8
WILIA PAPUR MISOL CYMRAEG ABERTAWE RHIF 407 GOR/AWST 2018 PRIS 50C 0.6 EWRO Y TU MEWN: Tud 2 Lôn-las yn diddanu yn Nhreforys Llyfrau’r Clwb darllen Bwyd Cymraeg Tud 3 Leane Wood yn Abertawe Merched y Wawr yn dathlu Cyfeillion Amgueddfa Enillwyr yr Urdd Tud 4 Côr Ty Tawe yn Llandeiloferwallt Oriel yr Atig Gwersyll yr Urdd San Ffagan yn 70 Tud 5 Ysgol Gyfun Gwyr Tud 6 Login Fach Pontybrenin Tud 7 Bryn Tawe Login Fach Dau yn y Bae Tud 8 Mudiad Meithrin Tystysgrifau Cam wrth Gam Caneuon i fabanod Luke o Abertawe yn ennill Medal Gelf 2018 yr Urdd Luke MacBride o Abertawe yw enillydd y Fedal Gelf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brychein- iog a Maesyfed 2018. Mae’r fedal eleni yn cael ei rhoi i ffrwyth llafur ac ymchwil manwl a gyflwynwyd gan Luke fel ‘Ymchwiliad i Gysyniad Symudiad mewn Celf’ sy’n diwed- du mewn dilledyn dawns celfydd. Meddai Luke: “Yn yr ymchwiliad, fy mwriad oedd astudio symudiad fel sbardun wrth ystyried amry- wiaeth o ymatebion yr artist i’r cysyniad a sut y mae wedi ffurfio rhan hanfodol o’i waith a’i arferion. “Gall symudiad mewn celf fod yn ymhlyg neu’n amlwg. Mae celf ginetig yn faes lle mae celf yn dibynnu ar symudiad i greu effaith. I’r rheiny sy’n gweithio mewn cyfryngau disymud, mae’r cysyniad yn fwy perthnasol i sut y gallent bortreadu’r ymdeimlad o symud mewn delwedd nad yw’n gallu symud yn llythrennol.” Gydag chreadigrwydd, menter ac ymchwil manwl, daeth creadigaeth Luke at ei gilydd yn gampwaith o ddulliau creadigol yn y wisg derfynol. Meddai am ei waith terfynol: “O ganlyniad i bwysigrwydd hanfo- dol symudiad yn fy mhrosiect, teimlais ei fod yn bwysig ystyr- ied fy nulliau cyflwyno. Cyn- hyrchais fideo byr sy’n amlygu manylion y dilledyn yn ogystal â dan- gos, drwy gyfrwng symudiad a ffilm, symudiad y twtw. Cwblheais hefyd sesiynau ffotograffaidd, gan fyfyrio drwy’r ymchwiliad sut yr oeddwn yn casglu ac yn cyfleu fy ffynonellau craidd i adlewyrchu’r elfennau o symudiad dan sylw. “Drwy’r ymchwiliad hwn, rwyf wedi dysgu am gysyniad trawsnewid fy syniadau creadigol a’u cyflwyno mewn cynnyrch terfynol uchel ei safon sy’n hanfodol gymhleth... Rwyf wedi darganfod drwy fy ymchwiliad y gellir ystyr- ied y cysyniad o symudiad mewn celf mewn ffyrdd niferus, mae ganddo’r gallu i wella’r gwaith, boed drwy symudiad llythrennol neu ymhlyg neu, yn wir, ddealltwriaeth o symudiad cy- fansoddiadol.” Eleni, cynhaliwyd y diwrnod beirni- adu yn Llangrannog ar ddydd Sadwrn 5 Mai – y tro cyntaf i i’r Urdd gynnal diwrnod o’r fath ble roedd gwaith Y Fedal a’r Ysgolori- aeth yn cael ei ddyfarnu ar wahân i weddill gwaith CDT yn genedlae- thol. Meddai Ann Catrin Evans: un o feirniaid Y Fedal: “Anodd iawn oedd dewis enillydd i Fedal CDT yr Urdd eleni, roedd safon y gwaith yn gyffredinol yn uchel iawn a byddwn wedi gallu cyflwyno’r Fe- dal i ddau uned gwaith. “Braint hefyd oedd sgwrsio â’r cystadleuwyr i gyd a thrafod am yr hyn a’u sbardunodd ar hyn maent yn gobeithio ei wneud yn y dyfodol. ond roedd Dyfrig a min- nau yn gytûn mai Luke oedd yn haeddu’r Fedal a hynny am waith mor gain a chyfoes ac yn dymuno’n dda wrth iddo baratoi i astudio dylunio yn Llundain fis Medi.”

R H I F 4 0 7 G O R / A W S T 2 0 1 8 P A P U R M I S O L ... · Dau yn y Bae “Drwy’r ymchwiliad hwn, rwyf wedi Tud 8 rhan hanfodol o’i waith a’i arferion. Mudiad Meithrin

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

WILIA P A P U R M I S O L C Y M R A E G

A B E R T A W E

R H I F 4 0 7 G O R / A W S T 2 0 1 8

P R I S 5 0 C 0 . 6 E W R O

Y TU MEWN: Tud 2

Lôn-las yn diddanu yn Nhreforys

Llyfrau’r Clwb darllen

Bwyd Cymraeg Tud 3

Leane Wood yn Abertawe

Merched y Wawr yn dathlu

Cyfeillion Amgueddfa

Enillwyr yr Urdd Tud 4

Côr Ty Tawe yn Llandeiloferwallt

Oriel yr Atig

Gwersyll yr Urdd

San Ffagan yn 70

Tud 5

Ysgol Gyfun Gwyr

Tud 6

Login Fach

Pontybrenin Tud 7

Bryn Tawe

Login Fach

Dau yn y Bae Tud 8

Mudiad Meithrin

Tystysgrifau Cam wrth Gam

Caneuon i fabanod

Luke o Abertawe yn ennill Medal Gelf 2018 yr Urdd

Luke MacBride o Abertawe yw enillydd y Fedal Gelf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brychein-iog a Maesyfed

2018.

Mae’r fedal eleni yn cael ei rhoi i ffrwyth llafur ac ymchwil manwl a gyflwynwyd gan Luke fel ‘Ymchwiliad i Gysyniad Symudiad mewn Celf’ sy’n diwed-du mewn dilledyn dawns celfydd. Meddai Luke: “Yn yr ymchwiliad, fy mwriad oedd astudio symudiad fel sbardun wrth ystyried amry-wiaeth o ymatebion yr artist i’r cysyniad a sut y mae wedi ffurfio

rhan hanfodol o’i waith a’i arferion.

“Gall symudiad mewn celf fod yn ymhlyg neu’n amlwg. Mae celf ginetig yn faes lle mae celf yn dibynnu ar symudiad i greu effaith. I’r rheiny sy’n gweithio mewn cyfryngau disymud, mae’r cysyniad yn fwy perthnasol i sut y gallent bortreadu’r ymdeimlad o symud mewn delwedd nad yw’n gallu

symud yn llythrennol.”

Gydag chreadigrwydd, menter ac ymchwil manwl, daeth creadigaeth Luke at ei gilydd yn gampwaith o ddulliau creadigol yn y wisg derfynol. Meddai am ei waith

terfynol:

“O ganlyniad i bwysigrwydd hanfo-

dol symudiad yn fy mhrosiect, teimlais ei fod yn bwysig ystyr-ied fy nulliau cyflwyno. Cyn-hyrchais fideo byr sy’n amlygu manylion y dilledyn yn ogystal â dan-gos, drwy gyfrwng symudiad a ffilm, symudiad y twtw. Cwblheais hefyd sesiynau ffotograffaidd, gan fyfyrio

drwy’r ymchwiliad sut yr oeddwn yn casglu ac yn cyfleu fy ffynonellau craidd i adlewyrchu’r elfennau o

symudiad dan sylw.

“Drwy’r ymchwiliad hwn, rwyf wedi dysgu am gysyniad trawsnewid fy syniadau creadigol a’u cyflwyno mewn cynnyrch terfynol uchel ei safon sy’n hanfodol gymhleth... Rwyf wedi darganfod drwy fy ymchwiliad y gellir ystyr-ied y cysyniad o symudiad mewn celf mewn ffyrdd niferus, mae ganddo’r gallu i wella’r gwaith, boed drwy symudiad

llythrennol neu ymhlyg neu, yn wir, ddealltwriaeth o symudiad cy-

fansoddiadol.”

Eleni, cynhaliwyd y diwrnod beirni-adu yn Llangrannog ar ddydd Sadwrn 5 Mai – y tro cyntaf i i’r Urdd gynnal diwrnod o’r fath ble roedd gwaith Y Fedal a’r Ysgolori-aeth yn cael ei ddyfarnu ar wahân i weddill gwaith CDT yn genedlae-

thol.

Meddai Ann Catrin Evans: un o feirniaid Y Fedal: “Anodd iawn oedd dewis enillydd i Fedal CDT yr Urdd eleni, roedd safon y gwaith yn gyffredinol yn uchel iawn a byddwn wedi gallu cyflwyno’r Fe-

dal i ddau uned gwaith.

“Braint hefyd oedd sgwrsio â’r cystadleuwyr i gyd a thrafod am yr hyn a’u sbardunodd ar hyn maent yn gobeithio ei wneud yn y dyfodol. ond roedd Dyfrig a min-nau yn gytûn mai Luke oedd yn haeddu’r Fedal a hynny am waith mor gain a chyfoes ac yn dymuno’n dda wrth iddo baratoi i astudio dylunio yn Llundain fis

Medi.”

WILIA GORFFENNAF/AWST 2018 TUDALEN 2

CYLCH DARLLEN LLYFRAU TY TAWE Barn y Cylch am Myfi, Iolo, gan Gareth Thomas. Marciau – o 7 i 9. Roedd ambell un sy’n methu darllen mwy nag ambell bennod o’r llyfrau rydym yn eu dewis fel arfer wedi mwynhau’r nofel yn enfawr! “Ffordd ddiddorol o ddod i wybod rhagor am Iolo Morgannwg.” “Llwyddodd yr awdur i ddarlunio’r cymeriad, i ddar-lunio’r cyfnod a chadw at syniadau’r cyfnod.” “Wedi dysgu cy-maint am Iolo Mor-gannwg – a doedd yr ochr hanesyddol ddim yn ormod.” “Roedd Iolo yn hunanol, yn an-nibynadwy, ac yn canmol ei hun, ond eto roedd yn

@ GOWERSEAFOODHUT… YN GYMRAEG! Mae busnes bach lleol lawr yn y Mwmbwls – Gower Seafood Hut, wedi bod yn gweithio gyda'u swyddog Cymraeg Byd Busnes lleol i sicrhau bod i fwydlen nhw yn ddwyieithog. Maen nhw eisiau i’r busnes fod yn ddwyieithog ac i’w cwsmeriaid gael profiad Croeso Cymraeg/Dwyieithog Cynnes. Dwedodd perchnogion y busnes Chris a Sarah “Mae ein bwydlen bellach ar gael yn Gymraeg, diolch i'r gwasanaeth ymgynghori iaith wych a ddarperir gan Cymraeg Byd Busnes... Cadw'r iaith Gymraeg yn fyw, helpu diwylliant Cymru i ffynnu”. Galwch lawr i weld nhw!

LON-LAS YN LLONNI-CYMDEITHAS GYMRAEG TREFORYS Ar wahoddiad y Brifathrawes, Mrs Karen Jones aeth 40 o’r aelodau nộl i’r ysgol – ond ar ymweliad yn unig! Mae staff a disgyblion Ysgol Gymraeg Lộn Las wedi ymgartrefu yn eu hadeilad newydd am ychydig dros flwyddyn ac

ym mis Mehefin fe gawsom gyfle i ymweld â’r safle. Roedd nifer o gyn ddisgyblion, cyn rieni, cyn aelodau staff ac un gyn brifathro’r ysgol yn ein plith. Roedd yn braf cerdded o gwmpas y dosbarthiadau a’r buarth a sylweddoli ar yr offer a’r cyfleusterau sydd ar gael i’r plant sydd yn ffodus o dderbyn eu haddysg yno.Mae’r safle ar ddwy lefel ac roedd ambell aelod yn gwerthfawrogi defnyddio’r lifft sydd yn cysylltu’r derbynfa a’r Neuadd gyda’r dosbarthiadau. Yn dilyn gair o groeso gan y brifathrawes , fe

helpu pobl yng ngharchar.” “Wedi gallu mwynhau ychydig be-nodau, ond roedd yn rhy anodd i mi.” “Roedd yn hunandwyllwr ac yn gwrthod derbyn cyngor.” “Ro’n i’n colli amynedd gyda Iolo – doedd e ddim yn dysgu; ro’n i eisiau iddo fe fynd adre at Pegi!” “Roedd Iolo’n ficrocosm o Gymru –

yn galllu barddoni, ond yn methu rhedeg busnes.” “Darlun byw iawn o’r cyfnod; wedi mwynhau.” “Llyfr hir ond yn werth ei ddarllen.” Cyfarfod nesaf: 11 Medi, i drafod cyfrol y Fedal Ryddiaith, Eistedd-fod Caerdydd (os bydd teilyngdod).

gyflwynwyd eitem-au gan y disgybli-on a choronwyd y cyfan gyda chyflwyniad o gân actol a baratowyd ar gyfer Eistedd-fod yr Urdd. Diol-chwyd i’r plant a’r staff am noson ddifyr a diddorol gan Huw Phillips, cyn brifathro

Ysgol Bryn y Mộr,ond aelod o staff Lộn las yn nyddiau cynnar yr ysgol. Oherwydd ein taith

i’r Ynys Werdd , cyn-

helir ein cyfarfod

nesaf ar y BED-

WAREDD nos Iau

ym mis Gorffennaf ,

sef 26ain , yn Festri’r

Tabernacl am

7.00.y.h. Rydym yn

disgwyl yr hanesydd

enwog, Dr Elin Jones

i siarad ar y testun “ Siartiaeth yn Ne

Cymru,” gyda sylw arbennig at ymdre-

chion y siartwyr yn ein bro. Fe fyddwn yn

ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol ar

ddydd Mercher Awst 8fed ac yn edrych

ymlaen at gwmni y Prifardd Tudur

Dylan Jones yn ein Swper Cynhaeaf

yng Nghlwb Golff Treforys nos Iau

Medi 20fed.Manylion pellach am y

digwyddiadau gael oddi wrth David

Gwyn John ( 01792 773507).

WILIA Y mis hwn yng ngofal Steve Morris. Diolch yn fawr i’n cyfranwyr fel arfer.

Y mis nesaf yng ngofal Mark Stonelake

Anfoner cyfraniadau i [email protected] erbyn 21 Awst

SIOP TY TAWE DYDDIADUR 2019 WEDI CYRRAEDD!

Anrhegion Llestri

Cardiau Llyfrau CDau

Llyfrau dysgwyr

WILIA GORFFENNAF/AWST 2018 TUDALEN 3

ENILLWYR EISTEDDFOD YR URDD CYLCH ABERTAWE

· Parti Recorder Bl.6 ac iau – YGG Bryn y

Mor – 2il

· CogUrdd Bl.4-6 – Emily Carlson YGG

Llwynderw – 2il

· Unawd Chwythbrennau Bl.6 ac iau – Eleri

Gibbs YGG Y Login Fach – 3ydd

· Can Actol Bl.6 ac iau – YGG Llwynderw –

1af

· Dawns Werin Bl.6 ac iau (Ysg.dros 100) –

YGG Lon Las – 3ydd

· Dawns Hip-Hop/Stryd/Disgo Unigol Bl.6 ac

iau – Megan Evans YGG Bryn y Mor – 3ydd

· Unawd Llinynnol Bl.7-9 – Elin Rolles YG

Gwyr – 2il · Deuawd Bl.7-9 – Ffion a Catrin YGG Bryn Tawe – 2il

MERCHED Y WAWR GORLLEWIN MORGANNWG Bu cynrychiolaeth dda o’r Rhanbarth yng Ngŵyl Haf Machynlleth ar 19 Mai a chaf-wyd tipyn o lwyddiant yn y cystadlaethau. Bydd cardiau Nadolig o waith Iris Will-iams (Clydach) a Meriel Davies (Pontarddulais) yn harddu pecynnau’r Ŵyl yn 2018. Enillodd Mererid Morgan (Gorseinon) yr ail wobr am yr erthygl orau ym mhedwar rhifyn diweddaraf y Wawr a chafodd cangen Treforys wobr am fod ymhlith y cyntaf i ddychwelyd ei rhaglen a’i mantolen. Daeth Anita Applet-on (Gorseinon) yn ail am goginio cacen geirios a Doreen Hopkin (Clydach) yn drydydd am wneud coeden Nadolig un-

rhyw gyfrwng. Trydydd gafodd canghennau Gorseinon a Phontarddulais am eu sgets ddoniol yn arddangos sgiliau nofio cydamseredig er iddynt dreulio oriau yn ymarfer! Diolch i bawb gymerodd ran ac a ddaeth i gefnogi. Cafwyd diwrnod ples-erus a hwyliog iawn. Dathlwyd rhifyn 200fed y wawr dan olygyddiaeth Catrin Stevens (Gorseinon) gyda sawl cyfraniad o’r rhanbarth. Grace Birt gynllun-iodd y clawr hardd a ffres mewn

caligraffeg ac ysgrifennodd Esyllt Jones (Gorseinon) erthygl ar yr athetwraig driathlon o Benllergaer, Non Stanford. Dyfynnwyd llythyr doniol y diweddar Ray (Pws) Morris (Treboeth) hefyd lle roedd yn annog Wendy Richards i wisgo jîns, er mwyn bod ‘with it’, yn yr Eisteddfod Genedlaethol. At hyn caf-wyd erthygl hyfryd gan Donald Treharne yn dadan-soddi gyrfa Ezzelina Gwen-hwyfar Jones, y gerflun-wraig o Bontarddulais.

Bydd y rhanbarth yn cwrdd

ar nos Iau 28ain Mehefin

am 6 o’r gloch yn festri capel Carmel Port

Talbot ar gyfer beirniadu eitemau sioe

Llanelwedd ac yna i gerdded traeth Aber-

afan a chasglu sbwriel plastig ar yr un

pryd.

LEANNE WOOD Daeth arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn ddiweddar i gwrdd â phobl leol a sôn am ei gweledigaeth am Gymru. Bu Leanne yn annerch cyfarfod cyhoeddus dan nawdd aelodau o'r Blaid yng Ngŵyr yn y Clwb Chwaraeon, Penllergaer. Roedd yr ymweliad yn dilyn cyhoeddi strategaeth ddeg pwynt newydd gan y Blaid, 'Y newid sydd ei angen - Cymru rymus a democrataidd'.

CYFEILLION AMGUEDDFA Mae un o gymdeithasau hynaf Abertawe wedi penderfynu newid ei statws. Pleidleisiodd aelodau Sefydliad Brenhinol De Cymru i wneud cais i fod yn Gorff Elusennol Ymgorfforedig - statws symlach fydd yn ei ryddhau o nifer o ddyletswyddau cyfreithiol megis danfon cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau bob blwyddyn. Ffurfiwyd y Sefydliad yn 1835 gan rai o arweinwyr diwydiannol amlycaf yr oes ac o fewn chwe blynedd agorodd Amgueddfa Abertawe.

PARALLEL.CYMRU Dyma ddatblygiad cyffrous i’r iaith Gymraeg di-olch i’r cylchgrawn digidol dwyieithog newydd parallel.cymru sydd wedi rhyddhau map o leoli-adau gwahanol lle y gallwch siarad Cym-raeg. Hyd yn hyn, mae’n cynnwys 280 o dafarn-dai, caffis, gwestai, atyniadau twristiaeth a mwy, i gyd i’w gweld ar fap gyda’r opsiwn o edrych am fath o fusnes a chwilio yn ôl enw a lleoliad. https://parallel.cymru/siarad/ Wrth gwrs, po fwyafo bobl fydd yn ei ddefnyddio

· Parti Cerdd Dant Bl.7-9 – YGG Bryn Tawe – 3ydd · Ensemble Lleisiol Bl.7-9 – Aelwyd Twrw Tawe – 3ydd · Can Actol Bl.7-9 – YG Gwyr – 3ydd · Parti Merched Bl.7-9 – YGG Bryn Tawe – 2il · Seremoni y Gadair – Lowri Havard – 3ydd · Unawd Piano Bl.10 a dan 19 oed – Imogen Edwards YG Gwyr – 3ydd · Llefaru Unigol Bl.10 a dan 19 oed – Steffan Leonard YGG Bryn Tawe – 2il · Tim Siarad Cyhoeddus Bl.10 a dan 19 oed – YG Gwyr – 2il · Ensemble Offerynnol Bl.10 a dan 19 oed – YG Llandeilo Ferwallt – 1af · Cyflwyniad Dramatig Bl.10 a dan 19 oed – YG Gwyr – 3ydd

fe, mwyaf o bobl fydd yn hala listings i fi, a’r mwyaf cynhwysfawr fydd e! Mae e wedi cael eu sylw yn Golwg, Golwg 360 ac ar Radio Cymru yr wythnos hon ac mae’r dudalen wedi derbyn dros 800 o olgyfeydd yn pump diwrnod.

WILIA GORFFENNAF/AWST 2018 TUDALEN 4

CYNGERDD LLANDEILO FERWALLT Daeth llond neuadd yn Llandeiloferwallt i glywed cyngerdd haf Côr Tŷ Tawe nos Lun, Mehefin 19, 2018. Canodd y côr ddeg o ganeuon Cym-raeg, gan gynnwys medli o ganeuon Ryan Da-vies, Ym Mhenrhyn Gwyr o waith Mererid Hopwood ac Eric Jones, Cân Walter Meic Ste-vens, Ffalabalam, a Tangnefeddwyr, eto gan

Eric Jones. Canodd Helen Hedd yn y Dyffryn, o waith Nan Lewis ac Eric Jones. Cafwyd cyflwyniadau o ddarnau barddoniaeth gan Sali Wyn, Heini,

Gwersyll yr Urdd Llangrannog Llandysul SA44 6AE 21 Mehefin 2018 Annwyl gyfeillion Ysgrifennaf atoch i dynnu sylw at ddig-wyddad y bydd Urdd Gobaith Cymru yn ei chynnal yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd fis Awst eleni. Hiraethu am hafau hyfryd Llangran-nog Ar nos Iau, 9fed o Awst am 5.30yp ym Mhabell y Cymdeithasau (Y Senedd), Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd bydd trafodaeth banel yn rhannu atgofion a straeon am hafau a dreuliwyd yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, boed hynny fel staff, swog neu breswyliwr. Rydym hefyd yn estyn gwahoddiad cynnes i holl ddallenwyr y papur i ymuno yn y sgwrs drwy rannu eu straeon. Croe-so i bawb ddod a lluniau ac atgofion a

ORIEL YR ATIG O DAN BERCHNOGAETH NEWYDD Croeso i Lisa ac Andrew Green, perch-nogion newydd Oriel yr Attic. Hon yw’r oriel breifat hynaf yng Nghymru, wedi'i lleoli yn Pocketts Wharf yn Ardal Forwrol Abertawe. Ar ôl treulio blynyddoedd yn gweithio i ffwrdd yn Llundain a'r Unol Daleithiau, lle'r oedd Andrew yn gweithio yn y di-wydiant Offerynnau Gwyddonol a Lisa yn y sector ariannol ac yn ddiweddarach gyda chyfrifiaduron, dychwelodd y ddau yn ôl i Gymru yn 1995 i godi eu tri phlentyn - Angharad, Owain a Rhodri - ar fferm fach yn Pen-y-Cae, yn Ynys-cedwyn yng Nghwm Tawe. Symudwyd o'r fferm yn 2009 ac maent bellach yn byw yn ardal Ucheldiroedd Abertawe. Mae’r ddau yn gwsmeriaid yr oriel ers

Annwyl ddarllenwr, Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn dathlu 70 mlwydd oed eleni. Hoffem glywed eich atgofion o’r adeiladau neu am eich ymweliadau â’r Amgueddfa dros y blynyddoedd. Fuoch chi yn yr Amgueddfa yn y dyddiau cynnar? Ddaethoch chi i Sain Ffagan ar drip ysgol? Ydych chi’n gyn-aelod o staff? Caiff yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yng Nghaerdydd fis Awst a braf byddai eich gweld yn Sain Ffagan. Dewch i rannu eich atgofion gyda ni. Amgueddfa pobl Cymru yw Sain Ffagan, ac rydym eisiau clywed eich stori chi. Gallwch hefyd rannu eich atgofion gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CreuHanes neu cysylltwch â Elen Phillips, Curadur Hanes Cyfoes a Chymunedol [email protected] Cofion—Sioned Hughes, Ceidwad Hanes ac Archaeoleg, Am-gueddfa Cymru

Guto, Linda a Catrin. John Evans oedd yn cyfeilio. Diolchwyd i’r côr gan Prys Morgan.

bydd posib i ni gofnodi’r rhain fel rhan o broses archifo’r Urdd. Yn cadeirio fydd Angharad Mair gyda’r panel yn cynnwys Steffan Jenkins (cyn-gyfarwyddwr y gwersyll), Ian Gwyn-Hughes a nifer o gyn-wersyllwyr, swogs, staff ac enwogion eraill. Os hoffech gadarnhau eich presenoldeb gellir gwneud hynny drwy ebostio [email protected] Fel y gwyddoch efallai, yn 2022 bydd yr Urdd yn dathlu ein canmlwyddiant felly dyma gyfle i edrych yn ôl ac edrych ymlaen ... Diolch

Lowri Jones, Cyfarwyddwr

Gwersyll yr Urdd Llangrannog

blynyddoedd lawer, ac mae artist-iaid yr Attic wedi llenwi llawer o le ar waliau eu cartref. Mae’n falch iawn ganddynt bod y rhan fwyaf o'r artistiaid yn para ymlaen gyda’r oriel, ac hefyd fod rhai artistiaid newydd yn ymuno â'r grŵp. Fel cwsmeriaid yr Oriel Attic, roedd y ddau yn flin iawn i glywed y bydd-ai'n cau wrth i David ac Alexandra Roe ymddeol. Roedd hyn yn ym-ddangos fel cyfle euraidd i ennill busnes sefydlog, enwog, sydd wedi bod yn rhan o Gelfyddyd Celf Aber-tawe ers dros 50 mlynedd, ac ni chymerodd yn hir iddyn nhw ddod i’r penderfyniad. Mae’r ddau yn fwy na pharod i chwarae rhan er mwyn cadw'r Oriel ragorol hon ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr Oriel yn parhau i redeg fel y gwnaed, gydag arddangosfeydd rheolaidd ac fe fydd Sioe gyntaf Oriel yr Attic, o dan y perchenogion newydd, sef Y Sioe Haf, yn dech-rau ar 14 Gorffennaf ac yn parhau tan 27 Medi.

WILIA GORFFENNAF/AWST 2018 TUDALEN 5

YSGOL GYFUN GWYR Yr Adran Seicoleg Bu myfyrwyr yr Adran Seicoleg wrth eu boddau yn

cynnal sgwrs fyw ar-lein gyda seicolegwyr y Gym-deithas Seicolegol Brydeining yr wythnos hon mewn gweithgaredd ‘I’m a Scientist, get me Out of Here’. Bwriad y sesiwn oedd i rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r gwaith ymchwil sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws prifysgolion y DU yn y maes Iechyd a Lles. Roedd un ymchwil yn cynnwys ticlo llygod mawr i’w gosod mewn hwyliau hapus ac yna arsyl-wi arferion bwyta, un arall yn edrych ar feddyliau athletwyr elitaidd, a’r drydedd yn archwilio ymddyg-iadau caethiwus a’i berthnasedd i aclohol, cyffuriau a ffonau symudol. Cafodd y myfyrwyr gyfle i holi am faterion yn ymwneud â methodoleg ymchwil, moesau defnyddio cyfranwyr dynol mewn ymchwil, ac am impact cymdeithasol casgliadau’r ymchwil. Roedd y weithgaredd yn un ysbrydoledig a chyff-rous iawn gyda phob myfyriwr yn gwerthfawrogi derbyn atebion meddylgar oddiwrth yr ymchwilwyr.

Eisteddfod yr Urdd. Llongyfarchiadau mawr i’r holl ddisgyblion a

fu’n cynrychioli’r ysgol ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd dros hanner tymor. Roedd hi’n wythnos brysur tu hwnt i’r ysgol, yn rhuthro o gystadleuaeth i gystadleuaeth. A dioch i’r drefn, fe gafwyd y tywydd braf ar ein hochr! Ymhlith llwyddainnau’r ysgol yr oedd: Elin Rolles - 2il yng nghystadleuaeth Unawd Llinynnol Bl7-9 Imogen Edwards - 2il yn yr Unawd Piano Bl10-13 3ydd i Gân Actol Bl7-9 3ydd i Gyflwyniad Dramatig Bl10-13 2il i’r Tîm siarad cyhoeddus hŷn. Llongyfarchiadau i bawb ar Eisteddfod lwyddiannus!

Mabolgamapau’r Ysgol Diwrnod braf iawn oedd hi lawr ym Maes Athletau Prifysgol Abertwear gyfer Mabol-gamapu’r ysgol ar ddydd Mercher y 6ed o Fehefin. Daeth y disgyblion i gystadlu yn fôr o liw er mwyn dangos cefnogaeth i’w llysoedd a braf oedd gweld disgyblion bl 7-10 ar dân eisiau cystadlu. Gwelwyd nifer o ddigyblion y torri recordiau’r ysgol. Talent aruthrol! Pontio! Diwrnod arbennig a gafwyd pan wahod-dwyd disgyblion ysgolion cynradd teulu Gŵyr i Faes Athletau Prifysgol Abertawe ar gyfer Mabolgampau Pontio Gŵyr. Cafwyd diwrnod llawn hwyl gydag ysbryd cystadlu iach yn llenwi’r maes. Diolch yn fawr i Mr Gareth Lewis ac athrawon yr Adran Addysg Gorfforol am drefnu’r cyfan ac i aelodau o flwyddyn 10 a’r chweched am eu holl gymorth ar y diwrnod. Fe ddaeth hi’n amser unwaith eto ar gyfer taith pontio’r ysgol i Langrannog ac nid yw’r

gwersyll byth yn siomi! Mae’n gyfle euraidd i ddisgyblion blwyddyn 6 presennol teulu Gŵyr i gyfarfod ag athrawon a ffrindiau newydd mewn paratoad ar gyfer eu hysgol newydd ym mis Medi. Cafwyd tridiau llawn gwithgareddau cyffrous ac fel yr arfer cafodd nifer o ddisgyblion chweched Gŵyr y cyfle i fod yn swyddogion ar gyfer y cwrs. Diolch i Mr Gareth Lewis am ei waith trefnu ac i’r holl staff o’r ysgolion cynradd am eu trefniadau. Diolch i athrawon Gŵyr ac aelodau’r chweched am eu cymorth yn ogystal. Hwyl codi arian Cafwyd noson arbennig yn codi arian i daith chwaraeon De Affrig, elusen Jac Bach a thaith Lowri Jones i Batagonia cyn hanner tymor! Trefnwyd gêm wych yn cynnwys cyn-ddisgyblion yr ysgol. Diolch i bawb am eu cefnogaeth! Athletau’r Sir Profwyd llwyddiant mawr ym maes Athletau ym mis Mehefin. Bu’r disgybli-on yn cystadlu’n frwd mewn amry-wiaeth o feysydd gan ddod â llwyddiant ysgubol i’r ysgol. Llongyfarchiadau i dîm bechgyn blwyddyn 7 ac 8 ac i dîm merched blwyddyn 9 a 10 ar gipio’r wobr gynta

f. Canlyniad gwych! Gwobr Arian Ysgol sy'n Parchu Hawliau Ar ddechrau mis Mehefin, ymwelodd Sarah Hooke o elusen Unicef â'r ysgol fel rhan o'n hymgais i fynd am Wobr Arian Ysgol sy'n Parchu Hawliau. Caiff y wobr ei dyfarnu i ysgolion sy'n gwneud ymdrech benodol i hybu a hyrwyddo hawliau plant, gan eu dysgu am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Fel rhan o'r ases-iad, cafodd yr aseswr ei thywys o am-gylch yr ysgol gan griw o ddisgyblion Blwyddyn 8 er mwyn dangos sut mae amgylchedd yr ysgol yn hybu hawliau. Mynegodd Sarah Hooke ei bod yn bles iawn gyda'r gwaith a wneir yma a dyw-edodd fod awyrgylch glos a theuluol gan yr ysgol. Pleser mawr yw medru cyhoeddi ein bod wedi derbyn y Wobr Arian a gobeithiwn adeiladu ar y syl-faen gref sydd gennym yn y dyfodol.

WILIA GORFFENNAF/AWST 2018 TUDALEN 6

Ysgol y login fach Llongyfarchiadau mawr i Eleri Gibbs blwyddyn 6 ar ddod yn 3ydd yn yr Unawd Chwyth-brennau yn Ei-steddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a

Maesyfed - fe wnes di ein swyno ni i gyd Eleri. Llongyfarchiadau mawr i Grwp Lois sef - Lois Rich-ards, Harry Branigan, Elwyn Mogford ac Arwenna Dar-ling ar ennill y wobr 1af yn y gystadleuaeth Serameg Bl. 5 a 6 am eu portread o Flodeuwedd. Mae'r ysgol yn falch iawn o'r gwaith.

YSGOL GYMRAEG PONTYBRENIN Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Bu nifer o ddisgyblion ein hysgol yn cynrychioli Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlae-thol yr Urdd dros y Sulgwyn yn Llanelwedd. Manteisiodd bob plentyn ar y cyfle i berfformio o flaen cynulleidfa fawr, gyda phawb yn rhoi o’u gorau glas. Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau, nid yn unig ar gyrraedd yr Ei-steddfod Genedlaethol ond am y ffordd gwnae-thon nhw gynrychioli’r ysgol gydag anrhydedd. Rhaid diolch hefyd i’r holl staff a fu’n ymrwymedig â pharatoi’r disgyblion mor dda dros y misoedd diwethaf. Rydym yn ffodus iawn i gael cymaint o ddisgyblion a staff talentog yn ein plith. Gweithdy Cerddoriaeth Cymraeg Pwy sy'n dweud nad yw cerddoriaeth Cymraeg yn wych? Mae disgyblion Blwyddyn 6 yn sicr yn mwynhau gwrando ar drawsdoriad o ganeuon cyfoes Cymraeg ar ôl eu gweithdy gydag Aled Owen o YnniDa heddiw, i'w ddilyn gyda disgo Cymraeg egniol iawn. Er mwyn cadw'r gerddoriaeth i fynd a'r goleuadau yn fflachio, rhaid oedd pedalu a phedalu a phedalu! Mwyn-heodd pawb mas draw gan ddysgu i werth-fawrogi yr hyn sydd gan gerddoriaeth Cymraeg

i'w gynnig. ‘Sgen ti Dalent YGG Pontybrenin? Bu’r sioe ’Sgen ti Dalent YGG Pontybrenin a gynhaliwyd yn Neu-add Les Casllwchwr yn lwyddiant ysgubol, gyda phawb yn gweld pa mor dalentog mae disgyblion ein hysgol. Gwelwyd amrywiaeth hyfryd o ganu, llefaru, dawnsio a cherddoriaeth, gyda’r holl blant yn manteisio ar y cyfle i arddangos eu talentau i’r gynulleidfa brwdfrydig. Diolch i Karen Gray-son, cyn-ddisgybl YGG Pontybrenin ac athrawes ddrama ac astudiae-thau theatr yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, am gytuno i feirniadu’r gystadleuaeth – tasg anodd iawn. Llongyfarchiadau mawr i ‘Criw Miss White’ ar ennill cystadleuaeth y Cyfnod Sylfa-en ac i Sophia Holmes ar ennill cystadleuaeth

Cyfnod Allweddol 2. Wythnos Bontio Blwyddyn 6 yn Llangrannog Cafodd disgyblion Blwyddyn 6 wythnos i’w gofio yng nghanolfan yr Urdd yn Llangrannog yn ddiweddar fel rhan o uned bontio ysgolion clwstwr Ysgol Gyfun Gŵyr. O gan-lyniad i’r tywydd sych, llwyddodd y plant ymgymryd â’r holl weithgared-dau oedd ar gynnig, gan gynnwys

sgϊo, gwibgartio, dringo’r rhaffau uchel a mar-chogaeth. Yn ogystal â’r holl weithgareddau hwylus, llwyddon nhw gymdeithasu’n dda gyda’u cyfoedion o’r ysgolion eraill hefyd, gan osod sylfeini cadarn i flwyddyn 7 yn y broses.

Da iawn i'r Grwp Ensemble Offerynnol hefyd ac i Betsi Jenkins yn yr Unawd bl.3 a 4 am gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol ond yn anffodus ni chafwyd llwyfan y tro yma - blwyddyn nesaf amdani blant!! Llongyfarchiadau mawr i blant a staff Ysgol Y Login Fach ar ennill y Wobr Aur gan UNICEF i ysgolion sy’n parchu hawliau. Rydym yn hynod o falch o dderbyn y wobr.

Mae gweledi-gaeth ac ethos yr ysgol wedi’u seil-io ar Gon-fensiwn y Cenhed-loedd Un-

Mabolgampau’r Ysgol Cynhelir 4 diwrnod o fabolgampau eleni, gyda phlant y Meithrin, y Der-byn, Blwyddyn 1&2 a’r Adran Iau yn cystadlu ar wahanol diwrnodau. Braf oedd gweld pob un yn mwyn-hau cystadlu ac yn rhoi o’u gorau glas, p’un ai yn rhedeg, taflu, neidio neu yn cydbwyso sach ar lwy! Am sbort a sbri! Disgo y Meithrin

Diolch i gefnogaeth ‘Ffrindiau YGG

Pontybrenin’, buodd disgyblion y

Meithrin yn dathlu eu disgo cyntaf

yn neuadd yr ysgol yn ddiweddar,

gyda phob un yn dawnsio, canu ac

yn mwynhau bwyta losin a siocled!

Roedd hi’n noson lwyddiannus iawn

gyda phob un yn edrych ymlaen i

wisgo eu dillad disgo eto yn y

dyfodol agos.

edig ar Hawliau’r Plentyn ac mae hawliau plant yn flaeno-riaeth gyson i’r holl randdeiliaid er mwyn sicrhau bod y disgybli-on yn gallu mwynhau eu haw-liau mewn amgylchedd sy’n hybu parch ac urddas.

WILIA GORFFENNAF/AWST 2018 TUDALEN 7

Ysgol gyfun Bryn Tawe Taith Bl8 i Fae Caerdydd Ym mis Mehefin, trefnodd Adran y Gymraeg daith i fl.8 i ymweld â Bae Caerdydd. Cafodd y disgyblion daith o gwmpas Canolfan y Milen-iwm a thaith o gwmpas y Senedd cyn mwynhau ychydig o ginio a hufen ia! “Y peth gorau am y daith oedd ymweld â Chanolfan y Mileniwm gan fod y lle mor fawr!” Sinead a Catrin “Yr hyn wnes i fwynhau oedd gweld ble mae’r actorion yn newid ar gyfer sioeau yng Nghanolfan y Mileniwm” Catrin “Dysgais bod y Senedd yn un o’r Seneddau mwyaf eco gyfeillgar yn y byd! Roedd yr adeilad yn hardd gyda’r holl wydr a phren ac fe wnae-thon ni fwynhau’r hufen ia cyn mynd nôl ar y bws!” Ella, Kiera, Cerys, Thomas a Dylan

Llwyddiant Pêl-doed Llongyfarchiadau mawr i dîm pêl-droed Bl 9 Ysgol Bryn Tawe. Roedd y tîm yn fuddugol yn rownd derfynol Cwpan Ysgolion Abertawe ym mis Mehefin. Cipiwyd y cwpan drwy faeddu tîm cryf o Ysgol Olchfa mewn gêm hynod gyffrous o 4-3 gyda Lewis Brooks (2), Toby Porter a Harrison Thomas yn sgorio golau o’r safon uchaf. Arbennig fechgyn!

LLWYDDIANNAU: * Llongyfarchiadau enfawr i dim rygbi blwyddyn 8. PENCAMPWYR CWPAN ABERTAWE 2018. Hollol haeddianol wrth ennill 57-12 yn erbyn Penyrheol * Llongyfarchiadau enfawr i dim rygbi blwyddyn 10. Cyfartal ar ddiwedd y gem ac yn rhannu’r darian ond sydd dal yn golygu eu bod yn PEN-CAMPWYR PLAT ABERTAWE 2018. * Llongyfarchiadau enfawr i dim rygbi blwyddyn 11 ar guro Treforys 32-12 i fod yn BEN-CAMPWYR PLAT ABERTAWE 2018.

Llwyddiant Eisteddfodol. Yn ystod hanner tymor y Sulgwyn aeth tua 80 o blant o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe i gy-

stadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd. Roedd 16 o eitemau gan yr ysgol yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod gan gynrychioli Gorllewin Morgannwg. Rhai o’r cystadlae-thau hyn oedd, y côr blynyddoedd 7 – 9, y parti llefaru, y parti cerdd dant, cystadleuaeth cogurdd a chôr merched hŷn yr ysgol, i enwi ond ychydig gystadlaethau. Bu’r ysgol yn llwyddiannus gyda 4 cystadleuaeth yn cyrraedd y llwyfan, gan gynnwys Steffan Leonard, oedd yn llefaru’n unigol a Catrin Kiernan a ffion Tomos yn oedd cystadlu yn y ddeuawd. Cafwyd sawl llwyddiant llenyddol hefyd gyda Sion Thomas yn ennill y drydedd wobr un y farddoniaeth i flwyddyn 8 ac wrth greu cynnyrch digidol dan 19. Bu’r ysgol yn fuddugol hefyd wrth greu cywaith a chreu gwefan. Llongyfarchiadau i bawb a oedd ynghlwm â’r cystadlu.

Ym mis Mehefin, croesawyd Grug Muse a Matthew Tucker atom o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe i gynnal gweithdy ysgrifennu creadigol i griw o flynyddoedd 7,8 a 9. Cynhaliwyd gweithdy rhyddiaith yn y bore ac yna gweithdy barddoniaeth yn y prynhawn. Dywedodd Siôn Thomas o flwyd-dyn 8 “Fe wnes i fwynhau’r diwrnod cyfan, yn enwedig defnyddio lluniau fel sbardunau a hefyd arbrofi gyda strwythur cerddi”. Diolch yn fawr i Grug a Matthew am roi o’u hamser ac i’r Brifysgol am gynnig y cynllun.

Ysgol Gynradd Gellionnen Wrth edrych ymlaen i wyliau’r Haf dewch i ddathlu ein newyddion gyda ni yma yng Ngellionnen. Chwaraeon Llongyfarchiadau i dîm criced Bl 5 a 6 ar eu hymdrech arbennig yn ystod cystadleuaeth Cricket Wales/Criced Cym-ru a phob lwc yn y rownd nesaf. Ymlaen â chi fechgyn! Eleni eto cynhaliwyd mabolgampau llwyddiannus ar gyfer y Meithrin, Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 1 gyda phawb wedi eu mwynhau.Diolch i bawb a’u mynychodd am eu cefnogaeth. Siarter Iaith Cafodd Lysgenhadon yr ysgol amser arbennig yn gweithio gyda Llinos a Carys yn paratoi holiaduron ar gyfer cwestiynu busnesau lleol am eu defnydd o’r iaith Gymraeg.Wedyn, aethant ati i dda-dansoddi’r gwybodaeth ymchwil. Diolch i Llinos Welsh4BizSouthW ac i Carys Ment-er Abertawe am eu harweiniad yn ystod y gwaith ymchwil. Kerbcraft Hoffwn ddiolch i Claire o Gyngor Aber-tawe, PCSOs Rastatter a Grey a’r rhieni arbennig oedd wedi ymroi o’u hamser i helpu gyda chwrs Kerbcraft dros gyfnod o 10 wythnos. Mae plant Blwyddyn 2 yn arbenigwyr ar sut i groesi ac ymddwyn ar y ffordd erbyn hyn! Cofiwch ddilyn yr ysgol ar drydar @ygggellionnen.

DAU YN Y BAE

Os byddwch chi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Llun, 6ed Awst, dewch i gefnogi Cronfa Glyndŵr. Bydd dau o arweinwyr y genedl yn sgwrsio mewn sesiwn holi ac ateb ddifyr a dadlennol. Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C fydd yn cael ei holi gan Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC a hynny ym Mhabell y Cymdeithasau 1 yn y Senedd am 1 o’r gloch. Mae Cronfa Glyndŵr yn codi arian er mwyn dosbarthu grantiau i ysgolion, mentrau iaith a chylchoedd meithrin, a chan fod y ddau siaradwr yn gynnyrch ysgolion Cymraeg y brifddinas a’r cylch bydd yn briodol clywed eu barn am eu profiadau a’u gobeithion am y dyfodol. Meddai Catrin Stevens, Cadeirydd Cronfa Glyndŵr, ‘Dyma’r tro cyntaf i’r Gronfa fentro i gynnal sesiwn o’r fath ond gan ein bod wedi llwyddo i ddenu dau siaradwr mor brofiadol ac argyhoeddedig, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad ac yn hyderu y bydd y

babell yn llawn ar eu cyfer.’ Bydd Llywydd Anrhydeddus newydd y Gronfa, Cennard Davies, yn cloi’r sesiwn. Croeso cynnes i bawb.

WILIA GORFFENNAF/AWST 2018 TUDALEN 8

Mudiad Meithrin yn cynnig Ysgoloriaeth Ymchwil Newydd

Mae Mudiad Meithrin yn cynnig ysgoloriaeth gwerth £1,000 i ddarpar fyfyriwr yn un o brifysgolion Cymru sy’n bwriadu astudio am radd Meistr trwy gyfrwng y Gymraeg mewn disgyblaeth sy’n berthnasol i waith y Mudiad. Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd ar gyfer yr ysgoloriaeth ddarparu tystiolaeth gan y brifysgol berthnasol ei fod wedi cael cynnig

lle i astudio am radd Meistr fel rhan o’r cais. Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu blog (i’w gyhoeddi) i Mudiad Meithrin o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn o astudio ar ganfyddiadau’r ymchwil. Telir hanner yr ysgoloriaeth ar gychwyn y cyfnod a hanner arall yr ysgoloriaeth ar ddiwedd y cyfnod. Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies,

Prif Weithredwr Mudiad Meithrin: “Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu cynnig ysgoloriaeth o £1,000 i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio am radd Meistr trwy gyfrwng y Gymraeg ar bwnc sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin. Edrychaf ymlaen yn eiddgar at dderbyn llu o geisiadau cyn diwedd mis Gorffennaf!” I wneud cais, dylid gyrru CV a llythyr (dim mwy na 2 ochr A4 o hyd) i [email protected] erbyn hanner nos Gorffennaf 31, 2018.

TYSTYSGRIFAU CAM WRTH GAM MUDIAD MEITHRIN Ddydd Gwener 6 Gorffennaf cynhaliwyd seremoni wobrwyo arbennig yng Ngwesty’r Diplomat, Llanelli er mwyn cyflwyno tystysgrifau ym maes y blynyddoedd cynnar i 74 o ddisgyblion ysgol uwchradd sy’n rhan o gynllun ysgolion Cam wrth Gam Mudiad Meithrin. Roedd dros 150 o ffrindiau a theuluoedd y disgyblion llwyddiannus wedi teithio o bob rhan o Gymru i fod yn bresennol yn yr achlysur arbennig hwn. Ers dechrau cynnig y gwasanaeth arbenigol yma i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn 2006, mae dros 1,000 o ddisgyblion wedi cymhwyso. Caiff y tystysgrifau eu cyflwyno i’r disgyblion gan yr actor Aled Pugh, sy’n adnabyddus am chwarae rhan Bobby yn y gyfres deledu Stella a chwarae rhan Ryan Davies yn y ffilm Ryan a Ronnie.

Yr 11 Ysgol a fu’n rhan o’r cynllun eleni oedd ysgolion Ardudwy, Bro Myrddin, Maes-y-Gwendraeth, Ystalyfera, Bryntawe, Gŵyr, Bro Morgannwg, Plasmawr, Glantaf a Broedern.

CANEUON I FABANOD NEWYDD AR RADIO CYMRU Oes yna fabi newydd yn eich ty chi? Ydych chi’n anti neu’n wnwcwl, yn famgu neu dadcu neu nain neu daid balch? Rhowch wybod i’r byd i gyd! Mae BBC Radio Cymru 2 yn cynnig cyfle unigryw i groesawu babis newydd i'r byd. Ers dechrau mis Mai, ar Sioe Frecwast Daf a Caryl ar Radio Cymru 2, mae Caryl Parry Jones wedi bod yn cyfansoddi cân bob mis i groesawu’r babis sydd wedi cael eu cyfarch ar raglenni BBC Radio

Cymru. Os oes 'na fabi newydd yn y teulu, cofiwch e-bostio eu henwau at [email protected] er mwyn eu cynnwys yng Nghân y Babis y mis hwnnw. Fe gewch gopi o eiriau’r gân – fydd yn cynnwys enw eich babi chi – wedi’i argraffu, a’i lofnodi gan Caryl. Ewch i wefan Cân y Babis i wylio Caryl yn perfformio'r caneuon ar y Sioe Frecwast. Mwynhewch, a gyda’n gilydd nawr … Oooooooooh! https://www.bbc.co.uk/programmes/p06ctlpd

Nos Wener

yn Nhy Tawe Rhywbeth bob nos

Wener Nos Wener,

Gorffennaf 27: SOLERA