Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
1
CANLLAW ARFERION DA
i gyd-fynd â
Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a
Swyddogaethau) (Cymru) 2018
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
2
Cyflwyniad a Chyd-destun Cyfreithiol
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 wedi cael eu dirymu ac yn eu lle
mae tair set wahanol o Reoliadau a ddaeth i rym ar 29 Ebrill 2019. Nid yw Safonau
Gofynnol Cenedlaethol 2000 yn gymwys mwyach.
Mae'r tair set o Reoliadau fel a ganlyn:
1. Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018. Fel
y'u diwygiwyd gan Reoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol
(Cymru) (Diwygio) 2019/545
Cyhoeddir y rhain o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014 gyda Chod Ymarfer Ategol.
http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/1339/made/data.pdf
Mae'r rhain yn gymwys i Ddarparwyr Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol
yn unig.
2. Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr
Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.
Cyhoeddir y rhain o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol
(Cymru) 2016 (RISCA) gyda Chanllawiau Statudol ategol.
http://www.legislation.gov.uk/wsi/2019/169/made/data.pdf
Mae'r rhain yn gymwys i Ddarparwyr Gwasanaethau Maethu Annibynnol yn unig.
Mae'r ddwy set uchod o reoliadau yn ymwneud â'r ffordd y caiff gwasanaethau
maethu eu rheoli, eu staffio a'u cefnogi i ymgymryd â'r rôl faethu.
3. Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018.
Cyhoeddir y rhain o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014 ac maent yn gymwys i Ddarparwyr Gwasanaethau Maethu Awdurdodau
Lleol a Darparwyr Annibynnol. Mae'r rheoliadau hyn yn ymwneud â
swyddogaethau asiantaeth mewn perthynas â sefydlu Paneli Maethu; asesu
darpar Rieni Maeth (gan gynnwys asesu Personau Cysylltiedig; Adolygu a
therfynu: Mecanwaith Adolygu Annibynnol (IRM); Cofnodion sy'n ymwneud â
Rhieni maeth.) http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/1333/made/data.pdf
Am y tro cyntaf, mae'r rheoliadau hyn yn cyflwyno'r Rhestr Ganolog ar gyfer
Paneli Maethu i Gymru (mae'r rhestr wedi bod ar waith yn Lloegr ers 2013 ac ar
gyfer Mabwysiadu yng Nghymru ers 2015); y broses dau gam ar gyfer asesu
http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/1339/made/data.pdfhttp://www.legislation.gov.uk/wsi/2019/169/made/data.pdfhttp://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/1333/made/data.pdf
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
3
Rhieni maeth a'r Adroddiad Cryno (y mae'r ddau ar waith ym maes maethu yn
Lloegr ers 2013).
Lluniwyd y canllaw ymarfer hwn gan AFA Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a dylid ei
ddefnyddio wrth gymhwyso Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau)
(Cymru) 2018. Mae'n ymgorffori adborth gan ymarferwyr maethu ac aelodau paneli a
gymerodd ran yn y rhaglen hyfforddiant helaeth a ddarparwyd gan AFA Cymru. Mae nifer
sylweddol o ddarparwyr gwasanaethau maethu mewn awdurdodau lleol ac yn y sector
annibynnol ledled Cymru wedi cyfrannu at y gwaith drwy 2019, a chynhaliwyd
digwyddiadau ymgynghori yn y Gogledd a'r De ar Adroddiad Darpar Ofalwyr Maeth
Cymru (Ffurflen F).
Yn ogystal, cyfeirir at ganllawiau statudol ar gyfer Lloegr (yr Adran Addysg Gorffennaf
2013) a Safonau Gofynnol Cenedlaethol Lloegr 2011 ynghyd â rhai testunau y cyfeirir
atynt. Mae’r rhain yn cynnwys:
• Undertaking Checks and References in Fostering and Adoption
Assessments. 2019. Paul Adams. CoramBAAF
• Effective Fostering Panels. Sarah Borthwick a Jenifer Lord. 2019: CoramBAAF
• Good Practice Guide for the Assessment and Support of Kinship Foster
Carers AFACymru
• Fframwaith Dysgu a Datblygu i Ofalwyr Maeth ar ôl Cymeradwyaeth. AFA
Cymru
• Undertaking a Fostering Assessment. 2020. Roger Chapman a Dawn Owen.
CoramBAAF
Nid yw'r canllaw yn ganllaw statudol nac yn god ymarfer ac felly nid oes dyletswydd
gyfreithiol ar ddarparwyr gwasanaethau maethu i'w ddilyn. Fodd bynnag, fe'i lluniwyd
gyda'r nod o ledaenu a datblygu arferion da cyson ledled Cymru, gan roi gwasanaeth i
bawb sy'n ymwneud â'r broses faethu sy'n cyrraedd y safonau uchaf ledled y wlad. Gellir
cyfeirio ato fel llinell sylfaen gyffredin ar gyfer arferion da at ddibenion arolygu.
Mae'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau maethu feddu ar bolisïau a gweithdrefnau sy'n
nodi'r hyn sy'n ddisgwyliedig ganddynt, ac nid yw'r canllaw hwn yn cymryd lle'r rhain. Nid
yw'r canllaw ychwaith yn atal arferion da rhag cael eu datblygu sy'n unigryw i ranbarth
neu wasanaeth penodol. Fodd bynnag, mae'n nodi fframwaith y gall pob rhanbarth neu
wasanaeth ei ddefnyddio i ddiwallu ei anghenion penodol ei hun.
Mae'r canllaw yn cyfyngu ei hun i feysydd ymarfer a nodwyd mewn teip trwm uchod, h.y.
y Rhestr Ganolog, y broses Dau Gam ar gyfer asesu a'r Adroddiad Cryno, a'r
swyddogaethau / arferion sy'n gysylltiedig â'r rhain.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
4
Nid yw'r holl reoliadau wedi cael eu hatgynhyrchu. Mae'r rheoliadau sy'n ymwneud â'r
arferion da a nodir wedi cael eu copïo (mewn glas) gyda'r fframwaith arferion da yn dilyn
(testun du mewn blychau).
Mae'r canllaw hefyd yn cynnwys siart lif ddefnyddiol ar gyfer Camau 1 a 2: Proses Asesu
a Chymeradwyo Rhieni Maeth sy'n dangos y ffordd y mae Camau 1 a 2 yn cyd-fynd â'i
gilydd. Gweler Atodiad 1
Ni fwriedir i'r siart lif hon gwmpasu'r holl geisiadau y mae'n rhaid i ddarparwr
gwasanaethau maethu ymdrin â nhw fel rhan o'r broses a dylai gwasanaethau gyfeirio at
y rheoliadau a'r canllawiau ar gyfer y wybodaeth hon. Datblygwyd y siart lif hon o dempled
yr Adran Addysg a ddefnyddir yn eang yn Lloegr ac a addaswyd yn benodol ar gyfer
Cymru.
Bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau maethu adolygu a datblygu eu taflenni
gwybodaeth a'u ffurflenni eu hunain i'w defnyddio ar gamau amrywiol o'r broses faethu
fel y bo'n briodol. Gwasanaethau unigol fydd yn gyfrifol am hyn er bod rhywfaint o
ganllawiau arferion da wedi'u cynnwys yn hyn o beth.
Mae Adroddiad Darpar Ofalwyr Maeth (Ffurflen F) CoramBAAF i Gymru wedi cael ei
ddiweddaru ac mae ar gael i'w ddefnyddio, ynghyd â nifer o ddogfennau ategol. Cyfeirir
at y dogfennau hyn drwy'r canllaw.
Noder: yn y canllaw hwn cyfeirir at “darparwyr gwasanaethau maethu”. At ddiben y
ddogfen hon, mae hyn yn cyfeirio at naill ai Ddarparwyr Gwasanaethau Maethu mewn
Awdurdod Lleol, Darparwyr Gwasanaethau Maethu Nid er Elw yn y 3ydd Sector, neu
Ddarparwyr Gwasanaethau Maethu Annibynnol sy'n darparu gwasanaethau maethu
ledled y 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Cyfeirir at yr ymgeiswyr yn y broses fel a ganlyn:
• ‘ymgeisydd’ o'r ymholiad cychwynnol hyd at ddechrau Cam 1
• ‘Darpar Rieni Maeth’ o ddechrau Cam 1 nes y ceir penderfyniad gan y Sawl sy'n
Gwneud Penderfyniadau
• ‘Rhieni Maeth Cymeradwy’ ar ôl penderfyniad y Sawl sy'n Gwneud
Penderfyniadau
Cyfeirir at yr uchod gan ddefnyddio'r unigol, fel y gwneir yn y rheoliadau, ond mae'r termau
yr un mor gymwys i gyplau sydd am fod yn rhieni maeth.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
5
Y Rhestr Ganolog
Mae'r broses o sefydlu'r Rhestr Ganolog a ddefnyddir i gyfansoddi paneli maethu wedi'i
nodi yn Rheoliadau 2018 ac mae'n disodli'r hen drefn o sefydlu paneli o dan Reoliadau
2003.
Mae manteision y Rhestr Ganolog yn cynnwys y gallu i ddarparwyr gwasanaethau
maethu sefydlu cynifer o baneli ag sy'n angenrheidiol o ystyried swm a chymhlethdod y
gwaith dan sylw. Bydd hyn yn lleihau oedi diangen ac yn galluogi aelodau paneli i
ddangos arbenigedd penodol lle y bo angen.
Mae Rheoliad 3(1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparwr gwasanaethau maethu
gynnal rhestr o bersonau y mae’r darparwr yn ystyried eu bod yn addas i fod yn
aelodau o banel maethu (“y rhestr ganolog”), gan gynnwys
(a) Un neu ragor o weithwyr cymdeithasol a chanddynt o leiaf dair blynedd o
brofiad ôl-gymhwyso perthnasol,
(b) Un neu ragor o bersonau sydd wedi gweithredu fel rhiant maeth, ar yr amod
nad ydynt wedi eu penodi, ac nad ydynt erioed wedi eu penodi, yn rhiant
maeth gan y darparwr gwasanaethau maethu
Recriwtio a Chefnogi
Yn draddodiadol, mae nifer o aelodau paneli wedi cael eu recriwtio drwy
argymhellion penodol ac, er bod gwerth drwy wneud hyn, gall hefyd olygu bod
aelodau yn cael eu dethol o gasgliad cul o bobl. Felly, dylid defnyddio proses
agored i recriwtio aelodau i'r Rhestr Ganolog, ac annog ceisiadau gan amrywiaeth
eang o bobl a disgyblaethau. Gellid gwneud hyn drwy hysbysebion lleol,
cylchlythyrau mewnol neu drwy grwpiau defnyddwyr gwasanaeth.
Dylai'r darparwr gwasanaethau maethu roi polisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig clir
ar waith ar gyfer recriwtio pobl i'r Rhestr Ganolog, yr ystyrir y byddent yn aelodau
addas o'r panel maethu, a chynnal a chadw'r rhestr hon. Nid oes gofynion penodol o
ran ffurflenni a ddefnyddir i recriwtio a chefnogi aelodau paneli a bydd gan lawer o
wasanaethau eu trefniadau eu hunain. Mae'r Atodiadau yn “Effective Fostering
Panels” gan Sarah Borthwick a Jenifer Lord, CoramBAAF 2015, yn cynnwys
amrywiaeth o ffurflenni a allai fod yn ddefnyddiol a gellir eu haddasu fel y bo'n briodol.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
6
Dylai pob aelod o banel fod yn ddarostyngedig i wiriadau cynhwysfawr fel rhan o'r
broses recriwtio. Dylai'r rhain gynnwys gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd ac o leiaf ddau eirda sy'n gallu gwneud sylwadau ag awdurdod ar
rinweddau a phrofiadau perthnasol. Dylid cynnig hyfforddiant perthnasol i aelodau
paneli fel rhan o'u cyfnod sefydlu a'u datblygiad parhaus a dylent arsylwi ar y panel i
ddechrau cyn dod yn aelod sy'n pleidleisio.
Dylai darparwyr gwasanaethau maethu ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig â phob
aelod er mwyn amlinellu'r hyn a ddisgwylir gan yr aelod o'r panel a'r gwasanaeth.
Dylai hyn gynnwys y canlynol (ymhlith pethau eraill):
• Disgwyliadau mewn perthynas â'r gofynion i ymgymryd â chyrsiau Dysgu a
Datblygu, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau hyfforddiant parhaus (i aelodau
sy'n newydd i baneli maethu, dylid darparu hyfforddiant mewn perthynas â'r rôl
a'r gofynion bob amser)
• Disgwyliadau mewn perthynas â phresenoldeb yng nghyfarfodydd y panel, gan
gynnwys gofynion sylfaenol (fel arfer dim llai na 75% er mwyn sicrhau
aelodaeth effeithiol)
• Ymddygiad cyn, yn ystod ac ar ôl y panel mewn perthynas â chyfrinachedd a
datgan unrhyw wrthdaro buddiannau (dylai'r gwasanaeth nodi'r hyn a ystyrir yn
wrthdaro buddiannau a'r broses y dylai aelod o'r panel ei dilyn yn hyn o beth)
• Y gofyniad i ddarllen ac ystyried holl waith papur y panel yn drwyadl, gan
gynnwys yr amserlenni disgwyliedig sydd ar waith ar gyfer rhoi'r gwaith papur
i'r aelodau (dylai amserlenni'r gwasanaeth sicrhau y caniateir digon o amser,
gan ystyried swm y gwaith darllen a chymhlethdod y cynnwys)
• Disgwyliadau o ran y dull a'r fformat y dylai aelodau'r panel eu defnyddio wrth
gwblhau adborth ysgrifenedig pan fydd yn sicrhau ansawdd gwaith papur y
panel, gan gynnwys y ffordd y caiff hwn ei goladu cyn, yn ystod ac ar ôl y panel
• Darparu prosesau goruchwylio ac arfarnu a chymryd rhan ynddynt
• Y gofyniad i ymarfer mewn ffordd wrthwahaniaethol ac ystyried pob achos yn
unigol
Dylai pob aelod o'r panel gael arfarniad blynyddol, gan gynnwys Cadeirydd y Panel.
Dylai arfarniadau adlewyrchu'r gofynion fe y'u nodir yng nghytundeb yr aelod unigol,
gyda phwyslais penodol ar rôl a chyfrifoldebau'r aelod unigol.
Dylai darparwyr gwasanaethau maethu fod yn ymwybodol bod yr holl bobl ar y rhestr
ganolog yn aelodau paneli posibl ac y byddant yn ddarostyngedig i'r un broses
adolygu. Os na fyddant yn mynychu'n rheolaidd, dylid ystyried a yw'n ddefnyddiol eu
cadw ar y Rhestr Ganolog.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
7
.
Dylai cynghorydd y panel a chadeirydd y panel gynnal arfarniadau blynyddol o
aelodau'r panel ar y cyd. Dylai cynghorydd y panel a'r Sawl sy'n Gwneud
Penderfyniadau gynnal arfarniad cadeirydd y panel ar y cyd. Efallai y byddai'n fuddiol
sicrhau bod y Sawl sy'n Gwneud Penderfyniadau yn cael y cyfle i fynychu panel er
mwyn cyflawni'r swyddogaeth hon yn effeithiol.
Aelodaeth y Rhestr Ganolog
Dylai darparwr gwasanaethau maethu gymryd gofal i sicrhau bod nifer, sgiliau,
gwybodaeth a phrofiad y bobl ar y Rhestr Ganolog yn ddigonol er mwyn sicrhau bod
paneli yn gallu gweithredu'n effeithiol a'u bod yn gallu gwneud argymhellion cymwys
i'r darparwr gwasanaethau maethu. Dylai'r rhai sy'n gyfrifol am benodi aelodau paneli
gofio pa mor bwysig yw'r dasg ac, wrth wneud hynny, dylent fod yn fodlon bod gan
aelodau paneli y wybodaeth a'r cymhwysedd sy'n ofynnol i ddiogelu plant sy'n agored
i niwed.
Mae'r Rhestr Ganolog yn golygu bod mwy o hyblygrwydd gan fod mwy o aelodau
posibl, a gellir defnyddio'r unigolion hynny nad ydynt efallai'n gallu ymrwymo i baneli
a gynhelir bob pythefnos neu bob mis, ond sydd â llawer i'w gynnig serch hynny.
Rhaid i bob darparwr gwasanaethau maethu gadw ei restr ganolog ei hun ond nid
oes rheswm pam na all un person fod ar ddwy restr ganolog neu ragor.
Dylai darparu gwasanaethau maethu fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y bydd angen
cynnig cymorth ychwanegol i rai aelodau er mwyn iddynt gyflawni eu hymrwymiad i
fynychu panel. Gallai hyn gynnwys cyfeillio ag aelod profiadol o'r panel, cymorth
ymarferol ar gyfer mynychu'r panel ac unrhyw addasiadau a chymorth arall fel y bo
angen.
Mae gwaith ymgynghori, ymchwil ac arferion gorau yn awgrymu y dylai cyfansoddiad
y Rhestr Ganolog gynnwys y canlynol:
• Nifer o rieni maeth cymeradwy sydd â phrofiad addas, gan gynnwys darparwyr Prif Ffrwd a darparwyr Awdurdod Lleol, Gofalwyr Maeth sy'n Bersonau Cysylltiedig. Rhaid i'r rhain fod yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu, ac ni allant fod wedi'u cymeradwyo gan y gwasanaeth ar hyn o bryd nac yn flaenorol. (Rheoliad 3(1)(b)).
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
8
Nifer y paneli ac aelodaeth paneli
Mae Rheoliad 4(1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparwr gyfansoddi un neu ragor
o baneli maethu, fel y bo angen. Rhaid iddo benodi aelodau’r paneli o blith y
personau sydd ar y Rhestr Ganolog:
(a) Person, y mae rhaid iddo fod yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau
maethu
• Nifer o weithwyr cymdeithasol cymwysedig a chanddynt o leiaf dair blynedd
o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol (Rheoliad 3(1)(a)). Dylai'r profiad hwn fod
ym maes gwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd, gan gynnwys
profiad uniongyrchol o faethu naill ai fel gweithiwr cymdeithasol goruchwylio
neu fel gweithiwr cymdeithasol plant sy'n gyfrifol am leoli a chefnogi plant
mewn gofal maeth. Byddai disgwyl i aelodau sydd â chymhwyster ym maes
gwaith cymdeithasol allu dangos dealltwriaeth o ddeddfwriaeth, polisïau ac
arferion da mewn perthynas â maethu, ynghyd â gwybodaeth gyfredol am
ddiogelu.
• Unigolyn (neu nifer o unigolion) sydd â phrofiad blaenorol o fod mewn gofal ac sy'n gallu cyfrannu safbwynt personol a chynrychioli llais y plentyn ym musnes y panel. Bydd yr aelod hwn o'r panel yn gallu cynnig safbwynt gwerthfawr ar benderfyniadau'r panel o brofiad byw. Mae'n hanfodol ystyried gwydnwch unigolyn i ymgymryd â'r dasg a byddai'n anarferol penodi person dan 21 oed neu berson sydd wedi Derbyn Gofal yn y gwasanaeth ei hun.
• Dylid cynnwys aelodau paneli sydd â gwybodaeth am feysydd penodol eraill ar y Rhestr Ganolog hefyd er mwyn sicrhau bod arbenigedd o amrywiaeth o ddisgyblaethau sy'n gysylltiedig ag ehangder y dasg, gan gynnwys y canlynol (ymhlith eraill): iechyd (fel arfer y nyrs ddynodedig ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal neu nyrs ysgol); addysg (fel arfer y cydlynydd addysg Plant sy'n Derbyn Gofal dynodedig); aelod etholedig (sydd ag atebolrwydd rhianta corfforaethol dynodedig fel arfer); tai; eiriolaeth; iechyd meddwl; anabledd; a hawliau lles
• Rhaid i aelodau paneli sy'n annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu ac
sy'n gallu cyflawni gofynion cadeirydd ac is-gadeirydd y panel gael eu cynnwys
ar y rhestr ganolog hefyd (darperir canllawiau pellach yn y ddogfen hon mewn
perthynas â'r aelodau hyn)
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
9
(b) un neu ddau o bersonau a gaiff weithredu fel cadeirydd os yw’r person a
benodwyd i gadeirio’r panel yn absennol neu os yw’r swydd honno yn wag
(“yr is-gadeiryddion”).
(Nid oes rhaid i is-gadeirydd fod yn annibynnol, ond byddai hyn o fudd at
ddibenion sicrhau bod cworwm.
Rheoliad 4(3) Caiff darparwr gwasanaethau maethu dalu i unrhyw aelod o banel
maethu a gyfansoddir ganddo unrhyw ffi a benderfynir ganddo, a hynny’n ffi o
swm rhesymol.
Rheoliad 4(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu sicrhau bod digon o
aelodau ar y panel maethu, a bod gan yr aelodau unigol rhyngddynt y profiad a’r
arbenigedd sy’n angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau’r panel yn effeithiol.
Rheoliad 5(6) Rhaid i’r panel maethu hefyd wneud cofnod ysgrifenedig o’i
drafodion a’r rhesymau dros ei argymhellion.
Rheoliad 6(1) Ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei gynnal gan banel maethu oni
bai bod o leiaf y canlynol yn cyfarfod fel panel
(a) Naill ai’r person a benodwyd i gadeirio’r panel neu un o’r is-gadeiryddion
(b) Un aelod sy’n weithiwr cymdeithasol a chanddo o leiaf dair blynedd o
brofiad ôl-gymhwyso perthnasol, a
(c) Tri, neu yn achos panel maethu a gyfansoddir ar y cyd o dan reoliad 4(2),
bedwar aelod arall, a
Phan na fo’r cadeirydd yn bresennol ac na fo’r is-gadeirydd sy’n bresennol yn
annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu, rhaid i o leiaf un o aelodau
eraill y panel fod yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu.
Dylai aelodau paneli fod yn aelodau o Restr Ganolog y darparwr gwasanaethau maethu.
Bwriedir i baneli fod yn gyrff amlddisgyblaethol sy'n adlewyrchu'r gymuned leol, yn gytbwys
o ran rhywedd, ac sy'n gallu ystyried anghenion y plant a'r rhieni maeth y mae'r gwasanaeth
yn darparu ar eu cyfer. Mae cydbwyso gwybodaeth ac arbenigedd ynghyd ag annibyniaeth
a'r gallu i herio yn ofyniad hanfodol i unrhyw banel maethu. Weithiau gellir sicrhau hyn
drwy wneud y defnydd gorau o adnoddau rhanbarthol a chyflwyno cyd-drefniadau cilyddol
rhwng gwasanaethau.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
10
Nid oes gofyniad rheoliadol i baneli gael aelodaeth sefydlog na lleiafswm neu uchafswm
o aelodau, er y dylai asiantaethau ystyried gallu'r panel i weithredu'n gydlynol a gyda lefel
o gysondeb. Mae'n bosibl mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw cael aelodaeth graidd o
leiaf. Gweler manylion am gworwm a chyfnodau ar y panel isod.
Nid oes gofyniad rheoliadol i gynnwys aelod etholedig ar banel er y gall aelodau
etholedig, fel cynrychiolwyr y rhiant corfforaethol, wneud cyfraniad gwerthfawr fel aelod
o'r panel. Gallant hefyd weithredu fel cyfryngwr rhwng darpariaeth faethu leol ac uwch-
swyddogion sy'n gwneud penderfyniadau.
Nid oes gofyniad rheoliadol i Gynghorydd Panel eistedd ar baneli maethu ond
cydnabyddir yn eang fod hon yn rôl hynod werthfawr ac yn un hanfodol er mwyn cyrraedd
safonau ymarfer o ansawdd. Mae ymarferwyr wedi nodi bod hyn yn gyffredin yng
Nghymru ymhlith darparwyr gwasanaethau maethu Awdurdodau Lleol a rhai Annibynnol.
Nid oes gan Gynghorydd y Panel hawl i bleidleisio ac ni ddylai gymryd rhan yn y broses
o wneud argymhellion.
Dylai rôl Cynghorydd y Panel gael ei hamlinellu'n glir gan bob darparwr gwasanaethau
maethu, a dylid nodi'r hyn a ddisgwylir ganddo ef a'r gwasanaeth yn glir. Bydd hyn yn
cynnwys cydlynu agenda'r panel a chytuno arni; sicrhau bod y gwaith papur wedi bod
drwy brosesau sicrhau ansawdd ac yn cael ei anfon at aelodau'r panel (dylid cytuno ar
amserlen ar gyfer gwneud hyn er mwyn sicrhau bod aelodau'r panel yn cael digon o
amser i ddarllen ac ystyried unrhyw adroddiadau); cynghori ar reoliadau, canllawiau,
polisïau a gweithdrefnau; derbyn adborth ar faterion sy'n ymwneud ag ymarfer ac adrodd
yn ôl i'r gwasanaeth; bod yn rhan o'r gwaith o recriwtio, sefydlu a hyfforddi, ac adolygu
aelodau'r panel.
Mae rôl Cynghorydd y Panel yn gymhleth ac mae gofyn i'r sawl sy'n ymgymryd â'r rôl fod
yn hyderus ac yn gymwys wrth ymdrin â materion sensitif ac anodd yn wrthrychol. Dylai
strategaethau clir fod ar waith i ymdrin ag unrhyw wrthdaro buddiannau h.y. rôl y rheolwr
llinell a rôl cynghorydd y panel.
Cynghorydd Meddygol i Banel
Nid oes gofyniad rheoliadol ynghlwm â maethu, fel sydd gyda mabwysiadu, i gynghorydd meddygol asiantaeth neu gynghorydd meddygol eistedd ar banel.
Fodd bynnag, ystyrir bod gwerth y rôl hon a'r safbwynt a'r cyngor proffesiynol arbenigol mae'n eu darparu yn hanfodol i wasanaethau gyrraedd safonau ansawdd ac arferion gorau. Felly argymhellir bod gwasanaethau'n penodi cynghorydd meddygol neu weithiwr iechyd proffesiynol arall fel aelod craidd o'r panel neu gynghorydd iddo.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
11
Ar adeg ysgrifennu'r canllaw hwn, nid yw cydsyniad ar gyfer asesiadau meddygol (ffurflenni Iechyd Oedolion) yn caniatáu i weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt gymhwyster meddygol gael gafael ar yr adroddiad na gwneud sylwadau arno. Mae hyn yn gymwys i gymeradwyaethau ac adolygiadau. Mae'r ffurflen Iechyd Oedolion yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a disgwylir y bydd y cydsyniad yn newid er mwyn adlewyrchu'r angen i aelodau o staff sy'n asesu ac yn goruchwylio allu cael gafael ar y wybodaeth hon i sicrhau bod mesurau diogelu a lles cadarn ar waith. Nid yw hyn yn golygu nad oes angen i adroddiad meddygol gael ei lunio gan ddefnyddio cynnwys y ffurflen Iechyd Oedolion oherwydd nid oes disgwyl i weithwyr cymdeithasol ymgymryd â'r dasg arbenigol hon (a drafodir mewn mwy o fanylder yn ddiweddarach yn y ddogfen hon). Gellir dod o hyd i wybodaeth sy'n ymdrin â'r mater hwn ac yn tynnu sylw at rôl a chyfrifoldebau Cynghorwyr Meddygol yn “Promoting the Health of Children in Public Care” (CoramBAAF) a “Undertaking a Health Assessment” (CoramBAAF).
Cyfansoddiad a Chworwm Panel
Yn amodol ar sicrhau bod cworwm, mater i'r darparwr gwasanaethau maethu yw penderfynu
sawl aelod o'i Restr Ganolog ddylai fod yn bresennol ym mhob cyfarfod. Dylid ystyried nifer
yr aelodau er mwyn sicrhau nad yw'r panel yn rhy fawr oherwydd gallai hyn ei gwneud hi'n
anodd i'r cadeirydd gadw trefn neu amharu ar brosesau gwneud penderfyniadau, neu gallai
godi ofn ar y darpar riant maeth neu'r rhiant maeth cymeradwy sy'n bresennol. Y ffactor
pwysicaf yw sicrhau bod cworwm a bod cyfuniad effeithiol o sgiliau, profiad a chymhwysedd
fel bod y panel yn gallu cyflawni ei swyddogaethau.
Isod ceir dwy enghraifft o'r ffyrdd sylfaenol y gellir sicrhau cworwm.
Cadeirydd Annibynnol Is-gadeirydd (ddim yn annibynnol)
Gweithiwr Cymdeithasol (ddim yn annibynnol)
Gweithiwr Cymdeithasol (ddim yn annibynnol)
3 aelod arall (ddim yn annibynnol) 2 aelod arall (ddim yn annibynnol) 1 aelod annibynnol arall
Ar gyfer paneli ar y cyd, dylid cynnwys un aelod ychwanegol (nid oes rhaid iddo fod yn
annibynnol). Ceir rhagor o fanylion am baneli ar y cyd isod. Drwy ddiffiniad, ni fyddai arferion
gorau yn argymell gweithio'n unol â'r gofynion sylfaenol. Maent yno i sicrhau llinell sylfaen o
ran disgwyliadau a dylai gwasanaethau ymdrechu i ragori ar hyn.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
12
Ffioedd i aelodau paneli
Mae'r rheoliadau yn nodi'r ddarpariaeth i ffioedd rhesymol gael eu talu i aelodau'r panel
lle mae eu hangen. Dylai'r rhain ystyried amser paratoi hefyd ynghyd â phresenoldeb yn
y panel a/neu dreuliau i fynychu panel os eir iddynt. Nid yw talu ffioedd yn peryglu
annibyniaeth a gall olygu bod modd recriwtio casgliad ehangach o aelodau paneli na
fyddent fel arfer yn gallu mynychu os na fyddai ffioedd / treuliau ar gael.
Mae gan Gadeirydd y Panel amrywiaeth ehangach o gyfrifoldebau nag aelodau eraill ac
felly byddai'n briodol ei ad-dalu yn unol â hynny. Yn yr un modd, os bydd angen i is-
gadeirydd gadeirio cyfarfod neu ymgymryd ag amrywiaeth ehangach o gyfrifoldebau,
gellid ystyried talu mwy o ffi.
Datgan budd
Efallai y bydd sefyllfaoedd pan fydd aelod o'r panel yn adnabod y darpar rieni maeth neu'r
rhieni maeth cymeradwy sy'n cael eu cyflwyno i banel. Dylai aelodau'r panel roi gwybod
am hyn i'r gwasanaeth cyn gynted ag y nodir y gwrthdaro. Fel arfer byddai hyn yn
digwydd pan fyddai'r aelod yn derbyn y papurau/agenda cyn y panel. Dylid ystyried a
allai'r wybodaeth flaenorol hon niweidio'r broses o ystyried yr achos a dylai'r aelod o'r
panel gael gwybod beth yw'r penderfyniad. Rhaid i gytundebau aelodau'r panel wneud
yr eithriad hwn yn glir a rhaid i wasanaethau wneud penderfyniad yn brydlon er mwyn
sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei diogelu a bod cworwm digonol os bydd rhaid i aelodau
adael panel oherwydd eitem sy'n peri gwrthdaro.
Cofnodion y Panel
Mae sicrhau y gwneir cofnodion o ansawdd da o fusnes y panel yn hanfodol ac yn ofyniad
rheoliadol (Rheoliad 5(6)). Dylai'r sawl sy'n cymryd cofnodion feddu ar y cymwysterau
priodol ac ni ddylai fod yn aelod o'r panel. Dylai'r cofnodion fod yn gyson ac mewn fformat
sy'n cwmpasu materion allweddol, safbwyntiau a fynegwyd a'r canlyniad a'r argymhelliad.
Dylai'r cadeirydd a chynghorydd y panel sicrhau ansawdd y cofnodion a chadarnhau eu
bod yn cynrychioli trafodaethau'r panel. Mae'n ddefnyddiol llunio fformat safonol i
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
13
aelodau'r panel gwblhau eu hadborth unigol sy'n dilyn proses busnes y panel a'r
cofnodion.
Paneli ar y Cyd
Rheoliad 4(2) Caniateir i banel maethu gael ei gyfansoddi ar y cyd gan unrhyw
ddau neu ragor o ddarparwyr gwasanaethau maethu, ac yn yr achos hwnnw
rhaid i’r aelodau gael eu penodi drwy gytundeb rhwng y darparwyr
gwasanaethau maethu, ar yr amod nad yw unrhyw aelod a benodir wedi ei
gymeradwyo, neu erioed wedi ei gymeradwyo, fel rhiant maeth gan y naill neu’r
llall neu unrhyw un neu ragor o’r darparwyr gwasanaethau maethu sy’n
cyfansoddi’r panel ar y cyd
Mae opsiwn i ddarparwyr gwasanaethau maethu unigol ffurfio paneli ar y cyd ond nid yw
hyn yn ofyniad gorfodol. Gall y gwasanaethau unigol fod yn ddarparwyr gwasanaethau
maethu Awdurdod Lleol neu'n rhai Annibynnol neu'n gyfuniad o'r ddau.
Er enghraifft, efallai y byddai dau wasanaeth llai nad oes ganddynt ddigon o fusnes misol
i gael panel diwrnod llawn am ffurfio panel ar y cyd gyda'i gilydd fel ffordd o reoli
adnoddau.
Nid yw'r Rheoliadau yn caniatáu i un darparwr gwasanaethau maethu ddefnyddio panel
darparwr gwasanaethau maethu arall.
Lle mae gwasanaethau yn cynnal paneli ar y cyd, gallant gael rhestrau canolog sydd yn
union yr un peth. Fel y nodwyd yn y Rheoliad, ni all yr aelodau sy'n rheini maeth fod wedi
eu cymeradwyo, neu erioed wedi eu cymeradwyo, gan y naill neu’r llall neu unrhyw un o’r
gwasanaethau unigol sy’n cyfansoddi’r panel ar y cyd.
Mae pob darparwr gwasanaethau maethu yn gyfrifol am sicrhau bod yr aelodau sydd ar
ei restr ganolog yn addas drwy'r broses recriwtio a gwirio, a thrwy ddarparu cymorth. Yn
ymarferol, gall un gwasanaeth ddefnyddio'r wybodaeth wirio a gasglwyd gan yr asiantaeth
arall y mae'n cynnal paneli ar y cyd â hi ac ystyried bod hynny'n ddigonol. Fodd bynnag,
mae'n hanfodol bod y gwasanaeth yn ystyried y wybodaeth ac nad yw'n dibynnu ar y ffaith
bod y gwasanaeth arall wedi'u derbyn fel aelodau addas yn unig.
Os bydd darparwyr gwasanaethau maethu unigol yn cynnal paneli ar y cyd â gwasanaeth
arall, bydd y trefniadau o ran cyfnodau'r aelodau ar bob Rhestr Ganolog yn gymwys o
hyd.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
14
Annibyniaeth
Rheoliad 4(7) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6, nid yw person yn
annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu
(a) os yw wedi ei gymeradwyo ar hyn o bryd gan y darparwr gwasanaethau
maethu i fod yn rhiant maeth
(b) os yw’n perthyn i un o gyflogeion y darparwr gwasanaethau maethu, neu i
unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r gwasanaeth hwnnw
(c) yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, os yw’r person yn aelod
etholedig o’r awdurdod lleol hwnnw, neu wedi ei gyflogi gan yr awdurdod lleol
hwnnw at ddibenion y gwasanaeth maethu neu at ddibenion unrhyw un neu
ragor o swyddogaethau’r awdurdod lleol hwnnw sy’n ymwneud ag amddiffyn
neu leoli plant
(d) yn achos gwasanaeth maethu rheoleiddiedig, os yw’r person wedi ei gyflogi
gan y gwasanaeth hwnnw neu yn un o ymddiriedolwyr y gwasanaeth hwnnw
(e) At ddibenion is-baragraff (b), mae person (“person A”) yn perthyn i berson
arall (“person B”) os yw person A
(i) yn aelod o aelwyd person B, neu’n briod â pherson B neu’n bartner sifil
i berson B
(ii) yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd person B neu
(iii) yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd y person y mae person B
yn briod ag ef neu y mae person B wedi cofrestru partneriaeth sifil ag
ef.
Yn hollbwysig, mae paneli yn chwarae rôl bwysig o ran sicrhau ansawdd, darparu
gwrthrychedd a chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth ychwanegol, ac mewn ymarfer heriol.
Dylai paneli fod yn deg ac felly dylent gael elfen sylweddol o annibyniaeth a all atgyfnerthu
hyn. Mae'r Rheoliad uchod yn nodi'n glir yr hyn y mae annibyniaeth yn ei olygu.
Mae'r Rheoliadau yn nodi bod yn rhaid cael o leiaf 1 aelod annibynnol (gweler yn nes
ymlaen) er y byddai'n arfer dda cael amrywiaeth o aelodau annibynnol sy'n gallu
mynychu.
Y Rhestr Ganolog – Cyfnod Aelodau ar y Rhestr a Dileu Enwau
Aelodau
Rheoliad 3
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
15
(2) Caiff person sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr ganolog ofyn ar unrhyw adeg
i’w enw gael ei ddileu o’r rhestr ganolog drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig i’r
darparwr gwasanaethau maethu.
(3) Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu o’r farn bod person sydd wedi ei
gynnwys ar y rhestr ganolog yn anaddas i aros ar y rhestr neu pan na all person
o’r fath aros ar y rhestr, caiff y darparwr gwasanaethau maethu ddileu enw’r
person hwnnw o’r rhestr drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig iddo, gan nodi’r
rhesymau dros y penderfyniad.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), o ran aelod o’r rhestr ganolog
(a) Caiff ddal swydd am dymor nad yw’n hwy na thair blynedd, a
(b) Ni chaiff ddal swydd fel aelod o restr ganolog yr un darparwr
gwasanaethau maethu am fwy na thri thymor heb gyfnod o ysbaid yn y
canol
Rheoliad 14(1) (darpariaethau trosiannol)
Bernir bod unrhyw aelod o banel maethu a sefydlir o dan reoliad 24 o Reoliadau
2003 a arhosodd yn aelod o’r panel yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym,
o’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, wedi ei benodi’n aelod o banel a
gyfansoddir o dan y Rheoliadau hyn am gyfnod sy’n cyfateb i weddill tymor y
swydd y penodwyd y person amdano o dan Reoliadau 2003.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
16
Mae cyfyngiadau o ran cyfnodau aelodau paneli ar gyfer Maethu yn Lloegr a
mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu diddymu, mae'r rhain yn
parhau i fod ar waith ar gyfer maethu yng Nghymru.
Gall unrhyw aelod o'r Rhestr Ganolog (sydd newydd ei chyflwyno) (ac sydd felly'n
aelod o'r panel) ddal swydd am dymor nad yw'n hwy na thair blynedd ac ni chaiff
ddal swydd i'r un gwasanaeth am fwy na thri thymor heb gyfnod o ysbaid yn y
canol (o leiaf dair blynedd) h.y. naw mlynedd ac yna egwyl am leiaf dair blynedd.
Er enghraifft:
• Mae gwasanaethu am bedair blynedd o dan Reoliadau 2003 yn
golygu bod pum mlynedd yn weddill o dan Reoliadau 2018
• Mae gwasanaethu am wyth mlynedd o dan Reoliadau 2003 yn
golygu bod blwyddyn yn weddill o dan Reoliadau 2018 ac yna egwyl
o dair blynedd
Mae hyn yn golygu bod angen i ddarparwyr gwasanaethau maethu fod yn adolygu
eu rhestr ganolog yn rheolaidd a meddwl am gynllunio ar gyfer olyniaeth a
recriwtio aelodau newydd. Nid yw hyn yn golygu na all aelod o'r panel gysylltu â
gwasanaeth arall a chael ei recriwtio ganddo ac, yn wir, byddai hyn yn ddoeth o
ystyried yr holl hyfforddiant a phrofiad a ddatblygwyd dros y blynyddoedd mewn
rôl allweddol ar banel. Mae ymarferwyr ac aelodau paneli wedi awgrymu y
byddai'n arfer dda sefydlu gwasanaeth gwybodaeth ar gyfer Cymru gyfan
ynghylch cadeiryddion ac aelodau allweddol paneli. Mae AFA Cymru wedi
ymestyn y Grŵp Diddordeb Arbennig i Gadeiryddion Paneli er mwyn adlewyrchu'r
angen hwn.
Gall gweithwyr meddygol proffesiynol sy'n eistedd fel aelodau o banel am fwy na
naw mlynedd ond gwneud hynny fel aelodau nad ydynt yn pleidleisio ac sy'n
rhoi cyngor i banel fel y gallai unrhyw gynghorydd meddygol ei wneud. Ni allant
fod yn rhan o'r grŵp sy'n pleidleisio ac ni ellir eu cynnwys yn y cworwm.
Os na fydd y cynghorydd meddygol yn mynychu'r panel, argymhellir y dylai'r
gwasanaeth drefnu cyfarfod rheolaidd ac yn unol ag anghenion arfarnu
blynyddol i gynnwys Cadeirydd y Panel, Cynghorydd y Panel, y Sawl sy'n
Gwneud Penderfyniadau a'r Cynghorydd Meddygol, i drafod materion meddygol
perthnasol sydd wedi codi a rhoi cyfle i roi adborth/myfyrio.
Mae'r Rheoliadau yn nodi darpariaethau clir ynghylch ymddiswyddiad neu
derfyniad aelodaeth aelodau paneli. Mae mis o rybudd yn gymwys yn achos
ymddiswyddiad neu derfyniad aelodaeth unrhyw aelod o banel, ac mae hyn yn
gymwys i unrhyw un sydd ar y Rhestr Ganolog.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
17
Swyddogaethau Paneli Maethu
Mae gan baneli maethu dair swyddogaeth allweddol sydd wedi'u hamlinellu yn y
rheoliadau:
• Gwneud argymhelliad i gymeradwyo rhiant maeth, a thelerau'r gymeradwyaeth
• Argymell bod rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, a thelerau'r addasrwydd
parhaus, neu derfynu cymeradwyaeth rhaint maeth
• Monitro, Adolygu a Sicrhau Ansawdd
Cymeradwyo fel rhiant maeth gyda thelerau cymeradwyo
Rheoliad 5(1)
(a) ystyried pob cais am gymeradwyaeth ac argymell pa un a yw person yn
addas i weithredu fel rhiant maeth ai peidio
(b) pan fo’n argymell bod cais yn cael ei gymeradwyo, argymell ar ba delerau
y rhoddir y gymeradwyaeth
Rheoliad 8(1) Ni chaiff darparwr gwasanaethau maethu gymeradwyo person
sydd wedi ei gymeradwyo’n rhiant maeth gan ddarparwr gwasanaethau
maethu arall neu gan ddarparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr ac nad yw’r
gymeradwyaeth honno wedi ei therfynu.
(2) Ni chaiff darparwr gwasanaethau maethu gymeradwyo person yn rhiant maeth oni bai (a) bod y darparwr wedi cwblhau ei asesiad o addasrwydd y person, a (b) bod panel maethu’r darparwr wedi ystyried y cais.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
18
(3) Rhaid i ddarparwr gwasanaethau maethu, wrth benderfynu pa un ai i gymeradwyo person yn rhiant maeth ac o ran telerau unrhyw gymeradwyaeth, ystyried argymhelliad y panel maethu.
Dylai darparwr gwasanaethau maethu sicrhau bod panel yn ystyried ac yn gwneud
argymhelliad i gymeradwyo cyn iddo wneud y penderfyniad i gymeradwyo a chyn lleoli
plant.
Mae eithriad i hyn yn Rheoliad 26 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu
Achosion (Cymru) 2015. Mae hyn yn caniatáu i awdurdod lleol gymeradwyo “person
cysylltiedig” dros dro ac i leoli plentyn gyda'r “person cysylltiedig” hwn am hyd at 16
wythnos heb gyfeirio'r mater i banel. Mae posibilrwydd i ymestyn y gymeradwyaeth dros
dro hon am wyth wythnos ychwanegol os oes angen drwy ystyried ai'r lleoliad yw'r lleoliad
mwyaf priodol o hyd a thrwy gyfeirio'r achos i banel maethu er mwyn iddo fynegi barn yn
unol â Rheoliad 27 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion
(Cymru) 2015.
Mae'r “Good Practice Guide for the Assessment and Support of Kinship Foster
Carers” (sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim ar wefan AFA Cymru) yn cynnwys
gwybodaeth am nodi Gofalwyr sy'n Berthnasau yn gynnar (Pennod 2 tt 4-6);
Cymeradwyaeth Dros Dro (Pennod 3, t7); Asesiadau Hyfywedd ar gyfer Darpar
Ofalwyr Maeth sy'n Berthnasau (Pennod 4, tt8-10); Asesiadau llawn o Ofalwyr
Maeth sy'n Berthnasau (Pennod 5, tt11-14).
Asesu darpar rieni maeth
Mae Rheoliadau Maethu 2018 yn cyflwyno proses dau gam ar gyfer asesiadau
maethu. Bydd unrhyw asesiad a ddechreuwyd ar ôl 29 Ebrill 2019 yn cael ei gynnal
gan ddefnyddio'r broses hon; mae hyn yn cynnwys asesiadau o bersonau
cysylltiedig. Diben hyn yw sicrhau bod y darparwr gwasanaethau maethu yn coladu
gwybodaeth sylfaenol am yr ymgeiswyr ar gam cynnar er mwyn gallu hidlo drwy bobl
sy'n amlwg yn anaddas heb fiwrocratiaeth diangen a heb i'r gwasanaeth neu'r
ymgeisydd orfod gwastraffu amser ac adnoddau.
Mae asesu darpar riant maeth yn dasg gymhleth ac mae'n hanfodol y caiff ei
chwblhau yn gywir, yn bennaf i'r plant ond hefyd i'r rhiant maeth. Dylai ymarferwyr
fod wedi'u hyfforddi'n dda a dylent feddu ar ddigon o brofiad o ddeall trawma
datblygiadol ac anghenion plant y mae angen gofal amgen arnynt, yn ogystal â'r
egwyddorion a'r dull gweithredu craidd ar gyfer cynnal asesiadau a dadansoddi
gwybodaeth. Dylent hefyd fod yn ymwybodol o anghenion a blaenoriaethau lleol.
Efallai y bydd rhai ymgeiswyr yn ei chael hi'n anodd deall a derbyn y broses wirio
drylwyr a'r geirdaon sydd eu hangen fel rhan o bob asesiad, ac mae'n bwysig bod
pobl yn ymwybodol o'r hyn sy'n ofynnol fel rhan o'r broses cyn gynted â phosibl er
mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch p'un a ydynt am
barhau neu beidio. Er enghraifft, gall cael geirda gan bartneriaid blaenorol a'r
gwiriadau cyfryngau cymdeithasol yn arbennig beri anawsterau.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
19
O ran canllawiau i ymarferwyr, mae “Undertaking Checks and References in
Fostering and Adoption Assessments 2019”, gan Paul Adams, CoramBAAF yn
ddefnyddiol. Mae'r canllaw ymarfer hwn yn canolbwyntio'n benodol ar y gwiriadau a'r
geirdaon sy'n mynd law yn llaw â deunydd a geir o'r astudiaeth gartref, ac sy'n
cydberthyn iddo, ac mae'n trafod materion cyffredinol gan gynnwys prawf adnabod,
cydsyniad a chymesuredd.
Rhaid i unrhyw benderfyniadau ynghylch asesu a chymeradwyo rhieni maeth
ganolbwyntio ar fudd pennaf y plentyn o flaen popeth a dylent ddilyn Egwyddorion
Cyfraith Gyhoeddus o ran tegwch a gweithredu'n gyfreithlon ac yn rhesymol.
Gall dau gam yr asesiad maethu fynd rhagddynt ar yr un pryd. Mater i'r darparwr
gwasanaethau maethu fydd penderfynu a yw'n dymuno gwneud hynny. Er enghraifft, ar
gyfer ymgeisydd sy'n cysylltu â'r gwasanaeth ac sydd ag euogfarnau troseddol
cymhleth, efallai y byddai'r gwasanaeth am gasglu'r holl wybodaeth a gwneud yr holl
wiriadau ar gyfer Cam 1 cyn dechrau unrhyw brosesau a gwiriadau ar gyfer Cam 2.
Rhaid ceisio'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer Cam 1 cyn gynted â phosibl, a rhaid
gwneud y penderfyniad ynghylch a yw darpar riant maeth wedi cwblhau Cam 1 yn
llwyddiannus o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn yr holl wybodaeth ar gyfer Cam 1. Yn
amlwg, bydd angen amser i ddadansoddi'r wybodaeth ar ôl ei derbyn hefyd er mwyn
gallu gwneud penderfyniadau hyddysg ar ôl gwirio'r wybodaeth. Er mwyn bodloni'r
amserlenni rheoliadol, dylai gwasanaethau sicrhau bod systemau cadarn ar gyfer cynnal
a goruchwylio'r gwaith o gasglu gwybodaeth.
Os bydd darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu, ar sail gwybodaeth Cam 1,
nad yw person yn addas i faethu, ni fyddai “penderfyniad” cymhwyso ac ni fyddai hawl
gan y darpar riant maeth i wneud cais i'r Mecanwaith Adolygu Annibynnol (IRM). Fodd
bynnag, byddai'n gymwys i ddefnyddio gweithdrefn gwyno'r darparwr gwasanaethau
maethu pe byddai'n teimlo nad yw wedi cael ei drin yn deg.
Os pennir nad yw ymgeisydd yn addas i faethu ar sail gwybodaeth Cam 2, yn dilyn
adroddiad Cryno neu adroddiad Llawn, gall wneud sylwadau i'r IRM.
Ceir rhagor o fanylion am Gam 1 a Cham 2 isod.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
20
Ffurflenni a Chanllawiau CoramBAAF
I'r asiantaethau hynny sy'n aelodau o CoramBAAF ac sydd â thrwydded i ddefnyddio'r
ffurflenni hyn, mae amrywiaeth o ffurflenni ar gael ar gyfer camau gwahanol o'r broses
asesu sydd wedi cael eu haddasu ar gyfer y cyd-destun Cymreig. Nid oes gofynion
penodol i ddarparwyr gwasanaethau maethu o ran y ffordd y mae'n rhaid i wybodaeth ar
gyfer asesiadau gael ei chasglu a'i chyflwyno i banel; mae'r ffurflenni hyn yn cynnig
fframwaith da os bydd asiantaeth am ddatblygu ei rhai ei hun.
• Ffurflen Gais
• Cytundeb Asesu
• Ffurflen Penderfynu Cam 1
• Cronoleg
• Cofnod o Hyfforddiant Paratoi
• Adroddiad Rhiant a Phlentyn
• Adroddiad Maethu Parhaol
• Ymweliadau Ail Farn
Er bod y rheoliadau yn cyfeirio at gymeradwyo bod unigolion (“person”) yn addas i faethu,
os bydd dau berson yn rhannu cyfrifoldeb am ofalu am blentyn, boed fel cwpl neu mewn
unrhyw bartneriaeth arall, dylid asesu eu haddasrwydd ar y cyd.
Caiff hyn ei ardystio'n glir yng nghanllawiau'r Adran Addysg ym mis Gorffennaf 2013 (t.9).
Un o'r agweddau hollbwysig wrth bennu addasrwydd cwpl i faethu plentyn yw'r asesiad
o sefydlogrwydd eu perthynas.
Pan fydd rhiant maeth sengl yn cael partner a fydd yn rhannu'r cyfrifoldeb am ofalu am
blentyn, dylai drafod hyn â'i weithiwr cymdeithasol goruchwylio cyn gynted â phosibl fel y
gellir dod i gytundeb o ran unrhyw oblygiadau i faethu ac fel y gellir asesu addasrwydd y
partner.
Nid oes cyfeiriad yn y rheoliadau at faint o amser y dylai asesiad maethu ei gymryd i'w
gwblhau ond, ar gyfartaledd, dylai hyn gymryd 4-6 mis. Fodd bynnag, ni ddylid colli'r
hyn sy'n gwneud yr asesiad yn gadarn er mwyn bodloni amserlenni. Bydd amserlenni'r
llys yn dylanwadu ar asesiad Person Cysylltiedig (ceir mwy o wybodaeth yn nes
ymlaen).
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
21
• Nodiadau Aelodau'r Panel
• Penderfyniad Cymhwyso / Ffurflen Penderfynu Cam 2
• Ffurflen F
• Nodiadau canllaw
Ceir copi o Gymwyseddau Craidd ar gyfer Rhieni Maeth yn Atodiad 2
Arferion gorau wrth Recriwtio Mae canllawiau ynghylch arferion gorau wrth recriwtio Rhieni Maeth ar gael drwy waith y Fframwaith Maethu Cenedlaethol ar y cyd ag AFA Cymru. Mae'r canllawiau hyn yn cwmpasu pob agwedd ar recriwtio, o'r cysylltiad cychwynnol hyd at asesu.
Cam 1 o'r Broses Asesu
Mae Adran A Rhan 1 o Ffurflen F CoramBAAF (Cymru) yn adlewyrchu'r wybodaeth y
mae angen ei chasglu ar Gam 1 o'r broses asesu. Mae Adran A Rhan 2 yn cynnwys
gwirio dogfennau, gwiriadau eraill a gwybodaeth ffeithiol, fel sy'n ofynnol yng Ngham 2
o'r broses asesu.
Rheoliad 7(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o ran y darparwr gwasanaethau
maethu
(a) Rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gael yr wybodaeth a
bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 sy’n ymwneud â’r person ac aelodau eraill o
aelwyd y person a’i deulu
Rhan 1 Atodlen 1
1. Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni
Ar gyfer pob darpar riant maeth, mae'n hanfodol sicrhau ei fod yn dweud y gwir am bwy
ydyw a dylai ymarferwyr wirio ei brawf hunaniaeth cyn mynd ati i gynnal unrhyw wiriadau
eraill. Os na ellir cael gafael ar brawf cywir o hunaniaeth, os yw enw wedi'i gamsillafu neu
ddyddiad geni'n anghywir, yna mae'n debygol y bydd y gwiriadau a wneir yn ddiwerth.
Felly bydd angen i ymarferwyr weld amrywiaeth o ddogfennau, gan gynnwys tystiolaeth
ffotograffig i gadarnhau hunaniaeth.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
22
2. Manylion iechyd (wedi eu hategu gan adroddiad meddygol)
Mae'n rhaid i rieni maeth fod yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol er mwyn gallu ymdopi
â'r gofynion wrth ofalu am blant sy'n agored i niwed. Felly mae asesiadau cynhwysfawr
yn ofynnol fel rhan o'r asesiad.
Pe bai rheswm meddygol eithriadol sy'n atal person rhag dod yn rhiant maeth yn
awtomatig, byddai disgwyl y byddai hyn wedi'i drafod mewn Ymweliad Cychwynnol er
bod angen ceisio cyngor meddygol cyn gwneud penderfyniad yn aml.
Mae'r asesiad iechyd yn rhan gadarn o Gam 1 o'r broses asesu. Mae'r adroddiad
meddygol yn cyfeirio at Ffurflen Iechyd Oedolion CoramBAAF sy'n cynnwys gwybodaeth
gynhwysfawr gan yr ymgeisydd a'i feddyg teulu ac sydd yna'n cael ei hasesu gan
weithiwr meddygol proffesiynol sydd â chymwysterau addas a fydd yn gwneud sylwadau
ar y wybodaeth yn ei rôl fel Cynghorydd Meddygol.
Mae'n hanfodol bod meddyg teulu'r darpar rieni maeth yn ymgymryd â'r gwiriad
meddygol cyn gynted â phosibl er mwyn i Gynghorydd Meddygol y gwasanaeth ei
ystyried. Dylid nodi na ddylid disgwyl i'r gweithiwr cymdeithasol yn y gwasanaeth gynnal
dadansoddiad clinigol o'r asesiad gan feddyg teulu'r darpar riant maeth.
Dylai'r cyngor meddygol hwn fod yn glir a dylai'r rhesymau dros unrhyw benderfyniad a
dyddiad y cyngor fod wedi'u marcio'n glir. Efallai y bydd gwybodaeth feddygol benodol
ychwanegol (e.e. gan ymgynghorydd y darpar rieni maeth) yn ofynnol er mwyn gwneud
penderfyniad ar sail gwybodaeth.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
23
Gweithiwr meddygol proffesiynol sydd â chymwysterau addas ddylai wneud cais am
wybodaeth feddygol ychwanegol, ei derbyn a'i hasesu, a dylai'r unigolyn hwn feddu ar
wybodaeth dda am y dasg faethu a dealltwriaeth ohoni.
Gallai'r cyngor hwn berthyn i un o'r categorïau eang canlynol:
i) Nid oes unrhyw wrtharwyddion sy'n gysylltiedig ag iechyd i atal yr ymgeisydd
rhag parhau ag asesiad o'i addasrwydd i faethu
i) Mae gwrtharwyddion clir sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n atal yr ymgeisydd rhag
parhau ag asesiad o'i addasrwydd i faethu. Dylai'r cyngor hwn gynnwys
tystiolaeth ar gyfer y broses benderfynu hon sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau'r
dasg faethu benodol.
iii) Nodwyd gwrtharwyddion sy'n gysylltiedig ag iechyd ond nid yw'r rhain yn atal
yr ymgeisydd rhag parhau ag asesiad o'i addasrwydd i faethu yn amodol ar un
o'r gofynion ychwanegol neu'r ddau ohonynt.
➢ Ymchwiliad pellach yn ystod y broses asesu o ran y ffactorau penodol yn unol
â chyngor y Cynghorydd Meddygol
➢ Gwybodaeth a barn ychwanegol gan weithwyr meddygol proffesiynol eraill
sy'n ymwneud â'r ymgeisydd, megis ymgynghorwyr penodol neu ddarpariaeth
iechyd breifat
Yn y sefyllfaoedd hyn, efallai y bydd angen Adroddiad Iechyd Oedolion wedi'i
ddiweddaru cyn cyflwyno i banel er mwyn dadansoddi canlyniad gwybodaeth
ychwanegol a dderbynnir. Mae'n bosibl hefyd y bydd angen gohirio asesiad dros dro
os bydd angen tystiolaeth o newid sylweddol mewn ffordd o fyw er mwyn parhau, er
enghraifft. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd angen gohirio asesiad gan fod y broses
asesu ei hun yn caniatáu ar gyfer asesiad parhaus dros amser.
Fel y nodwyd uchod, mae'n bwysig bod gwybodaeth a gaiff ei chasglu a'i hasesu yn
berthnasol i'r cam hwn o'r broses. Yn achos (ii) uchod, mae tryloywder â'r ymgeisydd yn
hollbwysig er mwyn sicrhau ei fod yn deall y dylai'r asesiad ddod i ben ac yn cytuno â
hyn. Gan fod y wybodaeth hon yn amlwg yn ymwneud â gwybodaeth Cam 1, ni fydd yn
bosibl troi at yr IRM, ond bydd hawl gan berson i gwyno drwy weithdrefn gwyno'r
asiantaeth os bydd yn teimlo nad yw wedi cael ei drin yn deg. Gall enghraifft o'r
sefyllfaoedd prin hyn gynnwys person sydd â chyflwr meddygol eisoes sy'n golygu bod
ganddo ddisgwyliad oes cyfyngedig.
Yn achos (iii) uchod, byddai hyn yn gofyn am drafodaeth fwy cynnil â'r darpar riant maeth
am ei iechyd a'r ffordd y gallai effeithio ar ei allu i faethu, neu'r ffordd y gallai maethu
effeithio ar ei iechyd. Byddai hyn yn cael ei gategoreiddio fel gwybodaeth Cam 2.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
24
3. Manylion unrhyw aelodau eraill o’r aelwyd sy’n oedolion
4. Manylion y plant yn y teulu, pa un a ydynt yn aelodau o’r aelwyd ai peidio, ac
unrhyw blant eraill yn yr aelwyd
Er enghraifft, os bydd gan y prif riant maeth arfaethedig symudedd cyfyngedig neu os
bydd rhywun wedi bod yn cymryd gwrth-iselyddion am gyfnod hir, byddai angen cynnal
trafodaeth bellach i ganfod sut mae hyn yn effeithio ar ei fywyd pob dydd a sut y byddai'n
effeithio ar ei allu i ofalu am blentyn. Gallai hyn gynnwys argymhellion ar gyfer telerau
cymeradwyo er mwyn adlewyrchu'r sefyllfa unigol.
Mae gan bob aelod o'r aelwyd arfaethedig rôl hanfodol i'w chwarae a dylent gael eu
cynnwys yn llawn ar y daith tuag at ddod yn aelwyd maethu cymeradwy. Dylai cynnwys
plant (dan 18 oed) yn yr asesiad (y rhai sy'n byw yn yr aelwyd neu yn rhywle arall) fod
yn rhan ganolog o'r asesiad. Os oes plant sy'n oedolion, dylid casglu manylion am eu
lleoliad a gwneud cais am eirdaon gan bob un, gyda chyfweliadau dilynol.
Byddai unrhyw bryderon sylweddol ynghylch diogelu neu amddiffyn plant yn gyfystyr â
phenderfyniad Cam 1 i ddod ag asesiad i ben.
Byddai unrhyw drafodaeth / gwybodaeth fanwl a gesglir am oedolyn neu blentyn sy'n
aelod o'r aelwyd yn rhan o Gam 2 o'r asesiad pan ddylai'r asesydd ddarparu disgrifiad
cryno o bob aelod o'r aelwyd (gan gynnwys plant) a dylid cyfweld â phob un gan
ddefnyddio dull sy'n briodol i'w oedran a'i ddealltwriaeth.
Mae asesiad i faethu yn ystyried addasrwydd, ond dylai hefyd fod yn addysgiadol a
chynnig cyfle i gael mewnwelediad a gwybodaeth. Mae llawer o adnoddau ardderchog
ar gael i gefnogi gwaith uniongyrchol gyda phlant er mwyn eu helpu i ddeall beth yw
maethu a'r effaith bosibl arnyn nhw a'u teulu. Os oes unrhyw blant sy'n derbyn gofal neu
blant wedi'u mabwysiadu yn rhan o'r aelwyd, byddai'n arfer dda asesu eu hanes trawma
a'u patrwm ymlyniad gan y bydd hyn yn helpu gyda pharu a chyfnodau pontio. Dylid
cymryd gofal bob amser i sicrhau y caiff hunaniaeth unrhyw blant ei hamddiffyn. Byddai'r
wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn Adran B o'r asesiad.
Yn yr un modd, os bydd wyrion/wyresau neu blant aelod agos arall o'r teulu yn ymweld
â'r cartref yn rheolaidd ac yn aros yno, byddai'n bwysig cyfweld â nhw a gwneud
gwaith uniongyrchol gyda nhw. Os bydd wyrion/wyresau yn cael eu symud o'u
hystafell wely arferol pan fyddant yn aros er mwyn gwneud lle i blant sy'n cael eu
maethu, byddai'n bwysig iawn ystyried yr effaith a barn plant am y penderfyniad hwn.
Byddai hyn yn rhan o Gam 2 o'r asesiad.
Mae ymchwil yn awgrymu bod plant yn debygol o fod mewn gwell sefyllfa i gefnogi
proses faethu eu rhiant os bydd pobl yn ymgynghori â nhw, yn gwrando arnynt, yn eu
cynnwys yn y broses ac yn eu paratoi. Yn yr un modd, gydag aelodau o'r aelwyd sy'n
oedolion, mae'n bwysig asesu eu dealltwriaeth o faethu a'u hagwedd at hyn a dangos
y gallant chwarae rôl gadarnhaol.
Rhaid cael tystysgrif fanwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer unrhyw
aelod o'r aelwyd sydd dros 18 oed. (gweler 9 isod).
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
25
5. Manylion eu llety
Dylid sicrhau bod y llety yn lân ac yn hylan, yn gynnes ac mewn cyflwr da, ac yn addas
ar gyfer y dasg faethu. Mae asesiad Iechyd a Diogelwch llawn yn rhan o Gam 2 o'r
asesiad.
6. Canlyniad unrhyw archiad neu gais a wnaed ganddynt neu gan unrhyw aelod
arall o’u haelwyd i faethu neu fabwysiadu plant, neu i gofrestru’n warchodwr plant
neu’n ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru)
2010(1), gan gynnwys manylion unrhyw gymeradwyaeth flaenorol sy’n ymwneud
â hwy neu ag unrhyw aelod arall o’r aelwyd, neu unrhyw wrthodiad blaenorol i
gymeradwyaeth o’r fath
7. Os yw’r person, yn y tair blynedd flaenorol, wedi bod yn rhiant maeth a
gymeradwywyd gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall neu ddarparwr
gwasanaethau maethu yn Lloegr, enw a chyfeiriad y darparwr gwasanaethau
maethu hwnnw
Rheoliad 7(2)(b) Pan fo’r person wedi bod yn rhiant maeth o fewn y tair blynedd
flaenorol ac wedi ei gymeradwyo felly gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall
neu gan ddarparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr, rhaid iddo ofyn am eirda
ysgrifenedig oddi wrth y darparwr gwasanaethau maethu arall hwnnw
Rheoliad 7(2)(e) Pan fo’r person wedi ei gymeradwyo yn rhiant maeth gan
ddarparwr gwasanaethau maethu arall a’i fod yn cydsynio i hynny, caiff ofyn am gael
mynediad i’r cofnodion perthnasol a luniwyd gan y darparwr gwasanaethau maethu
arall hwnnw mewn perthynas â’r person, ac
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
26
Rheoliad 7(2)(f) Pan fo’r person wedi ei gymeradwyo yn ddarpar fabwysiadydd gan
asiantaeth fabwysiadu a’i fod yn cydsynio i hynny, caiff ofyn am gael mynediad i’r
cofnodion perthnasol a luniwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu honno mewn
perthynas â’r person hwnnw
Anogir darpar rieni maeth i fod yn agored ac yn onest o'r dechrau a thrwy gydol y
broses o ran eu profiadau yn y gorffennol a gellir gwirio'r rhain. Bydd methu â datgelu
bob amser yn arwain at oblygiadau sylweddol i asesiad yr ymgeisydd a gallai arwain
at derfynu asesiad.
Dylid cynnal gwiriad ag Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer pob ymgeisydd mewn
perthynas â darpariaeth gwarchod plant neu ofal dydd gyfredol neu flaenorol.
Gellir triongli gwybodaeth drwy amrywiol eirdaon, cyfweliadau, cronoleg ac ati.
Os bydd darpar riant maeth wedi cael ei gymeradwyo'n flaenorol neu wedi'i
gymeradwyo fel rhiant maeth neu fabwysiadydd ar hyn o bryd, mae'r rheoliadau yn
rhoi'r pŵer i'r gwasanaeth sy'n asesu wneud cais am fynediad i gofnodion gan y
gwasanaeth maethu neu fabwysiadu a roddodd y gymeradwyaeth. Dylid gwneud hyn
gyda chydsyniad yr ymgeisydd bob amser.
Nid yw'r rheoliadau yn pennu amserlen ar gyfer darparu cofnodion, ond rhaid tybio y
dylai'r amserlen hon fod yn rhesymol. Os oedd unrhyw wybodaeth am ymddygiad neu
addasrwydd yr ymgeisydd yn peri pryder, dylai'r gwasanaeth blaenorol rannu'r
wybodaeth hon, hyd yn oed os gwrthodir rhoi cydsyniad.
Gellir defnyddio cofnodion a gesglir gan wasanaeth maethu neu fabwysiadu arall i
lywio'r asesiad newydd ond dylai'r gweithiwr cymdeithasol sy'n asesu fodloni ei hun o
ran ansawdd y wybodaeth a ph'un a yw'n berthnasol o hyd. Er mwyn sicrhau bod yr
aelwyd sy'n maethu yn parhau i gael ei goruchwylio ac yn parhau i gael cymorth, gall
y gwasanaeth sy'n recriwtio ofyn am gopi o'r adolygiad blynyddol diweddaraf a
gwneud cais am fynediad i gofnod llawn o ddysgu a datblygu.
Gall unigolion wneud cais am fynediad at ddata gan y testun er mwyn cael
gwybodaeth gan eu gwasanaeth blaenorol i lywio asesiad cyfredol. Fodd bynnag,
cynghorir yn gryf y dylai darparwr gwasanaethau maethu sy'n asesu gael gwybodaeth
gan y darparwr gwasanaethau maethu blaenorol yn uniongyrchol yn hytrach na gan
unigolyn gan fod hyn yn osgoi'r posibilrwydd y bydd rhywun wedi ymyrryd â'r
wybodaeth.
Pan fydd plant sy'n derbyn gofal yng nghartref unrhyw Riant Maeth sy'n dewis
trosglwyddo i wasanaeth arall, mae'n bwysig cyfeirio at y Protocol Trosglwyddo a
threfnu cyfarfod trosglwyddo.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
27
8. Enwau a chyfeiriadau dau berson a fydd yn darparu geirda personol ar gyfer y
person
Rheoliad 7(2)(c) Ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (b) yn gymwys a bod y
darparwr gwasanaethau maethu arall yn darparu’r geirda y gofynnir amdano, rhaid
iddo gyf-weld ag o leiaf ddau unigolyn sydd wedi eu henwebu gan y person i
ddarparu geirda personol ar ei gyfer, a llunio adroddiadau ysgrifenedig am y
cyfweliadau
Dylai'r gwaith o gasglu dau eirda personol, cyfweld â'r bobl hyn ac ysgrifennu adroddiad
ar y cyfweliad hwnnw gael ei wneud fel rhan o'r broses casglu gwybodaeth ar gyfer Cam
1 (oni bai fod Rheoliad 7(2)(b) yn gymwys). Y nifer o eirdaon personol a nodir yw'r
gofyniad sylfaenol a byddai'n arfer dda argymell bod geirdaon ychwanegol yn cael eu
casglu, ar yr amod eu bod yn gymesur ac yn berthnasol.
Os bydd ymgeisydd wedi bod yn rhiant maeth yn ystod y tair blynedd flaenorol, ac os
ceir geirda ysgrifenedig gan ei ddarparwr gwasanaethau maethu blaenorol, nid oes
gofyniad yn y rheoliadau i ddarparwr gwasanaethau maethu sy'n asesu gyfweld â
chanolwyr personol. Byddai angen i'r gwasanaeth sy'n recriwtio fod yn fodlon bod y
geirda a gafwyd yn darparu cofnod manwl a llawn o hanes y rhiant maeth gyda'r
gwasanaeth hwnnw. Dylid ystyried dyddiad yr asesiad a/neu'r geirdaon gwreiddiol er
mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn berthnasol o hyd. Gall gwasanaethau barhau i
geisio geirdaon llafar a/neu ysgrifenedig os ydynt yn dymuno.
Os na fydd y darparwr gwasanaethau maethu blaenorol yn darparu geirda am ba reswm
bynnag, rhaid cynnal cyfweliadau â dau ganolwr personol.
Mae'n bwysig bod canolwyr personol yn adnabod yr ymgeiswyr yn dda, a'u bod wedi'u
hadnabod am ddigon o amser, er mwyn gallu gwneud sylwadau manwl a gydag
awdurdod. Ni ddylai canolwyr personol fod yn perthyn i'w hymgeiswyr, fel arfer dda.
Gellir ceisio canolwyr ychwanegol o'r teulu ehangach hefyd er mwyn cefnogi'r cais a
thriongli tystiolaeth o addasrwydd. Dylai ymarferwyr bob amser ddadansoddi'r
wybodaeth a ddarperir a rhoi pwyslais priodol ar y geirda.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
28
9. Mewn perthynas â’r person ac unrhyw aelod arall o aelwyd y person sy’n 18 oed
neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o
Ddeddf yr Heddlu 1997(2) sy’n cynnwys gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud
â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran
113BA(2) o’r Ddeddf honno)
Mae ymarferwyr yn gwybod bod cyfweld â chanolwyr pan fyddant wedi mynd
ymhellach yn yr asesiad yn gallu bod yn fuddiol ac yn cynnig cyfle i drafod meysydd
penodol â'r canolwyr hynny.
Nid yw Rheoliad 7(2)(c) yn nodi bod yn rhaid i'r cyfweliad gael ei gynnal wyneb yn
wyneb. Byddai felly'n bosibl cynnal cyfweliad dros y ffôn yn gynnar yn yr asesiad gyda
chyfarfod wyneb yn wyneb â'r canolwyr i ddilyn yn ddiweddarach yn y broses lle gallai
trafodaeth fanylach gael ei chynnal. Yn yr un modd, gellid cynnal ymweliad yn ystod
y camau cynnar gyda galwad ffôn ddilynol yn ddiweddarach er mwyn gwirio neu
drafod mater penodol â'r canolwr, os oes angen.
Mae'n ocheladwy y bydd rhywfaint o wybodaeth Cam 2 yn cael ei chasglu o ganlyniad
i gasglu geirdaon personol (sy'n rhan o Gam 1 o'r broses). Fodd bynnag, rhaid i'r sawl
sy'n gwneud penderfyniadau fod yn sicr bod gwybodaeth Cam 1 yn arwain at y
penderfyniad y “gall y darpar riant maeth fod yn addas i faethu” neu “nad yw'r darpar
riant maeth yn addas i faethu” ar yr adeg hon.
Os bydd darparwr gwasanaethau maethu yn ansicr o ran yr hyn sy'n gyfystyr â
gwybodaeth Cam 1 a gwybodaeth Cam 2, dylai bob amser ystyried yr Egwyddorion
Cyfraith Gyhoeddus o ran rhesymoldeb a chymesuredd. Os oes tystiolaeth glir a
diamheuol nad yw person yn addas i faethu, byddai hwn yn benderfyniad Cam 1.
Byddai unrhyw fanylion cynnil yn rhan o Gam 2 o'r asesiad.
Ar y cam Ymholiad Cychwynnol ac Ymweliad Cychwynnol, bydd ymgeiswyr wedi cael
gwybod, drwy wybodaeth ysgrifenedig a thrwy drafodaeth, y bydd angen gwiriad gan
yr heddlu yng Ngham 1 er mwyn parhau i Gam 2 o'r broses asesu. Byddant hefyd
wedi cael gwybod bod rhai troseddau, a gyflawnwyd ganddyn nhw eu hunain neu gan
aelod o'u haelwyd, yn golygu na fydd person yn gymwys i faethu (rheoliad 7(8) a (9);
7(10) ac Atodlen 2). Mae hyn hefyd yn gymwys i rybuddiad am droseddau o'r fath.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
29
Fodd bynnag, mae llawer o droseddau a ddangosir ar wiriad gan y Gwasanaeth
Datgelu a Gwahardd na fyddent yn atal rhywun rhag dod yn rhiant maeth ond mae'n
bosibl y bydd angen ymchwilio iddynt. Dylid annog ymgeiswyr a darpar rieni maeth i
drafod unrhyw beth a fydd yn ymddangos ar y gwiriad yn gynnar, gan gynnwys
rhybuddiadau, y mae llawer o bobl yn credu na fyddant yn cael eu cynnwys p'un a
ydynt o'r farn eu bod yn berthnasol neu beidio. Dylid ystyried y rhain yn ofalus ar y
cyd â'r holl wybodaeth arall a dylid ceisio cyngor cyfreithiol fel y bo'n briodol.
Os caiff trosedd neu rybuddiad ei (d)datgelu, bydd gan y darparwr gwasanaethau
maethu broses i sicrhau bod uwch-reolwr yn penderfynu a ddylid parhau. Dylid
ystyried faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i'r drosedd gael ei chyflawni, oedran
yr ymgeisydd pan gyflawnwyd y drosedd ac a yw wedi ailadrodd yr ymddygiad neu
ymddwyn mewn ffordd debyg ers hynny. Dylid hefyd ystyried y ffordd y mae'r
ymgeisydd wedi prosesu'r digwyddiadau, tystiolaeth o edifeirwch ac ymdrech
gadarnhaol i newid.
Nid oes gofyniad cyfreithiol i gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar
gyfer oedolion mewn cyfeiriadau eraill, ond caniateir hyn ac ystyrir y byddai'n arfer
dda. Bydd nifer o wasanaethau am sicrhau bod gan y darpar Rieni Maeth rwydwaith
cymorth cadarn a byddant fel arfer yn asesu oedolion o bwys a fydd yn rhoi cymorth
ymarferol i'r darpar aelwyd maethu. Bydd angen gwneud hyn gyda chydsyniad y
person dan sylw.
Mae gan y darparwr gwasanaethau maethu yr awdurdod i ofyn am wiriad Cyfrifiadur
Cenedlaethol yr Heddlu hefyd. Mae'r gwiriadau hyn yn ddefnyddiol os bydd pryderon
diogelu neu wybodaeth am yr ymgeisydd sy'n arwain at bryderon penodol. Fel y
nodwyd uchod, os bydd pryderon o'r fath, gellir cael gwiriad Cyfrifiadur Cenedlaethol
yr Heddlu a gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn dechrau casglu
unrhyw wybodaeth arall ar gyfer Cam 1, ond dylid ond gwneud hyn ar ôl dechrau Cam
1. Os bydd y gwiriadau hynny yn datgelu gwybodaeth sy'n arwain at benderfyniad
gan y darparwr gwasanaethau maethu nad yw'r darpar riant maeth yn addas i faethu
plentyn, yna dylid cyfleu'r penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl,
gan roi rhesymau clir.
Ni chaiff darparwr gwasanaethau maethu rannu gwybodaeth o wiriad gan y
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ag unrhyw berson arall, gan gynnwys priod,
partner neu aelod o'r aelwyd heb gydsyniad yr unigolyn dan sylw. Os bydd asiantaeth
yn penderfynu bod darpar riant maeth naill ai'n anghymwys neu'n anaddas oherwydd
y gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, yr unig wybodaeth y gall ei rhoi i'r
person neu'r bobl eraill dan sylw yw bod y penderfyniad wedi cael ei wneud o
ganlyniad i'r gwiriad. Ni all rannu cynnwys y gwiriad.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
30
10. Manylion priodas, partneriaeth sifil neu berthynas debyg gyfredol ac unrhyw
briodas, partneriaeth sifil neu berthynas debyg flaenorol
Mae'r eithriad i'r gwaharddiad awtomatig hwn rhag cymeradwyo yn Rheoliad 7(11)
sy'n caniatáu i'r asiantaeth ystyried cymeradwyaeth: os yw'r person, neu unrhyw aelod
o’i aelwyd, yn perthyn i'r plentyn, neu os yw'r person eisoes yn gweithredu fel rhiant
maeth i’r plentyn a bod y drosedd wedi'i chyflawni ar ôl iddo gael ei gymeradwyo.
O dan unrhyw amgylchiadau, rhaid i'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am y plentyn ystyried
yr holl wybodaeth yn ofalus a bod yn fodlon bod aros gyda'r person dan sylw er lles
pennaf y plentyn. Dylid bob amser ystyried gallu'r person i sicrhau bod anghenion lles
a diogelu'r plentyn yn cael eu diwallu.
Er nad oes gofyniad rheoliadol i geisio geirdaon gan gyn-bartneriaid neu bartneriaid
darpar rieni maeth, gwneir hyn fel arfer safonol ledled Cymru. Mae'r gwersi a
ddysgwyd o Adolygiad Rhan 8 Brighton a Hove yn 2001, a oedd yn tynnu sylw at
bwysigrwydd posibl y gwiriadau hyn, wedi dylanwadu'n sylweddol ar yr arfer hon.
Gall y syniad o gysylltu â chyn-bartner droi llawer o ymgeiswyr oddi ar faethu, ac
weithiau bydd hyn yn ddigon iddynt roi'r gorau i'r broses yn gyfan gwbl. Mae rhai
ymgeiswyr yn bryderus y bydd drwgdeimlad rhyngddyn nhw a'u cyn-bartner yn arwain
at ymateb negyddol neu faleisus, neu efallai na fyddant am i'w cyn-bartner wybod beth
maent yn ei wneud. Yn yr un modd, mae rhai perthnasoedd yn gorffen yn gyfeillgar, a
gall cyn-bartner ddarparu gwybodaeth fanwl a hynod berthnasol; yn y sefyllfaoedd
hyn, efallai y bydd darparwyr gwasanaethau maethu am gyfweld â'r cyn-bartner (gyda
chydsyniad).
Dylai fod gan ddarparwyr gwasanaethau maethu bolisi clir ar gyfer geirdaon gan gyn-
bartneriaid a dylent allu esbonio pam y gofynnir am y geirdaon hyn. Os bydd darpar
riant maeth wedi ymddwyn fel rhiant i blant, neu ofalu amdanynt, a / neu lle mae wedi
bod mewn perthynas o bwys (fel arfer pan fydd cwpl wedi cyd-fyw), gofynnir am eirda.
Mae rhai sefyllfaoedd pan na fyddai'r asiantaeth yn gofyn am eirda, er enghraifft lle
mae hanes o gam-drin domestig. Yn yr achos hwn, dylid ceisio cael triongliant o
dystiolaeth o'r berthynas honno / y cyfnod hwnnw ym mywyd y darpar Riant Maeth
gan ganolwyr neu ffynonellau eraill.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
31
Rheoliad 7(2)(d) Ac eithrio pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn awdurdod lleol
a bod y person yn byw yn ardal yr awdurdod hwnnw, rhaid iddo ymgynghori â’r awdurdod
lleol y mae’r person yn byw yn ei ardal, ac ystyried safbwyntiau’r awdurdod hwnnw
Mae gwiriadau Awdurdod Lleol yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth a allai fod yn
berthnasol, gan gynnwys atgyfeiriadau amddiffyn plant, ac a yw plant yr unigolyn wedi
derbyn gofal; atgyfeiriadau cam-drin domestig; atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd
meddwl neu wasanaethau cyffuriau ac alcohol. Byddant hefyd yn darparu gwybodaeth
ynghylch a yw darpar riant maeth wedi bod yn rhiant maeth yn yr ardal honno'n flaenorol.
Mae gofyniad cyfreithiol i wiriadau Awdurdod Lleol cyfredol gael eu cynnal oni bai fod y
darparwr gwasanaethau maethu yn Awdurdod Lleol a bod y person yn byw yn yr
Awdurdod Lleol hwnnw. Er nad oes gofyniad statudol i gynnal gwiriadau Awdurdod Lleol
mewn perthynas â chyfeiriadau blaenorol, byddai'n arfer dda cynnal gwiriadau cyfredol a
blaenorol ar gyfer y 10 mlynedd flaenorol.
Dylid cael y wybodaeth hon yn ysgrifenedig a dylid gwneud unrhyw ymholiadau dilynol fel
y bo'n briodol.
Mae Adran C o Ffurflen F CoramBAAF (Cymru) yn coladu llawer o'r wybodaeth uchod
hefyd ynghyd â deunydd ategol arall.
Er nad yw wedi'i gynnwys yn y rheoliadau, gellid gofyn i ddarpar rieni maeth ddechrau
casglu ‘datganiadau cefnogol agored’, ar wahân i'r geirdaon personol, gan bobl sy'n
gyfarwydd â'u cysylltiad â phlant (aelodau o'r teulu / ffrindiau / gwaith gwirfoddol). Bydd
hyn yn helpu'r rhai y mae angen iddynt ddangos rhywfaint o brofiad gyda phlant i
ddechrau trefnu gwaith gwirfoddol.
Dod ag asesiad i ben yn seiliedig ar wybodaeth Cam 1
Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai ymateb ysgrifenedig cryno gan gyn-bartneriaid yn
ddigonol. Nid oes rhaid iddo fod yn fanwl, ond rhaid iddo fod yn glir o ran a oes unrhyw
bryderon diogelu mewn perthynas â darpar riant maeth.
Os bydd cyn-bartner yn nodi bod ganddo bryderon am ddarpar riant maeth, efallai y
bydd angen cynnal trafodaeth bellach dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, neu ofyn am
wybodaeth ysgrifenedig bellach. Bydd hyn yn dibynnu ar y wybodaeth a dderbynnir,
dan ba amgylchiadau y daeth y berthynas i ben ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall
a gasglwyd yn ystod yr asesiad.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
32
Rheoliad 7(3) Pan fo
(a) y darparwr gwasanaethau maethu, ar ôl rhoi sylw i unrhyw wybodaeth a geir
o dan baragraff (2), yn penderfynu nad yw’r person yn addas i ddod yn rhiant
maeth, neu
(b) y person yn anaddas i ddod yn rhiant maeth yn rhinwedd paragraffau (8) i
(10), ac nid yw paragraff (11) yn gymwys
Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu hysbysu’r person yn ysgrifenedig nad
yw’n addas i fod yn rhiant maeth, gan roi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
Cam 2 o'r Broses Asesu
Yn y mwyafrif o achosion, fel y nodwyd uchod, bydd darparwr gwasanaethau maethu
yn gweithredu Cam 1 a Cham 2 ar yr un pryd. Nid oes rhaid i'r asiantaeth gasglu'r holl
wybodaeth ar gyfer Cam 1 cyn dod ag asesiad i ben os bydd y wybodaeth a gasglwyd
ar gyfer Cam 1 yn dangos yn glir nad yw darpar riant maeth yn addas i faethu
(Rheoliad 7(4)(b)). Dylid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad i beidio â
pharhau bob amser, a chynnwys y rhesymau dros y penderfyniad.
Fodd bynnag, os derbyniwyd yr holl wybodaeth ar gyfer Cam 1, rhaid i ddarparwr
gwasanaethau maethu hysbysu'r darpar riant maeth o fewn 10 diwrnod gwaith i
dderbyn y wybodaeth o'i fwriad i beidio â pharhau (Rheoliad 7(4)(c)). Os rhoddir
hysbysiad clir, naill ai
• ar ôl derbyn gwybodaeth benodol ar gyfer Cam 1 sy'n golygu bod ymgeisydd
yn anaddas i faethu yn awtomatig a chyn i'r holl wybodaeth ar gyfer Cam 1
gael ei derbyn, neu
• o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn yr holl wybodaeth ar gyfer Cam 1,
nid yw'r penderfyniad i ddod ag asesiad i ben o ganlyniad i wybodaeth Cam 1 yn
gyfystyr â “phenderfyniad” cymhwyso. Ni all y person droi at yr IRM (Rheoliad 7(4)(a))
ar y cam hwn ond mae hawl ganddo i gwyno drwy weithdrefn gwyno fewnol y
gwasanaeth os bydd yn anfodlon ar y ffordd yr ymdriniwyd â'i achos. Dylid darparu
copi o'r weithdrefn gwyno gyda'r hysbysiad ysgrifenedig.
Mae'r Rheoliadau yn nodi'n glir bod yn rhaid i benderfyniadau Cam 1 fod yn seiliedig
ar wybodaeth a gynhwysir yn Rheoliad 7(2) a Rhan 1 Atodlen 2, a thrafodir y rhain
yn helaeth uchod. Mewn rhai achosion, bydd yn glir iawn mai gwybodaeth Cam 1 yw'r
wybodaeth sy'n dod ag asesiad i ben, ond gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng
gwybodaeth Cam 1 a gwybodaeth Cam 2 mewn achosion eraill.
Er enghraifft, gwybodaeth a ddarparwyd gan ganolwr am berthynas flaenorol, neu
wybodaeth feddygol am gyflwr iechyd fel y trafodwyd uchod. Rhoddwyd canllawiau
uchod ond, fel rheol, oni bai fod rhesymau sylweddol gyda thystiolaeth glir sy'n
golygu bod ymgeisydd yn anaddas i faethu yn awtomatig, bydd angen trafodaeth
bellach, fwy cynnil fel rhan o Gam 2.
Dylid rhoi adborth gonest i'r darpar riant maeth bob amser na fydd yn cael ei
gymeradwyo o bosibl. Mae cyfle bob amser i gyflwyno'r mater gerbron y panel
gydag Adroddiad Cryno os bydd y pryder a drosglwyddir i Gam 2 yn cynyddu
unwaith y cesglir rhagor o wybodaeth.
Dylai pob penderfyniad gael ei wneud yn unol ag Egwyddorion Cyfraith Gyhoeddus
o ran tegwch ac ymddwyn yn gyfreithlon ac yn rhesymol.
Bydd y darpar riant maeth yn parhau i Gam 2 o'r broses asesu:
• os derbynnir yr holl wybodaeth ar gyfer Cam 1 ac os bydd y person yn cael
ei hysbysu o'r penderfyniad i barhau o fewn 10 diwrnod, NEU
• os na chaiff y person ei hysbysu o fewn 10 diwrnod i dderbyn yr holl
wybodaeth ar gyfer Cam 1 o'r penderfyniad i beidio â pharhau (Rheoliad
7(5)).
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
33
Rheoliad 7(5) Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu wedi cael yr holl
wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) ac na fo wedi rhoi’r hysbysiad ym
mharagraff (3) o fewn 10 niwrnod gwaith i wneud hynny, rhaid i’r darparwr
gwasanaethau maethu, yn ddarostyngedig i baragraff (6)
(a) Cael yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1 sy’n ymwneud â’r person
ac aelodau eraill o aelwyd y person ac unrhyw wybodaeth arall yr ystyrir ei
bod yn berthnasol
(b) Ystyried a yw’r person yn addas i fod yn rhiant maeth ac a yw aelwyd y
person yn addas ar gyfer unrhyw blentyn
(c) Llunio adroddiad ysgrifenedig ar y person sy’n cynnwys y materion a ganlyn
(i) Yr wybodaeth sy’n ofynnol gan Atodlen 1 ac unrhyw wybodaeth arall y
mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn ystyried ei bod yn berthnasol
(ii) Asesiad y darparwr gwasanaethau maethu o addasrwydd y person i
fod yn rhiant maeth, a
(iii) Cynigion y darparwr gwasanaethau maethu ynghylch unrhyw delerau
cymeradwyo, a
(d) Hysbysu’r person bod yr achos i’w atgyfeirio i’r panel maethu, a rhoi copi i’r
person o’r adroddiad a lunnir o dan is-baragraff (c) gan wahodd y person i
anfon unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu o
fewn 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad yr anfonir yr hysbysiad.
Rhan 2 Atodlen 1
11. Manylion personoliaeth
12. Argyhoeddiad crefyddol, a gallu i ofalu am blentyn o unrhyw argyhoeddiad
crefyddol penodol
13. Tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol a gallu i ofalu am blentyn
o unrhyw darddiad hiliol neu gefndir diwylliannol neu ieithyddol penodol
14. Gallu i ddarparu cymorth i blentyn mewn perthynas â’i gyfeiriadedd rhywiol
a’i hunaniaeth o ran rhywedd
15. Cyflogaeth neu alwedigaeth yn y gorffennol a’r presennol, safon byw,
gweithgareddau hamdden a diddordebau
16. Profiad blaenorol (os o gwbl) o ofalu am eu plant eu hunain a phlant eraill
17. Sgiliau, cymhwysedd a photensial sy’n berthnasol i’w gallu i ofalu’n
effeithiol am blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy
Rheoliad 7(6) Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu, ar ôl rhoi sylw i unrhyw
wybodaeth a geir o dan baragraff (5)(a), yn penderfynu nad yw’r person yn
debygol o gael ei ystyried yn addas i ddod yn rhiant maeth, caiff fwrw ymlaen i
lunio adroddiad ysgrifenedig o dan baragraff (5)(c) er gwaethaf nad yw o bosibl
wedi cael yr holl wybodaeth am y person sy’n ofynnol gan baragraff (5)(c).
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
34
Rheoliad 7(7) Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym
mharagraff (5)(d) (neu pan geir sylwadau’r person, pa un bynnag sydd gynharaf),
rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu anfon
(a) yr adroddiad a lunnir o dan baragraff (5)(c)
(b) sylwadau’r person ar yr adroddiad hwnnw, os oes sylwadau, ac
(c) unrhyw wybodaeth berthnasol arall a geir gan y darparwr gwasanaethau
maethu i’r panel maethu
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
35
Fel y nodwyd uchod, bwriedir i Gam 1 o'r broses asesu roi gwybodaeth sylfaenol i'r sawl
sy'n gwneud penderfyniadau am yr ymgeisydd er mwyn gallu tynnu ymgeiswyr sy'n amlwg
yn anaddas o'r broses cyn gynted â phosibl heb fiwrocratiaeth na buddsoddiad diangen
gan y gwasanaeth na'r ymgeisydd. Mae Adran A Rhan 1 o Ffurflen CoramBAAF (Cymru)
yn adlewyrchu'r wybodaeth y mae angen ei chasglu ar Gam 1 o'r broses asesu.
Mae Cam 2 o'r broses asesu yn asesiad llawer mwy cynhwysfawr o'r gallu hanfodol a'r
cymwyseddau craidd sy'n ofynnol i fod yn rhiant maeth.
Mae Adran A Rhan 2 o Ffurflen F CoramBAAF (Cymru) yn cynnwys gwirio dogfennau,
gwiriadau eraill a gwybodaeth ffeithiol, fel sy'n ofynnol ar gyfer Cam 2 o'r broses asesu.
Mae Adran B o Ffurflen F CoramBAAF (Cymru) yn cwmpasu'r disgrifiad a'r dadansoddiad
manylach ac yn ystyried yr hyn sydd wedi dylanwadu ar fywyd yr ymgeisydd; ei allu i
weithredu, ei ffordd o fyw a'i amgylchedd ar hyn o bryd; ei brofiad o ofalu am blant a/neu
ei wybodaeth am hyn; a'i allu i ymgymryd â'r dasg faethu.
Mae Adran C o Ffurflen F CoramBAAF (Cymru) yn coladu geirdaon (o Gamau 1 a 2) a
deunydd ategol arall (Siart achau, Ecomap, Cronoleg, Rhestr wirio o ddiogelwch y cartref,
Asesiad ariannol, Asesiad anifail anwes os yw'n berthnasol, Cynllun gofalu mwy diogel,
Cofnod hyfforddiant paratoi, Ymweliad ail farn os oes angen, unrhyw wybodaeth arall yr
ystyrir ei bod yn berthnasol).
Efallai y bydd ymarferwyr am gyfeirio at “Undertaking a Fostering Assessment. A guide
to collecting and analysing information for Form F (Fostering) Wales”, 2020, Roger
Chapman a Dawn Owen
Os bydd darpar riant maeth yn dechrau Cam 2 o'r asesiad, boed ar yr un pryd â Cham 1
neu ar ôl i'r holl wybodaeth gael ei chasglu ar gyfer Cam 1, dylai gael gwybod os bydd
unrhyw bryderon yn codi o'r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer Cam 2, yna caiff y rhain eu
trafod yn onest a'u cofnodi. Dylai hefyd gael gwybod y gallai asesiad ddod i ben o
ganlyniad i'r pryderon hyn.
Rhaid cwblhau asesiad sydd wedi symud ymlaen i Gam 2 oni bai fod
• Yr asesiad yn cael ei derfynu yn dilyn adroddiad cryno (Rheoliad 7(6))
• Y Darpar Riant Maeth yn tynnu'n ôl neu'n cael ei gynghori i beidio â pharhau
• Y gwasanaeth yn penderfynu nad yw'r Darpar Riant Maeth yn addas o ganlyniad i
wybodaeth Cam 1 lle cynhaliwyd Cam 1 a Cham 2 ar yr un pryd (Rheoliad 7(3)).
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
36
Gwiriadau a geirdaon Cam 2
Dylai'r rhain gynnwys y canlynol, yn ogystal ag “unrhyw wybodaeth arall yr ystyrir ei bod
yn berthnasol,” (Rheoliad 7(5)(a)):
• Swydd bresennol (boed yn waith cyflogedig neu'n waith gwirfoddol) a swydd
flaenorol (boed yn waith cyflogedig neu'n waith gwirfoddol) lle mae'r Darpar Riant
Maeth wedi gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed.
• Asesiad ariannol
• Asesiadau anifeiliaid anwes
• Gwiriadau ysgol, coleg, meithrinfa
• Gwiriadau cyfryngau cymdeithasol
• Cyn-bartneriaid a phlant sy'n oedolion
• Gwiriadau tramor
• Dysgu a datblygu
Dylid cael cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer pob gwiriad.
Gwiriadau cyflogaeth
Mae Rhan 2 Atodlen 1 paragraff 15 yn nodi y dylai'r asesiad ymdrin â chyflogaeth neu
alwedigaeth gyfredol a blaenorol y darpar riant maeth. Yn ogystal â manylion a rennir gan
y darpar riant maeth ei hun, cynghorir y dylid cael geirda gan gyflogwr oherwydd gall
gynnig gwybodaeth berthnasol. Os bydd darpar riant maeth wedi gweithio gyda phlant
a/neu oedolion sy'n agored i niwed, dylid gofyn am eirda bob amser.
Caiff gallu darpar riant maeth i ofalu am blant ei werthuso'n ofalus a'i ddangos ar ffurf
adroddiad ysgrifenedig (Rheoliad 7(5)(c) neu 7(6) yn achos Adroddiad Cryno) i banel
ynghyd ag argymhellion ynghych telerau cymeradwyo.
Dylai darpar rieni maeth gael copi o'r adroddiad (boed yn un llawn neu'n un cryno) a
dylent gael 10 diwrnod i wneud sylwadau arno; dylai hefyd gael y cyfle i fynychu'r
panel.
Mae unrhyw benderfyniad i beidio â chymeradwyo yn seiliedig ar wybodaeth Cam 2
yn gyfystyr â “phenderfyniad cymhwyso” a gellir troi at yr IRM.
Mae diagram gweledol defnyddiol am drynewidiadau amrywiol sut y gellir cynnal /
terfynu unrhyw asesiad wedi'i gynnwys yn Atodiad 3
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
37
Asesiadau Ariannol
Mae Rheoliad 7(5)(a) a Rhan 2 Atodlen 1 paragraff 15 yn cyfeirio at wybodaeth
berthnasol am y person a'r aelwyd a safonau byw.
Nid oes gofyniad i ddarpar riant maeth fod yn ennill isafswm incwm; mae'n bwysig bod
aseswyr yn cydnabod bod incwm yn aml yn gysylltiedig â dosbarth cymdeithasol ac
nad oes cyswllt dynodedig rhwng dosbarth cymdeithasol ac addasrwydd i faethu.
Fodd bynnag, mae angen i'r asesiad bennu bod gan y person agwedd gyfrifol tuag at
reoli arian a bod ganddo adnoddau digonol. Byddai hyn yn cynnwys sicrwydd y
byddai'r darpar rieni maeth yn gallu talu treuliau cyffredinol y cartref heb orfod dibynnu
ar unrhyw incwm a geir o faethu.
Asesiadau Cŵn ac Anifeiliaid Anwes
Nid oes gofyniad statudol i ymgymryd ag asesiad cŵn a/neu anifeiliaid anwes ond
mae Rheoliad 7(5)(a) yn nodi y dylai darparwr gwasanaethau maethu gael “unrhyw
wybodaeth arall yr ystyrir ei bod yn berthnasol” ac mae Rhan 2 Atodlen 1 paragraff
15 yn cyfeirio at “gweithgareddau hamdden a diddordebau”.
Dylai pob darparwr gwasanaethau maethu gael polisïau ynghylch cŵn ac anifeiliaid
anwes eraill. Derbynnir yn eang y dylai asesiadau anifeiliaid anwes fod yn rhan o
asesiad maethu a dylai gynnwys y canlynol:
• Manylion sylfaenol gan gynnwys personoliaeth a hanes
• Trefniadau byw, hyfforddiant, arferion dyddiol, gan gynnwys iechyd a hylendid
• Unrhyw faterion sy'n peri pryder neu'n ymwneud â diogelwch a sut yr
ymdriniwyd / ymdrinnir â'r rhain
• Arsylwadau ymarferwyr o'r anifail anwes a rhyngweithiadau â'r darpar riant
maeth ac eraill. Dylid defnyddio dull pragmatig.
• Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen cynnal asesiad anifeiliaid anwes
arbenigol.
• Dylid defnyddio dull pragmatig wrth gynnal asesiadau anifeiliaid anwes a dylid
bod yn ymwybodol o'r dasg faethu ar bob adeg.
Canllaw Arferion Da Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018
38
Gwiriadau Ymwelydd Iechyd, Meithrinfa, Ysgol a Choleg
Er nad yw cynnal y gwiriadau hyn ar gyfer darpar rieni maeth sy'n gofalu am blant yn
ofyniad statudol, ystyrir bod hyn yn arfer orau. Mae'r gwiriadau a'r geirdaon hyn yn
darparu tystiolaeth hanfodol ar gyfer triongli.
Mae Rheoliad 7(5)(a) yn nodi y dylai darparwr gwasanaethau maethu gael “unrhyw
wybodaeth arall yr ystyrir ei bod yn berthnasol”; Mae Rhan 1 Atodlen 1 paragraff 4
yn cyfeirio at “Manylion y plant yn y teulu” ac mae Rhan 2 Atodlen 1 paragraffau 16
a 17 yn cyfeirio at “Profiad blaenorol (os o gwbl) o ofalu am eu plant eu hunain a phlant
eraill” a “Sgiliau, cymhwysedd a photensial sy’n berthnasol i’w gallu i ofalu’n effeithiol
am blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy”.
Ystyrir bod ceisio gwiriad gan ymwelydd iechyd, meithrinfa, ysgol a / neu goleg yn
berthnasol wrth gasglu'r wybodaeth hon.
Mae'n bwysig bod yn glir o ran diben y gwiriadau hyn a'u perthnasedd i'r dasg faethu,
gan gynnwys agwedd darpar riant maeth tuag at gefnogi addysg a chynnig ysgogiad;
gallu darpar riant maeth i weithio'n adeiladol gyda gweithwyr proffesiynol eraill; ac
effaith debygol maethu ar y darpar riant maeth a'i blentyn / plant.
Gwiriadau cyfryngau cymdeithasol
Nid yw'r gwiriadau hyn wedi'u cynnwys yn y rheoliadau ond mae adran benodol ar eu
cyfer yn Ffurflen F CoramBAAF (Cymru) sef Adran A Rhan 2. Mae Rheoliad 7(5)(a)
yn