithle Prydeinig, sef: ‘We all know it’s wrong, so why is it so difficult to stop?’ ar gael ar y wefan, www.acas.org.uk

Acas yn lansio cyngor ar eirdaon swyddi

Mae’r arbenigwyr ar weithleoedd, Acas, wedi cyhoeddi canllaw i helpu cyflogwyr a chyflogeion i wybod y rheolau ar eirdaon cyflogaeth.

Canfu arolwg diweddar fod bron hanner y nifer o gyflogwyr yn awyddus i gael ymgeiswyr am swyddi sydd â’r profiad gwaith perthnasol.

Cwestiynau nodweddiadol a ofynnir i linell gymorth Acas ynghylch geirdaon swyddi:• A all cyflogwr wrthod rhoi geirda?• Sut allaf gael hyd i gopi o’r geirda y mae fy nghyflogwr blaenorol wedi ei roi?• Os yw geirda’n anghywir, beth allaf wneud yn ei gylch?• A all fy nghyflogwr gynnwys graddfeydd absenoldeb yn gysylltiedig â salwch mewn geirda?• A all cyflogwr rhoi pethau negyddol mewn geirda?

Mae cyngor Acas ar eirdaon cyflogaeth yn cynnwys cynghorion pwysig megis:• Gall cyflogwr fel arfer ddewis p’un ai i roi geirda ai peidio;• Dim ond â chaniatâd yr ymgeisydd am swydd y gall cyflogwyr ofyn am eirda gan ei gyflogwr presennol;• Os rhoddir cynnig amodol o swydd, yna gellir ei dynnu yn ôl os nad yw’r geirdaon parthed yr ymgeisydd am y swydd yn foddhaol. Dylai cyflogeion ystyried aros hyd nes eu bod yn derbyn cynnig diamod am swydd cyn cyflwyno eu rhybudd yn eu swydd gyfredol;• Dylai cyflogwyr posibl gofio y gall canolwr beidio â rhoi geirda neu gallai, yn anghywir, awgrymu bod yr ymgeisydd yn anaddas. O dan yr amgylchiadau hyn, gallai fod yn gymorth i drafod unrhyw bryderon gyda’r ymgeisydd yn uniongyrchol yn y lle gyntaf; ac• Y gall ymgeiswyr am swyddi sy’n anfodlon ar eirda ofyn am gopi o’r hyn a anfonwyd at eu cyflogwyr newydd, ac mae’n bosibl y byddent yn gallu hawlio iawn mewn llys am niwed a achoswyd iddynt os gallant brofi iddo fod yn gamarweiniol a’i fod wedi arwain at dynnu yn ôl gynnig o swydd.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Acas, www.acas.org.uk

hyd i ffynonellau ariannu a chwblhau ceisiadau arian, helpu i ddatblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau, cefnogaeth gyda systemau ariannol a chynllunio busnesau, ynghyd â help gyda’r broses sefydlu, cymorth yn gysylltiedig ag AGC (cofrestru cyn ac ar ôl yr adroddiad archwilio), cefnogaeth i adolygu strwythurau a cyfreithiol, a hyd yn oed mewn rhai achosion i roi cymorth i aros ar agor ac arbed colli lleoedd gofal-plant gwerthfawr mewn cymunedau lleol.

Dros ystod y Prosiect, gwnaed 608 o ymweliadau, yn cynnwys cefnogaeth mewn sgiliau busnes. Rhoddwyd y marciau uchaf i 99.8% o’r ymweliadau hyn gan staff Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. Yn ychwanegol at hyn, gwnaed ceisiadau am werth £119,635.10 o ariannu gan Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, i gefnogi’r Clybiau Gofal Plant Allysgol yn y 14 sir (a ceisiadau llwyddiannus gwerth £46,778.45

Prosiect Monadance hyd yma); gwnaed ceisiadau am £14,603.00 gan y clybiau eu hunain yn ogystal, gyda chymorth eu Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant (gan lwyddo i gael £5,695.00 hyd yma).

Daeth yr arian, yn anffodus, i ben ar Ionawr 1af 2019. Byddwn yn dal i ymdrechu i gael hyd i ariannu addas i’n galluogi i barhau â’r gefnogaeth lawr-gwlad, werthfawr hon, ac yn dal i gefnogi aelod-glybiau orau y gallwn, er y bydd hyn drwy gan fwyaf yn gefnogaeth o’r swyddfa. Croesawn barhad yn y cyfathrebu â Chlybiau Gofal Plant Allysgol drwy’ch swyddfa ranbarthol, a byddwn yn parhau i fod yn llais y sector Gofal Plant Allysgol ar lefel strategol.

Bu’n bleser cefnogi’r Clybiau Gofal Plant Allysgol ym mhob un o’r siroedd drwy gydol Prosiect Moondance, a hefyd i atgyfnerthu ein gwybodaeth o glybiau a chefnogi’ch anghenion, gan roi sgiliau busnes i’r gweithlu ac estyn cymorth i weld ac ateb sawl her. Diolch am eich cefnogaeth dros y cyfnod hwn.

14 sir ar draws Cymru

Digwyddodd y prosiect ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar

Ogwr, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam;ardaloedd lle na chafodd

CPCKC ei ariannu igyflenwi gwasanaethau.

99.8 %Canlyniad adborth o sesiynau

Sgiliau Busnes acYmweliadau Cefnogi Clwb oedd

y marciau uchaf am ygefnogaeth a gafwyd gan staff

Clybiau Plant CymruKids’ Clubs.

70%Cafodd 70% o’r lleoliadau

Gofal Plant Allysgol yn y 14 Awdurdod Lleol ymweliad

yn ystod cyfnod y Prosiect. Cafwyd cyswllt hefyd â’r lleoliadau dros y ffôn, ar

ebost, y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.

565 Lleoliad Gofal

PlantMae cefnogaeth wedi bod ar

gael565 Lleoliad Gofal Plant (994 oGlybiau Brecwast,

Ôl-ysgol a Gwyliau). Mae’r Clybiau hyn yndarparu 27,686 o leoedd Gofal

Plant.

608 Ymweliad ClwbRoedd staff yn gallu rhoi

cefnogaeth fusnes pwrpasol iWeithwyr Chwarae,

Gwirfoddolwyr a Phwyllgorau iwella a chefnogi gofal plantfforddiadwy, hygyrch ac o

ansawdd.

£100,000Â rhodd o £100,000 gan

Sefydliad Moondance roedd modd i CPCKC estyn allan i

gymunedau a chefnogiplant a theuluoedd mewn 565 lleoliad Gofal Plant Allysgol.

GyflogaethFfocws ar

Page 9: 2019 Gwanwyn - Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ybont spring … · Gwaith Chwarae yng Nghymru, fel y cyfeirir atynt yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

16 Y Bont

Cymraeg

Y Bont 17

A wyddech chi y gallech brynu ‘Gweithdy Clwb Cymraeg Achlysurol’? Mae hwn wedi ei ddyfeisio i’w ddefnyddio gyda Gweithwyr Chwarae sydd â rhywfaint, neu ychydig, o sgiliau yn yr iaith Gymraeg.

Bydd y sesiwn yn:• Goresgyn rhai rhwystrau rhag defnyddio’r Gymraeg• Cyflwyno adnoddau chwarae hwyliog yn yr iaith Gymraeg• Datblygu hyder mewn defnyddio’r Gymraeg mewn Clybiau• Yn cael ei gyflwyno i’r staff a’r plant gan un o’n Swyddogion Hyfforddi profiadol yn eich lleoliad.

Cost: £155*

Ei hyd: 1 awr

Posteri Cymraeg:P’un a ydych yn gweithio tuag at y Cynnig Rhagweithiol ai peidio, mae’r adnoddau yma’n ddelfrydol ar gyfer cefnogi cyflwyno’r Gymraeg yn eich lleoliad. Ar gost o ddim ond £5.00 am set o 4 i leoliadau sy’n aelodau (£10.00 i rai nad ydynt yn aelodau), mae’r posteri yma’n rhoi gwerth ardderchog am arian. Os hoffech brynu set ohonynt cysylltwch â ni ar 029 2074 1000 neu [email protected]

GwiriwrMae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ar y cyd â’n partneriaid yn CWLWM wedi bod yn ffodus iawn i fod wedi gallu sicrhau ariannu gan Cymraeg Gwaith, sy’n gynllun sy’n cael ei ddatblygu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae hwn yn gynllun a fydd yn annog datblygu ymhellach sgiliau iaith-Gymraeg yn y gweithlu Gofal Plant. Gan weithio ochr yn ochr â’n partneriaid yn CWLWM, prif nod y prosiect yw sicrhau bod y gweithlu gofal plant yn cael amryw o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eu sgiliau yn iaith Gymraeg, er mwyn gallu ei defnyddio’n hyderus yn y gweithle.

Ein prif bwrpas yn y prosiect hwn yn cefnogi Clybiau Gofal Plant Allysgol i ddatblygu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn eu lleoliadau. Bydd hyn yn help i gefnogi lleoliadau i weithredu’n unol â’r Cynnig Rhagweithiol, a ddymunir gan AGC ac sy’n rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru o gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 hyn mewn golwg, cafodd gwirydd iaith-Gymraeg, sef “Gwiriwr”, ei greu. Mae hwn yn erfyn diagnostig sydd wedi ei ddylunio’n arbennig i roi gwaelodlin i sgiliau iaith-Gymraeg y Gweithlu Gofal Plant. Bydd yn gymorth i adnabod yn gywir y lefel gyfredol o’r iaith Gymraeg sy’n cael ei hymarfer.

Mae’r Gwirydd iaith-Gymraeg wedi ei rannu’n 4 maes gweithgaredd - darllen, gwrando, siarad ac ysgrifennu. Nid profion yw’r rhain; maen nhw’n weithgareddau asesu gwaelodlin, a fydd, ar y diwedd, yn rhoi gwybod i’r cyfranogwr ei lefel gyfredol o Alluedd yn yr Iaith Gymraeg.

Bydd y data a gesglir drwy’r asesiadau gwaelodlin yn gymorth i ddatblygu cyfres o gyrsiau yn yr iaith Gymraeg a fydd yn mynd i’r afael yn gywir ag anghenion y gweithlu o ran defnyddio’r iaith Gymraeg.

A ydych am wella eich sgiliau yn yr iaith Gymraeg? Cysylltwch [email protected] eddiw i gael eich manylion mewngofnodi ac argymhellion ar ba gamau y gallwch eu cymryd i wella’ch sgiliau yn yr iaith Gymraeg.

1. I need support to get started/ I don’t have internet access.

You can use a PC, Laptop, tablet or your smart phone; however they will need to have a microphone and speaker on your device. If you need help, contact your Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs Regional Office, we will endeavour to visit you to help or you can come into the office.

2. I haven’t received my Employers’ code to get started.

If you have been in touch with [email protected] for an Employers’ code and have not received a response, contact your Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs Regional Office.

3. What’s in it for me?

It’s relevant for all levels of Welsh ability, including ‘first language Welsh’. You will receive your own personal level of Welsh and will be signposted for future learning at the most appropriate level for you, which will be free. Demonstrating a commitment to improving your Welsh language skills will support future job progression

4. What’s in it for my Club?

It helps address the future growth in demand for Welsh Language Childcare provision. It will be the first step in helping settings to comply with the Active Offer and forms part of Welsh Government’s vision of reaching a million Welsh Language speakers in Wales by 2050. It can also be included within your Quality of Care report, to show the commitment of your setting to improve Welsh language usage.

5. How long does it take? I haven’t got time!

There are 4 sections which take approximately 15 minutes each: reading, writing, speaking and listening. These don’t have to be completed in one go. Give the first one a try!

6. I don’t want to be tested.

It is not a test. You cannot fail. It is designed to see what you are more confident with, and where you may need support – so that you can be signposted to appropriate courses to help you improve – so don’t worry if you can’t get all of the answers! If you don’t know, don’t worry – just press ‘next’.

7. It doesn’t work.

Make a note of what the issue is and contact your Clybiau Plant Cymru Kids’ Club Regional Office.

1. Dwi angen cefnogaeth i ddechrau arni / Does gen i ddim mynediad at y rhyngrwyd. Gallwch ddefnyddio Cyfrifiadur, Gliniadur, llechen neu’ch ffôn clyfar; ond bydd yn rhaid i’ch dyfais fedru fod â seinydd. Os ydych angen help, cysylltwch â’ch swyddfa ranbarthol o Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs; fe geisiwn ein gorau i ymweld â chi i’ch helpu, neu gallwch ddod i mewn i’r swyddfa.

2. Dwi heb dderbyn fy nghod Cyflogwyr i fedru dechrau.

Os ydych wedi bod mewn cysylltiad ag [email protected] i gael cod Cyflogwr a heb dderbyn ymateb hyd yn hyn, cysylltwch â’ch swyddfa ranbarthol o Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.

3. Sut y byddaf i ar fy ennill?

Y mae’n berthnasol i bob lefel o allu yn yr iaith Gymraeg, yn cynnwys ‘Cymraeg iaith gyntaf’. Byddwch yn derbyn eich lefel bersonol eich hun o Gymraeg ac fe’ch cyfeirir at ddysgu yn y dyfodol ar y lefel sydd fwyaf priodol i chi, a fydd yn rhad ac am ddim. Bydd dangos ymrwymiad i wella’ch sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn gefn i’ch cynnydd o ran swyddi yn y dyfodol.

4. Sut fydd fy Nghlwb ar ei ennill?

Y mae’n help i geisio ateb y twf yn y galw am ddarpariaeth Gofal Plant yn yr Iaith Gymraeg yn y dyfodol. Dyma fydd y cam cyntaf er mwyn helpu lleoliadau i gydymffurfio â’r Cynnig Gweithiol ac y mae’n ffurfio rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru yn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Gellir hefyd ei gynnwys yn eich adroddiad Ansawdd Gofal, er mwyn dangos ymrwymiad eich lleoliad i wella’r defnydd o’r iaith Gymraeg.

5. Pa mor hir y mae’n cymryd? Does gen i ddim amser!

Mae pedair adran sy’n cymryd tua 15 munud yr un: darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando. Does dim rhaid cwblhau’r rhain ar yr un pryd. Rhowch gynnig ar y cyntaf!

6. Dwi ddim eisiau cael fy mhrofi.

Nid prawf yw hwn. Does dim modd i chi fethu. Y mae wedi ei ddyfeisio i weld lle y mae gennych y mwyaf o hyder a lle efallai y mae angen cefnogaeth arnoch - fel y gallwch gael eich cyfeirio at gyrsiau priodol i’ch helpu i ennill - felly peidiwch â phoeni os na fyddwch yn gwybod yr holl atebion! Os nad ydych yn gwybod, peidiwch â phoeni - gallwch wasgu ‘nesaf’ a symud ymlaen.

7. Nid yw’n gweithio.

Gwnewch nodyn o’r broblem a chysylltwch â’ch swyddfa ranbarthol o Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.

GwiriwrFAQ’s

GwiriwrCwestiynau Cyffredin

North Wales Regional OfficeSwyddfa Rhanbarthol Gogledd Cymru

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs19, Princes Drive,

Colwyn Bay / Bae Colwyn,Conwy

LL29 8HTT: 01492 536318

E: [email protected]

South East Wales Regional OfficeSwyddfa Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru

Clybiau Plant Cymru Kids’ ClubsBridge House / Tŷ’r Bont,

Station Road / Ffordd yrOrsaf,Llanishen / Llanisien,

Cardiff / CaerdyddCF14 5UW

T: 029 2074 1000E: [email protected]

West Wales Regional OfficeSwyddfa Rhanbarthol Gorllewin Cymru

Clybiau Plant Cymru kids’ ClubsUnit 2 / Uned 2, Clos Gwelliwerdd,

Cross Hands Business Park / Parc Busnes Cross Hands,Cross Hands,

Camarthenshire / Sir Gaerfyrddin,SA14 6RX

T: 01269 831010E: [email protected]

www.clybiauplantcymru.org Company limited by guarantee 4296436. Registered charity 1093260.Cwmni cyfyngedig drwy warant 4296436. Elusen Gofrestredig 1093260.

Archebwch! Am fwy o wybodaeth am weithdai a’r costau cysylltwch â’ch swyddfa ranbarthol, neu ewch i’n gwefan.*Mae’r costau ar gyfer uchafswm o 16 o blant a 2 Weithiwr Chwarae. Bydd costau ychwanegol yn achos oedolion / plant ychwanegol. Bydd rhai nad ydynt yn aelodau’n talu cost archebu o £50.00 yn ychwanegol at gost y gweithdy. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid archebu a thalu am y gweithdai o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn eu cyflenwi.

Apiau iaith Gymraeg:Â chymaint o apiau ar gael yn yr iaith Gymraeg, mae’n anodd gwybod pa rai sydd orau. I’ch helpu, rhoesom brawf ar ambell un – a does dim pwynt gwadu i ni gael hwyl wrth wneud!

Codi Hwyl - Dowch ar fwrdd y llong morladron ‘Y Fellten Ddu’ am gemau addas sydd wedi eu dyfeisio i ddysgu ac ymarfer geiriau Gymraeg. Mae’r ap

yn cynnwys 10 thema; bwyd a diod, dillad, anifeiliaid, y tywydd, yr ysgol, cartref, siopa, hobïau, gwyliau a dathliadau. Yn addas i’r oedrannau 7 a throsodd.

Guto Nyth Brân – Ap ail iaith, Cymraeg yw hwn, ac adnodd ar-lein i athrawon a disgyblion a fydd yn datblygu sgiliau yn yr iaith Gymraeg mewn ffordd ddiddorol,

llawn hwyl. Yn addas i blant 5-11 blwydd oed.Glwp – Stwnsh - Mae’r Byd yn lle tywyll, a’ch tasg chi yw llywio Glwp a’i lenwi â lliw! Gallwch chwarae’r gêm hon mewn dull Glwp Sengl neu Aml-Glwp er

mwyn cael chwarae â’ch ffrindiau. Yn addas i bob oed.Aur am Air - Ap cyffrous a deniadol sy’n hybu sgiliau sillafu Cymraeg drwy gyfres o gemau rhyngweithio i’r plant a’r bobl ifanc. Mae’n adnodd yn hyrwyddo dysgu annibynnol er mwy cefnogi’r plant gyda’r iaith Gymraeg, o’r ysgol i’r cartref.

Tric a Chlic - Dyma un o’r apiau mwyaf poblogaidd sydd. Mae adnodd Tric a chlic yn gynllun darllen blaengar a systematig. Yn addas i rai 5-11 blwydd oed.

Betsan a Roco Yn Y Pentref - Ap newydd, cyffrous i ddysgwyr iau. Mae’n cynnwys cyfres o gemau a fydd yn rhoi i ddysgwyr y cyfle i ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith Gymraeg mewn ffordd hwyliog a diddorol. Yr her i’r plant yw

mynd i wahanol adeiladau yn y pentref a llwyddo i gwblhau’r gweithgareddau sydd ynddynt. Yn addas i blant 2 – 8 mlwydd oed.

Gweithdy Clwb Cymraeg Achlysurol

Popeth yn GymraegFe fyddwch, mae’n siŵr, wedi clywed am weledigaeth Llywodraeth Cymru o gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n darged uchelgeisiol, ac mae Llywodraeth Cymru’n deall bod angen rhoi i ’r Gymraeg gyfle i flodeuo ym mhob agwedd o fywyd pob-dydd - gan gynnwys lleoedd chwarae - os ydyw i’w gyrraedd.

 hyn maen golwg, mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn gweithio ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu ystod o gyrsiau Cymraeg, yn benodol ar gyfer Gweithwyr Chwarae. Bydd hyn yn helpu staff mewn Clybiau Gofal Plant Allysgol i ddefnyddio geirfa oed-briodol mewn lleoedd chwarae. Mae’r cyrsiau’n dal i gael eu llunio, ond treialwyr y Cwrs Dechreuwyr mewn lleoliad ym Merthyr ym mis Tachwedd. Derbyniodd adborth rhagorol, ac mae’r lleoliad wedi rhoi’r Gymraeg ar waith yn eu gweithgareddau dyddiol, ac yn parhau i wneud hynny - gan ddangos mantais dysgu fel grŵp. Bydd y cyrsiau ar gael yn 2019 ac yn helpu lleoliadau i gydymffurfio â’r Cynnig Rhagweithiol, a ddymunir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Gwyliwch am fwy o wybodaeth!

Hyd hynny mae gennym ystod o adnoddau, arfau a gweithdai sydd ar gael i’ch helpu i weithredu neu wella’r defnydd o’r Gymraeg yn eich lleoliad. Nid yw neb yn disgwyl i unrhyw un ddod yn rhugl dros nos, ond mae annog newidiadau bychain yn unig, megis dweud yn gyson ymadroddion Gymraeg a ddefnyddir yn gyson, yn rhoi hwb i hyder ac yn normaleiddio Cymraeg mewn Chwarae.

Page 10: 2019 Gwanwyn - Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ybont spring … · Gwaith Chwarae yng Nghymru, fel y cyfeirir atynt yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

18 Y Bont

Gweithgareddau’r

Cipwyr Haul y GwanwynGwnewch y gorau o’r nosweithiau hir drwy greu eich cipwyr haul eich hunain i roi tipyn o liw i’ch ystafell.

Beth fyddwch eu hangen:Y cyfan fydd eu hangen arnoch am y gweithgaredd yma yw plastig cefn-gludiog clir (neu bocedi lamineiddio os oes gennych lamineiddiwr) a rhywfaint o ddychymyg! Gadewch i’r plant fod yn greadigol gyda’u defnyddiau tenau, lliwgar a fydd yn gadael i olau ddisgleirio drwodd, neu ddefnyddiau adlewyrchol megis ffoil tun a bydd yn peri i’r golau sboncian o gwmpas.

Beth i’w wneud:1.Piliwch gefn y ddalen blasting a’i gosod ochr ludiog i fyny.2 . T r e f n w c h yr eitemau y gwnaethoch eu dewis yn y drefn y gwnaethoch ei dewis ar yr ochr ludiog. 3.Gorchuddiwch weddill yr ardal ludiog â llewych, plastig clir neu cling ffilm i roi’r gwahanol effeithiau a ddymunwch.Unwaith y bydd

hyn wedi ei wneud, gallwch naill ai eu gludio i’r ffenestru â thac gludiog, defnyddio ebill i’w tyllu a’u rhoi ar linyn i’w hongian, neu wneud symudolion ohonynt.

Garddio GwanwynolDyma’r amser delfrydol i ddechrau meddwl am unrhyw weithgareddau garddio neu dyfu yr hoffech edrych i mewn iddynt gyda’r plant. P’un a oes gennych sill ffenest neu ardd lawn, gallwch bob tro ddod o hyd i bethau y gallwch eu tyfu.

Beth fyddwch eu hangen:• Mae bocsys wyau cardfwrdd, plisg wyau glân, neu groen ffrwythau wedi’u gwacáu (byddai satswmas / lemonau, / leimiau neu ffrwythau bychain eraill yn ddelfrydol) yn gwneud potiau cychwynnol ardderchog i hadau y gellir eu hail-blannu yn syth yn y pridd pan fyddant yn barod, os ydych yn bwriadu ail-blannu i botyn mwy neu hyd yn oed yr ardd..• Mae jariau gwydr, potiau plastig, poteli diodydd wedi’u hailgylchu (wedi’u torri yn eu hanner) neu botiau iogwrt yn ddelfrydol, os nad ydych yn bwriadu ail-blannu’r eginblanhigion. Bydd potiau clir yn eich galluogi i wylio’r eginblanhigion yn tyfu a’r gwreiddiau i ymffurfio yn y pridd.

Cildraethau cudd, caerau mynydd hanesyddol, fforestydd hynafol a llynnoedd llonydd, y cyfan yn aros i’w darganfod ym Mharciau Cenedlaethol trawiadol y DU.

Yn 2019, mae Wythnos Parciau Cenedlaethol yn newid i bythefnos y Parciau Cenedlaethol a bydd gŵyl flynyddol deuluol y Parciau Cenedlaethol yn dal i hyrwyddo’r cyfan sy’n unigryw ac arbennig am y Parciau Cenedlaethol. Mae’r ŵyl yn symud i’r gwanwyn, a bydd, bob blwyddyn, yn digwydd ar y cyd â gwyliau Pasg ysgolion ar draws y DU. Y gwanwyn hwn, y cyfnod fydd Dydd Sadwrn y 6ed i Ddydd Sul, Ebrill 21ain, a bydd yn dathlu’r cyfleoedd di-ri i fynd allan i’r awyr agored a darganfod pob twll a chornel o 15 Parc Cenedlaethol y DU.

Beth am fod yn rhan o hyn a dilyn eich trywydd eich hun yn y Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol sydd gennym yma yng Nghymru?

Cydweithiodd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs â 3 Pharc Cenedlaethol ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr i ddatblygu nifer o’r

gweithgareddau ym Mharth Natur- pecyn adnodd rhad ac am ddim y gellir ei lawrlwytho, ac sydd ar gael i bob Clwb Gofal Plant Allysgol sy’n aelodau o ardal aelodau ein gwefan!

Dyma 2 weithgaredd o’n pecyn ‘Parth Natur’ i chi roi cynnig arnynt.

Coron DdailByddwch angen:• Cardfwrdd tenau • Sisyrnau• Glud neu Styffylwr• Casgliad o ddail

Beth i’w wneud:1. Torrwch ddarnau o gardfwrdd tua 2 modfedd o led a thorrwch yr hyd yr un maint â phen y plentyn.2. Unwch y ddau ben

â’i gilydd â glud neu styffylwr.3. Casglwch gymaint o ddail ag yr hoffech i addurno’r goron.4. Gludiwch y dail at y cardfwrdd a gadewch nhw i sychu.

• Pridd potio• Hadau - mae perlysiau’n dueddol o dyfu’n gynt; bydd blodau’n cymryd ychydig yn fwy o amser.

Beth i’w wneud:1) Glanhewch unrhyw weddillion bwyd neu ddiod o’r potiau/poteli. Gyda gofal, torrwch boteli plastig yn eu hanner (ailgylchwch yr hanner uchaf neu ei ddefnyddio mewn gweithgareddau creadigol eraill, a chadw’r hanner gwaelod).2) Llenwch y cynhwyswyr sydd i’w defnyddio â phridd potio tuag at eu hanner 3) Gwasgarwch hadau dros y pridd yn ôl y cyfarwyddiadau ar y pecyn (mae angen caniatáu mwy o le rhwng hadau blodau na hadau perlysiau).4) Gorchuddiwch yr hadau â haen denau o bridd; rhowch ddŵr iddynt a’u gosod mewn man cynnes. Peidiwch â gadael i’r pridd sychu. Efallai y byddwch am osod y bocsys wyau ar ddysgl gan y byddant yn aros yn llaith, a gallent staenio’r arwynebedd y cânt eu gosod arno.5) Unwaith y bydd yr hadau’n egino, symudwch nhw i fan golau hyd nes y byddant yn ddigon cryf i’w hail-blannu, mewn cwpwl o wythnosau fel arfer.

Os nad ydych yn ail-blannu, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r pridd yn llaith, a gwyliwch y gwreiddiau’n tyfu i lawr wrth i’r planhigyn dyfu i fyny.

Darganfod Parciau Cenedlaethol Ebrill 6 – 21 2019...................

Gwanwyn