4
Mae’n arferiad gennym bellach yn y llythyr gweddi ar gyfer Medi/Hydref roi adroddiad am weithgareddau’r flwyddyn. Rydym hefyd yn ceisio nodi’r prif faterion gweddi ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Gadewch i ni gychwyn drwy edrych ar un o ddamhegion yr Arglwydd, sydd i’w chael yn Luc 18:1-8: Dywedodd ddameg wrthynt i ddangos fod yn rhaid iddynt weddïo bob amser yn ddiflino: “Mewn rhyw dref yr oedd barnwr. Nid oedd yn ofni Duw nac yn parchu eraill. Yn y dref honno yr oedd hefyd wraig weddw a fyddai’n mynd ger ei fron ac yn dweud, ‘Rho imi ddedfryd gyfiawn yn erbyn fy ngwrthwynebwr.’ Am hir amser daliodd i’w gwrthod, ond yn y diwedd meddai wrtho’i hun, ‘Er nad wyf yn ofni Duw nac yn parchu eraill, eto, am fod y wraig weddw yma yn fy mhoeni o hyd, fe roddaf iddi’r ddedfryd, rhag iddi ddal i ddod a’m plagio i farwolaeth.’” Ac meddai’r Arglwydd, “Clywch eiriau’r barnwr anghyfiawn. A fydd Duw yn gwrthod cyfiawnder i’w etholedigion, sy’n galw’n daer arno ddydd a nos? A fydd ef yn oedi yn eu hachos hwy? Rwy’n dweud wrthych y rhydd ef gyfiawnder iddynt yn ebrwydd. Ond eto, pan ddaw Mab y Dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?” Cymaint o hyder ddylai fod gennym o ddarllen y ddameg hon. Mor rasol yw ein Duw, sy’n rhoi’r fath sicrwydd i ni. Mae ein Tad nefol am glywed ac ateb ein gweddïau. Ond mae’r ddameg yn gorffen gyda her amlwg - her yr ydym ni fel mudiad wedi bod yn ymwybodol iawn ohoni eleni. Wrth i ni fwrw golwg yn ôl dros waith y flwyddyn ddiwethaf, cawsom ein hatgoffa nad ein gwaith a’n gweithgarwch ni sydd yn fwyaf pwysig ond yr hyn mae Duw’n ei wneud yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am yr holl ffrwyth a welwyd eleni, a’n dymuniad yw rhoi’r holl ogoniant iddo Ef. Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod, gwnawn hynny gan ddibynnu’n llwyr ar Ei ddaioni Ef. Gyda’r ymwybyddiaeth hon rydym yn galw arnoch i ymuno â ni i weddïo am fendith Duw ar Gymru dros y flwyddyn nesaf. Mae angen i ni weddïo; i ddiolch i Dduw am yr hyn mae’n ei wneud ac i ofyn iddo Ef symud eto’n fwy nerthol dros y misoedd nesaf. Dyma’r anogaeth i weddïo mewn ffydd yn barhaus ac i beidio â cholli calon. Mae ein hymroddiad i’n datganiad cenhadol “Partneriaeth yn yr Efengyl” ac i’r blaenoriaethau a nodwyd rai blynyddoedd yn ôl yn parhau. Y blaenoriaethau hyn sy’n llywio’r mwyafrif helaeth o’n gweithgareddau a’n gweinidogaethau. Dyma ydynt: 1. Efengylu a Phlannu Eglwysi – drwy hybu dymuniad a darparu cyfleon. Ymgyrch Cymru - Sut fyddai pe bai pob person yng Nghymru’n cael clywed neu dderbyn yr efengyl yn iaith eu calon? Mae hwn yn fater pwysig iawn i ni weddïo ynglyn ag o gan ofyn i Dduw’n helpu i wneud hyn yn ein cenhedlaeth ni. Ymunwch â ni i weddïo ... Llythyr Gweddi Mudiad Efengylaidd Cymru - Medi/Hydref 2011 Annwyl Ffrindiau,

Llythr Gweddi Mudiad Efengylaidd Cymru

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Llythr Gweddi Mudiad Efengylaidd Cymru

Mae’n arferiad gennym bellach yn y llythyr gweddi ar

gyfer Medi/Hydref roi adroddiad am weithgareddau’r flwyddyn. Rydym hefyd yn ceisio nodi’r prif faterion gweddi ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Gadewch i ni gychwyn drwy edrych ar un o ddamhegion yr Arglwydd, sydd i’w chael yn Luc 18:1-8:

Dywedodd ddameg wrthynt i ddangos fod yn rhaid iddynt weddïo bob amser yn ddiflino: “Mewn rhyw dref yr oedd barnwr. Nid oedd yn ofni Duw nac yn parchu eraill. Yn y dref honno yr oedd hefyd wraig weddw a fyddai’n mynd ger ei fron ac yn dweud, ‘Rho imi ddedfryd gyfiawn yn erbyn fy ngwrthwynebwr.’ Am hir amser daliodd i’w gwrthod, ond yn y diwedd meddai wrtho’i hun, ‘Er nad wyf yn ofni Duw nac yn parchu eraill, eto, am fod y wraig weddw yma yn fy mhoeni o hyd, fe roddaf iddi’r ddedfryd, rhag iddi ddal i ddod a’m plagio i farwolaeth.’” Ac meddai’r Arglwydd, “Clywch eiriau’r barnwr anghyfiawn. A fydd Duw yn gwrthod cyfiawnder i’w etholedigion, sy’n galw’n daer arno ddydd a nos? A fydd ef yn oedi yn eu hachos hwy? Rwy’n dweud wrthych y rhydd ef gyfiawnder iddynt yn ebrwydd. Ond eto, pan ddaw Mab y Dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?”

Cymaint o hyder ddylai fod gennym o ddarllen y ddameg hon. Mor rasol yw ein Duw, sy’n rhoi’r fath sicrwydd i ni. Mae ein Tad nefol am glywed ac ateb ein gweddïau. Ond mae’r ddameg yn gorffen gyda her amlwg - her yr ydym ni fel mudiad wedi bod yn ymwybodol iawn ohoni eleni.

Wrth i ni fwrw golwg yn ôl dros waith y flwyddyn ddiwethaf, cawsom ein hatgoffa nad ein gwaith a’n gweithgarwch ni sydd yn fwyaf pwysig ond yr hyn mae Duw’n ei wneud yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am yr holl ffrwyth a welwyd eleni, a’n dymuniad yw rhoi’r holl ogoniant iddo Ef. Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod, gwnawn hynny gan ddibynnu’n llwyr ar Ei ddaioni Ef.

Gyda’r ymwybyddiaeth hon rydym yn galw arnoch i ymuno â ni i weddïo am fendith Duw ar Gymru dros y flwyddyn nesaf. Mae angen i ni weddïo; i ddiolch i Dduw am yr hyn mae’n ei wneud ac i ofyn iddo Ef symud eto’n fwy nerthol dros y misoedd nesaf. Dyma’r anogaeth i weddïo mewn ffydd yn barhaus ac i beidio â cholli calon.

Mae ein hymroddiad i’n datganiad cenhadol “Partneriaeth yn yr Efengyl” ac i’r blaenoriaethau a nodwyd rai blynyddoedd yn ôl yn parhau.

Y blaenoriaethau hyn sy’n llywio’r mwyafrif helaeth o’n gweithgareddau a’n gweinidogaethau. Dyma ydynt:

1. Efengylu a Phlannu Eglwysi – drwy hybu dymuniad a darparu cyfleon.

Ymgyrch Cymru - Sut fyddai pe bai pob person yng Nghymru’n cael clywed neu dderbyn yr efengyl yn iaith eu calon? Mae hwn yn fater pwysig iawn i ni weddïo ynglyn ag o gan ofyn i Dduw’n helpu i wneud hyn yn ein cenhedlaeth ni.

Ymunwch â ni i weddïo ...Llythyr Gweddi Mudiad Efengylaidd Cymru - Medi/Hydref 2011

Annwyl Ffrindiau,

Page 2: Llythr Gweddi Mudiad Efengylaidd Cymru

Yn ystod wythnos gyntaf Tachwedd 2010 daeth chwe eglwys, yn ardal Llanelli-Abertawe, at ei gilydd i gyd weddïo ac i gydweithio i gyrraedd eu cymunedau gyda’r efengyl. Calonogwyd y gwahanol eglwys mewn gwahanol agweddau o’r ymgyrch. Dosbarthwyd tua 20,000 copi o bapur newydd efengyl-ganolog yn yr ardal. Rydym wedi derbyn ymholiadau gan eglwysi eraill ar draws Cymru. Gweddïwch os gwelwch yn dda dros eglwysi ym Machynlleth, Llandudno, Y Gwyr, Y Trallwng a’r Bala wrth iddynt ystyried yn weddigar ymestyn eu cenhadaeth o fewn eu cymunedau.

Trelar MEC - Mae gweinidogaeth trelar MEC, dan ofal Roger Thomas, wedi tyfu yn ystod y flwyddyn. Mae’r gwaith yn defnyddio’r ail drelar, dan ofal Gareth Thomas, wedi parhau i fanteisio ar nifer o gyfleoedd o gwmpas y wlad.

Yr Eisteddfod - Mae MEC wedi datblygu’r adnoddau a chynyddu’i phresenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni. Defnyddiwyd arddangosfeydd, tractiau a llyfrau newydd a chawsant dderbyniad gwresog.

‘Barriers to belief’ - Dyma thema rhifyn yr Haf o’r cylchgrawn Saesneg. Y bwriad oedd helpu Cristnogion, ar draws Cymru a thu hwnt, i ddeall yn well, wrth geisio rhannu’r efengyl, y cwestiynau, y rhagfarnau a’r materion hynny sydd ar feddwl rhai sydd ddim yn Gristnogion. Cynigiwyd atebion defnyddiol iawn fydd yn help i ni wrth geisio rhoi rheswm am y gobaith sydd ynom,

Tractiau Cymraeg a Dwyieithog – Bellach gellir prynu’r rhain gan MEC. Dros y blynyddoedd diweddar mae’r galw am lenyddiaeth sy’n gosod allan yr efengyl mewn modd eglur wedi cynyddu. Ein bwriad yw cynhyrchu mwy o lenyddiaeth dros y flwyddyn nesaf.

2. Llythrennedd Beiblaidd a Meithrin Disgyblion - gan sicrhau bod adnoddau Beiblaidd a pherthnasol, dysgeidiaeth a modd i feithrin disgyblion ar gael yn eang.

Y Gwersylloedd - Rydym yn ddiolchgar i Dduw am nifer o adroddiadau da a dderbyniwyd o wersylloedd MEC. Mae nifer cyson o bobl ifanc yn dod i ffydd. Mae’r Parch Paul Gamston, cadeirydd Pwyllgor y Gwersylloedd Saesneg wedi symud i fyw i Swydd Efrog ac mae’n gobeithio trosglwyddo’r gadeiryddiaeth yn ystod y misoedd nesaf. Mae Gwydion Lewis yn dal ati fel cadeirydd Pwyllgor y Gwersylloedd Cymraeg.

Y Cynadleddau - Mae’r cynadleddau yn Aberystwyth yn parhau i fod yn fendith i lawer ar draws Cymru a thu hwnt. Cawn ein calonogi o’r ymateb a dderbynnir i sawl agwedd gwahanol o’r gwaith hwn. Peidiwn â chymryd unrhyw un o fendithion yr Arglwydd yn ganiataol! ‘Overflowing Grace’ oedd testun David Norman Jones yn y gynhadledd Saesneg eleni -

mor fawr yw’r angen am Ei Ras ar draws Cymru

Y Siopau Llyfrau - Mae’n siopau llyfrau’n parhau i roi gwasanaeth pwysig iawn. Clywn yn gyson am bobl o wahanol gred yn dod i mewn i’n siopau, yn prynu Beiblau neu’n awyddus i wybod mwy am yr efengyl. Weithiau mae’r diddordeb hwn yn esgor ar chwilio dwys o du rhai nad ydynt yn Gristnogion. Mae’r had yn cael ei hau drwy ac o’n siopau i gyd. Rydym yn hybu ac yn gwerthu llenyddiaeth Gristnogol o safon. Mae Cynigion yr Haf eleni’n cynnwys cynigion arbennig iawn ar Feiblau newydd. Mae Bread of Heaven yn parhau i werthu’n dda ar draws y wlad gan atgoffa llawer o fawrion weithredodd Duw yng Nghymru. Mae’n rhyfeddol ond mae’r gwerthiant llyfrau bron i 5% yn uwch na llynedd. Mewn cyfnod ariannol mor anodd mae’r Arglwydd wedi bod yn dda iawn wrth ein siopau llyfrau. Diolch am eich cefnogaeth. Os gwelwch yn dda gweddïwch dros y siop yng Nghaerdydd. Ein gweddi yw y bydd consortiwm o eglwysi yno’n cymryd y cyfle i rannu’r efengyl ynghanol y ddinas yn fuan yn y flwyddyn newydd. Fodd bynnag mae’r angen am wirfoddolwyr yn un dybryd - allwch chi neu rai o’ch cyfeillion roi ychydig o’ch amser sbâr i lenwi bwlch prynhawn neu ddiwrnod cyfan yn un o’n siopau? Mae angen eich cymorth chi arnom!

“Bydd pob un sy’n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.” Rhufeiniaid 10.13

“Everyone who calls on the name of the Lord will be saved.” Romans 10:13Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:For more information please contact:

yffordd.orgGwasg BryntirionMudiad Efengylaidd Cymru, Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4DX

Good News

Newyddion Da

Tractiau_NewyddionPwysig.indd 1

7/21/2011 9:46:26 AM

Page 3: Llythr Gweddi Mudiad Efengylaidd Cymru

Y Cylchgronau - Eleni ail lansiwyd y cylchgrawn Cymraeg dan ofal bwrdd Golygyddol newydd, gyda Steffan Jones wrth y llyw. Hoffem fynegi ein diolch i Robert Rhys am flynyddoedd o lafur ffyddlon a diwyd fel golygydd a gweddïwn am fendith arno ef a’i eglwys yng Nghaerfyrddin. Mae Steffan Jones wedi dod a thîm newydd a brwd at ei gilydd. Gweddïwch, os gwelwch yn dda, drostynt a thros gylchrediad a dylanwad y Cylchgrawn.

Y Wasg - Mae llawer o waith eleni wedi ei roi i ail drefnu’r wasg Saesneg. Mae’r wasg Gymraeg wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a thractiau newydd, yn cynnwys canllaw astudio i Efengyl Marc ar gyfer Cristnogion newydd. Yn ystod y misoedd nesaf ein gobaith yw gallu cyhoeddi ein bod wedi ffurfio partneriaeth newydd gyda chyhoeddwr efengylaidd sylweddol. Bydd hyn yn atgyfnerthu sawl agwedd o’r gwaith marchnata, argraffu a gwerthu. Gweddïwch, os gwelwch yn dda, dros Steff Job wrth iddo arwain y gwaith gyda’r Dr Eryl Davies.

3. Rhwydweithio a Chydweithredu - darparu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ystyrlon.

Bryn-y-groes - Rydym yn parhau i drafod gyda darparydd gweithgareddau awyr agored i blant iau. Ein gobaith yw y bydd y bartneriaeth yn ychwanegu at ddarpariaeth Bryn-y-groes ac yn sicrhau defnydd i’r ganolfan ar adeg pan nad yw’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd. Rydym yn dechrau chwilio am olynwyr i Dave a Pat Wilmot fydd yn ymddeol yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf. Mae’r swyddi hyn yn bwysig iawn. Rydym am sicrhau ein bod yn cael y bobl mae Duw am i ni eu cael i

barhau’r gwaith nodedig y mae Dave a Pat wedi’i gyflawni dros.

Yn ystod y flwyddyn mae nifer o staff ac ymddiriedolwyr MEC wedi cael cyfleoedd i rannu a helpu sefydliadau Cristnogol ar draws Cymru a thu hwnt. Mae’r agwedd hon ar y gwaith yn cynyddu. Rydym yn ei theimlo’n fraint cael rhannu a chefnogi brodyr a chwiorydd eraill yng ngwaith yr efengyl.

4. Hyfforddiant ac Arweinyddiaeth – cynnig anogaeth a hyfforddiant ar gyfer arweinwyr eglwysig ac arweinwyr y dyfodol.

Gwaith y Gweinidogion - Unwaith yn rhagor rydym yn gallu adrodd, drwy ras Duw, fod gweddïau wedi’u hateb dros waith y gweinidogion eleni. Roedd y Gynhadledd i weinidogion newydd yn fendith fawr eto. Derbyniodd dros bedwar deg o weinidogion newydd galondid, dysgeidiaeth ac adnewyddiad drwy’r weinidogaeth. Daeth nifer dda ynghyd hefyd i’r Cynadleddau Gweinidogion Cymraeg a Saesneg ac roedd ymdeimlad o wir gymdeithas a gonestrwydd. Y prif siaradwr yn Y Bala oedd Don Carson ac arweiniodd bawb i edrych ar yr efengyl fel patrwm a blaenoriaeth gwaith Cristnogol. Mae wedi bod yn galonogol iawn gweld gweinidogion o gefndiroedd amrywiol yn un yn yr efengyl.

Cwrs Hyfforddiant Diwinyddol Saesneg – Mae’r cwrs hwn yn llai adnabyddus nag y dylai fod. Yn ddiweddar dywedodd Phil Swann, mewn cyfarfod pwysig o’r ymddiriedolwyr gyda sefydliad arall ‘Pam nad oeddem yn gwybod am y cwrs hwn cyn hyn?’ Molwn Dduw am y rhai sy’n parhau i roi o’u hamser i’r gwaith hwn.

DEEPEN - Mae cwrs darllen MEC wedi cael cychwyn cadarn i’w flwyddyn gyntaf. Rydym yn gwybod am rai unigolion sydd wedi’u bendithio’n aruthrol drwy’u darllen.

Diwrnod Swyddogion Eglwysi - Ar ôl nifer o flynyddoedd o weddïo bydd cynhadledd i swyddogion eglwysi’n digwydd ar 21 o Ionawr yng Ngogledd Cymru ac ar 28 yn y De. Mae angen i ni gefnogi gweinidogion, henuriaid a diaconiaid yn y dyddiau anodd hyn yr ydym yn byw ynddynt. A ddaw swyddogion eich eglwysi chi ynghyd i geisio ewyllys yr Arglwydd ar gyfer Ei Eglwys ac i rannu arfer da gan edrych at ein Gwaredwr a’i air?

“Bydd pob un sy’n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.” Rhufeiniaid 10.13

“Everyone who calls on the name of the Lord will be saved.” Romans 10:13Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:For more information please contact:

yffordd.orgGwasg BryntirionMudiad Efengylaidd Cymru, Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4DX

Good News

Newyddion Da

Tractiau_NewyddionPwysig.indd 1

7/21/2011 9:46:26 AM

Y CylchgrawnEfengylaiddtymor yr hydref 2011 pris £2.00

� Cymru a'r Byd � Haiti, Seland Newydd a Siapan� Pam? � Cwpan y Byd � Y Creisis a'r Cysur

Clawr tebyg i'r Saesneg:Layout 1 24/6/11 16:17 Page 1

Washing their feet- Leading like our Lord

The Church Officers’ Training Days 2012

A day for serving elders, deacons, pastors and trainee pastors

North Wales - 21 January, 2012South Wales - 28 January, 2012

Speakers include:Phil Swann

Stuart Olyott

For more information, please visit the EMW stand

www.emw.org.uk/leaders EvangelicalMovement of Wales

Page 4: Llythr Gweddi Mudiad Efengylaidd Cymru

David Norbury - Ysgrifennydd Cyffredinol

Croeso i chi lungopïo’r daflen hon, neu gysylltu â ni am fwy o gopïau:MEC, Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4DX, 01656 655886

[email protected] elusen Gofrestredig 222407

MEC fel sefydliad

Y Bwrdd Rheoli - Wedi blynyddoedd lawer o wasanaeth ffyddlon i’r Arglwydd drwy’r Mudiad bydd y Parch Gwynn Williams, ein cadeirydd, yn rhoi’r gorau iddi wrth i fwrdd newydd gael ei ffurfio yn fuan yn 2012. Mae ei wasanaeth wedi bod yn eithriadol - mewn cyfnodau hynod caled mae wedi llwyddo i gadw ei law ar y llyw gan fod yn gefn i staff a gwirfoddolwyr llai profiadol (fel fi) gan

wneud hynny gydag eglurdeb a duwioldeb a hynny heb ysbryd beirniadol.

Staffio - Mae Lucy Wood wedi’i phenodi yn Bennaeth Gweinyddol. Bellach mae’n mynd i’r afael a’r amryfal sialensiau sy’n ein hwynebu. Rydym yn ceisio datblygu prosesau bwcio ar lein, bas data, a systemau cyfrifiadurol a chefnogi datblygiad personol a phroffesiynol ein staff tra, ar yr un pryd yn ceisio lleihau costau gweinyddol.

Ein Sefyllfa Ariannol - Rhown foliant i Dduw fod gennym newyddion calonogol o safbwynt cyllid. Rydym yn hynod o ddiolchgar i Dduw ac i’w bobl am fod nifer o roddion a chof roddion sylweddol wedi dod i law eleni. Mae hyn yn golygu bod ychydig o arian dros ben gennym. Daliwch ati i weddïo, os gwelwch yn dda, wrth i ni ymroi i sicrhau cyllid ar gyfer ein gweinidogaethau er mwyn i ni fedru cefnogi gwaith yr efengyl yng Nghymru. Rydym yn parhau i geisio gwneud arbedion lle mae hynny’n bosibl tra ar yr un pryd gwella ein heffeithlonrwydd a’n haffeithioldeb. Fodd bynnag mae’n amlwg mai drwy ras ein Duw yr ydym yn parhau i gwrdd â’n holl anghenion.

Wrth i ni symud ymlaen, os gwelwch yn dda gweddïwch:

Am arweiniad a bendith Duw er mwyn i ni ei ddilyn a phwyso arno;

Dros strwythur gweinyddol MEC. Rydym am ddarparu tîm o weithwyr fydd yn effeithiol ac yn gefn i’r gweinidogion a’n gwirfoddolwyr;

Dros y gwaith ymhlith y gweinidogion. Mae’n gyfnod heriol iawn i weinidogion ac mae gennym faich gwirioneddol i gefnogi ac i galonogi’r rhai sy’n arwain ein heglwysi. Os gwelwch yn dda gweddïwch dros y cynadleddau a’r weinidogaeth ymhlith gweinidogion.

Efengylu. Gweddïwch, os gwelwch yn dda, dros ein hymgyrchoedd a thros y wasg wrth i ni barhau i fod yn gefn ac yn gymorth i eglwysi estyn allan i’w cymunedau gyda newyddion da’r efengyl.

Gweddi. Ein dymuniad yw annog Cristnogion ac Eglwysi i wneud gweddi’n flaenoriaeth yn y flwyddyn sydd i ddod.

Boed i’r Arglwydd eich bendithio dros y misoedd nesaf.

Yng Nghrist yn unig,