Upload
loan
View
43
Download
2
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Mae’r FRECH GOCH yn lledu ….. STOPIWCH HI rhag cyrraedd eich plentyn. BETH ALLWCH CHI WNEUD? Amddiffynnwch eich plentyn yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela drwy imiwneiddiad MMR. Mae’n ddiogel ac mae dau ddos yn rhoi amddiffyniad o 99%. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
BETH YW’R SYMPTOMAU ARFEROL?
Mae’r FRECH GOCH yn lledu…..
STOPIWCH HI rhag cyrraedd eich plentyn
Twymyn, peswch, llygaid coch, trwyn llawn, a theimlo’n anhwylus.
Mae’r frech gochlyd yn ymddangos rhai dyddiau’n ddiweddarach ac yn lledu i weddill y corff. Mae’n parhau am 5 neu 6 diwrnod ac yna’n pylu.
Dylech gysylltu â’ch Meddyg Teulu os ydych yn amau bod y frech goch ar eich plentyn.
BETH ALLWCH CHI WNEUD?Amddiffynnwch eich plentyn yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela drwy imiwneiddiad MMR. Mae’n ddiogel ac mae dau ddos yn rhoi amddiffyniad o 99%.
Os yw eich plentyn wedi colli un neu’r ddau bigiad MMR, nid yw’n rhy hwyr. A wnewch chi gysylltu â’ch meddygfa, ymwelydd iechyd neu nyrs ysgol am ragor o wybodaeth.
I WYBOD MWY
Ffôniwch: Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47
Neu ewch i: www.nhsdirect.wales.nhs.uk
ALL Y FRECH GOCH FOD YN DDIFRIFOL?
Mae cymhlethdodau’r frech goch yn gallu effeithio ar 1 ym mhob 15 plentyn sy’n ei dal. Mae’r rhain yn gallu cynnwys heintiau ar y frest,ffitiau a niwed i’r ymennydd. Mae’r frech goch yn gallu lladd.