5
Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College Gaeaf 2015/16 MYFYRWYR YN CYFRANNU I RAGLEN NEWYDD AR Y BBC YN Y CYHOEDDIAD HWN TYFU HADAU O’R GOFOD LLWYDDIANT ‘ENTERPRISE’, DIGWYDDIADAU CODI ARIAN, LLWYDDIANNAU CHWARAEON, PROFIAD GWAITH MEWN STIWDIO FFILM, TEITHIAU MAES, PANTO A LLAWER MWY TYFU HADAU O’R GOFOD Mae myfyrwyr Coleg Dewi Sant yn paratoi ar gyfer bod yn ofod-fiolegwyr a chychwyn ar daith darganfod drwy dyfu hadau sydd wedi bod yn y gofod. Cawsom fore cyffrous yn y coleg ar Ionawr 28ain, pan ddaeth cynhyrchydd ac ysgrifennwr o’r BBC i gwrdd â rhai o’n myfyrwyr. Roedd Derek Ritchie a Mark Williams yn awchus i siarad â’r myfyrwyr am eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r ddau’n gweithio ar raglen newydd i arddegwyr ac fel rhan o’u hymchwil, roedd angen darganfod mwy am ddefnydd pobl ifanc o’r We yn y dyddiau sydd ohoni. Cafwyd trafodaeth ysgogol iawn, ac roedd y myfyrwyr yn awyddus i rannu eu profiadau. Sonniwyd am yr ochr negyddol a’r ochr gadarnhaol o safleoedd fel Gweplyfr a Thrydar. Cafodd Derek a Mark eu synnu gan onestrwydd ein myfyrwyr a gadawodd y ddau gyda llawer o wybodaeth ddefnyddiol er mwyn cynllunio eu rhaglen newydd. Mae Mark yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y teledu a’r theatr a chyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 2013. Mae Derek wedi bod yn gweithio ar ei liwt ei hun yn cynhyrchu rhaglenni, ond dechreuodd weithio fel cynhyrchydd ar “Doctor Who” ychydig o flynyddoedd yn ôl.

TYFU HADAU O’R GOFOD · Ofod Ryngwladaol (ISS) ar Soyuz 44S lle byddan nhw treulio nifer o fiseodd mewn meicro-ddisgyrchiant cyn cael eu hanfon nôl i’r Ddaear fis Mawrth 2016

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College

Gaeaf 2015/16

MYFYRWYR YN CYFRANNU I RAGLEN NEWYDD AR Y BBC

YN Y CYHOEDDIAD HWN

TYFU HADAU O’R GOFOD

LLWYDDIANT ‘ENTERPRISE’, DIGWYDDIADAU CODI ARIAN, LLWYDDIANNAU CHWARAEON, PROFIAD GWAITH MEWN STIWDIO FFILM, TEITHIAU MAES, PANTO A LLAWER MWY

TYFU HADAU O’R GOFOD Mae myfyrwyr Coleg Dewi Sant yn paratoi ar gyfer bod yn ofod-fiolegwyr a chychwyn ar daith darganfod drwy dyfu hadau sydd wedi bod yn y gofod.

Cawsom fore cyffrous yn y coleg ar Ionawr 28ain, pan ddaeth cynhyrchydd ac ysgrifennwr o’r BBC i gwrdd â rhai o’n myfyrwyr. Roedd Derek Ritchie a Mark Williams yn awchus i siarad â’r myfyrwyr am eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r ddau’n gweithio ar raglen newydd i arddegwyr ac fel rhan o’u hymchwil, roedd angen darganfod mwy am ddefnydd pobl ifanc o’r We yn y dyddiau sydd ohoni. Cafwyd trafodaeth ysgogol iawn, ac roedd y myfyrwyr yn awyddus i rannu eu profiadau. Sonniwyd am yr ochr

negyddol a’r ochr gadarnhaol o safleoedd fel Gweplyfr a Thrydar.

Cafodd Derek a Mark eu synnu gan onestrwydd ein myfyrwyr a gadawodd y ddau gyda llawer o wybodaeth ddefnyddiol er mwyn cynllunio eu rhaglen newydd. Mae Mark yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y teledu a’r theatr a chyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 2013. Mae Derek wedi bod yn gweithio ar ei liwt ei hun yn cynhyrchu rhaglenni, ond dechreuodd weithio fel cynhyrchydd ar “Doctor Who” ychydig o flynyddoedd yn ôl.

Mae Coleg Dewi Sant yn darparu nifer fawr o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ‘Enterprise’ drwy gydol y flwyddyn. Ychydig cyn y Nadolig, dewiswyd tri o’n myfyrywr i fynd ar brofiad gwaith i stiwdio ffilm leol. Dyma’r hyn roedd gan y merched i’w ddweud am y profiad :

“Roedd bod yn rhan o ‘Enterprise’ yn brofiad anhygoel. Drwy ‘Enterprise’ cawson ni wybod am gyfle i gael profiad gwaith â thâl mewn stiwdio ffilm go wir yn y Barri sef Digichemistry.

Yn sicr, wrth weithio gyda chwmni ffilm go wir, datblygodd ein sgiliau gweithio camera a’n sgiliau golygu, a hefyd cael profiad go wir o weithio oriau hir a chwrdd â dedleins ar gyfer y cleient. Dysgon ni gymaint o’r profiad, gan gynnwys sut i ddefnyddio meddalwedd ‘Final Cut Pro’ a sut i ddefnyddio camerâu soffistigedig. Cawson ni brofiad ymarferol yn y diwydiant lle mae ein bryd ar gael gyrfa yn y dyfodol a chadarnhaodd y profiad hynny.

Roedd hi’n wych gweithio gyda Craig, Mirain a Sam a roddodd help i ni ar bob cam, ond hefyd rhoddod hyn gyfle i ni defnyddio’n syniadau ein hunain.

Roedd y gwaith yn heriol ar adegau gan ein bod dan bwysau i orffen y gwaith ond cawson ni ddigon o help a llwyddon ni i gwblhau rhaglen ddogfen broffesiynol yr olwg yr ydyn ni’n wir falch ohoni. Cawson ni ein rhoi

mewn tîm o bobl frwd a wnaeth y profiad hyd yn oed yn fwy pleserus!

Roedd gorfod mynd drwy broses cyfweliad ar ôl i’n CVs gyrraedd y rhestr fer hefyd yn brofiad gwych. Roedd cael ein dewis o 30 o ymgeiswyr yn deimlad ffantastig ac os cewch gyfle i gymryd rhan yn ‘Enterprise’ boed yn brofiad gwaith, cysgodi rhywun, neu’n cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau, rydyn ni’n eich annog i achub ar y cyfle hwnnw. Cewch hwyl ond hefyd byddwch yn dysgu ystod o sgiliau newydd. Bydd yn rhywbeth y gallwch roi ar eich CV fydd yn eich gwneud yn wahanol i bawb arall.

Rydyn ni mor falch ein bod wedi cael y cyfle, ac yn sicr bydden ni’n neidio at y cyfle i’w wneud eto!”

Charlie Barber, Nicole Flavin a Phoebe Rees

Mae myfyrwyr ar ein cyrsiau Gwyddoniaeth yn paratoi ar gyfer bod yn ofod-fiolegwyr a chychwyn ar daith darganfod drwy dyfu hadau sydd wedi bod yn y gofod.

Fis Medi, anfonwyd dau gilogram o hadau roced i’r Orsaf Ofod Ryngwladaol (ISS) ar Soyuz 44S lle byddan nhw treulio nifer o fiseodd mewn meicro-ddisgyrchiant cyn cael eu hanfon nôl i’r Ddaear fis Mawrth 2016. Anfonwyd yr hadau fel rhan o gynllun Gwyddoniaeth Roced, prosiect addysgol a lansiwyd gan Ymgyrch Garddio Ysgolion yr RHS (Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol) ac Asiantaeth Ofod y DU.

Coleg Dewi Sant fydd yn un o’r 10,000 o ysgolion i derbyn pecyn o 100 o hadau o’r gofod ac fe fyddan nhw’n eu tyfu ochr yn ochr â hadau na fu’n y gofod i fesur y gwahaniaeth rhyngddyn nhw dros gyfnod o saith wythnos. Ni fydd y myfyrwyr yn gwybod pa becyn hadau fydd yn cynnwys pa hadau nes y cesglir yr holl ganlyniadau gan Ymgyrch

Garddio Ysgolion yr RHS a hyd nes iddyn nhw gael eu dadansoddi gan fio-ystadegwyr proffesiynol.

Bydd yr arbrawf gwyddonol arall-fydol hwn a gynhelir ledled y wlad yn gwneud i’r myfyrwyr ystyried yn fwy dwys am y modd y gallwn gadw pobl yn fyw ar blaned arall yn y dyfodol, yr hyn sydd ei angen ar ofodwyr i oroesi teithiau hir-dymor yn y gofod a’r anawsterau o dyfu bwyd ffres mewn hinsoddau heriol.

Mae Dr Beer, Athro Gwyddoniaety yng Ngholeg Dewi Sant yn dweud: “Mae arhosiad Tim Peake ar yr ISS wedi symbylu myfyrwyr ar draws pob disgyblaeth wyddonol. Rydyn ni wrth ein bodd i dderbyn yr hadau sydd wedi bod gyda Tim ar yr ISS ac yn edrych ymlaen at eu tyfu ar ôl y Pasg. Bydd hyn yn ein galluogi i gymryd rhan mewn arbrawf mawr a fydd yn dangos effaith hirdymor y gofod ar hadau o’r math hwn. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol wrth i’r ddynoliaeth ddechrau ystyried teithio i’r blaned Mawrth a thu hwnt.”

Cewch y newyddion diweddaraf am hyn yng nghylchlythyr yr haf.

Gallwch ddilyn y prosiet ar Twitter: @RHSSchools #RocketScience neu drwy’r tîm yn Ysgol Dewi Sant: @StDavidsSTEM neu @StDavidsSCI

MYFYRWYR DEWI SANT YN TYFU HADAU O’R GOFOD

PROFIAD GWAITH MEWN STIWDIO FFILM

Ar yr 8fed o Hydref 2015, gwirfoddolodd nifer o fyfyrwyr y Coleg i roi o’u hamser i drefnu cyngerdd i godi arian ar gyfer argyfwng ffoaduriaid Syria. Dros nifer o wythnosau, buon nhw’n brysur yn llogi bandiau, trefnu’r goleuo a’r sain, tocynnau, y marchnata a’r arlwyo ar gyfer y noson. Fe weithion nhw’n galed iawn i ddod â’r noson at ei gilydd gan ddysgu nifer o sgiliau newydd yn y broses a hefyd yn cael hwyl wrth wneud hynny. Roedd y cyngerdd yn llwyddiant ysgubol a nifer o fyfyrwyr y coleg yn perfformio ar y noson gan gynnwys: • Band y Staff • Percy• Eve Nentwig • Pippa Thomas ft. Chloe Donnelly & Jade Wellbeloved• Inside the Mind• BigMech• Theia• Unforgettable Adventures Days• The Cradles (prif fand y noson, cyn-fyfyrwyr) Llwyddon ni i godi cyfanswm o £364.14 a fydd yn cael ei rannu rhwng 2 elusen: £169 i Apêl Syriau Unicef a £195 i Apêl Achub Plant Syria

CYNGERDD ELUSENNOL YN CODI DROS £360 AR GYFER ARGYFWNG FFOADURIAID SYRIA

Llun gan Georgia Acton Dyer

Ar hyn o bryd mae’r myfyriwr Lefel A, Rhys Payne, yn gweithio’n galed i godi arian ar gyfer achosion da yma yng Nghaerdydd a thramor. Gofynnon ni i Rhys am y prosiectau y mae’n ymwneud â nhw:

“Ym mis Ionawr, seiclais i a ffrind 500 milltir mewn 24 awr (ar feiciau ymarfer) i godi arian ar gyfer Prosiect De Affrica’r RYC.

Prosiect wedi’i leoli yng Nghaerdydd ydy Prosiect De Afferica’r RYC sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr sy’n frwd dros wneud newidiadau mewn cymuneday ar draws y DU ac yn Ne Affrica. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r elusen wedi anfon grŵp o bobl ifanc i Dde Affrica i helpu i adeiladu tai, ysgolion a chartrefi i blant amddifad. Eleni, eu gobaith ydy parhau gyda’r gwaith

da hwn ond mae angen codi arian i hynny ddigwydd. £1250 ydy’r gôst i un person deithio yno, talu am ddeynyddiau adeiladu ayb. I godi’r arian hwn rydw i a fy ffrind, Marie Postans, sydd hefyd yn gobeithio mynd i Dde Affrica eleni, wedi seiclo 500 milltir mewn 24 awr. Codon ni dros £400.

Noson ‘Cyri a Jam’ ydy’n hymdrech ddiweddaraf ni i godi arian; noson o fwyd a cherddoriaeth fyw i’w chynnal yng Nghapel Rhymni ar y 5ed o Fawrth.“

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i gyfrannu at Brosiect De Affrica Rhys a Marie. Os hoffech gyfrannu ewch i: https://my.give.net/rhyspayneSA16

Mae gan Rhys bethau eraill ar y gweill! Mae ei waith elusennol yn parhau yn nes adre...

“Rydw i hefyd yn gynrychiolydd ieuenctid ar gyfer grŵp lleol o’r enw ‘The Rumney Forum’ sydd, yn ddiweddar, wedi prynu Llyfrgell Rhymni gan fod y cyngor lleol wedi bwriadu ei chau. Y cynllun ydy ei throi’n adnodd cymunedol lle bydd caffi bach a’r gobaith ydy mai gwirfoddolwyr yn bennaf fydd yn ei redeg gan ddefnyddio cynhwysion lleol.

Rydyn ni hefyd yn gobeithio defnyddio’r lle ar gyfer llawer o weithgaredau cymunedol eraill. I godi arian ar gyfer y prosiect hwn, rydyn ni eisoes wedi cynnal cwis tafarn ac mae nifer o weithgareddau eraill ar y gweill.”

PROSIECT DE AFFRICA’R RYC

“Ym mis Ionawr, teithiodd yr adran ffotograffiaeth i Lundain i ymweld â nifer o wahanol arddangosfeydd ffotograffiaeth. Mae ymweliadau fel hyn yn caniatáu i ni gysylltu â’r ffotograffiaeth ac rydyn ni’n gallu cael ein hysbrydoli gan y delweddau i dylanwadu ar ein lluniau ein hunain ac i wella’n sgiliau drwy atgynhyrchu lluniau oedd o ddiddordeb i ni.

Roedd y trip yn brofiad gwych, gan nad oes llawer o arddangosfeydd ffotograffiaeth yn lleol. Yn gyntaf aethon ni i’r Oriel Bortreadau Genedlaethol ac Oriel y Ffotograffwyr yn ogystal ag ychydig o siopa yn Stryd Oxford a Covent Garden. Roedd Oriel y Ffotograffwyr yn arbennig o ddiddorol gan fod gwaith gwahanol ffotograffwyr yn cael ei arddangos a rhywbeth yno at ddant pawb.”

Alex Kamionka

TRIP FFOTOGRAFFIAETH

Mae Clwb Peirianneg Dewi Sant wedi bod wrthi’n brysur yn gweithio ar becyn codio a fydd yn galluogi ysgolion cynradd ac uwchradd i addysgu cod cyfrifiaduron i fyfyrwyr. Ar Ragfyr yr 16eg, cawson nhw gyfle i wireddu eu prosiect pan aethon nhw i ymweld ag Adran Beirianneg Trydan Prifysgol Caerdydd. Defnyddion nhw feddalwedd 3D er mwyn gallu argraffu eu dyluniadau mewn 3D. Ar ôl wynebu nifer o broblemau o ran sicrhau gwedd realistig i’r cynnyrch, drwy weithio fel tîm, llwyddwyd i ddatrys y problemau. Crewyd yr holl ddyluniadau’n electronig a bu’r diwrnod yn un llwyddiannus.

Drannoeth, aeth y myfyrwyr ar daith o gwmpas Adran Beirianneg Prifysgol Caerdydd ac yno argraffwyd fersiwn terfynol o’u dyluniadau. Cafodd y myfyrwyr amser i ddechrau ysgrifennu eu hadroddiad EESW (Cynllun Addysgol Peirianyddol Cymru). Er mwyn i’w dyluniadau fod yn rhai hollol ymarferol, roedd rhaid i’rmyfyrwyr ychwanegu’r electroneg tu mewn i’w dyluniadau.

Fe wnaeth yr holl fyfyrwyr fwynhau eu hamser yn y brifysgol gan ddweud ei fod yn “brofiad gwych” ac yn “ysu am weld y prototeip” ac yn “llwyddiant mawr” yn eu barn nhw.

O GODIO I ARGRAFFU 3D GŴYL GWYDDORAU CYMDEITHASOL PRIFYSGOL CAERDYDD

Ym mis Tachwedd 2015, aeth Neil Davies a Gavin Hatton â 21 o fyfyrwyr Daearyddiath a Chymdeithaseg i Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd: Byd Data.

Yn y digwyddiad cyflwynwyd byd rhyfeddol gwyddorau cymdeithasol meintiol i fyfyrwyr Chweched Dosbarth ysgolion Caerdydd. Roedd yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach iddyn nhw o’r broses wyddonol: sut i greu cwestiynau ymchwil profadwy, creu data a sut i’w ddadansoddi a’i ddelweddu mewn modd defnyddiol ac ystyrlon.

Gall dadansoddi data rhifiadol fod yn dasg hynod anodd i fyfyrwyr y dyniaethau, yn enwedig y rhai yn y chweched dosbarth. Roedd y gweithdai hyn yn gymorth i leddfu pryderon am ddefnyddio rhifau yn y gwyddorau cymdeithasol.

Roedd digon o weithdai ymarferol rhyngweithiol, cyfleoedd i fyfyrwyr greu eu data eu hun a chystadlaethau iddyn nhw ennill gwobrau.

Ar y 5ed o Chwefror cafodd grŵp bach o fyfyrwyr gyfle i fynd i Senedd Cymru ar ddiwrnod Cenedlaethol Cofrestru Pleideiswyr. Y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, oedd yn croesawu pawb, lansiwyd ymgyrch ymwybyddiaeth pleidleiswyr Cymru 2016 gyda ffocws arbennig ar ymglymiad ieuenctid. Cyflenwyd y diwrnod ar y cyd â NUS Cymru, Youth Cymru a’r Comisiwn Etholiadol, ac roedd yn gyfle i’n myfyrwyr ac eraill ar draws Cymru ddysgu am ddarpar etholiad y Cynulliad, grymoedd y Cynulliad, sut i gofrestru i bleidleisio ac i gymryd rhan mewn gweithdai gan ddefnyddio ystafelloedd pwyllgor y Senedd i drafod gwahanol agweddau o’n proses ddemocrataidd.

“Fe wnes i wir fwynhau’r ymweliad, roedd yn ddiddorol. Do’n i ddim yn gwybod fawr ddim am bleidleisio nac am senedd yr ifanc ond yn ystod yr ymweliad hwn, dysgais bethau fel sut i wneud cais i bleidleisio, yr hyn mae pobl ifanc yn pryderu amdano, a’r hyn maen nhw am weld yn digwydd. Fe wnaethon ni hefyd ystyried sut i wneud gwleidyddiaeth yn fwy hygyrch i bawb, er enghraifft sefydlu gweithdai neu gwneud dysgu am wleidyddiaeth yn bwnc craidd yn yr ysgol er mwyn codi ymwybyddiaeth. Byddwn yn argymell diwrnod fel hyn i fy nghymheiriaid.”

Leah Lock

YMWELIAD Â’R SENEDD AR GYFER DIWRNOD CENEDLAETHOL COFRESTRU PLEIDLEISWYR

“Ces yr ymweliad yn llawn gwybodaeth ac roedd dysgu pa rymoedd sydd wedi’u datganoli o San Steffan i’r Cynulliad a pha rymoedd sydd heb eu datganoli megis plismona yn ddiddorol iawn. Hefyd roedd cynnwys y Cynulliad yn ddiddorol, sef 60 o aelodau, wedi’u dewis o ddwy etholiad. Diolch am y cyfle, roedd hi’n ddiwrnod hyfryd. ”

Kate Moss

“Fe wnes i fwynhau’r sesiwn ryngweithiol yn ystod y prynhawn a dw i’n meddwl iddi ehangu fy mhersbectif ar fesurau posibl i dorri rhwystrau cymdeithasol ac annog ymglymiad mewn gwleidyddiaeth. Hefyd, roedd y stondinau niferus, llawn gwybodaeth yn amlygu pwysigrwydd pleidlais yr ifanc yn amlwg, a ches fy mherswadio i gofrestru i bleidleisio.”

Tanya Chiganze

Dydd Mawrth 15fed o Fawrth 20166:00yh - 8:30yh

DIGWYDDIADGYRFAOEDD

Gwahoddir myfyrwyr a rhieni/gwarchodwyr i fynychu ein Digwyddiad Gyrfaoedd STEM, sydd wedi’i anelu at gefnogi myfyrwyr gyda’u ceisiadau UCAS, cynllunio ar gyfer eu gyrfaoedd a pharatoi ar gyfer cyflogaeth neu hyfforddiant yn y dyfodol.

*Rhaid i fyfyrwyr mynychu o leiaf 1 cyflwyniad ac o leiaf 6 stondin i fod yn gymwys i ennill. Bydd eich cerdyn cystadleuaeth yn cael stamp ym mhob cyflwyniad/stondin.

in partnership

ENNILL2x £

50

Taleb Amazon ar gael*

STEMScience Technology Engineering Maths

Llongyfarchiadau didwyll i Rhiannon Haigh a dderbyniod siec am £25 gan Brifysgol Southampton am ennill Her 1 yn eu ‘Cipher Challenge’ blynyddol. Mae’r ‘Cipher Challenge’ Cenedlaethol yn gystadleuaeth torri cod ar-lein ledled y wlad sy’n rhedeg o fis Hydref i fis Ionawr.

Yr her eleni i’r cystadleuwyr oedd helpu Harry, y torrwr cod, i ddoddd o hyd i’r Reichsdoktor yn ninas Berlin ar ôl y rhyfel. Roedd ei elynion yn gyfrwys ac mae’r stori’n datblygu mewn cyfres o negeseuon byr wedi’u hamgryptio. Roedd y cystadleuwyr yn gweithio gyda Harry i ddehongli’r dogfennau hyn a datgelu’r gwir.

SIALENS SEIFFER

“Mae bod yn rhan o adran Y Celfyddydau Perfformio eleni wedi bod yn rhyfeddol. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi cynhyrchu pantomeim ac wedi ei berfformio o flaen plant pum ysgol gynradd cyn Nadolig: St Francis, Thornhill, Christ the King, St Patrick’s, Y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd Moorland.

Gweithion ni’n galed i gynhyrchu, ysgrifennu a rihyrsio ein pantomeim ‘Peter Panto’; gan sicrhau ein bod yn creu llinell stori oedd yn addas ac yn bleserus i’n cynulleidfa darged.

PANTO 2015

Cynhaliwyd rownd gymhwyso golff Colegau Cymru Ddydd Mawrth 10 Tachwedd yng Nghlwb Golff Caerdydd. Ar ôl dyddiau o law difrifol a gwyntoedd yn cyrraedd 30 i 50 milltir yr awr, roedd yr amodau chwarae yn ofnadwy o anodd. Matthew Harris oedd yn cynrychioli Coleg Dewi Sant ac mae Matthew

yn aelod o Glwb Golff Llaneirwg. Llwyddodd i saethu rownd o 70 cyfartal â’r safon gan ennill o un ergyd.

Bydd Matthew nawr yn mynd ymlaen i gynrhychioli Coleg Dewi Sant yn rownd derfynol Colegau Prydain yn Newcastle. Cafodd ei ddewis yn diweddar i gynrychioli Sgwad Cenedlaethol Dynion Cymru o dan 21. Dymunwn bob llwyddiant i Matthew yn y cystadleuaethau i ddod.

RHAGORIAETH YM MAES GOLFF

“Drwy’r broses rydyn ni wedi datblygu’n sgiliau a’n gwybodaeth, nid dim ond perfformio ond hefyd elfennau technegol theatr. Fe wnaethon ni i gyd fwynhau cymryd rhan yn creu setiau, gwisgoedd a pherfformio i gynulleidfa iau. Ein gobaith ydy parhau i ddysgu pethau newydd a chael profiad anhygoel a hoffen ni ddiolch i’r athrawon ar gwrs y Celfyddydau Perfformio, yn enwedig Mr Crowley, am ein gwthio i gyflawni rhagoriaeth ac am yr holl help a’r gefnogaeth a gawson ni.”

Sione James

Yn diweddar bu myfyrwyr Dewi Sant yn rhan o gystadleuaeth ddigidol newydd o’r enw Syniad. Nod y gystadleuaeth oedd cael y myfyrwyr i ddatblygu eu ‘app’ eu hunain y gallen nhw ei farchnata. Roedd rhaid i’r myfyrwyr, Druce Roberts, Carlo Landicho, Karl Cuayzon, Rhys Payne, Janrey Mosuela, a Bartosz Borne, wneud ymchwil i ganfod a oedd bylchau yn y farchnad a llunio eu app eu hun. Cychwynnodd y gystadleuaeth ym mis Rhagfyr a’i noddi gan gwmnïau megis Yard Digital, Natwest, a Simply Do. Ar ôl dau weithdy dwys iawn yng Nghanolfan Syniadau CAVC (Coleg Caerdydd a’r Fro), cynhaliwyd y rownd derfynol yn Llundain ar Gampws Google Ddydd Mercher Ionawr 20.

Roedd y gystadleuaeth yn un galed iawn gydag wyth tîm o bedwar coleg De Ddwyrain Cymru yn cymryd rhan. Mae’n bleser gen i ddweud bod ‘Team Shoot’ o Goleg Dewi Sant wedi dod yn ail ac ennilll £250 i ddatblygu eu app ymhellach a’i farchnata. Rydyn ni’n gobeithio y bydd ‘Business in Focus’ yn gweithio gyda’r ddau dîm o Goleg Dewi Sant er mwyn datblygu eu syniadau ymhellach. Cadwch olwg fan hyn am y newyddion diweddaraf!

TÎM DEWI SANT YN ENNILL £250 MEWN CYSTADLEUAETH APP

Ddydd Gwener Tachwedd 20 mynychodd 11 myfyriwr o Goleg Dewi Sant ddiwrnod ‘Trading Places’ Campws Cyntaf fel rhan o weithgareddau ‘menter/enterprise’ a drefnwyd gan y Coleg.

“Fe wnes i fwynhau diwrnod ‘Trading Places’ ym Mhencadlys yr EE ym Merthyr Tudful. Roeddwn i’n hoffi’r ffaith ein bod wedi cael ein gosod mewn grwpiau ar hap a gyda phobl doedden ni ddim yn eu hadnabod. Drwy gydol y diwrnod fe wnaethon ni gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau, rhai yn fwy heriol nag eraill.

Un gweithgaredd oedd Sioe Ffasiwn. Roedd rhaid i ni greu dilledyn o bapur, siswrn a thâp selo. Yna, roedd rhaid i ni weithio allan pris manwerthu’r dilledyn a phenderfynu ar gynulleidfa darged, ynghyd â gwahanol ffactorau eraill.

Y gweithgaredd anoddaf oedd adeiladu cadair o falŵn. Cawson ni ychydig o amser i wneud cynllun, dyfeisio cyflwyniad a gwneud y gadair, a ddylai fod yn ddigon sefydlog i eistedd arni. Roedd ein cadair yn biws a phinc oherwyddmai ein nod oedd cefnogi Ymchwil Canser.

Drwyddi draw, roedd yn ddiwrnod da iawn. Roedd EE yn groesawus iawn a thîm ’Trading Places’ yn barod eu cymorth. Dysgais i fwy nag on i’n ei ddisgwyl. Rydych yn cwrdd â llawer o ffrindiau newydd ac yn dysgu sgiliau newydd drwy gydol y dydd.”

Chloe Woodley

CYSTADLEUAETH ‘TRADING PLACES’

Bob blwyddyn, mae’r Coleg yn gwahodd dros 150 o westeion i’r Offeren a’r parti Nadolig yng Ngholeg Dewi Sant. Mae’r myfyrwyr a’r staff yn gweithio’n galed i gynnal digwyddiad cymunedol bob blwyddyn lle mae gwesteion o bob man o Gaerdydd yn cael prynhawn o weithgareddau yn cynnwys Offeren, cinio, adloniant a raffl.

Diolch i ymdrechion ein myfyrwyr Galwedigaethol Lefel 1, roedd pob gwestai yn gadael y parti gydag anrheg wedi’i lapio’n gain. Roedden nhw wedi gweithio’n galed cyn y digwyddiad i godi arian drwy gystadleuaeth fel dyfalu pwysau teisen Nadolig a dyfalu nifer y losins yn y botel. Yna defnyddion nhw’r arian i brynu a lapio’r anrhegion ar gyfer y gwesteion i gyd.

Ar ôl yr Offeren, y cinio a’r raffl canodd nifer o’n myfyrwyr ganeuon Nadolig a charolau. Diolch yn fawr i chi, Jade Wellbeloved, Chloe Welsh, Rebekah Shallom, Jordanna Portelli, Becki Holder, Abena Mensah, Aisha Kigwalilio, Lucy Horrigan, Katie Issac, Myriam Edwards, Kieren Rankin, Chloe Donnelly, Luke Edwards, ac Amber Sheen.

PARTI NADOLIG POBL HŶN

Am y trydydd tro mewn pedair blynedd, tîm Pêl Fasged y coleg oedd Pencampwyr Colegau Cymru a nhw sy’n mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Colegau Prydain yn Newcastle. Yn ddi-guro drwy’r gystadleuaeth, enillon nhw’r gêm yn erbyn Celtiaid Coleg

Menai yn y ffeinal. Chwaraewyr o’r chweched isaf yn bennaf oedd aelodau’r tîm a dangoson nhw sgiliau medrus ac ymdrech ymhob gêm. Shaun Williams, chwaraewyr y twrnameint oedd y capten (yn y llun gyda’r gwpan).

PENCAMPWYR PȆL FASGED

CYFLWYNO LUKE HOWELLS – HYFFORDDWR PȆL DROED

ADRODDIAD CANOL TYMOR PȆL DROED Y SEINTIAU

Mae hi dros hanner ffordd drwy’r tymor ac mae’r Seintiau mewn safle cyfforddus yn nhabl y gynghrair – chwe phwynt yn unig o’r brig gyda thair gêm wrth gefn.

Bu’r gynghrair yn fwy anodd na’r disgwyl ar ôl ei rhannu y llynedd yn adrannau gorllewin a dwyrain ac ni chawson ni gychwyn da wrth golli i Crosskeys. O ystyried cymaint wnaethon ni reoli’r gêm agoriadol honno, roedd hi’n siomedig i golli ac ildio dwy gôl. Ond wedyn enillon ni nifer o gemau un ar ôl y llall tan i’r tywydd drwg ddiffetha’r momentwm ac arwain at berfformiadau anghyson ar ddechrau 2016.

Fodd bynnag, mae’r tymor hyd yn hyn wedi bod yn un positif gan ennill pedair gêm a cholli tair, sgorio 25 ac ildio 12 yn unig mewn saith gêm. Byddwn yn parhau i frwydro tan y diwedd oherwydd bod gwaith caled yn drech na thalent ac yna bydd hi’n anodd iawn i’n curo! Y Seintiau am byth!

Yr Hyfforddwr Luke Howells

Fel cyn-fyfyriwr o Goleg Dewi Sant, modiwl Hyfforddi Miss Silver enynnodd y diddordeb ysol ynof fi i gael y werin bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon; pêl droed yn arbennig. Ar ôl gadael yr ysgol es i brifysgol ac yna es i America gan astudio gwahanol dulliau hyfforddi.

Ar ôl dychwelyd i’r DU, enillais y cymwysterau priodol a thrwy waith gwirfoddol ces fy nghydnabod o gwmpas De Cymru fel hyfforddwr pwrpasol a brwd. Arweiniodd hyn i mi gael gwaith gyda chlybiau pêl droed proffesiynol, gan ganiatáu i mi weithio’n agos gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol.

Ces lwyddiant yn gweithio mewn amgylchedd fel hyn ac es ymlaen i hyfforddi chwaraewyr tramor o Asia ac yn

Ewrop. O’r profiadau hyn, rydw i wedi datblygu athroniaeth sydd yn llwyddiannus yn fy nhyb i.

Nawr dw i wedi cael cyfle gwych i arwain tîm pêl droed Coleg Dewi Sant, tîm fues i’n chwarae iddo o dan arweiniad Mr. Howells ac yn ddi-os byddwn yr un mor llwyddiannus eleni ag yn y blynydoedd a fu.

Mae Elliott Morris Devred, myfyriwr cyfredol (yn y canol yn y llun) wedi’i goroni’n bencampwr sboncen Colegau Cymru. Ar hyn o bryd fe sydd ar y brig o Dan 19 oed a bydd yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Gemau

Prydain.

PENCAMPWR SBONCEN COLEGAU CYMRU

Llongyfarchiadau i dîm pêl-rwyd Dewi Sant fu’n cystadlu yn erbyn timoedd ledled Cymru a dod yn drydydd ym Mhencampwriaethau Pêl-rwyd Colegau Cymru. Enillon nhw yn erbyn Coleg Merthyr, Llandrillo, Glyn Ebwy a Phen-y-bont ar Ogwr cyn curo Coleg Crosskeys (Gwent) yn rownd yr wyth olaf. Roedd y gêm gyn-derfynol yn un agos iawn a gwelwyd chwarae nodedig gan dîm Dewi Sant ond colli fu eu hanes i dîm cryf Coleg Castell-nedd Porth Talbot. Da iawn chi, ferched!

LLWYDDIANT PEL-RWYD

DYDDIADAU ALLWEDDOL MAI 2016Diwedd addysgu UG a TGAU Arholiadau UG a TGAU yn cychwyn Diwedd addysgu A2

MEHEFIN 2016Dedlein mewnol ar gyfer aseiniadau BTEC Cychwyn arholiadau A2 Diwedd arholiadau UG Gosod gwaith dros yr haf ar gyfer A2 Lansiad UCAS Cyflwyno Bagloriaeth Cymru Diwedd arholiadau A2

GORFFENNAF 2016Diwedd y tymor

13eg16eg27ain

6ed8fed

21ain22ain - 24ain

29ain

8fedSylwer: bydd disgwyl i fyfyrwyr y chweched isaf fynychu gwersi yn y Coleg o’r 22ain o Fehefin – 8fed o Orffennaf.