8
Wedi’r cloi mawr, a’r ymbellhau, mae sôn bellach am ddechrau ail agor ein haddoldai. A dyn ni wrthi’n paratoi ar gyfer dod at ein gilydd eto i addoli. Beth fydd y gwahaniaeth tybed? Tybed sut ydych chi’n teimlo, wrth feddwl am hyn? Rhyw gymysgfa o deimladau ydw i yn ei glywed gan bobl. ‘Bydd, fe fydd yn braf cael mynd yn ôl’. ‘Dwi wedi colli’r addoliad ar y Sul yn fawr iawn, wedi colli cwmni cyd-aelodau, wedi colli clywed y Beibl yn cael ei ddarllen, pregeth, a chanu emynau’. ‘Dwi wedi colli arferiad oes o fynd i’r capel’. Wel dwi ddim yn sifir. Mae cael pregethau ar Zoom, youTube, a ‘Face book’, radio a theledu, wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fy Sul i. Dwi’n cael amrywiaeth o bregethwyr, ac yn cael dewis be ydw i’n gwrando arno. Dwi’n cael eistedd yn fy nghadair, heb symud, yn lle mynd i gapel hefo dim ond llond dwrn o bobl yn gwrando. Ia, mi ydw innau’n meddwl y bydd hi’n braf mynd yn ôl i gymdeithas cyd addolwyr, ond sut fynd yn ôl fydd o. Mi ydw i reit ofnus, heb fod yn unman ynghanol pobol ers misoedd. Mi fydd yn rhaid golchi dwylo cyn mynd i mewn, peidio cadw yn rhy glos wrth y drws ac eistedd ymhell oddi wrth ein gilydd. Dim canu nac ysgwyd llaw, ond mi ddown i arfer mae’n sifir. Mae’n anodd yn tydi? Llawenhau oedd y Salmydd wrth glywed ei fod yn cael mynd yn ôl i Dª yr Arglwydd. Sut y byddwn ni tybed? Yr hyn sydd yn rhaid i ni gofio ydyw, fod Duw wedi bod yn agos atom ar hyd y misoedd yma. Mae Duw yn dal i siarad hefo ni drwy wahanol gyfryngau, a llawer un wedi cael bendith. Mi ydw i wedi siarad hefo rhai, oedd heb fod mewn oedfa ers blynyddoedd, ac wedi bod yn gwrando ar y gwahanol wasanaethau ac yn edrych ymlaen at y rhai nesaf. Wyddom ni ddim faint o bobl mae Duw wedi ei gyffwrdd ynghanol y pandemig. Faint o bobl sydd wedi darganfod eu ffydd, ac wedi dod yn ymwybodol iawn o gariad Duw, a’i Fab Iesu Grist. Mae hi wedi bod yn amser anodd, amser unig i rai, amser o alaru i eraill, amser o anobaith, ac o fod heb weld anwyliaid, ac efallai yn amser o addoliad personol dwys. Fel mae Llyfr y Pregethwr yn ei ddweud ‘Y mae amser wedi ei bennu i bopeth… Mae Duw’n gwneud i bob peth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o’r tragwyddol’ (3:1,11) Sut y bydd hi pan, wnawn ni ail agor? Wyddom ni ddim yn iawn. Ein gweddi ydyw y bydd mwy o bobl yn teimlo fel dod i addoli, ond cofiwn mai nid adeilad sy’n gwneud Eglwys ond pobl. Diolch i’r rhai sydd wedi bod yn lledaenu’r Efengyl yn ein mysg, drwy ba gyfrwng bynnag yn ystod yr amser clo, a boed i Dduw fendithio popeth. ‘Gwna dy Eglwys yn un gref, Iôr, ein calonnau una’n awr, gwna ni’n un Iôr, yn dy gorff, Iôr, doed dy deyrnas ar y llawr.’ C.FF 628. Olwen Williams CYFROL CXLVIII RHIF 41 DYDD GWENER, HYDREF 9, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Dyddiadur Trefeca … t. 2 • Sylw o’r Seidin … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 Ail agor ac ail afael Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef: amser i eni, ac amser i farw, amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio’r hyn a blannwyd; amser i ladd, ac amser i iacháu, amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu; amser i wylo, ac amser i chwerthin, amser i alaru, ac amser i ddawnsio; amser i daflu cerrig, ac amser i’w casglu, amser i gofleidio, ac amser i ymatal; amser i geisio, ac amser i golli, amser i gadw, ac amser i daflu ymaith; amser i rwygo, ac amser i drwsio, amser i dewi, ac amser i siarad; amser i garu, ac amser i gasáu, amser i ryfel, ac amser i heddwch. Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio? Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i’w chyflawni. Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o’r dechrau i’r diwedd. ‘Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dª yr Arglwydd’. ‘Roeddwn wrth fy modd pan ddywedon nhw, Awn i deml yr Arglwydd’ (beibl.net)

yGOLEUAD - ebcpcw.cymru · Gwers 14 Thomas yr Amheuwr Gweddi Wrth gofio’r elfen o amheuaeth mewn wythnos ym mywyd Thomas, dyro i ni fedru ddarganfod y gobaith y byddi di’n drech

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: yGOLEUAD - ebcpcw.cymru · Gwers 14 Thomas yr Amheuwr Gweddi Wrth gofio’r elfen o amheuaeth mewn wythnos ym mywyd Thomas, dyro i ni fedru ddarganfod y gobaith y byddi di’n drech

Wedi’r cloi mawr, a’r ymbellhau, mae sôn bellach am ddechrauail agor ein haddoldai. A dyn ni wrthi’n paratoi ar gyfer dod atein gilydd eto i addoli. Beth fydd y gwahaniaeth tybed?

Tybed sut ydych chi’n teimlo, wrth feddwl am hyn? Rhywgymysgfa o deimladau ydw i yn ei glywed gan bobl.

‘Bydd, fe fydd yn braf caelmynd yn ôl’. ‘Dwi wedi colli’raddoliad ar y Sul yn fawriawn, wedi colli cwmnicyd-aelodau, wedi colliclywed y Beibl yn cael eiddarllen, pregeth, a chanuemynau’. ‘Dwi wedi colliarferiad oes o fynd i’r capel’.

Wel dwi ddim yn sifir. Maecael pregethau ar Zoom,youTube, a ‘Face book’,radio a theledu, wedigwneud gwahaniaeth mawri fy Sul i. Dwi’n caelamrywiaeth o bregethwyr,ac yn cael dewis be ydw i’ngwrando arno. Dwi’n caeleistedd yn fy nghadair, hebsymud, yn lle mynd i gapelhefo dim ond llond dwrn obobl yn gwrando.

Ia, mi ydw innau’n meddwl ybydd hi’n braf mynd yn ôl igymdeithas cyd addolwyr,ond sut fynd yn ôl fydd o.Mi ydw i reit ofnus, heb fodyn unman ynghanol pobolers misoedd. Mi fydd yn rhaidgolchi dwylo cyn mynd imewn, peidio cadw yn rhyglos wrth y drws ac eisteddymhell oddi wrth ein gilydd.Dim canu nac ysgwyd llaw,ond mi ddown i arfer mae’nsifir.

Mae’n anodd yn tydi?

Llawenhau oedd y Salmyddwrth glywed ei fod yn caelmynd yn ôl i Dª yr Arglwydd.Sut y byddwn ni tybed?

Yr hyn sydd yn rhaid i ni gofio

ydyw, fod Duw wedi bod yn agos atom ar hyd y misoedd yma.Mae Duw yn dal i siarad hefo ni drwy wahanol gyfryngau, allawer un wedi cael bendith. Mi ydw i wedi siarad hefo rhai,oedd heb fod mewn oedfa ers blynyddoedd, ac wedi bod yngwrando ar y gwahanol wasanaethau ac yn edrych ymlaen aty rhai nesaf.

Wyddom ni ddim faint o boblmae Duw wedi ei gyffwrddynghanol y pandemig. Fainto bobl sydd wedi darganfodeu ffydd, ac wedi dod ynymwybodol iawn o gariadDuw, a’i Fab Iesu Grist. Maehi wedi bod yn amseranodd, amser unig i rai,amser o alaru i eraill, amsero anobaith, ac o fod hebweld anwyliaid, ac efallai ynamser o addoliad personoldwys.

Fel mae Llyfr y Pregethwryn ei ddweud ‘Y mae amserwedi ei bennu i bopeth…Mae Duw’n gwneud i bobpeth ddigwydd yn berffaithar yr amser iawn. Mae hefydwedi gwneud pobl ynymwybodol o’r tragwyddol’(3:1,11)

Sut y bydd hi pan, wnawn niail agor? Wyddom ni ddimyn iawn. Ein gweddi ydyw ybydd mwy o bobl yn teimlofel dod i addoli, ond cofiwnmai nid adeilad sy’n gwneudEglwys ond pobl.

Diolch i’r rhai sydd wedi bodyn lledaenu’r Efengyl yn einmysg, drwy ba gyfrwngbynnag yn ystod yr amserclo, a boed i Dduw fendithiopopeth.

‘Gwna dy Eglwys yn un gref,Iôr, ein calonnau una’n awr,gwna ni’n un Iôr, yn dy gorff,Iôr, doed dy deyrnas ar yllawr.’ C.FF 628.

Olwen Williams

CYFROL CXLVIII RHIF 41 DYDD GWENER, HYDREF 9, 2020 Pris 50c

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

yGOLEUADE G LW Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

Dyddiadur Trefeca … t. 2 • Sylw o’r Seidin … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8

Ail agor ac ail afael

Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:amser i eni, ac amser i farw,amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio’r hyn a blannwyd;amser i ladd, ac amser i iacháu,amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu;amser i wylo, ac amser i chwerthin,amser i alaru, ac amser i ddawnsio;amser i daflu cerrig, ac amser i’w casglu,amser i gofleidio, ac amser i ymatal;amser i geisio, ac amser i golli,amser i gadw, ac amser i daflu ymaith;amser i rwygo, ac amser i drwsio,amser i dewi, ac amser i siarad;amser i garu, ac amser i gasáu,amser i ryfel, ac amser i heddwch.Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio? Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i’w chyflawni.Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodddragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all nebddirnad yr hyn a wnaeth Duw o’r dechrau i’r diwedd.

‘Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dª yr Arglwydd’.‘Roeddwn wrth fy modd pan ddywedon nhw, Awn i deml yr Arglwydd’ (beibl.net)

Page 2: yGOLEUAD - ebcpcw.cymru · Gwers 14 Thomas yr Amheuwr Gweddi Wrth gofio’r elfen o amheuaeth mewn wythnos ym mywyd Thomas, dyro i ni fedru ddarganfod y gobaith y byddi di’n drech

Wrth feddwl a chychwyn paratoi ar gyferTymor Diolchgarwch a Nadolig 2020 ahynny mewn cyfnod gwahanol eleni,dwi wedi bod yn meddwl am Salm 19a’r adnod gyntaf; Y mae’r nefoedd ynadrodd gogoniant Duw, a’r ffurfafen ynmynegi gwaith ei ddwylo (Salm 19:1).Mae’r ddau dymor yn adlewyrchugogoniant Duw mewn perthynas â’ifyd.Y Diolchgarwch yn nhermau’rcread a’r Nadolig yn nyfodiad IesuGrist. Gogoniant rydym yn ei ddealldrwy adnabod Iesu Grist gan maiEf ydy’r esboniad i ddeall gogoniantDuw.

Cofiais felly am eiriau un o gyfeillionDr Martin Luther King yma. Dyn o’renw Dr S. M. Lockeridge. RoeddDr Lockeridge yn sefyll hefo MartinLuther King yn yr ymdrech drosgyfartaledd i’r dyn du a heddiw mifuasai yntau yn dweud bod ‘bywydaudu yn cyfri’.

Wrth ddarllen geiriau Lockeridge, dwiam i chi ddychmygu gweld dyn tebygiawn ei olwg i Martin Luther King. Yddau o dras Affro Caribî, y ddau ynweinidogion yr Efengyl, y ddau yngweithio o blaid y tlawd a’r difreintiedig.Y ddau yn ymgyrchwyr dros gyfiawnder.Felly dychmygwch gyfeillion. DymaDr Lockeridge yn ceisio disgrifio IesuGrist ar sawl lefel ond eto yn teimlo fodei ddisgrifio o hyd yn annigonol. Oswnewch chi roi ei enw yn google yna fegewch ei weld ei hun yn adrodd ygeiriau isod.

Am Iesu Grist meddai:

‘Mae’n Frenin Cyfiawnder. Yn Frenin yr Oesau, yn Frenin y Nefoedd.

Iesu Grist ydy Brenin Gogoniant. Ef ydyw Brenin y Brenhinoedd acArglwydd yr Arglwyddi. Dyma ein Brenin.Ydw i yn ei adnabod felly tybed?

Mae’r Salmydd yn dweud, “Y mae’rnefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a’rffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo. Mae Mrenin yn bob dim. D’oes dim mesur ar ei gariad. Fedr yr un telesgop gyrraedd eibendraw.D’oes yr un rhwystr fedr ei atal rhagtywallt ei fendithion arnom. Mae’n fythol gryf, yn gyfan gwblddidwyll, yn dragwyddol ddiysgog. Mae’n anfarwol yn ei ras, ei allu’nanghymharol ac yn deg yn eidrugaredd. Ti’n ei adnabod?

Mab Duw ydyw. I’r pechadur mae’n Waredwr.

Mae’n ganolbwynt gwareiddiad. Mae’n sefyll ar ben ei Hun, yr Ununigryw, yn anghymharol. Mae’n Wyrth yr oesau, yn enghraifftberffaith o’r hyn sy’n dda. D’oes yr un gair yn medru cychwyn eiddisgrifio’n iawn.

Ganddo Ef yn unig mae’r cymwysterau ifod yn Waredwr digonol. Ysgwn i! Wyt ti yn ei adnabod heddiw?

Mae’n ychwanegu nerth i’r gwan. Mae ar gael pan gei dy hudo, dy ddenua’th demtio. Mae’n cydymdeimlo ac yn achub. Mae’ncynnal, yn amddiffyn ac yn arwain. Mae’n gwella’r cleifion, yn glanhau’rgwahangleifion; yn maddau i bechaduriaid ac yn einrhyddhau o ddyled, yn gwaredu’r caeth,yn amddiffyn y gwan, yn fendith i’r hena’r ifanc.Gad i mi wybod, wyt ti’n ei adnabod?

Wel! Mae ei addewidion yn sicr, eioleuni yn ddigon i fyd cyfan, ei ddaioni’nddiddiwedd a’i drugaredd yn ddiderfyn.D’yw ei gariad ddim yn newid. Mae ei air yn ddigon. Ei iau yn esmwyth a’i faich yn ysgafn(Mathew 11.30).Hoffwn ei ddisgrifio’n iawn i chi, ondfedra i ddim. O! Am fedru dweud mwy amdanowrthych.

Chafodd marwolaeth mo’r gorau arno afedrodd y bedd mo’i ddal O! Hoffwn yn wir, fedru dweud rhywbethmwy amdano wrthych.’

Be ddwedwn ni felly bobl am eiriauDr Lockeridge?

Efallai fod geiriau William Edwards,1773-1853 (Caneuon Ffydd 489) ynhelpu yma,

‘Does neb ond ef, fy Iesu hardd, a ddichon lanw ’mryd;

Fy holl gysuron byth a dardd o’i ddirfawr angau drud.’

W Bryn Williams, Pwllheli

2 Y Goleuad Hydref 9, 2020

Fe glywsoch am ‘Llythyrau Trefeca’ a fu’n chwarel i sawlymchwilydd oedd â diddordeb yn hanes Howell Harris, a’rTeulu a sefydlodd yn Nhrefeca. Newydd ei gyhoeddi y maeA Trefeca Diary (1973–1984), gan y Parchedig Jenny Garrard.Mewn 9 pennod mae Jenny’n cyflwyno darlun o’r datblygiadaua fu yn yr hen goleg ers iddi fynd yno yn GynorthwyyddGweinyddol yn 1973, swydd a aeth yn Warden Cynorthwyolymhen y flwyddyn. Pan gyrhaeddodd Jenny Drefeca o Eye,swydd Suffolk, roedd y Parchedig John Tudor, wedi gweithredufel Warden am 7 mlynedd. Olynwyd y Tudoriaid ganY Parchedig Arthur Meirion (1975) a Mr Ronwy Rogers (1983).Cyfeirir hefyd at gyfraniad cyfoethog priod y tri, Nerys, Morfudda Dorothy.

Pan adawodd Jenny Drefeca roedd ganddi lu o atgofion,dyddiaduron a phethau cofiadwy a gasglodd yn ystod yr unmlynedd ar ddeg; ffrwyth hynny yw’r llyfryn hwn a cheir hefyd8 tudalen o luniau. Dywed Jenny, ‘Rhain oedd blynyddoedd

Sut fath un felly ydy’r un sy’n ffynhonnell pob cysur?

‘A TREFECA DIARY (1973–1984)’gan Jenny Garrard

(parhad ar dudalen 7)

Page 3: yGOLEUAD - ebcpcw.cymru · Gwers 14 Thomas yr Amheuwr Gweddi Wrth gofio’r elfen o amheuaeth mewn wythnos ym mywyd Thomas, dyro i ni fedru ddarganfod y gobaith y byddi di’n drech

Gwers 14

Thomas yr Amheuwr

Gweddi Wrth gofio’r elfen o amheuaeth mewnwythnos ym mywyd Thomas, dyro i nifedru ddarganfod y gobaith y byddi di’ndrech na phob amheuaeth ynom ac sy’nrhan o fywydau cynifer yn eincymunedau heddiw. Boed i bawb sy’namau glywed y gwahoddiad iymestyn allan at Grist a darganfodffydd. Amen.

Darllen:Ioan 11:16; Ioan 14:20; Ioan 20: 24–9

CyflwyniadYstyr enw Thomas yw bod yn efaill, ernid oes enwi’r brawd arall. Ar wahâni’w nodi fel un o ddisgyblion Iesu ac yndod o ardal Galilea, dim ond trichyfeiriad arall sydd ato yn yrefengylau. Ar ddiwedd yr adroddiad amatgyfodiad Lasarus, dywedodd Thomasy byddai’n barod i farw gyda Iesu pe bairaid; ac yn yr hanes am Iesu’n paratoi’rdisgyblion am fywyd ar ôl ei farw ef eihun, Thomas sy’n ymateb i osodiadIesu, “Fe wyddoch y ffordd i’r lle’rwyf fi’n mynd …” drwy ddweud,“Arglwydd, ni wyddom i ble’r wyt ynmynd. Sut y gallwn wybod y ffordd?”Ef yw’r disgybl nad oedd yn bresennoly tro cyntaf i’r Iesu fod gyda’iddisgyblion yn yr ystafell gloëdigddydd yr Atgyfodiad a gwrthododdgredu nes iddo ef weld “ôl yr hoelion ynei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yrhoelion, a’m llaw yn ei ystlys”. Yn y cyntaf o’r tri chyfeiriad ato yn

Efengyl Ioan, mae’n hyderus ei anian(11:16), ond yn yr ail gyfeiriad mae’ndangos mesur o ansicrwydd drwy ofynsut y gall ef wybod y ffordd (Ioan 14).Erbyn Ioan 20, sef hanes yrymddangosiad wythnos wedi dydd yrAtgyfodiad, ceir portread ohono fel unsydd wedi ymbellhau o gwmni’rdisgyblion eraill ac angen tystiolaethweledol. Dim ond wrth weld y clwyfaudrosto’i hun y llwyddodd i wneud eigyffes. Honnir iddo gael ei ferthyru arFynydd Sant Thomas ger tref Chennaiyn ne India yn 72 OC. Enw arall ar y

dref hon yw Madras – canolfan dysg adiwylliant bwysig yn y dalaith. Cafoddfyw am ddeugain mlynedd yn tystio i’w“Arglwydd a’i Dduw”, cyn wynebu’rmerthyrdod terfynol.

MyfyrdodWrth i Ioan enwi Thomas deirgwaith,rhydd i’r darllenwyr cyntaf ddarlun o una ddangosodd frwdfrydedd arbennig iwynebu marwolaeth yng nghwmni Iesu,ond a ddangosodd ansicrwydd ynddiweddarach ar y daith – stori nidannhebyg i Pedr yn gwadu Iesu. Eto,daeth Thomas yn un o genhadonymroddedig yr Eglwys Fore gan fywam ddeng mlynedd ar hugain felarweinydd ac apostol mewn ardal cynbelled â de India. Digon posibl y byddaiamryw o blith yr ail genhedlaeth oGristnogion a fyddai wedi cael braw arôl gweld Jerwsalem yn syrthio (70 OC)a dechrau erledigaeth yr eglwys. Wrth iIoan rannu brasluniau o Thomas,byddai wedi calonogi’r amheuwyr yn yreglwys yn 90 OC gan bwysleisiobod “gwynfyd i’r sawl a gredoddheb iddynt weld”. Roedd Thomasyn enghraifft o amheuwr a gafodddröedigaeth arall. Bydd amheuwyr ym mhob cyfnod a

chymuned, a’r unig ateb iddynt hwy ywedrych ar glwyfau Iesu a sylweddolibod yr hwn a laddwyd ac a gladdwydeto’n fyw. Nid rhith oedd hanes Iesuond gwirionedd, ac mae mor wir apherthnasol nawr ag erioed. Byddgwahoddiad Iesu i bawb ohonom i estynbys a llaw, a chael ein herio i gredu neuwrthod credu, i ddilyn neu gefnu.Byddwn yn gyfarwydd gyda llawer offrindiau a chydnabod sy’n amheuwyrac eraill sy’n anghredinwyr. Y cyfan ygallwn ei wneud yw rhannu einprofiadau personol ni a’u hannog ynweddigar i fentro drwy wahodd Iesu i’wbywyd. “Lle roeddwn gynt yn ddall,rwy’n gweld yn awr” yw profiad llawerohonom, a hynny drwy ras Duw ynunig. Maddeuwyd i Thomas am gadwdraw, a chafodd ei groesawu yn ôl i’rgymuned. Boed i’r amheuwyr heddiwdeimlo’r un croeso wrth ailystyried euhymateb i’r hwn sy’n ein gwahodd iedrych ar y clwyfau. Her pob eglwysyw darganfod llwyfan i sgwrsio â’r sawl

sydd eto i gredu neu sydd wedicolli ffydd, a gwrando’n deg ar euprofiad.

Gweddi Diolch i ti, nefol Dad, am dy amyneddyn dy ymwneud â ni. Byddwn yn gosodamodau i’n credu weithiau fel pebyddem yn gosod telerau hunanol.Maddau i ni ein hagweddau rhyfedd.Diolch am glywed rhan o hanesThomas, ac am ei deyrngarwch i ti amddeugain mlynedd wedi’r Pasg cyntaf.Helpa ni i fod yn dystion morymroddedig ag ef, ac yntau’n bywmewn cyfnod mor heriol. Amen.

Trafod ac ymateb:

• Pam y credwch fod Ioan wedi rhoiinni frasluniau o Thomas fel un oeddwedi dangos ansicrwydd wrth ddilynIesu?

• A oes raid wrth gred gadarn a diysgoger mwyn bod ymhlith ei ddisgyblion?

• Beth yw ffydd (gweler Hebreaid11:1)?

• A oes cysur inni bod hyd yn oed yMethodistiaid cynnar yn sôn amfrwydro yn erbyn anghrediniaeth acamheuon? Gweler emyn DafyddWilliam: ‘Anghrediniaeth, gad fi’nllonydd …’ (Caneuon Ffydd, 729)

Hydref 9, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Sul, 11 Hydref

Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

Yr wythnos yma, bydd Ryland ymMhontypridd yn clywed sut mae’r tada’r mab, Martyn a Meilyr Geraint, ynateb y galw am fiwsig ysbrydolmodern. A bydd yn cwrdd â CathWoolridge i weld sut mae hi’ndefnyddio grym cerddoriaeth iledaenu’r efengyl. Cawn hefyd oedfa ânaws ychydig mwy modern o Theatr yFfwrnes, Llanelli, o dan arweiniadRhodri Darcy.––––––––––––––––––––––––––––––

Oedfa Radio Cymru11 Hydref am 12:00yp

yng ngofalMorris Pugh Morris, Rhuthun

Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

Page 4: yGOLEUAD - ebcpcw.cymru · Gwers 14 Thomas yr Amheuwr Gweddi Wrth gofio’r elfen o amheuaeth mewn wythnos ym mywyd Thomas, dyro i ni fedru ddarganfod y gobaith y byddi di’n drech

“Fydd dim teulu estynedig yn dathluYom Kippur gyda ni eleni,” meddSarah Liss.

“Bydd Yom Kippur yn fiyl gwblwahanol i fi eleni,” medd SarahLiss, cyn-ddisgybl yn Ysgol GyfunPlasmawr, Caerdydd, sydd bellach ynbyw yn Jerwsalem. “Fel Iddewes, dwiwrth fy modd gyda gwyliau sanctaiddRosh Hashanah a Yom Kippur – un ynnodi’r flwyddyn newydd Iddewig a’rllall yn ddydd y cymod, diwrnod lle ry’nni fel arfer yn gweddïo mewn synagogyn gofyn am faddeuant.”Ond i Iddewon fel Sarah Liss,

mae eleni yn gwbl wahanolwrth i Brif Weinidog Israel,Benjamin Netanyahu, osodcyfyngiadau pellach ar y wladyn sgil mwy o achosion oCovid-19. Mae nifer wedi bodyn protestio yn erbyncyfyngiadau llymach ac wedibod yn gwneud hwyl am ben ygwleidyddion. Israel syddbellach â’r mwyaf o achosion ypen nag unrhyw wlad arall yn ybyd.“Fel arfer ry’n ni’n treulio’r

diwrnod yn y synagog ar fiylYom Kippur,” meddai Sarah. “Ynoson cynt bydden ni’n caelpryd mawr gyda’n teuluoeddcyn i ni orfod ymprydio. Eleni roeddYom Kippur yn dechrau ar fachlud haulnos Sul (Medi 27) ac yn dod i ben arfachlud haul nos Lun (Medi 28). Yndraddodiadol mae’n ddiwrnod arbennigiawn – pawb yn bwyta cawl cyw iâr adigon o carbohydrates ar y noson cynti’n cynnal gydol y diwrnod.“Mae’r diwrnod yn gyfle i rywun

fyfyrio ar yr hyn y mae e’n bersonolwedi ei wneud gydol y flwyddyn, cyflei feddwl beth y dylid fod wedi ei wneudyn well a chyfle i ofyn am faddeuant.Mae e wir yn ddechrau newydd ac maerhywun yn teimlo’n bur a glân.“Rhaid gwisgo gwyn fel angylion – a

does dim hawl i wisgo lledr. Yn wir,does dim hawl i wneud dim byd – maeunrhyw weithred gorfforol yn dodrhyngom ni a Duw. Mae yna ychydig obreaks oherwydd, fel arfer, ry’n ni yn ysynagog drwy’r dydd ond mae pethauyn wahanol iawn eleni.”Bellach mae nifer o’r synagogau yn

Israel wedi cau, a dim ond rhyw 20 obobl sy’n cael dod at ei gilydd yn yrawyr agored. Dyw pobl chwaith ddim

yn cael teithio yn bell o’u cartrefi.“Y tebyg yw y bydd y rhan fwyaf o boblfel fi yn addoli yn yr awyr agored, ondmae cyfyngiadau a does dim hawl iwahodd teulu estynedig i’r cartref,”ychwanegodd Sarah.

‘Cwympo mewn cariad â’r wlad’

Cafodd Sarah ei magu yn Nhregannayng Nghaerdydd, ac wedi gadael YsgolPlasmawr aeth ar ei blwyddyn gap i fywyn Jerwsalem. Mae ei rhieni yn parhau ifyw yng Nghymru.

“Pan ro’wn yn byw yng Nghaerdydd,arferwn addoli yn y synagog yngNghyn-coed,” meddai, “ond gan bo’ fiddim wedi mynd i ysgol Iddewigroeddwn i’n teimlo bo’ fi angen gwybodmwy am Iddewiaeth. Roeddwn ieisiau gwybod mwy am y Torah – yBeibl Iddewig – a byw’r bywydIddewig.“Pan es i am flwyddyn i Israel, doedd

hi ddim yn fwriad gen i aros ond ’nes iwir gwympo mewn cariad â’r wlad aphenderfynu byw yma. Wedi’rflwyddyn gap pan ddysgais i Hebraeg,es i astudio optometreg. Dwi bellachyn briod ac mae gennym un bachgenac mae babi arall ar y ffordd ymhendeufis.“Ar ôl i fi ddod draw fe ddaeth fy nau

efaill (sef fy mrawd a chwaer, Joshua aMalka) draw, ac maen nhw hefyd wediaros yma. Dwi’n colli Caerdydd ac yncaru Cymru ond Israel yw’n cartref nifel Iddewon, ac yn amlwg mae’n hawsbod yn Iddew yma nag yngNghymru. Mae’r gwyliau Iddewig ynrhan o’r bywyd bob dydd a bwydkosher.”

Cacen fêl i gael blwyddyn well

Mae Sarah yn dweud bod ei ffrindiauyng Nghymru yn gofyn yn aml iddi amddiogelwch Jerwsalem ond dywed nadyw hi erioed wedi cael trafferth.“A dweud y gwir, rwy’n teimlo’n fwy

saff yma nag yr oeddwn mewn rhannauo Gaerdydd ond mae ’na lefydd, wrthgwrs, ry’n yn cael ein cynghori i beidiomynd iddynt. Mae rhywun ynymwybodol o wleidyddiaeth Israel onder bo’ ni’n cael tipyn o etholiadau, dydwi byth yn siarad am faterion

gwleidyddol. Yn yr ysbyty lledwi’n gweithio, ni’n checko ayw person yn Israeli neu’nPalestinian, ond dyna i gyd rili.Mae fy ffrind gorau i’nBalestiniad.“Eleni yw un o’r cyfnodau

anoddaf i fi fyw yma ynJerwsalem. Mae Covid yngyfnod anodd i ni i gyd. Yn yrysbyty lle rwy’n gweithio mae’rwardiau Covid yn orlawn acry’n ni’n gorfod gweithredu pobmath o fesurau – mwy naChymru, a dweud y gwir.“Ro’dd Israel yn gwneud yn

eitha da pan ddaeth y dongyntaf o Covid, ond y tro ymarwy’n meddwl bod y

gwleidyddion wedi bod yn araf iawniawn yn ymateb, ac mae gennym filoeddar filoedd o achosion. Mae’r lockdown ytro hwn wedi bod yn rhy hwyr,”ychwanegodd Sarah. “Ydi, mae’nhynod anodd – mae’r rhan fwyaf o’rsynagogs ar gau ac rydyn ni methugweld ein teulu fel ry’n ni wedi arfer.Gan bo’ fi’n feichiog, dwi ddim yngorfod ymprydio eleni ond dyw e ddimyr amser gorau i gael babi. Rwy’nedrych ymlaen at gael babi arall ondmae’n gyfnod pryderus yn sgil Covid.“Ro’n i wedi meddwl y byddai

pethau wedi gwella erbyn hyn acroeddem ni i gyd yn edrych ymlaen at ygwyliau Iddewig. Ar ddiwrnod RoshHashanah mae’n arferiad gennym nifwyta cacennau mêl i ddymuno amflwyddyn newydd felys; ydyn, ry’n niwir yn gobeithio am gyfnod gwell.”

Sarah Liss oedd yn arwain yroedfa ar Radio Cymru, ddydd Sul,4 Hydref.

Diolch i BBC Cymru Fyw am hawl iatgynhyrchu’r erthygl hon aymddangosodd 29 Medi.

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 9, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

‘Un o’r cyfnodau anoddaf i fi fyw ymayn Jerwsalem’

Sarah Liss, ei gfir Eitan, a’u mab, Yonatan

Page 5: yGOLEUAD - ebcpcw.cymru · Gwers 14 Thomas yr Amheuwr Gweddi Wrth gofio’r elfen o amheuaeth mewn wythnos ym mywyd Thomas, dyro i ni fedru ddarganfod y gobaith y byddi di’n drech

Hydref 9, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

“Mae tair mil ar ddeg o bobl aoedd eisoes yn byw dan amodauannerbyniol yn awr yn gwblddigartref,” meddai Moritz. “Rydymyn cydymdeimlo efo nhw ac yn eucadw yn ein gweddïau, ac yn gwirobeithio nad oes neb wedi ei anafu’ngorfforol yn ystod y digwyddiadauhyn.”

Ychwanegodd Moritz y dylidsicrhau, yn y man cyntaf, fod poblyn cael eu cartref a bwyd, a’r hynsydd ei angen i fyw bywyd gweddus.“Rydym yn apelio ar lywodraeth GwladGroeg i gefnogi ymdrechion ygymdeithas sifil – gan gynnwys eglwysi– sydd eisoes ar waith, ac yn apelio ar i’rUndeb Ewropeaidd helpu Gwlad Groegyn hynny o beth,” meddai. “Mae’n rhaidhefyd edrych ar y sefyllfa, a chydnabodei bod yn anochel y bydddamweiniau a thrychinebau’ndigwydd yma.”

Bu’r amodau yn y gwersyll mawryma – fel nifer o wersylloedd mawreraill yn Ewrop – yn annioddefol,nododd Moritz. “Felly, dylai hyn fodyn arwydd fod angen rhoi terfyn aryr agwedd yma o gynnig llochesmewn gwersylloedd mawr,” meddai.“Dylai pobl gael eu hadleoli ardraws Ewrop, a chael eu derbyn ynhytrach na’u cadw, gan sicrhau nadydy’r agwedd yma o grynhoi mewngwersylloedd mawr yn dod yn arfergyffredin mewn polisïau llochesu ynEwrop.

“Mae Ewrop yn gyfandir digoncryf i gartrefu, derbyn a chynnigprosesau llochesu teg i bawb sy’ncyrraedd yno,” meddai Moritz wrthgloi. “Stopiwch yr arfer a’r agwedd ymaoherwydd dim ond creu rhagor oddioddefwyr fyddwn ni,” meddai.“Dyna’r neges ar gyfer heddiw.”

Yn ddiweddarach ym mis Medi fegyhoeddodd dwsin o sefydliadaucrefyddol lleol a rhyngwladolddatganiad yn eiriol dros sefyllfamudwyr a ffoaduriaid yn Ewrop. Mae’rdatganiad yn diffinio’u galwad felCristnogion i ‘groesawu’r dieithryn’.

Rhyddhawyd y datganiad cyncyflwyno Cytundeb Mudo newydd yrUndeb Ewropeaidd ar 23 Medi.

Wrth gyfeirio at y tân yng ngwersyll

Moria ar Ynys Lesbos, fe ddywedodd ydeuddeg mudiad crefyddol fod“digwyddiadau noson yr 8fed o Fediyng ngwersyll Moria ac yn y dyddiauoddi ar hynny wedi taflu goleuni arnatur sylfaenol doredig y polisi mudo alloches Ewropeaidd a’r dioddefaint ymae wedi ei achosi”.

Noda’r datganiad fod COVID-19wedi gwneud sefyllfa a oedd yn anodd ifudwyr o ran amgylchiadau bywannynol, yn waeth fyth, “boed hynnyoherwydd glanweithdra annigonol yn yllochesi ffoaduriaid neu’r toriadaudramatig yn y dognau bwyd a chymortharall sydd ar gael iddynt … Maecyfyngiadau cyffredinol ar groesiffiniau gwledydd yn sgil y pandemigwedi cyfyngu ymhellach ar fynediadpobl i lefydd ddiogel. Yn ychwanegol athynny, mae goroesiad economaiddllawer o bobl sy’n mudo, yn ogystal âgoroesiad y rhai sy’n eu lletya, wedi

cael ei beryglu gan gyfnodau clo amesurau cysylltiedig sydd weditaro’r rhai yn y sector anffurfiol ynarbennig o galed, ac wedi caeleffaith anghytbwys ar fenywod a’ubywiolaeth.”

Mae’r sefydliadau crefyddol ynymrwymo i “eiriol am ymateb mwygweddus i dderbyn, diogelu, a gofaluam bobl sy’n symud wrth fudo”.Datgenir bod “eglwysi acasiantaethau eglwysig wedi bod acyn parhau i fod yn flaengar a

gweithredol wrth gynnig croesotosturiol a hyrwyddo cydblethiadcymdeithasol wrth i bobl fyw ynheddychol a chyfiawn gyda’i gilydd yngNgwlad Groeg, yn Ewrop gyfan a thuhwnt”.

Mae’r datganiad hefyd yn mynd i’rafael â’r sgwrs gyhoeddus lle mae“mudwyr a ffoaduriaid yn cael eugweld fel ffocws ar gyfer iaithcasineb (hate speech) yn ycyfryngau cymdeithasol, yn ogystalâ phortreadau gwyrdroëdig yn ycyfryngau sy’n anwybyddu’r ffaithmai bodau dynol yw’r rhain”. Gelwirar y cyfryngau i barchu gwerth dynolmudwyr a ffoaduriaid, sicrhau bodeu straeon yn cael eu hadrodd mewnmodd cytbwys, ymwneud â mudwyra ffoaduriad er mwyn eu galluogii adrodd eu straeon eu hunain,ac osgoi sylwadau negyddol,ystrydebol, triniaeth annheg agorsymleiddio.

“Rydym hefyd yn rhannu’rargyhoeddiad bod yn rhaid iwerthoedd craidd yr UndebEwropeaidd o ran urddas a pharch at

iawnderau dynol gael eu hadlewyrchuyn ei gwleidyddiaeth o ddydd i ddydd,”medd y datganiad.

Am restr o’r rhai a luniodd y datganiadhwn ac i’w weld yn gyfan, cliciwch ar yddolen isod os oes gennych fynediad i’rwe ac yn darllen hwn yn ddigidol:

Darllenwch y datganiad cyfan ar22 Medi yma:<https://www.oikoumene.org/en/resources/documents/general-secretary/joint-declarations/advocacy-statement-on-situation-of-migrants-and-refugees-in-europe/view>

Tân Moria yn rhybudd difrifol yn erbyn agweddEwrop at letya ffoaduriaid mewn un lle

Llun: Marianne Ejdersten/WCC

Mewn cyhoeddiad gan Gyngor Eglwysi’r Bydddechrau Medi, fe fynegodd Dr Torsten Moritz,ysgrifennydd cyffredinol Comisiwn yr Eglwysi ar Fudwyryn Ewrop, ei siom yn sgil y tân sydd wedi difa gwersyll

gorboblog Moria ar Ynys Lesbos gan adael 13,000 ofudwyr yn ddigartref. Galwodd ar Ewrop i roi terfyn,unwaith ac am byth, ar yr arfer o roi llety i fudwyr mewnun lleoliad.

Gwersyll ffoaduriaid Moria, Ynys Lesbos,Gwlad Groeg, Medi 2020

Llun: Lampros Demertzis/WCC

Page 6: yGOLEUAD - ebcpcw.cymru · Gwers 14 Thomas yr Amheuwr Gweddi Wrth gofio’r elfen o amheuaeth mewn wythnos ym mywyd Thomas, dyro i ni fedru ddarganfod y gobaith y byddi di’n drech

11. GWAITH PLANT/IEUENCTID

Pwy a wna waith plant/ieuenctid? Bethyw gwaith plant/ieuenctid? Pam maeangen gwaith plant/ieuenctid? Sut maegwneud gwaith plant/ieuenctid?Dyma rai cwestiynau pwysig ynglªn â

gwedd hanfodol ar waith yr eglwys. Yndraddodiadol, cysylltir gwaith plant/ieuenctid â’r ysgol Sul. Disgwylid i’rsefydliad hwn wneud y gwaith yma ac fegyfyngid y gwaith i ddydd Sul. Ynddiweddarach sefydlwyd cymdeithasaupobl ifanc o fewn eglwysi yn ystod yrwythnos waith.Mae’r Beibl yn cyhoeddi gofal a

chariad Duw tuag at blant/ieuenctid.Bendithiodd Iesu Grist blant ei oes(Mathew 19:13–15). Mae’n parhau â’iweinidogaeth yn ei eglwys trwy’rYsbryd Glân.Bwriad Iesu Grist yw adeiladu’i

eglwys trwy alw pobl o’r byd ato’i hun(Mathew 16:18); ystyr y gair ‘eglwys’yw ‘galw mas’ (Groeg ekklesia). Maehyn yn cynnwys pobl o bob oedran. Maeangen dysgeidiaeth, cymdeithas agweddi (Actau 2:42) yn rhan o fywyd yreglwys.Mae yna gyfrifoldeb ar yr eglwys

gyfan am y plant yn ei mysg. Adegcyflwyno neu fedyddio plentyn, feaddunedwn (fel rhieni ac eglwys) i’wfagu yn y ffydd Gristnogol. Mae hyn yn

golygu gweddïo dros y plentyn, eiddysgu, ei gynghori, ei gyfarwyddo a’igynorthwyo, boed mewn gair neuweithred. Mae pob aelod eglwysig âdawn i’w chyfrannu yng ngwaith yreglwys (1 Corinthiaid 12:7). Mae rhaiwedi’u donio â’r gallu i ddysgu plant achânt gyfle i ddatblygu’r ddawn honwrth iddynt gyfranogi yn y wedd hon arweinidogaeth yr eglwys. Mae gweddillyr eglwys i gynnal breichiau’rgweithwyr mewn gweddi.

Mae gwaith plant/ieuenctid yn golygudysgu’r cyfryw rai am Iesu Grist. YBeibl yw ein prif ffynhonnell yn ygwaith hwn. Ceir amrywiaeth oadnoddau aml-gyfryngol y gellir eudefnyddio i’r gwaith. Mae o gymorth iddilyn maes llafur fel bod yna gyfeiriadi’r gwaith.Mae angen gwaith plant/ieuenctid fel

bod y cyfryw rai’n cael y cyfle i ddysgu

am Iesu Grist. Mae’r Beibl yn rhoipwyslais ar gyfarwyddo plant/ieuenctid(Diarhebion 3:1). Y nod yw eu bod yntyfu’n feddyliol, yn gorfforol, ynysbrydol ac yn gymdeithasol (Luc 2:52).Llawenydd yw gweld plant yn prifio’nhapus ac yn aeddfedu’n gyfrifol.Mae angen gwneud gwaith plant/

ieuenctid mewn ffordd berthnasol iddynnhw. O ran canllawiau, gellid dweud:byddwch yn syml, yn glir, yn ddiddorol,yn weladwy, yn glywadwy ac ynddealladwy.Mae’r Clwb Plant yn un enghraifft o’r

bwriad i gyflwyno’r plant i Gristnogaethmewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar.Mae dilyn trefn yn y Clwb Plant ynddefnyddiol, er nad oes angen glynuwrthi’n haearnaidd. Ymhlith ygweithgareddau ceir gêmau, storïau,cwisiau, a gweddi.Yn y dyddiau hyn lle nad yw’n hawdd

i rai sy’n gweithio ymhlith plant a phoblifanc fod yn dysgu ac yn arwain ynwyneb y cyfyngiadau sydd ar weithioefo plant a chael mynediad i ysgolion, feddiolchwn am greadigrwydd cymaint oweithwyr plant wrth fynd ati i gyflwynoEfengyl Iesu Grist i’r genhedlaeth iau.Gweddïwn drostynt y bydd yr Arglwyddyn parhau i arwain y gwaith ac i ddangoscyfleon a ffyrdd o fugeilio a hyfforddiein plant ac i gefnogi teuloedd yn enw’rArglwydd Iesu a’i eglwys.

Daeth Iesu o’i gariadi’r ddaear o’r nef,fe’i ganwyd yn fabanym Methlehem dref:mae hanes amdano’n ôl tyfu yn ddynyn derbyn plant bychaini’w freichiau ei hun.

Mae’r Iesu yn derbynplant bychain o hyd:Hosanna i enwGwaredwr y byd!

(Watcyn Wyn)

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 9, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

MODDION GRASCyfres yn ystyried beth sy’n angenrheidiol wrth inni barhau

i addoli a gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist yn y cyfnod hwn.

gan y Parch. PETER H. DAVIES

Gweddi Byw’n SymlDduw trugarog a chariadus,creaist y byd i ni oll ei rannu, byd oharddwch a digonedd.

Crea ynom ddyhead i fyw’n syml,fel y gall ein bywydau adlewyrchu dyhaelioni.

Dduw’r Creawdwr, rhoddaist i nigyfrifoldeb dros y ddaear,

byd llawn cyfoeth a hyfrydwch.Crea ynom ni ddyhead i fyw mewnmodd cynaliadwy, fel y gall y rhaia fydd yn ein dilyn fwynhauffrwythau dy gread.

Dduw heddwch a chyfiawnder, rwyt yn rhoi i ni’r gallu i newid, i sefydlu byd sy’nadlewyrchu dy ddoethineb dithau.

Crea ynom ni’r awydd i weithredu ynghyd, fel y dymchwelir colofnau anghyfiawnderac y rhyddheir y rhai y mae gormes yn eu llethu heddiw. Amen.

Cydnabyddiaeth: Linda Jones, CAFOD. Cyfieithwyd i’r Gymraeg gan Siôn Aled Owen.Mae Byw’n Syml yn ymgyrch gan CAFOD i hybu byw cynaliadwy mewncymunedau eglwysig. Gellir gweld manylion pellach yma: https://cafod.org.uk/Campaign/Livesimply-award

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Page 7: yGOLEUAD - ebcpcw.cymru · Gwers 14 Thomas yr Amheuwr Gweddi Wrth gofio’r elfen o amheuaeth mewn wythnos ym mywyd Thomas, dyro i ni fedru ddarganfod y gobaith y byddi di’n drech

‘Dal fi fy Nuw, dal fi i’r lan,dal fi ’nenwedig lle rwy’n wan…’

Deuddeg Carreg – tybed beth y maehynny yn ei olygu i chi.

Yn ôl yr hanes yn Deuteronomium,pennod 27, adnodau 1-8, mi fyddaigosod deuddeg carreg, neu ‘matzevot’yn ffordd arbennig o benodi rhywddigwyddiad crefyddol sbectaciwlar ynôl yn nyddiau Teyrnas Jwda, cyn cyfnody Brenin Joseia. Yr arfer oedd gosoddeuddeg carreg mewn cylch arbennig adisgwylid i bennaeth pob llwyth oddeuddeg llwyth Israel sefyll gerllaw.Gwnaed hynny hefyd mewn cyfarfod agafwyd gyda Joshua, wedi croesi’r AfonIorddonen ac wrth symud i mewn idiriogaeth Israel. Gwyddom i’r proffwydElias ddefnyddio 12 carreg i godi allori’r Arglwydd (1 Brenhinoedd 18:30-31).Dywedir fod y cerrig rheiny wedi dod oallor a godwyd ar Fynydd Carmel cyn i’rdeml gael ei adeiladu. Ond wedi gorffencodi’r Deml fe waharddwyd yr arfer ogynnig aberthau i Dduw ar allorau eraill.Yr hyn sy’n gosod allor Elias ar wahânyw’r gred fod Duw wedi tanio’r aberthgyda digwyddiad sbectaciwlar o anfontân (neu fellten) o’r nefoedd. Dyna’rdigwyddiad mwyaf crefyddol cyffrous agymerodd le yn dilyn yr Ecsodus o’rAifft. Ond, penderfynodd y BreninJoseia wahardd yr arfer oherwydd fodrhai pobl yn dechrau priodoli rhywarwyddocâd ysbrydol i’r cerrig euhunain, ac oherwydd hynny yn ymylu arfod yn eilun-addolwyr, yn groes igyfarwyddyd y Deg Gorchymyn.

Rydych chi fel finnau yn hoff o fynd amdro, gyda rhai ohonom am fentro ar hydy glannau neu i gopaon y mynyddoedd.Wrth fwynhau gwneud hynny rydymwedi arfer, yn arbennig wrth gyrraeddcopa rhyw fynydd weld twmpath ogerrig yn dynodi union fan y copa eihun. Wedi cyrraedd yno bydd rhai yncodi carreg i’w osod gyda’r rhai syddyno eisoes i nodi eu bod hwythau hefydwedi cyrraedd pen y daith. Dro arall,pan nad oes llwybr call i’w weld ar ydaith i’r copa fe geir nifer o dwmpathaullai yn dynodi’r ffordd ddiogel tuag at ycopa, a gall hynny fod yn anhepgorol peddaw yna niwl i guddio’r ffordd ymlaenar y mynydd.

Un o’m holl lefydd i fynd am dro gyda’rteulu bach ydy ar hyd y traeth i gyfeiriadynys Llanddwyn. Mae’n daith hyfryd, yndaith hawdd ac yn daith hwylus i bawbo bob oed. Y mae llawer yn teithio arhyd ddi boed law neu hindda, drycinneu heulwen, ac yn cael profi rhywdangnefedd wrth deithio a sfin tonnauyn torri ar y traeth yn llonyddu’r enaid.Felly y mae’r llecyn hyfryd hwn ar eiorau, pan nad oes yna lond maesparcio o geir a llond y traeth odwristiaid!

Rhyw brynhawn felly oedd hi, ym misMawrth y llynedd, pawb yn mwynhau aBela’r ci Labrador du yn mwynhau ynfwy na neb decini.

Wrth deithio i gyfeiriad Ynys Llanddwynfe ddowch chi at dwmpath o graig neugerrig yn y tywod lle byddwn yn arferstopio i gael panad neu damaid ofrechdan – seintwar derbyniol iawn arganol y tramwy drwy’r tywod trwm.Wrth gyrraedd ato fel sylwais fod ycoedwigwyr wedi bod wrthi yn torri’rcoed marw arferai dyfu ar odre’r traeth.Torrwyd y coed, rhyw bymtheg ohonynta’u gadael i sefyll yn y man. Tybiais fod

yna reswm gwarchodol wrth wraiddhynny i gadw peth o reolaeth arsymudiad y tywod. Sylweddolais hefydyn fuan iawn fod rhywun, cerflunyddneu arlunydd am wn i wedi bod yno acwedi defnyddio’r bonion a cherrig o’rtraeth i greu cerflunwaith arbennig.

Roedd y pedwar ar ddeg bonyn talsythyn dal twmpath o rhyw hanner dwsin ogerrig yr un, a’r rheiny yn daclusrhyfeddol, un ar ben y llall. Nid nepelloddi wrthynt roedd yna fonyn arall, y trohwn yn gwyro ar ongl o rhyw 45gradd.Roedd yma gerrig hefyd wedi eu gosodar ben hwn, ond y gampwaith yn fwyrhywsut yma, oherwydd fod y cerrig yngorfod balansio yn gelfydd un ar ben yllall o’r mwyaf hyd at y lleiaf. Roedd hynyn fwy o ryfeddod rhywsut. Syndod yprynhawn hwnnw oedd y cynifer odramwywyr y traeth a basiodd heibio’rrhyfeddod hwn heb dalu unrhyw sylwato!

Sefais yno am rai munudau i dynnuambell lun gyda’r camera ac i ryfedduat yr hyn a welwn ac at ddawn y sawl aigwnaeth. Wrth ail edrych ar y darluno’m blaen fe welais fod yr 14 bonyn ynsefyll mewn man lle roedd yna gerrig obob maint, lliw a llun, wrth eu traed, arhai cerrig wrth gwrs wedi cael eudyrchafu uwchben y traeth fel petaentyn cael eu gwarchod, neu yn caelcyfle mwy na’r rheiny oedd ar lawrwrth droed y bonion. Gwelais hynnyfel darlun o’r byd heddiw, a’ranghyfartaledd y sydd yn parhau i fodolimewn cymdeithas fydol rhywsut lle maerhai yn chwennych eu dyrchafu ar drauly gweddill sydd yn dewis neu yn gorfodbodloni aros gyda’u traed ar y ddaear,eu bys ar byls y byd. Pydru a diflannubydd hanes y bonion yma yn y mangan ddymchwel yr hyn ddyrchafwydyn ôl i blith y gweddill.

(I’w barhau)

Jim Clarke

Hydref 9, 2020 Y Goleuad 7

Sylw o’rSEIDIN

mwyaf prysur a hapus, a ffurfiannol fymywyd’. Ceir yn y gyfrol gyfeiriadau atddigwyddiadau doniol, dwys a heriol.

Beth oedd ymateb y ddau ddisgybl ifanco Lundain pan welsant y groes ar ybryncyn wrth iddynt agosáu at y Coleg?Beth oedd yr her fwyaf a wynebai’rWardeniaid cynnar?

Pa un o’r Wardeniaid a fwytaoddgenhinen Pedr ar fore’r Pasg 1981?Ym mha ieithoedd y clywyd y geiriau‘Crist atgyfododd – Atgyfododd yn wir’fore’r Pasg 1982?

Cewch yr atebion i’r uchod, achwestiynau eraill yn y gyfrol.

Gobaith Jenny yw y bydd adlewyrchu argyfraniad eang Trefeca oddi fewn yrEglwys a’r genedl o fudd i banel

Gymanfa Gyffredinol EglwysBresbyteraidd Cymru wrth iddyntwneud arolwg o rôl Trefeca i’r dyfodol.

Cyflwyna Jenny’r gyfrol ynddiolchgarwch i Dduw ac EglwysBresbyteraidd Cymru am y profiadau agafodd yn ystod ei arhosiad ynNhrefeca. Aiff elw’r gwerthiant igynorthwyo Trefeca yn dilyn colledionariannol eleni, oherwydd Cofid 19.

Gellir cael copïau yn Nhrefeca neudrwy’r post oddi wrth Y ParchedigJenny Garrard, 18 Hafren Terrace,Llanidloes, SY18 6AT. 01686 413354.E-bost [email protected] gost yw £5 + £1.40 cludiant.

Y Parchedig Trefor Lewis,Cadeirydd Adran Trefeca.

‘A TREFECA DIARY…’(parhad o dudalen 2)

Page 8: yGOLEUAD - ebcpcw.cymru · Gwers 14 Thomas yr Amheuwr Gweddi Wrth gofio’r elfen o amheuaeth mewn wythnos ym mywyd Thomas, dyro i ni fedru ddarganfod y gobaith y byddi di’n drech

8 Y Goleuad Hydref 9, 2020

• Wythnos nesaf – Codi clawr Codecs •

Dyma gyfarfod hyfryd iawn…O dewch i’r wledd

EMYN 491: Boed mawl i Dduw

GWEDDI

Arglwydd, yn y cyfarfod hyfryd iawnyma caniatâ i ni dy osod yn ganolbwynti’n meddyliau. Wrth i ni ganu’n mawl acoffrymu’n gweddïau, wrth i ni ddarllendy Air a myfyrio ynddo, bydd di yn ycanol. Llefara wrthym. Bydd yn dirionwrthym a gad i ni glywed awdurdodoleiriau’r nef oddi mewn yn creuhyfrydwch nad oes mo’i gyffelyb.Maddau i ni ein dyledion, einllithriadau, ein gwrthryfel. Arglwyddcaniatâ i ni adnabod o’r newydd einbraint yn Iesu Grist.

GWEDDI’R ARGLWYDD

DARLLENIAD: Mathew 22:1-14Sut ydych chi’n ymateb i’r ddameg?

Sylwadau testunol cychwynnol

• Dylid nodi mai hon yw’r drydeddddameg mewn cyfres oddamhegion sy’n perthyn i’w gilydd.‘Llefarodd Iesu drachefn…’ (ad 1)Mae’r tair dameg yn sôn amwahoddiad grasol ac am wrthodiady gwahoddiad gan y rhai y byddechwedi disgwyl iddynt ymateb ynffafriol iddi.

• Er bod rhai elfennau sy’n debyg iLuc 14 dylid anrhydeddu Mathewtrwy gymryd ei naratif fel y mae a’iystyried fel dameg gwahanol yn eichynnwys a’i phwrpas.

• Er i rai esbonwyr awgrymu bod dwyneu dair o ddamhegion wedi asio atei gilydd i greu un naratif yr ydymam anrhydeddu’r awdur drwygymryd ei gyfraniad o ddifri fel ymae.

Cwestiwn cychwynnol

Mewn oes lle mae ‘gwirionedd’ yn fatero farn, a’n dewisiadau mympwyol yngosod ffiniau’n dewisiadau; mewn bydlle’r hoffem ni gredu nad oescanlyniadau i’r dewisiadau hyn, dawgeiriau Iesu i’n herio. Y mae i dderbynneu wrthod ei wahoddiad ganlyniadaupellgyrhaeddol.

Y ddameg

‘Fel hyn mae hi. Dych chi’n cofio bod yproffwydi wedi llefaru gair Duw wrth eucenhedlaeth ac wedi addo dydd pan

fyddai dyfodiad Teyrnas Dduw felgwledd? (Eseia 25:6-9) Wrth gwrs eichbod chi. Chi’n cofio bod Eseia wediaddo mai yn Jerwsalem byddai’r wleddyn cael ei chynnal? Ac yn y wleddbyddai’r gorchudd yn cael ei ddifa, llengalar yn cael ei symud, byddai Duw ynsychu dagrau a byddai gwarth ei boblyn cael ei symud, ac fe fyddai’rcenhedloedd yn cael bod yn rhan o’rwledd yn llawn. Ac fe fyddwch yn cofioy byddai pobl Dduw yn cael adnabodDuw, yn cael adnabod cyfiawnder Duwac yn llawenhau yn yr Arglwydd…Wrth gwrs eich bod chi.’

Gallwn ddychmygu’r bobl yn cynhesuat y stori hon – wedi’r cyfan budamhegion blaenorol Iesu yn ddigonllym tuag at yr arweinwyr crefyddol.Roeddynt yn adnabod y stori yma.Ac roedd hi’n stori dda. Oherwydd fefyddai’r cenhedloedd, yn ôl fersiwn yTargwm o’r adnodau yn ei dal hi goiawn wrth i’r Arglwydd eu barnu’nddidostur. (Ac roedd disgwyliad tebygyn llyfr Enoc (yn yr Apocrypha) athebyg oedd disgwyliad cymunedgrefyddol yr Eseniaid gerllaw y MôrMarw.) Ac rydym i gyd yn dueddol ofeddwl ein bod yn gwybod y stori – acyn cael ein synnu pan nad yw’r gorffenfel yr oeddem yn tybio.

‘Felly, mae teyrnas Nefoedd yn debyg ifrenin sy’n trefnu gwledd briodas i’wFab. Anfonodd wahoddiad i’rgwesteion, yn unol â ffasiwn yr oes, i’wgwahodd ac er mwyn iddynt gaeldigonedd o rybudd i ymbaratoi i’rwledd. Doedd dim dyddiadur nagoriawr wrth law. Ond byddai’n dechrautuag amser cinio ac yn parhau amddyddiau lawer. Felly roedd angenamser i sicrhau bod popeth yn ei le.Beth amser yn ddiweddarach feanfonodd y brenin i’w sicrhau bod yrholl baratoadau’n barod a’r mab a’rbriodasferch wedi ymbaratoi…’

Yn sydyn, dyw’r stori ddim yn dilyn yllwybrau arferol. Y ffordd mae Iesu’n eihadrodd, ni sydd o dan chwyddwydr.Amdanom ni mae’r stori nid y nhwanghrediniol.

‘Pan ddaeth y gwahoddiadanwybyddodd y gwesteion ygwahoddiad cyntaf, gan ddisgwyl, ynunol â ffasiwn yr oes, (a’r hyn a nodwydyn y Midrash) hyd nes y deuai’r ailwahoddiad. Ond buan y daeth hi’namlwg nad oedd y gwesteion yn

bwriadu dod o gwbl i’r dathliadau.Roedd hyn yn sarhad personol i’rbrenin a’r etifedd a’r briodasferch. Ac feddaeth maint yr amarch i’r amlwg wrthiddynt anwybyddu, cam drin a lladdrhai o’r gweision.

Digiodd y brenin gan ddifetha eu tref.Sut arall allai o ymateb? Wedi’rcyfan mae canlyniadau i wrthod ygwahoddiad, a chanlyniadau i sarhau’rbrenin.’

Mae canlyniadau i ddewisiadau!Allwch chi ddim a bod yn rhan o’rUndeb Ewropeaidd ac ar y tu allan aryr un pryd.

‘Ond er annheilyngdod y rhai awahoddwyd yn y lle cyntaf niddifethwyd y parti. Aeth hwnnw yn eiflaen. O bob cornel stryd, cynullwyd yranafus, y claf, y drwg a’r da a llanwyd yparti i’r ymylon. Croesawyd ‘tyrfa fawrna allai neb ei rifo’ a dathlwyd yngnghwmni’r priodfab a’r briodasferch.

Er gwahodd pawb – heb rwystro neb –roedd angen gwisgo’n addas. Rhaidoedd ‘molchi a gwisgo gwisg addas.Ac mae’n ymddangos bod y breninwedi darparu i bob un, beth bynnagoedd ei radd, ei angen, ei ddolur wisgaddas i’r achlysur ar eu cyfer. Mor haeloedd ei ddarpariaeth!

Ond rhywsut, roedd un wedi llithro’nllechwraidd i mewn, gan dybied bod eiwisg ei hun yn fwy na digon addas argyfer y wledd. Unwaith eto, sarhawyd ybrenin a’i haelioni. Oni thybiodd y gfira dwyllodd y gweision bod ei ddilladgorau ei hun yn sifir o fod yn ddigon dai’r wledd yn nheyrnas Dduw. Llwyddoddi dwyllo’r gweision. Ni thwyllwyd ybrenin. Trawyd y dyn yn fud pan gafoddei herio gan y brenin ei hun. A phansylweddolodd nad oedd ei ‘ddigon da’yn ddigon da roedd yn gegrwth!

Mor annisgwyl yw’r neges. Dim onddrwy wahoddiad y cawn ni fynediad i’rwledd ddwyfol. Cawsom, bob unohonom, ein gwahodd trwy bregethiady gair. Mawr yw ein braint. Gwnawn ynsifir ein bod yn derbyn gwahoddiad yrArglwydd. Gwnawn yn sicr ein bod yngwisgo gwisg hardd darpariaeth rasolDuw ar ein cyfer. Oherwydd, yn ôl Iesu,mae yna ganlyniadau o wrthod ygwahoddiad. Caiff llawer eu gwahodd.Nid pawb sy’n dewis derbyn.

EMYN 329: Angylion doent yn gyson

Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.