11
Cylchlythyr Hydref 2015 www.cteg.com Dilynwch ni: @womenspire #Hive

Chwarae Teg Hive Autumn Newsletter 2015 (Welsh)

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Croeso i rifyn yr hydref o gylchlythyr Hive Chwarae Teg. Bob chwarter bydd ein cylchlythyr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am arferion gweithio modern ein byd heddiw, digwyddiadau a newyddion.

Citation preview

Page 1: Chwarae Teg Hive Autumn Newsletter 2015 (Welsh)

Cylchlythyr Hydref 2015

www.cteg.com Dilynwch ni: @womenspire

#Hive

Page 2: Chwarae Teg Hive Autumn Newsletter 2015 (Welsh)

Croeso i rifyn yr hydref o gylchlythyr Hive Chwarae Teg.

Bob chwarter bydd ein cylchlythyr yn rhoi‘r wybodaeth ddiweddaraf am arferion gweithio modern ein byd heddiw, digwyddiadau a newyddion.

PwC, y cwmni gwasanaethau proffesiynol, yw‘r cyflogwr diweddaraf i lansio

rhaglen dychwelyd i‘r gwaith i bobl sydd wedi bod i ffwrdd o‘r gwaith am

gyfnod estynedig.

Mae croeso i bawb gymryd rhan yn „Back to Business‟, sy‟n gynllun 12 wythnos, ond mae wedi‟i gynllunio‟n bennaf ar gyfer menywod sydd am ddychwelyd i‟r gwaith. Mae cynllun PwC yn cynnig cyfnod sefydlu wythnos o hyd gyda hyfforddiant, a fydd yn rhoi sylw i brosesau a gweithdrefnau‘r cwmni, yn cynnwys sgiliau TG a sgiliau meddal fel brand personol, gwydnwch, a rhwydweithio. Bydd pobl sy‘n cymryd rhan yn y rhaglen yn cael cyfle hefyd i weithio ar brosiectau gyda chleientiaid sy‘n defnyddio‘r profiad a‘r wybodaeth sydd ganddynt. Mae PwC yn gobeithio y bydd y cynllun yn gwella amrywiaeth yn y cwmni ac yn creu arweinwyr benywaidd ar gyfer y dyfodol. Darllenwch yr erthygl gyfan yma.

Mae cwmni Netflix yn cynnig cyfnod mamolaeth a thadolaeth ―diderfyn‖, fel y gall gweithwyr benderfynu beth sydd orau iddyn nhw a‘u teulu.

Wrth gyflwyno cyfnod mamolaeth a thadolaeth diderfyn ar gyfer ei staff sy‘n gweithio yn America, dywedodd y cwmni y byddai gweithwyr yn gallu cymryd faint a fynnont o amser i ffwrdd yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i blentyn gael ei eni neu ei fabwysiadu. Yn UDA, dim ond 12 wythnos o gyfnod mamolaeth statudol y gall menywod ei gael ac nid ydynt yn cael eu talu. “Rydym ni am i’n gweithwyr gael yr hyblygrwydd a’r hyder i gydbwyso anghenion eu teuluoedd ifanc heb orfod poeni am waith neu arian. “Gall rhieni ddychwelyd yn rhan-amser, yn llawn amser, neu ddychwelyd a gadael eto yn ôl yr angen. Byddwn ni’n parhau i’w talu yn ôl yr arfer, fel nad oes rhaid mynd i’r drafferth o newid i dâl y wladwriaeth neu anabledd. Gall gweithwyr benderfynu beth sydd orau iddyn nhw a’u teulu, ac yna gweithio gyda’u rheolwyr i wneud trefniadau cyflenwi yn ystod eu habsenoldeb." - Tawni Cranz, Prif Swyddog Dawn, Netflix.

Er mwyn parhau i lwyddo, rhaid i‘r cwmni ddenu a chadw‘r bobl fwyaf disglair yn y maes ac mae profiad yn dangos bod pobl yn perfformio‘n well yn y gwaith pan nad ydyn nhw‘n poeni am bethau gartref. Mae‘r polisi hwn, ynghyd â‘r amser i ffwrdd diderfyn, yn helpu gweithwyr yn ystod y newidiadau yn eu bywydau ac maen nhw‘n dychwelyd i‘r gwaith gyda mwy o ffocws ac ymroddiad.

Darllenwch y blog gan Tawni Cranz, Prif Swyddog Dawn, Netflix yma.

PwC yn lansio cynllun i helpu rhieni i ddychwelyd i‟r gwaith

Netflix yn arwain y ffordd

Page 3: Chwarae Teg Hive Autumn Newsletter 2015 (Welsh)

Mae gweithwyr yn y DU yn cael eu llethu gan ormod o reolau mewn gweithleoedd sych a dihiwmor, yn ôl ymchwil gan y CIPD. Roedd data o Employee Outlook Survey diweddaraf y sefydliad yn dangos bod staff yn wynebu rhwystrau sylweddol yn y gwaith, gyda ―rheolau a gweithdrefnau diangen‖ yn hawlio‘r brig ar y cyd. Yn drydydd ar y rhestr o bethau sy‘n ddraenen yn ystlys gweithwyr oedd gwleidyddiaeth swyddfa, gyda 24% yn dweud fod hyn yn llesteirio creadigrwydd.

―Er bod gwella cynhyrchiant yn brosiect hirdymor i‘r DU, yn y tymor byrrach, gall cyflogwyr helpu gweithwyr i ddefnyddio‘u sgiliau a‘u syniadau drwy ganolbwyntio ar ddatblygu arweinwyr a rheolwyr llinell sy‘n grymuso yn hytrach na rheoli staff a thrwy gynllunio swyddi sy‘n cynnig digon o ryddid i weithwyr,‖ Claire

McCartney, cynghorydd ymchwil, CIPD. Darllenwch yr erthygl gyfan yma.

Mae cael menywod ar fyrddau cwmnïau yn sicrhau penderfyniadau

gwell trwy gael amrywiaeth, ac mae prif gwmnïau‘r DU wedi cyrraedd

―carreg filltir bwysig‖ yn y broses o gynyddu nifer y menywod ar eu

byrddau, ond mae mwy i‘w wneud eto.

Menywod ddylai gyfrif am o leiaf draean o aelodau bwrdd cwmnïau mwyaf Prydain erbyn diwedd y ddegawd, yn ôl adroddiad, er nad yw‘n argymell defnyddio cwotâu. Mae adroddiad yr Arglwydd Mervyn Davies, sydd wedi bod yn ymgyrchu dros gydraddoldeb rhywiol ar fyrddau cwmnïau, wedi cael cefnogaeth y Llywodraeth ac mae'n dangos bod 100 cwmni‘r FTSE

wedi rhagori ar y targed o gael 25% o‘u haelodau bwrdd yn fenywod gan fwy na dyblu‘r nifer yn 2011 pan osodwyd y targed. Yn ôl yr Arglwydd Davies, dylid newid y targed i sicrhau bod 33% o aelodau bwrdd 350 cwmni‘r FTSE yn fenywod erbyn 2020. “Mae targedau‟n beth da oherwydd maen nhw‟n cyflwyno data sy‟n rhaid ei fesur, ac mae hyn yn golygu bod rhaid i uwch swyddogion cwmnïau drafod y peth, ac os yw‟r drafodaeth yn digwydd, yna mae gweithredu‟n dilyn.” Gallwch weld erthygl y Guardian yn llawn yma a mynd i Women on Boards: Davies Review 5 Year Summary October 2015 yma.

Ydych chi angen help i gael mwy o amrywiaeth ar eich bwrdd?

Ymrowch i 50/50 erbyn 2020 a gwnewch addewid heddiw.

Gormod o reolau yn tanseilio allbwn a chreadigrwydd staff

Adroddiad Davies – dim mwy o fyrddau dynion yn unig yng 100

cwmni‟r FTSE

Page 4: Chwarae Teg Hive Autumn Newsletter 2015 (Welsh)

“Cyfle gwych i rwydweithio,

siaradwr diddorol oedd yn

hawlio’r sylw”

“Sesiwn ddiddorol tu

hwnt ac roedd hi’n wych

cael cyfarfod a rhannu

profiadau gyda phobl”

“Penigamp a llawn ysbrydoliaeth!’’

“Do’n i ddim wedi

sylweddoli tan heddiw

faint o effaith fyddai

rhyddid i unigolion yn ei

chael yn y gweithle”

Page 5: Chwarae Teg Hive Autumn Newsletter 2015 (Welsh)

Mewn partneriaeth â CMI Cymru, dychwelodd Hive

ym mis Hydref gan ddwyn ynghyd gyflogwyr o blith yr holl sectorau yng Nghymru, i edrych ar arferion gweithio modern sy‘n fwy priodol i fyd gwaith yr unfed ganrif ar hugain a helpu i ddileu‘r rhwystrau sy‘n atal menywod rhag cyrraedd eu potensial llawn a meithrin gyrfaoedd llawn boddhad. Daeth 106 o bobl o 61 sefydliad gwahanol yng Nghymru i 3

digwyddiad.

Cynhaliwyd sesiynau yng Nghasnewydd, Abertawe a Wrecsam ac roeddem ni wrth ein bodd i gael cwmni Mark Hodder. Mae Mark yn gweithio gyda gwyddorau seicoleg a niwrowyddoniaeth cadarnhaol cymhwysol i greu gweithleoedd hapusach a mwy llwyddiannus. Wrth fynd ati i edrych ar Bod yn Gadarnhaol, Brwdfrydedd ac Ymddiriedaeth mewn gweithdy rhyngweithiol, gwelsom sut mae creu amgylchedd mwy cadarnhaol yn y gwaith yn gallu cynyddu cynhyrchiant, lles a gweithgarwch yn y gwaith. Mae agwedd gadarnhaol yn arwain at fwy o frwdfrydedd. Er bod gwyddoniaeth wedi darganfod y prif ffactorau wrth wraidd brwdfrydedd, nid yw llawer o sefydliadau‘n manteisio i‘r eithaf ar y technegau hyn o hyd. Bu Mark yn sôn am waith ymchwil helaeth ac enghreifftiau ymarferol a gwelwn fod 3 ffactor allweddol ar gyfer creu brwdfrydedd parhaus:

Pwrpas clir sy‟n cyd-fynd â phob penderfyniad.

Meistrolaeth, gweithio i fod yn fwy medrus yn ein gwaith.

Rheolaeth, rhoi rheolaeth yn ôl dros benderfyniadau ystyrlon yn y gwaith.

Er mwyn i‘r 3 ffactor hwn greu gweithle llewyrchus yng ngwir ystyr y gair, rhaid iddynt fod yn

seiliedig ar un ffactor terfynol, sef ymddiriedaeth. Cafodd dilynwyr Hive lond gwlad o syniadau

ymarferol sydd wedi ennill eu plwyf yn y gweithdy er mwyn eu defnyddio ar unwaith yn eu

gweithleoedd.

“Byddwch y newid rydych chi am ei weld yn eich

gweithle!”

Diolch am bawb a ymunodd â ni a gwneud y sesiynau‘n hwyl ac yn rhyngweithiol.

Diolch arbennig i; ein siaradwr gwadd, Mark Hodder, ein noddwr CMI Cymru a‘r sefydliadau lle

cynhaliwyd y gweithdai; Lendlease, DVLA ac Airbus Defence and Space.

Hive Hydref 2015

Page 6: Chwarae Teg Hive Autumn Newsletter 2015 (Welsh)

Diwrnod Gwerthfawrogi Ffrindiau Mae dydd Gwener olaf gwyliau hanner tymor mis Hydref yn ddiwrnod arbennig yn Science Made Simple – diwrnod arall o wyliau! Bedair blynedd yn ôl, penderfynwyd y byddai pob aelod staff Science Made Simple yn cael y diwrnod ychwanegol hwn o wyliau i gael cyfarfod â ffrindiau a theulu nad oeddent wedi cael cyfle i‘w gweld ers tipyn. Weithiau mae‘n gallu bod yn anodd treulio digon o amser gyda‘n hanwyliaid, ac mae‘r diwrnod hwn yn ein hatgoffa o‘r pethau pwysig eraill mewn bywyd heblaw ein swyddi bendigedig! Gallwch ddarllen mwy am y syniad gwych hwn yma

Gydnerth: Strategaethau ar gyfer hunanofal 29 Ionawr 2016

9:30am – 10:30am Chwarae Teg, Caerdydd Darllenwch am y Teg hwn gydag Emma Howells-Davies.

Mae cyfuniad o ffactorau yn cyfrannu at ein gwydnwch a‘n

gallu i ymdopi â straen. Yn y gweithdy hwn cewch wybodaeth

a dealltwriaeth o sut gallwch chi ddefnyddio‘ch cryfderau i‘ch

helpu i oresgyn gofid. Byddwch yn dysgu hefyd sut mae

datblygu strategaethau hunan-reoli i feithrin gwydnwch a

gwella‘ch lles emosiynol.

Gallwch archebu‟ch lle yma.

Mae Wild Women Enterprise Co yn mentora a hyfforddi menywod mentrus yn y canolbarth a thu hwnt i sicrhau llwyddiant yn eu bywydau personol, gwaith a busnes. Rydym ni‘n credu mewn byd lle mae gan fenywod gyfle cyfartal, sicrwydd economaidd a‘r pŵer i ddylanwadu ar ein cymdeithas er gwell. Mae menywod angen hyder, sgiliau ac adnoddau i wneud hyn.

Trwy ein cyfarfodydd, mentora gan gymheiriaid a hyfforddiant, rydym ni‘n galluogi menywod i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau ac yn eu cymunedau. Wrth i fenywod lwyddo a ffynnu - byddwn yn creu economi lewyrchus sy‘n gweithio i bawb! Ymunwch â‟r gymuned yma.

Y diweddaraf gan aelodau Hive

Page 7: Chwarae Teg Hive Autumn Newsletter 2015 (Welsh)

The Management Shift Vlatka Hlupic “Humans aren‟t resources, so let‟s stop treating them that way.” Y gred gyffredin yw mai pobl yw ased pwysicaf cwmni ond eto ychydig iawn o fusnesau sydd â model clir o arweinyddiaeth sy‘n gwella ymgysylltiad, yn dileu rhwystrau i arloesi, ac yn datgelu cryfderau cudd pobl a‘r sefydliad. Mae‘r Athro Hlupic yn dweud bod angen i sefydliadau fabwysiadu arddull arwain sy‘n canolbwyntio ar bobl, pwrpas a rhannu gwybodaeth, gan greu mathau newydd o werth.

Turn the Ship Around! A true Story of turning followers into leaders L. David Marquet

"Leadership should mean giving control rather than taking control and creating leaders rather than forging followers."

Dychmygwch weithle lle mae pawb yn weithgar ac yn cyfrannu hyd eithaf eu gallu deallusol. Gweithle lle mae pobl yn iachach ac yn hapusach oherwydd bod ganddyn nhw fwy o reolaeth dros eu gwaith – gweithle lle mae pawb yn arweinydd.

Start with Why: How Great Leaders Inspire Everyone to Take Action Simon Sinek

"It doesn't matter what you do, it matters Why you do it." Gyda mymryn bach o ddisgyblaeth, gall unrhyw un ddysgu i ysbrydoli. Mae ―Start With Why‖ yn cynnig safbwynt anghonfensiynol sy‘n egluro‘r rhesymau pam mae rhai arweinwyr a sefydliadau yn fwy arloesol, yn fwy proffidiol, yn ennyn mwy o deyrngarwch gan gwsmeriaid a gweithwyr fel ei gilydd ac, yn bwysicaf oll, yn gallu ailadrodd eu llwyddiant drosodd a throsodd.

Trust Works! Ken Blanchard, Cynthia Olmstead a Martha Lawrence “Shows you how to identify your trust busters and strengthen your trust boosters"

Yn y gymdeithas wahanedig sydd ohoni, fu meithrin ymddiriedaeth a‘i chadw erioed yn bwysicach nac yn anoddach. Mae ―Trust Works!” yn cynnig iaith gyffredin a sgiliau hanfodol a all ddisodli anghytgord â heddwch a chydweithrediad a‘n helpu ni i gyd i weithio gyda‘n gilydd yn gynhyrchiol ac mewn harmoni.

Amser am lyfr da

Page 8: Chwarae Teg Hive Autumn Newsletter 2015 (Welsh)

Mae Cenedl Hyblyg 2, sydd wedi‘i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop

a Llywodraeth Cymru, bellach ar waith ac mae‘n gweithio gyda menywod a busnesau yn y 9 sector â blaenoriaeth yng Nghymru. Bydd Cenedl Hyblyg 2 yn cynnig rhaglen datblygu gyrfa wedi‘i hariannu‘n llawn i 2,750 o fenywod a rhaglen fusnes i 500 o fusnesau bach a chanolig (BBaChau) ledled Cymru. Bydd y rhaglenni yn gwella gyrfaoedd a rhagolygon menywod yng Nghymru ac yn cynorthwyo busnesau i ddatblygu diwylliannau yn y gweithle sy‘n ennyn y gorau o‘u gweithwyr. Menywod Mae‘r rhaglen yn addas i fenywod o bob cefndir, oedran a chyfnod bywyd i feithrin y wybodaeth, yr hyder a‘r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau datblygiad llawn boddhad yn y gweithle. Yn ddelfrydol, byddwch â‘ch bryd ar arwain tîm neu efallai eich bod wedi cymryd y cam cyntaf at reoli tîm. Os ydych chi‘n awyddus i gyflawni mwy a bod yn fwy, dyma‘r rhaglen i chi. Busnesau Bydd y rhaglen yn eich cynorthwyo i ddenu, cadw a datblygu pobl ddawnus, ysbrydoli diwylliant cynhwysol ymhlith a gwella amrywiaeth drwy feincnodi eich sefyllfa ar hyn o bryd a‘r newidiadau y gallwch eu cyflwyno yn eich sefydliad ochr yn ochr â strategaeth eich sefydliad i sicrhau gwell gwasanaeth i‘ch cwsmeriaid. Gallwch gael manylion llawn ynghylch sut i fanteisio ar gymorth Cenedl Hyblyg 2 yma.

Cymorth am ddim i fenywod a busnesau yng Nghymru

Page 9: Chwarae Teg Hive Autumn Newsletter 2015 (Welsh)

Rhowch wybod pwy ddylai ennill yn eich barn chi.

Enwebwch y menywod a’r sefydliadau anhygoel y credwch sy’n

haeddu Gwobr Womenspire Chwarae Teg

Mae‘n bryd dathlu cyflawniadau anhygoel menywod ledled Cymru a‘r sefydliadau sy‘n gwneud cyfraniad cadarnhaol i helpu i sicrhau bod menywod yn cyflawni a ffynnu. Mae Gwobrau Womenspire newydd Chwarae Teg yn gyfle perffaith i chi enwebu‘r menywod a‘r sefydliadau y credwch sy‘n eithriadol ac sydd wedi cyflawni mewn modd sy‘n ysbrydoli. I ddod yn rhan o‘r gwobrau, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw enwebu menyw y credwch y dylid ei chydnabod a‘i dathlu neu‘r sefydliad rydych chi‘n ei weld yn gwneud ei orau glas i fanteisio‘n llawn ar ddoniau menywod. Dewiswch y categori neu‘r categorïau rydych chi am gyflwyno enwebiad ar eu cyfer, a dychwelwch yr enwebiad atom erbyn 8 Ionawr 2016.

Dyma‘r categorïau:

Categorïau “Menywod mewn...”:

· Bywyd Cyhoeddus

· Cymunedau Gwledig

· Y Cyfryngau

· Menter

· STEM

· Chwaraeon

Categorïau taith bersonol:

· Seren Newydd

· Cyfraniad Eithriadol

· Camp Bersonol

Categorïau dylanwadwr:

· Sector Cyhoeddus—cyflogwr

· Sector Preifat—cyflogwr

· Trydydd Sector—cyflogwr

· Addysg

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw: 8 Ionawr 16

Mae mwy o wybodaeth ar

sut i gyflwyno‘ch

enwebiadau yma.

Bydd yr enillwyr yn cael eu

dewis gan ein panel o

feirniaid a‘u cyhoeddi yn ein

seremoni wobrwyo arbennig

yng Ngholeg Brenhinol

Cerdd a Drama Cymru ym

mis Ebrill 2016.

Dilynwch ni ar Twitter

@Womenspire i gael yr holl

newyddion diweddaraf.

A‟r enillydd yw…..

Page 10: Chwarae Teg Hive Autumn Newsletter 2015 (Welsh)

Bydd Heddlu De Cymru yn

gweithio gyda Chwarae Teg i sicrhau cydraddoldeb rhywiol, gan ddechrau gyda gweithlu‘r heddlu ei hun, gan helpu i sicrhau Cymru lle mae menywod yn cyflawni a ffynnu, drwy hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yn y gweithle a bod y sefydliad diweddaraf i ymuno â rhengoedd Cefnogwyr Chwarae Teg. Croesawodd Sophie Howe, Y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, y newyddion gan ddweud: Rwy’n hynod falch mai ni yw Cefnogwr diweddaraf Chwarae Teg ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r sefydliad. ―Rydym ni‘n awyddus i gael dealltwriaeth heb ei hail o bobl a chymunedau ac felly mae‘n bwysig bod ein gweithlu yn adlewyrchu cymunedau De Cymru o ran nifer y swyddogion heddlu a staff sy‘n fenywod, yn enwedig ar lefel uwch, ac o ran cyfran yr heddweision du a lleiafrifoedd ethnig. Rydym ni wedi gwneud cynnydd gwych tuag at

sicrhau cydraddoldeb rhywiol ar frig y sefydliad, sy‘n galonogol iawn. Er hynny, nid oes cynrychiolaeth ddigonol o fenywod ymhlith yr heddweision ac rydym yn mynd ati i gynyddu cynrychiolaeth uwchlaw lefel Arolygydd, lle mae‘r gynrychiolaeth o fenywod ar ei hisaf. Fel aelod newydd o Gefnogwyr Chwarae Teg, ein gobaith yw y bydd ein hadolygiad thematig yn gallu datgelu rhai o‘r rhwystrau i recriwtio a datblygiad gyrfa ac yna dylanwadu ar gynllun gweithredu i wella‘r gynrychiolaeth o fenywod yn ein sefydliad. Dyma ran bwysig o‘n strategaeth ehangach i sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu‘r cydbwysedd rhywiol yn y gymdeithas yn well, ac mae cymryd rhan yn y gynhadledd Cymdeithas Ryngwladol Heddlu sy‘n Fenywod yn gyfle gwych i ni ehangu ein gwaith ymchwil i gynnwys swyddogion sy‘n fenywod o luoedd a gwledydd eraill.

Byddwn yn cynnal arolwg yno i ofyn am rwystrau sy‘n bodoli ar hyn o bryd, yn cynnwys - er enghraifft, eu profiadau o ran cael dyrchafiad swydd, cyfleoedd gweithio hyblyg a

diwylliant y sefydliad.‖ Os ydych chi o‟r farn y bydd y byd yn lle gwell pan fydd gan ddynion a menywod gynrychiolaeth fwy cyfartal ar draws sectorau gwahanol ac ar wahanol haenau o fewn sefydliadau, ymunwch â‟r ymgyrch drwy fod yn Gefnogwr. Ymunwch â‟n Cefnogwyr diweddaraf: Heddlu De Cymru, DVLA a Merthyr Valleys Homes ac ymunwch â ni heddiw!

Cefnogwch Chwarae Teg

Page 11: Chwarae Teg Hive Autumn Newsletter 2015 (Welsh)

Yn sgil galw mawr, bydd Hive yn cynnal sesiynau mewn partneriaeth â CMI Cymru ym

mis Ionawr 2016 yn y Canolbarth a‟r Gorllewin. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys y gweithdy

rhyngweithiol ‗Bod yn Greadigol, Brwdfrydedd ac Ymddiriedaeth’ gyda Mark Hodder. Bydd

manylion llawn yn cael eu dosbarthu‘n fuan.

Rydym ni wrth ein bodd yn cynnal ein digwyddiadau Hive yn y gweithle ac os hoffech chi

groesawu digwyddiad Hive yn y dyfodol, cysylltwch â ni.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o‘r straeon yn y cylchlythyr a manylion sut gallwch chi ymuno â‘r Gymuned, cysylltwch ag:

Emma Tamplin [email protected]

Ffôn: 029 2047 8900 Chwarae Teg

Cysylltu â ni

Digwyddiadau Hive 2016