50
C YMDEITHAS E DWARD L LWYD Y Naturiaethwr Cyfres 2 Rhif 8 Gorffennaf 2001

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr...tebyg) ym mhob cwr o’r wlad - o ynysoedd Erch (Orkney) i Ddyfnaint ac o’r Burren yn Iwerddon i wastatir Swydd Norfolk; ac nid unwaith na

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

    Y NaturiaethwrCyfres 2 Rhif 8 Gorffennaf 2001

    Dosberthir yn rhad i aelodauCymdeithas Edward LlwydPris i’r cyhoedd £2.50

    Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannoltrwy gymhorthdal gan Gyngor CefnGwlad Cymru

  • Cymdeithas Edward LlwydSefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas Genedlaethol Naturiaethwyr Cymru.Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd yn ei gyfnod “y naturiaethwr gorauyn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu dros eu gwarchod.Mae’r Gymdeithas yn:

    • trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

    Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £10Teulu - £12Myfyrwyr, pensiynwr, di-waith - £6I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Iwan Roberts, 3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 4LJ.

    Diploma/MAÔl-Radd/ÔI-Brofiad mewn

    Rheolaeth Cefn GwladChwilio am waith ym myd cadwraeth?

    Angen hwb i’ch gyrfa?Os oes gennych radd neu brofiad perthnasol mewn gwaith cefn gwlad neu ym myd yr amgylchedd,hwyrach mai’r cwrs hwn yw’r union beth sydd ei angen arnoch!

    • Cwrs blwyddyn llawn amser neu rhan amser dros ddwy flynedd• Cyfuno profiadau theoretig ac ymarferol• Astudiaethau perswyl yn Eryri• Hyfforddiant o ansawdd ardderchog• Uchel ei fri ymysg darpar gyflogwyrRhoddir hyfforddiant arbenigol mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, Y CyngorAstudiaethau Maes, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Cyngor Chwaraeon.

    Cefnogir y cwrs gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. Os ydych dros 25 oed, yn ddi-waith ac â’r cymwysterau perthnasol, rydych yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol sy’ntalu’r ffÏoedd hyfforddi ac yn cyfrannu tuag at gostau cynnal.Am wybodaeth bellach, ffurflenni cais neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:Geraint George, Rheolaeth Cefn Gwlad,Ysgol Astudiaethau Cymuned, Rhanbarth a Chyfathrebu,Prifysgol Cymru Bangor, BANGOR,Gwynedd LL57 2DG.

    Ffon: (01248) 383649/383231 • Ffacs: (01248) 382189

    Clawr Blaen:Llun: Dyfed Elis-Gruffyd

    Cofeb i Edward Llwyd ger y Ganolfan UwchefrydiauCymreig a Cheltaidd, Aberystwyth, 9 Mehefin 2001.

    O’r chwith:Yr Athro Geraint H.Jenkins, Pennaeth y Ganolfan; Dafydd Wigley A.C., a fu’n gyfrifol amddadorchuddio’r gofeb;Y Cynghorydd Goronwy Edwards, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion; Dr. Brynley F.Roberts, prif siaradwr gwadd.

    Cynrychiolwyd Cymdeithas Edward Llwyd gan ein Llywydd, Dafydd Dafis a nifer o’r Swyddogion.

    Y Gofeb: y benddelw o waith y cerflunydd John Meirion Morris, y maen (darn o Galchfaen Garbonifferaiddo chwarel Hopton Wood, Middleton, Swydd Derby) o waith y saer maen/ceinlythrennwr Ieuan Rees.

    Lluniau’r Clawr

    Clawr ôl: Afon WysgLlun: Goronwy Wynne

  • Golygydd: Goronwy Wynne, “Gwylfa”,Licswm, Treffynnon, Sir Fflint CH8 8NQ.

    Cymdeithas Edward Llwyd 2001 – 02

    Llywydd: Dafydd Davies

    Cadeirydd: Goronwy Wynne

    Is-gadeirydd: Harri Williams

    Trysorydd: Ifor Griffiths

    Ysgrifennydd: Megan Bevan, “Y BlewynGlas”, Porthyrhyd, Sir GaerfyrddinSA32 8PR.

    Ysgrifennydd Aelodaeth: Iwan Roberts,3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun,Sir Ddinbych LL15 1BT.

    Y Naturiaethwr, Cyfres 2, Rhif 8, 2001.

    Cyhoeddir Y Naturiaethwr gan GymdeithasEdward Llwyd.

    Dyluniwyd gan: MicroGraphics

    Argraffwyd gan: Gwasg Dwyfor

    Mae hawlfraint pob erthygl yn eiddo i’r awdur.

    Y Naturiaethwr

    Cynnwystudalen

    Gair gan y Golygydd 3Goronwy Wynne

    Dod i nabod ein gilydd:Megan Bevan 4Myfanwy Sandham

    Clwy y Traed a’r Genau 5Gwynn Llywelyn

    Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig - ei hanes a’i swyddogaeth 7Merfyn Williams

    Daeareg Croes Caeriw,de Penfro 10Dyfed Elis-Gruffydd

    Adar y môr yng Ngheredigion 15Hywel Roderick a Peter Davis

    Ychwanegiad i ‘Mewnlifiad ymileniwm: blwyddyn y gwynfynod estron’ 22Duncan Brown

    Adnabod rhai o’r hwyaid 23Eifion Wyn Griffiths

    Daearegwyr yn Eryri 25Dewi Jones

    Plas Tan y Bwlch yng nghwmnidisgyblion cynradd Cymru 30Ann Thomas

    Llên y Llysiau - y diweddarafElinor Gwynn 33

    Wyddoch chi? 37

    Llun pwy? 38

    Nodiadau Natur 39

    Llythyrau 41

    Adolygiadau 43

    Cyfres 2 Rhif 8 Gorffennaf 2001

  • 3

    Gair gan y GolygyddGoronwy Wynne, Gwylfa, Licswm,Treffynnon,

    Sir y Fflint, CH8 8NQ.

    Tel.: 01352 780689

    Rywbryd tua1958, aminnau’n athroifanc mewn ysgoluwchradd,cymerais y cyfle ifynd am wythnosar gwrs bywydegi Malham Tarnger Settle ynSwydd Efrog.Cwrs oedd hwn iastudio byd

    natur ar y garreg galch. Cefais flas ar yrhyfforddiant a’r awyrgylch. Mae MalhamTarn yn un o ganolfannau’r CyngorAstudiaethau Maes (Field Studies Council).Mae gan yr F.S.C. rhyw ddwsin oganolfannau yng Nghymru a Lloegr (gangynnwys un ym Metws-y-Coed a dau ynSir Benfro) a thros y blynyddoedd rwyfwedi ymweld â bron bob un ohonynt -weithiau fel myfyriwr ac weithiau fel athro.Cafwyd cyrsiau ar ecoleg, botaneg, adar,mamaliaid, pryfetach, mwsogau a chen,bywyd dŵr croyw, byd natur y glannau,patrymau’r ucheldir, coed, rhedynnau allawer mwy.

    Am 23 mlynedd cefais y pleser o fynd âmyfyrwyr coleg i’r canolfannau hyn (a rhaitebyg) ym mhob cwr o’r wlad - o ynysoeddErch (Orkney) i Ddyfnaint ac o’r Burren ynIwerddon i wastatir Swydd Norfolk; ac nidunwaith na dwywaith y tystiai’r myfyrwyrmai dyna’r wythnos orau o’u cwrs coleg.

    Beth, medde chi, ysgogodd y sylwadauhyn? Wel, sylwi ar bennawd yn un ogyfnodolion Cymdeithas Ecolegol Prydain,- “Fieldwork: is it in terminal decline?”.Neges yr erthygl yw fod llai a llai o waithmaes yn digwydd yn ein hysgolion a’ncolegau. Bellach, dim ond opsiwn ywecoleg yn y cwrs lefel A, ac mae llawer ofyfyrwyr bywydeg yn cwblhau eu cwrsgradd heb wybod y gwahaniaeth rhwng

    robin goch a phren gwsberins. Gofalwnnad yw Cymdeithas Naturiaethwyr Cymru,- y chi a fi, yn mynd yr un ffordd.

    Cadw TrefnWyddoch chi fod plismon o Heddlu

    Gogledd Cymru wedi’i benodi i weithio ofewn y Cyngor Cefn Gwlad am flwyddyn, ihelpu i rwystro troseddau ynglŷn â bywydgwyllt? Os gallwch helpu, ffoniwch Sgt.Pete Charleston ar 01248 385784.

    Pobl gefnog?Rhaid bod gan bob aelod o Gymdeithas

    Edward Llwyd ddigonedd o arian. Rydymyn cynnig grantiau o £600 bob blwyddynam waith ym myd natur, ond ers dwyflynedd bellach does neb wedi cynnigamdanynt. Edrychwch eto ar y manylion ardudalen 45.

    Y ClwyTeimlodd y Gymdeithas mai doeth

    fyddai peidio cynnal unrhywweithgareddau awyr-agored yn ystodargyfwng y Traed a’r Genau. Diolch i bawbam eu cydweithrediad a’u hamynedd, adiolch i Gwynn Llywelyn, y milfeddyg oRuthun, sy’n aelod o’r Gymdeithas, am eierthygl yn y rhifyn hwn.

  • Ganwyd Megan ynLlanelli - y drydeddferch i Mr. a Mrs. T.E. Tayson. (Ni chefaisy fraint o gyfarfod âMrs. Tayson, ondteimlaf fy mod yn eihadnabod yn ddadrwy wrando, rhwngy llinellau, argyfeiriadau caredig agwerthfawrogolMegan tuag ati.)

    ’Roedd Mr. Tayson yn Arolygwr yr Ysgol Sul, ynbrifathro Ysgol y Pentref ac ’roedd ei ddylanwad yngryf ar y plant oedd dan ei ofal. Mae’n amlwg fodMegan wedi etifeddu nodweddion arbennig eirhieni.

    Ein cyfarfod cyntaf? Dwy ferch ysgol yn galw yny Mans - i beth? meddech chi. ’Doedd neb wedi eugwahodd, ’doedd neb wedi awgrymu’r ymweliad,’doedd neb wedi pwyso arnynt i ddod. Na, rhywreddf ac agosatrwydd cynhenid i gymdeithasu ac igroesawu oedd wedi eu cymell. Anghofia’i bythmo’r noswaith honno. Sbri, hwyl, a chynhesrwydd,a dod i adnabod dwy ferch ifanc o’r Eglwys, Carysa Megan, nad oedd ofn arnynt i gnocio drws yMans, a hynny heb wahoddiad, i rannu’n cwmni achreu noson bleserus dros ben. Creodd hyn argraffddofn arnaf.

    Aeth Megan ymlaen i Aberystwyth, ac arddiwedd ei chwrs, llwyddo gydag anrhydedd yn yGymraeg (fel ’roedd pawb yn ei ddisgwyl wrthgwrs!).Yna daeth cyfnod priodi a magu plant, cynailafael ar fywyd cyhoeddus, a gweithio mewncylchoedd newydd amrywiol a diddorol.

    Bu’n byw yn Nhŷ Croes ger Rhydaman am raiblynyddoedd, ac fel rhan o’i gwaith gwirfoddol yno,bu’n golygu Glo Mân, papur bro’r ardal honno. Buhefyd yn Ysgrifenyddes Cymdeithas Rhieni YsgolGymraeg Rhydaman. Profodd ei hun yn y ddwyswydd yn weithgar iawn ac yn gadarn dros ben.

    Yn dilyn y cyfnod hwn, fe’i penodwyd ynGyfieithydd yng Ngholeg y Drindod yng

    Nghaerfyrddin, a chyn hir daeth yn gofrestrydd yColeg. Gwn fod y swyddi hyn yn gweddu i’r dimiddi, a hithau’n gweddu i fywyd y Coleg. Cefaisansoddeiriau gan ffrindiau iddi i’w disgrifio yn ycyfnod hwnnw - geiriau fel cymwynasgar,dibynadwy, sensitif, trefnus a thrwyadl. Dylai boddarlun go eglur o Megan yn eich meddwl erbynhyn!

    Ond nid dyna’r diwedd! Y syndod nesaf i nioedd deall fod Megan yn bwriadu dilyn cwrshyfforddi athrawon plant iau yng Ngholeg yDrindod. Ond, fel arfer ’roedd wedi meddwl ycyfan allan yn ofalus cyn cychwyn ar y daith.Gwyddem yn lled dda pe bai Megan yn rhoi ei llawar yr aradr y byddai’r gwys yn syth a diwyro.Ynasymudodd i fyw i Borthyrhyd, a daethom yngymdogion unwaith eto.

    Bu’n dysgu yn Ysgol Gymraeg Castell Nedd amgyfnod, a gallaf ddychmygu hoffter y plant ohoni.Cofiaf hi pan oedd rhai o’r wyrion yma’n aros, aKate, a oedd mor ofnadwy o swil, yn edrych i fywllygad Megan, yn gwrando ar bob gair, ond cyn hiryn siarad fel pwll y môr.

    Bu’n ysgrifenyddes Côr y Rhyd am raiblynyddoedd, a bu ei gwaith yno eto yr un mordrylwyr. Bu’n trefnu teithiau’r Côr i sawl man, iWlad y Basg, ac i’r Almaen, a’r cyfan, fel ydisgwyliech, yn llyfn a diffwdan, heb rwystr yn ybyd.

    Ac nid dyna’r cyfan! Mae Megan yn hedfan iBatagonia’n amlach nag y bydd rhai ohonom ynteithio allan o Gymru! Tra’r oedd yn gweithiogyda’r deillion yng Nghaerfyrddin beth amser yn ôl,cymerodd ddiddordeb mawr ym mhobol Patagonia,a bu yno deirgwaith er hynny. Mae newydd dreuliodeng mis yno yn dysgu Cymraeg i’r brodorion ynComodoro - a’r cyfan cofiwch chi ar ei chost eihun! Un fel’na yw Megan. Person eithriadol.

    Os am rannu cyfrinach bwysig hefo rhywun -Megan; os am gael barn ddoeth a gonest - Megan;os am ofyn ffafr arbennig - Megan. Un fel’na yw hi.

    Megan Bevan

    4

    Dod i Nabod ein GilyddPortread o Megan Bevan, ysgrifennydd Cymdeithas Edward Llwyd

    gan Myfanwy Sandham.

  • 5

    Clwy y Traed a’r GenauGwynn Llywelyn B.V.Sc., M.R.C.V.S.

    Hendre Dderwen, Pwllglas, Rhuthun LL15 2PD

    Mae hi’n anodd olrhain hanes cynnar Clwy y Traeda’r Genau, ond mae’n debyg ei fod wedi bod ynpoeni dyn a’i anifeiliaid ers dros 2000 oflynyddoedd. Dim ond tua chanol y ddeunawfedganrif y rhoddwyd yr enw yma arno. Dyma pryd ygwnaed astudiaeth weddol fanwl o’r afiechyd, a’iddidoli o nifer o afiechydon tebyg a adweinid danyr enw ambarel ‘Clwy y gwaetheg’ neu’r ‘Fwren’.

    Mae’n debyg fod y clwy wedi ymddangos yn yrynysoedd hyn yn 1745, ond yn benodol dan yr enwClwy y Traed a’r Genau fe’i gwelwyd am y trocyntaf yn 1839, ac y mae wedi digwydd ynysbeidiol yma byth er hynny.Yr anifeiliaid sydd yndioddef o’r afiechyd yw’r rhai sydd yn hollti’r ewin,sef yng Nghymru a Lloegr buwch, dafad, gafr, carwa mochyn, ac hefyd y draenog a’r mochyn cwta.Mae’n afiechyd sydd i’w gael dros y byd i gyd,oddigerth Awstralia a Seland Newydd.

    Mae feirws Clwy y Traed a’r Genau yn un o’rAphthovirus ac o fewn teulu’r Picornaviridae, ynfeirws bychan iawn a heintus iawn ac yn newid eiffurf yn barhaol. Mae iddo saith seroteip, a niferfawr o is-serodeipiau.Y mae’n achosi afiechyd ynsydyn ac yn lledaenu drwy’r corff ar fyrder, ynymosod ar y croen a’r bilen ludiog (mucousmembrane) gan achosi chwysigen yn y fan lle caifffynedfa i’r corff. O fewn 24 i 48 awr fe’i ceir yn ygwaed gan achosi twymyn.Yn y cyfnod yma mae’rfeirws i’w gael yn y glafoer, y llaeth, y dŵr a’r tail.Mewn gwartheg fe glywir y sŵn sydd ynnodweddiadol o’r clwy, sef y sŵn o lyfu gweflau -sŵn clecian bron, gwelir glafoerio helaeth,anesmwythyd garw yn y traed, a dyma’r cyfnod panddengys yr ail don o chwysigod. Fel y mae croen ychwysigod yn torri, gwelir briwiau, rhai ohonynt ynhelaeth, ar y dafod, y gwefusau, ar daflod y genau,ar y pwrs a’r tethi, a rhwng ewinedd y traed. Dyw’rddafad ddim yn dangos arwyddion mor bendant, ybriwiau yn aml wedi eu cyfyngu i’r traed. Dim ondoddeutu 5% o ddefaid sydd yn dangos arwyddiono gwbl. Weithiau gwelir chwysigod ar drwynmochyn ac ar y tethi yn ogystal ag ar y traed.Mae’n weddol gyffredin i weld moch a defaid yncolli ewinedd y traed oherwydd i’r chwysigod

    ddatblygu ar y goron rhwng yr ewin a’r croen.Ystyrir mai yn y mochyn mae’r feirws yn amlhaufwyaf, mai’r ddafad sydd waethaf am ledaenu’rafiechyd, oherwydd mai ychydig yw’r arwyddion,a’r fuwch sydd yn dioddef fwyaf.

    O’r holl afiechydon heintus, efallai mai Clwy yTraed a’r Genau yw’r rhwyddaf i’w ledanu.Y maecyn lleied â chyffyrddiad yn unig o’r afiach a’r iachbron yn sicr o drosglwyddo’r haint, ond gallunrhyw beth byw, yn enwedig pobol, neu gerbyd,neu offer neu fwydydd fod yn gyfrwng idrosglwyddo’r haint. Does dim dadl fod llawer oachosion yn digwydd oherwydd dyfodiad anifail,sydd i bob golwg yn iach, o fuches arall. Ac osbydd oedi cyn darganfod yr haint mewn buchesneu ddiadell, a bod anifeiliaid o fysg y rheini yncael eu dangos mewn sioeau, neu eu gwerthumewn arwerthiannau, gall lledaeniad yr haint fodyn frawychus a phellgyrhaeddol.

    Mewn achosion lle nad oes unrhyw gyswlltpendant wedi’i ddarganfod mae nifer o bethauwedi bod dan amheuaeth, megis: 1. Adar -gwylanod a’r drudwy yn cario’r haint ar eu traed,ond ychydig o brawf sydd o hyn. 2. Llygod mawr,ond prin y byddent yn medru lledaenu’r haint drosbellter. 3. Draenogod, anifeiliaid sy’n gallu dioddefac sydd hefyd yn cerdded cryn bellter pan ynchwilio am fwyd. 4. Anifail sydd wedi gwella o’rclwy ond sydd yn parhau yn gludydd, eto ychydig obrawf sydd o hyn. 5.Yr haint yn cario ar ddillad,esgidiau, bwyd anifeiliaid ac yn y blaen, ac maeprofion wedi dangos y gall yr haint fyw ar bethaucyffelyb am gyfnodau gweddol hir.

    Sut mae’r afiechyd yn cael ei gyflwyno i’rynysoedd hyn wedi cyfnodau o flynyddoedd ynhollol glir o unrhyw arwydd?

    Wrth gwrs mae amheuaeth mai adar mudol fel ydrudwy sydd yn dod â’r afiechyd i’r wlad ar eutraed wrth hedfan o’r cyfandir, ond prin ydi’rdystiolaeth.Y mae’n eitha posib fod rhai achosionwedi dod drwy i wair a gwellt heintiedig gael eudefnyddio o amgylch offer yn cael ei fewnforio, a’rgwair a’r gwellt hwnnw yn mynd wedyn i ffermydd.

  • 6

    Ond mae’n debyg mai’r achos mwyaf cyffredin, ynenwedig mewn moch, ac mae nifer fawr o achosionClwy y Traed a’r Genau yn cychwyn mewn moch,yw yr arfer o fwydo swill heb ei ferwi neu o leiafheb ei ferwi am ddigon o amser. Mae’r feirws yngallu byw mewn cig ac esgyrn sydd wedi’u rhewi, ahynny am amser gweddol faith. Os yw anifail yncael ei ladd cyn dangos dim arwyddion o’r haint,ond sydd er hynny yn heintiedig, a bod y cighwnnw yn cael ei rewi, a’i fewnforio i’r wlad, ynamae’r peryglon yn amlwg. Os na ferwir y toriadaumân o gig, ac os na ferwir yr esgyrn, yna mae eifwydo i foch yn beryglus dros ben.

    Os bydd yr afiechyd yn cael ei gwrs, gweliradferiad ymhen rhyw bythefnos i dair wythnos.Dyw’r cyfradd marwolaeth ddim yn uchel, 3%mewn gwartheg mewn oed, ychydig yn fwy nahynny mewn defaid a moch. Mae’r afiechyd yn caeleffaith fwy llym ar anifeiliaid ifainc, yn enwedig osbyddant yn sugno, a’r gyfradd farwolaeth yn llaweriawn uwch. Gwelir sgîl effeithiau gan i’r briwiaugael eu heintio gan facteria, yn cynnwys niwmonia,arthreitis a gwenwyniad gwaed. Ond yr effaithfwyaf yw’r dirywiad mawr mewn cynnyrch. Nidyw’r anifail yn ennill pwysau ac anodd iawn yw eibesgi, ac mae gallu’r fuwch i gynhyrchu llaeth ynllawer iawn llai.

    Mae polisi’r llywodraeth ar sut i ddelio hefoclefydau heintus iawn fel Clwy y Traed a’r Genauwedi’i osod ers canol y ddeunawfed ganrif, a’rdrefn honno yw lladd pobl anifail sydd yn dangosarwyddion, ynghyd â phob anifail a allai fod wedibod mewn cysylltiad, a hynny ar fyrder, ac ynacladdu neu losgi’r cyrff cyn gynted ag sydd ynymarferol.Yr ail beth yw cadw golwg fanwl ar yffermydd cyfagos, rhag ofn i’r clefyd ymledu. Efallaibod lle i ddefnyddio brechiad gan ddefnyddiofeirws marw, a hynny mewn cylch o gwmpas manheintiedig er mwyn cyfyngu lledaeniad y clwy, ondmae’r awdurdodau yn gyndyn iawn o wneud hyn.

    Petaent yn caniatau defnydd o’r brechlyn ynabyddai’n anodd iawn adennill y statws o wlad oeddyn rhydd o’r clwy, ac yn effeithio’n ddirfawr arallforion anifeiliaid a’u had a chig.

    Ôl Nodyn

    Pan ymddangosodd y Clwy yn 1967/68 yr oeddmaint y ffermydd a nifer yr anifeiliaid yn llai na’rhyn a welir heddiw, hefyd roedd y lladd-dai ynlleol, yn llai ond yn fwy niferus. Gan hynny nidoedd gofyn i symud anifeiliaid ymhell a bu moddcyfyngu, i raddau, ar ledaeniad yr afiechyd.Gwnaed diagnosis gan fil-feddyg ar y ffarm, ynaffonio’r brif swyddfa a disgrifio’n fanwl pob arwyddo’r clwy a chael cadarnhad yn y fan a’r lle, ac ynaml iawn yr oedd y lladd a’r claddu neu’r llosgiwedi’i gwblhau mewn pedair awr ar hugain a hynnyar y fferm heb symud yr un anifail oddi yno.

    Yn ystod y pymtheg mlynedd ar hugain diwethafmae’r awdurdodau wedi caniatau llacio ar y rheolauberwi swill, er eu rhybuddio gan filfeddygon. Achan mai mewn moch y cychwynodd y Clwypresennol, mae’n rhaid inni fod yn amheus mai ofwyd y daeth y feirws.

    Heddiw, mae’r awdurdod yma ac yn Ewropwedi gosod rheolau llym ar y lladd-dai, gan beri ilawer iawn o’r rhai bychan lleol gael eu cau. Ganhynny mae’r lladd-dai sydd ohoni heddiw yn llawermwy ac yn llawer llai mewn nifer. Wrth gyplysuhynny â’r ffaith fod ffermydd yn fwy gyda mwy oanifeiliaid, a bod marchnadoedd hefyd yn fwy, abod anifeiliaid yn cael eu cario bellteroedd maith ardraws gwlad, hawdd yw deall ei bod yn anoddach olawer i gyfyngu ar ledaeniad y clwy.

    Y mae’r diagnosis heddiw yn ddibynnol ar i’rfeirws a geir o’r cig neu o’r gwaed gael ei adnabodmewn labordy. Hynny yw, y mae’n rhaid cymrydsampl, ei gludo i labordy pa mor bell bynnag y maehwnnw, ei arbrofi - ac mae hynny’n cymryd o leiafbedair awr, ond efallai hyd at bedwar diwrnod -cyn penderfynu a yw’r diagnosis yn ddilys ai peidio.Yn y cyfamser, y mae’r anifail yn datblygu feirws acyn ei ollwng i’r amgylchedd.Y mae’r dechnoleg yny labordy wedi peri i fil-feddygon gymryd camsylweddol yn ôl, wedi arafu proses y diagnosis acwedi gwneud y dasg, oedd eisoes yn anodd, oddileu’r clwy yn llawer iawn anoddach.

    Arwydd - Clwy’r Traed a’r Genau

  • 7

    Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig- ei hanes a’i swyddogaeth

    Merfyn WilliamsCyfarwyddwr:Y.D.C.W.,T ŷ Gwyn, 31 Stryd Fawr,Y Trallwm, Powys

    Mae ‘na rywbeth mewn enw ond oes, acmae ‘Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig’(YDCW) wedi newid ei enw (a’i logo) fwynac unwaith ers ei sefydlu yn 1928. Dengysy newid enw newid pwyslais dros yblynyddoedd gan adlewyrchu esblygiad ymudiad ond mae’r egwyddorion sylfaenolyn aros.

    ‘Does unman yn debyg i gartref ’meddai’r hen gân - ac y mae gan Gymru eiphrydferthwch naturiol a hwnnw wedi’iaddasu tros filoedd o flynyddoedd gan boblgyda ffordd arbennig o fyw a diwylliantmewn dwy iaith.Y cydblethu hwn sydd ynffurfio ein ffenestr ni ar y byd fel y canoddWaldo yn ei gerdd Preseli

    ‘Hon oedd fy ffenestr, y cynaeafau a’r cneifio.Mi welais drefn yn fy mhalas draw.’Egwyddorion sylfaenol YDCW felly yw

    gwarchod y cydblethu rhwng dyn â’ramgylchedd ac i ‘gadw’r ffenestr yn glir’.Cri’r sylfaenydd Clough Williams-Ellisoedd

    ‘Menter, menter ar pob cyfri ond o’rmaint iawn, yn y lle iawn ac o fudd igymdeithas yn gyffredinol’.

    Gellir dod o hyd i hedyn y cychwyniadyng nghydwybod dynion busnes acarweinwyr Prydain ar droad y ganrifddiwethaf.Yr un hedyn roddodd fod i’rYmddiriedolaeth Genedlaethol yn 1895.Roedd rhai pobl yn sylweddoli boddatblygu di-lyffethair y bedwaredd ganrifa’r bymtheg, nid yn unig wedi creu cyfoethenfawr i rai unigolion ac i’r wladwriaeth,ond hefyd wedi creu anghyfartaledd enbydrhwng y tlawd a’r cyfoethog.Yn ogystal,ond yn gysylltiedig, roedd y broses ynbygwth llyncu cefn gwlad gan ddinistrio yrhyn a ystyriwyd fel ‘ysgyfaint y genedl’.Heb yr ‘ysgyfaint’ hwn a chyfle i’wgyrraedd roedd bywyd y di-freintiedig yndlotach fyth. Nid mangre i’r byddigion yn

    unig oedd mannau agored cefn gwlad ifod, ond dihangfa i bawb o bob dosbarth.

    Yn 1926 dyma’r cynllunydd enwog,Patrick Abercrombie gyda’r pensaerarloesol hwnnw, Clough Williams Ellis ynsefydlu’r ‘Council for the Protection ofRural England’ oherwydd eu pryder, ynbennaf, dros dyfiant cyflym a di-gyfeiriad ytrefi mawrion.Y ddelwedd o’r broses ganClough oedd yr octopws (y dref) gyda’identaclau (maestrefi) yn cofleidio ac ynmygu cefn gwlad.Yn wir, ysgrifennoddglasur o lyfr yn disgrifio’r bygythiadau ynlliwgar iawn o dan y teitl ‘England and theOctopus’ yn 1928.

    Yn 1927 yng Nghyfarfod BlynyddolCymdeithas y Cymmrodorion ynEisteddfod Genedlaethol Caergybicyflwynodd Partrick Abercrombie araith aryr angen am gynlluniau datblygu ar gyferCymru wledig gan gyfeirio at arwyddocâdsefydlu’r CPRE.

    Felly ym mis Mai 1928, yn Llundain (!)o dan nawdd y Cymmrodorion cynhaliwydcyfarfod cyntaf Cyngor Diogelu CymruWledig. Teg yw nodi, er mai yn Llundain ydechreuodd, ac mai yno roedd y swyddfa, ymynnodd y sylfaenwyr bod y Cyngornewyddanedig yn hollol annibynnol o’ichwaer fudiad yn Lloegr.Yn 1931 wrthrecriwtio am swyddog dros Gymru

    Mynydd Clogau, Maldwyn

  • 8

    gwnaethpwyd y Gymraeg yn angenrheidiolar gyfer y swydd.

    O’i ddechreuad roedd YDCW yn agosi’r Sefydliad, fel petai, gyda’r Ysgrifennyddcyntaf sef Alfred T. Davies yn ysgrifennyddparhaol cyntaf adran Gymraeg y BwrddAddysg yng Nghymru, a gŵr a fu’nallweddol yn yr ymgyrch i arbed DyffrynCeiriog rhag gael ei foddi i wneud cronfaddŵr i Warrington. Dau enw arall pwysigiawn oedd Alwyn Lloyd a Clough WilliamsEllis

    Yn y blynyddoedd cynnar hynny y teitlarddelwyd ar y mudiad gan rai oedd‘Cyngor er Diogelu Harddwch Cymru.’ Acmae hyn yn arwyddocaol. Roedd rhai ami’r corff ganolbwyntio ar yr allanoliongweladwy tra roedd eraill am i’r Cyngorfynd i’r afael yn llawer mwy â bywyd aceconomi’r Gymru wledig.

    Daeth y gwrthdaro hwn i’r amlwg ynhanes yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth. Uno’r aelodau cyntaf oedd Saunders Lewis acroedd o am i’r Cyngor wneud safiad ar yprosiect ond gwrthodwyd ei gais acymddiswyddodd.

    Mewn gwirionedd roedd y digwyddiadyma’n adleisio brwydr fewnol yn y mudiada barhaodd am nifer o flynyddoedd. RoeddClough yn sôn am greu rhaglen‘economegol/wleidyddol/ esthetig’ ar gyfercefn gwlad - yr hyn a alwn erbyn hyn yn‘ddatblygiad cynaladwy’. Roedd o’n deallpwysigrwydd y cyd-blethu ac roedd ynddyn o flaen ei amser ond roedd eraill ofewn y Cyngor heb fod mor gynhwysol eugweledigaeth ac yn mynnu mai ei unigswyddogaeth oedd gwarchod agweddauesthetig.

    Yn anffodus, cefnogwyr yr allanolionenillodd y dydd yn y cyfnod cynnar achymerodd hyd 50au’r ganrif ddiwethafcyn i YDCW ailafael yn llawn aregwyddorion ei brif sylfaenydd.Yr adeghonno sefydlwyd pwyllgor gan y mudiadgyda chynrychiolaeth o bob sector ogymdeithas i weithio ar greu cyfleoeddgwaith yng nghefn gwlad Cymru - raiblynyddoedd cyn i Fwrdd Datblygu CymruWledig ymddangos!

    Ceir tri prif amcan i weithgarwchYDCW sef:

    a) ymgyrchu i ddiogelu nodweddiongorau tirwedd Cymru

    b) codi’r ymwybyddiaeth obwysigrwydd gwarchod cefn gwlad

    c) dylanwadu ar y rhai sydd yngwneud penderfyniadau arddyfodol cefn gwlad.

    Er mwyn cyrraedd yr amcanion hynnymae’n gweithredu ar draws sawl haen olywodraeth o’r Cyngor Cymuned i’r UndebEwropiaidd yn ogystal â gweithio gydanifer o asiantaethau boed yn gyhoeddusneu’n breifat.

    Dylid cofio mai elusen yw YDCW syddyn dibynnu ar danysgrifiadau, ewyllys da achefnogaeth brwd tua 4000 o aelodaumewn 17 cangen ar draws Gymru. Tegnodi, hefyd, ei fod yn fudiad cadwriaetholgenedlaethol Gymreig - nid agenda nebarall yw agenda YDCW ond yr hyn sydd yncodi o’i aelodaeth yng Nghymru. Dawarian yn ychwanegol i’r tanysgrifiadau oymddiriedolaethau a noddwyr eraill sydd,fel arfer, yn ariannu prosiectau penodol.Megis gyda mudiadau gwirfoddol eraillmae gweithgarwch y mudiad o danadolygiad beunyddiol - os nad yw’r corff yncyflawni disgwyliadau ei aelodaeth ni chaiffgefnogaeth! Prif weithgarwch ycanghennau yw cadw golwg ar geisiadaucynllunio ac ymgynghori ar GynlluniauUnedol yr Awdurdodau Lleol yn ogystal âchymeryd rhan lawn ym mywyd eucymunedau. Pan ddaw achos dadleuol(neu un fwy cymhleth nag arfer) i’r amlwgtrosglwyddir y gwaith i’r Prif Swyddfa acyn anorfod yr achosion dadleuol sydd yncael y sylw pennaf.

    Cwm Rhiwarth,Y Berwyn

  • 9

    Pan sefydlwyd y corff yn nauddegau’rganrif ddiwethaf y frwydr fawr oedd twf di-ddiwedd y trefi, wrth i swbwrbia ymledudros y caeau gleision.Ymgyrchodd YDCWyn erbyn y twf yma - nid oherwydd ei fodyn erbyn tai ond am ei fod yn erbyn ymath hynny o adeiladu a oedd heb unrhywgynllun iddo.

    Ym mhumdegau’r ganrif ddiwethafbrwydrodd y corff yn erbyn planhigfeydd yComisiwn Coedwigaeth. Wrth gwrs, nidcoed fel y cyfryw oedd y targed ond yplannu unffurf a oedd yn gorchuddio einucheldiroedd yn ddidostur, ‘y fforestconifferaidd’ chwedl Tilsley. Erbyn hyn ceircydnabyddiaeth lawn o bwysigrwyddamrywiaeth o rywogaethau a phlannu

    mwy sensitif.

    ‘Brwydr fawr’ nawdegau’r ganrifddiwethaf, sy’n dal gyda ni heddiw oedddyfodiad y tyrbin gwynt. Unwaith eto nidyw YDCW yn erbyn ynni gwynt ond mae’ndaer yn erbyn troi mannau agored hyfrydein gwlad yn orsafoedd trydan.Yn ddi-osmae’n rhaid defnyddio ynni gwynt adulliau ynni adnewyddol eraill ond, ymmarn YDCW, nid ucheldir Cymru yw’r lle iosod tyrbinau anghydnaws sydd yn dwyndro ar ôl tro ‘y lle i enaid gael llonydd’. Pebuasai’r gorsafoedd gwynt yn achosi i nigau gorsafoedd llosgi glo ac ati buasaicyfiawnhad drostynt, ond nid felly mae hi.Mewn gwirionedd, buasai gwell gobaithdrwy osod gorsafoedd trydan gwynt allanar y môr.Yr hyn sydd yn digwydd ar hyn obryd, gyda’r pwyslais ar orsafoedd ar y tirmawr, yw ychwanegu problem

    amgylcheddol newydd ar ben y broblemwreiddiol.

    Yn anffodus, dyma’r sylw mwyaf a ddawi ran YDCW y dyddiau hyn ond mae llawermwy i’r Ymgyrch nag ymladd tyrbinaugwynt.

    Yn 1998 ar ben-blwydd YDCW yn 70oed cyhoeddwyd llyfryn yn gosod allanwaith y mudiad a oedd yr adeg hynny wedicael tipyn o ddylanwad ar waith gwledig yLlafur Newydd.Yn 1999 cyhoeddwyd‘Etifeddiaeth y Tyddyn’ yn dangospwysigrwydd pensaernïol y tyddynCymreig a chyfeirio at ddulliau lle gelliddehongli’r traddodiad hwnnw yn y dullmodern.Y mae’r llyfryn wedi cael crynddefnydd mewn ambell i BwyllgorCynllunio ar draws Cymru.

    Ers bron i dair blynedd bellach mae ganYDCW ddau swyddog Agenda 21 Lleol,un yn gweithio yng Ngogledd Cymru a’rllall yn gweithio mewn partneriaeth agAwdurdod Parc Cenedlaethol BannauBrycheiniog. Eleni bydd YDCW yncyhoeddi ei strategaeth Agenda 21 Lleol eihun sydd yn ffrwyth ymgynghori eang ofewn yr aelodaeth.

    Ar hyn o bryd mae YDCW yn brysur ynsefydlu paneli o aelodau ac arbenigwyreraill i edrych yn fanwl ar wahanol feysyddo ddiddordeb i’r corff.Y bwriad yw i’rpaneli hyn gynhyrchu adroddiadau yn eupriod feysydd. Sefydlwyd eisoes baneli arYnni Adnewyddol, Cludiant,Amaethyddiaeth a Thwristiaeth.Y nod yw iadroddiadau’r paneli gyda’i gilydd fod ynsail i faniffesto newydd i YDCW ar gyfer yganrif newydd.

    Nid mudiad sydd yn aros yn ei unfan ywYDCW. Mae’r ffaith ei fod yn parhau morgryf dros 70 o flynyddoedd ers ei sefydluyn dyst i hyn. Gyda’r Cynulliad yn awrmewn bod, bydd rôl YDCW yn fwyfwypwysig er mwyn parhau i gyfrannu i’rbroses o gadw a gwella i’r dyddiau a ddaw,ansawdd bywyd ein dyddiau ni.

    Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

  • 10

    Yng Nghymruceir oddeutu450 ogofgolofnauCristnogolcynnar acymhlith y cyntafi’w cofnodioedd EdwardLlwyd. Mae’rcofadeiliau hynyn amrywio’nfawr o ran eumaint, eu ffurfa’uhymddangosiadond y rhaimwyaf atyniadola thrawiadol eugwedd yw’rcroesau aberthyn i’rtrydydd o

    bedwar grŵp a ddisgrifiwyd gan V.E. Nash-Williams yn ei gyfrol gampus The EarlyChristian Monuments of Wales (1950). Dymaa ddywed Donald Moore amdanynt, wrthiddo drafod celfyddyd Cymru’r cyfnodCristnogol Cynnar: ‘Of all the stonemonuments, the sculptured, free-standingcrosses of Group III are artistically themost interesting. They are often majesticand beautiful, displaying balance incomposition and skill in execution.’1 Nidyw’n syndod bod tri o’r wyth ‘campwaith’ arestrir gan Moore – croesau Penalun,Caeriw a Nyfer – i’w canfod yn Sir Benfro;wedi’r cyfan, hon, yn ôl Gwenallt, yw ‘Sircarreg ogam a chromlech a charn achroes’. Mae’r pum campwaith arall i’wcanfod yn eglwys Penmon (dau golofnfaen;N-W 37 a 38),2 Ynys Môn; AmgueddfaAberhonddu (Croes Maesmynys; N-W65); ac eglwysi Llanilltud Fawr (N-W 220)a Llangrallo (N-W 194) ym MroMorgannwg.

    Er mor urddasol a hanesyddol bwysigyw’r campweithiau y cyfeiriodd Mooreatynt, hyd yma esgeuluswyd un wedd niddibwys ar eu hanes – a hanes hollgofgolofnau Cristnogol cynnar Cymru, oran hynny – sef eu daeareg.3 Mae gan ymeini y lluniwyd y cofebau ohonynt storii’w hadrodd, hanes sydd yr un mor bwysigâ’r cerflunwaith a’i arwyddocâddiwylliannol ac amserol. Dim ond drwyadnabod y meini nadd y mae modd myndi’r afael â chwestiynau pwysig megis: O bley daethant? Pwy neu beth a’u symudodd, aphryd? Pa nodweddion ffisegol a brofoddyn fendith neu’n felltith i’r seiri maen fuwrthi’n trin y meini?

    Yn ôl Rick Turner, awdur yr arweinlyfrswyddogol, Lamphey Bishop’s Palace –Llawhaden Castle – Carswell Medieval House– Carew Cross (Cadw, 2000), i EdwardLlwyd mae’r diolch am y cofnod a’rbraslun cyntaf o Groes Caeriw abaratowyd, mae’n debyg, tua’r flwyddyn1690.4 A bwrw bod y dyddiad hwnnw’nddibynadwy mae’n syndod na chafodd ydisgrifiad ei ymgorffori yn y nodiadauychwanegol ar henebion Sir Benfro aluniwyd gan Llwyd ar gyfer argraffiadnewydd Edmund Gibson o BritanniaWilliam Camden a gyhoeddwyd yn 1695.Yr unig un o’r tair croes fawr y rhoes sylwiddi oedd Croes Brynach, Nyfer, a diau ygallwn faddau iddo am ddisgrifio ffurf ygofgolofn yn unig, yn hytrach na natur ygarreg y naddwyd hi ohoni. Wedi’r cyfan,prif ddileit awdur Lithophylacii BritanicciIchnographia oedd ffosilau, nid creigiau.

    Mae i groes gywrain Caeriw ddwy ran.Ym marn V.E. Nash-Williams, a luniodd ydisgrifiad manwl cyntaf ohoni a’i gyhoeddiyn Archaeologia Cambrensis yn 1939 ac ynddiweddarach yn The Early ChristianMonuments of Wales, ‘. . . Carew cross is ofspecial interest as one of the largest andmost elaborate of the Welsh Early Christianmonuments, as well as one of the best

    Daeareg Croes Caeriw, de PenfroDyfed Elis-Gruffydd

    Cwm Gorllwyn, Boncath, Sir Benfro SA35 ODN

    Croes Caeriw (SN046037), a saif ar fin yrA4075, ym mhentrefCaeriw. Sylwer ar gyflwrgwael wyneb y groes‘Angliaidd’ sy’n eisteddar ben y colofnfaen.

  • 11

    preserved.’5 Nid yw’n syndod, felly, iddofanylu ar bob agwedd ar ffurf, maint acaddurnwaith ei phen olwynog a chorff ycolofnfaen. Ar sail ei ddisgrifiad, nad yw’ncynnwys gair am natur y ddau faen addylanwadodd mor fawr ar bryd a gwedd ygroes, daeth i’r casgliad mai’r hyn sy’nnodweddu’r gofeb a godwyd i goffáuMaredudd ab Edwin, a oedd, yn ôl yrarysgrif ar ei hwyneb, yn un o gyd-arweinwyr y Deheubarth yn 1033, yw ‘. . .its faulty proportions, the tiny head beingclumsily perched on top of adisproportionately tall and wide shaft.’6Efallai nad yw hi gyda’r mwyaf lluniaidd ogroesau ond mae’n haws deall pam nad ywei chymesuredd a’i haddurnwaith o’r safonuchaf pan sylweddolir bod pen y groes ynddarn o dywodfaen fflagiog, cymharolfeddal a’r colofnfaen yn slabyn o graigigneaidd grisialog galed, anodd i’w thrin a’inaddu. A chan fod tywodfaen amlhaenogyn fflawio ac yn chwilfriwio dan ymosodiady prosesau hindreulio nid yw’n syndod bodwyneb y groes mewn cyflwr mor wael: ‘Thedecoration of the cross-head has mostlyflaked or weathered away.’7

    Ers dyddiau Nash-Williams (1897-1955) y mae archeolegwyr wedi bod ynbarotach i gydnabod bod daeareg Cymruwedi dylanwadu ar dreftadaeth archeolegola hanesyddol y wlad. Er enghraifft, mynn ybroliant ar glawr A Guide to Ancient andHistoric Wales: Dyfed (1992), un o gyfres oarweinlyfrau a gyhoeddwyd gan Cadw, fodyr awdur, Sian Rees, yn cynnig ‘. . . anappreciation of the buildings and sites aspart of the whole wealth of Welsh history,by considering the complex process oftopography, geology [fy italeiddio i] andclimate and their effect on man’sexploitation of the area.’ Eto i gyd, prinyw’r sylw a roddir i ddaeareg yr henebion arestrir yn y gyfrol. Nid yw cael gwybod bod30 a mwy o’r cofgolofnau Cristnogolcynnar a ddisgrifir yn ‘stones’ ynychwanegu fawr ddim at ein gwybodaethddaearegol! Fodd bynnag, yn achos CroesCaeriw nodir bod y gofadail yn gyfuniad oddarn o ‘sandstone’ ar ffurf croes, acholofnfaen ‘of a harder stone’.8

    Llawnach a mwy dadlennol o lawer ywdisgrifiad Rick Turner o ddaeareg Croes

    Caeriw: ‘The slab comprising the wheel-head and its neck is cut fromCarboniferous sandstone, probablyquarried in Carmarthenshire. This istenoned into the tall shaft below, itself anigneous rock (a microtonalite), whichoutcrops in the Preseli mountains.’9 Osdywed Turner calon y gwir, yna mae’nrhaid i awdur yr erthygl hon, a fentroddgyhoeddi ar un o deithiau CymdeithasEdward Llwyd fod ‘. . . y golofn o ddolerita’r groes ar ei phen o dywodfaen cochlleol’,10 gydnabod ar goedd y dylid seiliobarn ar betroleg meini cofgolofnau, megisCroes Caeriw, ar dystiolaeth gadarnach nagarwynebau hindreuliedig!

    Er na chydnabyddir y ffaith, seiliwyd ywybodaeth ddaearegol a gyhoeddwyd ganTurner ar waith Richard E. Bevins, Is-geidwad Adran Ddaeareg Amgueddfeyddac Orielau Cenedlaethol Cymu.11 Drwyastudio tafell denau o sglodyn oedd wedidod yn rhydd o’r colofnfaen bu modd iBevins nid yn unig enwi’r graig igneaiddond hefyd awgrymu o ble y daethai’r maenyn wreiddiol.12 Gan fod nodweddion ydafell mor debyg i’r microtonalit sy’n brigoyng nghyffiniau Carn Ingli, uwchlaw

    Y groes ‘Angliaidd’ a naddwydo dywodfaen lleol. Er bod yrwyneb hwn, sy’n wynebu’rffordd fawr, mewn gwellcyflwyr mae effaith hindreuliadar ran uchaf y groes yn amlwg.

  • 12

    Trefdraeth,nid oes fawr oamheuaethmai’r copahwn oeddtarddlecolofnfaenCaeriw.Doleritau,cynnyrchgweithgareddfolcanig ynystod ycyfnodOrdofigaiddtua 470miliwn oflynyddoeddyn ôl, yw’rrhan fwyaf oddigon o’r

    creigiau igneaidd mewnwthiol sy’n brigo argopa a llethrau Carn Ingli a MynyddDinas. Ond hwnt ac yma, ceir yn ogystalfewnwthiadau bach o ficrotonalit, craiglwydlas, fân grisialog sydd yn fwy ‘asidig’(hynny yw, mae’n cynnwys mwy na 63% osilica, ynghyd â silica ar ffurf y mwyncwarts) na dolerit (craig fasig sy’n cynnwysrhwng 45% a 52% o silica).13

    Yn wahanol i’r colofnfaen mae tarddiady tywodfaen yn llai sicr o lawer.Yn groes i’rhyn a ddywed Turner, mae Bevins ynbendant o’r farn nad yw’r darn odywodfaen frownllyd yn dod o ryw chwarelanhysbys yn Sir Gaerfyrddin. Gan fod ymaen hwn yn eistedd ar ben colofnfaen 9troedfedd 7 modfedd (2.92 metr) ouchder, nid oes modd mynd yn agos ato.Serch hynny, ar sail ei olwg, cred Bevinsfod y garreg yn debyg i dywodfeiniCarbonifferaidd Sir Benfro,14 sy’n rhanannatod o’r dilyniant Namuraidd aWestphalaidd (Cystradau Glo) lleol. Mae’rtywodfeini hyn yn brigo yn y clogwynirhwng Amroth a Dinbych-y-pysgod, ar lanBae Caerfyrddin, a hwnt ac yma ar lannauafon Cleddau ac afon Creswell, gerCreswell Quay, tua 5 km i’r gogledd oGaeriw (gweler y map).15

    Er na wyddys o ble yn union y daeth ymaen, mae’n ymddangos mai tywodfaenlleol yw pen Croes Caeriw ond estrones

    yw’r colofnfaen, darn o’r un graig igneaiddy lluniwyd Croes Brynach ohoni, yn ôlTurner.16 Ar sail tebygrwydd rhai o’rmotifau addurniadol ar y naill gofgolofn a’rllall, mae’n awgrymu hefyd y gallai CroesCaeriw a Chroes Brynach, a saif ymmynwent eglwys Nyfer, tua dwy filltir i’rgogledd-ddwyrain o gopa Carn Ingli, fodyn waith yr un saer maen.17 Os felly y bu, yrawgrym, mae’n debyg, yw y cerfluniwydmeini’r ddwy gofgolofn rhywle heb fod ynbell o darddle’r cerrig, cyn i aelodau’rgymuned a drigai yn ardal Caeriw yn ystodtridegau’r unfed ganrif ar ddeg fynd i’rafael â’r dasg o gludo’r garreg fawrgerfiedig o gyffiniau Trefdraeth i’w safle nidnepell o lan afon lanwol Caeriw. Foddbynnag, mae’n anodd credu y byddaicymuned o bobl a roddai fri argerflunwaith cerfiedig wedi ymdrafferthu isymud cofgolofn ‘anghyflawn’ dros dir amôr – siwrnai ymhell dros 100 km – hebsicrhau fod y crefftwr o saer maer yncwblhau ei waith drwy lunio, o ddarn bacharall o graig igneaidd, ben olwynog arbatrwm y groes ‘Angliaidd’ honno sy’ncoroni colofnfaen Croes Brynach.

    Er bod Nash-Williams, Rees a Turner18wedi dwyn sylw at y tebygrwydd rhwngCroes Caeriw a Chroes Brynach, nid ywun o’r tri wedi ceisio egluro pam ydefnyddiwyd meini gwahanol iawn i’wgilydd ar gyfer pen a cholofnfaen CroesCaeriw. Tybed, er enghraifft, a oedd ygofgolofn wreiddiol a ddaeth o weithdy’rsaer maen yng nghyffiniau Trefdraeth, yn ôlawgrym Turner, yn gyflawn ond y ‘collwyd’y groes ‘Angliaidd’ yn ddiweddarach yn eihanes, digwyddiad a arweiniodd at greu’rpen presennol o ddarn o dywodfaen lleol?Dyna un esboniad posib ond gellir cynnigdamcaniaeth symlach ac amgenach, ar sawlcyfrif.

    Wrth drafod y cofgolofnau Cristnogolhynny a godwyd yn ddiweddarach na’rnawfed ganrif, dyma a ddywed MarkRedknap, awdur The Christian Celts:Treasures of Late Celtic Wales: ‘In general,locally available stone was selected by thestone-carvers.’19 Carreg leol yw’r tywodfaenac mae yr un mor bosib y cafwyd hyd i’rslabyn mawr o ficrotonalit yn lleol hefyd.Wedi’r cyfan, mae meini dyfod i’w canfod

    Croes Brynach, Nyfer(SN 084401)

  • 13

    ar hyd a lled de Sir Benfro, cerrig estron obob lliw a llun a wasgarwyd dros y tir ynystod enciliad y llen iâ a orchuddiai Gymrugyfan oddeutu 425,000 o flynyddoedd ynôl.

    Cofnodwyd lleoliad a disgrifiwydcymeriad nifer sylweddol o feini dyfodigneaidd yn bennaf gan swyddogionArolwg Daearegol Prydain wrth iddyntfapio daeareg yr ardal yn ystodblynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. I’rde o Aberdaugleddau mae’r clogfeini hynyn lled-gyffredin rhwng Flimston aDinbych-y-pysgod. Er enghraifft, ymmynwent eglwys Flimston, ceir casgliad o‘…large erratic boulders [o gyffiniauTyddewi, yn ôl pob tebyg] gathered fromthe surrounding district …’ a ger y fynedfai Amgueddfa Dinbych-y-pysgod ‘… threeerratic boulders of norite from the regionabout St. David’s Head are preserved.’20Wedi eu gwasgaru ar draws y triongl o dirrhwng Hwlffordd, Arberth a Chaeriw ceirclogfeini igneaidd o dde-orllewin Yr Alban,ardal Tyddewi a’r Preselau: ‘The isolatedboulders … are generally of large size andrange up to 12 feet in diameter …’21Blociau mawr o ddolerit ‘brych’adnabyddus Carn Meini a’r carnau cyfagossydd i’w canfod ychydig i’r dwyrain oArberth22 ond clogfeini o ‘borffyrit-cornblith’ sy’n nodweddu’r ardal rhwngArberth a Hwlffordd. Roedd swyddogionyr Arolwg Daearegol yn weddol sicr ydaeth rhai o’r rhain o dde-orllewin YrAlban, ond nid i gyd: ‘The extremely largesize of some of these boulders makes alocal source most probable …’23Crybwyllwyd y posibilrwydd mai’r‘cornblith-porffyrit’ sy’n brigo ar bentir gerSolfach oedd tarddiad y meini.

    Term henffasiwn am fath arbennig oficrodiorit yw ‘cornblith-porffyrit’, a gelwirmicrodiorit sy’n cynnwys peth cwarts ynficrotonalit.Yn wir, mae’n bosib maimicrotonalitau, tebyg i golofnfaen CroesCaeriw, yw rhai o’r clogfeini mawrion o‘gornblith-borffyrit’ a gofnodwyd gan yrArolwg Daearegol. Wrth reswm, dim ondastudiaeth fanwl o gyfansoddiad cemegol amwynegol y meini dyfod arbennig hyn aallai gadarnhau p’un ai a oesmicrotonalitau o Garn Ingli yn eu plith.

    Ond mae’n ddamcaniaethol bosib. Ganmai llen iâ a lifai o’r gogledd tua’r de, ardraws copaon y Preselau, a wasgarodd feinidyfod o gyffiniau Carn Meini dros wyneb ytir i’r dwyrain o Arberth, gallai’r un llen iâfod wedi bod yn gyfrifol am gludo clogfeinio Garn Ingli cyn belled â glannaupresennol afonydd Cleddau Ddu aChleddau Wen rhwng Hwlffordd acArberth.24 Mae’n bosib, felly, mai ogyffiniau cymer y ddwy afon, oddeutu 10km i’r gogledd-ogledd-orllewin o Gaeriw,ac nid ar gopa Carn Ingli ei hunan, ycafwyd hyd i’r darn ‘lleol’ o ficrotonalit ylluniwyd colofnfaen Croes Caeriw ohono.

    Nodiadau1 Donald Moore, ‘Early Christian Wales’, t.

    80, yn Eric Rowan (ed.), Art in Wales2000BC-AD1850 (Cardiff, 1978).

    2 Mae’r rhifau yn cyfeirio at rifau’rcofgolofnau yn V.E. Nash-Williams, TheEarly Christian Monuments of Wales(Cardiff, 1950).

    3 Yn ddiweddar cwblhawyd arolwg obetroleg cofgolofnau Cristnogol cynnarSir Benfro gan Heather Jackson, AdranDdaeareg Amgueddfeydd ac OrielauCenedlaethol Cymru (R.E. Bevins,Tachwedd 2000; gohebiaeth bersonol).

    4 Rick Turner, Lamphey Bishop’s Palace –Llawhaden Castle – Carswell Medieval

    Maen dyfod (c.1.5 m ouchder) o Benmaendewi (?)ym mynwent eglwys Flimston(SR 924956)

  • 14

    House – Carew Cross (Cardiff, 2000), t.51. Gwaetha’r modd, nid yw’r awdur yncynnig unrhyw wybodaeth lyfryddol amy cofnod nac yn nodi ym mha lyfrgell ycedwir braslun Llwyd.

    5 V.E. Nash-Williams, ‘Some early Welshcrosses and cross-slabs’, Arch. Camb.,94 (1939), t. 14.

    6 Ibid., The Early Christian Monuments ofWales (Cardiff, 1950), t. 184.

    7 Ibid., ‘Some early Welsh crosses andcross-slabs’, Arch. Camb., 94 (1939), t.12; Sian Rees, A Guide to Ancient andHistoric Wales: Dyfed (London, 1992), t.116.

    8 Sian Rees, op. cit., t. 116.9 Rick Turner, op. cit., t. 49.10 Dilys [Parry], John [Lloyd Jones] a Siân

    [Bowen], ‘Taith yn ardal Castell Caeriw,De Sir Benfro’, Cylchlythyr CymdeithasEdward Llwyd, 11 (2000), t. 2.

    11 Hannah Thomas, SwyddogGwybodaeth Cadw: Welsh HistoricMonuments, Medi 2000; gohebiaethbersonol.

    12 R. E. Bevins, Tachwedd 2000;gohebiaeth bersonol.

    13 R. E. Bevins et al., ‘Ordovicianintrusions of the Strumble Head-Mynydd Preseli region, Wales: lateralextensions of the Fishguard VolcanicComplex’, J. Geol. Soc. Lond., 146(1989), tt. 113-23, ac yn arbennig tt.119-17.

    14 R.E. Bevins, op. cit.15 G.T. George, ‘Sedimentology of the

    Upper Sandstone Group (NamurianG1) in south-west Dyfed: a case study’yn M.G. Bassett (gol.), GeologicalExcursions in Dyfed, South-West Wales(Cardiff, 1982), gweler, yn arbennig, tt.203 a 210.

    16 Yn ôl Rick Turner (op. cit., t. 50), ‘Itsshaft [sef colofnfaen Croes Brynach] isapparently of the same igneous stone[microtonalit] as that at Carew . . .’ ondmynn V.E. Nash-Williams, The EarlyChristian Monuments of Wales (Cardiff,1950), t. 199, a Sian Rees (op. cit., t.107) y lluniwyd y groes o ddolerit lleol.Oherwydd y trwch o gen sy’ngorchuddio Croes Brynach mae’n

    amhosib torri’r ddadl hon ond ar sailgwead y garreg mae’r graig yn debycachi ddolerit na microtonalit.

    17 Rick Turner, op. cit., t. 50. Foddbynnag, nid Turner yw’r unigymchwilydd sydd wedi cyfeirio atdebygrwydd rhai o’r motifau ar y naillgroes a’r llall. Daeth Edward Laws,awdur The History of Little EnglandBeyond Wales (London, 1888), hefyd i’rcasgliad fod ‘. . . the ornamentation atCarew and Nevern is almost the same’(t. 75).

    18 V.E. Nash-Williams, ‘Some early Welshcrosses and cross-slabs’, Arch. Camb.,94 (1939), t. 14-15; Sian Rees, op. cit.,t. 107; Rick Turner, op. cit., t. 50.

    19 Mark Redknap, The Christian Celts:Treasure of Late Celtic Wales (Cardiff,1991), t. 69.

    20 A.L. Leach ac E.E.L. Dixon, ‘Report ofEaster Field Meeting (1933) to Tenby’,Proc. Geol. Assoc., Lond., xliv, tt. 397 a398. Gweler hefyd E.E.L. Dixon, Thegeology of the South Wales Coalfield. PartXIII.The country around Pembroke andTenby (London, 1921), t. 199.

    21 A. Strahan et al., The geology of theSouth Wales Coalfield. Part XI.Thecountry around Haverfordwest (London,1914), t. 216.

    22 Ibid., tt. 221-2.23 T.C. Cantrill et al., The geology of the

    South Wales Coalfield. Part XII.Thecountry around Milford (London, 1916),t. 155. Gweler hefyd A. Strahan et al.,op. cit., tt. 217 a 219.

    24 A. Strahan et al., op. cit., t. 218; gwelery map sy’n portreadu dosbarthiad meinidyfod yr ardal.

  • 15

    Adar y môr yng NgheredigionHywel Roderick 32 Garth y môr, Aberystwyth, a

    Peter Davis Felindre, Aberarth, Ceredigion

    Ym mis Rhagfyr 1999 suddodd llong-cario-olew yr Erika oddi ar arfordirLlydaw, ac arllwys 10 miliwn litr o olew i’rmôr, ac fel trychinebau cyffelyb o amgylcharfordir Cymru, adar y môr a ddioddefoddfwyaf. Mae’r ystadegau yn dangos bod60,000 o adar wedi eu darganfod yn farwneu wedi eu heffeithio gan olew ar hydtraethau arfordir Ffrainc, ond mae’n sicrbod y cyfanswm yn agosach at 150,000,gan fod carfan uchel o’r cyrff yn suddo.Gwylogod (Uria aalge) oedd 75% ohonynt,a dangoswyd, o ddarganfod adar wedi eumodrwyo, fod y rhan fwyaf wedi eu maguar ynysoedd ac arfordiroedd rhan ddeheuolMôr Iwerydd. Efallai nad yw arfordirCeredigion mor enwog am adar y môr âSir Benfro ond mae nifer sylweddol i’wcael, a heblaw am yr wylan gefnddu leiaf(Larus fuscus), yr wylog yw’r mwyafcyffredin. Sut felly mae mesur a ywtrychineb fel hyn wedi cael effaith ar adar ymôr yng Ngheredigion?

    ArolygonNid oes gennym lawer o wybodaeth amniferoedd adar y môr yng Ngheredigioncyn y 1960au. Mae manylion amddosbarthiad rhai, o ddiwedd y bedwareddganrif ar bymtheg, hyd yr Ail Ryfel Byd,i’w cael yn nyddiaduron Dr J. H. Salter,

    cyn athro botaneg ymMhrifysgol CymruAberystwyth.

    Dros y blynyddoedddiwethaf trefnwyd arolygono adar y môr ar hyd arfordirCeredigion yn weddolreolaidd, rhai o ganlyniad ilongau olew yn suddo oamgylch arfordir Cymru,de-orllewin Lloegr neuogledd Ffrainc. Mae enwauy llongau yn ddigoncyfarwydd - Torrey Canyon,Amoco Cadiz, Christos Bitas

    a’r Sea Empress. Ar ôl damwain y TorreyCanyon yn 1967 sylweddolwyd nad oedddigon o wybodaeth ar gael am nifer adar ymôr ar hyd arfordiroedd Prydain agIwerddon, a threfnwyd arolwg OperationSeafarer yn 1969 (Cramp et al, 1974).Dilynwyd hwn gan arolygon cenedlaetholeraill yn 1987, â’r diweddaraf, a elwir ynSeabird 2000, i’w gwblhau rhwng 1999 a2001. Hefyd, trefnwyd arolygon lleol yn1979, yn dilyn damwain y Christos Bitasoddi ar arfordir Sir Benfro, ac yn 1996, arôl damwain y Sea Empress.

    Unedau cyfrifGyda gwylanod a’r ddau fath o fulfrain, ynyth yw’r uned gyfrif. Mae aderyn drycin ygraig (Fulmarus glacialis) yn dodwy ar silffneu hollt yn y graig, ond nid oes moddbod yn sicr a yw pob un sydd yn eistedd arglogwyn yn gori, felly yr uned cyfrif yw‘safle nyth debygol’. Mae gwylogod hefydyn dodwy ar y graig ac yn crynhoi yn glosat eu gilydd i ffurfio nyth-dorfau. Maent yngymysgfa o adar sydd yn gori, rhai o’ucymheiriaid ac adar anaeddfed, felly mae’namhosibl dadansoddi sawl pâr sydd yn ydorf ac mae’n rhaid rhifo pob aderyn. Maepethau yn fwy lletchwith gyda’r llurs (Alcatorda).Yn arolwg 1969 a 1979 yr unedgyfrif oedd ‘safle nyth debygol’ ond ar ôl

    Penmoelciliau; arfordir Ceredigion

  • 16

    hynny newidiwyd y canllawiau ganarbenigwyr a rhifwyd pob unigolyn, fellymae’n anodd cymharu yr arolygon cyntafâ’r rhai diweddaraf, heblaw defnyddiofformwla o un aderyn i 0.67 pâr idrawsffurfio y ffigyrau (Harris, 1989).

    Yn ystod yr arolwg cyntaf yn 1969cerddodd gwirfoddolwyr yr arfordir o’rBorth i Gwbert ac edrych dros bobclogwyn am adar y môr. O 1979 ymlaengwnaethpwyd yr arolygon o gwch, neugyfuniad o gwch a cherdded uwchben yclogwyni. Mae naw math o adar y môr ynnythu yn rheolaidd ar hyd glannauCeredigion, a dau arall wedi magu yn ygorffennol sef y pâl (Fratercula arctica) acaderyn drycin Manaw (Puffinus puffinus).Dyma beth o hanes yr adar hyn yn y sir, achrynodeb o ganlyniadau yr arolygon.

    Gwylog (Uria aalge)Gwyddom fod yr aderyn hwn yn nythu arGraig yr adar, ger Cei Newydd, ar ddiweddy bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae’ndebyg mae nifer fechan oedd yno ar y pryd(Salter, 1894). Nodwyd rhai hefyd rhwngCwmtydu a Llangrannog yn 1924. Nid oesunrhyw amcan o niferoedd tan 1967, ermae’n debyg bod y nifer wedi cynydduerbyn y 1940au.

    Yn ystod arolwg 1969 gwelwyd ymwyafrif ar Graig yr adar, y rhan fwyaf arstac Carreg Draenog, ac yn y cilfachau ynagos i glogwyn Caerglwyd, ger gwersyll yrUrdd yn Llangrannog (Tabl 1). Roedd rhaieto ar greigiau Dôl y frân, i’r gorllewin oLangrannog, a nifer fechan yn agos i BenPeles, rhwng Aberporth a’r Mwnt.

    Rhwng 1969 a 1986 gwnaethpwydcyfrifiadau blynyddol o wylogod a llursodar rannau o Graig yr adar a Chaerglwyd.Yn 1970 nodwyd gostyngiad sylweddol yny nifer o wylogod ar ôl i lawer farw ymMôr yr Iwerydd yn ystod gaeaf 1969/70, acaeth tua pum mlynedd heibio cyn i’r niferadfer, a chynyddu fwyfwy ar ôl 1979.

    Gwelir bod cyfanswm arolwg 1979, awnaethpwyd o gwch, yn llawer mwy nagun 1969, ac yn adlewyrchu faint o’rcreigiau nythu oedd o’r golwg pan rifwydadar o ben y clogwyni, e.e. rhifwyd tuachwe gwaith mwy ar Graig yr Adar, agwelwyd llawer mwy ar greigiauPenmoelciliau a Dôl y Frân. Erbyn arolwg1987, roedd y nifer wedi cynyddu eto, gydadwywaith cymaint ar Benmoelciliau aChaerglwyd. Ni welwyd unrhyw effaithdamwain y Sea Empress ar gyfanswmarolwg 1996, heblaw am gwymp yn y niferar greigiau Caerglwyd, ac roedd y niferbychan yn nythfa Pen peles wedi mynd,neu wedi ailsefydlu ar ynys Aberteifigerllaw, lle y gwelwyd hwy gyntaf yn 1989.Erbyn y flwyddyn 2000 roedd mwy owylogod nag erioed o’r blaen, yn enwedigar Graig yr adar gyda chynnydd o 81% ers1987, i gymharu â 63% ar y cyfan.

    Llurs (Alca torda)Fel gyda’r wylog, yr unig wybodaeth syddgennym o’r gorffennol yw bod ychydig olursod ar Graig yr Adar, ger Cei Newydd,ar ddiwedd y bedwaredd ganrif arbymtheg, a rhwng Cwmtydu aLlangrannog yn 1924.

    Yn ystod arolwg 1969 rhifwyd tua 170safle nythu (Tabl 2), ond yn 1979 gwelwydllawer mwy o gwch. Craig yr Adar oedd ynythfa fwyaf, a sawl grŵp bychan ar ycreigiau o dan Benmoelciliau, y cilfachauger clogwyn Caerglwyd, ag eraill argreigiau Dôl y Frân a Phenpeles.Ynogystal, gwelwyd rhai ar Garreg Nedwydd,ger Penbryn, am y tro cyntaf.

    Dangoswyd gan gyfrifiad blynyddol arrannau o Graig yr adar a Chaerglwyd body nifer yn weddol sefydlog rhwng 1969 a1982, ond rhwng 1983 a 1986 gwelwyd43% mwy o lursod; mae hyn hefyd ynamlwg wrth edrych ar gyfanswm arolwg1987 (Tabl 2). Parhaodd y cynnydd rhwng

    Aderyn Drycin y Graig

  • 17

    1987 a 1996, gyda chynnydd o 15%, onderbyn 2000 mae’n debyg bod y nifer ynsefydlog neu efallai yn gostwng ychydigmewn rhai mannau, gan fod cyfanswmffigyrau 1996 a 2000 o fewn ffiniauystadegol. Bridiodd y llurs am y tro cyntafar Ynys Aberteifi yn 1983, ac mae’r niferwedi cynyddu yno ers hynny, ond mae’rnifer ar greigiau cyfagos Ben Peles wedigostwng.

    Aderyn drycin y graig (Fulmarusglacialis)Efallai mai un o esiamplau gorau o dyfiantpoblogaeth adar yw ymlediad aderyndrycin y graig o’iganolfan ar ynysoedd StKilda, yng ngorllewin yrAlban, o ddiwedd ybedwaredd ganrif arbymtheg drwy ynysoeddy gogledd a gweddillPrydain. Cyn yr AilRyfel Byd roedd ynymwelydd goanghyffredin ag arfordirCeredigion. Erbyn y1940au cynnar gwelwydrhai yn glanio ar Graigyr Adar, ac yn 1947magwyd adar ifainc amy tro cyntaf. Erbyn1965 roedd dau neu driar Ynys Aberteifi, ac fe’igwelwyd mewn sawlman yn 1967.

    Cofnodwydcyfanswm o 118 saflenythu yn y sir yn ystod arolwg 1969 (Tabl3). Dosbarthwyd y rhain mewn 14 man arhyd yr arfordir, gyda grwpiau sylweddol arCraig yr adar a Dôl y Frân. Erbyn arolwg1979 roedd dwy waith gymaint ar hyd yrarfordir, a llawer mwy yng ngogledd y sir.Parhau i gynyddu wnaeth y nifer fel ydangosir gan ganlyniadau arolygon 1987 a1996, ond erbyn y 1990au gwelwydgostyngiad yng ngogledd y sir. Cadarnle yraderyn yw arfordir de Ceredigion.Ynogystal â Chraig yr adar mae grwpiausylweddol rhwng Gilfach yr Halen a CeiBach, ar greigiau Dôl y Frân a rhwngAberporth a’r Mwnt.

    Mulfran (Phalacrocorax carbo)Y fulfran yw unig aderyn y môr sy’n cael eierlid gan ddyn am ei fod yn cystadlu âphysgotwyr am bysgod ar afonydd allynnoedd.Yn ôl yn nechrau’r ugeinfedganrif talwyd swllt am bob mulfran aladdwyd ar afon Teifi, e.e. saethwyd 72 yn1921. Mor ddiweddar â 1949 yr oeddhysbyseb mewn papur lleol yn cynnig 10swllt am bob pen mulfran neu ddyfrgi aladdwyd ar Afon Rheidol.

    Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif arbymtheg gwyddom am ddau fan nythu yngNgheredigion.Yn 1894 roedd tua 12 nythar greigiau Penmoelciliau a phedair ar

    greigiau Dôl y Frân(Salter, 1894). Mae’nrhaid bod y bygythiadar afonydd lleol wedilleihau tipyn ar ôl yRhyfel Byd Cyntaf.Roeddynt yn nythu argreigiau Pen y graig,rhwng Aberystwyth aLlanrhystud erbyn1924, a hefyd gerWallog, rhwngAberystwyth a’r Borth,yn 1930. Roedd 35-40nyth ar Benmoelciliauerbyn 1931, 60-80 ynnythfa Pen y Graig yn1944, a 20 ar Dôl yFrân yn 1948. Unwaithyn unig y gwelwyd hwyyn nythu ar YnysAberteifi, yn 1966.Yn ystod arolwg 1969,

    cofnodwyd o leiaf 177 nyth (Tabl 4).Roedd tair nyth i’r gogledd o Aberystwyth,â’r nythfa fwyaf, gyda 84 nyth, ar greigiauPen y Graig; ond gweddol wasgaredig oeddy rhain ac mae’n bosib bod rhai allan o’rgolwg. Roedd dwy nythfa newydd, y ddwyyn cynnwys 11 nyth, ar Graig Ddu, gerAberarth, ac yn agos i Ben Peles; â’rgweddill ar Benmoelciliau a Phen yRhwbyn, ger y Mwnt.

    Yn ystod y 1970au yr oedd y fulfran ynnythu ar lechweddau gwelltog uwchbencreigiau Pen y Graig, ond ar ôl i lwynogodamharu arnynt maent yn cadw i’r clogwynineu lechweddau anhygyrch. Gwnaethpwyd

    Gwylogod

  • 18

    cyfrifiad o’r nythfa hon bron yn flynyddoler 1973, roedd y nythfa yn ffynnu yn y1970au a’r 80au – rhifwyd 176 o gwch yn1978 a 1982, a 164 a 137 yn ystodarolygon 1979 a 1987. Hon oedd ydrydedd neu’r bedwaredd nythfa o ranmaint yng Nghymru yn y cyfnod hwn, ondyn ystod y 1990au dechreuodd y niferostwng yn sylweddol i leiafswm o 64 nytherbyn 1998. Fe gafodd y fulfran ar greigiauPen y Graig dymor magu trychinebus yn1991 wrth i’r mwyafrif o’r cywion farw yny nyth, ond ni effeithiwyd ar nythfaoedderaill. Gostwng fu hanes nythfaPenmoelciliau hefyd ers 1987, yn eihanterth roedd dros 90 nyth yn 1979 a1987, gyda dim ond saith nyth yno erbyn2000. Rhwng 1987 a 2000 mae’r ystadegauyn dangos gostyngiad o 62% ar y cyfan(Tabl 4).

    Mulfran werdd (Phalacrocorax aristotelis)Aderyn digon anghyffredin oedd y fulfranwerdd ar ddechrau yr ugeinfed ganrif, ynenwedig ar hyd arfordir gogledd y sir. Niwyddom yn fanwl faint y boblogaeth fagutan yr arolwg cyntaf yn 1969, pan gafwydcyfanswm o tua 45 nyth (Tabl 4), a’r grŵpmwyaf, o 14 nyth, ar greigiau Pen y GraigYn sicr ni leolwyd pob nyth trwy edrych oben y clogwyni gan fod y nythod mewnmannau digon anghysbell. Mae cyfanswmarolwg 1979, o 76 nyth, yn fwycynrychioladol, a bron hanner y rhain argreigiau Pen y Graig. Ers 1979 mae y niferar hyd yr arfordir wedi gostwng 50%, â’rgostyngiad mwyaf ar Ben y Graig ac ynysAberteifi, ond hefyd maent wedi rhoi’rgorau i nythu mewn sawl man arall ar hydyr arfordir. Ar y llaw arall fel ymwelyddgaeaf mae’n bosib bod y fulfran werdd ynfwy cyffredin nag yn y gorffennol.

    Gwylan goesddu (Rissa tridactyla)Ymwelydd gaeaf yn unig oedd yr wylan

    goesddu yn y gorffennol, yn bennaf ar ôlstormydd gaeaf.Yn 1961 cafwyd adroddiado ddwy nyth ar Ynys Aberteifi, ond niwelwyd hwy yno eto tan 1992. Roedd unpâr ar Graig yr adar, ger Cei Newydd, yn1962, o leiaf 55 nyth yn 1969 (Tabl 4), yncynyddu i 216 erbyn 1979, ac yn yr unflwyddyn gwelwyd un nyth ar greigiau

    Caerglwyd.Yn 1987 symudodd y rhanfwyaf i nythu ar greigiau Caerglwyd, onders hynny lleolwyd y brif nythfa ar Graig yrAdar. Ambell flwyddyn, er bod llawer oadar yn crynhoi ar y creigiau nid ydynt igyd yn adeiladu nyth, neu maent yn hwyryn dechrau magu, ac efallai mai hyn yw’rrheswm am yr amrywiaeth yn ycanlyniadau, e.e. o 490 nyth yn 1996 i 307y flwyddyn ganlynol.

    Gwylan gefnddu leiaf (Larus fuscus)Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg

    yr unig nythfa o’r wylan gefnddu leiaf oeddar Gors Caron, rhyw 20km o’r môr.Cofnodwyd 57 pâr yn nythu yno yn 1892,ond roedd ciperiaid stâd Trawsgoed yn euherlid, ac er iddynt oroesi tan ar ôl y RhyfelByd Cyntaf, nid oedd yr un ar ôl yn 1934.Ychydig oedd ar hyd yr arfordir tanddiwedd y 1920au, ac erbyn y 1950auroedd nifer fechan ar wasgar.

    Cafodd y nyth gyntaf ar Ynys Aberteifiei darganfod yn 1966, ac yn ystod arolwg1969 roedd wyth pâr i’w cael.Yn 1982roedd tua 100 pâr ar yr ynys, yn codi i 400erbyn 1988, ac yn agos i 4,000 yn 1996(Tabl 4). Ni welwyd llawer ar arfordir y tirmawr dros y blynyddoedd, gydag uchafrif o24-27 pâr yn nythu rhwng Cei Newydd aGwbert rhwng 1996 a 2000. Erbyn 1999roedd o leiaf un pâr yn nythu yn nhrefAberystwyth.Yn ystod y 1990au ofer fuymdrechion y rhan fwyaf o’r miloedd obarau a oedd yn nythu ar ynysoeddSgomer a Skokholm, Sir Benfro, i fagucywion, ond ni welwyd hyn ar ynysAberteifi. Dangosodd gwaith ymchwil

    Mulfrain ar Graig yr Adar

  • 19

    Lesley Thomson, myfyrwraig ymMhrifysgol Bangor, bod gwylanod cefnddulleiaf ar ynys Sgomer yn hedfan allan i’rmôr i fwydo, ar wastraff o longau pysgotamae’n debyg, ond roedd adar ynysAberteifi yn hedfan i’r tir mawr, yn helatrychfilod a llygod ar dir amaeth efallai(Thomson, 1995). Ond mae yr arolygondiweddaraf yn dangos bod y nifer yngostwng, gyda dim ond 2,763 nyth yn1999 a 1,654 yn 2000.

    Gwylan y penwaig (L. argentatus)Ar ddiwedd y 19fed ganrif nid oedd

    gwylan y penwaig mor niferus yngNgheredigion, fe ddechreuodd gynyddu ynystod y 1920au a pharhaodd hyn am tuahanner canrif. Lleolwyd nythfa fawr arYnys Lochtyn, ger Llangrannog, yn 1927ac mae’n rhaid bod y nythfa wedi goroesidros y blynyddoedd.Yn 1969 daethpwyd ohyd i lawer o gyrff gwylanod ar yr ynys arôl i lwynog groesi pan oedd y llanw yn isel,ac ni welwyd hwy yn nythu yno wedyn.Roedd rhai cannoedd ar Ynys Aberteifi yn1966, gyda 900 pâr yn 1970. Cafwydcyfanswm o tua 2,906 nyth ar hyd arfordiry sir yn 1969 (Tabl 4), ond roedd dwyardal heb eu harchwilio yn gyflawn, fellydylai y ffigwr fod yn agosach i 3,800.

    Nid oedd arolwg 1979 yn cynnwyscyfrifiad o wylanod, felly y cyfanswm nesafsydd gennym yw canlyniad arolwg1986/87; erbyn hyn roedd yn amlwg bod ynifer wedi gostwng yn sylweddol, i tua1,500 nyth.Yn y nythfaoedd bychain roeddy golled fwyaf, ac mae’n debyg bod llawerwedi marw o fotwliaeth (botulism) yn ystodtymhorau magu yn nechrau’r 1980au,

    hefyd caewyd rhai o domenni sbwriel y siryn yr un cyfnod. Erbyn 1996 roedd y niferwedi codi ychydig i 1,876 nyth, a 2,220erbyn 1999/2000. Roedd nythfa ynysAberteifi ar ei hanterth yn nechrau y1980au, ond gwelwyd effaith botwliaethyno hefyd, ac ers 1986 mae’r nifer wedibod yn sefydlog gyda tua 600-700 nyth.Gwelwyd nifer sylweddol ar hydPenmoelciliau hefyd yn 1996 (515 nyth) a2000 (296 nyth).

    Symudodd yr hanner can pâr oedd ynarfer bridio ar Craig Lais ar ymylonAberystwyth i nythu ar doeau’r dref yn y1990au, ac yn 1997 a 1998 cafwyd un ynnythu ar lawr ar lain clwb golff y Borth, ynogystal â nifer fechan ar adeiladau’rpentref.

    Gwylan gefnddu fwyaf (L. marinus)Nid oes unrhyw gofnod am yr wylan

    gefnddu fwyaf yn nythu yn y sir tan 1902pan welwyd pâr ar Graig yr Adar, ger CeiNewydd. Erbyn y 1920au roeddynt i’wcael mewn sawl man ar hyd yr arfordir.Roedd pâr yn nythu ar Ynys Aberteifi yn1924, ond nid oes unrhyw syniad gennymo’r nifer wedyn tan 1966 pan wnaethpwydamcangyfrif o 30-40 pâr (Ingram et al,1966). Roedd tua 52 pâr yn nythu yngNgheredigion yn 1969 (Tabl 4), gyda 40o’r rhain ar Ynys Aberteifi, ac ni welwyd yrun nyth i’r gogledd o Gilfach yr Halen.Roedd 48 nyth ar Ynys Aberteifi yn 1972,ond erbyn 1978 dim ond 14 pâr oedd yno,ac ers hynny mae’r nifer yn amrywio rhwng6 a 25 pâr. Gwelwyd gostyngiad o dros60% yn y nifer yn nythu ar y tir mawr er1969.

    Mae’n anghyffredin iawn i weld yr wylanhon yn nythu ar adeilad ym Mhrydain, ondfe wnaeth un pâr nythu ar dŵr Hen GolegAberystwyth yn 1998.

    TrafodaethYn ôl y disgwyl mae’r arolygon yn

    dangos bod poblogaethau adar y môr ynnewid dros y blynyddoedd. Ers y 1970aucynnar, pan welwyd gostyngiad yn nifer yrwylog, mae’r nifer ar hyd arfordirdeheubarth Ceredigion wedi cynyddu ynsylweddol, ac erbyn 2000 roedd yn uwchnag ar unrhyw arolwg blaenorol. Nid oes

    Gwylan Gefnddu Leiaf

  • 20

    unrhyw arwydd mor belled bod trychinebyr Erika wedi cael effaith andwyol ar yrwylog, ond gwyddom mai adar anaeddfeda ddioddefodd fwyaf, ac efallai bydd rhaiddisgwyl am sawl blwyddyn cyn i effeithiaumarwoldeb uchel ymddangos yn y ffigyrau.Heb y canlyniadau o’r gorffennol nifyddem yn medru mesur effeithiaudamweiniau olew neu lygredd. Ond a oesgwahaniaethau arwyddocaol rhwng ycyfrifiadau o’r arolygon?

    Yn ddelfrydol, i adar megis yr wylog a’rllurs, dylid cymryd y cyfartaledd o sawlcyfrifiad (o leiaf bump) yn ystod un tymormagu i wneud cymariaethau rhwngblynyddoedd.Yn sicr nid yw’n ddiogel ihonni bod newidiadau bychain yn ycyfrifiadau sydd gennym yn arwyddocaol.Fel y dywedwyd yn gynharach, y nifer ounigolion yw yr uned cyfrif, a chan bodadar yn hedfan yn ôl ac ymlaen i’r creigiauyn barhaol gall y nifer newid tipyn hyd ynoed o fewn un diwrnod. Gwneir yrarolygon o fewn ffiniau amser arbennig ynystod y dydd ac ar dywydd mwyn.Ynanffodus mae rhan helaeth o Graig yr Adarallan o’r golwg o ben y clogwyni, ac maellogi cwch yn gostus, yn fwy dibynnol ar ytywydd, ac i raddau yn llai delfrydol i gyfrifyn fanwl.Yn y tymor hir, efallai y byddcyfuniad o rifo adar ar y creigiau hynnysydd yn weladwy o’r lan yn gyson acarolwg morwrol achlysurol yn fwy effeithioli archwilio poblogaethau yr wylog a’r llurs.

    Mae ffigyrau gweddill yr adar yn weddolddibynadwy oherwydd cyfrifiadau o nythodyw y rhain. Mae’n bosib bod y cwymp ynnifer y Fulfran a’r Fulfran Werdd yn rhan oostyngiad tymor hir.Yr unig aderyn arallsydd wedi prinhau ers i gofnodion gael eu

    cadw yw’r wylan gefnddu fwyaf, ac efallaifod y llanw yn dechrau troi ar boblogaethyr wylan gefnddu leiaf ar ynys Aberteifi arôl cynyddu bron yn flynyddol dros y dengmlynedd ar hugain diwethaf.

    Ar ddiwedd y mileniwm gallwn ddweudbod poblogaethau adar y môr yngNgheredigion ar y cyfan yn weddol iachond mae damweiniau llongau olew yn dalyn fygythiad, ac mae’n sicr y bydd ‘effaith ytŷ gwydr’ yn achosi newidiadau yn y dyfodol.

    LlyfryddiaethCramp, S. Bourne, W.R.P. a Saunders,

    D. (1974) The Seabirds of Britain andIreland. Collins, Llundain

    Harris, M.P. (1989) Variation in thecorrection factor used for convertingcounts of individual Guillemots Uria aalgainto breeding pairs.Ibis 131, 85-93.

    Salter J.H. (1894) Dyddiadur naturJ.H.Salter. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.MS 14434B.

    Salter J.H. (1929) Dyddiadur naturJ.H.Salter. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.MS 14446B.

    Ingram, G., Morrey-Salmon, H. aCondry, W.M. (1966) The Birds ofCardiganshire. Hwlffordd.

    Thomson, L. F. (1995) The breedingecology of the Lesser Black-backed GullLarus fuscus: A comparative study of thepopulations of Skomer and CardiganIslands. Traethawd MSc, Prifysgol Cymru.111 tudalen.

  • 21

    Tabl 1. Cyfrifiadau o wylogod ar hyd arfordir Ceredigion

    Craig yr adar (Cei Newydd)Penmoelciliau (Cwmtydu)Caerglwyd (Llangrannog)Dol y frân (Llangrannog)Carreg nedwydd (Penbryn)Pen-peles (Mwnt)Ynys Aberteifi Cyfanswm

    1969†ca 330

    8162470

    240

    ca 570

    19791,951

    74259168

    0490

    2,501

    19872,336

    132565168

    0500

    3,251

    19962,900

    216378252

    20

    113,759

    20004,235

    204543270

    00

    165,298

    Tabl 2. Cyfrifiadau o lursod ar hyd arfordir Ceredigion

    † cyfrifiad o ‘r lan, gweddill o gwch.* trwy ddefnyddio fformiwla 1 aderyn i 0.67 par (Harris, 1989).amcaniaeth o fewn terfynnau.

    Craig yr adar (Cei Newydd)Penmoelciliau (Cwmtydu)Lochtyn (Llangrannog)Dôl-y-fran (Llangrannog)Carreg nedwydd (Penbryn)Pen-peles (Mwnt)Ynys AberteifiCyfanswm

    1969† 1979 1987 1996 2000

    nythodca55

    241443

    -32

    ca 170

    adar82362164

    -48

    251

    nythod8656233416270

    242

    adar12884345124400

    361

    adar2431848652

    (20)5426

    665

    adar3142254882401740

    766

    adar3211854689491145

    746

    Tabl 3. Nifer o safleoedd nythu aderyn drycin y graig ar hyd arfordir Ceredigion

    Borth - AberystwythAberystwyth - LlanrhystudLlannon - Cei NewyddCei Newydd - CwmtyduCwmtydu - LlangrannogLlangrannog - PenbrynTresaith - GwbertYnys AberteifiCyfanswm

    196942

    1432

    11+33193

    118

    19791027265848363010

    224

    1986/87

    38315754578819

    351

    19962

    215546

    11264

    10433

    351

    1999/000

    16644181786839

    387

    Tabl 4. Cyfanswm nifer y mulfran, mulfran werdd a gwylanod yn nythu yng Ngheredigion

    MulfranMulfran werddGwylan goesddu Gwylan gefnddu leiafGwylan y penwaigGwylan gefnddu fwyaf

    1969177

    ca 45ca 55

    10ca2,906

    ca 52

    197927676

    217---

    198727162

    432ca 4001,511

    25

    199616435

    4903,9571,876

    15

    1999/0010738

    3751,684

    ca 2,04517

  • 22

    Ychwanegiad i ‘Mewnlifiad y Mileniwm:blwyddyn y gwyfynod estron’

    (Y Naturiaethwr 7, Tud. 16)

    Duncan Brown,Gwelfor, Ffordd Ceunant,Waunfawr, Gwynedd, LL55 4RY.

    Yn Rhifyn 7 Y Naturiaethwr, cyflwynaiswybodaeth am y rhywogaethau, y niferoedda’r tymor y daeth wyth rhywogaeth owyfynnod i ardd Gwelfor, Waunfawr, gerCaernarfon yn ystod y flwyddyn 2000.Hoffwn adrodd am rywogaeth fewnfudolarall, rhywogaeth nad oeddwn yn eihadnabod ar y cychwyn, nes paratoirhannau organau rhywiol y sbesimen argyfer eu hastudio trwy’r meicrosgop, achael cymorth Dr. M. Hull i’w gadarnhau.

    Y rhywogaeth yw’r Brith Bach TramorSpodoptera exigua, (Small Mottled Willowyn Saesneg). Dywedir bod hwn yn wyfyncyffredin iawn yn ne Ewrop, yn blagus hydyn oed, a’i fod yn ymddangos ymMhrydain gan fwyaf ar hyd arfordir y demewn blynyddoedd arbennig. Gallymddangos bron unrhyw adeg o’r flwyddynrhwng misoedd Chwefror a Hydref. Ar 2Medi 2000 y’i cafwyd yn yr achos hwn.

    GWENYNWYR CYMRUCylchgrawn chwarterol Cymdeithas Gwenynwyr Cymru, yn cynnwys newyddion

    a sylwadau ar wenyna a phynciau perthnasol yng Nghymru, Prydain a thramor. Ceirmanylion tanysgrifio a chopi sampl drwy anfon amlen (A5) wedi’i stampio a’chcyfeiriad arni at R.J. Prue, Tir Onnen, Pum Heol, Llanelli, SA15 4NB.

    Nifer o Fewnfudwyr Yr Wythnos, Gwelfor 2000

  • 23

    Fel yr elyrch, ygwyddau a rhaiadar eraill, traedgweog sydd gan yrhwyaid. Mae rhaihwyaid yn chwilioam fwyd ar wyneby dŵr, rhai eraillyn rhoi eu pigaudan y dŵr ac eraillyn plymio.

    Mae 34 o wahanol rywogaethau ohwyaid yn cael eu rhestru yn y llyfrCreaduriaid Asgwrn-cefn a gyhoeddwyd ganGymdeithas Edward Llwyd. Rydw i amsôn am chwe rhywogaeth ohonynt sef:hwyaden wyllt - Anas platyrhynchos;corhwyaden - Anas crecca; chwiwell - Anaspenelope; hwyaden lostfain - Anas acuta;hwyaden lydanbig - Anas clypeata ahwyaden bengoch - Aythya ferina.

    Mae ceiliogod y chwe rhywogaeth arestrwyd yn fwy lliwgar na’r ieir heblaw amganol haf pan mae’r ceiliogod a’r ieir yndebyg i’w gilydd.Yr enw am hyn yw‘eclips’ pan mae’r hwyaid yn bwrw eu plu.Mae ychydig o’r hwyaid yn aros ymMhrydain drwy gydol y flwyddyn ondmae’r rhan fwyaf ohonynt yn mudo yma idreulio’r gaeaf yn unig. Daw dros bum milo hwyaid llostfain i dreulio’r gaeaf ar aberAfon Dyfrdwy.

    I ddosbarthu rhywogaethau’r hwyaidmae’n rhaid edrych yn ofalus ar y maint, ysiâp, hyd y gwddf a siâp y pig. Dyma rainodweddion sydd yn helpu i wahaniaethurhwng y chwe rhywogaeth ganlynol:

    Hwyaden WylltDyma’r hwyaden fwyaf cyffredin ac maei’w gweld ar afonydd, llynnoedd, aberoedda glannau môr. Mae gan y ceiliog bigmelyn ac mae’n llawer mwy lliwgar na’r iâr.Mae ychydig o blu yn cyrlio i fyny argynffon y ceiliog. Mae bar piws gydag ymyl

    gwyn i’w weld ar yr adenydd pan maent ynhedfan.

    CorhwyadenMae ychydig yn magu yn y rhan fwyaf osiroedd Cymru.Ymwelydd cyffredin yn ygaeaf.Y corhwydan yw’r lleiaf o’r hwyaidsydd i’w gweld ym Mhrydain. Mae’r pig ynddu ac mae gan y ceiliog ben brown agwyrdd. Mae bar gwyrdd a du ar yradenydd.

    ChwiwellYmwelydd cyson yn y gaeaf. Mae’rchwiwell yn treulio amser yn bwytaglaswellt. Mae gan y chwiwell fol gwyn ac

    Adnabod rhai o’r hwyaidEifion Wyn Griffiths

    19 Parc Gwelfor, Dyserth,Y Rhyl, LL18 6LN

    Lluniau: Alun Williams

    Hwyaden Wyllt

    Corhwyaden

  • 24

    mae gan y ceiliog ddarn melyn ar y penbrown. Gellir ei gweld ger glannau môr allynnoedd.

    Hwyaden LostfainYmwelydd gaeaf yn bennaf. Mae gan yrhwyaden lostfain gynffon hir dywyll athenau a phig llwyd a du. Mae gan yceiliog ben brown, gwddf hir a thenau abrest wen. Gellir ei gweld ar y llyn ymMalltraeth, Sir Fôn a hefyd ar aber AfonDyfrdwy. Gwelwyd haid o hwyaid llostfaingan yr aelodau fu ar daith CymdeithasEdward Llwyd i’r Parlwr Du, Sir Fflint, arIonawr 13, 2001.

    Hwyaden LydanbigMae’n magu yn Sir Fôn ac ambell dromewn rhannau eraill o Gymru.Ymwelyddgaeaf, yn bennaf ar yr aberoedd.Y pigllydan sydd yn nodweddiadol o’r hwyadenlydanbig. Mae bar gwyrdd i’w weld ar yr

    adenydd. Gellir ei gweld yn ystod y gaeafyng Ngwarchodfa Natur Conwy.

    Hwyaden BengochMae ychydig yn magu yng Nghymru, ondymwelydd gaeaf yn bennaf. Mae gan yceiliog ben browngoch, brest ddu a chefnllwyd. Mae rhimyn llwydlas ar draws y pig.Mae’r hwyaden yma yn plymio i fwydo.Gellir gweld yr hwyaid pengoch arlynnoedd fel y rhai sydd ar gyrion Y Rhyl.

    Mae Gwarchodfa Natur Conwy yn lleda i weld yr hwyaid a enwyd uchod heblawam yr hwyaden lostfain. Mae mannaucyffelyb yn Ne Cymru e.e. Penclacwydd

    ger Llanelli. Rwyf yn hoff iawn o ymweld âMartin Mere ger Ormskirk yn Lloegr.

    Mae’r gaeaf yn amser da i wylio’rhwyaid y soniais amdanynt. Beth am geisio chwilio am y chwe rhywogaeth y gaeafnesaf?

    Hwyaden Lostfain

    Hwyaden Lydanbig

    Hwyaden Bengoch

    Chwiwell

  • 25

    Cyfraniad pwysig Cymru i ChwyldroDiwydiannol yr Ynysoedd Prydeinig ynystod y 19eg ganrif oedd cynnyrch naturiolcrombil ei mynyddoedd.Yn sgîl hyn daethnewid sylweddol i ffordd o fyw’r trigolion,a gwelodd rhai ardaloedd yng Nghymrugynnydd yn y diwydiannau trwm a ffynnaiyn dilyn buddsoddiadau nifer oanturiaethwyr mentrus, y rhan fwyafohonynt yn estroniaid.

    Credai rhai o wŷr blaenllaw’r cyfnodbod y cyfoeth o adnoddau mwynau feddaiCymru yn fodd i godi proffeil y Cymry an-fentrus, hen ffasiwn, a’u dyrchafu i fod yngydradd â’r Prydeinwyr eraill, a chwaraerhan allweddol yn llwyddiant Ymerodraethgryfa’r byd, ac yn gyfle i elwa ar gynnyddmaterol oes Victoria. Roedd y Daearegwryn cael ei ystyried yn rhan allweddolbwysig o hyn, gan mai drwy ei arbenigeddef y deuid o hyd i’r cyfoeth cuddiedig aoedd yn fodd i esgor ar y Gymru fodern.Hefyd, credai carfan o Gymry uchelgeisiol,ymarferol-Brydeinig eu daliadau, y dylidanelu at fod yn fwy eangfrydig yn sgîladroddiadau damniol y Llyfrau Gleision.

    Cofnodir 28 o lyfrau a phapurauCymraeg o’r 19eg ganrif ar ddaeareg agwyddorau perthynol yn Llyfryddiaethcyfrol D.A. Bassett (1963), sy’n profi pamor boblogaidd oedd y pwnc ymhlith yCymry yr adeg honno. Ceir enwau Cymry

    ymysg y rhai a etholwyd yn F.G.S. (Fellowof the Geological Society), ymddangosoddsawl traethawd ar ddaeareg yn ycylchgronau Cymraeg, a chynigid gwobraumewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

    Yr oedd y syched am addysg a fodolaiymhlith y dosbarth gweithiol ar gynnyddhefyd, a bu’r Gwyddoniadur Cymreig yngyfrwng allweddol i ddiwallu’r anghenionhyn, tra bod cyfieithiad Eben Fardd o rano Information for the people, RobertChambers yn ffynhonnell arall a baratowydi’r un perwyl. Roedd y cylchgronauCymraeg felY Traethodydd,Y Beirniad aY Brython yn gyfrwng pwysig i ledaenugwybodaeth; daeth yr Ysgolion Nos i fri agwnaed defnydd helaeth o lyfrgelloedd yreglwysi anghydffurfiol.

    Yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon1862 cynigiwyd gwobr o £15 amdraethawd ar ddaeareg Sir Gaernarfon, achafwyd ymateb derbyniol yn Gymraeg aSaesneg, ond yr ymgeisydd a ysgrifennoddyn Saesneg a dderbyniodd y wobr, er i’rcais Cymraeg gael ei feirniadu’n gyfartal.Awdur y traethawd Saesneg, The Geology ofthe Carnarvonshire Rocks, oedd HughMorris o Lanfair Talhaearn, a Wiliam Jones(Bleddyn: 1829?-1903) Llangollen (gynt oBorthmadog) oedd awdur y traethawdCymraeg Daiareg Sir Gaernarfon. RoeddWilliams Jones yn adnabyddus am ei gyfreso erthyglau a gyhoeddwyd yn Y Brython yn1861, erthyglau a fu’n sylfaen i’r gyfrolboblogaidd Bedd Gelert Its Facts Fairies andFolklore a gyhoeddwyd yn 1899.Cythruddwyd William Jones am narannwyd y wobr, ac o ganlyniadcyhoeddwyd Daiareg Sir Gaernarfon ynrhifyn 39 o Y Brython yn 1862, a’rflwyddyn ganlynol ymddangosoddadargraffiad dan y teitl Llawlyfr i DdaiaregSir Gaernarfon ar ffurf llyfryn. Ar ddiweddy traethawd yn Y Brython ychwanegodd ygolygydd, Robert Isaac Jones, (Alltud

    Daearegwyr yn EryriDewi Jones

    Pennant, Ffordd Llwyndu, Penygroes, Gwynedd, LL54 6RE.

    Moel Tryfan, ger Rhosgadfan, a thwll y chwarel

  • 26

    Eifion: 1815-1905), baragraff sy’n cynnwysy cymal canlynol:

    ‘Y Traethawd uchod … a farnwyd ynogystal â’r Traethawd Gwobrwyedig; ondpam na rannwyd y wobr, neu pa ham yrhoddwyd hi i’r llall, y Beirniaid neu’rPwyllgor a ŵyr hyny oreu. Gobeithio mainid am fod y llall wedi ei ysgrifennu mewnestron iaith, y derbyniodd y flaenoriaeth.Efallai y caiff y cyhoedd weled y llall rywdro a barnu drostynt eu hunain’.

    Prif feirniad y gystadleuaeth oedd ydaearegwr blaenllaw o Albanwr, Syr A.C.Ramsay (1814-1891), a oedd wedi priodiLouisa, merch y Parchedig James Williams(1790-1872), Rheithor Llanfairynghornwy,Môn, aelod o gyngor yr Eisteddfod.Nodwedd amlycaf diddordeb Ramsay oeddeffaith ac olion y rhewlifoedd ar dirweddgwlad, a daw hyn i’r amlwg yn ei gyfrol OldGlaciers of Switzerland and North Wales(1860).Yn ystod blwyddyn EisteddfodGenedlaethol Caernarfon cyhoeddoddRamsay bapur ar ‘Glacial Origin of CertainLakes in Switzerland, the Black Forest,&c.’ yn y Journal of the Geological Society ofLondon, a dyma’r pwnc a gysylltir ynbennaf ag enw Ramsay, sef, bod ambellfasn llyn wedi’u cafnio allan gan rewlif. Eri’r ddamcaniaeth ddadleuol hon ganRamsay gynhyrfu’r dyfroedd yn y byd

    daearegol, ystyrid hi yn gyfraniadgwerthfawr at gynhyrfu pwnc dyrus iawn.

    O gymharu papurau daeareg WilliamJones a Hugh Morris yng nghystadleuaethEisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1862,gwelir bod y ddau wedi ceisio cyflwynopapur a oedd yn ddealladwy a diddorol iwyddonwyr a llegwyr fel ei gilydd. Ar ycyfan bu William Jones yn weddolllwyddiannus gyda’i dermau gwyddonolCymraeg, ond mae’n ychwanegu termSaesneg pan mae’n ystyried hynny’nofynnol; mae’r bwlch hen mewnllyfryddiaeth Gymraeg yn parhau heb eilenwi gan gyfrol benodol. Ceir sawl enw lle

    ganddo na nodir ym mapiau cyfredol yrO.S., ac mae’n ddiddorol gweld ‘tudlen’ ynlle ‘map’. Ceir disgrifiad manwl, adranwrth adarn, o ansawdd a rhediad gwahanolgreigiau, a’u holltau (faults), yr hen sirGaernarfon, ac mae’n pwysleisiodefnyddioldeb y gwahanol fwynau, ynenwedig llechen. Nid oes yr un diagram nathabl a fuasai wedi bod o gymorth i’rdarllenydd ddilyn y testun, ond mae’r ffaithei fod yn cydnabod cyfraniad pwysig ydaearegwr Adam Sedgwick (1785-1873) i’rmaes yn profi ei fod yn gyfarwydd âmanylion archwiliadau diweddar yrarbenigwr hwnnw ar greigiau GogleddCymru. Fodd bynnag, nid yw’n crybwyllRamsay, nac yn ymdrin ag effaithsymudiadau’r rhewlifoedd sydd weditrawsffurfio tirwedd mynyddig yr hen sirGaernarfon, pwnc a fuasai wrth foddRamsay.

    ‘A young beginner’ oedd ffug-enw HughMorris yn y gystadleuaeth, sy’n awgrymu

    Deugredynen Fforchog (Asplenium septentrionale)

    Wyneb ddalen “Llawlyfr i Ddaiareg SirGaernarfon: gan William Jones

  • 27

    myfyriwr, neu ddyn ifanc hunan-addysgiedig yn ymddiddori mewn daeareg.Fodd bynnag, does dim i gadarnhau iddogyhoeddi unrhyw waith pellach ar ddaeareg- hyd y gwyddys. Mae ymdriniaeth HughMorris â’r pwnc yn ehangach ac ynbroffesiynol. Ceir 5 diagram a 6 tablynddo, ac am mai yn Saesneg yrysgrifennai, nid oedd yn cael ei lesteiriogan brinder termau gwyddonol addas.Ynwahanol i William Jones mae Hugh Morrisyn cydnabod archwiliadau Ramsay ac ynrhoi adroddiad o’r cynhyrfiadau addigwyddodd yn dilyn trai cyfnod yrhewlifoedd. Tra’n ymdrin â’r pwnc ymamae’n cofnodi’r darganfyddiadau a wnaedo gregyn môr ar gopäon Moel Faban gerBethesda a Moel Tryfan ger Rhosgadfan yngynharach yn y ganrif, ac yn cynnig yddamcaniaeth ‘tir yn codi o waelod y môr’fel ateb i’r cwestiwn, ac wrth droi at ymeini dyfod, mae Hugh Morris o’r farniddynt gael eu cludo gan rewfryniau(icebergs), dwy ymdriniaeth a fuasai’napelio’n fawr at Ramsay.

    Roedd Eisteddfod GenedlaetholCaernarfon 1862 yn arbennig am fod ydiwrnod olaf wedi’i neilltuo ar gyfer darllenpapurau ar bynciau yn ymwneud âgwyddorau cymdeithasol.Y mwyafblaenllaw ei gefnogaeth at greu AdranGwyddorau Cymdeithasol i’r Eisteddfodoedd yr addysgwr gweithgar Hugh Owen(1804-81). Allan o’r pedwar ar ddeg papury trefnwyd i gael eu darllen, naw yn unig addarllenwyd yn ôl y cofnodion, ac yn euplith, dim ond un Cymraeg. Cafwyd papurSaesneg ar ddaeareg Môn gan JohnHughes, Caer.

    Ymwelodd Daearegwyr mwyaf blaenllawPrydain â Chymru yn eu tro gan wneuddarganfyddiadau pwysig, ond o ddarllenerthyglau o’r cyfnod a ymddangosoddmewn gwahanol gylchgronau, gwelir yn glirddiddordeb cynyddol y Cymry eu hunainyn pwnc.

    Cyfraniad TrimmerYn rhifyn 1, (1831) o’r cylchgrawnProceedings of the Geological Society,cyhoeddwyd darganfyddiad JoshuaTrimmer (1795-1857), a gofnodwyd mewnllythyr at William Buckland (1784-1856),iddo ddarganfod cregyn môr mewn gwely o

    dywod a graean ‘dilywiol’ ar gopa MoelTryfan. Roedd Trimmer yn hanu o swyddCaint a chofnodwyd iddo gael ei anfon iogledd Cymru pan yn 19 oed fel rheolwrgwaith copr. Dychwelodd yn 1825 ac ynystod Hydref y flwyddyn honno caniatwydprydles iddo ar gyfer gweithio chwareli ynLlanllechid.

    Ar wahân i’w ddiddordebau daearegol,ymddengys bod Trimmer hefyd ynymddiddori yn llysdyfiant mynyddoeddEryri. Daw hyn i’r amlwg mewn llythyrdyddiedig 15 Gorffennaf 1833, oddi wrth ymeddyg a’r botanegydd John Roberts, PenClip (1792-1849) at ei gyfaill WilliamWilson (1799-1871) y bryolegydd oWarrington. Yn y llythyr ceir trafodaeth argyflwr bregus Lili’r Wyddfa (Lloydiaserotina) ar glogwyni Cwm Idwal yn dilyn ygor-gasglu a oedd yn mynd ymlaen ar ypryd. Dywed John Roberts iddo dderbynnodyn oddi wrth Trimmer oedd yncynnwys sbesimen o’r DduegredynenFforchog (Asplenium septentrionale) ermwyn i’r meddyg gadarnhau’r rhywogaethiddo.Ychwanegodd Trimmer yn ei nodyniddo lwyddo i gasglu Lili’r Wyddfa ar yr unpryd drwy gymorth rhaffau; yr oedd ynarferiad gan ymwelwyr bryd hynny i logigwasanaeth tywysydd lleol neu chwarelwrar gyfer casglu planhigion oddi ar glogwynianhygyrch.

    Ceir tystiolath bod gweithwyr wedi dodar draws cregyn môr wrth gloddio ar FoelFaban ger Bethesda, yn ystod yr uncyfnod, ond na welodd Trimmer ei hungregyn yno. Fodd bynnag, tra’n cloddio amlechi at tua 20 troedfedd o ddyfnder mewngwely o dywod a graean ar Foel Tryfan,darganfu gregyn môr yn y tywod, tebyg i’rrhai a geir ar y traethau cyfagos.Yr oeddllawer ohonynt yn ddarnau, ond roedddigon yno i adnabod rhywogaethau felBuccinum,Venus, Natica a Turbonilla. Maedarganfyddiad o’r fath ar yr olwg gyntaf, ynawgrymu bod lefel y môr ar un adeg ynuwch na Moel Tryfan, a bu hyn o galondidmawr i Darwin ac yn fodd iddo ad-ennill eiffydd yn ei ddamcaniaeth ddadleuol ardarddiad Heolydd Cyfochrog Glen Roy(gweler isod). Bu Darwin yn aros yngNghaernarfon nos Sadwrn, 25 Mehefin1842 a threuliodd y Sul canlynol ar Foel

  • 28

    Tryfan ond ’does dim tystiolaeth ei fodwedi darganfod cregyn môr yno yn ystod eiymweliad.

    Enillodd traethawd John Griffith,Bodgadfan, Rhosgadfan, ar ChwarelauDyffryn Nantlle a ChymdogaethMoeltryfan, wobr yng NghylchwylLlenyddol Rhostryfan a Rhosgadfan 1889,a chyhoeddwyd y gwaith yn llyfr ynddiweddarach.Yn ôl y traethawd, prifarolygwr Chwarel Penyrorsedd ‘ydoeddSais o’r enw Mr. Trimer’ (sic), ac â ymlaeni ddweud bod iddo frawd yn aros gydag ef.Gelwid un yn “Trier Goch”, a’r llell yn“Trimer Ddu”.Ychwanega John Griffithbod Plas Baladeulyn ar lan Llyn Nantlle,yn cael ei adnabod gan y trigolion fel “PlasTrimer”. Etholwyd Trimmer yn Fellow ofthe Geological Society yn 1832, flwyddyn yndilyn cyhoeddi ei ddarganfyddiad pwysig arFoel Tryfan, ac yn 1841 cyhoeddodd ei lyfrPractical Geology and Mineralogy, ac ar benhyn yr oedd yn awdur sawl papur nid ynunig ar ddaeareg, ond ar amaethyddiaethhefyd. Bu farw’n hen lanc yn Llundain ymmis Medi, 1857, tra’n paratoi llyfr arddaeareg ac amaethyddiaeth.

    Darwin ac eraillYchydig iawn o sylw a roddwyd ganhaneswyr i ymweliadau Darwin â Chymru,ond bu yma yng nghwmni AdamSedgwick, Caergrawnt, yn ystod Awst1831, pan ymwelwyd â sawl ardal, gangynnwys Chwarel y Penrhyn, Cwm Idwal arhannau o Fôn. I’r daearegwr cyfoes maeymweliad â Chwm Idwal yn gyfystyr âderbyn gwers ddarluniadol mewn daearega rhewlifeg, mae’r hanes am ddatblygiad affurfiant y cwm wedi’i gerfio yno dros ycanrifoedd, ond ni wnaed fawr o gyfraniad

    i ddatblygu daeareg yn dilyn ymweliad ydaearegwr â’r cwm yn 1831.

    Mae manylion o’r hyn a ddigwyddoddtra bu’r ddau ym Môn yn dra niwlog, ondbu Sedgwick, oleiaf, drosodd arymweliad byr agIwerddon, ond nidyw’n glir a aethDarwin gydag efyno. Erbyn y23ain o Awst yroedd Darwin wedicerdded dros ymynyddoedd oGapel Curig, drwyFfestiniog a throsrannau o’rRhinogydd, iAbermaw. Mae’rdaith gerdded hon, a gyhoeddwyd yngnghofiant Darwin bellach yn rhan o’rchwedloniaeth Darwinaidd, gan fodDarwin yn honni iddo ddilyn cwrsunionsyth map a chwmpawd, heb ddilyn yrun llwybr na ffordd os nad oedd yn unionar ei gwrs. Buasai unrhyw berson sydd yngyfarwydd â’r mynydd-dir garw, corsiog,grugog a charegog rhwng Capel Curig acAbermaw, yn cytuno na fuasai cyflawnicamp o’r fath yn ymarferol, ac ynddiweddar cyflwynodd Michael B. Roberts(1998) grynhoad dilys o ddadleuon sy’ndadlennu anghysonderau yn yrhunangofiant drwy gymharu llyfr nodiadauDarwin, dyddlyfr Sedgwick, a’i lythyrau atDarwin. Pan gyrhaeddodd Darwin eigartref yn Amwythig ar ddiwedd eiymwelid â Chymru yn 1831 roedd llythyryn ei aros yn ei wahodd i ymgymryd âswydd naturiaethwr ar y Beagle a oedd argychwyn ar ei mordaith enwog o amgylch ybyd. Bu Darwin i ffwrdd o ddiweddRhagfyr 1831 hyd at Hydref 1836, ac ynystod y cyfnod hwn, mae’n debyg, ydechreuodd feddwl o ddifrif am darddiadrhywogaeth ac esblygiad y ddynoliaeth.

    Daeareg oedd un o brif ddiddordebauCharles Darwin pan ymwelodd â GogleddCymru yn 1842, y flwyddyn a welodd eidaith ymchwil olaf.Yn ystod yblynyddoedd dilynol rhoddodd fwy o sylw ifabwysiadu ei ddamcaniaeth esblygiadol

    Mynydd Mawr o Foel Tryfan

    Charles Darwin (1809-1882) Y llun enwogohono yn hen ŵr.

  • 29

    enwog.Yr oedd eisoes wedi dechraudioddef o’r gwaeledd anhysbys a fu’n eiboeni weddill ei oes, ond tybed a oedd ysiomiant a gafodd o dderbyn beirniadaethanffafriol ar ei esboniad o HeolyddCyfochrog Glen Roy yn un o’r rhesymau ibylu ei ddiddordeb mewn daeareg?

    Yn rhan o dirwedd naturiol llethrauGlen Roy yn yr Alban mae tair heolgyfochrog yn ymestyn am tua 10 milltir ynllorweddol, a’u tarddiad wedi peri crynddryswch i sawl daearegwr dros y

    blynyddoedd.YmweloddDarwin â GlenRoy yn 1838 ac1841, er mwyndatrys ydirgelwch achyhoeddoddeiddamcaniaethmai olion tirwedi codi o’rmôr ar brydiaudros gyfnodmaith o amseroedd i gyfrifam yr heolyddcyfochrog hyn.

    BeirniadwydDarwin yn llym

    gan ddaearegwyr eraill a gwrthodwyd eiddamcaniaeth, gan achosi gofid mawr iddo.Yr ateb, yn ôl gwyddonwyr eraill, oedd bodGlen Roy dan orchudd trwchus o rewfiloedd o flynyddoedd yn ôl, ac i’r heolyddffurfio yn ystod proses hirfaith o ddadmeranghyson.

    Yn dilyn ei ymweliad ag Eryri yn 1842roedd Darwin yn gwbl argyhoeddedig oddau beth, sef bod rhewlifiad wedidigwydd yn Eryri, a bod lefel y môr ar unadeg yn cyrraedd 1,200 troedfedd ar FoelTryfan; ffaith a oedd yn ei galonogi drwygadarnhau ei bapur dadleuol ar HeolyddCyfochrog Glen Roy. Ni wnaeth creigiauCwm Idwal fawr o argraff ar Darwin yn1831, ond erbyn 1842, pan ddaeth ‘Oes yrIâ’ yn boblogaidd (pawb yn ‘severelyfrostbitten’ yn ôl un adroddiad), roedd yngweld pethau yn wahanol, a chyhoeddwyd

    ei ddatganiadau diwygiedig enwog gan sawlawdur sef:

    ‘… the plainly scorched rocks, the perchedboulders, the lateral and terminal moraines …Yet these phenomena are so conspicuous, … ahouse burnt down by fire did not tell its storymore plainly than did this valley’.

    Er i sawl person haeddu clod mewndaeareg a materion esblygiadol yn ystodoes Victoria enw Darwin yw’r un mwyafcyfarwydd i’r cyhoedd. Fe’i cofir yn bennafam ei fordaith enwog ar y Beagle, onddichon bod i fynyddoedd Eryri hefyd learbennig yn ei galon.

    FfynonellauBassett, D.A., (1963) Bibliography andIndex of Geology and Allied Sciences for Walesand the Welsh Borders 1536-1896. Cardiff,National Museum of Wales.

    Edwards, Hywel Teifi, (1980) GŵylGwalia, 11 ‘Social Science Section’ HughOwen. tt 53-112. Llandysul, GwasgGomer.

    Griffith, John, (d.d.) Chwarelau DyffrynNantlle a Chymdogaeth Moeltryfan Conwy,R.E. Jones a’i Frodyr, Argraffwyr.

    Hughes, R. Elwyn, (1981) DarwinDinbych, Gwasg Gee.

    Jones, Dewi, (1996) The Botanists andGuides of Snowdonia Llanrwst, GwasgCarreg Gwalch.

    Jones, William, (1862-3) ‘Daiareg SirGaernarfon’ Y Brython Cyfrol v. Tremadog,Robert Isaac Jones, tt 75-93

    Morris, Hugh, (1864) ‘The Geology ofthe Carnarvonshire Rocks’ Yr EisteddfodCyfrol 1, tt 230-256.

    North, F.J., Campbell, b., Scott, R.,(1949) Snowonia the National Park of NorthWales London, Collins.

    Roberts, Brinley, (1979) The Geology ofSnowdonia and Llŷn: An Outline and FieldGuide Bristol, Adam Hilger Ltd.

    Roberts, Michael B., (1998) ‘Darwin’sdog-leg: the last stage of Darwin’s Welshfield trip of 1831’ Archives of NaturalHistory. Volume 25, Part 1. Pp 59-37.

    Roberts, Michael, ‘Darwain, Bucklandand the Welsh Ice Age, 1837-1842’.Submitted to Ecologae Geologica Helvetica.

    Adam Sedgwick yn 82 oedyn 1867. Portraed ganLowes (Cato) Dickenson.

  • 30

    Plas Tan y Bwlch yng nghwmnidisgyblion cynradd Cymru

    Ann ThomasUwch Ddarlithydd, Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri

    Bob blwyddyn maePlas Tan y Bwlch,Canolfan ParcCenedlaetholEryri, yn croesawuoddeutu 650disgybl ac 80 athroysgolion cynradd obob cwr o Gymru,i fwynhau profiadpreswyl yng

    nghanolfan foethus y Parc. Cynigir dewiseang, hyblyg o raglenni wedi’u trefnumewn cydweithrediad â’r ysgolion unigolam arhosiad yn amrywio ar yr adeg o’rflwyddyn. Prif nod y cyrsiau yw hybucynnydd mewn dealltwriaeth acymwybyddiaeth o Barc Cenedlaethol Eryria’r byd o’n cwmpas.

    Fel y person â chyfrifoldeb dros dro amyr eneidiau bach bywiog oddi cartref yma,byddaf yn paratoi rhaglen lawn, ddydd anos ar eu cyfer. Yn bennaf, byddaf ynceisio canolbwyntio ar weithgareddauanodd eu gweithredu o fewn y d