12
YN Y RHIFYN HWN: CYNgeRdd Y doNIau CYFoetHog - NeWYddIoN o FaNCeINIoN, eglWYsI BetHaNIa, BetHel, seIoN – CYmRY leRpWl a CHYmRY BIRkeNHead - CoFIo gleNYs lloYd mCNultY – mYFYRdod Y NadolIg Dymuna Olwen Owen naDOlig llawen a blwyDDyn newyDD DDa i’w theulu a’i ffrindiau i gyd Beechfield Lodge, Salford Dymuna e. goronwy Owen naDOlig llawen a blwyDDyn newyDD DDa i’w deulu a’i ffrindiau i gyd. Dowsefield Lane, Lerpwl Mae Ken Pritchard a’i deulu yn dymuno naDOlig llawen a blwyDDyn newyDD DDa i’w ffrindiau i gyd. Westwood Home, Brimstage Road, Brimstage Mae ben a Meinwen Rees a’r teulu yn dymuno naDOlig llawen a blwyDDyn newyDD DDa i holl ddarllenwyr Yr Angor. Mae Marged Jones yn dymuno naDOlig llawen a blwyDDyn newyDD DDa i’w ffrindiau i gyd ar y glannau. Maes Ffynnon, Rhuthun, Dyffryn Clwyd. naDOlig llawen a blwyDDyn newyDD DDa oddi wrth Sarah Davies, Bebington. Dymuniadau gorau am naDOlig llawen a blwyDDyn newyDD DDa i chwi oll. Oddi wrth Bill a Rhiannon Liddell, Lerpwl Cyfarchion Nadolig 2014 CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c 1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 1

CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

YN Y RHIFYN HWN:CYNgeRdd Y doNIau CYFoetHog - NeWYddIoN o FaNCeINIoN, eglWYsI BetHaNIa, BetHel, seIoN –

CYmRY leRpWl a CHYmRY BIRkeNHead - CoFIo gleNYs lloYd mCNultY – mYFYRdod Y NadolIg

Dymuna Olwen Owen naDOlig llawen a blwyDDyn

newyDD DDa i’w theulu a’i ffrindiau i gyd

Beechfield Lodge, Salford

Dymuna e. goronwy Owen naDOlig llawen a

blwyDDyn newyDD DDa i’w deulu a’i ffrindiau i gyd.

Dowsefield Lane, Lerpwl

Mae Ken Pritchard a’i deulu yn dymuno naDOlig llawen

a blwyDDyn newyDD DDa i’w ffrindiau i gyd.

Westwood Home, Brimstage Road, Brimstage

Mae ben a Meinwen Rees a’r teulu yn dymuno naDOlig

llawen a blwyDDyn newyDD DDa i holl ddarllenwyr

Yr Angor.

Mae Marged Jones yn dymuno naDOlig llawen a

blwyDDyn newyDD DDa i’w ffrindiau i gyd ar y glannau.

Maes Ffynnon, Rhuthun, Dyffryn Clwyd.

naDOlig llawen a

blwyDDyn newyDD DDa

oddi wrth

Sarah Davies, Bebington.

Dymuniadau gorau am

naDOlig llawen a

blwyDDyn newyDD DDa

i chwi oll. Oddi wrth

Bill a Rhiannon Liddell,

Lerpwl

Cyfarchion Nadolig 2014CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c

1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 1

Page 2: CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

Ar y Nos Sadwrn, 25 Hydref dan nawdd CymdeithasEtifeddiaeth Cymry Glannau Mersi cawsom wledd ardderchoggan Gôr Ty Tawe, sef Canolfan Gymraeg Abertawe yn eglwysBethel, Lerpwl. Sefydlwyd y Côr ym 1990 yn gôr pedwar llais.Mae wedi dod yn gôr poblogaidd iawn ac wedi teithio’n eang isawl gwlad dramor. Sefydlwyd y côr gan ei Arweinydd, HelenGibbon. Mae’n unawdydd soprano arbennig yn ogystal a bod ynarweinydd ysbrydoledig ac mae wedi ennill y wobr gyntafbedair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cefnder Helen,John Evans o Aberteifi yw’r cyfeilydd medrus. Cyflwynwyd yCôr gan Lywydd y noson, y Parchg. Ddr. D. Ben Rees. Cawsombeth o hanes y côr, a’r arweinydd ganddo, a chlywsom fod yrawdur Heini Griffiths, trefnydd y teithiau, yn un o aelodau’r côr.Mab yw i Dr. J. Gwyn Griffiths fu yma yn astudio yn yBrifysgol ac yn aelod yng Nghapel Bedyddwyr Cymraeg EdgeLane. Aelod arall â chysylltiad â Lerpwl oedd Mr. DavidWilliams fu’n organydd yma’n Heathfield Road yn ysaithdegau.

2

Cyngerdd y Doniau CyfoethogCôr T y Tawe, Abertawe gan un fu yn gwrando

Siôn Goronwy, y Bala a Glasgow

Côr Ty Tawe ar ei uchelfannau

Cynulleidfa wir werthfawrogol y CôrO’r chwith i’r dde: John Evans, Yvonne Davies, Allerton, cyfnither i

Helen Gibbon a Heledd Evans

David Williams a’i briod Gretta yn sgwrsio gyda Margaret Anwyl

Williams am y ‘dyddiau gynt a fu’

1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 2

Page 3: CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

Roedd y rhaglen yn ardderchog, acamrywiol, gyda chwaeth i’n plesio felCymry. Clywsom ddarnau clasurol ganVerdi a Karl Jenkins, emynau, cân oSioe Gerdd a ‘Ddoe mor bell’ sef‘Yesterday’ y Beatles i ni yma ynLerpwl. Roedd hefyd gân jazz arbennig,‘Ddiogyn Bach’ sef ‘Lazybones, lying inthe sun’ gan Hoagy Carmichael.Cawsom hefyd y fraint o wrando ar driunawdydd gwych. Canodd merch ifanc,Heledd Evans o Gaerfyrddin gyda llaisaddawol iawn, unawdau yn cynnwys‘Cilfan y Coed’. Clywsom laiscyfoethog y soprano Helen Gibbon yncanu ‘Ynys y Plant’ a chawsom wleddarall gan Siôn Goronwy o’r Bala. Mae’ncanu gyda’r Scottish National Opera ynGlasgow ac wedi canu ledled Ewrop.Mae ei lais soniarus, gwych yn hollolarbennig. Ymysg eraill clywsom ganddo‘Gân yr Arad Goch’, ‘Y Cymro’, a chângan Tchaikovsky. Mae’n wr hynod o dal,a dywedwyd amdano yn yr Independent,“Cawr o gorff ac o lais”. Un ouchafbwyntiau’r noson oedd ei glywedef a Helen Gibbon yn canu’r ddeuawd‘Moliant i’r Iôr’ gan Stanley Dixon.Mewn egwyl fer clywsom gan Dr. D.Ben Rees am y Gwyliau a drefnwyd gany Gymdeithas Etifeddiaeth ac am ypwysigrwydd o gofio Cymry arbennig ygorffennol. Mae pedair Gwyl a’rbymtheg wedi eu cynnal yma dros yblynyddoedd. Record anhygoel iawn.

Diolchwyd yn gynnes i’r Côr, y

cyfeilydd a’r unawdwyr gan Dr Rees arhoddodd lyfr yr un i’r arweinydd, ycyfeilydd a’r unawdwyr, ac yn yGanolfan cafodd pob aelod o’r Côrgyfrol ganddo i gofio’r ymweliad.Roedd cymeradwyaeth y gynulleidfa yn

dweud y cwbl am y noson hon a gofiram amser maith. Mae’n diolch yn fawriddynt fel Côr ac unawdwyr am eincynorthwyo a throsglwyddwyd y swm o£245 o elw tuag at Apêl Mimosa.

3

Bu dyfodiad Dr. Goronwy Wynne, Licswm i ddarlithio arDraddodiad y Plygain yn help mawr i nifer ohonom a fu’ngwrando arno yn y Ganolfan yn Auckland Road. Roedd wediparatoi, fel y disgwylid, yn ofalus a chlywsom gyfeiriadau atwerth y Carolau, ac mae’r ystyr i Garolau Nadolig ydywdathlu gwir geni yr Iesu. Carol y Nadolig yn dweud wrthym ystori, a hynny, yn ôl y darlithydd, yn y carolau Cymraeg arlwybr diwinyddiaeth. Duw yn anfon mab fel y mae’r adnodddiwinyddol hon yn ei osod:

‘Yr hyn oedd y tu hwnt i allu’r Gyfraith, yn ei gwendid dangyfyngiadau’r cnawd, y mae Duw wedi ei gyflawni. Wrthanfon ei Fab ei hun, mewn ffurf debyg i’n cnawd pechadurusni, i ddelio â phechod, y mae wedi collfarnu pechod yn ycnawd’ (Rhufeiniaid 8:3).

Yr un yw trywydd diwinydd arall, sef awdur anhysbysEpistol at yr Hebreiaid, pennod 11 adnod 6: ‘A thrachefn, panyw’n dod â’i gyntafanedig i mewn i’r byd, y mae’n dweud: “Abydded i holl angylion Duw ei addoli.” A dyna’n braint ninnaufel yr atgoffa James Nicholas i ni yn ei englyn, Y GeniGwyrthiol:

Ganwyd y Mab o gnawd Mair – un nos oerTan y seren ddisglair,

Yn wyrth o Dduw o’r groth ddiwairYn y gwellt, Hwn oedd y gair.

Soniodd un o aelodau Côr gwych Ty Tawe, Abertawewrthyf ei fod ef yn nai i’m cyfaill y diweddar Barchedig J.Eirian Davies. Bu perthynas dda rhyngom. Galwn yn fy nhro iweld Eirian a’i briod Jennie (un o ferched mwyaf carismatig ygwn i amdani ar lwyfan gwleidyddol) yn yr Wyddgrug abyddai yntau yn aros ar ein haelwyd pan ddeuai i bregethu iLerpwl. Credaf fod Eirian wedi taro deuddeg yn ei englyncrefftus a chofiadwy ar deitl y golygyddol hwn:

Ni wyddom am ddim rhyfeddach – CrëwrYn crïo mewn cadach,

Yn faban heb ei wannachDuw yn y byd fel Dyn Bach.

Dymunaf Nadolig bendithiol iawn i holl ddarllenwyr Yr Angora diolch o galon am y gefnogaeth

A hwy a gawsant y Dyn Bach– gan D. Ben Rees

golygyddol

llythyr agored

Annwyl Ddarllenwyr y papur bro,

aPÊl gWyl MIMoSa lerPWl 2015Bwriadwn fel Cymry Lerpwl trwy gyfrwng Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry

Glannau Mersi gynnal Gwyl Mimosa fel rhan o ddathliadau pwysig a hynny o nosWener, Mai 29 i bnawn Sul, 31 Mai, 2015. Gan fod y llong hwyliau Mimosa wedigadael porthladd Lerpwl yn 1865 am Borth Madryn, bwriadwn fel cymdeithas:

1. Gosod cofeb sylweddol i gofio hynny mewn man cyfleus ar lan Afon Mersi.Cyst y Gofeb £5,000 i’w chynllunio a’i gosod yn ei lle ar gyfer ei dadorchuddiomewn seremoni bwysig bnawn Sadwrn, Mai 30, 2015 am 3 o’r gloch y pnawn.

2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol at y penwythnos: cyfarfodydd a chyflwyniad o‘Ysbryd y Mimosa’ (o waith Tim Barker), a chroesawu Côr Ysgol Gymraeg yrHendre, Trelew, y Wladfa i’n plith i ganu.

Byddwn felly yn ddiolchgar am roddion tuag at y gofeb a’r dathliadau, i’w hanfoni’r Cadeirydd, yn 32 Garth Drive, Allerton, Lerpwl/Liverpool L18 6HW, erbyn dyddGwyl Ddewi, Mawrth 1, 2015 fan bellaf.

Nodir eich cyfraniad yn y papur bro ac yn ‘Llawlyfr y Dathlu’ a gyhoeddir erbynMai 29, 2015. Dylid gwneud y sieciau’n daladwy i ‘Cymdeithas Etifeddiaeth CymryGlannau Mersi / Merseyside Welsh Heritage Society’. Mae angen oddeutu £8,000arnom.

Yn ddiolchgar,Dr. D. Ben Rees (Cadeirydd)Ms Rachel Gooding (Trysorydd)Dr. Arthur Thomas (Ysgrifennydd)

1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 3

Page 4: CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

eglwys Bethania, crosby roadSouth, Waterloo

Fel y gwyddom bwriadwn ail-drefnuSuliau y flwyddyn nesaf, ganganolbwyntio ar lai o oedfaon nac yn yblynyddoedd cynt. Gobeithiwn y bydd ydrefn newydd yn cael cefnogaeth dda.Bydd ein Gweinidog yn rhoddi yr unnifer o Suliau i ni ag yn y blynyddoedddiwethaf hyn, a bwriadwn uno ym Methelyn y Suliau lle na fydd oedfaon yn ChristChurch. Deil nifer o’n plith mewngwendid a chaethiwed, sef Miss MeganWilliams, Mersey Road, Miss DorothyWilliams, Blundellsansds. Cawn einhamddifadu o’i presenoldeb yn yroedfaon. Trefnwn eleni eto gyfarfodydd idrafod yr Ysgrythur yng nghartref yParchg. David Williams, caplan YsbytyAlder Hey yn nhymor yr Adfent. Buddiola bendithiol yw’r cyfarfodydd hyn ganein bod yn bobl y Gair. DymunwnNadolig Llawen a Blwyddyn NewyddDda i’n haelodau ac yn wir i hollddarllenwyr y golofn hon. Braf yw caelcofnod o fis i fis yn ogystal a’r Ddoleno’n hanes fel diadell Duw yng ngogleddLerpwl.

cymdethas cymry lerpwlAr y nos Fawrth olaf o Fedi daeth Ellis

Wyn Roberts atom i sôn am ‘gymeriadaubro fy mebyd’ sef ardal Bodwrog aBodffordd. Yr oedd hon yn ardalddiwylliedig yn llawn o gymeriadau -cymeriadau y Werin nad ydynt i’w cael ydyddiau yma. Soniodd am dri bardd oeddyn byw yn yr ardal pan oedd Mr. Robertsyn blentyn sef John Owen, John Thomasa Parch. O. R. Parry. Roedd John Owenyn fardd gwlad ac yn berson agos atoch.Yr oedd yn ysgrifennu am ogoniantpethau cyffredin. Yr oedd yn fardd achynganeddwr da iawn ac yn englynwrarbennig. Enillodd Gadair EisteddfodMôn bedair gwaith. Roedd Tom ParryJones a Rolant o Fôn yn ddisgyblioniddo. Ysgrifennodd y darn ‘Gweddi’rpechadur’ tua 60 mlynedd yn ôl ondmae’r darn yn addas i’n sefyllfa niheddiw. Ysgrifennodd y darn ychydigwedi i’w frawd farw yn y Rhyfel Bydcyntaf ac mae’n sôn am rai yn gwneudpenderfyniadau gwallgof i fynd i ryfel.

Telynegwr arbennig oedd John Thomas.Yr oedd yn ŵr arbennig. Bu iddo briodiAnnie yn 22 mlwydd oed ond erbyn iddodod adref o Rhyfel Byd cyntaf roeddAnnie wedi ei adael a mynd i ffwrdd

gyda rhywun arall. Yn 1927 bu iddoysgrifennu y llyfr ‘Telyn y Milwr’. Dywedyn nechrau’r llyfr nad oedd yn disgwylllawer ohono – ‘ telyn wedi torri yw ondgobeithio y cei ychydig o fiwsig ohono.’

Bu Parch O. R. Parry o dan ddylanwadJohn Thomas. Yr oedd ganddoddiddordeb mawr mewn barddoniaeth acenillodd mewn lawer i Eisteddfod ondpenderfynodd fynd i’r Weinidogaeth. Buyn Weinidog yn Nhregarth am 10mlynedd, Trawsfynydd am ddeg mlyneddwedyn cyn symud i Eglwys Bethania,Rhuthun. Ar hyn o bryd mae Mr Robertsyn paratoi llyfr o waith y tri bardd yma acedrychwn ymlaen at ei gyhoeddi yn ydyfodol agos.

‘Hiwmor Tre Caernarfon’ oedd testun

Mari Gwilym a’i gŵr Emrys Llewelyn achawsom noson hwyliog yng nghwmni yddau. Mae geiriau a ffug enwau ynbwysig yng Nghaernarfon ac mae gan tref‘y Cofis’ ei geirfa ei hun. DarllennoddMari hanes yr Eisteddfod o‘Adroddiadau’r Co bach’. Cawsom storio’r llyfr hiwmor ‘Lafar Gwlad’ a storiHuwcyn yn y carchar am ddwyn eog oAfon Seiont. Bu Emrys Llewelyn yn sônam rhai o gymeriadau y dref fel WilNapoleon a fu yn y ffilm Prince Valiantyn y 50 au gyda Robert Wagner a VivienLeigh. Cawsom hefyd stori ysbryd AnnieRoberts a laddwyd adeg y Nadolig ynNoc Victoria. Mae Emrys wediysgrifennu llyfr hefyd ac mae’n tywysymwelwyr i lefydd diddorol yngNghaernarfon. Darllenodd Mari yr hanessut y bu iddi cyfarfod ei phriod Emrys o’illyfr ‘ Melys Gybolfa Mari’. Nosonysgafn a llawn chwerthin i godi’r calon.

Datgelu cyfrinachau llynnoedd Eryriwnaeth Geraint Thomas yr wythnosganlynol. Cafodd ei eni yn NyffrynNantlle ond erbyn hyn mae’n byw ynardal y Bala. Mae’n ffotograffyddproffesiynol ac yn berchennog OrielPanorama, Caernarfon (www.panorama-cymru.com). Dangosodd ffrwyth ei lafurdros ddwy flynedd yn tynnu llun o bobllyn ym Marc Genedlaethol Cymru. Mae144 ohonynt i gyd! Fe rannodd y Parc iun rhan a’r ddeg. Dywedodd fod yn rhaidi bob llun ddweud stori. Yr oedd ei luniauyn arbennig, ac yr oedd hefyd yn dweudhanesion a chwedlau sydd yn gysylltiedig

Newyddion o

lannau MerSI a ManceInIon

4

Elis Wyn Roberts a Carys Jones,

y ddau o Fôn

Kath Norton hefo Emyr Llewelyn a Mari Gwilym

1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 4

Page 5: CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

5

â’r llynoedd a’r ardal. Edrychwn ymlaeni ddarllen cyfrolau eraill o’i eiddo syddyn cael eu paratoi. Dywed GeralltPennant amdano mai dawn i agor llygaidyw dawn Geraint Thomas ac roedd eiluniau yn profi hynny.

Yn niwedd mis Hydref ar nosondymhestlog a’r Ganolfan yn llawn bu’rGymdeithas yn ‘Crwydro’ yng nghwmniDr. John a Beryl Williams. Buont yn sônam eu hymweliadau gyda ChymdeithasBob Owen i bedwar lle yng NgogleddCymru sef Cefn Caer ac Eglwys SantPedr mewn Cadwynau ym Mhennal,Llys Rhosyr a Institiwt John PrichardJones (Niwbwrch), Eglwys GadeiriolLlanelwy i weld Beibl William Morgan aLlanfihangel ym Mhennant i weld cartrefMari Jones ac Eglwys Sant Mihangel. Ary daith yma aethant ymlaen i Fryncrug iweld bedd Mari Jones ac wedyn i Dywyni weld Eglwys St. Cadfan a’r ysgrifGymraeg o’r wythfed ganrif a geir yna.Dyma’r eisampl gynharaf sydd mewnbod o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg.Dangoswyd llawer o luniau. Tipyn ogrwydro mewn awr o amser!Llywyddwyd gan Roderick Owen athalodd deyrnged haeddiannol i’r ddauam noson gofiadwy.

eglwys Bethel, heathfield road,lerpwl

Ar fore Sul 5 Hydref cawsom Oedfahyfryd i ddiolch am y Cynhaeaf dan ofalDr. D. Ben Rees.Yn ystod y gwasanaethbendithiol gweinyddwyd y CymunSanctaidd. Bu canmoliaeth hefyd i’rCyfarfod Gweddi Diolchgarwch agynhaliwyd ar y noson ddilynol.Trefnwyd y gwasanaeth gan Dr. John G.Williams a chymerwyd rhan gan MrsBeryl Williams, Mrs Norma Owen a Mr.Dafydd Wrennall. Diolchwn yn ddidwylli’r Parchedig D. Glanville Rees am ddodo Southport i’n gwasanaethu ar fore Sul,12 Hydref.

Drwg iawn oedd gennym fel Eglwysglywed am farwolaeth Mrs GlenysMcNulty yn Hosbis Marie Curie yn

Woolton. Cynhaliwyd yr angladd ymMethel dan ofal ei gweinidog, Dr. D. BenRees, ar brynhawn Llun 13 Hydref.Roedd y capel yn orlawn a chlywsomdystiolaeth da i’w chymeriad, fel yr oeddyn garedig ac yn hoffi cynorthwyo’rgwael a’r gwan. Yr organydd oedd MrsMargaret Anwyl Williams, ac ymysgeraill canwyd yr emyn “Cymer, Iesu, fifel rydwyf” ar y dôn adnabyddus BrynCalfaria. Cyfansoddwyd y dôn hon ganWilliam Owen (1813-1893), cerddor oWynedd, a hen, hen, hen hen daid iGlenys. Gwnaeth y dôn hon WilliamOwen yn adnabyddus ym Mhrydain acmewn eglwysi drwy’r byd. Dilynwydgyda gwasanaeth yn AmlosgfaSpringwood. Mae’n cydymdeimlad ynfawr â phriod Glenys, Mr. John McNulty.Nid yw ef wedi bod yn dda, a bu yn yrYsbyty Brenhinol ddwywaith ynddiweddar. Cydymdeimlwn hefyd â thairnith Glenys, gweddill y teulu a’ichyfeillion.

Ar nos Lun, 20 Hydref cawsomgroesawu Dr. Goronwy Wynne o Licswmi’r Gymdeithas Lenyddol. Rhoddoddddarlith ardderchog i ni ar Draddodiad yPlygain. Llywydd y noson oedd Dr. D.Ben Rees, ac wrth gyflwyno Dr.Goronwy Wynne, dywedodd ei fod yn wramryddawn gyda diddordeb arbennigmewn llenyddiaeth, hanes, technoleg, ybywyd gwyllt, cerddoriaeth agwyddoniaeth. Bu’n Arweinydd Côr yn yWyddgrug am 30 mlynedd ac mae’n codicanu yn y Capel, sef Capel y Berthen.Clywsom am Y Plygain er ei dechreuad.Mwmiodd ddechrau’r dôn ‘Cader Idris’yna’r gynulleidfa’n cario ymlaen.Roeddym yn well o lawer yn ei ddilyn ynmwmian ‘Oes Gafr Eto?’ am fod y gânyn perthyn i draddodiad y canu a’r cyntafyn perthyn i draddodiad y delyn. Ystyr ygair “carol” yw cerddoriaeth i ddathlu, ac

nid o angenrheidrwydd i ddathlu’rNadolig. Dangosodd i ni lyfryn o’r enw‘Carolau’r Haf’. Cynhaliwydgwasanaethau cyntaf Y Plygain ar ôl yDiwygiad Protestanaidd. Mae carolauCymreig y Plygain yn ddiwinyddol, yndechrau yn y preseb ac yn aml yndiweddu yng Nghalfaria. Roedd carolEos Iâl, ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’ ynddiwinyddol. Roedd y Ficer Pritchard ynun o’r beirdd enwocaf y carolau.Clywsom dair fersiwn o’r dôn Llantrisantgyda phatrymau cerddorol gwahanol.Canodd Dr. Goronwy Wynne rai ogarolau’r Plygain. Roeddynt yn hoff iawno ‘Clychau Rhiwabon’ yn Nwyran, YnysMôn. Byddai’r alaw ‘Myfi’r pechadurpennaf’ yn cael ei chanu gan hendrempyn, yna addaswyd hi fel emyn.Ystyr Pulicantus yw caniad y ceiliog ac

Dr Goronwy Wynne yn gwneud pwynt

diddorol

Geraint Thomas yn y canol gyda Nerys V. Jones a Brian Thomas (y Llywydd)

Cynnwys y ddarlith

1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 5

Page 6: CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

ystyr y gair Plygain yw GwasanaethEglwysig y peth cyntaf yn y bore. Y garolGymraeg hynaf y gwyddom ni amdaniyw “Ar Fore Dydd Nadolig”, hon ers cynoes Elisabeth. Cychwynwyd y Plygain ynyr Eglwys, yna addaswyd y traddodiadgan yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, YWeseiaid ac yn olaf gan yr Hen Gorff.Roedd rhai traddodiadau wedi dechraumewn tai tafarnau, yn enwedigtraddodiad y delyn. Byddai llawercardotyn yn crwydro a’i delyn ar eigefn – “Gyda’r diafol ar ei gefn” fel ydywedai rhai. Arhosodd Meldelssohnmewn tafarn unwaith a chlywed y delyn.Galwodd y sain yn “Dreadful out of tunetrash!” Ond erbyn hyn mae’r delyn ynrhan o’r Plygain. Daeth llawer o’r alawono Loegr. Mae gwasanaeth Plygain wedi eigynnal yn Lloc, ger Licswm ers 1845.Clywsom un garol gyda’r geiriau“Gaslight Calfaria” mewn un bennill.Enillodd Alice Evans ar gyfansoddi CarolPlygain yn yr Eisteddfod Genedlaetholdair blynedd yn ôl gyda chanmoliaethmawr y beirniad â Dr. Goronwy Wynne.

Mae gwasanaethau Plygain yn dal igael eu cynnal heddiw yn Sir Drefaldwynran fwyaf, ond mewn aml i drefn neubentref yn y Gorllewin a De Cymruhefyd. Bydd teuluoedd yn aros ar eutraed drwy’r nos, yn aml yn gwneudcyfleth, yna’n mynd i’r Plygain am tuapedwar o’r gloch y bore. Mae Dr.Goronwy Wynne wedi bod mewn sawlGwasanaeth Plygain a chlywsom am ycanu digyfeiliant, unawdau, deuawdau,grwpiau neu deuluoedd yn canu, ac erbynhyn, plant yn ogystal. Clywsom y garol‘Seintiau Gorfoledd’ yn cael ei chanu feldeuawd gan y soprano Rhiannon Evansgyda thenor. Ar y diwedd, mae’r dynion igyd yn mynd at ei gilydd a chanu fel côr.Maent yn diweddu gyda ‘Carol y Swper’lle maent yn sôn am y swper oedd yn eudisgwyl ar ddiwedd y Plygain ac hefyd

am Swper yr Arglwydd. Cawsom weldsawl darn o gerddoriaeth, rhaglenni allyfrau yn ymwneud â’r Plygain. Iddiweddu, clywsom driawd o ddynion yncynnwys Arfon Gwilym yn canu ‘ArDymor Gaeaf’. Mae’n diolch yn fawr iDr. Goronwy Wynne am noson hynod oddiddorol ac addysgiadol.

Mae Mrs. Glenys Johnson,Marboroiugh Road, Tuebrook, wedi caelamser pur galed yn dilyn triniaeth llaw-feddygol yn yr Ysbyty Frenhinol, achefyd ei merch Aimeé yr un modd.Meddyliwn amdanynt a dymunwn i’rddwy adferiad buan. Felly hefyd MissHilda Lloyd, Rainhill a dderbyniodddriniaeth lawfeddygol yn Ysbyty ????.

Erbyn i’r rhifyn nesaf o’r Angor ddodallan, bydd y Nadolig wedi pasio heibio.Hoffwn anfon ein cofion a’n dymuniadauda hefyd i Mrs Edna Thomas, MrsGwerfyl Jones a’r Athro D. A. PriceEvans, y tri mewn Cartrefi Preswyl, ac iMrs Mary Williams, Mrs JoyceLewington, Mrs Delyth Morris, MrsGwen Jones, Mr. Gwilym Lewis, Mr.Frank Jones a Mrs Louie Jones sydd yndisgwyl am driniaeth.

Dymunwn Nadolig Hapus a BlwyddynNewydd Dda, iach a heddychlon i hollddarllenwyr Yr Angor.

cymdeithas cymry BirkenheadYn ôl ein arfer, ail gyfarfod y tymor

yw’r gwasanaeth crefyddol yng nghapelSeion. Eleni ar Hydref 6 y gwr gwaddoedd y Parch Ddr. Ben Rees, eincymydog a’n cyfaill. Croesawyd ef ganMrs Eirwen Sargent gan ddiolch iddo ynarbennig am ei gefnogaeth i’nCymdeithas ac i gapeli a ChymryCilgwri dros y blynyddoedd maith feldarlithydd a phregethwr. Rhan o’rbedwaredd bennod o efengyl Ioan oedd ydarlleniad gan ganolbwyntio ar adnod 44,“yr Iesu ei hyn a dystiodd nad yw’r

proffwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad eihun.” Mae’r dywediad hon bron weditroi’r ddihareb mewn llawer iaith. Gan DrBen cawsom gefndir geririau’r Iesu wediiddo gael ei ddisytyru yn Nasareth ondwedi cael croeso, gwrandawiad adilynwyr yn Samaria, gwlad gelynionpennaf yr Iddewon. Wedi dod yn ôl iGalilea cafodd groeso ar ôl iddyntglywed a gweld “yr holl bethau a wnaethefe yn yr wyl”. Tybed ydym ni’n debygiddynt hwy, yn fodlon mynd gyda’rdyrfa, ond yn gyndyn i agor ein calonnaui’r Iesu fel unigolion? Mae gwahoddiadyr Iesu yr un mor groesawus heddiw i ni,ag yr oedd i’r wraig o Samaria: “agoriddo, anghymarol Iesu yw.”

Cysylltodd a chymharodd Dr. Ben yrhanes hwn, a’r hyn a ddigwyddodd ilawer o Gymry wedi Diwygaid yddeunawfed ganrif ac wedi i’r EglwysAnglicanaidd droi y MethodistiaidCalfinaidd i efengylaidd o’ugwasanaethau. Wedi colli’r rhyddid iaddoli fel y mynnent, daeth nifer fawrohonynt yma i Lerpwl a’r Glannau i agorcapeli anghydffurfiol lle y cawsantgroeso a chyfle i weithio hefyd mewndiwydiannau amrywiol.

Amlinellodd Dr Rees inni, y tyfiantaruthrol fu ymsyg y Cymry, a’r dylanwadar lawer agwedd o ddiwylliant y glannau.Prynwyd tir ym Mhenbedw gan ddau wro Sir Fôn i adeiladu capeli ac ynWallasey y clywyd pregeth Gymraeggyntaf ar Lannau Mersi gan Minimus.Cawsom ein hatgoffa am amryw oddynion arbennig iawn a ddaethant yma igael yr anrhydedd a’r cyfle nad oedd ynbosibl, efallai yn eu broydd mebyd. O’reglwysi hyn y tyfodd cymdeithasauCymraeg, corau, cwmniau dramau,eisteddfoau oherwydd y capel yn y C19a’r ugeinfed ganrif oedd canolbwynt eubywydau.

Diolch iddynt am y weledigaeth, adiolch i Gymry heddiw am gynnal fflamein hiaith, llenyddiaeth, a cherddoriaethyng nghymdeithasau’r cylch.

Gwnaed casgliad at waith CharlesThompson’s Mission a diolchwyd i TerryO’Neil am gyfeilio, i swyddogion Seionam ein gwahodd ac i bawb a gyfrannoddat noson bendithiol a myfyrgar. A dagweld cynulleidfa mor deilwng i’r oedfahon.

Noson y dysgwyr oedd Hydref 20 yngnghwmni Mr. Neil Wyn Jones, WestKirby, a’i ddosbarth. Mae cefndir Neil yngyfarwydd iawn i lawer ohonom, ynenedigol yng Nghilgwri i deulu agetifeddiaeth Gymreig a diddorodeb yn ywlad a’r iaith. Dim syndod felly bod Neilwedi ymddiddori yn yr iaith ersplentyndod a bellach yn hollol rhugl anaturiol. Cymaint yw ei allu, a’i

6

cornel y trySoryddRhagfyr/Ionawr 2014/15

Mrs Gwen Rigby,Mossley Hill . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .£10.00

Dr.a Mrs John Williams, Childwall . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . £100.00

Mrs Undeg Cole, Abertawe . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .£11.00

Mr Paul Griffiths, Wandsworth . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .£30.00

Mr a Mrs Geraint Roberts, Rhuthun . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .£12.00

Mrs Elizabeth Owen, Halewood . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .£15.00

Mr Huw Thomas, Chapel Le Frith . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .£25.00

Mrs Gwenfyl Haynes, Wavertree . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .£25.00

cyfanswm £228.00roderick owen (trysorydd)

1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 6

Page 7: CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

ymrwymiad fel iddo ddod yn athro yn yGymraeg i oedolion ers blynyddoedd.Mae’n dysgu chwech o ddosbarthiadauyma, yn Cilgwri, ac yn Sir Fflint aWrecsam. Mewn sgwrs hynod oddiddorol a goleueig, eglurodd Neil i ni yproblemau a’r pleserau o ddysguCymraeg i oedolion, gyda enghreifftiauo’r boddhad mae’n cael wrth weldbrwdfrydedd a gwir fwynhad eiddisgyblion.

Yng Nghymru ceir rhesymau fel yrawydd am ddysgu iaith ein cyndeidiau,gweld eu plant yn llwyddo mewn ysgolGymraeg, neu’r teimlad o gyfrifoldeb ofyw yng Nghymru o blaid dysgu’r iaith.Yn Lloegr, mae symbyliad y dysgwyrddigon tebyg – gofidio am golli’r iaith,awydd i ail-gydio ynddi, ond i Saesonuniaith, gwir gariad at y wlad a’idiwylliant yw’r ysgogiad. Maent oll ynffodus yn eu hathro, gwr galluog acymroddedig dros ben.

Mae Neil wedi cystadlu fel “Dysgwyry Flwyddyn” gan gyrraedd y pedwar olafa hynny yn Eisteddfod Wrecsam. Mae eiddosbarth hefyd wedi ennill gwobraugyda’i sgetsus hwyliog yn Eisteddfodau ydysgwyr yn Wyddgrug a mannau eraill.Ganddynt hwy cawsom sgwrs ynglyn âsefyll i ddisgwyl bws, ac un arall amddau barti’n dringo’r Wyddfa. Roedd euperfformiad yn rhwydd a naturiol ac ynllawn hwyl naturiol. Mae’r chwech

dawnus yma o’r Dosbarth yn haedducefnogaeth a llwyddiant. Dymunwn poblwc iddynt yn Meifod yn 2015.

Cyfeiriodd y llywydd Mrs EirwenSargent at amryw o aelodau sydd wedicael triniaeth yn ddiweddar. Da oeddclywed am Mrs Anne Jones yn gwella’ndda, a Mrs Gwyneth Ellis hefyd.

Siom oedd clywed am ddamwain MrsKitty Jones a syrthiodd a thorri ei choes.Bellach mae mewn ysbyty yn Llundain arôl mwynhau cyngerdd yno. Anfonwn eindymuniadau da iddi hi, Mr Bob Jones, aceraill sydd ddim yn dda, a’ncydymdeimlad â Mrs Mair Rees Jones arfarwolaeth ei brawd yng nghyfraith ynSir Fôn.

Gwnaed y diolchiadau am nosonarbennig iawn i’r Dysgwyr a’i Athro ganMrs Phyllis O’Neil gan ddatgan eihedmygedd ohonynt oll, ac am i Neilgyfleu i ni ei ymrwymiad cwbl nodedigi’r gwaith o ennill pobl i siarad ein hiaith.Mr Terry O’Neill oedd ein cyfeilydd, amerched y pwyllgor oedd yn gyfrifol amde.

eglwys Seion, laird Street, Penbedw

Cofiwn yn annwyl am deulu brawd-yng-nghyfraith Mrs Mair Rees Jones yn ybrofedigaeth. Mae ein cydymdeimlad atiyn fawr. Bu Mair i Sir Fôn i’r angladd.

Mae diolch diolchiadau mawr i bawb

sydd yn cludo y rhai heb geir i’r capel yngyson ar bnawn Sul. Buasai’r gynulleidfayn llawer llai heb eu cymorth caredig,Cristnogol.

Cymeraf y siawns hwn i ddymunoNadolig fendithiol a hapus a BlwyddynNewydd Dda i bawb ohonoch, a minnaunewydd ddechrau ar y dasg o groniclohanes Capel Cymraeg Seion.

7

derbyn i'r orsedd

Llongyfarchiadau i Merfyn Williamsam ei gyfraniad i stiwardiaeth yrEisteddfod Genedlaethol am 34 oflynyddoedd. Cydnabyddwyd gan

Bwyllgor yr Orsedd a chafodd i dderbyni fysg y beirdd a’r llenorion a phobl o

bob cylch.Y mae yn un o gefnogwyr da

Cymdeithas Gymraeg Birkenhead.

apêl gWYl mImosa(lerpwl), 2015

Derbyniwyd hyd at 31 Hydref 2015 y symiau canlynol at yr apêl

i) grwp Tucsedos blêr, Ruthun, Dyffryn Clwyd............................................£50.00

ii) Cyngor Tref nefyn (trwy law Mrs Devida Owen broadbent,

Huyton with Roby)..................................................................................£250.00

iii) Di-enw (mewn gwrogaeth i gadeirydd yr apêl, Dr D. b. Rees) ............£100.00

iv) Cymdeithas lenyddol lerpwl o eglwys bresbyteraidd bethel,

Heathfield Road/auckland Road, lerpwl ................................................£75.00

v) Mr. T. K.Davies, llandudno ....................................................................£100.00

vi) Huw ac elinor Roberts, benllech, Môn....................................................£30.00

vii) elw Cyngerdd Côr T y Tawe, abertawe yn lerpwl, 25 Hydref 2014 .....£245.00

viii) Jan a Haydn e. edwards, llangefni, ynys Môn ....................................£50.00

ix) Jean Sockett, llanfairfechan ...................................................................£50.00

Cyfanswm (Rhestr gyntaf) ...........£950.00

Dechrau ardderchog. Daw manylion yr ail rhestr yn y rhifyn nesaf o’r angor.

anfoner y cyfraniadau i 32 garth drive, lerpwl l18 6HW.

Gyda’r diolch mwyafD. Ben Rees, Rachel Gooding, Arthur Thomas

ac aelodau Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi

Cangen LerpwL oBrifysgoL CymruCyflwyniad yn saesneg

arnos Lun, 19 Chwefror 2015

am 7.30 o’r glochgan

adeL ahmed (prifysgol gobaith)

ar

islam - problemsand solutions

Bydd CyfLe i ofynCwestiynau.

gwneir casgliad tuag at ycostau

1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 7

Page 8: CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

Agorwyd tymor y gymdeithas gydadarlith gan Mrs Heulwen Bott, Helsby.Teitl ei darlith oedd ‘Y Plant a Gollwyd’.Hanes ydoedd am y DywysogesGwenllian, merch Llewelyn ein Llywolaf, a alltudiwyd yn blentyn bach ileiandy, yn Sempringham yn Sir Lincoln.Ac yno y bu am weddill ei dyddiau hydnes bu farw yn 54 mlwydd oed. Yrheswm am ei halltudio oeddofnadwyaeth Brenin Lloegr Edward I ybyddai Gwenllian yn cael ei gwneud yndywysoges ar y Cymry ac felly yn elyniddo. Mae carreg fedd wedi cael ei rhoimewn llecyn heb fod yn nepell o EglwysSempringham. Mae llawer o ymwelwyryn dod i ymweld â’r llecyn cysegredigyma – stori drist, yn wir, ond nid ywGwenllian a’i bywyd unig wedi cael eianghofio. Mae’n ymddangos hefyd fodmwy o blant o linach brenhinol wedi’uhalltudio a’u gweddillion hwy ynAlvingham eto yn Sir Lincoln. Nosonddiddorol iawn a mae’n diolch i Mrs Bottam ein diddori cystal.

Mwyhawyd y noson yn fawr a da oeddgweld cymaint wedi dod ynghyd.Edrychwn ymlaen at ein darlith nesaf yngnghwmni y Parch John Owen, Rhuthun.

y caPelI cyMraegAeth ddwy ohonom i encil y

chwiorydd yng Ngholeg y Bala ym misMedi. Roedd yn dda i weldcynrychiolaeth o bob Henaduriaeth yn yGogledd. Y thema oedd ‘Nesàu at Dduwsy dda i mi’ a chafwyd amser i fyfyrio yndawel yn ogystal â chael sgwrs a

lluniaeth ardderchog. Roedd yn ddiwrnodbendigedig, y tywydd yn garedig a’r wladyn hardd.

Roedd yn brofiad i fod yn rhan o’rGymdeithasfa, a gymerodd le yn einHenaduriaeth ym mis Hydref, yngnghapel y Groes Wrecsam, a theimlo’rwefr gyda’r Llywydd y Parch Ddr ElwynRichards yn ein harwain yn drefnusdrwy’r busnes i gyd. Yntau hefyd aarweiniodd yr oedfa Gymun mewn fforddarbennig iawn ac Eleri Edwards oedd ynrhoi’r anerchiad. Daeth llawer o bobl o’rardal i’r oedfa a diolch am eu cefnogaetha’u croeso.

Yn ein capeli, mae’r oedfaon ar y Sulyn parhau a’r gynulleidfaoedd yn ceisiobod yn ffyddlon. Parha’r cysylltiad agosefo’r Vine, y capel Methodist yn Hale achawsom oedfa unedig ddwyieithog ynoyn ystod yr Hydref ac roedd pawb ynfalch o weld ei gilydd eto.Yn anffodusmae llawer o waeledd ar hyn o bryd: tairo’n ffyddloniaid wedi bod yn yr ysbyty,sef Mrs Edith Evans, Mrs Winifred Jones

a Mrs Gwyneth Clement er bod MrsClement wedi symud i gartref am sbel igryfhau erbyn hyn. Mae Mr a Mrs ElwynEvans dal yn Florida gyda’u teulu sy’nbyw yno ond y mae’r claf yn gwella ynara-deg. Bu Mr Cliff Evans yn ymweldâ’i wraig Edith sydd wedi cael strôc, ersrhai wythnosau ac mae’n gobeithio ybydd hi yn mynd i gartref am fwy offysiotherapi cyn bo hir. Cofiwn am ycleifion i gyd, a’u teulueodd yn eingweddïau.

8

CYMDEITHAS CYMRYMANCEINION

Rysait y Mis

pwdin brenhinesCynhwysion:100 gram briwsion bara15 gram margarin15 gram siwgr2 felyn-wy250ml llaethHanner lemwnJam mafonmeringue – 2 wyn-wy100 gram siwgr mân.

dull:1. Cynheswch y ffwrn i 160°C2. irwch ddysgl (500ml)3. gratiwch groen y lemwn a gwasgwch y sudd ohono.4. gwahanwch y gwyn oddi wrth felyn yr wyau.5. Cynheswch y llaeth, tynnwch o’r gwres, ac ychwaegwch y margarin,

15g o siwgr, croen y lemwn a’r briwsion bara. gadewch iddo sefyll am 15 munud.

6. ychwanegwch y ddau felyn-wy at y gymysgedd, ac arllwyswch i’r ddysgl.

7. Coginiwch yn y ffwrn nes y bydd wedi setio.8. Tynnwch o’r ffwrn, ac yn ofalus, taenwch â jam, ac yna ysgeitiwch y

sudd lemwn drosto.9. Chwyrliwch y gwyn-wy nes iddo binaclu, ychwanegwch hanner y

siwgr, a chwyrliwch yn dda. Plygwch weddill y siwgr i’r meringue yn ofalus.

10. Rhowch y meringue dros y jam.11. browniwch y meringue yn ysgafn yn y ffwrn

Y PLENTYNIESU

Ceisiwch y plentyn iesuymhlith y plant llwglyd aaeth i’w gwlâu yn y nos hebddim i’w fwyta ac ymhlith ybechgyn papurau newyddtlawd a fydd yn cysguwedi’u gorchuddio ganbapurau newydd wrthddrysau ein siopau.

Oscar Romero

GWLEDD YTAD NEFOL

gan nad ydym eto’n barodar gyfer gwledd y Tad nefoly nadolig hwn, gadewch ini ymgyfarwyddo â phresebyr arglwydd iesu grist.

Awstin Sant

1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 8

Page 9: CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

un o gymry lerpwl oedd glenysMcnulty, yn y ddinas y ganwyd hi, ac ymagwyd hi, ac yma y bu byw ar hyd ynblynyddoedd. ond o’i mebyd bu ynymwybodol o’i gwreiddiau cymraeg aco athrylith cerddorol oedd yn hen hendaid iddi, sef William owen, Prysgol(1813-93) a ddaeth i enwogrwydd amdonau o’r radd flaenaf, fel alma,deemster, Prysgol ac yn arbennig Bryncalfaria. tôn a ganwyd yn eichynhebrwng a hefyd ar Suldiolchgarwch y cynhaeaf ar 5 hydref.Mae’n anhygoel meddwl fod Williamowen wedi dechrau’r daith ynchwarelwr yn ddeg mlwydd oed, gyda’idad yn chwarel cae Braich y cefn,Bethesda. cofiaf drefnu oedfa igydnabod ei ddoniau gyda glenys ynbresennol, ac yr oedd wrth ei bodd.

addysgwyd glenys yn ysgol rudstonroad ac yn ysgol Sul capel yMethodistiaid calfinaidd edge lane.yno yr ai y teulu, ac yn 1975 ymunoddhi a’i theulu capel Bethel. Byddwn yntreulio pnawn cyfan yn y cylch lle ytrigai y teulu ag aelodau eraill, sefIlchester road. Bu farw ei thad alfredlloyd yn weddol buan, agwasanaethais yn yr arwyl, gan gysuroei briod ellen lloyd Jones, ei chwaerMargaret a’i phriod tom Phillips, aglenys a’i phriod John. derbyniwngroeso mawr ym mhob ty a balchter eibod yn cael ymweliad y bugail o Bethel.

y tro cyntaf imi weld glenys oedd arfaes eisteddfod genedlaethol rhuthunyn 1973 a hithau yng ngofal stondinsymudol gwerthwyr everton toffees adanteithion eraill, Barker and dobson.yr oedd yn ferch hardd a’i gwallt du,ac yn feistres ar y gwaith. Wedi’r cyfanteithiai yn gyson i bob cae ras ceffylauenwog, fel aintree a haydock,uttoxeter ac yn y blaen, i werthu ydanteithion. rhoddodd pobl y ceffylauenw arbennig a oedd yn gweddu iddi,“Miss Sweetie”.

am 21 mlynedd bu’n ysgrifenyddes iwr amlwg ym mywyd lerpwl, ericroberts, cadeirydd clwb Pêl-droedlerpwl ac y mae hynny yn adlewyrchuei dawn gweinyddol.

yn ei bywyd personol fe gofiramdani, am ei gofal arbennig o’ichymdogion a’i ffrindiau. ar ôlmarwolaeth Mr emlyn roberts,Ilchester road llwyddodd ei briod iaros yn y cartref oherwydd gofalglenys a’i ffrind Miss Megan lewis.Pan aeth Megan ei hun yn fregus,

daeth glenys i’r adwy gydag eraill iwarchod ei ffrind o gapel edge lane aci ymweld â hi yn gyson yn y cartrefhenoed. dyma’r adeg yr anwylodd eihun i lawer o aelodau Bethel. yn ail eiymroddiad i’w theulu. gwelodd un ar

ôl llall o’r anwyliaid yn ymadael a’rfuchedd hon, a chafodd brofedigaethaumawr ym marwolaeth ei chwaer hynafMenai yn 53 mlwydd oed ac yn gadaelpedair geneth i hiraethu. Bu hi yn gefniddynt, ac yn ei gwaeledd hithau,talwyd y gymwynas ar ei chanfed ganlynsey, carol, Julie a Sharon. yn ei

bumdegau hefyd y bu farw ei brawdarfon ac yn yr argyfwng hwnnwgwnaeth ei gorau yn y trefniadau agofalu cael gwasanaeth ei gweinidog.yn drydydd cymru. yr oedd wrth eibodd pan fyddai John yn troi trwyn ycar am Walia Wen, yn arbennig iarfon a Môn.

gwelodd Prysgol a bedd ycyfansoddwr ym mynwent capel y Mcyn caeathro, ger caernarfon. yr oeddganddi momentos o gymru yn eichartref a gwerthfawrogai bob eitem.gofalai fynychu cyfarfodydd gwylddewi yn neuadd y ddinas gydaMegan. yr oedd yn fodlon braf.

yn gynharach eleni, bu’n rhaid iddifynd o dan archwiliad a derbyntriniaeth lawfeddygol yn ysbytyWhiston. oherwydd gwaeledd eiphriod yr adeg honno, trosglwyddwydglenys Mcnulty i hospis Marie curieyn Woolton lle cafodd ofal arbennig.cefais neges gan gaplan yr hosbis fodbywyd ein chwaer yn y fantol ar bnawnMercher, 28 Medi. roeddwn yno yn yrhwyr gyda’i anwyliaid a chawsomweddi o amgylch y gwely a hithau ynclywed yr eiriolaeth ar ei rhan hi, eitheulu, a ninnau fel eglwys.

Bu nifer dda o’n plith yn ymweld yngyson â hi yn Woolton a daeth yrymwared ar fore Iau, 30 Medi.cynhaliwyd yr arwyl ar bnawn llun,13 hydref yng nghapel Bethel acamlosgfa Springwood o dan fy ngofal,gyda Mrs Margaret anwyl Williams ynorganydd. ‘Pryd hyn y daw troeon yryrfa yn felys i lanw ein bryd’.

d. Ben rees

9

Coffâd am

Mrs glenys lloyd Mcnulty, childwall(1943 – 2014)

Glenys Lloyd McNulty

• tanysgrifiadau/rhoddion - Llawer o ddiolch am haelioni i’r papur bro hwn, papurunigryw iawn yn hanes newyddiaduriaeth Cymraeg 2014. Daliwch i’w gynnal trwyanfon at ein Trysorydd, Roderick Owen, Maeshir, 21 Drennan Road, Allerton,Lerpwl/ Liverpool L19 4UA, a chaiff eich cyfraniad ei gydnabod yng Nghornel yTrysorydd yn rhifyn nesaf Yr Angor.

• Pris Yr Angor yw £11.00 trwy’r post bob mis o Mehefin 2014 ymlaen. Anfoner eichsiec i Bwyllgor Yr Angor. Hysbyseb – £60 y tudalen; £30 hanner tudalen.

• rhIfynnau neSaf yr angor

1) rhifyn chwefror 2015 – erbyn bore Gwener, 2 Ionawr i 32 Garth Drive, Allerton,Lerpwl L18 6HW – y lluniau, adroddiadau, llythyron etc.

ii) rhifyn Mawrth 2015 – erbyn bore Llun, 2 Chwefror neu ar y we [email protected]

iii) rhifyn ebrill 2015 – erbyn bore Sul, 1 Mawrth 2015 man pellaf.

• cofier y wefan – Liverpool-welsh.co.uk (ewch yno bob mis) a Cymry-Lerpwl.co.ukMae’r ddwy wefan wedi ei ailgynllunio ac yn haeddu cefnogaeth. Diolch i Dr. PatWilliams, Dr. Arthur Thomas, Dr. Ben Rees, Dr. John G. Williams a Mr. RoderickOwen am yr awgrymiadau i feistr y wefan, David Fletcher.

Gair Byr i’r Darllenwyr, Cyfranwyr,

Dosbarthwyr a Theulu’r Angor

1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 9

Page 10: CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

Eleni mae Cymdeithas Cymru-Ariannin yndathlu ei phen blwydd yn 75 oed, ac i gyd-fynd â’r garreg filltir hon mae’r gymdeithaswedi cyhoeddi cyfrol arbennig sy’n bwrwgolwg yn ôl dros dri chwarter canrif o’igweithgarwch. Ceir yn Cymdeithas Cymru-Ariannin 1939-2014 ddetholiad o ysgrifau agyhoeddwyd yn 1989 yn wreiddiol, yn ogystalag ambell gyfraniad ychwanegol. Cofiwnfod Mrs Elan Jones, Mossley Hill wedi rhoddioes i’r Gymdeithas

Diddorol dros ben oedd darllen ambrofiadau’r unigolion hyn o Gymru a'r Wladfa– Ivonne Owen, y Parchg Eirian Wyn Lewis,Cathrin Williams, Mari Emlyn ac ElveyMacDonald – a dysgais dipyn am hanes ygymdeithas ei hun hefyd, megis y ffaith mai eihenw gwreiddiol oedd ‘Cymdeithas CymryAriannin’. Ond buaswn wedi gwerthfawrogipennod agoriadol i’r gyfrol ar hanes ygymdeithas er mwyn cael gwell dealltwriaetho’r hanesion personol hyn, a theimlwn ybyddai cynnwys rhywfaint o luniau yncryfhau’r ysgrifau gan gynnig darlun mwybyw a chyflawn i ni o brofiadau'r awduron.Felly pleser oedd cyrraedd y bennod 'HanesSefydlu’r Gymdeithas' gan Eiddwen

Humphreys, sy'n olrhain cychwyniadau’rgymdeithas yn Eisteddfod GenedlaetholDinbych 1939 a'i gweithgarwch dros ydegawdau dilynol. Dyma gofnod hanesyddolgwerthfawr, ac mae’n drueni nad oes dilyniant

iddo sy’n ymdrin â gwaith CymdeithasCymru-Ariannin ers hynny. Fodd bynnag,sonnir mewn penodau eraill am rai agweddauar ei gweithgarwch diweddar, megis CynllunDysgu Cymraeg Chubut, anfon pregethwyr achystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol iWladfawyr, gan adlewyrchu diwydrwydd ygymdeithas dros yr hanner canrif diwethaf.

Wrth i ni nesáu at ganmlwyddiant a hannerers sefydlu’r Wladfa Gymreig ymMhatagonia, diddorol iawn oedd darllenadroddiad Valmai Jones ar ddathliadau’rcanmlwyddiant yn 1965 mewn nifer oleoliadau ar hyd a lled Cymru a’r Wladfa – aLlundain – trwy gyfrwng amrywddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous.Dyma hwb ar gyfer dathliadau’r 150 yflwyddyn nesaf, ac mae crynodeb ElveyMacDonald o’r hyn y gellir ei ddisgwyl yngNghymru yn 2015 yn sicr o ennyn diddordeba chyffro!

Y mae Lerpwl yn rhan o’r dathlu.Trwy gyfres o ysgrifau gafaelgar ac adran

luniau fywiog, dyma gyflwyniad gwerthfawri’r berthynas dra phwysig honno sy’n parhaurhwng Cymru a’r Wladfa. Mae’n rhaidystyried a fyddai’r berthynas honno cyngryfed ag y mae hi heddiw oni bai am waithparod a diflino’r gymdeithas hon. Boed iddibarhau felly, fel y gallwn ymhen 25 mlyneddddarllen am lwyddiannau pellach CymdeithasCymru-Ariannin.

Lois Dafydd

10

Roedd yna ostyngeiddrwydd anghredadwy yn nyfodiadDuw. Ei fyd ef ei hun oedd hwn. Yn wir, efallai ein bodwedi cael sioc fod y fath digwyddiad anferth wedi digwyddyn y fath dlodi a di-nodrwydd fel y con iclwyd. Wrthfeddwl, anodd creu Ei fod yn Fab Duw. Fe anwyd mewn“beudy, isel gwael” yng nghefn tafarn pentref – Y GAIR awnaethbwyd yn gnawd – OND dyma wedi’r cyfan ydyffordd Duw ynte? Fel dywed J. B. Phillips “His ‘weakness’is greater than our strength and His ‘foolishness’ greaterthan all our wisdom”. Ni all ein balchder, ein casineb, einhofnau nac ein hunanoldeb wahanu ni oddi wrth y cariadddi-ball. Mae’r Baban yn FYW yn ein calonnau hyddragwyddoldeb ymhell tu hwnt i Amser a Gofod. Mae’rBrenin yn teyrnasu o raid.

Edrychwn ymlaen yr adeg yma o’r flwyddyn. Roedd yrhen dduw Rhufeinig, Janus, yn cael ei bortreadu weithiau felyn ddau wynebog, hynny yw fel un yn edrych ymlaen ac ynôl. Rydym yn tueddu i wneud yr un peth. Ydy hi meddechwerth edrych yn ôl – chwedl y Sais “water under thebridge”. Imi, mae’n werth edrych yn ôl i weldcamgymeriadau a’n methiannau. Edrych hefyd mewn diolchdiffuant am Ei holl fendithion ar ein rhan a gweddio am unfendith arall sef UN i’w gwerthfawrogi y tu hwnt i’r cyfan igyd. Beth bynnag ddaw i’n rhan “Bodlon os caf ymaflyd ynDy Law” meddai’r emynydd. Dyma ni, felly, ar drothwyBlwyddyn Newydd – cyfarchion ddiffuant i chwi gyd ynaelodau o’r ANGOR a’r pwyllgor gwaith i lawr i’r “iselrai”!!! Boed bendith y Duw yn cerdded gyda chwi. Yn ydyfodol agos bydd y Grawys yn dechrau ac mae’n gyfaddasi ddweud ei bod yn adeg sancteiddhad a thyfiant ysbrydolmewnol. Cofiaf yn y Rhondda ers talwm i’r annwyl Tom

Nefyn ddweud wrthym ni bobl ifanc “Bois bach,gweddiwch o hyd. Yr wyf yn greadur ysbrydol ac anfarwolac mae’n ddigon i’ch cynnal am byth.” Cofiaf hefyd yr adegyma ddarllen am Luther yn dweud fod y frawddeg “Fellycarodd Duw y Byd” yn golygu yr Efengyl mewncnewyllyn – y cyfan ar ei orau wnewch chi edrych? Yma,cewch y Rhoddwr, y Cymellwr, y Gwrthrych, y Rhodd a’rPwrpas i gyd gyda’i gilydd. Heb fanylu yn llawn Duw ydy’rRhoddwr a digon yw dweud mai Cariad ydy’r cymheddliadnid sylwer “Felly hoffodd”. Yn sicr mae llawer o bethau yny byd nad ydyw yn hoffi ond trwy’r cyfan mae Duw yn dali’n caru am mai cariad yw natur y Crëwr, a chariad ywgraen y Cread. Annigonol yw rhodd heb y cymhelliad iawn.Dywedodd Sant Vincent de Paul wrth Ladies of Charity:“Dim ond eich cariad tuag at yr anghenus a’u galluoga ifaddau i chwi y bara a ddygwchiddynt”.

Beth ydy’r rhodd? Cyflwyno yMab – yr annwyl Iesu Grist i’chbywydau. Ie, y Baban a anwyd yn ybeudy isel gwael – Beth yw Eibwrpas? Dim llai gyfeillion annwylond rhoddi i chwi FYWYDTRAGWYDDOL. Canwn gydageneiniad:

‘Fy enaid cred, yr unig credYr Iesu mawr ei hun,

Mae pob cyfiawnder ynddo EfEr maint yw eisiau dyn.’

elWyn

Myfyrdod ar nadolIg 2014

cymdeithas cymru-ariannin 1939-2014Elvey MacDonald

Cymdeithas Cymru-Ariannin, 2014. 56t. £5

1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 10

Page 11: CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

11

おめでとうございます(llOngyFaRCHiaDaU)

llongyfarchiadau i Undeb gorawl Cymry lerpwl ar eullwyddiant yn llwyfannu gwaith poblogaidd gilbert aSullivan sef y ‘Mikado’ yn Theatr y Cornerstone yngnghanol y ddinas. braf yw gweld y côr yn arbrofi felhyn. Roedd pob aelod o’r côr yn gwisgo gwyntyllbychan i’r cyngerdd fel y gwelir yn y llun. edrychwnymlaen at gyngerdd y nadolig.

Dwy o aelodau’r Côr: Eryl Dooling a Rhiannon Liddell

Y Côr a’r gynulleidfa ar noson y Mikado

1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 11

Page 12: CYF. 36. RHIF 7-8 RHAGFYR 2014 / IONAWR 2015 50c ... cyfan.pdf · C yst G of eb£5, 0 i’w chn l uag dr me wns r oib yg aS d ,M 302 15 ’ l ch p . 2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol

12

PearSon collInSonTREFNWYR ANGLADDAU LERPWL

GWASANAETH EFFEITHIOL -

CAPELI PREIFAT, CEIR MODUR HARDD, ATEB NOS A DYDD

Prif Swyddfa87-91 Allerton Road, Liverpool L18 2DD

Ffôn: 0151 722 1514. Ffacs: 0151 737 1997

Swyddfa arall255 Speke Road, Liverpool L25 0NN

Ffôn: 0151 448 0808

Os ydych ar ôl cysylltu gyda un o’r swyddfeydd am gael gair

personol ffoniwch 0151 722 1514 am gyfarwyddid

Cyhoeddwyd gan Bwyllgor yr Angor, Heathfield Road, Lerpwl 15.Cysodwyd ac argraffwyd gan

Aeron Jones, Ty’n y Cefn, Llanuwchllyn 07729 960484

Tomos a Joshua Rees, meibion Hefin a Bethan Rees, yn cael

eiliad cyn ras marathon tref Harpenden. Bu’r ddau yn

gyflym a chyraedd pen y daith – heb drafferth.

RHedWYR dRos aCHos daralI genhadol yn noddfa oaKeraVenue

Brynhawn Sadwrn, Hydref 4ydd cawsom ein Rali Genhadolflynyddol yng nghwmni Wendy Swan sydd yn weithiwrcymunedol yn yr Wyddgrug gyda phlant, ieuenctid atheuluoedd. Pleser oedd croesawu merch ifanc sydd yn fwrlwmo frwdfrydedd tuag at ei gwaith. Fe’i magwyd yn y Treuddynac mae i’w hedmygu am ddysgu’r iaith Gymraeg. Ar ôl addysgeilradd yn ysgol Maes Garmon, bu yn Canada am gyfnod cyndychwelydd i Gymru.Mae’n gweithio o danaden YmddiriedolaethAgathos ac yn mynd iwahanol ysgolion achlybiau pobl ifanc isiarad â hwy, rhoi hyderiddynt a chynnig cymorthar adegau da a drwg –nid gwaith hawdd ondgyda’i hymroddiad, eiffydd Gristnogol a’ihynawsedd, nid yw ygwaith pwysig hwn ynofer. Dymunwn yn ddaiawn iddi hi a LowriMitton sydd newyddddechrau ar yr un swyddyn ardal y Fflint.

Yn y llun Eleri Edwards,Mair, Wendy Swan a’r

llew

1_Tud 8 Mehefin.qxd 05/11/2014 19:42 Page 12