4

Click here to load reader

Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Mawrth 2013

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Yn y rhifyn hwn - Ffair Cyflogaeth Sir Gaerfyrddin, Gwobrau Cyflogwyr Mencap, Pythefnos Masnach Deg yng Nghaerffili a Hyfforddiant a Digwyddiadau

Citation preview

Page 1: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Mawrth 2013

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL

Mawrth 2013Yn y rhifyn hwn:CyflwyniadY diweddaraf am y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol, a gweithdy hawliau gofalwyr

Ffair Cyflogaeth Sir GaerfyrddinTrosolwg o Ffair Cyflogwyr Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ym mis Chwefror.

Gwobrau Cyflogwyr MencapMae Mencap yn falch i gyflwyno eu gwobrau Cyflogwyr cyntaf, a ddyfarnwyd i gyflogwyr lleol yn Ffair Gyflogaeth Sir Gaerfyrddin.

Pythefnos Masnach Deg yng NghaerffiliPobl ifanc o Gaerffili yn dysgu am fasnach deg.Hyfforddiant a DigwyddiadauRhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill

Croeso i rifyn mis Mawrth newyddlen prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Y mis hwn cymerodd staff o’r prosiect ran mewn dosbarth meistr ar Brofedigaeth gyda Cruse Bereavement, er mwyn eu paratoi’n well i gefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd trwy gyfnodau pan maent yn dioddef oherwydd colli rhywun agos atynt. Bydd mwy o wybodaeth am y dosbarth meistr hwnnw yn rhifyn Ebrill ein newyddlen, a fydd newyddlen rhifyn arbennig yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol i weithwyr proffesiynol i gyd-fynd â’n cynhadledd staff flynyddol a gynhelir ar ddydd Mawrth 16 Ebrill.Yn y rhifyn hwn gallwch gael gwybod mwy am ffair gyflogaeth ardderchog Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys gwobrau cyflogwyr cyntaf erioed Mencap a chlywed am sut wnaeth pobl ifanc Caerffili nodi pythefnos Masnach Deg 2013. Dros y misoedd nesaf mae llawer o ddigwyddiadau cyffrous yn digwydd yn cynnwys cwrs preswyl i bobl ifanc yn Llangrannog a’n cynhadledd flynyddol a fydd eleni yn ein cynhadledd olaf. Am fwy o wybodaeth am y gynhadledd flynyddol cysylltwch â Hannah o’r tîm hyfforddiant a gwybodaeth ar 01639 635650 neu yn [email protected] neu gallwch weld y newyddion diweddaraf ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan (www.realopportunities.org.uk, @Real_Opps neu chwiliwch am Real Opportunities ar Facebook).Hefyd, os ydych yn ofalwr peidiwch â cholli allan ar y gweithdai Hawliau Gofalwyr a drefnir gan Gyrfa Cymru lle gallwch gael gwybod mwy am eich hawliau cyfreithiol fel gofalwr. Mae’r nesaf yn cael ei gynnal ar ddydd Llun 22 Ebrill ym mhencadlys Gofalwyr Cymru yng Nghaerdydd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Pat McCarthy, Swyddog Cyfranogi Gofalwyr ar 07866 539075. Cynhelir y gweithdy rhwng 10:00am a 2:00pm, mae’n rhad ac am ddim ac mae cinio ysgafn wedi’i gynnwys.

Laura GriffithsSwyddog Gwybodaeth y Prosiect

Darparu CyfleoeddGwirioneddol i

Bobl Ifanc wrth iddyntDrawsnewidyn Oedolion

Page 2: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Mawrth 2013

FFair CyFlogaeth Sir gaerFyrddin

Cynhaliodd Tîm Both Cyfleoedd Gwirioneddol Sir Gaerfyrddin Ffair Gyflogaeth ar ddydd Llun 25 Chwefror ym Mharc y Sgarlets, gyda’r nod o hyrwyddo sgiliau a galluoedd pobl ifanc o’r prosiect o gyflogwyr lleol.

2

Denodd y digwyddiad dros 200 o ymwelwyr, oedd yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau o’r sector gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat, pobl ifanc, staff cefnogi, cyflogwyr a chynrychiolwyr y cyngor sir.

Cafodd ei gynnal gan gyfranogwyr y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol, Jack Cox a Shannon Livings, wedi’u cefnogi gan staff o’r tîm both a’i agor gan Bruce McClernon, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ystod y dydd, clywodd y mynychwyr gan amrywiaeth o siaradwyr yn trafod pynciau ynghylch cyflogaeth â chefnogaeth a gweithio gyda phobl ifanc ag anabledd dysgu. Cafwyd trosolwg academaidd gan Dr Stephen Beyer o Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru o ymchwil rhyngwladol ar fanteision cyflogaeth â chefnogaeth i bobl ifanc ac i gyflogwyr, oedd yn cynnwys manteision ariannol, gwell moral a gwaith tîm ymysg staff a gwell ymateb gan gwsmeriaid. Mae’r cyflwyniad ar gael i’w weld ar wefan Cyfleoedd Gwirioneddol yn yr adrannau

Ymchwil a Gwerthuso a’r adrannau rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Rhoddwyd cyflwyniad ysgogol gan Stuart McKinnon, Rheolwr Gwasanaethau yn Mencap Cymru am rôl asiantaethau cyflogaeth â chefnogaeth oedd yn cynnwys rhai ystadegau ysgytwol ynghylch faint o bobl ag anabledd dysgu sydd mewn cyflogaeth, a rhwystrau i gyflogaeth. Mae’r cyflwyniad hwn ar gael ar ein gwefan hefyd.

Yn y prynhawn, cyflwynodd Hannah Cox, swyddog hyfforddiant y prosiect Cyfleoedd

Gwirioneddol am nodau’r prosiect a Chynllunio Seiliedig ar y Person (PCP), sy’n rhan ganolog o’r holl waith a wneir gan y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Mae offer PCP ar gael am ddim i’w lawrlwytho o’n gwefan.

Cyflwynodd bobl ifanc o Ysgol Heol Goffa gyflwyniad am eu profiadau o leoliadau gwaith â chefnogaeth, a dweud faint o wahaniaeth yr oedd hyn wedi’i olygu iddyn nhw, yn cynnwys rhoi mwy o hyder iddynt a chodi eu dyheadau ar gyfer y dyfodol. Nododd bobl ifanc o Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth fanteision yr agwedd hyfforddiant teithio i baratoi ar gyfer gwaith, yn enwedig mewn perthynas â hybu annibyniaeth.

Amser cinio, roedd pobl wrth eu bodd â’r pwdinau yr oedd Tîm Coginio Cyfleoedd Gwirioneddol wedi’u paratoi ar gyfer ar ôl cinio. Roedd cacennau meringue lemwn, pwdin taffi gludiog, bisgedi a chacennau melfed coch â’r cwbl yn flasus iawn. Yn dilyn hyn cynhaliwyd seremoni wobrwyo lle

Pobl ifanc o’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol fu’n derbyn tystysgrifau, gwneud cyflwyniadau a chynnal y Ffair Cyflogwyr

Page 3: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Mawrth 2013

3

derbyniodd y bobl ifanc eu Tystysgrifau Rhwydwaith Coleg Agored mewn seremoni a gododd calonnau pawb. Cyflwynodd Claire Williams, enillydd Medal Efydd yng Ngemau Paralympaidd Llundain ar gyfer Disgen a Liz Alan, enillydd 2 Fedal Aur ac 1 Fedal Arian yng Ngemau Arbennig Olympaidd y gaeaf am Sgïo 107 o dystysgrifau i 45 o bobl ifanc sy’n achredu’r Rhaglen Sgiliau Bywyd y mae’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol wedi bod yn ei chyflwyno mewn ysgolion, cartrefi, colegau ac yn y gymuned.

Daeth y gynhadledd i ben gyda gêm rygbi ardderchog rhwng Llanelli Warriors y presennol a’r gorffennol.

Hefyd yn Ffair Cyflogaeth Sir Gaerfyrddin ym Mharc y Scarlets ar 25 Chwefror nododd Mencap ymdrechion cyflogwyr lleol trwy gyflwyno eu Gwobrau Cyflogwyr cyntaf erioed, i’w holl bartneriaid cyflogaeth sy’n cefnogi prosiectau Cyfleoedd Gwirioneddol, a rhoi cyfleoedd i gyfranogwyr ddangos eu sgiliau a’u galluoedd. Mae’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn rhoi profiad gwaith a hyfforddiant achrededig i bobl ifanc 14-19 oed, ac yn gweithredu ar draws 9 ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae cefnogaeth cyflogwyr fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn hanfodol wrth roi gwybodaeth i bobl ifanc am y diwydiannau amrywiol a’r llwybrau gyrfa posib sy’n agored i bobl wrth iddynt adael yr ysgol a’r coleg. Mae Mencap yn ymwybodol yn yr hinsawdd gymdeithasol economaidd heriol presennol, mae’n aml yn anodd i’r sector busnes ryddhau gallu i gefnogi prosiectau o’r fath. Yn hyn o beth rydym yn fwy diolchgar nac erioed i gyflogwyr lleol, am fod nid yn unig yn bartneriaid ymroddedig ond hefyd yn eiriolwyr allweddol i bobl ifanc ag anabledd dysgu.

Dewiswyd y gwobrau eleni gan ein Hyfforddwyr Swyddi, Amy Maund a Tom Clark. At hynny i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr, rhoddwyd gwobrau hefyd i Clayton Feeds a Co-op Felinfoel.

Roedd yn braf cael mynd allan ar ôl treulio diwrnod cyfan y tu mewn ac roedd yr awyrgylch yn wych. Mae adroddiad llawn am y gêm gyffrous hon ar gael ar-lein, a gallech ei weld trwy dudalen Facebook Cyfleoedd Gwirioneddol.

Diweddglo arbennig felly i ddiwrnod arbennig iawn. Sylwodd pobl fod awyrgylch positif iawn yn yr ystafell. Cododd rhai rhieni a phobl ifanc i ddiolch i’r Tîm Cyfleoedd Gwirioneddol am y gefnogaeth gynhwysfawr a pharhaus y maent wedi’u derbyn. Dywedodd Jack Cox mai diwrnod y gynhadledd oedd diwrnod gorau’i fywyd.

“Roedd yn bleser i mi, ar ran Mencap a’n tîm cefnogi, i allu cyflwyno gwobrau cyntaf Mencap i sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn rhy aml mewn cymdeithas mae pobl ag anableddau yn cael eu gadael ar y cyrion. Trwy gefnogaeth cyflogwyr prif ffrwd, mae pobl ag anabledd dysgu yn cael y cyfle i ddangos eu sgiliau a’u galluoedd, a chyfrannu ar weithlu amrywiol â sylfaen o ymrwymiad i

gyfleoedd cyfartal.”

Dywedodd Stuart McKinnon, Rheolwr Gwasanaethau gyda Mencap:

Cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr, Claytons a Co-op Felinfoel yn derbyn eu gwobrau.

gwobrau CyFlogaeth MenCap

Page 4: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Mawrth 2013

4

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01639 635650 neu yn [email protected]

hyFForddiant a digwyddiadauI archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] neu ar 01639 635650

Cynhaliwyd Pythefnos Masnach Deg rhwng 25 Chwefror a 10 Mawrth 2013 ac eleni cafodd cyfranogwyr y prosiect o Gaerffili gyfle i ddysgu am Fasnach Deg o ganlyniad

i gefnogaeth hael Sainsbury’s ym Mhontllanfraith a Siop Fwyd y Co-operative ar Ffordd Mabon yn Nelson.

Mae ffocws Masnach Deg ar helpu ffermwyr a gweithwyr i wella ansawdd eu bywydau a chael mwy o reolaeth dros eu dyfodol. Sefydlwyd y Sefydliad Masnach Deg i fynd i’r afael â thlodi ac anghyfiawnder trwy fasnach ac maent wedi sefydlu’r Nod Masnach Deg i labelu cynnyrch sydd wedi cyrraedd safonau Masnach Deg rhyngwladol.

Cymerodd bobl ifanc Caerffili ran mewn gwahanol weithgareddau i ddysgu am Fasnach Deg. Datblygodd y bobl ifanc eu sgiliau byw’n annibynnol a gwneud penderfyniadau gyda chynnyrch blasus Masnach Deg.

Ar ôl gwaith tîm i wneud tost blasus, dewisodd y

pytheFnoS MaSnaCh deg yng nghaerFFili

cyfranogwyr o blith mêl Masnach Deg, jam mefus Masnach Deg, marmalêd Masnach Deg a menyn cnau mwnci Masnach Deg i’w rhoi ar eu tost.

Mewn Sesiynau Synhwyraidd, mae cyfranogwyr wedi bod yn archwilio cynnyrch Masnach Deg. Maent wedi bod yn mwynhau sesiynau tylino dwylo yn defnyddio menyn corff Masnach Deg ac arogleuon hyfryd blodau Masnach Deg.

Roedd bwyta’n iach yn flaenoriaeth wrth wneud diodydd Masnach Deg, gyda sudd ffrwythau Masnach Deg blasus a ffrwythau (bananas, orennau, mango, llusi duon bach a phinafal) yn cael eu huno i wneud diodydd hyfryd.

Roedd sesiwn flasu siocled Masnach Deg yn ardderchog! Mwynhaodd y cyfranogwyr fwyta siocled, taffi, tryffls a bariau miwsli Masnach Deg â gwahanol flas. Hyfryd! Dywedodd un person ifanc:

“dylai pawb brynu cynnyrch Masnach Deg – rydych yn helpu pobl eraill ac mae’n flasus

iawn!”Gallwch gael gwybod mwy am Bythefnos Masnach Deg 2013, a chymryd rhan trwy fynd i www.fairtrade.org.uk

Cynhadledd StaffDyddiad: 16eg Ebrill 2013Amser: 9:00am – 4:30pmLleoliad: Orenfa Margam, Port TalbotI: Holl staff y prosiect

Rhwydwaith Cynllunio at y DyfodolDyddiad: 19eg Ebrill 2013 Amser: 10am – 1pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge Fach For: PCP/Cyswllt Teuluoedd a Sgiliau Byw’n Annibynnol

PCP 5 DiwrnodDyddiad: 29eg/30eg Ebrill, 21ain/22ain May & 8eg Awst 2013Amser: 9:30am-4:30pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge Fach I: Holl staff y prosiect

Dosbarth Meistr Hawliau a Chyfrifoldebau PlantDyddiad: 2il Mai 2013Amser: 10:00am-1:00pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge Fach I: Staff y Prosiect

Cyflwyniad i PCPDyddiad: 3ydd Mai 2013Amser: 10:00am – 1:00pmLleoliad: Central South ConsortiumI: Pawb yn RhCT/Torfaen/Caerffili

Dosbarth Meistr Trais DomestigDyddiad: 13eg Mai 2013Amser: 9:30am-1:00pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge FachI: Staff y Prosiect