8
Bob tro mae yna sôn am angylion yn ymddangos ac yn siarad gyda phobl yn hanesion y Nadolig, eu geiriau cyntaf ydy ‘PAID AG OFNI’ (neu ‘Peidiwch ag ofni’ wrth iddynt siarad â’r bugeiliaid). Wel, mae’r flyl wedi pasio am flwyddyn arall a ninnau wedi cefnu ar flyl yr Ystwyll ddydd Mercher. Ond mae’r frawddeg ‘Paid ag ofni’ yn dal gyda ni ac yn berthnasol wrth i ni wynebu’r flwyddyn newydd. Cyfyngwn ein hunain heddiw i sylwi ar un hanes yn yr Hen Destament ac un yn y Testament Newydd. Dewch gyda mi i’r dyddiau yn syth ar ôl marwolaeth Moses a dacw Josua yn cymryd drosodd y gwaith o baratoi’r Genedl ar gyfer croesi afon yr Iorddonen. Peth amser ar ôl hyn, mae’r swyddogion yn mynd drwy’r gwersyll ac yn dweud wrth y bobl am ddilyn yr offeiriaid a oedd yn cario Arch y Cyfamod. ‘Ewch ar eu hôl er mwyn ichwi wybod pa ffordd i fynd, OHERWYDD NID YDYCH WEDI TRAMWYO’R FFORDD HON O’R BLAEN.’ Rydym wedi defnyddio’r geiriau yma lawer gwaith wrth i ni fynd i mewn i flwyddyn newydd, ond mae’n sicr bod yna fwy o arwyddocâd iddyn nhw y tro hwn nag sydd wedi bod erioed o’r blaen yn ein hanes. Rwy’n sgwennu hwn cyn y Nadolig ac er y bu'n bosib i ddau deulu gyfarfod dros yr flyl fel mae mwy nag un arweinydd wedi dweud, ‘dydi’r feirws ddim am gymryd gwyliau dros y ‘Dolig!’ A dwi’n gobeithio na fydd pethau wedi mynd yn waeth erbyn yr amser y byddwch yn darllen hwn. Ond os byddan nhw, cofiwn yr hyn ddywedodd yr Arglwydd wrth Josua yn syth ar ôl iddo gymeryd drosodd, ‘Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr Arglwydd dy Dduw am fod gyda thi bob cam o’r ffordd.’ Mae hyn yn ein hatgoffa o eiriau Minnie Louise Haskins, y ferch o Sir Gaerloyw a sgwennodd yn 1908:- ‘Gofynnais i’r dyn wrth lidiart y flwyddyn am oleuni i’m harwain i mewn i’r flwyddyn newydd, ond ei ateb oedd, ’Dos allan i’r tywyllwch a rho dy law yn llaw Duw. Bydd hynny lawer gwell i ti nag unrhyw olau, a llawer mwy diogel nag unrhyw ffordd gyfarwydd.’ Ni ddaeth y geiriau yma yn adnabyddus tan iddyn nhw gael eu defnyddio gan y brenin Siôr VI ar ddydd Nadolig 1940 yng nghanol yr Ail Ryfel Byd ar adeg pan nad oedd y Deyrnas Unedig erioed wedi tramwyo ar hyd y ffordd dywyll honno o’r blaen. Rydym hefyd yn darllen yn yr Efengylau am ddyn o’r enw Jairus, un o arweinyddion y synagog, yn disgwyl i’r Iesu gyrraedd y lan er mwyn gofyn iddo fynd ar frys i’w gartref gan bod ei ferch yn wael iawn. Wrth gwrs, fe gytunodd yr Iesu, ond ar y ffordd yno, dyma ddynes oedd â salwch gwaed yn cyffwrdd â’i ddillad ac fe wyddai’r Gwaredwr yn syth bod rhywun wedi gafael yn Ei ddillad er mwyn cael ei iacháu. Gallwn ddychmygu beth oedd yn mynd trwy feddwl Jairus yr adeg yma – ‘Pam mae’r Athro yn gwastraffu amser gyda hon? Os wnaiff O oedi lawer chwaneg, mi fydd fy merch wedi marw! Ac yn wir i chi, dyna ddigwyddodd – daeth cenadwri o’i dª yn dweud bod yr eneth wedi marw a bod yna ddim pwrpas i Iesu fynd yno erbyn hynny. Ond sylwch beth mae’r Iesu yn ei ddweud wrth Jairus, ‘PAID AG OFNI; YN UNIG CRED!’ Ac rydym yn gwybod beth ydy diwedd yr hanes – Ei fod wedi mynd i’r cartref i roi bywyd newydd yng nghorff y ferch ifanc. Yn yr un ffordd, mae pethau yn gallu mynd go chwith yn ein bywydau ni. Fel yn hanes Jairus, mae rhywun neu rywbeth yn gallu torri ar draws ein cynlluniau ni. Faint ohonom ni a newidiodd ein trefniadau yn ystod 2020 oherwydd cofid- 19? Faint ohonom oedd wedi meddwl gwneud rhywbeth arbennig yn ystod misoedd cyntaf 2021? Beth fedrwn ni ei wneud am yr amgylchiadau? Panicio? Teimlo’n ddigalon? Colli amynedd? Mynd yn ofnus neu yn rhwystredig? Amau os ydy Duw ar waith yn y byd heddiw neu a ydyw wedi ein gadael i fynd i ben ein helynt? Mae llawer iawn o bobl heddiw yn ofnus ac anobeithiol wrth iddyn nhw gychwyn ar y flwyddyn newydd sy’n agor o’n blaenau. Ond fel dilynwyr yr Arglwydd Iesu Grist fe ddylem gredu y bydd Ef gyda ni beth bynnag sy’n digwydd. Mae Ei eiriau i Josua, ‘Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr Arglwydd dy Dduw am fod gyda thi bob cam o’r ffordd,’ a geiriau’r Iesu i Jairus, ‘Paid ag ofni, yn unig cred,’ yn berthnasol i ni ar ddechrau blwyddyn newydd yn ein hanes. Parch Eric Greene, darpar-Lywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd CYFROL CXLIX RHIF 2 DYDD GWENER, IONAWR 8, 2021 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Sully … t. 2 • Sylw o’r Seidin … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 ‘PAID AG OFNI; YN UNIG CRED!’ https://PaulineJurkeviciusfrcxW6awaok-unsplash.jpg Paid ag ofni

yGOLEUAD - ebcpcw.cymru · yr Arglwydd wrth Josua yn syth ar ôl iddo gymeryd drosodd, ‘Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr Arglwydd dy Dduw am fod gyda thi bob cam o’r ffordd.’

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Bob tro mae yna sôn am angylion ynymddangos ac yn siarad gyda phobl ynhanesion y Nadolig, eu geiriau cyntafydy ‘PAID AG OFNI’ (neu ‘Peidiwch agofni’ wrth iddynt siarad â’r bugeiliaid).Wel, mae’r flyl wedi pasio am flwyddynarall a ninnau wedi cefnu ar flyl yrYstwyll ddydd Mercher. Ondmae’r frawddeg ‘Paid agofni’ yn dal gyda ni ac ynberthnasol wrth i niwynebu’r flwyddyn newydd.

    Cyfyngwn ein hunainheddiw i sylwi ar un hanesyn yr Hen Destament ac unyn y Testament Newydd.Dewch gyda mi i’r dyddiauyn syth ar ôl marwolaethMoses a dacw Josua yncymryd drosodd y gwaith obaratoi’r Genedl ar gyfercroesi afon yr Iorddonen.Peth amser ar ôl hyn, mae’rswyddogion yn mynd drwy’rgwersyll ac yn dweud wrth ybobl am ddilyn yr offeiriaid aoedd yn cario Arch yCyfamod. ‘Ewch ar eu hôl ermwyn ichwi wybod pa fforddi fynd, OHERWYDD NIDYDYCH WEDI TRAMWYO’RFFORDD HON O’R BLAEN.’Rydym wedi defnyddio’rgeiriau yma lawer gwaith wrth i ni fynd imewn i flwyddyn newydd, ond mae’nsicr bod yna fwy o arwyddocâd iddynnhw y tro hwn nag sydd wedi boderioed o’r blaen yn ein hanes.

    Rwy’n sgwennu hwn cyn y Nadolig acer y bu'n bosib i ddau deulu gyfarfoddros yr flyl fel mae mwy nag unarweinydd wedi dweud, ‘dydi’r feirwsddim am gymryd gwyliau dros y ‘Dolig!’A dwi’n gobeithio na fydd pethau wedimynd yn waeth erbyn yr amser ybyddwch yn darllen hwn. Ond osbyddan nhw, cofiwn yr hyn ddywedoddyr Arglwydd wrth Josua yn syth ar ôliddo gymeryd drosodd, ‘Paid bod ag ofnna phanicio. Dw i, yr Arglwydd dy Dduwam fod gyda thi bob cam o’r ffordd.’

    Mae hyn yn ein hatgoffa o eiriau MinnieLouise Haskins, y ferch o Sir Gaerloywa sgwennodd yn 1908:- ‘Gofynnais i’r

    dyn wrth lidiart y flwyddyn am oleuni i’mharwain i mewn i’r flwyddyn newydd,ond ei ateb oedd, ’Dos allan i’rtywyllwch a rho dy law yn llaw Duw.Bydd hynny lawer gwell i ti nag unrhywolau, a llawer mwy diogel nag unrhywffordd gyfarwydd.’

    Ni ddaeth y geiriau yma yn adnabyddustan iddyn nhw gael eu defnyddio gan ybrenin Siôr VI ar ddydd Nadolig 1940yng nghanol yr Ail Ryfel Byd ar adegpan nad oedd y Deyrnas Unedig erioedwedi tramwyo ar hyd y ffordd dywyllhonno o’r blaen.

    Rydym hefyd yn darllen yn yrEfengylau am ddyn o’r enw Jairus,un o arweinyddion y synagog, yndisgwyl i’r Iesu gyrraedd y lan er mwyngofyn iddo fynd ar frys i’w gartref ganbod ei ferch yn wael iawn. Wrth gwrs,fe gytunodd yr Iesu, ond ar y ffordd yno,dyma ddynes oedd â salwch gwaed yncyffwrdd â’i ddillad ac fe wyddai’rGwaredwr yn syth bod rhywun wedigafael yn Ei ddillad er mwyn cael eiiacháu. Gallwn ddychmygu beth oeddyn mynd trwy feddwl Jairus yr adegyma – ‘Pam mae’r Athro yn gwastraffuamser gyda hon? Os wnaiff O oedi

    lawer chwaneg, mi fydd fy merch wedimarw!

    Ac yn wir i chi, dyna ddigwyddodd –daeth cenadwri o’i dª yn dweud bod yreneth wedi marw a bod yna ddimpwrpas i Iesu fynd yno erbyn hynny.Ond sylwch beth mae’r Iesu yn ei

    ddweud wrth Jairus, ‘PAIDAG OFNI; YN UNIG CRED!’Ac rydym yn gwybod bethydy diwedd yr hanes –Ei fod wedi mynd i’r cartref iroi bywyd newydd yngnghorff y ferch ifanc.

    Yn yr un ffordd, mae pethauyn gallu mynd go chwith ynein bywydau ni. Fel ynhanes Jairus, mae rhywunneu rywbeth yn gallu torri ardraws ein cynlluniau ni.

    Faint ohonom ni anewidiodd ein trefniadau ynystod 2020 oherwydd cofid-19? Faint ohonom oeddwedi meddwl gwneudrhywbeth arbennig yn ystodmisoedd cyntaf 2021? Bethfedrwn ni ei wneud am yramgylchiadau?

    Panicio? Teimlo’n ddigalon?Colli amynedd? Mynd yn

    ofnus neu yn rhwystredig? Amau os ydyDuw ar waith yn y byd heddiw neu aydyw wedi ein gadael i fynd i ben einhelynt?

    Mae llawer iawn o bobl heddiw ynofnus ac anobeithiol wrth iddyn nhwgychwyn ar y flwyddyn newydd sy’nagor o’n blaenau. Ond fel dilynwyr yrArglwydd Iesu Grist fe ddylem gredu ybydd Ef gyda ni beth bynnag sy’ndigwydd.

    Mae Ei eiriau i Josua, ‘Paid bod ag ofnna phanicio. Dw i, yr Arglwydd dy Dduwam fod gyda thi bob cam o’r ffordd,’ ageiriau’r Iesu i Jairus, ‘Paid ag ofni, ynunig cred,’ yn berthnasol i ni arddechrau blwyddyn newydd yn einhanes.

    Parch Eric Greene,darpar-Lywydd y Gymdeithasfa

    yn y Gogledd

    CYFROL CXLIX RHIF 2 DYDD GWENER, IONAWR 8, 2021 Pris 50c

    yn calonogi

    yn ysbrydoli

    yn adeiladu

    yGOLEUADE G LW Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

    Sully… t. 2 • Sylw o’r Seidin … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8

    ‘PAID AG OFNI; YN UNIG CRED!’

    https://PaulineJurkeviciusfrcxW6awaok-unsplash.jpg

    Paid ag ofni

  • SullyBore oer cyffredin oedd bore dydd Iau’r15fed o Ionawr 2009. Ond trodd taithgyffredin yn hunllef i dros gant a hannero deithwyr wrth i beiriannau eu hawyrenfethu fel yr oeddynt yn codi o faes awyrLaguardia yn Efrog Newydd. Mewn trimunud ac ugain eiliad llwyddodd y peilotChesley (Sully) Sullenberger ddilynprosesau i geisio ail-danio’r peirannau; idrafod gyda’r maesawyr sut yr oedd ynmynd i ddychwelyd yno,a phenderfynu glanio’rawyren yn ddiogel ar yrafon Hudson. Tra roeddy byd yn rhyfeddu atddisgyblaeth a gallu’rpeilot roedd eraill yn yrawdurdodau am ei feioam beidio â dilyncanllawiau achyfarwyddiadau. Wediymchwiliad manwlcanfuwyd bod penderfyniadau Sully wediarbed bywydau ei deithwyr i gyd.

    Yn y ffilm o’r hanes ceir nifer oddywediadau cofiadwy. Y fath o bethauyr hoffwn i fod wedi eu dweud!

    Ateb pwyllog Sully i’r ymchwilwyr a’icyhuddodd o weithredu mewn fforddoedd heb gynsail oedd, ‘Everything isunprecedented until it happens for thefirst time.’

    Ac oni allwn ni ddweud bod y cyfnodhwn yn annhebyg i unrhyw beth yr ydymwedi’i wynebu yn ein hoes yn gyfnodheriol, ansicr a digynsail? Mae effeithiauCofid i’w gweld ym mhobman. Maecymylau Brecsit a phenderfyniadauanwadal llywodraeth San Steffan yn creu

    ansicrwydd ac ofn i lawer ohonom a sawlsector oddi fewn i gymdeithas yngwegian. Rhyw ‘ysgwyd mae y tir odanaf/ darnau’n cwympo i lawr o hyd’ ywhi ym mhob man.

    A beth fydd effaith y stormydd hyn argefn gwlad, ar amaethyddiaeth, arddyfodol Anghydffurfiaeth Gymraeg, ardirwedd Cymru? Heb os, mae’r cyfnodhwn yn ddigynsail. ‘Everything isunprecedented until it happens for thefirst time.’

    Beth felly a wnawn ni mewn ‘cyfnoddigynsail’?

    I ddychwelyd at y ffilm.

    Ceir un olygfa lle mae Sully yn gynnar ynei hanes fel peilot yn derbyn cyngor ganbeilot profiadol arall. ‘Dydy peilot byth ynpeidio â dysgu... Fe fyddi di’n gwneudcamgymeriadau. ... Dysga drwyddynnhw... Beth bynnag sy’n digwydd o dygwmpas cofia bob amser hedfan yrawyren.’

    Dydyn ni ddim yn gyfrifol am hedfan‘awyren’ unrhyw un arall. Gall profiadau,ymarfer da a syniadau pobl eraill einhannog. Ond ni sy’n gorfod hedfanawyren ein ffydd bersonol, yn einheglwysi, yn ein bröydd ac yn eingofalaeth ni. A ni gafodd y fraint o dystioi enw Iesu Grist, ei ras, ei ffyddlondeb a’iogoniant yn yr amgylchiadau hyn.

    Er mwyn glanio’r awyren yn ddiogeltynnodd Sully ar ei brofiad personol ohedfan, ei adnabyddiaeth o’r awyren,a’i wybodaeth am brofiad peilotiaid eraill.

    Er mwyn hedfan ‘awyren’ eglwys IesuGrist mewn cyfnod helbulus gallwnninnau dynnu ar ein profiad personol oddaioni Duw yn Iesu Grist. Ac fe allwndynnu ar brofiad yr Eglwys drwy’rcanrifoedd – pobl a wynebodd ac aoresgynnodd yn eu dydd plâu arhyfeloedd a newyn ac erledigaeth achynnydd a bendith a thrugaredd a

    phresenol deb di-dor yrArglwydd.

    Ansawdd diogelwchEglwys Iesu Grist ywIesu Grist ei hun!Mae’r Eglwys yn bodolio genhedlaeth igenhedlaeth drwy eiffydd frau mewnaddewid gadarn.

    ‘Oherwydd lle mae dauneu dri wedi dodynghyd yn fy enw i,

    yr wyf yno yn eu canol.’ (Math 18:20)

    Ffiseg gras yw addewid Iesu Grist i ‘fodyno yn y canol.’ Ni thorrodd Iesu erioedmo’i addewid. Wrth i ni gydgyfarfod owythnos i wythnos cofiwn addewid yrArglwydd. A diolchwn am yr adegau ycawsom brofi o’i agosrwydd yn ystod ycyfnod hwn.

    Bydd, fe fydd newidiadau mawr ynwynebu Cymru yn genedlaethol ac ynlleol. Bydd yr wythnosau a’r misoeddnesaf yn heriol.

    Gadewch i ni barhau i geisio ei ddyfodiadi’n plith. Gadewch i ni ddisgwyl eiddyfodiad i’n plith. Gadewch i ni ddiolcham fod yr Arglwydd yn cadw ei addewid.

    (Trwy ganiatâd Gair o'r Garn)

    2 Y Goleuad Ionawr 8, 2021

    Pe bawn i wedi cael punt bob tro roeddwn i wedi gweiddi ‘Dewchat y bwrdd’ byddwn i’n berson cyfoethog iawn!!

    Mae amseroedd prydau bwyd yn ein tª wedi amrywio o brydauteuluol swnllyd i amseroedd tawelach o gymdeithas gyda ffrindiauda. Mae llawer o brydau bwyd wedi’u cofnodi yn y Beibl, oAbraham a Sarah yn Genesis yn diddanu tri ymwelydd gyda baraffres a chig, i Iesu yn paratoi brecwast o bysgod ar gyfer eiddisgyblion ar lan Môr Galilea. Wrth gwrs, ochr yn ochr â’r prydau

    go iawn yn y Beibl mae llawer o gyfeiriadau at fwyd ysbrydol sy’nrhoi bywyd tragwyddol.

    Dyma beth sydd y tu ôl i deitl y gyfres o Astudiaethau Beibl yrydym yn eu trefnu i’n merched ym mis Ionawr, ‘Dewch at y bwrdd.’Mae’r gyfres 6 rhan yn seiliedig ar Salm 23, a’n gobaith yw treulioamser wrth y bwrdd mae Duw ei hun wedi paratoi ar gyfer ei boblyn ei Air, yn ei gwmni ac mewn cymdeithas â’n gilydd. Ynanffodus, nid yw’n mynd i fod yn wledd wyneb yn wyneb – cyfresfydd hon a gynhelir ar Zoom – ond fel y mae llawer eisoes wedi’ibrofi, gall cyfarfod ar Zoom fod yn fendith ac yn anogaeth. Felly,edrychwn ymlaen at eich gweld yn un o’r cyfarfodydd. Gallwchdderbyn y dolenni Zoom gan Carys, Sarah neu Eirian.

    Dyma dyddiadau’r cyfarfodydd:

    De (Morgannwg-Llundain, Myrddin, Ceredigion-Gogledd Penfro):Ionawr 15fed

    Gogledd Orllewin (Môn, Arfon, Gorllewin Gwynedd): Ionawr 19eg

    Gogledd Dwyrain (Gog. Dwyrain, Conwy & Dyfrdwy, DyffrynClwyd, Trefaldwyn): Ionawr 26ain

    Dwyrain (Northern, Mid Wales & Borders, South East, SouthWest): Ionawr 21ain

    Sarah Morris

  • Gwers 26

    Simeon ac Anna

    Gweddi

    Plygwn yn wylaidd o’th flaen,Arglwydd, gan gredu mai ti sy’n dewisy fendith a ddaw i’n rhan, a hynny yn dyamser di. Disgwyliwn a gobeithiwn amdy fendith o ddydd i ddydd. Wrthfeddwl heddiw am brofiadau Simeon acAnna yn y deml, boed i ninnau ddod i’thgynteddau di â’n dwylo yn agored a’nheneidiau yn barod i ymateb. Amen.

    Darlleniad Luc 2:22–38

    Cyflwyniad

    Yn ddiddorol, Luc sy’n adrodd hanesenwaedu Iesu a’i enwi wyth niwrnod arôl ei enedigaeth a’i gyflwyno wedyngan ei rieni yn y Deml yn Jerwsalem arol cyflawni amser eu puredigaeth, ganroi’r offrwm a nodir yng NghyfraithMoses, sef pâr o ddurturod neu ddaugyw colomen – aberth teulu tlawd oeddhyn. Yno hefyd yr oedd dau bersondefosiynol ac oedrannus, sef Simeon,‘gfir cyfiawn’, ac Anna, gwraig a fu’nweddw am flynyddoedd maith ac afyddai’n mynd i’r Deml yn ddyddiol iweddïo. Dywed Luc fod Simeon wedicael profiad arbennig o’r Ysbryd Glânac fe gredai y byddai’n byw i weldMeseia’r Arglwydd. Pan welodd yntau’rplentyn bach, cymerodd ef i’w freichiaua’i fendithio drwy adrodd y weddi sy’ncael ei hadnabod fel y ‘Nunc dimittis’.Roedd gweld Iesu yn ei annog i ddweudbod Duw yn rhannu goleuni i’rCenhedloedd a gogoniant i bobl Israel. Roedd Luc wedi cael yr hanes am

    Anna hefyd, y wraig oedrannus agweddigar a fu’n rhannu’r newydd amIesu gan ddweud ei fod yn rhoirhyddhad i bobl Jerwsalem. Awgrymirei bod wedi clywed geiriau Simeon, acwedi rhannu’r neges â phwy bynnagoedd yn ei chlywed.

    MyfyrdodDeallwn mai bwriad Mathew wrthadrodd hanes y sêr-ddewiniaid o wladbell yn plygu wrth y preseb oeddpwysleisio mai Iesu oedd gwir frenin yrIsrael newydd. Yn yr un ffordd, roedd

    Luc yn cydnabod cyswllt Iesu agarferion y grefydd Iddewig wrth adroddhanes cyflwyno Iesu yn y Deml. Ynamlwg, gwelai Luc arwyddocâd ihyn drwy bwysleisio fod ‘crud ygrefydd Iddewig wedi magu’r ffyddGristnogol’ a bod gwaith Duw, drwy’rYsbryd Glân, wedi bod yn amlwg arhyd hanes.

    Drwy nodi defosiwn a thystiolaethAnna, gwelai fod lle’r wraig yn bwysigyn y dystiolaeth Gristnogol. Prin fod lleblaenllaw i’r wraig yn y Deml – roeddyn eilradd i’r gwryw oddi mewn i’rdrefn Iddewig – ond yma, dengys Lucyn glir yr hyn sy’n amlwg yng nghorffei draethawd, sef bod y wraig yngyfartal ym mywyd teulu Crist. O na baipob cymuned Gristnogol ar draws y bydheddiw yn sylweddoli hynny. Aeth yn ffasiwn gan yr ifanc yn ein

    hoes i feddwl eu bod yn gwybod ynwell na’u hynafiaid. Digon posibl eubod yn flaengar a dyfeisgar mewn sawlmaes. Bydd sawl diwygiad Cristnogolyn tarddu o brofiadau byw yr ifanc, ondpwysleisia Luc fod gan yr oedrannusgyfraniad pwysig wrth iddynt ddisgwyloddi wrth Dduw a sylweddolipwysigrwydd rhodd Duw yn eu hoes.Tybed faint o ddisgwyl defosiynol syddynom ni, a faint o ddathlu sydd, panwerthfawrogwn fod Duw yn rhannu eifendith?

    Gweddi

    Diolch i ti, Arglwydd, am dyddatguddiad a’th fendithion. Helpa ni i‘ddisgwyl wrth yr Iôr’ a dathlu pobbendith yn ddiolchgar. Diolch am wªr agwragedd, beth bynnag eu hoed, sy’nymateb i’r Ysbryd Glân ac yn adnaboddy gyffyrddiad. Amen.

    Trafod ac ymateb

    Os nad oes plant yn eich cartref neu osydynt wedi tyfu bellach, meddyliwchym mha ffyrdd y gallwch chi fod yncymryd cyfle, fel Simeon ac Anna, ifendithio plant bychain yn eich ardalneu eich eglwys chi.

    1. Ai cyd-ddigwyddiad oedd hi fodSimeon ac Anna yn digwydd bod yny Deml pan ddaeth Mair a Joseff ynoi gyflwyno Iesu?

    2. Beth oedd a wnelo cyfiawnder,defosiwn a mawl Simeon ac Annaefo’u sensitifrwydd i lais yr YsbrydGlan? Beth yw rhai o’r rhesymau naallwn ni glywed llais Dduw?

    3. A oes gennym ni ddisgwyliadau o’rArglwydd neu bethau yr hoffem eiweld yn eu cyflawni cyn inni adael yddaear hon? Pa mor barod ydym nii’w ceisio nhw mewn gweddi?

    4. Sut ydych chi’n deall geiriauSimeon i Mair (adn. 34 a 35).Faint o help oedd y geiriau hyn iMair fedru paratoi ei hun ar gyfer yrhyn a ddigwyddai i Iesu danlaw awdurdodau’r Deml a’rweinyddiaeth Rufeinig y tu allan ifuriau’r ddinas ymhen cenhedlaetheto?

    5. A yw’r baban a dyfodd yn ddyn yndal ‘yn achos cwymp i lawer ynIsrael ac yn fendith i eraill ... ynrhybudd sy’n cael ei wrthod’ (adn.34; Beibl.net)?

    Ionawr 8, 2021 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

    Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

    Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

    Llun: Cân Mawl Simeon gan Rembrandt(1669), olew ar gynfas, Amgueddfa

    Genedlaethol Stockholm

    Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

    Huw Powell-Davies

    neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

    Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

    Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

    [email protected]

  • ‘Sut grud wnaf i Iesu?’medd Joseff, wrth syllu; ‘Pa bren sydd yn gwedduGwaredwr?

    ‘Ai gwely o gedrwydd, un addas i Arglwyddsy’n deml o sancteiddrwydda Brenin?

    ‘Neu grud o goed goffer,siâp arch, wnaf ar fyrderi Faban â chryfder Achubydd?

    ‘Gwnâi bonion olewyddgòt clyd Un fydd beunyddyn olau dihysbydd;Meseia.

    ‘Neu beth am goed helygi Fab Dyn gaiff dremyga dolur a dirmygGwas gofid?

    ‘Sut grud wnaf i Iesu?’medd eto, dan synnu; ‘Pa bren sydd yn gwedduGwaredwr?’

    Medd Mair, mam y Bachgen, ‘Rho heibio bob ’styllen,pob trawst a phob hoelen,nes daw dydd eu hangen ar Saer y ffurfafeni godi ei groesbrenei Hunan.

    ‘O blith prennau’r hollfyddim ond Pren y Bywydsy’n gweddu f’Anwylyd,fy Iesu.’

    Christine James oedd Bardd y Mis,Radio Cymru, mis Rhagfyr 2020, ac fegomisiynwyd y gerdd gan GwawrOwen ar gyfer Naw Llith a Charol,BBC Radio Cymru, 2020. Gellir gwyliocyflwyniad ohoni o ddilyn y ddolenhon: https://youtu.be/mjWtkYxhvR8

    Fe ofynnwyd i’r bardd, ChristineJames, beth oedd ei hysgogiad wrthlunio’r gerdd ac fe roddir ei hymatebisod.

    Y prif ysgogiad dros lunio’r gerddhon oedd i mi dderbyn comisiwn amgerdd i’w darlledu’n rhan o raglenNaw Llith a Charol Radio Cymru eleni– a does dim byd fel dedlein i ffocysu’rmeddwl! Mae rhan Joseff yn stori’r Nadolig yn

    cael ei hesgeuluso’n aml; eto, wrtho ef

    y dywedodd yr angel y dylid rhoi’r enwIesu – Gwaredwr – ar blentyn Mair. Acyntau’n saer, rwy’n dychmygu bodJoseff yn ddyn ymarferol iawn. Rwyfwedi ceisio rhoi’r ddau beth hyn ynghydyn y gerdd – y datguddiad a roddwydiddo ynghylch y baban y byddai

    Mair yn rhoi genedigaeth iddo, a’iymarferoldeb fel saer. Yn rhan gyntaf y gerdd, gwelwn

    Joseff yn pendroni ynghylch pa bren ydylai ei ddewis ar gyfer crud Iesu, a’rprennau hynny’n cynrychioli agweddaugwahanol ar y Gwaredwr ei hun:cedrwydd a ddefnyddiwyd wrthadeiladu teml Solomon a’r palasbrenhinol (1 Brenhinoedd 6 a 7); coedgoffer a ddefnyddiodd Noa ar gyfer yrArch a fyddai’n ei waredu (Genesis6:14); olewydd oedd ffynhonnell yrolew a roed yn y lamp ym Mhabell yCyfarfod (Exodus 27:20–21); ac maecoed helyg yn gefndir teimladwy idristwch a galar cenedl Israel ymMabilon, wrth iddynt grogi eu telynauar yr helyg (Salm 137:2). Os yw Joseff yn pendroni, mae Mair

    ar y llaw arall yn bendant. Mae hi felpetai wedi cael rhagolwg o ddiwedd ystori, marwolaeth Iesu ar y groes – nadoedd yn ddiwedd o gwbl, mewngwirionedd, ond yn ddechrau bywyd i’rrhai sy’n rhoi eu ffydd ynddo ef, yrAnwylyd.

    Christine James

    tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 8, 2021Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Carol y Saer a’r Pren gan Christine James

    Fe ddynodwyd Tachwedd 2–6 –dyddiadau gwreiddiol cynhadleddnewid hinsawdd byd-eang COP26 ynGlasgow – gan Lywodraeth Cymru ynWythnos Hinsawdd Cymru, gydarhaglen lawn o ddigwyddiadauar-lein. Roedd yn gyfle i bobl ardraws y byd glywed sut mae un genedlfach, trwy ei llywodraeth a’ichymdeithas sifil, yn ymateb iargyfwng yr hinsawdd. Gallwch weldholl sesiynau’r wythnos ar alw ar:(https://waterfront.eventscase.com/CY/walesc l imateweek/On-demand) .Roedd Llywodraeth Cymru yn

    awyddus i gynnwys ymatebion o duffydd, ymysg eraill; felly, arDdiwrnod 3 (Sesiwn 5) fe gymeroddSwyddog Polisi Cytûn, Gethin Rhys, ynenw Sul yr Hinsawdd, ran mewntrafodaeth banel gyda Chyfeillion yDdaear, Gwrthryfel Difodiant a’rGanolfan Dechnoleg Amgen. Feachubodd Sul yr Hinsawdd ar y cyflehefyd i ail-lansio’i gwefan ar ffurfddwyieithog: www.climatesunday.org Teitl y sesiwn oedd ‘Newid yn yr

    Hinsawdd – pwy sy’n gyfrifol?’ Mae’rymrwymiad triphlyg rydym yn gofyn

    amdano gan gefnogwyr Sul yrHinsawdd hefyd yn cynnig ymatebCristnogol i gwestiwn y seminar. Rydym yn gofyn i eglwysi gynnal o

    leiaf un oedfa wedi’i chanoli ar yrhinsawdd. Gan fod oedfa yn weithred ary cyd, mae’n dyfnhau ein perthynasbersonol â Duw y Creawdwr. Mae fellyyn ein hatgoffa ein bod yn sefyll ynbersonol gyfrifol gerbron Duw. I ni yn ybyd cyfoethog, mae’n sicr fod angen ibob oedfa Sul yr Hinsawdd gynnwys

    NEWID HINSAWDD –CYFRIFOLDEB PWY?

    (parhad ar y dudalen nesaf)

  • Mae arweinwyr rhai o brif eglwysiCymru wedi ymuno ag arweinwyreglwysi o amgylch Prydain i ysgrifennullythyr at Boris Johnson yn galw arno iaddo torri allyriadau’r Deyrnas Gyfunolo leiaf 75%, o lefelau 1990, erbyn 2030,pan fydd yn cyflwyno cynllun hinsawddcyntaf y wlad o dan Gytundeb Paris.Gyda’r Deyrnas Gyfunol yn gadael yr

    Undeb Ewropeaidd, rhaid iddi yn awrgyflwyno ei chynllun hinsawdd ei hun igorff hinsawdd y Cenhedloedd Unedig,yr UNFCCC, yn amlinellu’r bwriad odorri allyriadau a’r gefnogaeth y byddyn ei rhoi i wledydd bregus sydd wedigwneud ychydig yn unig i achosi newidyn yr hinsawdd. Bydd yn destun prosesgraffu gofalus gan mai’r DeyrnasGyfunol fydd yn llywyddu uwch-gynhadledd nesaf y CenhedloeddUnedig ar yr hinsawdd yn Glasgow yn2021.Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r

    llythyr y mae YsgrifenyddionCyffredinol yr enwadau anghydffurfiolyng Nghymru ac Archesgob Cymru, ynogystal â chynrychiolwyr EglwysLoegr, Eglwys yr Alban, Undeb y

    Bedyddwyr, yr Eglwys Fethodistaidd,yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig a’rCrynwyr.Ysgrifennant: ‘Yn 2021, mae gan y

    Deyrnas Gyfunol y cyfle i fod ynarweinydd byd-eang go iawn. Mae 2021yn flwyddyn dyngedfennol i fynd i’rafael â’r argyfwng hinsawdd ac mae’rDeyrnas Gyfunol mewn sefyllfaunigryw i arwain y byd mewngweithred uchelgeisiol fel Llywyddtrafodaethau cynhadledd COP26 yCenhedloedd Unedig.‘Mae Cymorth Cristnogol, yr eglwysi

    sy’n ei gefnogi ar draws y DeyrnasGyfunol, a’i bartneriaid lleol ar draws ybyd yn disgwyl i’ch Llywodraeth fyndi’r afael â newid hinsawdd mewn fforddsydd yn deg a chyfiawn i bobl dlotaf ybyd. Dyna pam ein bod ni heddiw, felcynrychiolwyr yr eglwysi hynny, ynysgrifennu atoch yn cefnogi deiseba gyflwynir ichi gan CymorthCristnogol, wedi ei llofnodi gan57,000 o’i gefnogwyr, yn galw amweithredu.’Maent yn galw ar y Llywodraeth i

    dorri allyriadau’r Deyrnas Gyfunol

    75%, o lefel 1990, erbyn 2030, yn llwyrdrwy weithredu gartref, ac wedi eiseilio ar dystiolaeth wyddonol gan yPwyllgor ar Newid Hinsawdd.Maent hefyd yn galw am weithredu i

    gefnogi gwledydd sy’n fregus i newidhinsawdd gydag arian hinsawdd,cymorth i gymunedau sydd angenaddasu i effeithiau newid hinsawdd ahelp i sicrhau technoleg ynniadnewyddol fel eu bod yn gallu troioddi wrth ynni ffosil.Maent yn cloi drwy ddweud: ‘Wrth

    inni edrych ymlaen gyda gobaith atsicrhau cytundeb pwysig yn Glasgow yflwyddyn nesaf, mae eglwysi ar draws yDeyrnas Gyfunol wedi ymrwymo –ynghyd â Chymorth Cristnogol a’igefnogwyr – i weithio gyda chi a’chLlywodraeth i helpu i wireddu cynllunhinsawdd cenedlaethol fydd yn sicrhaucyfiawnder i bobl dlotaf y byd.’Yn cyd-fynd â’r llythyr mae deiseb

    wedi ei llofnodi gan 57,000 o bobl, ynmynnu Cytundeb Newydd amGyfiawnder Hinsawdd sy’n rhoi tlodiony byd a’r cymunedau mwyaf bregus yngnghanol polisi hinsawdd byd-eang,yn atal ehangu prosiectau ynni ffosilac yn buddsoddi i ddatgarboneiddioeconomi’r Deyrnas Gyfunol yn sydyn.Meddai Cynan Llwyd, Pennaeth

    Gweithredol Cymorth Cristnogol: ‘Yrargyfwng hinsawdd yw pwnc moesolmawr ein dydd. Y bobl sy’n dioddeffwyaf yw’r rhai sydd wedi gwneud ylleiaf i’w greu. Dyna pam maearweinwyr eglwysi ar draws Prydain yncydsefyll i alw ar Boris Johnson i osodymrwymiad beiddgar i wledydd eraill eiddilyn.‘Fel llywydd uwch-gynhadledd y

    Cenhedloedd Unedig y flwyddyn nesaf,bydd y Deyrnas Gyfunol yn annoggwledydd eraill i ddod â chynlluniauuchelgeisiol ymlaen. Rhaid i addewidhinsawdd y Deyrnas Gyfunol osodtarged uchel felly; byddai unrhyw betharall yn fethiant o arweiniad.‘Yn dilyn y penderfyniad diweddar i

    dorri cymorth rhyngwladol, mae gan yDeyrnas Gyfunol ddyletswydd foesol iroi anghydraddoldeb ac anghyfiawnderyng nghanol yr uwch-gynhadledd.Mae’r bobl hynny sy’n wynebu realitinewid hinsawdd heddiw yn dibynu ar eillwyddiant.’

    Ionawr 8, 2021 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Cyfle i wneud gwahaniaethgwirioneddol yn 2021

    Arweinwyr eglwysi Cymru a Phrydain – a deiseb o 57,000 – yn erfyn ar i’r Prif Weinidog osod targed o75% ar gyfer allyriadau erbyn 2030

    edifeirwch dwfn am ein ffordd o fyw asut mae’n cyflymu’r newid yn yrhinsawdd.

    Rydym wedyn yn gofyn i bob eglwyswneud ymrwymiad tymor-hir i un o’rrhaglenni sydd eisoes yn bodoli i leihauein hôl troed carbon eglwysig a myndi’r afael ag argyfyngau cysylltiedig yrhinsawdd a byd natur – megis EcoChurch neu LiveSimply. Mae hynny ynein hatgoffa ein bod ni unigolion ynbyw mewn cymuned, a bod yna lawer ogamau – megis adfer natur ar dir einheglwys neu ddadfuddsoddi arian ycapel o danwydd ffosil – sy’n gofyn amweithredu gan y gymuned gyfan. Yn drydydd, gofynnir i eglwysi

    ymrwymo i Ddatganiad ‘Nawr yw’rAmser’ Clymblaid yr Hinsawdd a

    gyfeirir at wleidyddion acarweinyddion byd – gan fod newidhinsawdd yn gyfrifoldeb i bobl mewngrym. Nid yw datgarboneiddio’r gridcenedlaethol neu greu coedwiggenedlaethol newydd i Gymru yngynlluniau y gall unigolion na’r eglwysfwyaf ymroddedig eu cyflawni – maeangen llywodraethau i weithredu arfrys. Fe fydd COP26 yn llwyfan pwysigar gyfer ymrwymiadau felly, ond fe’uceir dim ond os yw gwleidyddion yncredu ein bod ni, unigolion achymunedau, yn ddigon angerddol ifynnu newid a fydd, yn ei dro, yn newidein bywydau ni yn sylweddol. Felly, cyfrifoldeb pwy yw newid

    hinsawdd? Fy nghyfrifoldeb innau – athithau. Cyfrifoldeb pob cymunedeglwysig a phob cymuned arall hefyd.A chyfrifoldeb y sawl sydd mewn grym.Boed i’n blwyddyn o Suliau’rHinsawdd ein helpu ni a’n harwein -yddion i ysgwyddo’n cyfrifol debau erlles Cread Duw.

    (Allan o Fwletin Polisi Cytûn,Rhagfyr 2020)

    NEWID HINSAWDD (parhad)

  • A ninnau’n dal i ddioddef o effeithiau’rpandemig, gobeithio y bydd cynnwysrhifyn Ionawr o’r Traethodydd yn foddi’ch diddanu a’ch diddori ar ddechraublwyddyn newydd. Amrywiaeth syddgennym eto ar eich cyfer, yn gerddi,ysgrifau, yn adolygiadau gan gyfranwyrcyfarwydd a rhai newydd. Derec LlwydMorgan a Mary Burdett-Jones yw’nbeirdd, y naill yn canu clod i unarbennig iawn, sef ei fiyr, a’r llall weditrosi cerdd gan Friedrich Hölderlin, yprydydd o’r Almaen. Mae’n dda o bethfod Y Traethodydd yn medru rhoi lleblaenllaw i’n beirdd yn osgytal ag i’nrhyddieithwyr.Llyfrau a chariad at lyfrau yw

    nodwedd ysgrif Gerald Morgan, sy’ntaflu goleuni ar ddarllenwyr llyfrauCymraeg y canrifoedd o’r blaen trwygyfrwng eu hewyllysiau. Trysor i’wgadw a’i drosglwyddo i’r genhedlaethnesaf oedd llyfrau yn y dyddiau gynt,a difyr yw darllen pwy oedd y bobl hyna beth yn union oedd deunydd eudarllen. Awdur newydd yw Sioned Spencer, a

    thema yng ngwaith Thomas Jones oDdinbych sydd ganddi hi. FelWilliam Williams, Pantycelyn, roeddgan y Methodist enwog o Ddinbychddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth,ac mae Sioned yn olrhain y diddordebhwnnw yn ei gerddi. Dyma ymdriniaetheithriadol werthfawr, ac annisgwylbraidd, a fydd wrth fodd haneswyr,carwyr llên a’r rhai sydd âdiddordeb mewn emynyddiaeth Cymruyn ogystal.Ceir dwy ysgrif wedyn sy’n canoli ar

    yr ugeinfed ganrif. Yn y gyntaf ohonynt,gan y diweddar Brifathro D. HughMatthews – ei ysgrif olaf un agyrhaeddodd law’r golygydd ychydigcyn ei farw ym mis Tachwedd – mae’ndwyn ar gof fwrlwm a delfrydiaeth yMudiad Eciwmenaidd yn nechrau’r1960au, ac yntau’n mynychucynhadledd i Gristnogion ifainc ynChâteau Bossey ar Lyn Genefa yngnghwmni dau o’i gyd-Gymry. Ynocyfarfu ag un a ddaeth yn gyfaill mawri’r Cymry maes o law, sef y diwinyddAnglicanaidd A. M. Allchin. ‘I wasconverted to the existence of Wales inthe early summer of 1961 or 1962,’meddai Allchin mewn un man, achwestiwn Hugh oedd: ‘Tybed a oeddgan ein sgwrs ni’n dau unrhyw beth i’wwneud â’i dröedigaeth?’ Gwyddom fodi’r dröedigaeth honno bwysigrwyddmawr, nid yn unig i Allchin ond i eraill

    hefyd, a difyr yw darllen yr hanes. Oshoffech wybod mwy amdani, byddgofyn i chi droi at yr ysgrif gofiannolhyfryd hon. Nodwedd gofiannol sydd i’r ysgrif

    nesaf, sef asesiad o gyfraniad cyfaillannwyl arall, sef y diweddar Euros WynJones. Ergyd i lawer oedd colli Euros,yn gynamserol, yn 2018, a da ywgwybod y bydd cyfrol goffa iddo ynymddangos cyn hir. Pennod o’r gyfrolhonno yw ‘Euros Wyn Jones(1950–2018) fel awdur a diwinydd’,gan olygydd Y Traethodydd, sy’n tafoliei gynnyrch awdurol, yn ysgrifau achyfrolau, ac yn dadansoddi eisafbwynt diwinyddol. Fel eraillohonom, dylanwadwyd ar Euros ganadfywiad Calfinaidd y 1970au, acarhosodd yn ffyddlon i’r gynhysgaethhonno ar hyd ei yrfa. Gwnaeth

    gyfraniad arhosol i’n diwylliantcrefyddol, ac anrhydedd yw cael nodi eiwaith fel hyn. I gloi ceir dau adolygiad, y naill gan

    Huw Edwards (sy’n hysbys i wylwyr yBBC ledled gwledydd Prydain felcyflwynydd News at Ten) yn tafoliastudiaeth D. Ben Rees ar GymryLerpwl, a’r llall gan Hywel J. Davies, yroffeiriad o Aberdâr. Ynddo mae’ndisgrifio cynnwys y gyfrol agyhoeddwyd gan Wasg PrifysgolCaer-grawnt y llynedd yn nodicanmlwyddiant sefydlu’r Eglwys yngNghymru fel eglwys wedi’i datgysylltuoddi wrth Eglwys Loegr ac yn dalaithannibynnol, ar wahân. Dyma ddwygyfrol bwysig, a’r ymdriniaeth o’r ddwyyn oleuedig wybodus ac yn bwysigddiddorol. Pwy a fiyr faint fydd yn rhaid i ni

    aros cyn daw pethau yn ôl i ryw fatho normalrwydd yn dilyn pandemigenbyd Cofid 19. Yn y cyfamser,gwnewch yn sifir eich bod yn darllen yrhifyn cyfoethog hwn o’r Traethodydd,ac yn well fyth, yn tanysgrifio i’r hynafa’r mwyaf sylweddol o gylchgronau’rdiwylliant Cymraeg. Wedi’i argraffugan Wasg Gomer, Llandysul, gellir eiarchebu ar lein trwy gyfrwng y wefanwww.ytraethodydd.cymru. Dilynwch nihefyd ar Drydar ac ar Facebook.Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan([email protected]), Y Gilfach,Ffordd y Gogledd, Llanbedr PontSteffan, SA48 7AJ.Am fanylion ynghylch ei archebu,

    cysylltwch ag Alice Williams([email protected]), SwyddfaEglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 HeolMerthyr, Yr Eglwys Newydd,Caerdydd, CF14 1DD.

    tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 8, 2021Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Rhifyn Ionawr 2021 o’r Traethodydd

    Sul, 10fed Ionawr

    Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

    Yr wythnos yma, Ryland fydd yncrwydro ardal y Smotyn Du ac yn dysguam hanes yr Undodiaid drwy lygaid trio’u ffyddloniaid. Fe gawn berfformiadhyfryd gan y gantores Einir Dafydd adaw’r canu mawl o Gapel Penybont,Llandysul.

    Caniadaeth y CysegrSul, 10fed Ionawr7:30yb a 4:30yp

    Y Parchedig R. Alun Evans sy’ncyflwyno emynau am lawenydd.

    ––––––Oedfa Radio Cymru10 Ionawr am 12:00yp

    yng ngofalCharlotte Rushton, Merthyr Tudful

  • Blwyddyn newydd dda ffrindia’.

    Canasom garolau, plygasom gerbronein presebau rhithiol, a theithiasomgyda doethion byd i weled yr Iesu abellach y mae’r twrci wedi ei wledda, a’rtrimins nôl yn y bocs, a’r goleuadauwedi eu diffodd am flwyddyn arall. Yn ycyfamser rydym wedi camu ‘mlaen ynsfin geiriau Minnie Louise Haskins:‘Cyferchais y gfir a safai ar riniog yflwyddyn: ‘Rho imi lusern i rodio’nddiogel i’r yfory.’ Meddai ef, ‘Dos allan i’rtywyllwch a chydia yn llaw dy Dduw,Bydd hyn yn rhagorach i ti na’r unllusern ac yn fwy diogel na’r un fforddgyfarwydd.’

    Rydan ni hoffi edrych yn ôl yn tydyn ni?Er bod Crist yn dweud wrthym nad ywhynny yn beth da i’w wneud wrth fyndymlaen, ac wrth dorri cwysi newydd ynhanes yr eglwys a’r deyrnas. Fel maepob cystadleuydd aredig da yn gwybodigam ogam bydd hynt y gfiys o edrychdros yr ysgwydd yn ormodol wrth yrru’rtractor sy’n tynnu’r aradr o’i ôl! Ondagor hen gwysi fyddwn ni, dilyn henlwybrau wnawn ni, a chamu ynnhroedleoedd y rhai a aeth o’n blaenauni fentrwn ni, oherwydd bod hynny ynbeth diogel i’w wneud, ac yn llai odrafferth nag aredig cae newydd.

    Yn ystod 2020 fe fu llawer iawn o drafodar wefan Cristnogaeth 21 ynglªn âchydweithio enwadol (neu ddiffyghynny), cyfleoedd a gollwyd, dyddiauafradwyd, a chenadaethau a fethwyd, arhywfaint o drafod eto fyth ar fethiant yrenwadau i uno yn un eglwys ymneilltuolGymraeg yma yng Nghymru yn yflwyddyn 2000.

    Ond yn ystod y cyfnod hwnnw cafwydsawl enghraifft o bethau yn gweithio arlawr daear i ddod â phobl Dduw at eigilydd y tu hwnt a thu draw i afael eingorffennol arnom. Ychydig ohonom a

    dweud y gwir, oni bai am haneswyr,diwinyddion a ffyddloniaid pybyr i rywdrefn neu ddiffyg trefn enwadol sydd yncredu fod dyfodol i enwadaethdraddodiadol mewn cyfnod sydd ar yrun waith mor seciwlar ac eto morysbrydol.

    Clywsom droeon yr hen ddywediad‘Eraill a lafuriasant a ninnau a aethom imewn i’w llafur hwy’ – ond dydyn niddim erbyn hyn yn mynd o gwmpas arfeic ‘penny farthing’ ein neiniau. Rydymyn prysur fynd trwy oes y cerbydautanwydd ffosil wrth i bopeth bron gael eidrydaneiddio er mwyn diogelu’r blaned,er mwyn cymdeithas ac er mwyn llesein hiechyd bydol ac ysbrydol.

    Bu cyfnod Covid-19 yn llyffethair, ynlluddias ac yn llethol ar waithtraddodiadol yr eglwys yn 2020. Onddrwy dechnoleg ryfeddol a chyfle Zoom,Fuze neu Facebook cawsom gyfleoeddi greu cysylltiadau amhrisiadwy newyddi gysylltu pobl â’i gilydd ac i greucymdeithas Gristnogol ffasiwn newyddgyda’n gilydd. Er hynny gwelsom achlywsom gri gynyddol i beidio caueglwysi mewn cyfnod clo. Ond pwyoedd yn gwneud hyn ond y ffydi-dydi’straddodiadol oedd am ddenu’r union raina ddylent gyfarfod dan do gyda phobleraill i wneud hynny!

    Bu’n gyfnod y camau bychain ymlaen i’rdyfodol – camau pwysig, camauallweddol a chamau cwbl angenrheidiolwrth geisio ffyrdd newydd o gadwcysylltiad ag aelodau, cyflwyno’r efengyli’r byd a’r betws. Ac roedd y fraint o gaelgwneud hynny yn brofiad gwylaidd, agwerthfawr a hynod fendithiol. Dwy’r hollflynyddoedd o wasanaethu, pregethu abugeilio dwi ddim yn credu imi bregethui gynulleidfa fwy na rhyw 100 ar y tro, acfe alwch ddychmygu fy anghrediniaetho weld rhyw ddydd fod rhai miloedd o

    bobl wedi agor y neges ar ryw Sul neugilydd ar Facebook. Sôn am gyfle – sônam gyfrifoldeb, a braint.

    Ymlaen â ni felly – trwy’r tywyllwch igyfeiriad y goleuni gan gofio feldywedodd Duw wrth Joshua gynt, ‘yrwyf fi yr Arglwydd dy Dduw gyda thi i bale bynnag yr elych’. Ac felly, ‘Bydd gryf,bydd ddewr, cans yr Arglwydd dy Dduwsydd gyda thi!’ A chofiwn eiriau’rApostol Paul yn ei lythyr ar yr Effesiaid,pa bynnag llwyddiannau a gawn, pabynnag fendithion a ddaw yn sgil eingwaith yn yr eglwys, ‘Iddo ef y bo’rgogoniant yn yr eglwys, ac yng NghristIesu o genhedlaeth i genhedlaeth!’Amen ac amen ddweda’i wrth hynny.

    Ydy hi’n dywyll allan yn fannodeudwch? Ydy dyfodol yr eglwys yndywyll inni?

    Wel nac ydy sifir – ond fe all fod mordywyll, mor ddigynnig, ac mor ddi-weledigaeth ac y dymunwn ni iddo fod!Gwyliwn rhag i’n hagendâu a’n hego’spersonol fod yn llyffethair i’r YsbrydGlân symud yn ein mysg. Ac wrthweddïo am arweiniad Duw mewncyfnod newydd boed inni glywed,gwrando a gweithredu’r arweiniad agawn a mentro ymlaen.

    Parch Jim Clarke

    Ionawr 8, 2021 Y Goleuad 7

    Sylw o’rSEIDIN– Un cam fachymlaen i 2021

    Carwn wahodd darllenwyr y Goleuadi dair darlith a drefnir gan GymdeithasLenyddol ( Bethel) Lerpwl ar zoom yny misoedd nesaf hyn.

    Nos Lun, 11 Ionawr 2021 traddodirdarlith gan y Parch Ddr D Ben Reesar y Fasnach Gaethweision ganroddi sylw arbennig i borthladdLerpwl. Fe’i cynhelir rhwng 7-30–8-30yr hwyr.

    Nos Lun 8 Chwefror 2021 darlithirgan Parch Ddr. D Ben Rees arLenorion ar strydoedd Lerpwl1700-1900 rhwng 7.30 a 8.30 yrhwyr.

    Ac yna ar Noson Gfiyl Ddewi, ar 1afo Fawrth 2021 traddodir darlith ganDr Bleddyn Owen Hughes o BrifysgolAberystwyth ar Carneddog a’i Oesrhwng 7.30 a 8.30 yr hwyr.

    Gwahoddir pob un sydd â diddordeb igysylltu gyda Dr Rees ar ôl 3 Ionawr2021, 5 Chwefror a 20 Chwefror ermwyn derbyn y ddolen berthnasol iymuno â’r sesiynau drwy Zoom –[email protected]

    Yn ddidwyll

    Dr D Ben Rees

    Taro’rPostAnnwyl Olygydd,

    Digon i ti fy ngras…Os yw’r eglwys yn ofni’r negesam ras rhad Duw, y mae’n rhygrefyddol a moesol i bobl.Beth felly yw’r eglwys? Nidyw’n ddim. Yn ddim o gwbl.

    Karl Barth,God Here and Now

  • 8 Y Goleuad Ionawr 8, 2021

    • Wythnos nesaf – Tyrd i weld! •

    Dyma gyfarfod hyfryd iawn…Dechreuadau

    Gweddi

    O Arglwydd Dduw, Duw a thad einHarglwydd Iesu Grist, fe’th addolwn.Ti, grëwr ac arglwydd y bydysawd, fe’thaddolwn. Ti, Dduw y dechreuadaunewydd, fe’th addolwn.

    Gyda’r Salmydd clywn dy alwad. ‘Rhowchi’r ARGLWYDD, fodau nefol, rhowch i’rARGLWYDD ogoniant a nerth.’

    Ac fel y Salmydd bloeddiwn ein mawl‘Rhowch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw;ymgrymwch i’r ARGLWYDD yn ysblanderei sancteiddrwydd.’ Cyffeswn na allwnwynebu ‘ysblander dy sancteiddrwydd’ felag yr ydym. Mewn meddwl, gair agweithred cyffeswn ein bod wedi syrthio’nbrin o’th ogoniant. Diolchwn am yrArglwydd Iesu Grist, trwy’r hwn yr wyt yn‘gwneud pob peth yn newydd.’ Maddau ini ein dyledion. Adnewydda dy fywydynom, a thrwom. Amen.

    * * * *Heddiw yr ydym am edrych ar ddramafawr Duw. Ac y mae i’n myfyrdod dairgolygfa.

    Golygfa 1 –Y Crëwr nerthol Darlleniad: Genesis 1:1-5

    O frawddeg gynta’r Beibl hyd ei diweddcyhoeddir mai byd Duw yw hwn. Mewndatganiad diwinyddol ysgubol aphellgyrhaeddol cyhoeddir mai ef yw eigrëwr. Ac ni all y Cristion fethu adnabodadleisiau Trindodaidd yn ein darlleniad.Duw yw crëwr y byd. Eto trwy eiddoethineb, y Gair, y ‘Dywedodd Duw’tragwyddol, daeth cyfanfyd i fod. Y ‘Gair’hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw.Ef yw’r un y dywedid amdano, ‘Daeth pobpeth i fod trwyddo.’ Ac ef yw’r Gair a‘ddaeth yn gnawd’ yn Iesu Grist. (Ioan1:1-14; Colosiaid 1:9 ymlaen) Mae’r gairyn fwy nag asiant y gweithredu. Ef ywcyfryngwr Duw ei hun. Ac y mae i’r ‘gwyntnerthol’ bersonoliaeth. Ysbryd Duw ydywsy’n gwarchod, yn mwytho, yn coleddu.

    Golygfa 2 –Y Llais nertholDarlleniad: Salm 29

    Yn hanes berw’r oesau, goruwch cythrwfly byd, mae ‘llais’ un sy’n llefaru. Mae’nfwy na therfysg y dyfroedd ansefydlog,stormus a chythryblus. Haedda’rArglwydd hwn ein haddoliad a’nhufudd-dod a’n harswyd. Mae ei lais yntaranu (ad 3) mae’n nerthol (ad 4) ynogoneddus (ad 4), mae’n dryllio (ad 5) acyn bywiogi. Goruwch pob duw, a phobterfysg, saif gogoniant a nerth yr

    Arglwydd. Ac ef yw’r un sy’n dwyntangnefedd. Y mae pwysau ei ogoniantyn arswydus. Ond mae presenoldeb eidangnefedd yn gyflawn ac yn dwyncyflawnder. Ein hymateb priodol ni ywrhoi iddo ‘gogoniant a nerth’. Cydnabodei hawl. Anrhydeddu’r hwn sy’n deilwng.

    Golygfa 3 – Dechreuadau newyddDarlleniad: Marc 1:1-11

    Clywyd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf,hyd at syrffed mae’n wir, sôn am Cofid a’ieffeithiau. Ac fe glywyd negeseuon i’ndiogelu – am gadw pellter cymdeithasol,am wisgo mwgwd, am beidio cyfarfod odan do, am bwysigrwydd awyr iach, acwrth gwrs i olchi’n dwylo’n gyson.Peryglus oedd peidio â rhoddi sylw i’rpethau hyn.

    Wynebodd bob un ohonom ddewis. Sef,yn gyntaf i sylweddoli’r realiti newydd apherygl yr haint anweledig, ac oherwyddei bresenoldeb, newid ein ffordd o feddwla’n ffordd o fyw. Neu yn ail, fe allemanwybyddu’r pla anweledig, ei alw’n‘hoax’ neu’n dwyll, neu danbrisio’i berygla chario mlaen fel roeddem gynt. Roeddgan bob un ei farn a phob un eibenderfyniad.

    Newidiodd rhai pobl eu harferion, eu dullo fyw a’i meddwl yn sgil yr wybodaeth agyflwynwyd. Golygodd hynny, i’r rhai agredodd dystiolaeth feddygol, ddilyncanllawiau’r llywodraeth. Dewisodd eraillei anwybyddu’n llwyr. I’r rhai a gredodd ydystiolaeth wyddonol arweinioddgwybodaeth + dealltwriaeth + ffydd = dullo fyw gwahanol.

    Daeth Ioan gan gyhoeddi bod yr amserwedi dod i gyflawni’r addewidion a wnaedgan Dduw drwy’r proffwydi. DyrchafoddIoan ei lais yn yr anialwch gan fynnu iddogael ei alw i baratoi ffordd yr Arglwydd ynôl gair Eseia. O’r anialwch ac o gyrioncymdeithas ac nid mewn coridorau grymy clywir tystiolaeth i’r newyddion da ar eifwyaf eglur!

    Yn ôl fersiwn Mathew o weinidogaethIoan cyhoeddai Ioan bod ‘Teyrnasnefoedd wedi dod yn agos.’ Galwai’rwybodaeth yma am ymateb. Edifeirwch +credu’r newyddion da = newid ffordd ofyw. Yng ngoleuni gwybodaeth newyddcafodd pob un a glywodd neges Ioanddewis – credu’r neges a newid eu fforddo feddwl a’i ffordd o fyw, neu, eianwybyddu’n llwyr.

    I Ioan, mae dyfodiad yr un sy’n bedyddioâ’r Ysbryd Glân, yn galw am baratoad acam ostyngeiddrwydd neilltuol.

    Ac yna, wedi deng mlynedd ar hugain ofod yn y cysgodion ymddangosodd MabDuw; gwelwyd y Gair a ddaeth yn gnawd,clywyd y Llais gogoneddus (Salm 29);amlygwyd y Cyfryngwr dwyfol mewncnawd. Daeth crëwr y bydoedd i’w fyd;daeth yr un yr oedd ei Ysbryd ynymsymud ar wyneb y dyfroedd, o dan ydfir a greodd, mewn bedydd. Daethbrenin yr holl fyd i oedfa ein hadfyd.Daeth gan uniaethu ei hun gydachythrwfl a thywyllwch bywyd. Rhannoddein meidroldeb. Ac wrth iddo fynddrwy ddfir y bedydd uniaethodd yrhwn sy’n ddibechod, gyda’n pechod a’ntranc.

    Cyhoeddodd llais o’r nef, ‘Ti yw fy Mab,yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.’Mae’r datganiad yn cyfuno dwyYsgrythur. Yn Salm 2:7, Salm oedd yncael ei ystyried fel Salm Feseianaidd,caiff y cyhoeddiad ‘Fy Mab wyt ti’ eigyplysu gyda llywodraeth a brenhiniaethy cenhedloedd oll. Yn yr un modd maeEsesia 42:1 yn addo y bydd y ‘Gwas’‘f’etholedig, yr wyf yn ymhyfrydu ynddo’yn ostyngedig ac yn dwyn goleuni abywyd i’r holl fyd. Y gwas hwn yw’r unfyddai’n dioddef dros gamwedd aphechod y bobl. (Eseia 53)

    Ond mae Marc am i ni sylwi ar un petharall hefyd. Fel y bu’r Tad, a’r Mab, a’rYsbryd Glân yng nghlwm â’r creu ynnechrau amser mae ‘presenoldeb’ yDuwdod yn ei lawnder yn arwyddo bod‘creadigaeth newydd’ yn bosib, ac wediei sylfaenu yn y Person dwyfol-dynolhwn, Iesu Grist.

    Mae realiti’r dyfodiad hwn yn galwarnom fel unigolion, fel byd, i glywed, iedifarhau ac mewn ffydd i rodio mewnadnewyddiad bywyd gyda’r hwn sy’n‘gwneud pob peth yn newydd.’

    Gweddi

    Dduw pob gras a phob gogoniant,cawsom ein galw gennyt trwy dy ‘lais’anorchfygol i fod yn bobl i ti. Caniatâ ininnau’r fraint o fedru dy ganlyn mewnufudd-dod a gyda dewrder. Fel yruniaethodd dy Fab ei hun trwy ddyfroeddy bedydd gyda’n byd syrthiedig ni,caniatâ i ninnau a fedyddiwyd yn ei enwef rannu yn ei weinidogaeth. Caniatâ i nigael ein mabwysiadu i’th deyrnas drwydy Ysbryd Glân ac ysbrydola ni gydathân dy Ysbryd i’th ddilyn yn dy waithadnewyddol. Gofynnwn hyn yn enw IesuGrist, yr hwn sy’n teyrnasu gyda thi yTad, a’r Ysbryd Glân yn oes oesoedd,Amen.

    Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

    Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.