17
1 CYNGOR SIR CEREDIGION Adroddiad i'r: Cabinet Dyddiad y cyfarfod: 7 Ebrill 2020 Teitl: Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020 Pwrpas yr adroddiad: Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am waith Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru Er gwybodaeth Portffolio Cabinet ac Aelod Cabinet: Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor; Y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio; Y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a'r Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai. Partneriaeth a threfniant ymgysylltu rhanbarthol yw Tyfu Canolbarth Cymru rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus, a chyda Llywodraeth Cymru. Mae'r bartneriaeth yn ceisio cynrychioli buddiannau a blaenoriaethau'r rhanbarth ar gyfer gwella ein heconomi leol. Mae aelodau Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru fel a ganlyn: Llywodraeth Cymru Cyngor Sir Ceredigion (a gynrychiolir gan y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, y Cynghorydd Rhodri Evans a'r Cynghorydd Dafydd Edwards) Cyngor Sir Powys Trafnidiaeth Canolbarth Cymru Ffederasiwn y Busnesau Bach Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) NFU Cymru Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru Grŵp Cydweithredol Iechyd Canolbarth Cymru Fforwm Economaidd Canol Cymru Grŵp Gweithgynhyrchu’r Canolbarth Parthau Twf Lleol Powys Bwrdd Rhaglen Cymunedau Cryfach (Powys) Dyfodol Cynaliadwy - Partneriaeth Rhanbarthol Ceredigion Partneriaeth Dysgu Rhanbarthol De a Chanolbarth Cymru Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Coleg Ceredigion Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot - Campws Bannau Brycheiniog / Campws y Drenewydd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys Cyngor Gwynedd Awdurdod Parc Cenedlaethol yr Awdurdod Parc Cenedlaethol

CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

1

CYNGOR SIR CEREDIGION Adroddiad i'r: Cabinet

Dyddiad y cyfarfod: 7 Ebrill 2020 Teitl: Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth

Cymru, 17 Ionawr 2020

Pwrpas yr adroddiad: Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am waith Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

Er gwybodaeth

Portffolio Cabinet ac Aelod Cabinet:

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor; Y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio; Y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a'r Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai.

Partneriaeth a threfniant ymgysylltu rhanbarthol yw Tyfu Canolbarth Cymru rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus, a chyda Llywodraeth Cymru. Mae'r bartneriaeth yn ceisio cynrychioli buddiannau a blaenoriaethau'r rhanbarth ar gyfer gwella ein heconomi leol. Mae aelodau Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru fel a ganlyn:

Llywodraeth Cymru Cyngor Sir Ceredigion (a gynrychiolir gan y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, y Cynghorydd Rhodri Evans a'r Cynghorydd Dafydd Edwards)

Cyngor Sir Powys Trafnidiaeth Canolbarth Cymru

Ffederasiwn y Busnesau Bach Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)

NFU Cymru Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Grŵp Cydweithredol Iechyd Canolbarth Cymru

Fforwm Economaidd Canol Cymru

Grŵp Gweithgynhyrchu’r Canolbarth Parthau Twf Lleol Powys

Bwrdd Rhaglen Cymunedau Cryfach (Powys)

Dyfodol Cynaliadwy - Partneriaeth Rhanbarthol Ceredigion

Partneriaeth Dysgu Rhanbarthol De a Chanolbarth Cymru

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Coleg Ceredigion

Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot - Campws Bannau Brycheiniog / Campws y Drenewydd

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys

Cyngor Gwynedd

Awdurdod Parc Cenedlaethol yr Awdurdod Parc Cenedlaethol

Page 2: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

2

Eryri Bannau Brycheiniog Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn cwrdd bob chwarter a bydd cofnodion y cyfarfodydd yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet bob chwarter. Amgaeir cofnodion cywir cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2020 yn Atodiad A.

Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

Oes Asesiad Effaith Integredig wedi ei gwblhau? Os nad oes, esboniwch pam Cyflwynir yr Asesiadau Effaith Integredig ynghyd ag unrhyw adroddiadau sy'n ymwneud yn benodol â phrosiectau Tyfu Canolbarth Cymru Crynodeb: Hirdymor: Ddim yn berthnasol Integreiddio: Ddim yn berthnasol Cydweithio: Ddim yn berthnasol Cynnwys: Ddim yn berthnasol Atal: Ddim yn berthnasol

Argymhelliad: Nodi Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu

Canolbarth Cymru a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2020.

Rhesymau dros y penderfyniad:

Rhoi gwybod i'r Cabinet am waith Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru wrth iddi geisio cynrychioli buddiannau a blaenoriaethau'r rhanbarth ar gyfer gwella economi Canolbarth Cymru.

Trosolwg a Chraffu: Bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau

Ffyniannus yn ystyried materion sy'n ymwneud â Thyfu Canolbarth Cymru.

Fframwaith Polisi:

Strategaeth Gorfforaethol 2017 - 2022

Blaenoriaethau Corfforaethol:

Hybu'r Economi

Buddsoddi yn Nyfodol y Bobl

Goblygiadau Ariannol: Dim

Pwerau Statudol:

Ddim yn berthnasol

Papurau Cefndir:

Adroddiad Cabinet – 28 Ionawr 2020; Adroddiad Cabinet – 5 Tachwedd 2019; Adroddiad Cabinet – 30 Gorffennaf 2019; Adroddiad Cabinet – 30 Ebrill 2019; Adroddiad Cabinet – 19 Mawrth 2019 (Cytundeb Rhyng-Awdurdod); Adroddiad Cabinet – 5 Chwefror 2019; Adroddiad Cabinet – 6 Tachwedd 2018; Adroddiad Cabinet – 31 Gorffennaf 2018; Adroddiad Cabinet – 27 Mawrth 2018; Adroddiad Cabinet – 28 Tachwedd 2017;

Page 3: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

3

Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015.

Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020.

Swyddog Arweiniol: Eifion Evans, Prif Weithredwr

Swyddog Adrodd: Eifion Evans, Prif Weithredwr

Dyddiad: 23 Mawrth 2020

Page 4: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

1

CEREDIGION COUNTY COUNCIL Report to: Cabinet

Date of meeting: 7th April 2020 Title: Growing Mid Wales Partnership Meeting Minutes, 17th

January 2020

Purpose of the report: To update the Cabinet on the work of the Growing Mid Wales Partnership

For: Information

Cabinet Portfolio and Cabinet Member:

Councillor Ellen ap Gwynn, Leader of the Council; Councillor Rhodri Evans, Cabinet Member for Economy and Regeneration; Councillor Dafydd Edwards, Cabinet Member for Highways and Environmental Services together with Housing.

Growing Mid Wales is a regional partnership and engagement arrangement between the private and public sectors, and with Welsh Government. The partnership seeks to represent the region’s interests and priorities for improvements to our local economy. Members of the Growing Mid Wales Partnership are as follows:

Welsh Government Ceredigion County Council (represented by Councillor Ellen ap Gwynn, Councillor Rhodri Evans and Councillor Dafydd Edwards)

Powys County Council Trafnidiaeth Canolbarth Cymru

Federation of Small Business Farmers Union of Wales

National Farmers Union Cymru Mid Wales Regional Tourism Forum

Mid Wales Health Collaborative Central Wales Economic Forum

Mid Wales Manufacturing Group Powys Local Growth Zones

Stronger Communities Programme Board (Powys)

Sustainable Futures – Ceredigion Regional Partnership

Regional Learning Partnership for South and Central Wales

Aberystwyth University

University of Wales Trinity St David Coleg Ceredigion

NPTC Group – Brecon Beacons Campus / Newtown Campus

Ceredigion Association of Voluntary Organisations

Powys Association of Voluntary Organisations

Gwynedd County Council

Snowdonia National Park Authority Brecon Beacons National Park Authority

The Growing Mid Wales Partnership meets quarterly and the minutes of the meetings will be presented to Cabinet on a quarterly basis. Enclosed in Appendix A

Page 5: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

2

are the confirmed minutes of the Growing Mid Wales Partnership meeting held on 17th January 2020.

Wellbeing of Future Generations:

Has an Integrated Impact Assessment been completed? If, not, please state why Integrated Impact Assessments will be presented along with any reports specific to the Growing Mid Wales projects etc. Summary: Long term: N/A Integration: N/A Collaboration: N/A Involvement: N/A Prevention: N/A

Recommendation(s): To note the Growing Mid Wales Partnership Meeting

Minutes of 17th January 2020.

Reasons for decision: To inform Cabinet of the work of the Growing Mid Wales Partnership as it seeks to represent the region’s interests and priorities for improvement to the Mid Wales economy.

Overview and Scrutiny:

Matters relating to Growing Mid Wales will be considered by the Thriving Communities Overview and Scrutiny Committee.

Policy Framework:

Corporate Strategy 2017 - 2022

Corporate Priorities:

Boosting the Economy

Investing in People’s Futures

Financial implications:

None

Statutory Powers:

Not applicable

Background Papers:

Cabinet report – 28th January 2020; Cabinet report – 5th November 2019; Cabinet report – 30th July 2019; Cabinet report – 30th April 2019; Cabinet report – 19th March 2019 (Inter-Authority Agreement); Cabinet report – 5th February 2019; Cabinet report – 6th November 2018; Cabinet report – 31st July 2018; Cabinet report – 27th March 2018; Cabinet report – 28th November 2017; Cabinet report – 23rd July 2015.

Appendices: Appendix A - Growing Mid Wales Partnership Meeting Minutes, 17th January 2020.

Page 6: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

3

Lead Officer: Eifion Evans, Chief Executive

Reporting Officer: Eifion Evans, Chief Executive

Date: 24th March 2020

Page 7: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

Dydd Gwener 17eg Ionawr 2020

1 | P a g e

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

Presennol:

Y Cyng. Rosemarie Harris – Arweinydd Cyngor Sir Powys – yn y Gadair Y Cyng. Aled Davies – Dirprwy Arweinydd/Deiliad Portffolio’r Cabinet: Cyllid, Gwasanaethau Gwledig a Thrafnidiaeth (Cyngor Sir Powys) Y Cyng. James Evans – Deiliad Portffolio’r Cabinet: Datblygu Economaidd, Tai a Gwasanaethau Rheoleiddiol (Cyngor Sir Powys) Y Cyng. Myfanwy Alexander – Deiliad Portffolio’r Cabinet: Gofal Cymdeithasol Oedolion a’r Gymraeg (Cyngor Sir Powys) Y Cyng. Phyl Davies – Deiliad Portffolio’r Cabinet: Addysg ac Eiddo (Cyngor Sir Powys) Y Cyng. Dafydd Edwards – Deiliad Portffolio’r Cabinet: Priffydd a’r Amgylchedd gan gynnwys Tai (Ceredigion) Y Cyng. Rhodri Evans – Aelod Cabinet: Datblygu Economaidd (Ceredigion) Ann Watkin – Llywodraeth Cymru Arwyn Davies – Cyngor Sir Ceredigion Arwyn Watkins OBE – Hyfforddiant Cambrian Carwyn Jones-Evans – Cyngor Sir Ceredigion Ceri Stephens – Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru Claire Miles – Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol (RET) Canolbarth Cymru Eifion Evans – Prif Weithredwr: Cyngor Ceredigion Emma Wilde – Siambr Masnach Canolbarth Cymru Gareth Jones – Cyngor Sir Powys Gareth Thomas – Cynghorydd, Cyngor Sir Gwynedd Hayley Thomas – Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Hywel Davies – Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant Jane Lewis – Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol Mark Dacey – Grŵp Colegau NPTC Matt Morden - Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion Nia Williams – Cydbwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru Nicki Hunter – Llywodraeth Cymru Nina Davies – Cyngor Sir Powys Nigel Brinn –Cyngor Sir Powys Rob Holt – Llywodraeth Cymru Rhodri Griffiths – Llywodraeth Cymru Rhodri Llwyd Morgan – Prifysgol Aberystwyth Rhys Horan – Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru Rowland Rees-Evans – Twristiaeth Canolbarth Cymru Russell Hughes-Pickering – Cyngor Sir Ceredigion Steve Hughson –Prif Weithredwr: Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Stella Owen – NFU Cymru Tom Yeo – Cyngor Sir Powys

Hefyd yn bresennol: Ymddiheuriadau:

Eileen Kingsman, Peter Tyldesley a John Challen – cynrychiolwyr Canolfan y Dechnoleg Amgen Ann Elias – Cyngor Sir Ceredigion Alan Davies –Rheolwr Gyfarwyddwr, Undeb Amaethwyr Cymru

Page 8: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

Dydd Gwener 17eg Ionawr 2020

2 | P a g e

Caroline Turner – Prif Weithredwr: Cyngor Sir Powys Y Cyng. Ellen Ap Gwyn – Arweinydd: Cyngor Sir Ceredigion Helen Jones – Llywodraeth Cymru Helen Minnice-Smith – Llywodraeth Cymru Jane Davidson – Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant Jenni Thomas – Cyngor Sir Powys John Jones – Llywodraeth Cymru Peter Davies – Undeb Amaethwyr Cymru Peter James – Llywodraeth Cymru Peter Skitt - Cyfarwyddwr Rhaglen Cydbwyllgor Canolbarth Cymru Vanessa Naughton –Llywodraeth Cymru

Cofnodion cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a gynhaliwyd ar Ddydd Gwener 17eg Ionawr 2020 yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir Powys, Llandrindod.

Gweithredu

1. COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL – 18fed HYDREF 2019 Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar Ddydd Gwener 18fed Hydref 2019 yn gofnod cywir, yn amodol ar newid y cyfeiriadau at Goleg Nedd Port Talbot i Grŵp Colegau NPTC. Cytunwyd bod yr holl faterion i’w gweithredu wedi cael sylw. Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r Cofnodion i’w trafod/diweddaru na fyddai’n cael eu trafod fel rhan o’r agenda.

2. BARGEN TWF CANOLBARTH CYMRU – PAPUR DIWEDDARU Dosbarthodd Carwyn Jones-Evans adroddiad diweddaru ar y Fargen Twf gan ymddiheuro am beidio â’i ddosbarthu cyn y cyfarfod. Yn ystod y drafodaeth a’r diweddariad cyfeiriwyd yn arbennig at y canlynol: a. Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru – yn dilyn Etholiad Cyffredinol 12fed

Rhagfyr roedd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi ail-gadarnhau eu hymrwymiad yn ddiweddar i gefnogi Bargen Twf Canolbarth Cymru. Roedd y £55 miliwn a fyddai ar gael dros gyfnod o 15 mlynedd wedi’i gyhoeddi fel ernes. Mi fyddai’n bwysig gwneud y mwyaf o’r arian oedd ar gael i’w dynnu i lawr ar gyfer y rhanbarth.

b. Dogfen Gynnig – mae’r gofyniad i gyflwyno dogfen gynnig ar ran Bargen Twf Canolbarth Cymru i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru erbyn Mawrth 2020 yn aros. Mae’r swyddogion yn hyderus y bydd modd bodloni’r gofyniad. Mi fydd yn bwysig i’r Bartneriaeth ystyried y ddogfen gynnig yn y cyfarfod nesaf, a gynhelir ar 9fed Mawrth.

c. Penawdau’r Telerau – mae’r amserlen yn cynnwys arwyddo Cytundeb Penawdau’r Telerau yn ystod 2020. Byddai Penawdau’r Telerau’n ymrwymo’r rhanbarth i gyflenwi prosiectau dan y rhaglen Bargen Twf.

d. Pwyllgor Yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Llywodraeth Cymru – roedd uwch gynrychiolwyr o’r rhanbarth wedi mynychu sesiwn o Bwyllgor Yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Llywodraeth Cymru ar Ddydd Mercher 15fed Ionawr 2020 i roi mewnbwn ar Fargen Twf Canolbarth Cymru a’r cynnydd hyd yn hyn. Roedd y Pwyllgor wedi adolygu cynnydd rhaglenni Bargen Dinesig a Bargen Twf yng Nghymru. Mae’r rhaglenni’n debygol o gael eu hadolygu’n rheolaidd.

e. Cytundeb Rhyng-Awdurdod – roedd y cytundeb rhwng y ddwy ardal awdurdod lleol wedi’i arwyddo.

f. Grŵp Strategaeth Economaidd - roedd Fiona Stuart, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, wedi derbyn swydd y Cadeirydd, ac roedd Steve Hughson - Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi derbyn swydd yr Is-gadeirydd. Mae 8-9 o fusnesau’n cael

Page 9: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

Dydd Gwener 17eg Ionawr 2020

3 | P a g e

eu cynrychioli ar y Grŵp Strategaeth Economaidd. Cytunwyd i rannu manylion aelodau’r Grŵp gyda’r Bartneriaeth, ochr yn ochr â chofnodion y cyfarfod. Pwysleisiwyd y byddai aelodaeth y grŵp yn datblygu’n barhaus. Byddai’r Grŵp yn chwarae rhan bwysig iawn yn darparu sylwadau strategol ar raglen y Fargen Twf.

g. Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru – bydd cysylltiadau rhwng y Grŵp Strategaeth Economaidd a’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yn bwysig iawn er mwyn darparu’r sgiliau lleol angenrheidiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen am Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru ac wedi cymeradwyo’r dull hwn o weithredu. Mi fyddai’n bwysig ei roi ar waith cyn gynted â phosib.

h. Cydlyniant - Carwyn Jones-Evans sy’n cadw golwg cyffredinol ar yr holl waith a wneir dan raglen y Fargen Twf, gan gynnwys cysylltiadau â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac mae’n adrodd i Brif Weithredwyr y ddau gyngor. Mae arweinwyr ffrydiau gwaith yn adrodd i Grŵp Rheoli Tyfu Canolbarth Cymru, sy’n cwrdd yn rheolaidd. Cytunwyd i ailddosbarthu’r papurau o’r Cydbwyllgor diwethaf i aelodau’r bartneriaeth.

i. Partneriaeth TCC – ystyrir rôl y Bartneriaeth fel un bwysig iawn er mwyn trafod/herio a chytuno ar faterion y dylid symud ymlaen â nhw ac ati. Mae’n fforwm ar gyfer dod â chynrychiolwyr at ei gilydd o bob sector sy’n cynrychioli’r rhanbarth.

j. Tîm Prosiect/Adnodd Llywodraeth Cymru – byddai canlyniad cais i LlC am arian i brynu adnoddau ar gyfer swyddfa rhaglen ranbarthol yn wybyddus yn fuan (yn Ionawr). Mi fyddai gofyn cael 50% o arian cyfatebol, ac mae cais Blaenoriaeth 5 Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn cael ei baratoi mewn perthynas â hyn.

k. Gweithgaredd Ffrydiau Gwaith – anogodd Carwyn y cynrychiolwyr i roi gwybod iddo a oedden nhw’n teimlo bod sefydliadau perthnasol wedi bod yn rhan o’r trafodaethau rhanbarthol hyd yn hyn.

l. Cydnabod y Rhanbarth – mi fyddai’n bwysig i Lywodraeth Cymru gydnabod Canolbarth Cymru fel rhanbarth ynddo’i hun. Mae tri rhanbarth arall yng Nghymru’n cael eu cydnabod.

m. Strategaeth/Menter Dwristiaeth - bydd Croeso Cymru’n cyhoeddi ei gynllun twristiaeth newydd ar 28ain Ionawr. Byddai cynrychiolwyr Croeso Cymru’n croesawu’r cyfle i weithio’n agos â’r rhai mwyaf blaenllaw ym maes twristiaeth yn rhanbarth Canolbarth Cymru er mwyn cefnogi gweithgareddau a sicrhau cydlyniant.

Claire

3. CANOLFAN Y DECHNOLEG AMGEN - CYFLWYNIAD Rhoddodd Peter Tyldesley, Prif Weithredwr Canolfan y Dechnoleg Amgen ddiweddariad ar y gweithgareddau sydd ar droed, gan gyfeirio’n arbennig at lwyddiant y safle, sydd wedi bodoli ers 1973. Mae’r safle’n cael ei gydnabod yn fyd-eang ac mae’n ased sylweddol i Fachynlleth a’r ardal gyfagos. Tynnodd Peter sylw yn arbennig at brosiect uwchgynllun Y Chwarel, sef cynllun a fyddai’n mynd ati, pe bai cyllid yn caniatáu, i ddatblygu’r safle dros y 15 mlynedd nesaf. Gellid cyflawni prosiect Y Chwarel fesul cam ac roedd costau’r prosiect llawn oddeutu £20 miliwn. Byddai’r prosiect yn bodloni gofynion y Fargen Twf, a’r gofynion economaidd ehangach ar gyfer Canolbarth Cymru, Cymru gyfan, ac o bosib y DU. Pwysleisiodd Peter y byddai’r rhaglenni gwaith yn parhau i fod yn ystyriol iawn o’r economi leol, ac yn arbennig, y gymuned ffermio.

4. FFRAMWEITHIAU ECONOMAIDD RHANBARTHOL Adroddodd Ann Watkin, Llywodraeth Cymru, y byddai Llywodraeth Cymru’n cynnal sesiynau ymgysylltu i gasglu safbwyntiau er mwyn datblygu Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ar gyfer De Orllewin a Chanolbarth Cymru. Pwysleisiodd

Page 10: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

Dydd Gwener 17eg Ionawr 2020

4 | P a g e

Ann y byddai dogfennau’r Fframwaith yn berchen i, ac yn cael eu datblygu gan y rhanbarth. Ni fyddai’r fframweithiau’n disodli cynlluniau/strategaethau eraill LlC ond byddent yn nodi ac yn egluro safbwynt y rhanbarth. Byddai manylion am y digwyddiadau ymgysylltu’n cael eu dosbarthu wedi iddyn nhw gael eu cadarnhau. Mi fyddai’n bwysig bod yr holl sectorau ar draws bob rhanbarth yn ymgysylltu/cyfrannu. Adroddodd Carwyn fod trafodaethau da wedi’u cynnal rhwng swyddogion y rhanbarth a Llywodraeth Cymru ynghylch cysoni gweithgaredd.

5. RHAGLEN BUDDSODDI MEWN ADFYWIO WEDI’I DARGEDU Adroddwyd bod 10 o brosiectau rhanbarthol wedi’u hystyried yn erbyn strategaeth ranbarthol ar gyfer Arian Adfywio Wedi’i Dargedu dan y rhaglen fuddsoddi honno. Bu 4 prosiect yn llwyddiannus a byddent yn derbyn cymorth, ond roedd yna heriau yn sgil yr angen i dynnu arian i lawr yn y flwyddyn ariannol bresennol. Mae’r prosiectau a gynorthwyir yn cynnwys: 1. Cronfa Datblygu Eiddo Rhanbarthol – byddai chwe thref yn derbyn hyd at

£25,000 i gefnogi cynlluniau i adnewyddu adeiladau canol tref. 2. Automobile Palace (Llandrindod) – mae swyddogion yn aros i’r gweinidog

perthnasol arwyddo’r ddogfen gymeradwyo derfynol. Fodd bynnag, am fod y penderfyniad yn dod yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, roedd yna risg na fyddai’r holl arian yn cael ei dynnu i lawr. Pe bai yna ddiffyg, gallai’r rhanbarth geisio cynyddu'r cymorth i'r gronfa eiddo ranbarthol.

3. Canolfan Dulais (Ceredigion) – roedd rhai materion cyfreithiol ynghylch tenantiaid wedi amharu ar y cynnydd. Roedd y materion wedi’u datrys. Byddai £700,000 yn cefnogi’r prosiect.

6. GWEITHGAREDD YMGYSYLLTU RHANBARTHOL Rhoddodd Claire Miles, Swyddog Ymgysylltu Rhanbarthol, ddiweddariad i’r cyfarfod ar y gweithgaredd ymgysylltu. Yn ystod y diweddariad cyfeiriwyd yn arbennig at: a. Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru - rhoddodd CM ddiweddariad i’r

Bartneriaeth ar waith sydd ar droed gan LlC i ddatblygu rhaglen o fuddsoddi rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Swyddogion Rhanbarthol yn rhan o nifer o’r gweithgorau sy’n drafftio’r ddogfen ymgynghori sydd i ddod, a bydd WEFO yn cynnal digwyddiad ymgynghori rhanbarthol yng Nghanolbarth Cymru yn y gwanwyn. Mae’r trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Swyddogion LlC i sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â’r Fframweithiau Ymgysylltu Rhanbarthol sydd i ddod.

b. Tabl Rhesymeg Gweithredu ar gyfer yr Ariannu Strwythurol Ewropeaidd Arfaethedig (Hyfforddiant Peirianneg Sbectrwm Radio a Hyfforddiant Canfod Milheintiau’n Gynnar) - cyflwynodd CM ddau Dabl Rhesymeg Gweithredu ar gyfer gweithrediadau Cronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd y Tablau Rhesymeg Gweithredu’n gwbl gydnaws â blaenoriaethau strategol y rhanbarth. Gwnaed sylw ynghylch cydbwysedd rhyw y cyfranogwyr. Ni chafwyd unrhyw adborth pellach a chytunwyd i gefnogi’r gweithrediadau arfaethedig.

7. UK SHARED PROSPERITY FUND (UKSPF) Yn dilyn trafodaeth am UKSPF, cyfeiriodd y Cynghorydd James Evans at ddatganiad gweinidogaethol diweddar na fyddai Canolbarth Cymru’n cael ei ystyried ar gyfer unrhyw ariannu, pe bai’r gwaith o weinyddu’r arian yn cael ei ddatganoli o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, ac nad oedd yn sicr felly y dylid

Page 11: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

Dydd Gwener 17eg Ionawr 2020

5 | P a g e

datganoli’r arian i Gymru. Cynigiodd y dylid anfon llythyr ar ran TCC i Brif Weinidog Cymru. Dywedodd Ann Watkin, Llywodraeth Cymru, fod y trafodaethau sydd ar droed ynghylch ariannu yn y dyfodol yn rhai gwleidyddol, ac ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru o’r farn y dylai’r arian gael ei ddatganoli ac na ddylai Cymru dderbyn ceiniog yn llai am fod y DU yn gadael yr UE. Dywedodd Ann hefyd y byddai Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ynghylch dosbarthu’r gronfa yn unol â’r pedwar maes blaenoriaeth sef incwm ac economi is, cymorth busnes, newid i economi di-garbon, a chymunedau iachach a mwy cynaliadwy. Adroddodd Carwyn na fu unrhyw arwydd, yn ystod ei ymwneud â Llywodraeth Cymru, na fyddai rhanbarth Canolbarth Cymru’n cael ei ystyried ar gyfer cymorth o’r gronfa. Roedd Stella Owen o blaid anfon llythyr i fynegi dymuniad Partneriaeth TCC. Cytunwyd i ddrafftio ac anfon llythyr.

Carwyn

8. GWEITHGOR CYSYLLTEDD A SEILWAITH (TraCC) - DIWEDDARIAD CHWARTER 4 Yn ystod y drafodaeth a’r diweddariad ar yr adroddiad uchod, a oedd wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod, cyfeiriwyd yn arbennig at y canlynol: a. Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru - mae prosiect

profi’r rhwydwaith rheilffyrdd yn un sylweddol a’r cyntaf o’i fath yn y DU. Mi fyddai’n creu oddeutu 140 o swyddi. Y cam nesaf fyddai gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y prosiect. Byddai’r buddsoddiad oddeutu £100 miliwn. Byddai Claire Miles yn gofyn i’r swyddogion perthnasol i roi cyflwyniad yn y cyfarfod nesaf.

b. Modelu Cyfrifiadurol - bydd Trafnidiaeth Cymru’n rhannu data modelu gydag Awdurdodau Lleol yn fuan. Cytunwyd y byddai gwybodaeth o’r fath yn ddefnyddiol.

c. Gorsaf Bow Street/Pont Dyfi - byddai’r ddau gynllun hyn yng Nghanolbarth Cymru’n sicrhau buddsoddiadau sylweddol ac roeddent yn cael eu croesawu.

d. Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan - Mae yna broblemau arbennig yng Nghanolbarth Cymru oherwydd maint a natur wledig yr ardal. Adroddwyd bod materion yn cael eu hadolygu dan Ffrwd Gwaith Ynni’r Fargen Twf, ochr yn ochr ag ystyriaethau tymor hirach ar gyfer cerbydau pŵer hydrogen.

e. Cysylltedd – Soniodd y Cynghorydd James Evans a’r Arweinydd am sgyrsiau positif iawn gyda Llywodraeth y DU yn gynharach yn yr wythnos, pan gafwyd cytundeb ar lafar y byddai’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn ymweld â rhannau o ranbarth Canolbarth Cymru. Mi fyddai’n bwysig adeiladu cysylltiadau da er mwyn cael ymrwymiad i wneud gwelliannau mewn ardaloedd lle mae mynediad yn wael.

Claire

9. CYFIEITHU Adroddwyd nad oedd cyfieithu ar gael yn y cyfarfod heddiw oherwydd y gwaith oedd yn mynd rhagddo i adolygu’r system gyngres sydd ar waith yn y Siambr, ond mi fyddai cyfieithu ar gael yn holl gyfarfodydd y dyfodol.

10. CYNNYDD – GWELEDIGAETH RANBARTHOL Gofynnodd Ceri Stephens am gael gwybodaeth bellach ar ffrydiau gwaith a phrosiectau’r Fargen Twf yng nghyfarfodydd y bartneriaeth yn y dyfodol. Cytunwyd y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei darparu pan oedd yn barod.

11. PRIFYSGOL ABERYSTWYTH – RHAGLEN DDATBLYGU

Page 12: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

Dydd Gwener 17eg Ionawr 2020

6 | P a g e

Cafwyd sylw yn y wasg yn ddiweddar am y cyhoeddiad bod £26 miliwn wedi’i glustnodi i ddatblygu safle’r Hen Goleg ar lan y môr yn Aberystwyth. Byddai’r gweithgaredd yn creu oddeutu 50 o swyddi. Nid yw’r mater yn rhan o’r Fargen Twf, ond mi fydd yn hwb sylweddol i economi Canolbarth Cymru. Bydd y gwaith yn dechrau ym Mawrth 2020.

12. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 9fed Mawrth yn Aberaeron.

CYNGHORYDD ROSEMARIE HARRIS - ARWEINYDD

CYNGOR SIR POWYS YN Y GADAIR

Page 13: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

Friday 17th January 2020

1 | P a g e

Growing Mid Wales Partnership

Present:

Councillor Rosemarie Harris – Leader: Powys County Council – in the Chair Councillor Aled Davies – Deputy Leader/Cabinet Portfolio Holder: Finance, Countryside Services and Transport (Powys County Council) Councillor James Evans – Cabinet Portfolio Holder: Economic Development, Housing and Regulatory Services (Powys County Council) Councillor Myfanwy Alexander – Cabinet Portfolio Holder: Adult Social Care and the Welsh Language (Powys County Council) Councillor Phyl Davies – Cabinet Portfolio Holder: Education and Property (Powys County Council) Councillor Dafydd Edwards – Cabinet Portfolio Holder: Highways and Environment including Housing (Ceredigion) Councillor Rhodri Evans – Cabinet Member: Economic Development (Ceredigion) Ann Watkin – Welsh Government Arwyn Davies – Ceredigion County Council Arwyn Watkins OBE – Cambrian Training Carwyn Jones-Evans – Ceredigion County Council Ceri Stephens - Mid Wales Manufacturing Group Claire Miles – Mid Wales RET Eifion Evans – Chief Executive: Ceredigion Council Emma Wilde – Mid Wales Chamber of Commerce Gareth Jones – Powys County Council Gareth Thomas – Councillor, Gwynedd County Council Hayley Thomas – Powys Teaching Health Board Hywel Davies – University of Wales: Trinity Saint David Jane Lewis - Regional Learning and Skills Partnership Mark Dacey – Neath Port Talbot Coleg Group of Colleges Matt Morden - Coleg Sir Gar and Coleg Ceredigion Nia Williams – Mid Wales Joint Committee for Health and Care Nicki Hunter – Welsh Government Nina Davies – Powys County Council Nigel Brinn –Powys County Council Rob Holt – Welsh Government Rhodri Griffiths – Welsh Government Rhodri Llwyd Morgan – Aberystwyth University Rhys Horan - Welsh Government Energy Service Rowland Rees-Evans – Mid Wales Tourism Russell Hughes-Pickering – Ceredigion County Council Steve Hughson –Chief Executive: Royal Welsh Agricultural Society Sella Owen – NFU Cymru Tom Yeo – Powys County Council

In attendance: Apologies:

Eileen Kingsman, Peter Tyldesley and John Challen - representatives from the Centre for Alternative Technology Ann Elias – Ceredigion County Council Alan Davies – Managing Director, Farmers Union of Wales Caroline Turner – Chief Executive: Powys County Council Councillor Ellen Ap Gwyn – Leader: Ceredigion County Council

Page 14: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

Friday 17th January 2020

2 | P a g e

Helen Jones – Welsh Government Helen Minnice-Smith – Welsh Government Jane Davidson – University of Wales: Trinity Sant David Jenni Thomas – Powys County Councol John Jones – Welsh Government Peter Davies – Farmers’ Union of Wales Peter James – Welsh Government Peter Skitt - Mid Wales Joint Committee Programme Director Vanessa Naughton – Welsh Government

Minutes from a meeting of the Growing Mid Wales Partnership held on Friday 17th January 2020 in The Council Chamber, Powys County Hall, Llandrindod Wells.

Action

1. MINUTES FROM PREVIOUS MEETING – 18th OCTOBER 2019 The minutes from the previous meeting held on Friday 18th October 2019 were confirmed as a correct record subject to amending references to the Neath Port Talbot College to read NPTC Group of Colleges. It was agreed that all matters for action had been moved forward. There were no matters arising from the Minutes for discussion/update that would not be discussed as part of the agenda.

2. MID WALES GROWTH DEAL - UPDATE PAPER Carwyn Jones-Evans circulated a Growth Deal update report and apologised for not circulating it prior to the meeting. During discussion and update particular reference was made to: a. UK and Welsh Governments – following the 12th December General Election the

UK and Welsh Governments had recently re-affirmed their commitment to supporting the Mid Wales Growth Deal. The £55 million would be made available over a 15-year period had been announced as a down-payment. It would be important to maximise the drawdown of funding for the region.

b. Proposition Document – the requirement to submit a Mid Wales Growth Deal proposition document to the UK and Welsh Governments by March 2020 stands. Officers are confident that the requirement would be met. It would be important for the Partnership to consider the proposition document at the next meeting which will be held on 9th March

c. Heads of Terms – the timetable includes signing off on a Heads of Terms Agreement during 2020. The Heads of Terms would bind the region to deliver on projects under the Growth Deal programme.

d. Welsh Government Economy, Infrastructure and Skills Committee – senior representatives from the region had attended a session of the Welsh Government’s Economy, Infrastructure and Skills Committee on Wednesday 15th January 2020 to input regarding the Mid Wales Growth Deal and progress to date. The Committee had reviewed the progress City Deal and Growth Deal programmes in Wales. It is likely that programme reviews would be regular

e. Inter-Authority Agreement – the agreement between the two local authority areas had been signed off

f. Economy Strategy Group – Fiona Stuart - Green Man Festival had accepted the chair position, Steve Hughson – Royal Welsh Agricultural Society had accepted the vice-chair position. There are 8-9 businesses that are represented on the ESG. It was agreed to share the details of those that sit on the ESG with the Partnership alongside the meeting minutes. It was stressed that the membership of the group

Page 15: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

Friday 17th January 2020

3 | P a g e

would continually evolve. The ESG would play a very important part in providing strategic comment on the Growth Deal programme.

g. Mid Wales Regional Learning and Skills Partnership – links between the ESG and Regional Learning and Skills Partnership would be very important in order to provide local skill needs. The Welsh Government had accepted the need for a Mid Wales Regional Skills Partnership and endorsed the approach. It would be important for it to become operational as soon as possible

h. Co-ordination – Carwyn Jones-Evans has oversight of all work being undertaken under the Growth Deal programme including links with the Welsh and UK Governments, and reports into the Chief Executives of both councils. Workstream leads report into the Growing Mid Wales Management group which meets on a regular basis. It was agreed to recirculate the papers from the last Joint Committee to partnership members.

i. GMW Partnership – the Partnership’s role is viewed as very important in order to discuss/challenge and agree on matters for progressing etc. It is a forum for bringing together representatives from across sectors that represent the region

j. Project Team/Welsh Government Resource – the outcome of a bid to WG for funding to resource a regional programme office would be known soon (in January). There would be a requirement for 50% match funding, and an ESF P5 bid is currently in development in this respect.

k. Workstream Activity – Carwyn encouraged representatives to let him know if they felt that relevant organisations had not been involved in regional discussions to date

l. Recognising the Region – it would be important for the Welsh Government to recognise the Mid Wales region as a region in its own right. There are three other Welsh regions that are recognised

m. Tourism Strategy/Initiative – Visit Wales will be announcing its new tourism plan on the 28th of January. Representatives from Visit Wales would welcome working closely with those leading on tourism in the Mid Wales region in order to support activities and ensure alignment.

Claire

3. CENTRE FOR ALTERNATIVE TECHNOLOGY – PRESENTATION Peter Tyldesley, CEO for the Centre for Alternative Technology provided an update in relation to activities being undertaken during which particular reference was made to the success of the site which had been in existence since 1973. The site is internationally recognised and a considerable asset to the Machynlleth and wider area. Peter drew particular attention to The Quarry masterplan project which is a scheme that would be progressed, if funding allows, to develop the site over the next 15 years. The Quarry project could be delivered in stages and costings for the full project were in the region of £20 million. The project would deliver on Growth Deal requirements, and wider economic requirements for Mid Wales, Wales and possibly the UK. Peter stressed that programmes of work would continue to be very mindful of the local economy and, in particular, the farming community.

4. REGIONAL ECONOMIC FRAMEWORKS Ann Watkin, Welsh Government reported that the Welsh Government would be holding engagement sessions in order to obtain views to develop a Regional Economic Framework for South West and Mid Wales. Ann stressed that Framework documents would be owned and developed by the region. The frameworks would not replace other WG plans/strategies but would identify and clarify the regional position. Details of engagement events would be circulated once confirmed. It would be important for all sectors across each region to engage/input. Carwyn reported that there had been good discussions between officers from the region and the Welsh Government concerning alignment of activity.

Page 16: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

Friday 17th January 2020

4 | P a g e

5. TARGETED REGENERATION INVESTMENT PROGRAMME It was reported that there had 10 regional projects which had been considered against a regional strategy for Targeted Regeneration Funding under that investment programme. Four projects had been successful and would be supported, however, there were challenges due to the need to draw down funding in the current financial year. Projects to be supported include; 1. Regional Property Development Fund – six towns would receive up to £250k

to support town centre building renovation schemes 2. Auto Palace (Llandrindod Wells) – officers are awaiting final sign off an approval

from the relevant minister. However, due to the lateness of the decision in the financial year there was a risk that not all the funds would be drawn down. If there was to be a shortfall, region could look to increase support to the regional property fund

3. Canolfan Dulais (Ceredigion) – there had been some legal matters regarding tenants that had impacted on progress. Matters had been resolved. £700k would support the project

6. REGIONAL ENGAGEMENT ACTIVITY Claire Miles, Regional Engagement Officer gave an engagement activity update report to the meeting. During update particular reference was made to: a. Regional Investment In Wales – CM gave an update to the Partnership on the

ongoing work by WG to develop a future programme for regional investment in Wales. Regional officers are involved in several of the working groups drafting the forthcoming consultation document, and WEFO will hold a regional consultation event in Mid Wales in the spring. Discussions are ongoing with WG Officers to ensure alignment with the forthcoming REFs.

b. Operation Logic Table for Proposed European Structural Funding (Radio Spectrum Engineering Training and Training for Early Identification of Zoonoses) – CM presented two OLTs for ESF operations that are currently in development at Aberystwyth University. The OLTs aligned strongly with the strategic priorities for the region. A comment was made regarding the gender balance of participants. No further feedback was received it it was agreed to support the proposed operations.

7. UK SHARED PROSPERITY FUND Following a discussion in relation to the UK Shared Prosperity Cllr James Evans stated that there had been a recent Ministerial statement that Mid Wales would not be considered for any funding if the administration of the funding was devolved from the UK to the Welsh Government, and therefore he was not confident that funding should be devolved to Wales. He proposed sending a letter on behalf of GMW to the First Minister. Ann Watkin Welsh Government stated that the discussions ongoing future funding are political and reported that the Welsh Government stance was that the funding should be devolved and Wales should not receive a penny less as a result of the UK leaving the EU. Ann also reported that the Welsh Government would consult on the distribution of the fund in line with the four priority areas of reduced income and economy, business support, transition to a zero-carbon economy and healthier and more sustainable communities. Carwyn reported that in his dealings with the Welsh Government there had been no indication that the Mid Wales region would not be considered for support under the fund.

Page 17: CYNGOR SIR CEREDIGION · 3 Adroddiad Cabinet - 23 Gorffennaf 2015. Atodiadau: Atodiad A - Cofnodion Cyfarfod Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, 17 Ionawr 2020. Swyddog Arweiniol:

Friday 17th January 2020

5 | P a g e

Stella Owen supported the sending of a letter in order to demonstrate the ambition of the GMW Partnership. It was agreed a letter would be drafted and sent.

Carwyn

8. CONNECTIVITY AND INFRASTRUCTURE WORKING GROUP (TraCC) – QUARTER 4 UPDATE During discussion and update regarding the above report which had been circulated with the papers for the meeting particular reference was made to: a. Global Centre for Excellence for Rail – the rail testing complex project is

significant and a first for the UK. It would create in the region of 140 jobs. The next stage would be to seek planning permissions for the project. Investment would be in the region of £100 million. Claire Miles would request the relevant officers give a presentation to the next meeting.

b. Computer Modelling – Transport for Wales will shortly be sharing modelling data with LAs. It was agreed this information would be useful.

c. Bow Street Station/Dyfi Bridge – both Mid Wales schemes would secure significant investments and were welcomed.

d. Electric Vehicle Charging Points –There are particular issues for mid Wales due to its rurality and size. It was reported that matters were being reviewed under the Growth Deal: Energy Workstream alongside longer term considerations for hydrogen powered vehicles.

e. Connectivity – Councillor James Evans and the Leader reported back on very positive conversations at the UK Government earlier in the week when it had been verbally agreed that DCMS would visit parts of the Mid Wales region. It would be important to build good relationships in order to seek commitments to improve in areas where access is poor.

Claire

9. TRANSLATION It was reported that translation had not been available for today’s meeting because of work being undertaken to review the congress system that operates in the Chamber. There would be translation at all future meetings.

10. PROGRESS – REGIONAL VISION Ceri Stephens requested further information on Growth Deal workstreams and projects at future partnership meetings. It was agreed this information would be made available when ready.

11. ABERYSTWYTH UNIVERSITY – DEVELOPMENT PROGRAMME There had been recent media attention regarding an announcement that £26 million had been identified to develop the Hen Goleg site on Aberystwyth seafront. Activity would create in the region of 50 jobs. The matter sits outside of the Growth Deal, but will be significant for the Mid Wales economy. Work will commence by March 2020.

12. DATE OF NEXT MEETING The next meeting would be held on 9th March in Aberaeron.

COUNCILLOR ROSEMARIE HARRIS - LEADER

POWYS COUNTY COUNCIL IN THE CHAIR