42
C YMDEITHAS E DWARD L LWYD Y Naturiaethwr Cyfres 2 Rhif 11 Nadolig 2002

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

Y NaturiaethwrCyfres 2 Rhif 11 Nadolig 2002

Dosberthir yn rhad i aelodauCymdeithas Edward LlwydPris i’r cyhoedd £2.50

Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannoltrwy gymhorthdal gan Gyngor CefnGwlad Cymru

Page 2: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

Cymdeithas Edward LlwydSefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas Genedlaethol Naturiaethwyr Cymru.Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd yn ei gyfnod “y naturiaethwr gorauyn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu dros eu gwarchod.Mae’r Gymdeithas yn:

• trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £10Teulu - £12Myfyrwyr, pensiynwr, di-waith - £6I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Iwan Roberts, 3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 4LJ.

Diploma/MAÔl-Radd/ÔI-Brofiad mewn

Rheolaeth Cefn GwladChwilio am waith ym myd cadwraeth?

Angen hwb i’ch gyrfa?Os oes gennych radd neu brofiad perthnasol mewn gwaith cefn gwlad neu ym myd yr amgylchedd,hwyrach mai’r cwrs hwn yw’r union beth sydd ei angen arnoch!

• Cwrs blwyddyn llawn amser neu rhan amser dros ddwy flynedd• Cyfuno profiadau theoretig ac ymarferol• Astudiaethau perswyl yn Eryri• Hyfforddiant o ansawdd ardderchog• Uchel ei fri ymysg darpar gyflogwyrRhoddir hyfforddiant arbenigol mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, Y CyngorAstudiaethau Maes, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Cyngor Chwaraeon.

Cefnogir y cwrs gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. Os ydych dros 25 oed, yn ddi-waith ac â’r cymwysterau perthnasol, rydych yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol sy’ntalu’r ffÏoedd hyfforddi ac yn cyfrannu tuag at gostau cynnal.Am wybodaeth bellach, ffurflenni cais neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:Geraint George, Rheolaeth Cefn Gwlad,Ysgol Astudiaethau Cymuned, Rhanbarth a Chyfathrebu,Prifysgol Cymru Bangor, BANGOR,Gwynedd LL57 2DG.

Ffon: (01248) 383649/383231 • Ffacs: (01248) 382189

Clawr blaen:Trwyn yr As (Nash Point). Morgannwg.Creigiau gwaddodol, Lias (Jurasig)

Clawr ôl:Cystadleuaeth plygu gwrych, Afonwen, Sir Fflint

Lluniau: Goronwy Wynne

Lluniau’r Clawr

Page 3: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

Golygydd: Goronwy Wynne, “Gwylfa”,Licswm, Treffynnon, Sir Fflint CH8 8NQ.

Cymdeithas Edward Llwyd 2002 – 03

Llywydd: Dafydd Davies

Cadeirydd: Goronwy Wynne

Is-gadeirydd: Harri Williams

Trysorydd: Ifor Griffiths

Ysgrifennydd: Megan Bevan, “Y BlewynGlas”, Porthyrhyd, Sir GaerfyrddinSA32 8PR.

Ysgrifennydd Aelodaeth: Iwan Roberts,3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun,Sir Ddinbych LL15 1BT.

Y Naturiaethwr, Cyfres 2, Rhif 11, Nadolig 2002.

Cyhoeddir Y Naturiaethwr gan GymdeithasEdward Llwyd.

Dyluniwyd gan: MicroGraphics

Argraffwyd gan: Gwasg Dwyfor

Mae hawlfraint pob erthygl yn eiddo i’r awdur.

Y Naturiaethwr

Cynnwystudalen

Gair gan y Golygydd 3Goronwy Wynne

Llên y llysiau 4Maldwyn Thomas

Y Byd Drwy Lygaid Uwchfioled 6Dr Dylan Gwynn-Jones

Colli Bioamrywiaeth 8Dr Hefin Jones

Adar Drycin Manaw ar Enlli 12Peter Hope Jones

Cynefin 14Gruff Ellis

Gwas y Neidr 17Peter Boardman

Yr Atlas Newydd 20Goronwy Wynne

Robin Brith y Seychelle 21Rhys Jones

Byd Natur a’r Bardd 24Lun Roberts

Llyn pwy? 25

Dod i Nabod ein Gilydd 27Dafydd Dafis

Nodiadau Natur 29

Wyddoch chi? 31

Llythyrau 31John Lloyd JonesW. Brian L. EvansElfed H. Evans

Adolygiadau 36

Cyfres 2 Rhif 11 Nadolig 2002

Page 4: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

3

Gair gan y GolygyddGoronwy Wynne, Gwylfa, Licswm,Treffynnon,

Sir y Fflint, CH8 8NQ.

Tel.: 01352 780689

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau ymmyd natur yn cyrraedd y Golygydd yngyson – dyma 4 o’r rhai diweddar.

• Ogofau Cefnmeiriadog, rhwng Dinbycha Llanelwy. Mae ogof Pontnewydd ynenwog trwy’r byd fel cartref yr oliondynol hynaf a ddarganfuwyd yngNghymru, tua 200,000 o flynyddoeddoed. Bellach, mae’r ardal wedi’i dynodiyn Safle o Ddiddordeb GwyddonolArbennig.

• Cwm Pennant. Mae cynllun ar droed iddenu’r dyfrgi yn ôl ar fferm y Gilfachar lannau Afon Dwyfor trwy adeiladulloches neu wâl o ddeunyddiau lleol.

• Coedydd yn Nyffryn Elan. Mae’rFforwm Coed Hynafol – grwp oarbenigwyr ar draws Gorllewin Ewrop –wedi datgan bod y coedydd hyn yndrysor rhyngwladol – yn well nagunrhyw safle a welsant ar ôl ymweld â’rcoedydd hynafol gorau yn Sweden.

• Penybont ar Ogwr. Mae Cyngor CefnGwlad Cymru wedi dynodi twyniMerthyr Mawr – y twyni honedig uchafyng Nghymru – yn Warchodfa NaturGenedlaethol. Mae’r warchodfa gyfan o

776 erw yn agored i gerddwyr eimwynhau.

Y flwyddyn nesaf, bydd CymdeithasEdward Llwyd yn 25 oed ac fel rhan o’rdathliadau gobeithiwn gyhoeddi rhifyndwbl o’r Naturiaethwr. Bydd angen toretho ddeunydd – dechreuwch baratoi yn awr.

“A oes cymaint o frwdfrydedd dros ygwyddorau naturiol ag a fu? Credwn fod yrymofynnydd brwdfrydig a diduedd bellachyn greadur prin. Mae gweithwyr gwreiddiolyn prinhau ac mae colled am wirysgolheigion y gorffennol. Mae rhaicymdeithasau wedi rhoi’r gorau i hybugwaith ac ymchwil annibynnol ac ynbodloni ar gynnig adloniant poblogaidd”.

- dyma’r sylwadau Golygyddol (ynSaesneg) yn y North Western Naturalist,cylchgrawn ar gyfer Gogledd Lloegr aGogledd Cymru ym 1926.Yr hwn syddganddo glustiau i wrando – gwrandawed.Gwae ni!

Gofid mawr oedd clywed fod Robina,priod Dyfed Elis-Gruffydd, cyn-gadeiryddCymdeithas Edward Llwyd wedi marwmewn damwain car yn Sir Benfro ddiweddTachwedd. Cafodd Dyfed anafiadaudifrifol yn y ddamwain, ond rydym ynfalch o ddeall ei fod yn gwella’n raddol.

Dymunwn ar ran holl aelodauCymdeithas Edward Llwyd anfon eincofion a’n cydymdeimlad diffuant at Dyfedyn ei brofedigaeth.

Page 5: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

Enw safonol Cymraeg: eirlysEnw Lladin: Galanthus nivalisEnwau Cymraeg eraill: clochbaban/maban, eiriol, blodyn eira (yn yGogledd), tlws yr eira, lili wen fach

CyflwyniadBlodyn adnabyddus ac annwyl gan bawb,yn rhannol o achos ei wydnwch a’i hir oes,ond hefyd am ei harddwch syml a’iarwyddocâd fel cennad y gwanwyn. Maelle i amau a ydyw’n blanhigyn brodorol,ynteu wedi cynefino yma y mae. Er ei fodwedi hen sefydlu trwy’r wlad, mae’n debygmai o’r cyfandir y daeth yn wreiddiol, ondhwyrach ei fod yma ar ymyl eithaf eigynefin gwyllt. Pleser yw gweld y blodauwrth y miloedd fel ewyn gwyn dan goednoeth ar ddechrau blwyddyn.

DisgrifiadDail llwyd-wyrdd o gwmpas coes rhywchwe modfedd (15cm) o daldra, gydachloch wen yn crogi ar wddf main, ynblodeuo rhwng Ionawr a Mawrth. Tair‘petal’ wen, efo tair llai y tu mewn amarciau gwyrdd fel pedolau ar eu gwaelod,y cwbl yn codi o fwlb gwyn efo croenbrown fel papur.

Tarddiad yr enwauCloch baban/maban am fod y tymorblodeuo mor fuan ar ôl y Nadolig.Eirlys, eiriol, blodyn eira, a.y.y.b, oherwyddy lliw a’r tymor.Yn ôl Geiriadur PrifysgolCymru nid ymddangosodd yr enw eirlystan 1906, a’r tebygolrwydd yw mai enwaudiweddar yw’r gweddill hefyd.Yn ôl yr Oxford English Dictionary, JohnEvelyn ym 1664 oedd y cyntaf i grybwyllyr enw snowdrop. Hwyrach bod hyn yn

cryfhau’r ddadl nad planhigyn brodorolmohono.Mae dau enw Saesneg, sef Candlemas Bellsa Fair Maids of February yn cyfeirio atwisgoedd gwyn y merched ifanc fyddai’ngorymdeithio i ddathlu Gwyl Fair yCanhwyllau neu Buredigaeth Mair Forwynar 2 Chwefror, sef uchafbwynt eu tymorblodeuo.

Coelion gwerinYnghyd â blodau gwyn eraill fel gorthyfaila drain gwynion, credir bod eirlysiau ynddrwgargoelus. Mae Vickery yn eiDictionary of Plant Lore yn rhoi sawlenghraifft o hyn o Loegr ac un o Gymrugan berson o Aberystwyth ym 1983, sy’nadrodd fel roedd teulu ei fam o Sir YFflint, efo cysylltiadau â Sir Drefaldwyn,yn credu’n gryf bod dod â thusw oeirlysiau wed’u torri i mewn i’r ty ynargoeli marwolaeth yn y teulu agos. Mae’run awdur yn Plant-lore Studies yn sôn amfam yn Sussex yn ceryddu plentyn amddod â blodyn unigol o eirlys i’r ty am eifod yn arwydd o farwolaeth ac yn eihatgoffa o gorff mewn amdo.

Cyfeiriadau llenyddol

O lili wen fach, o ble daethost ti?Â’r gwynt mor arw ac mor oer ei gri

Cân boblogaidd i plant - y geiriau ganNantlais a’r gerddoriaeth gan Daniel Protheroe.

Eirlysiau:Oblegid pan ddeffroaisAc agor heddiw’r drwsFel ganwaith yn fy hiraethWele’r eirlysiau tlws.

4

Llên y LlysiauCyfraniad arall i’r project sy’n casglu gwybodaeth am blanhigion a’u perthynas â phobl Cymru

YR EIRLYSGan Maldwyn Thomas gyda chyfraniadau gan Twm Elias, Iwan Edgar a Duncan Brown

Page 6: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

5

Oll yn eu gynau gwynionAc ar eu newydd wedd,Yn debyg idd eu Harglwydd,Yn dod i’r lan o’r bedd.

Cynan

Plentyn cyntaf gwanw`yn ywYn yr awel oer mae’n byw.

Iorwerth Glan Aled (Edward Roberts1819-67, Llansannan)

GerddiMae llawer o wahanol rywogaethau oeirlysiau’n tyfu’n wyllt, o’r Cawcasws iynysoedd Groeg ac i Lydaw, a’r rhain wedieu casglu i erddi. O ganlyniad i groesi ahefyd trwy dueddiad y math cyffredin iamrywio, mae dros bum cant oamrywiadau wedi’u henwi, yngwahaniaethu mewn maint a ffurf y petalauallanol, a lliw a ffurf y marciau ar y petalaumewnol, a llawer iawn o arddwyr yngwirioni ar eu casglu. Mae rhai gerddimawr, megis Plas yn Rhiw yn Llyn aChastell y Waun ar y gororau, yn agor i’rcyhoedd yn y gwanwyn, gan morboblogaidd y sioe.

Nodweddion ecolegolCynefin naturiol eirlysiau yw coedlannaucollddail mewn lleoedd lle mae digonedd owlybaniaeth yn ystod y tymor tyfu acmaent yn cyrraedd 2,000 metr ar rai ofynyddoedd y cyfandir. Mae’r dail wedi’uhaddasu efo ewin bach caled ar eu blaenau

i’w galluogi i dreiddio trwy’r ddaearrewllyd. Prin yw pryfed ar gyfer peillio yradeg honno, ac felly, trwy wahaniadbylbiau mae eirlysiau’n lledaenu gan amlaf.Pan fo’r twmpathau yn tewychu mae’rbylbiau yn cael eu gwthio i’r wyneb, ac yncael eu gwasgaru gan adar ac anifeiliaid yncrafu am fwyd. Mae afonydd a ffrydiauhefyd wrth orlifo yn eu gwasgaru fel mae’namlwg mewn pantiau a lleoedd llaith, erenghraifft ar lannau Afon Dwyfor ynLlanystymdwy. Mae Mabey yn FloraBritannica yn tybio bod gan leianodddylanwad ar eu lledaeniad, wrth euplannu fel symbol o dduwioldeb; mae’nffaith bod eirlysiau’n niferus iawn ogwmpas abatai, eglwysi, a mynwentydd.Maent yn gosod had hefyd pan fo’r tywyddyn ffafriol a’r morgrug yn eu lledaenu panyn aeddfed. Mae’r blodyn crog ynamddiffyn y tu mewn rhag difrod yn ystodtywydd garw. Heblaw hynny mae gan ypetalau allanol y gallu i symud efotymheredd yr awyr, yn agor uwchben 10°Cac yn cau o dan hynny, fel bod y blodyn yndderbyngar pan fydd y gwenyn yn hedfan.Gan ei fod ynghrog, mae’n golygu bod ygwenyn yn gorfod bod ben-i- lawr wrthymdrechu i gyrraedd y neithdar, ond mae’rtair petal fewnol yn ffurfio tiwb sy’n eugalluogi i ddal eu gafael a llwyddo acfelly’n ddiarwybod yn ffrwythloni’r blodyn.Mae’r eirlys yn blanhigyn gwydn, ac ynbarod iawn i ymledu, fel y gwelwn yn amlpan aiff tai yn furddunod.

CyfeiriadauDavies, Aaron Galanthus (1999).Mabey, R Flora Britannica (1996)Vickery, R (Gol.) Plant-lore Studies(1984),Vickery, R (Gol) Dictionary of Plant-lore (1995)Davies, D a Jones, A Enwau Cymraeg ar Blanhigion (1995)

Dim ond dechrau casglu gwybodaeth ywhyn. Byddai Duncan Brown yn falch odderbyn cyfraniadau.

Eirlysiau ym mis ChwefrorPrion, Sir Ddinbych. Llun: G.W.

Page 7: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

6

Allweddeiriau: UV, esblygiad, golwg,signal, osôn, ecosystem.

CrynodebMae’r papur hwn yn crynhoi pwysigrwydd goleuniuwchfioled fel ffactor pwysig mewn Ecoleg ar yDdaear.Y mae’n sôn am esblygiad, gallu rhaiorganebau i weld UV (e.e. adar), rhyngweithio rhwngorganebau (e.e. planhigion a phryfed), effeithiauanuniongyrchol ar y pridd a phrosesau meicrobaidd.Trafodir y diddordeb cynyddol mewn astudiaethau areffeithiau UV, yn dilyn ymchwil ar ddirywiad yr osôna’r galw am ymchwil pellach ar effeithiau’r math hwno oleuni sy’n anweledig i lygaid dyn.

Mae dirywiad yr osôn oherwydd gollwngclorofflworocarbonau i’r awyr, yn destunpryder o hyd. Mae’r dirywiad wedi bod ynfwyaf amlwg mewn ardaloedd lledreduchel, ac wedi arwain at gynnydd yn lefelauun math o oleuni uwchfioled, UV-B. Gellirrhannu golau uwchfioled yn dri dosbarth,sef UV-C (<290nm), goleuni gwan iawnnad yw’n cael ei weld ar wyneb y Ddaear;UV-B (290-320 nm), goleuni sy’n cynydduoherwydd dirywiad yr osôn a UV-A (320 – 400 nm nm), goleuni nas effeithirgan ddirywiad yr osôn ac sy’n bresennol ynnaturiol ar y Ddaear.Mae tri degawd o ymchwil wedi bod areffeithiau UV-B ar brosesau ecolegol, gangynnwys effeithiau ar blanhigion,anifeiliaid, a phrosesau ecosystem megispydru dail ar wyneb y pridd. Mae’rymchwil hwn wedi dangos bod gan oleuniuwchfioled bwysigrwydd biolegol y tu hwnti effeithiau dirywiad yr osôn yn gyffredinol.Nid yw hyn yn fawr o syndod i ffisegwyrgan fod egni goleuni mewn cyfranneddgwrthdro i’w donfedd ac felly mae UV-B aUV-A yn egnïol iawn.∈=hc/λlle mae:∈= yr egni sy’n gysylltiedig â’r golau

h = cysonyn Planck (6.6254 x –34 Js-1), c= cyflymdra (ms-1), λ= tonfedd (m)

Mae mwy o egni mewn golau uwchfioled(tonfeddi 290 –400 nm) nag sy’n y golaucoch (655-665nm) sy’n bwysig iffotosynthesis ac yn gyfrifol am y gwyrddnia welir yn ein gwlad brydferth heddiw.’Roedd goleuni uwchfioled yn her bwysig iesblygiad organebau cynnar ar wyneb yDdaear cyn datblygiad yr haen osôn. Drwygyd-ddigwyddiad mae goleuni UV yn caelei amsugno’n effeithiol gan DNA. Mae UVyn creu mwtadiadau DNA sy’n galluarwain at amrywiaethau mewn organebauac weithiau hyd yn oed at farwolaeth. Afu’r goleuni hwn yn sbardun esblygolcynnar, felly? Yr hyn sydd hefyd yn ddiddorol iawn yw’rffaith bod creaduriaid hynafol, gangynnwys adar a phryfed, yn medru gweldgoleuni uwchfioled.Yn wir, pan welwchbioden y tro nesaf, ystyriwch y byddai’nymddangos yn wahanol iawn mewn UV, ynwir mae’r du i’w weld yn wyn a’r gwyn ynddu. Mae goleuni yn rhoi gwybodaeth iorganebau ar bedair lefel drwy : i)

Y Byd Drwy Lygaid UwchfioledDr. Dylan Gwynn-Jones

Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Cymru Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DDE-bost [email protected]

Linda Olson, myfyrwraig o grwp ymchwil Dylan Gwynn-Jones yn astudio effaith deng mlynedd o ddiwyriad yr osôn arcymunedau planhigion o’r is-Arctig yn Abisko, Sweden(68oG). Gwneir hyn drwy ddefnyddio lampau uwch fioleduwchlaw y gymuned gan ddilyn patrwm naturiol ondychwanegu uwch fioled-B i gynrychioli 15% mewn dirywiadyr osôn.

Page 8: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

7

ansawdd, ii) maint, iii) cyfeiriad a iv)cyfnod (e.e. y tymhorau); nid oes rhyfedd,felly, ei fod yn ddull cyffredin iawn odrosglwyddo gwybodaeth. Mae adar yndefnyddio UV-A i ddewis eu cymheiriaid,gydag ansawdd y plu yn dynodi cyflwr yrunigolyn, a hyn yn effeithio ar y modd ymae goleuni uwchfioled yn cael eiadlewyrchu. Mae pryfed hefyd yn cael eudenu i beillio rhai blodau oherwyddpatrymau UV ar eu petalau.Mae’r goleuni hwn yn bwysig iawn iblanhigion. Mae UV yn achosi i’rplanhigion gynhyrchu cemegau yn cynnwysfflafonoidau i’w hamddiffyn yn erbyn yregni sydd ynghlwm wrth olau. Mae sefyllfadebyg mewn dyn, lle mae cemegaucyfatebol fel melanin yn chwarae’r un rhan.Y peth sy’n arbennig iawn am yfflafonoidau a chemegau eraill, gangynnwys lignin a seliwlos, yw eupwysigrwydd ecolegol. Mae’r cemegau hynyn bwysig o ran y modd y mae planhigionyn eu hamddiffyn eu hunain yn erbynpryfed. Maent hefyd yn bwysig o ranecoleg y pridd, gan arafu pydredd dail ynyr Hydref.Yn ddiweddar iawn yr ydymwedi medru dangos bod yr effeithiaucemegol hyn yn cael eu trosglwyddo i’rpridd. Wrth fwydo dail meirw o goed bedwi bryfed genwair, yr oedd yn bosibl dangosbod tyfu’r coed ym mhresenoldeb UV, cyncasglu’r dail, yn newid yr hyn sy’n cael eigyflwyno i’r pridd gan y pryfaid genwair.Mae hyn yn rhannol egluro pam y gwelsomnewidiadau meicrobaidd mewncymunedau Arctig ar ôl pum mlynedd odriniaeth gyda lefelau UV-B a oedd yncyfateb i ddirywiad o 15% yn yr osôn. Maehyn yn ddiddorol iawn oherwydd nid yw’rcymunedau tanddaearol meicrobaidd hynyn gweld UV gan nad yw’n treiddio mwyna ryw 2 mm i’r pridd. Felly, credwn fod yreffeithiau’n gweithredu’n anuniongyrcholdrwy brosesau yn y pridd, megis pydredddail meirw ac archwys cemegau owreiddiau planhigion.Mae goleuni uwchfioled yn creu niwed iDNA, sy’n effeithio ar y modd y maeensymau a phrotinau eraill yn cael eu creu;mae hyn yn gallu achosi lleihad yn nhwfplanhigion a marwolaeth mewn rhai

meicrobau. Mae gan anifeiliaid y fantais ofedru symud i osgoi’r fath oleuni, cyhydâ’u bod yn medru gweld yr UV a’r perygl.Mae adar a rhai pryfed (rhai sy’n hedfan,fel arfer) yn medru gweld UV-A ac ychydigUV-B ond nid felly dynion. Does ryfeddbod cynifer o bobl yn llosgi yn yr haul.Yny gorffennol roedd ein hanallu i weld UVyn un o’r rhesymau pam nad oedd yn caelei ystyried yn bwysig a hyd yn oed heddiwmae gan rai’r agwedd ‘os na fedraf ei weldnid yw o bwys’. Mae hyn hefyd yn wir amymbelydredd ond beth am ei arwyddocâdbyd-eang?

Wrth edrych i’r dyfodol, bydd yn rhaidtargedu ymchwil i ddarganfod beth sy’nbwysig o ran effeithiau goleuni uwchfioled.Bydd yr haen osôn yn parhau i ddirywio yny dyfodol, er ein bod yn gobeithio y byddyn adfer ymhen ryw 50 mlynedd. Mae ynahefyd fanteision o ymchwilio i effeithiauUV ar blanhigion. Gall tywynnu UV arblanhigion ddatblygu eu hamddiffyniadaunaturiol, ac efallai y gellir defnyddio hyn yny dyfodol i leihau ein dibyniaeth arffyngladdwyr a phlaladdwyr yn y dyfodol.Mantais bosibl arall yw defnyddio UV ianwytho cemegau yn erbyn canser. Felly,fel canlyniad i’r poeni a’r pryderu amddirywiad yr osôn, rydym wedi darganfodllawer sydd o fantais i ni, gan gynnwys yddealltwriaeth nad ydym yn oruwch pobdim a phob peth ar y blaned hon. Mae bydarall i’w weld drwy lygaid UV, ac mae’n fydyr wyf yn benderfynol o’i ddeall yn ydyfodol.

Un rheswm da iawn dros weithio yn yr Arctig, Abisko 680 N,

Sweden

Page 9: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

8

Colli Bioamrywiaeth:oes angen gofidio?

Crynodeb o Ddarlith Flynyddol Cymdeithas Edward Llwyd 2001

Dr Hefin Jones,Prifysgol Cymru Caerdydd

Edward Llwyd (1660 – 1709) oedd un, osnad y botanegydd cyntaf i gofnodiplanhigion ac anifeiliaid Alpaiddmynyddoedd gwledydd Prydain. Llunioddhefyd restr o blanhigion Eryri a datblygoddddamcaniaethau i egluro dosbarthiadffosilau. Bu i’w farw cynnar ym 1709, yn49 blwydd oed, atal cwblhau cyhoeddiadysgolheigaidd a llawn am hanes naturiolCymru, cyhoeddiad a fyddai wedidisgrifio’r bioamrywiaeth a welai o’igwmpas ac a oedd yn ei werthfawrogi’nfawr. Digon tebyg fu profiadau y Cymro oFrynbuga, Alfred Wallace, a’i gyfoeswrCharles Darwin – “There is grandeur inthis view of life....., whilst this planet hasgone cycling on according to the fixed lawof gravity, from so simple a beginningendless forms most beautiful and most

wonderful have been, and are beingevolved.” (Brawddeg olaf The Origin ofSpecies gan Charles Darwin 1859)Allan yn y wlad, un o’r pethau sydd bobamser yn dal llygad yw’r amrywiaeth o

wahanol rywogaethau sydd o’n cwmpas.‘Rydym, er hynny, ymhell iawn o ddeall sutmae’r mwyafrif o’r rhywogaethau hyn ynbyw, beth yw eu cloerau ecolegol, beth yweu rôl oddi mewn i fframwaith y ddaear a’ihamgylchedd.Amrywiaeth biolegol – cymhlethdodbywyd. Mae’r gair yn ymddangos yn einpapurau, ar y cyfryngau gweledol achlywedol, mewn areithiau gwleidyddol, ynein hamgueddfeydd ac mewn sefydliadauaddysgol. Ond beth a olygwn pan yn sônam fioamrywiaeth? Gellir trafodbioamrywiaeth ar o leiaf bedair lefel: lefelgenynnau, lefel rhywogaeth, lefel cymunedneu gynefin, ac ar lefel tirlun. Maenodweddion hinsoddol megis tymheredd achwymp glaw yn dynodi’r ffiniau rhwngcylchfaoedd trofannol a thymherus, erenghraifft, a hefyd mathau o dyfiant, erenghraifft, anialwch, coedwigoedd aglaswelltiroedd. Tymheredd a glaw, ynghydâ nodweddion tir a phridd, sy’n pennupatrwm tymhorol y cyflenwad dwr ac oganlyniad yn penderfynu hyd ac amser ytymor tyfu, pa dyfiant sy’n llwyddo a hyd

Asesu bioamrywiaeth trychfilod yn Brunei

Gall colli bioamrywiaeth ynghyd â newid hinsawddgael effaith andwyol ar gynefinoedd.

Page 10: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

9

yn oed ai coed bytholwyrdd, coedcollddail, llwyni a phrysgwydd neu laswelltsy’n goroesi.Ar fioamrywiaeth rhywogaethau ycanolbwyntiwn yn yr erthygl hon. Faint orywogaethau sy’n bodoli? Gan maientomolegydd ydwyf gadewch i mi ofynfaint o rywogaethau o chwilod sy’n bod?Dyma’r urdd fwyaf o drychfilod – dros300,000 ohonynt eisoes wedi’u henwiledled y byd, 20, 000 yn Ewrop a rhyw 4,000 o wahanol rywogaethau ym Mhrydain.Gellir darogan bod rhyw 40% o holldrychfilod y byd yn chwilod. Pa ryfedd i’rbiolegydd enwog Haldane ddweud unwaithbod gan Dduw ryw hoffter anesboniadwyat chwilod. Cynnwys yr urdd y mwyaf o’ntrychfilod – y chwilen Goliath maint dwrn- a rhai o’r trychfilod lleiaf sy’n llai na0.5mm o hyd. Ond er cymaint eingwybodaeth nid oes gennym fawr o syniado gyfanswm nifer y rhywogaethau sy’nbodoli ar y ddaear. Amredeg amcangyfrif ycyfanswm o rywogaethau o gyn lleied â 3miliwn i 80 miliwn. Onid rhyfedd yw’rffaith ein bod yn gwario tipyn mwy o’nharian ymchwil gwyddonol ar ddod iddeall yr hyn sy’n digwydd ar blanedaueraill, beth sy’n digwydd yn y gofod cynein bod yn deall ein planed ni ein hunain?Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain maegennym well syniad faint o blanedau sy’n ybydysawd na faint o rywogaethau sy’nbodoli ar y blaned!

Yn einhanwybodaethrydym yn collirhywogaeth arôl rhywogaeth.Ers 1600 fewyddom amyn agos i 1,500o achosion oddifodiantanifeiliaid aphlanhigion.Mae’r ffigwr,wrth gwrs, ynllawer mwy nahyn gan nawyddom am

fodolaeth nifer o rywogaethau sydd wedi acyn wynebu difodiant. Digwyddodd droshanner o’r achosion difodiant yma yn ystodyr ugeinfed ganrif ac yn ôl nifer mawr obaleowyddonwyr mae cyfradd difodiant yrunfed ganrif ar hugain yn mynd i fodbedair gwaith yn uwch nag unrhyw beth awelir yn ein storfeydd ffosil. Nid diflaniadrhywogaethau yw unig effaith y gyfradduchel hon o ddifodiant. O gollirhywogaethau yng nghoedwigoeddtrofannol Amasonia ac wrth glirio’r tir a’ior-ddefnyddio i gynhyrchu cnydau a phorianifeiliaid, rydym yn dedfrydu’r tir ierydiad. Canlyniad anochel erydiad yw tirdiffaith.Peth cymharol hawdd yw dweud bodbioamrywiaeth yn bwysig a bod yrhyngweithio rhwng yr holl organebau a’u

hamgylchedd yn eithriadol o gymhleth. Osydym am ddeall beth yn union sy’ndigwydd rhaid yw deall nodweddion yrhyngweithio yma. Ond sut medrwn niwneud hynny – onid hanfod natur yw eichymhlethdod? ‘Rwyf wedi sôn mewnerthygl arall am yr Ecotron y bûm yngweithio ynddo fel ymchwilydd am ryw 6blynedd (gweler Naturiaethwr 2000 7: 6 –8). Fy mwriad yw defnyddio canlyniadaurhai o’r arbrofion hyn i geisio ateb ycwestiwn – colli bioamrywiaeth: oes angengofidio?A yw’r nifer o rywogaethau a geir mewncymuned yn bwysig? Mae yna garfan owyddonwyr sy’n dadlau’n frwd bod pobrhywogaeth yn hollbwysig; os collir un

Prosiect rhyngwladolBIODEPTH

Bioamrywiaeth a newid hinsawdd

Page 11: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

10

rhywogaeth mae’r gymuned a’i bodolaethyn dioddef. Dyma ddamcaniaeth yrhybedion (rivets) – mae pob cymuned feldau ddarn o fetel yn cael eu dal at ei gilyddgan rybedion. Os torrir un o’r rhybedion,yna, er nad yw’r metelau’n gwahanu, mae’rholl uned yn fwy sigledig. Dyna hefydhanes cymuned naturiol o gollirhywogaethau. Dadl carfan arall yw maidim ond nifer arbennig o rywogaethauallweddol sy’n angenrheidiol i sicrhaubodolaeth a llwyddiant cymuned oorganebau. Gelwir y ddamcaniaeth hon ynddamcaniaeth y criw awyren neuddamcaniaeth y teithwyr. O sicrhau bod ycriw (y peilot, y peiriannydd ac yn y blaen)yn bresennol gall yr awyren hedfan heb yteithwyr. Pa ddamcaniaeth sy’n gywir?Darganfyddiad pwysig a phellgyrhaeddol ini yn yr arbrawf oedd bod y nifer orywogaethau yn hollbwysig. Er enghraifft,roedd y cymunedau a oedd yn cynnwys ynifer mwyaf o rywogaethau o blanhigion ynfwy effeithiol wrth ddefnyddio’r nwycarbon deuocsid (CO2) na’r cymunedau aoedd yn cynnwys llai o rywogaethau. Pam?Wel nid am fod ganddynt fwy o ddailgwyrdd ond am fod pensaernïaeth y

cymunedau hyn dipyn yn fwy cymhlethna’r cymunedau eraill. Maent felly ynmedru dal goleuni’r haul mewn mwy offyrdd ac, o ganlyniad, yn defnyddio mwy oCO2 i ffotosyntheiddio.A ydi’r fath ddarganfyddiad yn dal dwr?Rhywbeth hollol artiffisial yw’r Ecotron. Igeisio ateb y cwestiwn hwn dyma fynd ati idrefnu arbrawf maes. BIODEPTH oeddenw’r arbrawf traws-Ewropeaidd hwn a’rbwriad oedd datblygu gwaith ymchwil yrEcotron trwy ofyn a oedd yr un patrymaua welwyd yn siambrau’r Ecotron yndigwydd allan yn yr awyr agored.Darganfuwyd bod y berthynas rhwngbioamrywiaeth a’r modd mae cynefinoeddyn bodoli yn dal – ’roedd lleihad mewnbioamrywiaeth, neu gynnydd mewndifodiant rhywogaethau, ym mhob un wladlle cynhaliwyd yr arbrawf, yn arwain ileihad mewn cynnyrch planhigol, arafucylchu elfennau megis nitrogen a charbon,ynghyd â lleihad yng ngallu gwrthiannolplanhigion i wrthsefyll organebaumewnfudol.Wrth golli rhywogaethau ar raddfaechrydus o uchel, rydym yn collicyflenwadau cyffuriau meddygol,

Dibynna trigolion y gwledydd sy’n datblygu ar fioamrywiaeth eu cynefin.

Page 12: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

11

prydferthwch a chyflenwadau coed. Aydym hefyd yn gwneud ein planed yn llaieffeithiol ac yn wir efallai yn llai galluog iymdopi â’r cynnydd cyson yn y CO2 ymae’r dynoliaeth yn ei ollwng i’r atmosffêr?Colli bioamrywiaeth: oes angen gofidio?Hyd yma, soniais am ddifodiantrhywogaethau o ganlyniad i gliriocoedwigoedd, gor-amaethu ac adeiladu.Ffactor arall sy’n cael cryn effaith arrywogaethau a chyfansoddiad cymunedauo blanhigion ac anifeiliaid, yw newidhinsawdd a’r effaith ty gwydr. A yw’rcynnydd yn y nwyon ty gwydr yn effeithioar fioamrywiaeth cymunedau naturiol oblanhigion ac anifeiliaid? Mewn arbrawfarall yn yr Ecotron gwelwyd mai bychanoedd effaith cynyddu lefelau CO2 arblanhigion ac anifeiliaid uwchben y ddaear– y glaswellt, y llysiau a’r malwod. Onddigwyddodd pethau hollol annisgwyl yn ypridd.Yno, roedd cymuned o drychfilodbychain, y collembola sy’n gyfrifol amddadelfennu mater organig a chylchuelfennau. Er cychwyn gyda’r un gymuneddatblygodd cymunedau hollol wahanol, oran cyfansoddiad rhywogaethol mewncymunedau a oedd yn tyfu mewn lefelauuchel (2060) o CO2 i’r rhai oedd yndatblygu mewn lefelau normal (1995) oCO2. Gwelwyd hefyd bod y gymunedffwng, er cychwyn yr un fath, wedidatblygu ar lwybrau gwahanol. Agweddddiddorol arall oedd bod crynhoad ycarbon yn y pridd dipyn yn fwy mewnlefelau uchel o CO2 nag mewn lefelaunormal. A yw hyn o bwys?Credwn ei fod! Ein damcaniaeth yw bodplanhigion yn ffotosyntheiddio mwy mewnlefelau uchel o CO2 a bod y cemegolioncarbon a gynhyrchir yn cael eu symud trwyfeinwe’r planhigyn i lawr drwy’r gwreiddiaui’w rhyddhau yn y pridd. Dibynna’r ffwngar y carbon ac mae’r newidiadau mewncrynoadau yn effeithio ar gyfansoddiadrhywogaethol y cymunedau. Gan fod ycollembola yn bwydo ar y ffwng, o newid yffwng mae cymunedau’r trychfilod hefydyn newid.

A pham mae hyn yn bwysig? Gall ynewidiadau hyn yng nghyfansoddiadcymunedau’r pridd effeithio ar y modd ybydd elfennau yn cylchu yn ein pridd,ffrwythlonder y tir a nifer o agweddaueraill, hollol hanfodol, sy’n ymwneud âchynhyrchu bwyd, amaethyddiaeth agarddwriaeth.Yr ydym i gyd yn effeithio ar y byd yrydym yn byw ynddo ac ar einhamgylchedd. Rhaid i ni beidio â thwylloein hunain. Mae’r hyn a wnawn ni heddiwyn mynd i effeithio ar y byd y bydd einplant, a phlant ein plant yn byw ynddo.Mae colli rhywogaethau, bioamrywiaeth,yn effeithio ar y modd y mae’r blaned yngweithio ac yn bod.Gorffennaf yng ngeiriau’r bardd WilliamJones, yn ei gerdd Yr Hen Blaned ‘Ma:

Mi wn fod Duw yn dal i gysgu’n drwmA hen blancedi’r cynfyd drosto ef,Ni chlywodd dinc morthwylion yn ycwmNa swn tryweli’n codi llan a thref;Pan anwyd amser collodd beth o’i nerthWrth lunio’r holl blanedau fesul un.Rhoi ffurf a llun i dwmpath ac i berthA moldio’r toeslyd bridd i lunio dynPan ddeffry Duw rhyw ddydd o’i

drwmgwsg hir,A rhwbio’i lygaid uwch y blaned hon,Fe sylla’n hanner hurt ar fôr a thirHeb nabod odid ddim o’i blaned gron;Ac yna codi’i olwg tua’r sêrNa stompiwyd eto gan ein dwylo blêr.

Page 13: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

12

Adar Drycin Manaw ar YnysEnlli: datblygiadau diweddar

Peter Hope JonesCuddfan, 49 Stryd Fawr, Porthaethwy,Ynys Môn LL5 5EF

CyflwyniadMae Aderyn Drycin Manaw Puffinuspuffinus wedi cael ei adnabod ers degawdaufel rhan bwysig o fywyd gwyllt Ynys Enlliyng Ngwynedd. Mae wedi chwarae rhanamlwg yng ngweithgareddau’r Wylfa Maesac Adar a sefydlwyd yng Nghristin ar yrynys ym 1953 ac yn un o’r prif resymaudros ddynodi’r ynys yn Warchodfa NaturGenedlaethol.

Mae bioleg cenhedlu Aderyn DrycinManaw wedi cael ei astudio mewnmanylder ar ynysoedd Skomer a Skokholmyn Sir Benfro. Mae’r iâr yn dodwy un wyyn unig y flwyddyn – mewn siambr nythuym mhen draw twnnel tanddaearol neuddaear. Mae’r cyw yn magu plu a dod allano’r ddaear ar ôl rhyw un wythnos arbymtheg gan hedfan allan i’r môr hebgymorth ei rieni. Efallai y bydd yr oedolionyn bwydo gryn bellter oddi wrth y fagwrfaa gallant yn aml fod i ffwrdd am sawl dydda nos, un rhiant yn bwydo a’r llall yn gori’rwy neu’n aros hefo’r cyw. Dichon nad yw’radar yn magu nes bod tua phedair oed er ygallant ymweld â gwahanol nythfeydd i

ennill profiad yn y cyfamser, ac mae’ndebyg y byddant yn gorffen gyda magu yn,neu yn agos i’w man genedigol.Mae’r rhan fwyaf o ymchwil ar AderynDrycin Manaw o’i hanfod yn hir-dymorond mae’n parhau mewn nythfeydd ynNyfed a Gwynedd. Mae’r adroddiad hwnyn amlinellu peth o’r gwaith sydd wedi’iwneud ar Ynys Enlli yn ystod yr ychydigflynyddoedd diwethaf.

Lefelau PoblogaethMae Aderyn Drycin Manaw wedi magu arEnlli drwy’r 20fed ganrif. Mae’n anoddcyfrif yn fanwl nifer yr adar sy’n magu,ond, ym 1913, cofnodwyd 30-40 o barauar Fynydd Enlli, er bod sôn bod nifer uwchyn yr 1930au –1950au. Erbyn 1963, roeddgwybodaeth am 2000 o ddaearau ac erbyn1996, roedd y rhif wedi codi i 6,921.Gwnaed arolwg o bwys yn 2001 trwy leolipob daear lle tybid bod aderyn ynddo acyna chwarae tâp (15 eiliad) o alwad yraderyn gwryw ger ceg y ddaear. Byddaipob aderyn gwryw oedd ‘gartref ’ ynymateb i’r her gan brofi bod deiliaid yn yddaear honno. Cafodd yr arolwg hwn eiailadrodd mewn rhan fechan o’r diriogaethi sicrhau bod y canlyniadau’n gyson. Niellid archwilio rhai mannau creigiog a lleroedd eithin trwchus, yn fanwl; heblaw amhynny, cafodd yr holl ynys ei harchwilio.Oherwydd nad oes, fel arfer, ond unaderyn yn y twll ar unrhyw adeg, mae’nrhaid dyblu’r ymatebion i gynnwysceiliogod a ieir. Ar Enlli, cafwydamcangyfrif terfynol o 9,780 o barau. Amamrywiol resymau, gall hyn fod braidd ynisel; felly, dichon ei bod yn ddiogel dweudbod poblogaeth magu Adar Drycin Manawrhywle tua 10,000 o barau. Mae’n amlwgbod cynnydd mawr yn ystod y degawdaudiweddar a chredir y gall nythfa Enlli fod y

Mae rhyw 10,000 o barau o Adar Drycin Manaw arEnlli

Page 14: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

13

bumed yn y byd o ran maint i’r rhywogaeth hon.

ModrwyoGwyr amryw o’r ymwelwyr ag Enlli am ywefr o fentro allan i’r tywyllwch danoruchwyliaeth ofalus y warden i ddal amodrwyo Adar Drycin Manaw ar y ddaearpan fyddant yn dychwelyd i’r nythfa yn ynos; dyma un o’r prif weithgareddau yn yrWylfa Maes ac Adar ers ei sefydlu ym1953. Erbyn diwedd 2001, roedd yn agos i28,000 o Adar Drycin Manaw wedi’umodrwyo. Wrth gwrs, dim ond rhyw 1%o’r adar hyn sy’n cael eu hail ddal i ffwrddo’r ynys ond mae’r ychydig hyn yn tystio i’rhanes sydd wedi dod i’r amlwg dros yblynyddoedd. Mae’r canlyniadau hyn,ynghyd â rhai o fannau eraill yngNghymru,Yr Alban ac Iwerddon yn dangosbod adar Prydeinig a Gwyddelig, ar ôlmagu, yn symud yn yr hydref i lawr trwyBiscay i aeafu ger glannau De America, cyndychwelyd i’w nythfa enedigol y gwanwyndilynol.Ym Muenos Aires,Yr Ariannin ymmis Chwefror 1993 cafwyd hyd i un o’radar a fodrwy-wyd ar Ynys Enlli ym misAwst 1978. Credir mai hwn oedd yr unpellaf i’w ddarganfod – llinell syth o11,329km. Adeg y dadansoddi ym 1996,roedd unarddeg o adar Enlli wedi’u hailddal yn Ne America, tri yng NgorllewinAffrica a phedwar yn Nwyrain GogleddAmerica.Ar 4 Ebrill 2002, creodd Aderyn DrycinManaw record Prydeinig. Cafodd aderyn afodrwywyd am y tro cyntaf ym Mai 1957 eiail ddal. Roedd hwn yr aderyn modrwyoghynaf yn y wlad – cwta fis yn fyr o 45mlynedd. Roedd yr aderyn eisoes wedi’i ailddal ar Enlli yn y blynyddoedd 1961 ac1978; gan ei fod yn oedolyn pan gafodd eifodrwyo am y tro cyntaf, dichon fod yraderyn hwn tua 50 oed. Cawn ein sobriwrth feddwl bod rhai o adar Enlli yn hynna’r Wylfa Adar.Aderyn Drycin Manaw a’r goleudyDoes dim rhyfedd bod pelydrau disglair ygoleudy yn cael y fath effaith ar adar megisAdar Drycin Manaw sy’n ymweld ag Enlliliw nos. Mae’n debyg eu bod yn dod i arferâ’r golau gan mai dim ond rhyw ugain y

flwyddyn sy’n cael eu lladd trwy daro ynerbyn gwydr y llusern neu yn erbyn y twr.Dangoswyd yn 2000 bod y rhan fwyaf yncael eu lladd ar ddau gyfnod – ddiweddMai ac ym mis Awst a dechrau Medi gydagychydig iawn ym Mehefin (efallai am nadyw’n hollol dywyll ond am gyfnod byr ynystod y mis hwn). Lladdwyd y nifer mwyafyn ystod cyfnod y lleuad newydd, gydagychydig iawn o farwolaethau adeg y lleuadlawn; yn gyfangwbl roedd bron i 40% o’rholl golledion yn digwydd yn y cyfnod ogwmpas ac yn union cyn dyddiad lleuadnewydd.Dichon fod y pegwn o golledion yn yrhydref yn deillio o’r ffaith bod nifer mawr

o’r Adar Drycin Manaw ifanc, dibrofiad yncychwyn o’u daearau i’r môr agored yradeg hon. Gwelwn felly bod Adar DrycinManaw yn parhau i fod o ddiddordeb inaturiaethwyr ac eraill sy’n ymweld â’rynys. Mae llawer o’r ymwelwyr yn synnu iglywed am yr holl adar sydd yno dan eutraed ac na fyddan nhw byth yn eu gweldyn ystod eu hymweliadau byr â’r ynys; trabod y rhai sy’n aros am wythnos yn yr hafyn rhyfeddu wrth glywed galwadau’r adarwrth iddyn nhw ddychwelyd o FôrIwerddon yn ôl i’w tyllau magu. Dymaaderyn sy’n elfen werthfawr ym mhatrwmcadwraeth bywyd gwyllt yr ynys ac maeEnlli’n warchodfa bwysig iddynt. Mae geni syniad bod ganddyn nhw ragor oddirgelion yng nghadw i’r rhai ohonomsy’n awyddus i ddysgu mwy amdanynt.

Aderyn Drycin Manaw ifanc

Page 15: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

14

CynefinGruff Ellis

Hafnant,Ysbyty Ifan, Betws-y-Coed

Mae’r awdur ar staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Yma maenghalon. Cefaisfy ngeni a’mmagu ymmhentref YsbytyIfan ar dir Stâdy Penrhyn brydhynny sydd, ershanner canmlyneddbellach, yneiddo i’rYmddiriedolaethGenedlaethol,sefydliad

elusennol a ffurfiwyd ym 1895 a’r saflecyntaf a ddaeth i’w meddiant oedd DinasOleu uwchben Abermaw ym Meirionnyddyn rhodd o 4.5 acer. Sefydliad yw hwn iwarchod ardaloedd o ddiddordebhanesyddol a phrydferthwch naturiol.Ym1968 roedd ganddynt 160,000 o aelodau,erbyn heddiw mae rhif yr aelodaeth bronyn dair miliwn. Mae hynny yn siaraddrosto’i hun.Cymrwyd stad Ysbyty (a’r Carneddau a’rGlyderiau) drosodd pan fu farw’rArglwydd Penrhyn, a’r llynedd bu dathlumawr ar hanner can mlwyddiant StâdYsbyty dan reolaeth yr Y.G. Cafwydcyfarfod arbennig yn y neuadd ac eitemaugan blant yr ysgol leol a chafwyd englynarbennig gan John O Jones o Gwm Eiddai’r achlysur

Yn ein maes plannwyd mesen- hon yw’r stad

Ac o had ei choedenHeddiw, fe ddaw yn llawenInni ffrwyth o dwf ei phen.

Mae pentref Ysbyty wedi’i osod y ddwyochr i’r afon Conwy gyda Chwm Gylchedd

ar yr ochr ddeheuol, Cwm Eidda ar yr ochrogleddol a’r Migneint rhyngom âFfestiniog.Yma y crwydraf yn aml hyd ynentydd a’r bryniau i chwilio a chanfodrhyfeddodau byd natur a’r awydd o hyd iddarganfod chwaneg ac i ddal i ryfeddu atgyfoeth yr hen fyd.

Disgwyl a derbyn weithiau chwilio a chael

Gweled a sgwennu a diolch am fyd morhael

Y Migneint neu’r rhostir corsog yw cynefiny Grugiar Goch a’r Gwalch Bach ac erbynheddiw y Bod Tinwen, na fyddai’n caelllonydd pan droediai ciperiaid yr hen lordhyd erwau’r grug. Adar eraill sy’n rhannu’rerwau garw yw’r Gigfran a’r Bwncath sy’n

niferus iawn gyda’r Cudyll Coch yntau.Mae rhai adar mân hefyd fel Pibydd yWaun a’r ddau ymwelydd gwanwynol sefTinwen y Garn a Mwyalchen y Mynydd,yn enwedig ar lethrau creigiog yr Arennig.Unwaith erioed y gwelais Bibydd y Mawn(Dunlin) ac wrth gwrs fe nytha’r CwtiaidAur yma ond yn fwy i gyfeiriad yGylchedd. Mae Pibydd y Dorlan ynymwelydd arall a Llyn Conwy ac i lawr yr

Y’r awdur yn dal barcud ifanc

Y Lili Ddwˆr Felen

Page 16: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

15

afon hyd at y llan, lle gwelir hefyd Fronweny Dwr bob cam i fyny’r Conwy i’wtharddiad. Os byddwch yn croesi o Ysbyty iFfestiniog, gwyliwch yn ofalus ac fe gewchgip ar y Barcud Coch a’i gymar asefydlodd eu hunain yma yn Hydref 96.Gwefr yn wir oedd cael gweld y BarcudCoch cyntaf i nythu yn yr hen sirGaernarfon ers dros ganrif ac mae wedinythu yma ers gwanwyn ’97 a magu 10 ogywion mewn chwe blynedd. Pâr arbennigiawn, ac rwyf yn eu gwarchod (gydathrwydded) yn ofalus iawn. Er hynny, maerhyw giwed yn dod ar eu hynt ac ynddigywilydd braidd ac mae naturiaethwr yncolli ei limpin weithiau. Rwyf o’r un farn âIolo Williams ar faterion fel hyn a byddIolo’n dod i fyny i ddringo’r goedenanferth a rhoi cymorth i fodrwyo’r cywionbob blwyddyn. Mae’n siwr y bydd NormanCloss yn fodlon i mi ddyfynnu ei englyn i’rBarcud Coch

Yn y frwydr rhag ei ddifrodi- a’i gyrch O gylch llynnoedd Teifi;

Ei gringoch wn welwn ni,Un a roed i fawrhydi.

Ie, un o hanesion hapus byd natur ywhanes y Barcud Coch. Byddaf yn ei weldyn hela’r Migneint a’r ffriddoedd acweithiau, yn enwedig ym Medi a Hydref,uwch y llan yma’n aml. Un peth y buaswnyn hoffi yw darganfod i ble mae’r cywionyn mynd i sefydlu tiriogaeth eu hunainMae’r ddau Farcud yma, beth bynnag, yndal llawer o gywion Piod a Brain Tyddynsy’n rhy niferus o lawer yma ar hyn o bryd,a hefyd, yn enwedig yn y gaeaf, yn byw ar

gelanedd fel y gwna’r Bwncath. (Maeambell i gwningen ac ysgyfarnog wedi dodi ben eu taith dan olwyn rhyw fodur neu’igilydd ac ambell hen ddafad hefyd). Maentyn cystadlu am gelanedd â’r Gigfran yn yrucheldir ac mae honno erbyn heddiw yngyffredin uwch y llan yma. Ers talwm, nidoedd i’w gweld ond ar ucheldir einffriddoedd a’r Migneint. Byddaf ynrhyfeddu at ddawn bardd a’i gynghaneddgelfydd. Rhaid seboni tipyn cyn dyfynnueto o waith Clos i’r Gigfran:

Geilw hon am gelanedd- uchelYn rhychwant y garnedd

Croes ddu mor fagddu â’r beddO gylch y maith unigedd.

Mae’n fis Medi a minnau ar y Migneint yntaflu pluen ar y dwr ar Lyn Conwy neu’rSerw lle mae’r Lili Ddwr Felen(Nuphalutea) yn ei blodau yng Ngorffennaf acAwst. Ond, ar hyn o bryd, mae yn eigogoniant a phorffor blodau’r grug yn rhoigwefr eto. Weithiau, er hynny, byddaf ynmeddwl nad yw eu blodau cystal ag erstalwm gan fod y grug yn mynd yn hen acyn hirgoes.Byddai mwy o losgi grug ers talwm mewncylch o 7 mlynedd er mwyn cael grugieuanc i’r grugier, ‘Gemau teg gwmwd haulac awel’ ond mae englyn arall mwyanghyfarwydd gan Pedrog

I’r teg ros rhoir ty grisial- i faguPendefigaeth feddal;

I’r grug dewr y graig a dâlNoeth weriniaeth yr anial.

I fynd am dro i fyd llysieueg, mae’rMigneint yn fan eithaf diddorol.Migwyn a grug wrth gwrs a Phlu’rGweunydd yw’r prif dyfiant ond cawn yLlus (Vaccinium myrtillus a’rV. vitis-idaea)hefyd i gyfeiriad y Gamallt. Mae’rGwlithlys (Drosera) yn eithaf cyffredin a’rLlygaeron (Vaccinium oxycoccus) i’w canfodyma ac acw a hyd yn oed y GaineirianFechan (Listera cordata) hefyd ond ynanodd drybeilig i’w chanfod. Awn i lawr arhyd Cwm Serw heibio’r hen anheddaugwag bellach: Cefn Garw, y lle sydd wedicyfareddu Ian Perrin, a Thrawsnant,

Y Gwlithlys

Page 17: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

16

Moelfryn Serw a Thrwynswch lle daw’rSerw fechan i ymuno â’r Conwy yr ochruchaf i Flaen y Coed. Pob un yn wagbellach, ond:

Yno roedd bywyd a hedd llechweddau,Bryn a chorlwyni, brwyn a chorlannau;Sain cenlli hefyd, swyn cynnull hafauO drebl hedydd i si drwy y blodau;Awr dawel ym mro’r duwiau,Cyn i’r byd roi ei benyd a dolur ei

boenau.Dywedwyd rhywbryd bod gan bawb eiGwm Pennant a dywedaf innau mai CwmEidda yw fy Nghwm Pennant i! Mae’r hengartref ym mhen uchaf y cwm sef BlaenEidda Uchaf ac mae’r henannedd wedi bod yn wagers 1934; ond mae’n gwmarbennig iawn a thoreth oflodau gwylltion o bobmath- o’r Friallen yn ygwanwyn cynnar hyd ochr yffordd ac yn ygweirgloddiau unigryw syddyno : y Clefryn (Jasionemontana) y Wialen Aur (Solidago) a Dant yPysgodyn (Seratulatinctoria); blodau diwedd yrhaf. Mae tegeiriannau yno;lluosog y rhai porffor, heb imi ymhelaethu,Y TegeirianLlydanwyrdd (Platantherachlorantha) y Gaineirian(Listera ovata), Cribau SantFraid (Stachys officinalis) yn doreth. Eithin yrIâr/Cracheithin (Genista anglica) ac maellawer eraill yn rhy niferus i’w henwi.Chwedl Eifion Wyn:Gwn pa beth yw cael fy nalYn nrysni’r blodau!Ond mae un a ganfyddais yn weirglodd TyUchaf ar lan yr afon Eidda sef yr YsgallenFwyth (Cirisum heterophyllum). Cyn amsery byrnau, roeddwn yn cerdded i fyny’rcwm â llwyth o wair i fuarth Ty Uchaf acun o’r blodau yma yn gymysg yn y gwair arei ffordd i’r gadlas. Ie, gwefr arall ynte,wedi imi eu canfod yn Sir Ddinbych,

nepell o Blas Iolyn, ar fferm Bryn Gwyn, ifod yn fanwl gywir, ond mae wedi diflannuoddi yno ers tua 20 mlynedd. Ond maenti’w gweld ar lan Afon Eidda fechan o hyder eu bod wedi prinhau.Un arall cyn cau pen y mwdwl sef yCaldrist Llydanddaill (Epipactis helleborine)ar ochr nant sy’n rhedeg i’r Afon Eidda sefNant Fforchog, gwefr arall o Gwm Eiddasydd wedi rhoi pleser ac aml i orig ddifyreithriadol i ryw bwt o naturiaethwr fel fi.Roedd hen wraig o Sasnes wedi dod i fyw ile o’r enw Pont Eidda yng nghanol y coedyn is i lawr na’r gweirgloddiau cyfoethogyma. Roedd yn lysieuwraig arbennig iawn

ac wedi cyhoeddi llyfrynLichens for vegetable dyeing acwedi bod yn ddarlithyddmewn prifysgol ynIwerddon. Mae copi o’illyfryn gennyf i’w drysori acfe ddysgais lawer iawnganddi hi fel ble i gael hyd i’rplanhigyn bychan digon disylw ond diddorol, sef yMwsglys bychan (Adoxamoschatellina). Oes maegennym gyfoeth yn ein gwladac mae’n bwysig eithriadolein bod yn ei warchod ynofalus ac yn trwytho’n plant,ein hwyrion a’n hwyresaugan bwysleisio pa morbwysig yw cadwraeth a bydnatur yn gyffredinol a

ninnau’n treisio’r hen blanedyma ac yn diystyru’n hetifeddiaeth. Maehonno’n etifeddiaeth bwysig ryfeddol naddylem ei diystyru.Mae Gwenallt wedi’i ddweud dros hannercanrif yn ôl ac mae’n bryd i ni ddeffro

Maddau inni mewn heddwch amanghofio ein daearAm ddienyddio dy bridd, am ladd eilun a’i liwA chithau wedi rhoddi cymaint o’thgyfoeth a’th brydferthwchYn y cornelyn o’r byd lle rydym ni ynbyw.

Rwy’n dechrau pregethu eto, mae’n brydcau pen y mwdwl a diolch am y cyfle.

Tegeirian Llydanwyrdd bach

Page 18: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

17

Gwas y NeidrYmfudwyr Newydd!

Peter Boardman7 High Street,Weston Rhyn, Sir Amwythig SY10 7RP

Mae Peter Boardman yn naturiaethwr hunan-gyflogedig gyda diddordeb arbennig mewn trychfilod.

Lluniau gan yr awdur

Am gannoedd o flynyddoedd, bu goresgyna gwrthryfel ar dir y Gororau. Gellid tybio,yn yr oed fodern hon bod pethau’n llawertawelach – ond nid felly! Yn dawel allechwraidd, mae criw o greaduriaid wediymgasglu ar faes y frwydr lle bu swngwrthdaro yn ddiweddar iawn –Gwarchodfa Natur Genedlaethol Fenn’s,Whixal a Bettisfield Mosses ar y ffin rhwngCymru a sir Amwythig. Dyma lle’renillwyd y frwydr ym 1991 ac yr achubwydun o fawnogydd pwysicaf Cymru ynghydâ’i bywyd gwyllt (gweler Y Naturiaethwr,Cyfres 2, Rhif 6, Mehefin 2000, tud.24).Roedd digon o greithiau yma, a’r gors yn

sychu er mwyn torri mawn gan adael dimlle i fywyd gwyllt y cynefin arbennig. Ohynny ymlaen, mae gwaith Dr Joan Danielsa’i thîm yn dechrau adfer y gors ar ôlcanrifoedd o dorri mawn.Y creaduriaidsy’n manteisio ar hyn yw Gwas y Neidr –sef y gwesynod (damselflies) a’r mursennod(dragonflies) a elwir yn Odonata (Groeg am‘genau danheddog’). Ers 1991, bu cynnyddsyfrdanol yn eu nifer oherwydd y dwr sy’nawr yn cronni’n y llynnoedd a’r ffosydddrwy’r flwyddyn, yn ogystal â’r cynnydd ynllystyfiant y gors. Trwy gydol yr 1990aucynyddodd y niferoedd a daethrhywogaethau newydd i’r safle, a bellach,

Picellwr Pedwarnod Libellula quadrimaculata

Page 19: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

18

dyma un o’r mannau gorau am Was yNeidr yng Nghymru gyfan. Wrth gwrs, cyncyfnod y torri mawn a chyn i’r gors sigo achrebachu oherwydd y draenio, roedd ynlle bendigedig gyda digonedd o Was yNeidr.Bob gwanwyn, yn ystod y dyddiau cynnescyntaf ar ddiwedd Ebrill, efallai y byddwchchi’n ddigon ffodus i weld y Fursen FawrGoch Pyrrhosoma nymphula (Large RedDamselfly) yn deor ac yn anelu am gysgody coed bedw ar fin y gors.Yma, ym Mai,bydd unigolion, dwsinau a channoedd o’rcreaduriaid yn ymgasglu am loches ac iwledda ar y toreth o fan bryfetach. Ar ôlcyfnod o besgi, daw’r gwrywod yn ôl iganol y gors i sefydlu tiriogaeth fagu.Mae’r gwrywod yn diriogaethol iawn ac yncadw golwg am unrhyw fenywod sy’n cael

eu denu i’r diriogaeth addas. Er eu bod yntreulio hyd at ddwy flynedd fel larfa (yn ôly cyflenwad bwyd) dim ond am rywwythnos mae’r mursennod llawn dwf yn byw.Mae mis Mai hefyd yn amser da i weld uno’r gwysennod harddaf, y PicellwrPedwarnod Libellula quadrimaculata (Four-spotted Chaser). Gwelir y gwrywod ynhofran dros y llynnoedd corslyd a cheirllawer brwydr ffyrnig gyda gwrywod eraill ahyd yn oed â rhywogaethau gwahanol wrthi’r tiriogaethau gael eu bygwth.Yn ycyfamser, mae’r benywod yn llechu’nddistaw nes bod y cynnwrf yn distewi cynmentro allan i chwilio am gymar.

Ym mis Mai hefyd, gwelir gwir seren yfawnog, sef y Picellwr WynepwynLeucorrhina dubia (White-faced Darter). Bubron i’r rhywogaeth yma ddiflannu’n llwyro’i unig safle yng Nghymru pan sychwyd ygors ar gyfer torri mawn ar raddfafasnachol. Byddai hyn yn drueni ond mae’rgwaith adfer yn awr yn cynnig cynefinaddas i’r creadur cymhleth hwn. Mae’r

larfa’n dibynnu’n llwyr ar y Migwyn(Sphagnum) am guddliw rhag ei elyniongan hela pryfetach yn y dwr ddydd a nos.Mae’n byw yn y gobaith bod y dwr yn rhyasidig i bysgod ffynnu – neu byddai’n helfago iawn. Tymor byr sydd i’r rhywogaethhon ar yr aden ac ychydig a welir ar ôlcanol mis Mehefin. Tra bo’r gwryw ynarchwilio’i diriogaeth, mae’r fenyw ynllechu ymysg y llwyni gan dorheulo nesdaw’r awydd. Mae’r gwryw o’r PicellwrWynepwyn yn gyfuniad o liwiau coch a dutra mai du a melyn yw’r fenyw. Mae gan yddau smotiau gwyn ar y pen sy’n gyfrifolam enw’r rhywogaeth.O ganol mis Mehefin ymlaen, gwelir mwya mwy o Was y Neidr a daw’r Picellwr DuSympetrum danae (Black Darter) i’r golwg.Mae hwn yn un o arbenigwyr y pyllauasidig ar y gors a’r fawnog a gellir caelniferoedd anferth ohono. Mae yn ei anterthtua chanol Gorffennaf ac yn y blynyddoedddiwethaf, cafwyd degau o filoedd ohono.Mae’r fenyw’n ymddwyn yn rhyfedd.Mae’n llechu ymysg y planhigion ganddibynnu ar y gwrywod mwyaf penderfynoli ddod o hyd iddi. Mae’r rhai sy’n methucymharu fel hyn yn hedfan allan dros y

Torri mawn, Whixall

Cynefin Gwas y Neidr

Page 20: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

19

pyllau dwr mewn dull igam-ogam sy’ndenu heidiau o’r gwrywod nes bod ycyflymaf yn ei dal. Os bydd ynosweithiau’n fwyn gall y Picellwr Du fodyn hedfan hyd at fis Tachwedd.Canol haf yw tymor y gwesynnod mawr(‘Hawkers’). Ar ôl tair neu bedair blyneddyn hela’u tamaid yn y dwr fel rheibwyrffyrnig, daeth eu hawr fel meistriaid yrawyr dros wyneb y gors. Ers panddechreuwyd adfer y gors, y rhywogaethfwyaf llwyddiannus o’r ‘hawkers’ yw’rGwas-neidr Glas Aeshna juncea (CommonHawker). Mae wedi cynyddu’n fawr ar ôl

adfer y ffosydd a’r draeniau. Mae torri pethmawn i greu pyllau rhag ofn tân hefyd yndenu llawer o’r gwesyn hardd hwn. Mae’rcosta melyn (y wythien uchaf ar yr aden) ynnodweddiadol o’r Gwas-neidr Glas ondwrth hedfan, mae’n debyg iawn i’r Gwas-neidr Llachar Aeshna cyanea (SouthernHawker). Weithiau, gellir eu gwahanu yn ôleu hymddygiad ar yr aden. Mae’r Gwas-neidr Llachar yn greadur hyf gan hofran oflaen y gwyliwr fel pe’n amau ei amcanion,tra bo’r Gwas-neidr Glas yn dueddol ohedfan i ffwrdd yn uchel cyn disgyn amloches.Mae dau rywogaeth arall, y Gwas-neidrBrown Aeshna grandis (Brown Hawker) a’rGwas-neidr Tramor A.mixta (MigrantHawker) yn ymuno â’r lleill – yr olaf ynmagu ar bob math o dir gwlyb ac yn dod iFenn’s a Whixall cyn diwedd yr haf. Mae’nllai na’r Aeshna eraill ac yn yr 1940auystyrid ef yn brin ym Mhrydain. Oddi ar

hynny, mae wedi ymledu i’r gogledd a’rgorllewin ac yn ystod y degawd diwethaf,mae wedi dod yn gyffredin ar y Gororau.Bellach, mae rhywogaethau o gyfandirEwrop yn ymfudo i Gymru’n rheolaiddgan gynnwys y Picellwr Rhudd Sympetrumsanguineum (Ruddy Darter) a’r PicellwrAsgell Aur S.flaveolum (Yellow-veinedDarter). Mae eu nifer yn amrywio yn ôl yramodau ymfudo ar y pryd. Mae corsyddFenns a Whixall yn croesawu’r ymfudwyrhyn ac yn cynnig cynefin iddynt cyhyd ag ycarant ddod atom.Ymddengys bod newidyn yr hinsawdd yn effeithio ar ysymudiadau hyn gyda’r Ymerawdwr Anaximperator (Emperor Dragonfly) yn maguyma o ganol y 90au ymlaen a’r OrthetrumLlinell-ddu Orthetrum cancellatum (Black-tailed Skimmer) wedi magu yn ystod 2001.Ar hyn o bryd, mae 22 rhywogaeth oOdonata un ai’n magu yma neu’nymwelwyr cyson neu’n ymfudwyrachlysurol. Mae 27 rhywogaeth wedi’ucofnodi allan o’r 38 rhywogaeth sy’n maguym Mhrydain.Os hoffech ymweld â Fenns a Whixall ichwilio am y goresgynwyr newydd, ynacysylltwch â: Site Manager, EnglishNature, Manor House, Moss Lane,Whixall, Shropshire SY13 2PD gan amgaeamlen a stamp am drwydded, neu, osdymunwch, cewch gerdded un o’r llwybrauhunan-dywys sy’n arwain i’r safle o sawlcyfeiriad.Llyfr defnyddiol:Brooks, S Field Guide to the Dragonflies ofGreat Britain and Ireland. British WildlifePublishing (1997)

Mursen Goch Fawr Pyrrhosoma nymphula

Page 21: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

20

Oes yna lai o flodau gwyllt?- yr Atlas newydd o’r diwedd

Goronwy Wynne

Yn ôl ym 1962cyhoeddwyd atlasyn dangosdosbarthiad pobblodyn gwyllt ymMhrydain acIwerddon. Bu hwnfel rhyw ‘Feibl’ ibob botanegydddros yblynyddoedd – ycyfeirlyfr safonol i

droi ato mewn cyfyngder!Aeth deugain mlynedd heibio.Sylweddolwyd bod y byd wedi newid, abod angen diweddaru ein gwybodaeth.Rhyw bum mlynedd yn ôl aeth y BSBI(Botanical Society of the British Isles) ati oddifrif i drefnu arolwg newydd. Bu 1,600 owirfoddolwyr wrthi’n ddiwyd yn cofnodipob planhigyn blodeuol a phob rhedynenledled y wlad.Yr uned gofnodi oedd ysgwariau 10km x 10km o’r gridcenedlaethol sydd i’w gweld yn glir ar bobmap O.S. Bu chwilio dyfal am bedairblynedd a chasglwyd 9 miliwn ogofnodion.Cofnodwyd bron i dair mil o wahanolrywogaethau dros y wlad, a bu’n rhaidymweld â phob sgwar nifer o weithiau ynystod y gwahanol dymhorau er mwyncofnodi’n drylwyr. Bellach, mae’r cyfanwedi’i orffen, y gwaith ar ben a’r llyfr ynein dwylo. Ac mae o’n dipyn o lyfr! 910 odudalennau – yn pwyso rhyw dunnell a’ibris yn £100!Mae’r 50 tudalen gyntaf yn trafod cefndir ycynllun ac yn disgrifio sut yr aethpwyd ati igasglu a threfnu’r holl wybodaeth. Mae ynahefyd bennod sy’n ystyried bioamrywiaethy planhigion a phennod arall sy’n gofyn sut

mae pethau’n newid – oes yna blanhigion‘llwyddiannus’ a phlanhigion‘aflwyddiannus’?Ond prif bwrpas y gyfrol yw cyflwynocyfres o fapiau, un ar gyfer pob planhigyn,yn dangos ei ddosbarthiad ar ffurf dotiau(un dot i bob sgwar 10km x 10km).Dangosir, trwy gyfrwng lliwiau gwahanol,lle mae’r planhigyn yn gynhenid a lle nadyw a hefyd dangosir pryd y gwnaed ycofnod – cyn 1970, 1970 – 1986 ac o 1987ymlaen. Mae yna hefyd baragraffdefnyddiol iawn yn trafod ecoleg pobrhywogaeth gan gynnwys disgrifiad o’igynefin a hefyd nodi unrhyw newid ynnosbarthiad y planhigyn er cyhoeddi’rAtlas gwreiddiol ym 1962.Ar ben hyn i gyd, cyflwynir CD-ROMgyda’r gyfrol sy’n cynnwys manylion amfwy na 900 o blanhigion ychwanegol syddwedi cyrraedd y wlad yma, ond hebledaenu’n ormodol. Gellir paratoi rhestrauo rywogaethau o unrhyw ardal, cymharudosbarthiad rhywogaethau, paratoi mapiauarbennig, a gweld beth yw effaithnodweddion amgylcheddol, fel tymhereddyr haf, ar rywogaethau penodol.O ia! Gellir prynu’r llyfr am ostyngiadsylweddol, sef £70 oddi wrth SummerfieldBooks, High St., BROUGH, CumbriaCA17 4AX.New Atlas of the British and Irish FloraPreston, C.D., Pearman, D.A. & Dines,T.D.Oxford University Press, 2002O.N. Mae un o’r awduron Dr TrevorDines, yn byw ym mhentref Bethel gerCaernarfon ac yn dysgu Cymraeg ynllwyddiannus.

Page 22: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

21

Ddydd Nadolig diwethaf cefais anrheg goannisgwyl, galwad ffôn gan gyfaill arynysoedd y Seychelle yn fy ngwahodd idraw yno. Fel y dywedodd, roedd costauhedfan yno wedi gostwng yn ddiweddar, acroedd bargeinion i’w cael. Pum mis ynddiweddarach roeddwn wedi cyrraedd, acyn gorfod cydio am fy mywyd yn y cwchrwber chwim wrthwibio dros fôr dulas. Ary gorwel roedd siâpynys Aride yn tyfu wrthi mi nesau, a physgodehedog yn sbydu o’mblaen fel sêr gwib gloywdros y tonnau.Aride yw’r ynys fwyafogleddol o ynysoeddithfeinig y Seychelle yngNghefnfor India.Ynysfechan yw hi, rhywgilomedr o hyd ahanner cilomedr o leda’r copa 130 medruwchlaw’r môr. MaeAride yn cael ei rhedegfel gwarchodfa naturgan Gymdeithas

Frenhinol Cadwraeth Natur.Roeddwn yn ymweld â’r ynys am wythnosgyda’m cyfaill Jess Wilkinson a oedd yngweithio i Birdlife Seychelles, ac roeddemyno i weld un aderyn arbennig iawn, sefRobin Brith y Seychelle (Copsychussechellarum).Mae’n debyg fod y Robin yn aderyncyffredin ar ynysoedd ithfeinig y Seychellecyn dyfodiad pobl yn yr 1770au.Yr unigelynion oedd ganddo oedd nadroedd asgincs, a ddygai wyau o ambell nyth.Ynanffodus, ni allai’r Robin ddygymod â’rbygythiadau a ddaeth yn sgil pobl ynymsefydlu ar yr ynysoedd. Dinistriwydllawer o’i gynefin naturiol er mwyn gwneudlle i blanhigfeydd coed cnau coco. Cafoddy cathod a’r llygod mawr estron effaithdrychinebus ar y boblogaeth yn ogystal âgelynion llai amlwg fel y Mynah Cyffredin(Acridotheres tristis) a hyd yn oed y DylluanWen (Tyto alba)! Erbyn 1940 roedd y

Robin Brith y Seychelle ar ArideRhys Jones

Mae’r awdur yn byw yn Waunfawr, Gwynedd ac yn gweithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Aderyn Drycin Audubon Puffinus atrodorsalis wedi eiachub o’r pasta.

Morwennol Wen Cygis alba

Page 23: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

22

Robin wedi marw ar bob ynys heblaw ynysbitw Fregate, ac ym 1959, dim ond 20oedd ar ôl yn y byd.Bu sawl ymdrech i achub y Robin drwysefydlu poblogaethau newydd ar ynysoeddcyfagos dros y blynyddoedd.Aflwyddiannus fu’r rhain am nifer oresymau. Ond, gyda’r Robin ar fin diflannuam byth, sefydlwyd Rhaglen Atgyfodi’rRobin ym 1990 gan Birdlife Seychelles, acam y tro cyntaf fe ddatblygwyd strategaethfentrus i achub y Robin. Roedd y rhaglenyn rhwym o fod yn fentrus gan fodymgymryd mewn unrhyw ffordd âphoblogaeth mor fach, yn un llawnperyglon! Y gamp fawr oedd sefydlu poblogaethaunewydd o’r Robin ar ynysoedd eraill.Roedd yn rhaid felly dewis ynysoedd lleroedd rhywfaint o gynefin naturiol yRobin, sef coedwigoedd arfordirol. Roeddynysoedd Cousin, Cousine ac Aride ynaddas.Y cam nesaf oedd dileu’r gelynion estron.

Aed ati i osod trapiau a saethu’r estroniaidac fe ddifawyd y llygod mawr drwy ollwngabwyd wedi’i wenwyno o hofrenyddion –roedd y bobl yma o ddifri! Bu’r rhaglen ynllwyddiant, ac fe sefydlwyd poblogaethaunewydd ar Cousin ym 1995 a Cousine ym1996 a bellach mae’r ddwy boblogaeth yniach a sefydlog.Ynys Aride oedd y nesaf. Roedd Aride ynddewis amlwg fel safle i ail sefydlu. Mae’nwarchodfa natur, lle nad oedd gelynionestron, â chanddi gynefin naturiol a ailsefydlodd yn sgil methiant planhigfa cnaucoco yn y gorffennol pell. Methiant fu’rymdrechion cyntaf i ail sefydlu’r Robin arAride, ond datblygwyd rhaglenlwyddiannus gan Birdlife Seychelles a elwiryn “rhyddhau meddal”. Dyma’r drefn:daliwyd holl boblogaeth y Robin ar ynysFregate a’u cadw mewn cewyll mawrwedi’u hadeiladu ar eu tiriogaethau unigol.Yn raddol, gyda bwydo rheolaidd, dofwydyr adar i gyd fel eu bod yn gyfforddus yneu cewyll. Dim ond wedyn y symudwyd

Ffodi Seychelle Foudia sechellarum ar y bwrdd brecwast

Page 24: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

23

rhai parau o’r adar i Aride mewnhofrennydd a’u rhoi mewn cewyll newyddmewn tiriogaethau addas. Wedi mwy oymgyfarwyddo a bwydo rheolaidd, agorwyddrysau’r cewyll fel y gallai’r adar grwydro adyrannu eu tiriogaeth gyda’u cymdogiongan ddychwelyd i fwydo, clwydo a hyd ynoed nythu’n ôl yn eu cewyll.Mae’r dechneg hon wedi gweithio’n dda arAride ac, ar fy ymweliad i, roedd yn blesercael yr adar bach hardd hyderus yma’n fynilyn wrth i mi gerdded drwy eu tiriogaeth- yn barod i gipio unrhyw chwilen neubryfetyn a fyddai’n dianc o’m ffordd.Er nad oes gelynion gan y Robin ar Aride,mae ganddo dipyn o gystadleuaeth panddaw’n amser cinio. Wrth i ni wneud yrownd fwyd ddwywaith y dydd, byddai’nras wyllt rhwng y Robiniaid, yr ieir dwrcynhenid a’r sgincs i lowcio’r bwyd gyntaf.(Yr un iâr ddwr sydd gennym ni ar einffosydd a’n pyllau dwr yng Nghymru, ondnid yw’r rhain wedi dysgu nofio gan nadoes yr un pwll na ffos i ymarfer ynddynt arAride!) Roedd y sgincs yn fwy mentrus, acyn aml yn dod i rannu ein bwyd ni hefyd.Dringent i ben y bwrdd i lyfu saws cyri neuddwyn sbageti oddi ar ein platiau – cyn i niorffen.Yn aml, byddai Ffodi Seychelle- sefaderyn cyfeillgar ac eofn arall yn ymuno â’rsginc ar y bwrdd i rannu’n swper!Roedd y Robin yn dynfa fawr, ond roeddrhywbeth arall yn fy hudo i Aride.Yma,mae nythfa adar môr fwyaf Cefnfor India.

Drwy gyd-ddigwyddiad roedd ytymor magu ar eianterth yn ystod fyymweliad ac roedd yswn yn fyddarol.Yn ydydd, ymddangosaifod gan bob cangennyth arni, ac roedd yrawyr yn llawn o AdarFfrigad Mwyaf(Fregata minor), Adar yTrofannauGynffonwen (Phaethonlepturus) amôrwenoliaidamrywiol gan gynnwys

y Fôrwennol Wen (Cygis alba) angylaidd.Yn y nos dychwelai degau o filoedd o AdarDrycin i’r ynys, yn chwyrlio trwy’r coed yny tywyllwch gan alw yn oleddfus. Ar unnoson dewisodd un Aderyn Drycin lanioyn ein powlen pasta! –roedd amser prydauyn gallu bod yn reit gyffrous!Nid yr adar yn unig oedd yn rhyfeddol.Roedd rhywbeth yn dal fy llygaid ynbarhaus; corynnod a miltroed anferth,crancod meudwy mawr yn llusgo ar drawsllawr y goedwig ac ystlumod tua’r un maintâ brain. Roedd rîff cwrel ychydig lathennio’r traeth – ac roedd yn bleser dianc gydagogls a snorcl o swn byddarol yr adar atfyd tawel a disglair o bysgod lliwgar,baraciwdas a chrwbanod môr.Roedd y cyfle i brofi un o lwyddiannaumawr byd cadwraeth y blynyddoedddiweddar mewn safle baradwysaidd yn unna wna’ i byth ei anghofio. Ond un wers addysgais oedd fod un peth yn brinnach hydyn oed na Robin Brith y Seychelle, seftocyn awyren rhad yno!

Robi Brith y Seychelle Copsychus sechellarum

Page 25: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

24

Byd Natur a’r BarddLun Roberts

Atebion y Gystadleuaeth

Gosodwyd tasg yn y rhifyn diwethaf o’r Naturiaethwr (Cyfres 2, Rhif 10, Gorffennaf2002, tud. 27), sef adnabod y gwrthrych a’r bardd mewn 14 o ddyfyniadau. Daethnifer o atebion i law ac enillwyd gwobrau gan:

Arfon Hughes, Bwlchtocyn, Llyn

Miss L J Roberts, Dolwen, Abergele

Miss Mair Williams,Ysceifiog, Treffynnon

Diolch i Lun Roberts am osod y gystadleuaeth.

Dyma’r atebion:

1. Gwenoliaid T Gwynn Jones

2. Cudyll Coch I D Hooson

3. Aderyn Du T R Howells

4. Llwynog I D Hooson

5. Clychau’r Gog R Williams Parry

6. Daffodil I D Hooson

7. Eirlysiau Cynan

8. Glas y Dorlan Trebor Roberts

9. Y Gog Roger Jones

10. Blodau’r Grug Eifion Wyn

11. Y Creyr Glas James Nicholas

12. Y Ddraenen Berllanydd

13. Y Dderwen Donald Evans

14. Yr Ystlum Cyril Jones

Page 26: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

25

Llun pwy?

Dyma lun o’r panel fu wrthi’n ateb cwestiynau’rgwrandawyr ar y rhaglen ‘Seiat Byd Natur’ yn ôl

yn y 60au a’r 70au.Faint o’r pedwar fedrwch chi eu henwi? Oes gennych chi atgofion i’w rhannu?

Anfonwch ataf (dim mwy na 200 gair).Bydd gwobr am y llythyr gorau.

Cystadleuaeth Rhif 10

Yr ateb oedd Linnaeus ac mae’r wobr yn mynd i Keith Lewis am lythyr campus.2 Wynn DriveHen Golwyn

Conwy LL29 9DETachwedd 10, 2002

Annwyl GoronwyWele ateb i’r gofyniad ‘Pwy yw hwn’? yn rhifyn cyfredol YNaturiaethwr .Y gwr yn y llun yw’r llysieuydd enwog o Sweden,Carl von Linne, sy’n fwy adnabyddus wrth ffurf Lladin ei enwsef Linnaeus. Ef yw tad y wyddor o ddosbarthu ac enwipethau byw sy’n rhoi i bob peth ddau enw (y drefn binomial)sef y genus a’r species (rhywogaeth), y naill yn cysylltu’rgwrthrych a’i berthynas(au) agosaf a’r llall yn disgrifio rhywnodwedd arbennig ohono. Lladin, wrth gwrs, yw’r iaith addefnyddir. Fel y gwyddoch, mae rheolau caeth a chymhlethwedi datblygu ynglyn ag enwi planhigion ac anifeiliaid ahynny er mwyn safoni’r enwau yn fyd-eang a chydnabodblaenoriaeth yr awdurdod cyntaf i ddefnyddio’r enw.Cyfraniad pennaf Linnaeus yw llyfr swmpus a gyhoeddwydym 1753 sef Species Plantarum sy’n rhestru enwau’r hollblanhigion oedd yn wybyddus trwy’r byd yr adeg honno gan roii bob un ddau enw’n ôl ei ddull arloesol ef o enwi. Hwn yw mancychwyn enwau planhigion a gwnaed unrhyw enwau blaenorol ynannilys. Wrth gwrs, bathwyd llaweroedd o enwau wedi hynny a maent i gyd yncydymffurfio â’r drefn Linnaeaidd.Bu farw Linnaeus yn 72 oed a’i gladdu yn Uppsala, Sweden wedi ennill bri mawr iddo’ihun a chael anrhydeddau lu. Clywais fod rhai o aelodau’r Gymdeithas wedi bod ynmoesymgrymu wrth ei fedd yn ddiweddar iawn! Bu’n cofnodi ac yn ysgrifennu’n helaethar hyd ei oes a gadawodd swmp o weithiau ar ei ôl. Un ffaith ddoniol a ddarllenaisamdano oedd ei fod wedi troi, yn ei ddyddiau blin, at ddarllen ei weithiau ei hun a’i fod

Page 27: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

26

yn ymgolli’n llwyr ynddynt ac yn bloeddio mewn rhyfeddod at athrylith y gosodiadau addarllenai, heb gofio mai ef oedd eu hawdur!Diolch am y cliw yn y llun sef y blodyn yn ei law. Hwn yw’r blodyn y rhoddodd ei enwiddo: Linnaea borealis Blodyn Deuben (neu’r Gefellflodyn). Blodyn bychan, manwl, lliwpinc golau yw gyda dau flodyn fel gefeilliaid ar ben coes fain.Yn ôl y sôn, roedd hwn ynun o’i hoff flodau a dewisodd roi ei enw iddo am ei fod, meddai ef, ‘yn eiddil a gwanllyd,ac yn caru’r cysgodion fel ef ei hun’. Mae’n brin eithriadol yn Ynysoedd Prydain ac yngyfyngedig i ychydig goedwigoedd pîn yn nwyrain yr Alban. Mae’n fwy cyffredin yn ygwledydd Sgandinafaidd ac yng Ngogledd America.

Yn ddiddorol iawn, deuthum ar ei draws yn hollol ddiarwybod tra ar wyliau gydagaelodau’r Gymdeithas yn y Swistir yr haf diwethaf. Wedi mynd am dro roeddwn gydaGwenan a Mary i ddangos iddynt y tegeirian prin Cypripedium calceolus Esgid Mair mewncoedwig heb fod ymhell o Davos. Canfod hwnnw a mynd ymlaen ymhellach a tharo arbeth wmbreth o Listera cordata Caineirian bach ynghanol pentwr o rug ar fin y llwybr.Wrth rannu’r grug i gael golwg agosach, gwelem flodyn bychan gwyn, tebyg i Suran ycoed, yn tyfu trwyddo. Sylwom fod dau flodyn ar ben bob coes a gwyddem ar unwaithmai blodyn Linnaeus oedd yna gan i mi weld lluniau ohono lawer gwaith. Mawr oedd fyllawenydd! Nid yw’n arbennig o brin yn y Swistir a’i gynefin naturiol, yn ôl y llyfrau, yw odan rug neu’n tyfu trwy fwsog mewn lle cysgodol; felly dim syndod!Cofion

Keith

Beth am hysbysebu?Mae’r Naturiaethwr yn cyrraedd oddeutu 3,000 o ddarllenwyr ddwywaith yflwyddyn.

Tudalen lawn £1001/2 tudalen £501/4 tudalen £25

Cysylltwch â’r swyddog hysbysebion: Mrs. Heulwen Bott, Orchard Croft, HillRoad North, Helsby, Cheshire WA6 9AF (01928) 723351neu â’r Golygydd.

Page 28: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

27

Dod i nabod ein gilyddDewi a Howard

gan Dafydd Dafis, Rhandirmwyn, Sir Gaerfyrddin

Dau gyfaill agos, daugerddwr cadarn, daugarwr yr awyr agored,dau arweinydd da,dau aelod ffyddlon o’rGymdeithas.Tarddodd y ddau o’run cefndircymdeithasol, y ddauyn feibion i lowyr a’rddau yn treulio eubachgendod yn y

cymoedd glo, DewiJones ym mhentre Pontyberem, SirGaerfyrddin a Howard Lloyd ym Maesteg,Sir Forgannwg. Gyda threigl amser, roeddy ddau i gwrdd yn nhre Caerfyrddin lleroedd Dewi yn optegydd a Howard ynddarlithydd ymarfer corff yng Ngholeg yDrindod. Cyn iddynt gwrdd â’i gilydd,roedd y ddau wedi datblygu’n gerddwyr ofri, Howard o fynd â phartïon o fyfyrwyr iddringo mynyddoedd Cymru a Dewi odroedio mynyddoedd Cymru ac Iwerddonar ei ben ei hun ac fel aelod o GlwbMynydda Cymru. Cyn iddynt gyd-gerddedyr ucheldiroedd, roedd Dewi eisoes wedidringo pob mynydd dros 3,000 troedfedd(914 m) yng Nghymru, cyn troi ei sylw achoncro’r gweddill oedd dros 2,000troedfedd (610m) yng Nghymru. Ar gaisHoward, ymunodd Dewi â phartïon dringoColeg y Drindod a chafodd y ddauohonynt bleser mawr yn arwain darparathrawon ar deithiau gan gynnwys partïono fyfyrwyr o’r Unol Daleithiau.Pan oedd yn wr ifanc, bu Howard ynchwarae canolwr yn nhîm rygbi Maesteg,neu’r Hen Blwyf fel y’i gelwir gan ytrigolion. Mae’r safle hwn ar y maesrygbi’n un delfrydol i’r sawl sydd â chorffcryf, cyhyrog, cyflymdra yn ei redeg ac

wedi’i freintio â’rmedrusrwyddcynhenid i drafod pêlhirgron, nodweddiony bendithiwydHoward â nhw. Aethymlaen yn ei dro ichwarae’r gêm drosSir Forgannwg,Headingley, y Fyddina Llanelli, timau o’rradd flaenaf. Ond,

mae gan Howardddiddordeb mewn amryw o gêmau: ynogystal â chyfieithu rheolau’r gêm rygbi argyfer Undeb Rygbi Cymru, cyfieithoddreolau pêl droed a hoci i’r Gymraeg. Clyw-wyd ei lais yn fynych ar y radio yn yrhaglen Maes Chwarae, llais tawel, clir amelodaidd sy’n swyno’r glust. Nid rhyfeddfelly ei fod wedi’i ddewis i ddarllen llyfrauar dâp i’r deillion.Mae’n debyg bod lle i Howard yn haneschwaraeon yng Nghymru gan mai ef oeddgolygydd y llyfr cyntaf yn y Gymraeg archwaraeon, sef Crysau Cochion agyhoeddwyd gan Llyfrau’r Dryw ym 1958.Yn y llyfr hwn, ceir tîm o ugain ogyfrannwyr, gan gynnwys Howard ei hun,yn cyflwyno ysgrifau, portreadau a storiauo’r meysydd chwarae, llawer ohonynt wedigwisgo’r crys coch yn eu gyrfaoedd. Maentyn cynnwys pobl fel: Dr Thomas Richards,cyn-lyfrgellydd Coleg Prifysgol Cymru,Bangor, ar y bêl droed; Carwyn James,maswr enwog Cymru a Llanelli ar rygbi; WE Jones, sef ‘Wil Bach Ni’ o Gaerfyrddin,ar griced; Eic Davies, y cyntaf i roidisgrifiad ar y pryd o gêm rygbi ar y radio;Emyr Griffith ar ‘Dai Bach y Golffwr’ acyn y blaen. Casgliad difyr iawn.Ym 1967,cyhoeddwyd Chwarae Teg gan Lyfrau’r

Dewi Jones Howars Lloyd

Page 29: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

Dryw.Yn y llyfr hwn gan Howard, mae’ndelio â Paffio, Rygbi, Criced, Pêl Droed,Jai-alai neu belota, Tenis, Nofio, Golff acAthletau. Gwelwyd Cricedwyr Cymruganddo ym 1984 a’r cyhoeddwr oeddGwasg Gomer. Ei lyfr diweddaraf ywTroedio Cymru Gwasg Gomer 1990 sy’nmanylu ar deithiau cerdded yn ne-orllewinCymru.Yn ei ddiolchiadau ar ddechrau’rllyfr hwn, mae’n talu’r deyrnged hon iDewi: “Diolch yn fawr iawn yn anad neb iDewi Jones, fy nghyfaill a’m cydymaith arbob un o’r teithiau hyn ac am gannoedd orai tebyg”. Â ymlaen i sôn am wybodaethDewi o dirlun Cymru gyfan a’i fedr iadnabod pob pant a bryn yn y pellter a’iallu rhyfeddol i wybod y ffordd i fyndmewn niwl neu eira fel nad yw byth ar goll:“pe rhoddid ef gyda mwgwd ar ei wynebyn y Sahara mewn storm dywod, deuai ohyd i’r bwlch ‘tua thre’” meddai Howardamdano. Gwelsom fod gan Howardddiddordeb mewn gêmau a mabolgampauond mae ochr arall iddo hefyd. Caiff blesero ddarllen ac mae’n ymddiddori mewnllenyddiaeth Gymraeg. Mae hanes lleol ynei ddiddanu a tharddiad geiriau ac enwaulleoedd yn ei lanw â chwilfrydedd. Maeganddo’r amynedd i ddilyn trywydd nesiddo ddatrys unrhyw broblem sy’n eiboeni.Cymer Dewi ddiddordeb gwyddonydd yngnghreigiau Cymru, sy’n egluro pam mae’naelod o Gymdeithas Ddaeareg De Cymu.Mae’n mynychu ei chyfarfodydd maes yngyson yn ogystal â mynd i’r darlithoedd adrefnir ganddi. Mae ganddo ddiddordebeang ym myd natur, yn enwedig mewnblodau, coed, adar a thrychfilod. Maeglendid yr amgylchedd a’r angen amgadwraeth natur yn bwysig iddo. I’r perwylhwn, ymaelododd ag:YmddiriedolaethBywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru,Coed Cadw,Ymddiriedolaeth BarcudiaidCymru, ac yn olaf ond yn bennaf iddo fe,Cymdeithas Edward Llwyd – ymunodd efa Howard ym mlwyddyn gyntaf yGymdeithas. Mae Dewi hefyd yn aelod oGymdeithas y Cerddwyr ac yn gyn-aelod oGlwb Mynydda Cymru.

Mae un profiad a gafodd Dewi ar ymynydd yn dal yn ei gof ac, wrth sôn am yrachlysur arbennig hwn, mae ei lygaid yngoleuo a’i gorff yn bywhau.Yn gynnar arfore o haf, roedd yn cerdded ar ei ben eihun ar hyd y llwybr serth sy’n arwain atgopa Bannau Sir Gâr. Roedd yn dringotrwy niwl trwchus ond pan oedd yn nesauat Bwa’r Llyn (y llwybr sy’n rhedeg wrthymyl y cafn o gwmpas Llyn y Fan Fach),torrodd drwy’r niwl i olwg yr haul. Troddei gefn at yr haul i edrych i lawr i gyfeiriady llyn, rhyw bedwar can troedfedd oddi tany creigiau o dywodfaen coch sy’narglwyddiaethu ar y llyn.Yn lle gweld yforwyn a welodd Rhiwallon gynt yn codio’r dyfnderoedd, yr hyn a welodd oeddcysgod cawr o ddyn ar wyneb y niwl odditano ac yn amgylchynu’r cawr, roedd cylcho liwiau’r enfys. Wrth adrodd yr hanes,mae’n cyfaddef iddo gael ei ddychryn ganyr hyn a welodd. Bwgan Brocken yw’r enwa roir ar y ffenomen pan fydd yr haul yntaflu cysgod dyn ar y niwl neu’r cwmwloddi tano a chreu cylch o liwiau’r enfys ogwmpas y cysgod.Yn aml, mae’r cysgod ynllawer mwy na’r unigolyn sy’n ei wylio.‘Brocken’ efallai am mai ar binacl uchafmynyddoedd Hartz yn nwyrain yr Almaeny gwelwyd hyn gyntaf.Erbyn hyn, mae Dewi yn 87 oed a Howardyn 84 oed. Wedi i gyflwr iechyd Howardwaethygu, cafodd ei dderbyn gan gartrefCastell Tywi sydd rhyw dair milltir oGaerfyrddin ar y ffordd i Gydweli. Er nadyw Dewi yn mynd ar deithiau hir ac anoddbellach, mae un lle y mae’n teithio iddoddwy waith yr wythnos yn ddiffael - ahwnnw yw Castell Tywi i gasglu Howardyn ei gar a mynd ag ef i lan y môr neu iberfedd cefn gwlad. Mae’r cyfeillgarwch yndal yn gadarn.

28

Page 30: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

29

Nodiadau Natur1. MamaliaidMae’r diddordeb yn y Dolffin Trwyn Potelym Mae Ceredigion yn parhau.Yr hafdiwethaf, trefnwyd cyrsiau yn y CeiNewydd gan y Gymdeithas Mamaliaid a’r‘Sea Watch Foundation’ i astudio’rdolffiniaid. Cymerwyd rhan mewn ymchwilgwyddonol a chasglwyd gwybodaeth a fyddyn ddefnyddiol wrth warchod y dolffiniaida’r llamhidyddion ym Mae Ceredigion.Mae’r dolffiniaid yn brysur yn y gogleddhefyd. Bum yn ddigon ffodus i weld 6Dolffin Trwyn Potel ger Fedwr Fawr,Llangoed,Ynys Môn a dywed SallyPidcock, Warden Parc Gwledig Pen yGogarth, fod hyd at 20 o ddolffiniaidgyda’u cywion i’w gweld ger y Gogarth ynystod misoedd Awst a Medi. Sylwodd fodeu nifer wedi cynyddu dros y ddwy flyneddddiwethaf.Ar draeth Cwmtudu ychydig i’r de o’rCeinewydd, pleser oedd gweld bod MorloLlwyd yn ddigon cartrefol i fwrw cyw ar ytraeth yn ystod mis Medi. Mae’r cywion ynddiymadferth am dair wythnos ac mewncryn berygl ar y traeth, ond cafodd hwn eiwarchod gan wardeniaid lleol hyd nes iddofentro i’w gynefin yn y môr. Am fwy owybodaeth, gweler cwmtydu-bay-wildlife.org.uk.Yn y rhifyn nesaf, gobeithiaf sôn am arolwgynglyn â’r Ffwlbart a’r Minc.Yn ycyfamser, mae llyfryn newydd ar gael amddim ‘Polecats and Ferrets: How to tell them

apart”, oddi wrth Ymddiriedolaeth BywydGwyllt Gogledd Cymru, 01248 351514.Gofid i Sarah Jones o’r Ymddiriedolaethoedd dod ar draws dyfrgi wedi’i ladd ar yffordd ger Pen y Pass yn Eryri. Dyfrast(benyw) yn llaetha oedd hon ac yn magucywion. Mae’n amlwg bod dyfrgwn ynsymud dros y mynyddoedd o un cynefin i’rllall yn amlach nag y tybiem.Mae’r Gymdeithas Mamaliaid newyddgyhoeddi canlyniadau ei harolwg i effaithhela ar nifer y llwynogod. Dengys yradroddiad yn glir nad yw hela’n chwaraerhan o gwbl mewn rheoli nifer yllwynogod.Yn wir, mae’r canlyniadau’ncryfhau’r ddadl bod llwynogod yn rheoli euniferoedd eu hunain, a bod pob ffurf argwloni’n llai pwysig nag a dybid.Yn ystodclwy’r traed a’r genau, gwaharddwyd hela achyfyngwyd ar y dulliau eraill o reolillwynogod. Eto’i gyd, er gwaethaf ygwaharddiad a’r cwtogi ar bob math oweithgareddau cefn gwlad, ni bu cynnyddna lleihad yn nifer y llwynogod. Efallai ybydd hyn yn rhoi blas mwy gwyddonol i’rddadl ynglyn â hela.Cofiwch gysylltu os gwelwch rywbeth oddiddordeb.

Frances CattanachYmddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd

Cymru01248 351541

neu e-bost: [email protected]

Page 31: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

30

2.TrychfilodY Cricedyn CennogY Cricedyn Cennog (Orthoptera:Pseudomogoplistes vicentae), Scaly Cricket,yw un o’r trychfilod mwyaf nodedig ymMhrydain. Daethpwyd o hyd iddo gyntafmor ddiweddar ag 1949 ar Chesil Beach,Sir Dorset. Un fenyw a gafwyd y trohwnnw ac aeth 28 mlynedd heibio cyn dodo hyd i’r gwryw cyntaf. Am flynyddoeddcredid mai creadur tramor wedi’i gyflwynoi Brydain oedd, gan ei fod wedi’iddarganfod hefyd ym Mhortiwgal ac ardalMôr y Canoldir. Am yn agos i 50 mlynedd,tybid mai Chesil Beach oedd ei unig safleym Mhrydain a chan ei fod yn byw ymysgy graean, a fawr neb yn ei weld, ni wyddomfawr o ddim am ei fywyd. Gosodwydtrapiau ym 1995 a gwelwyd bod yCricedyn Cennog yn gyffredin ar draethChesil ac ymddengys ei fod yn hel eidamaid gyda’r nos ymysg y gwymon a’rpydredd ar y traeth. Mae’r gwrywod llawndwf yn 8-10mm o hyd a’r benywod yn 10-13 mm gyda wyddodydd (ovipositor) sy’n5mm o hyd. Maent yn llwyd-frown mewnlliw, gyda chen mân dros y corff a’r coesau.Does gan y Cricedyn Cennog ddimadenydd ac nid yw’n grillio (stridulate).

Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf,daethpwyd o hyd i’r Cricedyn mewnamryw o safleoedd newydd, yn gyntaf arynys Sark gan Peter ac Eileen Brown ar eugwyliau o Sir Benfro ac yna yn

Branscombe, Dyfnaint gan fyfyriwr ynarchwilio graean y traeth.Ym 1998,gwelwyd rhai yn Granville, Normandi.Cafwyd adolygiad o’r darganfyddiadau hyngan Peter Sutton (British Wildlife, Chwef.1999, 145-151 The Scaly Cricket in Britain– a complete history from discovery tocitizenship) a daeth i’r casgliad fod yCricedyn Cennog yn greadur brodorol,wedi goroesi ar draethau graean addas, ondcwbl arwahân i’w gilydd am 8000 oflynyddoedd.Ym 1999, daeth Cymru i’r darlun panddaeth plentyn o hyd i rai ar ddamwain, ardraeth Marloes yn Sir Benfro – yn ffodus,gwyddai ei dad rywbeth am entomoleg.Yng Ngorffennaf 2001, gwelwyd hwy ganGreg Jones, cofnodwr yr Orthoptera ymMorgannwg ac mae Peter Brown hefydwedi bod yn cadw golwg arnynt. Er mwynadnabod y gwahanol rywogaethau, mae’nrhaid cael gwrywod a bydd yn ddiddorolcymharu gwrywod Sir Benfro gyda rhaiDyfnaint, Dorset, Sark a mannau eraill.Gan nad yw’r pryf yn gallu hedfan, mae’nannhebyg iawn eu bod wedi cyfarfod amfiloedd o flynyddoedd. Ond hyd yma, nichafwyd yr un gwryw o Sir Benfro.Ym misGorffennaf 2002, bu Peter Brown yn helpui gasglu ychydig o’r benywod (a gwelwydrhai ifanc) o Sir Benfro ac o Sark.Ynddiweddarach, casglwyd ychydig o Chesilac o Branscombe. Felly, erbyn hyn, maegennym sbesiminau o’r holl boblogaethauar y tir mawr ac o Sark ar gyferdadansoddiad DNA.Yn y cyfamser, rydym wrthi’n ceisio dal uno’r gwrywaid Cymreig prin – ond efallai nachawn afael ar un cyn 2003.

Mike WilsonAmgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru,

Caerdydd

Page 32: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

31

Wyddoch chi?• fod diwydiant WYSTRYS (oysters)

llwyddiannus yng Nghymru rhyw ganmlynedd a hanner yn ôl.Ym 1863,roedd tua 90 o gychod yn eu pysgota ynardal Abertawe yn unig, gydaphysgodfeydd eraill yn sir Benfro, BaeCaerfyrddin ac yn Afon Menai. Panddaeth y rheilffyrdd ehangwyd ymarchnadoedd, bu gor-bysgota adirywiodd y diwydiant yn gyflym.Yn ddiweddar, bu deifwyr o’r CyngorCefn Gwlad yn archwilio’r arfordir achafwyd wystrys mewn sawl lle ym MaeAberdaugleddau yn sir Benfro. Maeymgyrch ar droed i’w gwarchod ganobeithio cynyddu’r cyflenwad.

• fod yr Eisteddfod Genedlaethol ynystyried nodweddion cadwriaethol ysafle, wrth drefnu’r maes.Yn y Bala ym1997, newidiwyd rhywfaint ar osodiad ymaes i gymryd archaeoleg y safle iystyriaeth ac yn Nhyddewi eleni gwnaedtrefniadau i osgoi safleoedd nythu’rehedydd.

• fod planhigyn newydd o deulu’rMarchrawn wedi’i ddarganfod yn sirFôn yn ddiweddar. Croesryw (hybrid)yw rhwng Marchrawn yr Ardir

Equisetum arvense a’r MarchrawnMawr Equisetum telmateia. Mae wedi’ienwi Equisetum X robertsii eranrhydedd i R H Roberts, y botanegyddo Fangor.

• beth ywDianthusarmeria? Efallaimai dyma’rplanhigyn gwylltprinnaf yngNgogleddCymru. Mae’ntyfu ar gyrionchwarel ymmhentref Hendreger YrWyddgrug.Yn yr1920au credid eifod wedi

diflannu am byth ond ym 1994, fe’igwelwyd eto, ond mae’n hynod o brin.Tybed faint o bobl sy’n gyfarwydd â’ienw Cymraeg – Penigan y Porfeydd? Yrenw Saesneg yw Deptford Pink. Ar hyno bryd, mae gwaith ar y gweill irwystro’r llwyni a’r drain rhag tagu’rcynefin – mae’n rhaid i’r Dianthus gaeltir agored a digon o le i anadlu!

LlythyrauLlys Helyg

PelcombHwlfforddSir Benfro

30 Awst 2002Annwyl Goronwy

Un o uchafbwyntiau taith Eisteddfod Tyddewi eleni oedd gweld y Llindag(Cuscuta epithymum) yn tyfu ar yr eithin wrth ymyl Llwybr yr Arfordir rhwng Porthlisgy aPhorthclais. (amgaeaf lun ohono gan Siân Bowen) Gwn mai paraseit yw ond hoffwnwybod a yw’n niweidiol i dyfiant yr eithin.

Rwyf hefyd wedi clywed gan un neu ddau o’r aelodau eu bod wedi’i weld mewnmannau eraill ond bob tro yn agos i’r môr. A yw hyn yn un o’i nodweddion neu a yw’nmedru ffynnu mewn cynefinoedd eraill?

Cofion gorau John Lloyd Jones

Penigan y Porfeydd.Dianthus armeria yn yrHendre, Sir Fflint.

Page 33: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

32

Diolch am y llythyr.Mae’r Llindag yn weddol gyffredin yn neLloegr ond yn brin iawn yng Nghymru.(gweler y map) Planhigyn unflwydd yw sy’nbyw fel paraseit yn bennaf ar eithin, grug a’rteim gwyllt. Does ganddo ddim dail na dimcloroffyl, felly, mae’n gwbl ddibynnol ar eiblanhigyn cynhaliol am ei faeth. Dwn i ddim aoes unrhyw un wedi ceisio mesur effaith yLlindag ar yr eithin, ond, hyd y gwn i, doesfawr o niwed i’w weld. Fodd bynnag, mae’rLlindag yn gallu ymosod ar gnydauamaethyddol ledled y byd a’r enghraifftbwysicaf yw cnydau o feillion, a chaiff eiystyried yn chwynnyn niweidiol.

Gol

Y Llindag yn tyfu fel paraseit ar yr eithin. Porthclais, Sir Benfro, Awst 2002 Llun: Siân Bowen

Prif gynefin y Llindag ym Mhrydain yw rhostir,twyndir calchog a glaswelltir ar dwyni’r arfordir.Map: Dosbarthiad y Llindag ym MhrydainO New Atlas of the British and Irish Flora 2002

Page 34: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

33

Penrhyncoch, AberystwythMELINAU GWYNT YNG NGHYMRU

Annwyl OlygyddMae cryn drafod wedi bod yn y wasg a chyfryngau eraill yn ddiweddar am yr hyn

a elwir yn gynhesu byd-eang. Un canlyniad yw i Senedd Westminster a Chynulliad Cymruargymell a chefnogi polisiau i gynyddu (ar) ein gallu i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddol.Gwneir hyn er mwyn lleihau (ar) y maint o garbon diocsid sy’n cael ei gynhyrchu’ngynyddol gan y pwerdai sy’n llosgi glo, olew neu nwy. Dywedir mai’r cynnydd yn y carbondiocsid yn yr atmosffêr sy’n bennaf gyfrifol am y cynhesu cyffredinol sy’n fesuradwy ardraws y blaned. Adroddir bod codiad o oddeutu 0.50C, ar gyfartaledd, wedi digwydd yn ytymheredd yn ystod y ganrif ddiwethaf ac effeithir o’r herwydd ar y tywydd mewn moddamrywiol ar draws y byd. Daranogir gan rai, gyda chymorth dulliau modelu cyfrifiadurolo’r tywydd ac o’r hinsawdd, mai gwaethygu a wna pethau oni leiheir ar y cynhyrchunwyon effaith ty gwydr fel y’u gelwir.

Serch hyn, mae’n briodol atgoffa ein hunain i amrywiaethau mawr ‘naturiol’ ddigwyddyn y tywydd a’r hinsawdd dros y cannoedd a’r miloedd o flynyddoedd diwethaf cyn ycyfnod diweddar. Nid yw’n bosibl bod yn gwbl bendant bod modd priodoli’ramrywiaethau tywydd diweddar yn uniongyrchol i’r codiad yn lefel y nwyon effaith tygwydr. Peth cymhleth iawn yw’r tywydd a phrin yw ein gwybodaeh bendant amgysylltiadau achos ac effaith yn newidiadau hinsoddol dros y degawdau diweddar. Ffactorpwysig iawn, er enghraifft, yw dylanwad newidiadau tymheredd yn a thros y cefnforoedd abychan yw ein dealltwriaeth yma eto. Nid oes cytundeb byd-eang ar y materion hyn acmae’n bur amheus bod y camau ymarferol a derbyniol a gymerir ar diroedd prin Cymrufach, yn debyg o gael fawr o effaith mesuradwy ar y sefyllfa. Dyna fy marn i o leiaf.

Effaith gweithredu polisiau gwleidyddol y Senedd a’r Cynulliad ar Gymru yw caniataucodi nifer da, mwy na’i siâr yn wir, o safleoedd melinau neu dyrbinau gwynt ar diroeddhwnt ac yma. Galwaf y rhain yn ffatrioedd gwynt yn hytrach na ffermydd gwynt gan eubod yn ymwthiol o fawr, yn gwbl estron i’r tirwedd ac yn amlwg yn ddiwydiannol eunatur. Rhoddir cymorthdal gan y Llywodraeth (h.y. arian y trethdalwr) i godi’r ffatrioeddhyn er eu bod yn eithaf aneffeithiol gan y cyfrifir y bydd y tyrbinau yn troi ac yngynhyrchiol am lai na thrydedd ran o’r amser dichonadwy a bychan ac ansicr, o gymharuâ’r galw, yw maint ac amseriad y cynnyrch. Lleolir 14 o’r ffatrioedd hyn yng Nghymru ynbarod gyda 13 arall yn y system gynllunio neu wedi derbyn caniatad cynllunio. Bwriedirhefyd codi ffatri arall, enfawr o’r enw Cynllun Camddwr ar fynydd-dir hyfryd yn ardalLlyn Brianne a Soar y Mynydd ac i’r Gogledd. Deil y rhan fwyaf o bobl bod prydferthwchCanolbarth Cymru yn ei godi i lefel statws Parc Cenedlaethol ond nid yw ystyriaethaufelly yn rhwystr i’r datblygwyr a’u cefnogwyr nac i’r rhannau hynny o Lywodraeth sy’nrhoi caniatad cynllunio i’r projectau. Dywedir bod gennym eisoes yng Nghymru fwy na40% o’r holl dyrbinau gwynt yn y Deyrnas Unedig ond dim ond 5% o’r boblogaeth!

Trafodwyd y materion hyn gan Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Edward Llwyd a chanBwyllgor yr Amgylchedd, yr olaf dan gadeiryddiaeth Arwel Michael. Cefnogwyd ygwrthwynebiad i godi ffatri wynt ar Fynydd Hiraethog – cynllun a dynnwyd yn ôl ynddiweddarach, yn dilyn gwrthwynebiad cryf lleol. Barn y Pwyllgor Gwaith yw y dylidcefnogi dulliau creu ynni adnewyddol yn gyffredinol os na fydd y dulliau a ddefnyddir ynandwyol mewn modd pwysig i dirlun neu i fyd natur Cymru. Rydym yn gwrthwynebusefydlu rhagor o brojectau melinau gwynt sydd ar raddfa fawr neu’n ymwthiol o ran eugolwg ar dir uchel ac ar arfordiroedd neu mewn unrhyw fath o werth arbennig lleol,

Page 35: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

34

cenedlaethol neu ryng-genedlaethol.

Hoffwn dynnu sylw aelodau’r Gymdeithas at erthygl o eiddo ein Llywydd, DafyddDafis, sy’n trafod cynllun arfaethedig y Camddwr.Yma, bwriedir codi 165 o felinau gwyntgyda phob un yn cyrraedd uchder o 120 metr (tua 400 troedfedd) uwchlaw’r tir ar gribaubryniau’r ardal. Mae Dafydd yn cyflwyno darlun effeithiol iawn o swyn a rhin yrunigeddau gogoneddus hyn ac yn ofni’r canlyniadau adfydus a fyddai’n dilynmabwysiadu’r project. Dyma’r anialdir olaf yn Neheudir Prydain. Cyhoeddwyd yr erthyglgyda’r teitl ‘Bygythiad i Ganolbarth Cymru’ yn rhifyn Gwanwyn 2002 o’r CylchgrawnCymru Wledig/Rural Wales, sef Cylchgrawn Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig/Campaignfor the Protection of Rural Wales.

Yn yr un rhifyn o Cymru Wledig , gwelir ysgrif gan Ymgynghorydd Tirlun YDCW, GSinclair, sydd wedi ymddangos mewn nifer o Ymchwiliadau Cyhoeddus yn ymwneud âphrojectau tyrbeini gwynt. Methwyd â sicrhau Ymchwiliad Cyhoeddus i gynllun CefnGroes yng Nghanolbarth Cymru er mai dyma’r cynllun mwyaf eto sydd wedi derbyncaniatad a hynny trwy law Gweinidog Ynni y DU sef Brian Wilson. Rhoddir y bai arysgwyddau’r Cynulliad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru na chododd y naill na’r llall, lais owrthwynebiad. Disgwylir felly gweld codi 39 tyrbin enfawr o uchder 100 metr (320 troedfedd) yr un ar dir uchel ger Pontarfynach. Gwrthwynebwyd projectau mawr felhyn gan nifer o gyrff (gan gynnwys YDCW), grwpiau ac unigolion. Mae’r colofnaullythyrau yn y papurau newydd lleol ac yn y Western Mail yn amlygu safbwyntiau’r ddwyochr yn gyson gyda’r gwrthwynebwyr at ei gilydd yn fwy niferus ac yn fwyaf synhwyrol!

Ar ôl darllen yr uchod, os bydd rhai o aelodau’r Gymdeithas yn dymuno cynorthwyoyng ngwaith Is Bwyllgor yr Amgylchedd, bydd croeso mawr iddynt. Nid oes yn rhaid bodyn aelod o’r Pwyllgor Gwaith cyn ymuno â’r Is Bwyllgor. Rhowch ganiad i Gadeirydd yrIs Bwyllgor, Arwel Michael, ar 01639 844080 os gallwch fod o gymorth mewn unrhywffordd.

Yn gywir iawn

W Brian L Evans

Page 36: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

35

Agorlys, Licswm, Sir y Fflint

Annwyl Olygydd,Yn ystod fy mhlentyndod yn Sir Fôn, yr unig fochyn daear a welwn oedd un

mewn llyfrau plant. Rhaid oedd i mi ddisgwyl nes cyrraedd oed pensiwn cyn gweld un ahynny am ychydig eiliadau yn unig yng ngolau lampau’r car. Erbyn heddiw, yn drist iawn,peth cyffredin yw gweld sawl un yn gelain ar fin y ffordd. Mae hyd yn oed y ffordd ddeuolgyflym sy’n rhedeg ar draws Sir y Fflint ag arwyddion yn ein rhybuddio bod moch daear ogwmpas. Ond fedra i ddim dyfalu beth yw pwrpas yr arwyddion oherwydd byddaibrecio’n galed i osgoi un, yn enwedig pan fo’r lôn yn wlyb, yn hynod o beryglus acanghyfrifol.

Er bod gen i deulu o foch daearsydd wedi byw ers blynyddoedd yn ycoed ar y fferm, ni welais un yngngolau dydd tan ychydig fisoedd ynôl pan welais dri ohonynt unprynhawn yn dod i fyny’r ffordd drolat y ty. Serch hynny, roeddwn ynymwybodol bod rhai o gwmpasoherwydd eu harfer o garthu mewnmannau dethol ym môn rhai o’rcloddiau. Hefyd, weithiau, gwnântgryn lanast yn rhai o’r caeau wrthdyrchu am lyngyr daear yn y borfa.

Ar y cyfan, nid oes gen i fawr o lei gwyno gan nad ydynt wedi crwydroo’u cynefin yn y coed. Ond, maent yn

broblem ofnadwy ar rai o’r ffermydd yn y cyffiniau wrth iddynt adael eu daearau yn ytiroedd garw a chrwydro i’r caeau.Yn aml, gwnânt ddaearau newydd yn y cloddiau a’rgwrychoedd gan gloddio twneli tan yr wyneb allan ychydig lathenni i’r caeau. Pwrpas yrhain yw galluogi’r mochyn daear i ddianc yn rhwydd. Ond, oherwydd bod y twneliwedi’u tyllu allan o ochr y clawdd, nid oes pridd ar yr wyneb i ddangos lle mae’r twlldianc. Gall buwch, felly, dorri ei choes yn hawdd yn un o’r tyllau.Yn waeth fyth, gallolwyn tractor suddo’n sydyn at ei hechel i mewn i’r twnneli gan droi’r tractor drosodd.

Cymaint yw’r cynnydd yn nifer y moch daear yn ein hardal ni, mae hyd yn oed wedidisodli’r llwynog fel lladdwr wyn. Ar y dechrau, pan glywais ffermwyr defaid yn cwyno amhyn, rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn barod i’w coelio. Ni fedrwn weld sut y gallaicreadur byrgoes a thrwsgl fel y mochyn daear ddal oen. Ond, esboniwyd i mi nad oeddentyn rhedeg ar ôl yr wyn o gwbl ond yn ymosod arnynt pan fyddan nhw’n cysgu gyda’r nosym môn y clawdd.Ymddengys hefyd bod modus operandi y llwynog a’r mochyn daear ynwahanol. Mae’r llwynog yn ymosod gan amlaf ar y pen yn gyntaf ond â’r mochyn daearam y bol.

Ond, y prif reswm bod cymaint o ffermwyr yn elyniaethus i’r mochyn daear yw’rcydberthynas rhwng y cynnydd yn y nifer o foch daear a’r cynnydd blynyddol yn nifer ygwartheg sy’n dioddef o’r diciâu. Er bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn credu bod ycydberthynas yn un achosol, nid oes prawf o hynny hyd yn hyn. Mae’r Llywodraeth yn y

Mae llawer yn gwrthwynebu’r arferiad o osod bwyd i ddenumoch daear at y tyˆ. (Gol.)

Page 37: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

36

Adolygiadau

The Distribution of theHazel Dormouse in Wales Jermyn, D L , Messenger, J E , Birks, J The Vincent Wildlife Trust, 3 & $Bronsil Courtyard,Eastnor, Ledbury, Herefordshire HR81EP (2001)D S; 40 tud. Pris £3

Cofnod yw hwn o’r gwaith ymchwil awnaed rhwng y blynyddoedd 1997 a 2000 igeisio darganfod tiriogaeth y pathew,Muscardinus avellanarius, yng Nghymru.Rhannwyd y wlad yn sgwariau 10km acedrychwyd am olion y pathew mewn rhywddeg o lefydd addawol ym mhob sgwâr.Ond gynted ag y gwelwyd olion mewn uno’r sgwariau, gadawyd hwnnw a symud i’rsgwâr nesaf.Gan mai dim ond ar ôl iddi dywyllu ymentra’r pathew allan i fwydo ar ffrwythaufel y mwyar duon a chnau cyll, nid pethhawdd yw canfod a yw’n bresennol yn yrardal. Ond, yn ffodus, mae ganddo ddullarbennig o naddu twll bach crwn, at ycnewyllyn, yn y gneuen gollen ac felly,

defnyddid y cnau gweigion hynny fel prawfo’i bresenoldeb.Yn ychwanegol, mewn rhai mannau,gosodwyd trapiau wedi’u habwydo ag afalar rai o’r coed i’w ddal. Rhoddwyd y rhainar wahanol lefelau ac, er mawr syndod,darganfuwyd bod y rhai oedd 5m i fyny yndeirgwaith mwy effeithiol na’r rhai oedd yn2m.Cadarnhawyd bod y pathew i’w gael mewn68 o’r 237 o sgwariau yng Nghymru. Maehyn yn uwch nag yn yr ymchwil blaenorol,ddeng mlynedd ynghynt. Ond, nid yw hyno reidrwydd yn golygu bod y niferoeddwedi cynyddu ond bod y dulliauarchwilio’n well, medd yr awduron.Ceir ymdriniaeth o’r sefyllfa ym mhob uno’r hen siroedd ynghyd â mapiaudosbarthiad a gwelir bod y pathew yn fwyafniferus yn siroedd Caerfyrddin a Mynwy arhannau o’r canolbarth.Credaf y byddai’r llyfryn academaidd hwnyn apelio’n bennaf at rywun sy’n cymryddiddordeb arbennig yn y pathew. Ceircrynodeb o’r canlyniadau yn y Gymraeg.

Elfed H Evans

cyfamser yn ceisio cael tystiolaeth gadarn drwy gynnal arbrofion ond ni ddisgwylircanlyniadau’r rhain tan y flwyddyn 2004.

Fel un sydd wedi’i gyfareddu ers ei blentyndod gan holl fyd natur, yr wyf wrth gwrs ynerbyn y rhai sy’n mynnu’r hawl i hela er mwyn hwyl. Ond, ar yr un pryd, rwyf yn barod igydnabod yr angen am reoli nifer y llwynogod a’r moch daear. Felly, credaf y dylid newiddeddfwriaeth 1973 sy’n gwarchod y mochyn daear yn ddiamodol i ganiatau i ffermwyrddifa moch daear sydd wedi ymsefydlu yng nghloddiau’r caeau. Wedi’r cwbl, dylaidiogelwch gweithwyr ar y tir ddod o flaen unrhyw ystyriaeth arall.Yn gywir iawn

Elfed H Evans

Page 38: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

37

Y BarcudDavid B. JonesGwasg Gomer 200224 tud. £2.50

Cyfrol fechan, ddwyieithog yw hon sy’nperthyn i’r gyfres Cip ar Gymru agomisiynwyd gan Gyngor LlyfrauCymru.Mae gosodiad cyfochrog y testunauCymraeg a Saesneg yn fodel o’r modd ydylid cyflwyno gwybodaeth ar y cyd yn yddwy iaith ac mae’r graffigwaith, sy’n rhoille amlwg i luniau lliw deniadol apherthnasol, yn ychwanegu’n sylweddol atapêl y gyfrol.Llwydda’r awdur i gyflwyno gwybodaetham y barcud mewn modd trefnus acapelgar gan gyfuno manylion am yr aderynei hun gyda ffeithiau diddorol am ei hanesac am y ffordd y cafodd ei achub rhag

difodiant trwy ymdrechion rhai unigoliongoleuedig. Roedd y bardd, R S Thomas, yneu plith.Yn nechrau’r bedwaredd ganrif arbymtheg, er enghraifft, dim ond rhywddwsin o’r adar oedd ar ôl yng Nghymru.Heddiw, mae’r boblogaeth yn fwy na 200 obarau a dyfodol y barcud yn sicrach o gryndipyn. Cyplysir yr ymdriniaeth hon gyda’rdylanwadau amgylcheddol a effeithiodd ary barcud a chyfeirir at y lleoliadau sy’nnoddfa iddo yn y Gymru gyfoes.Honna’r gyfrol ei bod yn addas i bob oed,ond er bod graen ar y mynegiant, yn yGymraeg a’r Saesneg, mae natur yr iaith achymhlethdod rhai o’r agweddau a drafodiryn golygu y byddai gofyn i blant ifanc gaelcynhaliaeth oedolyn i’w llawnwerthfawrogi.

Gruff Roberts

Y FenaiGwyn Pari HuwsFfotograffiaeth: Terry BeggsGwasg Gomer 2002111 tud. llawn lluniau lliw(ISBN 1 84323 0844) £9.95 clawrmeddal

Nid y ‘Fenai dlawd’ a ddylanwadoddgymaint ar Twm Huws o Benyceunant iymadael yng nghwmni ei frawd Roli syddrhwng cloriau’r gyfrol hon.Yn hytrach,cawn ynddi holl gyfoeth amrywiol eiglannau mewn cyfres o dros gant a hannero luniau lliw gan Terry Beggs – cynbennaeth sefydliad yr ‘Indefatigable’ ymMhlas Llanfair. Cawn ein tywys ar daith arei hyd yng ngofal Capten Gwyn Pari Huwsa chawn sylwadau a gwybodaeth un syddganddo brofiad helaeth ohoni.Mae hon yn gyfrol gaboledig gan WasgGomer a gwnaed cyfiawnder ag ansawddnodedig y lluniau gwreiddiol.Mae’r daith yn cychwyn ‘efo’r llanw o’rgorllewin i’r dwyrain’, o’r twr gwyn yn

Llanddwyn i dwr du a gwyn goleudy TrwynDu, Penmon. Tynnwyd rhai lluniau o’rafon i ddangos amrywiaeth o dirweddau,adeiladau a nodweddion diddorol y ddwylan. Ceir hefyd luniau oddi ar y tir iddangos gogoniant yr afon ei hun, weithiauyn disgleirio yng ngoleuni euraidd y wawryn torri drwy rwydwaith dur PontBritannia, weithiau yn hudol lonydd ynddrych di-grych wrth y glannau. Arwahâni’r ewyn ar lan Porth Ty Mawr ar yr aildudalen golygfeydd hafau hirfelyn tesogyw’r rhelyw or darluniau, gydag awyr las achymylau gwlanog. Gresyn na fyddaiambell i lun yn dwyn i gof effaith ygwyntoedd cryfion o’r gorllewin fydd ynysgubo’r tonnau yn dwmpathau gwylltion idrochi gerddi tai newydd y marina yn yFelinheli ac i wahardd trafnidiaeth ar yddwy bont. Un llun sy’n cyffwrdd â’ragwedd hon, llun o lwyni drain wedi plyguar y tir mawr.Yma a thraw yn y gyfrol, mae lluniau oddiddordeb ymylol i ddarllenwyr YNaturiaethwr: ychydig o flodau gwylltion,

Page 39: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

38

effaith y llanw a’r gwynt ar gefnennautywod, haenau’r garreg galch ymMhenmon ac ati. Nid yw ansawdd rhai o’rlluniau hyn cystal â’r tirluniau deniadolsy’n britho’r tudalennau.Dangosir enghreifftiau perthnasol osiartiau morwrol o waith Lewis Morris, uno’r brodyr amryddawn o Fôn, ynghyd âchopiau o siartiau’r morlys yn dangosdyfnderoedd y dwr a manylion gwahanolarwyddion i forwyr. Ond nid yw dyluniad ymap ar dud. 27, er yn ddiddorol, ynychwanegu at ansawdd y gyfrol.Mae’n amlwg bod yr awdur yn ymhyfryduyn y culfor arbennig hwn ac wrth ei foddyn rhannu ei ddiddordeb a’i wybodaethefo’r darllenydd. Ond paham, bellach,gyfeirio at Felinheli fel Port Dinorwic, ahynny mewn print bras bedair gwaith, cynegluro ar dud.43 mai’r Felinheli yw’r unigenw swyddogol ar y pentref. Mae’n henbryd i siartiau’r morlys ac i’r marinabondigrybwyll fabwysiadu’r enw swyddogol

y bu cymaint o ymgyrchu lleol i’w sefydluflynyddoedd yn ôl. Oni fyddai pwt amdarddiad yr hen enw o ddiddordeb ac nidoes sôn am y gaer fu’n gwarchod yr afonger iard gychod Dinas (tud. 14) er nadyw’r llun yn dangos nemor ddim ondtwmpath o goed. Tueddaf i gytuno â’rawdur mai o’r llecyn hwn y croesodd yRhufeiniaid i Fôn er bod rhai haneswyrsafonol yn mynnu mai ar draws TraethLafan ar ddistyll y digwyddodd hyn.Dyma lyfr i’w fwynhau’n hamddenol, ynwledd i’r llygaid ac yn llawn o ffeithiaudiddorol. Pwy a wyddai mai ‘Sianel GwyrNefyn’ yw enw’r llwybr môr sy’n arwain irFenai o’r gorllewin?

Arfon Huws

Page 40: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

39

Page 41: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

Cymdeithas Edward LlwydSefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas Genedlaethol Naturiaethwyr Cymru.Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd yn ei gyfnod “y naturiaethwr gorauyn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu dros eu gwarchod.Mae’r Gymdeithas yn:

• trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £10Teulu - £12Myfyrwyr, pensiynwr, di-waith - £6I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Iwan Roberts, 3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 4LJ.

Diploma/MAÔl-Radd/ÔI-Brofiad mewn

Rheolaeth Cefn GwladChwilio am waith ym myd cadwraeth?

Angen hwb i’ch gyrfa?Os oes gennych radd neu brofiad perthnasol mewn gwaith cefn gwlad neu ym myd yr amgylchedd,hwyrach mai’r cwrs hwn yw’r union beth sydd ei angen arnoch!

• Cwrs blwyddyn llawn amser neu rhan amser dros ddwy flynedd• Cyfuno profiadau theoretig ac ymarferol• Astudiaethau perswyl yn Eryri• Hyfforddiant o ansawdd ardderchog• Uchel ei fri ymysg darpar gyflogwyrRhoddir hyfforddiant arbenigol mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, Y CyngorAstudiaethau Maes, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Cyngor Chwaraeon.

Cefnogir y cwrs gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. Os ydych dros 25 oed, yn ddi-waith ac â’r cymwysterau perthnasol, rydych yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol sy’ntalu’r ffÏoedd hyfforddi ac yn cyfrannu tuag at gostau cynnal.Am wybodaeth bellach, ffurflenni cais neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:Geraint George, Rheolaeth Cefn Gwlad,Ysgol Astudiaethau Cymuned, Rhanbarth a Chyfathrebu,Prifysgol Cymru Bangor, BANGOR,Gwynedd LL57 2DG.

Ffon: (01248) 383649/383231 • Ffacs: (01248) 382189

Clawr blaen:Trwyn yr As (Nash Point). Morgannwg.Creigiau gwaddodol, Lias (Jurasig)

Clawr ôl:Cystadleuaeth plygu gwrych, Afonwen, Sir Fflint

Lluniau: Goronwy Wynne

Lluniau’r Clawr

Page 42: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · Goronwy Wynne Robin Brith y Seychelle 21 Rhys Jones Byd Natur a’r Bardd 24 Lun Roberts Llyn pwy? 25 Dod i Nabod ein Gilydd 27 Dafydd Dafis

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

Y NaturiaethwrCyfres 2 Rhif 11 Nadolig 2002

Dosberthir yn rhad i aelodauCymdeithas Edward LlwydPris i’r cyhoedd £2.50

Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannoltrwy gymhorthdal gan Gyngor CefnGwlad Cymru