79
POLISI CYFLOG ATHRAWON 2015/16 ar sail Model ERW Mabwysiadodd corff llywodraethu (rhodder enw’r ysgol yn y fan hon) y Polisi Cyflog hwn ar (rhodder y dyddiad yn y fan hon) CYFLWYNIAD Mae’r polisi cyflog hwn yn gosod fframwaith i wneud penderfyniadau am gyflogau athrawon. Fe’i datblygwyd i gydymffurfio â gofynion Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (DCAAY) a bu’n destun ymgynghori â phob un o’r undebau athrawon cydnabyddedig. 1. DATGANIAD O FWRIAD 1.1 Prif ddyletswydd statudol cyrff llywodraethu Cymru, fel y’i amlinellir ym Mharagraff 21 (2) Deddf Addysg 2002 yw “ … rhedeg yr ysgol â’r nod o hyrwyddo cyflawniad addysgol o safon uchel yn yr ysgol.” Bwriad y polisi hwn yw cefnogi’r dyletswydd statudol hwnnw. 1.2 Bydd gweithdrefnau pennu cyflog yn yr ysgol hon yn gyson ag egwyddorion bywyd cyhoeddus : gwrthrychedd, bod yn agored ac atebolrwydd. 1

ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

POLISI CYFLOG ATHRAWON 2015/16 ar sail Model ERW

Mabwysiadodd corff llywodraethu (rhodder enw’r ysgol yn y fan hon) y Polisi Cyflog hwn ar (rhodder y dyddiad yn y fan hon)

CYFLWYNIAD

Mae’r polisi cyflog hwn yn gosod fframwaith i wneud penderfyniadau am gyflogau athrawon. Fe’i datblygwyd i gydymffurfio â gofynion Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (DCAAY) a bu’n destun ymgynghori â phob un o’r undebau athrawon cydnabyddedig.

1. DATGANIAD O FWRIAD

1.1 Prif ddyletswydd statudol cyrff llywodraethu Cymru, fel y’i amlinellir ym Mharagraff 21 (2) Deddf Addysg 2002 yw “ …rhedeg yr ysgol â’r nod o hyrwyddo cyflawniad addysgol o safon uchel yn yr ysgol.” Bwriad y polisi hwn yw cefnogi’r dyletswydd statudol hwnnw.

1.2 Bydd gweithdrefnau pennu cyflog yn yr ysgol hon yn gyson ag egwyddorion bywyd cyhoeddus : gwrthrychedd, bod yn agored ac atebolrwydd.

1.3 Bydd y corff llywodraethu’n ymddwyn ag uniondeb, cyfrinachedd, gwrthrychedd a gonestrwydd er budd gorau’r ysgol wrth weithredu’r polisi hwn.

1.4 Bydd y corff llywodraethu’n agored ynghylch y penderfyniadau a wnaed a’r camau gweithredu a gymerwyd a bydd yn barod i esbonio’r penderfyniadau a’r camau gweithredu wrth unigolion â chanddynt ddiddordeb.

1

Page 2: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

1.5 Bydd unrhyw ddiwygiadau y gwneir yn y dyfodol i’r polisi hwn yn cydymffurfio â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol a byddant yn destun ymgynghori â’r partïon perthnasol, gan gynnwys undebau llafur cydnabyddedig.

2. DEDDFWRIAETH CYDRADDOLDEB

2.1 Mae’r ysgol yn ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb ym mhopeth y gwnawn. Disodlodd ac atgyfnerthodd Deddf Cydraddoldeb 2010 y ddeddfwriaeth flaenorol ar gydraddoldeb. Bydd y corff llywodraethu yn cydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol ar gydraddoldeb.

2.2 Gweithredir y Polisi yn gyson i bob gweithiwr heb ystyried oedran, anabledd, hil, rhywedd (rhyw), ailbennu rhywedd, priodas / partneriaeth sifil, beichiogrwydd / mamolaeth, crefydd, cred na chyfeiriadedd rhywiol.

2.3 Bydd y corff llywodraethu’n hyrwyddo cydraddoldeb ym mhob agwedd ar fywyd ysgol, yn enwedig ym mhob penderfyniad am hysbysebu swyddi, penodi, dyrchafu a thalu’r staff, hyfforddiant a datblygiad y staff.

3. CYDRADDOLDEB A CHYFLOG AR SAIL PERFFORMIAD

3.1 Bydd y corff llywodraethu’n sicrhau bod y prosesau cyflog yn dryloyw ac yn deg. Cyfiawnheir a chofnodir pob penderfyniad yn wrthrychol. Gwneir addasiadau rhesymol fesul achos i gymryd i ystyriaeth amgylchiadau’r unigolyn megis absenoldeb hirdymor oherwydd mamolaeth neu afiechyd.

4. DISGRIFIADAU SWYDDI

4.1 Bydd y pennaeth yn sicrhau y rhoddir disgrifiad o’r swydd i bob aelod o’r staff yn unol â strwythur staffio’r ysgol (gweler Atodiad 9), fel y cytunwyd gan y corff llywodraethu.

4.2 Bydd y disgrifiadau swyddi yn clustnodi meysydd cyfrifoldeb allweddol a gellir eu diwygio neu eu newid o bryd i’w gilydd gan ymgynghori a dod i gytundeb â’r unigolyn neu’r unigolion o dan sylw er mwyn gwneud newidiadau rhesymol yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol yr ysgol.

5. ARFARNU

5.1 Bydd y corff llywodraethu yn cydymffurfio â Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 o ran arfarnu penaethiaid ac athrawon drwy weithredu polisi rheoli perfformiad yr ysgol.

2

Page 3: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

6. RHWYMEDIGAETHAU’R CORFF LLYWODRAETHU

6.1 Bydd y corff llywodraethu:

• yn cyflenwi ei rwymedigaethau fel y’u hamlinellir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol ac Amodau Gwasanaeth Athrawon Ysgol Cymru a Lloegr (y “Llyfr Bwrgwyn”)

• yn sefydlu Pwyllgor Cyflog a Phwyllgor Apêl Cyflogau (gweler Atodiad 1)• yn pennu pob penderfyniad am ddatblygiad cyflogau, gan gymryd argymhellion

y pennaeth i ystyriaeth• yn sicrhau ei fod yn darparu cronfeydd i gefnogi penderfyniadau am gyflogau,

yn unol â’r polisi cyflog hwn a chynllun gwariant yr ysgol • yn sicrhau bod yr athrawon, drwy gyfrwng y pennaeth, yn cael gwybod am

benderfyniadau cyflog sy’n cael effaith arnynt ac y cedwir cofnodion o’r argymhellion a’r penderfyniadau a wnaed

• yn monitro’n flynyddol ganlyniadau’r penderfyniadau ar gyflog, gan gynnwys y graddau y gall gwahanol grwpiau o athrawon ddatblygu ar wahanol raddfeydd. Rhennir canlyniad yr adolygiad â chynrychiolwyr undebau llafur yr ysgol.

7. RHWYMEDIGAETHAU’R PENAETHIAID

7.1 Bydd y pennaeth :

• yn sicrhau bod pob un o’r arfarnwyr (lle nad y pennaeth ydyw) yn rhoi gwybodaeth gywir, berthnasol, gyflawn am amserol am argymhellion cyflog.

• yn cymedroli asesiadau perfformiad a’r argymhellion cyflog cychwynnol i sicrhau cysondeb a thegwch

• yn cyflwyno argymhellion cyflog i’r Pwyllgor Cyflog ac yn sicrhau bod gwybodaeth berthnasol gan y Pwyllgor Cyflog i wneud penderfyniadau am gyflogau

• yn hysbysu athrawon am bolisi cyflog yr ysgol ac yn sicrhau ei fod yn hygyrch• yn rhoi gwybod i staff y gyflogres a/neu Adnoddau Dynol yn yr Awdurdod Lleol

am y penderfyniadau cyflog sydd i’w gweithredu • yn sicrhau y rhennir adroddiad blynyddol am weithredu’r polisi cyflog â’r Corff

Llywodraethu a’r Undebau Llafur perthnasol.

8. RHWYMEDIGAETHAU’R ATHRAWON

8.1 Bydd yr athrawon:

3

Page 4: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

• yn dod yn gyfarwydd â darpariaethau’r polisi cyflog, y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol a’r safonau proffesiynol perthnasol

• yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’r prosesau y’u hamlinellir yn y polisi hwn

9. GWAHANIAETHAU

9.1 O fewn fframwaith y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, crëir a chynhelir gwahaniaethau priodol rhwng swyddi yn yr ysgol, gan gydnabod atebolrwydd a phwysau’r swydd ynghyd ag anghenion y corff llywodraethu i recriwtio a chadw nifer ddigonol o athrawon o’r ansawdd angenrheidiol ar bob lefel.

10. DIOGELU

10.1 Lle bo penderfyniad cyflog yn arwain, neu’n medru arwain, at gychwyn cyfnod diogelu, bydd y corff llywodraethu yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol a bydd yn rhoi’r hysbysiad angenrheidiol cyn gynted ag y bo modd a chyn pen mis fan bellaf ar ôl y penderfyniad.

11. MEDRUSRWYDD A DATBLYGIAD CYFLOG

11.1 Lle aseswyd perfformiad athro a’i fod yn anfoddhaol a bo athro’n destun gweithdrefnau medrusrwydd yr ysgol, bydd prosesau rheoli perfformiad yr ysgol yn cael eu hatal dros dro i’r athro o dan sylw tan y cwblheir y gweithdrefnau medrusrwydd.

11.2 Ar ôl cwblhau’r gweithdrefnau medrusrwydd, bydd yr athro’n ailddechrau’r prosesau rheoli perfformiad yn unol â pholisi’r ysgol.

Ni chaniateir datblygiad cyflog yn unol â’r polisi cyflog hwn tra bo athro yn destun gweithdrefnau medrusrwydd yr ysgol.

4

Page 5: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Ar ôl cwblhau’r gweithdrefnau medrusrwydd a chyn y gellir ystyried datblygiad cyflog, bydd yn rhaid i’r athro, am gyfnod rhesymol, arddangos y lefel perfformiad angenrheidiol y mae ei angen i gael adolygiad arfarnu llwyddiannus ar sail yr amcanion personol diwygiedig y pennwyd pan gwblhawyd y gweithdrefnau medrusrwydd a fydd yn cymryd cyfnod gyrfa’r athro i ystyriaeth.

11.3 Ni ellir gwneud ôl-gais am ddatblygiad cyflog yn unrhyw achos o fedrusrwydd.

12. PENDERFYNIAD CYFLOG

12.1 Dirprwyodd y corff llywodraethu i’r Pwyllgor Cyflog ei bwerau i benderfynu cyflogau. Amlinellir cylch gwaith y Pwyllgor Cyflog yn Atodiad 1.

Penderfyniad cyflog blynyddol

12.2 Adolygir holl gyflogau’r staff addysgu, gan gynnwys rhai’r grŵp arwain, yn flynyddol, gan ddod i rym ar 1 Medi. Bydd y corff llywodraethu yn cwblhau adolygiadau cyflog blynyddol yr athrawon ac yn asesu’r ceisiadau i ddatblygu i’r Ystod Gyflog Uwch erbyn 31 Hydref; cwblheir adolygiad cyflog blynyddol y penaethiaid erbyn 31 Rhagfyr.

12.3 Gall adolygiadau ddigwydd ar adegau eraill o’r flwyddyn i adlewyrchu, er enghraifft, unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau, newidiadau mewn disgrifiad swydd sy’n arwain at newid yn y modd o gyfrifo cyflog unigolyn ac mewn achosion lle bo athro’n ailddechrau’r trefniadau rheoli perfformiad yn sgîl prosesau medrusrwydd.

Bydd y corff llywodraethu’n gweithredu unrhyw ddyfarniadau cyflog cenedlaethol yn y dyfodol fel y nodir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

5

Page 6: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Hysbysu penderfyniad cyflog

12.4 Rhoddir datganiad ysgrifenedig i bob athro sy’n amlinellu’r cyflog ac unrhyw fuddion ariannol eraill y mae ganddynt hawl iddynt yn sgîl penderfyniad. Lle bo’n briodol, bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y modd y cafodd ei bennu. Gwneir hyn erbyn 31 Hydref, neu cyn pen mis fan bellaf ar ôl y penderfyniad. Gweler Atodiad 2 i gael manylion am y datganiad adolygu cyflog blynyddol.

Gweithdrefnau apêl

12.5 Mae gan y corff llywodraethu weithdrefnau apêl sy’n ymwneud â chyflog. Amlinellir y rhain yn Atodiad 3 y polisi cyflog hwn.

13. CYFLOG PENAETHIAID

13.1 Hefyd, gweler Atodiad 4 am fwy o fanylion.

13.2 Bydd y corff llywodraethu yn pennu ystod cyflog arwain ar ffurf saith pwynt i’r pennaeth ar sail maint y grŵp ysgol ac unrhyw ffactorau perthnasol parhaol ychwanegol fel y’u pennwyd yn fframwaith y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

13.3 Bydd y ffactorau ychwanegol i’w hystyried yn cynnwys holl gyfrifoldebau parhaol y swydd, heriadau sy’n benodol i’r swydd a phob ystyriaeth berthnasol arall ochr yn ochr ag unrhyw ffactorau sy’n ymwneud â recriwtio a chadw.

13.4 Ni fydd taliadau i’r pennaeth am gyfrifoldebau dros dro yn gynwysiedig yn yr ystod cyflog, ond cânt eu penderfynu yn unol â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, fel yr esbonia Atodiad 4.

13.5 Yn yr ysgol hon, bydd y corff llywodraethu yn defnyddio’r pwyntiau cyflog er cyfeiriad yn ôl disgresiwn gogyfer â chyflog arwain fel y’u cyhoeddwyd gan yr Adran Addysg ym Medi 2014 ac mae wedi cytuno ar ystod cyflog ar ffurf saith cam o L xxx i L xxx (yr ysgol sydd i roi’r manylion yn y fan hon)

Cyflog ar benodiad

13.6 Ar gyfer penodiadau newydd, bydd y corff llywodraethu yn penderfynu’r ystod cyflog arwain sydd i’w hysbysebu ac yn cytuno ar y cyflog cychwynnol ar benodiad, gan ystyried swyddogaeth lawn y pennaeth a darpariaethau’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

6

Page 7: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

13.7 Bydd y corff llywodraethu’n mabwysiadu proses tri cham wrth bennu cyflog penodiadau penaethiaid newydd, fel yr amlinellir yn Atodiad 4.

13.8 Bydd y Pwyllgor Cyflog yn adolygu grŵp penaethiaid yr ysgol ac ystod cyflog arwain y pennaeth, fel bo rhaid, i sicrhau perthynoledd cyflog teg yn yr ysgol.

13.9 Gweler Atodiad 4 y polisi cyflog hwn ar ystod cyflogau arwain a Datganiad Cyflog yr Adolygiad Blynyddol.

Datblygiad cyflog penaethiaid

13.10 Bydd y corff llywodraethu yn penderfynu cyflog pennaeth sydd mewn swydd yn unol â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, Rheoliadau Gwerthuso (Cymru) 2011 a pholisi rheoli perfformiad yr ysgol.

13.11 Bydd y corff llywodraethu yn sicrhau y cofnodir y rhesymau dros bennu ystod cyflog y pennaeth ar lefel benodol a bod y broses o benderfynu ar gyflog y pennaeth yn deg ac yn dryloyw.

13.12 Dyfernir datblygiad cyflog y pennaeth yn sgîl adolygiad arfarnu llwyddiannus. Ystyrir bod yr adolygiad yn llwyddiannus lle y gwelwyd tystiolaeth o berfformiad parhaus o ansawdd uchel a bod y pennaeth wedi cwrdd, neu wedi gwneud camau sylweddol ymlaen tuag at gwrdd, â’i amcanion.

13.13 Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gymhwysedd yn y safonau perthnasol fel rhan o broses rheoli perfformiad yr ysgol.

13.14 Dylai perfformiad parhaus o ansawdd uchel ar ran y pennaeth ym mhob cyfnod o’i yrfa roi disgwyliad i’r pennaeth o ddatblygu i frig yr ystod cyflog berthnasol, gan ystyried bob amser yr argymhellion ysgrifenedig yn adroddiad arfarnu’r unigolyn dan sylw.

13.15 Lle na ddiwallwyd amcanion y pennaeth, neu na wnaed camau sylweddol ymlaen tuag at gwrdd â hwy, ni ddyfernir datblygiad cyflog oni bai bod y corff llywodraethu’n fodlon bod amgylchiadau perthnasol esgusodol yn bodoli.

13.16 Lle y dyfernir datblygiad cyflog o’r fath yn ôl disgresiwn, cofnodir y penderfyniad hwnnw yn yr un modd.

14. CYFLOG DIRPRWY BENAETHIAID / PENAETHIAID CYNORTHWYOL

7

Page 8: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

14.1 Yn yr ysgol hon, bydd y corff llywodraethu yn defnyddio’r pwyntiau cyflog er cyfeiriad yn ôl disgresiwn gogyfer â chyflog arwain fel y’u cyhoeddwyd gan yr Adran Addysg ym Medi 2014.

14.2 Bydd y corff llywodraethu yn pennu ystod cyflog arwain ar ffurf pum pwynt i ddirprwy bennaeth a phennaeth cynorthwyol ar sail maint y grŵp ysgol ac unrhyw ffactorau perthnasol parhaol ychwanegol fel y’u pennwyd yn fframwaith y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

14.3 Penderfynir ar ystod y swyddi unigol yn unol â dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd a gallai hyn amrywio rhwng swyddi.

14.4 Yn yr ysgol hon, ystod cyflog y dirprwy bennaeth ar ffurf pum cam yw L xx i L xxx (yr ysgol sydd i roi manylion y cyflog yn y fan hon)

14.5 Yn yr ysgol hon, ystod cyflog y pennaeth cynorthwyol ar ffurf pum cam yw L xx i L xxx (yr ysgol sydd i roi manylion y cyflog yn y fan hon)

Cyflog ar benodiad

14.6 Pan fo angen gwneud penodiad newydd, bydd y corff llywodraethu yn penderfynu ar yr ystod cyflog arwain gogyfer â’r swydd sydd i’w hysbysebu a bydd yn cytuno ar y cyflog cychwynnol ar benodiad.

14.7 Penderfynir yr ystod cyflog yn unol â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

14.8 Bydd y corff llywodraethu yn mabwysiadu’r broses tri cham wrth bennu cyflog penodiadau newydd i’r tîm arwain ehangach fel yr amlinella Atodiad 4.

Datblygu cyflog dirprwy athrawon / athrawon cynorthwyol

14.9 Bydd y corff llywodraethu yn penderfynu cyflog dirprwy bennaeth / pennaeth cynorthwyol sydd mewn swydd yn unol â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, Rheoliadau Gwerthuso (Cymru) 2011 a pholisi rheoli perfformiad yr ysgol.

14.10 Bydd y corff llywodraethu yn sicrhau y cofnodir y rhesymau dros bennu’r ystod cyflog arwain ar lefel benodol a bod y broses o benderfynu ar gyflog y dirprwy bennaeth a’r pennaeth cynorthwyol yn deg ac yn dryloyw.

8

Page 9: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

14.11 Dyfernir datblygiad cyflog y dirprwy bennaeth a’r pennaeth cynorthwyol yn sgîl adolygiad arfarnu llwyddiannus. Ystyrir bod yr adolygiad yn llwyddiannus lle y bu perfformiad parhaus yr athro o ansawdd uchel a bod yr athro wedi cwrdd, neu wedi gwneud camau sylweddol ymlaen tuag at gwrdd, â’i amcanion.

14.12 Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gymhwysedd yn y safonau perthnasol sy’n briodol i’r swydd fel rhan o broses rheoli perfformiad yr ysgol.

14.13 Dylai perfformiad parhaus o ansawdd uchel ar ran y dirprwy bennaeth / pennaeth cynorthwyol ym mhob cyfnod o’i yrfa roi disgwyliad i’r unigolyn o ddatblygu i frig yr ystod cyflog berthnasol, gan ystyried bob amser yr argymhellion ysgrifenedig yn adroddiad arfarnu’r unigolyn dan sylw.

14.14 Lle na ddiwallwyd amcanion y dirprwy bennaeth neu’r pennaeth cynorthwyol, neu na wnaed camau sylweddol ymlaen tuag at gwrdd â hwy, ni ddyfernir datblygiad cyflog oni bai bod y corff llywodraethu’n fodlon bod amgylchiadau perthnasol esgusodol yn bodoli.

14.15 Lle y dyfernir datblygiad cyflog o’r fath yn ôl disgresiwn, cofnodir y penderfyniad hwnnw yn yr un modd.

15. ATHRAWON YR YSTAFELL DDOSBARTHCyflog ar benodiad

15.1 Ystyrir hysbysebion am swyddi gwag yn yr ysgol gan y pennaeth [a’r (rhodder manylion y pwyllgor) lle bo’n briodol]. Hysbysebir pob swydd naill ai’n fewnol neu’n allanol, yn lleol neu’n genedlaethol, fel bo’n briodol.

15.2 Bydd yr hysbyseb yn cynnwys manylion yr ystod cyflog ac unrhyw daliadau ychwanegol neu lwfansau sy’n berthnasol i’r swydd.

Prif Ystod Cyflog Pwynt 1 £22,244Pwynt 2 £24,002Pwynt 3 £25,932Pwynt 4 £27,927Pwynt 5 £30,128Pwynt 6 £32,831

Ystod Cyflog Uwch Pwynt 1 £35,218Pwynt 2 £36,523Pwynt 3 £37,871

9

Page 10: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

15.3 Bydd y corff llywodraethu yn penderfynu ar gyflog cychwynnol swydd wag athro ystafell ddosbarth.

15.4 Mae’r corff llywodraethu yn ymrwymo i egwyddor hygludedd cyflogau athrawon sy’n cael eu talu ar hyn o bryd yn unol â darpariaethau’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol a bydd yn gweithredu’r egwyddor hon mewn modd ymarferol wrth wneud penodiadau newydd.

15.5 Ni fydd y corff llywodraethu yn cyfyngu’r ystod cyflog yr hysbysebir na’r cyflog cychwynnol na’r gobeithion am ddatblygiad cyflog a fydd ar gael i swyddi athrawon yr ystafell ddosbarth heblaw am isafswm y Brif Ystod Cyflog ac uchafswm yr Ystod Cyflog Uwch.

Datblygiad cyflog athrawon presennol sydd ar y brif ystod cyflog

15.6 Fel rhan o broses flynyddol adolygu cyflogau’r ysgol, mae’r disgresiwn gan y corff llywodraethu i ddyfarnu cyflog ar unrhyw lefel sy’n cyfateb i, neu sy’n uwch na, chyflog presennol yr athro o fewn isafswm ac uchafswm yr ystod.

15.7 Dyfernir datblygiad cyflog athrawon yn sgîl adolygiad arfarnu / rheoli perfformiad llwyddiannus. Ystyrir bod yr adolygiad yn llwyddiannus lle y mae’r athrawon wedi cwrdd, neu wedi gwneud camau sylweddol ymlaen tuag at gwrdd, â’u hamcanion.

15.8 Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gymhwysedd athro yn y safonau perthnasol yn unol â phroses rheoli perfformiad yr ysgol.

15.9 Dylai perfformiad da parhaus gan athro ym mhob cyfnod o’i yrfa, roi disgwyliad i bob un o’r athrawon o ddatblygu i frig eu hystod cyflog berthnasol, wedi ystyried bob tro yr argymhelliad, ysgrifenedig, a gynhwysir yn adroddiad arfarnu’r unigolyn.

15.10 Lle na ddiwallwyd amcanion yr athro, neu na wnaed camau sylweddol ymlaen tuag at gwrdd â hwy, ni ddyfernir datblygiad cyflog oni bai bod y corff llywodraethu’n fodlon bod perfformiad da parhaus a bod amgylchiadau perthnasol esgusodol yn bodoli.

15.11 Lle y dyfernir datblygiad cyflog o’r fath yn ôl disgresiwn, cofnodir y penderfyniad hwnnw yn yr un modd.

10

Page 11: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

15.12 Dyfernir datblygiad cyflog i athrawon yn eu blwyddyn cynefino ar ôl iddynt gwblhau’r cyfnod cynefino yn llwyddiannus ac fel y penderfyna’r Pwyllgor Cyflog.

16. CEISIADAU I’W TALU AR YR YSTOD CYFLOG UWCH  16.1 Gall athro cymwysedig wneud cais unwaith bob blwyddyn i gael ei dalu ar yr Ystod Cyflog Uwch yn unol â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol a’r polisi cyflog hwn.

16.2 Cyfrifoldeb pob athro yw penderfynu a ddylid cyflwyno cais.

16.3 Er mwyn bod yr asesiad yn gadarn ac yn dryloyw, proses fydd hi ar sail tystiolaeth.

16.4 Pennir amcanion personol y cylch arfarnu sydd ar ddod ar lefel ddigonol i sicrhau y gellir cwrdd â’r meini prawf sy’n gynwysedig yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol i ddatblygu i’r Ystod Cyflog Uwch, gan gynnwys bod yr athro yn dra chymwys yn mob un o elfennau’r safonau perthnasol.

16.5 Gall athrawon a fu’n absennol o’r gwaith oherwydd salwch, anabledd neu resymau mamolaeth, ynghyd â’r sawl nad ydynt yn destun Rheoliadau Gwerthuso 2011 (h.y. athro a gyflogwyd ar gontract byrdymor o lai nag un tymor) ddyfynnu tystiolaeth ysgrifenedig o gyfnod addas a perthnasol cyn dyddiad y cais i gefnogi eu cais.

16.6 Os bydd athro yn gyflogedig yn un neu fwy o ysgolion eraill yr un pryd, gall gyflwyno ceisiadau ar wahân os bydd am wneud cais i gael ei dalu ar yr Ystod Cyflog Uwch yn yr ysgolion hynny. Ni fydd penderfyniad ar gyflog y gwnaeth ysgol arall yn ymrwymo’r ysgol hon.

Proses:

16.7 Y dyddiad cau i athro gyflwyno cais i’r arfarnwr yw (yr ysgol sydd i roi’r dyddiad yn y fan hon – fel arfer, cyn diwedd Tymor yr Haf)

16.8 Gellir gwneud eithriadau mewn rhai amgylchiadau penodol, e.e. athrawon sydd ar wyliau mamolaeth neu ar wyliau salwch ar y dyddiad cau i geisiadau ddod i law. Yn y fath amgylchiadau, gall yr athro wneud cais – o leiaf bythefnos cyn y dyddiad cau penodedig – am estyniad o hanner tymor fan bellaf i gyflwyno cais.

16.9 Mae proses y ceisiadau fel a ganlyn:

11

Page 12: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

• Mae’r athro yn hysbysu’r arfarnwr yn ysgrifenedig o fewn yr amser sy’n ofynnol (gweler baragraffau 16.7 a 16.8 uchod) ei fod am gael ei ystyried am ddatblygiad i’r Ystod Cyflog Uwch ac y dylai ei amcanion personol am y cyfnod arfarnu o ddwy flynedd sydd ar ddod adlewyrchu’r cais hwnnw.

Yn sgîl cwblhau’r cyfnod arfarnu perthnasol:

• Bydd yr arfarnwr yn cwblhau ffurflen asesiad fel y dangosir yn Atodiad 5, gan amlinellu argymhellion yr arfarnwr o ran datblygiad i’r Ystod Cyflog Uwch, yn dilyn cwblhau dau gylch arfarnu perthnasol

• Bydd y pennaeth yn asesu argymhellion yr arfarnwr ac yn gwneud argymhelliad i’r Pwyllgor Cyflog

• Bydd y Pwyllgor Cyflog yn gwneud penderfyniad am ddatblygiad cyflog ar ôl i gyngor y pennaeth ddod i law

• Bydd yr athro yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig am ganlyniad y cais erbyn 31 Hydref yn y flwyddyn berthnasol

• Lle bo’r cais yn aflwyddiannus, bydd yr hysbysiad ysgrifenedig yn amlinellu manylion am agweddau o berfformiad yr athro nad ystyrir iddynt fod wedi cwrdd â’r meini prawf perthnasol yr amlinellir yn y polisi hwn (gweler “Asesiad” isod)

• Os gofynnir am hynny, rhoddir adborth llafar gan y pennaeth. Fel arfer, rhoddir adborth llafar cyn pen deng diwrnod gwaith i ddyddiad yr hysbysiad am ganlyniad y cais. Rhoddir adborth mewn modd cadarnhaol a fydd yn cynnwys cymorth a chyngor am feysydd i’w gwella er mwyn i’r athro gwrdd â’r meini prawf perthnasol.

• Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn symud i gam 1 yr Ystod Cyflog Uwch ar 1 Medi yn y flwyddyn academaidd sy’n dilyn cefnogaeth i’w cais.

• Gall ymgeiswyr aflwyddiannus apelio yn erbyn y penderfyniad fel y nodir yn Atodiad 3.

Asesiad:

16.10 Ni fydd cais yn llwyddiannus oni bai bod y corff llywodraethu yn fodlon bod gofynion y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol wedi’u diwallu, gan gynnwys:

• bod yr athro yn dra chymwys ym mhob agwedd ar y safonau perthnasol; a • bod cyflawniadau’r athro a’i gyfraniad tuag at y cynefin addysgol yn sylweddol

a pharhaus.

16.11 At ddibenion y polisi cyflog hwn, bydd y Pwyllgor Cyflog yn fodlon bod yr athro wedi cwrdd â digwyliadau’r corff llywodraethu o ran datblygiad i’r Ystod

12

Page 13: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Cyflog Uwch lle y bu bodloni ar feini prawf (gweler Atodiad 6) yr Ystod Cyflog Uwch fel y tystiolaethwyd i hynny ar ffurf dau adolygiad llwyddiannus.

16.12 Mae polisi rheoli perfformiad yr ysgol yn rhoi mwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion am ffynonellau tystiolaeth.

17. DATBLYGIAD O FEWN YR YSTOD CYFLOG UWCH

17.1 Bydd symud o fewn yr Ystod Cyflog Uwch yn unol â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

Penderfyniadau ar gyflog sy’n dod i rym yn flynyddol ar 1 Medi

17.2 Bydd y Pwyllgor Cyflog yn penderfynu a ddylai athro symud o fewn yr Ystod Cyflog Uwch.

17.3 Wrth wneud y fath benderfyniad, bydd yn ystyried tystiolaeth sy’n dangos:

• bod yr athro wedi cwrdd, neu ei fod wedi gwneud camau sylweddol ymlaen tuag at gwrdd, â’i amcanion yn y ddau adolygiad arfarnu mwyaf diweddar

• bod yr athro wedi cynnal meini prawf yr asesiad i’r Ystod Cyflog Uwch (gweler adran 16 - “asesiad” ac Atodiad 6)

• bod yr athro’n dal i fod yn dra chymwys ym mhob agwedd ar y safonau perthnasol

• ei bod yn eglur bod datblygiad i’r Ystod Cyflog Uwch yn briodoladwy i berfformiad yr athro unigol.

17.4 Bydd y Pwyllgor Cyflog yn cyfiawnhau ei benderfyniadau mewn modd gwrthrychol. Bydd y pennaeth yn rhoi cyngor i’r Pwyllgor Cyflog wrth wneud pob penderfyniad o’r fath.

17.5 Amlinellir mwy o wybodaeth ym mholisi rheoli perfformiad yr ysgol.

18. SWYDDOGAETH YMARFERYDD ARWAIN

18.1 Gall y corff llywodraethu sefydlu swyddi Ymarferwyr Arwain ar gyfer athrawon sydd â’r prif ddiben o fodelu ac arwain gwelliannau mewn sgiliau addysgu.

13

Page 14: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

18.2 Lle bo’r corff llywodraethu yn dymuno sefydlu’r fath swyddi, bydd yn pennu cyfrifoldebau ac ystod cyflog y swyddi hynny. Bydd ymgynghori â’r undebau llafur a’r staff perthnasol am unrhyw newidiadau arfaethedig i’r strwythur staffio.

18.3 Polisi’r corff llywodraethu fydd penodi unrhyw athro newydd sy’n Ymarferydd Arwain i ystod ag iddi bum pwynt, fel y bydd y corff llywodraethu yn ei ystyried yn briodol.

18.4 Bydd ystod cyflog Ymarferwyr Arwain yn unol â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, sef isafswm o £38,598 y flwyddyn ac uchafswm o £58,677 y flwyddyn ar hyn o bryd.

19. ATHRAWON HEB GYMHWYSO

19.1 Telir cyflog blynyddol i athro sydd ar yr ystod cyflog heb gymhwyso rhwng £16,298 a £25,776 y flwyddyn

19.2 Yn yr ysgol hon bydd gan y corff llywodraethu ddisgresiwn i ddyfarnu cyflog ar y pwyntiau isod

Cam Gwerth

14

Page 15: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

1 £16,298

2 £18,194

3 £20,088

4 £21,984

5 £23,881

6 £25,776

15

Page 16: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

19.3 O dan Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010, mae amgylchiadau penodol lle y gall rhai ar wahân i athrawon heb gymhwyso sydd wedi’u cofrestru gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru wneud ‘gwaith penodedig’.

19.4 Bydd yr ysgol yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol hyn ac ni fydd yn cyflogi athrawon heb gymhwyso ond fel y nodir yn y Rheoliadau hyn.

19.5 Gallai’r corff llywodraethu dalu lwfans ychwanegol i athro heb gymhwyso sy’n cwrdd â’r meini prawf y’u diffinnir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

19.6 Er mwyn symud i fyny’r ystod cyflog, bydd angen i athrawon heb gymhwyso ddangos eu bod wedi cwrdd, neu eu bod wedi gwneud camau sylweddol ymlaen tuag at gwrdd, â’u hamcanion ynghyd â’r gwelliant anghenrheidiol yn eu sgiliau addysgu.

19.7 Bydd y pennaeth yn rhoi cyngor i’r Pwyllgor Cyflog wrth wneud pob penderfyniad o’r fath ar gyflogau.

19.8 Bydd yn eglur bod datblygiad cyflog ar yr ystod i athrawon heb gymhwyso yn briodoladwy i berfformiad yr athro unigol. Bydd y Cyngor Cyflog yn cyfiawnhau ei benderfyniadau mewn modd gwrthrychol.

19.9 Telir athro heb gymhwyso a fydd yn ennill statws athro cymwys ar y brif ystod cyflog i athrawon yn unol â’r polisi cyflog hwn.

20. TALIADAU A LWFANSAU YN ÔL DISGRESIWN

TALIADAU CYFRIFOLDEBAU ADDYSGU A DYSGU (CAD)

20.1 Bydd y corff llywodraethu yn dyfarnu taliadau CAD 1 a CAD 2 i ddeiliaid swyddi fel y nodir yn y strwythur staffio atodedig (gweler Atodiad 9).

20.2 Dyfernir y taliadau hyn i athrawon sy’n ymgymryd â chyfrifoldeb ychwanegol sydd wedi’i ddiffinio’n eglur ac sy’n barhaus yng nghyd-destun strwythur staffio’r ysgol er diben sicrhau darparu addysg a dysg o ansawdd uchel yn barhaol a bod yr athro yn gwneud hynny mewn modd atebol.

20.3 Adolygir pob disgrifiad swydd yn rheolaidd a byddant yn dangos yn eglur y cyfrifoldeb neu’r pecyn cyfrifoldebau y dyfernir y CAD ar eu cyfer.

16

Page 17: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

20.4 Bydd meini prawf dyfarnu taliad CAD 1 a CAD 2 yn unol â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

20.5 Isafswm ac uchafswm ystod CAD1 yw £7,546 i £12,770.

20.6 Isafswm ac uchafswm ystod CAD2 yw £2,613 i £6,386.

20.7 Yn yr ysgol hon, mae gwerth y taliadau CAD y defnyddir ar hyn o bryd fel a ganlyn:

CAD 1 - (dylai’r ysgol roi manylion pob un o’r taliadau CAD 1 yn y fan hon)CAD 2 - (dylai’r ysgol roi manylion pob un o’r taliadau CAD 2 yn y fan hon)

20.8 Gallai’r corff llywodraethu ddyfarnu taliad CAD 3 rhwng £517 a £2,577 y flwyddyn am gyfnod penodol i athro am brosiect ag iddo gyfyngiad amser eglur i wella’r ysgol neu am gyfrifoldebau un tro sy’n cael eu llywio yn allanol.

20.9 Pennir hyd y cyfnod penodol a maint y taliad blynyddol ar y cychwyn, gan ei dalu yn fisol.

20.10 Lle bo’r corff llywodraethu yn dymuno gwneud taliadau CAD 3, amlinellir y cyfrifoldebau arfaethedig, lefel y taliad a hyd y taliad yn glir yn sgîl ymgynghori â chynrychiolwyr perthnasol y staff a’r undebau.

20.11 Gall athro sy’n derbyn naill ai CAD 1 neu CAD 2 hefyd gael CAD 3 yr un pryd.

20.12 Ni fydd diogelu yn berthnasol i ddyfarniad CAD 3.

20.13 Bydd taliad CAD 1 neu 2 y dyfernir i athro rhan amser ar sail pro rata, ond lle y dyfernir taliad CAD 3 i athro rhan amser, ni fydd yr egwyddor pro rata yn berthnasol.

17

Page 18: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

LWFANSAU ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

20.14 Bydd y corff llywodraethu yn dyfarnu lwfansau anghenion addysgol arbennig yn unol â’r meini prawf a’r darpariaethau yr amlinellir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

20.15 Bydd lwfans anghenion addysgol arbennig o £2,064 y flwyddyn fan leiaf a £4,075 y flwyddyn gan mwyaf yn daladwy i athro ystafell ddosbarth yn unol â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

Yn yr ysgol hon, mae gwerth y lwfansau anghenion addysgol arbennig fel a ganlyn: (dylai’r ysgol roi manylion pob un o’r lwfansau anghenion addysgol arbennig / eu gwerth)

20.16 Wrth benderfynu ar werth yr Anghenion Addysgol Arbennig, bydd y corff llywodraethu yn ystyried strwythur y ddarpariaeth o Anghenion Addysgol Arbennig yn yr ysgol, a oes rhaid wrth gymwysterau gorfodol i wneud y swydd, cymwysterau neu arbenigedd yr athro sy’n berthnasol i’r swydd a gofynion cymharol y swydd.

LWFANSAU GWEITHREDU DROS DRO

20.17 Mae lwfansau gweithredu dros dro yn daladwy i athrawon y rhoddir iddynt ddyletswyddau ac sy’n gwneud dyletswyddau pennaeth, dirprwy bennaeth neu bennaeth cynorthwyol yn unol â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

20.18 Cyn pen cyfnod o bedair wythnos ers i’r dyletswyddau gweithredu dros dro gychwyn, bydd y corff llywodraethu yn penderfynu a delir lwfans neu beidio i’r deiliad swydd dros dro. Lle bo’r absenoldeb wedi’i gynllunio ac yn hir, gellid cytuno ar lwfans gweithredu dros dro ymlaen llaw ac iddo gael ei dalu o ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb.

20.19 Telir unrhyw athro sy’n gwneud dyletswyddau pennaeth, dirprwy bennaeth neu bennaeth cynorthwyol am gyfnod o bedair wythnos neu fwy ar bwynt priodol ar ystod cyflog penaethiaid, dirprwy benaethiaid neu benaethiaid cynorthwyol fel y penderfyna’r Pwyllgor Cyflog. Ôl-ddyddir y taliad i’r adeg pan ddechreuodd y dyletswyddau, ond fel arfer fe’i telir ar ffurf ôl-daliadau fis yn hwyr.

20.20 Gallai lwfansau gweithredu dros dro hefyd fod yn berthnasol i athrawon sy’n gwneud gwaith cydweithwyr absennol sy’n cael taliad CAD a/neu lwfans anghenion addysgol arbennig.

TALIADAU YCHWANEGOL

18

Page 19: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

20.21 Ac eithrio’r sawl sydd ar yr ystod arwain, gallai’r corff llywodraethu wneud taliadau ychwanegol i athro am :

• ddatblygiad proffesiynol parhaus y gwneir y tu allan i’r diwrnod ysgol• gweithgareddau sy’n ymwneud â darparu hyfforddiant cychwynnol i athrawon

fel rhan o waith arferol rhedeg yr ysgol• cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu y tu allan i oriau’r ysgol y cytunwyd

arnynt rhwng yr athro a’r pennaeth• cyfrifoldebau ychwanegol a gweithgareddau oherwydd, neu mewn perthynas

â, darparu gwasanaethau gan yr athro sy’n ymwneud â chynyddu safonau addysgol yn un neu fwy o ysgolion ychwanegol.

CYMELLDALIADAU RECRIWTIO NEU GADW

20.22 Gall y corff llywodraethu ddyfarnu cyfandaliadau, taliadau cyfnodol neu roi manteision, cefnogaeth neu gymorth ariannol arall ar gyfer menter recriwtio neu gadw. Wrth benderfynu ar y fath ddyfarniadau, bydd y corff llywodraethu yn rhoi sylw i’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol a chyngor arbenigol Adnoddau Dynol.

20.23 Ni ellir dyfarnu’r fath daliad i benaethiaid, dirprwy benaethiaid na phenaethiaid cynorthwyol ar wahân i ad-daliad am gostau tai neu adleoli rhesymol.

20.24 Rhoddir ystyriaeth i bob agwedd arall ar recriwtio a chadw mewn perthynas â swydd arwain wrth bennu ystod cyflog swydd arwain.

20.25 Eglurir yn ysgrifenedig ar y cychwyn y rheswm dros ddyfarnu taliad ychwanegol, hyd disgwyliedig unrhyw fantais neu gymhelliant o’r fath a’r dyddiad adolygu pryd y gellid eu tynnu’n ôl .

20.26 Bydd y corff llywodraethu yn cynnal adolygiad blynyddol o bob dyfarniad o’r fath.

21. ATHRAWON RHAN AMSER

21.1 Ystyrir bod athrawon a gyflogir yn barhaus yn yr ysgol, ond sy’n gweithio llai nag wythnos waith lawn yn rhai rhan amser.

21.2 Rhoddir datganiad ysgrifenedig i athrawon rhan amser sy’n manylu eu rhwymedigaethau o ran amser gwaith a’r mecanwaith safonol y defnyddir i bennu eu cyflog, yn amodol ar ddarpariaethau’r trefniadau cyflog statudol ac amser

19

Page 20: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

gwaith a, thrwy gymhariaeth, ag wythnos amserlen ddysgu’r ysgol i athro llawn amser mewn swydd gyfatebol. Nid yw hyn yn effeithio ar y taliad CAD3 nad yw ar sail pro rata i staff rhan amser. Gweler Atodiad 7 am fwy o wybodaeth.

22. ATHRAWON Y CYFLOGIR AM GYFNOD BYR

22.1 Telir athrawon y cyflogir am un diwrnod ar y tro ar sail oriau a gwneir y cyfrifiad gan gymryd bod blwyddyn waith lawn yn 1265 awr.

Atodiadau:

Atodiad 1 – Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Cyflog – Ar Gyfer Athrawon

Atodiad 2 – Datganiad Adolygu Cyflog Blynyddol Athrawon

Atodiad 3 – Gweithdrefnau Apêl Cyflogau

Atodiad 4 – Cyflogau Grwpiau Arwain, Canllawiau a’r Datganiad Cyflog Blynyddol

Atodiad 5 – Ffurflen Gais yr Ystod Cyflog Uwch

Atodiad 6 – Meini Prawf Datblygiad yr Ystod Cyflog Uwch

Atodiad 7 – Trefniadau Cyflog ac Amser Athrawon Rhan Amser

Atodiad 8 – Siart Lif y Broses Adolygu Cyflog

Atodiad 9 – Strwythur Staffio’r Ysgol

Atodiad 1

CYLCH GORCHWYL Y PWYLLGOR CYFLOG

Diben

20

Page 21: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Sefydlwyd y Pwyllgor hwn i adolygu cyflog pob athro, gwneud penderfyniadau ar gyflogau, dyfarnu cyflog fel bo’n briodol a sicrhau y rhoddir gwybod i bob athro am

y canlyniad yn unol â hynny

Aelodaeth

Y corff llywodraethu sy’n cytuno ar nifer yr aelodau, ond mae’n arfer da bod tri aelod o’r corff llywodraethu .

Gall y pennaeth fod yn bresennol mewn rhinwedd gynghorol 1

Pobl anghymwys

Aelodau staff yr ysgolLlywodraethwyr disgyblion cyswllt

Cyfyngiadau ar bobl sy’n cymryd rhan yn y trafodion

Unrhyw lywodraethwr lle y gall fod gwrthdaro buddiannau fel y’i diffinnir yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

Cadeirydd

Fe’i penodir gan y corff llywodraethu neu caiff ei ethol gan y Pwyllgor – y broses i’w phenderfynu gan y corff llywodraethu.

Clerc

1 Bydd y pennaeth yn gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Cyflog ar wahân i’w gyflog ei hun. Dylai’r pennaeth adael y cyfarfod cyn i’r Pwyllgor Cyflog drafod neu wneud penderfyniad ar ei gyflog ef/ei chyflog hi.

21

Page 22: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Gall y corff llywodraethu benodi clerc i’r Pwyllgor Cyflog. Gall fod yr un person ag sy’n gweithredu fel clerc i’r corff llywodraethu neu’n berson gwahanol.

Fel arfer, bydd clerc y Pwyllgor Apêl Cyflogau yn berson gwahanol i glerc y Pwyllgor Cyflog.

Pwerau Dirprwyedig

Rhoddodd y corff llywodraethu bwerau dirprwyedig llawn i’r Pwyllgor Cyflog hwn am benderfyniadau ar gyflogau.

Cyfarfodydd

Bydd y Pwyllgor Cyflog yn cyfarfod fel bo rhaid.

Cymerir cofnodion o bob un o’r cyfarfodydd ac fe’u cedwir gan y clerc neu’r person sy’n gweithredu fel clerc.

Cedwir unrhyw gofnodion sy’n ymwneud â’r Pwyllgor Cyflog yn gyfrinachol gan eu storio’n ddiogel yn unol â deddfwriaeth diogelu data ac arferion da cydnabyddedig.

Adroddir yr argymhellion a gyflwynir i’r Pwyllgor Cyflog ynghyd â’r penderfyniadau a wnaed ganddo wrth y corff llywodraethu llawn, fel arfer yn sgîl cwblhau pob un o’r apeliadau cyflog.

Cylch Gorchwyl

• Monitro ac adolygu polisi cyflog yr ysgol, gan sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth cydraddoldeb a gwahaniaethu ynghyd ag egwyddorion bywyd cyhoeddus, sef gwrthrychedd, bod yn agored ac atebolrwydd, a gwneud argymhellion perthnasol i’r corff llywodraethu i’w hystyried a’u cymeradwyo;

22

Page 23: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

• Gweithredu meini prawf y polisi talu wrth benderfynu ar gyflog pob aelod o’r staff addysgu yn yr adolygiad blynyddol;

• Adolygu’n flynyddol gyflog pob aelod o’r staff addysgu a phenderfynu ar unrhyw ddyfarniadau cyflog, fel bo’n briodol, a sicrhau y rhoddir gwybod i bob aelod o’r staff am y canlyniad drwy gyfrwng y pennaeth;

• Cofnodi’n eglur y rhesymau am bob penderfyniad ac adrodd y penderfyniadau hyn wrth gyfarfod nesaf y corff llywodraethu llawn fel eitem gyfrinachol i’w derbyn;

• Gwneud argymhelliad i’r corff llywodraethu ar y gyllideb flynyddol y bydd ei hangen ar gyfer cyflogau, gan gymryd i ystyriaeth yr angen i sicrhau bod cyllid priodol ar gael i gefnogi pob penderfyniad ar gyflog;

• Sicrhau y paratoir ac y cyflwynir i’r corff llywodraethu er ystyriaeth adroddiad blynyddol am weithrediad y polisi cyflog, crynodeb o’r penderfyniadau a wnaed ar gyflogau ac asesiad o effaith y penderfyniadau hynny ar gydraddoldeb;

23

Page 24: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

• Ceisio cyngor proffesiynol gan yr Awdurdod Lleol, yr Awdurdod Esgobaethol neu eraill, fel bo angen;

• Trefnu i aelodau’r pwyllgor fynychu hyfforddiant perthnasol, fel bo’n briodol.

24

Page 25: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Atodiad 2DATGANIAD ADOLYGU CYFLOG BLYNYDDOL ATHRAWON

Enw       Rhif Staff      

Ysgol       DyddiadDod i Rym

     

MANYLION Y CYFLOG

CYFLOG A CHAM – PRIF YSTOD CYFLOG (C1 - C6)£      cam      

25

Page 26: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

CYFLOG A CHAM – YSTOD CYFLOG UWCH (C1 - C3) £      cam      

CYFLOG A CHAM – YSTOD HEB GYMHWYSO (C1 – C6) £      cam      

CYFLOG AR YSTOD YMARFERWYR ARWAIN£

LWFANSAU

Manylion e.e dros dro (gyda’r dyddiadau cymwys), rheswm am y lwfans

TALIADAU CYFRIFOLDEB ADDYSGU A DYSGU(gweler Cyngor y Polisi Cyflog)

CAD1/CAD2/CAD3

CAD________£      

26

Page 27: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

RECRIWTIO NEU GADW(gweler Cyngor y Polisi Cyflog)

GWERTH £      

LWFANS ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

Lwfans

Gwerth

£      

LWFANSAU ERAILL Rhodder manylion

DIOGELU £      

CYFANSWM CYFLOG £      

Cyfarfod y Pwyllgor Cyflog ar ………………………………..Llofnod y Pennaeth/Cadeirydd y Pwyllgor ……………………………………Dyddiad …………………

Atodiad 3GWEITHDREFNAU APÊL CYFLOGAU

27

Page 28: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Mae’r corff llywodraethu yn ymrwymo i sicrhau yr ymdrinnir ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau ar gyflog yn gyflym, yn deg ac yn gyson â deddfwriaeth cydraddoldeb a deddfwriaerth berthnasol arall yn ogystal â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

Gall athrawon, gan gynnwys penaethiaid, apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad am eu cyflog neu unrhyw benderfyniad arall gan y corff llywodraethu (neu bwyllgor neu unigolyn sy’n gweithredu ag awdurdod dirprwyedig) sy’n effeithio ar eu cyflog.

Gall y rhesymau am apelio gynnwys y canlynol, er nad yw’n rhestr gyflawn.

Bod y person neu’r Pwyllgor a wnaeth y penderfyniad:a) wedi gweithredu darpariaeth y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol yn

anghywirb) wedi methu â rhoi sylw cywir i’r canllawiau statudolc) wedi methu â rhoi ystyriaeth gywir i’r dystiolaeth berthnasold) wedi cymryd tystiolaeth amherthnasol neu anghywir i ystyriaethe) wedi methu â bod yn ddiduedd f) neu wedi gwahaniaethu mewn modd anghyfreithlon arall yn erbyn yr athro.

Yn achos y gwrandawiad sylwadau a’r gwrandawiad apêl, mae hawl gan yr athro ddod yng nghwmni cydweithiwr neu gynrychiolydd yr undeb llafur.

Cam 1 – Gwrandawiad Sylwadau1. Mae’r athro yn cael hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad ar ei gyflog

ynghyd, lle bo’n berthnasol, â manylion am y modd y gwnaed y penderfyniad. Bydd y llywodraethwyr yn sicrhau bod yr athro yn ymwybodol o’r broses o wneud sylwadau ac apelio yn erbyn y penderfyniad, os yn briodol.

2. Bydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn erbyn y penderfyniad, os yn briodol.

3. Os bydd yr athro yn dymuno gwneud sylwadau, dylai wneud hynny’n ysgrifenedig i Glerc y Llywodraethwyr neu Gadeirydd y Pwyllgor Cyflog neu i berson dynodedig arall (fel y penderfyna’r corff llywodraethu) cyn pen deng diwrnod gwaith ysgol i dderbyn y penderfyniad.

4. Bydd y Pwyllgor Cyflog yn trefnu gwrandawiad sylwadau. Efallai y bydd yn rhaid i’r pennaeth fynychu’r gwarndawiad i egluro’r sail dros wneud yr argymhelliad cyflog.

5. Bydd y Pwyllgor Cyflog yn penderfynu a ddylid diwygio’r penderfyniad cyflog gwreiddiol a bydd yn ysgrifennu at yr athro am y canlyniad

6. Lle bo’r athro yn dal i fod yn anfodlon, gall apelio yn erbyn y penderfyniad hwn drwy fwrw ati i weithredu ail gam y broses.

28

Page 29: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Cam 2 – Gwrandawiad Apêl

1. Dylai’r athro amlinellu’n eglur yn ysgrifenedig y sail dros apelio yn erbyn y penderfyniad ar gyflog gan anfon hynny at Glerc y Llywodraethwyr neu Gadeirydd y Pwyllgor Apêl Cyflogau neu’r pennaeth neu berson dynodedig arall (fel y penderfyna’r corff llywodraethu) cyn pen deng diwrnod gwaith ysgol i dderbyn canlyniad penderfyniad cam 1 (gweler uchod)

2. Bydd Clerc y Llywodraethwyr yn trefnu cynnal gwrandawiad apêl cyn gynted ag y bo modd, ond fel arfer cyn pen ugain diwrnod gwaith ysgol i dderbyn hysbysiad ysgrifenedig yr apêl. Mae’r cyfnod hwn o ugain diwrnod gwaith ysgol yn cynnwys rhoi rhybudd am y gwrandawiad o ddeng diwrnod gwaith ysgol i’r unigolyn o dan sylw.

3. Dylai’r apêl gael ei glywed gan y Pwyllgor Apêl ar ffurf o leiaf dri llywodraethwr cymwys nad oedd ganddynt ddim byd i’w wneud â’r penderfyniad gwreiddiol neu lle bo’r Pwyllgor Cyflog gwreiddiol ar ffurf mwy na thri aelod, dylai’r nifer fod o leiaf yr un nifer â’r Pwyllgor Cyflog.

Mae’r sawl y mae gofyn iddynt fynychu’r apêl yn cynnwys:

o Y Cadeirydd ac aelodau eraill y Pwyllgor Apêlo Yr athro a’i gynrychiolydd neu gydweithiwr (os oes rhywun yng

nghwmni’r athro)o Tystion ar gyfer ochr y gweithiwr (os yn briodol) o Aelod o’r Pwyllgor Cyflog gwreiddiol a fydd yn egluro’r rhesymau am y

penderfyniad gwreiddiolo Tystion ar gyfer ochr y rheolwyr (os yn briodol)o Clerc y gwrandawiad

29

Page 30: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

o Cynghorydd Adnoddau Dynol i roi cyngor i’r Pwyllgor Apêl (os gofynnir iddo fod yn bresennol)

Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd apêl ffurfiol

Mae’r Cadeirydd yn cyflwyno pawb a’u swyddogaeth yn y trafodion.

• Bydd yr athro yn cyflwyno’i achos, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth i’w hystyried ac unrhyw dystion y cafodd eu galw gan yr athro

• Mae’r Cadeirydd a/neu aelodau’r Pwyllgor Apêl yn holi cwestiynau• Bydd cynrychiolydd y Pwyllgor Cyflog yn datgan eu hachos, gan gynnwys y

dystiolaeth y seiliwyd y penderfyniad arni ac yn galw unrhyw dystion i gefnogi’r achos, os yn briodol.

• Mae’r Cadeirydd a/neu aelodau’r Pwyllgor Apêl yn holi cwestiynau i’r rheolwyr • Gall y ddwy ochr wneud datganiad cloi os byddant yn dymuno (ochr y rheolwyr

yn gyntaf a’r athro neu’r cynrychiolydd wedi hynny). Ni ellir cyflwyno dim tystiolaeth newydd yr adeg honno.

Mae’r ddwy ochr yn gadael y gwrandawiad.

• Gallai’r Pwyllgor Apêl ofyn am gyngor gan y Cynghorydd Adnoddau Dynol. Unwaith y bydd hwnnw wedi’i roi, bydd y Cynghorydd Adnoddau Dynol yn gadael y gwrandawiad, ond gellid ailalw arno am fwy o gyngor

• Bydd y Pwyllgor Apêl yn ystyried yr holl dystiolaeth ac yn cyrraedd penderfyniad terfynol.

• Bydd y Pwyllgor Apêl yn galw’r ddwy ochr yn ôl i roi gwybod i’r athro am y penderfyniad (os bydd yn disgwyl y penderfyniad) neu roi cyfarwyddiadau i’r Clerc ysgrifennu at yr athro ar eu rhan i roi’r penderfyniad a’r rhesymau drosto.

• Bydd y Clerc yn hysbysu’r awdurdod lleol am newid yn y cyflog, os yn briodol• Mae penderfyniad y Pwyllgor Apêl yn derfynol ac yn cwblhau’r prosesau

mewnol.

Atodiad 4

CYFLOGAU GRWPIAU ARWAIN, CANLLAWIAU A’R DATGANIAD ADOLYGU CYFLOG BLYNYDDOL

30

Page 31: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Pennaeth a’r Tîm Arwain

1) Tra na chyhoeddir graddfa gyflog genedlaethol mwyach ar gyfer swyddi arwain o fewn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, mae’r cyflogwyr cenedlaethol ynghyd â’r undebau llafur cydnabyddedig wedi cyhoeddi cyfraddau cyflog dangosol ar sail ystod cyflog arwain sydd ar ffurf 43 cam a gellid talu penaethiaid, dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol ar yr ystod honno, fel y penderfyna’r corff llywodraethu. Rhoddir amlinelliad isod.

2) Grwpiau Ysgol

Mae yna wyth grŵp ysgol sydd wedi’u penderfynu ar sail sgôr unedau’r ysgol. Mae’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol yn nodi uchafswm ac isafswm gwerth cyflogau pob grŵp ac mae’r cyfraddau cyflog dangosol y cyhoedda’r cyflogwyr a’r undebau llafur ar y cyd yn gosod gwerth ar bwyntiau cyflog unigol o fewn yr ystod.

Sefydlodd y corff llywodraethu ystod cyflog saith pwynt ar gyfer y pennaeth ac ystod pum pwynt ar gyfer pob swydd arwain arall.

3) Sgôr Unedau’r Ysgol

Cyfrifir y sgôr unedau i bennu grŵp yr ysgol, gan ddefnyddio fformiwla’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol. Yn yr Awdurdod hwn*, bydd yr Awdurdod Lleol yn ailgyfrifo’r sgôr unedau yn flynyddol a gweithredir y canlyniadau ar 1 Ionawr bob blwyddyn. Os bydd sail resymol gan ysgol dros ddisgwyl newid yn nifer y disgyblion, dylent wneud cais yr adeg honno i’r Awdurdod wneud ailgyfrifiad.

* Dileer fel bo’n briodol

Gwybodaeth am y modd o gyfrifo’r sgôr unedau:

31

Page 32: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Nifer y disgyblion sy’n penderfynu hyn fel y dengys y ffurflen STATS 1 ddiweddaraf (y cyfrifiad ysgolion blynyddol) ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Ar gyfer pob disgybl yn y cyfnod sylfaen / CA1/CA2 7 unedAr gyfer pob disgybl yn yr ysgol yn CA3 9 unedAr gyfer pob disgybl yn yr ysgol yn CA4 11 unedAr gyfer pob disgybl yn yr ysgol yn CA5 13 uned

Bydd pob disgybl sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig ac sydd mewn dosbarth arbennig, lle bo dim ond disgyblion o’r fath neu ddisgyblion o’r fath yn bennaf, yn cyfrif tair uned yn fwy nag y byddai’n ei wneud fel arall. Os na fydd mewn dosbarth arbennig o’r fath, cyfrifwch dair uned o’r fath yn unig lle bo’r corff perthnasol yn penderfynu hynny.

Bydd pob disgybl sy’n bresennol am hanner diwrnod ar y mwyaf bob dydd y bydd yn mynychu’r ysgol yn cyfrif hanner cymaint o unedau ag y byddai’n ei gyfrif fel arall.

Cyfanswm y sgôr unedau Grŵp Ysgol

32

Page 33: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Hyd at 1,000 1

1,001 i 2,200 2

2,201 i 3,500 3

3,501 i 5,000 4

5,001 i 7,500 5

7,501 i 11,000 6

11,001 i 17,000 7

33

Page 34: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

17,001 a throsodd 8

4) Penodiadau Arwain Newydd / Newidiadau i strwythurau cyflog arwain presennol – Proses Tri Cham

Dylai’r corff llywodraethu ddilyn y broses tri cham wrth bennu cyflog penodiadau newydd neu adolygu strwythurau cyflog presennol penaethiaid neu’r tîm arwain ehangach.

Cam 1 – Diffinio’r swyddogaeth a phenderfynu ar y grŵp penaethiaidCam 2 – Pennu’r ystod cyflog ddangosol Cam 3 – Penderfynu ar y cyflog cychwynnol a’r ystod cyflog unigol

Dylid dogfennu pob penderfyniad a’r rhesymau amdanynt yn dda ym mhob cam. Rhaid gwneud pob penderfyniad ar gyflogau ar sail meini prawf gwrthrychol fel na wahaniaethir yn erbyn unrhyw grŵp athrawon sydd â nodwedd warchodedig benodol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Awgrymir bod ysgolion yn ceisio cyngor wrth gyfrifo a chofnodi penderfyniadau ar strwythur cyflogau arwain.

Cam 1 - Diffinio’r Swyddogaeth a Phenderfynu ar y Grŵp Penaethiaid

Yn y cam hwn, dylai’r corff llywodraethu ddiffinio’r swydd a chlustnodi’r ystod cyflog fras fel arweiniad dros dro i benderfynu ar lefel briodol y cyflog. Bydd angen i’r corff llywodraethu ddiffinio ac amlinellu swyddogaeth benodol, cyfrifoldebau ac atebolrwydd y swydd yn ogystal â’r sgiliau a’r cymwyseddau perthnasol y mae eu hangen.

34

Page 35: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Yn achos swyddi penaethiaid, bydd y corff llywodraethu yn neilltuo ysgol i grŵp penaethiaid (fel y diffinnir yn 3 uchod) a fydd yn penderfynu ar yr ystod cyflog fras briodol, fel yr amlinellir isod:

Maint y Grŵp Ystod y camau Ystod Cyflog (DCAAY 2014)

1 L6 – L 18 £43,665 – £58,096

2 L 8 – L 21 £45,876 – £62,521

3 L 11 – L 24 £49,481 – £67,290

4 L 14 – L 27 £53,180 – £72,419

5 L 18 – L 31 £58,677 – £79,872

35

Page 36: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

6 L 21 – L 35 £63,1474 – £88,102

7 L 24 – L39 £67,963 – £97,128

8 L 28 – L 43 £74,958 – £107,210

Ar gyfer swyddi eraill y grŵp arwain, dylai’r corff llywodraethu ystyried y modd y mae’r swyddogaeth yn cydweddu â strwythur arwain ehangach yr ysgol. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylai ystod cyflog dirprwy bennaeth neu bennaeth cynorthwyol gorymylu ar ystod cyflog pennaeth.

Cam 2 - Pennu’r ystod cyflog ddangosol

Yn y cam hwn, bydd angen i’r corff llywodraethu ystyried cymhlethdod a her y swyddogaeth yng nghyd-destun penodol yr ysgol a rhoi eu barn am y cyflog ar sail hynny.

36

Page 37: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Yn achos swyddi penaethiaid, fel arfer disgwylir y bydd y corff llywodraethu yn dod i’r casgliad bod cyfanswm y sgôr unedau yn llawn adlewyrchu cymhlethdod swyddogaeth y pennaeth a bod yr ystod cyflog fras berthnasol yn rhoi lefelau tâl priodol. Bydd angen i’r corff llywodraethu ystyried a ddylai’r ystod cyflog ddangosol ddechrau ar isafswm y grŵp penaethiaid neu a ydynt yn dymuno iddi ddechrau ar lefel uwch oherwydd yr her sydd i’r swydd.

Serch hynny, gallai fod amgylchiadau lle bo ffactorau ychwanegol sy’n awgrymu y dylai’r ystod cyflog ddangosol fod yn uwch na chyfrifiad sylfaenol Cam 1.

Mae’r canlynol yn rhoi rhai enghreifftiau o’r ffactorau ychwanegol i’w hystyried (nid yw’r rhestr yn gyflawn):

- Y cyd-destun a’r her sy’n deillio o anghenion y disgyblion e.e. os oes lefel uchel o amddifadedd yn y gymuned (yr hawl i brydau ysgol am ddim a/neu Saesneg fel Iaith Ychwanegol) neu fod nifer uchel o blant sy’n derbyn gofal neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a bod hyn yn effeithio ar yr her o wella canlyniadau;

- Cymhlethdod a heriadau i raddau pell e.e atebolrwydd am sawl ysgol neu reoli ar draws sawl safle gwasgaredig sy’n mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn y digwylir gan unrhyw bennaeth ysgol(ion) o faint tebyg ac nad yw eisoes yn cael ei adlewyrchu yn nghyfanswm y sgôr unedau y defnyddiwyd yng Ngham 1;

- Atebolrwydd ychwanegol nad yw’n cael ei adlewyrchu yng Ngham 1, e.e. arwain cynghrair ysgolion addysgu;

37

Page 38: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

- Ffactorau a allai rwystro gallu’r ysgol i ddenu ymgeiswyr arwain profiadol â chanddynt y cymwysterau priodol e.e. lleoliad, cyfrwng iaith, maes pynciau / arbenigedd a/neu lefel cefnogaeth y tîm arwain ehangach.

Gall y corff llywodraethu bennu’r ystod cyflog ddangosol ar uchafswm o hyd at 25% uwchlaw brig ystod berthnasol y grŵp penaethiaid.

Uwchlaw’r terfyn hwnnw, rhaid ceisio cyngor annibynnol allanol, a phetai’r cyngor hwnnw’n awgrymu bod ystod uwch na’r terfyn hwn yn briodol, rhaid gwneud achos busnes ac iddo gael cytundeb y corff llywodraethu llawn.

Dylai’r corff llywodraethu sicrhau nad oes dim cyfrif dwbl yn digwydd e.e. pethau y cymerwyd i ystyriaeth yng Ngham 1, megis cyfrifoldeb am ysgol ychwanegol sy’n cael ei adlewyrchu eisoes yng nghyfanswm y sgôr unedau; neu drwy ddefnyddio dangosyddion gorymylol, megis prydau ysgol am ddim a’r premiwm disgybl.

NI DDYLAI’R corff llywodraethu gynyddu’r cyflog sylfaenol na thalu lwfans ychwanegol am gydweithredu lleol rheolaidd sy’n rhan o swyddogaeth pob pennaeth.

Mae’r broses fwy neu lai’r un fath i swyddogaethau arwain eraill. Bydd y corff llywodraethu yn dymuno ystyried sut y dylid pennu’r swyddogaethau arwain eraill yn unol â’r lefel y pennwyd i’r pennaeth a sicrhau bod cwmpas digonol ar gyfer datblygiad. Hefyd, dylid rhoi ystyriaeth i unrhyw swyddi addysgu sy’n destun lwfansau ychwanegol.

Ar ddiwedd y cam hwn, dylai’r corff llywodraethu benderfynu ble yn yr ystod fras mae gosod yr ystod cyflog ddangosol ac amlinellu hynny’n eglur wrth hysbysebu’r swydd. Dylid rhoi barn gyffredinol ar leoliad ac ehangder yr ystod, gan ganiatáu cwmpas priodol ar gyfer datblygiad dros amser ar sail perfformiad a bod dolen gyswllt eglur rhwng hynny a chanlyniadau a blaenoriaethau gwella’r ysgol.

Dylai fod trywydd archwilio eglur ar gyfer pob penderfyniad y gwneir a’r rhesymeg y tu ôl iddynt.

Hefyd, lle bo modd, disgwylir i’r ysgol ymgymryd â phroses o feincnodi cyflogau cyn pennu ystod cyflog y pennaeth neu swyddi arwain eraill.

38

Page 39: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Yn achos y ffactorau hynny nad oes disgwyl iddynt barhau, megis cyfrifoldeb dros dro am ysgol ychwanegol, dylid eu hadlewyrchu drwy gyfrwng lwfans yn hytrach na chael eu cyfuno â’r ystod cyflog ddangosol.

Cam 3 – Penderfynu ar gyflog cychwynnol ac Ystod Cyflog Unigol penodiadau newydd.

Mae’r ddau gam cyntaf yn rhoi’r modd o bennu’r ystod cyflog briodol. Yn ei hanfod, mae’r trydydd cam yn ymwneud â phenderfynu ar gyflog cychwynnol yr unigolyn y cynigir y swydd iddo.

Yn y cam hwn, bydd ymgeisydd a ffefrir gan y corff llywodraethu i ymgymryd â’r swyddogaeth a byddant yn dymuno pennu’r cyflog cychwynnol yng ngoleuni ffactorau penodol i’r ymgeisydd, megis i ba raddau y mae’r ymgeisydd yn cwrdd â gofynion penodol y swydd.

Bydd yn bwysig sicrhau bod cwmpas ar gyfer datblygiad dros amser ar sail perfformiad.

Rhaid bod trywydd archwilio eglur ar gyfer unrhyw gyngor y rhoddir ynghyd â chofnod llawn a chywir o bob penderfyniad y gwneir a’r rhesymeg y tu ôl iddynt.

5) Pennu Ystod Cyflog uwch na Grŵp Penaethiaid yr Ysgol

Y disgwyl yw y bydd yr ystod cyflog yn y rhan fwyaf o achosion o fewn terfynau’r grŵp penaethiaid. Serch hynny, mewn rhai achosion e.e. lle y gallai fod cryn anhawster gwneud penodiad neu fod angen cymell pennaeth i gymryd cyfrifoldeb am ysgol fawr iawn neu i arwain sawl ysgol fawr, gallai fod yn briodol ystyried ehangu’r ystod cyflog unigol.

39

Page 40: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Gall y corff llywodraethu benderfynu yn y fath achosion y gallai uchafswm yr ystod cyflog fod hyd at 25% ychwanegol uwchlaw uchafswm y grŵp penaethiaid.

Os ystyrir bod amgylchiadau eithriadol sy’n gwarantu estyniad y tu hwnt i’r terfyn hwnnw, byddai achos busnes yn angenrheidiol. Byddai angen i’r corff llywodraethu geisio cyngor annibynnol allanol gan gorff neu berson priodol a all ystyried a oes cyfiawnhad dros fynd yn uwch na’r terfyn mewn achos penodol.

Rhaid bod trywydd archwilio eglur ar gyfer unrhyw gyngor y rhoddir ynghyd â chofnod llawn a chywir o bob penderfyniad y gwneir a’r rhesymeg y tu ôl iddynt.

6) Datblygiad Cyflog ar gyfer pob swydd arwain

40

Page 41: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Cyfrifoldeb y corff llywodraethu yw sicrhau bod dyfarniadau datblygiad ar sail perfformiad yn adlewyrchu perfformiad unigol.

Dylai ysgolion adolygu a diweddaru eu polisïau cyflog yn flynyddol i sicrhau eu bod yn dal i fod yn addas i’r diben. Bydd angen i gyrff llywodraethu ymfodloni bod pennu amcanion yn deg, yn rhesymol ac yn ystyrlon, ond yn gadarn a bod polisi cyflog yr ysgol yn ddolen gyswllt eglur rhwng lefelau cyflawniad a datblygiad.

Mae’r rhyddid gan gyrff llywodraethu ddyfarnu codiadau datblygiad fel y gwelont yn briodol yn eu hamgylchiadau penodol hwy, er na ddylid gwneud dim dyfarniad datblygiad os nad oes cyfiawnhad amdano.

Fel arfer, bydd y corff llywodraethu yn dyfarnu un gynyddran ar gyfer perfformiad parhaus o ansawdd uchel gyferbyn â’r meini prawf penodol neu gall ddyfarnu un neu fwy o gynyddrannau lle y bu perffromiad yn eithriadol ac yn uwch na phob disgwyl.

Taliadau Dros Dro i Athrawon

41

Page 42: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Yn ychwanegol, gallai’r corff llywodraethu ystyried taliad ychwanegol i’r pennaeth am ddyletswyddau neu gyfrifoldebau ychwanegol sy’n amlwg yn rhai dros dro neu ddyletswyddau sy’n ychwanegol at y swydd y pennwyd eu cyflog ar ei chyfer e.e. lle bônt yn darparu gwasanaethau i ysgolion eraill, gan gynnwys lle y penodir y pennaeth yn bennaeth dros dro ar un neu fwy o ysgolion ychwanegol nas cynhwysir fel factor barhaol wrth gyfrifo’u hystod cyflog.

6) Diogelu Cyflogau

Os neilltuir ysgol i grŵp is neu fod y corff llywodraethu yn dewis gostwng yr ystod cyflog arwain, bydd hawl gan yr aelod staff dderbyn swm sydd wedi’i ddiogelu am gyfnod o hyd at dair blynedd, yn amodol ar y Ddogfen Cyflog ac Amodau Ysgolion Uwch.

42

Page 43: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

YSTOD CYFLOG ARWAIN

1 38,598

2 39,564

3 40,552

4 41,562

5 42,597

43

Page 44: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

6 43,665

7 44,841

8 45,876

9 47,021

10 48,228

11 49,481

12 50,620

44

Page 45: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

13 51,886

14 53,180

15 54,503

16 55,951

17 57,237

18 58,677

19 60,131

45

Page 46: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

20 61,623

21 63,147

22 64,715

23 66,318

24 67,963

25 69,652

26 71,375

46

Page 47: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

27 73,144

28 74,958

29 76,814

30 78,726

31 80,671

32 82,676

33 84,731

47

Page 48: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

34 86,825

35 88,984

36 91,187

37 93,454

38 95,766

39 98,100

40 100,548

48

Page 49: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

41 103,060

42 105,642

43 107,210

49

Page 50: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Penaethiaid / dirprwy benaethiaid / penaethiaid cynorthwyol

Ffurflen Adolygiad Blynyddol - Medi 201_

Enw Llawn:

Rhif Staff:

50

Page 51: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Ysgol:

*Pennaeth

Grŵp Ysgol: Ystod Cyflog y Pennaeth:

*dirprwy bennaeth / pennaeth cynorthwyol:

51

Page 52: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Ystod cyflog:

Cyflog a’r pwynt yn Awst 20 £ Pwynt

Sail resymegol y defnyddiwyd i wneud y penderfyniad cyflog :

52

Page 53: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Cyflog Diwygiedig a’r pwynt ym Medi 20

£ Pwynt

53

Page 54: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Ardystiwyd gan Gadeirydd y Llywodraethwyr/Pwyllgor Cyflog:

Ardystiwyd gan y Pennaeth:

Dyddiad:

*Dileer fel bo’n briodol

54

Page 55: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Atodiad 5

Cais yr Athro i Ddatblygu i’r Ystod Cyflog Uwch

I’w Gwblhau gan Arfarnwr yr Athro

Enw’r Athro:

Swydd:

Tystiolaeth o’r ddau arfarniad mwyaf diweddarNodwch pa ddatganiadau arfarnu yr amgaeir:

55

Page 56: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

* Diwallwyd y meini prawf *Ni ddiwallwyd y meini prawf (* dileer fe bo’n briodol)

Os na ddiwallwyd y meini prawf yn llawn, cofnodwch y manylion isod (a pharhewch drosodd, fel bo rhaid) am feysydd perfformiad yr athro nad

ydynt yn bodloni’r meini prawf:

Llofnod: ………………………………………………… (Arfarnwr)

Dyddiad: ……...……………………………………………..(I’w gyflwyno i’r pennaeth)

Er Defnydd yr Ysgol yn Unig

Daeth y ffurflen gais i law ar………………………………………

Gwnaed asesiad ar ………………………………………………

gan……………………………………………………………………….

56

Page 57: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Atodiad 6MEINI PRAWF DATBLYGIAD YR YSTOD CYFLOG UWCH

(1) Priodoleddau proffesiynol

1.1 Cyfrannu’n sylweddol, lle bo’n briodol, i weithredu polisïau ac arferion y gweithle a hyrwyddo cyfrifoldeb casgliadol am eu gweithredu.

(2) Gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol

2.1 Meddu ar ddealltwriaeth a gwybodaeth eang am y modd o ddefnyddio ac addasu ystod o strategaethau dysgu, addysgu a rheoli ymddygiad, gan gynnwys y modd o bersonoli dysgu i roi cyfle i bob dysgwr gyflawni eu potensial.

2.2 Meddu ar wybodaeth eang a dealltwriaeth ar sail gwybodaeth dda o ofynion asesu a threfniadau’r pynciau a’r meysydd cwricwlwm y maent yn eu dysgu, gan gynnwys y rhai sydd a wnelo â chymwysterau ac arholiadau cyhoeddus.

2.3 Meddu ar y wybodaeth a’r ddealltwriaeth ddiweddaraf o’r gwahanol fathau o gymwysterau a manylebau ynghyd â’u haddasrwydd i gwrdd ag anghenion y dysgwyr.

57

Page 58: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

2.4 Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth fwy datblygedig o’u pynciau a’u meysydd cwricwlwm ac addysgeg berthnasol, gan gynnwys sut mae dysgu yn datblygu ynddynt.

2.5 Meddu ar ddyfnder digonol o wybodaeth a phrofiad i fedru rhoi cyngor ar ddatblygiad a lles plant a phobl ifanc .

(3) Sgiliau proffesiynol

3.1 Bod yn hyblyg, yn greadigol ac yn ddeheuig wrth gynllunio trefn y dysgu mewn gwersi ac ar draws gwersi sy’n effeithiol ac sy’n cydweddu’n dda yn gyson â’r amcanion dysgu ac ag anghenion y dysgwyr ac sy’n integreiddio datblygiadau diweddar, gan gynnwys rhai sy’n ymwneud â gwybodaeth am bynciau a’r cwricwlwm.

3.2 Meddu ar sgiliau dysgu sy’n arwain at fod y dysgwyr yn cael cyflawniadau da o’u cymharu â’u cyflawniad blaenorol, gan wneud cynnydd sydd cystal neu’n well na dysgwyr tebyg yn genedlaethol.

3.3 Hyrwyddo cydweithredu a gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm.

3.4 Cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol cydweithwyr drwy gyfrwng hyfforddi a mentora, gan arddangos arferion effeithiol a rhoi cyngor ac adborth.

58

Page 59: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Atodiad 7

Cyfrifo Cyflog ac Amser Athrawon Rhan Amser

• Rhaid sefydlu Wythnos Amserlen Athro Ysgol (WAAY) a rhaid talu athro rhan amser ganran o’r Wythnos Amserlen Athro Ysgol.

• Rhaid i bob ysgol sefydlu Wythnos Amserlen Athro Ysgol ar gyfer pob athro sy’n cyfeirio at oriau sesiynau ysgol sydd ar yr amserlen ar gyfer addysgu, gan gynnwys cynllunio, paratoi ac asesu, ond ac eithrio amserau egwyl, cofrestru ac ymgynnull.

• Wedyn, telir athrawon rhan amser ar amser dysgu go iawn ac eithrio cofrestru, adegau ymgynnull ac amserau egwyl.

59

Page 60: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Er enghraifft, os bydd y diwrnod ysgol, ac eithrio cofrestru ac ymgynnull, yn rhedeg o 9:00am tan 12:15pm ac eto o 1:15pm tan 3:30pm gydag un egwyl o 15 munud yn sesiwn y bore ac egwyl o 15 munud yn sesiwn y prynhawn, byddid yn cyfrifo Wythnos Amserlen Athro Ysgol i athro llawn amser yn 25 awr. Pe cyflogid athro rhan amser yn y bore yn unig gan weithio o 9:00am tan 12:15pm bob dydd, byddid yn cyfrifo eu canran o’r wythnos ddysgu yn ôl yr amserlen yn 15 awr. Dangosir hyn isod:

Sesiwn y bore (namyn adegau egwyl, cofrestru ac ymgynnull)

+ Sesiwn y prynhawn (namyn adegau egwyl, cofrestru ac ymgynnull

x Nifer y diwrnodau ar yr amserlen

= WAAY % yr WAAY

Llawn amser 3 awr + 2 awr x 5 diwrnod = 25 awr 100%

Rhan amser 3 awr x 5 diwrnod = 15 awr 60%

60

Page 61: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

• Rhaid cynnwys cynllunio, paratoi ac asesu ynghyd ag amser rheoli wrth gyfrifo amser cyswllt yn y dosbarth

• Amser dan gyfarwyddyd – Gall pennaeth ddyrannu amser dan gyfarwyddyd i athro rhan amser (ar amodau) fel canran o FTE 1265. Erbyn hyn, gellir rhoi cyfarwyddiadau i athrawon rhan amser fod ar ddyletswydd ar adegau egwyl, ymgynnull a chofrestru fel rhan o’u dyletswyddau dan gyfarwyddyd .

• Ni ellir gofyn i athrawon rhan amser fod ar gael i weithio (i ddysgu nac i wneud dyletswyddau eraill) ar ddiwrnodau pan nad ydynt fel arfer yn gweithio. Serch hynny, gallant fod yn bresennol drwy gytundeb ar y cyd â’r pennaeth. Dylid talu unrhyw oriau ychwanegol a fydd yn deillio o hynny ar gyflog arferol yr athro.

61

Page 62: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

• Gallai fod gofyn i athrawon rhan amser wneud dyletswyddau, heblaw am ddysgu disgyblion, y tu allan i sesiynau’r ysgol ar y diwrnod pan fo rhaid fel arfer i’r athro fod ar gael i weithio (a yw’n ofynnol fel arfer i’r athro fod ar gael i weithio am y diwrnod cyfan neu ran ohono). Gall hyn fod yn rhan o’r amser dan gyfarwyddyd.

62

Atodiad 8

Page 63: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

63

Page 64: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

Atodiad 9

Strwythur Staffio’r Ysgol

(Dylai’r ysgol roi manylion isod, sydd yn berthnasol ar adeg mabwysiadu’r Polisi Tâl yma han y Corff Llywodraethu)

64

Page 65: ceri.ceredigion.gov.uk€¦  · Web viewBydd y llythyr hysbysu yn cynnwys gwybodaeth am y broses o wneud sylwadau ac apelio yn ... Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer cyfarfodydd

65