102
Arwain Addoliad 1. Diben Addoliad 2. Y Beibl mewn Addoliad 3. Gweithdy Sgiliau Cyflwyno 4. Gweddi Mewn Addoliad 5. Cerddoriaeth Mewn Addoliad 6. Rhoi’r cyfan ynghyd 1

Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Arwain Addoliad

1. Diben Addoliad

2. Y Beibl mewn Addoliad

3. Gweithdy Sgiliau Cyflwyno

4. Gweddi Mewn Addoliad

5. Cerddoriaeth Mewn Addoliad

6. Rhoi’r cyfan ynghyd

1

Page 2: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Cydnabyddir yn ddiolchgar y cyfieithwyd y cwrs hwn ac y caiff ei ddefnyddio gyda chaniatâd

EGLWYS YR ALBAN

Lluniwyd y cwrs yn wreiddiol ganFWRDD ADDYSG PLWYFI

Eglwys yr Alban a’i ddefnyddio dan arolygaeth yGWEITHGOR BLAENORIAID

Addaswyd y cwrs hwn ar gyfer eglwysi’r Gymdeithasfa yn y Dwyrain gan y Parchg Ddr Michael Ward, Swyddog Datblygu y Northern Presbytery. Cyfieithwyd ac addaswyd y fersiwn Gymraeg gan y Parchg Ddr Elwyn Richards, Cyfarwyddwr Hyfforddiant EBC. Mae pob sesiwn tua dwy awr o hyd a gall timoedd addoli neu unigolion ddilyn un neu fwy o’r sesiynau yn ôl eu hangen. Cyflwynir y cwrs fel arfer yn y capel lleol, gan fod hynny’n arbennig o bwysig wrth ystyried sgiliau cyflwyno.

Mae diolch yn ddyledus i’r Parchg Ddr Elfed ap Nefydd Roberts am amryw o awgrymiadau buddiol ynglŷn â chynnwys y cwrs yn Gymraeg, ac i Mrs Mererid Mair Williams am fwrw golwg dros Sesiwn 5, Cerddoriaeth Mewn Addoliad, a sicrhau fod y cynnwys yn gweddu i’r cyd-destun Cymreig.

2

Page 3: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Arwain Addoliad

Sesiwn 1: Diben Addoliad

Nod 1. Cynorthwyo’r rhai fydd yn dilyn y cwrs i sylweddoli fod yr hyn y maent yn ei hoffi mewn addoliad yn cael ei ddylanwadu gan

1. eu chwaeth bersonol2. eu harferion3. eu dealltwriaeth o addoliad

2. Eu galluogi i ddefnyddio’r ymwybyddiaeth hon i ddarparu patrymau addas o addoliad.

5 Cyflwyniad Cyflwynwch eich hun fel arweinydd y cwrsCyflwynwch gynnwys y cwrs drwy ddefnyddio’r crynodeb ar dudalen 16 a dangos tudalen 1 ar y taflunydd dros ysgwydd (t.1 tdy) neu drwy ei dosbarthu fel taflen.Gwahoddwch y rhai sy’n dilyn y cwrs i gyflwyno eu hunain a nodi un peth y maent yn ei hoffi am addoliad y gynulleidfa y maent yn perthyn iddi.

15 (20) Holiadur Rhannwch y grŵp yn ddeuoedd a dosbarthwch yr holiadur (AA1.1) gan ofyn iddynt ei gwblhau.Gofynnwch iddynt ddweud wrth ei gilydd pam y bu iddynt roi sgôr uwch na 3 i unrhyw un o’r pethau yn y rhestr ‘Sut ydych chi’n teimlo am addoliad? (t.4)

5 (25) Mewnbwn Sut ydych yn teimlo am addoliad? (dangoswch t.17 tdy)

ChwaethNodweddir ein cymdeithas gan bob math o chwaeth. Daw hyn i’r amlwg yn y math o gerddoriaeth yr ydym yn ei hoffi, pa mor hoff yr ydym o ffurfioldeb a’r math o ieithwedd sydd orau gennym.ArferCysylltir addoliad yn aml â phrofiadau o’r gorffennol. Rydym yn gwybod beth i’w ddisgwyl a chawn gysur o’r ddefod. Mae defod yn cadarnhau ein cyswllt â’r gorffennol ac yn cadarnhau ein hymwybyddiaeth o bwy ydym. Gall, er hynny, fod yn rhwystr. Gall symbolaeth goleuo cannwyll, er enghraifft, gael effaith negyddol ar rai.DealltwriaethMae’n dealltwriaeth o’r hyn yw addoliad hefyd yn dylanwadu ar yr hyn sydd orau gennym.

3

Page 4: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

10(35) Dewch at eich gilyddDosbarthwch yr holiadur ‘Beth ydym y geisio ei wneud mewn addoliad? AA1.2 Pa mor hawdd oedd rhoi’r rhain mewn trefn?Beth yw manteision ac anfanteision yr wyth dealltwriaeth wahanol o addoliad?

10 (45) Tasg 1 Rhannwch AA 1.3 Beth ydym yn ceisio ei wneud mewn addoliad? Dangoswch t.18 ar y tdyTrafodwch mewn parauGofynnwch am sylwadauDywed Michael J. Townsend yn ei lyfr Worship, tt 13-21 a 91-95 ein bod wrth addoli yn dod ynghyd:

fel cymuned ffydd yn cyfarfod â Duw gan fynegi ein rhyfeddod a’n parchedig ofn a’n

diolchgarwch am bopeth y mae Duw wedi ei wneud i wrando i ymatebYn ei hanfod ymwneud â Duw yw addoliad

20 (66) Tasg 2 Trafodwch y cwestiynau canlynol mewn parau neu bedwarawdau.1 Pwy dybiwch ddaw i’r gwasanaeth a drefnir gennych?2 Beth tybed fyddai eu hanghenion?3 Beth allai fod yn bwysig i’w gofio wrth lunio’r gwasanaeth?Dewch at eich gilydd gyda’r nod o sefydlu’r brif egwyddor fod pobl yn dod i addoli gydag anghenion gwahanol. Cyfrifoldeb yrarweinydd yw darparu trefn gwasanaeth a gynlluniwyd yn ofalus a gweddigar fydd yn caniatáu i Ysbryd Duw fod ar waith.

15 (80) Parau Gwahoddwch y grŵp i drafod mewn parau atgofion o addoliad fu’n arbennig o ystyrlon iddynt hwy a’r rhesymau am hynny.

10 (90) Casgliadau Rhannwch Aseiniad Un AA1.4 ac AA 1.5Rhestr Adnoddau Darllenwch y dyfyniadau a ganlyn gan eu dangos hefyd ar y tdy os dymunwch. Beth yw’r nodau addoliad geir yn y Salm?

4

Page 5: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

‘Addoliad ywbywiogi’r gydwybod â sancteiddrwydd Duw,porthi’r meddwl â gwirionedd Duw,puro’r dychymig â harddwch Duwagor y galon i gariad Duw,cysegru’r ewyllys i ddibenion Duw.’ Yr Archesgob William Temple

‘Y mae llawer o Gristnogion mewn oed yn dioddef o ddiffyg cymdeithas weledig go iawn o’u cwmpas.Yr ydym mewn perygl o droi’n enwad o unigolion, aiff i gael adnewyddu eu batris preifat gan gaplan o’u dewis ein hunain mewn adeilad crefyddol addas heb nemor ddim ymyrraeth gan neb arall.’Y Parchg John Bell

Bloeddiwch mewn gorfoledd i’r Arglwydd, yr holl ddaear.Addolwch yr Arglwydd mewn llawenydd,dowch o’i flaen â chân.Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw;ef a’n gwnaeth a’i eiddo ef ydym,ei bobl a defaid ei borfa.Dewch i mewn i’w byrth â diolch,ac i’w gynteddau â mawl.Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.Oherwydd da yw’r Arglwydd;y mae ei gariad hyd byth,a’i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.Salm 100

Yr elfennau yn y Salm y gellir cyfeirio atynt fel nodau addoliad yw gwrogaeth, llawenydd, cân, cydnabod arglwyddiaeth a daioni Duw, diolch, mawl a.y.b.

5

Page 6: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 1.1

Sut ydych yn teimlo am addoliad?

Cwblhewch yr holiadur drwy roi cylch am y rhif priodol.

1 = cytuno’n llwyr2 = cytuno3 = dim gwahaniaeth un ffordd neu’r llall4 = anghytuno5 = anghytuno’n llwyr

a) Rhaid wrth weinidog neu leygwr cydnabyddedig i arwain addoliad

1 2 3 4 5

b) Dylai fod pregeth fel arfer

1 2 3 4 5

c) Mae cael trefn gwasanaeth wedi ei argraffu yn gymorth

1 2 3 4 5

ch) Nid yw chwerthin a chymeradwyaeth yn addas mewn gwasanaeth

1 2 3 4 5

d) Dylid defnyddio amryw o offerynnau i gyfeilio i’r canu

1 2 3 4 5

dd) Mae darnau ysgrifenedig i bobl eu hadrodd ynghyd yn bwysig

1 2 3 4 5

6

Page 7: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

e) Mae’n bwysig cael cyfnodau o dawelwch

1 2 3 4 5

f) Dylid cael cymorth gweledol i addoli (e.e. posteri, baneri, eiconau, gwrthrychau, canhwyllau)

1 2 3 4 5

ff) Dylid bob amser gynnwys gweddïau dros broblemau’r byd

1 2 3 4 5

g) Mae caneuon ysgrythurol a chytganau yn rhan bwysig o addoliad

1 2 3 4 5

7

Page 8: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 1.2

Beth geisiwn ei wneud mewn Addoliad?

Rhifwch y canlynol yn ôl eu pwysigrwydd yn eich barn chi (gyda 1 yr uchaf a 8 yr isaf)

Darparu achlysur i ddathlu’n ffydd

Helpu addolwyr i ail drydanu’r batri

Cadarnhau ymdeimlad o gymdeithas yr eglwys

Offrymu clod ac addoliad i Duw

Gweddïo dros y byd

Offrymu’n bywydau i wasanaethu Dduw

Ail adrodd hanes yr hyn a wnaeth Duw drosom

Gwrando ar Dduw

8

Page 9: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA1.3

Beth ydym ni yn ceisio ei wneud mewn addoliad?

Isod rhestrir wyth ffordd wahanol o ddeall addoliadNid ydynt yn llwyr anghydnaws a’i gilydd, ac i’r mwyafrif ohonom bydd dwy neu dair yn fwy pwysig na’r gweddill.Mae i bob ffordd o ystyried addoliad ei manteision a’i hanfanteision. Rhestrir rhai o’r rhain.

1. Darparu achlysur i ddathlu’n ffydd+ Rydym am fynegi ein diolchgarwch am yr hyn a wnaeth ac a wna Duw drosom. Mae dathliad yn gyfle i fynegi teimladau.- Os mai dim ond dathliad yw addoliad y mae hynny’n culhau’r cynnwys a’r arddull.- Mae yna berygl mewn gorfodi ar bobl lawenydd nad ydynt yn ymdeimlo ag o.

2. Helpu addolwyr i ail drydanu’r batri+ Mae bod yn Gristion yn ein byd ni yn gallu bod yn lladdfa. Gall addoliad gadarnhau ein cred a’n hannog i fod yn well disgyblion. - Gall addoliad ddatblygu’n unigolyddol. Gall ganolbwyntio ar ein hanghenion ni gan anwybyddu pawb arall.

3. Cadarnhau’r ymdeimlad o gymdeithas yn yr eglwys+ Mae Cristnogion angen cymorth yr ymdeimlad o fod yn perthyn i Gorff Crist - Gall addoliad fynd yn fwy dyn ganolog na Duw ganolog.

4. Offrymu clod ac addoliad i Dduw+ Duw yw Duw ac y mae’n iawn fod ei bobl yn cydnabod hynny. Nid yw’r modd yr ydym ni’n teimlo’n berthnasol.– Gall droi yn ddyletswydd oer.

5. Gweddïo dros y byd

+ Yn 1Pedr 2:9 gelwir yr Eglwys yn ‘offeiriadaeth frenhinol’. Mae’r Eglwys yn nesáu at Dduw ar ran y byd. Mae’r Eglwys yn bod er mwyn y rhai nad ydynt yn aelodau.

– Ymddengys fod hyn yn awgrymu nad oes raid i bobl fynychu na bod yn aelodau o’r eglwys.

6. Offrymu’n bywydau i wasanaeth Duw+ Atgoffir ni fod Duw ar waith ym mhob rhan o’n bywyd.– Ni rydd fawr o gyfle i ystyried beth y gall Duw fod am ei ddweud wrthym.

7. Ail-adrodd hanes yr hyn a wnaeth Duw drosom+ Atgoffir ni o hanes pobl Dduw e.e. drwy’r gwyliau Cristnogol, stori’r Beibl

9

Page 10: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

– Gall hyn arwain at ganolbwyntio afiach ar y gorffennol

8. Gwrando ar Dduw+ Mae addoliad yn symudiad i ddau gyfeiriad. Llefara Duw wrthym ni ac ymatebwn iddo.– Efallai na fydd yr ymateb yn cael ei drosglwyddo i’n bywyd bob dydd. Gall fod yn anodd dirnad yn iawn yr hyn y mae Duw yn ei ddweud drwy’r pregethu, y darlleniadau a’r gweddïau

Meddai Michael J. Townsend;Yn ei hanfod ymwneud â Duw yw addoliad:

deuwn ynghyd fel cymuned ffydd yn cyfarfod â Duw deuwn ynghyd gan fynegi ein rhyfeddod a’n parchedig ofn

a’n diolchgarwch am bopeth y mae Duw wedi ei wneud deuwn ynghyd i wrando deuwn ynghyd i ymateb

Michael J. Townsend, Woprship (Epworth Press)

‘Addoliad ywbywiogi’r gydwybod â sancteiddrwydd Duw,porthi’r meddwl â gwirionedd Duw,puro’r dychymig â harddwch Duwagor y galon i gariad Duw,cysegru’r ewyllys i ddibenion Duw.’ Yr Archesgob William Temple

‘Y mae llawer o Gristnogion mewn oed yn dioddef o ddiffyg cymdeithas weledol go iawn o’u cwmpas.Yr ydym mewn perygl o droi’n enwad o unigolion, aiff i gael adnewyddu eu batris preifat gan gaplan o’u dewis eu hunain mewn adeilad crefyddol addas heb nemor ddim ymyrraeth gan neb arall.’ Y Parchg John Bell

Bloeddiwch mewn gorfoledd i’r Arglwydd, yr holl ddaear.Addolwch yr Arglwydd mewn llawenydd,dowch o’i flaen â chân.Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw;ef a’n gwnaeth a’i eiddo ef ydym,ei bobl a defaid ei borfa.Dewch i mewn i’w byrth â diolch,ac i’w gynteddau â mawl.Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.Oherwydd da yw’r Arglwydd;y mae ei gariad hyd byth,a’i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Salm 100

10

Page 11: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Aseiniad 1 AA1.4

Isod gwelir tair fersiwn wahanol o 1 Cor 13: 1-7

Yr Hen Gyfieithiad

Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian. A phe byddai gennyf broffwydoliaeth, a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennyf yr holl ffydd, fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim. A phe porthwn y tlodion â’m holl dda, a phe rhoddwn fy nghorff i’m llosgi, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim llesâd i mi. Y mae cariad yn hirymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu, nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo. Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd, nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun, ni chythruddir, ni feddwl ddrwg; nid yw lawen am anghyfiawnder, ond cydlawenhau y mae â’r gwirionedd; Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim.

Y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig

Os llefaraf â thafodau meidrolion ac angylion a heb fod gennyf gariad, efydd swnllyd ydwyf, neu symbal aflafar. Ac os oes gennyf ddawn proffwydo, os wyf yn gwybod y dirgelion i gyd, a phob gwybodaeth, ac os oes gennyf gymaint o ffydd nes gallu symud mynyddoedd, a heb fod gennyf gariad, nid wyf ddim. Ac os rhof fy holl feddiannau i borthi eraill, ac os rhof fy nghorff yn aberth, a hynny er mwyn ymffrostio, a heb fod gennyf gariad, ni wna hyn ddim lles imi. Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo. Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio, nid yw’n cadw cyfrif o gam; nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd. Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.

Beibl.net

Os dw i’n siarad ieithoedd dieithr neu hyd yn oed iaith angylion, heb gariad dw i'n ddim byd ond jar metel swnllyd neu symbal yn diasbedain. 2 Efallai bod gen i'r ddawn i broffwydo, a’r gallu i blymio'r dirgelion dyfnaf - neu’r wybodaeth i esbonio popeth! Efallai bod gen i ddigon o ffydd i ‘symud mynyddoedd’ - ond heb gariad dw i'n dda i ddim. 3 Efallai mod i’n fodlon rhannu’r cwbl sydd gen i gyda'r tlodion, neu hyd yn oed yn fodlon marw dros y ffydd - ond heb gariad, dw i'n ennill dim. 4 Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono’i hun. 5 Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nag yn mynnu ei ffordd ei hun drwy’r adeg. Dydy e ddim yn

11

Page 12: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

digio a phwdu, ac mae’n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam. 6 Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni - beth sy’n ei wneud e'n llawen ydy’r gwir. 7 Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu, bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati.

Cwestiwn: Pa fersiwn yn eich barn chi sydd fwyaf addas ar gyfer ei ddarllen mewn addoliad? Rhowch eich rhesymau.

12

Page 13: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 1.5Llyfryddiaeth Addoliad

Diwinyddiaeth Addoli

Doxology – A Systematic Theology, Geoffrey Wainwright, Epworth Press, 1980Introduction to Christian Worship, James F. White, Abingdon, 1980Worship, Evelyn Underhill, Nisbet, 1941On Liturgical Theology, Aidan Kavanagh, New York, 1984.

Hanes Addoliad

Protestant Worship – Traditions in Transition, James F White, Westminster, USA, 1989An Outline of Christian Worship, Gordon Wakefield, T & T Clark, 1998The Study of Liturgy, Gol. Cheslyn Jones, Geoffrey Wainwright, Edward Yarnold a Paul Bradshaw, S.P.C.K., 1992Christian Worship: Studies in its History and Meaning, Gol. Nathaniel Micklem, Oxford, 1936.

Cyffredinol

Groundwork of Worship and Preaching, Richard G Jones, Epworth, 1980Worship: It’s Theology and Practice, J.J von Allmen, Lutterworth, 1968.Themes and Variations for a Christian Doxology, H Oliphant Old, Eerdmans, 1992Call to Worship, Neville Clard, S.C.M. 1960.A Dictionary of Liturgy and Worship, Gol. J.G. Davies, S.C.M., 1972.Reaching Out without Dumbing Down: A Theology of Worship for the Urgent Time, Marva J Dawn, Eerdmans, 1995.A Community of Joy: How to Create Contemporary Worship, Timothy Wright, Nashville, 1994.Worship (Thinking Things Through), Michael Townsend, Epworth, 1997.

Llyfrau GwasanaethLlyfr Gwasanaethau Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Gwasg Pantycelyn, 2009.Llyfr Gwasanaeth Undeb yr Annibynwyr Cymraeg,Tŷ John Penri, 1998.Common Order, Eglwys yr Alban, Caeredin, 1994.

13

Page 14: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Casgliadau o weddïau

Rhagor o Weddïau yn y Gynulleidfa, John Gwilym Jones, Tŷ John Penri, 1991.Amser i Dduw, Elfed ap Nefydd Roberts, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2004.Y Duw Byw, Elfed ap Nefydd Roberts, Cyhoeddiadau’r Gair, 1995.Amser i Dduw, Elfed ap Nefydd Roberts, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2004.O fewn ei byrth, Elfed ap Nefydd Roberts, Gwasg Pantycelyn, 1994.Gweddïau Cyhoeddus, Gol. Aled Davies, Cyhoeddiadau’r Gair, 2005.Gweddïau yn y Gynulleidfa, Gol. Maurice Loader, Tŷ John Penri, 1991.Gweddïau i’r Eglwys a’r Gymuned, R. Chapman a Donald Hilton, Cyf Trefor Lewis, Cyhoeddiadau’r Gair, 1995.Gweddïau’r Pererin, J Johansen-Berg, Cyf. Glyn Tudwal Jones, Cyhoeddiadau’r Gair, 1996Gair a Gweddi, William Barclay, Cyf. Olaf Davies, Cyhoeddiadau’r Gair, 1995Tymhorau Gogoniant, Cytûn, Abertawe, 1997.

Beiblau ac Adnoddau Gweddi

Fel testunau amrywiol i’w hystyries yn y sesiwn gyntaf defnyddiwyd ‘Yr Hen Gyfieithiad’, Beibl.net a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig

14

Page 15: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Nodyn dysgu AA1.1

Arwain Defosiwn

Rywbryd neu’i gilydd rydym yn mynd i gael cais i arwain mewn defosiwn, boed hynny mewn cwrdd eglwys neu gyfarfod cyhoeddus, cynulliad preifat neu ar achlysur arbennig.

Mae defosiwn o’r fath weithiau’n gwbl fyrfyfyr gyda’r sawl sy’n arwain yn agor y Beibl ac yn ‘cymryd at y rhannau dechreuol’, dro arall bydd wedi ei baratoi ac yn fwy ffurfiol ei naws.

Sut bynnag yr arweinir mewn defosiwn yr un yw’r dasg bob tro – dod gerbron Duw mewn ysbryd a gwirionedd. Yn anffodus, ni fydd ein harddull na’n geirfa, ein paratoadau na’n cyflwyniad yn taro deuddeg bob amser, a gorfodir ni i ail-ystyried geiriau’r Salmydd; ‘Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig; calon ddrylliedig a churiedig ni ddirmygi, O Dduw.’ (51:17) Nodweddir y fath ddefosiwn gan ryfeddod, parchedig ofn a’r ymdeimlad o bresenoldeb Duw.

Cynorthwya ni o Arglwydd i ymlonyddu a gwybod mai tydi sydd Dduw. Bydd yn y canol pan fyddwn yn arwain mewn defosiwn, oherwydd hebot ti bydd ein geiriau’n wag a’n hymdrechion yn or-amlwg. Yn enw’r un a’n dysgodd i weddïo, Amen.

15

Page 16: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Arwain Addoliad

Sesiwn 1 – Diben addoliadNod:

1. Darganfod fel y mae chwaeth bersonol yn lliwio ein chwaeth mewn addoliad.2. Ystyried y modd o ddefnyddio ein hymwybyddiaeth o hynny i wneud ein

haddoliad yn berthnasol i eraill.

Sesiwn 2 – Y Beibl mewn addoliadNod:

1. Pwysleisio lle canolog y Beibl mewn gwasanaeth.2. Gwerthfawrogi’r gwahanol fersiynau o’r Beibl a’r modd y gellir eu defnyddio’n

fwyaf effeithiol mewn addoliad.3. Rhoi arweiniad ynghylch y modd i gyflwyno a darllen y Beibl mewn addoliad.

Sesiwn 3 – Gweithdy sgiliau cyflwynoNod:

1. Gwella’r gallu i ddarllen yn uchel2. Hybu adfyfyrdod ar y ‘perfformiad’3. Dangos gwerth adborth onest

Sesiwn 4 Gweddi mewn addoliadNod:

1. Ystyried pam y mae gweddi’n rhan o addoliad.2. Ystyried Gweddi’r Arglwydd fel patrwm addas3. Ystyried ffurfiau gwahanol o weddi4. Ystyried gwahanol ffyrdd o weddïo

Sesiwn 5 Cerddoriaeth mewn addoliadNod:

1. Ystyried gwerth cerddoriaeth mewn addoliad.2. Hybu dealltwriaeth o’r gwahanol draddodiadau parthed emynau a chaneuon ar

gyfer addoliad cyfoes.3. Pwysleisio’r angen am gydbwysedd wrth ddewis cerddoriaeth ar gyfer

addoliad.4. Awgrymu sut y gellir cael mwy o amrywiaeth mewn canu.

Sesiwn 6 Rhoi’r cyfan gyda’i gilyddNod:

1. Trafod cynnwys gwasanaethau a baratowyd.2. Trafod y bwriad wrth ddewis amrywiol eitemau.3. Ystyried y profiad o gyd-weithio i lunio gwasanaeth.4. Adnabod anghenion hyfforddiant pellach

Bydd cyfle i gwblhau ymarferion rhwng y sesiynau

16

Page 17: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

17

Page 18: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Wrth addoli rydym yn dod ynghyd:

Fel cymuned ffydd yn cyfarfod â Duw

Gan fynegi ein rhyfeddod a’n parchedig ofn a’n diolchgarwch am bopeth a wnaeth

I wrando

I ymateb

Yn ei hanfod ymwneud â Duw yw addoliad

18

Page 19: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

‘Addoliad yw

√ bywiogi’r gydwybod â sancteiddrwydd Duw

√ porthi’r meddwl â gwironedd Duw

√ puro’r dychymig â harddwch Duw

√ agor y galon i gariad Duw

√ cysegru’r ewyllys i ddibenion Duw

Yr Archesgob William Temple

19

Page 20: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

‘Y mae llawer o Gristnogion mewn oed yn

dioddef o ddiffyg cymdeithas weledol go

iawn o’u cwmpas. ‘Yr ydym mewn perygl

o droi’n enwad o unigolion, aiff i gael

adnewyddu eu batris gan gaplan o’u dewis

eu hunain mewn adeilad crefyddol addas

heb nemor ddim ymyrraeth gan neb arall.’

Y Parchedig John Bell

20

Page 21: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Bloeddiwch mewn gorfoledd i’r Arglwydd, yr holl ddaear.

Addolwch yr Arglwydd mewn llawenydd,

dowch o’i flaen â chân.Gwybyddwch mai yr Arglwydd

sydd Dduw;ef a’n gwnaeth a’i eiddo ef

ydym,ei bobl a defaid ei borfa.Dewch i mewn i’w byrth â diolch,ac i’w gynteddau â mawl.Diolchwch iddo, bendithiwch ei

enw.Oherwydd da yw’r Arglwydd;y mae ei gariad hyd byth,a’i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Salm 100

21

Page 22: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Sesiwn 2: Y Beibl mewn Addoliad

Nod 1. Pwysleisio lle canolog y Beibl yn ein gwasanaethau a’n haddoliad2. Peri:

a) gwerthfawrogiad o wahanol fersiynau o’r Beiblb) dealltwriaeth o’r ffyrdd y gallent gael eu defnyddio’n effeithiol mewn addoliad

3. Rhoi peth arweiniad ynghylch cyflwyno, cyhoeddi a darllen y Beibl mewn addoliad.

10 Cyflwyniad Mewn gwasanaeth o addoliad rhoddir parch neilltuol i’r Beibl. Bydd yn agored ar y pulpud o flaen y pregethwr.Tynnir ar yr ysgrythur yn aml wrth lunio galwad i addoli a gweddi (gw. Salm 100:2)Bydd gweddïau’n aml yn cyfeirio at ddarnau o’r ysgrythur (gw. Jwdas 24-25)Mae emynau a chaneuon hefyd yn adleisio ac yn ail-adrodd themâu a chyfeiriadau Beiblaidd.Derbynnir a pherchir y Beibl a’r defnydd ohono fel rhan o’r dreftadaeth a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth o ddyddiau’r Eglwys Fore (gw. I Timotheus 4:13), ac o addoliad cenedl Israel (gw. Luc 4:16-21 sef hanes Iesu yn y synagog yn Nasareth). Mae’r darnau hyn wedi eu hargraffu ar t.24. Gellwch ofyn i aelod o’r grŵp eu darllen. Y perygl yw ein bod yn gweld y Beibl fel llyfr cysegredig sydd yn rhaid ei drin mewn ffordd arbennig yn hytrach na fel ffynhonnell i’n ffydd sydd â rhywbeth i’w ddweud wrthym heddiw.

10 (20) Tasg 1 Mewn grwpiau o bedwar trafodwch yr atebion i Aseiniad 1 (AA1.4) a dewch ynghyd i drafod yr atebion.Gofynnwch am sylwadau a sicrhewch fod enghreifftiau o’r gwahanol fersiynau wrth law.Tanlinellwch y gwahaniaeth rhwng aralleiriad a chyfieithiad.Bydd yn rhaid i’r sawl sy’n arwain addoliad ddewis y fersiwn fwyaf addas ar gyfer addoliad arbennig.

25 (45) Tasg 2 Dosbarthwch AA 2.2 Darllen y BeiblGwahoddwch bawb yn unigol i ddarllen y dyfyniadau ac ateb y cwestiynau.Trafodwch yr atebion mewn parau.Dewch ynghyd i drafod yr atebion.Darllener I Cor 13:1-3 ynghyd â dyfyniad rhif 1Darllener Eseia 6:1-8 ynghyd â dyfyniad rhif 2

20 (65) Tasg 3 Dosbarthwch AA 2.3 Rhai canllawiau ar gyfer darllen y Beibl mewn addoliad.

22

Page 23: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Darllener y canllawiau yn unigol.Rhannwch gyda’ch partner yr hyn sydd bwysicaf ynddynt yn eich barn chi.Dewch ynghyd i drafod yr atebion.

Dewis arall fyddai trafod y daflen fel grŵp a defnyddio aelodau o’r grŵp i ddarllen yr enghreifftiau gwahanol (tt. 29 - 31)

15 (80) Ystyriwch Sut i ddewis thema.Dylech ystyried profiad personol

defosiwn personolpynciau cymdeithasol/cenedlaetholtymhorau’r flwyddyn GristnogolDarlleniadur – os cyfarfod canol wythnos defnyddiwch ddarlleniadau’r Sul blaenorol.

Sicrhewch fod gennych esiamplau wrth lawDangoswch sut i ddefnyddio MynegairDosbarthwch AA 2.4 Detholiad o frawddegau ysgrythurol a bendithion.Dosberthwch AA 2.5 Y Flwyddyn Gristnogol.

5 (85) Aseiniad Esboniwch fanylion Aseiniad 2 (AA 2.6): sef, ‘Dewiswch ddarn o ysgrythur o tua 10 adnod, ymgyfarwyddwch ag ef a pharatowch i’w ddarllen yn gyhoeddus yn y dosbarth y tro nesaf.’

5 (90) Casgliad Darllener Philipiaid 4:6-7 yn y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig

23

Page 24: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Y Beibl ac Addoliad

Galwad i Addoli: Salm 100: 1-2

Bloeddiwch mewn gorfoleddi’r Arglwydd, yr hollddaear.

Addolwch yr Arglwydd mewn llawenydd,

dewch o’i flaen â chân.

Gweddi: Judas: 24-25

Iddo ef, sydd â’r gallu ganddo i’ch cadwn rhag syrthio, a’ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant,iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y byddo gogoniant, a mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn yr oesoedd, ac yn awr, a byth bythoedd! Amen.

Treftadaeth addoliad y Testament Newydd: 1 Timotheus 4:6

Hyd nes i mi ddod, rhaid i ti ymroi i’r darlleniadau a’r pregethu a’r hyfforddi.

Patrwm Addoliad Israel: Luc 4: 16-21

Daeth i Nasareth, lle yr oedd wedi ei fagu. Yn ô lei arfer aeth i’r synagog ar y dydd Saboth, a chododd i ddarllen.Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia ac agorodd y sgrôl a chael y man lle’r oedd yn ysgrifenedig:

“Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f’eneinio i bregethu’n newydd da i dlodion.Y mae wedi f’anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adfeiriad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig gerdded yn rhydd,i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.”

Wedi cau’r sgrôl a’i rhoi’n ôl i’r swyddog, fe eisteddodd; ac yr oedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno.

A’i eiriau cyntaf wrthynt oedd: “Heddiw yn eich clyw chwi y mae’r Ysgrythur hon wedi ei chyflawni.”

24

Page 25: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

A ydych chi yn credu mai gair Duw sydd yn ysgrythurau’r Hen Destament a’r Testament Newydd yw rheol bennaf ffydd a bywyd?

Dywed y Gyffes Fydd ‘Gair Duw yw’r holl Ysgrythurau’ a’u bod ‘yn unig anffaeledig reol ffydd ac ufudd-dod’.

25

Page 26: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA2.2Darllen y Beibl

Y mae’r ddau ddyfyniad sy’n dilyn yn dod o gyfrol Donald Reeves, Down to Earth (Mowbray, 1997) t.74.

Pan mae geiriau testun sanctaidd ond yn cael eu darllen fe pe deuent o lyfr rhifau ffôn, does yna ddim cyswllt amlwg rhwng bywyd mewnol y darllenydd a’r hyn y mae’n ei ddarllen. Collwyd y cydgysylltiad rhwng y geiriau a gwybodaeth y pen a’r galon, y cysylltiad a bair fod y storïwr yn adrodd y stori wrth y gynulleidfa mewn modd sy’n eu swyno hwy, ond sydd hefyd yn ei swyno yntau.

Pa gamau ymarferol ellid eu cymryd i geisio sicrhau nad yw eich darlleniad yn swnio fel ei fod yn dod o’r llyfr rhifau ffôn?

Dylai darllen y Beibl gyd-fynd ag ymdeimlad o ddisgwyliad y ceir ynddo obaith a gwirionedd. Ac wrth ddarllen rhaid i’r darllenydd feithrin agwedd ymholgar tra ar yr un pryd yn anwybyddu disgwyliadau cyffredin, a hynny er mwyn mynd i mewn i fyd rhyfeddol y testun... Rhaid bod yn barod i groesawu newid.

A yw’r awgrym hwn o unrhyw gymorth wrth ystyried sut i gyflwyno darlleniad arbennig?

26

Page 27: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA2.3

Rhai canllawiau ar gyfer darllen y Beibl mewn Addoliad

1. Dewis darlleniad Dewiswch ddarnau addas ar gyfer eich thema, ystyriwch ddefnyddio darn o’r

Hen Destament a darn o’r Testament Newydd. Os oes angen darn gweddol hir, gellid ei ddarllen fel dau ddarn byrrach neu

gellid crynhoi neu hepgor rhan ohono.

2. Ystyriwch sut y gellid ei ddarllen Gennych chi eich hun neu rywun arall Fel deialog gan nifer o ddarllenwyr - ond rhaid wrth ddigon o baratoad ymlaen

llaw. Dwywaith gan ddefnyddio fersiynau gwahanol Os oes Beiblau ar gael i’r gynulleidfa gall pawb ddarllen y darn ynghyd, neu

gallai’r arweinydd a’r gynulleidfa ddarllen adnod bob yn ail – byddai’n rhaid wrth gyfarwyddyd eglur.

3. Dylai’r darlleniad gael ei gyhoeddi mor glir a syml a phosibl Dylid cyhoeddi’r llyfr y daw’r darlleniad ohono gan nodi’r bennod a’r adnodau Os oes Beiblau ar gael yn y seddau dylid cyhoeddi rhif y tudalennau hefyd Dylid rhannu’r manylion hyn ddwywaith a rhoi digon o amser i’r gynulleidfa

ddod o hyd i’r adrannau yn eu Beiblau eu hunain. Gwrandewch am y distawrwydd wedi sŵn siffrwd y tudalennau.

4. Efallai y bydd angen cyflwyno’r darlleniad Pam y bu i’r llyfr gael ei ysgrifennu a chan bwy? Beth geir o flaen yr adrannau a ddarllenir? Pam y bu i chi ddewis y darlleniad? Dylid paratoi sylwadau o’r fath yn ofalus a chryno ac osgoi cyflwyniadau

hirfaith!

5. Darllen gydag ymdeimlad o’r ystyr Ymgyfarwyddwch â’r darn. Chwiliwch am yr ystyr a gwerthfawrogwch y ddrama. Dylid ymarfer ei ddarllen yn uchel. Darllenwch ychydig yn arafach nag y byddwch yn siarad, ond nid yn rhy araf. Os oes gennych lais uchel lleddfwch eich goslef. Defnyddiwch seibiannau’n greadigol. Amrywiwch eich goslef a chyflymder y darllen. Peidiwch a gostwng eich llais ar ddiwedd brawddeg. Ceisiwch ddal llygaid eich cynulleidfa mor aml â phosibl.

6. I ddechrau a diweddu’r darlleniadI ddechrau

27

Page 28: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

‘Gwrandewch Air yr Arglwydd.’ ‘Gadewch i ni wrando ar Air Duw.’I ddiweddu ‘Amen’ ‘Diolch i Dduw am ei Air’ ‘Bendithied yr Arglwydd y darllen a’r gwrando o’i Air’

A ellwch chi feddwl am ragor o frawddegau addas?

28

Page 29: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA2.3

Salm 46: (Detholiad)

1. Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder.

2. Felly, nid ofnwn er i’r ddaear symud ac i’r mynyddoedd ddisgyn i ganol y môr,

3. er i’r dyfroedd ruo a therfysgu ac i’r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd.

4. Y mae Arglwydd y Lluoedd gyda ni, Duw Jacob yn gaer i ni.

5. Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw, yn ddyrchafedig ymysg y cenhedloedd, yn ddyrchafedig ar y ddaear.

6. Y mae Arglwydd y Lluoedd gyda ni, Duw Jacob yn gaer i ni.

29

Page 30: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA2.3 ParhadFfydd y Gananees Mathew 15: 21-28

Storïwr Aeth Iesu allan oddi yno ac ymadawodd i barthau Tyrus a Sidon. A dyma wraig oedd yn Gananees o’r cyffiniau hynny yn dod ymlaen gan weiddi ,

Gwraig “Syr, trugarha wrthyf, Fab Dafydd; y mae fy merch wedi ei meddiannu gan gythraul ac yn dioddef yn enbyd.”

Darllenwr Ond ni atebodd ef un gair iddi. A death ei ddisgyblion ato a gofyn iddo,

Disgybl “Gyr hi i ffwrdd, oherwydd y mae’n gweiddi ar ein hôl.”

Iesu Atebodd yntau, “Ni’m hanfonwyd at neb ond at ddefaid colledig tŷ Israel.”

Darllenwr Ond death hithau ac ymgrymu iddo gan ddweud,

Gwraig “Syr, helpa fi”.

Iesu Atebodd Iesu, “Nid yw’n deg cymryd bara’r plant a’i daflu i’r cŵn.”

Gwraig Dywedodd hithau, “Gwir, syr, ond y mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta o’r briwsion sy’n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.”

Iesu Yna atebodd Iesu hi, “Wraig mawr yw dy ffydd; boed iti fel y mynni.”

Darllenwr Ac fe iachawyd ei merch o’r munud hwnnw.

Darllenwyr: Storïwr, Gwraig, Disgybl, Iesu

30

Page 31: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 2.3 Parhad

Gwledd ar Fynydd Seion Eseia 25: 6-9

Ar y mynydd hwn bydd Arglwydd y Lluoedd

yn paratoi gwledd o basgedigion i’r bobl i gyd,

gwledd o win wedi aeddfedu,

o basgedigion breision a hen win wedi ei hidlo’n lân.

Ac ar y mynydd hwn fe ddifa’r gorchudd

a daenwyd dros yr holl bobloedd,

llen galar sy’n cuddio pob cenedl;

llyncir angau am byth,

a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb,

ac yn symud ymaith warth ei bobl o’r holl ddaear.

Yr Arglwydd a lefarodd hyn. Yn y dydd hwnnw fe ddywedir,

“Wele, dyma ein Duw ni.

Buom yn disgwyl amdano i’n gwaredu;

dyma’r Arglwydd y buom yn disgwyl amdano,

gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth.”

31

Page 32: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 2.4

Detholiad o frawddegau o’r Beibl a Bendithion

Galwad i Addoli

Salmau 16:11, 95:1-2, 6-7, 100, 106:1Eseia 55:6Ioan 4:24, 6:35Hebreaid 13:15

Galwad i WeddïoSalm 86:5Mathew 7:7Philipiaid 4:6Datguddiad 3:20

Gogoneddiadau a Bendithion ‘Gwylied yr Arglwydd rhyngom, pan fyddwn o olwg ein gilydd’ Gen:31;49

‘Bydded i’r Arglwydd dy fendithio a’th gadw:bydded i’r Arglwydd lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt;bydded i’r Arglwydd edrych arnat, a rhoi i ti heddwch’Numeri 6:24-26

‘Bydded geiriau fy ngenau’n dderbyniol gennyt,a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti,O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.’Salm 19:14

‘Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân fyddo gyda chwi oll!’2 Cor 13:13

‘A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu.Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn. Y pethau yr ydych wedi eu dysgu a’u derbyn, eu clywed a’u gweled, ynof fi, gwnewch y rhain; a bydd Duw’r tangnefedd gyda chwi.’Philipiaid 4: 7-9

32

Page 33: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

‘Gras a thangnefedd a thrugaredd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Harglwydd’1 Timotheus 1:2

Iddo ef, sydd â’r gallu ganddo i’ch cadw rhag syrthio, a’ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant, iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y byddo gogoniant a mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn yr oesoedd, ac yn awr, a byth bythoedd! Amen.Jwdas 24-25

I’r hwn sydd yn ein caru ni ac a’n rhyddhaodd ni oddi wrth ein pechodau â’i waed, ac a’n gwnaeth yn urdd frenhinol, yn offeiriaid i Dduw ei Dad, iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu byth bythoedd! Amen.Datguddiad 1:5b-6

Mae yn Llyfr Gwasanaethau Eglwys Bresbyteraidd Cymru (2009) Galendr a Llithiadur a detholiad o Frawddegau a Gweddïau Agoriadol

Mae yn Llyfr Gwasanaeth Undeb yr Annibynwyr Cymraeg gasgliad o weddïau, brawddegau, bendithion a gogoneddiadau

Wrh gyflwyno’r cwrs gellwch ychwanegu manylion llyfrau eraill yma, megis

Llyfrau defosiwn personnol sydd â themâu addas ar gyfer gwasanaethau

Llyfrau’n ymwneud â’r flwyddyn eglwysig

Defnyddiau a gyhoeddir gan fudiadau elusennol megis ‘Cymorth Cristnogol’ ac ‘A Rocha’ a defnyddiau ar gyfer achlysuron arbennig gyhoeddir gan yr enwadau.

Mae mynegair ysgrythurol o fudd mawr i ddod o hyd i adnodau arbennig ac wrth ddilyn thema

33

Page 34: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 2.5

Y Flwyddyn Gristnogola. Yr AdfentCychwyn yr Adfent bedwar Sul cyn y Nadolig a’i ddiben yw ein paratoi ar gyfer yr ŵyl. Mae i’r tymor hwn ddwy brif thema. Yn gyntaf atgoffa ni o’r amrywiol ffyrdd y bu Duw ar waith yn y gorffennol yn paratoi ar gyfer dyfodiad Iesu Grist. Cofiwn am y digwyddiadau arwyddocaol yn hanes ein hachubiaeth o gyfnod y creu ymlaen. Yn ail, y mae’r Adfent hefyd yn ymwneud â disgwyl. Rydym yn byw yn y cyfnod rhwng dyfodiad cyntaf ac ail ddyfodiad Iesu, ac yn nhymor yr Adfent edrychwn ymlaen at yr adeg pan fydd Duw yn dwyn i fod fyd newydd o gyfiawnder a heddwch. Felly, y mae’r Adfent yn ymwneud ag edifeirwch a disgwyliad.

Lliw: Porffor neu Las

b. Y NadoligCychwyn tymor y Nadolig ar ddydd Nadolig ac y mae’n parhau am ddeuddeg niwrnod. Nid dathliad pen-blwydd yn unig mohono. Noda ddechrau cyflawniad bwriadau achubol Duw wrth i ni gydnabod dyfodiad Gwaredwr y byd. Felly y mae’r Nadolig yn gyfnod o lawenydd a dathlu mewn gwirionedd.

Lliw; Gwyn neu Aur

c. Yr YstwyllYn yr eglwys yn y Gorllewin disgyn ar 6 Ionawr a chaiff ei ddathlu’n aml ar y Sul canlynol. Dyma pryd yr adroddir hanes y Doethion. Thema’r Ystwyll yw bod Goleuni’r byd wedi dod yn Iesu Grist, a’i fod wedi ei ddatguddio i’r byd yn gyfan fel y gall pawb fyw yn y goleuni. Pery cyfnod yr Ystwyll am wythnos a dwg gyfnod y Nadolig i ben.

Lliw: Gwyn neu Aur

d. Y GrawysCyfnod o ‘ddeugain diwrnod’ cyn y Pasg ynghyd â’r Suliau. Ar y cychwyn cyfnod o hyfforddiant ydoedd pan fyddai ymgeiswyr oedd am ddod yn aelodau o’r eglwys drwy fedydd yn cael eu dysgu. Yn aml byddai’r bedydd yn cael ei gynnal ar Sul y Pasg. Rhan o’r hyfforddiant fyddai dysgu i edifarhau ac ymwadu ac ymddiried yn llwyr yng Nghrist a orchfygodd angau. Mae’r thema hon yn parhau i nodweddu tymor y Grawys hyd heddiw. Bydd pobl na fyddant byth yn tywyllu drws capel nac eglwys yn aml yn gofyn ‘Beth ydych yn ei roi heibio ar gyfer y Grawys?’ Cychwyn y Grawys yw Dydd Mercher Lludw pan fydd gwasanaethau arbennig o hunan-ymchwiliad yn cael eu cynnal, ac yn ystod Suliau’r Grawys rhoddir sylw i ymdaith Iesu tua’r groes. Cyfnod trwm yw’r Grawys yn pwysleisio edifeirwch a hunan-ymwadiad.

Lliw: Porffor

34

Page 35: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

dd. Yr Wythnos FawrYr Wythnos Fawr yw wythnos olaf tymor y Grawys. Yn ystod yr wythnos hon canolbwyntir ar farwolaeth Iesu a’r digwyddiadau a gysylltir â hynny. Yn draddodiadol mae tridiau olaf yr Wythnos Fawr wedi cael sylw arbennig. Mae bellach yn gyffredin ym mhob traddodiad i gynnal gwasanaethau ar Ddydd Iau Cablyd pryd y rhoddir sylw i’r thema o olchi traed a sefydlu Swper yr Arglwydd. Ar ddydd Gwener y Groglith byddwn o ran calon a meddwl yn aros a gwylio wrth y groes. Bydd gwasanaeth gwylnos pryd yr ail-adroddir hanes hir ymwneud Duw â’r ddynoliaeth ac ymdrech Iesu yn erbyn drygioni yn cael eu cynnal mewn sawl lle ar y nos Sadwrn. Gall gwylnos hwyr y nos arwain yn syth i ddathliadau’r Pasg.

Lliw: CochY Groglith: du neu dim lliw o gwbl

e. Y Pasg.Dyma gyfnod y llawenhau mwyaf. Drwy atgyfodiad Crist cyflawnodd Duw y cyfan y bu iddo ei addo. Concrwyd pechod ac angau. Mae’r llawenydd yn ddilyffethair yn cael ei grynhoi a’i gyfleu yn y cyfarchiad ar ymateb traddodiadol;

Haleliwia! Yr Arglwydd a gyfododd!Yr Arglwydd a gyfododd yn wir! Haleliwia!

Mae addoliad y Pasg yn llawn ‘haleliwia’ (ystyr y gair yw ‘molwch Dduw’). Bydd hyn hyd yn oed yn fwy effeithiol os byddid wedi dilyn yr hen arferiad o beidio yngan yr un haleliwia dros gyfnod y Grawys! Pery tymor y Pasg am bum deg diwrnod, nid am un diwrnod yn unig! Yn ystod y cyfnod hwnnw rhoddir sylw i hanesion yr Efengylau am ymddangosiadau Iesu wedi’r groes a llawenhawn yng ngrym yr atgyfodiad i weddnewid bywyd i gyd. Yn ystod tymor y Pasg daw Dydd Iau Dyrchafael, a daw’r tymor i ben gyda’r Pentecost.

Lliw: Gwyn neu Aur

f. Y Pentecost. Y mae’r Pentecost ei hun yn ŵyl. Yn ôl y Beibl (Actau 2:1 - 13) rhoddodd yr Ysbryd Glân nerth i’r disgyblion i dystiolaethu i’r atgyfodiad. Adeg y Pentecost, felly, byddwn yn dathlu dyfodiad yr Ysbryd sydd i aros gyda phobl Dduw am byth. Drwy’r Ysbryd Glân y mae’r dystiolaeth i’r Crist atgyfodedig yn parhau heddiw. Drwy’r Ysbryd Glân y grymusir ac y cyflwynir ein haddoliad a’n bywyd yn gyfan i Dduw. Bydd gŵyl y Pentecost yn parhau am ddiwrnod.

Lliw: Coch

ff. Amser arferol neu gyffredinAmser arferol neu gyffredin yw’r amser hwnnw pan nad yw’n ‘dymor arbennig’. Bydd Suliau arbennig i’w nodi yn ystod y cyfnodau hyn, megis Sul y Drindod a Sul Cymorth Cristnogol.

Addaswyd o gyfrol Michael J. Townsend ‘Worship’ tt. 31-37

35

Page 36: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 2.6Aseiniad 2

Dewiswch ddarn o ysgrythur o tua 10 adnod, ymgyfarwyddwch ag ef a pharatowch i’w ddarllen yn gyhoeddus yn y dosbarth y tro nesaf.

36

Page 37: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Sesiwn 3: Sgiliau Cyflwyno

Nod 1. Gwella’r gallu i ddarllen yn uchel2. Annog y rhai sy’n dilyn y cwrs i ystyried eu hymdrechion 3. Dangos gwerth adborth onest

10 Cyflwyniad Esboniwch nodau’r gweithdy Gweddi AgoriadolDyma rai pwyntiau ymarferol ynglŷn â llefaru a defnyddio llais y dylid eu pwysleisio yn ystod y sesiwn hon:

Ymlaciwch wrth lefaru – mae nerfusrwydd yn effeithio ansawdd y llais Gwnewch yn siŵr eich bod yn glywadwy - heb weiddi! Siaradwch yn naturiol – gwyliwch rhag swnio’n bregethwrol. Gwyliwch nad ydych yn gostwng eich llais ar ddiwedd brawddeg. Llefarwch yn glir – heb fod yn rhy araf nac yn rhy gyflym. Ceisiwch amrywio’ch llais yn ôl y gofyn. Gwyliwch nad ydych yn gorddefnyddio’ch dwylo. Gwyliwch nad ydych yn rhoi’r argraff o fod yn fyfiol neu’n hunanbwysig.

10 (20) Tasg 1 Rhannwch daflen AA 3.1Darllenwch (neu dangoswch fidio) o ddarlleniad gyda chamgymeriadau amlwg a gwahoddwch y mynychwyr i lenwi’r grid.

Tasg 2 Gwahoddwch y mynychwyr i ddarllen y darnau y maent wedi eu paratoi.Llenwch y taflenni adborth AA 3.2 a 3.3Gwahoddwch y grŵp i ymateb.

Tasg 3 Rhannwch AA 3.4 - Gwneud nodiadau ar ddarn.Gwahoddwch unigolion i atalnodi darn bob un.Dewiswch un person i ddarllen pob darn a thrafodwch pa mor ddefnyddiol fu’r ymarfer hwn.

Tasg 4 Gwahoddwch bawb i ail-ddarllen AA 2.3 Rhai Canllawiau ar gyfer Darllen y Beibl mewn Addoliad.Gyda’ch gilydd trafodwch ‘Beth a ddysgais o’r gweithdy’.

Casgliad Rhannwch Aseiniad Tri, AA 3.5 Y Beibl a Gweddi

Noder Byddai’n bosibl gwneud fidio o’r darllenwyr. Os gwneir hyn dylid hepgor Tasg 3 er mwyn sicrhau digon o amser.

37

Page 38: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA3.1Sgiliau Cyflwyno

Enw’r darllenydd ______________________________________

Beth yr oeddech yn ei hoffi am y modd y darllenwyd y darn?

Oedd yna unrhyw beth y dylid ei wella?

Cyflwyniad Angen ychydig o welliant Angen ychydig mwy o welliant

Clywadwy

Goslef

Ystum/amnaid

Hyder

Dal llygad

Hynodweddion(Mannerisms)

38

Page 39: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 3.2Sgiliau Cyflwyno

Enw’r darllenydd ______________________________________

Beth yr oeddech yn ei hoffi am y modd y darllenwyd y darn?

Beth fyddech yn ei wneud yn wahanol y tro nesaf?

39

Page 40: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 3.3

Sgiliau Cyflwyno

Enw’r darllenydd ______________________________________

Beth yr oeddech yn ei hoffi am y modd y darllenwyd y darn?

Oedd yna unrhyw beth y dylid ei wella?

Enw’r darllenydd ______________________________________

Beth yr oeddech yn ei hoffi am y modd y darllenwyd y darn?

Oedd yna unrhyw beth y dylid ei wella?

Enw’r darllenydd ______________________________________

Beth yr oeddech yn ei hoffi am y modd y darllenwyd y darn?

Oedd yna unrhyw beth y dylid ei wella?

40

Page 41: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA3.4

Gwneud nodiadau ar ddarlleniad

Wrth baratoi darn i gael ei ddarllen yn uchel gall fod yn fuddiol nodi’r adrannau lle y byddech yn hoffi oedi, rhoi pwyslais, arafu neu godi eich llais.

Darllenwch bob darn unwaith neu ddwy i gael yr ystyr ac yna nodwch y darn â’r symbolau canlynol:

Oedi 0

Pwysleisio _______

Arafu A

Codi llais <

Tawelach >

Cyflymu C

A. Salm 8:1-4 Gogoniant Duw ac Urddas Teulu Dyn

O Arglwydd, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!Gosodaist dy ogoniant uwch y nefoedd, codaist amddiffyn rhag dy elynion o enau babanod a phlant sugno, a thawelu’r gelyn a’r dialydd. Pan edrychaf at y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a’r sêr, a roddaist yn eu lle, beth yw meidrolyn, iti ei gofio, a’r teulu dynol, iti ofalu amdano?

B. Habacuc 1:2- 4 Habacuc yn Cwyno am Anghyfiawnder

Am ba hyd, Arglwydd, y gwaeddaf am gymorth, a thithau heb wrando, ac y llefaf arnat, “Trais!” a thithau heb waredu? Pam y peri imi edrych ar ddrygioni, a gwneud imi weld trallod? Anrhaith a thrais sydd o’m blaen, cynnen a therfysg yn codi. Am hynny, â’r gyfraith yn ddi-rym, ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo:

41

Page 42: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

yn wir y mae’r drygionus yn amgylchu’r cyfiawn, a daw cyfiawnder allan yn wyrgam.

C. Luc 11:1- 4 Dysgeidiaeth Iesu ar Weddi

Yr oedd ef yn gweddïo mewn rhyw fan, ac wedi iddo orffen dywedodd un o’i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan yntau i’w ddisgyblion ef.” Ac meddai wrthynt, “Pan weddïwch, dywedwch:

‘Dad, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas,a dyro inni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol,a maddau inni ein pechodau,oherwydd yr ydym ninnau yn maddau i bob un sy’n troseddu yn ein herbyn; a phaid â’n dwyn i brawf.’”

Ch Ioan 21:15-17 Iesu a Pedr

Yna, wedi iddynt gael brecwast, gofynnodd Iesu i Simon Pedr, “Simon fab Ioan, a wyt ti’n fy ngharu i yn fwy na’r rhain?” Atebodd ef, “Ydwyf, Arglwydd, fe wyddost ti fy mod yn dy garu di.” Meddai Iesu wrtho, “Portha fy ŵyn.” Wedyn gofynnodd iddo yr ail waith, “Simon fab Ioan, a wyt ti’n fy ngharu i?” “Ydwyf, Arglwydd,” meddai Pedr wrtho, “fe wyddost ti fy mod yn dy garu di.” Meddai Iesu wrtho, “Bugeilia fy nefaid.” Gofynnodd iddo y drydedd waith, “Simon fab Ioan, a wyt ti’n fy ngharu i?” Aeth Pedr yn drist am ei fod wedi gofyn iddo y drydedd waith, “A wyt ti’n fy ngharu i?” Ac meddai wrtho, “Arglwydd, fe wyddost ti bob peth, ac rwyt ti’n gwybod fy mod yn dy garu di.” Dywedodd Iesu wrtho, “Portha fy nefaid”.

42

Page 43: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 3.5Aseiniad 3: Y Beibl a Gweddi

Defnyddir pedwar prif fath o weddi mewn addoliad.

Mewn gweddïau o foliant ar gychwyn addoliad meddyliwn am natur Duw - Tad, Mab ac Ysbryd Glân

Mewn gweddïau o gyffes cawn gyfle i ystyried lle y bu i ni fethu a’r pethau na wnaethom.

Mewn gweddïau o ddiolchgarwch dathlwn yr hyn a wnaeth Duw drosom

Mewn gweddïau o eiriolaeth gofynnwn am gymorth i’n hunain ac eraill

Dietrich Bonhoeffer

Dywedodd Dietrich Bonhoeffer y dylem wrth weddïo gymryd ein harwain gan y Beibl, a gweddïo ar sail yr ysgrythur. Diogela hynny ein gweddïau rhag sawl gwendid all lithro iddynt fel arall. ‘Nid yw gweddi’ meddai ’ yn golygu dim mwy na pharodrwydd i dderbyn a meddiannu’r Gair’.Life Together, London, SCM, 1954, t.64

1. Darllenwch Ioan 1:1-5

Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod. Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef.

Yn awr ysgrifennwch weddi fer o foliant a chyffes.

43

Page 44: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 3.5 parhad2. Darllenwch Luc 4:16-21

Daeth i Nasareth, lle yr oedd wedi ei fagu. Yn ôl ei arfer aeth i’r synagog ar y dydd Saboth, a chododd i ddarllen. Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrôl a chael y man lle’r oedd yn ysgrifenedig:“Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f’eneinio i bregethu’r newydd da i dlodion. Y mae wedi f’anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig gerdded yn rhydd, i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.”

Wedi cau’r sgrôl a’i rhoi’n ôl i’r swyddog, fe eisteddodd; ac yr oedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno. A’i eiriau cyntaf wrthynt oedd: “Heddiw yn eich clyw chwi y mae’r Ysgrythur hon wedi ei chyflawni.”

Yn awr ysgrifennwch weddi fer o ddiolchgarwch ac eiriolaeth

44

Page 45: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Sesiwn 4: Gweddi mewn Addoliad

Nod 1. Ystyried pam y gweddïwn wrth addoli.2. Ystyried Gweddi’r Arglwydd fel patrwm i weddi.3. Archwilio strwythurau gwahanol ar gyfer gweddi.4. Ystyried ffyrdd gwahanol o weddïo.

20 Cyflwyniad Trafodwch Aseiniad 3 (AA 3.5) a pha mor hawdd neu ba mor anodd ydoedd cyflawni’r dasg.Gofynnwch iddynt mewn parau rannu eu gweddïai â’i gilydd.Defnyddiwch un weddi o foliant a chyffes ac un weddi o ddiolchgarwch ac eiriolaeth ar gyfer cychwyn y cyfarfod.Trafodwch ‘Pam yr ydym yn gweddïo wrth addoli?’

10 (30) Mewnbwn Mae i’r defnydd o weddi mewn addoliad hanes hir. Yn 1 Cronicl 29:10b-19 y mae’r brenin Dafydd yn arwain yr holl bobl mewn gweddi. Yn Actau 4:23-31 mae’r credinwyr yn moli Duw ynghyd wedi i Pedr ac Ioan gael eu rhyddhau. Gofynnodd y disgyblion i Iesu sut i weddïo a rhoddodd iddynt Weddi’r Arglwydd.Defnyddir Gweddi’r Arglwydd fel rhan o addoliad cyhoeddus ac fe gaiff ei chynnwys yn aml mewn gwasanaethau. Gall fod anfantais i hyn gan y caiff ei hadrodd yn yr un dull ac yn yr un lle mewn gwasanaethau’n gyson beri ein bod weithiau yn yngan y geiriau heb ystyried eu hystyr. Y manteision a ddaw o ddefnydd cyson yw: ei bod yn gyswllt di-dor â Christnogion pob cyfnod. rhydd gyfle i’r gynulleidfa gymryd rhan mewn gweddi atgoffa ni am hanfodion ein ffordd o fyw.

Rhennwch daflen AA 4.1 Gweddi’r Arglwydd a Gweddi o Gyffes ar Ddechrau Gwasanaeth

Y mae Derek Prime yn ei gyfrol ‘Practical Prayer’ London: Hodder and Stoughton, 1985, yn awgrymu fod yna chwe adran sylfaenol yng Ngweddi’r Arglwydd:1. consyrn am enw a gogoniant Duw2. consyrn am ddyfodiad ei deyrnas3. consyrn am wneud ewyllys Duw yn y byd4. consyrn am ein hanghenion ein hunain5. consyrn am yr angen am faddeuant6. consyrn am ein hangen o gymorth Duw

O fewn y fframwaith yma ceir patrwm addas ar gyfer amryw o weddïau eraill.

45

Page 46: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Dylai’r rhan fwyaf o weddïau gynnwys o leiaf rai o’r elfennau isod; moliant cyffes diolchgarwch eiriolaeth

10 (40) Tasg 1 Atebed pob un y cwestiynau ynghylch y weddi o gyffes ar ddechrau gwasanaeth (t.49).Trafodwch mewn parau.Dewch ynghyd i drafod gan roi sylw i’r pwyntiau a ganlyn; y defnydd o wrthgyferbyniad. y defnydd o batrwm. y defnydd o eiriau. y ffaith na cheir moliant fel y cyfryw ond yn y llinell gyntaf.

Gallai’r emyn cyntaf fod yn emyn o fawl. pwysleisiwch fod llunio gweddi yn ymwneud mwy â

barddoniaeth nag â rhyddiaith.

5 (45) Wrth ddefnyddio llyfrau gweddi hŷn mae’n bwysig sicrhau fod yr iaith yn gynhwysol. EEYn lle ‘dyn/dynion’ defnyddiwch ‘dynion a merched’ neu ‘merched a dynion’, ‘y teulu dynol’, ‘ y ddynoliaeth’.Yn lle ‘meibion’ defnyddiwch ‘plant/pobl’Yn lle ‘brodyr’ defnyddiwch ‘brodyr a chwiorydd’ neu ‘teulu’.

10 (55) Tasg 2 Rhannwch daflen AA 4.2 Iaith GynhwysolMewn parau ail ysgrifennwch y weddi ganlynol mewn iaith gynhwysol;

Dad Hollalluoga roddodd ei unig anedig Fabi farw ar y groeser mwyn ein hachub ni ddyniona glanhau dyn o bob pechodgad y dydd hwn i ddynion ym mhob man gael eu denu atofel ag i ddilyn yn gyson y llwybr i fywyd tragwyddol.

Trafodwch werth defnyddio iaith gynhwysol.

10 (65) Tasg 3 Wrth lunio gweddïau ein hunain mae’n bwysig ystyried sut i’w dechrau. Ceisiwch nodi ugain ffordd wahanol o gychwyn gweddi. EE Ein Tad...., O Dad..., Dad nefol...

46

Page 47: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

20 (85) Tasg 4 Gall y sawl sy’n arwain ddefnyddio unrhyw un o amryw ddulliau o weddïoDosbarthwch daflen AA4.3Trafodwch –

1. Pa rai o’r arddulliau hyn allech chi eu defnyddio yn eich gwasanaethau?

2. Sut y gellid defnyddio drama, cerdd a llun mewn gweddi?

5(90) Casgliad Dosbarthwch daflen AA 4.4 sef Aseiniad 4Dywedwch Weddi’r Arglwydd fel gweddi o ymbiliad.

47

Page 48: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 4.1

Gweddi’r Arglwydd

Y mae Derek Prime yn ei gyfrol ‘Practical Prayer’ London: Hodder and Stoughton, 1985, yn awgrymu fod yna chwe adran sylfaenol yng Ngweddi’r Arglwydd:

1. consyrn am enw a gogoniant Duw.2. consyrn am ddyfodiad ei deyrnas.3. consyrn am wneud ewyllys Duw yn y byd.4. consyrn am ein hanghenion ein hunain.5. consyrn am yr angen am faddeuant.6. consyrn am ein hangen am gymorth Duw.

O fewn y fframwaith yma ceir patrwm addas ar gyfer amryw o weddïau eraill. Dylai’r rhan fwyaf o weddïau gynnwys o leiaf rai o’r elfennau isod; moliant cyffes diolchgarwch eiriolaeth

48

Page 49: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 4.1

Gweddi o gyffes ar ddechrau gwasanaeth

Dduw tragwyddol ymhyfrydwn yn dy bresenoldeb gyda ni acheisiwn dy fendith.Caniatâ yn awr wrth i ni addolifod y galarus yn cael cysur,y sawl sydd yng ngafael temtasiwn yn cael nerth,y dryslyd ei feddwl yn cael goleuni ar gyfer y llwybr,yr amheuwr yn cael sicrwydd, yr unig yn cael cwmni,y pechadur yn cael maddeuanta phob calon anesmwyth yn cael llonyddwch ynot ti dy hun.

O Dduw maddau inni bopeth a ddifethodd fywyd ar ein haelwydydd;ein hunanoldeb, ein natur bigog,ein tuedd aml i gymryd ein tarfu,ein parodrwydd i gymryd cymaint o bethau’n ganiataol.

O Dduw maddau inni bopeth a ddifethodd fywyd yn y byd;yr adegau pan fu i ni siarad ac y dylasem fod wedi tewi,yr adegau pan fu i ni dewi ac y dylasem fod wedi siarad,yr adegau pan fu i ni ymddwyn yn unol â’r cwmni oedd gennym,yr adegau pan fu gywilydd gennym arddel ein perthynas â thydi,yr adegau pan fu i ni beri i eraill feddwl llai o’th eglwys.

Diolchwn i ti am dy holl amynedd a’th gariad tuag atom.

Amen.

1. Beth yr ydych yn ei hoffi am y weddi hon?

2. Beth nad ydych yn ei hoffi am y weddi hon?

49

Page 50: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA4.2

Iaith Gynhwysol

Wrth ddefnyddio llyfrau gweddi hŷn mae’n bwysig sicrhau fod yr iaith yn gynhwysol. EE

Yn lle ‘dyn/dynion’ defnyddiwch ‘dynion a merched’ neu ‘merched a dynion’, ‘y teulu dynol’, ‘ y ddynoliaeth’.Yn lle ‘meibion’ defnyddiwch ‘plant/pobl’.Yn lle ‘brodyr’ defnyddiwch ‘brodyr a chwiorydd’ neu ‘teulu’.

Mewn parau ail ysgrifennwch y weddi ganlynol mewn iaith gynhwysol;

Dad Hollalluoga roddodd ei unig anedig Fabi farw ar y groeser mwyn ein hachub ni ddyniona glanhau dyn o bob pechod,gad y dydd hwn i ddynion ym mhob man gael eu denu atofel ag i ddilyn yn gyson y llwybr i fywyd tragwyddol.

Trafodwch werth defnyddio iaith gynhwysol.

50

Page 51: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 4.3

Gweddi o foliant

Llais1 Fe gynheuaf olau yn enw’r Creawdwra oleuodd y bydac a roddodd anadl einioes ynof i.

goleuir cannwyll a’i gosod yn y canol.

Llais 2 Fe gyneuaf olauyn enw’r Maba waredodd y bydgan estyn ei law i mi.

goleuir cannwyll a’i gosod yn y canol

Llais 3 Fe gyneuaf olauyn enw’r Ysbrydsy’n amgylchynu’r bydac yn bendithio fy enaid â hiraeth.

goleuir cannwyll a’i gosod yn y canol

Pawb Fe gyneuwn dri golaui’r drindod o gariad:Duw uwch ein pen,Duw yn ein hymyl,Duw oddi tanom:y dechrau,y diwedd,yr un tragwyddol.Amen.

51

Page 52: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 4.3 Parhad

Gweddi o Gyffes

Cyffes

Dduw trugarog, Dduw cariad,cyffeswn ein pechodauâ chalonnau gwylaidd.

Bu i ni anghofio dy garu a’th wasanaethu digan grwydro o’th lwybrau.Yr ydym yn ddiofal o’th fyda bu i ni ei beryglu.Siaradwn am ein gofal o eraill,ond nid yw ein gweithredoedd yn adlewyrchu ein geiriau.

Distawrwydd

Arglwydd trugarha

Grist trugarha

Arglwydd trugarha

Distawrwydd

Dduw trugarog,maddau inni ein pechodaua dwg ni i fywyd tragwyddol,drwy Iesu Grist,dy Fab, ein Gwaredwr.Amen

52

Page 53: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 4.3

Arddulliau Gweddi

Fel y cawn amrywiaeth ym myd cerddoriaeth, felly hefyd disgwyliwn weld amrywiaeth yn arddull gweddi. Dyma rai arddulliau amlwg;

Gweddïau ymatebol: bydd un person neu amryw yn arwain, ac yna ar ôl pob gweddi fer bydd y gynulleidfa yn dweud neu ganu ymateb. EE un o siantiau Taize i gyfeiliant clarinét, gyda’r gynulleidfa gyfan yn canu, neu lais neu ddau.

Gweddïau a adroddir ynghyd: bydd pawb yn darllen yr un testun, ond gall fod rhannau gwahanol ar gyfer yr arweinydd, pobl yn gyffredinol, dynion, merched ac ati. Bydd yn rhaid i weddi fel hyn fod wedi ei hysgrifennu a’i llungopïo’n eglur. Gellir defnyddio gweddi a argraffwyd neu un y bu i chi ei llunio eich hunan. Os mai chi a luniodd y weddi dylech ymarfer ei dweud er mwyn sicrhau fod yr ymadroddion a’r rhythmau yn addas. Dylai brawddegau fod yn fyr, a dylai’r atalnodi roi cyfle i’r llefarwyr gael eu gwynt atynt.

Gweddïau o ddeisyfiad: sef ffurf o weddi agored nad yw’n hawlio fod pobl yn llunio ‘gweddïau’ ond yn hytrach yn disgrifio’r gofyn sydd yn eu calon. EE ‘A wnewch chi weddïo gyda mi dros ...’ neu ‘Gadewch i ni weddïo am ...’. Yn aml bydd y cais yn cael ei ddilyn gan ddistawrwydd er mwyn i bobl lunio eu gweddïau eu hunain, cyn i’r deisyfiad gael ei fynegi gan yr arweinydd ac i’r gynulleidfa ymateb â geiriau megis ‘Arglwydd, yn dy drugaredd gwrando ein gweddi’. Mewn grwpiau bach gellid gofyn i’r gynulleidfa am awgrymiadau.

Darn o’r Beibl: darllenir darn o’r Beibl yn araf gyda chyfle i fyfyrio rhwng pob adnod neu ymadrodd. Dewisir darn fydd yn creu darluniau yn y meddwl gan arwain i ryfeddod, edifeirwch, derbyniad a llawenydd. Gellir defnyddio sawl testun yn hytrach nag un darn. EE Darllen Salm 103 adran wrth adran tra bod cerddoriaeth Sebelius, ‘Finlandia’, i’w glywed yn dawel yn y cefndir.

Gweddi o’r frest: gweddïau llafar a gyflwynir heb lawer o baratoad a hynny yn eich geiriau eich hun. Ar ei gorau y maent yn fynegiant ardderchog o’r modd y mae rhywun yn teimlo ar y pryd. Ar eu gwaethaf nid ydynt ond rhes o ystrydebau. Ceisiwch eu gwneud mor debyg i iaith lafar pob dydd ag sy’n bosibl gan osgoi eu troi yn gyfres o ebychiadau sy’n arwain at ail-adrodd yr un geiriau.

Gweddïau ysgrifenedig: nid gweddi o’r frest wedi ei hysgrifennu allan mo gweddi ysgrifenedig. Gellir maddau iaith fwy blodeuog a gormodedd geiriau mewn gweddi o’r frest fel mewn sgwrs gyffredin, ond dylai gweddi ysgrifenedig fod yn fwy cynnil ac wedi ei llunio’n ofalus fel ag i ddweud yr hyn sydd angen ei fynegi a dim mwy. Dylech ddefnyddio gweddïau a argraffwyd a rhai o weddïau mawr y Ffydd, ond dylech hefyd geisio llunio gweddïau eich hun.

53

Page 54: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 4.4Aseiniad 4

1. Dewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

2. Mewn grŵp bach, paratowch addoliad hanner awr wedi ei sylfaenu ar un o’r setiau canlynol o ddarlleniadau. Cofiwch nad oes raid defnyddio’r holl ddarlleniadau.

Blwyddyn A Blwyddyn B Blwyddyn C

Josua 3: 7-17 Ruth 1: 1-18 Habacuc 1: 1-42: 1-4

Salm 107: 1-7 Salm 146 Salm 119: 137-144 33-37

1Thesaloniaid Hebreaid 9: 11-14 2 Thesaloniaid2: 9-13 1: 1-4

Mathew 23: 1-12 Marc 12: 28-34 2 Thesaloniaid 11-12

Luc 19: 1-10

Yn y darlleniadur nodir y rhain ar gyfer y Sul rhwng 30 Hydref a 5 Tachwedd.

54

Page 55: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Sesiwn 5: Cerddoriaeth mewn Addoliad

Nod 1. Ystyried gwerth cerddoriaeth mewn addoliad.2. Rhoi dealltwriaeth o’r traddodiadau cerddorol gwahanol parthed

emynau a chaneuon a ddefnyddir mewn addoliad heddiw.3. Creu ymwybyddiaeth o’r angen am gydbwysedd wrth ddewis

cerddoriaeth ar gyfer addoliad.

15. CyflwyniadGofynnwch i’r grŵp rannu â’i gilydd yr emyn, salm neu gân Gristnogol oedd yn arbennig o ystyrlon iddynt hwy (Aseiniad AA 4.4)Rhannwch daflen AA5.1 – Emynau a chaneuon1. Gofynnwch i unigolion i ba ddosbarth y mae eu dewis hwy’n perthyn

agosaf?2. Gofynnwch i unigolion pa ffactorau a nodwyd effeithiodd fwyaf ar eu

dewis?

10 (25) Tasg 1Trafodwch mewn grwpiau o bedwar pam y tybiwch fod cerddoriaeth yn bwysig mewn addoliad?Dewch at eich gilydd i rannu’r sylwadau.Pwysleisiwch y canlynol; bu cerddoriaeth yn rhan greiddiol o addoliad o gyfnod yr Hen

Destament. Gyda datblygiadau yn nulliau cyfansoddi cerddoriaeth dros y canrifoedd datblygodd cerddoriaeth yr Eglwys hefyd.

gall cerddoriaeth greu awyrgylch yr addoliad. gall cerddoriaeth ein hatgyfnerthu a’n hysbrydoli. mae cerddoriaeth yn ddull o fynegi ein teimladau. mae canu emynau yn gymorth i gofio’r geiriau. gall canu emynau gynnwys pawb yn y gweithgarwch. gall defnyddio tri nodyn mewn cord cerddorol efallai fynegi ystyr y

Drindod yn fwy effeithiol na geiriau.

15 (40) Tasg 2Rhannwch rai enghreifftiau ar dâp o fathau gwahanol o gerddoriaeth eglwysig a chynhwyswch hefyd ddarn nad yw’n perthyn i’r traddodiad hwnnw (e.e. cân bop, darn offerynnol). Trafodwch sut, os o gwbl, y gellid eu defnyddio mewn addoliad.Pwysleisiwch; werth cerddoriaeth fyw (nid yr organ yn unig) yr angen i wrando’n ofalus ar ddarn o gerddoriaeth wedi ei recordio

er mwyn dewis adran addas.

55

Page 56: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

y gall cerddoriaeth nad yw’n perthyn i’r traddodiad eglwysig, megis cerddoriaeth o fyd y ffilmiau, greu delweddau anaddas.

Dywedodd William Booth, sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth; ‘Mae cerddoriaeth i’r enaid fel gwynt i long yn ei chwythu ymlaen i’r cyfeiriad y caiff ei llywio. Ddim yn cael canu’r dôn hon neu’r llall yn wir! Ydych chi’n dweud fod cerddoriaeth seciwlar yn eiddo’r diafol? Os felly, byddwn yn ei ddwyn oddi arno … Mae pob pwyslais a harmoni yn ddwyfol ac yn eiddo i ni.’

20 (60) MewnbwnRhannwch daflen AA 5.2 Cwestiynau i‘w hystyried wrth ddewis cerddoriaeth.Trafodwch hyn mewn parau gan nodi unrhyw beth diddorol ac adrodd yn ôl i’r grŵp cyfan.Rhaid i’r sawl sy’n arwain addoliad fod yn wrandäwr da. Gall gwybod beth sy’n achos gofid yn yr eglwys a’r gymuned fod yn berthnasol i gynnwys y gweddïau a’r dewis o gerddoriaeth. Ystyriwch;

Lle bydd yr arweinydd a’r gynulleidfa’n eistedd? Efallai y gellir symud y seddau yn ôl yr angen.

Pa fath o awyrgylch yr ydych am greu cyn i’r gwasanaeth ddechrau? Dewiswch gerddoriaeth addas, unai cerddoriaeth a recordiwyd neu gerddoriaeth fyw, seciwlar neu gysegredig.

CofiwchEi bod yn well dwyn darn o gerddoriaeth a recordiwyd i ben drwy droi'r sŵn i lawr yn hytrach na rhoi’r peiriant i ffwrdd yn ddisymwth.Gwnewch yn siŵr fod pawb yn clywed y gerddoriaeth - gall beth sy’n ymddangos yn uchel iawn i chi swnio’n dawel i’r gynulleidfa.

Pa fath o gyfeilio fydd i’r emynau? A fydd cyfeilio o gwbl? A yw’r dewis o gerddoriaeth/emynau yn cynrychioli mwy nag un

traddodiad? Ceisiwch osgoi defnyddio un traddodiad yn unig. A yw’r iaith yn gynhwysol? A ellid defnyddio cân neu emyn yn lle gweddi lafar? Beth yw diben y gerddoriaeth? A ddylai hybu myfyrdod, helpu

pobl i ymlonyddu neu eu cymell i weithredu? Oes angen canu pob pennill o emyn? Dywedwch wrth bobl

ddwywaith os ydych am hepgor penillion. A ellir defnyddio lleisiau gwahanol? EE

Unawdydd ar gyfer y penillion a’r gynulleidfa ar gyfer y cytgan.Grŵp yn canu a’r gynulleidfa yn hymian y dôn.Rhannu’r emyn rhwng dwy adran o’r gynulleidfa a chanu rhai penillion ynghyd.

A ellir defnyddio cân fel rhan o weddi? E.e. drwy osod geiriau rhwng y penillion?

A fydd o fudd dweud wrth y gynulleidfa sut y cyfansoddwyd emyn arbennig?

A yw deddf hawlfraint yn berthnasol i’r eitem?

56

Page 57: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

5 (65) Tasg 3Rhannwch daflen AA 5.3 y Rheolau EuraidHolwch a yw John Bell, awdur y rheolau, yn iawn?

25 (90) Tasg 4Rhannwch daflen AA5.4 Geiriau a CherddoriaethMewn pedwarawdau gofynnwch i’r grŵp weithio ar ‘O Dduw clyw fy nghri’ (Caneuon Ffydd 799)Rhannwch y Daflen Werthuso AA5.5 i’w chwblhau erbyn y tro nesaf.

I gloiDefnyddiwch y geiriau a’r gerddoriaeth mewn addoliad ar y diwedd a myfyriwch ar y profiad.

Nodiadau ar gyfer y cyd-destun Cymraeg.Ni ellir gwadu fod canu mewn cynghanedd yn rhan bwysig o’n haddoliad fel Cymry. Un feirniadaeth a geir o emynau mwy cyfoes eu naws yw bod colli’r harmonïau yn difetha’r ‘canu’. Tra bod diogelu’n traddodiad cerddorol yn bwysig, rhaid gofyn a yw ar adegau’n amharu ar berthnasedd ein haddoliad wrth i nifer o bobl ifanc a hŷn fynegi fod cytganau ac emynau cyfoes hefyd yn fodd o ddyfnhau addoliad. Mae’n bwysig ein bod yn ymwybodol fod gwahanol arddulliau yn cyffwrdd â gwahanol bobl. Dengys hyn bwysigrwydd cynnwys gwahanol arddulliau o ganu yn ein haddoliad. Cofier hefyd, er nad oes llinellau harmoni wedi eu gosod allan mewn cytganau bob tro, mae harmonïau naturiol yn rhan o’r alawon a gellir canu rhan alto neu ddesgant yn naturiol iawn.

Gall cyflwyno emynau/caneuon newydd i gynulleidfa fod yn anodd. Dywedodd rhywun fod yn rhaid i berson ganu neu glywed can newydd o leiaf 5 gwaith cyn dechrau ei hadnabod a’i hoffi. Dengys hyn bwysigrwydd canu emyn newydd yn aml ar y cychwyn er mwyn iddo dreiddio i isymwybod y gynulleidfa.Ni ddylem fod ofn rhoi cynnig ar emynau newydd ac anghyfarwydd gan gofio i ‘Cwm Rhondda’ fod yn anghyfarwydd unwaith!

Defnyddio offerynnauMae’r defnydd o offerynnau (ar wahân i’r organ) yn dod a dimensiwn newydd a gwahanol i addoliad. Nid oes raid cael cerddorfa lawn. Gall rhywbeth mor syml â gitâr fas a ffliwt ychwanegu llawer. Mae defnyddio drymiau gydag emynau bywiog hefyd yn gallu annog a chynnal y canu. Gall hyn hefyd fod yn ffordd o annog mwy o bobl i fod yn rhan o’r addoliad.

57

Page 58: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 5.1

Emynau a chaneuon

Ceir emynau a chaneuon amryw o draddodiadau cerddorol gwahanol yn cael eu defnyddio mewn addoliad heddiw.

Ymysg y traddodiadau hyn y mae

Emynau traddodiadol o ‘lyfrau emynau’

Emynau diwygiadolEE ‘O’r fath newid rhyfeddol a waned ynof fi’ (CFf 797)

‘ Sicrwydd bendigaid! Iesu yn rhan’ (CFf 396)

Emynau modern yn tarddu o adnewyddiad litwrgaiddEE ‘Arglwydd y Ddawns’

‘O f’enaid, cân, mawrha yr Arglwydd Dduw (C Ff 433)

Cytganau ac emynau o’r adfywiad carismataiddEE ‘Dad, dy gariad yn glir ddisgleiria’ (CFf 228)

‘Distewch, cans mae presenoldeb Crist …’ (C Ff 600)

Emynau o wledydd a thraddodiadau gwahanol EE Kwmbayah

Sanctaidd, Sanctaidd (227 C.FF) Mae Cymuned Iona wedi cyhoeddi nifer emynau o Affrica, Asia ayyb

Cerddoriaeth Taize EE ‘O Dduw clyw fy nghri’ (CFF 799)

‘Ubi Caritas’

Cerddoriaeth Iona (alawon gwerin Albanaidd gyda geiriau newydd)EE ‘A ddoi di i’m dilyni’ (CFf 801)

‘Mae Iesu Grist yn aros’ (CFf 870)

Emynau gwerin ‘Ar ŵyl y cynhaeaf rhown ddiolch i’r Iôr’ (CFf 160)

Beth sy’n gwneud emynau a chaneuon yn boblogaidd?

Ymddengys fod tair factor yn uno i wneud emynau a thonau’n boblogaidd;

58

Page 59: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

1. Y Dôn - yn aml y dôn sy’n apelio. Bydd emyn newydd yn fwy tebygol o lwyddo os gellir ei briodi â thôn boblogaidd. Dywedir yn aml, os nad yw pum nodyn cyntaf tôn un gafael ni fydd pobl yn ei hoffi (EE ‘Crist a orchfygodd’ Macabeus CFf 562) Mae chwaeth gerddorol yn amrywio - tuedda cynulleidfaoedd hoffi tonau newydd y gallant eu dysgu’n hawdd.

2. Y geiriau - ychydig iawn o emynau sydd â llinellau agoriadol egwan sy’n boblogaidd. Pan mae pobl yn dewis emynau ar gyfer achlysuron arbennig y llinell gyntaf yn aml iawn a ddefnyddir ganddynt i ganfod thema’r emyn.

3. Y cysylltiadau emosiynol - Mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi emynau y meant yn eu cysylltu â phrofiadau da o’r gorffennol. Os oes gennym atgofion melys o’r ysgol Sul byddwn yn hoffi’r emynau y bu i ni eu dysgu yno. Os bydd emyn arbennig â chysylltiad â pherson yr ydym yn ei garu neu ddigwyddiad arbennig, bydd yn ystyrlon inni.

59

Page 60: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 5.2Materion i’w hystyried wrth ddewis cerddoriaeth

Rhaid i’r sawl sy’n arwain addoliad fod yn wrandäwr da. Gall gwybod beth sy’n achos gofid yn yr eglwys a’r gymuned fod yn berthnasol i gynnwys y gweddïau a’r dewis o gerddoriaeth.

Ystyriwch:

Lle bydd yr arweinydd a’r gynulleidfa’n eistedd? Efallai y gellir symud y seddau yn ôl yr angen.

Pa fath o awyrgylch yr ydych am greu cyn i’r gwasanaeth ddechrau? Dewiswch gerddoriaeth addas, unai cerddoriaeth a recordiwyd neu gerddoriaeth fyw, seciwlar neu gysegredig.

CofiwchEi bod yn well dwyn darn o gerddoriaeth a recordiwyd i ben drwy droi'r sŵn i lawr yn hytrach na rhoi’r peiriant i ffwrdd yn ddisymwth.Gwnewch yn siŵr fod pawb yn clywed y gerddoriaeth - gall beth sy’n ymddangos yn uchel iawn i chi swnio’n dawel i’r gynulleidfa.

Pa fath o gyfeilio fydd i’r emynau? A fydd cyfeilio o gwbl? A yw’r dewis o gerddoriaeth/emynau yn cynrychioli mwy nag un

traddodiad? Ceisiwch osgoi defnyddio un traddodiad yn unig. A yw’r iaith yn gynhwysol? A ellid defnyddio cân neu emyn yn lle gweddi lafar? Beth yw diben y gerddoriaeth? A ddylai hybu myfyrdod, helpu

pobl i ymlonyddu neu eu cymell i weithredu? Oes angen canu pob pennill o emyn? Dywedwch wrth bobl

ddwywaith os ydych am hepgor penillion. A ellid defnyddio lleisiau gwahanol? EE

Unawdydd ar gyfer y penillion a’r gynulleidfa ar gyfer y cytgan.Grŵp yn canu a’r gynulleidfa yn hymian y dôn.Rhannu’r emyn rhwng dwy adran o’r gynulleidfa a chanu rhai penillion ynghyd.

A ellid defnyddio cân fel rhan o weddi? EE drwy osod geiriau rhwng y penillion?

A fyddai o fudd dweud wrth y gynulleidfa sut y cyfansoddwyd emyn arbennig?

A yw deddf hawlfraint yn berthnasol i’r eitem?

60

Page 61: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 5.3

Y Deg Rheol Aurar gyfer galluogi’r person mwyaf dihyder i ddysgu caneuon newydd i’r gynulleidfa fwyaf sinigaidd!

1. Credwch yn y llais a roddwyd i chi gan Dduw – llais prentis o angel ydyw!

2. Credwch yn y lleisiau a roddodd Duw i bobl eraill. Gall eich hyder chi yng ngallu eraill i ganu ddileu dylanwad blynyddoedd o glywed rhai’n dweud wrthynt na allant ganu yn ogystal a’u dylanwad yn dweud hynny wrthynt eu hunain.

3. Peidiwch a dysgu ond caneuon neu alawon y bu i chwi eich hun eu canu yn y bath neu yn eich gwely.Os nad ydych yn hyderus ynghylch cân arbennig bydd y rhai yr ydych yn ceisio eu dysgu’n sylweddoli hynny’n syth.

4. Dysgwch ganeuon newydd yn unig pan fo’r amser yn addas – sef bron byth yn ystod oedfa, nac hyd yn oed ar ddechrau gwasanaeth wedi i’r organ ddistewi.Yr amser gorau yw cyn i ddim byd ddigwydd, tra mae pobl yn ymlonyddu . Os dysgant gân newydd bryd hynny byddant yn ei hadnabod fel hen ffrind pan ddeuant i’w chanu yn ddiweddarach yn ystod y gwasanaeth. Peidiwch byth a tharfu ar y gynulleidfa drwy ddysgu iddynt gân newydd yn union cyn y bwriedwch ei defnyddio.

5. Cyflwynwch ganeuon newydd bob amser gyda brwdfrydedd ac nid gydag ymddiheuriad. Mae datgan wrth grŵp o bobl fod yn rhaid iddynt ddysgu cân newydd gan ychwanegu y cânt efallai afael ar y dôn yn gwbl amhriodol.

6. Defnyddiwch ond eich llais a’ch dwylo’n unig i ddysgu tôn newydd. Mae’n haws gan bobl efelychu llais rhywun arall na gitâr deuddeg llinyn, organ neu biano. Byddant hefyd yn dirnad traw a rhythm yn well pan arwyddir hwy yn yr awyr na phan genir hwy yn unig.

7. Defnyddiwch eich llais naturiol wrth ddysgu eraill a chanwch fymryn salach na’ch gorau. Cofiwch mai’r nod yw cael pobl i’ch efelychu yn hytrach na chymryd eu diddanu neu eu bygwth gan alluoedd lleisiol cyw o ganwr opera rhyngwladol.

8. Rhoddwch wybod i bobl am strwythur tôn cyn ei dysgu, yna dysgwch hi mewn darnau hawdd eu hadnabod.

EE os yw llinellau 1,2 a 4 yr un fath (fel ag a welir yn aml mewn caneuon gwerin) dywedwch hynny. Yna ni fydd yn rhaid i chi ond dysgu dwy linell - y gyntaf (a ailadroddir yn ddiweddarach) a’r drydedd.

61

Page 62: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Os oes cytgan yn perthyn i’r dôn mynegwch hynny. Yna dysgwch y cytgan, ac wedi i bawb ei dysgu canwch chi’r dôn a gadewch iddynt hwythau ganu’r cytgan, fel eu bod yn dysgu tôn y penillion ar yr un pryd.OndOs yw’r dôn yn esgyn yn weddol uchel peidiwch a dychryn pobl drwy wneud ystum anhyfryd cyn cyrraedd y nodyn uchaf. Dygwch hi i lawr a chodwch y traw wedi i bobl arfer â hi.

9. Wrth arddangosa. Canwch bennill neu bennill a chytgan yn gyntaf.b. Dysgwch fesul anadliad neu ddwy linell ar y tro, pa un bynnag sydd

fyrraf.c. Peidiwch a dysgu ymadrodd newydd hyd nes fod yr un presennol yn

amlwgd. Cannwch y dôn i ‘la’ os ymddengys na ellir cael y dôn a’r geiriau ynghyd

y tro cyntaf.dd.Wedi dysgu’r gân cannwch hi drwyddi gan ofyn i bobl wrando a chywiro

yn eu meddyliau eu hunain unrhyw gamgymeriadau y byddent yn debygol o’u gwneud.

e. gofynnwch i bawb ganu’r un pennill efo’i gilydd ,os yw’n bennill hir, neu’r pennill nesaf os yw’n bennill byr.

f. diolchwch ac anogwch y rhai yr ydych yn eu dysgu.

10.Wrth ddefnyddio’r gân a ddysgwyd mewn addoliad ceisiwch osgoi cael pawb yn canu drwy’r amser.Unai gofynnwch i unawdydd ganu’r pennill cyntaf - bydd hyn yn atgoffa pawb o’r dôn - neu gofynnwch i’r unawdydd neu grŵp bach o gantorion i ganu’r penillion a phawb arall i ymuno yn y cytgan, neu gofynnwch i adrannau gwahanol o’r gynulleidfa - naill ochr a llall yr eglwys, neu wŷr a gwragedd - ganu’r penillion bob yn ail.

Sicrhewch fod y traw yn gywir drwy ddefnyddio fforch draw neu recorder.

I gychwyn canwch y llinell gyntaf i ‘la’. I gael pobl i ganu’n dda eisteddwch yn eu mysg fel pe bai gofyn iddynt hwy arwain y gynulleidfa, ystyriwch eu gosod nid o flaen pawb ond ymysg neu y tu ôl i bobl eraill.I gael y gorau o ganeuon newydd peidiwch a dysgu gormod ohonynt ar yr un pryd.

John L. Bell: Graham MaudeIona Community Wild Goose Songs Cyf. 1, tt. 140 – 141

62

Page 63: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Geiriau a Cherddoriaeth AA5.4

Agor di ein llygaid, Arglwydd

Agor di ein llygaid, Arglwyddi weld angen mawr y byd,

gweld y gofyn sy’n ein hymyl,gweld y dioddef draw o hyd:

maddau inni bob dallinebsydd yn rhwystro grym dy ras,a’r anghofrwydd sy’n ein llethuwrth fwynhau ein bywyd bras.

Agor di ein meddwl, Arglwydd,er mwyn dirnad beth sy’n bod,

gweld beth sy’n achosi cynia gofidiau sydd i ddod;

dysg ni dderbyn cyfrifoldebam ein rhan os ŷm ar fai,

maddau inni os anghofiwngyflwr yr anghenus rai.

Agor di ein calon, Arglwydd,a gwna ni yn gyson-hael,

O perffeithia ein trefniadaufel y llwyddont yn ddi-ffael:rhown yn awr eich diolch itiam y rhoddion ddaw o hyd;dan dy fendith daw haelioni

a llawenydd i’r holl fyd.

W Rhys Nicholas, 1914-96 ( CFf 841)

Lluniwch ddwy weddi fer o eiriolaeth y gellid eu hadrodd ar ôl y pennill cyntaf a’r ail.

63

Page 64: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Sut y byddech yn cyflwyno’r eitem hon o addoliad yn eglur i’r gynulleidfa?

64

Page 65: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

O Dduw, clyw fy nghri,O Dduw, clyw fy nghri,

Galw ‘rwyf, ateb fi:O Dduw, clyw fy nghri,O Dduw, clyw fy nghri,Tyred, erglyw fy llef.

CYMUNED TAIZÉ cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996(CFf 799)

Lluniwch ddwy weddi fer o eiriolaeth y gellid eu hadrodd ar ôl canu’r gân yma y tro cyntaf a’r ail waith.

Sut y byddech yn cyflwyno’r eitem hon o addoliad yn eglur i’r gynulleidfa?

65

Page 66: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 5.5

Lleoliad …………………………… Dyddiad ……………………….

TAFLEN WERTHUSO

Rhowch gylch fel bo’n addas ac ychwanegwch sylwadau. Diolch.

1 Heb fod o Gymorth 4 O Gymorth Mawr

Sesiwn 1: Pwrpas Addoliad

Cynnwys 1 2 3 4

Taflenni 1 2 3 4

Sylw 1 2 3 4

Sesiwn 2: Y Beibl mewn addoliad

Cynnwys 1 2 3 4

Tafleni 1 2 3 4

Sylw 1 2 3 4

Sesiwn 3: Gweithdy Sgiliau Cyflwyno

Cynnwys 1 2 3 4

Tafleni 1 2 3 4

Sylw 1 2 3 4

66

Page 67: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Sesiwn 4: Gweddi ac Addoliad

Cynnwys 1 2 3 4

Tafleni 1 2 3 4

Sylw 1 2 3 4

Sesiwn 5: Cerdd ac Addoliad

Cynnwys 1 2 3 4

Tafleni 1 2 3 4

Sylw 1 2 3 4

Sesiwn 6: Rhoi’r cyfan ynghyd

Cynnwys 1 2 3 4

Tafleni 1 2 3 4

Sylw 1 2 3 4

Sylwadau Cyffredinol (e.e. amseru, cynnwys yn gyffredinol, adnoddau, taflenni, llyfrgell, aseiniadau)

67

Page 68: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

bu cerddoriaeth yn rhan greiddiol o addoliad o gyfnod yr Hen Destament.

gall cerddoriaeth greu awyrgylch yr addoliad.

gall cerddoriaeth ein hatgyfnerthu a’n hysbrydoli.

mae cerddoriaeth yn ddull o fynegi ein teimladau.

mae canu emynau yn gymorth i gofio’r geiriau.

gall canu emynau gynnwys pawb yn y gweithgarwch.

gall defnyddio tri nodyn mewn cord cerddorol efallai fynegi ystyr y Drindod yn fwy effeithiol na geiriau.

68

Page 69: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Sesiwn 6: Rhoi’r cyfan ynghyd

Nod 1. Trafod cynnwys y gwasanaethau a baratowyd3. Trafod pam y dewiswyd gwahanol eitemau4. Ystyried y broses o weithio ynghyd ar yr aseiniadau5. Nodi anghenion hyfforddiant pellach

5 Cyflwyniad Rhannwch y taflenniClwb hunan hyder isel – nid yn eich eglwys chi!Wyth nod addoliad – crybwyllwch y rhai a ystyriwyd fwyaf pwysig.Y dyfyniad gan Will Storrar – elfennau addoliad.Yr Archesgob William Temple - pwysleisio pa mor hollgynhwysol yw addoliad.

60 (65) Tasg 1 Gwahoddwch y grwpiau i gyflwyno i’r gweddill y ‘trefn gwasanaeth’ y bu iddynt ei ddarparu ar gyfer aseiniad 4 (AA 4.5)Holwch am y meddwl y tu ôl i’w harddull a’u cynnwys.Ceisiwch ddarganfod sut y bu iddynt ddewis a threfnu - mae dau gant o eiriau ysgrifenedig fel arfer yn cymryd tua thri munud i’w llefaru!Gwahoddwch bawb i roi sylwadau adeiladol.

5 (70) Tasg 2 Rhannwch daflen AA 6.1 – Rhestr wirio addoliadRhowch gyfle i bawb ei darllen a gofynnwch a fyddai o gymorth wrth baratoi a gwerthuso addoliad.Pwysleisiwch y canlynol: Wrth baratoi gwasanaeth y mae’n anodd iawn cofio popeth a

ddysgwyd. Gall dibynnu ar reddf neu deimlad fod yn gamarweiniol. Nid rheolau pendant mo’r cwestiynau. Daw dilyn y canllawiau’n ailnatur mewn dim. Cofiwch atgoffa’ch hunan o’r canllawiau nawr ag yn y man –

hawdd iawn yw llithro i arferion drwg!

5 (75) Tasg 3 Rhannwch daflen 6.2 - Trefn gwasanaeth boreolHolwch pa mor ddefnyddiol fyddai’r patrwm hwn ar gyfer cynulleidfa? Nodwch nad yw’n cynnwys pregeth na chasgliad.

5 (80) Tasg 4 Gofynnwch i’r grŵp drafod beth oedd manteision ac anfanteision paratoi gwasanaethau mewn grwpiau bach?

10 (90) Casgliad Rhannwch daflen AA 6.3 Fi yn arwain addoliadGofynnwch i bawb roi tic yn y blwch sy’n mynegi orau yr hyn y maent yn ei deimlo am arwain addoliad.Holwch: Pa gymorth arbennig yr ydych ei angen wrth gychwyn arwain addoliad yn eich cynulleidfa leol?

69

Page 70: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Diweddwch drwy ganu ‘I Dad y trugareddau i gyd’ (CFf 15) neu rywbeth tebyg.

70

Page 71: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 6.1

Rhestr wirio ar gyfer addoliad

1. Paratoi A wyf wedi treulio amser mewn gweddi a myfyrdod fel rhan o’m paratoi? A wyf wedi ceisio darganfod beth allai fod ar feddwl y gynulleidfa a rhoi

ystyriaeth i hynny? A wyf wedi ystyried beth ddylwn ei wisgo? A wyf wedi holi fy hun beth fyddai fy ymateb fel gwrandäwr yn y gwasanaeth

hwn? A wyf wedi nodi pryd ag yn lle y defnyddir y gwasanaeth yma fel ag i osgoi ei

ail-adrodd yno yn y dyfodol?

2. Strwythur A allaf grynhoi thema’r gwasanaeth mewn brawddeg? A oes yma strwythur cydlynol fydd yn help i bobl gofio’r thema? A yw’r darlleniadau a’r emynau’n adlewyrchu’r thema? A wyf wedi defnyddio eglurebau a darluniau go iawn i amlygu’r thema? A wyf wedi defnyddio drama/stori/cerddoriaeth/gwrthrychau i amlygu’r thema?

3. Wrth arwain A fu i mi eistedd neu sefyll yn y lle gorau i arwain yn effeithiol? A oeddwn yn ymwybodol o siarad yn arafach ac yn eglurach nag mewn sgwrs

bod dydd? A fu i mi er hynny lwyddo i siarad yn naturiol heb swnio’n bregethwrol ac

undonog? A oeddwn yn teimlo’n ddigon rhydd i ddefnyddio amnaid ac ystum mewn ffyrdd

addas? A fu i mi wneud defnydd effeithiol o hiwmor? A fu i mi ddal llygaid aelodau’r gynulleidfa?

4. Darlleniadau Beiblaidd A wyf wedi gosod y darlleniadau yn eu cyd-destun? A ydynt o’r hyd cywir i beidio bod yn ddiflas? A wyf wedi defnyddio fersiwn addas o’r Beibl? A wyf wedi ystyried sut y caiff ei ddarllen a chan bwy? A fu i’r darlleniad gael ei gyflwyno gyda theimlad a dealltwriaeth? A ddiweddwyd y darlleniad mewn modd addas?

5. Gweddïau A fu i mi gynnwys moliant a chyffes ac eiriolaeth/ymbil a diolchgarwch? A fu i mi ddefnyddio iaith gynhwysol? A roddais sylw i’r byd yn ogystal â’r Eglwys? A fu i mi roi lle i weddi ddistaw? A fu i mi ystyried arddulliau gwahanol o weddi?

71

Page 72: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

6. Emynau A roddais sylw i’r cyfeilio? A ddewisais emynau sy’n cyflawni’r gofyn yn y mannau hynny yn y gwasanaeth

lle y cawsant eu gosod? A fu i mi ddewis emynau gydag amrywiaeth o arddulliau cerddorol? A oes lle ar gyfer cyflwyniad i ambell emyn? A fydd y gynulleidfa’n gallu canu’r emynau a ddewiswyd? A genir y penillion i gyd ac a fydd pawb yn canu pob pennill? Beth am y dewis o gerddoriaeth cyn ac yn ystod y gwasanaeth? A fyddai’n werth dysgu emyn/cân newydd?

7. Unrhyw beth arall?

72

Page 73: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 6.2

Trefn ar gyfer gwasanaeth boreol

1. Galwad i addoli“Deffro, di sydd yn cysgu,a chod oddi wrth y meirw,ac fe dywynna Crist arnat.” Effesiaid 5:14

2. Gweddi Agoriadol

O Dduw y Goleuni Tragwyddol, goleua ni;y Grym Tragwyddol, nertha ni;y Ddoethineb Dragwyddol, dysg ni;y Tosturi Tragwyddol, trugarha wrthym;a chaniatâ inni â’n holl galon ac â’n holl feddwlgeisio dy wyneb di,a charu dy enw di,trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen

Alcwin yn E ap Nefydd Roberts, Amser i Dduw, Aberystwyth, 2004, t.28.

3. Emyn o fawl

O cenwch fawl i’r Arglwydd,y ddaear fawr i gyd,

ac am ei iachawdwriaethmoliennwch ef o hyd;

mynegwch ei ogoniant,tra dyrchafedig yw;

mae’n ben goruwch y duwiau,mae’n Arglwydd dynol-ryw.

Rhowch iddo aberth moliant,ymgrymwch ger ei fron;

yn brydferth mewn sancteiddrwyddmoliennwch ef yn llon;

ac ofned pob creaduryr hwn sy’n dal y byd;

ymlawenhaed y nefoedda’r ddaear ynddo ‘nghyd.

Robert Jones, 1807 – 96 (CFf 24)

4. Salm – i’w darllen neu ei chanu

5. Darlleniadau o’r ysgrythur

73

Page 74: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

6. Distawrwydd

7. Emyn o ddeisyfiad

Wel dyma hyfryd fan i droi at Dduw,lle gall credadun gwan gael nerth i fyw:fry yn dy orsedd di’rŷm yn dyrchafu’n cri;O edrych arnom ni, a’n gweddi clyw!

Ddiddanydd Eglwys Dduw, ti Ysbryd Glân,sy’n llanw’r galon friw â mawl a chân,O disgyn yma nawryn nerth dy allu mawr;o’r nefoedd tyrd i lawr

mewn dwyfol dân.

Iachawdwr mawr y byd, bywha dy waith;a galw’r saint ynghyd drwy’r ddaear faith;mae’n calon yn llesgáu,O tyred i’n bywhau,i’n harwain a’n cryfhau ar hyd y daith.

F. J. van Alstyne, 1820 -1915efelychiad Watcyn Wyn, 1844 -1905 (CFf 36)

8. Y Gyffes Fer o’n FfyddCredwn yn Nuw Dad Hollalluog,creawdwr a llywodraethwr pob peth.

Credwn yn Iesu Grist,ei uniganedig Fab,ein Harglwydd a’n Gwaredwr.Trwy ei fywyd,ei farwolaeth ar y groes a’i atgyfodiad,gorchfygodd bechod ac angau,gan faddau i ni ein pechodau,a’n cymodi â Duw.

74

Page 75: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Credwn yn yr Ysbryd Glân.Trwyddo ef y mae Crist yn preswylio yn y credinwyr,gan eu sancteiddio yn y gwirionedd.

Credwn yn yr Eglwys,corff Crist a chymdeithas y saint;yn yr Ysgrythurau Sanctaidd,yng ngweinidogaeth y Gair a’r Sacramentau.

Credwn yn nyfodiad teyrnas Dduw,ac yng ngobaith gwynfydedig y bywyd tragwyddol,trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

Credwn mai diben pennaf dynyw gogoneddu Duw,a’i fwynhau byth ac yn dragywydd.

9. Gweddi o ddiolchgarwch ac eiriolaeth a Gweddi’r Arglwydd

10.Gweddi cyn ymadaelO Dduw, ein Tad, danfon ni oddi yma,gyda chysuron y ffydd yn ein clustiau,goleuni d’obaith yn ein llygaid,a thân dy gariad yn ein calon.Danfon ni oddi yma yn ymwybodol o gwmni’r cwmwl anweledig o dystion,ac yn sicr o gymdeithas ein Harglwydd bendigedig.

Nid oes bellach fwy i’w ddweud,ond mae llawer i’w wneud.Felly, yn enw Iesu Grist, ein Harglwydd, awn allan i weithio.

Llyfr Gwasanaethau Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Gwasg Pantycelyn, Caernarfon, 199, t. 29

11.Y FendithGras ein Harglwydd Iesu Grist,a chariad Duw,a chymdeithas yr Ysbryd Glân,a fyddo gyda ni oll. Amen

75

Page 76: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

AA 6.3Fi yn arwain addoliad

Arwain Addoliad

Ti

Rhowch √ yn y blwch sy’n cynrychioli orau y modd yr ydych chi’n teimlo am arwain addoliad.

76

Page 77: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Llun

Nid ydym ni yn gallugwneud unrhyw beth...

YClwbdiffyghyder

77

Page 78: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Beth geisiwn ei wneud wrth addoli?

Darparu achlysur i ddathlu’r ffydd

Helpu addolwyr i ail drydanu’r batri

Cadarnha’r ymdeimlad o gymdeithas yn yr Eglwys

Offrymu clod ac addoliad i Dduw

Gweddïo dros y byd

Offrymu’n bywydau i wasanaethu Dduw

Ail-adrodd hanes yr hyn a wnaeth Duw drosom

Gwrando ar Dduw78

Page 79: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

79

Page 80: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Yn y traddodiad Diwygiedig o addoli ceir symudiad triphlyg sef dynesu, gwrando ac

ymateb i Dduw

Deuwn o flaen Duw yn rhai a grëwyd ar ei ddelw gan ei foliannu a mynegi ein

diolchgarwch iddo.

Deuwn o flaen Duw fel rhai a anharddodd y ddelw, gan gyffesu a cheisio ei

faddeuant.

Yna fe glywn Air Duw, gaiff ei ddatguddio yn yr Ysgrythur ac a fynegir ym

mhregethiad yr Efengyl

Ac yna fe ymatebwn i Grist yn sacramentau ei farw a’i atgyfodiad a chan eiriol am ei gyffyrddiad iachusol a dyfodiad

ei deyrnas.

William Storrar

80

Page 81: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Beth sy’n gwneud emynau a chaneuon yn boblogaidd?

Ymddengys fod tair factor yn uno i wneud emynau a thonau’n boblogaidd;

Y Dôn – Dywedir, os nad yw pum nodyn cyntaf tôn yn gafael ni fydd pobl yn ei hoffi.

Bydd emyn newydd yn fwy tebygol o lwyddo os gellir ei briodi â thôn boblogaidd

Y GeiriauYchydig iawn o emynau poblogaidd sydd â llinellau agoriadol egwan.

Pan mae pobl yn dewis emynau ar gyfer achlysuron arbennig y llinell gyntaf yn aml iawn a ddefnyddir ganddynt i ddirnad thema’r emyn.

Y cysylltiadau emosiynol

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi emynau y meant yn eu cysylltu â phrofiadau da o’r gorffennol.

Os oes gennym atgofion melys o’r ysgol Sul byddwn yn hoffi’r emynau y bu i ni eu dysgu yno.

81

Page 82: Arwain Addoliad - ebcpcw.cymru€¦  · Web viewDewiswch emyn, Salm neu gân Gristnogol sydd ag arwyddocâd arbennig i chi. Byddwch yn barod i rannu hyn efo’r grŵp y tro nesaf

Os bydd emyn arbennig â chysylltiad â pherson yr ydym yn ei garu neu ddigwyddiad arbennig, bydd yn ystyrlon inni.

82