Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Danfon a chasglu AM DDIM! NEU gallwch gasglu o’n swyddfa - Ty Ffrwdwyllt, Heol Commercial, Tai-bach, Port Talbot SA13 1PZ
Oriau Agor:
Dydd Llun – dydd Gwener: 9.00am - 4.30pm (ar gau ar wyliau banc)
I gyflwyno archeb:
01639 873004 [email protected]
www.playworksnpt.co.uk
/Playworks Playworks_npt
Beth yw Benthyca a Chwarae?
Ydy’ch plant yn syrffedu ar chwarae gyda’r un pethau gartref?
● Mae Benthyca a Chwarae’n wasanaeth adnoddau chwarae AM DDIM i deuluoedd sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot – yn debyg i’ch llyfrgell leol.
● Cynilwch eich ceiniogau a benthycwch o’n hamrywiaeth eang o gyfarpar chwarae i helpu i annog eich plant i ddysgu a datblygu sgiliau bywyd hanfodol.
● Benthycwch gyfarpar chwarae o ddwy thema o gyfarpar chwarae ar y tro ac, ar ôl i chi orffen chwarae gyda nhw, cewch eu cyfnewid am rywbeth arall!
Sut mae’n gweithio? ● Cofrestrwch i ddefnyddio’r gwasanaeth Benthyca a Chwarae AM DDIM.
● Dywedwch wrthym ba themâu yr hoffech eu
harchwilio gyda’ch plentyn/plant. Gallwch wneud cais am fag
ar-lein, trwy e-bost neu dros y ffôn.
● Byddwn ni’n creu bag pwrpasol i ddiwallu’ch anghenion.
● Trefnwch i ni ddanfon pecyn atoch chi am ddim neu gallwch ei gasglu.
● Ar ôl i chi orffen cael hwyl, cysylltwch â ni i drefnu casgliad am ddim.
● Archebwch eich bag nesaf i beidio â cholli’r cyfle.
Pa themâu sydd ar gael?
Creadigol…creu hwyl a mynegi eu hunain. Gallech fenthyca offerynnau cerdd, eitemau synhwyraidd, cyfarpar a deunyddiau coginio, offer creadigol, torwyr a mowldiau.
Archwilio…archwilio’r awyr agored a’r byd o’u cwmpas. Gallech fenthyca offer garddio, teclynnau gweld trychfilod, rhwydi pysgota, chwyddwydr, synwyryddion metel, offer tywod/dwr.
Dychmygus…defnyddio’u dychymyg i chwarae. Gallech fenthyca pypedau, gwisg ffansi, eitemau chwarae rôl, twnnel a phebyll, setiau adeiladu.
Symudiad…byddwch yn actif a symudwch. Gallech fenthyca cyfarpar chwaraeon, cyfarpar sgiliau syrcas, parasiwtiau, gynnau dwr.
Gemau…rhannwch, cymerwch dro a rhyngweithiwch ag eraill. Gallech fenthyca dominos, gemau bwrdd, gemau targed, nadroedd ac ysgolion llawr enfawr a Twister.
Ychydig yn ychwanegol…mae gennym adnoddau mwy ar gael hefyd i gynorthwyo’ch plentyn i chwarae, megis (hyd at ddau):
● Kerplunk enfawr
● Bowlio ewyn
● Jenga enfawr
● Connect 4 enfawr
● Robot rhaglenadwy Bee Bot
● Blociau ewyn enfawr
● Blociau lego enfawr
● Theatr pypedau
Peiriant Bathodynnau…datblygwch ochr greadigol eich plentyn trwy fenthyca’n peiriant bathodynnau am gyn lleied â £5 am 50 a dewis o’r canlynol:
● Bathodynnau pin neu glip
● Cylchau allweddi
● Fframiau lluniau
● Magnedau
Penigamp ar gyfer partïon plant, digwyddiadau neu weithgaredd teulu, gyda chofroddion i’w cadw.
Am fwy o ysbrydoliaeth, ewch i’n gwefan ac edrychwch trwy’n Catalog Benthyca a Chwarae.
Sut mae cofrestru?Llenwch y ffurflen isod a’i hanfon yn ôl atom:
RHADBOST RRGS-YTBK-UKGA, Datblygu Chwarae, Port Talbot SA13 1PZ
Ar-lein yn www.playworksnpt.co.uk
Ffoniwch y swyddfa ar 01639 873004
Ffurflen Gofrestru Benthyca a Chwarae:Enw cyswllt
Cyfeiriad
Côd post
Rhif ffôn gartref
Rhif ffôn symudol
E-bost
Ble gawsoch chi’r daflen hon?
Nifer y plant
Oed plentyn 1
Oed plentyn 2
Oed plentyn 3
n Ticiwch yma os na hoffech gael cylchlythyr misol Benthyca a Chwarae trwy e-bost.
✃