31
1 Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru Digwyddiad Ymgysylltu Rhanddeiliaid 2 Hydref 2015 Adroddiad

Adroddiad or Digwyddiad Rhanddeiliaid 2015rŵan wrando ar yr hyn mae ein rhanddeiliaid o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd a sefydliadau’n ei ddweud wrthym am ein blaenoriaethau ar

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • 1

    Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru

    Digwyddiad Ymgysylltu Rhanddeiliaid

    2 Hydref 2015

    Adroddiad

  • 2

    Cynnwys

    1

    Cefndir y Digwyddiad – Amcanion Rhwydwaith Sector Cyhoeddus

    Gogledd Cymru (ARhSCGC)

    Tud 3

    2

    Croeso ac Anerchiad Agoriadol – Mike Townson, Cadeirydd RhSCGC

    Tud 3

    3

    Prif Anerchiad – Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Comisiwn

    Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru.

    Tud 3

    4

    Trosolwg o’r diwrnod – Tracey Pardoe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

    Tud 4

    5

    Pwyntiau Allweddol o’r Adborth – Tracey Pardoe, Cyngor Bwrdeistref

    Sirol Conwy

    Tud 4

    6

    Diolchiadau a sylwadau cloi – Mike Townson a Tracey Pardoe

    Tud 6

    Atodiadau

    A1 Rhaglen y Digwyddiad Tud 7

    A2 Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru

    – Aelodaeth a Chysylltiadau

    Tud 9

    A3 Sefydliadau a Gynrychiolir / sy’n Mynychu Tud 10

    A4 Monitro Cydraddoldeb Tud 12

    A5 Adborth Ffurflenni Gwerthuso Tud 14

    A6 Adborth gan Gyfranwyr Tud 16

  • 3

    1. Cefndir y Digwyddiad – Amcanion Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus

    Gogledd Cymru (ARhSCGC)

    Mae Aelodau Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru

    (RhCSCGC) yn y broses o adolygu a diweddaru Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol

    ac Amcanion Cydraddoldeb eu sefydliadau yn unol ag anghenion Dyletswydd

    Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a’r dyletswyddau cydraddoldeb penodol sy’n

    berthnasol i gyrff rhestredig yng Nghymru. Roedd yr amcanion gwreiddiol a

    ddatblygwyd yn 2011/12 yn seiliedig i raddau helaeth ar dystiolaeth o

    anghydraddoldeb a gyhoeddwyd yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a

    Hawliau Dynol “Pa mor deg yw Cymru?” ac roedd ein tystiolaeth anecdotaidd a

    gwybodaeth o adroddiadau sydd wedi’u cyhoeddi yn dangos bod y rhan fwyaf, os

    nad pob un, o’r amcanion hyn yn dal i fod yn berthnasol heddiw. Mae angen i ni

    rŵan wrando ar yr hyn mae ein rhanddeiliaid o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd

    a sefydliadau’n ei ddweud wrthym am ein blaenoriaethau ar gyfer y pedair blynedd

    nesaf, felly fe wnaethom wahodd amrywiaeth eang o bobl berthnasol i ddod i

    siarad â ni mewn digwyddiad yng Nghanolfan Fusnes Conwy ar 2 Hydref 2015.

    Rydym yn hynod falch â’r ymateb ac mae rhestr o’r sefydliadau a gynrychiolwyd yn

    y digwyddiad wedi’i chynnwys yn Atodiad 3. Nod yr adroddiad hwn yw ceisio nodi

    a disgrifio’r hyn a ddywedodd pobl wrthym yn y digwyddiad hwn a sut y bydd yn

    cael ei ddefnyddio gan aelod sefydliadau er mwyn hysbysu datblygiad amcanion

    cydraddoldeb a chynlluniau cydraddoldeb strategol ledled Gogledd Cymru.

    2. Croeso ac Anerchiad Agoriadol – Mike Townson, Cadeirydd RhSCGC

    Croesawodd Mike Townson y cynrychiolwyr i’r digwyddiad a diolchodd i bawb am

    roi o’u hamser ar ran yr aelodau RhSCGC.

    Ychwanegodd pa mor falch yr oeddem bod Kate Bennett, Cyfarwyddwr

    Cenedlaethol Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, wedi

    derbyn ein gwahoddiad i fod yn siaradwr gwadd a rhoi’r anerchiad cyweirnod.

    3. Anerchiad Cyweirnod – Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Comisiwn

    Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru.

    Darparodd Kate grynodeb o’r heriau allweddol a gafodd eu hadnabod drwy

    ymchwil y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a oedd wedi’i gynllunio i

    ddiweddaru’r adroddiadau “Pa mor deg yw Prydain/Cymru?” a gyhoeddwyd yn

    2011.

  • 4

    4. Trosolwg o’r diwrnod – Tracey Pardoe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

    Disgrifiodd Tracey Pardoe sut roedd gweddill y diwrnod i gael ei ymroi i

    drafodaethau o gwmpas y bwrdd a fyddai, ar gyfer meysydd pwnc pob un o’r chwe

    amcan cydraddoldeb, yn gofyn tri chwestiwn:-

    (a) Yw’r amcanion cydraddoldeb a ddatblygwyd yn 2011/12 yn dal i fod yn berthnasol heddiw?

    (b) Os ydynt yn berthnasol, a oes angen eu diweddaru neu eu newid?

    (c) Os nad ydynt bellach yn berthnasol, pam?

    Gwahoddwyd cynrychiolwyr i siarad â phob un o’r chwe arweinydd pwnc a fyddai’n

    symud i bob bwrdd yn eu tro drwy gydol y dydd. Yn ychwanegol at hynny,

    gosodwyd nifer o siartiau troi o amgylch yr ystafell er mwyn i bobl allu ychwanegu

    eu sylwadau neu wneud cyfraniadau nad oedd modd iddynt eu gwneud yn ystod y

    trafodaethau o amgylch y bwrdd.

    5. Pwyntiau Allweddol o’r Adborth – Tracey Pardoe, Cyngor Bwrdeistref Sirol

    Conwy

    Yn dilyn y trafodaethau o amgylch y byrddau, daeth aelodau RhSCGC â nifer o’r

    negeseuon allweddol yr oedd y cynrychiolwyr wedi eu disgrifio yn ystod y dydd,

    gan gynnwys y rhai ar y siartiau troi, at ei gilydd. Darparodd Tracey Pardoe

    grynodeb o’r pwyntiau allweddol fel â ganlyn:

    Iechyd:

    • Angen am agwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a Hawliau Dynol er mwyn

    gallu mynd i’r afael ag anghenion yr unigolyn cyfan

    • Unigolion digartref ac agored i niwed sy’n rhannu anghydraddoldebau iechyd yn

    bennaf

    • Gwaith yn ymwneud ag iechyd meddwl (cydnabod anghenion diwylliannol a

    chyfathrebu).

    • Angen mwy o gydweithio rhwng cyrff cyhoeddus mewn perthynas ag iechyd

    ataliol

    • Gwell cyfathrebiadau ar gyfer BSL

  • 5

    Addysg:

    • Gwella rôl sicrwydd ansawdd Estyn

    • Gweithredoedd gwrth-fwlio i gynnwys seiber fwlio

    • Gwella cymorth i ddisgyblion ag anableddau e.e. BSL

    • Addysgu staff a disgyblion am ymwybyddiaeth LGBT

    • Gwella cyfathrebiadau rhyngasiantaeth

    • Cydnabod anghenion y rhai hynny sy’n ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig

    Cyflogaeth:

    • Mynd i’r afael ag anawsterau sy’n codi o ganlyniad i gyflwyniad ffioedd ar gyfer

    tribiwnlysoedd cyflogaeth

    • Gwella sut mae data sensitif am staff yn cael ei chadw, yn enwedig statws pobl

    drawsrywiol

    • Cynnig mwy nag un ffordd i ymgeisio am swyddi – nid Ffurflenni Cais Digidol yn

    unig

    • Angen mesurau gweithredu positif er mwyn helpu i gefnogi/cadw grwpiau sy’n

    cael eu hamddiffyn

    • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cynllun Mynediad i Waith

    • Gwella ymwybyddiaeth cydraddoldeb ar gyfer staff a rheolwyr

    • Gweithio gyda phobl ifanc er mwyn hyrwyddo manteision bod mewn gwaith

    • Datblygu hyfforddiant Sgiliau Sylfaenol – agor dosbarthiadau nos ar gyfer staff

    Diogelwch Personol:

    • Troseddau Seiber a Chyfryngau Cymdeithasol

    • Angen am staff sydd wedi’u hyfforddi mewn BSL

    • Cyfiawnder adferol

    • Camdriniaeth ddomestig a throsedd casineb

    • Dylid cydnabod a chofnodi oedran fel trosedd casineb.

    Grym a Llais:

    • Trefniadau domestig cyfarfodydd (amser/lleoliad/cludiant/mynediad)

    • Pryder nad yw’n cael ei wneud fel “tocynistiaeth”

    • Mynediad i wleidyddiaeth ar gyfer yr anabl yn wael – diffyg cefnogaeth

    • Defnydd gwell (mwy gwybodus) o dechnoleg

    • Hysbysebu/Cyhoeddusrwydd/Cyfathrebu yn allweddol

    • Mynd allan i gyfarfod grwpiau yn hytrach na disgwyl iddynt ddod atoch chi

    • Byddai mentora 360° yn ddefnyddiol

  • 6

    Mynediad i wybodaeth, Gwasanaethau ac Adeiladau/Amgylchedd:

    Gwybodaeth

    • Un man cyswllt

    • Cynhwysiant digidol – ddim i bawb – rhai dal angen dogfennau papur

    • Gwybodaeth am BSL ar wefannau sector cyhoeddus

    • Fe ddylai fformatau hawdd eu darllen ac ati fod ar gael

    • Dwyieithrwydd – fe ddylai’r Gymraeg a’r Saesneg fod ochr yn ochr

    Gwasanaeth

    • Pwysigrwydd EqIA – maent yn gweithio pan fyddant yn cael eu gwneud yn iawn,

    ymgysylltu â chymunedau

    • Mae’n ymddangos bod diffyg ymwybyddiaeth cyffredinol o ran sut i ymgysylltu

    • Angen deall effaith cronnus y newidiadau i wasanaethau cyhoeddus

    • Fe ddylai gwasanaethau gael eu dylunio gan ddefnyddwyr, nid darparwyr

    gwasanaeth

    • Cefn gwlad – diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn ei gwneud hi’n anodd cael

    mynediad i wasanaethau

    Adeiladau / Amgylchedd

    • Angen gwella’r hyfforddiant cydraddoldeb ar gyfer Cynllunwyr

    • Dylid mabwysiadu egwyddorion cynllunio cynhwysol ledled Gogledd Cymru

    • Gwella toiledau cyhoeddus, seddau, mannau cynnes i gyfarfod

    • Trwsio pafinau

    • Gwahardd hysbysfyrddau “A” ar y Stryd Fawr

    6. Diolchiadau a sylwadau cloi – Mike Townson, Cadeirydd RhSCGC

    Dechreuodd Mike Townson ei sylwadau i gloi drwy ddiolch i gynrychiolwyr y

    sefydliadau am eu cyfraniadau a diolchodd ar ran y cyfranwyr a’r sefydliadau i Kate

    Bennett am ei hanerchiad gwybodus ac am roi o’i hamser i aros yn y digwyddiad a

    chyfrannu at y trafodaethau o amgylch y bwrdd. Yn olaf, diolchodd Mike i’r

    cyfranwyr am roi o’u hamser er mwyn ymgysylltu â chynrychiolwyr sefydliadau sy’n

    aelodau yn y digwyddiad hwn. Bydd eu hadborth yn hynod werthfawr wrth sicrhau

    datblygiad y cynlluniau cydraddoldeb strategol a’r amcanion ar gyfer y pedair

    blynedd sydd i ddod. Diolchwyd hefyd i’r cyfieithwyr Cymraeg a BSL a oedd wedi

    bod yn gweithio drwy’r dydd er mwyn darparu gwasanaethau cyfieithu.

  • Digwyddiad Ymgysylltu gyda Rhanddeiliaid /

    Canolfan Fusnes Conwy - 2 Hydref 2015

    RHAGLEN / PROGRAMME

    Cofrestru a lluniaeth

    Croeso ac anerchiad agoriadol

    Mike Townson, Cadeirydd

    Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector

    Gyhoeddus Gogledd Cymru

    Kate Bennett

    Cyfarwyddwr, Comisiwn Cydraddoldeb a

    Hawliau Dynol Cymru

    Trosolwg o'r rhaglen ar gyfer y

    Cyflwyniad i ymarfer Amcanion

    Cydraddoldeb

    Tracey Pardoe

    Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector

    Gyhoeddus Gogledd Cymru

    Adborth a thrafodaeth o amgylch y

    bwrdd (x2)

    • A yw amcanion yn dal i fod yn

    flaenoriaeth?

    • Os ydynt, a oes angen eu diweddaru?

    • Os nad ydynt, esboniwch

    • A oes unrhyw amcanion ar goll?

    Cinio

    7

    Digwyddiad Ymgysylltu gyda Rhanddeiliaid / Stakeholder Engagement Event

    2 Hydref 2015 / Conwy Business Centre

    RHAGLEN / PROGRAMME

    10.00

    a.m.

    Registration and refreshments

    agoriadol

    Mike Townson, Cadeirydd

    Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector

    Gyhoeddus Gogledd Cymru

    10.30

    a.m.

    Welcome and opening address

    Mike Townson, Chair

    North Wales Public Sector

    Equality Network

    Cyfarwyddwr, Comisiwn Cydraddoldeb a

    10.45

    a.m.

    Kate Bennett

    Director, Equality and Human Rights

    Commission Wales

    diwrnod

    Amcanion

    Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector

    Gyhoeddus Gogledd Cymru

    11.40

    a.m.

    Overview of programme for the day

    Introduction to Equality Objectives

    exercise

    Tracey Pardoe

    North Wales Public Sector

    Equality Network

    o amgylch y

    A yw amcanion yn dal i fod yn

    angen eu diweddaru?

    A oes unrhyw amcanion ar goll?

    11.45

    a.m.

    Feedback and discussion around the

    table (x2)

    • Are objectives still a priority?

    • If yes, do they need updating?

    • If no, please explain

    • Are there any objectives

    12:45 Lunch and “Post

    Atodiad 1

    Stakeholder Engagement Event

    / Conwy Business Centre – 2 October 2016

    Registration and refreshments

    Welcome and opening address

    Mike Townson, Chair

    North Wales Public Sector

    Equality Network

    Kate Bennett

    Director, Equality and Human Rights

    Commission Wales

    Overview of programme for the day

    to Equality Objectives

    exercise

    Tracey Pardoe

    North Wales Public Sector

    Equality Network

    Feedback and discussion around the

    table (x2)

    Are objectives still a priority?

    If yes, do they need updating?

    If no, please explain

    Are there any objectives missing?

    Lunch and “Post-It” session

  • 8

    a.m.

    Cyfle i rwydweithio a thrafodaethau

    unigol (x4)

    • A yw amcanion yn dal i fod yn

    flaenoriaeth?

    • Os ydynt, a oes angen eu diweddaru?

    • Os nad ydynt, esboniwch

    • A oes unrhyw amcanion ar goll?

    1:30

    p.m.

    Feedback and discussion around the

    table (x4)

    • Are objectives still a priority?

    • If yes, do they need updating?

    • If no, please explain

    • Are there any objectives missing?

    Adborth o’r pwyntiau allweddol

    Tracey Pardoe

    3:30

    p.m.

    Key points feedback

    Tracey Pardoe

    Diolch a Chloi

    Mike Townson

    3.45

    p.m.

    Thanks and close

    Mike Townson

  • 9

    Atodiad 2

    Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru

    – Aelodaeth a Chysylltiadau

    Sefydliad Enw(au) Cyswllt Gwefan

    Bwrdd Iechyd Prifysgol

    Betsi Cadwaladr

    Sally Thomas

    Mike Townson

    [email protected]

    [email protected]

    www.bcu.wales.nhs.uk

    Heddlu Gogledd Cymru Greg George [email protected]

    ice.uk

    www.north-

    wales.police.uk

    Swyddfa Comisiynydd

    Heddlu a Throsedd

    Gogledd Cymru

    Elizabeth Ward [email protected].

    police.uk

    www.northwales-

    pcc.gov.uk

    Gwasanaeth Tân ac

    Achub Gogledd Cymru

    Sue Jones Sue.Jones@nwales-

    fireservice.org.uk

    www.nwales-

    fireservice.org.uk

    Ymddiriedolaeth GIG

    Gwasanaeth

    Ambiwlans Cymru

    www.was-tr.wales.nhs.uk

    Awdurdod Parc

    Cenedlaethol Eryri

    Bethan Wyn

    Hughes

    Bethan.Hughes@eryri-

    npa.gov.uk

    www.eryri-npa.gov.uk

    Cyngor Ynys Môn Carol Wyn

    Owen

    Rhian W Jones

    [email protected].

    uk

    [email protected]

    www.anglesey.gov.uk

    Cyngor Bwrdeistref

    Sirol Conwy

    Tracey Pardoe

    Sian Wall

    [email protected]

    [email protected]

    www.conwy.gov.uk

    Cyngor Sir Ddinbych Keith Amos [email protected].

    uk

    www.denbighshire.gov.uk

    Cyngor Sir y Fflint

    Fiona Mocko

    Stephanie

    Aldridge

    [email protected]

    Stephanie_aldridge@flintshire.

    gov.uk

    www.flintshire.gov.uk

    Cyngor Gwynedd Delyth

    Williams

    [email protected].

    uk

    www.gwynedd.gov.uk

    Cyngor Bwrdeistref

    Sirol Wrecsam

    Gillian

    Grainger

    [email protected].

    uk

    www.wrexham.gov.uk

    Coleg Cambria

    Elane Roberts [email protected] www.cambria.ac.uk

    Cwmni Adsefydlu

    Cymunedol Cymru

    Russell

    Williams

    [email protected]

    on.gsi.gov.uk

    www.walescrc.co.uk

  • 10

    Atodiad 3

    Sefydliadau a Gynrychiolir / sy’n Mynychu

    Sefydliad / Organisation

    Deaf Training UK

    Cymorth i Ferched Cymru / Welsh Womens Aid

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr University Health Board

    Y Groes Goch Brydeinig / British Red Cross

    Heddlu Gogledd Cymru / North Wales Police

    Llywodraeth Cymru / Welsh Government

    Grŵp Mynediad Meirionnydd Access Group

    NWREN

    VIVA

    Diverse Cymru

    Iechyd Cyhoeddus Cymru / Public Health Wales

    Grŵp Mynediad Arfon Access Group

    Rhwydwaith Trawsrhywiol Unique Transgender Network

    Gwyl Ffilmiau Mynydd Llanberis Mountain Film Festival

    RNIB Cymru / VI Voices Wrexham

    Terrence Higgins Trust

    Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol / Equality and Human Rights Commission

    Cyngor Tref Caernarfon Town Council

    NW Deaf Association, Keyring, NW Deaf Church

  • 11

    Ysgol Friars

    Cyngor Sir Ddinbych / Denbighshire County Council

    The Beaumont Society

    Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru / North Wales Deaf Association

    CAB Gwynedd & De Ynys Môn CAB

    Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru / Older People’s Commissioner for Wales

    Celtic Pride LGBT Staff Network (BCUHB)

    North Wales Association from Multicultural Integration

    Victim Support

    Denbighshire Citizens Advice Bureau

  • 12

    Atodiad 4.

    Monitro Cydraddoldeb

    Nifer y ffurflenni a gwblhawyd / Number of forms completed: 9

    Grŵp Oedran / Age Group:

    0 – 15 0%

    16 – 20 0%

    21 – 45 11%

    46 – 65 33.5%

    66 – 74 33.5%

    75 + 0%

    Ddim am ddweud / Prefer not to say 11.5%

    Rhyw / Sex:

    Benyw / Female 67%

    Gwryw / Male 22%

    Arall / Other 11%

    Ddim am ddweud / Prefer not o say 0%

    Cenedligrwydd / National Identity:

    Cymraeg / Welsh 56%

    Prydeinig / British 33%

    Heb ateb / not answered 11%

    Grŵp Ethnig / Ethnic Group:

    Cymraeg / Welsh 44.5%

    Saesneg / English 11%

    Prydeinig / British 33.5%

    Indiaidd / Indian : 11%

    Cyfeiriadedd Rhywiol / Sexual Orientation:

    Heterorywiol / Heterosexual 67%

    Deurywiol / Bisexual 11%

    Merch Hoyw/Lesbiad / Gay Women/Lesbian 11%

    Arall / Other 11%

  • 13

    Crefydd neu Gred / Religion or Belief:

    Cristion / Christian 56%

    Hindŵ / Hindw 11%

    Dim / None 33%

    Statws Priodasol / Marital Status:

    Priod neu Partneriaaeth Sifil / Married or Civil Partnership

    Ydw / Yes 56%

    Nac Ydw / No 33%

    Ddim am ddweud / Prefer not o say 11%

    Anabledd / Disability:

    Oes / Yes 11%

    Nac oes / No 89%

    Dim am ddweud / Prefer not to say 0%

    Dewis Iaith / Preferred Language:

    Cymraeg / Welsh 44%

    Saesneg / English 56%

    Cyfrifoldebau Gofalu / Caring Responsibilities:

    Oes / Yes 56%

    Nac oes / No 44%

    Dim am ddweud / Prefer not to say 0%

  • 14

    Atodiad 5.

    Adborth ar y digwyddiad gan gynrychiolwyr

    Nifer y ffurflenni a gwblhawyd / Number of forms completed: 8

    Yr Adeilad - Cyflusterau / Venue - Facilities

    Rhagorol / Excellent 50%

    Da / Good 50%

    Boddhaol / Satisfactory 0%

    Ddim yn foddhaol / Not satisfactory 0%

    Gwael / Poor 0%

    Lleoliad / Location

    Rhagorol / Excellent 50%

    Da / Good 50%

    Boddhaol / Satisfactory 0%

    Ddim yn foddhaol / Not satisfactory 0%

    Gwael / Poor 0%

    Cyflawni’r Pwrpas - Amcanion / Achieving Purpose - Objectives

    Rhagorol / Excellent 14%

    Da / Good 86%

    Boddhaol / Satisfactory 0%

    Ddim yn foddhaol / Not satisfactory 0%

    Gwael / Poor 0%

    Arlwyaeth / Catering

    Rhagorol / Excellent 14%

    Da / Good 72%

    Boddhaol / Satisfactory 14%

    Ddim yn foddhaol / Not satisfactory 0%

    Gwael / Poor 0%

    A ydych yn gwerthfawrogi’r ymgysylltu â’r Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Gyhoeddus

    Gogledd Cymru?

    Do you value engagement with the North Wales Public Sector Equality Network?

    Ydw / Yes 100%

    Nac ydw / No 0%

  • 15

    Pa mor aml ydych chi’n credu y dylai’r ymgysylltu yma ddigwydd?

    How often do you think this engagement should take place?

    Bob 3 Mis / Every 3 Months 38%

    Bob 6 Mis / Every 6 Months 38%

    Blynyddol / Annually 12%

    Arall / Other 12%

    A yw lleoliad canolog orau neu a ddylai’r digwyddiadau gymryd lle mewn gwahanol ardaloedd

    ar draws Gogledd Cymru?

    Is a central venue best or should the events be held in different areas across North Wales?

    Canolog / Central 63%

    Ardaloedd Gwahanol / Different Areas 25%

    Dim barn / No opinion 12%

    Beth hoffech chi weld ar y rhaglen ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau’r Rhwydwaith yn y

    dyfodol?

    What would you like the agenda for future Network meetings or events to include?

    Cyflwyniadau gan y Gymuned Presentations from the Community

    Buasai rhaglen ymlaen yn ddefnyddiol Forward programme would be useful

    Llesiant cenedlaethau’r dyfodol a’r effaith yn

    y sector gyhoeddus - sut gallwn ei ddefnyddio

    i wella iechyd, llesiant, a chyfleoedd i bawb

    Wellbeing of future generations and impact in

    the public sector – how it can be used to

    improve health, wellbeing, opportunities for

    all

    Sut gallwn ni gydweithio ar ymgyrchoedd

    penodol i wneud gwahaniaeth

    How we can work together on specific

    campaigns to make a difference

    Unrhyw sylwadau neu awgrymiadau pellach

    Any further comments or suggestions

    Mwy o goffi a mwy o seibiannau More coffee available and more comfort

    breaks

    Gallai’r adborth o’r gwaith grŵp fod wedi bod

    yn llawnach

    Feedback from group work could have been

    fuller

    Dylid trefnu digwyddiadau gyda’r nos i fod yn

    fwy cynhwysol

    Should be arranging evening events to be

    more inclusive

    Wedi mwynhau a dysgu llawer Have enjoyed it and learnt a lot

  • 16

    Atodiad 6.

    Crynodeb o’r Adborth gan gyfranwyr ar ein Hamcanion Cydraddoldeb

    RhCSGGC Crynodeb Par: Amcan Iechyd

    Cytunwyd yn gyffredinol bod yr amcan hwn yn parhau’n berthnasol ar gyfer y dyfodol gan

    fod angen gwneud gwaith parhaus yn enwedig gwaith ar y cyd/cydweithio ar fesurau

    ataliol.

    Gwnaed y pwyntiau penodol hyn:-

    • Angen am agwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a Hawliau Dynol er mwyn gallu mynd i’r afael ag anghenion yr unigolyn cyfan e.e. gallai rhywun LGBT fod â materion

    iechyd meddwl.

    • Unigolion digartref ac agored i niwed sy’n rhannu anghydraddoldebau iechyd yn bennaf

    • Gwaith i wella gwasanaethau iechyd meddwl (adnabod anghenion diwylliannol a chyfathrebu). Gwahaniaethau diwylliannol hefyd yn broblem gyda dynion ifanc o’r

    gymuned teithwyr sipsi a grwpiau Gorllewin Affrica gan eu bod yn gweld iechyd

    meddwl fel arwydd o wendid.

    • Lefelau hunanladdiad yn uchel.

    • Angen mwy o gydweithio rhwng cyrff cyhoeddus ar fesurau iechyd ataliol e.e. sipsiwn/teithwyr e.e. Byrddau Iechyd yn gweithio gyda chymdeithasau tai. Mae’n

    bwysig cydweithio mewn meysydd eraill hefyd e.e. cynorthwyo cartrefi preswyl i fod

    yn fwy ystyriol o faterion LGBT.

    • Gwell darpariaeth o gyfathrebiadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy’n defnyddio BSL – mwy o hyfforddiant staff a chynyddu nifer y cyfieithwyr BSL cofrestredig.

    • Amcanion dal i fod yn flaenoriaeth ond mae angen gwaith ar yr amcan diwethaf – angen dehongli “deall”.

    • Dylid cynnwys gofalwyr yn yr amcanion.

    • Mae angen darparu’r cyffuriau sydd eu hangen ar bobl pan fyddant eu hangen. Byrddau Iechyd wedi rhedeg allan o arian ar gyfer cyflyrau penodol.

    • Mae’r broses gyfan o ofal sylfaenol yn newid. Sut bydd y newid hwn yn effeithio ar y rhai hynny sydd â nodweddion wedi’u gwarchod? Byddai canolfannau Meddygon

    Teulu o gymorth i leihau’r niferoedd hynny sy’n mynd i Unedau Damweiniau ac

    Achosion Brys ac yn enwedig pobl ddigartref gan na allwch gael Meddyg Teulu heb

    gyfeiriad.

    • Mae angen nodi effaith cronnus penderfyniadau – e.e. sut bydd codi’r oed pensiwn yn effeithio ar rolau gofalu. Gall penderfyniadau a wneir gan un sefydliad greu

    problemau i sefydliad arall.

  • 17

    • Gosod amcanion eang ond gosod blaenoriaethau bob blwyddyn – er mwyn i chi allu mesur yr effaith mae’r gwaith y rhoddwyd blaenoriaeth iddo wedi’i gael.

    • Rhoi cyfleoedd i bobl fyddar gael gyrfa o fewn y gwasanaeth iechyd er mwyn darparu cyfle mwy cyfartal ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

    • Cydnabod anghenion pobl nad ydynt yn gallu cyfathrebu cystal. Dywedodd un ddynes bod “ei phen ar dân” – roedd ganddi gur pen. Fe gymerodd pobl yn ganiataol fod

    ganddi broblemau iechyd meddwl.

    • Fe ddylai pwyslais ar urddas a pharch fod yn berthnasol i bawb, nid grwpiau penodol yn unig.

    • Darpariaeth iaith arwyddion ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu.

    • Cyfieithwyr/dehonglwyr – dim gwir ddarpariaeth mewn sefyllfa gofal sylfaenol aciwt.

    • Strategaeth camdriniaeth ddomestig sy’n bodloni anghenion pawb.

    • Gofal sylfaenol – gwella mynediad a dealltwriaeth staff

    • Cynyddu cyfleoedd i grwpiau nas clywir yn aml gofrestru â Meddyg Teulu – defnyddio clystyrau i gynnig gwasanaethau arbenigol i rai grwpiau e.e. cymunedau teithwyr sipsi

    • CAMHS a phobl ifanc angen mwy o gefnogaeth a blaenoriaeth uwch

    • Fe ddylai ymgysylltiad cymunedol fod yn rhywbeth parhaus

    • Asesiad EMI, urddas i ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl a’u perthnasau

    • Mae’r problemau dal yn amlwg gyda phobl drawsrywiol a phobl hŷn ond mae hyn hefyd yn berthnasol i bobl ag anawsterau dysgu.

    • Mae diogelwch personol yn fater sydd dal angen mynd i’r afael ag ef a gweithredu arno.

    • Tynnwyd sylw at yr angen i ddelio â materion yn ymwneud â hunanladdiad ymhellach ac i geisio cynyddu’r cymorth ar gyfer unigolion sy’n dioddef.

    • Nododd pobl drawsrywiol eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn rhan o gymdeithas os ydynt yn cael eu galw yn ôl eu henw dewisedig yn hytrach

    na’u henw genedigol.

    • Tynnwyd sylw at y rhybudd ar nodiadau meddygol a phwysigrwydd rhannu nodiadau meddygol ymysg gweithwyr proffesiynol.

    • Roedd sgriniau cyffwrdd mewn meddygfeydd Meddygon Teulu yn achosi problemau i bobl â nam ar eu golwg.

    • Anghytuno â’r geiriad “Nifer y bobl mewn grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli sy’n dewis ffordd iach o fyw yn cynyddu” – fe ddylai pawb wella, ond dylid gosod

    gwahanol lefelau.

    • Fe ddylai ysbytai wneud mwy o ddefnydd o Skype ar gyfer ymgynghoriadau ble bo hynny’n bosibl, yn hytrach na symud cleifion o un ysbyty i’r llall mewn ambiwlans.

    • Anghenion ieithyddol – fe ddylai pobl allu mynegi eu hunain yn yr iaith maent fwyaf hyderus yn ei siarad er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth.

    • “Mae anghenion pobl ag iechyd meddwl gwael ac anableddau dysgu yn cael eu deall yn well” – ychwanegu “….a’u delio â nhw” a chynnwys y rhai hynny sy’n cael eu

    heffeithio gan gamdriniaeth ddomestig yn y maes hwn.

  • 18

    • Codi ymwybyddiaeth drwy ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd / marchnata effeithiol – angen rhoi mwy o flaenoriaeth i’r gwaith hwn.

  • 19

    RhCSGGC Crynodeb Par: Amcan Cyflogaeth Cytunwyd yn gyffredinol bod yr amcan hwn yn parhau’n berthnasol ar gyfer y dyfodol.

    Gwnaed y pwyntiau penodol canlynol:

    Mynediad i Gyflogaeth

    Materion a godwyd:

    • Mae angen bod mwy nag un ffordd o ymgeisio am swydd, nid dim ond ffurflenni cais digidol gan nad yw’r fformat hwn yn addas i bawb. Mae fformatau eraill hefyd yn cael

    eu cynnig ar ffurflenni / gwefannau ond nid ydynt bob amser yn hawdd cael

    mynediad atynt, yn aml iawn nid yw’n glir lle maent i’w cael a bydd yn cymryd rhy hir

    er mwyn gallu cyflwyno’r cais cyn y dyddiad cau.

    • Sicrhau bod dylunwyr rhaglenni / dylunwyr systemau gwefannau yn cael hyfforddiant priodol ar yr hyn y mae ‘hawdd cael mynediad atynt’ yn ei olygu.

    • Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o anghenion anabledd / addasiadau yn y gweithle – argymell a chynghori gweithwyr ar y math o addasiadau y gellir eu gwneud mewn

    sefyllfaoedd penodol.

    • Cynyddu ymwybyddiaeth am faterion mynediad yn y gweithle.

    Recriwtio

    Materion a godwyd:

    • Nid yw pobl sy’n dod i’r DU o wledydd eraill yn gallu newid eu papurau. Mae hyn yn golygu wedyn efallai y bydd pobl drawsrywiol yn cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn

    gan nad yw eu papurau yn cyfateb â manylion eu ffurflenni cais.

    • Angen i gyflogwyr fynd allan i’r gymuned i hyrwyddo eu sefydliadau er mwyn gallu denu gweithwyr newydd.

    • Sefydliadau lleol i gydweithio i hyfforddi pobl leol er mwyn eu helpu i gael gwaith (neu i aros mewn swydd) er mwyn iddynt allu cael cynnig swydd er mwyn rhoi hwb i’r

    economi leol.

    Cyfleoedd gyrfa a datblygiad

    Cynhaliwyd trafodaethau am godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa a datblygiad gyda

    gwahanol grwpiau. Tynnwyd sylw hefyd at bwysigrwydd gweithio gyda phobl ifanc a’u

    rhieni er mwyn eu haddysgu am wahanol lwybrau cyflogaeth. Tynnwyd sylw gan y

    cyfranogwyr hefyd at yr angen i gyflogwyr fod â systemau cadw gweithwyr yn eu lle gyda

    Chynllunio ar gyfer Olyniaeth a Chynllunio Gweithlu yn allweddol yn eu cynlluniau

    strategol. Yr angen i gyflogwyr sicrhau bod cynlluniau rheoli trawsnewidiadau yn cael eu

    rhoi yn eu lle ar gyfer pan fydd pobl hŷn yn agosáu at oedran ymddeol a phan fydd y

    genhedlaeth fengach yn cychwyn ar eu gyrfaoedd. Mae hyn yn arbennig o wir gyda’r

    cynnydd yn yr oedran pensiwn a’r ffaith bod mwy o bobl yn aros mewn gwaith yn hirach

    gan olygu bod llai o gyfleoedd yn codi i bobl ifanc allu dechrau ar eu gyrfaoedd. Pobl hŷn

  • 20

    yn teimlo pwysau (yn fewnol/gan sefydliadau) y dylent fod yn rhyddhau swyddi ar gyfer

    pobl fengach, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

    Materion a godwyd:-

    • Gweithio gyda phobl ifanc er mwyn eu helpu i ddeall y manteision o gael swydd ar lefel isel (hefyd gyda rhieni er mwyn herio diwylliant budd-daliadau) – pwysleisio CPD.

    • Gweithio gyda Chynghorwyr Gyrfaoedd ac Athrawon – gwella’r cyngor gyrfaoedd a ddarperir yn yr ysgol.

    • Pobl hŷn yn teimlo bod angen iddynt wneud lle i’r bobl ifanc – opsiynau ymddeol hyblyg.

    • Galluogi staff i symud swyddi wrth iddynt heneiddio a phan na fyddant yn gallu gwneud gwaith mor gorfforol.

    • Addysgu rhieni i arwain eu plant i mewn i gyflogaeth.

    • Cymharu graddfeydd llwyddiant datblygiad gyrfa gyda graddfeydd PC gwahanol gyda rhai a aeth ar gyfnod mamolaeth/a gymerodd egwyl gyrfa.

    • Pwysigrwydd rolau trawsnewidiol yn y sefydliad sy’n hyrwyddo llwybr gyrfa.

    • Prentisiaethau – pobl yn y band oedran fengach yn ymgeisio am y rolau hyn oherwydd y cyflog isel. Efallai y bydd pobl hŷn yn ymgeisio am y swyddi prentis, fodd

    bynnag efallai na fydd y sefydliad yn penodi o ganlyniad i nawdd. Bydd Llywodraeth

    Cymru yn ariannu prentisiaethau 16-24 oed.

    • Angen edrych ar ddatblygiad drwy’r sefydliad, olrhain gweithwyr ar eu taith yn y sefydliad er mwyn gweld pwy sy’n datblygu / ddim yn datblygu a pham.

    Hyfforddiant / Ymwybyddiaeth

    Tynnwyd sylw gan gyfranogwyr at yr angen i gyflogwyr a staff dderbyn hyfforddiant er

    mwyn gallu gwella eu hymwybyddiaeth o faterion anableddau a chydraddoldeb sy’n gallu

    effeithio ar bobl er mwyn iddynt allu deall eu hanghenion a pha gefnogaeth / addasiadau

    sydd ar gael ac y gellir eu gwneud.

    Materion sydd wedi’u hadnabod:

    • Angen gwella ymwybyddiaeth staff am anghenion pobl fyddar a sut mae BSL yn gweithio i ddarparu gwell dealltwriaeth o anghenion cyfathrebu.

    • Fe ddylai cyflogwyr roi mesurau gweithredu positif yn eu lle er mwyn helpu i gefnogi/cadw grwpiau sy’n cael eu hamddiffyn.

    • Angen am fwy o ymwybyddiaeth cydraddoldeb yn y gweithle ar gyfer staff a rheolwyr – defnyddio cefnogaeth cyfoedion / fforymau gweithwyr er mwyn codi

    ymwybyddiaeth.

    • Prif ffrydio cydraddoldeb ym mhob hyfforddiant. Ychydig o feirniadaeth o fodiwlau e-ddysgu ar gydraddoldeb - anghenion hyfforddiant i gynnwys rhyngweithio er mwyn

    atgyfnerthu’r neges.

    • Lledaenu hyfforddiant Sgiliau Sylfaenol – edrych ar ddatblygu cyfleoedd dosbarthiadau nos ar gyfer staff.

  • 21

    • Hyfforddiant i gael ei ddarparu gan bobl â nodweddion sydd wedi’u gwarchod. Gweithwyr proffesiynol i fynd allan i wahanol safleoedd / amgylcheddau er mwyn

    treulio’r diwrnod â phobl â nodweddion sydd wedi’u gwarchod er mwyn iddynt allu

    deall yn hytrach na chael eu dysgu mewn sesiwn.

    • Cyflogwyr i ehangu sgiliau sylfaenol a sgiliau llythrennedd / rhifedd er mwyn galluogi staff i wneud cynnydd ac ymgeisio am swyddi uwch a cholegau / ysgolion er mwyn

    cynnig BSL fel cwrs TGAU.

    • Arweinwyr cyflogaeth ddim yn cydnabod materion nac anghenion iechyd meddwl.

    • Diffyg ymwybyddiaeth gan gyflogwyr am y cynllun Mynediad i Waith

    • Cyfrifoldeb i’w weld ar yr unigolyn anabl i weld pa addasiadau y gellid eu gwneud yn dilyn bod yn anabl.

    • Angen i gyflogwyr fod yn fwy cyfarwydd â’r rheolau a’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â chadw data sensitif ar staff er mwyn sicrhau y gwneir hyn yn iawn, yn enwedig gyda

    statws pobl drawsrywiol.

    Cymorth Cyfreithiol

    Pwysigrwydd cyflogwyr yn ystyried sut gallant ddatrys materion sydd wedi codi o

    ganlyniad i newidiadau i gyfreithiau cyflogaeth ers i gyflwyniad ffioedd ar gyfer

    Tribiwnlysoedd gael ei amlygu, yn enwedig y ffaith bod cymorth cyfreithiol wedi diflannu

    a bod gweithwyr felly’n cael eu gorfodi i dderbyn setliadau.

    Materion a godwyd:

    • Cyflogwyr i ystyried sut gallant ddatrys materion sydd wedi codi o ganlyniad i newidiadau i gyfreithiau cyflogaeth ers i gyflwyniad ffioedd ar gyfer Tribiwnlysoedd

    gael ei amlygu, yn enwedig y ffaith bod cymorth cyfreithiol wedi diflannu a bod

    gweithwyr felly’n cael eu gorfodi i dderbyn setliadau. Nid yw’n ymddangos yn deg ei

    bod hi’n gyfrifoldeb ar unigolion i orfodi’r gyfraith – oni ddylai bod cyfrifoldeb 3ydd

    parti?

    • Pobl â materion iechyd meddwl, sipsiwn/teithwyr a’r anabl yw’r grwpiau a gaiff eu heffeithio arnynt mewn modd andwyol yn y byd cyflogaeth.

    Gweithredu positif / cyflog

    Materion a godwyd:

    • Rhaglen gweithredu positif – mae Heddlu Glannau Mersi wedi mabwysiadu rhaglen gweithredu positif er mwyn cynyddu nifer y recriwtiaid BME.

    • Cymorth i bobl sydd wedi colli eu swyddi – cynnig cyfleoedd hyfforddiant i weithwyr presennol er mwyn cynorthwyo ag ail ymgysylltiad.

    • Mwy o ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r bwlch cyflog ac ymrwymiad i’r cyflog byw.

  • 22

    RhCSGGC Crynodeb Par: Amcan Addysg Cytunwyd yn gyffredinol bod yr amcan hwn yn parhau’n berthnasol ar gyfer y dyfodol.

    Gwnaed y pwyntiau penodol canlynol:

    Yn ystod datblygiad yr ail set o gynlluniau, roedd adborth yn cynnwys trafodaethau am

    bwysigrwydd sicrhau bod bylchau cyflawni addysgol rhwng gwahanol grwpiau’n cael eu

    cau er mwyn sicrhau’r cyrhaeddiad gorau posibl i bawb. Roedd rhai yn gweld hon fel y

    flaenoriaeth bwysicaf ar gyfer sefydliadau addysgol.

    Teimlwyd y dylai ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth/hyfforddiant gael eu targedu tuag at

    sefydliadau addysgol mewn perthynas â’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r defnydd o

    gyfryngau cymdeithasol a bwlio yn seiliedig ar homoffobia a hunaniaeth. Awgrymwyd y

    dylid cynnwys unigolion LGBT fel rhan naturiol o’r cwricwlwm. Cafodd ei gydnabod hefyd,

    ar gyfer unigolion LGBT, y gall cyfleusterau newid a thoiledau mewn sefydliadau addysgol

    achosi problemau ac y dylid datrys y rhain.

    Ystyriwyd ei fod hefyd yn hanfodol bod rhaglenni addas yn bodoli er mwyn addysgu BSL

    mewn sefydliadau addysgol er mwyn sicrhau bod disgyblion byddar a thrwm eu clyw yn

    cyflawni eu potensial. Yn ychwanegol at hynny, mynegwyd y dylai llwybrau gyrfa ym

    mhob agwedd o fyddardod (e.e. Cyfieithu BSL, darllen gwefusau, gweithwyr iechyd

    meddwl a gweithwyr cymdeithasol) gael eu hannog.

    Yn ystod trafodaethau, ymchwiliwyd i rôl Estyn mewn perthynas â’r agenda

    cydraddoldeb, a theimlwyd fod angen agwedd fwy rhagweithiol ac y dylid cryfhau ei rôl

    sicrwydd ansawdd.

    Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith bod angen gwella cyfathrebu rhwng asiantaethau er

    mwyn adnabod anghenion unigolion a’u cyfeirio i’r mannau cywir. Mae angen i

    asiantaethau unigol ddehongli’r gyfraith yn gywir er mwyn goresgyn rhwystrau wrth

    drosglwyddo gwybodaeth.

    Fe ddylai addysg hefyd gydnabod a mynd i’r afael â’r cyfleoedd gydol oes a ddylai fod ar

    gael drwy gydol bywydau pobl, er mwyn osgoi gwahaniaethu.

  • 23

    RhCSGGC Crynodeb Par: Amcan Diogelwch Personol Cytunwyd yn gyffredinol bod yr amcan hwn yn parhau’n berthnasol ar gyfer y dyfodol.

    Gwnaed y pwyntiau penodol canlynol:

    Trosedd Casineb

    Mae’r troseddau casineb ac aflonyddwch yn cynyddu a bydd camau’n cael eu

    cymryd er mwyn lleihau achosion o drosedd casineb ac aflonyddu.

    Materion a godwyd:

    • Fe ddylai troseddau casineb yn ymwneud ag oedran gael eu cydnabod a’u cofnodi, roedd yn cael ei gydnabod ei bod hi’n anodd i ddioddefwyr roi tystiolaeth mewn

    perthynas â throseddau casineb, ac y dylid eu hannog i wneud hynny.

    • Anableddau - troseddau cyfaill - yn aml iawn, ni fydd yr achosion hyn yn cael eu riportio gan fod y troseddwr yn gallu bod yn ffrind neu’n berthynas agos ac mae

    amharodrwydd i riportio’r unigolyn oherwydd y ddibyniaeth arnynt.

    • Codwyd pwysigrwydd riportio troseddau casineb, dylid tynnu sylw at ymwybyddiaeth mewn perthynas â riportio troseddau casineb gan edrych ar pam mae trosedd yn

    digwydd. Gallai sefydliadau wneud mwy o waith er mwyn codi ymwybyddiaeth

    grwpiau penodol at drosedd casineb gan fod tuedd i ganolbwyntio ar grwpiau

    penodol a gadael grwpiau ar ôl.

    • Dylid gwneud gwaith i newid syniadau a barn y cyhoedd am droseddau casineb, fe ddylai hyn hefyd gynnwys defnyddio’r term trosedd casineb gan y gall hyn yn ei hun

    achosi stigma a gallai olygu nad yw pobl yn riportio troseddau casineb.

    Camdriniaeth Ddomestig

    Mae riportio camdriniaeth ddomestig yn cynyddu a bydd camau’n cael eu

    cymryd i leihau camdriniaeth ddomestig.

    Dylid hefyd rhoi ystyriaeth i:

    • Unigolion anabl a allai ddioddef trais domestig yn y cartref ac efallai a fyddai’n annhebygol o riportio hyn o ganlyniad i’r effaith y gallai hyn ei gael ar eu gofal.

    • Mae angen i staff sy’n delio â’r cyhoedd, nad ydynt efallai yn ymwneud yn uniongyrchol â gwasanaethau camdriniaeth ddomestig, wybod sut a lle y dylid

    cyfeirio pobl os ydynt yn derbyn ymholiad.

  • 24

    Troseddau Ar-lein

    Roedd yr holl grwpiau yn bryderus am droseddau seiber; roedd hyn fodd

    bynnag yn cael ei dorri lawr i gategorïau o droseddau ar-lein.

    Cyfryngau Cymdeithasol

    Oherwydd y cynnydd yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, mae hyn wedi arwain at

    fwy o achosion o fwlio ar-lein, yn enwedig ymysg pobl agored i niwed a dylid cynnwys

    cyfeiriadau penodol at y math hwn o fwlio yn yr amcanion.

    • Fe ddylai’r cyhoedd fod yn ymwybodol o ganlyniadau rhoi pethau ar Facebook a safleoedd Cyfryngau Cymdeithasol eraill a’r effaith mae hynny’n gallu ei gael ar

    unigolion eraill. Gallai hyn hefyd gynnwys rhoi lluniau ar wefannau a chyfryngau

    cymdeithasol eraill a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd i amddiffyn eu manylion

    personol fel nad ydynt yn disgyn i’r dwylo anghywir.

    Ysgolion

    • Roedd rhai o’r grwpiau yn bryderus nad oedd gan y rhai a oedd yn bwlio drwy Facebook a'r cyfryngau cymdeithasol unrhyw syniad o’r effaith y byddai’n ei gael ar y

    dioddefwyr, roedd hyn yn berthnasol i bobl ifanc yn enwedig. Dylid rhoi mwy o

    wybodaeth allan mewn ysgolion am effeithiau bwlio ar-lein a dylid codi

    ymwybyddiaeth am allu’r heddlu i ddod o hyd i fwlio sy’n digwydd ar-lein. Gellid

    cyflwyno’r neges hon gan yr athrawon neu drwy asiantaethau eraill sy’n darparu

    negeseuon eraill drwy’r broses addysgol.

    • Gellid defnyddio enghreifftiau o bobl sy’n amlwg yn y wasg er mwyn cyfleu’r neges hon a gallai hyn gyfleu’r neges yn well i fyfyrwyr ifanc.

    Camdriniaeth ar y Rhyngrwyd, Twyll Henoed, Twyll a Throsedd Hunaniaeth

    • Roedd y grwpiau yn bryderus iawn am achosion o dwyll ar-lein ymysg yr henoed, fodd bynnag roedd yn cael ei gydnabod fod y math hwn o dwyll yn berthnasol i bob grŵp

    oedran.

    • Bydd perchnogion tai yn cael eu targedu yn aml ond mae’r henoed yn fwy agored i niwed, gellir cyflawni’r achosion hyn o dwyll drwy’r rhyngrwyd, dros y ffôn neu ar y

    stepen drws. Nod y troseddwr yw ceisio twyllo perchennog y tŷ i brynu rhywbeth neu

    i roi arian parod neu fanylion banc iddynt.

    • Dylid gwneud mwy o wybodaeth ar gael i berchnogion tai gan wahanol asiantaethau gan ddarparu gwybodaeth yn ystod ymweliadau â chartrefi er mwyn tynnu sylw pobl

    at yr achosion hyn o dwyll a beth ellir ei wneud er mwyn ceisio eu hosgoi. Dylid hefyd

    eu hysbysu sut i riportio unrhyw beth maent yn amheus ohono.

  • 25

    Hyfforddiant Staff

    • Ystyrir fod hyfforddiant yn bwysig ar gyfer staff sy’n dod i gysylltiad ag aelodau o’r cyhoedd. Ystyriwyd fod hyfforddiant wyneb yn wyneb ag aelodau o’r nodweddion a

    oedd yn cael eu gwarchod yn ffordd fwy effeithiol a pherthnasol o hyfforddi staff.

    Mynegwyd pryder fod pecynnau e-ddysgu yn amhersonol, fodd bynnag, gyda nifer

    fawr o staff yn gweithio ledled Gogledd Cymru, roedd yn cael ei gydnabod y gallai e-

    ddysgu sicrhau bod yr holl staff yn derbyn hyfforddiant cydraddoldeb.

    • Fe ddylai sefydliadau ystyried trefnu hyfforddiant ymwybyddiaeth BSL ar gyfer staff rheng flaen sy’n dod i gysylltiad â’r cyhoedd.

    Cyfiawnder Adferol - Cymorth i Ddioddefwyr

    • Holodd rai o’r grwpiau am gyfiawnder adferol ac a fyddai dod â drwgweithredwyr troseddau casineb wyneb yn wyneb â’u dioddefwyr yn datblygu gwell dealltwriaeth

    o’r difrod sy’n cael ei wneud gan erlid parhaus a bwlio.

    Ymgysylltiad Aml-asiantaeth ar y cyd a Chydweithio

    • Agwedd ar y cyd tuag at rannu gwybodaeth diogelwch, a allai hyn gael ei wneud gan wahanol asiantaethau? Mae sefydliadau fel y Gwasanaeth Tân mewn sefyllfa

    unigryw gan eu bod yn ymweld â phobl yn eu cartrefi yn rheolaidd er mwyn cynnal

    Gwiriadau Diogelwch yn y Cartref a gosod larymau mwg ac ati. Gallai staff

    ddefnyddio’r ymweliadau hyn â chartrefi er mwyn adnabod problemau posibl a

    chynorthwyo sefydliadau eraill drwy adael taflenni a chynnig cyngor ac arweiniad.

    Cyfathrebu

    • Hoffai’r grwpiau weld mwy o gyfathrebu unwaith mae trosedd casineb wedi’i riportio. Os yw GEG wedi penderfynu peidio â pharhau â’r erlyniad, hoffai

    dioddefwyr gael eu hysbysu, a derbyn esboniad, am sut y gwnaed y penderfyniad

    hwnnw.

    • Mae angen i’r Heddlu fod yn weladwy yn y gymuned ac mae angen adeiladu perthnasau, yn enwedig wrth ymgysylltu â’r gymuned sipsiwn a theithwyr. Byddai

    adeiladu perthnasau â’r holl gymunedau yn helpu i sicrhau bod y cyhoedd yn

    teimlo’n gyfforddus wrth ofyn am gymorth a riportio achosion.

  • 26

    RhCSGGC Crynodeb Par: Amcan Cynrychiolaeth a Llais Cytunwyd yn gyffredinol bod yr amcan hwn yn parhau’n berthnasol ar gyfer y dyfodol.

    Gwnaed y pwyntiau penodol canlynol:

    Codwyd y pwyntiau penodol canlynol:-

    • Mynegodd nifer o bobl yr angen am hyblygrwydd o ran amseriad a lleoliadau cyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd busnes cyrff cyhoeddus ac ati. ‘Mae amser a

    lleoliad cyfarfod yn ffactor pwysig wrth ystyried a yw pobl yn gallu cymryd rhan

    weithredol mewn bywyd cyhoeddus.’

    • Roedd diffyg cludiant hefyd yn cael ei adnabod fel rhwystr a allai atal mynediad fel y gallai rhwystrau corfforol mewn lleoliadau sydd wedi’u dylunio’n wael.

    • Mae’r ardal wledig yn effeithio’n sylweddol ar allu pobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol faterion a hynny o ganlyniad i broblemau amser, cludiant,

    trefniadau gofal plant, costau, amser i ffwrdd o’r gwaith ac acti.

    • Fe ddylai ymgynghoriadau geisio safbwyntiau pobl o ardal ddaearyddol eang.

    • Nododd nifer mai ychydig iawn o’r cyhoedd sy’n mynychu cyfarfodydd agored, cyfarfodydd megis rhai’r cyngor a chyfarfodydd craffu.

    • Nododd pobl yr angen i wasanaethau cyfieithu fod ar gael nid yn unig o’r Gymraeg i’r Saesneg ond dylid cynnwys BSL ac ieithoedd eraill hefyd.

    • Nododd nifer o bobl bod cynigion i ddatblygu mynediad drwy ddefnyddio cyfryngau digidol wedi eu gwneud ar ffurf darllediadau, a oedd yn well na dim, ond nad oeddent

    yn ddigon rhyngweithiol i fod yn ddelfrydol. Cafodd enghreifftiau o gynadleddau lle'r

    oedd pobl wedi ymuno drwy Skype neu lle cafodd sylwadau Twitter eu cynnwys yn y

    dadleuon eu cyfeirio atynt fel arfer dda.

    • Angen defnyddio technoleg fodern er mwyn cael cyfraniadau ehangach e.e. Twitter, Facebook, sgyrsiau byw ar-lein. Mae hyn yn goresgyn y problemau o ddod â phobl

    ynghyd mewn lleoliad corfforol.

    • Cafodd gweithredu positif ei groesawu ond ni chafwyd llawer o drafodaeth am beth ddylai hyn ei gynnwys.

    • Fe ddylai’r sector cyhoeddus ymgynghori â sefydliadau cynrychiolaeth cenedlaethol a grwpiau lleol. Hefyd, mae’n gyfrifoldeb ar yr awdurdod cyhoeddus i gyfiawnhau

    cymryd unrhyw agwedd benodol os oes safbwyntiau gwahanol neu groes rhwng

    sefydliadau. Ni ddylai’r sector cyhoeddus geisio gorfodi grwpiau i ddod i gonsensws lle

    nad oes un yn bodoli.

    • Gall iaith arbenigol a ddefnyddir gan bobl broffesiynol fod yn rhwystr i gyfathrebu a chymryd rhan.

    • Fe ddylai pobl sy’n dymuno cymryd rhan gael hyfforddiant a chymorth ond fe ddylai aelodau presennol hefyd dderbyn hyfforddiant er mwyn sicrhau bod diwylliannau’n

    gwella a bod unigolion newydd yn cael eu croesawu a’u gwerthfawrogi.

  • 27

    • Fe ddylai mentora fabwysiadu agwedd 360 sy’n cynnwys cyfoedion mwy profiadol a phobl llai profiadol i gyd yn helpu ei gilydd.

    • Mae dolenni adborth o’r math ‘fe ddywedoch chi...fe wnaethom ni’ yn bwysig.

    • Defnyddio ‘diwrnodau cymryd drosodd’ er mwyn rhoi blas i bobl o sut beth yw gwneud penderfyniad mewn awdurdod cyhoeddus.

    • Ceisio cynnwys pobl o bob oed.

    • Ceisio ymgysylltiad drwy ganiatáu i grwpiau osod agendâu am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw yn hytrach na dim ond ymgynghori ar argymhellion gan eich sefydliad eich

    hun.

    • Mae angen datblygu capasiti ymysg y boblogaeth gyffredinol drwy hyfforddiant sgiliau dinasyddiaeth. Gellid disgrifio hyn fel ‘cyfalaf dinesig’ ochr yn ochr â’r term ‘cyfalaf

    cymdeithasol’.

    • Roedd nifer o bobl yn teimlo bod cynnydd cymysg wedi’i weld dros y blynyddoedd diwethaf o ran cynrychiolaeth y gwahanol grwpiau wrth i rai ddatblygu’n sylweddol ac

    ychydig o newid a welwyd mewn grwpiau eraill.

    • Rhaid gweithio ar gefnogi pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli er mwyn iddynt allu chwarae rhan actif yn eu rôl.

    • Wrth ddylunio gwasanaethau / adeilad, gofyn am farn a chynnwys defnyddwyr gwasanaeth o’r dechrau.

  • 28

    RhCSGGC Crynodeb Par: Amcan: Amcan Mynediad i Wybodaeth,

    Gwasanaethau, Adeiladau a’r Amgylchedd Cytunwyd yn gyffredinol bod yr amcan hwn yn parhau’n berthnasol ar gyfer y dyfodol.

    Gwnaed y pwyntiau penodol canlynol:

    Gwybodaeth

    Tynnwyd sylw penodol at fynediad i wybodaeth gan yr holl grwpiau. Cafodd ei gydnabod

    bod cynhwysiant digidol yn opsiwn mynediad pwysig i nifer o bobl e.e. pobl â symudedd

    cyfyngedig. Fodd bynnag, roedd yn cael ei gydnabod nad yw dulliau digidol yn gweithio i

    bawb e.e. rhai pobl sydd â nam ar y golwg, rhai pobl hŷn a phobl ar incwm isel sydd â

    mynediad cyfyngedig i offer TG neu sydd ag ychydig iawn o sgiliau.

    Datblygiad mwy diweddar yn y sector cyhoeddus yw’r Pwynt Cyswllt Unigol [SPOC] ar

    gyfer cael mynediad i wasanaethau cyhoeddus. Ystyrir hyn yn rhywbeth defnyddiol iawn

    gan nifer o bobl ond nid yw’n ystyried y problemau posibl ar gyfer pobl eraill. Mae’r

    pryderon a godwyd yn cynnwys:

    • Gallu pobl â materion symudedd, pobl sy’n byw yng nghefn gwlad neu bobl ar incwm isel i gyrraedd y SPOC. Bydd hyn yn gwaethygu lle mae llai o drafnidiaeth gyhoeddus.

    • Lefelau gwybodaeth neu brofiad staff sy’n cefnogi pobl e.e. gyda materion iechyd meddwl, pobl sydd â nam ar eu golwg neu sy’n cyfathrebu mewn ieithoedd gwahanol

    i Gymraeg a Saesneg i gefnogi pobl; a

    • Lle mae gwybodaeth a chymorth yn gofyn am arbenigedd, gall fod yn anodd i bobl fynd tu hwnt i’r SPOC.

    Negeseuon Allweddol:

    • Mwy o hyfforddiant amrywiaeth ar gyfer staff sy’n gweithredu fel SPOC.

    • Gwybodaeth ar wefannau sefydliadau cyhoeddus i gael eu hadolygu i weld pa mor hawdd ydynt i’w defnyddio a hynny gyda gwahanol grwpiau o bobl yn edrych ar

    fformatau gwahanol e.e. Hawdd i’w ddarllen, clipiau fideo Iaith Arwyddion Prydain.

    • Mwy o bwyntiau cyswllt mewn ardaloedd lleol a mwy o hyfforddiant i bobl allu cael mynediad at wybodaeth ddigidol.

    Gwasanaethau

    Amlygwyd Asesiadau Effaith Cydraddoldeb [EIA] fel y ffordd allweddol i’r sector

    cyhoeddus wella darpariaeth a datblygiad gwasanaeth. Mae dymuniad am fwy o

    gydweithio yn y maes gyda’r holl grwpiau eisiau cefnogi’r broses EIA. Fodd bynnag, roedd

    yna bryder bod angen gwella’r gwaith o fonitro cydraddoldeb er mwyn sicrhau bod

    anghydraddoldeb yn cael ei adnabod.

  • 29

    Amlygwyd hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff fel pethau canolog er mwyn gwella

    mynediad i wasanaethau:

    • Diffyg dealltwriaeth o sut i ymgysylltu â phobl o wahanol grwpiau;

    • Ymwybyddiaeth cyfyngedig o’r effeithiau cronnus o newidiadau ar draws y sector cyhoeddus;

    • Diffyg ymwybyddiaeth o’r effaith o fyw yng nghefn gwlad ar fynediad i wasanaethau e.e. y gost, argaeledd a mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus;

    • Ymwybyddiaeth ddiwylliannol gyfyngedig am amrywiaeth a’i oblygiadau o ran mynediad i wasanaethau; ac

    • Iaith fel rhwystr i gael mynediad i wasanaethau.

    Negeseuon allweddol:

    • Angen mwy o gydweithio o ran Asesiadau Effaith Cydraddoldeb sy’n cynnwys grwpiau amrywiol;

    • Gwell monitro cydraddoldeb;

    • Gwella diwylliant staff ac ymwybyddiaeth amrywiaeth; a

    • Dylid cefnogi mynediad i wasanaethau gan gymorth ieithyddol priodol [yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain] a gwybodaeth mewn amrywiaeth o fformatau hawdd cael

    mynediad atynt.

    Adeiladau

    Mae mynediad i adeiladau yn parhau i fod yn broblem, yn enwedig i bobl â nam corfforol

    neu synhwyraidd. Nodwyd fod angen codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd dylunio a

    chynnal mannau cyhoeddus hygyrch. Fe ddylai hyn gynnwys adolygiad o arwyddion

    cyhoeddus er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r newidiadau mewn lleoliad

    gwasanaethau ar draws y sector cyhoeddus.

    Negeseuon Allweddol:

    • Mwy o hyfforddiant amrywiaeth ar gyfer swyddogion cynllunio;

    • Egwyddorion Dylunio Cynhwysol a safonau Arferion Da i gael eu mabwysiadu ar draws Gogledd Cymru; ac

    • Arwyddion cyhoeddus i gael eu hadolygu a’u diweddaru.

    Amgylchedd

    Cafodd ei gydnabod fod mynediad i’r amgylchedd yn bwysig i bawb. Roedd safbwyntiau

    cryf iawn y bydd mynediad i’r amgylchedd yn gwella pan fydd gwell cydweithio rhwng

    Cynllunwyr a chymunedau. Yn benodol, fe ddylai pobl sydd ag anabledd corfforol neu

    nam synhwyraidd, pobl hŷn a phobl ifanc, chwarae rhan weithredol yn y gwaith o

  • 30

    ddylunio a datblygu mannau cyhoeddus. Cafodd amrywiaeth o faterion eu hamlygu, yn

    cynnwys:

    • Anghysondebau posibl rhwng y dyluniad a gytunir ar gyfer mannau cyhoeddus a’r gwaith adeiladu terfynol;

    • Diffyg toiledau cyhoeddus y gellir cael mynediad atynt;

    • Diffyg mannau i eistedd yn gyhoeddus;

    • Pafinau sydd wedi’u difrodi ddim yn cael eu gwirio a’u trwsio’n rheolaidd; a

    • ‘Hysbysfyrddau A’ yn achosi rhwystr sylweddol, yn enwedig i bobl sydd â nam ar eu golwg.

    Negeseuon Allweddol:

    • Cynyddu ymwybyddiaeth Cynllunwyr a Datblygwyr am faterion amrywiaeth;

    • Cynyddu ymwybyddiaeth amrywiaeth timau cynnal a chadw a thimau caffael ar draws y sector cyhoeddus;

    • Cynyddu gwybodaeth hygyrch am fynediad mewn mannau cyhoeddus e.e. gwybodaeth canol dref hygyrch, berthnasol.

    • Datblygu protocol ar gyfer y defnydd o ‘hysbysfyrddau A’ mewn mannau cyhoeddus.

    Beth Nesaf?

    Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i helpu sefydliadau Sector Cyhoeddus

    Gogledd Cymru sydd wedi cymryd rhan yn y digwyddiad hwn i ffurfio eu cynlluniau

    Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2016 – 2020 ac yn cynorthwyo’r sefydliadau

    hynny i ffurfio cynlluniau gweithredu unigol. Cyhoeddir Cynlluniau Cydraddoldeb

    Strategol ar wefannau unigol erbyn 1 Ebrill 2016 a byddant yn cael eu dilyn gan

    adroddiadau blynyddol sy’n dangos y cynnydd sy’n cael ei wneud.

  • 31