Upload
others
View
2
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Gwyliwch y ffilm:
www.autismchildsigns.com
CYNYDDU DEALLTWRIAETH GWEITHWYR PROFFESIYNOL O ARWYDDION O AWTISTIAETH:
GWERTHUSO FFILM HYFFORDDI EWROPEAIDD YM MHUMP O WLEDYDD EWROP
M. Caputi, C. Jones, S. Barrett, S. Bunce, S. Carrington, J. Condon, J. Gould, T. Hinton, L. Berzina, I. Bite, R. Campos, C. Nieto, R. Vidriales, S. Montanari, R. Geležiniene, K. Radžvilaite, V. Judickaite-Žukovske, S. Leekam.
CRYNODEBo Mae llywodraethau ac elusennau yn tynnu sylw yn systematig at broblemau oedi gyda diagnosis, diffyg cefnogaeth addysgiadol, a gwarthnodi yn sgil dealltwriaeth wael o awtistiaeth.
o Rydym wedi ffurfio partneriaeth ar draws pump o wledydd Ewrop i lunio ffilm hyfforddi i’w ddefnyddio ym mhob gwlad.
o Mae’r ffilm, sy’n seiliedig ar ymchwil o Brifysgol Caerdydd, yn disgrifio arwyddion awtistiaeth a’r ffyrdd amrywiol y mae’r arwyddion hyn yn ymddangos.
o Yma, rydym ni’n rhannu gwerthusiad o sut mae’r ffilm yn gweithio er mwyn gwella dealltwriaeth arwyddion o awtistiaeth a lleihau stigma, nid yn unig ymysg gweithwyr proffesiynol ond mewn myfyrwyr, rhieni ac eraill.
2
3
EIN PARTNERIAID
EIN DIOLCH
Yr EidalPrifysgol: Prifysgol Vita-Salute San RaffaeleElusen: Associazione Autismo Pavia Onlus
LithwaniaPrifysgol: Prifysgol UniversityElusen: Lithuanian Autism Association
SbaenPrifysgol: Universidad Autónoma de Madrid Elusen: Autismo España
LatfiaPrifysgol: University of Latvia Elusen: Autism Society of Latvia
Y Deyrnas UnedigPrifysgol: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol AstonLlywodraeth: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
DIOLCH I’N CYLLIDWYR
Diolch i rieni, pobl awtistig a gweithwyr proffesiynol ym mhob gwlad a ddatblygodd y ffilm gyda ni.
Diolch i Johanna Condon a thîm cynhyrchu’r ffilm, Injan Ltd, actorion, cyfieithwyr a’r adroddwyr. Diolch i Dîm Awtistiaeth Cenedlaethol (ASDinfoWales), CLlLC, (Sara Harvey, TracyHintonWendy Thomas) am gynnal a hyrwyddo’r ffilm.
CYFLWYNIAD
4
Ymysg gweithwyr proffesiynol rheng flaen, mae dealltwriaeth wael o awtistiaeth yn
gysylltiedig â diffyg gwybodaeth:
Yr arwyddion i gadw llygad amdanynt
Y ffyrdd amrywiol y mae’r arwyddion yma’n ymddangos
mewn unigolion gwahanol
FFILM HYFFORDDI NEWYDDFe wnaethom ddylunio ffilm Y PARTI PENBLWYDD i ddisgrifio arwyddion awtistiaeth mewn tri chymeriad dychmygol.
5
AMY JACK RHYS
6
Gwyliwch y ffilm yn: www.autismchildsigns.com
autismchildsigns.com
Y PARTI PENBLWYDD: FFILM HYFFORDDI AM ARWYDDION O AWTISTIAETH
7
Yr hyn mae’r ffilm yn ei ddangos:
• Pan geir ymddygiad penodol gyda’i gilydd, maent yn ffurfio patrwm nodweddiadol a pharhaus o arwyddion (rhyngweithio cymdeithasol, dychymyg, amneidio, ystod gul o ddiddordebau, ymatebion y synhwyrau).
• Mae yna amrywiad yn y modd y mae’r arwyddion yn ymddangos mewn plant gwahanol, ac weithiau mae modd eu methu.
• Mae’n hanfodol deall fod plant sydd â’r arwyddion yn cael cefnogaeth yn yr ysgol a gartref.
CEFNDIR:SUT Y GWNAETHOM NI DDATBLYGU’R FFILM
CYLLIDWYR:
8Note: Johanna Condon (formerly Manikiza) is now at Healios Ltd.; Sarah Carrington is now at Aston University
2015• Gweithiodd y tîm yng Nghaerdydd, Sue Leekam a Sarah
Carrington, gyda’r clinigydd Judith Gould a’i chydweithwyr. • Fe wnaethant nodi a chyhoeddi set o eitemau hanfodol i’w
hadnabod ar gyfer awtistiaeth.
2016• Creodd Johanna Condon, Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru yr acronym SIGNS ar gyfer ymgyrch iechyd y cyhoedd a chynnwys yr eitemau adnabod gyda deunyddiau ar gyfer iechyd gwladol Cymru a gwasanaethau addysg.
2017• Fe ysgrifennwyd y sgript, dan arweiniad tîm Prifysgol
Caerdydd. • Fe gynhyrchwyd y ffilm dan arweiniad Johanna Condon, tîm
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Y PARTI PENBLWYDD: CYNHYRCHIAD CYNTAF
9
Yn 2017, roedd y cynhyrchiad cyntaf ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn y DU.
Ar ddiwedd 2017, cafwyd diddordeb o Latfia gan arwain at addasu a chyfieithu’r cynhyrchiad cyntaf.
Roedd hyn yn gyfle i werthuso’r cynhyrchiad cyntaf mewn dwy wlad Ewropeaidd.
GWERTHUSIAD O PARTI PENBLWYDD: CYNHYRCHIAD CYNTAF
Gwerthusodd 731 o bobl y ffilm: 69% yn weithwyr proffesiynol, 23% yn rieni, 8% yn fyfyrwyr. Roedd 390 yn y DU a 338 yn Latfia.
Cyn gwylio’r ffilm, rhoddasant sgôr o’u dealltwriaeth bresennol o arwyddion awtistiaeth (graddfa 1-10).
Ar ôl gwylio’r ffilm, rhoddasant sgôr os oedd eu dealltwriaeth o’r arwyddion wedi gwella (graddfa 1-10).
Canlyniadau: Roedd modd gweld gwelliant sylweddol mewn dealltwriaeth o arwyddion awtistiaeth yn y ddwy wlad ar ôl gwylio’r ffilm, gyda mwy o welliant ymhlith y grŵp o Latfia.
0
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
UK Latvia
Dealltwriaeth o awtistiaeth cyn ac ar ôl gwylio’r ffilm (sgôr cymedrig)
Before filmAfter film
10
Gwaith ardderchog yn egluro cymhlethdod a dangos nad
yw un ffordd yn addas i bawb. (DU)
GWERTHUSIAD O Y PARTI PENBLWYDD: CYNHYRCHIAD CYNTAF
Sylwadau am y ffilm
11
Diolch am godi ymwybyddiaeth am ferched awtistig. (DU)
Gallai [y ffilm] fod yn ddefnyddiol i addysgu cymdeithas [a] gwella derbyniaeth o awtistiaeth. (Latfia)
Enwi’r arwyddion sydd yn weladwy adnabyddadwy yn gryno. (Latfia)
Dangos fod pob plentyn yn wahanol a bod yr arwyddion yn wahanol. (Latfia)
NEGES GAN RIANT (DU)
Fe hoffwn ddweud dwi’n meddwl fod eich fideo yn wych. Dyma’r tro cyntaf mewn 2 ½ flynedd i mi ddod ar draws rhywbeth sydd yn ‘gyfredol’ ac agored am ymddygiad posibl, ac yn gadael wahanol i’r hyn sy’n stereoteip. Mae fy mab yn dangos nifer o'r arwyddon yn y fideo, ond eto dwi wedi cyfarfod therapyddion a seicolegwr gwahanol sawl gwaith sydd wedi dweud “Fe edrychodd arnaf i a gwneud cyswllt llygad, mae o’n iawn. Mi allai ei gymryd oddi ar y rhestr aros os hoffech chi”, neu “Dydi o ddim yn hoffi rhannu, mater ymddygiadol gan nad ydyw’n rhyngweithio gyda fi” (ac yn y blaen).
Dwi wir yn gobeithio y bydd eich fideo gwych yn cael ei anfon at bob gweithiwr proffesiynol sydd ag unrhyw beth i wneud â delio â phlant neu allai fod ar y sbectrwm, neu sydd ar y sbectrwm. Gellir yn hawdd e-bostio fideo syml, ystyriol a pharchus fel eich un chi at gynghorau a llywodraeth, ac fe allai helpu plentyn sydd yn haeddu cael yr help maent ei angen, mor gynnar â phosibl.
12
NEGESEUON GAN WEITHWYR PROFFESIYNOL
(LATFIA)
13
o Wedi agor fy llygaid. Fe wnes i sylwi ar sawl achos na sylwes i arno o’r blaen. Fe wnes i ddeall pa mor bell ydym ni yn Latfia o ddeall fod pawb yn wahanol. Roeddwn i’n hoffi tôn cadarnhaol ac ysgafn y ffilm.
o Fe fyddai’n dda i’w ddangos i’r cyhoedd er mwyn newid y stereoteip o beth yw plentyn gydag awtistiaeth.
o Ffilm sydd â strwythur da yn galluogi i chi greu cynllun ymwybyddiaeth sydd yn gadael i chi adnabod arwyddion a chysylltu â staff cymorth yn ddyddiol.
o Defnyddiol iawn. Deunydd sydd yn syml ac yn hawdd i’w ddeall.
GWERTHUSIAD O’R CYNHYRCHIAD CYNTAF:DATBLYGIAD PELLACH
14
Rhoddodd gweithwyr proffesiynol, rhieni a
phobl awtistig yn y DU a gwledydd eraill
gyngor i ni ynghylch sut i wella’r ffilm.
1) Gwneud iaith a disgrifiad o awtistiaeth yn fwy cadarnhaol
2) Gwella eglurhad o arwydd ‘dychymyg’
3) Bod yn glir am bwrpas y ffilm (am gydnabod
ymddygiad, nid yr achos)
Fe aeth yr ail gynhyrchiad i’r
afael â’r materion hyn.
FFILM Y PARTI PENBLWYDD: YR AIL GYNHYRCHIAD
oDangosodd ymchwilwyr a chlinigwyr o wledydd eraill ddiddordeb yn y ffilm ac fe ddechreuwyd ar brosiect cydlynol.
oFe gydweithiodd prifysgolion, elusennau, pobl awtistig a’u teuluoedd gyda’i gilydd i greu fersiynau diwylliannol a gafodd eu haddasu/eu cyfieithu.
oYn 2018, fe recordiwyd y ffilm newydd i Eidaleg, Lithwaneg, a Sbaeneg, yn ogystal â Saesneg, Cymraeg a Latfieg.
oCafodd y ffilm newydd ei chefnogi a’i hyrwyddo gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
15
16
17
GWERTHUSIAD O Y PARTI PENBLWYDD: YR AIL GYNHYRCHIAD
Gwerthusodd 910 o bobl y ffilm yn cynnwys: 62% yn fyfyrwyr, 32% o weithwyr proffesiynol, 6% yn rieni/pobl awtistig.
537 yn yr Eidal, 255 yn Lithwania, 118 yn Sbaen.
Canlyniadau: Gwelliant sylweddol mewn dealltwriaeth ym mhob gwlad ar ôl gwylio’r ffilm. Roedd y gwelliannau mawr ymysg y grŵp myfyrwyr, oedd yn cynnwys 100% o Sbaenwyr 82.5% o Eidalwyr.
0
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
Understanding of autism signs before and after film (mean rating)
before film after film
18
DYSGU ARWYDDION AWTISTIAETH:DEALL AWTISTIAETH CYN AC AR ÔL GWYLIO’R FFILM, YN ÔL GWLAD
0
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
High school student University student Professional
YR EIDAL
0
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
University student:Medicine
University student:Psychology
SBAENBefore film After film
19
0
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
University student Professional
LITHWANIA
YDI’R FFILM YN DECLYN DEFNYDDIOL I WELLA AGWEDDAU A LLEIHAU STIGMA?
Fe wnaethom ofyn y cwestiwn yma i weithwyr proffesiynol, myfyrwyr ac eraill yn yr Eidal (537), Sbaen (118), a Lithwania (225).
Canlyniadau: Rhoddwyd sgôr uchel o gyda sgôr gymedrig o 7.9/10 ym mhob gwlad.
0
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
Defnyddioldeb i wella agweddau a lleihau stigma (sgôr cymedrig)
Italy Lithuania Spain20
CANLYNIADAU’R GWERTHUSIAD: CYNHYRCHIAD OLAF
Mae’r ffilm yn dangos gwelliant sylweddol mewn dealltwriaeth o arwyddion awtistiaeth.Roedd y gwelliant mwyaf o ddealltwriaeth ymysg myfyrwyr ysgol uwchradd ac mewn myfyrwyr meddygol yn y brifysgol. Serch hynny, fe nododd gweithwyr proffesiynol welliant sylweddol hefyd. Ym mhob grŵp, roedd cynnydd mewn dealltwriaeth yn llawer uwch i’r rhai oedd heb dderbyn hyfforddiant awtistiaeth yn flaenorol.Roedd y mwyafrif o gyfranogwyr yn credu bod y ffilm yn declyn defnyddiol i leihau stigma sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth.Mae’r canlyniadau yma yn ein helpu i dargedu hyfforddiant cynnar i weithwyr proffesiynol a phobl ifanc mewn ysgolion/colegau, i wella dealltwriaeth ac agweddau.
21
EFFAITHo Mae’r ffilm wedi cael ei mabwysiadu ar gyfer cyrsiau hyfforddiymarferwyr cenedlaethol mewn addysg arbennig, a therapilleferydd ac iaith.
o Mae bellach yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o gyrsiauprifysgol yn Ewrop i hyfforddi athrawon, gweithwyr proffesiynol amyfyrwyr meddygaeth/seicoleg.
o Mae’n rhan o becyn adnoddau clinigol cenedlaethol i staffmeddygol a rhan o’r adnoddau hyfforddi cenedlaethol ar gyferysgolion yn y Deyrnas Unedig.
o1Derbyniwyd 145 cais* am ganiatâd i ddefnyddio’r ffilm atddibenion addysgiadol o 15 gwlad wahanol ar draws y byd, yncynnwys Feneswela, Kenya a Fietnam. *Ebrill 2020 22
EFFAITH
Cyfanswm y niferoedd sydd wedigwylio ~ 72,000 23
ttps:/autismchil
Gwyliwch y ffilm yn:
www.autismchildsigns.com
Iaith Niferoedd sydd wedi gwylio*
Saesneg 23,740
Eidaleg 18,470
Latfieg 2,923
Lithwaneg 10,194
Sbaeneg 16,159
Cymraeg 457 *Ebrill 2020
CASGLIAD
Mae’r ail gynhyrchiad yn cadarnhau defnyddioldeb Y Parti Penblwydd i dynnu sylw at arwyddion o bryderon i gyfeirio atynt yn y dyfodol ac am newid agweddau a lleihau stigma.
Mae’r ffilm yn arbennig o effeithiol yn gwella dealltwriaeth arwyddion awtistiaeth, nid yn unig mewn gweithwyr proffesiynol rheng flaen, ond mewn gweithwyr proffesiynol medrus a hyd yn oed myfyrwyr ysol uwchradd.
24
www.autismchildsigns.com
CYFEIRIAD AT Y DYFODOL
Cyfleoedd er mwyn:
1) Datblygu pecynnau hyfforddi i’w defnyddio gyda’r ffilm
2) Gweithio gyda datblygwyr polisi o wledydd gwahanol i sicrhau fod y ffilm yn rhan o hyfforddiant myfyrwyr addysg/meddygaeth/seicoleg.
25
CYFLAWNIADAU A GWOBRAU
Y DU Sue, Catherine a Sarah yn ennill Gwobr Arloesi ac Effaith 2910 gan Brifysgol Caerdydd a phartneriaid y DU Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, CLlLC (Sara, Wendy, Tracy).
Yr EidalMarcella yn ennill gwobr gan FondazioneBanca del Monte di Lombardia i gyflwyno yng nghynhadledd Awtistiaeth Ewrop ac ymweld â Phrifysgol Caerdydd.
LatfiaLiga a Ieva yn lansio cynadleddau i weithwyr proffesiynol, yn ogystal â chydweithrediad newydd o ran ymchwil a hyfforddi gyda phartneriaid ffilm Y Parti Penblwydd yn y DU.
LithwaniaKristina, Valdona a Renata yn dathlu’r ffilm fel yr hyfforddiant Lithwanaidd cyntaf ar gyfer athrawon addysg arbennig a therapyddion iaith a lleferydd.
SbaenCarmen a Ruth yn dathlu cyflwyno’r ffilm mewn i hyfforddiant meddygol a seicoleg ym Mhrifysgol Autónoma Madrid.
26