4
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost. Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur 39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 9BS Ffôn: 02920 490582 E-bost: [email protected] Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa: y John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe ABERTAWE SA7 0AJ Ffôn: 01792 795888 E-bost: [email protected] tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 4, 2017 Y TYsT Golygydd Y Parchg Iwan Llewelyn Jones Fronheulog, 12 Tan-y-Foel, Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9UE Ffôn: 01766 513138 E-bost: [email protected] Golygydd Alun Lenny Porth Angel, 26 Teras Picton Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039 E-bost: [email protected] Dalier Sylw! Cyhoeddir y Pedair Tudalen Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’r Pedair Tudalen ac nid gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Nid oes a wnelo Golygyddion Y Tyst ddim â chynnwys y Pedair Tudalen. Golygyddion Hwyl Mawr wrth Forio Canu Cafwyd llond capel o ganu, cyd-foli a hwyl ar Sul y Blodau eleni, wrth i blant, ieuenctid a phobl o bob oed ddod ynghyd i ddathlu’r Pasg. Cynhaliwyd Cymanfa Ganu flynyddol Eglwysi Annibynnol Cylch y Cei yng Nghapel Maen-y-groes eleni, gyda thair oedfa arbennig. Brenin y Jyngl Am y tro cyntaf ers 18 mlynedd, dan arweiniad medrus Mrs Catrin Evans, Talgarreg, aed yn ôl i gynnal Cymanfa Ganu draddodiadol yn oedfa’r plant yn y bore, yn hytrach na pharatoi cyflwyniad fel sydd wedi bod yn digwydd yn y blynyddoedd diweddar. Gweithiodd yr arbrawf yn llwyddiannus iawn, oherwydd roedd yn amlwg bod y plant wedi cael hwyl arni’n dysgu’r caneuon, yn ogystal â rhai symudiadau! Profodd y clapio cymhleth yn ‘Pwy yw Brenin y Jyngl?’ fod y plant yn well na’r oedolion yn y gynulleidfa am wneud mwy nag un peth ar yr un pryd! Syniad i’r Undeb Yn ogystal â pharatoi wrth ddysgu’r emynau, roedd y plant hefyd wedi bod yn greadigol wrth greu cloriau newydd sbon ar gyfer rhaglen y Gymanfa Ganu – cloriau a oedd yn cyfateb i’r emynau oedd wedi gwneud argraff ar y plant. Ac mae’n werth gweld ymgais y buddugwyr – tybed a yw hi’n bryd i’r Undeb ail-feddwl cynllun y clawr ar gyfer y flwyddyn nesa’? Byddai aelodau Ysgolion Sul y cylch yn falch gweld eu hymgais nhw ar y clawr yn y dyfodol! Gwerthfawrogiad Cafwyd dwy oedfa arall ar y dydd, ac Einir Ryder o Gwmsychpant oedd yr arweinydd yn y prynhawn a’r nos. Cafwyd cyflwyniad diddorol ar ‘ddilyn llais Iesu’ gan yr ieuenctid yn y prynhawn, a diolch i Gwendoline Evans am baratoi’r sgript. Roedd hi’n braf gweld cymaint o ieuenctid yn barod i gymryd rhan eleni eto. Diolch hefyd i un arall a fu’n brysur drwy’r dydd tu ôl yr organ, sef Carys Williams, Capel Maen-y-groes, a fu’n cyfeilio’n ddiffwdan drwy’r tair oedfa. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i’r tri llywydd – Mr Neville Evans, Capel Towyn, Miss Manon Lewis, Pennaeth Ysgol Llanarth a Miss Bronwen Morgan am fod mor barod i lywyddu yn ystod yr oedfaon. Lowri Jones Cynhaliwyd cymanfa fodern yng Nghaersalem, Pontyberem, ar ddydd Sul yr ail o Ebrill ac fe gafwyd bendith fawr wrth gyd-addoli. Cymerwyd rhan gan nifer o bobl gan gynnwys yr unawdydd profiadol Ffion Griffiths. Cyfeilydd Ffion yn y gwasanaeth oedd Ioan Price. Cafwyd datganiad gwych gan y ddau sy’n ddisgyblion yn Ysgol Maes y Gwendraeth. Cyfeiliwyd i’r emynau gan fand Caersalem a chafwyd eitemau gan ysgol Sul yr eglwys. CAERSALEM, PONTYBEREM

Caerdydd, CF23 9BS Ffôn: Y Tyst E-bost: Hwyl Mawr wrth ... · Mae’n debyg bod dinas Caerlŷr yn ddinas llawn amrywiaeth, gyda hen hanes o groesawu pobl o wledydd a diwylliannau

Embed Size (px)

Citation preview

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:

Y Parchg Ddr Alun Tudur

39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,

Caerdydd, CF23 9BS

Ffôn: 02920 490582

E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:

Ty John Penri, 5 Axis Court, Parc

Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJ

Ffôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 4, 2017Y TYsT

Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn Jones

Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,

LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138

E-bost: [email protected]

Golygydd

Alun Lenny

Porth Angel, 26 Teras Picton

Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

Ffôn: 01267 232577 /

0781 751 9039

E-bost: [email protected]

Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr

Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â

chynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

Hwyl Mawr wrth Forio CanuCafwyd llond capel o ganu, cyd-foli a hwyl

ar Sul y Blodau eleni, wrth i blant,

ieuenctid a phobl o bob oed ddod ynghyd i

ddathlu’r Pasg. Cynhaliwyd Cymanfa

Ganu flynyddol Eglwysi Annibynnol Cylch

y Cei yng Nghapel Maen-y-groes eleni,

gyda thair oedfa arbennig.

Brenin y Jyngl

Am y tro cyntaf ers 18 mlynedd, dan

arweiniad medrus Mrs Catrin Evans,

Talgarreg, aed yn ôl i gynnal Cymanfa

Ganu draddodiadol yn oedfa’r plant yn y

bore, yn hytrach na pharatoi cyflwyniad fel

sydd wedi bod yn digwydd yn y

blynyddoedd diweddar. Gweithiodd yr

arbrawf yn llwyddiannus iawn, oherwydd

roedd yn amlwg bod y plant wedi cael

hwyl arni’n dysgu’r caneuon, yn ogystal â

rhai symudiadau! Profodd y clapio

cymhleth yn ‘Pwy yw Brenin y Jyngl?’ fod

y plant yn well na’r oedolion yn y

gynulleidfa am wneud mwy nag un peth ar

yr un pryd!

Syniad i’r Undeb

Yn ogystal â pharatoi wrth ddysgu’remynau, roedd y plant hefyd wedi bod yngreadigol wrth greu cloriau newydd sbonar gyfer rhaglen y Gymanfa Ganu – cloriaua oedd yn cyfateb i’r emynau oedd wedigwneud argraff ar y plant. Ac mae’n werthgweld ymgais y buddugwyr – tybed a ywhi’n bryd i’r Undeb ail-feddwl cynllun yclawr ar gyfer y flwyddyn nesa’? Byddaiaelodau Ysgolion Sul y cylch yn falchgweld eu hymgais nhw ar y clawr yn ydyfodol!

Gwerthfawrogiad

Cafwyd dwy oedfa arall ar y dydd, ac EinirRyder o Gwmsychpant oedd yr arweinyddyn y prynhawn a’r nos. Cafwyd cyflwyniaddiddorol ar ‘ddilyn llais Iesu’ gan yrieuenctid yn y prynhawn, a diolch iGwendoline Evans am baratoi’r sgript.Roedd hi’n braf gweld cymaint o ieuenctidyn barod i gymryd rhan eleni eto. Diolchhefyd i un arall a fu’n brysur drwy’r dyddtu ôl yr organ, sef Carys Williams, CapelMaen-y-groes, a fu’n cyfeilio’n ddiffwdandrwy’r tair oedfa. Hoffai’r Pwyllgorddiolch i’r tri llywydd – Mr Neville Evans,Capel Towyn, Miss Manon Lewis,Pennaeth Ysgol Llanarth a Miss BronwenMorgan am fod mor barod i lywyddu ynystod yr oedfaon.

Lowri Jones

Cynhaliwyd cymanfa fodern yng Nghaersalem, Pontyberem, ar ddydd Sul

yr ail o Ebrill ac fe gafwyd bendith fawr wrth gyd-addoli. Cymerwyd

rhan gan nifer o bobl gan gynnwys yr unawdydd profiadol Ffion

Griffiths. Cyfeilydd Ffion yn y gwasanaeth oedd Ioan Price. Cafwyd

datganiad gwych gan y ddau sy’n ddisgyblion yn Ysgol Maes y

Gwendraeth. Cyfeiliwyd i’r emynau gan fand Caersalem a chafwyd

eitemau gan ysgol Sul yr eglwys.

CAERSALEM, PONTYBEREM

sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 18 Mai 4, 2017 50c.

Y TYsT

parhad ar dudalen 2

PaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg

Herio’r Mythau a Dweud y GwirYch chi’n cofio gwneud ‘den’ pan oeddech

chi’n ifanc? Tu ôl i’r soffa, gwaelod yr

ardd gefn neu yn y goedwig leol? Cuddfan

a lloches - man lle’r oeddem yn teimlo’n

saff. Bues i’n meddwl am y ‘den’ yn

ddiweddar wrth fynychu Fforwm Cenhadol

CWM a gynhaliwyd yn Market

Harborough, Sir Caerlŷr. Un o’r

uchafbwyntiau i lawer ohonom oedd

ymweliad i fath o ‘den’ gyfoes - Ddinas

Noddfa Caerlŷr (Leicester City of

Sanctuary neu LCOS).

Dinas Noddfa

Beth yw ‘Dinas Noddfa?’ Elusen neu

fudiad, sy’n gweithio i adeiladu diwylliant

o groeso a lletygarwch yn y gymuned leol,

gan ganolbwyntio’n bennaf ar geiswyr

lloches a ffoaduriaid. Y nod yw dathlu’r

sgiliau sydd ganddynt i’w cynnig a sicrhau

ffyrdd iddynt allu cyfrannu a bod yn rhan

o’r bywyd cymunedol, gan roi’r cyfle i’w

lleisiau gael eu clywed. Mae’n fudiad

gwerin gwlad, yn codi o’r gymuned gan

geisio newid pethau yn y fan a’r lle, yn

hytrach na bod yn broses sy’n dechrau ar y

top a gweithio’i ffordd lawr i’r gwaelod.

Efallai bod y term yn gyfarwydd i rai o

ddarllenwyr y Tyst gan fod sawl ‘Dinas

Noddfa’ yng Nghymru, gan gynnwys

Abertawe a Chaerdydd. Sefydlwyd yr un

cyntaf yn Sheffield yn 2007, ond mae’r

mudiad wedi tyfu bellach i fod yn

rhwydwaith o dros 90 o fentrau mewn

dinasoedd a threfi ar draws y DU.

Cynsail

Wrth gwrs mae’r hawl i noddfa neu loches

mewn gwlad arall yn hen syniad.

Gwyddom fod yr Eifftiaid, y Groegiaid a’r

Hebreaid yn ei weithredu. Onid yw stori

Ruth yn enghraifft gynnar? Teulu

Elimelech yn ymsefydlu yn Moab, gyda’r

meibion yn priodi merched Moab, ac yna

Ruth, y Foabes, yn dychwelyd gyda Naomi

i Fethlehem yn Jwda, lle mae hi’n priodi

Boas. Cyfeirir hefyd yn yr Hen Destament

at yr arfer o neilltuo rhai dinasoedd i fod

yn ddinasoedd noddfa. Mannau lle gallai

gwŷr oedd wedi eu cyhuddo ar gam o

drosedd ddifrifol fynd i geisio lloches rhag

y rhai oedd am eu gwaed. Gwelwn y

syniad yn gynnar iawn o fewn y traddodiad

Gorllewinol hefyd. Pasiwyd yng Nghyngor

Cyntaf Orléans yn 511, bod unrhyw un

oedd yn ffoi ac yn ceisio noddfa a’r hawl i

gael lloches mewn eglwys neu adeiladau o

eiddo’r eglwys. Yn yr oesoedd canol roedd

pobl oedd yn cael eu herlid gan eu

gwledydd ei hunain, am resymau crefyddol

neu wleidyddol, yn ffoi i geisio lloches o

dan awdurdod sofran arall. Daeth Voltaire i

Loegr ac aeth Thomas Hobbes i Baris. O

ddiddordeb arbennig i ni fel Cymry, bu’n

rhaid i Gruffudd Robert a Morys Clynnog

ffoi i Milan. Oes, mae yna draddodiad

anrhydeddus i’r Ddinas Noddfa gyfoes.

Canolfan Groesawus

Man cychwyn ein hymweliad ni â LCOS

oedd Eglwys Gatholig Holy Cross yng

nghanol y ddinas. Yno cynhelir canolfan

galw heibio wythnosol, ac roedd y

gwirfoddolwyr yn brysur yn paratoi ar

gyfer hyd at 150 o geiswyr lloches

fyddai’n ymweld â’r ganolfan o ganol dydd

ymlaen. Darperir pryd o fwyd, gweithdai,

sgyrsiau gan arbenigwyr, cymorth

ymarferol gyda phethau fel tocynnau bws a

chyfle i gwrdd â chymdeithasu gydag

eraill. Ond falle’n bwysicach na dim mae’n

fan o groeso, lle gall pobl deimlo’n saff tra

bod nhw yno. Wrth adael cawsom gyfle i

gwrdd ag ambell un oedd wedi dod. Roedd

rhai newydd gyrraedd Caerlŷr a heb fawr

ddim Saesneg, ond mae rhywbeth mor

syml a gwen, ysgwyd llaw a chyfarchiad

cynnes yn ddigon i wneud i bobl ddechrau

teimlo’n gartrefol.

Ymgeiswyr Lloches

Symud ymlaen wedyn i Swyddfa LCOS a

chlywed ychydig am waith bob dydd yr

elusen. Mae tua 1,000 o geiswyr lloches

yng Nghaerlŷr. Y mwyafrif o Zimbabwe,

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Cyfarfodydd Blynyddol

Rhydaman, 2017

Tybed a fyddai’r sawl sy’n bwriadu

dod i’r Cyfarfodydd Blynyddol yn

Rhydaman ac yn gobeithio cael bwyd

yno, yn dychwelyd eu Ffurflenni

Bwyd ar unwaith at:

Mrs Bethan E. Thomas,

Lleifior, 15 Heol yr Hendre,

Tycroes, Rhydaman.

Sir Gaerfyrddin, SA18 3LA

Diolch yn fawr iawn

ond ceir dros 60 o genhedloedd i gyd.

Rhan bwysig o waith LCOS yw helpu

ceiswyr lloches i chwilio am y dystiolaeth

mae’r llywodraeth yn ei hawlio er mwyn

caniatáu eu cais. Mae’n broses hir,

cymhleth ac araf, gyda rhai wedi bod yn

disgwyl i fyny at 15 mlynedd am

benderfyniad ar eu statws. Yn ystod y

cyfnod hwnnw, does ganddynt ddim hawl i

weithio, er bod llawer ohonynt yn meddu

ar arbenigedd a sgiliau mae’r gwledydd

yma’n crefu amdanynt.

Datblygu Sgiliau

Mae LCOS hefyd yn cynnal dosbarthiadau

dysgu Saesneg, coginio, crefftau a garddio,

yn rhedeg cynllun beiciau a adnewyddwyd

ac yn trefnu teithiau a chwaraeon. Diddorol

oedd clywed hefyd am y partneriaethau

sy’n cael eu hadeiladu gydag eraill o fewn

y ddinas. Mae Clwb Pêl-droed Caerlŷr e.e.,

yn noddi’r timoedd pêl-droed ac mae

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 4, 2017Y TYsT

Prifysgol Caerlŷr yn darparu ystafelloedd

ag offer technegol i’r dosbarthiadau

Saesneg. Y cyfan yn rhan o greu’r

diwylliant croeso.

Mae’n debyg bod dinas Caerlŷr yn

ddinas llawn amrywiaeth, gyda hen hanes

o groesawu pobl o wledydd a diwylliannau

gwahanol sydd wedi cyfoethogi bywyd y

ddinas, ond heddiw clywir lleisiau

maleisus cyfryngau a gwleidyddion asgell

dde yn mynnu cyflwyno naratif gwahanol

am luoedd di-wyneb sy’n aros eu cyfle i

gael manteisio ar ein sustem buddiannau

neu heidiau o deroristiaid sy’n bygwth

diogelwch ein ‘den’ bach ni!

Tasg anodd a diddiolch yw ceisio

gwrthweithio’r math yma o beth, ond dyna

a wna mudiad fel ‘Dinas Noddfa,’ sy’n

gwrthod bod yn dawel, wyneb yn wyneb

a’r fath hyn o negyddiaeth, gan fynnu bod

gennym ddyletswydd foesol i wneud mwy

i helpu’r bobl sy’n ceisio croeso a

derbyniad, man diogel a bywyd newydd.

Mwy na Gêm

Gêm bleserus oedd creu ‘den’ i ni yn blant.

Go brin fod angen lloches arnom, wedi’r

cyfan ni oedd cenhedlaeth, ‘You never had

it so good,’ chwedl Harold Macmillan.

Oedd, roedd bywyd Cwmafan a Bangor yn

gyffredinol dda a chymharol saff. Ond nid

gêm yw ceisio lloches a lle saff i gymaint o

bobl ein byd heddiw. Gofalwn ni ein bod

ni’n codi llais i herio’r mythau a dweud y

gwir.

Robin Samuel

Herio’r Mythau aDweud y Gwir -

parhad

DEWI OGWEN 1817-1897Mab i David ac Elizabeth Roberts oedd y

Parch. Dr. David Roberts (‘Dewi

Ogwen’). Un o Gerrig y Drudion, Sir

Ddinbych, ac arolygwr un o

ysgolion Thomas Charles

oedd ei dad; a’i fam yn

ferch i Gwen Jones,

Bertheos, Dolwyddelan.

D’oes ryfedd o gwbl

fod ei mab yn ŵr o

athrylith bregethwrol

mor nodedig, pan

gofir ei fod yn hanu

o’r un llinach a

chewri enwog

Tanycastell,

Dolwyddelan. Ar ôl

priodi symudodd ei rieni

i Fangor. Ganwyd iddynt

ddeg o blant gyda David yn

bedwerydd plentyn.

Cofiant

Mae yn fy meddiant gopi o ‘Cofiant y

Parch. D. Roberts, Wrecsam’ a

gyhoeddwyd yn 1899 yn Swyddfa

Hughes, Dolgellau a ysgrifennwyd gan y

Parch. David Griffith, Bethel. Cynnwys y

gyfrol 16 o benodau, ynghyd ag atodiad,

ac mae’r cofiannydd wedi olrhain hanes a

bywyd y gwrthrych yn amseryddol. Yn

dilyn ychydig o nodiadau arweiniol, ceir

yn ym mhennod 1 hanes ei enedigaeth, ei

fedydd, ei rieni, a.y.b. Pennod 2, dyddiau

mebyd ac ieuenctid, 1817-35. Pennod 3,

o’r cyfnod yr ymunodd â’r Annibynwyr,

hyd ei urddiad i’r weinidogaeth, 1835-39.

Pennod 4, cyfnod cynnar ei weinidogaeth,

Môn a Manceinion, 1839-45. Pennod 5, ei

ddychweliad i Fôn, hyd nes iddo symud i

Gaernarfon, Seion a Chemaes, 1845-50.

Pennod 6, o’i ymsefydliad yng

Nghaernarfon, hyd agoriad Capel Salem

yno, 1850-62. Pennod 7, o agoriad Salem

hyd ei daith i’r America, 1862-69. Pennod

8, o gychwyniad y daith i America, hyd ei

ymadawiad o Gaernarfon i Wrecsam,

1869-72. Pennod 9, o adeg ei ymsefydliad

yn Wrecsam, hyd ei benodiad i Gadair

Undeb yr Annibynwyr, 1872-79. Pennod

10, o Gadair yr Undeb, hyd adeg

cyflwyniad Tysteb Jiwbili ei

weinidogaeth, 1879-1888 a.y.y.b.

Cefndir

Ganwyd David Roberts ym Mangor, Ebrill

19, 1817. Addysgwyd ef mewn ysgol

breifat yn y ddinas, ac yna yn Ysgol y

Parch. Dr.Arthur Jones. Yn Nhachwedd,

1833, cafodd waith fel argraffydd gyda’r

papur lleol. Derbyniwyd ef yn aelod yn

hen gapel Lôn Bopty (M.C.), Bangor

(Tabernacl oedd enw’r Capel yn

ddiweddarach). Ond ymhen dwy neu dair

blynedd gadawodd yr enwad hwnnw i

ymuno â’r Annibynwyr, yn bennaf

oherwydd dylanwad a’i edmygedd o’i

gyn-athro, Dr.Arthur Jones.

Tyner iawn yw’r hanes a geir yn y

‘Cofiant’ amdano yn Newcastle,

Lloegr, yn mynd dan

lawdriniaeth feddygol oedd yn

ei osod yn y perygl mwyaf i

golli ei fywyd, ond aeth

drwy’r oruchwyliaeth

chwerw honno - nid yn

unig yn deilwng o ddyn yn

meddu nerf gref, ond ffydd

ac ymddiriedaeth yn Nuw.

Yn ei gyfnod o adferiad

aeth ar daith gyda’i gyfaill,

Ieuan o Lŷn (1814-93), ac ar

y daith honno dechreuodd

bregethu. Traddododd ei bregeth

gyntaf yn Nolwyddelan,

prynhawn Sul, Mai ll, 1836, a

dewisodd yn destun: “Gwyn fyd y rhai

perffaith eu ffordd...” o lyfr y Salmau.

Gweinidog

Wrth draed Dr.Arthur Jones, ei weinidog,

daeth yn dipyn o ysgolhaig. Yn 1839

urddwyd yn weinidog ar gapeli Seilo a

Seion, Gogledd Môn, lle yr oedd

Gweirydd ap Rhys ac Edeyrn Môn ymysg

yr aelodau. Llafuriodd yno’n

llwyddiannus hyd 1842 pan symudodd i

ofalu am y Tabernacl, Stryd Gartside,

Manceinion. Yn 1845 dychwelodd yn ôl i

Fôn yn weinidog ar gapeli Cemaes a

Seion. Tua diwedd 1849 ymsefydlodd ym

Mhendref, Caernarfon, yn olynydd i’r

Parchg William Wi11iams, (Ca1edfryn,

1801-69). Diddorol dros ben yw hanes ei

daith i’r America, a geir yn ei eiriau ei

hun, lle cafodd groeso cynnes gan

Gymry’r wlad honno. Yn fuan ar ôl ei

ddychweliad cafodd alwad oddi wrth

Eglwys, Ebeneser, Queen St, Wrecsam, ac

yno y bu hyd ei farw Medi 5, 1897.

Llenor

Traddododd bregeth yng Nghyfarfodydd

Undeb Annibynwyr yn ym Mhorthmadog

yn 1877. Bu’n gadeirydd yr Undeb yn

1879, yn Llywydd Undeb Annibynwyr

Saesneg Gogledd Cymru, ac yn

ysgrifennydd Coleg y Bala cyn i’r coleg

symud i Fangor. Yr oedd hefyd yn gryn

lenor a bardd a chafodd ei ffugenw

barddonol ‘Dewi Ogwen’ yn Eisteddfod

Genedlaethol Caernarfon 1862.

Cyhoeddodd ddwy gyfrol o bregethau

Cymraeg, ac un yn Saesneg. Bu’n olygydd

‘Yr Ardd’, misolyn Cymraeg, 1865 hyd

1869 a chyfieithodd ‘Uncle Tom’s Cabin’

i’r Gymraeg yn 1862. Cyfansoddodd

emynau ac ymddangosodd nifer ohonynt

yn y ‘Caniedydd Cynulleidfaol’.

W. ARVON ROBERTS

Mai 4, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT

Barn AnnibynnolPererindota

Pan fydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys yrAlban yn cyfarfod y mis yma, mi fyddpapurau newyddion y wlad, fel pobblwyddyn, yn cymryd sylw. Fel gyda llawer

o sefydliadau’r Alban,mae’n anodd iAnnibynnwr o Gymroddirnad pwysigrwydd yKirk i fywyd cyhoeddus ywlad. Ers ei sefydlu yn1560, mae’r eglwysBresbyteraidd yma wedibod yn gosod safonaumoesol, arferion addoli ahyd oed safbwyntgwleidyddol y genedl.

Cysgod John Knox

Ar yr agenda eleni, mae trafodaeth arwyrdroi canrifoedd o wrthwynebiad ibererindota. Mi fydd trafod brwd, dwi’nsiŵr ac - yn ôl fy nghyfeillion yn yr Alban -gan nad y Kirk yw’r sefydliad mwyafradical yn y wlad mi fydd llawer ynymwrthod agunrhyw newidagwedd. Maerhywun yn cael yrargraff fod llaisJohn Knox yn dal idaranu yn erbynarferion Pabyddolofergoelus ypererinion bron ibum canrif yn ôl. Ond mae’r cynnig eleniyn rhoi pererindod ynghanol bywyd yr

i Gristnogion cyfoes. Mi ddywedodd hynmewn cyfweliad diweddar:

“Daw addoliad mewn llawer ffurf acmae pererindod yn un ohonyn nhw. Nidyw arferiad oedfa bore Sul, er mor firain agwerthfawr ydyw, yn cyrraedd pobl sy’ndioddef o newyn ysbrydol mawr, ond syddheb ddatblygu’r arfer hwnnw. Efallai nadyw’r rhai sy’n cerdded llwybr pererinion yngonfensiynol grefyddol, ond ychydigfyddai’n dweud ar ôl cyrraedd pen y daith,na chawson nhw brofiad ysbrydol. Ar adegpan yw’r eglwys yn chwilio am ffyrddnewydd o gyffwrdd calonnau pobl, maepererindod yn offeryn pwerus.”

Y daith sydd bwysicafEfallai, ar ddechrau’r haf fel hyn, y dylaipob eglwys feddwl am ei bererindodflynyddol. Nid yn unig dros yr hen lwybrauhynafol, ond mwy o bererindota i fannausy’n gysegredig i’n traddodiadanghydffurfiol ni. Wedi’r cyfan, fe wnaethJohn Bunyan daith y pererin yn drosiad ifywyd y Cristion ac fe allai llawer sydd hebgael maeth ysbrydol o’r oedfa mewn capelei dderbyn ar bererindod. Mi fydd yndrafodaeth frwd yng NghymanfaGyffredinol y Kirk ond mae’r Parchg.Frazer yn dadlau “Mae’r rhai sy’n gwgu arbererindota wedi colli golwg ar y ffaithmai’r peth pwysicaf yw’r daith ac nid ycyrraedd. Dyna pryd y cawn gyfle igyfarfod ag eraill a gweld Iesu Grist mewndieithryn. Wrth ddiwygio hen arferionofergoelus, efallai inni golli gwirioneddmawr.”

Mae’n siŵr fod gwirionedd i ninnau ynhynny hefyd.

Euryn Ogwen(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o

reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr

Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)

eglwys. Ym mis Mawrth fe gafodd ysyniad dipyn o hwb gan y LoteriGenedlaethol gyda thaliad o £399,000 argyfer ail-sefydlu llwybr pererinion o dros y70 milltir o Culross i St Andrews, ac ar Suly Pasg eleni fe agorwyd llwybr pererin- ionnewydd yn Orkney, gyda nawdd preifat achyhoeddus, i ddathlu naw canmlwyddiantmarwolaeth Sant Magnus - nawddsant yrynys.

Pererinion

Ond beth yn enw rheswm, medde chi,sydd gan hyn i’w wneud gyda ni? Ynwahanol i’r Alban, parhaodd pererindotayn elfen yn ein crefydda ni dros ycanrifoedd. Dim byd tebyg i’r Camino deSantiago - llwybr sy’n arwain drwy ogleddSbaen lle mae nifer y pererinion wedicynyddu o ychydig filoedd hanner canrifyn ôl i chwarter miliwn y llynedd. Bu’rcynnydd mewn pererinion yma yngNghymru, yn enwedig ar draws Pen Llŷn aPhenrhyn Dewi ac i Ystrad Fflur, ynsylweddol hefyd dros y blynyddoedddiwethaf ac mae’n un o’r elfennau sy’ndenu ymwelwyr i’n gwlad.

Llwybr Ysbrydol

Mae’r Parchg. Richard Frazer, un oarweinwyr y Kirk, yn credu fod pererindodyn cynnig llwybr ysbrydol cywir ac ystyrlon

Euryn Ogwen

Williams

Cymanfa Ganu

Annibynwyr

Pen Llŷn

Capel Hebron Llangwnnadl

Dydd Sul Mai 14eg

Arweinydd:

Mr Tudur Eames Jones,

Tremeirchion

Organyddes:

Mrs Gwenda Roberts Hebron

Cyfarfod y Plant 2.30 ac

Oedolion am 6.00.

Eitemau gan Meibion Carnguwch

yn ystod oedfa nos.

Dewch yn llu

Diwrnod i’rGweinidogion

Cyfundebau ac Eglwysi’r De

Bethania, Tymbl Uchaf, ar ddyddMawrth, 23 Mai 2017. Byddwn

yn cychwyn am 10.30am gyda

choffi.

Daw y Parchg Ddr JohnMorgans a’r Parchg Peter Nobleatom i sôn am eu llyfr, Our Holy

Ground, a bydd y Parchg WayneHawkins, Ysgrifennydd Cenhadaol

CWM Ewrop, gyda ni i’n

hysbrydoli yn ein cenhadaeth

unwaith eto.

Os am ginio, cysylltwch â Nerys

Humphries yn Nhŷ John Penri cyn

dydd hanner dydd, dydd Gwener,

19 Mai.

CYWIRIADYn y rhifyn diwethaf o’r Tyst feddywedwyd fod Dion Wyn, mab

Catrin Medi a Mesach wedi ei fedyddio

gan y Parchg Andrew Lenny yn Seion

Aberystwyth. Newyddion ffug oedd

hyn gan fod Dion wedi ei fedyddio ar

26ain Mawrth 2017 yng nghapel

Bethlehem, Llanddewibrefi.

Ymddiheuriadau mawr am y

camgymeriad hwn. (Gol.)

Gibea, Brynaman

Dathlu 175 Mlwyddiant

Bydd Capel Annibynnol Gibea,

Brynaman, yn dathlu pen blwydd

arbennig ar 21ain Mai eleni. Estynnir

croeso i chwi ymuno â ni yn y dathliad.

Bydd te am dri o’r gloch yna, i ddilyn,

bydd gwasanaeth dan arweiniad Y

Parchg John Gwilym Jones.