31
Adroddiad Blynyddol Mudiad Meithrin 2018 – 2019 #MeithrinMiliwn #DysguTrwyChwarae #Cymraeg2050

Adroddiad Blynyddol Mudiad Meithrin 2018 – 2019...Gair gan Dr Rhodri Llwyd Morgan Cadeirydd Mudiad Meithrin. Eleni eto bu’n flwyddyn ddiarhebol o brysur lle gwelwyd cynnydd pwrpasol

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Adroddiad Blynyddol Mudiad Meithrin2018 – 2019#MeithrinMiliwn #DysguTrwyChwarae #Cymraeg2050

  • Cynnwys1. Gair gan y Cadeirydd 3

    2. Y Flwyddyn a Fu 4

    3. Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr 6

    4. Creu Siaradwyr Newydd 9

    5. Nod ac Egwyddorion yr Elusen 10

    6. Prif Ddangosyddion Perfformiad (ariannol) 11

    7. Adroddiad y Prif Weithredwr 15

    8. Pigion Eraill o’r Flwyddyn aeth Heibio 17

    9. Y Flwyddyn Mewn Lluniau 20

    10. Cydweithio ‘Cwlwm’ 22

    11. Cefnogaeth ariannol 24

    12. Datganiad o Gyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr 27

    13. Adroddiad Ariannol 28

    14. Adroddiad y Trysorydd 30

    15. Aelodau’r Bwrdd 31 (y Cyfarwyddwyr a'r Ymddiriedolwyr)

    iolaSticky Note

    iolaSticky NoteGair gan y Prif Weithredwr

  • 3

    Gair ganDr Rhodri Llwyd MorganCadeirydd Mudiad Meithrin

    Eleni eto bu’n flwyddyn ddiarhebol o brysur lle gwelwyd cynnydd pwrpasol mewn sawl maes gan gynnal safonau hynod uchel ym mhob un o’r prif weithgareddau ac yn wyneb hinsawdd sydd yn cynnig digon o heriau hefyd. Mae’r tîm canolog wedi gweithio hyd eithaf eu gallu er mwyn cwrdd â’r targedau ar gyfer ehangu darpariaeth i ardaloedd newydd ac maent wedi profi llwyddiant yn hyn o beth drwy weithio’n effeithiol dros ben gyda’r cymunedau lleol, a thanio brwdfrydedd timoedd newydd sbon o wirfoddolwyr. Maent hefyd wedi ymroi i’r eithaf er mwyn cynnal ansawdd y gwasanaeth a gynigir i’r holl ddarpariaethau sydd yn eu lle ers blynyddoedd a thrwy hynny sicrhau bod y gefnogaeth yno i gynnal Cylchoedd ledled y wlad. Ar ben hynny fe welwyd arloesi drwy’r cynllun ‘Clwb Cwtsh’ ynghyd â chadarnhau llwyddiant y cynllun ‘Cymraeg i Blant’ yn sgil adolygiad a ddaeth i’r casgliad ei fod yn cael ei reoli’n effeithiol iawn. Darparwyd arweinyddiaeth sefydlog i bartneriaeth ‘Cwlwm’ gan sicrhau fod y Mudiad a gweddill y sector yn cyfrannu cefnogaeth systemig a strategol i gynlluniau Llywodraeth Cymru ym maes gofal plant, y safonau gofynnol cenedlaethol, anghenion dysgu ychwanegol, ac i weithlu’r sector mewn sawl maes. Gwelwyd perfformiad ariannol sefydlog gan orffen y flwyddyn gyda gwarged ceidwadol o ychydig dros £8,000. Afraid dweud ein bod yn profi trai yn ogystal â llanw oherwydd fe gafwyd cadarnhad – yn sgil newidiadau sylweddol i’r tirlun cymwysterau galwedigaethol – fod y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol yn dod i ben. Gallwn ymfalchïo yn llwyddiannau’r Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol a’r Cynllun Ysgolion sydd wedi galluogi 3,440 o

    hyfforddeion i ennill y cymwysterau angenrheidiol ac i ddod yn rhan o weithlu hollbwysig o safbwynt gofal a datblygiad y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar. Er y bydd bwlch sylweddol o golli arbenigedd, isadeiledd a phrofiad Mudiad Meithrin yn y maes, hyderir y daw cyfleon newydd i barhau â’r gwaith mewn ffyrdd arbrofol a hynny drwy amryw bartneriaethau. Braf hefyd gallu adrodd y bydd yr unigolion a fu ynghlwm â’r gwaith yn cael defnyddio eu doniau fel rhan o gynllun hyfforddiant trochi iaith ‘Croesi’r Bont’ fydd ar gael ar raddfa genedlaethol am y tro cyntaf. Rydym yn ddiolchgar dros ben iddynt am eu cyfraniad mawr at y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol. Dyna arwain at fynegi diolchiadau mwy cyffredinol i bawb am eu cyfraniad at Mudiad Meithrin. Yn y lle cyntaf hoffwn ddiolch i holl aelodau’r Bwrdd Cyfarwyddwyr am eu cymwynasau a’u doethineb. Hoffwn ddiolch i Gwenllian, y Prif Weithredwr, ac i bob aelod o staff y Mudiad am eu gwaith diflino a’u hymroddiad. Ac yn olaf hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd yn gweithio ac yn gwirfoddoli yn y rhwydwaith cenedlaethol o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a Meithrinfeydd dydd. Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael bod yn gadeirydd cenedlaethol ar fudiad sydd mor agos at galonnau’r genedl, sy’n arddel y safonau uchaf posib ar gyfer darpariaeth gofal ac addysg yn y blynyddoedd cynnar ac sy’n cyfrannu mewn ffordd mor amlwg ac ymarferol at greu siaradwyr a defnyddwyr Cymraeg y dyfodol. Ymlaen!

  • sef canran y plant

    yn

    mynd o Gylch Meith

    rin

    i dderbyn addysg

    Gymraeg (y canran

    uchaf erioed)

    88.1%

    o blant mewn Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd*

    12,77319

    Cylch Meithrin newydd wedi agor (ers Medi 2017)

    Y flwyddyn a fu mewn ystadegau

    Cylch Ti a Fi wedi agor (ers Medi 2017)

    43

    ar ein cyfrifon ‘Facebook’ a ‘Twitter’ (cenedlaethol a thaleithiol)

    30,013o ddilynwyr

    6,008 o blant mewn Cylchoedd Ti a Fi*

    o blant wedi m

    ynychu

    sesiynau Cymr

    aeg i Blant

    33,564

    (Tylino babi, ioga babi, stori a chân)

    sesiwn ‘Cymraeg i Blant’

    4,240

    o oedolion wedi mynychu sesiynau Cymraeg i Blant

    32,5414

    *Noder fod y ffigwr hwn yn debygol o godi gan y cesglir data niferoedd plant

    ar gyfer y flwyddyn dan sylw ym mis Tachwedd 2019. Byddwn yn cyhoeddi’r

    data terfynol bryd hynny.

  • – gwarged

    y flwyddyn£8,858

    Y flwyddyn a fu mewn ystadegau

    816o oedolion yn mynychu sesiynau ‘Clwb Cwtsh’ gyda chyfradd gymhwyso o 65% o bobl wedi cymryd rhan yng

    ngweithgareddau hybu a hyrwyddo (Gw^ yl Dewin a Doti, Parti Piws mwyaf y Byd ayyb)

    31,925

    o gyrsiau hyfforddiant 'Academi' wedi eu cynnal gyda 2,043 o unigolion yn mynychu

    142234

    wedi cymhwyso i fod yn ymarferwyr gofal plant trwy’n Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol a’n cynllun ysgolion.

    5

  • Cyflwyna’r Ymddiriedolwyr, sef aelodau Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin, eu hadroddiad a’r adroddiadau ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2019.

    Strwythur, Trefn Lywodraethol a RheolaethMae’r elusen yn cael ei rheoli gan ei memorandwm ac erthyglau, a fabwysiadwyd ar 14 Medi 1987, gydag addasiadau wedi’u dyddio 5 Hydref 1996, 2 Hydref 1999 a 21 Hydref 2016. Mae cyfraniad pob aelod o’r elusen wedi ei gyfyngu i £1 tuag at asedau os yw’r elusen yn cael ei diddymu.

    Mae Mudiad Meithrin yn fudiad gwirfoddol, sy’n golygu ei fod yn cael ei reoli ar bob lefel gan wirfoddolwyr. Ffurfiwyd Mudiad Meithrin i hybu a chefnogi addysg, gofal a datblygiad plant dan

    bump oed drwy’r Gymraeg o fewn Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, meithrinfeydd dydd a darpariaethau amrywiol eraill.

    Mae aelodaeth Mudiad Meithrin yn agored i bob Cylch Meithrin, Cylch Ti a Fi, Cylch Cyfansawdd, meithrinfeydd dydd ac unigolion, os ydynt:

    • Yn talu ffi aelodaeth yn flynyddol.

    • Yn cadw at amcanion a pholisïau Mudiad Meithrin, ac

    • Yn achos y Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Cyfansawdd a Chylchoedd Ti a Fi, eu bod wedi cofrestru yn unol â rheoliadau cyfreithiol yn derbyn cyfansoddiad sydd yn sicrhau mai’r Gymraeg yn unig yw iaith weithredol y Cylch, a bod y Cylch yn derbyn unrhyw blentyn y mae ei rieni yn dymuno iddo / iddi dderbyn ei

    ofal ac addysg blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.

    Mae Mudiad Meithrin wedi ei rannu i bwrpas gweithgaredd i 22 sir sydd

    â’u ffiniau yn cyfateb â ffiniau presennol Llywodraeth Leol. Ceir pedair talaith weithredol sydd yn cyfateb i ffiniau’r Awdurdodau Lleol (gyda

    Phowys yn eithriad).

    Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr

    6

  • Y Bwrdd Cyfarwyddwyr yw corff llywodraethol Mudiad Meithrin a’i aelodau yw Ymddiriedolwyr yr elusen. Y Bwrdd yw cyngor llywodraethol yr elusen sydd yn gyfrifol am faterion polisi. Aelodau’r Bwrdd yw Swyddogion Mygedol y Mudiad, aelodau etholedig o bob talaith ac aelodau cyfetholedig. Mae aelodau Tîm Strategol Mudiad Meithrin hefyd yn mynychu’r cyfarfodydd Bwrdd er mwyn adrodd ar gyflawniad a chynnig cyngor yn ôl yr angen. Mae rheolwyr Mudiad Meithrin yn cael eu galw yn ôl yr angen.

    Mae ymddiriedolwr yn derbyn pecyn anwytho wrth gael eu hapwyntio er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o bolisïau a threfniadau’r elusen. Mae apwyntiadau’n digwydd trwy

    broses agored a thryloyw gyda recriwtio agored a phenodiad trwy gyfweliad gan aelodau o’r Bwrdd Cyfarwyddwyr.

    Mae’r Prif Weithredwr yn cael ei apwyntio gan y Swyddogion Cenedlaethol, a fe/hi sydd yn gofalu am weithrediad dydd i ddydd y Mudiad. Cadarnhawyd gweledigaeth 10 mlynedd (2015-2025) Dewiniaith ar ôl ymgynghori gyda’r gwirfoddolwyr, staff a’r cyhoedd. Mae’n cynnwys targedau i bob adran o waith Mudiad Meithrin, ac fe’i hadolygir yn flynyddol dan oruchwyliaeth y Prif Weithredwr. Mae’n amlinellu targedau a blaenoriaethau gwaith Mudiad Meithrin ac felly’n llywio gweithgareddau’r sefydliad tra bod cynlluniau gwaith yn cael eu datblygu ar gyfer prosiectau amrywiol hefyd.

    Nid yw aelodau’r Bwrdd yn cael derbyn tâl na budd mewn unrhyw ffordd, ar wahân

    lle caniateir hynny dan Erthyglau a Memorandwm y Cwmni e.e. costau teithio.

    Y Bwrdd Cyfarwyddwyr

    Is-bwyllgorau’r Bwrdd

    Mae’r Bwrdd yn gallu penderfynu cynnull is-bwyllgorau yn ôl yr angen. Ceir un is-bwyllgor yn

    bresennol sef is-bwyllgor Cyllid sydd yn cadw gorolwg dros

    faterion archwilio, staffio a risg. Mae’n cyfarfod yn ddeu-fisol ac yn adrodd i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn

    ddeu-fisol.

    7

  • Adolygiad risgMae’r Bwrdd wedi adolygu’r risgiau penodol i’r Mudiad gan geisio rheoli’r risg drwy fabwysiadu cofrestr a systemau priodol. Mae’r broses hon yn dilyn cofnod o’r prif risg, yn fewnol ac yn allanol. Mae’r Is-bwyllgor Cyllid yn sicrhau fod risg yn cael ei reoli a bod trefn mewn lle i sicrhau adolygiad parhaus.

    Mae’r prif risgiau fel a ganlyn:• Risgiau Strategol e.e. diffyg cyfeiriad gan fethu

    ymateb i flaenoriaethau ein haelodau a’n cyllidwyr

    • Risgiau Ariannol e.e. colli grantiau, diffyg cydymffurfiaeth, twyll / camgymeriadau.

    • Risgiau Gweithredol e.e. argyfwng mewn lleoliad, diffygion mewn isadeiledd, iechyd a diogelwch.

    • Risgiau allanol e.e. diffyg cefnogaeth i ofal ac addysg cyfrwng Cymraeg a newidiadau polisi ar lefel Awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a chyllidwyr eraill.

    Gweithgareddau ac Arolwg BusnesPrif weithgarwch y Mudiad yw darparu gofal plant, profiadau chwarae ac addysg Blynyddoedd Cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg mewn meithrinfeydd dydd, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’ (cynllun sy’n helpu rhieni i gyflwyno’r Gymraeg i’w plant), Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Cyfansawdd. Mae cynlluniau cefnogi atodol fel cynllun cychwyn dysgu Cymraeg (‘Clwb Cwtsh’), cynlluniau trochi iaith fel ‘Croesi’r Bont’ a chynlluniau cyfeirio’n cael eu rheoli gan y Mudiad hefyd. Caiff y Mudiad ei ariannu gan grantiau a ddosberthir fel cymorth staffio a chyfundrefnol ynghyd â grantiau uniongyrchol. Ystyria’r Cyfarwyddwyr fod y canlyniadau am y flwyddyn a rhagolygon y cwmni a’r grŵp i’r dyfodol yn foddhaol.

    Canlyniadau am y cyfnod

    Roedd yr incwm dros wariant cyfnod yn £8,858 (2018 = £22,000).

    8

  • Cylch Ti a FiPwrpas y Cylch Ti a Fi yw galluogi babis a phlant i gyd-chwarae a chymdeithasu gyda’u rhieni/gofalwyr mewn awyrgylch Gymreig a Chymraeg sy’n gynhwysol a chroesawgar gan baratoi’r plentyn i fynd i’r Cylch Meithrin.

    9

    Rhaglen ‘Cymraeg i Blant’Pwrpas y gwaith yw rhoi cyfle i rieni i ddechrau defnyddio’r Gymraeg gyda’u babi neu blentyn gan hefyd hyrwyddo gofal plant ac addysg Gymraeg trwy gyfrwng canu, tylino ac ioga babi a’u hannog i symud ymlaen i Gylchoedd Ti a Fi.

    Creu Siaradwyr Cymraeg Newydd:

    #MeithrinMiliwn

    #Cymraeg2050

    Cynllun ‘Clwb Cwtsh’Pwrpas y gwaith yw cyflwyno’r Gymraeg mewn sesiynau blasu wythnosol i rieni/gofalwyr di-Gymraeg gan eu helpu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y cartref gyda’u plant ac i symud ymlaen i gwrs Cymraeg arall.Cylch Meith

    rin

    Pwrpas y Cylch Meithrin

    yw rhoi cyfle i blant

    2-5 oed i ddysgu trwy

    chwarae a derbyn gofal

    o ansawdd trwy gyfrwng

    y Gymraeg mewn

    lleoliad wedi’i gofrestru.

    Arwain hyn at dderbyn

    addysg Gymraeg yn yr

    ysgol maes o law. Yn

    aml, mae’r Cylchoedd

    Meithrin yn darparu’r

    Cyfnod Sylfaen, cynllun

    trechu tlodi ‘Dechrau’n

    Deg’ neu’r cynnig gofal

    plant 30 awr.

    Ymlaen i Addysg Gymraeg

    Cynllun Hyfforddi

    Cenedlaethol / Academi

    Pwrpas y gwaith yw sicrhau

    fod

    cyflenwad o staff cymwys sy

    ’n meddu ar

    sgiliau Cymraeg ar gael ar gy

    fer y sector

    Blynyddoedd Cynnar. O fis Me

    di 2019 bydd y

    Cynllun yma'n dod i ben dan

    adain y Mudiad

    ond byddwn yn parhau i dda

    rparu cyrsiau

    wedi eu dilysu mewn ysgolio

    n uwchradd,

    ynghyd â chynllun Diploma L

    efel 3 mewn

    lleoliad (Cylch Meithrin, meith

    rinfa ayyb).

    Mae ‘Academi’ yn darparu c

    yfleon cyson

    i staff a phwyllgorau rheoli g

    wirfoddol y

    Cylchoedd i uwch-sgilio

    a datblygu.

  • Nod ac egwyddorion

    yr elusenPrif nod yr elusen a’i is-gwmni yw hybu a hyrwyddo addysg, gofal a datblygiad plant dan bum mlwydd oed, drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg mewn Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi ac mewn darpariaethau eraill.

    Nod Mudiad Meithrin yw rhoi cyfle i bob plentyn dan oed ysgol yng Nghymru fanteisio ar brofiadau Blynyddoedd Cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Mudiad Meithrin yn credu:

    • Bod yr iaith Gymraeg o fantais i blant. Byddwn yn trefnu cymaint â phosibl o oriau cyswllt â hi gan ddefnyddio Cymraeg yn unig yng ngweithgareddau’r cylchoedd.

    • Bod chwarae yn sylfaenol i ddatblygiad plant yn gorfforol, yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn ddeallusol. Byddwn yn sicrhau pob cyfle ar gyfer dysgu trwy chwarae yn y cylchoedd.

    • Bod plant waeth beth fo’u hanghenion, yn elwa o brofiadau grŵ p Cymraeg i Blant, Cylch Ti a Fi a Chylch Meithrin. Rydym yn croesawu plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

    • Bod y teulu yn sylfaen i ddatblygiad plant. Byddwn yn sicrhau pob cyfle i deuluoedd gefnogi profiadau cyn ysgol eu plant, ac yn cynnig cefnogaeth ieithyddol a chymdeithasol i deuluoedd trwy weithgareddau’r grŵp Cymraeg i Blant, Cylch Ti a Fi a Chylch Meithrin.

    • Bod gan blant yr hawl i ddisgwyl y bydd oedolion sydd yn gofalu amdanynt yn eu hamddiffyn rhag camdriniaeth. Bydd y Cylchoedd Ti a Fi a’r Cylchoedd Meithrin yn cydweithio â’r gwasanaethau statudol i amddiffyn ac i ddiogelu plant.

    • Bod dilyniant i addysg Gymraeg yn hanfodol i bob plentyn sy’n mynychu ein Cylchoedd.

    I’r perwyl hwn, rydym yn galw am sefydlu ysgol Gymraeg o fewn cyrraedd hwylus i bob plentyn waeth ble maent yn byw.

    10

  • Prif ddangosyddion perfformiad (ariannol) Mae’r Mudiad yn defnyddio sawl dangosydd i adolygu ei berfformiad ariannol. Mae’r rhelyw o’r rhain yn cynnwys cymharu’r perfformiad gyda disgwyliad cyllideb. Mae gan bob is-gwmni a phrosiect gyllideb a tharged sy’n cael eu hadolygu fesul chwarter yn arferol gan y cyllidwr. Adolygir y cyfrifon yn fisol. Tra dylai pob prosiect anelu i gyfrannu elfen o incwm tuag at y gost weinyddol lle bo hynny’n bosibl, bellach mae cyllidwyr yn dueddol o ffafrio peidio darparu ffi reoli i’r perwyl hwn.

    11

  • Prif dargedau • Cefnogi, cynghori a chynorthwyo

    darpariaethau (Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi) fel asedau cymunedol i aros ar agor, i gryfhau eu cynaliadwyedd ac i ehangu gwasanaethau ym mhob agwedd o’u gwaith (gan sicrhau cydlyniant agos gydag asiantaethau perthnasol fel Estyn, AGC, Cynghorau Sir a thrwy ddarparu cyngor ac arweiniad proffesiynol iddynt).

    • Hybu a hyrwyddo gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn diwallu gofynion strategaeth ‘Cymraeg 2050’ drwy gyfrwng grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin gan sefydlu cylchoedd cyfansawdd newydd yn unol â chynllun gwaith ‘Sefydlu a Symud’ Mudiad Meithrin.

    • Adnabod bylchau mewn darpariaeth gofal plant a chyfleoedd i ehangu gwasanaethau trwy’r cynllun ‘Cynnig Gofal Plant’ (30 awr) ac agor darpariaethau newydd gan symbylu’r galw am ofal plant ac addysg Gymraeg (Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd meithrin) trwy gasglu a dadansoddi data.

    • Ymateb yn rhagweithiol i ymgynghoriadau a chymryd rhan mewn prosesau polisi a fforymau iaith yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol (fel y CSGAau, Asesiadau Digonolrwydd Plant, Grŵ p Hyrwyddo’r Gymraeg ayyb).

    • Dylanwadu ar drafodaeth cymdeithas sifig ac agenda ymchwil i hybu a hyrwyddo gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg.

    • Cynnal gweithgareddau hybu a hyrwyddo i farchnata a normaleiddio gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg trwy weithio gyda phartneriaid a thrwy strategaeth

    “hwyl” e.e. Parti Pyjamas, Gŵ yl Dewin a Doti, digwyddiadau ‘Dau Gi Bach’, mynychu sioeau/digwyddiadau lleol a chenedlaethol.

    • Cynnig arlwy DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) trwy adran 'Academi' i gymuned Mudiad Meithrin (ar feysydd perthnasol i fywyd y Cylch Meithrin yn ei holl ehangder).

    • Cyd-weithio gyda phartneriaid yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i adnabod cyfleon i gyflwyno cwrs ‘Cymraeg i’r Teulu’, i redeg cynllun Erfyn Diagnostig Iaith ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, i hyrwyddo cwrs ‘Cymraeg Gwaith’ ac i redeg cynllun arloesol ‘Clwb Cwtsh’.

    • Darparu cyngor ac arweiniad i’r sector ar faterion yn ymwneud â’r Cyfnod Sylfaen a phob agwedd sy’n ymwneud â sicrhau rheolaeth dda, llywodraethiant gadarn a chynnig darpariaeth o ansawdd (trwy gynlluniau rheoli cadarn a chynllun ‘Safonau Serennog) yn y cylchoedd.

    12

  • Budd cyhoeddusMae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig gyda’i amcanion elusennol wedi eu nodi o fewn rheolau Deddf Elusennau 2006 i gefnogi a chynorthwyo gofal, addysg a datblygiad plant dan bump oed drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Cyfansawdd a meithrinfeydd dydd.

    Darpara Mudiad Meithrin fudd cyhoeddus drwy help ariannol a chymorth bugeiliol i’w aelodau. Mae’r rhan fwyaf o Gylchoedd Meithrin yn elusennau cofrestredig eu hunain. Mae Cylchoedd Meithrin yn agored i unrhyw blentyn trwy Gymru, heb rwystr cymdeithasol, corfforol neu ymenyddol. Mae ffioedd y Cylchoedd ar raddfa briodol er mwyn sicrhau eu bod o fewn cyrraedd ariannol i bob rhiant a phenderfyniad pob Cylch unigol yw’r lefel. Mewn nifer o siroedd, mae cymhorthdal ffioedd ar gael (trwy gynlluniau megis Dechrau’n Deg neu gynlluniau addysg i blant 3 oed a hy^n ac, yn gynyddol, y Cynnig Gofal Plant).

    Mae’r Cylchoedd yn talu ffi cofrestru/aelodaeth i Mudiad Meithrin, ac o’r herwydd yn gallu cael eu cynrychioli ar y Bwrdd trwy system o gynrychiolaeth daleithiol, yn y pwyllgorau sir a hefyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Mudiad Meithrin.

    Gall unrhyw Gylch ddod yn aelod o Mudiad Meithrin cyn belled â’i fod yn cytuno gydag amodau’r aelodaeth.

    Polisi cronfeyddMae Mudiad Meithrin (yr elusen) yn ymdrechu i gadw gwerth o leiaf chwe mis o wariant cyffredinol mewn cronfeydd wrth gefn, sy’n cyfateb i £800,000 mewn cronfeydd anghyfyngedig, heb eu clymu mewn asedau nac wedi eu dynodi ar gyfer pwrpas arbennig. Ar y lefel hwn, cred yr Ymddiriedolwyr y gall yr elusen barhau mewn bodolaeth am gyfnod byr pe byddai lleihad mewn incwm.

    Polisi buddsoddiMae polisi buddsoddi ar gyfer Ymddiriedolwyr wedi ei gyfeirio gan y Memorandwm ac Erthyglau. Maent wedi buddsoddi mewn cymysgedd o stoc lywodraethol, cyfranddaliadau a buddsoddiadau eraill gan gynnwys gyda Sefydliad Cymunedol Cymru i gyrraedd y gofyniad i gynhyrchu incwm. Gwnaethpwyd incwm o 4.98% (2018: 0.37%).

    13

  • Polisi cyflogaeth

    Mae’r elusen yn gyflogwr cyfle cyfartal a cheir polisïau manwl i adlewyrchu hynny yn y llawlyfr cwmni sydd yn gosod safonau disgwyliedig ar gyfer staff a gwirfoddolwyr. Ceir proses arfarnu a rheoli perfformiad sydd yn digwydd yn flynyddol (yn ffurfiol) ac yn anffurfiol bob 6 mis. Ceir Grŵ p Fforwm Staff er mwyn cynrychioli a rhoi llais i aelodau staff ym mhob adran a thalaith.

    Mae’r elusen yn ymgyrraedd yn barhaus i gyrraedd safon uchel ar draws yr elusen yn y ffordd y mae unigolion yn delio gyda’i gilydd. Bydd pob aelod o staff yn cael ei hybu i ddatblygu ei botensial a’i dalentau, er mwyn sicrhau bod yr elusen yn elwa o’r gwaith mwyaf effeithiol. Mae hyn yn cynnwys system arfarnu, cyfleon i uwch-sgilio a mynychu hyfforddiant, darpariaeth Datblygiad Proffesiynol Parhaus a threfn rheoli perfformiad. Yn ychwanegol, yn sgil sefydlu cartref i holl faterion uwch sgilio, hyfforddi a Datblygiad Proffesiynol Parhaus Mudiad Meithrin sef ‘academi’, mae ystod o gyfleon Datblygiad Proffesiynol Parhaus a hyfforddi ar gael yn daleithiol, yn genedlaethol ac ar-lein i bawb.

    Is-gwmni

    Mae’r cyfrifon sydd yn yr adroddiad yn cynrychioli’r canlyniad cyfnerthedig o’r elusen a’i is-gwmni, Meithrinfeydd Cymru Cyf. Mae prif nod ac amcanion yr is-gwmni yma fel a ganlyn:

    • Meithrinfeydd Cymru Cyf (MCC) - rheoli meithrinfeydd dydd yr elusen a Chylchoedd Meithrin penodol sydd yn aelodau o MCC.

    Mae’r cwmni yn rhoi unrhyw elw i’r elusen drwy rodd gymorth.

    14

  • Gair gan y Prif WeithredwrDr Gwenllian Lansdown Davies

    Perfformiad y flwyddyn

    ‘Dyw gwaith Mudiad Meithrin byth yn darfod nac yn debygol o wneud ‘chwaith. Hyd yn oed pe bai pob darpariaeth neu leoliad Blynyddoedd Cynnar yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, byddai angen cefnogaeth, cyngor ac anogaeth ar y staff, gwirfoddolwyr a’r rhieni ym mhob maes polisi perthnasol arall. Bu hon felly’n flwyddyn o barhau gyda’r gwaith bara menyn, o roi cynlluniau newydd (megis prosiect sefydlu 40 Cylch Meithrin newydd cyn 2021) ar waith ac o baratoi at newidiadau sylfaenol (ym maes y gweithlu, cymwysterau a’r cwricwlwm newydd).

    Cafwyd blwyddyn dda o ran ansawdd a safon y ddarpariaeth yn y Cylchoedd Meithrin gyda’n staff (ac eraill) yn eu cefnogi a’u cynghori yn uniongyrchol, trwy ddarpariaeth gynyddol ‘Academi’ a thrwy gynllun ansawdd ‘Safonau Serennog’. Cynhaliwyd trydedd seremoni wobrwyo Mudiad Meithrin (i ddathlu rhagoriaeth yn ein darpariaethau) a dechreuwyd ar y gwaith o sefydlu Cylchoedd Meithrin newydd (dan faner cynllun ‘Sefydlu a Symud’) fel a nodir uchod. Ers Medi 2017, agorwyd 19 Cylch Meithrin newydd.

    Yn sgil newyddion y flwyddyn flaenorol fod cynllun hyfforddiant cenedlaethol ‘Cam wrth Gam’ (un o ddeilliannau cyfnod ‘Iaith Pawb’) yn wynebu newidiadau sylfaenol, darparwyd estyniad blwyddyn atodol i’r cynllun. Nid oedd y cynllun i is-gontractio gyda gwahanol ddarparwyr ar y fframwaith cymhwyso drwy brentisiaethau (cynllun Ewropeaidd newydd) wedi profi’n or-llwyddianus (yn rhannol oherwydd gofynion beichus ar fyfyrwyr) er y gwnaed elw

    ceidwadol yn sgil y cynllun. Cyfrannodd Mudiad Meithrin yn helaeth at adolygiad gan Lywodraeth Cymru ac eraill o’r cynllun ac, yn wir, o fframwaith gymwysterau newydd ar gyfer y maes gofal plant.

    15

  • 16

    Yn y cyfamser, mae’n cynllun hyfforddi cenedlaethol wedi parhau gyda’r gwaith o gymhwyso ymarferwyr gofal drwy gyfrwng y Gymraeg gyda’r newyddion y bydd y cynllun yn sicr yn dod i ben yn 2019/20 gyda dyfodiad cyfundrefn cymwysterau newydd yn 2019. Gwnaed ymdrech arbennig i gyflwyno gwybodaeth i ddarpar ymarferwyr yn y Colegau Addysg Bellach ar fanteision dwyieithrwydd a gweithio yn y sector cyfrwng Cymraeg ac aed ati i geisio hybu partneriaethau gyda gwahanol Golegau.

    Aeth cynllun ‘Cymraeg i Blant’ o nerth i nerth gan adeiladu ar sefydlogrwydd y dair blynedd flaenorol trwy ennill tendr am gyfnod newydd. Effaith hyn fu sicrhau traw effaith i’r cynllun ar hyd Cymru gyfan gan gyfoethogi’r gwaith o gyd-weithio mewn partneriaeth gyda’r sector iechyd (bydwragedd, ymwelwyr iechyd, colegau ayyb). Dyma gynllun trwy raglen hwyliog o weithgareddau apelgar i rieni a theuluoedd (tylino babi, ioga babi, stori a chân ayyb) sydd yn parhau i sicrhau gweithgarwch gydlynus ym maes y Blynyddoedd Cynnar gan sicrhau taith iaith y plentyn o’r crud trwy’r grŵ p ‘Cymraeg i Blant’ i’r Cylch Ti a Fi ymlaen i’r Cylch Meithrin ac ymlaen i addysg Gymraeg gyda gweithgareddau cefnogol ychwanegol. Braf nodi fod cyfraddau dilyniant erbyn hyn dros 88% sef y canran uchaf erioed yn hanes Mudiad Meithrin.

    Prif darged ein holl waith yw cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg drwy weld cynnydd yn niferoedd y plant sy’n mynychu Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin a, maes o law, nifer y plant sy’n cyrraedd ac yn aros mewn

    addysg Gymraeg. Bydd y gwaith yma’n gyfraniad allweddol i darged newydd Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

    Dyma hefyd gefnlen i weithgaredd cynllun ‘Clwb Cwtsh’ a ariannwyd gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Daeth y newyddion yn hwyr yn 2017 fod awydd i gynnig cwrs ar lefel cyn-fynediad wedi’i anelu’n benodol at rieni a gofalwyr plant ifanc. Mewn byr o amser, llwyddodd y Mudiad i greu fframwaith ar gyfer cynllun dysgu 8 wythnos o hyd (wedi’i baratoi gan y tiwtor iaith Nia Parry) gafodd ei gynnig mewn 79 lleoliad daearyddol gwahanol gan gynnig adloniant i blant ar yr un pryd. Bu i dros 500 o unigolion gwblhau’r cwrs yn llwyddianus ac yn sgil gwerthusiad, cytunwyd i gyd-gyllido ail flwyddyn o’r cynllun (yn 2018/19) gyda niferoedd sylweddol o oedolion a phlant yn manteisio ar y cynllun arobryn hwn.

    Parhaodd Mudiad Meithrin i gynnig arweiniad cadarn i bartneriaeth strategol ‘Cwlwm’ gan gefnogi agenda mynd i’r afael â thlodi trwy atgyfnerthu gwaith rhaglenni cefnogi gofal plant, hawliau plant, chwarae a chyfranogi Llywodraeth Cymru. Cefnoga’r bartneriaeth deuluoedd mewn ffyrdd ymarferol a mesuradwy gyda phwyslais penodol ar faterion yn ymwneud â’r Cynnig Gofal Plant, maes Anghenion Dysgu Ychwanegol, cydweithio gydag AGC, y gweithlu, hybu’r Gymraeg, cefnogaeth fusnes a chynaliadwyedd.

    Bu hon yn flwyddyn sefydlog o safbwynt ariannol. Cyfrannodd sefydlogrwydd o ran sefyllfa staffio’r adran gyllid at hyn ynghyd â rheolaeth lym gan reolwyr ar gyllidebau, chwilio am ffynonellau incwm o’r newydd ac adolygu systemau a blaenoriaethau.

  • Pigion eraill o’r flwyddyn aeth heibio:

    Datblygu ac ehangu gwasanaethau• Cefnogi Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi

    gan hefyd roi arweiniad i Gylchoedd sy’n rhan o’r Cynnig Gofal Plant (darpariaeth 30 awr) neu sy’n dod yn y don nesaf

    • Parhau i gynllunio a chwrdd gydag adrannau Addysg a Blynyddoedd Cynnar yr Awdurdodau Lleol i gydweithio ar y grantiau Cyfalaf Addysg Gymraeg a grantiau cyfalaf Gofal Plant

    • Gweithredu prosiect ‘Sefydlu a Symud’: sef gwireddu’r gwaith o sefydlu 12 Cylch Meithrin / Ti a Fi newydd

    • Rhoi cynllun gweithredu Cymraeg i Blant ar waith yn sgil ennill y tendr

    • Gweithredu cymal 3 o gynllun #ClwbCwtsh ar y cyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

    • Dechrau ar y gwaith o adolygu gofynion data (dilyniant) y meithrinfeydd

    • Paratoi at benodi swyddog (trwy secondiad) i weithredu prosiect 3 mis ar ehangu aelodaeth Mudiad Meithrin i gynnwys categori newydd corfforaethol

    • Cyhoeddi memorandwm cydweithio gydag S4C• Rhyddhau pecynnau cofrestru 2018/19 ar gyfer

    aelodau Mudiad Meithrin• Casglu holiadur mewnol staff a dadansoddi’r

    cynnwys gan hefyd gynnig cyfarfodydd arfarnu ffurfiol ac anffurfiol

    17

  • 18

    Sicrhau Ansawdd a Safon gwaith ein haelodau

    • Cwblhau gweithredu blwyddyn 2 o brosiect EDI (Erfyn Diagnostig Iaith) gan ddyblu’r data a gesglir

    • Gweithredu targedau gwaith newydd ‘Cwlwm’ ar gyfer 2018-2021 gan gyd-weithio’n strategol gyda phartneriaid

    • Dylanwadu ac ymgyrchu ar ystod o faterion polisi gan ymateb i ymgynghoriadau perthnasol

    • Gweithio at gyhoeddi Strategaeth/Cynllun Cydraddoldeb ac Amrywiaeth newydd

    • Dylanwadu ac ymgynghori ar elfennau perthnasol y cwricwlwm newydd o safbwynt y Cyfnod Sylfaen.

    • Cynnal fforymau / gweithdai Cyfnod Sylfaen i hyrwyddo’r cydweithio rhwng yr ysgolion, consortia a’r Cylchoedd Meithrin a hyrwyddo defnydd o’r HWB

    • Dylanwadu ac eirioli ar faterion polisi mewn meysydd fel: ADY, y safonau gofynnol cenedlaethol, bwyd a maeth a materion cyfansoddiadol

    • Paratoi at arolwg sêl ansawdd PQASSO (sef sêl ar gyfer cael ein dynodi fel elusen ddibynadwy)

    • Arwain ar y BIL Anghenion Dysgu Ychwanegol• Adolygu polisïau mewnol Mudiad Meithrin• Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y

    newid i’r Safonau Gofynnol a pharatoi’n haelodau ar gyfer y newidiadau i ofynion AGC.

    Cefnogi Pwyllgorau Rheoli Gwirfoddol y Cylchoedd

    • Creu Pecyn Anwytho newydd i bwyllgorau rheoli gwirfoddol ar y wefan agored (h.y. nid ar y fewnrwyd yn unig)

    • Cyflwyno pecyn anwytho Pwyllgorau at ddefnydd y swyddogion cefnogi i’w ddefnyddio gyda Phwyllgorau ledled Cymru

    • Symud at gofrestru Cylchoedd Meithrin fel Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIOs), cofrestru lleoliadau gyda Mudiad Meithrin a chefnogi pwyllgorau i ail-gofrestru gydag AGC

    • Cynghori’n haelodau ar ofynion data GDPR• Hyrwyddo y Llyfr Mawr Piws (y canllawiau

    rheoli ar eu newydd wedd) i bwyllgorau a pharhau i gyhoeddi Llyfrau Bach Piws ar bynciau unigol

    • Datblygu syniadau ym mhapur trafod ‘Meddalwedd Meithrin’ sef cefnogaeth TGCh i Gylchoedd

    • Datblygu cyrsiau byr ar-lein sydd yn edrych ar agweddau gwahanol o rediad Cylchoedd

    • Cymryd rhan yn wythnos dathlu gwaith ymddiriedolwyr

  • 19

    Darparu hyfforddiant a chymhwyso’r gweithlu

    • Paratoi ar gyfer darparu a gweithredu’r cymwysterau galwedigaethol newydd ar gyfer y gweithlu gofal plant a chwarae

    • Parhau i ddarparu gweithdai a chefnogaeth i fyfyrwyr y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol a’r Cynllun Ysgolion (sy’n astudio cymhwyster sy’n drwydded i weithio yn y sector gofal)

    • Adnabod ysgolion newydd i ymuno â’r Cynllun Ysgolion

    • Datblygu cynllun gwirfoddoli ‘Meithrin Gyrfa’

    • Cynnal cynhadledd hyfforddiant staff Mudiad Meithrin

    • Parhau i beilota cynllun hyfforddiant trochi ‘Croesi’r Bont’ yn y de-ddwyrain ac i wreiddio yn y gogledd gan ddadlau’r achos am gynllun cenedlaethol

    • Gwireddu cynnwys prosbectws hyfforddiant a DPP ‘Academi’ gan sicrhau fod 2,000 o unigolion yn mynychu sesiynau hyfforddi

    • Gwireddu cam 2 o gynllun ‘Dwylo’n Dweud’ (iaith BSL) gyda Phrifysgol Bangor a Grŵ p Llandrillo Menai

    • Cyfrannu at wireddu cynlluniau cyrsiau iaith cenedlaethol, Cymraeg Cynnar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sef ‘Camau’

    Hybu, hyrwyddo a dathlu ein gwaith

    • Gweithredu ymgyrch gyhoeddusrwydd ‘Troed yr Enfys’ i recriwtio staff i’r Cylchoedd Meithrin

    • Cyhoeddi cylchlythyron tymhorol i’n haelodau

    • Cynnal cystadleuaeth ‘Meithrin Talent: Talent Meithrin’ ar y cyd gyda’r Urdd

    • Hyrwyddo Parti Piws Mwyaf y Byd (ar y 10 Ebrill)

    • Cynnal Taith Gŵ yl Dewin a Doti ledled Cymru ar y thema ‘Ffrindiau’r Môr’ gyda’r môr-leidr hoffus Ben Dant o Cyw

    • Hyrwyddo a chynnal Seremoni Wobrau ar gyfer y sector

    • Cydweithio gydag Awdurdod Lleol Casnewydd ar brosiect i greu fideos o ganeuon syml i blant

    • Cyhoeddi Prosbectws newydd safonol i Gylchoedd Meithrin a pharatoi at gyhoeddi deunydd hyrwyddo am ofal plant ac addysg Gymraeg mewn ystod o ieithoedd amrywiol

    • Hyrwyddo ap a llyfrau newydd Dewin a Doti (a phyped llaw) fel adnodd ychwanegol i’r Cylchoedd Meithrin (yn sgil galw am adnoddau o’r fath)

    • Gweithredu cynllun ‘Dotio ar Doti’ / Ble mae Doti?

    • Cynnal digwyddiad i hyrwyddo gwaith ‘Mudiad Meithrin’ yn y Pierhead, ger Senedd Cymru

    • Cynnal ymgyrch godi arian ‘Dau Gi Bach’ er budd y Cylchoedd

  • Y Flwyddyn

    Mewn Lluniau

    20

  • Y Flwyddyn

    Mewn Lluniau

    Y Flwyddyn

    Mewn Lluniau

    21

  • • Mae Cwlwm - prosiect a arweinir gan Mudiad Meithrin mewn partneriaeth â Clybiau Plant Cymru, NDNA Cymru, PACEY Cymru a Blynyddoedd Cynnar Cymru (Wales PPA yn flaenorol) - yn tynnu ynghyd y gallu, ar sail cyfoeth o brofiad, i fynd i’r afael â materion yn y sector Gofal Plant a Chwarae. Mae’r materion hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, cynaliadwyedd, datblygu’r gweithlu a bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant, yn enwedig yng nghyswllt gofal plant/chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg a darpariaeth mewn ardaloedd gwledig.

    Rhestrir isod dargedau cyffredinol Cwlwm ynghyd â’u cyflawniadau yn ystod y flwyddyn:

    Cydweithio - ‘Cwlwm’

    Targed Cyflawnodd partneriaid Cwlwm y targedau hyn, sy’n golygu:

    Hyrwyddo’r Cynnig Gofal Plant

    · Bod llais y sector wedi’i gynrychioli mewn trafodaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol

    · Bod y Cynnig Gofal Plant wedi’i hybu a’i hyrwyddo ar draws y sector ehangach ac yn yr ardaloedd peilot

    · Bod darpariaethau yn ymwybodol o fanteision y rhaglen Cynnig Gofal Plant trwy annog eu haelodau i gymryd rhan mewn digwyddiadau a drefnwyd a thrwy rannu’r holl wybodaeth berthnasol drwy sianelau cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyrau

    Datblygu’r Gweithlu a Hyfforddiant

    · Bod y sector Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae wedi helpu i hybu datblygiad y cymwysterau newydd

    · Bod cymorth a chefnogaeth i’r sector i dderbyn yr hyfforddiant cywir wedi ei ddarparu

    · Pan fydd y cymwysterau newydd yn cael eu cyflwyno, byddant yn cael eu hyrwyddo’n eang ar draws y sector a’r gweithlu er mwyn cymhwyso uwch-sgilio

    · Bydd y gweithlu’n parhau i wella a chodi sgiliau er mwyn cyfrannu at godi ansawdd ar draws lleoliadau gofal plant a chwarae

    Darparu Cefnogaeth Busnes

    · Bod gan y sector dealltwriaeth gwell o’r gefnogaeth busnes sydd ar gael iddynt fel darparwyr

    · Bydd lleihad mewn dyblygu gwaith yn lleol a chenedlaethol

    · Bydd strwythur clir mewn lle o atgyfeirio’r sector i’r darparwyr cymorth busnes priodol

    Cyfrannu at waith yn ymwneud ag Arolygaeth Gofal Cymru (AGC)

    · Bod llais y sector wedi’i gynrychioli mewn trafodaethau cenedlaethol gydag AGC

    · Bod ystyriaethau lles, diogelwch ac ansawdd wedi bod yn ganolog wrth arolygu ac adrodd ar ansawdd darpariaethau gofal plant a chwarae.

    2222

  • Cefnogi’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

    · Bod y Ddeddf wedi’i hyrwyddo ar draws y sector a’r gweithlu i sicrhau bod darparwyr wedi derbyn cefnogaeth i ddeall oblygiadau’r ddeddf a’u bod yn barod ar gyfer y newidiadau i ddod

    · Bod llais y sector wedi’i gynrychioli mewn trafodaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol gyda Llywodraeth Cymru

    · Bod y sector wedi medru ymgynghori â phlant a rhieni i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu cynrychioli a’u clywed mewn darpariaethau gofal plant a chwarae o ansawdd

    · Bod gan y sector yr wybodaeth a’r dealltwriaeth i wella o fewn eu lleoliadau

    Adolygu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC)

    · Bod llais y sector wedi’i gynrychioli mewn trafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol gyda Llywodraeth Cymru

    · Bod ymarferwyr wedi eu grymuso i gymryd rhan yn natblygiad yr SGC a bydd hyn yn eu cefnogi i weithredu newidiadau

    Cyfrannu at wireddu targedau ‘Cymraeg 2050’

    · Bod tystiolaeth ar gyfer creu a darparu amrywiaeth o adnoddau iaith ar gyfer eu defnyddio o ddydd i ddydd mewn darpariaethau gofal plant a chwarae

    · Bod rhaglenni hyfforddiant wedi eu cyllido a’u cydlynu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu hyfforddiant iaith ar draws y continwwm yn cael eu cefnogi

    · Bydd cynnydd yn nefnydd o’r Gymraeg mewn nifer uwch o leoliadau cyfrwng Saesneg / dwyieithog

    Fel sy’n amlwg o’r pigion uchod, mae ehangder gwaith beunyddiol y Mudiad yn destun balchder gan y tystia hyn i draw-effaith sylweddol ein cenhadaeth ar gymunedau a phobl ledled y wlad. Tra erys heriau ym maes cynllunio ac ymateb i alw cynyddol am addysg Gymraeg, mae’n gwaith o greu’r galw yn y Blynyddoedd Cynnar yn elfen greiddiol o’r newid fydd yn angenrheidiol i gyrraedd targedau uchelgeisiol ‘Cymraeg 2050’. Tra pery tensiynau rhwng y galw am “greu siaradwyr newydd” ar y naill law ac am “gynyddu defnydd o’r Gymraeg” ar y llall, cred Mudiad Meithrin fod ei gyfraniad i’r ddau faes yn ddiymwad gan fod ein Cylchoedd yn fagwrfa i greu siaradwyr newydd y dyfodol ac yn lleoliadau sydd trwy eu gweithgaredd cymunedol dydd i ddydd yn hybu defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg.

    Nodaf bob blwyddyn mai braint ac anrhydedd yw cael arwain mudiad sydd mor flaengar, arloesol a phwysig ym meddyliau’r genedl ac mae’n dyled yn fawr i bob un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli ar ei rhan ac i’r sawl sy’n ein cefnogi.

    Dr Gwenllian Lansdown DaviesPrif WeithredwrMudiad Meithrin

    23

  • Ariennir yr elusen yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, drwy gefnogaeth Uned y Gymraeg mewn Addysg, Grant Datblygu Plant a Theuluoedd ac wedi ennill amryw dendrau megis tendr ‘Cymraeg i Blant’. Mae nifer y grantiau sirol a chynlluniau cyfeirio a dderbyniwyd gan Mudiad Meithrin yn parhau i amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond rydym yn parhau i gydweithio’n agos gyda’r Awdurdodau Lleol ar bob cyfle. Mae Mudiad Meithrin yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru ac i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am y gefnogaeth barhaol ac i’r Awdurdodau Lleol sy’n parhau i ariannu cefnogaeth sirol sy’n holl bwysig i gynnig y gefnogaeth gorau oll i ddarpariaethau’r Mudiad.

    Cefnogaeth ariannol

    24

  • Yn unol â gweledigaeth Dewiniaith mae nifer o gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar weledigaeth newydd ‘Meithrin Miliwn’ (sef dogfen bolisi sy’n crynhoi ymateb Mudiad Meithrin i strategaeth iaith Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050). Arweiniodd hyn at gytuno targedau gwaith cynllun ‘Sefydlu a Symud’ Mudiad Meithrin dros gyfnod o dair mlynedd (hyd at 2020/21) fydd yn sicrhau bod y Mudiad yn parhau i adnabod yr angen a phrif flaenoriaethau gwaith gan gael adnoddau digonol i allu agor Cylchoedd newydd ledled y wlad.

    Er y newyddion anffafriol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol na fydd modd defnyddio’r cyllid ar gael i Mudiad Meithrin i fuddsoddi mewn cymhwyso ac uwch-sgilio’r gweithlu (trwy’r Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol), mae’n hanfodol parhau i sicrhau y cydnabyddir pwysigrwydd y gwaith. Yn wir, ‘does dim pwysicach i ddyfodol Cylchoedd Meithrin na sicrhau staff cymwys sy’n meddu ar sgiliau addas yn y Gymraeg ac yn enwedig felly mewn cyfnod o gynnydd o ran ehangu ar y ddarpariaeth bresennol. Bydd Mudiad Meithrin yn parhau i gydweithio’n strategol gyda Cholegau Addysg Bellach, Awdurdodau Lleol, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eraill i sicrhau fod cyfleon priodol ar gael i ennyn cymhwyster cyfrwng Cymraeg gyda’r gobaith y bydd ein cynllun o ddarparu cymwysterau mewn ysgolion uwchradd yn parhau i fynd o nerth i nerth. Braf hefyd fu’r cyfle i roi bywyd newydd i gynllun trochi iaith cenedlaethol ‘Croesi’r Bont’ gan alluogi darpariaeth ym mhob rhan o Gymru yn ystod 2019/20 gyda’r gwaith cynllunio a pharatoi a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn hon.

    Edrychwn ymlaen at barhau i saernïo gweithgaredd Cymraeg i Blant fel elfen allweddol i’n gwaith o gyflwyno Cymraeg i deuluoedd, o gyfrannu at gynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ac o gefnogi rhieni i gyflwyno’r Gymraeg i’w plant (beth bynnag fo iaith y cartref) gan nodi ganfyddiadau adeiladol yr adolygiad annibynnol o draw-effaith y cynllun.

    Yn sgil gwerthusiad annibynnol ffafriol o brosiect ‘Cwlwm’ (a ariennir drwy Grant Datblygu Plant a Theuluoedd Llywodraeth Cymru) edrychwn ymlaen at barhau i gyflawni targedau gwaith ar gyfer yr 18 mis nesaf gan gofio mai un polisi hollbwysig yw’r gwaith cefnogi ynghlwm â’r cynnig newydd o 30 awr o ofal plant rhad ac am ddim i blant 3 a 4 oed sydd a’u rhieni mewn gwaith.

    Cynlluniau i’r dyfodol (‘Dewiniaith’ ar waith)

    25

  • Parti perthynolAriennir yr elusen yn bennaf gan Lywodraeth Cymru trwy Uned y Gymraeg mewn Addysg ac Is-adran Gofal Plant a Chwarae. Cydnabyddir y cyfraniadau hyn gyda diolch gan danlinellu pwysigrwydd y buddsoddiad mewn creu ac ehangu darpariaeth gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg.

    GwirfoddolwyrY Bwrdd Cyfarwyddwyr sydd yn gyfrifol am graffu ar weithgaredd strategol y sefydliad. Cyfarfu’r Cyfarwyddwyr yn fisol i drafod gweithgaredd cyffredinol a rhoddwyd sylw i brosiectau cenedlaethol yn eu tro yn chwarterol. Mae’r elusen yn ddiolchgar iawn i’w holl wirfoddolwyr sydd wedi cyfrannu at bwyllgorau’r Mudiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

    Yn ychwanegol, ceir mintai o wirfoddolwyr yn y pwyllgorau sirol ac ar bwyllgorau rheoli gwirfoddol y Cylchoedd Meithrin. Cydnabyddwn ein dyled i bob un ohonynt yn eu hamryw ddyletswyddau.

    26

  • 27

    Mae’r Ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn Gyfarwyddwyr Mudiad Meithrin i bwrpas cyfraith cwmni) yn gyfrifol am gynhyrchu’r Adroddiad Blynyddol a’r datganiad cyllidol mewn cytundeb gyda’r gyfraith cymwys a’r Ymarferiad Cyfrifo Cyffredinol Derbyniol Deyrnas Unedig (Egwyddorion Derbyniol Cyfrifo Cyffredinol).

    Mae cyfraith cwmnïau yn mynnu fod y Cyfarwyddwyr yn darparu datganiadau cyllidol ar gyfer bob blwyddyn ariannol, sy’n rhoi darlun teg o gyflwr y cwmni a’i is-gwmni, a’r derbyniadau a’r adnoddau a dderbyniwyd gan gynnwys incwm a gwariant yr elusen a’r grŵ p am y cyfnod hwnnw. Wrth baratoi’r datganiadau cyllidol, mae disgwyl i’r Ymddiriedolwyr i:

    • Ddewis polisïau cyfrifyddol addas ac yna’u cymhwyso’n gyson;

    • Arsylwi trefnau ac egwyddorion y SORP elusennau;

    • Wneud dyfarniadau ac amcangyfrifon sy’n rhesymol a chall;

    • Ddarparu datganiadau cyllidol ar sail busnes hyfyw oni bai ei fod yn anaddas i gymryd yn ganiataol y bydd y cwmni yn parhau mewn busnes;

    • Nodi a yw’r safonau cyfrifyddu priodol wedi cael eu dilyn, a datganu ac esbonio yn yr adroddiad blynyddol unrhyw ymadawiad o bwys.

    • Gadw cyfrifon priodol sy’n datgelu gyda chywirdeb rhesymol ac ar unrhyw adeg gyflwr cyllidol y cwmni a’r grŵ p ac yn eu galluogi i sicrhau fod y datganiadau cyllidol yn cydsynio â Deddf Cwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am sicrhau asedau’r cwmni a’r grŵ p a gan hynny i gymryd camau rhesymol i atal ac i ddarganfod twyll ac afreoleidd-dra arall.

    Nid yw’r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth arall y dylai’r archwilwyr fod yn ymwybodol ohono (fel y diffinnir dan Ran 418 o Ddeddf Cwmnïau 2006) yngly^n â’r elusen a’i is-gwmni. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi cymryd camau i wneud yn siŵ r eu bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwiliad a gwneud yn siŵ r fod yr archwilwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth yma.

    Mae’r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y wybodaeth gorfforaethol a chyfrifo sydd wedi ei gynnwys ar wefan yr elusen. Mae rheolau yn y Deyrnas Unedig yngly^n â pharatoi gwybodaeth a rhannu adroddiad blynyddol yn gallu amrywio o’i gymharu â chyfreithiau eraill.

    ArchwilwyrMae erthyglau’r cwmni yn gofyn am ail-apwyntio’r archwilwyr yn flynyddol.

    Yn unol â rhan 485 (4) o Ddeddf Cwmnïau 2006, bydd cynnig i apwyntio Bevan & Buckland Cyfrifwyr Siartredig ac Archwilwyr Cofrestredig yn cael ei roi o flaen y Cyfarfod Blynyddol.

    Arwyddwyd yn ôl gorchymyn y Bwrdd o Ymddiriedolwyr a’i arwyddo ar ei rhan.

    Dr Gwenllian Haf Lansdown Davies

    Ysgrifennydd

    Dyddiad: 19.10.19

    Datganiad o Gyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr

  • Adroddiad AriannolDyma Adroddiad Ariannol o Incwm a Gwariant am y flwyddyn o 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019,

    ynghyd â Mantolen dyddiedig 31 Mawrth 2019.

    £’000Cost Cyflogaeth 4,931Grantiau a dalwyd 65Costau prosiectau sirol 47Cam Wrth Gam 114Cynlluniau Cyfeirio 122Dibrisiant ac amorteiddiad 57Yswiriant 90Costau Staffio a Theithio 411Costau Adeiladau a Swyddfeydd 530Costau Cynhyrchu Incwm 218Costau eraill 58

    Cyfanswm Gwariant am 2018/19 6,643

    £’000

    ASEDAU SEFYDLOG

    Asedau Sefydlog 2,512Buddsoddiadau 656

    3,168

    ASEDAU CYFREDOL

    Stoc 7Dyledwyr 328Arian yn y banc ac mewn llaw 931

    1,266

    CREDYDWYR

    Symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn (569)

    Asedau cyfredol net 697

    Asedau net 3,865

    CRONFEYDD

    Cronfeydd cyfyngedig 50Cronfeydd anghyfyngedig 3,815Cronfeydd gwaddol -

    3,865

    DATGANIAD YR ARCHWILWYR I YMDDIRIEDOLWYR MUDIAD MEITHRIN

    Mae’r Uwch Archwilydd Statudol Harri Lloyd-Davies o Bevan Buckland LLP wedi cyhoeddi

    adroddiad archwilio diamod ar y datganiadau ariannol am y flwyddyn.

    Bevan Buckland LLP

    £’000Cyfanswm gwariant llai cyfanswm incwm (23)

    Cynnydd yng ngwerth buddsoddiadau 32Incwm / (gwariant) net 9

    INCWM

    GWARIANT

    Mantolen 31 Mawrth 2019£’000

    Grantiau Mudiad Meithrin (cenedlaethol) 4,200Grantiau Mudiad Meithrin (sirol) 417Grantiau Cynlluniau Cyfeirio 167Hyfforddi 127Buddsoddiadau 2Meithrinfeydd Cymru Cyf 1,539Aelodaeth ac Yswiriant Cylchoedd 76Incwm Masnachol Arall 88Incwm Arall 4

    Cyfanswm incwm am 2018/19 6,620

    28

  • 29

    Rydym yn ddiolchgar iawn i’r canlynol am y gefnogaeth ariannol a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn. Ni fyddai

    gwaith y Mudiad wedi bod yn bosibl heb eu cefnogaeth.

    GRANTIAULlywodraeth Cynulliad Cymru £’000

    Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd – prosiect Cwlwm 354

    Uned y Gymraeg mewn Addysg 2,804

    Cymraeg i Blant 725

    Grant Swyddog Datblygu’r Cyfnod Sylfaen 52

    Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol 265

    Awdurdodau Lleol £’000

    Cyngor Dinas Casnewydd 13

    Cyngor Blaenau Gwent 49

    Cyngor Sir Mynwy 4

    Cyngor Sir Gwynedd 24

    Cyngor Sir Conwy 43

    Cyngor Sir Benfro 7

    Cyngor Sir Ceredigion 180

    Dinas a Sir Abertawe 7

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 16

    Cyngor Sir Ddinbych 15

    Cyngor Sir Fflint 47

    Cyngor Sir Caerfyrddin 7

    Cyngor Bro Morgannwg 3

    Cyngor Sir Powys 2

    Awdurdodau Lleol – drwy Gynlluniau Cyfeirio £’000

    Cyngor Sir Ceredigion 127

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 4

    Cyngor Sir Gwynedd 17

    Cyngor Sir Ynys Môn 19

  • Adroddiad y Trysorydd – John Arthur Jones

    30

    Cafwyd blwyddyn arall o sefydlogrwydd dan arweiniad ein Rheolwr Cyllid Dorian Evans a’i dîm yn yr adran gyllid ynghyd â’r craffu gan aelodau’r Is-bwyllgor Cyllid a’r Tîm Strategol.

    Bu trosiant y Mudiad dros chwe miliwn a hanner, ac ar y diwedd fe gynhyrchwyd gwarged bychan o bron i naw mil o bunnoedd.

    Prif incwm y Mudiad yw grantiau ar lefel cenedlaethol a sirol – 74% o’r trosiant, gyda Meithrinfeydd Cymru Cyf yn gyfrifol am 23% o’r incwm a’r 3% o weddill ar weithgareddau eraill.

    Wedi derbyn yr incwm, rhaid yw ei wario. Prif wariant y Mudiad yw costau staff – cyflogaeth a theithio – sy'n 80%. Gwariwyd 5% ar grantiau a phrosiectau arbenigol, 8% ar gostau adeiladau a swyddfeydd gyda’r 7% sy’n weddill ar gost gweithgareddau eraill.

    Mae’r Mudiad yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth barhaol ac i’r Awdurdodau Lleol sy’n parhau i ariannu a rhoi cefnogaeth sirol er mwyn cyflawni prosiectau penodol. Galluoga hyn i’r Mudiad gael adnoddau digonol i barhau i adnabod yr angen i weithredu ei phrif flaenoriaethau gwaith, gan gynnig y gefnogaeth orau oll i ddarpariaethau ac aelodau’r Mudiad. Er hyn, fe barha’r Mudiad i chwilio am ffynonellau incwm o’r newydd.

    Aelodau’r Is-bwyllgor Cyllid a’r Bwrdd Cyfarwyddwyr fu’n gyfrifol am graffu ar y gweithgareddau hyn, ynghyd â gweithgarwch strategol y sefydliad.

    Cydnabyddir dyled pawb am eu hamryw ddyletswyddau a’u cyfrifoldebau er mwyn cyflawni nodau ac egwyddorion yr elusen.

  • • Dr Rhodri Llwyd Morgan (Cadeirydd)

    • Geraint James (Is-gadeirydd)

    • John Arthur Jones (Trysorydd)

    • Rhiannon Lloyd

    • Corinna Lloyd-Jones

    • Rhianwen Huws Roberts

    • Mai Roberts

    • Nia Gwyndaf

    • Siôn Tudur

    • Anita Evans

    • Alison Rees Edwards

    • Huw Ll Williams

    • Caryl Elin Lewis

    • Gari Lewis

    • Annette Evans

    • Nia Owen

    Aelodau Bwrdd Cyfarwyddwyr

    www.meithrin.cymru

    [email protected] 01970 639639

    /MudiadMeithrin @MudiadMeithrin

    Rhif Elusen: 1022320