15
Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 1 Ebrill 2018 31 Mawrth 2019

Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

Adroddiad Blynyddol

Safonau’r Gymraeg

1 Ebrill 2018 – 31 Mawrth 2019

Page 2: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

1. Rhagair

1.1 Pwrpas yr Adroddiad Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru a ffurfiwyd ar 1 Ebrill 2013. Rydym ni’n masnachu fel Gyrfa Cymru – Careers Wales, ac yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd sy’n annibynnol a diduedd i bobl o bob oed yng Nghymru.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Gyrfa Cymru – Careers Wales i gydymffurfio â safonau mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.

Dyma ein hadroddiad blynyddol cyntaf ar weithrediad safonau’r Gymraeg. Mae’r safonau sy’n berthnasol i ni wedi’u rhannu’n bedwar categori:

• Cyflenwi gwasanaethau

• Llunio polisi

• Gweithredu

• Cadw cofnodion

Mae disgwyl i Gyrfa Cymru – Careers Wales yn ei gylch gwaith blynyddol fodloni’r gofynion o ran safonau cyflenwi gwasanaethau fel y maent yn gymwys i Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu sut yr ydym wedi cydymffurfio â’r safonau yn y meysydd uchod o 1 Ebrill 2018 hyd 31 Mawrth 2019, ac yn benodol ein bod yn:

• gweithredu yn unol â’r egwyddor sylfaenol a

osodir ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 o

beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r

Saesneg;

• cynnig gwasanaethau i staff a’r cyhoedd yn

gyffredinol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg;

• ystyried yr effeithiau ar y Gymraeg wrth ddatblygu

a gweithredu strategaethau a pholisïau;

• ystyried ein prosesau gweithredol a’n prosesau

cadw cofnodion mewn perthynas â’r Gymraeg;

• ceisio cynnig cyfleoedd i annog a hwyluso

defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ac wrth

gyflenwi gwasanaethau i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi ar ein gwefan a bydd ar gael ym mhob un o’n swyddfeydd sydd ar agor i’r cyhoedd ar gais.

1.2 Dyddiad Cyhoeddi 30 Medi 2019

Page 3: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

2. Trefniadau Goruchwylio Cydymffurfiaeth

2.3 Manylion yr uwch-swyddog cyfrifol

Philip Bowden

Pennaeth Ansawdd a Chynllunio

2.2 Trefniadau ar gyfer dirprwyo cyfrifoldebau gweithredol

Mae Uwch Dîm Rheoli Gyrfa Cymru – Careers Wales yn goruchwylio Polisi’r Gymraeg.

Cyfarwyddwyr unigol a Bwrdd Gyrfa Cymru – Careers Wales sy’n atebol am Bolisi’r Gymraeg. Gan hynny, mae unrhyw drafodaethau a geir ynghylch effeithiau strategaethau a pholisïau ar y Gymraeg yn rhan o broses gwneud penderfyniadau’r uwch dîm rheoli. Mae’r cyfrifoldeb am safonau unigol wedi’i ddyrannu i wahanol Benaethiaid Gwasanaeth yn unol â’u meysydd cyfrifoldeb presennol.

Caiff ein Polisi ar Safonau’r Gymraeg ei gyhoeddi ar ein gwefan a bydd yn dweud yn benodol sut y mae ein sefydliad yn bwriadu cydymffurfio â’r holl safonau y mae dyletswydd arnom i gydymffurfio â hwy. Mae’r polisi ar gael ar ein gwefan ac ym mhob un o’n swyddfeydd sydd ar agor i’r cyhoedd ar gais. Caiff gweithrediad y polisi hwn ei adolygu a’i addasu’n flynyddol fel y bo’r angen.

3. Asesiad o Gydymffurfiaeth

3.1 Safonau Cyflenwi Gwasanaethau

Mae’r adran hon yn cynnwys manylion ynghylch ansawdd ein gwasanaethau Cymraeg, ac yn arbennig sut yr ydym yn bodloni safonau cyflenwi gwasanaethau o dan Safonau’r Gymraeg. Fel y nodwyd uchod, mae disgwyl yn ein cylch gwaith blynyddol inni fodloni’r gofynion o ran safonau cyflenwi gwasanaeth fel y maent yn gymwys i Lywodraeth Cymru. Rydym yn gweithredu 67 o safonau cyflenwi gwasanaethau.

Canfod beth yw anghenion ieithyddol cwsmeriaid

Pan fyddwn yn gohebu ag unigolyn am y tro cyntaf, caiff pob gohebiaeth ei hanfon yn ddwyieithog gan ofyn i’r derbynnydd am ei iaith ddewisol inni ohebu ag ef, a byddwn yn gwneud cofnod o hynny pan fydd yn hysbys. Wedi hynny, caiff pob gohebiaeth ei hanfon at y cwsmer yn ei iaith ddewisol. Caiff iaith ddewisol ein cwsmeriaid ei chofnodi’n aml yn ein harolwg Gwirio Gyrfa y gwahoddir pob disgybl ysgol i’w gwblhau tra maent yn yr ysgol. Yna, caiff dewis iaith y disgyblion ei gadw yn ein cronfa ddata o gwsmeriaid.

I’r cwsmeriaid nad ydynt yn cwblhau arolwg Gwirio Gyrfa am ba reswm bynnag, bydd cynghorwyr mewn ysgolion yn gofyn i ddysgwyr fesul un beth yw eu dewis iaith, gan gynnwys unrhyw gynllun gweithredu ysgrifenedig a ddarperir. Lle bo dewis iaith cwsmer yn dal i fod yn anhysbys, bydd gohebiaeth ysgrifenedig yn ddwyieithog.

Cyswllt Gyrfa Cymru

Page 4: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

Mae gan Gyrfa Cymru un prif rif ffôn sy’n cynnig gwasanaeth dwyieithog, sef Cyswllt Gyrfa Cymru. Mae pob galwad i Cyswllt Gyrfa Cymru yn derbyn neges awtomatig ddwyieithog gydag opsiwn i barhau yn Gymraeg neu’n Saesneg. O’r pwynt hwnnw ymlaen, caiff yr alwad ei hateb yn yr iaith a ddewisir gan y sawl sy’n ffonio.

Gwnaethom dderbyn nifer fach iawn o gwynion ar ddechrau’r flwyddyn fusnes ynghylch ein gallu i gynnig gwasanaeth Cymraeg ar Cyswllt Gyrfa Cymru, ond nid ydym wedi derbyn dim cwynion pellach ers recriwtio mwy o staff Cymraeg i Cyswllt Gyrfa Cymru (wele Adran 3.9 – Cwynion).

Mae Cyswllt Gyrfa Cymru yn defnyddio gwasanaeth ateb dwyieithog wedi’i recordio, gyda’r Gymraeg yn gyntaf ac yna’r Saesneg fel y gall pobl sy’n ffonio adael neges yn eu hiaith o ddewis. Byddwn yn ffonio pawb yn ôl gan ddefnyddio iaith ddewisol y sawl sy’n ffonio. Caiff negeseuon sydd wedi’u recordio mewn Canolfannau Gyrfaoedd eu gosod ar lefel leol, ac yn ystod y flwyddyn cynhaliodd rheolwyr alwadau dirgel i bob Canolfan Gyrfaoedd ac roedd 100% o’r negeseuon a recordiwyd yn ddwyieithog.

Wrth gysylltu ag unigolyn dros y ffôn am y tro cyntaf, gofynnir i’r unigolyn ym mha iaith yr hoffai dderbyn galwadau gennym. Unwaith inni gael gwybod beth yw iaith ddewisol yr unigolyn, fe’i cofnodir yn ein cronfa ddata cwsmeriaid. Bydd galwadau wedi hynny yn cael eu gwneud yn iaith ddewisol yr unigolyn.

Mae dangosyddion perfformiad ar gyfer galwadau Cymraeg a Saesneg yr un fath a chânt eu monitro’n ofalus.

Cyfarfodydd

Pan fyddwn yn trefnu cyfarfod ag aelod o’r cyhoedd, rydym yn rhagweithiol wrth gynnig dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion perthnasol sydd gennym i weld a yw’r person wedi nodi ei iaith ddewisol. Rydym yn eu gwahodd i’r cyfarfod yn Gymraeg neu’n Saesneg os yw eu hiaith ddewisol yn hysbys. Os nad yw’n hysbys, caiff y gwahoddiad ei anfon yn ddwyieithog a bydd yn cynnwys brawddeg ynghylch yr iaith ddewisol.

Ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus, rydym yn amcanu i sicrhau bod siaradwr Cymraeg rhugl yn bresennol yn y cyfarfodydd â’r rheini sy’n dymuno cynnal eu cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfodydd. Caiff pob gwahoddiad i gyfarfodydd eu hanfon yn ddwyieithog yn gofyn i bob person roi gwybod inni os hoffent ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.

Deunydd a Ffurflenni Cyhoeddusrwydd

Caiff yr holl ddeunydd yr ydym yn ei ddangos yn gyhoeddus ei ddarparu yn y ddwy iaith, naill ai’n ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn ymddangos i’r chwith neu uwchben y Saesneg neu’r un mor amlwg (e.e. “wyneb i waered”), neu bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân os oes rhaid i fersiynau gael eu cyhoeddi ar wahân am resymau ymarferol. Bydd y ddwy fersiwn o’r un maint a’r un ansawdd. Bydd pob fersiwn yn cynnwys neges yn nodi bod y cyhoeddiad hefyd ar gael yn yr iaith arall.

Bydd gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys eisoes mewn ffurflenni yn cael ei chynnwys yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ein dull arferol yw cyhoeddi ffurflenni yn iaith ddewisol y cwsmer.

Y wefan, materion digidol a’r cyfryngau cymdeithasol

Page 5: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

Mae pob tudalen ar ein gwefan ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ac maent oll yn rhoi opsiwn iaith i’r defnyddiwr yn cynnwys linc uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg/Saesneg gyfatebol. Mae’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar bob tudalen ar ein gwefan ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r holl apiau a gyhoeddir gan Gyrfa Cymru ar gael ac yn gwbl hygyrch yn Gymraeg a Saesneg.

Mae ein holl gyfrifon corfforaethol ar y cyfryngau cymdeithasol (e.e. Twitter a Facebook) ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Bydd y staff sy’n gweithredu cyfrifon Twitter unigol yn gwneud hynny yn eu hiaith o ddewis, ac mae rhai o’n staff yn cynnal cyfrifon Cymraeg yn unig. Pan fyddwn yn derbyn gohebiaeth drwy’r cyfryngau cymdeithasol, byddwn fel arfer yn ymateb yn yr iaith y derbyniwyd y neges neu’n ddwyieithog.

Yn ystod 2018-19, gwnaethom lansio Teledu Gyrfa Cymru, gan ddarlledu seminarau gwe rhyngweithiol ynghylch ystod o feysydd a themâu galwedigaethol gan gynnwys diwydiannau ac arbenigwyr sector. Mae’r seminarau gwe hyn hefyd ar gael i’w gwylio eto. Cânt eu darlledu yn Gymraeg a Saesneg, ac yn 2019-20 byddwn yn darlledu seminar gwe ynghylch gwerth sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Arwyddion a’r Dderbynfa

Mae ein holl arwyddion parhaol a’n harwyddion dros dro, ynghyd ag arwyddion electronig ac arwyddion cyfrifiadurol sy’n rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd, yn ddwyieithog gan drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal o ran eu maint, eu dilysrwydd a’u hamlygrwydd. Ar ein holl arwyddion, mae’r Gymraeg yn ymddangos i’r chwith neu uwchben y Saesneg er mwyn i’r Gymraeg fod yn debygol o gael ei darllen yn gyntaf. Bydd ein staff Cymraeg yn gwisgo cortynnau gwddf neu fathodynnau iaith i ddangos eu bod yn medru’r Gymraeg.

Ym mhob un o ddesgiau ein derbynfeydd cyhoeddus, rydym yn croesawu ymholiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac mae gennym arwydd i ddangos ein bod yn croesawu i’r Gymraeg gael ei defnyddio ym mhob un o ddesgiau ein derbynfeydd cyhoeddus.

Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael ar unwaith i ymdrin ag aelod o’r cyhoedd sy’n dymuno siarad Cymraeg, gelwir ar gydweithiwr Cymraeg i ymdrin â’r ymholiad yn syth. Rydym yn parhau i geisio cynyddu ein gallu o ran y Gymraeg, ac mae pob swydd wag weinyddol bellach yn cael ei hysbysebu â’r Gymraeg yn ‘hanfodol’. Fodd bynnag, gan ddangos yr her wrth geisio recriwtio staff sy’n medru’r Gymraeg, fe wnaethom hysbysebu ym mis Awst 2018 am un swydd weinyddol ym Mangor a dwy swydd weinyddol yn Ne Cymru gyda’r Gymraeg yn ‘hanfodol’. Ni dderbyniwyd dim cais am y swydd ym Mangor, ac ni lwyddwyd i benodi neb o’r ddau a wnaeth gais am y swyddi yn Ne Cymru. O ran ein staff presennol, gwnaethom hyfforddiant iaith Gymraeg yn hanfodol i bob aelod o staff gweinyddol a Hyfforddwyr Cyflogadwyedd nad ydynt yn rhugl eu Cymraeg.

Rhyngwyneb cyhoeddus TGCh

Ym mhob un o’n Canolfannau Gyrfaoedd, mae gennym gyfrifiaduron cyhoeddus lle gall cwsmeriaid gwblhau ystod o weithgareddau gyrfaol, gan gynnwys chwilio am swydd ac ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis swyddi. Mae’r cyfrifiaduron oll yn defnyddio meddalwedd Microsoft nad oes iddi fersiwn Gymraeg. Mae hyn yn golygu, er inni allu defnyddio nifer o wefannau dwyieithog megis gyrfacymru.llyw.cymru nid ydym wedi gallu cynnig rhyngwyneb Cymraeg ar ein cyfrifiaduron cyhoeddus.

Gan ymateb i hynny, gwnaethom dreulio llawer o amser yn ystod 2018-19 yn datblygu rhaglen a fydd yn ein galluogi cyn hir i gynnig rhyngwyneb Cymraeg ar ein cyfrifiaduron cyhoeddus. Mae’r profion cychwynnol wedi bod yn llwyddiannus, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn ar gael ym mhob canolfan yn y flwyddyn fusnes newydd. Bydd hyn yn golygu y

Page 6: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

bydd y cwsmer wrth fewngofnodi yn gweld blwch â dewis iaith. Unwaith y dewisir iaith, bydd y cyfrifiadur yn dangos rhyngwyneb newydd ag eiconau yn yr iaith ddewisol yn ogystal ag, er enghraifft, dangos y ddewislen yn Word ac Excel yn yr iaith ddewisol.

Contractio

Caiff ystyriaethau o ran y Gymraeg eu cynnwys lle bo’n briodol ym manylebau contractau sy’n ymwneud ag unrhyw agweddau penodol ar wasanaeth cyhoeddus y bydd y contractwr yn ei ddarparu ar ein rhan. Mae pob Hysbysiad Contract i dendro am gontract yn nodi y croesewir ceisiadau tendr yn Gymraeg neu Saesneg, a bydd y dyddiad cau i gyflwyno’r ffurflenni yr un fath yn y ddwy iaith. Bydd ceisiadau tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael sylw yn Gymraeg gan gynnwys, os yw’n briodol, yr angen i gyfweld â’r sawl a gyflwynodd y cais tendr. Rydym yn amcanu i ddefnyddio siaradwr Cymraeg rhugl yn y cyfweliad, neu’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

Hysbysebu

Caiff pob hysbyseb, a’r gwasanaethau cyhoeddusrwydd a dogfennau hysbysebu yr ydym yn eu darparu, eu gwneud yn ddwyieithog neu’n Gymraeg a Saesneg ar wahân. Os cyhoeddir ar ein gwefan, fe’i cyhoeddir yn Gymraeg a Saesneg.

3.2 Safonau gwneud polisïau

Rydym yn gweithredu 9 o safonau gwneud polisïau. Wrth wneud penderfyniad polisi newydd neu wrth ddiwygio penderfyniad polisi sydd eisoes yn bodoli, rydym yn gwneud hynny yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg. Rydym yn defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, sy’n cynnwys ystyriaethau i’r Gymraeg, wrth ystyried sut y gall penderfyniad:

• gael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg;

• peidio â chael dim effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg;

• sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg;

• peidio â chael dim effeithiau andwyol neu leihau’r effeithiau andwyol ar gyfleoedd

i ddefnyddio’r Gymraeg.

Fel enghraifft, gellir canfod yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer ein strategaeth tair blynedd, ‘Newid Bywydau’, o dan yr adran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar ein gwefan (o dan ‘Cysylltu â ni’).

Mae’r pwyntiau uchod hefyd yn berthnasol pan fyddwn yn cyhoeddi dogfennau ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi. Bydd y ddogfen yn gofyn am safbwyntiau ynghylch effeithiau cadarnhaol neu gynnydd yn yr effeithiau cadarnhaol a gâi’r penderfyniad polisi yr ymgynghorir arno ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Bydd unrhyw waith ymchwil a gomisiynir gennym i’n cynorthwyo wrth wneud penderfyniadau polisi hefyd yn cael ei wneud yn unol â Safonau’r Gymraeg a bydd angen ystyried sut y gall y penderfyniad gwmpasu’r pwyntiau uchod.

3.3 Safonau gweithredol

Rydym yn gweithredu 51 o safonau gweithredol sy’n ymwneud â gwaith ein gweinyddiaeth fewnol, a gellir gweld eu manylion isod.

Recriwtio

Page 7: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

Mae ein holl bolisïau, gweithdrefnau, hysbysebion, ffurflenni cais a dogfennaeth berthnasol arall sy’n ymwneud â recriwtio ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae hysbysebion a ffurflenni cais sy’n ymwneud â recriwtio ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ac maent yn cynnwys datganiad clir y caiff y Gymraeg a’r Saesneg eu trin yn gyfartal, ac mae ffurflenni cais yn cynnwys gofod i unigolion nodi eu dewis iaith ar gyfer cyfweliad neu fath arall o asesiad. Rydym yn croesawu i ymgeiswyr wneud cais yn eu hiaith o ddewis, a bydd ceisiadau a ddaw i law yn Gymraeg a Saesneg yn cael eu tafoli o fewn yr un amserlen, ac rydym yn anfon pob gohebiaeth yn Gymraeg i’r rheini sydd wedi ei dewis fel eu dewis iaith.

Rydym yn hysbysebu ein swyddi gwag drwy amryw o blatfformau, ond i sicrhau ein bod yn cyrraedd siaradwyr Cymraeg fe ddefnyddiwyd Safle Swyddi, Golwg 360 a Lleol.net yn ogystal â defnyddio ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae Facebook wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol wrth dargedu dilynwyr Cymraeg eu hiaith.

Os nodwyd gofyniad i feddu ar sgiliau Cymraeg, byddwn yn profi hyn yn ystod y broses recriwtio i sicrhau bod yr anghenion iaith yn bodloni’r gofyniad gwirioneddol ar gyfer y lleoliad. Un elfen o’r broses hon yw cael yr ymgeiswyr i ddod i ganolfan asesu lle gofynnir iddynt gwblhau tasgau llafar ac ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod 2018-19, rydym wedi cynnal canolfannau asesu yn Gymraeg ynghyd â chyfweliadau yn Gymraeg yn unig a chan ddefnyddio cyfieithu ar y pryd.

Mae’n ofyniad hanfodol ar gyfer pob swydd o fewn y sefydliad i allu ynganu enwau lleoedd yng Nghymru ac enwau personol, a’r gallu i ddeall a defnyddio brawddegau Cymraeg syml, a hynny i sicrhau bod staff yn gallu arddel cwrteisi ieithyddol sylfaenol. Mae’n bosibl ar gyfer rhai swyddi newydd neu swyddi gwag a hysbysebir i’r deiliaid swyddi ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i gyrraedd y safon ofynnol ar gyfer y swydd dros gyfnod o amser yn dilyn cynllun hyfforddi cytunedig gyda chefnogaeth lwyr Gyrfa Cymru.

Cefnogi staff presennol

Rydym wedi gweithredu polisi iaith mewnol i annog defnyddio’r Gymraeg yn fewnol, a chan hynny gynyddu’r cyfleoedd i’n staff weithio’n ddwyieithog. Caiff gweithio dwyieithog ei drafod yn y canllaw staff, a chaiff defnyddio’r Gymraeg ei annog drwy, er enghraifft, y tîm Dysgu a Datblygu a defnyddio cortynnau gwddf. Crëwyd adnodd e-ddysgu gan y tîm Dysgu a Datblygu yn annog defnyddio’r Gymraeg ym mhob gweithle, ac roedd yr adnodd ar gael i bob aelod o staff a chafodd ei gyhoeddi yng nghylchlythyr y cwmni. Mae’r adnodd hwn hefyd wedi helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o hanes yr iaith Gymraeg a’i rôl yn niwylliant Cymru, ynghyd â meithrin dealltwriaeth o’r ddyletswydd i weithredu yn unol â safonau’r Gymraeg.

Gofynnwyd i bob aelod o staff presennol am eu dewis iaith ar gyfer derbyn gohebiaeth ynghylch eu cyflogaeth, a gofynnir yn yr un modd i bob aelod newydd o staff ar adeg eu penodi. Unwaith y bo’r dewis iaith yn hysbys, caiff ei nodi er gwybodaeth at y dyfodol ac o’r pryd hwnnw ymlaen bydd gohebiaeth ynghylch eu cyflogaeth wedi’i gyfeirio atynt ei anfon yn eu hiaith o ddewis. Yn 2018-19, mae 33 o’r 605 aelod o staff wedi dewis cael dogfennaeth Adnoddau Dynol yn Gymraeg.

O ran ffurflenni sy’n cofnodi ac awdurdodi gwyliau blynyddol, absenoldebau o’r gwaith ac oriau gweithio hyblyg, mae rhyngwyneb ein system Adnoddau Dynol mewnol a’r system ar gyfer cofnodi gwyliau blynyddol ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Os yw staff am gwblhau’r broses ar gyfer gwyliau blynyddol ac absenoldebau yn Gymraeg, caiff y dogfennau eu darparu ar bapur.

O ran y pwynt uchod, yn 2018-19 cafwyd ambell ddatblygiad diddorol o ran rhyngwyneb meddalwedd y cwmni. Rydym eisoes yn sicrhau bod ‘pecyn iaith’ ar gael sy’n cyfieithu ein

Page 8: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

rhyngwyneb cyfrifiadur pob dydd i’r Gymraeg ar gais staff, ac mae Cysill, sef y meddalwedd gwirio sillafu, gwirio gramadeg a’r geiriadur, ar gael i bob aelod o staff. Rydym, fodd bynnag, yn defnyddio ystod o becynnau meddalwedd gwahanol, ac nid oes dim o’r rhain yn cynnig fersiwn Gymraeg. Caiff ein system Adnoddau Dynol mewnol a’n system ar gyfer cofnodi amser gweithio ac oriau hyblyg ill dau eu prynu gan gwmni allanol, ac nid ydynt ond ar gael yn Saesneg. Yn 2018-19, gwnaethom ddechrau gweithio â chwmni o’r enw Linguaskin i gyfieithu’r ddau becyn meddalwedd ac i sicrhau bod y rhyngwynebau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Unwaith y cyflawnir hyn, bydd y staff yn gallu archebu gwyliau blynyddol, cofnodi eu hamser a newid eu manylion personol megis cyfeiriadau, ymhlith pethau eraill, drwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwylir i hyn fod ar gael i staff yn ystod blwyddyn fusnes 2019-20.

Nid ydym bellach yn rhoi copi caled i staff o’u slipiau cyflog. Rydym wedi prynu pecyn meddalwedd sy’n cynnig Porth Slipiau Cyflog i staff, gan eu galluogi i weld eu slipiau cyflog a’u dogfennau P60 yn electronig, yn ogystal â chadw manylion personol na ellir ond cael eu haddasu yn y porth gan y staff eu hunain. Ar hyn o bryd, nid yw’r feddalwedd ond ar gael yn Saesneg, ond rydym wedi bod yn trafod â’r cwmni a ddatblygodd y feddalwedd, ac mae’r cwmni wedi creu slip cyflog Cymraeg a fydd yn cael ei ddangos yn y porth o’r flwyddyn fusnes nesaf ymlaen.

Gall staff ddewis cyfeiriad e-bost Cymraeg neu Saesneg, gan ddilyn un o’r patrymau a ganlyn:[email protected] neu [email protected].

Mae copïau Cymraeg a Saesneg ar y we o’r polisïau a’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â’r

agweddau a ganlyn:

• ymddygiad yn y gweithle;

• llesiant yn y gwaith (nid oes polisi penodol ar hwn, ond mae’r polisïau a’r

ffurflenni absenoldeb salwch yn ddwyieithog);

• cyflogau a buddion yn y gwaith;

• rheoli perfformiad

• absenoldeb o’r gwaith;

• amodau gwaith;

• patrymau gwaith.

Mae’r holl brosesau wyneb i wyneb mewnol ar gyfer staff ar gael yn Gymraeg a Saesneg (yn seiliedig ar ddewis iaith yr aelod o staff), gan gynnwys, er enghraifft, ymweliadau cartref mewn achos o salwch, camau disgyblu a chwynion.

Mewnrwyd y Cwmni

Mae holl dudalennau ein mewnrwyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a gall staff droi o’r naill i’r llall. Mae’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar dudalennau’r fewnrwyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg gan ddefnyddio cyfieithu ar y pryd.

Cwynion a Phrosesau Disgyblu

Mae croeso i staff wneud cwynion yn eu dewis iaith, ac rydym yn ymateb iddynt yn yr iaith honno. Os gwneir cwyn, gofynnwn i’r aelod o staff a ydynt am ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Bydd unrhyw gyfarfod yn cael ei gynnal yn newis iaith yr achwynydd naill ai â siaradwr Cymraeg rhugl neu gan ddefnyddio cyfieithu ar y pryd. Caiff polisïau a

Ers hynny, mae hyn wedi newid i naill ai [email protected] neu [email protected]

Page 9: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

gweithdrefnau ynghylch cwynion eu cyhoeddi ar y fewnrwyd ac maent ar gael i’r holl staff. Pan fo aelod o staff yn gwneud cwyn yn Gymraeg, byddwn yn ymateb yn Gymraeg ac yn sicrhau bod yr holl ohebiaeth a’r cyfarfodydd dilynol yn cael eu cynnal yn Gymraeg yn ôl eu dymuniad.

Gall staff ymateb i honiadau a wneir yn eu herbyn mewn proses ddisgyblu fewnol yn eu hiaith o ddewis. Cynigir i staff ddewis iaith mewn unrhyw gyfarfod sy’n ymwneud â materion disgyblu ynghylch ymddygiad yr aelod o staff. Mewn cyfarfodydd lle bo unigolion am iddynt gael eu cynnal yn Gymraeg, byddwn yn amcanu i sicrhau bod siaradwr Cymraeg addas yn cynnal y cyfarfod neu byddwn yn trefnu cyfieithu ar y pryd. Caiff staff wybod am unrhyw benderfyniad yn dilyn y broses ddisgyblu yn eu dewis iaith.

Ymgynefino

Mae ein proses ymgynefino yn cynnwys rhestr wirio i sicrhau bod rheolwyr llinell yn cwmpasu gofynion Safonau’r Gymraeg gyda dechreuwyr newydd, ac rydym yn trafod unrhyw ofynion hyfforddiant Cymraeg gan ofyn i staff newydd hunanasesu eu sgiliau Cymraeg.

Dynodi Siaradwyr Cymraeg

Bydd cortynnau gwddf ein siaradwyr Cymraeg naill ai’n dangos logo Iaith Gwaith neu’n cynnwys y geiriau Siaradwr Cymraeg/Dysgwr Cymraeg i ddangos eu bod naill ai’n siarad neu’n dysgu siarad Cymraeg. Rydym yn rhoi bathodyn i siaradwyr Cymraeg ei wisgo.

Mae llofnod e-bost ein holl staff, gan gynnwys teitlau swydd a manylion cyswllt, yn ddwyieithog. Mae llofnod e-bost staff sy’n siarad Cymraeg yn cynnwys logo Iaith Gwaith a gwahoddiad i gyfathrebu yn Gymraeg neu Saesneg. Disgwylir i negeseuon allan o’r swyddfa ein holl staff fod yn ddwyieithog.

Hysbysiadau mewn Swyddfeydd

Yn adeiladau Gyrfa Cymru, mae ein holl hysbysiadau swyddogol a ddangosir ar waliau neu fyrddau hysbysu yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg ar y chwith neu uwchben y Saesneg.

Bydd pob testun a gaiff ei ddangos yn ein gweithleoedd yn amodol i broses prawfddarllen gan ein gwasanaeth cyfieithu neu siaradwr Cymraeg dynodedig i sicrhau cywirdeb o ran ystyr a mynegiant. Ar hyn o bryd, nid oes gennym ddim cyhoeddiadau sain yn unrhyw un o’n swyddfeydd.

3.4 Safonau Cadw Cofnodion

Rydym yn gweithredu 8 o safonau cadw cofnodion. Rydym yn cadw cofnodion mewn ystod o feysydd.

• Caiff cwynion ynghylch y Gymraeg ar gyfer pob blwyddyn ariannol eu cofnodi a’u

cadw’n ganolog, ac maent yn cynnwys natur y gŵyn a pha gamau a gymerwyd o

ganlyniad. Mae gennym bolisi a gweithdrefn ar gyfer cwynion sy’n egluro sut y caiff

cwynion a dderbynnir gan y sefydliad eu trin, a chyhoeddir y rhain ar ein gwefan

ac maent ar gael ym mhob un o’n swyddfeydd sydd ar agor i’r cyhoedd ar gais.

• Sgiliau Cymraeg ein gweithlu. Caiff cofnod ei gadw gan ein hadran Adnoddau

Dynol, ac mae hyn yn ein galluogi i gwblhau adroddiadau ar y sgiliau Cymraeg o

fewn y cwmni.

Page 10: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

• Yr holl asesiadau a gynhelir i ganfod lefel Cymraeg ar gyfer swyddi newydd a

swyddi gwag ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gan gynnwys gallu Cymraeg yr

ymgeisydd llwyddiannus.

• Nifer y staff a aeth ar gyrsiau hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.

• Canran y staff a aeth ar gyrsiau hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.

3.5 Sgiliau Cymraeg Staff

Mae’r ffigurau isod yn dangos sgiliau Cymraeg ein staff ar ddiwedd blwyddyn fusnes 2018-19 yn seiliedig ar hunanasesiad staff o lefel eu sgiliau iaith.

Siarad Gwrando Darllen Ysgrifennu

Dim dealltwriaeth 222 221 241 283

Mynediad 160 159 142 117

Sylfaen 44 31 44 51

Canolradd 33 41 36 30

Lefel uwch 31 32 35 39

Rhugl 84 90 76 54

Dim data 35 35 35 35

Siarad Gwrando Darllen Ysgrifennu

Dim dealltwriaeth 36.5% 36.3% 39.6% 46.5%

Mynediad 26.3% 26.1% 23.3% 19.2%

Sylfaen 7.2% 5.1% 7.2% 8.4%

Canolradd 5.4% 6.7% 5.9% 4.9%

Lefel uwch 5.1% 5.3% 5.7% 6.4%

Rhugl 13.8% 14.8% 12.5% 8.9%

Dim data 5.7% 5.7% 5.7% 5.7%

3.6 Hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i staff Mae ein dysgu a datblygu i staff yn cynnwys hyfforddiant mewnol a ddarperir gan Gydlynwyr Dysgu a Datblygu (neu aelodau eraill o staff mewnol, e.e. Adnoddau Dynol) a hyfforddiant allanol y telir amdano gan ddarparwyr arbenigol. Mae staff hefyd yn mynychu hyfforddiant allanol i ffwrdd o’r swyddfa, am ddim ac wedi’i dalu amdano, lle

0

50

100

150

200

250

300

Siarad Gwrando Darllen Ysgrifennu

Nifer staff ym mhob categori

Dim dealltwriaeth Mynediad Sylfaen Canolradd Lefel uwch Rhugl

Page 11: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

penderfynir bod hynny’n werthfawr neu’n angenrheidiol at ddibenion cydymffurfio, e.e. Diogelwch Tân a Chymorth Cyntaf yn y Gwaith. Yn ystod 2018-19, gwnaethom gynnal sesiwn ddwyieithog ar Ymwybyddiaeth o Gam-drin Domestig.

O ran Safon 135, ni chynigiwyd dim hyfforddiant mewnol yn y meysydd recriwtio a chyfweld, rheoli perfformiad, cwynion a gweithdrefnau disgyblu, ymgynefino, ymdrin â’r cyhoedd nac iechyd a diogelwch yn ystod y cyfnod adrodd yn Gymraeg na Saesneg.

O ran Safon 136, rydym eisoes yn cynnal cyfweliadau ac yn ymdrin â chwynion a gweithdrefnau disgyblu yn effeithiol yn Gymraeg, ac felly nid ydym wedi cynnal dim hyfforddiant penodol i’r perwyl hwn. O ran defnyddio’r Gymraeg yn effeithiol mewn cyfarfodydd, bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i barhau i ddatblygu Gyrfa Cymru – Careers Wales fel sefydliad cwbl ddwyieithog.

Rydym yn cynnal Canolfan Asesu NVQ sy’n ein galluogi i gynnig ac achredu cymwysterau allanol. Caiff y gwaith o ddarparu, asesu a dilysu cymwysterau ei wneud gan ein tîm o Gydlynwyr Dysgu a Datblygu, sy’n aseswyr cymwysedig. Ddechrau blwyddyn fusnes 2018-19, gwnaethom gydnabod nad oedd gennym ddigon o allu o ran siaradwyr Cymraeg yn ein tîm o Gydlynwyr gan fod staff wedi gadael. Yn ystod 2018-19, penodwyd dau Gydlynydd Dysgu a Datblygu sy’n gallu siarad Cymraeg. Bellach, mae gennym ddau ymgeisydd sy’n cael eu hasesu yn Saesneg yn bennaf, ond maent hefyd yn cael eu harsylwi yn cynnal gweithgareddau yn Gymraeg yn eu hysgolion cyfrwng Cymraeg a sefyllfaoedd eraill.

3.7 Ymwybyddiaeth a Sgiliau Cymraeg Anogir pob aelod o staff i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg at ddibenion gwaith, ac mae gennym raglen hyfforddi Cymraeg ar waith sy’n rhoi cyfle i’n staff ddysgu Cymraeg at ddibenion gwaith yn ystod oriau gwaith. Bydd staff sydd ag amod i’w cyflogaeth eu bod yn dysgu Cymraeg yn dilyn rhaglen hyfforddiant iaith gytunedig.

Yn ystod y cyfnod adrodd, mae chwe siaradwr Cymraeg wedi ymgymryd â chwrs preswyl wythnos o hyd, ac mae hyn wedi rhoi gwell hyder iddynt gynnig gwasanaethau yn Gymraeg.

Aeth pob un o’n 34 aelod o staff rheng ar gwrs deuddydd ffurfiol ‘Cyflwyniad i’r Gymraeg’, a gwnaethant ddilyn rhaglen ddysgu ar-lein Cyflwyno Cymraeg Gwaith. Cawsant oll eu rhoi mewn pâr â siaradwr Cymraeg a allai eu hannog i ymarfer y sgiliau y gwnaethant eu dysgu. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nefnydd Cymraeg naturiol ac wedi ennyn hyder wrth i staff gyfarch cwsmeriaid yn Gymraeg ar y desgiau blaen.

Mae 49 aelod o staff wedi cwblhau’r modiwlau perthnasol o’r rhaglen ar-lein Cyflwyno Cymraeg Gwaith.

Cafodd 3 aelod o staff eu hariannu gan Gyrfa Cymru i fynychu dosbarthiadau nos Cymraeg (2 ar lefel dechreuwyr, ac 1 ar lefel rhugl).

Creodd y tîm Dysgu a Datblygu gyflwyniadau fideo i hybu dealltwriaeth o Fesur y Gymraeg a’r cyfleoedd i ddysgu Cymraeg. Roedd y fideo yn cynnwys brawddegau Cymraeg naturiol a allai fod yn ddefnyddiol. Rhannwyd y fideo â phob aelod o staff yn ein cylchlythyr dwyieithog bob pythefnos, Linc, gan gadw a monitro ein pecyn meddalwedd Dysgu a Datblygu ar-lein cwbl ddwyieithog, y Gronfa Ddysgu. Bu’r adnodd hwn yn gymorth hefyd wrth ddatblygu ymwybyddiaeth o hanes y Gymraeg a’i rôl yn niwylliant Cymru, ac wrth wella dealltwriaeth o’r ddyletswydd i weithredu’n unol

Page 12: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

â safonau’r Gymraeg. Mae pob aelod newydd o staff yn gwylio’r fideo hwn fel rhan o’u rhaglen ymgynefino.

O ran cynnig hyfforddiant ffurfiol i staff sy’n darparu cyngor gyrfaol ynghylch gwerth sgiliau Cymraeg yn y sector cyflogaeth yn 2018-19, rydym wedi cynnig ystod o adnoddau y mae staff yn eu defnyddio i sicrhau eu bod yn deall Gwybodaeth gyfredol am y Farchnad Lafur, ac mae hyn yn cynnwys adrannau sy’n trafod y galw am sgiliau Cymraeg, yn rhanbarthol ac o fewn sectorau. Gwnaethom hefyd gynnig hyfforddiant cyffredinol wyneb yn wyneb ynghylch Gwybodaeth am y Farchnad Lafur, gan gynnal y sesiynau yn y Gogledd yn ddwyieithog.

Caiff dysgu ei hybu hefyd yn y digwyddiadau yr ydym yn eu trefnu i gwsmeriaid. Er enghraifft, gwnaethom gynnal Ffair Yrfaoedd Cymraeg yn y Gweithle ym mis Rhagfyr 2018 yng Nghanolfan Gynadleddau Prifysgol De Cymru, gan dargedu disgyblion blwyddyn 11 o ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol; Rhydywaun, Llanhari, Cwm Rhondda, Garth Olwg a Llangynwyd.

Y nod oedd codi ymwybyddiaeth am yr amrywiaeth o swyddi a sectorau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, ac annog disgyblion i barhau â’u sgiliau Cymraeg ar ôl gadael addysg. Cafodd y staff a oedd yn bresennol hefyd gyfoethogi eu gwybodaeth ynghylch pwysigrwydd sgiliau Cymraeg yn y gweithle drwy sgwrsio â chyflogwyr.

Roedd 22 sefydliad yn bresennol yn y ffair, gan gwmpasu ystod o sectorau yn ogystal â darparwr hyfforddiant ac asiantaeth recriwtio a oedd ill dau’n arbenigo mewn cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg. Roedd y sefydliadau oll yn rhoi gwybodaeth i ddisgyblion ac yn trafod y cyfleoedd o fewn eu sefydliad i siaradwyr Cymraeg.

Drwy gydol y dydd, cafwyd seminarau gyda chyflwyniadau i’r disgyblion gan gyflwynwyr yn siarad am eu sefydliad a’r fantais o feddu ar sgiliau Cymraeg.

Dyma’r tro cyntaf i Ffair Yrfaoedd Gymraeg gael ei threfnu ar y raddfa hon yn yr ardal hon, ac roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol. Cafwyd adborth da gan yr ysgolion a’r cyflogwyr. Mae ail ffair yrfaoedd Cymraeg yn y Gweithle wedi’i threfnu ar raddfa hyd yn oed yn fwy wedi’i chynllunio ar gyfer mis Medi 2019.

“Fe wnaeth y sesiwn fy helpu i ddeall sut y mae’r Gymraeg yn bwysig i fywyd pob dydd. Mae wedi fy sbarduno i ddysgu Cymraeg fel y gallaf helpu i ofalu am bobl.”

“Roedd yn wych oherwydd dysgais waeth faint o sgiliau Cymraeg sydd gennyf, gwn y gallaf ei ddefnyddio ac y gwnâi wahaniaeth wrth imi gael gwahanol swyddi.”

“Cawsom gyflwyniad da gan bobl a oedd yn siarad pam y mae’r Gymraeg mor bwysig.”

“Roedd y sesiwn yn ddefnyddiol iawn, ac rwy’n deall pam y mae angen y Gymraeg mewn gweithleoedd.”

Gwnaethom hefyd greu fideo Cymraeg yn y Gweithle yn 2018. Defnyddiwyd hwn fel rhan o’r sesiynau gwaith grŵp ar gyfer blwyddyn 10/11 yn 2018-19, ac roedd yn dangos pwysigrwydd sgiliau dwyieithog.

3.8 Recriwtio ar gyfer swyddi newydd a swyddi gwag Caiff y sgiliau Cymraeg ar gyfer pob swydd newydd neu swydd wag o fewn y sefydliad eu hasesu’n gychwynnol gan y Pennaeth Adran perthnasol a’r adran Adnoddau Dynol

Page 13: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

drwy ddefnyddio ein strategaeth sgiliau dwyieithog a’r canllaw strategaeth recriwtio, gan roi ystyriaeth i ofynion y swydd dan sylw a faint o siaradwyr Cymraeg sydd yn y tîm. Mae’r gofyniad o ran sgiliau Cymraeg yn cael ei ddatgan yn glir yn ein Ffurflen Cyfiawnhad Recriwtio y mae gofyn ei llenwi ar gyfer pob swydd newydd. Bydd y lefel o ran sgiliau Cymraeg a’r gofyniad iaith yn cael ei ddatgan yn glir yn y ffurflen ar gyferpob swydd newydd a swydd wag, ac fe’i nodir pan gaiff y swydd ei hysbysebu ynGymraeg a Saesneg.

I sicrhau ein bod wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r angen i recriwtio siaradwyr Cymraeg ar gyfer pob swydd wag, rydym yn asesu angen ieithyddol pob swydd wag yn fewnol ac yn allanol gan ddefnyddio’r meini prawf a ganlyn:

Hanfodol Dymunol

Nid oes neb ar gael i gynnig gwasanaethau Cymraeg.

Mae staff sy’n siaradwyr Cymraeg eisoes ar gael, ond byddai’n ddymunol cael mwy o siaradwyr Cymraeg.

Mae angen mwy o staff â sgiliau Cymraeg i gynnig gwasanaethau llawn i’r cyhoedd.

Mae angen unigolyn â chymhwyster neu brofiad penodol ar gyfer y swydd.

Mae’r swydd wedi’i lleoli mewn ardal sydd â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg/mewn cymuned Gymraeg.

Mae’r swydd wedi’i lleoli mewn ardal sydd â chanran isel o siaradwyr Cymraeg.

Mae’n amhosibl cynnig gwasanaeth mewn ffordd arall (e.e. dros y ffôn).

Mae’r data ynghylch recriwtio ar gyfer swyddi gwag a swyddi newydd ar draws Gyrfa Cymru yn 2018-19 i’w gweld isod. Swyddi unigol yw’r rhan fwyaf o’r rhain, ond nid felly pob un. Roedd yr hysbysebion ar gyfer Cynghorydd Gyrfa/Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant yn rhai ar draws Cymru gyfan â sawl swydd ar gael.

Aseswyd bod 4 swydd â’r Gymraeg yn hanfodol iddynt, a 30 swydd â’r Gymraeg yn ddymunol iddynt.

Teitl y swydd wag Dyddiad yr

Hysbyseb

Sgiliau Cymraeg Hanfodol / Dymunol

Cynorthwyydd Gweinyddol 06/07/18 H

Cynghorydd Ymgysylltu â Busnesau (CYB) neu CYB dan hyfforddiant

03/08/18 D

CYB/CYB dan hyfforddiant 28/01/19 D

CYB/CYB dan hyfforddiant 11/02/19 D

Cynghorydd Gyrfa / Cynghorydd Gyrfa dan hyfforddiant

09/03/18 D

Cydlynydd Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith (CGBG) 19/02/19 D

CGBG 13/07/18 D

CGBG 11/09/18 H

Hyfforddwyr Cyflogadwyedd – Cyswllt Gyrfa Cymru

07/09/18 D

Technegydd TGCh 30/11/18 D

Technegydd TGCh 07/01/19 D

Page 14: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

Cydlynydd Dysgu a Datblygu 23/02/18 D

Cydlynydd Dysgu a Datblygu 06/07/18 D

Cydlynydd Dysgu a Datblygu (Ailbennu dros dro) 05/11/18 D

Rheolwr Marchnata 15/01/19 D

Rheolwr Datblygu Gweithredol (RhDG) (Tîm Digidol)

26/09/18 D

RhDG (Gwasanaethau Rhanddeiliaid) 14/11/18 D

Rheolwr Prosiectau (Porth Cyngor Cyflogaeth) 06/07/18 D

Rheolwr Ansawdd a Chynllunio 08/12/18 D

Swyddog Ymchwil a Gwerthuso 18/05/18 D

Uwch Swyddog Gwybodaeth Rheoli 06/07/18 D

Uwch Gydlynydd Marchnata 06/07/18 D

Uwch Ddatblygwr Systemau (Porth Cyngor Cyflogaeth)

06/07/18 D

Prentis Cyfryngau Cymdeithasol 07/02/19 D

Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid (Porth Cyngor Cyflogaeth)

06/07/18 D

Mentor STEM 14/01/19 D

Mentoriaid STEM (x3) 28/11/18 H

Rheolwr Tîm 08/10/18 D

Rheolwr Tîm (STEM) (Ailbennu dros dro) 14/11/18 D

Rheolwr Tîm (Tîm Digidol) 18/06/18 D

Rheolwr Tîm (Ailbennu dros dro) 14/01/19 Un H ac un D

CYB dan hyfforddiant 25/9/18 D

CYB dan hyfforddiant 03/08/18 D

Cynghorydd Gyrfa/Cynghorydd Gyrfa dan hyfforddiant

05/09/18 D

Datblygwr Systemau dan hyfforddiant 05/11/18 D

3.9 Cwynion Cawsom dair cwyn yn ymwneud â’n safonau cyflenwi gwasanaethau a dwy gŵyn yn ymwneud â’n safonau gweithredol yn ystod blwyddyn fusnes 2018-19.

Safonau Cyflenwi Gwasanaethau Cafwyd dwy gŵyn yn ymwneud â’n gwasanaeth gymorth dros y ffôn, Cyswllt Gyrfa Cymru. Roedd un gŵyn yn ymwneud â’r diffyg opsiwn Cymraeg o ganlyniad i absenoldeb salwch staff ar y diwrnod penodol. Roedd yr ail gŵyn yn ymwneud ag amseroedd aros hir ar gyfer yr opsiwn Cymraeg ar Gyswllt Gyrfa Cymru, ond eglurwyd i’r cwsmer fod amseroedd aros galwadau yn hwy gan ei bod yn gyfnod canlyniadau TGAU.

Roedd y drydedd gŵyn yn ymwneud ag amser aros hir ar gyfer yr opsiwn Cymraeg ar ein gwasanaeth sgwrsio dros y we.

Cafodd yr holl gwynion eu trafod â’r cwsmeriaid penodol, a chynigiwyd a darparwyd gwasanaeth Cymraeg yn unol â dymuniadau’r cwsmer.

Gwnaed y tair cwyn yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn fusnes. Yn ail hanner y flwyddyn fusnes, gwnaethom gynyddu ein sgiliau Cymraeg ar y llinell gymorth ar y ffôn a’r gwasanaeth sgwrsio dros y we, ac rydym hefyd yn monitro’r amseroedd aros ar gyfer ein sianeli Cymraeg a Saesneg yn well. Mae’n dda gennym adrodd na chafwyd dim cwynion pellach er cynyddu ein sgiliau Cymraeg.

Page 15: Adroddiad Blynyddol · dewis i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac rydym yn gwirio cofnodion ... ymchwil gyffredinol, gwneud ceisiadau, creu CV a gwneud cwis

Safonau Gweithredol Cafwyd ein cwyn gyntaf ynghylch ein safonau gweithredol gan brifathro a oedd yn pryderu gan fod y gwiriwr geirdaon, ar ffurf holiadur, a dderbyniodd gennym yn Saesneg yn unig. Wrth ymateb, gwnaethom egluro ein bod yn defnyddio cwmni allanol i wirio manylion ceisiadau gan ymgeiswyr ar gyfer swyddi â Gyrfa Cymru, gan gynnwys cadarnhau eu hanes cyflogaeth, eu cymwysterau a siarad ag unigolion a all ddarparu geirda ar eu rhan. Wrth chwilio am ddarparwyr i gynnig y gwasanaeth hwn, gwnaethom gydnabod yr angen am wasanaeth dwyieithog, ond nid ydym, ar brydiau, wedi gallu canfod darparwr sy’n gallu bodloni’r gofyniad hwn. Rydym yn dal i chwilio am ddarparwr a fydd yn gallu gweithio’n ddwyieithog gan obeithio y byddwn yn gallu cael gohebiaeth ddwyieithog ar yr agwedd hon ar ein gwaith. Yn dilyn y gŵyn, rydym wedi ymrwymo i gysylltu â phob ymgeisydd cyn y broses o wirio ceisiadau, gan roi eglurhad ac ymddiheuriad iddynt na all y cwmni allanol hwn ddarparu gohebiaeth yn ddwyieithog. Gallent hwy fanteisio ar y cyfle i gysylltu â’u geirda i roi gwybod iddynt am y sefyllfa.

Gwnaed yr ail gŵyn gan ymgeisydd aflwyddiannus a gwynodd fod y llythyr hysbysu dwyieithog a dderbyniodd wedi’i anfon ato gyda’r neges Saesneg yn ymddangos cyn y Gymraeg. Gwnaethom ymddiheuro i’r achwynydd am fethu â chyrraedd ein safonau uchel arferol, a rhoddwyd sicrwydd i’r ymgeisydd y byddem yn cymryd y camau priodol i atal hyn rhag digwydd eto.